cynnalyrefferendwm ary system bleidleisio argyfer …...(modiwl 4 - dilysu a chyfrif ) mae rhaid i...

40
Delio gyda phapurau pleidleisio amheus Cynnal y refferendwm ar y system bleidleisio ar gyfer etholiadau Seneddol y DU

Upload: others

Post on 31-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Delio gyda phapuraupleidleisio amheus

    Cynnal y refferendwm ar ysystem bleidleisio ar gyferetholiadau Seneddol y DU

  • Cyfieithiadau a fformatau eraill

    I ddod o hyd i wybodaeth sydd ar gael yn cyhoeddiad hwn mewn iaith arall neu mewnfersiwn print bras neu Braille, os gwelwch yn ddacysylltwch â'r Comisiwn Etholiadol.

    Ffôn: 020 7271 0500Ebost: [email protected]

    © The Electoral Commission 2011

  • Cynnwys

    1 Cyflwyniad 2

    2 Deddfwriaeth 4

    Penderfyniadau'r Swyddog Canlyniadau 4

    Rheolau'r refferendwm 4

    3 Egwyddor ddyfarnu 6

    Eisiau marc swyddogol 7

    Pleidleisio dros y ddau ateb 7

    Ysgrifennu neu farc y gellir adnabod y pleidleisiwr ganddo 7

    Papurau pleidleisiau heb farc 8

    Di-rym oherwydd ansicrwydd 9

    4 Crynodeb 10

    5 Enghreifftiau 11

    Cyfeiriadau 'r gyfraith achosion 11

    Pleidleisiau a ganiatáwyd 12

    Pleidleisiau a wrthodwyd 30

  • 1 Cyflwyniad

    2

    1.1 Cynllunir y llyfryn hwn i'ch cynorthwyo, fel Swyddog Canlyniadau,wrth ddyfarnu papurau pleidleisio amheus yn y refferendwm ar y systembleidleisio ar gyfer etholiadau Seneddol y DU ar 5 Mai 2011. Mae'ncynnwys egwyddorion ac enghreifftiau o bleidleisiau a ganiateir ac awrthodir y mae'r Prif Swyddog Canlyniadau'n cyfeirio eich bod yn eu dilynwrth ddyfarnu unrhyw bapurau pleidleisio amheus.

    1.2 Fel Swyddog Canlyniadau, gallwch ddirprwyo'r penderfyniadterfynol ar ddyfarnu i un neu fwy o ddirprwyon, ond mae rhaid gwneudhyn yn groyw mewn ysgrifen. Oherwydd eich bod yn gweithreduswyddogaeth statudol wrth ddyfarnu pleidleisiau amheus, mae rhaid i chi,neu eich dirprwy awdurdodedig, ac nid staff eraill a gyflogir gennych yn ycyfrif, weithredu'r swyddogaeth hon.

    1.3 Un o amcanion y llyfryn hwn yw eich helpu i sicrhau cysondeb oagwedd ledled yr holl DU.

    1.4 Datblygwyd y llyfryn hwn wrth ymgynhori â chynrychiolwyr o'rgymuned etholiadol ar y Grŵp Llywio Etholiadau a Refferenda.1 Mae'r PrifSwyddog Canlyniadau a'r Comisiwn Etholiadol yn ddiolchgar am eucymorth drwy gydol y broses hon.

    1.5 Wrth ymgymryd â'r dyfarnu o bapurau pleidleisio amheus mae'nbwysig i sicrhau y gwneir y broses yng ngolwg llawn unrhyw asiantiaidcyfrif a refferendwm sy'n bresennol, yn ogystal ag ym mhresenoldebunrhyw gynrychiolwyr o'r Comisiwn ac arsylwyr achrededig sy'nbresennol.

    1 Am wybodaeth bellach am y Grŵp Llywio, os gwelwch yn dda ymwelwch âwww.electoralcommission.org.uk/elections/elections-and-referendums-working-groups

  • 3

    1.6 Fel a osodir yng nghyfarwyddiadau'r Prif Swyddog Canlyniadau(Modiwl 4 - Dilysu a chyfrif) mae rhaid i chi ddyfarnu papurau pleidleisioamheus yn rheolaidd wrth i'r cyfrif fynd yn ei flaen: peidiwch ag aros tanddiwedd y cyfrif cyn cyflwyno dyfarniad ynghylch y papurau pleidleisioamheus.

    1.7 Unwaith yr ymdrinir ag unrhyw bapurau pleidleisio amheus, maerhaid cynnwys y rhai hynny a ganiateir yn y cyfrif. O dan y gyfraith maeangen ichi farcio'r papurau pleidleisio sydd wedi'u gwrthod â'r gair'gwrthodwyd' ac os yw asiant cyfrif dynodedig yn gwrthwynebugwrthodiad neilltuol, yna mae rhaid marcio'r papur pleidleisio 'gwrthodiadwedi'i wrthwynebu' .2 Wedyn mae rhaid gosod y papurau pleidleisio awrthodwyd yn y pecyn priodol.3

    1.8 Ar ben hynny, mae angen gyfreithiol arnoch i baratoi datganiad sy'ndangos y nifer o bapurau pleidleisio a wrthodwyd o dan pob un o'rpenawdau dilynol:

    4

    • eisiau marc swyddogol

    • wedi pleidleisio dros y ddau ateb

    • ysgrifennu neu farc y gellir adnabod y pleidleisiwr ganddo

    • heb ei farcio neu'n wag oherwydd ansicrwydd

    2 Rheol 42(3), Atodlen 2, Deddf System Bleidlesio Seneddol ac Etholaethau 2011 (Deddf PVSC 2011).

    3 Rheol 49(1), Atodlen 2, Deddf PVSC 2011.

    4 Rheol 42(4), Atodlen 2, Deddf PVSC 2011.

  • 2 Deddfwriaeth

    4

    Penderfyniadau'r Swyddog Canlyniadau2.1 Mae eich penderfyniad yn derfynol, yn amodol ar AdolygiadBarnwrol yn unig.5

    2.2 Sut bynnag, mae eich disgresiwn yn gyfyngedig i wrthod pleidleisiauar y seiliau a restrir yn rheolau'r refferendwm.

    Rheolau'r refferendwm2.3 Cynhwysir y rheolau perthnasol ar ddyfarnu papurau pleidleisioamheus yn Atodlen 2 o'r Ddeddf System Bleidleisio Seneddol acEtholaethau 2011 ac maent fel a ganlyn:

    Papurau pleidleisio a wrthodwyd

    42(1) Unrhyw bapur pleidleisio –

    (a) nad yw'n dangos y marc swyddogol, neu

    (b) sy'n dangos pleidlais am y ddau ateb i gwestiwn y refferendwm,neu

    (c) y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu ei nodi arno sy'n golygubod modd adnabod y pleidleisiwr (ar wahân i'r rhif sydd wedi eiargraffu ar y papur pleidleisio a marc adnabod unigryw arall ar ycefn), neu

    (ch)sydd heb farc neu nad yw'n dangos bwriad y pleidleisiwr âsicrwydd,

    yn ddi-rym ac i beidio cael ei gyfrif

    (2) Ond ni ddylid barnu fod papur pleidleisio y dangosir y bleidlais arno –

    (a) yn rhywle arall ar wahân i'r lle iawn, neu(b) mewn modd arall yn hytrach na gyda chroes, neu(c) gan ddefnyddio mwy nag un marc,

    5 Rheol 44, Atodlen 2, Deddf PVSC 2011.

  • 5

    yn ddi-rym am y rheswm hwnnw os yw ateb bwriedig y pleidleisiwr igwestiwn y refferendwm yn ymddangos yn glir, ac nad yw'r ffordd y nodiry papur yn adnabod y pleidleisiwr ynddi ei hunan ac ni ddangosir y gelliradnabod y pleidleisiwr ganddo.

    (3) Mae rhaid i'r Swyddog Canlyniadau arnodi'r gair 'gwrthodwyd' arunrhyw bapur pleidleisio nad yw i'w gyfrif o dan y rheol hon, ac mae rhaididdo ychwanegu i'r arnodiad y geiriau 'gwrthodiad a wrthwynebwyd' os ygwneir gwrthwynebiad gan asiant cyfrif i benderfyniad y swyddog.

    (4) Mae rhaid i'r Swyddog Canlyniadau gynllunio datganiad i ddangosy nifer o bapurau pleidleisio a wrthodwyd o dan pob un o'r penawdaudilynol –

    (a) dim marc swyddogol;(b) wedi pleidleisio dros y ddau ateb;(c) ysgrifennu neu farc y gellir adnabod y pleidleisiwr ganddo;(ch) heb ei farcio neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

    (5) Unwaith y cynllunir y datganiad mae rhaid i'r swyddogcanlyniadau –

    (a) yn achos ardal bleidleisio mewn rhanbarth y penodir SwyddogCanlyniadau Rhanbarthol drosti, roi gwybodaeth i'r SwyddogCanlyniadau Rhanbarthol ynghylch cynnwys y datganiad;

    (b) yn achos unrhyw ardal bleidleisio arall, roi gwybodaeth i'r PrifSwyddog Canlyniadau ynghylch cynnwys y datganiad.

    Penderfyniadau ar bapurau pleidleisio

    44 Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy'ncodi ynghylch papur pleidleisio yn derfynol (yn amodol ar ei adolygu ynunol â pharagraff 23 o Atodlen 1).

  • 3 Egwyddor ddyfarnu

    6

    3.1 Dylid gosod unrhyw bapurau pleidleisio amheus mewn basged i'rgoruchwylydd eu cymryd i'r Swyddog Canlyniadau i'w dyfarnu. Dylidgwirio blaenau papurau pleidleisio'n ofalus am unrhyw farciau, rhag ofnbod pleidleisiwr wedi gwneud unrhyw farciau y tu allan i'r blychaupleidleisio. Mae angen ystyriaeth bellach o'r papurau pleidleisio dilynol:

    • y rhai hynny heb nod swyddogol (nid y marc adnabod unigryw)

    • y rhai hynny y nodir pleidleisiau arnynt am y ddau ateb

    • y rhai hynny ble mae bwriad y pleidleisiwr yn ansicr

    • y rhai hynny sydd ag unrhyw ysgrifennu neu farc y gellir adnabod ypleidleisiwr ganddo

    • unrhyw bapur sydd wedi'i rwygo neu wedi'i niweidio mewn unrhywffordd

    • unrhyw bapur gydag unrhyw beth anarferol amdano (er enghraifft,unrhyw bapur yr ymddengys iddo gael ei newid, naill ai ganddefnyddio offer ysgrifennu cwbl wahanol neu trwy ddefnyddio hylifcywiro)

    3.2 Yn achos papurau pleidleisio y mae'n ymddangos eu bod wedi'inewid, dylech ystyried eu pacio ar wahân rhag ofn y bydd her neuarchwiliad yn ddiweddarach.

    3.3 Oni bai fod y papur pleidleisio â marc yn adnabod y pleidleisiwr, niddylid gwrthod papur pleidleisio os yw bwriad y pleidleisiwr yn eglur - hydyn oed os yw'r papur pleidleisio :6

    • heb ei farcio yn y lle iawn• wedi'i farcio â rhywbeth nad yw'n groes• wedi'i farcio gan fwy nag un marc

    6 Rheol 42(2), Atodlen 2, Deddf PVSC 2011.

  • 7

    eisiau marc swyddogol3.4 Mae rhaid i absenoldeb y marc swyddogol arwain at wrthodiadawtomatig. Nid oes disgresiwn gennych yn hyn o beth.

    3.5 Sut bynnag, ble defnyddiwyd offeryn stampio yn lle marcswyddogol wedi'i ragargraffu, ni ddylai dyllu na boglynnu rhannol o'rpapur pleidleisio achosi gwrthodiad ynddo ei hunan.7 Cyhyd ag ei fod yneglur y stampiwyd y papur pleidleisio gan staff yr orsaf bleidleisio, mae'rffaith nad yw'r piniau i gyd wedi stampio drwy'r papur pleidleisio neu nadyw'r mandylliad ar y papur yn ddibwys.

    pleidleisio dros y ddau ateb3.6 Bydd angen ichi wneud dyfarniad ynghylch a yw pleidleisiwr wedipleidleisio dros y ddau ateb ar y papur pleidleisio.

    3.7 Ni ddylai marciau ychwanegol arwain at wrthodiad os yw'n eglur nafwriadwyd y marciau hynny fel pleidlais.8

    3.8 Dylid gwrthod papur sydd wedi'i farcio 1 a 2 yn lle gyda chroes.9

    Ysgrifennu neu farc y gellir adnabod y pleidleisiwrganddo. 3.9 Mae dwy agwedd i hyn:

    • naill ai unrhyw ysgrifennu neu farc ar y papur pleidleisio sydd, ynddo eihunan, yn adnabod y pleidleisiwr, neu

    • gellir adnabod y pleidleisiwr gan y fath ysgrifennu neu farc

    7 Achos Cirencester, Lawson v. Chester-Master (1893) 4 O’M & H 194 ac achos De Newington, Lewis v.Shepperdson (1948) 2 I gyd ER 503.

    8 Woodward v Sarsons (1875) LR 10 CP 74 ac achos Cirencester (1893).

    9 Cornwell v Marshall (1977) 75 LGR 676 DC.

  • 8

    3.10 Mae'n bwysig i gofio bod y ddeddfwriaeth yn datgan y gall ypleidleisiwr, nid y gallai'r pleidleisiwr neu o bosibl y gallai'r pleidleisiwr,gael ei adnabod.

    Ysgrifennu neu farc sydd, ynddo ei hunan, yn adnabod ypleidleisiwr

    3.11 Dylid gwrthod papur pleidleisio os:

    • yw rhif etholiadol y pleidleisiwr a ysgrifennir ar y papur pleidleisio'nadnabod y pleidleisiwr yn ddigamsyniol

    • y gellir ystyried yn resymol ei fod yn dangos enw (neu lofnod) neugyfeiriad unigryw y pleidleisiwr ar ei flaen.

    Gellir adnabod y pleidleisiwr yn anuniongyrchol drwy unrhywysgrifennu neu unrhyw farc sydd ar y papur pleidleisio

    3.12 Nid oes angen ichi archwilio i'r mater na gofyn i dystiolaeth gael eidangos i adnabod yr ysgrifennu neu'r marc, ond dylech ystyried unrhywdystiolaeth a roddir ichi wrth ddyfarnu.

    3.13 Ble mae amheuon ynghylch hunaniaeth y person a farciodd ypapur pleidleisio, dylech ganiatáu yn hytrach na gwrthod y papurpleidleisio.

    Papurau pleidleisiau heb farc3.14 Dylid gwrthod papurau pleidleisio sydd heb farc, hyd yn oed os ywmarc ar gefn y papur pleidleisio yn dangos drwodd i'r blaen.

    3.15 Ni ddylid gwrthod papur pleidleisio a farcir gan unrhyw fodd nadyw'n bensil oherwydd hynny'n unig.

    3.16 Efallai fod marciau nad ydynt yn groes, pa bynnag mor wan ydynt,o hyd yn ddilys.

  • 9

    Di-rym oherwydd ansicrwydd3.17 Mae sefydlu bwriad y pleidleisiwr yn allweddol wrth benderfynu ambapurau pleidleisio amheus. Yr ymadrodd allweddol yn y rheolau yw: 'Niddylid ymdrin â phapur pleidleisio […] fel un sy'n ddi-rym […] os yw atebbwriadedig y pleidleisiwr i gwestiwn y refferendwm yn amlwg.'

    3.18 Dylid ystyried pob papur pleidleisio ar ei rinweddau ei hunan ganwneud penderfyniadau ar sylfaen achosion unigol.

    3.19 Y cwestiwn allweddol y dylech ei ofyn yw a yw'r pleidleisiwr, arwyneb y papur, wedi dangos bwriad sy'n resymol o eglur i bleidleisio 'ie'neu 'nage'.

  • 4.1 Gosodir yr egwyddorion i'w gweithredu uchod. Mewn termauymarferol, gellir crynhoi'r agwedd gyffreinol fel a ganlyn:

    • byddwch yn eglur ac yn gyson bob amser.

    • pwyllwch i ystyried cyn penderfynu bob tro.

    • Ceisiwch ganiatáu, nid gwrthod.

    • wrth ystyried y seiliau am wrthod oherwydd pleidleisio dros y ddauateb neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd:

    - geisio, ble bynnag mae'n bosibl, i ddod o hyd i fwriad y pleidleisiwrgan ei weithredu

    - geisio caniatáu ble mae bwriad y pleidleisiwr yn resymol o eglur, ynhytach na gwrthod y papur pleidleisio

    10

    4 Crynodeb

  • 5 Enghreifftiau

    11

    5.1 Mae'r Prif Swyddog Canlyniadau wedi darparu enghreifftiau o danbenawdau 'wedi'u caniatáu' ac 'wedi'u gwrthod' a seilir ar gyfraith achosflaenorol neu ar y rheolau penodol ar gyfer y refferendwm hwn. Rydychyn cael eich cyfeirio gan y Prif Swyddog Canlyniadau i ddyfarnu unrhywbapurau pleidleisio a farcir mewn ffordd debyg yn unol â'r pendefyniadaua osodir yn y llyfryn hwn.

    Cyfeiriadau 'r gyfraith achosion5.2 Defnyddiwyd cyfeiriadau cyfraith achos talfyredig drwy gydol yllyfryn hwn. Mae'r tabl dilynol yn rhestru'r cyfeiriadau cyfraith achos i gyd.

    Talfyriadau Cyfeiriadau llawn

    Achos Berwick-upon-Tweed achos Berwick-upon-Tweed [1880] 3 O’M & H 178Achos Buckrose achos Buckrose , Sykes v McArthur [1886] 5 O’M & H 110Achos Cirencester Lawson v Chester-Master [1893] 4 O’M & H 194 Cornwell v Marshall Cornwell v Marshall [1977] 75 LGR 676 DCEley v Durant Eley v Durant [1900] 4 SJ 430Levers v Morris Levers v Morris [1971] 3 All ER QBDRowe v Cox Rowe v Cox [2001] QBD, Achos M/294/01Ruffle v Rogers Ruffle v Rogers [1982] QB 1220Achos South Newington achos South Newington, Lewis v Shepperdson [1948] 2 All ER 503Achos West Bromwich achos West Bromwich , Hazel v Viscount Lewisham [1911] 6 O’M & H 256 Woodward v Sarsons Woodward v Sarsons [1875] LR 10 CP 733

  • 12

    Caniatáu am ie – achos Berwick-upon-Tweed case a Rheol 42(2)(a)

    Pleidleisiau a ganiatáwyd

    Mae'r dilynol yn enghreifftiau o bleidleisiau a ganiatáwyd

  • 13

    Caniatáu am ie – Rheol 42(2)(b)

  • 14

    Caniatáu am ie – Rheol 42(2)(c)

  • 15

    Caniatáu am nage – Rheol 42(2)(a)

  • 16

    Caniatáu am ie – Rheol 42(2)(a) a (b)

  • 17

    Caniatáu am nage – achos Cirencester, Eley v Durant aRheol 42(2)(c)

  • 18

    Caniatáu am nage – Woodward v Sarsons a Rheol 42(2)(c)

  • 19

    Caniatáu am nage – Woodward v Sarsons a Rheol 42(2)(c)

  • 20

    Caniatáu am nage – Woodward v Sarsons a Rheol 42(2)(c)

  • 21

    Caniatáu am nage – Levers v Morris a Rheol 42(2)(b). Gweler hefydSchofield’s Election Law, Cyfrol 5, Atodiad E, E20 (Shaw & Sons, 2008fel a ddiweddarwyd gan gyhoeddiad atodol rhif 1).

  • 22

    Caniatáu am nage – Ruffles v Rogers a Rheol 42(2)(a) a (b)

  • 23

    Caniatáu am ie – Ruffles v Rogers a Rheol 42(2)(a) a (b)

  • 24

    Caniatáu am nage – Rheol 42(2)(b)

  • 25

    Caniatáu am ie – Rheol 42(2)(b)

  • 26

    Caniatáu am nage – Rheol 42(2)(b) a (c)

  • 27

    Caniatáu am ie – Rheol 42(2)(b)

  • 28

    Caniatáu am ie – Levers v Morris a Rheol 42(2)(a)

  • 29

    Caniatáu am nage – Rheol 42(2)(c)

  • 30

    Gwrthod – pleidleisio dros y ddau ateb. Rheol 42(1)(b)

    Pleidleisiau a wrthodwyd

    Mae'r dilynol yn enghreifftiau o bleidleisiau a wrthodwyd.

  • 31

    Gwrthod – pleidleisio dros y ddau ateb. Rheol 42 (1)(b)

  • 32

    Gwrthod – pleidleisio dros y ddau ateb. Rheol 42 (1)(b)

  • 33

    Gwrhod – yn ddi-rym oherwydd ansicrwydd. Rheol 42(1)(ch)

  • 34

    Gwrthod – gellir adnabod y pleidleisiwr. Woodward v Sarsons a Rheol42(1)(c)

  • 35

    Gwrthod – pleidleisio dros y ddau ateb. Cornwell v Marshall a Rheol42(1)(ch)

  • 36

    Gwrthod – yn ddi-rym oherwydd ansicrwydd. Rowe v Cox a Rheol42(1)(ch)

  • 37

    Gwrthod – papur pleidleisio heb ei farcio. Rheol 42(1)(ch)

  • Y Comisiwn Etholiadol3 Bunhill RowLlundain EC1Y 8YZ

    Ffôn 020 7271 0500Ffacs 020 7271 0505info@electoralcommission.org.ukwww.electoralcommission.org.uk

    Rydyn ni'n gorff annibynnol a sefydlwyd ganSenedd y DU Ein hamcan yw uniondeb achyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd.Rydyn ni'n rheoleiddio cyllid pleidiau acetholiadau a gosod safonau am etholiadau adrefnir yn dda.

    Mae democratiaeth o bwys