cynnwys - ysgol y castell - cartref · web viewdeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r...

27
1 Ysgol Gynradd Gymraeg Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21 ain o Dachwedd 2015. Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân. 2014-2015

Upload: lamtuyen

Post on 26-Jul-2019

214 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

1

Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

Adroddiad Blynyddol Y Llywodraethwyr i’r Rhieni

2014-2015

I’w gyflwyno ar wefan yr ysgol 21ain o Dachwedd 2015.

Copi papur ar gael ar gais trwy swyddfa’r ysgol.

Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân.

Page 2: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Cynnwys

Tudalen

2. Cynnwys

3. Cyflwyniad gan Gadeirydd Y Llywodraethwyr

4. Gweithgareddau’r Disgyblion

13. Gwaith y Llywodraethwyr

14. Data Perfformiad Ysgol 2015

16. Cynlluniau Datblygu Ysgol

19. Datganiad Cyllidol

20. Tymhorau Ysgol a Gwyliau 2015/2016

21. Anghenion Dysgu Ychwanegol

22. Y Corff Llywodraethol

23. Manylion Cysylltu

2

Page 3: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Cyflwyniad gan Gadeirydd Y Llywodraethwyr

Annwyl Rieni a Gwarchodwyr,

Mae’n bleser gennyf i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014-2015. Fe welwch yn yr adroddiad taw blwyddyn brysur arall oedd eleni yn yr ysgol. Tyfwn o hyd, mewn niferoedd a statws.

Cafwyd llwyddiannau diri ym mhob blwyddyn ysgol yn academaidd ac yn allgyrsiol. Mae unrhyw ymwelydd i’r ysgol yn sôn am awyrgylch dda yn yr ysgol a’r hapusrwydd a gofal a roddir i’r disgyblion. Fel Llywodraethwyr, yr ydym yn aml yn ymweld â dosbarthiadau i arsylwi ar wersi. Mae’n brofiad heb ei ail i weld sut mae’r disgyblion yn dysgu a sut maent yn rhyngweithio gyda’r athrawon ac eraill.

Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, datblygwyd nifer o fentrau â’r nod o godi safonau. Gwaith caled y staff, y dysgwyr a’r uwch dîm rheoli sy’n gyfrifol am hyn. Hoffem ddiolch iddynt a chi fel rhieni am wneud y flwyddyn ddiwethaf yn un lwyddiannus iawn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, estynwyd croeso i blant Cymru i Eisteddfod yr Urdd, Caerffili. Cymerodd llawer o'r staff a'r rhieni ran mewn digwyddiadau codi arian, yn ogystal ag addurno’r ardal gyda baneri a fflagiau. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt ac i'n disgyblion a gymerodd ran yn yr Eisteddfod ei hun.

Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Gyfeillion yr Ysgol am eu cefnogaeth barhaus a'u gwaith caled. Yr wyf yn gwybod y byddent yn croesawu mwy o rieni i ymuno â nhw ac yn eu helpu i drefnu digwyddiadau.

Gobeithiaf y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad ac yn dathlu llwyddiannau’r ysgol gyda ni.

Colin Elsbury

(Cadeirydd)

Derbyniwyd dwy gŵyn swyddogol yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Deiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion.

3

Page 4: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Gweithgareddau’r Disgyblion

Yn Ysgol Y Castell, rydym yn falch iawn o’n darpariaeth gwricwlaidd, profiadau dysgu a chyfoethogrwydd y gweithgareddau allgyrsiol a gynigir. Mae’r holl brofiadau isod yn sicrhau darpariaeth eang a chytbwys ar gyfer ein plant. Mae’r profiadau oll yn cyfoethogi eu dysgu ac yn eu hysgogi i weithio hyd uchaf eu gallu; gyda mwynhad, dyfalbarhad ac at bwrpas.

Tymor yr Hydref

Cynhaliwyd cyfarfod Mathemateg gan dîm addysgu Blwyddyn 5 a 6 gyda rhieni i gyflwyno’r syniad o addysgu’r plant mewn setiau o allu tebyg. Esboniwyd rhesymeg y tu ôl i’r grwpiau mathemateg newydd a derbyniwyd y syniad. Darparwyd pamffled llawn syniadau, esiamplau o brofion a chopi o’r fframwaith rhifedd i’r rhieni.

Cynhaliwyd cyfarfod i rieni Blwyddyn 3 am gyflwyno Saesneg gan Mrs John. Daeth criw bach o rieni a chawsant hwyl yn ymuno yng ngweithgareddau Read, Write, Inc cyn mynd adref â chopi o synau Saesneg a sut i’w ynganu gan ddefnyddio rhigymau RWI.

Cyflwynodd Mrs Rees ein cynllun darllen ysgol / cartref i rieni’r plant Derbyn. Unwaith eto, daeth hanner yr rhieni a derbyniasant wybodaeth am strategaethau dysgu darllen cynnar a disgwyliadau’r ysgol am ddarllen wythnosol.

Ymweliadau ac Ymwelwyr

Blwyddyn 3 a 4

Castell Henllys - profi bywyd a gweithgareddau’r Celtiaid cyn dychwelyd i’r ysgol i ffurfio llwythau eu hunain, modelu eu crefftau, dysgu am eu duwiau ac ysgrifennu chwedlau eu hunain.

Blwyddyn 5 a 6

Amgueddfa Bae Abertawe 1940au - cyfnod yr Ail Ryfel Byd - eistedd yn y cysgodion Anderson, gwisgo mygydau nwy a dillad y cyfnod, trin a thrafod arteffactau ond nid oedd y brechdanau “spam” yn apelio at eu dant!

Derbyn Pitsa Hut - bwydydd da, bwydydd blasus, bwydydd iachus

CA2 Sioe Ysgolion Iach - pwysigrwydd o hylendid da wrth baratoi bwyd

Blwyddyn 1 a 2

Dan-yr-Ogof - taith i chwilio am Rala Rwdins a’i ffrindiau

Blwyddyn 5 a 6

Siôp fara Glanmor - profi effaith a phŵer burum wrth goginio ac yna daeth fferyllydd i’r ysgol gan sôn am ei waith beunyddiol a’r ffordd y mae’n creu moddion

4

Page 5: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Mae ein llysgenhadon Prosiect Ysbyty Glowyr yn gweithio’n galed yn dymhorol i leisiau barn pobl ifanc Caerffili wrth ddatblygu’r ganolfan gymunedol newydd. Aethant i’r safle gan ddysgu am hanes yr adeilad, sut i adeiladu waliau a rhannu eu syniadau gyda’r adeiladwyr. Enillodd Holly Pipe y gystadleuaeth cynllunio poster i hyrwyddo’r ymgyrch codi arian “Prynwch Fricsen” – cewch weld ei phoster buddugol ar y wal tu fas i’r ysbyty.

Prif ffocws yr hanner tymor cyntaf oedd Wythnos yr Ŵyl Gyhoeddi – Eisteddfod 2015. Mynychodd y staff nifer o weithgareddau gydag uchafbwyntiau’r wythnos yn dod wrth i’r plant berfformio mewn cyngerdd fawreddog gydag ysgolion y dref, mynychu diwrnod o weithgareddau chwaraeon ac wrth gwrs, dawns Mr Urdd gan ugeiniau o blant ar sgwâr y Twyn ar brynhawn Sadwrn. Yna, ymunodd cymuned yr ysgol â 4,000 o gefnogwyr i orymdeithio trwy’r dref tu ôl i Mr Urdd.

Cynhaliwyd clyweliadau yn yr ardal ar gyfer sioe gynradd yr Eisteddfod a dawnsfeydd y prif wobrau. Cymerodd lawer o’n plant hynaf y cyfleoedd i ymuno yn y gweithgareddau yma.

Cafodd ein dysgwyr MAT blwyddyn 5 a 6 gyfle i gydweithio â Bardd Plant Cymru, Aneurin Karadog. Cyfansoddwyd cerdd fer i groesawu’r Eisteddfod i Gaerffili.

Cystadlodd criw bach o’n disgyblion yn Eisteddfod Y Cymoedd yng nghystadleuthau llefaru, canu a chôr. Hefyd, dathlwyd doniau ysgrifennwr ifanc, Elen James, wrth iddi gipio’r wobr gyntaf am ei llythyr at Neil Armstrong.

Cynhaliwyd ein Gwasanaethau Cynhaeaf yn yr ysgol. Eleni casglwyd tuniau bwyd ar gyfer apêl “Bridging the Gap” a drefnir gan eglwys leol.

Rhedodd ein timoedd traws-gwlad fel y gwynt yn ystod cystadleuaeth sirol Caerffili. Daeth tîm y merched blwyddyn 3 a 4 a thîm blwyddyn 5 a 6 yn gyntaf, gyda Megan Morris yn ennill y safle gyntaf yng Nghaerffili.

Gwisgodd pawb fel arch-arwyr ar gyfer diwrnod Plant mewn Angen ar gais Y Cyngor Ysgol. Codwyd £500 tuag at yr elusen Clic Sargent.

Dathlwyd Wythnos Gwrth-Fwlain trwy lu o weithgareddau yn yr ysgol gan orffen gyda gwasanaeth ysgol gyfan arbennig i ledaenu ein neges “Rydym yn Dweud Na i Fwlian” a’n siarter Gwrth-Fwlian.

Aeth disgyblion Blwyddyn 6 i Wersyll Llangrannog am benwythnos o weithgareddau anturiaethau awyr agored gan ymgolli’n llwyr yn awyrgylch Gymreig y gwersyll. Diolch i’r staff am roi o’u hamser personol unwaith eto er lles y plant.

Daeth pymtheg o athrawon o wledydd tramor yn ôl i’r ysgol am eu hail-ymweliad Comeniws. Ffocws yr ymweliad hwn oedd datblygu sgiliau mesur ar draws y cwricwlwm. Rhannodd pob gwlad eu strategaethau

5

Page 6: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

llwyddiannus wrth ddysgu sgiliau mesur. Nodwyd bod ein plant yn derbyn llawer mwy o gyfleoedd i gymhwyso eu sgiliau trwy ddulliau ymarferol nag yr ysgolion eraill yn Ewrop, lle mae’r dysgu yn fwy ffurfiol.

Cyfarfu Cyfeillion yr Ysgol yn rheolaidd er mwyn cefnogi’r ysgol yn ei gweithgarwch a chodi arian ychwanegol i gyfoethogi profiadau’r dysgwyr. Trefnwyd disgo Calan Gaeaf llwyddiannus iawn a chynhaliwyd eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Trefnwyd Ffair Nadolig a phrynwyd gwerth £4,000 o lyfrau darllen newydd i’r plant. Hefyd, cynhaliwyd noson arbennig i godi arian at Eisteddfod 2015 – diolch i’n ffrindiau ffyddlon, llwyddodd yr ysgol i gyrraedd ei tharged o £2,000 mewn un noson!

Tymor y Gwanwyn

Mae datblygiad diweddar o’n cyfrif Trydar wedi ffynnu gyda chanran cynyddol o rieni a ffrindiau yn dilyn gweithgareddau’r ysgol yn ddyddiol. Tystia rhieni a Llywodraethwyr eu boddhad wrth ddod i werthfawrogi gweithgarwch dyddiol yr ysgol. Ffordd effeithiol tu hwnt yw hon o hyrwyddo profiadau dysgu’r ysgol. (CDY)

Ymweliadau ac Ymwelwyr

Meithrin a Derbyn Castell Caerffili – hanes yr ardal leol a gwrando ar chwedlau.

Blwyddyn 1 - 6 Sioe Diogelwch y Ffordd gan Y Brodyr Gregory.

Blwyddyn 5 Sesiwn Blas Golff gan Adran Hamdden Caerffili. Sefydlwyd clwb golff yn yr ysgol.

Blwyddyn 6 Crucial Crew - hyfforddiant am beryglon a sut i gadw’n ddiogel wrth ddechrau camau i mewn i’r byd mawr.

Blwyddyn 5 Gwersyll Llangrannog am wythnos o weithgareddau anturiaethau awyr agored gan ymgolli’n llwyr yn awyrgylch Gymreig y gwersyll.

Blwyddyn 4 Dr Iwan Morris – y corff a meddyginiaeth

Blwyddyn 6 Nyrs yr Ysgol – Hylendid Personol a’r Glasoed

Blwyddyn 5 Stori’r Pasg yng nghwmni aelodau Seintiau’r Gymuned yn Nghapel Elim.

Cystadlodd ein timoedd darllen (dysgwyr MAT) yng nghwis llyfrau blynyddol. Diolch i Mrs Evans a Mrs John am hyfforddi’r plant.

Cynhaliwyd gwersi nofio ar gyfer holl blant Blwyddyn 3 a 4. Cafodd y plant wersi awr yn ddyddiol am dair wythnos a gwelwyd datblygiad syfrdanol yn eu sgiliau gyda bron bob un nawr yn medru nofio o leiaf 25m – nod y Llywodraeth yng nghwricwlwm Addysg Gorfforol.

6

Page 7: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Aeth y tîm nofio i Gystadleuaeth Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd. Cafwyd cryn dipyn o fwynhad gyda’r dysgwyr oll yn curo eu hamserau gorau personol. Hefyd, cystadlodd y tîm Gymnasteg yn rownd genedlaethol Cystadleuaeth Gymnasteg yr Urdd. Diolch i Mr Trystan Griffiths a Miss Lowri Edwards (myfyrwraig PhD) am eu hyfforddi.

Cystadlodd y plant yn frwd mewn cystadleuthau pêl-rwyd, pêl-droed a rygbi’r Urdd.

Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi trwy gynnal Eisteddfodau. Cawsom wledd wrth ddathlu amryw o ddoniau’r dysgwyr. Eleni, cafodd Elen James (Blwyddyn 6) ei chadeirio yn brif lenor yn ystod seremoni arbennig o dan arweiniad Gorsedd Blwyddyn 5. Diolch yn fawr i Mrs A. Hill am feirniadu’r holl gystadleuthau llenyddol a Mrs E. Betts a Mrs H. Bie am feirniadu’r llefaru a chanu. Cofiwch i edrych ar y ffotograffau ar wefan yr ysgol neu drydar.

Cystadlodd ein plant yn frwd yn yr Eisteddfod Gylch ar ddechrau Mis Mawrth. Unwaith eto, enillom y cwpan am yr ysgol gyda’r nifer uchaf o farciau yn yr Eisteddfod Gylch. Enillodd Molly Williams (Blwyddyn 1) dlws am yr eitem gerddorol a roddodd y mwyaf o bleser i'r beirniaid.

Cawsom arddangosfa benigamp o waith celf a chrefft y plant. Dewisiwyd enillwyr o bob blwyddyn i fynd ymlaen at yr Eisteddfod Gelf yng Nghoed Duon lle derbyniwyd sawl gwobr gyntaf, ail a thrydydd.

Trefnwyd Diwrnod Porffor gan Gyngor yr Ysgol ar gyfer 26.03.15 i godi arian dros yr elusen Clic Sargent, er cof am Aimee. Bwriedir dathlu ei bywyd hi ar y diwrnod hwn gyda holl gymuned yr ysgol. Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni. Cewch fwy o wybodaeth gan Gyngor yr Ysgol.

Cynigiwyd hyfforddiant wythnosol i ddisgyblion ar y delyn, ffidl ac offerynnau chwythbren.

Cynhaliwyd nifer o weithgareddau allgyrsiol gan gynnwys Clwb yr Urdd, chwaraeon, côr, clwb darllen, gymnasteg, I-Pads, clwb lego a gemau bwrdd a gwnϊo. Bu’r cwmni Dream Team yn parhau i ddarparu gweithgareddau pêl-droed wythnosol.

Cynhaliwyd “Gwersi Cymraeg i Oedolion” yn wythnosol yn yr ysgol - cyfle i’n teuluoedd a ffrindiau ddysgu Cymraeg.

Cyfarfu Cyfeillion yr Ysgol yn fisol er mwyn cefnogi’r ysgol yn ei gweithgarwch a chodi arian ychwanegol i gyfoethogi profiadau’r dysgwyr. Trefnwyd Disgo Diwrnod Y Llyfr, Noson Fwyd a Chwis a gweithgareddau’r Pasg ganddynt y tymor hwn. Prynwyd gwisg ddawnsio disgo newydd.

7

Page 8: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Tymor yr Haf

Heb amheuaeth, prif ffocws tymor yr haf oedd croesawu plant Cymru i Eisteddfod Yr Urdd Caerffili a’r Cylch. Uchafbwynt tair mlynedd o waith caled oedd hwn pan gymerodd ein plant ran flaenllaw yn y sioeau, y cystadleuthau a phrif seremoniau ar faes yr Eisteddfod yn Llancaiach Fawr. Addurnwyd yr ysgol yn goch, gwyn a gwyrdd a dathlwyd gweithgarwch a doniau’r ardal leol mewn Eisteddfod benigamp!

Ymweliadau ac Ymwelwyr

Blwyddyn 3 a 4 Jambori’r Urdd

Blwyddyn 1 a 2 Plantasia yn Abertawe i astudio planhigion

Derbyn Traeth – i astudio creaduriaid a phlanhigion y môr

Meithrin Silent World – cwmni a ddaeth ag anifeiliaid y môr i mewn i’r ysgol

Blwyddyn 3 a 4 Coedwig y Fan – i astudio creaduriaid a’u cynefinoedd

Blwyddyn 6 Pontllanfraith – i gymryd rhan mewn gweithgareddau antur agored gyda Caerphilly Adventure Group

Cystadlodd holl blant yr ysgol yn frwd yn ystod mabolgampau ysgol. Cawsom ddau ddiwrnod i’r brenin yn dathlu doniau athletwyr; Cennydd oedd y llys buddugol eleni. Bu’r tîm athletaidd yn cystadlu yna ym mabolgampau’r dref a chlwstwr. Diolch i Gyfeillion yr Ysgol am brynu cit newydd iddynt.

Aeth staff yr ysgol ar ddau ymweliad â Ffrainc a Gwlad Belg fel rhan o’n prosiect Comeniws “Cadw Mathemateg yn Fyw”. Aethant i ymweld â’n ysgolion partner i ddatblygu syniadau am addysgeg mathemateg a datblygu eu sgiliau ieithyddol.

Fe ddaeth PC Thomas i’r ysgol i drafod nifer o faterion pwysig gyda holl blant yr ysgol gan gynnwys bwlian, peryglon cyffuriau ac alcohol, ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ymwybyddiaeth o ddieithryn, pobl sy’n ein helpu.

Gwnaeth y Cyngor Ysgol gais i’r Pennaeth am gyllid i dalu cwmni i beintio’r iard gyda gemau buarth a gemau mathemategol. Cytunwyd ar eu cais a threfnwyd y marciau i’r plant. Mae’n braf iawn i weld gwersi mathemategol, ymarferol yn digwydd ar fuarth yr ysgol ym mhob blwyddyn.

Cynhaliwyd cyfweliadau swyddogol gan blant, Llywodraethwr a Mrs Rossiter i benodi Arbenigwyr Digidol ymysg y plant yn yr ysgol. Rôl yr Arbenigwyr yw derbyn hyfforddiant am addysgeg arloesol gan arbenigwyr TGCh a

8

Page 9: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

throsglwyddo’r gwersi i’w cyfoedion yn ystod clwb I-Pads. Maent yn hynod o weithgar ac yn arwain y gad wrth ddatblygu’r defnydd o TGCh o fewn yr ysgol.

Gweithiodd ein Cyngor Eco yn ddiwyd gyda Miss Collier a chriw ffyddlon o rieni i ddatblygu gardd yr ysgol. Cawsant brofiad arbennig yn cydweithio â Sam o gwmni Egg Seeds i ailgylchu hen bren a chreu dodrefn a bocsys blodau i’r ardd. Hefyd, enillon nhw’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Gŵyl Flodau Caerffili am eu bocs blodau i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ardal. Diolch iddynt hwy, roedd ardal allanol yr ysgol yn ddeniadol iawn trwy’r flwyddyn.

Bu’r Cyngor Eco hefyd yn brysur yn hyrwyddo cynllun ail-gylchu Tassimo gydag un o’n rhieni a’r gymuned leol. Rydym wedi gwneud elw o dros £1,500 eleni trwy’r prosiect ailgylchu ar gyfer y plant.

Aeth ein timoedd darllen (Blwyddyn 3/4 a 5/6) i Brifysgol Aberystwyth fel cynrychiolwyr Gwent i gystadlu yng Nghwis Llyfrau Cenedlaethol. Perfformion nhw ddrama fer am eu hoff nofel o flaen cynulleidfa fawr ac yna trafodon a mynegon farn am nofel arall gyda’r beiriniaid swyddogol. Er nad oeddent yn fuddugol, roedd yn brofiad byth gofiadwy iddynt i gystadlu ar lefel genedlaethol. Eu hoff ran o’r diwrnod oedd bwyta hufen iâ blasus yn Aberaeron ar y ffordd adref. Diolch i Mrs Evans, Mrs

John a Mrs Rees am eu paratoi am y gystadleuaeth.

Ar ddiwedd y flwyddyn, buom yn ffarwelio â chriw hyfryd o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn ein Noson Wobrywo flynyddol. Braf oedd dathlu doniau a chyfraniadau pob unigolyn wrth iddynt symud ymlaen i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Hoffem ddiolch yn arbennig i’n criw bach ond ffyddlon o rieni a ffrindiau sy’n gweithio’n ddiwyd i hyrwyddo gwaith da’r ysgol a chodi arian iddi yn enw Cyfeillion yr Ysgol. Y tymor hwn, trefnwyd te’r prynhawn, noson ffilm a barbeciw ar gyfer ein teuluoedd. Eu prif nod yw dod â chymuned yr ysgol at ei gilydd er lles y plant. Os yr hoffech ymuno â ni, dewch i dafarn Y Ledi Werdd ar nos Fawrth cyntaf y mis am 7:45yh. Croeso cynnes i chi gyd.

9

Page 10: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Gwybodaeth Presenoldeb 2014/2015

Presenoldeb Absenoldeb gyda chaniatad

Absenoldeb heb ganiatad

Targed ysgol 2014-2015 95% 5% 0%

Tymor yr Hydref 2014 94.95% 4.51% 0.54%

Tymor y Gwanwyn 2015 95.34% 4.50% 0.16%

Tymor yr Haf 2015 94.3% 5.14% 0.65%

Blwyddyn Academaidd 2014-2015

95.9% 4.7% 0.5%

Yr ydym yn cyfathrebu’n rheolaidd â rhieni / gwarchodwyr i leihau’r nifer o absenoldeb heb ganiatad trwy negeseuon testun.

Mae mwyafrif o rieni a dysgwyr yn meddwl bod presenoldeb o 90% yn dda. Ydyn nhw’n gywir?

90% presenoldeb = ½ diwrnod ar goll yn wythnosol!

90% presenoldeb dros bum mlynedd yn yr ysgol = ½ blwyddyn ysgol ar goll!

Rydym yn ymbil ar rieni i beidio â chymryd y plant allan o’r ysgol.

Mae pob gwers yn cyfrif!

10

Presenoldeb ar ddiwedd y flwyddyn

Diwrnodau a gollwyd o’r ysgol

100% 0

99.5% 1

97.4% 5

95% 10

90% 19

87% 24

85% 28

80% 38

75% 47

Page 11: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

ADOLYGIAD GWAITH LLYWODRAETHWYR Y FLWYDDYN 2014/15

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i Lywodraethwyr Ysgol y Castell. Mae'r corff llywodraethol yn cyfarfod unwaith bob hanner tymor gyda chyfarfodydd is-bwyllgorau yn cwrdd yn rheolaidd. Ail-etholwyd y Cynghorydd Colin Elsbury i'w rôl fel Cadeirydd gan fod ei brofiad a'i wybodaeth yn amhrisiadwy i ni. Penodwyd pob Llywodraethwr arall i feysydd cyfrifoldeb sy’n adlewyrchu eu harbenigedd a'u diddordebau.

Mae gwaith i wella’r amgylchedd dysgu wedi parhau. Bu Mr Barnaby, gwirfoddolwyr a staff yn gweithio'n galed i addasu ardaloedd y tu allan i'r Cyfnod Sylfaen. Mae gwaith cynnal a chadw yn parhau yn yr ardd, yr ardaloedd allanol a thrwy ail-beintio’r ysgol. Mae'r corff llywodraethol yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnal yr amgylchedd dysgu er lles y disgyblion a'r staff.

Er bod twf unwaith eto yn niferoedd y disgyblion, roedd yr ysgol yn medru cynnal dosbarthiadau blwyddyn eleni. Mae llywodraethwyr yn gwerthfawrogi sensitifrwydd y mater hwn ac yn parhau i gefnogi'r Pennaeth wrth weithredu polisi cyfredol yr ysgol.

Mae’r Llywodraethwyr yn trafod adroddiad tymhorol ar gynnydd yr ysgol gyda Mrs Nuttall a’i staff. Hefyd, derbyna’r Llywodraethwyr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at dargedau Cynllun Datblygu Ysgol. Mae'r Pennaeth hefyd yn cyflwyno dadansoddiad manwl o gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion yn ei hadroddiad. Mae dadansoddiad data yn galluogi staff i ganfod disgyblion a all fod angen cefnogaeth ychwanegol, boed yn fyfyrwyr ADY neu MAT, i sicrhau darpariaeth briodol ar eu cyfer. Yn unol â gofynion statudol, mae'r rhan fwyaf o lywodraethwyr wedi derbyn hyfforddiant ar sut i ddadansoddi data a herio'r pennaeth ar ei chanfyddiadau. Yn gyffredinol, mae’r Llywodraethwyr yn fodlon ar gynnydd, ond mae meysydd i'w datblygu yn amlygu eu hunain, fel gwella sgiliau ysgrifennu ar lefelau uwch. Caiff y rhain eu cynnwys yng Nghynllun Datblygu Ysgol 2015-2016.

Mynychodd llawer o lywodraethwyr hyfforddiant i'w galluogi i gyflawni eu rôl yn fwy effeithiol. Maent hefyd yn cael nifer o gyfleoedd i ymweld â'r ysgol ac arsylwi ar weithgareddau bob dydd. Mae llywodraethwyr hefyd yn cynorthwyo gyda thripiau ysgol a gweithgareddau eraill, fel darllen yn wythnosol ac Eisteddfod yr Ysgol. Mae'r cyfleoedd hyn yn llawn gwybodaeth ac yn bleserus. Noda’r Llywodraethwyr eu bod yn falch gyda'r hyn y maent yn arsylwi.

Mae'r pwyllgor cyllid yn dîm prysur sy’n sicrhau gwerth am arian yn holl weithgareddau'r ysgol. Maent yn sicrhau bod yr ysgol yn cadw o fewn ei chyllideb.

Yn olaf, hoffem ddiolch i Mrs Nuttall a'i staff am eu holl waith caled ag arweiniodd at flwyddyn brysur a llwyddiannus arall yn Ysgol Y Castell. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw unwaith eto yn y flwyddyn nesaf i weithredu targedau'r Cynllun Datblygu Ysgol a chodi safonau ymhellach.

Data Perfformiad Ysgol 201511

Page 12: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Y Cyfnod Sylfaen:

Disgwylir i blant ar ddiwedd YCS (7 oed) gyrraedd Deilliant 5. Mae ambell ddisgybl yn rhagori gan gyrraedd Deilliant 6 gydag eraill yn llwyddo i gyrraedd Deilliant 4.

Canran o ddisgyblion a gyflawnodd Deilliant 5 ac uwch ar ddiwedd Y Cyfnod Sylfaen 2015

Pwnc Targed ysgol

Ysgol Y Castell Teulu o ysgolion

AALl Cymru

Cymraeg 92% 93.1% 88.6% 93.8% 91.3%

Mathemateg 92% 91.4% 90.4% 91.9% 89.7%

Lles 100% 96.6% 97% 95.4% 94.8%

Dangosydd Pwnc Craidd (llwyddo yn y 3 phwnc craidd)

92% 87.9% 86.6% 89.2% 86.8%

Canran o ddisgyblion a gyflawnodd Deilliant 6 ar ddiwedd Y Cyfnod Sylfaen 2015

Pwnc Targed ysgol

Ysgol Y Castell Teulu o ysgolion

AALl Cymru

Cymraeg 25% 24.1% 30.7% 30.3% 36.9%

Mathemateg 31% 24.1% 32.7% 34.7% 34.3%

Lles 46% 43.1% 52.6% 54.4% 56%

Cyfnod Allweddol 2:

12

Page 13: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Disgwylir i blant ar ddiwedd CA2 (11 oed) gyrraedd lefel 4. Mae ambell ddisgybl yn rhagori gan gyrraedd lefel 5 gydag eraill yn llwyddo i gyrraedd lefel 3.

Canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 4 ac uwch ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 2015

Pwnc Targedau ysgol

Ysgol Y Castell

Teulu o ysgolion

AALl Cymru

Cymraeg 86% 90.7% 90% 90.7% 90.5%

Saesneg 88% 88.4% 90.5% 89.3% 89.6%

Mathemateg 90% 89.3% 93.8% 90.2% 90.7%

Gwyddoniaeth 100% 90.7% 93.3% 91.0% 91.4%

Dangosydd Pwnc Craidd

86% 88.4% 90% 87.4% 87.7%

Canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 5 ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 2015

Pwnc Targedau ysgol

Ysgol Y Castell

Teulu o ysgolion

AALl Cymru

Cymraeg 26% 34.9% 33% 35.6% 38%

Saesneg 29% 32.6% 37.8% 39.2% 40.8%

Mathemateg 38% 34.9% 35.9% 39.6% 41.2%

Gwyddoniaeth 48% 32.6% 37.5% 41% 41.1%

Adolygiad o Gynllun Datblygu Ysgol (2014-2015)

Targed 1: Codi safonau Mathemateg13

Page 14: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Y Cyfnod Sylfaen Fe lwyddodd yr ysgol i gyrraedd ei tharged heriol (92% o ddysgwyr) ar ddeilliant 5+ ar ddiwedd Blwyddyn 2. Er hyn, ni chyrhaeddodd y targed (31%) ar gyfer deilliant 6. Gyda chanlyniadau o 24%, roeddem 7% (3 phlentyn) o dan y targed yma.

Cyfnod Allweddol 2 Bu ffocws glir ar godi safonau grwpiau o ddysgwyr ar frig yr ysgol trwy ymyrraeth benodol, addysgu mewn setiau o allu tebyg a gwaith cartref gwahaniaethol. Gwelwyd cynnydd da iawn yng nghanlyniadau profion rhifedd cenedlaethol, gyda’r ysgol yn perfformio yn well na’r AL, y Sir a Chymru gyfan ym mlwyddyn 5 a 6 (ag eithrio >116 ym mlwyddyn 5).

Targed 2: Gwella’r amgylchedd dysgu ffisegol

Buddsoddodd yr ysgol yng nghysgodion pwrpasol i ddatblygu dysgu yn yr awyr agored yn Y Cyfnod Sylfaen. Datblygodd yr ardaloedd gan y staff â chymorth ambell riant fel bod dysgu’r plant yn cael ei ymestyn tu fas i’r dosbarth. Erbyn hyn, cynhelir gweithgareddau diddorol, dyddiol yn yr ardaloedd. Darparwyd hyfforddiant priodol i’r staff ar agweddau addysgu a dysgu effeithiol yn yr awyr agored. Hefyd, marciwyd buarth yr ysgol gyda gemau mathemategol er mwyn dod â sgiliau rhifedd yn fyw i’r plant. Yn ystod gwersi rheolaidd, mae’r staff a’r plant yn gwneud defnydd da o’r gemau i gymhwyso eu dealltwriaeth o gysyniadau rhif, cyfrifo a mesur.

Targed 3: Ymysgylltu’r rhieni yn addysg eu plant

Ymdrechodd yr ysgol yn galed i gryfhau cysylltiadau rhynddynt a’r rhieni er mwyn codi dyheadau am ddyfodol disglair i’r plant. Ar gais y rhieni, sefydlwyd cyfrif Trydar er mwyn hyrwyddo gweithgareddau dyddiol y plant a newyddion yr ysgol. Gwellodd ein darpariaeth gwaith cartref (yn enwedig mathemateg) fel bod y rhieni yn medru cymryd rhan weithredol yn addysg eu plant. Sefydlwyd clwb gwaith cartref i blant a’u rhieni ar brynhawn dydd Llun fel eu bod yn medru cydweithio â staff yr ysgol i fagu perthynas iach tuag at waith cartref.

Targed 4: Codi safonau rhifedd a llythrennedd ar draws y cwricwlwm trwy ddefnydd effeithiol o dechnoleg gwybodaeth diweddaraf. Prynwyd 40 I-Pad newydd a threfnwyd hyfforddiant i’r dysgwyr etholedig fel Arweinwyr Digidol i arwain dysgu holl randdeiliaid yr ysgol. Trefnwyd hyfforddiant briodol i’r staff a dyfarnodd fod safonau addysgu a dysgu’n dda neu’n well mewn 94% o wersi ag arsylwyd.

Camau Gweithredu Cynllun Datblygu Ysgol (2015-2016)

Targed 1 14

Blwyddyn 5 >85 >116

Ysgol 88% 4%

Caerffili 77% 13%

SE Wales 80% 13%

Cymru 83% 17%

Blwyddyn 6 >85 >116

Ysgol 100% 24%

Caerffili 79% 11%

SE Wales 79% 12%

Cymru 84% 16%

Page 15: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgiadol.

Targed 2

Codi cyrhaeddiad ysgrifennu yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn Y Gymraeg a'r Saesneg gyda ffocws ar ddysgwyr deilliant 6 a lefel 5.

Parhau i ddatblygu effeithlonrwydd timoedd arweinyddiaeth ganol yr ysgol a’r Llywodraethwyr (argymhelliad GCA)

Targed 3

Codi safonau rhesymu mathemateg yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2.

Parhau i ddatblygu effeithlonrwydd timoedd arweinyddiaeth ganol yr ysgol a’r Llywodraethwyr.

Targed 4

Gwreiddio ac ymestyn y defnydd o Asesu ar gyfer Dysgu a meta-ymwybyddiaeth er mwyn datblygu diwylliant dysgu rhagorol.

Targed 5

Targed Cyngor Ysgol. Gwella profiadau’r dysgwyr yn ystod amser cinio.

Parhau i ddatblygu effeithlonrwydd timoedd arweinyddiaeth ganol yr ysgol a’r Llywodraethwyr.

Glendid tai bach yr ysgol.

Cyflogir glanheuwyr trwy gytundeb gyda’r AL. Glanheuir y tai bach ddwywaith y dydd gan sicrhau cyflenwad digonol o bapur tŷ bach, sebon a dŵr poeth. Profir tymheredd y dŵr yn wythnosol gan y gofalwr. Cynhaliwyd arolygon glendid ar hap a datganwyd bod safonau glendid yn foddhaol.

Datganiad Cyllidol

Cyllid Ysgol – Gwariant ac Incwm (Ebrill 2014 – Mawrth 2015)

15

Page 16: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Ardal o Wariant Cyfanswm Balans Cyffredinol

Costau Staffio £ 1,329,995

Costau Adeilad £136,532

Cyflenwadau a Gwasanaethau £92,551

Cynllun Datblygu Ysgol £570

Cytundeau Lefel Gwasanaeth AALl

£21,850

Cyfanswm o Wariant £1,581,497

Incwm £461,677

Gwariant Net £1,119,820

Cyfanswm Ariannu Ysgol (Ebrill 2014 – Mawrth 2015)

Cyfanswm Balans Cyffredinol

Dyraniad Fformiwla Cyfanswm

£1,163,022

Balans a gariwyd drosodd o’r flwyddyn flaenorol

£7,084

Cyfanswn y Gyllideb £1,170,106

16

Page 17: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Tymhorau Ysgol a Gwyliau 2015/2016

O I Hanner Tymor

Tymor yr Hydref 2015 01.09.15 18.12.15 26.10.15-30.10.15

Tymor y Gwanwyn 2016 04.01.16 24.03.6 15.02.16-19.02.16

Tymor yr Haf 2016 11.04.16 20.07.16 30.05.16-03.06.16

Yn ogystal â hyn, bydd yr ysgol yn cau am bum niwrnod arall ar gyfer hyfforddiant mewn swydd i’r staff. Cewch wybod am y rhain cyn gynted â phosib trwy neges destun ac ar wefan yr ysgol. Mae’r calendr hwn yn cwrdd â’r gofynion statudol o 195 o ddiwrnodau, gan gynnwys 190 gyda’r disgyblion yn bresennol a phum niwrnod ar gyfer hyfforddiant mewn swydd.

Amseroedd Ysgol

Yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, mae’n ofynnol i blant Y Cyfnod Sylfaen weithio am o leiaf 21.5 awr yr wythnos (ac eithrio amseroedd chwarae, gwasanaethau a chofrestri). Dylai disgyblion Cyfnod Allweddol 2 weithio am o leiaf 23.5 awr yr wythnos.

Y Cyfnod Sylfaen Cyfnod Allweddol 2

Dechrau ysgol 9.00 – 10.30 y.b. 9.00 – 10.45 y.b.

Toriad boreol 10.30 – 10.45 y.b. 10.50 – 11.05 y.b.

Cinio 12.00 – 1.15 y.p. 12.15 – 1.15 y.p.

Toriad prynhawn 2.35 – 2.45 y.p. 2.20 – 2.30 y.p.

Diwedd y dydd 3.30 y.p. 3.30 y.p.

D.S. Mae disgyblion oed meithrin anstatudol yn mynychu’r ysgol rhan amser:

Bore : 9:00 – 11:45

Prynhawn : 12:45 – 3:30

Mynediad i Ddisgyblion Anabledd17

Page 18: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Mae croeso cynnes yn Ysgol y Castell i ddisgyblion gydag anghenion a galluoedd arbennig. Er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad cyfartal i’r cwricwlwm, bydd y CLAAA, athrawon dosbarth, Pennaeth ac asiantaethau allanol yn cydweithio i ddarparu anghenion unigol y dysgwyr. Mae Polisïau Cyfle Cyfartal ac Anghenion Addysgol Ychwanegol yn esbonio hyn yn fanwl.

Mae gan yr adeilad ei hun gyfyngiadau wrth ystyried mynediad i’r anabl. Mae ramp i’r brif adeilad, neuadd a dosbarthiadau allanol. Er bod gan yr ysgol ddau dŷ bach sy’n addas i’r anabl, mae mynediad i ambell ardal fewnol yn anodd tu hwnt.

Lle bo’n bosibl, gwneir trefniadau i gwrdd ag anghenion disgyblion ac ymwelwyr anabl.

Anghenion Addysgol Ychwanegol

Tra ein bod yn annog yr holl ddysgwyr yn Ysgol Y Castell i weithio tuag at eu llawn botensial, rydym yn cydnabod y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai disgyblion ar adegau yn ystod eu gyrfaoedd ysgol.

Rydym yn cynnwys y disgyblion yma ar gofrestr Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Yna, mae ein Cydlynydd Anghenion Arbennig (CLAAA) yn cynorthwyo’r athrawon dosbarth, y rhieni a’r dysgwyr i ysgrifennu sy’n gosod rhaglen waith unigol i’r disgyblion hyn:-

Cynllun Addysgol Unigol (CAU),

Cynllun Ymddygiad Unigol (CYU)

Cynllun Chwarae ar gyfer y pant ieuengaf

Hefyd, mae’r CLAAA (Mrs S. Curran) yn cysylltu â rhieni, staff eraill, nyrs yr ysgol, therapydd Iaith a Llefaredd a’r Gwasanaeth Seicolegol. Derbynnir cyngor a chynhaliaeth gan yr ALl trwy Wasanaethau Cynhwysiad, megis therapydd galwedigaethol, cynhaliaeth ymddygiad a gwasanaeth clyw a golwg.

Mae angen cynhaliaeth ddwys 1:1 ar ambell ddisgybl; derbynia rhai ychydig o oriau o gefnogaeth, cefnogir eraill mewn gweithgareddau grŵp bach. Derbynia’r mwyafrif o ddisgyblion gymorth yn y dosbarthiadau, trwy weithgareddau gwahaniaethol a chymorth gan yr athrawon. Ysgol gynhwysol yw ein hysgol ni, ac rydym yn croesawu dysgwyr gydag amrywiaeth eang o anghenion i mewn i’n dosbarthiadau. Mae pob disgybl yn cael ei gynnwys mewn gweithgareddau dyddiol yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.

Cynhwysa’r term Anghenion Arbennig ddisgyblion sydd â doniau arbennig; boed yn academaidd, yn gerddorol neu’n chwaraeon. Felly, rydym yn cydnabod ac yn herio disgyblion Abl a Thalentog i gyrraedd eu llawn botensial.

Anelwn at sicrhau bod gan bob disgybl fynediad i’r cwricwlwm, beth bynnag yw ei anghenion a’i allu a byddwn yn parhau i ddefnyddio ystod o fecanwaith gynhaliol er mwyn cyrraedd ein nod.

Adnewyddir prosbectws yr ysgol yn flynyddol a’i osod ar wefan yr ysgol.

Y Corff Llywodraethol

18

Page 19: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am reolaeth effeithiol yr ysgol. Mae gennym ddau ar bymtheg o Lywodraethwyr (gan gynnwys y Pennaeth yn rhinwedd ei swydd). Fel arfer, gwasanaethant am bedair blynedd. Nodwyd cyfansoddiad presennol y Corff Llywodraethol isod.

Irene Jones yw Clerc i’r Llywodraethwyr; gellir cysylltu â hi trwy Education Achievement Service, Tŷ Tredomen, Tredomen, Caerffili.

Enw Math o Lywodraethwr Cyfnod o Wasanaeth

Cynghorydd Colin Elsbury (Cadeirydd)

Cynrychiolydd AALl 29.09.11 – 28.09.15

Cyng. Dr. Kim Choo Yin (Is-gadeirydd)

Cynrychiolydd Awdurdod Llai 05.05.13 – 06.05.17

Mrs Anwen Hill Cynrychiolydd Cymunedol 23.01.12 – 22.01.16

Mrs Eleri Betts Cynrychiolydd Cymunedol 10.06.13 – 11.06.17

Mrs Sian Baker Cynrychiolydd Cymunedol 25.10.14 – 24.10.18

Mr. Gareth Williams Cynrychiolydd AALl 01.02.12 – 31.01.16

Mr. Emyr Jones Cynrychiolydd Cymunedol 29.09.11 – 28.09.15

Dr. Iwan Morris Cynrychiolydd AALl 01.09.12 – 31.08.16

Mrs Heather Bie Cynrychiolydd Rhieni 05.11.14 – 04.11.18

Mr Lyndon Fairburn Cynrychiolydd Rhieni 01.02.12 – 31.01.16

Mrs Lisa Missen Cynrychiolydd Rhieni 13.03.12 – 12.03.16

Mrs Vicky Coxon Cynrychiolydd Rhieni 24.10.14 – 23.10.18

Ms Sharon Iles Cynrychiolydd Rhieni 01.02.12 – 31.01.16

Mrs Helen Nuttall Pennaeth 01.09.09

Mrs Cath Evans Lugg Cynrychiolydd Athrawon 12.03.15 – 11.03.19

Mr Daniel Davies Cynrychiolydd Athrawon 24.01.12 – 23.01.16

Mrs Mairwen Dainton Cynrychiolydd Staff Atodol 01.09.14 – 31.03.18

Cynhelir etholiadau nesaf ar gyfer Rhiant-Lywodraethwr ym Mis Ionawr 2016.

Manylion Cysylltu

19

Page 20: Cynnwys - Ysgol y Castell - Cartref · Web viewDeiliwyd â hwy a’u datryswyd ar gam 1 o’r Polisi Cwynion. Deiliwyd ag un cŵyn swyddogol arall ar gam 2 o’r Polisi Cwynion. Gweithgareddau’r

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Awdurdod Addysg Lleol

Prif Swyddog Addysg

Mrs. K. Cole

Tŷ Penalltau,

Tredomen.

Ffon (01443 815588)

www.caerphilly.gov.uk

Manylion Ysgol

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Cyng. Colin Elsbury (trwy Ysgol Y Castell)

Pennaeth: Mrs H. Nuttall

Clerc i’r Llywodraethwyr: Mrs Irene Jones

(Cysylltwch â Mrs Jones trwy swyddfeydd EAS, Tredomen)

Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

Heol Cilgant

Caerffili

CF83 1WH

Ffon (029 20864790)

Facs (029 20867220)

E-Bost: [email protected]

20