cyngor ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol · 2018. 7. 3. · dydd iau 21 chwefror yn ysgol...

22
c:\users\margaret\appdata\local\temp\temp2_sacre annual reports.zip\sacre annual reports\torfaen\torfaen sacre report 2012 13 welsh.doc 1 Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Adroddiad Blynyddol Torfaen 2012 - 2013

Upload: others

Post on 29-Jan-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • c:\users\margaret\appdata\local\temp\temp2_sacre annual reports.zip\sacre annual reports\torfaen\torfaen sacre report 2012 13 welsh.doc

    1

    Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

    Adroddiad Blynyddol Torfaen

    2012 - 2013

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 2

    CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL ADRODDIAD BLYNYDDOL TORFAEN

    2012 - 2013 CYNNWYS Tudalen ADRAN 1 : GWYBODAETH AM CYSAG 3-4 1.1 Dyletswydd i sefydlu CYSAG 1.2 Cyfansoddiad CYSAG 1.3 Aelodau CYSAG 1.4 Swyddogaethau CYSAG 1.5 Cyfarfodydd 1.6 Cynllun Datblygu 1.7 Dosbarthu’r Adroddiad CRYNODEB GWEITHREDOL 5-6 ADRAN 2: CYNGOR AR ADDYSG GREFYDDOL 7-9 2.1 Y Maes Llafur Cytûn Lleol 2.2 Safonau mewn AG 2.3 Dulliau Addysgu, Deunyddiau Addysgu

    a Hyfforddi Athrawon ADRAN 3 : CYNGOR AR ADDOLI AR Y CYD 10 3.1 Adroddiadau Arolygu Ysgolion 3.2 Hunan Werthuso Ysgolion 3.3 Ceisiadau am Benderfyniadau 3.4 Ymweliadau ag Ysgolion ADRAN 4 : MATERION ERAILL 11-12 4.1 CCYSAGC 4.2 Addysg yr Holocost 4.3 Sicrhau Asesiad Athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3 4.4 Hyfforddi Aelodau CYSAG 4.5 Newyddion AG 4.6 Adolygiad Thematig gan Estyn ar AG ATODIADAU Atodiad 1 Aelodau CYSAG Atodiad 2 Eitemau ar Agenda CYSAG Atodiad 3 Cynllun Datblygu CYSAG 2012-2015 Atodiad 4 Canlyniadau Arholiadau 2012 Atodiad 5 Dosbarthu’r Adroddiad

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 3

    CYNGOR BWRDEISTREF SIROL TORFAEN

    CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL

    ADRODDIAD BLYNYDDOL 2012-2013 ADRAN 1: GWYBODAETH AM CYSAG 1.1 DYLETSWYDD I SEFYDLU CYSAG

    Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol (ALl) sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) yn eu hardal leol.

    1.2 CYFANSODDIAD CYSAG

    Mae angen y gynrychiolaeth a ganlyn ar CYSAG:-

    enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill a fydd, ym marn yr AALl, yn adlewyrchu’n prif draddodiadau crefyddol yr ardal mewn ffordd briodol

    cymdeithasau sy'n cynrychioli athrawon

    yr Awdurdod Addysg Lleol 1.3 AELODAU CYSAG

    Mae rhestr o aelodau CYSAG Torfaen yn ymddangos yn Atodiad 1. 1.4 SWYDDOGAETHAU CYSAG

    Cynghori’r AALl ynghylch addoli, a’r addysg grefyddol i’w gyflwyno’n unol â’r maes llafur cytûn gan gynnwys dulliau addysgu, cyngor ar ddeunyddiau a darparu hyfforddiant i athrawon.

    Ystyried p’un ai argymell i'r ALl bod angen adolygu ei faes llafur cytûn cyfredol, drwy gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytûn.

    Ystyried a ddylid amrywio’r gofyniad bod addoli crefyddol yn ysgolion y sir yn Gristnogol ei natur’ yn gyffredinol (penderfyniadau).

    Adrodd yn flynyddol ynghylch ei weithgareddau i'r ALl a'r Adran Addysg a Sgiliau (AdAS)

    1.5 CYFARFODYDD

    Cyfarfu CYSAG ar dri achlysur yn y flwyddyn academaidd 2012-13: Ddydd Llun 8 Hydref yn Ysgol Uwchradd Croesyceiliog Dydd Iau 21 Chwefror yn Ysgol Arbennig Crownbridge Dydd Mercher 5 Mehefin yn Ysgol Gynradd Greenmeadow

    1.6 CYNLLUN DATBLYGU

    Mabwysiadwyd cynllun datblygu gan CYSAG fel sail i’w weithgareddau am y cyfnod 2012-2015. Ceir hyd i’r cynllun datblygu ac amlinelliad o’i gynnydd yn Atodiad 3.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 4

    1.7 DOSBARTHU'R ADRODDIAD

    Mae rhestr o'r cyrff sydd yn derbyn yr adroddiad ar gael yn Atodiad 5.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 5

    CRYNODEB GWEITHREDOL Crynodeb byr o'r cyngor y rhoddwyd gan CYSAG i'r AALl:

    ADDYSG GREFYDDOL

    SAFONAU ADDYSG GREFYDDOL Mater

    Monitro a chodi safonau ysgolion mewn AG. Gweithred 1 Mae CYSAG yn ystyried a dadansoddi adroddiadau arolygu ysgolion. Os oes

    unrhyw faterion mewn perthynas ag AG, megis diffyg cyflawni gofynion statudol, mae'r ALl yn cymryd camau pellach. Doedd yna ddim materion mewn perthynas ag AG yn yr adroddiadau, felly nid oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

    2 Penderfynodd CYSAG ddefnyddio hunan arfarniad ysgolion fel modd o gyflawni'i gyfrifoldeb statudol i fonitro darpariaeth a safonau mewn AG. Roedd yr adolygiad a gwblhawyd ar adroddiadau hunan arfarniad ysgolion y flwyddyn academaidd hon yn cynnwys un ysgol yn unig ac argymhellodd CYSAG bod y ffurflenni hunan arfarnu yn cael eu cwblhau yn y flwyddyn academaidd nesaf 2013-2014 fel rhan o broses hunan arfarnu ysgolion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg

    3 Mae CYSAG yn dadansoddi canlyniadau dros gyfnod o dair blynedd a chanfod tueddiadau mewn perfformiad yn erbyn data Cymru Gyfan. Mae ysgolion yn cael gwybod canlyniadau'r dadansoddiad ac unrhyw faterion a amlygir gan CYSAG o ganlyniad y dadansoddiad.

    4 Mae CYSAG wedi trafod Adroddiad y Prif Gymedrolwr ar ddulliau cymedroli Asesiadau Athrawon yn CA3 gan CBAC/AdAS a lledaenwyd y prif negeseuon ymhlith athrawon yn ystod HMS ac ymweliadau ysgol.

    Y MAES LLAFUR CYTÛN AR GYFER AG Mater Cyflawni'r gofynion cyfreithiol i adolygu'r maes llafur cytûn ar gyfer AG a hynny bob pum mlynedd, gan fonitro ei weithrediad. Gweithred

    1 Yn 2008, cymeradwyodd y Gynhadledd Sefydlog faes llafur cytûn newydd, a’i

    fabwysiadu ar gyfer ysgolion yr Awdurdod. Cafodd ei weithredu o fis Medi 2008. Cynigiwyd rhaglen hyfforddiant mewn swydd i ysgolion gan Gonsortia De Ddwyrain Cymru i ddarparu cefnogaeth i athrawon o ran deall gofynion y maes llafur cytûn.

    2 Ym Mehefin 2013 fe wnaeth y Gynhadledd Sefydlog gymeradwyo ail-

    fabwysiadu'r Maes Llafur Cytûn ar gyfer Addysg Grefyddol gyda'r ddealltwriaeth y byddai'r maes llafur yn cael ei adolygu unwaith y daw gwybodaeth bellach i law mewn perthynas â'r adolygiad o'r cwricwlwm ac asesu.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 6

    DEUNYDDIAU DYSGU Mater Sicrhau bod ysgolion yn cael gwybod am adnoddau addas Gweithred 1 Cafodd pob ysgol wybodaeth am thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2013

    'Cymunedau Ynghyd: Adeiladu Pont" a bod adnoddau'r Holocost ar gael ar eu gwefan www.hmd.org.uk - mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau gwersi, clipiau ffilm, astudiaethau achos, deunydd addoli ar y cyd/gwasanaethau a thaflenni gwaith sydd yn addas o oed cynradd i fyfyrwyr ôl-16.

    HYFFORDDI ATHRAWON Mater Sicrhau bod athrawon yn medru derbyn DPP priodol. Gweithred

    1 Derbyniodd ysgolion hyfforddiant ar safonau CA3 a ariannwyd gan

    Gymdeithas Cynghorau Ymgynghorol ar Addysg Grefyddol Cymru, a hynny ar sail consortia.

    ADDOLI AR Y CYD

    Mater Sicrhau bod ysgolion yn cyflawni eu dyletswyddau statudol i addoli ar y cyd a chreu profiad werth chweil i ddisgyblion. Gweithred 1 Mae CYSAG yn monitro adrannau o’r adroddiadau arolygu sy’n ymwneud ag

    addoli ar y cyd a datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol, ac mae'r ALl yn dilyn ymlaen pan nad yw ysgolion yn cyflawni’r gofynion statudol, drwy ofyn am eu cynllun gweithredu. Ar lefel cynradd, mae addoli ar y cyd yn bodloni'r gofynion statudol. Ar lefel uwchradd, un ysgol yn unig a fethodd y gofyniad statudol i ddarparu cyfle i'w disgyblion addoli ar y cyd yn ddyddiol. Gofynnodd CYSAG am eu cynllun gweithredu ac yn ystod ei gyfarfod yn yr haf rhoddwyd adborth llawn ar y cynnydd a wnaed gan yr ysgol uwchradd. Fe wnaeth CYSAG nodi'r cynnydd da a wnaed gan yr ysgol.

    2 Mae CYSAG yn ymdrechu i gynnal cyfarfod yn yr ysgol, lle bo modd, er

    mwyn arsylwi ar weithred addoli ar y cyd. Fe wnaeth CYSAG gynnal y tri chyfarfod mewn ysgolion a chafwyd cyfle i arsylwi ar weithred addoli ar y cyd yn dwy o’r ysgolion dan sylw.

    3 Penderfynodd CYSAG ddefnyddio hunan arfarniad ysgolion fel modd o

    gyflawni'i gyfrifoldeb statudol i fonitro darpariaeth a safonau mewn AG. Eleni, roedd yr adolygiad a gynhaliwyd ar adroddiadau hunan arfarnu ysgolion yn cynnwys un ysgol uwchradd a pum ysgol gynradd. Mae'r canfyddiadau ar

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 7

    gyfer Addoli ar y Cyd yn gadarnhaol iawn a chroesawodd CYSAG agweddau o’r adroddiad a oedd yn amlygu arfer da, a’r meysydd a oedd angen eu datblygu.

    1 Mae CYSAG yn monitro adrannau o’r adroddiadau arolygu sy’n ymwneud ag

    addoli ar y cyd a datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol, ac mae'r ALl yn dilyn ymlaen pan nad yw ysgolion yn cyflawni’r gofynion statudol, drwy ofyn am eu cynllun gweithredu. Ar lefel cynradd mae addoli ar y cyd yn bodloni'r gofynion statudol. Ar lefel uwchradd cynhaliwyd arolwg mewn tair ysgol, a methodd dwy i fodloni'r gofyniad statudol i ddarparu cyfle i'w disgyblion addoli ar y cyd yn ddyddiol. Mae CYSAG wedi gofyn am eu cynlluniau gweithredu.

    2 Penderfynodd CYSAG ddefnyddio hunan arfarniad ysgolion fel modd o

    gyflawni'i gyfrifoldeb statudol i fonitro gofynion statudol, y cyfleoedd addoli ar y cyd sydd yn cael eu darparu, a'u hansawdd. Roedd yr adolygiad a gwblhawyd ar adroddiadau hunan arfarniad ysgolion y flwyddyn academaidd hon yn cynnwys un ysgol yn unig ac argymhellodd CYSAG bod y ffurflenni hunan arfarnu yn cael eu cwblhau yn y flwyddyn academaidd nesaf 2013-2014 fel rhan o broses hunan arfarnu ysgolion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg

    MATERION ERAILL: Nod: Sicrhau bod CYSAG mwy gwybodus trwy ddarparu diweddariadau rheolaidd ar faterion lleol a chenedlaethol. 1 Mae CYSAG wedi parhau i fod yn aelod o CCYSAGC a derbyn adborth

    tymhorol o gyfarfodydd y Gymdeithas. 2 Mae CYSAG wedi trafod adroddiad arolwg CCYSAGC: Mae CYSAG, eu

    cymunedau lleol a'u haelodau wedi ystyried yr argymhellion. 3 Mae aelodau'n derbyn cyflwyniadau ar nifer o faterion cenedlaethol: Eleni

    cawsant un cyflwyniad.

    Gwaith yr adran AG. mewn Ysgol Uwchradd - Ysgol Uwchradd Croesyceiliog

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 8

    ADRAN 2 CYNGOR AR ADDYSG GREFYDDOL 2.1 Y MAES LLAFUR CYTÛN LLEOL

    Yn 2008, cymeradwyodd y Gynhadledd Sefydlog faes llafur cytûn newydd a’i fabwysiadu ar gyfer ysgolion yr Awdurdod, i’w roi ar waith o fis Medi 2008. Mae'r maes llafur cytûn yn cysylltu'n agos â'r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer AG. Mae deunyddiau ategol cynhwysfawr yn cynnwys Cynlluniau Gwaith a ffeiliau electronig “Cynnydd mewn Dysgu eisoes wedi cael eu dosbarthu i ysgolion. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2012/13 cafodd CYSAG wybod am y cyhoeddiad gan y Gweinidog am adolygiad sydd ar y gweill ar gyfer asesu a'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Byddai'r adolygiad hwn yn cynnwys cyflwyno'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a chanfod diwygiadau i'r trefniadau asesu a chwricwlaidd presennol. Yn ystod Tymor yr Haf 2013 fe wnaeth y Gynhadledd Sefydlog gadarnhau ail-fabwysiadu'r maes llafur presennol ar y ddealltwriaeth y byddai'r maes llafur yn derbyn adolygiad unwaith y bydd adolygiad yr asesiad, y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r Cyfnod Sylfaen ar gael. (Medi 2014 ymlaen)

    2.2 SAFONAU MEWN AG

    Mae CYSAG wedi mabwysiadu nifer o strategaethau ar gyfer monitro safonau a gyflawnir mewn addysg grefyddol yn ysgolion yr Awdurdod, sydd yn cynnwys y canlynol.

    Adroddiadau Arolygu Ysgolion

    Mae'r awdurdod lleol a'i CYSAG yn archwilio adrannau perthnasol o adroddiadau arolygu ysgolion ac os ceir unrhyw faterion yn ymwneud ag AG, megis diffyg cyflawni gofynion statudol, mae'r ALl yn edrych i mewn i'r mater. Mae CYSAG wedi archwilio 2 adroddiad arolygu, un cynradd ac un uwchradd. Doedd yna ddim materion mewn perthynas ag AG yn yr adroddiadau, felly nid oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

    Adroddiadau Hunan arfarnu Ysgolion

    Penderfynodd CYSAG ddefnyddio hunan arfarniad ysgolion fel modd o gyflawni'i gyfrifoldeb statudol i fonitro darpariaeth a safonau mewn AG. Roedd yr adolygiad a gwblhawyd ar adroddiadau hunan arfarniad ysgolion y flwyddyn academaidd hon yn cynnwys un ysgol yn unig ac argymhellodd CYSAG bod y ffurflenni hunan arfarnu yn cael eu cwblhau yn y flwyddyn academaidd nesaf 2013-2014 fel rhan o broses hunan arfarnu ysgolion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg

    Cafodd CYSAG wybod am fwriad Estyn i gynnal adolygiad thematig ar addysg grefyddol yn ystod hydref 2012. Mae'r ALl a'i GYSAG yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r wybodaeth hon i osod meincnod i fesur safonau mewn AG.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 9

    Canlyniadau Arholiadau

    Dadansoddwyd ac ystyriwyd canlyniadau arholiadau TGAU, TAG Safon Uwch a Safon UG a gyflawnwyd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd yn yr Awdurdod, a’u cymharu â chanlyniadau dros gyfnod o dair blynedd.

    Nododd yr aelodau bod yna 578 o ymgeiswyr wedi cofrestru ar gyfer TGAU Astudiaethau Crefyddol; a bod niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol eleni.

    Mae'r canlyniadau eleni yn well na pherfformiad lefel A* - A ac A*- C ar gyfer 2011 ond yn is ffigurau Cymru Gyfan. Cyfanswm % y graddau A*- A ar y cyfan oedd 21%.Cyfanswm % y graddau A*- C ar y cyfan oedd 66% sydd eto yn well na 2011 ond yn is na ffigurau Cymru Gyfan sydd yn 77.3%. Mae graddau A* - G yn cymharu'n dda â'r perfformiad blaenorol, ar 97% a ffigwr Cymru Gyfan, sef 98%

    Nododd CYSAG bod yna gynnydd pendant yn y nifer a ddilynodd TGAU Cwrs Byr eleni gyda 593 o ymgeiswyr o gymharu â 326 llynedd. Mae hyn yn cyfateb i'r cynnydd yn y nifer sydd am ddilyn y Cwrs Llawn. Mae % cyffredinol y graddau A* - A sef 15% yn is na'r perfformiad blaenorol. Roedd % cyffredinol y graddau A*- C yn 52% sydd ychydig yn uwch na pherfformiad 2011. Roedd % cyffredinol y graddau A*- C yn 97% sydd yn uwch na pherfformiad 2011. Mae CYSAG yn falch iawn bod cynifer dal i gofrestru ar y cwrs byr am ei fod yn rhoi cyfle i ddisgyblion ennill achrediad i astudio yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae CYSAG yn ymwybodol nad yw disgyblion yn dewis dilyn y Cwrs Byr ond ei fod yn cael ei gyflwyno'n rhan o ofynion statudol AG.

    Ar lefel TAG Safon Uwch cafwyd 79 o ymgeiswyr eleni o 5 ysgol, ac mae hyn yn gyson â'r cynnydd a welwyd yn 2011. Fe wnaeth 21% o fyfyrwyr gyflawni'r graddau uwch, sef A* - A ac mae hyn yn gyson â'r perfformiad blaenorol. Y gyfradd llwyddo ar A* - C oedd 79.1% a gellir ei chymharu â ffigwr Cymru Gyfan, sef 81%. Mae'r gyfradd lwyddo ar gyfer graddau A-E sydd yn 97.4%yn gyson â chanlyniadau Lefel A dros y tair blynedd ddiwethaf a gellir ei chymharu â ffigurau Cymru Gyfan sef 99%. Roedd CYSAG yn fodlon iawn â'r perfformiad hwn.

    Ar lefel UG roedd yna 79 o ymgeiswyr o 3 ysgol. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr eleni. Fe wnaeth 35% o fyfyrwyr gyflawni'r radd A uchaf ac mae hyn yn uwch o lawer na’r perfformiad blaenorol. Roedd y gyfradd lwyddo ar gyfer graddau A-E yn rhagorol, sef 100% a dyma'r perfformiad gorau a welwyd dros y tair blynedd diwethaf.

    Dylid nodi nad oes modd dod i gasgliadau pendant gan fod y ffigurau’n cynrychioli sgorau crai, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu detholedd y cofrestriad ac mewn rhai achosion mae’r nifer yn rhy fach i fod o bwys ystadegol. Ceir tabl o ganlyniadau arholiadau yn Atodiad 4

    2.3 DULLIAU ADDYSGU, DEUNYDDIAU ADDYSGU A HYFFORDDI

    ATHRAWON

    HMS

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 10

    Dywedodd yr awdurdod lleol wrth CYSAG bod Consortiwm De Ddwyrain Cymru yn hysbysebu eu cyrsiau drwy DPP ar lein. Gyda phwyslais y Llywodraeth yng Nghymru ar hyn o bryd ar Lythrennedd a Rhifedd, ychydig iawn o hyfforddiant sydd ar gael mewn pynciau penodol. Fodd bynnag, yng Ngwanwyn 2013, gwahoddwyd cydweithwyr mewn ysgolion uwchradd i fynychu cwrs ar Safoni Mewnol yng Nghyfnod Allweddol 3 a datblygu portffolio mewn AG. Diben yr hyfforddiant oedd dilyn ymlaen o'r brif neges a rhoddwyd i ysgolion yn Adroddiad y Prif Safonwr yn Haf 2012 yn ogystal â chynorthwyo athrawon i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o'r safonau a gwella'u dulliau safoni mewnol. Ariannwyd y cwrs hwn gan CCYSAGC a hynny ar sail consortia.

    Deunyddiau Dysgu

    1Cafodd pob ysgol wybodaeth am thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2013

    'Cymunedau Ynghyd: Adeiladu Pont" a bod adnoddau'r Holocost ar gael ar eu gwefan www.hmd.org.uk - mae'r rhai'n yn cynnwys cynlluniau gwers, clipiau ffilm, astudiaethau achos, deunydd addoli ar y cyd/gwasanaethau a thaflenni gwaith sydd yn addas o oed cynradd i fyfyrwyr ôl-16.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 11

    ADRAN 3 CYNGOR AR ADDOLI AR Y CYD 3.1 ADRODDIADAU AROLYGU YSGOLION

    Mae'r awdurdod lleol a'i GYSAG yn archwilio adrannau perthnasol o adroddiadau arolygu ysgolion ac os ceir unrhyw faterion yn ymwneud ag addoli ar y cyd, megis diffyg cyflawni gofynion statudol, mae'r ALl yn edrych i mewn i'r mater. Mae CYSAG wedi archwilio 2 adroddiad arolygu, un cynradd ac un uwchradd. Fe wnaeth yr ysgol gynradd a adolygwyd, gyflawni'r gofynion statudol ond lwyddodd yr ysgol uwchradd i fodloni'r gofyniad statudol i ddarparu cyfle i'w disgyblion addoli ar y cyd yn ddyddiol. Mae CYSAG wedi gofyn am eu cynllun gweithredu. Yn ystod ei gyfarfod yn yr haf cafwyd adborth llawn ar y cynnydd a wnaed gan yr ysgol uwchradd a fethodd y gofyniad statudol i ddarparu cyfle i'w disgyblion addoli ar y cyd yn ddyddiol. Fe wnaeth CYSAG nodi'r cynnydd da a waned gan yr ysgol.

    Nodweddion da (Cynradd ac Uwchradd)

    Mae yna awyrgylch gynwysedig gadarn sydd yn rhoi ymdeimlad o werth i bob disgybl.

    Mae'r ddarpariaeth ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang wedi cael ei datblygu'n dda.

    Mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio'n dda i hybu datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol y disgyblion.

    Diffygion (Uwchradd)

    Nid yw 'myfyrdod yr wythnos' yr ysgol gyfan yn cynnig digon o amser i ddisgyblion archwilio a myfyrio ar eu credoau eu hunain a chredoau pobl eraill.

    Nid yw'r ysgol yn cyflawni'r gofynion statudol yn llawn ar gyfer addoli ar y cyd.

    3.2 Ysgolion – Hunan arfarnu

    Penderfynodd CYSAG ddefnyddio hunan arfarniad ysgolion fel modd o gyflawni'i gyfrifoldeb statudol i fonitro darpariaeth a safonau mewn AG. Roedd yr adolygiad a gwblhawyd ar adroddiadau hunan arfarniad ysgolion y flwyddyn academaidd hon yn cynnwys un ysgol yn unig ac argymhellodd CYSAG bod y ffurflenni hunan arfarnu yn cael eu cwblhau yn y flwyddyn academaidd nesaf 2013-2014 fel rhan o broses hunan arfarnu ysgolion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg

    3.3 CEISIADAU AM BENDERFYNIADAU

    Ni chafwyd unrhyw geisiadau gan ysgolion am benderfyniadau i ildio'r gofynion i addoli ar y cyd fod yn hollol neu'n bennaf o gymeriad Cristnogol.

    3.4 YMWELIADAU YSGOL Mae CYSAG yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd a ddarparwyd i aelodau arsylwi ar weithredoedd addoli ar y cyd mewn ysgolion. Yn ystod y flwyddyn cafodd aelodau'r cynnig i gynnal eu cyfarfodydd CYSAG a mynychu gweithredoedd addoli ar y cyd yn Ysgol Arbennig Crownbridge ac Ysgol Gynradd Greenmeadow.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 12

    ADRAN 4 MATERION ERAILL 4.1 CCYSAGC

    Mae CYSAG wedi parhau i gysylltu â CCYSAGC ac fe wnaeth cynrychiolwyr fynychu ei gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn academaidd 2012-2013. Cafodd CYSAG adborth llawn ar y materion a benderfynwyd yng nghyfarfodydd CCYSAGC. Mae CYSAG yn cydnabod gwerth CCYSAGC yn nhermau hybu addysg grefyddol ac addoli ar y cyd ar sail genedlaethol. Mae Ms Vicky Thomas, eu hymgynghorydd proffesiynol, yn cynrychioli CYSAG ar Fwrdd Gweithredol CCYSAGC. Derbynnir y newyddion diweddaraf yn rheolaidd gan Mrs Thomas a chynrychiolwyr eraill CYSAG

    4.2 ADDYSG YR HOLOCOST

    1Cafodd pob ysgol wybodaeth am thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2013 'Cymunedau Ynghyd: Adeiladu Pont a bod adnoddau Diwrnod Cofio’r Holocost i’w cael ar eu gwefan www.hmd.org.uk Penderfynodd CYSAG hysbysu ysgolion ynghylch yr adnoddau sydd ar gael a'u hannog i fynd ati i goffau DCH mewn rhyw ffordd. Fe wnaeth CYSAG gysylltu â'r Llu Prydeinig Brenhinol a darparwyd adnoddau a DVD i bob ysgol yn Nhorfaen. Cafodd ysgolion eu hatgoffa hefyd ynghylch yr adnoddau a brynwyd ar gyfer y digwyddiad ‘Taith Gobaith’. Maent ar gael o’r Ganolfan Adnoddau Llyfrgell. Trafododd CYSAG sut y mae'r awdurdod lleol a rhai ysgolion yn mynd i'r afael o ddifri â'r materion a amlygwyd gan DCH a chyfeiriwyd at rhai ysgolion cynradd ac uwchradd a oedd yn cynnal gweithgareddau a gweithredoedd addoli ar y cyd i goffau'r diwrnod.

    4.3 SICRHAU ASESIAD ATHRAWON YNG NGHYFNOD ALLWEDDOL 3

    Aeth aelodau ati i ystyried y negeseuon allweddol a oedd wedi eu cynnwys yn Adroddiad y Prif Gymedrolwr 2011 ar ymarfer cymedroli Asesiadau Athrawon CA3 CBAC/AdAS. Lledaenwyd canlyniadau'r ymarfer cymedroli ar gyfer 2011 a 2012 gydag aelodau yn ystod cyfarfod yr Hydref. Cafodd yr aelodau hefyd wybod y diweddaraf am hyfforddiant CA3 i fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â safoni a ariannwyd gan CCYSAGC.

    4.4 HYFFORDDIANT AR GYFER AELODAU CYSAG

    Fel rhan o’i hyfforddiant ar gyfer ei aelodau, cynigiodd CYSAG y canlynol:

    Darparu gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf mewn AG drwy gyflwyniadau rheolaidd i aelodau CYSAG. Eleni cafodd CYSAG un cyflwyniad. (1) AG yn yr Ysgol Uwchradd gan Adran AG Ysgol Uwchradd Croesyceiliog

    Lle bo modd, byddai CYSAG yn cynnal cyfarfodydd mewn mannau addoli. Ni ddigwyddodd hyn eleni.

    Lle bo modd, byddai CYSAG yn cynnal cyfarfodydd mewn ysgolion yn Nhorfaen er mwyn i aelodau ymgyfarwyddo ag AG ac addoli ar y cyd mewn ysgolion. Eleni, cynhaliwyd y tri chyfarfod mewn ysgolion. Cafodd gwasanaethau addoli ar y cyd eu harsylwi yn Ysgol Arbennig Crownbridge ac Ysgol Gynradd Greenmeadow

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 13

    Mae CYSAG yn gwerthfawrogi’r cyflwyniadau a’r ymweliadau hyn yn fawr iawn, a hoffent estyn eu gwerthfawrogiad i bawb dan sylw. Estynnir diolch arbennig i Debbie Cummings, clerc CYSAG, am ei gwaith caled wrth fynd ati i wneud yr holl drefniadau eleni.

    4.5 NEWYDDION AG

    Fe wnaeth aelodau drafod datblygiadau mewn perthynas â Newyddion AG gyda'r rhifynnau nesaf yn cael eu cyhoeddi ar lein.

    4.6 ADOLYGIAD THEMATIG GAN ESTYN AR AG YN YR YSGOL UWCHRADD

    Cafodd CYSAG wybod am yr Adolygiad Thematig gan Estyn yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 a bydd aelodau'n derbyn copi electronig o'r adroddiad ym mis Mehefin. Bydd yn cael ei gynnwys ar agenda'r cyfarfod yn nhymor yr hydref 2013 er mwyn ei drafod ymhellach.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 14

    ATODIAD 1 AELODAU CYSAG 2012-13 YR AWDURDOD ADDYSG Y Cynghorydd B Mawby Y Cynghorydd D Daniels Y Cynghorydd P Cameron Mrs V Thomas John Tushingham Mrs Debbie Cummings - Clerc CYSAG CYMDEITHASAU ATHRAWON NASUWT - Ms H Bevan, Ysgol Uwchradd Llantarnam NASUWT - Mrs R Frost, Ysgol Gorllewin Mynwy NUT - Mrs S Lewis, Ysgol Uwchradd Croesyceiliog NUT - Mr S Allen, Ysgol Uwchradd Gatholig St Alban UCAC - Gwag ASCL (SHA) – Gwag NAHT - Mr M Durbin

    ENWADAU CRISTNOGOL A CHREFYDDOL ERAILL Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig Cynrychiolydd - Mrs M Oelmann Cynrychiolydd y Methodistiaid - Mrs M Frazer Cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru - Mr Ken Jacob Cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig - Mr S Allen Cynrychiolydd y Bedyddwyr - Emma Mohr Cynrychiolydd Byddin yr Iachawdwriaeth - Mrs J Horn Cynrychiolydd y gymuned Fwslimaidd - Dr N Ahmed Cynrychiolydd yr Eglwysi Rhyddion – Gwag

    AELODAU CYFETHOLEDIG Mr N Blackburn, cynrychiolydd addysg gynradd

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 15

    ATODIAD 2 Roedd prif eitemau'r agenda yn cynnwys: Ddydd Llun 8 Hydref yn Ysgol Uwchradd Croesyceiliog

    Cofnodion y cyfarfod diwethaf

    Cyflwyniad ar waith yr Adran AG gan Siân Lewis

    Amserlen y cyfarfodydd yn 2012-13

    Aelodau - Y Diweddaraf

    Adroddiad Blynyddol CYSAG 2011 –2012 (yn cynnwys adroddiad ar gynnydd)

    Cynllun Datblygu CYSAG 2012-2015

    Anghenion a chynlluniau HMS 2012-2013

    Cymedroli Adroddiadau Asesu a Chanlyniadau Athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3

    Monitro AG trwy ddefnyddio hunanwerthusiad ysgolion

    Adroddiad Arolwg CCYSAGC: Cysga’u a'u Cymunedau Lleol

    Diwrnod Cofio’r Holocost 2013

    Cyfarfodydd CCYSAGC

    Gohebiaeth Dydd Iau 21 Chwefror yn Ysgol Arbennig Crownbridge Arsylwi ar weithred addoli ar y cyd i’w ddilyn gan gyfarfod CYSAG

    Cofnodion y cyfarfod diwethaf

    Dadansoddi Canlyniadau Arholiadau Haf 2012

    Dadansoddi Adroddiadau Arolygu

    Perfformiad mewn Arholiadau - O Safbwynt Ysgol

    Hyfforddiant Cyfnod Allweddol 3

    Diwrnod Cofio’r Holocost 2013: Adborth

    Cyfarfodydd CCYSAGC

    Gohebiaeth Dydd Mercher 5 Mehefin yn Ysgol Gynradd Greenmeadow Arsylwi ar weithred addoli ar y cyd i’w ddilyn gan gyfarfod CYSAG

    Cofnodion y cyfarfod diwethaf

    Ethol Swyddogion

    Amserlen y cyfarfodydd yn 2012-13

    Trefniadau Consortia'r De Ddwyrain: Y Diweddaraf Ar Lafar

    Monitro gan CYSAG trwy ddefnyddio hunanwerthusiad ysgolion

    Adolygiad Thematig gan Estyn Hydref 2012: Diweddariad

    Cyfarfodydd CCYSAGC a Phleidleisio Gweithredol

    Gohebiaeth Cynhaliwyd Cynhadledd Sefydlog yn dilyn y cyfarfod hwn

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 16

    ATODIAD 3: CYNLLUN DATBLYGU CYSAG TORFAEN 2012 – 2015 (BLWYDDYN ACADEMAIDD)

    Nod 1: Monitro safonau Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol

    Cynllun gweithredu Amserlen Pobl sy'n cymryd

    rhan

    Amser a chostau

    Canlyniadau Cynnydd

    1.1 Monitro safonau drwy adolygu adroddiadau arolygiadau/adroddiadau thematig gan Estyn/ adroddiadau hunan arfarnu ysgolion yn rheolaidd; argymell yr AALl i weithredu lle bo angen.

    Eitem dymhorol/ blynyddol ar yr agenda

    CYSAG llawn Ymgynghorydd

    Amser agenda Amser ymgynghorwyr i ddadansoddi

    Cyngor i ALl ar dueddiadau ar draws y fwrdeistref sirol, lle'n briodol, ar ysgolion penodol; dilyn ymlaen trwy ymweld ag ysgolion ac adolygu cynlluniau gweithredu lle bo angen.

    2012 - 2013 Ystyriwyd 21.2.13. Ni chanfuwyd unrhyw broblemau'n ymwneud ag AG yn yr adroddiadau

    1.2 Derbyn gwybodaeth ar ganlyniadau: TGAU Addysg Grefyddol

    Astudiaethau Llawn a Chwrs Byr; Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch/UG

    Tymor y Gwanwyn

    CYSAG llawn Ymgynghorydd

    Amser agenda Amser ymgynghorwyr i ddadansoddi

    Cyngor i'r ALl ar dueddiadau; lle'n briodol, ar ysgolion penodol

    2012 - 2013 Ystyriwyd 21.2.13.

    1.3 Canfod anghenion HS, monitro a chynnig cyngor ar hyfforddiant.

    Tymor yr Hydref

    CYSAG llawn

    Amser agenda Trafod rhaglen hyfforddi consortia De ddwyrain Cymru

    2012 - 2013 Ystyriwyd 8.10.12.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 17

    CYNLLUN DATBLYGU CYSAG TORFAEN 2012 – 2015 (BLWYDDYN ACADEMAIDD)

    Nod 2: Adolygu'r maes llafur cytûn (fel y bo'n briodol) a chefnogi ei weithrediad.

    Cynllun gweithredu Amserlen Pobl sy'n

    cymryd rhan Amser a chostau Canlyniadau Cynnydd

    2.1 Adolygu’r maes llafur cytûn ar gyfer Addysg Grefyddol

    O Haf 2012 ymlaen (neu fel y bo'n briodol)

    CYSAG llawn Ymgynghorydd Gweithgor PYCAG

    Amser ymgynghorol i adolygu'r maes llafur cytûn. Sefydlu gweithgor (os yw'n berthnasol). Galw Cynhadledd Sefydlog i fabwysiadu'r maes llafur Costau cyhoeddi/cyfieithu (fel y bo'n briodol)

    Y Gynhadledd Sefydlog yn adolygu a mabwysiadu'r maes llafur cytûn. Rhaglen hyfforddi ar y maes llafur i ysgolion (a bod angen). Rhoi'r maes llafur cytûn ar waith yn ystod tymor yr Hydref ar ôl iddo gael ei fabwysiadu.

    2012 - 2013 Cynhaliwyd Cynhadledd Sefydlog ar 5.6.13 a chafod y maes llafur ei ail-fabwysiadu. Bydd yn cael ei adolygu unwaith y cyhoeddir canlyniadau'r adolygiad o'r cwricwlwm cenedlaethol.

    2.2 Deunyddiau i gefnogi gweithrediad y maes llafur cytûn ar gyfer AG

    Parhaus CYSAG llawn Ymgynghorydd

    Amser yr ymgynghorwyr

    Deunydd cynorthwyol ar gael i ysgolion, trwy wefan y Consortiwm.

    2012 - 2013 Amherthnasol

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 18

    CYNLLUN DATBLYGU CYSAG TORFAEN 2012 – 2015 (BLWYDDYN ACADEMAIDD)

    Nod 3: Monitro’r ddarpariaeth a darparu cefnogaeth ar gyfer addoli ar y cyd

    Cynllun gweithredu Amserlen Pobl sy'n cymryd

    rhan

    Amser a chostau

    Canlyniadau Cynnydd

    3.1 Monitro'r ddarpariaeth ar gyfer addoli ar y cyd drwy adolygu adroddiadau arolygiadau ac adroddiadau hunan arfarnu ysgolion yn rheolaidd; argymell yr AALl i weithredu lle bo angen.

    Eitem dymhorol/blynyddol ar yr agenda

    CYSAG llawn ac Ymgynghorydd

    Amser agenda Amser ymgynghorwyr i ddadansoddi

    Cyngor i ALl ar dueddiadau ar draws y fwrdeistref sirol, lle'n briodol, ar ysgolion penodol; dilyn ymlaen trwy ymweld ag ysgolion ac adolygu cynlluniau gweithredu lle bo angen.

    2012 - 2013 Ystyriwyd 21.2.13. Gofynnwyd am gynlluniau gweithredu gan un ysgol uwchradd a chafodd CYSAG ddiweddariad llawn ar y cynnydd yn ystod ei gyfarfod ar 5.6.13.

    3.2 Cefnogi gweithrediad addoli ar y cyd statudol

    Parhaus

    Gwasanaeth Cynghori

    Amser yr ymgynghorwyr

    Ysgolion yn cael gwybod am adnoddau a gwefannau ar gyfer addoli ar y cyd. Ysgolion yn cael gwybod am y deunydd cyfarwyddyd sydd ar gael ar gyfer addoli ar y cyd.

    2012 - 2013 Ysgolion yn cael gwybod am adnoddau i gefnogi DCH 2013 yn cynnwys adnoddau ar gyfer gweithredoedd addoli ar y cyd.

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 19

    CYNLLUN DATBLYGU CYSAG TORFAEN 2012 – 2015 (BLWYDDYN ACADEMAIDD)

    Nod 4: Sicrhau bod CYSAG yn fwy gwybodus trwy ddarparu diweddariadau rheolaidd ar faterion lleol a chenedlaethol sy'n gysylltiedig ag AG ac addoli ar y cyd mewn ysgolion.

    Cynllun gweithredu Amserlen Pobl sy'n cymryd

    rhan

    Amser a chostau

    Canlyniadau Cynnydd

    4.1 Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar rôl CYSAG a'i oblygiadau; datblygiadau diweddar mewn AG ac addoli ar y cyd; deunydd cyfarwyddyd gan gyrff perthnasol; mewnbwn gan athrawon wrth eu gwaith a darparwyr allanol

    Blynyddol yn ôl y gofyn

    Aelodau CYSAG, Ymgynghorydd, athrawon wrth eu gwaith, darparwyr allanol

    Amser aelodau; ymgynghorwyr a swyddogion

    Aelodau CYSAG yn hollol ymwybodol o'u cyfrifoldebau. CYSAG ac ysgolion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a mentrau diweddar, yn lleol a chenedlaethol.

    2012 - 2013 Ar 8.10.12 fe wnaeth CYSAG dderbyn cyflwyniad ar waith adran AG Ysgol Croesyceiliog. .

    4.2 Rhaglen ymweliadau ag Ysgolion

    Blynyddol yn ôl y gofyn Aelodau CYSAG,

    Ymgynghorydd/Swyddogion Amser aelodau;

    Amser ymgynghorwyr/swyddogion i drefnu ymweliadau

    CYSAG yn fwy gwybodus ynghylch y ddarpariaeth ac arferion AG ac addoli ar y cyd mewn ysgolion.

    2012 - 2013Mae CYSAG wedi ymweld â thair ysgol eleni. Fe wnaethant fynychu dwy weithred addoli ar y cyd a chawsant un cyflwyniad

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 20

    ATODIAD 4: DADANSODDI CANLYNIADAU ARHOLIADAU HAF 2012 TGAU ASTUDIAETHAU CREFYDDOL 2012 (CWRS LLAWN) Blwyddyn 11

    Torfaen 2012

    Torfaen 2011

    Torfaen 2010

    Cymru 2012

    A*-A

    21% 19.8% 31.9% N/A

    A*-C

    66% 55.9% 77.3% 74%

    A*- G

    97% 98.3% 99.4% 98%

    Nifer yr Ymgeiswyr

    578 7 ysgol

    349 316 10,221

    TGAU ASTUDIAETHAU CREFYDDOL (CWRS BYR) Blwyddyn 11

    Torfaen 2012

    Torfaen 2011

    Torfaen 2010

    Cymru 2012

    A*-A

    15%

    23.3%

    17.1%

    N/A

    A*-C

    52%

    50.9%

    58.9%

    N/A

    A*- G

    97%

    89.9%

    97.7%

    N/A

    Nifer yr Ymgeiswyr

    593 5 ysgol

    326

    440

    N/A

    ASTUDIAETHAU CREFYDDOL (LEFEL A) Blwyddyn 13

    Torfaen

    2012 Torfaen 2011

    Torfaen 2010

    Cymru 2012

    A*-A

    21%

    20.4%

    22.0%

    N/A

    A* – C

    79.1 %

    N/A

    N/A

    81%

    A* – E

    97.4 % 98.7% 98.0% 99%

    Nifer yr Ymgeiswyr

    79 5 ysgol

    80 5 ysgol

    50 5 ysgol

    1,447

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 21

    LEFEL AS (Blwyddyn 13)

    Torfaen

    2012 Torfaen 2011

    Torfaen 2010

    Cymru 2012

    A* -A

    35%

    13.6%

    7.4%

    N/A

    A – C

    80%

    N/A

    N/A

    N/A

    A-E

    100%

    84.8%

    91.5%

    N/A

    Nifer yr Ymgeiswyr

    79 3 ysgol

    66 3 ysgol

    95 N/A

  • C:\Users\Margaret\AppData\Local\Temp\Temp2_SACRE Annual Reports.zip\SACRE Annual Reports\Torfaen\Torfaen SACRE REPORT 2012 13 WELSH.doc 20/02/14 10:354:02 22

    ATODIAD 5 DOSBARTHU'R ADRODDIAD I'r rheiny sydd â diddordeb, gellir lawr lwytho'r adroddiad hwn o wefan yr Awdurdod lleol a gwefan CCYSAGC.