cofiwch ofyn i’r wardeiniaid lle gallwch mackworth ... · a’i chodi i’r lefel bresennol ym...
TRANSCRIPT
Mae’r cymysgedd o siopau’r stryd fawr,
siopau annibynnol a’r detholiad eang o
fwytai, bariau a chaffis yn gwneud canol
y dref yn baradwys i siopwyr. Wrth i chi
siopa, cofiwch ymweld â’r Farchnad
Fictoraidd. Dyma un o’r hynaf o’i bath
yng Nghymru. Hefyd, cadwch lygad am
Eglwys Dewi Sant – dyma lle dysgodd
Katherine Jenkins ganu!
Neuadd Gwyn Castell-nedd yw
canolbwynt diwylliannol y dref. Ar ôl tân
dinistriol yn 2007 mae’r neuadd wedi
ailagor. Mae bellach yn ganolfan lewyrchus
sy’n dangos ffilmiau, sioeau apherfformiadau cerdd yn rheolaidd.
Angen heddwch a thawelwch? Mae Gerddi
Victoria’n barc prydferth yn union yng
nghanol Castell-nedd. Mae’n un o’r parciau
rhestredig Gradd II prin yng Nghymru ac
mae cerflun efydd, meini llonydd a
bandstand Fictoraidd yno. Dyma’r lle
perffaith i ddianc am awr neu ddwy.
Eisiau gweld mwy o’r ardal ond ddim yn
teimlo fel cerdded? Beth am gael taith gwch
i lawr Camlesi Nedd a Thennant? Mae’r
gamlas wedi bod yma ers 1795; mae
hynny’n golygu ei bod hi’n un o’r hynaf yng
Nghymru. Mae tro ar y cwch camlas
pwrpasol, y ‘Thomas Dadford’, yn ffordd
wych o weld y golygfeydd prydferth o
gwmpas y dref. Ar gyfer yr oriau gweithredu,
ewch i www.neath-tennant-canals.org.uk
Ychydig y tu allan i ganol y dref ceir Parc
Gwledig Ystâd y Gnoll. Mae hen ystâd
Mackworth yn cynnwys pedwar pwll hwyaid,
dwy raeadr o’r 18fed ganrif, canolfan
ymwelwyr, caffi, man chwarae a lle chwarae
antur! Mae wedi’i bleidleisio’n ddiweddar
fel y ‘man picnic gorau yng Nghymru’.
Cofiwch ofyn i’r wardeiniaid lle gallwch
weld yr ‘ha-ha’ a’r ‘groto’ yng ngardd
Mackworth!
Amserwch eich ymweliad i gyd-fynd
ag un o’r ffeiriau a gwyliau niferus
rydym yn eu cynnal ar hyd y flwyddyn.
Mae gennym Ffair y Pasg ym mis Ebrill
ac wrth gwrs Ffair Fedi Castell-nedd
yn ogystal â Gwyl y Dref ym mis Mai a’r
Wyl Bwyd a Diod ym mis Tachwedd.
Ym mis Tachwedd, mae Castell-nedd
hefyd yn cynnal Gorymdaith Siôn Corn
a chynnau’r goleuadau.
Byddem wrth ein boddau i’ch gweld yno!
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un
o’r digwyddiadau neu’r gweithgareddau
yng Nghastell-nedd, ewch i
www.visitnpt.co.uk
Adeiladau hanesyddol amannau o ddiddordeb
GERDDI VICTORIA – Ar ôl gwaith ailwampio
mawr, cafodd y gerddi eu hailagor o’r diwedd ym mis
Gorffennaf 2011. Teimlo fel dianc am dipyn? Beth am
fynd am dro hamddenol yn yr hafan Fictoraidd hon?
NEUADD GWYN – Neuadd Gwyn yw canolfan
ddiwylliannol Castell-nedd. Ailagorodd ym mis Mawrth
2012 ar ôl cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £9 miliwn.
Eisiau gweld sioe? Ewch i www.nptartsandents.co.uk i
gael gwybod am ddigwyddiadau.
MARCHNAD CASTELL-NEDD – Mae’r
farchnad dan do Fictoraidd yn gartref i gasgliad o
stondinau arbenigol sy’n cynnig cynnyrch lleol a
hanfodion pob dydd. Mae’r farchnad ar agor o ddydd
Llun i ddydd Sadwrn (8.30am – 5pm).
CASTELL CASTELL-NEDD – Er bod y castell
Normanaidd hwn yn dyddio o 1114 a 1130, cafodd yr
adeiladau carreg sydd i’w gweld nawr eu hadeiladu’n
llawer diweddarach. Credir bod y porthdy i’r gogledd
wedi’i adeiladu rywbryd oddeutu 1320. Gwnaed gwaith
ailwampio allanol helaeth ar y castell yn ystod
y blynyddoedd diwethaf.
NEUADD Y DREF – Yn wreiddiol yn Siambr
y Cyngor, yn ystafell reithgor ac yn farchnad yd, mae
neuadd y dref ar hyn o bryd yn gartref i gyngor y dref.
Adeiladwyd yr adeilad rhestredig yn wreiddiol ym 1820
a gwnaed gwaith ailwampio helaeth arno yn ystod
y blynyddoedd diwethaf.
TLOTY LLETY NEDD – Adeiladwyd tloty Undeb
Castell-nedd tua milltir i’r dwyrain o’r dref. Daeth yr
adeilad, a agorodd ym 1838, i gael ei adnabod yn
ddiweddarach fel ‘Lletty Nedd’. Caeodd y tloty ym
1924 ac mae bellach yn filfeddygfa.
TY CWRDD CRYNWYR CASTELL-NEDD – Wedi’i adeiladu ym 1800, dyma un o’r ychydig dai
cwrdd sydd ar ôl ac yn dal i gael ei ddefnyddio’n
rheolaidd gan y Crynwyr.
SEFYDLIAD Y MECANYDDIONEr mwyn dod o hyd i’r adeilad hwn, chwiliwch am ygeiriau ‘Mechanics Institution Erected AD 1847’ o dan y bondo. Y pensaer oedd Alfred Russell Wallace, cyd-awdur ‘Origin of the species’. Yn wreiddiol yn lle dysgu i fecanyddion a gweithwyr, mae nawr yn gartref iGymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd.
GWESTY’R CASTELL – Yn wreiddiol yn un o
dafarndai’r goets fawr sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif,
Gwesty’r Castell yw man geni Undeb Rygbi Cymru.
ADFEILION MYNACHLOG NEDD Adeiladwyd y fynachlog yn wreiddiol ym 1129 a
daeth yn un o’r mynachlogydd mwyaf yng Nghymru.
Mae ymweld â’r adfeilion yn rhoi gwir ymdeimlad o’i
harwyddocâd crefyddol a diwydiannol.
GWAITH HAEARN MYNACHLOG NEDD Ar frig cynhyrchu, byddai’r gwaith haearn hwn o’r
19eg ganrif yn cynhyrchu 75 i 80 tunnell o haearn yr
wythnos! Nid yw’r safle hwn ar agor i’r cyhoedd, ond
gallwch edrych trwy gatiau iard yr adeiladwyr a gweld y
ffatri beiriannau a’r ffwrneisiau cerrig mawr.
CAER RUFEINIG – Wedi’i hadeiladu tua
70 O.C. ac yn wreiddiol wedi’i gwneud o dywyrch,
byddai’r gaer Rufeinig ym Mynachlog Nedd wedi’i
meddiannu gan filwyr medrus i amddiffyn y gaer yn
erbyn llwythi lleol. Yn anffodus, nid oes llawer ar ôl o’r
gaer sydd bellach yn gorwedd o dan stad o dai modern!
Dwy gât y gaer yw’r cyfan sydd ar ôl.
GWAITH TUN A RHAEADR
ABERDULAIS – Wyddech chi mai hon yw’r olwyn
ddwr fwyaf yn Ewrop sy’n cynhyrchu trydan? Mae’r
gwaith tun bellach yn gartref i ganolfan croeso’r ardal.
Mae ar agor bob dydd o fis Chwefror i fis Tachwedd a
rhwng dydd Gwener a dydd Sul yn ystod mis Rhagfyr
a mis Ionawr. Gallwch ffonio’r ganolfan ar 01639 636674
neu ewch i www.visitnpt.co.uk.
EGLWYS ST THOMAS – Wedi’i sefydlu ym
1298 fel garsiwn a chapel i’r Castell Normanaidd gerllaw
a’i chodi i’r lefel bresennol ym 1691. Mae rhai o’r ffenestri
gwydr lliw hyd at 300 mlwydd oed!
EGLWYS DEWI SANT – Mae meindwr
mawreddog Eglwys Dewi Sant i’w weld am filltiroedd.
Mae’r eglwys gothig hon sy’n cysgodi Gerddi Victoria’n
rhyfeddol o fawr.
PARC GWLEDIG YSTÂD Y GNOLL Yn agos at ganol y dref, mae Ystâd hardd y Gnoll yn
gartref i lwybrau coetir, gerddi hanesyddol, pedwar llyn,
cwrs golff, lle chwarae plant a chaffi/canolfan ymwelwyr.
Lle perffaith am brynhawn gyda’r teulu!
CANOLFAN HAMDDEN CASTELL-NEDDO fewn pellter cerdded hawdd o ganol y dref,
mae’r ganolfan hamdden yn cynnig amrywiaeth o
weithgareddau ar gyfer pob lefel o ffitrwydd.
MAES RYGBI’R GNOLL – Mae’r maes hwn
wedi bod yn dyst i sawl clasur dros y blynyddoedd.
Clwb Rygbi Castell-nedd yw’r hynaf yng Nghymru a
chwaraewyd y gêm gyntaf yma ym mis Chwefror 1872,
naw blynedd cyn sefydlu Undeb Rygbi Cymru yng
Ngwesty’r Castell gerllaw.
LLYFRGELL CASTELL-NEDD – Mae’r llyfrgell
hon sydd gerllaw Gerddi Victoria ger gorsaf fysus y dref,
yn gartref i adran gyfeirio, benthyca a cherddoriaeth yn
ogystal â llyfrgell plant gyfagos. Mae ganddi fynediad am
ddim i’r rhyngrwyd hefyd.
ELUSENDAI – Codwyd y rhain ym 1897 er cof
am Griffith Llewellyn o Faglan gan ei weddw i fenywod
sengl a gweddwon yr eglwys.
20
19
18
17
16
15
14
13
12
11
10
9
8
7
6
5
4
3
2
1
llwybrau coetir, gerddi hanesyddol
Am beth rydych
chi’n chwilio wrth
ymweld â thref?
Hanes a diwylliant?
Gweithgareddau i’r
teulu? Siopau da?
Mae gan Gastell-
nedd y cyfan.
y celfyddydau a digwyddiadau diwylliannol
diwrnodau mas tawel ar y gamlas
Canolfan Croeso Rhaeadr Aberdulais Mae’r ganolfan croeso yn Rhaeadr Aberdulais yno i helpu i wneud eich ymweliad yn un pleserus. Mae staff cyfeillgar ar gael i ddweud popeth wrthychy mae angen i chi ei wybod am leoedd i aros, lleoedd i ymweld â nhw a phethau na ddylech eu colli!
Mae’r ganolfan yn cadw taflenni ar gyfer atyniadau ar hyd a lled De-orllewin Cymru ac mae siop roddiondda yno. Peidiwch ag anghofio codi’ch copi o’r daflenDeg Taith Gerdded Orau a’ch Pecyn CerddedGwlad y Sgydau.
E-bost: [email protected] Ffôn: 01639 636674
Marchnad Castell-nedd
Neuadd Gwyn
Mynachlog Nedd
Parc Gwledig Ystâd y Gnoll
Canolfan Croeso Aberdulais
Camlas Nedd Castell-neddARWEINIAD POCED
www.visitnpt.co.uk
Elu
sen
da
i, S
tryd
Le
on
ard
RHODFA GLAN-YR-AFON
HEO
L WIN
DS
OR
CORNEL STOCKHAM
A 474
GER
DD
I V
ICT
OR
IA
HEOL
PARC
Y G
NO
LL
HEO
L PA
RC Y
GN
OLL
RHO
DFA
TYWYSO
G C
YMRU
HEO
L CR
OFT
Y PARED
Y ROPEWALK
HEOL GREENWAY
HEOL CRESWELL
GERDDI VICTORIA
STRYD ARTHUR
HEO
L LL
UN
DA
IN
HE
OL
Y R
HE
ITH
OR
DY
STRYD ALFRED
STRYD ALLISTER
HEO
L D
AV
IES
STRYD DEWI SANT
ST
RY
D Y
BER
LLA
N
STRYD Y FREN
HIN
ESSTRYD
Y BERLLAN
SUMMERFIELDPLH
EOL
GEFN
STRYDY
FRENH
INES
STRYD Y MAES
STRYD Y GWYNT
STRYD Y GWYNT
STRYD Y D
WR
FFORDD FAIRFIELD
STRYD
YR HEN
FARC
HN
AD
Y STRYD FAWR
STRYD Y CASTELL
STRYD YR ANGEL
Y STRYD N
EWYD
D
MAES
YR E
GLWYS
RHODFA’R GNOLL
HEOL DYFED
Y L
AW
NT
^
^
The Parade Neath 01639 [email protected]
Canol Tref Castell-nedd
Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl
Rhif Trwydded Cyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot
100023392N
2
1
y
≤
:h
:h
S
GerddiVictoria
Y Gnoll (maes rygbi aphêl-droed)
CanolfanYmwelwyr
Parc GwledigYstâd
y Gnoll
Clwb Criced
Castell-nedd
EglwysDewi Sant
Eglwys St Thomas
Ardal iGerddwyr
CanolfanDdinesigCastell-nedd
NeuaddGwyn
Afon Nedd
Camlas Nedd
CanolfanHamdden
Castell-nedd
Maes yrAngel
TAXI
TACSI
TACSIBanc Lloyds
TSB
BancBarclays
Banc Nat.West.
MarchnadCastell-nedd
Gwesty’rCastell
i Adfeilion MynachlogNedd, Gwaith HaearnMynachlog Nedd a’r Gaer Rufeinig
i GanolfanCroeso
Aberdulais
�
�
�
ColegCastell-neddPort Talbot
A465 iAbertawe a c.h 43 yr M4
A474 i Abertawe a c.h 43 yr M4
A474 ig. 41yr M4
Llinellreilffordd
Maes parcioHeol Milland
Maesparcio’rorsaf
A465 i Aberhonddu
Mynedfa iBarc Gwlediga ChanolfanYmwelwyr
Ystâd y Gnoll
GorsafDrenauCastell-nedd
GorsafFysus
LlyfrgellCastell-nedd
P
P
P
PP
P
P
3
�
� �
5
13
14
8
9
25
15
19
10 11 12
16
17
18
6
20
Exceedingly good Sunday CarveryDine by Music Theme Nights
An exquisite choice of the finest locally sourcedMeat and Fish cooked to your liking on the grill
Mon-Sat 12-3pm - 2 course Lunch £8.95Mon-Sun 6pm-11pm • Private Function Room
A la Carte • Parties/Groups Catered For
Historic Welsh
Coaching Inn
Birthplace of the
Welsh Rugby Union
Official Sponsor & Hair SalonTo Miss Wales
Your One Stop Shop For All Your Hair,
Nail & Beauty Treatments All Available Under
One Roof. Why Go Anywhere Else!
Vision Hair Design has been offering a quality
service for over seven years and keeps going
from strength to strength. Being one of the
best and most highly regarded salons in Neath
and the surrounding areas, a warm and friendly
atmosphere awaits you.
MAKE A STATEMENT COME TO VISION!
01639 641911www.visionhairdesign.com
Sganiwch y côd QR hwn gyda’chapp ffôn clyfar i gael mwy owybodaeth am Gastell-nedd.
TrendyTotsStalls 53-55 Market Hall
Stockists of Little Darlings, Abella,
Coco, Sarah Louise Tutto Piccolo,
Oneill and Hatley.
B4287 i Barc Coedwig Afan
Allwedd i’r symbolau
Ardal i Gerddwyr
ParcioMae parcio am ddim ymmeysydd parcio talu acarddangos y cyngor bob
dydd Sul.
Gwybodaeth iDwristiaid
Toiledau cyhoeddus
Toiledau i’r anabl
Canolfan Iechyd
9 9 23
24
21
21
22
22
2
26
Neuadd Tref Castell-neddLleoliad busnes a
phleser mewn ardal ganolog.
Ffoniwch nawr am becynnau cystadleuol.
Neuadd Tref Castell-nedd
10-12 Stryd y Berllan,
Castell-nedd SA11 1DU
01639 642126
www.neathtowncouncil.gov.uk
5
25
2423
26
:
y
+
Dewch i’n gweld yngNghanolfan Ddydd Castell-nedd
Prydau blasus a rhad
Llun – Gwe 9.30am - 2pm
Canolfan Gymunedol Castell-nedd
• Cadwch le nawr ar gyfer cynadleddau, gweithdai, cyfarfodydd
ac achlysuron
• Popeth dan yr unto
• Cyfleusterau i bobl anabl
Cewch fwy o wybodaeth gan
ein staff cyfeillgar yng
Neuadd Tref Castell-nedd
10-12 Stryd y Berllan, Castell-nedd SA11 1DU
01639 642126
www.neathtowncouncil.gov.uk
27
24
27Marchnad Castell-nedd
Mae’r Farchnad Fictoraidd yng nghanol
y dref yn un o’r ychydig enghreifftiau
o’i bath sydd ar ôl yng Nghymru. Ceir mwy
na 50 stondin sy’n amrywio o ffagots a
phys traddodiadol i flodau, cigyddion,
llyfrau, dillad a chrefftau Cymreig.
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9am - 5pm
Hygyrchedd Mae gwybodaeth fanylach ambethau i’w gweld a’u gwneud yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gael yn www.visitnpt.co.uk.Os oes angen y daflen hon arnoch yn Saesnegneu mewn fformat arall, ffoniwch GemmaNesbitt, Rheolwr Canol Tref Castell-nedd, ar 01639 686413.
Ymwadiad Mae’r wybodaeth yn yr arweiniad
hwn wedi’i chyhoeddi’n ddidwyll ar sail
manylion a roddwyd i Gyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT).
Ni all CBSCNPT sicrhau cywirdeb yr arweiniad
ac ni all dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wall
ynddo. Gwiriwch a chadarnhewch wybodaeth
cyn cadw lle neu deithio.
4 CastellCastell-nedd
7
P
h
+
�