chapter tachwedd 2014

37
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Upload: chapter

Post on 05-Apr-2016

248 views

Category:

Documents


18 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Chapter Tachwedd 2014

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Tachwedd 2014

Mae hi’n fis llawn dop arall yn Chapter wrth i brysurdeb gwyllt yr hydref barhau. Dyma’r hyn sydd gennym ar eich cyfer ym mis Tachwedd. Ydych chi’n mwynhau gweld gweithiau celfyddydol mewn lleoliadau anghonfensiynol? Wel, mae gennym newyddion da i chi! Mae Experimentica, ein gŵyl flynyddol o gelfyddyd fyw ac amseryddol, yn dychwelyd rhwng 5 a 9 Tachwedd (tt6-9). Â pherfformiadau a digwyddiadau ledled y ganolfan a ledled y ddinas, fe welwch chi bethau gwych a rhyfedd wrth i chi alw heibio Chapter y mis hwn. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r artist Richard Woods wrth iddo drawsnewid adeilad yng Nghastell Caerdydd (t10) i greu gwaith lliwgar a ffraeth. Yn y sinema, bydd ein tymor Gwyddonias yn parhau ag ambell glasur cwlt, ffilmiau mud a ffilmiau am ‘aliens’ a chydfodolaeth. Gallwch ymuno â ni hefyd ar deithiau i Gastell Coch a Chastell Rhaglan — gwisgwch ddillad cynnes i wylio ffilmiau ffantastig yn awyr agored oer mis Tachwedd (t32)! Ydych chi’n dod i Chapter gydag aelodau iau y teulu? Os felly, mae yna nifer o weithdai i wneuthurwyr ffilm ifainc a brwdfrydig a chwrs gwnïo a fydd yn cyflwyno hanfodion y grefft mewn modd hwyliog a chymdeithasol.Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

Croeso02 chapter.org

Delwedd y Clawr: Mark Leahy, Answering Machine, 2014

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

CROESO

Page 3: Chapter Tachwedd 2014

chapter.org

Oriel tudalennau 4–10

Bwyta Yfed Llogitudalen 11

Theatr tudalennau 12–16

Chapter Mix tudalen 17

Sinematudalennau 18–34 Addysgtudalen 35

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 36

Cymryd Rhan tudalen 37

Calendr tudalennau 38–39

03Uchafbwyntiau

CYMRYD RHAN

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Page 4: Chapter Tachwedd 2014

Oriel04 029 2030 4400

Chwith: Sharon Lockhart, Redzienco, (delwedd o’r ffilm) 2014. Gyda chaniatâd caredig yr artist a neugerriemschneider, Berlin, Gladstone Gallery New York a Brussels, a Blum & Poe Los AngelesIsod: Deep State (delwedd o’r ffilm) 2012-2014. Gyda chaniatâd caredig yr artistiaid a Waterside Contemporary

Page 5: Chapter Tachwedd 2014

Renzo Martens and the Institute for Human ActivitiesY Blwch Golau a Chyntedd y TheatrMae Renzo Martens yn byw ac yn gweithio ym Mrwsel ac yn Kinshasa ac yn adnabyddus am ei ffilmiau ysgytwol am wledydd wedi’u difetha gan ryfel, lle mae e’n ei osod ei hun wrth galon y digwyddiadau cythryblus er mwyn dangos sut y mae gwylwyr Gorllewinol yn ‘prosesu’ digwyddiadau trawmatig mewn gwledydd pell. Bydd Martens yn cyflwyno ‘Episode 3 (Enjoy Poverty)’, ffilm am ei ymweliad â’r Congo adfeiliedig. Cynhaliodd gyfweliadau â ffotograffwyr, perchnogion planhigfeydd a chwarae rhannau’r newyddiadurwr Gorllewinol, y gormeswr, y cenhadwr a’r gweithiwr cymorth. Mae ei ffilm yn canolbwyntio ar un prif bwynt: taw tlodi yw allforyn mwyaf gwerthfawr Affrica a’i fod, fel adnoddau naturiol eraill, yn cael ei ecsbloetio gan y byd Gorllewinol. Mae e’n cyflwyno darlithoedd i’r bobl leol ac yn sôn am dlodi fel nwydd ac yn eu hannog wedi hynny i werthu eu lluniau eu hunain o newyn a marwolaeth yn hytrach na gadael i newyddiadurwyr y Gorllewin elwa ar eu trychinebau dyngarol.

Sharon LockhartOrielMae Sharon Lockhart yn gweithio gydag unigolion a grwpiau i greu delweddau symudol a llonydd sydd yn weledol gymhellol ac yn arddangos ymagweddiad cymdeithasol sicr. Un o weithiau pennaf Lockhart yw Lunch Break (2008), sy’n dangos 42 o weithwyr mewn iard longau yn ystod eu hawr ginio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelwn weithwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau — darllen, cysgu, a siarad — yn ogystal â bwyta eu cinio. Ar gyfer Artes Mundi 6 bydd Lockhart yn dangos un o ddwy ffilm o Lunch Break o’r enw Exit. Wedi’i ffilmio dros gyfnod pum-niwrnod yr wythnos waith, mae pob un o’r pum golygfa yn Exit yn dangos y gweithwyr yn gadael y Bath Iron Works ar ddiwedd eu shifft. Gan ddwyn i gof ffilm Louis Lumière, Leaving the Lumière Factory, mae Exit yn canolbwyntio ar lif amser a manylion profiadau bob dydd.

Karen Mirza and Brad ButlerOriel a Celfyddyd yn y BarBu Mirza a Butler yn cydweithio ers 1998, ac maent wedi datblygu corff o waith aml-haenog sy’n cynnwys ffilm, gosodiadau, perfformio, cyhoeddi a churadu. Mae eu gwaith yn her i dermau fel cyfranogi a chydweithredu ac i syniadau traddodiadol am yr artist fel cynhyrchydd a’r gynulleidfa fel derbynnydd. Ar gyfer Artes Mundi 6 bydd Mirza a Butler yn cyflwyno The Unreliable Narrator, clwstwr o weithiau sy’n chwarae â’r bwlch rhwng ffuglen a realiti.Yn You are the Prime Minister, mae neon llachar yn troi’n wahoddiad i dderbyn rôl y Prif Weinidog mewn ffuglen ffantasïol. Mewn gosodiad fideo, mae llais yn sôn am yr ymosodiadau ym Mumbai yn 2008, o safbwyntiau terfysgwyr a sylwebwyr ymddangosiadol ddiduedd am yn ail.

Digwyddiadau Amser CinioDyddiau Iau 1.05-1.30pmBydd perfformwyr o bob cwr o Gymru yn creu ymatebion unigryw i Artes Mundi 6, gan dynnu ysbrydoliaeth o weithiau, deunyddiau, themâu neu wledydd yr artistiaid ar y rhestr fer: Iau 6 Tachwedd‘Wimmin’ Première byd-eang o waith newydd gan yr artistiaid dawns, Sarah Hudson a Cêt Haf. Iau 20 TachweddBydd detholiad o feirniaid Cymraeg yn ymuno ag awduron, beirdd a chantorion Sherman 5, er mwyn ymateb i arddangosfa Artes Mundi 6 yn Chapter.

Sgyrsiau am 2Sad 1, Sad 15, Sad 29 Tachwedd 2pmTeithiau tywysedig rhad ac am ddim drwy’r arddangosfa yng nghwmni ein tywyswyr byw.Gweler y we-fan am fanylion.

Oriel 05chapter.org

Arddangosfa ar agor:Dyddiau Mawrth, Mercher,Sadwrn a Sul 12-6pm;dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm;ar gau ar ddydd Llun

Artes Mundi 6Tan ddydd Sul 22 Chwefror 2015

Rydym yn falch iawn o allu cydweithio gydag Artes Mundi i gyflwyno gwaith gan Karen Mirza a Brad Butler (DG), Renzo Martens (Yr Iseldiroedd) a Sharon Lockhart (UDA). Mae gweithiau gan yr artistiaid eraill ar restr fer gwobr Artes Mundi 6 i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Ffotogallery, Penarth. I weld manylion yr holl artistiaid ar y rhestr fer ac oriau agor y lleoliadau eraill, gallwch ymweld â www.artesmundi.org

Page 6: Chapter Tachwedd 2014

Oriel06 029 2030 4400

Sefydlwyd Experimentica, gŵyl bum niwrnod flynyddol Chapter, yn 2001. Mae Experimentica yn cyflwyno rhaglen ddeinamig o gelfyddyd, perfformiadau a phrosiectau rhyngddisgyblaethol byw ac mae’n llwyfan pwysig sy’n caniatáu i artistiaid o Brydain ac o bedwar ban byd gynhyrchu neu gyflwyno eu gwaith.Gall yr Ŵyl fod yn ddifyr, yn beryglus, yn ddryswch pur, yn wir bob gair, yn chwareus, yn bryfoclyd, yn ffraeth — ac yn unrhyw beth arall dan haul!Daw teitl yr ŵyl eleni o ffilm wyddonias 2009, District 9 (wedi’i chyfarwyddo gan Neill Blomkamp). Mae’r ffilm honno’n alegori aml-haenog sy’n archwilio ein hagweddau at estroniaid. Nid thema yw’r teitl fel y cyfryw ond man cychwyn sy’n galluogi i gyfranogwyr archwilio syniadau am gyd-fodolaeth.Cefnogir Experimentica14 gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chaerdydd Gyfoes.

Caiff thema ‘Cyd-fodolaeth’ ei harchwilio hefyd yn ein tymor o ffilmiau Gwyddonias. Trowch i dudalennau 28-32 i weld manylion ein dangosiad o District 9, a sawl clasur cwlt arall ynghyd â nifer o ffilmiau byrion Affro-ddyfodoliaeth sy’n dathlu gweledigaethau amgen o’r dyfodol.

TRWY GYDOL YR ŴYL

LOLO Y LAUTI: SELF-PORTRAIT SWEATSHOP8 Arcêd y Dug, 12–5pmGwaith cyfranogol mewn siop yng nghanol y ddinas lle cafodd cyfranogwyr eu hurio i greu portreadau o’r artistiaid y gall y cyhoedd eu prynu maes o law. www.loloylauti.com

good cop bad cop: OCCUPATIONCanol Dinas Caerdydd, 12–6pmYn y cefndir, allan o’r ffrâm ac ymhell o’r goleuadau, maent yn aros i wneud eu hymddangosiad. Maent yn gwybod sut mae lladd amser ac maen nhw wedi paratoi. Maen nhw’n mynd i ddilyn y rheolau ac yna fe gânt eu talu. “Action”! www.gcbccentral.com

BETH GREENHALGH & JOHN ABELL: MURDER BALLAD: AN ELEGYCANOL DINAS CAERDYDD, 12–5PMWrth gyfuno defodau, perfformio, cerflunwaith, print a thestun, bydd Beth a John yn meddiannu set gyfnewidiol ac yn cyflwyno ymyriadau a fydd yn adrodd straeon am lofruddiaeth, mythau, iwtopia a dystopia.http://johnabell.blogspot.co.uk http://intangiblestudio.co.uk/ipfc/beth-greenhalgh/

THERE THERE: TEXT HOME TO 78070Chapter a Chanol Dinas CaerdyddAlbwm cysyniad llafar wedi’i ysbrydoli gan ymgyrch ddrwg-enwog y Swyddfa Gartref yn 2013. Un nod sydd i’r cyflwyniad hwn: helpu newydd-ddyfodiaid i’r UE i integreiddio, i gymhathu ac i ymdreiddio i gymdeithas y DG. www.therethere.eu

ExpErimEntica14 cO-ExistEncE has nEvEr bEEn EasyMer 5 — Sul 9 Tachwedd

Tim Bromage, Gavin Krastin, Matt Ball, Justin Cliffe & Tracy Harris, Nathan Walker, GETINTHEBACKOFTHEVAN, Cian Donnelly, Sam Playford-Greenwell & Lucie Akerman, Phil Hession, Cathy Gordon, Dustin Harvey & Adrienne Wong gyda Zuppa Theatre, Mark Leahy, Threatmantics, Siân Robinson Davies, Eleanor Sikorski & Alberto Ruiz Soler, Karen Mirza & Brad Butler, Paul Hurley, OFF THE PAGE gyda Samuel Hasler, André Stitt, There There, Beth Greenhalgh & John Abell, Iwan ap Huw Morgan, Haranczak/Navarre, Lolo y Lauti, Florence Peake & Jonathan Baldock gyda Ian Watson, good cop bad cop, Rhodri Davies & Lina Lapelyte.

GWYBODAETH AM DOCYNNAUPàs gŵyl 5 niwrnod: £25Pàs 1 dydd: £10Tocynnau i ddigwyddiadau unigol: £5Archebu 029 2030 4400 www.chapter.org

Andr

e St

itt,

Art

is n

ot a

mirr

or it

’s a

fuck

ing

ham

mer

, 197

8

Page 7: Chapter Tachwedd 2014

Oriel 07chapter.org

DYDD MERCHER 5 TACHWEDD

MATT BALL, JUSTIN CLIFFE & TRACY HARRIS: BOTTLEDPwynt Cyfryngol, 6pmYdych chi erioed wedi bod i briodas ac wedi clywed araith gan y gwas priodas a aeth yn rhy bell? Angladd lle roedd pob teyrnged yn cynnwys y gwir, yr holl wir a dim ond y gwir? Ymunwch â Matt Ball, Justin Cliffe a Tracy Harris am noson o wirioneddau, dathliadau, cyffesion a ffrwydradau. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru www.mattball.me

RHODRI DAVIES & LINA LAPELYTEStiwdio, 7.30pmMae Rhodri Davies yn delynor sy’n ymwrthod â chysyniadau traddodiadol am y delyn ac yn herio’r ffiniau rhwng cyfansoddi a byrfyfyrio. Mae Rhodri a Lina ill dau yn aelodau o grŵp Common Objectives ac yn cydweithio gyda’i gilydd ar achlysuron arbennig. www.linalapelyte.com www.rhodridavies.com

TIM BROMAGE: THE ODYSSEYTheatr, 9pmBydd Tim Bromage yn cyflwyno dehongliad llac o gerdd epig Homer, wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gyda sain gan Jon Ruddick a fideo gan Kusa. vimeo.com/97986683

DYDD IAU 6 TACHWEDD

NATHAN WALKER: S C A WYstafell Gyffredin, 12–8pmMae S C A W yn osodiad gweithredol wyth awr o hyd sy’n archwilio ysgrifennu awtomatig, gweithredoedd cylchol a llefaru. www.nathan-walker.co.uk

LUCIE AKERMAN & SAMUEL PLAYFORD-GREENWELL: TOWARDS A CAVENDISH GROUP SIGILPwynt Cyfryngol, 6pmCwlt rhyngrwyd dychmygol yn seiliedig ar fananas a thrafodaethau o bynciau amrywiol. Bydd Grŵp Cavendish yn cyflwyno hanes cryno o syniadau am gyfunoliaeth wleidyddol. samplayfordgreenwell.wordpress.com

CIAN DONNELLY: BLEACH BOXStiwdio, 7pmMae Bleach Box yn berfformiad arbrofol ar ffurf cyfres o vignettes sy’n pendilio rhwng naratif barddonol, pop arbrofol ac adloniant rhith-weledol.www.ciandonnelly.com

GETINTHEBACKOFTHEVAN: NUMBER 1, THE PLAZATheatr, 9pmDrws ffrynt coch. Rhif 1 euraid. Twll pipio pitw. Edrychwch o’ch cwmpas. Mae GETINTHEBACKOFTHEVAN yn awyddus i agor y drysau er mwyn caniatáu i chi ddod i mewn. Yr holl ffordd i mewn. Fel y gallwch chi gael profiad go iawn o’r hyn sydd yno. www.getinthebackofthevan.com

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Tim Bromage, The Odyssey, 2014. Photo: Kusa; GETINTHEBACKOFTHEVAN, Number 1, The Plaza. Photo/Llun: Ludovic des Cognets; Lucie Akerman and Samuel Playford-Greenwell, Towards A Cavendish Group Sigil, 2014

Page 8: Chapter Tachwedd 2014

08 029 2030 4400Oriel

DYDD GWENER 7 TACHWEDD

MARK LEAHY: ANSWERING MACHINESinema 2, 12pmMae ‘Answering Machines’ yn gosod y perfformiwr ar drugaredd y gynulleidfa neu’r cyfranogwyr, wrth iddyn nhw benderfynu beth y dylai ddweud; mae’r perfformiwr yn gyfuniad o oracl a phyped. Caiff ei reoli gan gyfarwyddiadau’r gynulleidfa. www.markleahy.net

CATHY GORDON: HAMMER THE HISTORY OF CATHY GORDON’S ANGERYstafell Gyffredin, 2pmYn gydblethiad o ffeithiau a ffuglen bersonol, mae HAMMER yn cynnig ‘technegau ar gyfer prosesu dicter’ ac yn archwiliad o gydymffurfiaeth, ffeministiaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol. www.cathygordon.com

ADRIENNE WONG & DUSTIN HARVEY: LANDLINE: CARDIFF TO HALIFAXCwtch, 3–6.45pmMae Landline yn defnyddio strydoedd y ddinas, technoleg symudol ac awgrymiadau barddonol i gynnwys aelodau’r gynulleidfa mewn gêm o gyfarfyddiadau annhebygol. Ewch i’r we-fan i drefnu slot ac i weld y cyfarwyddiadau ar gyfer cymryd rhan.www.landlineontour.wordpress.com www.dustinharvey.cm

PHIL HESSION: A VERSION OF BARBARA ALLENStiwdio, 6pmMae Phil Hession yn defnyddio ‘lathe’ hunan-adeiledig, canu byw a fideos YouTube i greu ‘mash-up’ o’r faled draddodiadol, ‘Barbara Allen’.www.philhession.com

HARANCZAK/NAVARRE PERFORMANCE PROJECTS: CONTROL SIGNAL — DEUAWD GAN KAREN CHRISTOPHER & SOPHIE GRODINTheatr, 9pmMae Control Signal yn archwilio dylanwadau anweledig a’r cysylltiadau anesboniadwy y teimlwn weithiau heb allu eu hesbonio na hyd yn oed eu hadnabod. www.haranczaknavarre.co.uk

DYDD SADWRN 8 TACHWEDD

GAVIN KRASTIN: ROUGH MUSICKYstafell Gyffredin, 12pmDechreuodd yr arfer o greu ‘Rough Music’ ym mhentrefi bychain Lloegr yn ystod y canol-oesoedd er mwyn i’r cyhoedd ddwyn gwarth a gwaradwydd ar fân-droseddwyr, gwyredigion (‘deviants’) rhywiol ac ‘eraill’. Wedi’i ysbrydoli gan yr arferion cynnar hyn, mae Gavin Krastin yn creu fersiwn gyfoes ohonynt ac yn ail-ymwneud â’r defodau tywyll. www.gavinkrastin.com

KAREN MIRZA & BRAD BUTLER: THE EXCEPTION AND THE RULEY Deml Heddwch, Canol Dinas Caerdydd, 2pmCydweithiodd Mirza a Butler gyda thrigolion Caerdydd er mwyn llwyfannu un o ‘ddramâu dysgu’ byrion Bertolt Brecht, The Exception and the Rule. www.mirza-butler.net

ADRIENNE WONG & DUSTIN HARVEY: LANDLINE: CARDIFF TO HALIFAXCwtch, 3–6.45pmGweler manylion dydd Gwener

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Adrie

nne

Won

g &

Dus

tin

Harv

ey g

yda

Zupp

a Th

eatr

e, L

ANDL

INE;

Har

ancz

ak/

Nava

rre:

Con

trol

Sig

nal,

llun:

Jem

ima

Yong

; Gav

in K

rast

in, R

ough

Mus

ick.

llun

: Cat

Pen

nels

Page 9: Chapter Tachwedd 2014

Oriel 09chapter.org

SIÂN ROBINSON DAVIES: ASSUMPTIONSTheatr, 5pmFe ddechreuwn ag ambell ragdybiaeth, am mai dyna’r man cychwyn bob amser. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio mynd y tu hwnt i’r rhagdybiaethau hynny, hyd yn oed os taw’r oll a gawn yn y pen draw fydd celwyddau a nonsens.www.sianrobinsondavies.com

ALBERTO RUIZ SOLER & ELEANOR SIKORSKITheatr, 8pmMae Eleanor & Alberto yn eithaf sinigaidd wrth sôn am gariad. Maent yn gwthio’i gilydd hyd at flinder corfforol ac yn dadlennu methiannau personol wrth fynd — maent yn ‘wingmen’ ac yn ‘divas’.www.bertruiz.net www.eleanorsikorski.com

THREATMANTICS: THE BALLAD OF SHOTGUN BILLYStiwdio, 9.30pmYn seiliedig ar y gân ‘Shotgun Billy’ o albwm Threatmantics, Kid McCoy, mae’r sioe hon yn opera roc glyweledol sy’n llawn sioc ac arswyd. www.threatmantics.com

IWAN AP HUW MORGAN: THE MYTH OF THE URBAN SHAMANChapter, 11pmGwaith byw newydd sydd yn esbonio’r heriau eithafol y mae’r artist yn eu wynebu fel prentis siaman sy’n byw mewn cyd-destun dinesig. www.gweld.wordpress.com/iwan-ap-huw-morgan/

DYDD SUL 9 TACHWEDD

ANDRE STITT: PERFORMING POLITICAL ACTSSinema, 12pmDarlith gan André sy’n archwilio celfyddydau perfformio yng Ngogledd Iwerddon yn ystod cyfnod ‘Y Trafferthion’. Fe’i dilynir gan ffilm, One Inch To The Left, sy’n canolbwyntio ar berfformiad diweddar gan André, Alastair MacLennan a Adrian Hall (sy’n perfformio hefyd dan yr enw Triple AAA). www.andrestitt.com

PAUL HURLEY: I FALL TO PIECESYstafell Gyffredin, 2–6pmBydd Paul Hurley yn cyflwyno gwaith newydd sy’n archwilio diddordeb ffurfiol mewn symudiadau haniaethol, perfformio a phrofiadau personol o alar. www.paulhurley.org

ADRIENNE WONG & DUSTIN HARVEY GYDA ZUPPA THEATRE: LANDLINE: CARDIFF TO HALIFAXCwtch, 3–6.45pmGweler manylion dydd Gwener

OFF THE PAGE: WEDI’I GURADU GAN SAMUEL HASLERPwynt Cyfryngol, 4pmMae OFF THE PAGE yn ddigwyddiad rheolaidd sy’n caniatáu i artistiaid ac awduron arddangos, i berfformio neu i drafod gwaith newydd. Rydym yn ceisio sicrhau bod OFF THE PAGE yn ofod diogel ar gyfer arbrofi a thrwy hynny annog artistiaid i gymryd risgiau. Fe allai’r sesiwn fod yn dawel neu fe allai pethau fod yn anhrefn llwyr — bydd yn rhaid i ni aros i gael gweld.

FLORENCE PEAKE & JONATHAN BALDOCK: APPARITION OF THE PHANTOM LIMBSSgôr Sain gan Ian Watson. Stiwdio, 7pmBydd Jonathan a Florence yn cydweithredu ac yn eu hail-ddiffinio’u hunain fel alcemyddion abswrd er mwyn creu celfyddyd a defodoli’r broses o greu cerfluniau ar ffurf ddynol.www.jonathan-baldock.com www.florencepeake.com www.uhohwatson.com

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Adrie

nne

Won

g &

Dus

tin

Harv

ey g

yda

Zupp

a Th

eatr

e, L

ANDL

INE;

Har

ancz

ak/

Nava

rre:

Con

trol

Sig

nal,

llun:

Jem

ima

Yong

; Gav

in K

rast

in, R

ough

Mus

ick.

llun

: Cat

Pen

nels

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Thr

eatm

anti

cs, F

lore

nce

Peak

e a

Jona

than

Bal

dock

, So

ft M

achi

ne, 2

014.

Llu

n: W

arre

n Or

char

d

Page 10: Chapter Tachwedd 2014

Oriel10 029 2030 4400

Caerdydd Gyfoes Tan Sul 9 TachweddMae gŵyl Caerdydd Gyfoes yn ŵyl a gynhelir bob dwy flynedd i ddathlu a hyrwyddo’r celfyddydau gweledol. Datblygwyd y fenter hon gan Gyngor Caerdydd ar y cyd ag artistiaid, dylunwyr a phenseiri’r ddinas. Mae’r ŵyl yn cynnig rhaglen gyfoethog ac amrywiol o arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau ym mhob cwr o’r ddinas.Mae gan Gaerdydd enw da am gyflwyno digwyddiadau a gwyliau o’r radd flaenaf, ac nid yw Caerdydd Gyfoes yn eithriad. Eleni, mae’r arlwy’n cynnwys dros 30 o brosiectau comisiwn arbennig a thri phreswyliad, ar y cyd ag arddangosfeydd mewn orielau a phedair gŵyl. Thema’r ŵyl yw Datgelu/Cuddio. O’r South Wales Echo i Orsaf Caerdydd Canolog, ac o Gastell Caerdydd i leoliadau cudd o dan y ddaear, mae Caerdydd Gyfoes yn defnyddio’r ddinas gyfan fel oriel gelf. Mae artistiaid wedi ail-ystyried y ddinas trwy gyfrwng celfyddyd ac yn cyflwyno mannau mewn ffyrdd arloesol, bywiog, hudolus a heriol.Nod gŵyl Caerdydd Gyfoes yw sicrhau bod cynnwys yr ŵyl ar gael i gymaint o bobl â phosib ar hyd a lled y ddinas. I gael mwy o wybodaeth ac i weld rhaglen lawn yr ŵyl ewch i www.cardiffcontemporary.co.uk

Richard Woods Cardiff RebuildProsiect oddi ar brif safle Chapter yng Nghastell CaerdyddTan Sul 9 Tachwedd Mae Richard Woods wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ei drawsnewidiadau pensaernïol ac am baentiadau a cherfluniau sy’n uno hanes y celfyddydau addurnol, dylunio swyddogaethol ac iaith graffeg â delweddau ac arwynebau ffraeth. Wedi’i ysbrydoli gan hanes Castell Caerdydd — a chan y bartneriaeth bwysig rhwng 3ydd Marcwis Bute a’r pensaer William Burges yn benodol — mae Woods wedi gweithio ar dir y castell i greu teyrnged annisgwyl, llawn hiwmor i’r ystafelloedd moethus yno.

Ynglŷn â’r Artist Ganwyd Richard Woods ym 1966 yn Swydd Gaer a chafodd ei addysg yn Ysgol Gelf Winchester ac Ysgol Celfyddyd Gain y Slade. Mae e’n byw ac yn gweithio yn Llundain.Mae Woods wedi arddangos ei waith yn rhyngwladol ac mae ei brosiectau diweddar o bwys yn cynnwys comisiynau mawrion ym Mhrifysgol Caerfaddon (2014); ‘A Maze for Yorkshire’, Wakefield (2013); Cronfa Celfyddyd Gyhoeddus a Thŷ Lever, Efrog Newydd (2010). Mae e hefyd wedi cydweithredu ar amrywiaeth eang o ddodrefn gyda Established & Sons. Mae gwaith Woods yn rhan o sawl casgliad pwysig gan gynnwys Casgliad Saatchi, Llundain, Casgliad Frank Cohen, Manceinion / Wolverhampton; a Chasgliad Jumex, Mecsico. Cefnogir prosiect Richard Woods gan Gaerdydd Gyfoes, Castell Caerdydd a Works I Projects www.worksprojects.co.uk.

Rich

ard

Woo

ds: C

ardi

ff R

ebui

ld, C

aste

ll Ca

erdy

dd, 2

014.

Gyd

a ch

ania

tâd

care

dig

Stiw

dio

Rich

ard

Woo

ds

Page 11: Chapter Tachwedd 2014

Bwyta Yfed Llogi 11chapter.org

Bwyta + YfedÂ’r cysgodion yn hirhau a’r tywydd yn oeri, rydym yn dyheu am brydau swmpus a gaeafol. Wrth lwc, bydd bwydlen newydd y gaeaf ar gael y mis yma. Yn cynnwys ambell ffefryn o’r fwydlen bresennol ynghyd â phrydau tymhorol, bydd yna ffocws ar flasau traddodiadol wedi’u paratoi mewn arddulliau cyfoes. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at lenwi’n boliau â phrydau iachus, sylweddol a blasus.Ar ôl bwydlen mis Hydref, a ysbrydolwyd gan Afrovibes, byddwn yn parhau i gynnig rhai o winoedd ardderchog De Affrica — cyfuniad perffaith â’r prydau ardderchog a fydd ar gael.

LlogiMae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac fe ddefnyddir y rhain yn rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn un cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Gallwn ddarparu amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058, neu anfonwch e-bost at [email protected].

I ddod yn fuan!

Parti nos GalanMer 31 RhagfyrRoedd parti Nos Galan y llynedd yn ddigwyddiad ardderchog ac fe ddaethom ni i’r casgliad ein bod ni’n gallu trefnu parti a hanner. Eleni, felly, fe fydd yna un arall. Shape Records fydd yn gyfrifol am y trefniadau y tro hwn. Bydd y parti’n cynnwys bandiau byw a DJs ac fe fydd Caffi Bar gwych Chapter yn diwallu pob angen am fwyd a diod tan yr oriau mân. Bydd y manylion yn llawn ar gael cyn bo hir ond, yn y cyfamser, cadwch lygad ar ein gwe-fan, www.chapter.org, i weld y newyddion diweddaraf.

bWyta yFED LLOGi

Page 12: Chapter Tachwedd 2014

Theatr12 029 2030 4400

PUNI

SHM

ENT

“ Artist idiosyncratig y mae ei sioeau’n aflonyddu ac yn difyrru ... maent yn fesmerig a ffraeth, yn llawn dychymyg, yn anghysurus ac yn amhosib eu rhag-weld” David Adams

Page 13: Chapter Tachwedd 2014

Theatr 13chapter.org

Sean Tuan John: PUNISHMENT Iau 27 — Sad 29 Tachwedd 7.30pmMae un o ffefrynnau Chapter, Sean Tuan John, yn dychwelyd yr hydref hwn â’i sioe newydd ddigyfaddawd, PUNISHMENT. Mae’r sioe yn ddatblygiad o’i ffocws ar bobl ar y Tu Allan; y bobl anghofiedig hynny sy’n cuddio ar gyrion ein cymdeithas. Mae PUNISHMENT yn archwilio’r syniad o wyriad (‘deviance’); beth sy’n digwydd i bobl sy’n gweithredu y tu hwnt i’r normau derbyniol? Sut mae mynd ati i ddeall? A allwn ni ddechrau maddau? Mae PUNISHMENT yn waith tywyll, doniol, pryfoclyd, llawn emosiwn ac yn archwilio systemau cyfiawnder wrth i bedwar dawnsiwr gwrywaidd gorfforoli elfennau ysgytwol a pheryglus yn ymwneud â throsedd, dieithrio ac effeithiau gwyriad cymdeithasol. Perfformiad newydd rhyfeddol gan goreograffydd mwyaf beiddgar Cymru. Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae PUNISHMENT yn gyd-gynhyrchiad â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, gyda chefnogaeth Chapter a Phrifysgol De Cymru.£12/£1016+ oed

MAN ARALL

Sinffonia Cymru & Tom Raybould: UneaseMer 12 — Gwe 14 Tachwedd 7.30pm + 9pmR’ych chi’n iawn i fod ofn y tywyllwch, ofn bod ar eich pen eich hun ac ofn pethau nad ydych chi’n eu deall. Mae ofn yn beth da. Gall ofn eich harwain. Mae grŵp o gerddorion clasurol a chyfoes rhagorol ynghyd â gwneuthurwyr ffilm a theatr yn cyflwyno eu casgliadau o seiniau, delweddau ac atgofion annifyr er mwyn lliwio’r gofod tywyll o’ch cwmpas.O ganlyniad i’w gysylltiadau, ei natur dechnegol, ei gyfeiriadau neu’i hanes, mae pob darn yn cynrychioli agwedd ar ofn yr artist unigol. Y contract creadigol yw na fydd unrhyw un yn cael osgoi ei ofnau ei hun.Ar ôl llwyddiant eu cydweithrediad blaenorol, ‘unbuttoned’, mae Sinffonia Cymru a Tom Raybould yn datblygu eu partneriaeth greadigol feiddgar drwy gynnwys yr artist fideo John Collingswood, y cyfarwyddwr theatr Gerald Tyler a’r cynhyrchydd profiadau hollgynhwysol, Alison John, er mwyn cyflwyno dathliad o anesmwythyd.£14/£12 Nodwch os gwelwch yn dda bod cyfyngiadau’r lleoliad yn golygu nad yw’r cynhyrchiad hwn yn hygyrch i gadeiriau olwyn. unease.co.ukCefnogir Unease gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn a Chapter.

Unea

se

Page 14: Chapter Tachwedd 2014

Theatr14 029 2030 4400

Gwe 31 Hydref 7pm + Sad 1 Tachwedd 3pmMae Jem yn 50 y flwyddyn nesaf. Mae Ella’n 11 oed. Maent yn dad a merch. Mae Ella wedi gwirioni ar ballet a newydd ddechrau ymarfer y pointe. Mae Jem yn ddawnsiwr cyfoes proffesiynol. Maen nhw wedi dawnsio gyda’i gilydd ar garped y gegin erioed. Mae Transition yn archwilio’r berthynas newidiol rhyngddynt trwy gyfrwng dawns, sgwrs a ffilm.Cyflwynir y rhagolwg hwn gan Run Ragged ar y cyd â Theatr Iolo ac fe’i datblygwyd trwy gyfrwng WalesLab NTW.£6 / Tocyn teulu (i 4) £207+ oed

+ Gweithdy TeuluolSad 1 Tachwedd 10am–12pmFe’ch gwahoddir i ymuno â sesiwn ddawns a theatr hwyliog ar gyfer rhiant a phlentyn wedi’i harwain gan Jem Treays (Run Ragged) a Kevin Lewis (Theatr Iolo). Mae’r gweithdy’n rhad ac am ddim — i gymryd rhan, ffoniwch Swyddfa Docynnau Chapter 029 2030 4400. Gwisgwch ddillad cyffyrddus a fydd yn eich galluogi i symud yn ddidrafferth.7+ oed

Tran

siti

on

Run Ragged Productions: Transition

Page 15: Chapter Tachwedd 2014

Theatr 15chapter.org

Marcel Lucont: IsSad 1 Tachwedd 8pmDoethinebau mawreddog dyn modern ar farwolaeth, moesoldeb, gwrywdod. Mélange amlgyfrwng o ardderchowgrwydd.Enillydd Gwobr ‘Fringe World’ am y Sioe Gomedi Orau 2013.Enillydd Gwobr ‘Amused Moose’ 2012.Gwelwyd Marcel cyn hyn ar raglen Set List Sky Atlantic, Russell Howard’s Good News ar BBC3 ac ar Live At The Electric.£12

‘Ffres, hygyrch, doniol’ The Guardian

Theatr Everyman: Oh What a Lovely WarMaw 11 — Sad 15 Tachwedd 7.30pm (+ matinée am 2.30pm ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd) Mae’r ddrama gerddorol hon yn gronicl o ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cynnwys sgetsys, golygfeydd, caneuon a dawnsfeydd sy’n portreadu erchyllterau bywyd yn y ffosydd a gwleidyddiaeth y rhyfel. Yn coffáu eleni ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr, cafodd Oh What a Lovely War ei llwyfannu am y tro cyntaf ym 1963 gan Theatr Gweithdy Joan Littlewood ac fe ryddhawyd fersiwn ffilm ryfeddol Richard Attenborough ym 1969. Yn deyrnged i 50-mlwyddiant y cynhyrchiad Broadway cyntaf, byddwn yn dychwelyd at arddull Joan Littlewood — gwisgoedd Pierrot, effeithiau clyweledol a sleidiau.Trwy gyfrwng comedi a hurtwch, gwelwn sut yr oedd polisïau delfrydyddol a system ddosbarth y cyfnod yn fodd o sicrhau parhad y rhyfel ac yn fodd hefyd o ddad-ddynoli’r milwyr. Mae’r ddrama’n gri ffyrnig yn erbyn rhyfel.Cyfarwyddwr Cerdd: Lindsey Allen Coreograffydd: Richard Thomas Cyfarwyddwyd gan Jackie Hurley£10/£8 (consesiynau ar ddydd Mawrth + Iau yn unig)

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Mar

cel L

ucon

t —

Is, O

h W

hat

a Lo

vely

War

Page 16: Chapter Tachwedd 2014

16 029 2030 4400Theatr

Re-Live: Memoria Iau 20 — Sad 22 Tachwedd 8pmMae Re-Live yn dychwelyd â chynhyrchiad pwerus ac amserol sy’n archwilio byd cymhleth dementia. Am y tro cyntaf yn y DG, bydd pobl sy’n byw â dementia, eu hanwyliaid a’u gofalwyr proffesiynol yn ymddangos ar lwyfan i rannu eu straeon anghyffredin â chynulleidfa.Yn gyfuniad o theatr, cerddoriaeth a ffilm, bydd y perfformiad arloesol hwn yn cyfleu taith emosiynol, swreal, a doniol hefyd, ar adegau — taith y rheiny sy’n cael eu heffeithio gan un o heriau mwyaf cymdeithas.O rannu atgof nis collir.

Mae Re-Live yn creu gweithiau theatrig gyda phobl ar gyrion cymdeithas, ac yn eu galluogi i fod yn berfformwyr, fel y gall cynulleidfaoedd gael profiad cyfun o straeon dirgel ein hoes. Caiff y perfformiad ar 20 Tachwedd ei ddarlledu ar-lein. Gallwch gael mwy o fanylion drwy ymweld â www.re-live.org.ukGyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Chapter a Legal & General£10/£8

DESTINO Dance Company (Ethiopia): Ene Man Negn (Pwy ydw i) / Chase the ChaosIau 13 Tachwedd 8pmYn dilyn eu cynhyrchiad hynod lwyddiannus y llynedd, The World Behind Walls, mae’r dawnswyr a’r coreograffwyr nodedig o Ethiopia, Addisu Demissie a Junaid Jemal Sendi (Mentor et Protégé Rolex, 2004), yn ymuno â Jessie Brett. Byddant yn perfformio yng Nghymru i ddathlu creu eu Cwmni Dawns Gyfoes newydd, Destino. Mae’r cwmni’n gweithio i annog pobl ifainc ddifreintiedig i ddatblygu eu potensial a’u hunan-hyder. Maent yn tynnu hefyd ar eu llwyddiannau eu hunain — perfformiadau rhagorol yn The Place, Sadler’s Wells, ac mewn gwyliau ledled Affrica ac Ewrop. Mae eu harddull unigryw yn gyfuniad o’u treftadaeth Ethiopiaidd gyfoethog a dylanwadau rhyngwladol cyfoes.Bydd Destino yn cyflwyno dau ddarn:Ene Man Negn (Pwy ydw i), deuawd am hunaniaeth, dewisiadau a thynged yn nheithiau dau berson drwy fywyd.Chase the Chaos, darn o goreograffi wedi’i berfformio ar y cyd â Jessie Brett. + Sgwrs ar ôl y sioe (digwyddiad i’w gadarnhau)£12/£10

Mem

oria

Page 17: Chapter Tachwedd 2014

17chapter.org Chapter Mix

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 2 Tachwedd 8pmDewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

DYDD IAU CYNTAF Y MIS:Barddoniaeth a Ffuglen NewyddIau 6 Tachwedd 7.30pmBydd Dydd Iau Cyntaf y Mis hwn yn cyflwyno’r bardd Mir Mahfuz Ali, a fydd yn darllen o’i gyfrol gyntaf rymus, ‘Midnight, Dhaka’ a Jo Mazelis, a fydd yn darllen rhan o’i nofel newydd, ‘Significance’. Sesiwn meic agored hefyd.Noddir gan Llenyddiaeth Cymru a Seren Books. £2.50 (wrth y drws)

Clwb Comedi The DronesGwe 7 + Gwe 21 Tachwedd Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon.Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue £3.50 (wrth y drws)

Clonc yn y CwtchBob dydd Llun 6.30–8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIMAr y cyd â Menter Caerdydd

Music Geek MonthlyIau 27 Tachwedd 8pmTrafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis.RHAD AC AM DDIMwww.musicgeekmonthly.tumblr.com

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De CymruIau 13 Tachwedd 2pmCelfyddyd a Rhyfeloedd Napoleon: darlith i ddathlu deucanmlwyddiant Brwydr Waterloo 1815Lois Oliver MA, AMA, LTCLI nodi deucanmlwyddiant Brwydr Waterloo, bydd y ddarlith hon yn atodiad i’r arddangosfa fawr a gynhelir yn yr Academi Frenhinol yn 2015. Cafodd y rhan fwyaf o bobl y cyfnod brofiad o’r rhyfel nid ar faes y gad ond drwy gyfrwng gweithiau celfyddydol. Byddwn yn archwilio’r safbwyntiau cyferbyniol a gyflwynir gan artistiaid o Brydain a Ffrainc, gan gynnwys Turner a JL David. Byddwn hefyd yn ystyried ffurfiau celfyddydol llai aruchel, a’r rheiny’n amrywio o wyntyllau menywod ag arnynt ddarluniau o’r newyddion milwrol diweddaraf i ailberfformiadau o frwydrau morwrol ar ddŵr go iawn yn Theatr Sadler’s Wells.Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)www.swdfas.org

Jazz ar y SulSul 16 Tachwedd 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIMwww.glenmanby.com

Dance ShortsDawnsio Newydd mewn Mannau CyhoeddusGwe 21 Tachwedd 8.15pm Mae’r ‘Dance Shorts’ yn berfformiadau rhad ac am ddim mewn mannau cyhoeddus ac yn agored i bob un. Cyfle i gynulleidfaoedd Cymru weld 10 munud o ddawnsio newydd sbon. Rydym yn falch o gyflwyno’r dawnsfeydd byrion hyn yn ein Caffi Bar:Alex Marshall Parsons yn cyflwynoGary a Pel…Brenin a Brenhines yr ysgol uwchradd; Mr a Mrs popeth afresymegol. Deuawd theatr ddawns ddifyr a hwyliog sy’n addas i bawb.RHAD AC AM DDIM

Danc

e Sh

orts

, llu

n: J

amie

Mor

gans

Page 18: Chapter Tachwedd 2014

Sinema18 029 2030 4400

Bydd ein tymor Gwyddonias yn parhau drwy gydol mis Tachwedd. Dewch i weld clasuron cwlt neu ymunwch â ni ar gyfer un o’n dangosiadau gwych oddi ar y brif safle yng Nghastell Rhaglan (gweler y manylion ar dudalennau 28-32).

The

Riot

Clu

b

sinEma

Page 19: Chapter Tachwedd 2014

Sinema 19chapter.org

Life After Beth Gwe 31 Hydref — Iau 6 TachweddUDA/2014/89mun/15. Cyf: Jeff Baena. Gyda: Audrey Plaza, Dane DeHaan, John C. Reilly.

Mae Zach yn galaru am ei gariad, Beth, ac yn cael cysur o dreulio amser gyda’i rhieni hi, sy’n ei drin ef fel mab. Yna, un noson mae Beth yn ymddangos: mae yna dwll mawr yn y ddaear lle mae ei charreg fedd a dyw hi ddim yn cofio marw. Ar ôl wynebu ei sioc, mae Zach yn ei gael ei hun mewn gwynfyd. Ac mae diffyg cof Beth hyd yn oed wedi dileu’r ffaith ei bod hi’n awyddus i orffen eu perthynas ychydig cyn iddi farw. Ond wrth i amser fynd heibio, daw ei hymddygiad yn fwyfwy rhyfedd — ac nid hi yw’r unig un. Weithiau’n dyner, weithiau’n wyllt, mae’r ffilm hon yn ddoniol bob amser.

CLWB FFILMIAU GWAEL

Shark Attack 3: MegalodonSul 2 TachweddUDA/2002/99mun/15. Cyf: David Worth. Gyda: John Barrowman.

Roedd hi’n fis cyn ‘Dolig, ac roedd pob man a phob peth yn dawel — popeth ar wahân i siarc enfawr arswydus, hynny yw! Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn cyflwyno un o’u hoff ffilmiau gwael erioed, Shark Attack 3. Â John Barrowman yn ‘serennu’, mae’r ffilm yn adrodd hanes digon normal am siarc cynhanesyddol sy’n codi ofn ar ymwelwyr â thraeth ym Mecsico. Mae dyn, menyw a llawfeddyg triniaethau cosmetig yn gorfod brwydro yn erbyn cyllideb CGI isel, plot dryslyd a llu o ddiffygion eraill. Pwy fydd yn ennill? Bydd yn rhaid i chi ddod i weld drosoch eich hun.

’71 Gwe 24 Hydref — Iau 6 TachweddDG/2014/99mun/15. Cyf: Yann Demange. Gyda: Jack O’Connell, Sean Harris, Sam Reid.

Yn y ddrama afaelgar a digyfaddawd hon, mae Gary, sydd newydd gael ei recriwtio gan y fyddin Brydeinig, yn cael ei wahanu oddi wrth ei uned. Wrth i derfysg dychrynllyd ffrwydro ar strydoedd Belffast, rhaid iddo oroesi noson danllyd ac ysgytwol a dysgu gwahaniaethu rhwng cyfaill a gelyn.

The Riot ClubGwe 31 Hydref — Iau 6 Tachwedd DG/2014/106mun/15. Cyf: Lone Scherfig. Gyda: Natalie Dormer, Sam Claflin, Douglas Booth.

Wedi’i gosod ym myd elît breintiedig Prifysgol Rhydychen, dilynwn Miles ac Alistair, dau fyfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n benderfynol o ymuno â’r ‘Riot Club’ drwg-enwog, lle gall enw da person gael ei greu neu ei chwalu mewn un noson. Mae’r clwb yn fersiwn ffuglennol o’r Bullingdon Clwb enwog ac yn addasiad o’r ddrama wobrwyol, Posh. Mae’n waith sydd yn llawn cwestiynau pigog am cliques a choridorau grym gwleidyddiaeth Prydain.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal Llun 3 Tach, 5.45pm a Iau 6 Tach, 2.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hynny newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

“Cartŵn miniog, dychanol o’r ryfel dosbarth Seisnig a chynllwynio cymdeithasol” The Guardian

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Life

Aft

er B

eth,

‘71

Page 20: Chapter Tachwedd 2014

Sinema20 029 2030 4400

Mr TurnerGwe 14 — Iau 27 Tachwedd DG/2014/150mun/12A. Cyf: Mike Leigh. Gyda: Timothy Spall, Paul Jesson, Dorothy Atkinson.

Taith drwy flynyddoedd olaf yr artist JMW Turner wrth iddo deithio, paentio a’i gael ei hun yn aelod poblogaidd, os anarchaidd hefyd, o’r Academi Frenhinol. Yn ddyn cyffredin a chanddo dalent eithriadol, mae e’n cymryd y wraig sy’n cadw tŷ iddo yn ganiataol, er ei bod hi’n ei garu, ac yn ffurfio perthynas agos â thafarnwraig mewn tref lan-môr. Wedi’i ffilmio’n hardd, mae hwn yn waith tyner a chynnil ac yn cynnwys perfformiad canolog anhygoel. + Trafodaeth Come Along Do gyda Gill Nicol ar ôl dangosiad Llun 17 Tachwedd. Pris tocynnau fydd £2.50 ac fe fyddant ar gael yn ein swyddfa docynnau ac ar-lein.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar Mer 19 Tach, 10.30am a 5.45pm a Sul 23 Tach, 7pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Effie GrayGwe 7- Iau 13 TachweddDG/2014/108mun/12A. Cyf: Richard Laxton. Gyda: Dakota Fanning, Emma Thompson, Claudia Cardinale.

Un o feddylwyr mawr oes Fictoria: roedd y beirniad celf, y pensaer a’r bardd, John Ruskin, yn un o gefnogwyr y mudiad Cyn-Raffaëlaidd ac roedd Proust a Ghandi ymhlith ei edmygwyr. Fodd bynnag, mae yna gyfnod yn ei fywyd sy’n dal i beri dryswch i ysgolheigion: ei briodas fer, anghyflawn â’r Effie Gray hardd. Mae’r ddrama gywrain hon gan Emma Thompson yn archwilio cymeriad a chanfyddiadau Ruskin ac yn llawn disgleirdeb, ffraethineb a deallusrwydd.

NT Live Encore: FrankensteinMaw 4 + Sul 16 Tachwedd162mun/15. Cyf: Danny Boyle. Awdur: Nick Dear. Gyda: Benedict Cumberbatch, Johnny Lee Miller.

Yn blentynnaidd ei ffordd ond yn grotesg ei bryd a’i wedd, caiff Frankenstein ei fwrw allan i fydysawd gelyniaethus gan ei greawdwr ofnus. Ar ôl dioddef creulondeb ymhobman, mae’r Creadur di-gyfaill, cynyddol anobeithiol a dialgar, yn penderfynu chwilio am ei greawdwr a tharo bargen frawychus ag ef. Mae Cumberbatch a Miller yn cyfnewid rhannau Victor Frankenstein a’r Creadur ym mhob fersiwn. Caiff rôl Victor Frankenstein ei chwarae gan Cumberbatch ar ddydd Mawrth 4 Tachwedd a chan Miller ar ddydd Sul 16 Tachwedd.Mae tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10

cELFyDDyD+FFiLm

O’r b

rig: M

r Tur

ner,

NT

Live

: Fra

nken

stei

n

Page 21: Chapter Tachwedd 2014

21chapter.org Sinema

Un Homme de Têtes Ffrainc/1898/1mun. Cyf: Georges Méliès.

Ffilm wedi’i hysgrifennu, ei chyfarwyddo a’i hactio gan yr arloeswr Ffrengig mawr, Georges Méliès, ac sy’n cynnwys pedwar pen heb gorff, pob un ohonynt yn perthyn i Méliès.

Une Excursion IncohérenteFfrainc/1909/9mun. Cyf: Segundo de Chomón.

Mae trip teuluol i’r goedwig yn troi’n ddiwrnod o arswyd. Mae teisen siocled fwydod, rholiau cynrhon ac wyau llygod ar y fwydlen bob un wrth i Chomón weini ambell un o’i ffantasïau swrrealaidd mwyaf blasus.

PreludeDG/1927/8mun. Cyf: Castleton Knight.

Ffilm dywyll hardd a chrefftus am ddyn sy’n darllen Edgar Allan Poe ac yn cael bod i wrthrychau cyffredin agweddau sinistr. Ysbrydolwyd y gwaith gan Prélude enwog Rachmaninov yn C# leiaf.

The Thieving HandUDA/1908/6mun. Cyf: J. Stuart Blackton.

Mae gan fraich artiffisial awydd afreolus i ddwyn. Mae’n meddiannu bywyd prynwr diniwed ac yn ei arwain at yr unig le y gall y fraich deimlo’n ddiogel.

The Haunted HouseUDA/1921/21mun Cyf: Buster Keaton.

Mae ‘spoof’ Keaton o’r genre ysbryd a oedd yn boblogaidd iawn ar y pryd yn llawn gags a styntiau gwyllt a fydd wrth fodd pob un. Ar wahân i Keaton ei hun, mae’r brif ran yn y ffilm hon yn cael ei chwarae gan set o risiau tra arbennig.

Ffilmiau Arswyd Byrion Cynnar Sul 23 + Maw 25 TachweddDetholiad o ffilmiau o ddechrau’r 20fed ganrif, bob un yn cynnwys cyflwyniad a sgôr newydd wedi’u comisiynu gan Ŵyl Arswyd Abertoir. Byddwn yn archwilio agweddau gwahanol ar ymwneud y sinema gynnar â’r arallfydol. Sgorau wedi’u cyfansoddi a’u perfformio’n fyw gan Paul Shallcross. Er cof am Afan ab Alun — cyflwynir y sesiynau hyn o ganlyniad i’w rodd hael.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Un H

omm

e de

Têt

es, T

he H

aunt

ed H

ouse

, Une

Exc

ursi

on In

cohé

rent

e

Page 22: Chapter Tachwedd 2014

Sinema22 029 2030 4400

God Help the GirlSul 9 — Iau 13 TachweddDG/2014/112mun/15. Cyf: Stuart Murdoch. Gyda: Olly Alexander, Hannah Murray, Pierre Boulanger.

Ar ôl i Eve ddechrau ysgrifennu caneuon fel ffordd o ddatrys ambell broblem emosiynol, mae hi’n cyfarfod â James a Cassie, dau gerddor sydd wedi cyrraedd eu croesffordd eu hunain yn y stori deimladwy hon am ddod-i-oed sydd hefyd yn fath o sioe gerdd ‘indie-pop’ swynol. Dechreuodd y ffilm fel cyfres o ganeuon gan Belle & Sebastian ac mae hi wedi’i gosod ym myd bohemaidd Gorllewin Glasgow, yn llawn mods, rocers a phobl ifainc ‘emo’ sy’ ond yn rhy barod i ddechrau canu a dawnsio.

Jimi: All is by My SideGwe 14 — Iau 20 TachweddDG/2014/118mun/15. Cyf: John Ridley. Gyda: André Benjamin, Imogen Poots, Hayley Atwell.

Cawn ein harwain yn freuddwydiol drwy’r flwyddyn y daeth Jimi Hendrix yn seren, yng nghwmni’r ddwy fenyw a’i helpodd i ennill llwyddiant yn y DG: Linda Keith, a’i cyflwynodd i’r cyffur LSD a’r diwydiant cerddorol, a’i gariad hirdymor, Kathy Etchingham. Portread agos-atoch o artist ifanc sensitif sy’n datgelu mwy mewn amser cymharol fyr na’r rhan fwyaf o ‘biopics’ confensiynol.

Gyda

’r cl

oc o

’r br

ig: N

orth

ern

Soul

, Jim

i: Al

l is

by M

y Si

de, G

od H

elp

the

Girl

Page 23: Chapter Tachwedd 2014

23chapter.org Sinema

Northern SoulSul 16 + Llun 17 TachweddDG/2014/102mun/15. Cyf: Elaine Constantine. Gyda: Elliot James Langridge, Josh Whitehouse, Jack Gordon.

Mae hon yn ffilm am ddiwylliant ieuenctid a newidiodd genhedlaeth gyfan ac a ddylanwadodd ar gyfansoddwyr, cynhyrchwyr, DJs a dylunwyr am ddegawdau i ddod. Mae bywyd yn newid am byth i ddau ffrind ifanc ar ôl iddynt fynd i’r Casino yn Wigan a chlywed cerddoriaeth ‘soul’ yr America ddu.

Nas: Time is Illmatic Gwe 14 TachweddUDA/2014/74mun/15. Cyf: Erik Parker. Gyda: Q-Tip, Alicia Keyes, Pharrell Williams, Pete Rock.

Stori wefreiddiol am esblygiad bardd stryd ifanc i fod yn MC dylanwadol. Cawn olwg ar brosesau creadigol yr artist hip-hop Nas wrth iddo baratoi ei albwm cyntaf. Wrth iddo ddychwelyd i gartref cyfnod ei blentyndod, clywn am ddylanwad ei dad, a oedd yn gerddor jazz, a’r modd y mae ei ‘lif’ geiriol arloesol yn ysbrydoli ei gyfoedion.

The Possibilities are EndlessMaw 18 — Iau 20 TachweddDG/2014/83mun/12A. Cyf: James Hall, Edward Lovelace. Gyda: Edwyn Collins, William Collins, Grace Maxwell.

Dychmygwch bod eich meddwl wedi cael ei ddileu: atgofion, gwybodaeth, profiadau, iaith — pob gair a lefarwyd gennych, y cwbl, wedi diflannu. Tasech chi’n gallu siarad eto yn y pen draw, beth fyddech chi’n ei ddweud? Dyma stori anhygoel Edwyn Collins, y cyfansoddwr a’r cerddor o’r Alban a gafodd strôc, ffrwydrad yn ei ymennydd a lwyddodd i ddileu, i bob pwrpas, holl gynnwys ei feddwl. Mae’n adrodd hanes ei wraig Grace hefyd, a’i tynnodd yn ôl i’r byd. Dathliad o ddylanwad cariad, cerddoriaeth ac iaith ar ein bywydau.

O’r b

rig: N

as: T

ime

is Il

lmat

ic, N

orth

ern

Soul

Page 24: Chapter Tachwedd 2014

Sinema24 029 2030 4400

Gone GirlGwe 7- Iau 13 Tachwedd UDA/2014/149mun/18. Cyf: David Fincher. Gyda: Ben Affleck, Rosamund Pike, Neil Patrick Harris.

Ar eu pumed pen-blwydd priodas, mae Nick Dunne yn dweud wrth yr heddlu bod ei wraig, Amy, wedi mynd ar goll. Ond ar ôl i’r wasg gael gafael ar y stori, mae Nick yn ei gael ei hun yn destun sylw pan gyfyd amheuaeth nad yw e’n gwbl ddieuog. Mae’r ffilm gyffro hon, yn seiliedig ar y nofel gan Gillian Flynn, yn datguddio’r cyfrinachau sydd wrth wraidd priodas fodern. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal Sul 8 Tach, 5.45pm a Maw 11 Tach, 10.30am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The BabadookGwe 21 — Maw 25 Tachwedd Awstralia/2014/94mun/15. Cyf: Jennifer Kent. Gyda: Essie Davis, Daniel Henshall, Tiffany Lyndall-Knight.

Chwe mlynedd ar ôl marwolaeth dreisgar ei gŵr, mae Amelia’n brwydro i ddisgyblu ei mab ifanc Samuel. Mae e’n cael ei boenydio, yn ei freuddwydion, gan anghenfil sinistr o’i lyfr stori, anghenfil sydd ar ei ffordd i ladd y ddau ohonynt. Ar ôl i Amelia ddechrau sylwi ar bresenoldeb sinistr o’i chwmpas ymhobman, mae hi’n dechrau meddwl y gallai rhybuddion Samuel fod yn wir wedi’r cyfan.+ Is-deitlau meddal Gwe 21 Tach, 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Giovanni’s IslandMer 12 + Iau 13 TachweddJapan/2014/102mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Mizuho Nishikubo. Gyda: Natalie Hoover, Masachika Ichimura, Polina Ilyushenko

Ar ynys fechan Shikotan, ar ôl brwydro ffyrnig, mae cyfeillgarwch rhwng dau blentyn o wledydd gwahanol yn dechrau blodeuo, wrth iddynt geisio goresgyn rhwystrau ieithyddol a dylanwad pellgyrhaeddol hanes. Wedi’i hysbrydoli gan stori wir am bresenoldeb y Rwsiaid ar Ynysoedd Kuril oddi ar arfordir Japan, mae hon yn ffilm ddynol a thyner sy’n cynnwys gwaith animeiddio-â-llaw hynod gelfydd a hardd.

Chapter MoviemakerLlun 3 TachweddSesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch [email protected]. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Gone

Girl

Page 25: Chapter Tachwedd 2014

25chapter.org Sinema

NightcrawlerGwe 21 — Iau 27 TachweddUDA/2014/117mun/15. Cyf: Dan Gilroy. Gyda: Jake Gyllenhaal, Rene Russo, Bill Paxton.

Mae Lou Bloom yn ddyn ifanc sy’n chwilio’n daer am waith yn L.A. ac yn darganfod isddiwylliant y ‘nightcrawlers’: gweithwyr llawrydd sy’n gwerthu fideos o ddamweiniau treisgar a llofruddiaethau i orsafoedd teledu llwgr. Mae ei ddycnwch a’i fenter yn denu sylw Nina, un o bobl brofiadol y maes, ac mae e’n ffynnu yn y byd tanddaearol a thywyll hwn. Ffilm gyffro hynod afaelgar sy’n cynnwys perfformiadau pwerus, a pherfformiad tra nodedig gan Gyllenhaal.

Obvious ChildGwe 7 — Iau 13 TachweddUDA/2014/85mun/15. Cyf: Gillian Robespierre. Gyda: Jenny Slate, Jake Lacy, Gaby Hoffman.

Ar y llwyfan, nid yw’r ddigrifwraig Donna yn ofni cellwair am bynciau sy’n deillio’n union o’i phrofiad ei hun — ei bywyd rhywiol a’i dillad isaf, er enghraifft. Ond ar ôl i’w chariad ei gadael, ac ar ôl iddi golli ei swydd a’i chael ei hun yn feichiog, mae Donna’n dechrau sylweddoli nad bod ar ei phen ei hun yw’r

peth mwyaf brawychus am fod yn oedolyn ond gadael i eraill ei helpu a’i charu. Wedi’i hangori gan berfformiad canolog nodedig, mae hon yn ffilm gyntaf dynn sy’n llawn comedi amrwd ac eiliadau o onestrwydd dynol ingol.

SerenaGwe 21 — Iau 27 TachweddUDA/2014/110mun/15. Cyf: Susanne Bier. Gyda: Jennifer Lawrence, Bradley Cooper, Rhys Ifans.

Yn Nhaleithiau’r De yn ystod y Dirwasgiad Mawr, mae Serena, sydd newydd briodi perchennog gwaith coed o’r enw George Pemberton, yn dysgu nad yw hi’n gallu cael plant. Wrth i’r cwpwl ddod i delerau â’r newyddion, mae Serena’n bachu ar y cyfle i ymwneud fwyfwy â’r busnes teuluol. Ond, o dipyn i beth, daw ei huchelgais a chyfrinachau o orffennol ei gŵr i ddechrau dryllio eu partneriaeth.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Nig

htcr

awle

r, S

eren

a

Page 26: Chapter Tachwedd 2014

Sinema26 029 2030 4400

Lion ArkMaw 11 TachweddUDA/2013/100mun/12A. Cyf: Tim Phillips. Gyda: Remy Ballivan, Bob Barker, Martin Beltran.

Mewn ffilm sy’n fwy o ddrama antur nag o ddogfen draddodiadol, awn ar daith gydag Animal Defenders International, wrth iddynt geisio cwblhau cyrch uchelgeisiol a beiddgar i achub anifeiliaid. Mae perchnogion syrcas yn Bolifia yn herio’r gyfraith trwy gadw eu llewod mewn amodau ofnadwy a’u trin â chryn greulondeb. Adeiladwyd cartref i’r anifeiliaid yn yr Unol Daleithiau a’r cyfan sydd angen ei wneud nawr yw eu hachub — ond mae hynny’n golygu perygl i’r anifeiliaid ac i’r achubwyr eu hunain. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr Tim Phillips

Mirage MenMer 26 + Iau 27 TachweddDG/2014/85mun/arf12A. Cyf: Roland Denning, John Lundberg, Kypros Kyprianou.

Ymhlith y dogfennau a ddatgelwyd gan Edward Snowden roedd delweddau o gyflwyniad o’r enw ‘The Art of Deception’. Yn rhyfedd ddigon, wedi’u gwasgu i ganol y ddogfen, roedd yna dri ffotograff o UFOs ffug clasurol: ‘hub cap’, balŵns, ac un UFO a oedd yn wylan, mewn gwirionedd. Ai dull newydd o hyfforddi yw hwn neu a yw’r syniad o fodau arallfydol yn gynllwyn sy’n bodoli ers degawdau lawer? Mae rhai arbenigwyr ar UFOs yn awgrymu taw ‘double bluff’ ydoedd, wedi’i fwriadu i gelu cyswllt go iawn gan fodau arallfydol. Mae’r ffilm hon yn tynnu’r gwyliwr i fyd o ddrychau a gweledigaethau lle mae pob celwydd yn cynnwys elfennau o’r gwir.

Tony Benn: Will and TestamentMaw 18 — Iau 20 TachweddDG/2014/90mun/12A. Cyf: Skip Kite.

Tony Benn oedd calon ac enaid yr adain chwith Brydeinig ac fe ellid dadlau mai ef oedd y gwleidydd mwyaf poblogaidd yn y DG erioed. Mae’r ffilm hon yn bortread byw o ddyn y llwyddodd ei yrfa i drosgynnu gwleidyddiaeth. Gwelwn ef yn ystyried llwyddiannau a methiannau ei fywyd personol a gwleidyddol, o’i frwydr i gadw ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl iddo gael ei urddoli, at ei gefnogaeth i Adeiladwyr Llongau afon Clud Uchaf ym 1971-72, a’i frwydrau niferus â phapurau newyddion gelyniaethus. Cwblhawyd y ffilm deyrnged deimladwy hon am yr AS Llafur profiadol toc cyn ei farwolaeth ym mis Mawrth 2014.

The Case Against 8Iau 20 TachweddUDA/2014/109mun/arf15. Cyf: Ben Cotner, Ryan White.

Ffilm ddogfen hynod ddiddorol sy’n croniclo ymgyrch bum mlynedd o hyd i sicrhau bod y llys ffederal yn gwyrdroi ‘Proposition 8’ yng Nghaliffornia — cymal a oedd yn gwahardd priodasau hoyw yn y dalaith. Mae’r ffilm yn cysylltu prosesau gweithdrefnol achosion cyfreithiol mawrion â brwydrau unigol y rheiny sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r ddeddfwriaeth. Mae’n ffilm a fydd yn ysbrydoliaeth hefyd i’r rheiny sy’n dal i frwydro dros gydraddoldeb.

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer cyfarfod o grŵp trafod LGBTQ Chapter.

O’r rEaL i’r riLWeithiau mae bywyd go iawn mor rhyfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘Real to reel’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n cynnwys ffilmiau sy’n cyflwyno digwyddiadau a phobl gwirioneddol ddiddorol ar y sgrin fawr.

Tony

Ben

n: W

ill a

nd T

esta

men

t

Page 27: Chapter Tachwedd 2014

chapter.org Sinema 27

Life ItselfGwe 14 — Llun 17 Tachwedd UDA/2014/120mun/TiCh. Cyf: Steve James. Gyda: Roger Ebert, Chaz Ebert, Gene Siskel.

Ffilm gynnes, onest a theimladwy am fywyd y diweddar newyddiadurwr, sgriptiwr a beirniad ffilm, Roger Ebert, a ffilmiwyd yn ystod dyddiau olaf ei frwydr yn erbyn canser. Cynhyrchwyd y darn gan ei gyfaill, Martin Scorsese. Yn ystod ei yrfa, treuliodd Ebert flynyddoedd meddwol yn ysgrifennu gyda Russ Meyer, cyn cwrdd â chariad ei fywyd — y gyfreithwraig hawliau sifil, Chaz. Enillodd ei egni rhyfeddol a’i ewyllys bendant barch gan gyfoedion a gwneuthurwyr ffilm, ond arweiniodd hefyd at gwerylon niferus. +Is-deitlau Meddal ar Sul 16 Tach, 5.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Doctor Who: Death in Heaven Cyfle i weld rhan olaf y gyfres ddiweddaraf ardderchog o Doctor Who, cyn iddi gael ei darlledu ar BBC One. Bydd y ddeuddegfed bennod yn cynnig atebion i holl gwestiynau cyfres gyntaf Peter Capaldi ym mhrif ran sioe boblogaidd BBC Cymru. Gyda Peter Capaldi, Jenna Coleman a Michelle Gomez.I gael mwy o wybodaeth a phrisiau tocynnau, ewch i: www.chapter.org/doctorwho

Sinema Pop-up, ar y cyd â BAFTA Cymru, BBC Cymru a Chanolfan Ffilm Cymru. Rhan o gyfres o chwe digwyddiad Doctor Who, ar thema Angenfilod a Dihirod, i’w cynnal ar hyd a lled Cymru.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Life

Itse

lf, D

octo

r Who

Page 28: Chapter Tachwedd 2014

Sinema28 029 2030 4400

Tymor Gwyddonias y BFI: All Hail the New Flesh!Wrth i’n tymor Gwyddonias barhau, byddwn yn archwilio cyd-fodolaeth wrth i ni edrych ar y ffyrdd y mae dynoliaeth wedi integreiddio â thechnoleg a chyswllt â bodau arallfydol. Wedi’n hysbrydoli gan syniadau mawrion a delweddau sinematig ysblennydd, byddwn yn cyflwyno rhai o eiliadau mwyaf nodedig a mwyaf gwreiddiol sinema Wyddonias, gan gynnwys ffilmiau mud, clasuron cwlt a gweledigaethau cyfoes o’n gobeithion a’n hofnau dyfnaf.

Kitc

hwat

eli

Cyflwyniad i Ffilm WyddoniasNosweithiau Llun tan Llun 8 Rhagfyr 7 — 9pmYmunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau Ben Ewart-Dean i archwilio hanes, themâu a syniadauffilmiau gwyddonias trwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd a thrafodaethau anffurfiol, ynghyd ag enghreifftiau pwrpasol o ffilmiau nodedig. Bydd y cwrs yn costio £65 /£55 (consesiynau) ac fe fydd aelodau’r cwrs yn gallu manteisio ar brisiau gostyngol i weld unrhyw ffilm yn nhymor gwyddonias y BFI. Gweler ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion a chysylltwch, os gwelwch yn dda, â’n swyddfa docynnau i archebu tocynnau.

Ffilmiau Byrion Affro-ddyfodoliaeth (82mun) Mer 5 Tachwedd

Mae Watch Africa wedi curadu rhaglen o ffilmiau byrion i ddathlu Affro-ddyfodoliaeth fodern sy’n tynnu ar elfennau cerddorol, ffilm a gwyddonias er mwyn ffurfio athroniaeth hollgynhwysol a gweledigaethau o ddyfodol amgen.

Alive in JoburgDe Affrica/2005/6mun. Cyf: Neill Blomkamp.

Mae ‘aliens’ wedi dod i’r ddaear yn y ffilm fer hon a arweiniodd yn y pen draw at y ffilm nodwedd, District 9.

JonahDG/2013/17mun. Cyf: Kibwe Tavares.

Mae Mwbana a Juma yn tynnu llun pysgodyn enfawr wrth iddo neidio o’r môr ac mae’r ffotograff yn troi eu tref fechan yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid.

KitchwateliKenya/2011/8mun. Cyf: Muchiri Njenga.

Mewn slym ôl-apocalyptaidd, awn ar daith drwy feddwl bachgen ifanc a chanddo deledu lle dylai ei ben fod.

PumziKenya/2009/23mun. Cyf: Wanuri Kahiu.

Ar ôl i ryfeloedd dŵr ddinistrio’r byd, mae merch ifanc yn berchen ar hedyn sydd ar fin egino.

DrexciyaYr Almaen-Burkina Faso/2012/28mun. Cyf: Simon Rittmeier.

Mae masnachwr dynol yn ei gael ei hun ar arfordir Affrica. + Trafodaeth ar ôl y dangosiad

Page 29: Chapter Tachwedd 2014

chapter.org Sinema 29

VideodromeSul 2 + Maw 4 TachweddCanada/1983/84mun/18. Cyf: David Cronenberg. Gyda: James Woods, Deborah Harry, Sonya Smits.

Mae rhaglennydd sianel deledu cebl annifyr o’r enw Max yn dechrau gweld ei fywyd ei hun a dyfodol y cyfryngau yn dadfeilio ar ôl iddo brynu Videodrome ar ran ei orsaf a mynd ati i geisio’r gwir am y Bianca O’Blivion ddirgel. Gwaith gan feistr ffilmiau arswyd corfforol sydd yn archwiliad ymenyddol o gaethiwed, rhywioldeb peryglus ac obsesiwn technolegol. Mae i’r ffilm hon galon dywyll!

District 9Sad 1 + Mer 5 TachweddDe Affrica/2009/108mun/15. Cyf: Neill Blomkamp. Gyda: Sharlto Copley, Jason Cope.

Genhedlaeth ers iddynt gysylltu â dynion am y tro cyntaf, ond heb iddynt fygwth yr hil ddynol na chynnig unrhyw ddatblygiadau technolegol, mae’r ‘aliens’ yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi eithafol. Cânt hyd i enaid hoff cytûn mewn asiantaeth lywodraethol — gŵr sydd wedi dod dan effaith biotechnoleg yr estroniaid. Mae’r ffilm hon yn alegori o broblemau cyfoes ac yn olwg ddyfeisgar ac egnïol ar eironïau rhagfarn a pheryglon trin eraill yn annynol. Mae iddi gyffyrddiadau ysgafn hyfryd a dogn sylweddol o hiwmor. + Cyflwyniad gan Cylina Simmonds ar ddydd Mercher 5 Tachwedd.

Liquid SkyIau 6 TachweddUDA/1983/110mun/18. Cyf: Slava Tsukerman. Gyda: Anne Carlisle, Paula E. Sheppard, Bob Brady.

Mae ‘aliens’ yn glanio ar ben fflat yn Efrog Newydd lle mae deliwr cyffuriau’n byw gyda’i chariad, sydd yn fodel androgynaidd, nymffomaniad. Mae’r ‘aliens’ yn cael bod fferomonau a grëir gan yr ymennydd yn ystod orgasm yn farwol-feddwol ac, o dipyn i beth, mae partneriaid rhyw achlysurol y fodel yn dechrau diflannu. Wedi’u harsylwi gan wyddonydd unig o’r Almaen, mae’r ‘aliens’ yn creu isddiwylliant bregus. Ffilm gwlt dywyll a doniol am anobaith — dyma gyfle prin i weld y trysor bychan hwn sydd wedi’i wreiddio yn y sîn ôl-pync cŵl.

Ydych chi’n edrych ymlaen at weld clasuron sinema Wyddonias sy’n archwilio syniadau am gyd-fodolaeth? Os felly, trowch i dudalennau 6-9 i weld manylion Experimentica, gŵyl celfyddyd fyw flynyddol Chapter. Syniad creiddiol yr Ŵyl eleni yw ‘co-existence has never been easy’, a’i man cychwyn yw’r ffilm, District 9.

O’r b

rig: V

ideo

drom

e, D

istr

ict

9

Page 30: Chapter Tachwedd 2014

Sinema30 029 2030 4400

Altered StatesGwe 7 TachweddUDA/1980/98mun/18. Cyf: Ken Russell. Gyda: William Hurt, Blair Brown, Bob Balaban.

Wrth iddo ymgodymu â rôl dynolryw yn y bydysawd, mae’r Athro Eddie Jessup yn ymchwilio’n obsesiynol i syniadau am wahanol lefelau ymwybyddiaeth ddynol — i’r fath raddau fel ei fod yn cael ei ddieithrio o’i deulu ei hun. Ar ôl cytuno i gymryd rhan mewn arbrofion i ehangu’r meddwl gyda chyffur rhithweledol mewn siambr ynysu, mae ei weledigaethau yn arwain at newid corfforol. Ffilm gyffrous, freuddwydaidd am wallgofrwydd a thrawsnewid.

They LiveSad 8 TachweddUDA/1988/90mun/18. Cyf: John Carpenter. Gyda: Roddy Piper, Keith David, Meg Foster.

Mae crwydryn digartref yn cael hyd i’r rheswm dros y bwlch cynyddol rhwng y cyfoethog a’r tlawd: cynllwyn gan ‘aliens’ sydd wedi treiddio i gymdeithas America ar ffurf ‘yuppies’ cyfoethog. Gyda chymorth sbectol haul arbennig sy’n dangos wynebau go-iawn yr estroniaid, ac ar ôl i’w negeseuon isganfyddol gael eu darlledu gan y cyfryngau mae ein harwr yn ceisio atal y goresgyniad. Ffilm ddychan ddylanwadol a hynod ddifyr am gyfalafiaeth fodern.

SolarisSul 9 TachweddRwsia/1973/162mun/is-deitlau/PG. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Natalya Bondarchuk, Donatas Banionis, Juri Jarvet.

Mae’r seicolegydd gweddw, Kris Kelvin, yn cael ei anfon i orsaf ofod sy’n cylchdroi planed Solaris er mwyn ymchwilio i farwolaeth ddirgel meddyg ar ei bwrdd a’r problemau meddyliol sy’n effeithio ar y gofodwyr. Pan ddaw ar draws ei wraig farw, Khari, daw’n amlwg bod Solaris yn treiddio i isymwybod y criw ac mae Kelvin yn gorfod cwestiynu ei ganfyddiad o realiti. Enillydd Uwch Wobr y Rheithgor yng Ngŵyl Ffilm Cannes 1972 a ffilm sydd yn archwiliad enigmatig a dwys o golled, y cof a hiraeth.+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: A

lter

ed S

tate

s, T

he L

ive,

Sol

aris

Page 31: Chapter Tachwedd 2014

chapter.org Sinema 31

Village of the DamnedSul 9 TachweddDG/1960/75mun/12. Cyf: Wolf Rilla. Gyda: George Sanders, Barbara Shelley, Martin Stephens.

Un bore ym mhentref Midwich, mae pob un o’r trigolion yn cwympo i gysgu cyn deffro eto mor sydyn bob tamaid. Dydyn nhw ddim fel petaent wedi’u heffeithio gan y ffenomenon — ar wahân i’r ffaith bod pob menyw sy’n ddigon hen i gael plant bellach yn feichiog. Caiff y babanod eu geni ar yr un eiliad yn union ac maent bob un yn edrych yn union yr un fath. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae un o’r tadau’n sylwi bod y plant yn meddu ar bwerau goruwchnaturiol ac yn penderfynu bod yn rhaid eu hatal. Â pherfformiadau i oeri’r gwaed ac awyrgylch o gynildeb cywrain, mae hon yn un o ffilmiau mwyaf dylanwadol y 1960au.

The Man Who Fell to EarthSad 15 + Maw 18 TachweddDG/1976/133mun/18. Cyf: Nicolas Roeg. Gyda: David Bowie, Rip Tom, Candy Clark.

Mae’r gofodwr teithiol, Jerome Thomas Newton, yn glanio ar y Ddaear ac yn gofyn am help ar ran ei blaned sy’n dioddef o sychder. Ar ôl sicrhau patentau ar gyfer technoleg uwch, mae e’n dod yn ddiwydiannwr hynod gyfoethog. Ond mae arian — a phopeth a ddaw yn ei sgil — yn ddylanwad cryfach o lawer arno. Mae David Bowie yn berffaith fel ‘alien’ yn yr archwiliad myfyrgar a dwys hwn ar werthoedd a dyheadau ein diwylliant.

Close Encounters of the Third KindSul 30 Tachwedd + Maw 2 RhagfyrUDA/1977/129mun/PG. Cyf: Steven Spielberg. Gyda: Richard Dreyfuss, Francois Truffaut, Teri Garr, Melinda Dillon.

Tra’n gyrru un noson, mae Roy Neary yn gweld UFO. Mae ei wraig yn amheus yn y lle cyntaf, yna mae hi’n dechrau poeni wrth i brofiad ei gŵr droi’n obsesiwn. Mae e’n cysylltu â phobl eraill sydd wedi gweld UFOs, gan gynnwys Jillian, mam sengl y diflannodd ei mab yn ystod ei chyswllt â’r UFO, a’r gwyddonydd Claude Lacombe. Cânt eu denu bob un, trwy dynfa ddirgel, at fynydd ym ‘mid-west’ America. + Ymunwch â ni am sioe olau arbennig gan yr artist Myles Leadbetter, perfformiad gan Bedwarawd Glen Manby a chystadlaethau cerflunio tatws stwnsh ar ddydd Sul 30 Tachwedd.

Gyda

’r cl

oc o

’r br

ig: V

illag

e of

the

Dam

ned,

Clo

se E

ncou

nter

s of

the

Thi

rd K

ind,

The

Man

Who

Fel

l to

Eart

h

Page 32: Chapter Tachwedd 2014

Sinema32 029 2030 4400

Sinema Dros DroYmunwch â ni mewn dau leoliad gwirioneddol hynod, Castell Coch a Chastell Rhaglan, wrth i ni barhau â’n rhaglen o ddangosiadau safle-benodol. Mae hi’n bosib y bydd yna gynhesrwydd i’w gael yn y straeon eu hunain ond fydd hynny ddim yn ddigon i warchod rhag oerfel y gaeaf yn y dangosiadau awyr agored hyn. Sicrhewch, felly, eich bod yn gwisgo ddillad cynnes, os gwelwch yn dda.

CASTELL COCHGwe 14 Tachwedd

Willy Wonka and the Chocolate Factory5pmUDA/1971/100mun/PG. Cyf: Mel Stuart. Gyda: Gene Wilder, Jack Albertson, Peter Ostrum.

Mae Willy Wonka, yn cuddio pum tocyn aur yn ei fariau siocled blasus — a’r wobr i’r bobl lwcus a ddaw o hyd iddynt? Taith o amgylch ei ffatri a chyflenwad oes o’i siocled a’i losin! Mae Charlie Bucket a phedwar o blant eraill yn dod o hyd i’r tocynnau ond buan y dôn nhw i sylweddoli bod yn rhaid iddynt barchu’r rheolau neu fe ddaw’r Oompa Loompas i’w hebrwng nhw ymaith.

Frankenstein8pmUDA/1931/70mun/PG. Cyf: James Whale. Gyda: Boris Karloff, Colin Clive.

Mae’r gwyddonydd gwallgo’ ac obsesiynol, Dr Henry Frankenstein, yn creu anghenfil drwy gymryd rhannau o gorff y meirw a’u rhoi at ei gilydd. Ond ar ôl i’r anghenfil ladd ar gam ferch ifanc o’r enw Maria, mae trigolion y dref yn mynnu cyfiawnder.

Sad 15 Tachwedd

The Wizard of Oz5pmUDA/1939/101mun/PG. Cyf: Victor Fleming. Gyda: Judy Garland, Bert Lahr, Frank Morgan, Ray Bolger.

Yn y stori hon am ddyfeisiadau, hud a rhyfeddod, mae Dorothy Gale yn cael ei chludo i Wlad Oz gan gorwynt ac, yng nghwmni ei ffrindiau, y Llew Llwfr, y Dyn Tun, y Bwgan Brain a’i chi, Toto, yn cychwyn ar antur i weld y Dewin a fydd yn gallu ei helpu hi i ddychwelyd adref.

Invasion of the Bodysnatchers8pmUDA/1956/80mun/PG. Cyf: Don Siegel. Gyda: Kevin McCarthy, Dana Wynter, Larry Gates.

Mae Dr Miles Bennell yn cael bod nifer o’i gleifion yn dioddef o gyflwr paranoid sy’n gwneud iddyn nhw feddwl bod eu ffrindiau neu’u perthnasau yn ymhonwyr (‘impostors’). Caiff ei berswadio yn y pen draw fod rhywbeth rhyfedd wedi digwydd ac mae e’n penderfynu ceisio mynd at wraidd y peth.

CASTELL RHAGLANSad 22 TachweddGyda chymorth Prifysgol De Cymru, byddwn yn cynnal y dangosiadau ‘drive-in’ hyn ar safle godidog castell Cadw. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwe-fan, www.chapter.org.

Time Bandits5pmDG/1981/111mun/PG. Cyf: Terry Gilliam. Gyda: Michael Palin, Shelley Duvall, Sean Connery, David Rappaport, Kenny Baker, David Warner, Craig Warnock.

Mae bachgen ysgol o’r enw Kevin yn cael ei ddeffro gan fand trwsgwl o gorachod sydd wedi dwyn map o byrth amser y bydysawd — ac mae un o’r pyrth hynny yn digwydd bod yn ei ystafell wely. Mae’r corachod yn ysbeilio’r gorffennol ac yn chwilio am gyfoeth, ond mae’r ‘Supreme Being’ a’r ‘Evil Genius’ yn eu herlid ... Wedi’i ffilmio yng Nghastell Rhaglan, mae’r ffilm hon yn olwg wallgo’ ar hanes a mythau’r byd ac yn ein harwain drwy gyfnodau a bydoedd Robin Hood, Napoleon ac Agamemnon.

The Rocky Horror Picture Show8pmDG/1975/98mun/12A. Cyf: Jim Sharman. Gyda: Tim Curry, Susan Sarandon, Richard O’Brien, Patricia Quinn, Little Nell, Meat Loaf, Barry Bostwick.

Mae cwpwl newydd ddyweddïo, Brad a Janet, yn torri i lawr yn eu car un noson dywyll a stormus ac yn galw yng nghastell rhyfedd y Dr Frank N. Furter. Mae’r gwyddonydd gwallgo’ o blaned arall yn datgelu ei greadigaeth newydd gyda chymorth Columbia, Magenta a Riff Raff. Dyma gyfle prin i chi ymwneud ag ochr wyllt eich personoliaeth mewn dangosiad rhyngweithiol o’r sioe gerdd gwlt.

CASTELL COCH Mae tocynnau ar gyfer y Dangosiadau yng Nghastell Coch yn £12/£10 (dangosiadau 8pm) a £6 (dangosiadau teuluol am 5pm). Gellir eu prynu drwy ein gwe-fan, www.chapter.org, neu o’n Swyddfa Docynnau, 029 2030 4400.

CASTELL RHAGLEN Mae tocynnau ar gyfer y dangosiadau o Time Bandits yng Nghastell Rhaglan yn £15 fesul car. Bydd tocynnau ar gyfer dangosiadau o The Rocky Horror Picture Show yn £20 fesul car. Bydd tocynnau ar gyfer y ddwy ffilm gyda’i gilydd yn costio £30 i bob car.

Page 33: Chapter Tachwedd 2014

FuryGwe 28 Tachwedd — Iau 4 Rhagfyr UDA/2014/134mun/15. Cyf: David Ayer. Gyda: Brad Pitt, Shia LaBeouf, Logan Lerman.

Mis Ebrill, 1945. Wrth i’r Cynghreiriaid gynnal un ymgyrch olaf yn Ewrop, mae rhingyll caled o’r enw Wardaddy yn gyfrifol am danc Sherman a chriw o bump ar gyrch marwol y tu ôl i linellau’r gelyn. Â phopeth yn eu herbyn, ac â milwr hollol ddibrofiad yn rhan o’u criw, maent yn wynebu pob her posib wrth iddyn nhw geisio treiddio i galon yr Almaen Natsïaidd.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal Sul 30, 7.50pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Hundred-Foot Journey Gwe 28 Tachwedd — Iau 4 RhagfyrIndia/2014/122mun/PG. Cyf: Lasse Hallström. Gyda: Helen Mirren, Om Puri, Manish Dayal.

Mae perchennog bwyty gweddw o’r enw Papa Kadam yn ffoi gyda’i deulu rhag trais ym Mumbai ac yn setlo mewn pentref prydferth yn Ffrainc, lle mae e’n agor busnes gyferbyn â’r bwyty mwyaf crand yn yr ardal. Mae perchennog y bwyty, Madame Mallory, yn wrthwynebus ac mae pethau’n cymhlethu ymhellach ar ôl i fab Kadam, Hassan, gwympo mewn cariad â sous chef hyfryd Madame, Marguerite. Wrth i Madame a Papa geisio tir cyffredin cymod, mae Hassan a Marguerite yn pendilio rhwng pleserau serch a methiannau proffesiynol. Yn llawn perfformiadau blasus, mae’r ffilm hon yn bleser sawrus, synhwyraidd.

Gone Too FarGwe 28 + Sad 29 Tachwedd DG/2013/87mun/12A. Cyf: Destiny Ekaragha. Gyda: Malachi Kirby, Adelayo Adedayo, Bhasker Patel.

Ar ôl i arddegwr o Brydain, Yemi, gyfarfod o’r diwedd a’i frawd o Nigeria, Ikudaisy, caiff bod treftadaeth Affricanaidd ei deulu estynedig — a’u dillad rhyfedd — yn effeithio ar ei ‘street cred’ ei hun. Wrth i densiynau glasoed a thensiynau hiliol ffrwydro un diwrnod ar ei stad, rhaid i Yemi a Ikudaisy fel ei gilydd benderfynu i bwy ac i beth y byddan nhw’n driw. Mae’r addasiad hwn o ddrama Bola Agbaje (a enillodd Wobr Olivier) yn llwyddo i ddod o hyd i hiwmor hyd yn oed wrth drafod tensiynau llwythol modern. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal Gwe 28 Tach, 5.30pm a Sad 29 Tach, 8.40pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Winter SleepGwe 28 Tachwedd — Iau 4 RhagfyrTwrci/2014/196mun/is-deitlau/arf15. Cyf: Nuri Bilge Ceylan. Gyda: Haluk Bilginer, Melisa Sözen, Demet Akbag.

Mae Aydin yn gyn-actor ac yn rheoli gwesty bach ar y paith Anatolaidd godidog. Mae ganddo berthynas stormus â’i wraig ifanc, Nihal, ac mae ei chwaer, Necla, yn dioddef ar ôl ei hysgariad diweddar. Wrth i’r eira ddechrau disgyn, mae’r gwesty’n troi’n hafan ond hefyd yn garchar sy’n bwydo drwgdeimlad. Mae hon yn stori hardd a beiddgar gan un o wneuthurwyr ffilm mwyaf medrus y byd.Enillydd y Palme d’Or yn Cannes

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Fur

y, G

one

Too

Far

chapter.org Sinema 33

Page 34: Chapter Tachwedd 2014

Teenage Mutant Ninja Turtles Sad 15 + Sul 16 Tachwedd UDA/2014/101mun/12A. Cyf: Jonathan Liebesman. Gyda: Megan Fox, Will Arnett, William Fichtner.

Mae Shredder a’i Foot Clan maleisus yn rheoli’r ddinas. Mae pethau’n edrych yn dywyll tan i bedwar brawd godi o’r ffosydd tanddaearol a derbyn eu tynged fel y Teenage Mutant Ninja Turtles. Maent yn gweithio gyda’r gohebydd eofn April i achub y ddinas. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar Sad 15 Tach, 11am a Sul 16 Tach, 11am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The BoxtrollsSad 22 + Sul 23 Tachwedd DG/2014/100mun/PG. Cyf: Anthony Stacchi, Graham Annable. Gyda: Simon Pegg, Elle Fanning, Toni Collette.

Mae bachgen amddifad ifanc a godwyd gan gasglwyr sbwriel mewn ogof danddaearol yn ceisio achub ei gyfeillion rhag drwgweithredwr creulon.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar Sul 22 Tach 11am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

The Book of LifeSad 29 + Sul 30 Tachwedd UDA/2014/95mun/U. Cyf: Jorge R. Gutierrez. Gyda: Zoe Saldana, Channing Tatum, Ron Perlman.

Mae Manolo yn freuddwydiwr ac yn cychwyn allan ar daith epig drwy fydoedd hudolus, chwedlonol a rhyfeddol er mwyn achub ei wir gariad ac amddiffyn ei bentref.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal Sul 22 Tach, 11am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Carry on ScreamingBob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn ar gyfer y rheiny â babanod dan flwydd oed.

Dangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol: The Boxtrolls (PG)Diwrnod Ffilm Rhad ac am Ddim i DeuluoeddSul 23 Tachwedd 10am–3pmYmunwch â ni ar gyfer ein diwrnod ffilm i’r teulu cyfan. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys gweithdy creadigol i ddathlu pen-blwydd Contact a Family Wales yn 15 oed. Mae’r digwyddiad ar agor i blant a chanddynt anableddau a/neu anghenion ychwanegol a’u teuluoedd. I gael mwy o wybodaeth ac i gadw lle ar gyfer eich teulu chi, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 02920 396624 neu 01978 351769.

Super 8Gwe 31 Hydref — Sul 2 TachweddUDA/2011/112mun/12A. Cyf: JJ Abrams. Gyda: Elle Fanning, AJ Michalka, Kyle Chandler.

Yn ystod haf 1979, mae grŵp o ffrindiau mewn tref fechan yn Ohio yn gweld damwain trên ddifrifol tra’n gwneud ffilm ‘super 8’ ac yn dechrau amau nad damwain ydoedd mewn gwirionedd. Toc wedyn, mae yna gyfres o ddiflaniadau anarferol a digwyddiadau anesboniadwy yn y dref, ac mae’r Dirprwy lleol yn ceisio dod o hyd i’r gwir — sydd yn fwy brawychus nag y gallai unrhyw un ohonynt fod wedi ei ddychmygu.

E.T.Sad 8 + Sul 9 TachweddUDA/1982/115mun/U. Cyf: Steven Spielberg. Gyda: Henry Thomas, Drew Barrymore, Peter Coyote.

Ffilm am y berthynas rhwng ‘alien’ bach a bachgen ifanc. Yn raddol, caiff ET ei integreiddio i fywyd y cartref, lle mae e’n dysgu siarad a chyfathrebu. Stori oesol am gariad, tosturi a dealltwriaeth.

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

FFilmiau i’r Teulu CyFan

Sinema34 029 2030 4400

Supe

r 8

Page 35: Chapter Tachwedd 2014

chapter.org 35Addysg

Moviemaker IauSad 1 Tachwedd 10.30am–12pmOs ydych chi rhwng 9 ac 16 oed ac yn wneuthurwr ffilmiau uchelgeisiol, dewch i ymuno â ni. Rydym yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion — ac yn dangos eich ffilmiau chi hefyd. Fe allai’r ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC — dylai rhieni gadw hynny mewn cof.£1.50

Chapter SewcialBob dydd tan Sul 30 Tachwedd 3.30–5pm 9 -12 oedBydd y cwrs gwnïo hwn i bobl ifainc yn defnyddio themâu diddorol, gweadau a deunyddiau o’n rhaglen ffilm, theatr a chelfyddydau gweledol fel ysbrydoliaeth ar gyfer dysgu sgiliau gwnïo sylfaenol. Nifer cyfyngedig o leoedd.£5 y sesiwn

Animeiddio ac AwtistiaethBob dydd Mercher tan Mer 3 Rhagfyr 5.30–7pm8-18 oedMae’r sesiynau 90 munud hyn yn annog pobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth i fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu neu ddatblygu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Bydd pob sesiwn yn hunangynhaliol neu gellir mynychu’r sesiynau fel cyfres. Fe all ein staff profiadol drefnu rhaglenni dysgu unigol os bydd angen hefyd.Bydd Chapter hefyd yn ehangu’r rhaglen er mwyn cyflwyno nifer cyfyngedig o sesiynau blasu mewn ysgolion sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth. Os ydych yn meddwl y gallai eich hysgol chi fod yn gymwys, cysylltwch â ni i drefnu gweithdy.£2.50 y sesiwn Gyda chefnogaeth

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’n gweithgareddau addysg, cysylltwch â [email protected]. I archebu tocynnau, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.

DANGOSIADAU GŵYL ‘INTO FILM’ I YSGOLIONMae Gŵyl ‘Into Film’ yn ddathliad blynyddol rhad ac am ddim o ffilm ac addysg i ysgolion a phobl ifainc ledled y DG.

American Interior (12)Llun 17 Tachwedd 10amMae’r canwr roc o Gymru, Gruff Rhys, yn adrodd hanes ei daith ar hyd perfeddwlad America yn y ffilm ddogfen chwareus a barddonol hon.

I am Kalam (PG) I’w dilyn gan OxfamMaw 18 Tachwedd 10amHanes doniol a thyner am fachgen Indiaidd o’r enw Chhotu sy’n cael gwireddu ei freuddwyd o fynd i’r ysgol ar ôl i Dywysog dyngarol ei helpu.

The Lion King (U)Ynghyd â chyflwyniad ar ddosbarthu ffilmiau gan y BBFCMer 19 Tachwedd 10amFfilm Disney sy’n llawn caneuon adnabyddus am lew ifanc sy’n gadael ei deulu a thrwy hynny yn caniatáu i’w ewythr drwg ddod yn frenin.

Hedd Wyn (12A)Iau 20 Tachwedd 10amArchwiliad cynnil o wladgarwch cyfnod rhyfel a grym y gair ysgrifenedig.

Mae pob un o’r dangosiadau hyn yn rhad ac am ddim: i gadw lle, ewch i http://www.intofilm.org/festival

PENWYTHNOSAU GWNEUD FFILMIAU ‘INTO FFILM’

Gweithdy Ffilm Penwythnos9-12 oed Sad 8 + Sul 9 Tachwedd 9.30am–4.30pm Dewch i gymryd rhan yn y gweithdy gwneud ffilmiau hwn ac i fod yn rhan o’ch criw ffilmio eich hun wrth i chi fynd ati i greu ffilm 60 eiliad o hyd. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gadw lle, ewch i http://www.intofilm.org/festivalRHAD AC AM DDIM

Gweithdy Ffilm Penwythnos13-16 oed Sad 15 + Sul 16 Tachwedd 9.30am–4.30pm Dewch i gymryd rhan yn y gweithdy gwneud ffilmiau hwn ac i fod yn rhan o’ch criw ffilmio eich hun wrth i chi fynd ati i greu ffilm 60 eiliad o hyd. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gadw lle, ewch i http://www.intofilm.org/festivalRHAD AC AM DDIM

ADDYSG

Page 36: Chapter Tachwedd 2014

36 Archebu / Gwybodaeth 029 2030 4400

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddango-siadau — £4.40

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm.Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

GwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterFe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

Wellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Major Road

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Treganna

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — arhosfan bysus — rac feics

Page 37: Chapter Tachwedd 2014

37chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Landfill Community FundEsmée Fairbairn FoundationEU Culture ProgrammeThe Baring FoundationGarfield Weston FoundationFoyle Foundation Biffa AwardColwinston Charitable TrustAdmiral Group plcMoondance FoundationFoundation for Sport and the ArtsTrusthouse Charitable FoundationCommunity Foundation in WalesBBC Children in Need The Waterloo FoundationScottishPower Green Energy TrustThe Welsh Broadcasting Trust

SEWTA Richer SoundsThe Clothworkers’ Foundation MomentumThe Henry Moore FoundationGoogleJane Hodge FoundationSimon Gibson Charitable TrustPeople’s Postcode TrustDunhill Medical TrustLegal & GeneralInstitut für Auslandsbeziehungen e.VMillennium Stadium Charitable TrustThe Ernest Cook Trust Lloyds TSBMorgan SignsGarrick Charitable Trust

BarclaysArts & Business CymruPenderynThe Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International FoundationPuma Hotels Collection: Cardiff Angel HotelCardiff AirportWales Arts InternationalGibbs Charitable TrustCeredigion Community SchemeThe Steel Charitable TrustThe Boshier-Hinton Foundation1st OfficeOakdale TrustDipec PlasticsNelmes Design

The Coutts Charitable TrustBruce Wake CharityFunky Monkey FeetFinnis Scott FoundationUnity Trust BankHugh JamesContemporary Art Society for WalesThe Dot FoundryJVHGidden & ReesWestern Power DistributionFollett TrustArts & Kids CymruCanton High School Girl’s ReunionCo-operative GroupRenault CardiffEmbassy of BelgiumQueensland Government

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr ChapterYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — [email protected]/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter