cynradd penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn lleoliadau...

41
Agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu – Cymru Thema 1 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 Cynradd Dyddiad cyhoeddi: 09-2010 Cyf: 1577-2010-CYMRU Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen a ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a Gwasanaethau Plant

Upload: others

Post on 01-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Agweddau cymdeithasol acemosiynol ar ddysgu – Cymru

    Thema 1 Dechrau newyddBlynyddoedd 3 a 4

    Cynradd

    Dyddiad cyhoeddi: 09-2010

    Cyf: 1577-2010-CYMRU

    Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewnlleoliadau Cyfnod Sylfaena ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol aGwasanaethau Plant

  • Ymwadiad

    Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ddatgan yn glir nad yw’r Adrana’i hasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am union gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiffeu hawgrymu’n ffynonellau gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn, boed y deunyddiau hynny arffurf cyhoeddiadau print neu ar wefan.

    Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau eu defnyddio amresymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith eu bod nhw’n cael eu defnyddio’ngolygu bod cwmnïau penodol na’u cynnyrch yn cael eu cymeradwyo.

    Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli pan gafodd ydeunyddiau eu cyhoeddi. Dylech wirio pob cyfeiriad at wefan yn ofalus er mwyn gweld a ydynt wedi newid, a dylech eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill lle bo hynny’n briodol.

  • Set Felen

    Cyflwyniad

    Mae’r thema hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaethdisgyblion mewn pedair prif agwedd gymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu:

    • empathi • hunanymwybyddiaeth • sgiliau cymdeithasol • cymhelliant.

    Mae’r thema’n rhoi cyfle i ddisgyblion weld eu hunain fel unigolion a werthfawrogir o fewncymuned, ac i gyfrannu at siapio cymuned ddysgu sy’n groesawgar, yn deg ac yn ddiogel i bawb. Drwy gydol y thema, byddan nhw’n archwilio teimladau o hapusrwydd a chyffro,tristwch, pryder ac ofn, wrth ddysgu (a gweithredu) modelau a rennir ar gyfer ‘ymdawelu’ a ‘datrys problemau’.

    Disgrifir y deilliannau dysgu bwriedig ar gyfer Blynyddoedd 3 a 4 fel a ganlyn. Bydd athrawonyn ymwybodol o’r gwahanol gamau gall y disgyblion yn y dosbarth fod wedi’u cyrraedd oran eu dysgu, ac efallai y byddan nhw am ddefnyddio’r deilliannau dysgu bwriedig ar gyfergrwpiau blynyddoedd eraill hefyd, yn y setiau Glas a Gwyrdd.

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Disgrifiad Deilliannau dysgu bwriedig

    Caiff disgyblion gyfleoedd pellach i werthfawrogi adathlu gwahaniaethau a thebygrwydd rhyngddyn nhw,ac i werthfawrogi eu doniau a’u talentau unigol.Byddan nhw’n cael cyfle i brofi cymaint o gefn ywperthyn i gymuned ac i gael eu gwerthfawrogi felunigolion gan y gymuned honno.

    Bydd disgyblion yn ailedrych ac yn datblygu eudealltwriaeth o hapusrwydd a chyffro, tristwch ac ofn,yn ogystal â ffyrdd o reoli teimladau. Byddan nhw’nedrych eto ar ffyrdd o ymdawelu a rheoli’r teimladausy’n gysylltiedig â gwneud rhywbeth newydd.

    Caiff disgyblion gyfleoedd i ddefnyddio sgiliau datrysproblemau i greu atebion, penderfynu ar gamaugweithredu, eu rhoi ar waith a’u hadolygu. Ailedrychirac adeiladir ar ddealltwriaeth y disgyblion o’uhawliau, eu cyfrifoldebau a’u rheolau eu hunain a rhai pobl eraill a hynny drwy greu siarter dosbarth. Un canolbwynt penodol yw gwneud yr ystafellddosbarth yn lle croesawus. 1

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Perthyn Dwi’n gwybod rhywbeth am bawb yn fy nosbarth.Dwi’n gwybod fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi ynyr ysgol.

    Dwi’n gwybod sut mae gwneud i rywun deimlo bodcroeso iddyn nhw yn yr ysgol a’u bod yn cael eugwerthfawrogi.

    Dwi’n gwybod sut beth yw teimlo nad oes croeso ichi. Dwi’n gwybod sut mae ymuno â grŵp.

    Hunanymwybyddiaeth Dwi’n gallu dweud un peth arbennig amdanaf i.

    Deall fy nheimladau Dwi’n gwybod sut beth yw teimlo’n hapus, yn drist,yn ofnus neu’n llawn cyffro, a dwi’n gallu dweud felarfer os yw pobl eraill yn teimlo’r emosiynau hyn.

    Dwi’n gallu rhagweld sut fyddai’n teimlo mewnsefyllfa newydd neu wrth gwrdd â phobl newydd.

  • 2

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Deall teimladau pobl eraill Dwi’n gwybod sut beth yw teimlo’n hapus, yn dristneu’n ofnus, a dwi’n gallu dweud fel arfer os yw pobleraill yn teimlo’r emosiynau hyn.

    Rheoli fy nheimladau Dwi’n gwybod sut beth yw gwneud neu gychwynrhywbeth newydd, ac dwi’n gwybod am rai ffyrdd oddelio â’r teimladau hyn.Dwi’n gallu rheoli fy nheimladau a dod o hyd fel arfer i ffyrdd o ymdawelu pan fydd angen.

    Sgiliau cymdeithasol Dwi’n gallu rhoi a derbyn canmoliaeth.

    Gwneud dewisiadau Dwi’n gwybod am fwy o ffyrdd eraill o ddatrysproblem.

    Deall hawliau a chyfrifoldebau Dwi’n gallu cyfrannu at wneud siarter dosbarth. Dwi’n deall fy hawliau a fy nghyfrifoldebau yn yr ysgol. Dwi’n deall pam mae angen gwahanol reolau arnommewn gwahanol lefydd, ac yn gwybod beth yw’rrheolau yn yr ysgol.

    Cysylltiadau â’r cwricwlwm

    Ceir cyfleoedd i ddatblygu’r agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu (ACEDd) ardraws y cwricwlwm ysgol yng Nghymru.

    Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yngNghymru

    Dyma’r cysylltiadau penodol â deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 2 y Fframwaith addysgbersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru.

    Sylwer: Er bod gan ACEDd y potensial i gyfrannu at addysg bersonol a chymdeithasol(ABCh) yng Nghyfnod Allweddol 2, er mwyn i ABCh fod yn eang ac yn gytbwys rhaidpwysleisio bod angen rhoi sylw hefyd i elfennau eraill o fewn Sgiliau ac Ystod yn y rhaglen a gynlluniwyd ar gyfer ysgolion.

    Sgiliau

    Datblygu meddwl

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • ffurfio barn bersonol a gwneud penderfyniadau gwydodus • defnyddio technegau priodol ar gyfer myfyrdod personol. Datblygu cyfathrebu

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • wrando’n astud, gofyn cwestiynau ac ymateb i bobl eraill • mynegi eu safbwyntiau a’u syniadau yn hyderus gan ddefnyddio ystod o ddulliau priodol • cyfrannu at drafodaethau dosbarth a chymryd rhan mewn dadleuon.

  • 3

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Gweithio gydag eraill

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • gydweithio i ddatrys problemau• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau.Gwella’ch dysgu eich hun

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • brofi arddulliau dysgu amrywiol ac adnabod y ffyrdd y maent yn dysgu orau• cymhwyso’u gwaith dysgu i sefyllfaoedd tebyg yn yr ysgol• datblygu sgiliau ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer bywyd bob dydd.

    Ystod

    Dinasyddiaeth weithgar

    Dylai dysgwyr gael cyfle i wneud y canlynol:

    • ddatblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill• gwerthfawrogi teulu a ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd• gwerthfawrogi amrywiaeth a chydnabod pwysigrwydd cyfle cyfartal• cymryd rhan ym mywyd yr ysgola deall:

    • eu hawliau . . . a’u cyfrifoldebau• pwysigrwydd gwneud penderfyniadau mewn modd democrataidd• y manteision o gael teulu a ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi• y sialensiau y gall dysgwyr ddod ar eu traws o safbwynt cael mynediad i gyfleoedd

    dysgu yn yr ysgol.

    Iechyd a lles emosiynol

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gadw’r meddwl a’r corff yn ddiogel ac yn iach• teimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl erailla deall:

    • y nodweddion a manteision corfforol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â ffordd iach o fyw,e.e. bwyd a ffitrwydd

    • ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill.Datblygiad moesol ac ysbrydol

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • archwilio’u gwerthoedd personol• bod yn onest ac yn deg a pharchu rheolau, y gyfraith ac awdurdoda deall:

    • sut mae gwerthoedd diwylliannol a chredoau crefyddol yn llywio’r ffordd y mae pobl yn byw

  • • bod pobl yn wahanol i’w gilydd o safbwynt eu barn am yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’nddrwg

    • bod gweithredoedd personol yn esgor ar ganlyniadau.Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • fwynhau a gwerthfawrogi gwaith dysgu a chyraeddiadau.

    Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang

    Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr:

    • werthfawrogi’r byd naturiol fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth• cymryd diddordeb gweithredol mewn agweddau amrywiol ar fywyd yn yr ysgol a’r

    amgylchedd ehangach.

    Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu’r sgiliaumeddwl a chyfathrebu a amlinellwyd yn y Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oedyng Nghymru. Dyma’r cysylltiadau penodol yn y set hon.

    Datblygu meddwl ar draws y cwricwlwm

    Cynllunio

    Gofyn cwestiynau

    Ysgogi sgiliau, gwybodaethu a dealltwriaeth flaenorol

    Cywain gwybodaeth

    Datblygu

    Creu a datblygu syniadau

    Meddwl am achos ac effaith a dod i gasgliadau

    Ffurfio barn a gwneud penderfyniadau

    Myfyrio

    Gwerthuso eu dysgu a’u meddwl eu hunain

    Datblygu cyfathrebu ar draws y cwricwlwm

    Llafaredd

    Datblygu gwybodaeth a syniadau

    Cyflwyno gwybodaeth a syniadau

    Darllen

    Defnyddio strategaethau darllen i ddod o hyd i wybodaeth, ei dewis a’i defnyddio

    Ymateb i’r hyn a ddarllenwyd

    Ysgrifennu

    Trefnu syniadau a gwybodaeth

    Sgiliau cyfathrebu ehangach

    Cyfleu syniadau ac emosiynau

    4

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

  • 5

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Cynllunio

    Er mwyn helpu gyda’r gwaith cynllunio, mae’r math o ddysgu ac addysgu sy’n gysylltiedig âphob cyfle dysgu yn y deunyddiau hyn yn cael ei ddangos gan eiconau ar yr ochr chwith.

    Nodir syniadau gan ysgolion ar ochr dde’r llyfr hwn. Mae’r syniadau’n cynnwys ffyrdd ycynlluniodd athrawon ar gyfer amrywiaeth yn eu dosbarth neu grŵp, er enghraifft, er mwyncefnogi dysgu disgyblion ag anghenion caffael iaith neu anghenion dysgu ychwanegol.

    Geirfa allweddol (i’w chyflwyno o fewn y thema ac ar draws y cwricwlwm)

    doniau talentau hawliau cyfrifoldebau

    cynorthwyol/gobeithiol meddyliau ofnus wedi dychryn

    llawn cyffro nerfus

    Adnoddau

    Dyma restr o’r adnoddau y gellir eu defnyddio i ategu’r gwaith yn y llyfr hwn. Mae’r rhain argael yn y Ffeil adnoddau ysgol gyfan.

    Adnoddau

    Blwyddyn 3 Cardiau llun – ofnus,wedi dychrynPoster datrys problemauSut i ymdaweluPoster ditectif teimladauBaromedr emosiynau

    Blwyddyn 4 Poster datrys problemauSut i ymdaweluBaromedr emosiynau

    Pwyntiau allweddol o stori gwasanaeth 11. Mae Polly a Digory yn ymweld â byd newydd lle nad oes dim byd yno ac mae’n hollol

    dywyll.

    2. Maen nhw’n clywed llais yn canu.

    3. Daw’r awyr yn oleuach a ffurfir y bryniau a’r mynyddoedd.

    4. Cerdda lew tuag atyn nhw dros y tir. Y llew sy’n canu.

    5. Daw’r llew â’r coed yn fyw ac yna cerdda ymlaen dan ganu.

    Dosbarth cyfan

    Unigolyn

    Parau

    Grŵp bach

  • 6

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Pwyntiau allweddol o stori gwasanaeth 2

    1. Yn Awstralia, mae dau blentyn yn cerdded am filltiroedd gyda’u taid.

    2. Maen nhw’n dod o hyd i bwll dŵr ac yn edrych i mewn i’r adeg cyn y ‘freuddwyd’. Doesdim byd yno.

    3. Maen nhw’n gweld y cyndadau’n deffro ac yn dod o’r ddaear.

    4. Daw Djanggawul a’i ddwy chwaer. Maen nhw wedi dilyn yr haul yr holl ffordd o Ynys yMeirw.

    5. Mae Djanggawul a’i ddwy chwaer yn gwneud tyllau gyda ffyn cloddio ac mae planhigion,anifeiliaid, coed a phobl yn ymddangos.

    Pwyntiau allweddol o stori gwasanaeth 3

    1. Mewn dinas yn Tsieina, mae dau blentyn yn eistedd ger ffownten mewn dinas ac maennhw’n gweld wy. Maen nhw’n dymuno bod yr holl sŵn a dwndwr yn y ddinas yndiflannu.

    2. Caiff y ddinas ei chipio ymaith a does dim byd ar ôl heblaw’r wy anferth. Mae’r plant ynclywed ochenaid o’r wy – ochenaid Ch’i – yr hyn sy’n dechrau popeth.

    3. Caiff y duw Pan Gu ei greu a daw allan o’r wy.

    4. Mae Pan Gu’n gwneud bwlch rhwng yr awyr a’r ddaear ac yn naddu’r mynyddoedd a’rdyffrynnoedd.

    5. Mae Pan Gu’n marw. Ei gorff yw gogledd, de, dwyrain a gorllewin y byd cyfan. Ei waedyw’r afonydd a’r moroedd a’i gnawd yw’r pridd.

    Nodweddion yr awgrymir i’r ysgol gyfan ganolbwyntio arnyn nhw er mwynsylwi ar gyflawniad a’i ddathlu

    Defnyddiwch ffordd arferol yr ysgol o ddathlu (canmol, nodiadau i’r disgybl a’rrhieni/warcheidwaid, tystysgrifau, enwebiadau gan gyfoedion, ac ati) i sylwi ar ddisgyblion(neu oedolion) a welwyd yn cyflawni’r canlynol a’u dathlu:

    • gwneud i rywun deimlo bod croeso iddyn nhw • gwneud rhywbeth dewr – goresgyn teimladau o ofn • datrys problem/cofio defnyddio’r broses datrys problemau • ymdawelu/helpu rhywun i ymdawelu. Bydd angen penderfynu ar yr amserlen ar gyfer pob nodwedd gan ystyried yr ysgol gyfan.

  • 7

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Set Felen: Blwyddyn 3

    Gemau cylch a rowndiau

    Os byddwch chi’n dewis dechrau’r sesiwn gyda gweithgaredd cylch, gwnewchyn siŵr fod yr holl ddisgyblion yn gyfarwydd â’r disgwyliadau a’r rheolau sylfaenol.Os nad ydyn nhw wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cylch o’r blaen, ycam cyntaf yw cytuno ar y rheolau sylfaenol, gan esbonio pam eu bod ynangenrheidiol. Mae awgrymiadau ar gyfer rheolau sylfaenol ar gael yn y set Borfforac ar y poster amser cylch yn y Ffeil adnoddau ysgol gyfan.

    Gemau cylch

    Cyfnewid llefydd

    Newidiwch le (neu ‘godi bawd’ neu gau un llygad neu rywbeth tebyg) os ydych chi:

    • yn hoffi gwrando ar gerddoriaeth • wrth eich bodd gydag anifeiliaid • yn hoff iawn o gyw iâr • yn mwynhau darllen.

    Meim

    Esboniwch i’r disgyblion y dylen nhw ddewis rhywbeth y maen nhw’n hoffi eiwneud, yna creu meim byr i ddangos hyn. Dylai aelodau’r cylch gymryd eu tro iddangos eu meim. Dylai aelodau eraill y grŵp geisio cofio’r meimiau.

    Ar ôl hyn, bydd un aelod o’r cylch yn ailadrodd eu meim eu hunain. Wedyn, dylennhw wneud meim un o aelodau eraill y cylch. Mae’n rhaid i’r unigolyn yr actiwydei feim ynghynt ailadrodd y meim hwnnw ac yna gwneud meim rhywun arall, acyn y blaen.

    Tynnwch sylw at y syniad nad ydyn ni bob amser yn gwybod pa bethau y maepobl eraill yn dda am eu gwneud neu’n ymddiddori ynddyn nhw – a wnaethunrhyw beth eu synnu?

    Rowndiau

    Dwi’n hoffi ... ac mae fy ffrind ysgol yn hoffi ...

    Fe hoffwn i’r dosbarth fod yn ...

    Dwi’n hoffi ysgol pan ...

    Dwi’n dysgu pan ...

    Yr hyn rydw i’n ei hoffi am yr ystafell ddosbarth hon yw ...

    Yr hyn fyddwn i’n ei newid am yr ystafell ddosbarth hon yw ...

    Fe wnaeth un o’ndisgyblion ddysguarwyddion IaithArwyddion Prydain i ni ar gyfer ygweithgareddauroedden ni’n eumeimio. Fe wnaethonnhw fwynhau eudysgu yn fawr iawn.

  • 8

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Cyfleoedd dysgu: dod i adnabod ei gilydd

    Rhowch ddisgyblion mewn parau ar hap. Nod y gweithgaredd yw dysgu un pethdiddorol am eich partner nad oeddech chi’n ei wybod o’r blaen. Cewch gyfle i roiun ganmoliaeth iddyn nhw ar ddiwedd y dydd – rhywbeth rydych chi wedi’iedmygu amdanyn nhw, rhywbeth roeddech chi’n ei hoffi am yr hyn wnaethonnhw neu rywbeth rydych chi’n ei hoffi neu’n ei barchu amdanyn nhw fel unigolyn.

    Gellir gofyn i ddisgyblion mewn grŵp a wnaethon nhw ddysgu unrhyw beth ameu partner a oedd wedi’u synnu. Dylen nhw ofyn i’w partner a yw’n iawn iddynnhw ddweud wrth y grŵp am hyn. Atgoffwch nhw fod pob un ohonom yn arbennig.

    Cyfleoedd dysgu: doniau a thalentau

    Atgoffwch y disgyblion am y byd newydd yn stori’r gwasanaeth. Gofynnwch iddynnhw ddychmygu math gwahanol o fyd newydd. Darllenwch y stori hon iddyn nhw(cewch ddefnyddio enwau’r disgyblion yn eich dosbarth ar gyfer y cymeriadau oshoffwch chi).

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gwybod rhywbeth am bawb yn fy nosbarth.

    Dwi’n gallu dweud un peth arbennig amdanaf i.

    Dwi’n gallu rhoi a derbyn canmoliaeth.

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gwybod rhywbeth am bawb yn fy nosbarth.

    Dwi’n gallu dweud un peth arbennig amdanaf i.

    Dwi’n gwybod fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi yn yr ysgol.

    Edrychodd y plant o amgylch y byd gwych a oedd wedi’i greu.

    ‘Waw! Mae hyn yn brydferth,’ dywedodd y bachgen. ‘Wyt ti’n meddwl mai

    dyma sut cafodd ein byd ni ei greu hefyd?’

    Cyn i’r ferch gael cyfle i ateb, digwyddodd rhywbeth anhygoel. Cerddodd y

    bobl a’r anifeiliaid i lannerch yn y coed a ffurfio cylch o amgylch y crëwr.

    ‘Beth wyt ti ei eisiau gennym ni?’ gofynnodd aderyn a oedd yn clwydo ar

    ysgwydd hen ddyn.

    ‘Mae gan bob un ohonoch chi eich dawn neu eich talent arbennig y

    daethoch chi gyda chi o’r cyfnod ar y ddaear. Defnyddiwch eich talentau’n

    dda a bydd y tir hwn yn odidog am byth. Ond os anghofiwch eich doniau

    a’ch talentau, ni fydd y tir yn ffynnu.’

    Fe wnaethon nistrwythuro’rgweithgaredd hwnar gyfer rhai o’ndisgyblion drwygreu rhestr â lluniauo’r ‘pethau i’wdysgu’, megis hofffwyd/anifail/rhaglendeledu, ayb.

  • 9

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Gofynnwch i’r disgyblion sut, yn eu barn nhw, y bydd yr anifeiliaid a’r bobl yn ybyd newydd yn dod i wybod beth yw eu doniau a’u talentau.

    Pwysleisiwch fod pob un ohonom yn wahanol a, hyd yn oed os nad ni yw’r gorauyn y dosbarth am wneud rhywbeth, mae gennym rywbeth rydym yn gallu eiwneud yn well na phethau eraill.

    Dylai disgyblion weithio mewn parau i baru cardiau o’r taflenni adnoddau Doniaua thalentau (gweler tudalennu 18–19) gyda’r tasgau mae angen eu gwneud yn ybyd newydd.

    Meddyliwch am yr atebion i’r cwestiynau hyn:

    • Beth yw doniau a thalentau’r bobl yn eich dosbarth? • Sut wnewch chi ganfod beth yw eich doniau a’ch talentau? • Sut wnewch chi ganfod beth yw doniau a thalentau pobl eraill? Gofynnwch i’r disgyblion feddwl am eu doniau a’u talentau, ac am ddoniau athalentau’r bobl y maen nhw’n ei adnabod. Gallech chi roi rhywfaint o syniadauiddyn nhw am yr amrywiaeth gyfan o ddoniau a thalentau drwy awgrymu pethaumegis gwrando, caredigrwydd, helpu eraill, ac yn y blaen. Rhowch 2 funud iddynnhw feddwl.

    Casglwch syniadau ynghylch yr holl ddoniau a thalentau yn y dosbarth a’ucofnodi ar y bwrdd gwyn. Ychwanegwch eich syniadau eich hun.

    Yr her

    Gofynnwch i’r disgyblion weithio mewn grwpiau bach i gwblhau’r Her doniau athalentau o’r taflenni adnoddau (gweler tudalen 20). Gwnewch yn siŵr eu bod yngwybod beth yw ystyr y geiriau ‘logo’, ‘arwyddair’, ‘rhigwm’, a gofyn iddyn nhwam enghreifftiau (mae hysbysebion yn ffynhonnell dda). Sut mae’r logos neu’rrhigymau’n dangos beth sy’n dda am y cynnyrch?

    Efallai yr hoffech chi rannu gwaith y disgybl gyda rhieni/gwarcheidwaid. Efallaihefyd yr hoffai’r disgyblion roi cot o farnais allanol neu glud PVA ar y totemau –bydd y rhain yn sychu’n glir a gallan nhw fod yn eitemau arddangos diddorol argyfer y tu allan.

    ‘Ond sut fyddwn ni’n gwybod beth yw ein doniau neu ein talentau? Dweud

    wrthon ni beth sydd raid i ni ei wneud,’ meddai un ferch.

    Fel roedd hi’n siarad hyd yn oed, trodd y crëwr ymaith.

    Cyn iddo ddiflannu, trodd a dweud, ‘Rhywbeth i chi ei ddarganfod yw hynny.’

    Pwysleisiwch bwysigrwydd cydweithio’n dda fel grŵp, yn arbennig pa mordda maen nhw’n siarad er mwyn trefnu rolau a chamau gweithredu. Arddiwedd y gweithgaredd, efallai yr hoffech ofyn i’r grwpiau ddefnyddioRhestr wirio hunan-adolygu’r broses gydweithio, o’r Ffeil adnoddau ysgolgyfan, er mwyn adolygu’r gweithgaredd.

    Yn fy nosbarth, maerhai disgyblion yn eichael yn anodd labelueu hunain fel pobl âdoniau a thalentauoherwydd cyfyngiadaudiwylliannol aphersonol. Roeddrhaid i middefnyddio iaithwahanol – gansiarad amddiddordebauarbennig agwahaniaethau unigol.

    Fe ysgrifennodd eindisgyblion yr hollddoniau a thalentauy gallen nhw feddwlamdanyn nhw arnodiadau bachgludiog, a’u rhoi ar ybwrdd. Yna, fewnaethon ni ofyn isawl un ohonyn nhwroi’r nodiadau mewntrefn ac esbonio eurhesymau. Erenghraifft, fe wnaethun disgybl grwpio’rsyniadau yn ddoniaua thalentau y gallecheu datblygu a phethauy gallech eu dysgu.Fe wnaeth rhai eraillgrwpio geiriau a oedd,yn eu barn nhw, yngolygu’r un peth. Fewnaethon ni adael ymap cysyniadau ifyny yn yr ystafellddosbarth drwy gydoly pwnc, fel bod ydisgyblion yn galluychwanegu nodyngludiog newydd panoedden nhw’n dodar draws dawn neudalent newydd.

  • 10

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Cyfleoedd dysgu: siarter y dosbarth

    Ar ôl y cyflwyniadau, esboniwch fod meddwl am y byd newydd yn hwyl ond bodrheswm pwysig dros ei wneud. Rydym am gydweithio pan rydyn ni i gyd ynnewydd i’n dosbarth er mwyn gwneud ein hystafell ddosbarth yn lle gwych iddysgu a chwarae ynddo.

    Esboniwch fod y dasg nesaf yn bwysig oherwydd y bydd yn siapio’r ffordd rydynni’n dysgu gyda’n gilydd yn yr ysgol.

    Yn eu grwpiau cartref, dylai’r disgyblion gydweithio i greu eu siarter eu hunain argyfer yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio’r daflen adnoddau a ddarperir.Defnyddiwch yr esboniad o’r set Las: Elfen 3 y Cyfnod Sylfaen os nad ydynnhw’n gyfarwydd â’r syniad o siarter.

    Dylai’r oedolion yn yr ystafell ddosbarth ddod at ei gilydd hefyd i wneud y dasg hon.

    Pan fydd y disgyblion yn eu grwpiau wedi penderfynu ar eu syniadau eu hunain argyfer siarter y dosbarth, dylai pob grŵp bach ddewis cynrychiolydd i gwrdd ag uno’r oedolion er mwyn penderfynu sut beth fydd y siarter dosbarth terfynol. Dylai’rgrŵp hwn gwrdd a cheisio cynnwys syniadau gan bob grŵp er mwyn creu siarterdosbarth terfynol. Dylen nhw fod yn gyfrifol am ysgrifennu’r siarter ar ddarn mawro bapur ac am sicrhau bod pawb yn hapus gyda’r syniadau ynddo. Dylid euhannog i feddwl am syniadau ar gyfer lluniau camera, arwyddion, symbolau alluniau fel bod eu siarter yn hwylus i bawb ei ddefnyddio. Dylai’r holl ddisgyblionlofnodi’r siarter a dylid ei arddangos yn yr ystafell ddosbarth. Gellid gwneud copia mynd ag un adref i rieni/warcheidwaid.

    Deall rheolau

    Os yw disgyblion wedi cwblhau setiau yn y blynyddoedd blaenorol, byddan nhw’nymwybodol o’r cysylltiadau rhwng siarter y dosbarth a rheolau’r ysgol.

    Mae’r gweithgaredd hwn yn ategu ac yn datblygu’r wybodaeth hon i gynnwysmaterion ynghylch sut caiff rheolau eu creu.

    Gofynnwch i’r disgyblion ym mhle maen nhw wedi dod ar draws rheolau (erenghraifft, gartref, wrth gymryd rhan mewn chwaraeon, ar y ffordd, wrth chwaraegemau, mewn rhaglenni cwis ar y teledu).

    Pa reolau maen nhw’n ei wybod ar gyfer y sefyllfaoedd hyn?

    Pam mae angen y rheolau hyn arnom – beth ym marn y disgyblion fyddai’ndigwydd pe na fyddai gennym reolau?

    Pwysleisiwch fod rheolau yno i amddiffyn ein hawliau –er enghraifft, i’n cadw’nddiogel, i wneud pethau’n deg. Pe na fyddai gennym reol am stopio pan fyddgolau traffig ar goch, ni fyddai’n ddiogel gyrru.

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gallu cyfrannu at wneud siarter dosbarth.

    Dwi’n deall fy hawliau a fy nghyfrifoldebau yn yr ysgol.

    Dwi’n deall pam mae angen gwahanol reolau arnom mewn gwahanollefydd, ac yn gwybod beth yw’r rheolau yn yr ysgol.

  • 11

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Canolbwyntio ar reolau ysgol

    Gan weithio mewn parau, mae’r disgyblion yn rhestru tair rheol mae’n rhaid iddynnhw eu dilyn yn yr ystafell ddosbarth. Ar gyfer pob rheol, byddan nhw’n siarad acyn ysgrifennu eu hatebion i’r cwestiynau canlynol:

    • Pam mae angen y rheol arnom? • Ydy’r rheol yn deg? • Pwy sy’n gwneud y rheol? • Beth sy’n digwydd pan fydd y rheol yn cael ei thorri? • Fydden ni’n hoffi newid y rheol? Bydd pob pâr yn rhoi adborth i’r dosbarth am un o’r rheolau maen nhw wedi’idewis.

    Fel dosbarth, bydd disgyblion yn ystyried sut caiff rheolau eu creu ar gyfer yrystafell ddosbarth, yr iard chwarae neu’r ysgol, er enghraifft rheolau sylfaenol argyfer trafod, rheolau ar gyfer defnyddio offer chwarae. Gofynnwch iddyn nhwystyried pam mae’n rhaid creu rheolau newydd weithiau – er enghraifft, diffoddffonau symudol mewn sinemâu/yn y dosbarth.

    Oes angen rheol newydd neu newid rhai sydd eisoes yn bodoli? Os oes, sutbydden nhw’n mynd o’i chwmpas i greu rheol newydd neu i newid un?Cyfeiriwch at rôl y dosbarth neu gyngor yr ysgol a sut maen nhw’n rhan o’rbroses gwneud penderfyniadau yn eich ysgol.

    Pryfed ar y wal

    Dewisir nifer o ddisgyblion i fod yn ‘bryfed ar y wal’ yn yr ystafell ddosbarth.Gallai’r rhain fod yn ddisgyblion o’r dosbarth neu’n blant hŷn. Eu gwaith nhw ywarsylwi beth sy’n digwydd, er mwyn iddyn nhw allu rhoi adborth i’r disgyblionynghylch pa mor dda yw’r dosbarth am gadw at y siarter y cytunwyd iddo. Byddyr athro’n rhoi gwybod iddyn nhw beth yw eu tasg. Cysylltwch y gweithgareddhwn â’u gwybodaeth am raglenni teledu realaeth a rhaglenni dogfen pryf-ar-y-wal.Dylai’r disgyblion eraill wybod y gall y ‘pryfed’ arsylwi unrhyw bryd.

    Mewn grwpiau neu fel dosbarth, dyfeisiwch ffurflen i’r ‘pryfed’ ei defnyddio igofnodi eu harsylwadau. Llenwch hi pan fydd yr athro’n dangos hynny (gallai hynfod yn arwydd cyfrinachol a gytunwyd rhyngddyn nhw).

    Gwnewch yn siŵr fod y ‘pryfed ar y wal’ yn chwilio’n bennaf am enghreifftiau llemae’r dosbarth yn cadw at y siarter. Ni fydd rhestru problemau’n fuddiol iawn. Os byddan nhw’n sylwi ar broblem, byddan nhw’n ceisio awgrymu ateb.

    Ar ôl cyfnod a gytunwyd, bydd y ‘pryfed ar y wal’ yn dweud wrth y dosbarth yrhyn y maen nhw wedi’i weld (efallai fel rhan o’r adolygiad ar ddiwedd eu gwaith ary thema), a gall y dosbarth drafod wedyn pa newidiadau, os o gwbl, y mae angeneu gwneud i siarter y dosbarth neu eu ffyrdd o weithio. Mae’r canolbwynt yn arosar y dosbarth cyfan (ni chaiff unigolion eu crybwyll) ac ar gyfrifoldeb pob unigolyn isicrhau bod y siarter yn gweithio i bawb.

    Fe wnaeth rhaidisgyblion ddewisdefnyddio mapmeddwl i roi trefnar eu syniadau yngnghyd-destun ycwestiynauallweddol.

    Yn fy nosbarth,mae gennym lawero ddysgwyr sy’nymuno ar wahanoladegau’r flwyddynac sy’n siaradgwahanol ieithoedd.Rydym yn gosodhyn fel her i bob uno’n dysgwyr, ganddweud wrthynnhw ein bod ni amiddyn nhw gynllunio‘Poster rheolau’ ygall pawb ei ddeall.Pan gynigion nhw’rsyniad o ddangosrheol yn weledol (a’r rheswm drosti),fe wnaethom euhannog i dynnu llun ohoni neuddefnyddio cameradigidol i ddarlunio’rposter.

  • 12

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Cyfleoedd dysgu: archwilio teimladau

    Darllenwch y stori Dechreuad newydd Sami o’r taflenni adnoddau (gweler tudalen 21).

    Gofynnwch i’r plant gynnig yr holl eiriau teimladau y gallan nhw feddwl amdanynnhw i ddisgrifio sut tybed roedd Sami’n teimlo yn ystod y stori.

    Ysgrifennwch bob un o’r geiriau teimladau mewn llythrennau mawr ar ddarnunigol o bapur A4. Dosbarthwch y geiriau ar hap ymysg y disgyblion.

    Esboniwch y byddwch chi’n adrodd y stori eto ac yn gofyn i’r disgyblion godi eugair teimlad pan fyddan nhw’n meddwl gallai Sami fod yn teimlo fel hyn.

    Pan fyddwch chi wedi gorffen y stori, gofynnwch iddyn nhw roi eu hunain mewngrwpiau yn ôl y geiriau teimladau y maen nhw’n eu dal. Pa eiriau sy’n myndgyda’i gilydd?

    I’ch helpu, gallech gynnig pedwar teimlad allweddol a rhoi’r pedwar gair, un ymmhob pedair cornel o’r ystafell:

    • hapus • trist • llawn cyffro • ofnus. Efallai na fydd rhai geiriau yn ffitio yn unrhyw un o’r grwpiau. Cymerwch y geiriauhyn oddi ar y disgyblion a gofyn iddyn nhw eistedd, neu feddwl am air arall afyddai’n rhoi cyfle iddyn nhw ymuno ag un o’r pedwar grŵp, ysgrifennu’r gairhwnnw ac ymuno â’r grŵp priodol.

    Pan fydd y disgyblion mewn grwpiau, esboniwch iddyn nhw y dylen nhw adaeltaflenni A4 eu grŵp mewn un swp ac eistedd.

    Darllenwch y geiriau yn uchel ar gyfer pob grŵp a gofynnwch pam mae disgyblionyn teimlo neu ddim yn teimlo y dylai’r geiriau hyn fynd gyda’i gilydd.

    Esboniwch fod y teimladau hyn yn gyffredin iawn pan fyddwn ni’n mynd i rywleanghyfarwydd neu’n gwneud rhywbeth am y tro cyntaf. Gofynnwch i ddisgyblionam enghreifftiau o sut maen nhw’n teimlo pan fyddan nhw’n gwneud rhywbethnewydd – er enghraifft, dechrau mewn ysgol newydd neu symud i dŷ newydd.

    Defnyddiwch y cardiau llun ‘wedi dychryn/ofnus’ a’r Poster ditectif teimladauo’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan i roi sylw manylach i’r teimlad o fod yn ‘ofnus’.

    Ymchwilio i ddwyster teimladau

    Dosbarthwch daflenni A4 sy’n cynnwys geiriau yn y teulu ‘ofnus’: pryderus,anesmwyth, petrus, gofidus, wedi dychryn, mewn braw, dan fygythiad,

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gwybod sut beth yw gwneud neu gychwyn rhywbeth newydd, adwi’n gwybod am rai ffyrdd o ddelio â’r teimladau hyn.

    Dwi’n gwybod sut beth yw teimlo’n hapus, yn drist, yn ofnus neu’n llawn cyffro,a Dwi’n gallu dweud fel arfer os yw pobl eraill yn teimlo’r emosiynau hyn.

    Mae gen i ddisgyblyn y fy nosbarthsy’n ei chael ynanodd trafod yr hollsyniad o deimladau.Dim ond hapus athrist mae’n eiwybod mewngwirionedd. Feeisteddais gydag efa siarad am ymeddwl sydd y tuôl i’r gweithgareddhwn. Fe wnes iwyntyll teimladau ibawb yn y dosbarth.Llwyddodd iddefnyddio’rwyntyll yn dda iawni roi gwybod i ni sutroedd yn teimlo.

    Mi roddon nidasgau gweithredoli bob un disgyblsy’n ei chael ynanodd dilyn naratif.Roedd gan sawl unwynebau teimladauar ffyn i’w dal yn yrawyr yn ystod ystori, roedd gan rairhestr o eiriau arffurf llun i wrandoamdanyn nhw a’uticio ar y rhestr,roeddwn i weditynnu lluniau a’ucopïo a bu rhai’nrhoi’r rhain mewntrefn, a bu rhai eraillyn dal pypedau acyn ‘actio’ rhancymeriad wrth i middarllen.

  • 13

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    cythryblus, ar bigau’r drain, nerfus, llawn panig, mewn ofn arswydus. Gofynnwchi’r disgyblion sy’n dal y taflenni sefyll mewn llinell ar flaen y dosbarth, gan roi euhunain mewn trefn fel bod eu geiriau’n ffurfio continwwm o ‘does arna i fawr o ofn’ i ‘rwy wedi dychryn yn fwy nag erioed’.

    Gofynnwch i’r disgyblion roi disgrifiad, yn cynnwys un neu ddwy frawddeg, o sefyllfa sy’n fwy ofnus neu’n llai ofnus. Bydd y disgyblion sy’n meddwl bod y gair y maen nhw’n ei ddal yn disgrifio’r teimlad orau yn camu ymlaen.

    Cyflwynwch neu ailedrychwch ar y Baromedr emosiynau o’r Ffeil adnoddau ysgolgyfan, fel cyfrwng sy’n mesur dwyster teimlad neu emosiwn.

    Pwysleisiwch fod gwahanol bobl yn teimlo gwahanol bethau mewn gwahanolffyrdd. Mae’r hyn sy’n codi ofn ar un person yn hwyl neu’n gyffrous i rywun arall.Nid oes cywir nac anghywir ac mae pob un ohonon ni’n wahanol (er gall pob unohonom deimlo’r un ystod o emosiynau).

    Cyfleoedd dysgu: ymdawelu

    Caiff syniadau ar gyfer datblygu strategaethau ymdawelu gyda disgyblion euhesbonio yn y daflen Sut i ymdawelu sydd yn Ffeil adnoddau ysgol gyfan – gellirllungopïo’r daflen.

    Gofynnwch i’r plant:

    • Sut, yn eich barn chi, fyddai Sami wedi teimlo cyn iddo sefyll yn ystod yramser cylch?

    • Beth wnaeth Sami cyn iddo siarad? (Fe anadlodd yn ddwfn) • Pam ydych chi’n credu ei fod wedi gwneud hyn? Atgoffwch y disgyblion fod angen i ni, pan fyddwn yn teimlo’n nerfus neu’n ofnus,ddod o hyd i ffyrdd o dawelu’r corff a’r meddwl.

    Trafodwch mewn grŵp yr holl ffyrdd mae’r disgyblion yn gwybod amdanyn nhwi’w helpu i ymdawelu pan fyddan nhw’n teimlo’n ofidus neu’n nerfus. Cofnodwcheu syniadau i gyd.

    Dylid casglu’r syniadau at ei gilydd a gwneud poster neu bosteri dosbarth iatgoffa’r disgyblion o’r gwahanol ffyrdd o ymdawelu.

    Cyfleoedd dysgu: y broses datrys problemau

    Ar ôl i Sami ddweud wrth y dosbarth sut mae’n teimlo, mae’r athrawes ynsylweddoli bod problem. Mae hi’n gofyn i’r dosbarth ei helpu i’w datrys. Dyma sutmae’r athrawes yn disgrifio’r broblem:

    Deilliant dysgu bwriedig

    Dwi’n gallu rheoli fy nheimladau, a Dwi’n gallu dod o hyd fel arfer i ffyrdd oymdawelu pan fydd angen.

    Deilliant dysgu bwriedig

    Dwi’n gwybod am rai ffyrdd o ddatrys problem.

    Roedd gan un o’rdisgyblion yn eindosbarth lawer osyniadau ar gyfer ygweithgaredd hwn.Ei anhawster oeddeu cofio ar yr adeggywir, felly fesiaradais i gydag efam yr hyn a oeddyn gweithio iddo ef,gan droi’r syniad yn‘gerdyn credyd’ a’ilamineiddio ermwyn iddo ei gadwyn ei boced.

  • 14

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Mae pob un ohonon ni wedi cyfrannu at wneud i Sami deimlo nad oes croeso iddo agwneud iddo deimlo’n anghyfforddus yn ei ysgol newydd. Sut gallwn ni wneud yn siŵrna fydd yr hyn a ddigwyddodd i Sami yn digwydd byth eto? Beth ddylen ni, fel athrawona ffrindiau dosbarth, fod wedi’i wneud i sicrhau bod Sami’n teimlo bod croeso iddo a’ifod wedi cynefino’n dda.

    Cyflwynwch/edrychwch eto ar y Broses datrys problemau gan ddefnyddio’r poster o’r Ffeiladnoddau ysgol gyfan. Ewch drwy bob cam gyda’r disgyblion, gan siarad am eu syniadauynghylch sut mae datrys y broblem hon, a gwnewch gynllun i ddangos beth gallen nhw eiwneud y tro nesaf er mwyn gwella pethau.

    Cyfleoedd dysgu: croesawu pobl i’n grŵp

    Un o’r pethau a fyddai’n helpu disgybl (neu oedolyn), sy’n newydd i’r ysgol, fyddai arweinlyfrdosbarth sy’n amlinellu sut mae pethau’n gweithio yn yr ystafell ddosbarth. Trafodwchgyda’ch gilydd beth ddylid ei gynnwys yn yr arweinlyfr, a pham. Gallai’r disgyblion feddwlam syniadau mewn parau ac yna eu rhannu gyda’r dosbarth. Gellid cytuno ar restr cynnwyscyffredinol a gofyn i wahanol grwpiau ganolbwyntio ar wahanol benodau.

    Dylai’r arweinlyfr gynnwys siarter y dosbarth ac unrhyw drefn sy’n bodoli yn y dosbarth.Dyma rai enghreifftiau:

    • mynd i mewn ac allan o’r ystafell ddosbarth • beth i’w wneud yn ystod cofrestru • beth i’w wneud os ydych chi’n hwyr • dangos eich bod yn barod i ddysgu ar ddechrau’r wers • dosbarthu a chasglu adnoddau • gwybod lefel y sŵn a ddisgwylir ar gyfer gwahanol weithgareddau • symud o un gweithgaredd i un arall • beth i’w wneud os cewch chi drafferth, cyn gofyn i oedolyn am help • dangos bod angen help arnoch chi gan oedolyn • cael sylw oedolyn • cael gwaith wedi’i farcio • beth i’w wneud os ydych chi wedi gorffen gweithgaredd ac mae gennych amser rhydd • gofyn am gael gadael yr ystafell ddosbarth • gofyn am gael symud i le tawel os oes rhywbeth yn tarfu arnoch chi neu eich bod

    wedi’ch corddi

    • clirio. Mae hwn yn gyfle i siarad am y drefn yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r drefn yn sicrhau bod ydosbarth yn rhedeg yn ddidrafferth ac mae’n rhoi strwythur a diogelwch i’r dosbarth ynghylchâ sicrhau bod pawb yn gwybod beth sy’n dod nesaf. Yn y drafodaeth gellid cynnwysmanteision cael trefn (er enghraifft, mae pethau’n cael eu gwneud yn gyflymach, mae pawbyn gwybod beth i’w wneud, does dim rhaid i ni feddwl yn galed am bethau bob tro rydymyn eu gwneud) a chyfleoedd hefyd i ddisgyblion gael dweud yn iawn ynghylch y ‘ffordd orauo wneud pethau’.

    Deilliant dysgu bwriedig

    Dwi’n gwybod sut mae gwneud i rywun deimlo bod croeso iddyn nhw yn yr ysgol a’ubod yn cael eu gwerthfawrogi.

  • 15

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Gellid rhoi’r arweinlyfr ar brawf gydag oedolyn sy’n ymweld (y pennaeth, efallai) sy’n treuliobore neu brynhawn gyda’r dosbarth mewn rôl dysgwr, gyda’r arweinlyfr yn gymorth. Gall yrymwelydd roi adborth i’r dosbarth ynghylch pa mor ddefnyddiol oedd yr arweinlyfr o ranrhoi gwybod iddyn nhw beth i’w wneud a sut gellid gwella’r arweinlyfr (neu’r drefn ei hun).

    Cyfleoedd dysgu: Dechrau newydd

    Gan ddefnyddio eu profiadau o weithio ar y siarter a gweithio ar deimladau, dylai pobplentyn benderfynu ar y canlynol:

    • un peth y bydden nhw’n mynd gyda nhw o’r ysgol hon i ysgol ‘ddelfrydol’ pe byddennhw’n cael y cyfle

    • un peth y bydden nhw’n ei adael ar ôl • un peth neu syniad newydd y bydden nhw’n ei greu’n arbennig i fynd gyda nhw. Gallai’r pethau hyn fod yn ddiriaethol megis y cyfrifiadur, ond gallen nhw hefyd fod ynbethau anniriaethol – er enghraifft caredigrwydd neu greulondeb, neu synnwyr digrifwch.

    Rhowch dair deilen o wahanol liw i bob disgybl. Gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu neudynnu llun eu cyfraniad ar y ddeilen lliw priodol i fynd â hi i’r gwasanaeth i gyfrannu atarddangosfa’r ysgol gyfan. Dylid cytuno ar y lliwiau rhwng dosbarthiadau fel bod cysondeb.

    Dylid mynd â’r dail hyn i’r gwasanaeth olaf. Dylai dail sy’n cynnwys y pethau i fynd gydanhw neu’r pethau i’w datblygu yn yr ysgol gael eu glynu ar yr arddangosfa. Dylai’r pethausydd i’w gadael ar ôl gael eu rhoi mewn bin arbennig ar y ffordd allan o’r gwasanaeth (a’ucadw i’w hadolygu gan y tîm arwain fel adborth defnyddiol).

    Gweithgareddau parhaus

    Ceisiwch annog y disgyblion i ddysgu ffyrdd o ddweud helo yn y gwahanol ieithoedd a ddefnyddir gan oedolion a disgyblion yng nghymuned yr ysgol. Gofynnwch iddyn nhwddysgu’r rhain i chi, ynghyd â gwahanol ystumiau a chyfarchion slang. Yna, defnyddiwch y ffyrdd gwahanol hyn o ddweud helo wrth alw’r gofrestr.

    Wrth alw’r gofrestr, gofynnwch i’r disgyblion ddweud sut maen nhw’n teimlo ar raddfa o 1 i 10, gan ganolbwyntio ar y teimladau allweddol – hapus, trist, ofnus, llawn cyffro.

    Gosodwch le dangos teimladau, megis ‘Wal teimladau’, a defnyddiwch y teulu o eiriauteimladau a fu’n ganolbwynt i’r set hon (hapus, trist, ofnus, llawn cyffro) fel man cychwyn.Ceisiwch annog y disgyblion i ddod â lluniau o bobl neu olygfeydd sy’n dangos y geiriauteimladau hyn. Ychwanegwch eiriau newydd sy’n golygu rhywbeth tebyg a llungopïwchddarnau o lyfrau sy’n archwilio’r teimladau hyn. Gellir ychwanegu at yr arddangosfa ynystod y flwyddyn wrth archwilio mwy o deimladau.

    Gadewch i ddisgyblion gael eu baromedr emosiynau ar eu desgiau i ddangos sut mae euteimladau yn newid drwy gydol y dydd ac i roi cyfle iddyn nhw weld sut mae pawb yn y

    Deilliannau dysgu bwriedig

    (Adolygu’r set Las: deilliannau dysgu Elfennau 3 a 4 y Cyfnod Sylfaen)

    Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i gymuned.

    Dwi’n gwybod beth y mae’n rhaid i mi ei wneud er mwyn gwneud yr ystafell ddosbartha’r ysgol yn lle diogel a theg i bawb, ac nad yw’n iawn i bobl eraill ei wneud yn anniogelneu’n annheg.

  • 16

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    dosbarth yn teimlo. Cysylltwch hyn ag unrhyw ddigwyddiadau a all wneud i bobldeimlo’n hapus, yn drist neu’n ofnus, a chysylltu hyn hefyd â siarter y dosbarth.

    Wrth dynnu sylw at reol yn yr ysgol, cysylltwch hyn bob amser â siarter ydosbarth a’r cyfrifoldebau y mae’r disgyblion wedi cytuno iddyn nhw.

    Pan fydd y disgyblion yn anghofio’r rheol, defnyddiwch yr ymadrodd, ‘Beth yw einrheol ynghylch ...?’, neu ‘Cofiwch y rheol ar gyfer ... ’ a gofynnwch iddyn nhwatgoffa ei gilydd pam fod gennym y rheol benodol honno (er enghraifft, aros eichtro i ateb fel ei bod yn deg a bod pawb yn cael cyfle).

    Pan fyddwch yn defnyddio cosbau neu ganlyniadau oherwydd na chadwodddisgyblion at reol, manteisiwch ar y cyfle i atgoffa’r disgyblion ynghylch y siarter.Gofynnwch iddyn nhw sut mae eu gweithred yn cymharu â’r siarter, a sut gallannhw ‘gywiro pethau’.

    Sicrhewch yn rheolaidd fod ‘parau ar hap’ yn cydweithio, fel bod pawb yncael cyfle i ddod i adnabod pawb arall yn y dosbarth dros amser. Defnyddiwchffyrdd megis tynnu enwau o het, lluniau wedi’u torri’n hanner, hanner brawddegausy’n paru neu gemau megis ‘Dewch o hyd i rywun sydd hefyd ...’ er mwyn caelhwyl yn y broses paru.

    Ceisiwch annog y dosbarth i weithio mewn grwpiau ‘cartref’ cadarn o allucymysg, yn ogystal â gyda gwahanol bartneriaid, ac i deimlo eu bod yn rhan o grŵpsy’n perthyn i’w gilydd, sydd yn ei dro yn rhan o ddosbarth sy’n perthyn i’w gilydd.

    Pan fydd ymwelydd, athro llanw neu ddisgybl newydd yn dod i’r dosbarth,atgoffwch y disgyblion eu bod yn rhoi arweinlyfr y dosbarth iddyn nhw.Trafodwch o bryd i’w gilydd a oes angen adolygu’r cynnwys, ac a oes angencynnwys a chytuno ar wybodaeth newydd.

    Defnyddiwch bob cyfle i atgoffa’r disgyblion i weithredu’r technegau ymdawelumaen nhw wedi’u nodi ac i ddefnyddio’r broses datrys problemau. Gallech greucornel ‘ymdawelu’ yn yr ystafell ddosbarth. Gallai’r disgyblion awgrymu bethddylai fynd i’r gornel ymdawelu (er enghraifft, dodrefn meddal, tâp cerddoriaethdawel, baromedr emosiynau, a chiwb rhew tri dimensiwn wedi’i wneud o gerdynyn hongian uwch ben llun wal o ddiferion dŵr, pob un â strategaeth ymdaweluwedi’i hysgrifennu arnyn nhw neu ar ffurf llun).

    Cwestiynau ar gyfer myfyrio ac ymholi

    • Pam nad yw pob un ohonon ni’n dda am wneud popeth? • Ydy rhai doniau a thalentau’n bwysicach nag eraill?

    Adolygu

    Gellid adolygu drwy wrando ar adborth gan y ‘pryfed ar y wal’ fel y disgrifiwyd yngynharach.

    Gwnewch yn siŵr fod y ‘pryfed’ yn gwybod sut mae rhoi’r adborth (er enghraifft,peidio â defnyddio enwau, gwneud yn siŵr fod mwy o sylwadau cadarnhaol nasylwadau negyddol). Gallen nhw ddyfeisio eu taflen adborth eu hunain i gofnodi’radborth y byddan nhw’n ei roi i weddill y dosbarth. Ar ôl yr adborth, gall trafodaethdosbarth neu amser cylch fynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â’r canlynol:

    • beth rydyn ni’n ei wneud yn dda yn y dosbarth • yr hyn mae angen i ni adeiladu arno a’i ddatblygu • yr hyn mae angen i ni ei wneud yn wahanol.

    Fe ddefnyddiaisgardiau doniau athalentau i ategu’rcwestiynau ar gyfermyfyrio ac ymholi.Fe roddais i set ogardiau doniau athalentau i bob pârsgwrsio. Roeddenni’n gallu defnyddio’rcardiau hyn mewnamrywiol ffyrdddrwy gydol y thema.Weithiau roeddwni’n gofyn i’r paraudrefnu’r cardiau ynôl y doniau athalentau a oeddganddyn nhw yn eubarn nhw, a’r rhainad oedd ganddynnhw. Weithiau,roeddwn i’n gofyniddyn nhw drefnu’rcardiau yn ôl trefnpwysigrwydd.Adegau eraill roeddyn rhaid iddyn nhwddewis cardiau aoedd yn cynrychiolipethau nad oeddennhw’n gallu eugwneud eto ond yn gobeithio eugwneud. Cafodd y cardiau eudefnyddio hefyd i sbardunogweithgareddauamser cylch.

  • 17

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Taflen adnoddau set Felen: Blynyddoedd 3 a 4

    Siarter ein dosbarth

    Rydym am i’n dosbarth fod yn lle teg a hapus lle gallwn gydweithio a chyd-chwarae.

    Felly rydym yn addo:

    Llofnod:

  • 18

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Taflen adnoddau set Felen: Blwyddyn 3

    Doniau a thalentau

    Anifeiliaid Doniau a thalentau Y tasgau mae angen eu gwneud yn y byd newydd

    bwytäwr morgrug arogli a phalu dod o hyd i fwyd dan y ddaear

    twrch daear/gwahadden palu gwneud tyllau

    crëyr glas pysgota dod o hyd i fwyd

    plant meddwl datrys problemau

  • 19

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Anifeiliaid Doniau a thalentau Y tasgau mae angen eu gwneud yn y byd newydd

    eliffant cryf iawn cario creigiau a cherrig

    llewpard hela cyflym iawn danfon negeseuon

    morgrugyn adeiladu creu lloches

  • 20

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Taflen adnoddau set Felen: Blwyddyn 3

    Her doniau a thalentau

    COFIWCH EICH SGILIAU GRŴP

    Cofiwch feddwl am SUT byddwch yn cydweithio yn ogystal â BETH fydd gennych ar y diwedd!

    Ar ddechrau’r gweithgaredd, cofiwch dreulio amser yn siarad am yr hyn mae angen ei wneud, aphwy fydd yn gwneud beth yn y grŵp.

    Mae gan bawb o leiaf un ddawn neu dalent sef rhywbeth maen nhw’n arbennig o dda am ei wneud. Mae gan bob un ohonoch chi ddawn neu dalent – efallai nad chi yw’r gorau yn ydosbarth am ei wneud ond mae’n dal i fod yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud orau.

    Efallai mai dweud jôcs, darllen, trwsio beiciau neu sglefrfyrddio yw’ch dawn. Ond gallai fod ynrhywbeth eithaf gwahanol, fel bod yn garedig, neu ddatrys problemau, neu fod yn onest, neuhelpu eraill, neu fod yn ffrind da. Mae ein holl ddoniau a thalentau yn bwysig.

    Os yw eich grŵp yn mynd i fod yn llwyddiannus, yna bydd rhaid i chi wneud y mwyaf o ddoniaua thalentau pawb wrth i chi gydweithio. Ydych chi’n gwybod beth yw doniau a thalentau eichgilydd?

    Eich her chi yw canfod beth yw doniau a thalentau pawb yn eich grŵp. Rydych chi’n mynd iddefnyddio’r doniau neu’r talentau pan fyddwch chi’n meddwl am enw a thotem i’ch grŵp.Rhywbeth sy’n cynrychioli aelodau’r grŵp yw totem. Gallai fod yn llun neu’n gerflun.

    Pan fyddwch chi’n clywed yr enw ac yn gweld y totem, bydd yn eich helpu i gofio doniau athalentau pawb yn y grŵp. Gofynnir i chi roi cyflwyniad i’r dosbarth am eich grŵp a’u doniau a’u talentau.

    Bydd y cyflwyniad yn sôn am ddoniau a thalentau eich grŵp a bydd angen y canlynol arnoch:

    • totem • arwyddair neu rigwm i’ch helpu i esbonio doniau a thalentau pawb yn y grŵp• enw grŵp• esboniad o’ch totem. Mae gennych 45 munud i baratoi’ch cyflwyniad a 3 munud i’w gyflwyno i weddill eich dosbarth.

    Er mwyn gwneud yr her hon yn dda, bydd angen i chi:

    • siarad gyda’ch gilydd am sut beth fydd eich totem a’ch cyflwyniad • penderfynu beth sydd angen ei wneud – gallech ysgrifennu rhestr.

    Talking and planningtogether

    T

    Siarad a chynlluniogyda’ch gilydd

  • 21

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Taflen adnoddau set Felen: Blwyddyn 3

    Dechreuad newydd Sami

    Newydd gyrraedd y Deyrnas Unedig roedd Sami a’i dad. Roedd Sami’n meddwl bodpopeth yn rhyfedd iawn ac yn gyffrous dros ben. Dadbaciodd ei bethau, yna ffonioddei fam a’i chwaer yn ôl yn y Ffindir i ddweud popeth wrthyn nhw. Ond wnaeth Samiddim dweud gymaint yr oedd yn hiraethu amdanyn nhw. Pan ddaeth dydd Llun, priny gallai ddisgwyl dechrau yn ei ysgol newydd.

    Ond aeth pethau o chwith o’r dechrau un. Fe wnaeth gamgymeriad ar ôlcamgymeriad. Roedd yn eistedd yn y lle anghywir o hyd, yn defnyddio’r pensiliauanghywir drwy’r amser, cafodd ei adael ar ôl pan aeth y dosbarth cyfan i’rgwasanaeth ac fe arhosodd i mewn pan oedd i fod allan amser chwarae. Aeth i giniogyda’r dosbarth anghywir ac roedd dal ar y cae chwarae, yn darllen, pan oedd pawbwedi mynd yn ôl i mewn. Erbyn diwedd y dydd, roedd y plant eraill yn ei wylio, ynmeddwl tybed beth ar y ddaear y byddai’n ei wneud nesaf. Pan aeth allan o’r ysgoldrwy’r giât anghywir, dechreuon nhw chwerthin llond eu boliau. Doedden nhw ddimwedi cael cymaint o hwyl â hyn ers tro.

    Y wers gyntaf ddydd Mawrth oedd llythrennedd. Gofynnodd yr athro i Sami ddarllenyn uchel, ond mwmiodd a baglodd dros ei eiriau. Roedd y plant yn meddwl y byddennhw’n byrstio, roedden nhw’n trio mor galed i beidio â chwerthin. Nesaf, daethamser cylch. Roedd yn rhaid i’r plant gyfnewid llefydd os oedden nhw’n hoffi’r unpethau. Roedd pawb fel pe baen nhw’n gwybod beth i’w wneud, ond roedd Samiwedi drysu’n llwyr. Doedd Sami ddim yn deall pam fod plant yn codi ac yn rhedeg o amgylch y cylch o hyd ac eto pan redodd ar draws y cylch dechreuodd pawbchwerthin, nes creu stŵr mawr.

    ‘Dwi’n meddwl y cawn ni weithgaredd tawelach i orffen,’ dywedodd yr athro.‘Gofynnwch i’r person sydd nesaf atoch chi ddweud rhywbeth arbennig amdanynnhw eu hunain wrthoch chi, ac yna, os nad oes ots ganddyn nhw, dywedwch wrthweddill y dosbarth beth yw’r peth arbennig hwnnw. Mae gennych ddau funud yr un i wrando ar eich gilydd.’

    Roedd Sami’n eistedd wrth ymyl Nia. Pan edrychodd hi ar ei wyneb dryslyd, prin ygallai gadw wyneb syth. ‘Ddechreua i felly? gofynnodd, ac yna heb aros am ateb,dywedodd hi wrtho am ei holl fathodynnau nofio a’i bathodynnau sglefrio iâ a’i beltiaujiwdo. Fe wnaeth hyn argraff dda iawn ar Sami. Doedd Sami ddim yn gallu gwneuddim un o’r pethau hynny. Ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhywbeth amdano’i hunwrth Nia, dywedodd yr athro: ‘Amser ar ben.’

    Pan ddaeth ei dro, dywedodd wrth weddill y dosbarth yr hyn roedd Nia wedi’iddweud wrtho. Yna gofynnodd yr athro i Nia ddweud rhywbeth wrthyn nhw amSami. Edrychodd Nia mewn cywilydd.

    ‘Chafon ni ddim digon o amser,’ mwmiodd. ‘Nia, dwi’n synnu atat ti,’ dywedodd yrathro. ‘Roeddwn i’n meddwl y byddet ti’n gwybod y rheolau erbyn hyn.’ EdrychoddNia’n ddig ac yn anghyfforddus.

  • 22

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Yn eich barn chi, sut roedd y disgyblion yn teimlo ar ôl i Sami siarad?

    Dywedodd yr athro wrth Sami: ‘Efallai yr hoffet ti ddweud rhywbeth arbennigamdanat ti dy hun wrthon ni?’ Edrychodd o gwmpas y cylch o wynebau. Gallai weldbod rhai o’r plant yn trio peidio â chwerthin. Safodd, anadlodd yn ddwfn, adywedodd:

    ‘Rydw i’n dod o’r Ffindir, ac fel rydych chi wedi gweld dydw i ddim yn siaradSaesneg yn dda iawn, ond dwi’n gallu siarad Ffinneg, wrth gwrs, a rhywfaint oFfrangeg a Rwsieg. Dwi ddim yn dda iawn gyda chwaraeon fel Nia, ond dwi’nmeddwl, efallai, mod i’n dda gyda mathemateg a chelf. Roeddwn i’n edrych ymlaenyn arw at ddod i’r DU. Roeddwn i eisiau dod i’r ysgol yn fan hyn am sbel er mwyndysgu. Ond rŵan fy mod i yma dwi’n anhapus iawn am nad ydw i’n gwybod unrhywreol a does neb yn dweud wrtha i beth i’w wneud; maen nhw’n chwerthin am fymhen. Mi hoffwn i fynd yn ôl i’r Ffindir ond dwi wedi addo wrth fy nhad y byddai’ndod yma i geisio dysgu siarad Saesneg yn well. Dyna’r cyfan sydd i’w ddweudamdanaf i.’ Eisteddodd. Aeth y plant yn dawel iawn.

  • 23

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Set Felen: Blwyddyn 4

    Gemau cylch a rowndiau

    Os byddwch chi’n dewis dechrau’r sesiwn gyda gweithgaredd cylch, gwnewchyn siŵr fod yr holl blant yn gyfarwydd â’r disgwyliadau a’r rheolau sylfaenol. Osnad ydyn nhw wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cylch o’r blaen, y camcyntaf yw cytuno ar y rheolau sylfaenol, gan esbonio pam eu bod yn angenrheidiol.Mae awgrymiadau ar gyfer rheolau sylfaenol ar gael yn y set Borffor ac ar y postercylch amser yn y Ffeil adnoddau ysgol gyfan.

    Gêm cylch

    Olwyn ffefrynnau

    Rhowch gopïau i’r disgyblion o’r Olwyn ffefrynnau o’r taflenni adnoddau (gwelertudalen 34). Dylen nhw lenwi’r cylch allanol gydag un peth maen nhw’n ei hoffi ymmhob categori, megis bwyd neu liw. Wedyn, dylen nhw ddod o hyd i rywun arall syddâ’r un hoff beth ym mhob categori er mwyn rhoi eu henw yn y cylch mewnol. Dylennhw geisio dod o hyd i wahanol berson ym mhob categori.

    Rowndiau

    Fe wnes i ddysgu rhywbeth da nad o’n i’n ei wybod am ... yr wythnos ‘ma. Sef ...

    Un o’r grwpiau Dwi’n perthyn iddo yw ...

    Pwysleisiwch ein bod ni’n dysgu pethau newydd am ein gilydd drwy’r amser. Maepob un ohonon ni mewn sawl gwahanol grŵp.

    Cyfleoedd dysgu: creu cymuned

    Atgoffwch y disgyblion am y byd newydd yn stori’r gwasanaeth. Gofynnwch iddyn nhwddychmygu math gwahanol o fyd newydd. Darllenwch y stori hon iddyn nhw (cewchddefnyddio enwau’r plant yn eich dosbarth ar gyfer y cymeriadau os hoffwch chi).

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gwybod sut mae gwneud i rywun deimlo bod croeso iddyn nhw ynyr ysgol a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

    Dwi’n gwybod sut beth yw teimlo nad oes croeso i chi.

    Pan ddeffrodd y plant fe welon nhw nad oedd y byd mor newydd mwyach.

    Roedd pentref tlws ar waelod y dyffryn ger yr afon a llawer o dai bach ynddo.

    ‘Edrychwch!’ dywedodd y ferch. ‘Ddoe, roeddwn i’n meddwl bod y byd

    newydd yn brydferth ond heddiw mae’n fwy prydferth na phrydferth.’

    Roedd y pentref fel petai’n tywynnu gyda golau oren ysgafn. Edrychai fel

    pentref euraidd hud, ond yr haul yn codi ac yn disgleirio ar ffenestri a

    cherrig y tai oedd yn achosi hyn mewn gwirionedd. Yng nghanol y pentref,

    roedd adeilad mawr ac roedd haul y bore yn llifo drwy ei ffenestri.

    Fe wnaethon ni roi’rdewis i’r disgyblionddefnyddiosymbolau neudynnu llun euffefrynnau ar yrolwyn.

    Fe weithiais arfersiwn symlach o’rstori gyda grŵp oddisgyblion gangynnwys rhai oeddag anawsterau iaitha lleferydd. Fewnaethon nhwdynnu lluniau iddangos pob prifbwynt, a pharatoii’w hactio panroeddwn i’n darlleny stori gyfan i’rdosbarth ynddiweddarach.

  • 24

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    O gwmpas y pentref roedd casgliad cyfan o goed a phlanhigion a phan edrychodd

    y plant yn ofalus, fe wnaethon nhw sylweddoli bod y coed yn llawn ffrwyth mawr,

    rhyfedd, siâp gellygen. Pan oedd yr haul yn uchel yn yr awyr, daeth y bobl o’u tai ac

    i’r coed i gasglu’r ffrwyth. Fe aethon nhw â’r ffrwyth yn ôl at y byrddau a oedd wedi’u

    gosod yng nghanol y pentref ac agor y ffrwyth gyda chyllell aur. Y tu mewn, fe welon

    nhw brydau cyfan yn barod i’w bwyta. Chwarddodd y bobl gyda’i gilydd wrth iddyn

    nhw rannu’r bwyd. Pan oedd un pryd wedi’i orffen, aethon nhw’n ôl at y goeden ac

    roedd ffrwyth arall wedi tyfu’n barod yn ei le.

    ‘Mae hwnna’n edrych yn dda,’ dywedodd y plant, fel un côr bron. ‘Rydw i’n llwgu!’

    Dechreuon nhw redeg i lawr yr allt at y pentref. Fe wnaethon nhw stopio ar ôl

    cyrraedd y cyrion. Gan eu bod yn nes at y bobl yn awr, roedden nhw’n gallu gweld

    eu bod mor hapus gyda’i gilydd ac roedden nhw’n ysu am gael ymuno â nhw.

    Fe gerddon nhw gyda’i gilydd i ganol y pentref a mynd at y bwrdd.

    ‘Helo,’ dywedodd pawb gyda’i gilydd. ‘Allwn ni ...’ Chawson nhw ddim amser i ofyn

    am fwyd cyn i’r wên ar wynebau’r bobl droi’n wg. Distawodd y plant.

    ‘Beth yw hyn?’ meddai un o’r pentrefwyr.

    ‘Wnaeth rywun ofyn i’r plant ‘ma ddod i’n pentref?’ dywedodd un arall.

    ‘Edrychwch ar eu dillad, eu croen a’u gwallt,’ dywedodd trydydd un. ‘Pa hawl sydd

    ganddyn nhw ddod i’n pentref heb wahoddiad!’

    Roedd y bobl yn edrych yn fygythiol iawn erbyn hyn ac roedd y plant yn dechrau

    teimlo’n ofnus.

    ‘Os na wnawn ni siarad gyda nhw, efallai yr awn nhw i ffwrdd.’

    ‘Rhaid i ni beidio â’u bwydo,’ meddai’r pentrefwr hynaf wrth iddo droi at y coed a

    symud ei law mewn hanner cylch fel petai’n sgubo. Wrth iddo wneud hyn, dechreuodd

    ffens godi a phan oedd bron cyn uched â’r goeden leiaf, lapiodd weiren bigog ei hun

    fel planhigyn dringo hyll a llwyd ar hyd pen ucha’r ffens.

    ‘Fe wnaiff hynny eu cadw allan,’ meddai’r pentrefwr hynaf. Cerddodd at y giât a oedd

    wedi’i greu yn y ffens, estyn allwedd, cloi’r giât a rhoi’r allwedd yn saff yn ei boced.

    Cerddodd y plant i ffwrdd yn araf. Edrychon nhw’n ôl ar y pentref a gweld nad oedd

    yn euraidd mwyach – a dweud y gwir, roedd y tai yn edrych mor llwyd â’r ffens fawr

    frawychus o amgylch y berllan.

  • 25

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Archwiliwch y syniadau yn y stori mewn trafodaeth strwythuredig, neu drwyddefnyddio dull cymuned ymholi os ydych chi a’r disgyblion yn gyfarwydd â’r dullhwn:

    • Yn eich tyb chi, beth oedd barn y pentrefwyr am y plant? • Pam, yn eich barn chi, y gwnaeth y pentrefwyr ymateb fel y gwnaethon nhw

    tuag at y plant?

    • Ydych chi’n meddwl eu bod wedi bwriadu bod yn gas? • Pam, yn eich barn chi, fod y pentref yn edrych yn hardd ar ddechrau’r stori

    ond nid ar y diwedd?

    • Ydych chi’n credu bod pawb yn cytuno â’r pentrefwr hynaf? Mewn grwpiau bach, gofynnwch i’r plant actio’r stori – rhai’n cynrychioli’rpentrefwyr a dau’n cynrychioli’r plant ym mhob grŵp. Gofynnwch iddyn nhw‘fferru’r ffrâm’ wrth i’r plant yn y stori gerdded i ffwrdd. Gall y pentrefwyr gymrydeu tro wedyn i fynegi sut maen nhw’n teimlo wrth iddyn nhw wylio’r plant yncerdded i ffwrdd o’r pentref. Efallai yr hoffai rhai o’r pentrefwyr rannu a bod yngyfeillgar a bod ganddyn nhw ofn y pentrefwyr caletach. Rhowch chi’ch hun ynesgidiau un o’r pentrefwyr gan ddangos barn sy’n awgrymu yr hoffech chi fod yngyfeillgar ond yn teimlo na allwch chi. Ar ôl i hyn orffen, rhyddhewch y ffrâm felbod y plant/pentrefwyr yn ailafael yn eu gweithgareddau.

    Darllenwch hyn i’r dosbarth:

    Dylai’r disgyblion weithio mewn grwpiau i feddwl am ddiweddglo i’r stori.

    Ar ôl iddyn nhw orffen hyn, os oes diweddglo hapus i’r stori, dylen nhw ysgrifennudiweddglo trist ac fel arall.

    Gellid gofyn i’r disgyblion weithio mewn grwpiau neu barau i greu llyfr codi llabedo’r stori maen nhw wedi’i chreu. Esboniwch y byddan nhw wrth godi’r llabedi yngweld sut mae’r cymeriadau’n teimlo ar y tu mewn ar wahanol gyfnodau yn ystori.

    Cerddodd y plant i ffwrdd yn araf. Edrychon nhw’n ôl ar y pentref a gweld

    nad oedd yn euraidd mwyach – a dweud y gwir, roedd y tai yn edrych mor

    llwyd â’r ffens fawr frawychus o amgylch y berllan. Wrth iddyn nhw

    gerdded i ffwrdd, gwaeddodd y pentrefwyr ar eu holau. Roedden nhw’n

    galw enwau hyll arnyn nhw ond gwichiodd un llais bach uchel, ‘Ond mae

    gynnon ni lawer iawn o fwyd. Pam na wnawn ni adael iddyn nhw aros?’

    Peidiodd y pentrefwyr â gweiddi. Trodd y plant a gweld plentyn bach yng

    nghanol y pentrefwyr dig.

    Bu un o’n disgyblionsydd â phroblemaudarllen a sillafu yn defnyddio’rcyfrifiadur i greu llyfrcodi llabed ‘rhithwir’,a oedd yn rhoi cyflei ddisgyblion glicioar berson a gweld‘y tu mewn i’wpen’.

  • 26

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Cyfleoedd dysgu: y broses datrys problemau

    Gellid defnyddio’r stori i atgoffa disgyblion neu gyflwyno disgyblion i’r Broses datrysproblemau, gan ddefnyddio’r poster o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan. Mewn grwpiau, gallennhw actio rhan grŵp y pentrefwyr, pob un â barn benodol am pam y dylai neu na ddylai’rplant yn y stori gael dod i’r pentref ac i rannu’r bwyd. Dylai’r ‘pentrefwyr’ wedyn gynnalcyfarfod datrys problemau gan ddilyn camau’r broses datrys problemau, a chytuno ar gynllun.

    Gellid cymharu cynlluniau gwahanol grwpiau wedyn.

    Esboniwch y gallai’r byd newydd fod ychydig bach fel ysgol:

    • Pan fydd rhywun yn dod i’r ysgol, ydyn ni’n rhoi croeso iddyn nhw? • Sut rydyn ni’n gwneud hynny? • Pa bethau eraill y gallen ni ei wneud i’w croesawu? • Oes unrhyw un wedi teimlo erioed nad oedd croeso iddyn nhw?

    Ar ôl y cyflwyniadau, esboniwch fod meddwl am y byd newydd yn hwyl ond bod rheswmpwysig dros ei wneud. Rydym am gydweithio er mwyn gwneud ein hystafell ddosbarth ynlle gwych i weithio a chwarae ynddo.

    Gofynnwch: ‘Beth ydych chi wedi’i ddysgu o’r byd newydd a allai ein helpu ni?’. Wrth i chiwrando ar syniadau’r disgyblion, efallai gallech chi ofyn y canlynol:

    • Fyddai hynny’n gweithio yn ein hystafell ddosbarth? • Beth fyddai’n rhaid i ni ei wneud? • Oes unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud yn ein dosbarth sy’n ein helpu i gydweithio a

    chyd-chwarae’n dda?

    Yn y trafodaethau efallai yr hoffech chi drafod pethau sy’n digwydd yn yr ysgol.

    Gallai’r rhain gynnwys:

    • cyngor yr ysgol • systemau cyfeillio • rheolau dosbarth a rheolau ysgol • dysgu am ei gilydd mewn amser cylch, ac ati.

    Esboniwch fod y dasg nesaf yn bwysig iawn oherwydd y bydd yn siapio’r ffordd rydyn ni’ndysgu gyda’n gilydd yn yr ysgol.

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gallu defnyddio’r broses datrys problemau i ddatrys problem.

  • 27

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Cyfleoedd dysgu: siarter ein dosbarth

    Yn y grwpiau bach, dylai’r disgyblion gydweithio i greu eu siarter eu hunain argyfer yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio’r daflen adnoddau a ddarperir.

    Efallai yr hoffech ddechrau’r gwaith ar y siarter gyda thrafodaeth am y cysyniadynghylch hawliau a chyfrifoldebau. Mae syniadau ar gyfer ffyrdd effeithiol o wneudhyn wedi’u crynhoi ar daflen adnoddau Cyflwyno hawliau a chyfrifoldebau (gwelertudalen 35).

    Pan fydd y grwpiau wedi gorffen eu siarter, dylai pob grŵp ddewis cynrychiolydd igwrdd ag un o’r oedolion er mwyn penderfynu sut beth fydd y siarter dosbarthterfynol. Dylai’r grŵp hwn o gynrychiolwyr gwrdd a cheisio cynnwys syniadau ganbob grŵp bach er mwyn creu siarter dosbarth terfynol. Dylen nhw fod yn gyfrifolam ysgrifennu’r siarter ar ddarn mawr o bapur ac am sicrhau bod pawb yn hapusgyda’r syniadau ynddo. Dylid annog y disgyblion i feddwl am syniadau ar gyferlluniau camera, arwyddion, symbolau a lluniau fel bod y siarter ysgrifenedig ynhwylus i bawb ei ddefnyddio. Dylai’r holl ddisgyblion lofnodi’r siarter a dylid eiarddangos yn yr ystafell ddosbarth. Gellid gwneud copi a mynd ag un adref irieni/warcheidwaid.

    Deall rheolau

    Os yw disgyblion wedi gweithio ar Thema 1 Dechrau newydd yn y blynyddoeddblaenorol, byddan nhw’n ymwybodol o’r cysylltiadau rhwng siarter y dosbarth arheolau’r ysgol. Esboniwch fod rheolau’n cael eu gwneud fel arfer er mwynsicrhau na chaiff hawliau pobl eu torri ac er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yncyflawni eu cyfrifoldebau.

    Atgoffwch y disgyblion am y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn flaenorol ar ddeallrheolau. Os nad ydyn nhw wedi cwblhau’r set Felen: Blwyddyn 3 yn flaenorol,gallech chi ddefnyddio’r gweithgareddau’n awr.

    Os ydyn nhw wedi gwneud gwaith blaenorol ar ddeall rheolau, gofynnwch iddynnhw drafod rheolau neu ddisgwyliadau’r ysgol a meddwl mewn grwpiau bach neugrwpiau dosbarth sut maen nhw’n cysylltu â’r hawliau a’r cyfrifoldebau maen nhwwedi’u creu yn eu gwaith ar y siarter.

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gallu cyfrannu at wneud siarter dosbarth.

    Dwi’n deall fy hawliau.

    Dwi’n deall fy nghyfrifoldebau yn yr ysgol.

    Dwi’n deall pam mae angen gwahanol reolau arnom mewn gwahanollefydd, ac yn gwybod beth yw’r rheolau yn yr ysgol.

    Fe ddefnyddion nigyfleuster chwilio ar y we i ffurfioymchwiliad grŵp.Bu pob grŵp yngweithio ar wahanolagwedd ar hawliauplant (dysgu, caeleu trin yn deg ac ynblaen) ac yn paratoicyflwyniad.Awgrymais eu bodyn defnyddio pumtudalen PowerPoint:‘Beth yw ystyr … ?’,‘Sut rydyn ni’ndweud ... mewnieithoedd eraill?’,‘Dyma luniau o … ’,‘Allwch chi ddod ohyd i’r gair yn ytestunau hyn?’, ‘Ynein dosbarth, rydynyn gwneud yn siŵrbod gan bawb yrhawl i … drwy … ’.Awgrymais ambellsafle ar yRhyngrwyd ar gyferymchwilio (megissafleoedd chwilioam ddelweddau, a chyfieithu) a buonnhw’n chwilio, yndethol ac yn cadwtestun a delweddau.Fel grŵp, febenderfynon nhwwedyn pa rai i’w rhoiyn eu cyflwyniad,gan ysgrifennubrawddeg ar y cydar gyfer pob tudalena recordio ffeil sainfach. Dangoswyd ycyflwyniadauPowerPoint hyn i’rdosbarth cyfan onddaethon nhw hefydyn adnodd dosbarthi’r disgyblion wrandoarnyn nhw a’udarllen eto.

  • 28

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Cyfleoedd dysgu: croesawu pobl i’n grŵp

    Rhowch degan meddal i bob grŵp ac esbonio, ‘Dyma ddisgybl newydd. Mae wedi dod obell bell.’ Awgrymwch fod y disgyblion yn trafod ac yn dangos sut gallan nhw helpu’r tegani fod yn rhan, yna’n rhoi cynnig ar eu syniadau drwy gydol y dydd, gan gadw’r teganmeddwl gyda nhw drwy’r amser (wrth eu bwrdd, yn y neuadd ginio ac ar yr iard chwarae).Os nad yw tegan meddal yn briodol ar gyfer eich dosbarth, gallech roi her i bob grŵp greueu ‘disgybl newydd’ eu hunain gan ddefnyddio eu dychymyg ac amrywiol ddeunyddiaucrefft neu ddeunyddiau o’r cartref. Gallan nhw ddewis nodweddion penodol ar gyfer eu‘disgybl’, er enghraifft y rheini sy’n ei gwneud yn haws/anoddach i’w ‘disgybl’ fod yn rhan.

    Adolygwch beth wnaeth pob disgybl ar ddiwedd y dydd. Gwnewch restr.

    Os na fydd y disgyblion yn crybwyll hyn, awgrymwch ei fod yn bwysig dangos i rywunnewydd i’r ystafell ddosbarth sut mae pethau’n gweithio a’u helpu i fod yn rhan, ond ei fodhefyd yn angenrheidiol dangos diddordeb ynddyn nhw ac o ble maen nhw wedi dod.

    Gofynnwch i’r disgyblion gwblhau Her y pecyn croeso o’r taflenni adnoddau (gweler tudalen 37).

    Defnyddiwch y gerdd ‘Ffrindiau Bach a Mawr’ o Ar Bwys . . . gan Mererid Hopwood(Gomer, 2007), a welir ar y daflen adnoddau i drafod sut mae bod yn ffrind da, yn enwedigpan fydd pethau’n mynd o chwith. Gall hyn fod yn fan cychwyn trafod sut mae bod yn ffrindda mewn amgylchiadau anodd, er enghraifft pan fydd rhywun yn drist, neu wedi’u heithriogan grŵp. Gallai disgyblion feddwl am strategaethau i’w defnyddio wrth greu grwpiau neuchwarae gêm er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eugwerthfawrogi a’u cynnwys.

    Yn yr ystafell ddosbarth, neu drwy gyfrif o amgylch yr ysgol, gofynnwch i’r disgyblionymchwilio i’r gwahanol ffyrdd rydyn ni’n ei wybod o ddweud croeso. Gellir cynnwysrhieni/warcheidwaid yn y gweithgaredd hwn. Gall disgyblion greu poster o’r holl ffyrddgwahanol o ddweud croeso sy’n bodoli yn yr ysgol, gan gynnwys lluniau, swigod siarad alluniau digidol o ystumiau.

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gwybod sut mae gwneud i rywun deimlo bod croeso iddyn nhw yn yr ysgola’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

    Dwi’n gwybod sut beth yw teimlo nad oes croeso i chi.

    Pwysleisiwch bwysigrwydd cydweithio’n dda fel grŵp, yn arbennig pa mor dda maennhw’n ysgwyddo gwahanol rolau mewn grwpiau ac yn defnyddio iaith briodol iddynnhw, gan gynnwys rôl arweinydd, gohebydd, ysgrifennwr, mentor. Ar ddiwedd ygweithgaredd, efallai yr hoffech ofyn i’r grwpiau ddefnyddio Rhestr wiriohunanadolygu’r broses gydweithio, o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan, er mwynadolygu’r gweithgaredd.

  • 29

    Cyfleoedd dysgu: ymuno â grŵp newydd

    Atgoffwch y disgyblion o’r hyn a ddigwyddodd pan geisiodd y plant yn stori’r pentref ymunoâ grŵp newydd. Esboniwch eich bod yn mynd i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd panfyddwn ni’n gorfod ymuno â grŵp newydd, sut deimlad yw hyn a’r pethau y gallwn ni eugwneud er mwyn ei wneud yn haws.

    Gofynnwch i’r disgyblion am enghreifftiau o adegau y maen nhw wedi ymuno â grŵpnewydd. Gallai enghreifftiau fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol: clwb ar ôl yr ysgol, gemau pêl-rwyd/pêl-droed, ar yr iard chwarae, ysgol newydd, wrth symud tŷ, Cybiaid/Sgowtiaid,gweithgareddau gwyliau, pan fyddwch chi’n mynd ar wyliau. Sut oeddech chi’n teimlo?

    Sicrhewch fod geiriau teimladau sylfaenol yn cael eu cynnwys: llawn cyffro, nerfus ac ofnus.

    Esboniwch fod pawb yn teimlo ychydig bach fel hyn pan fyddan nhw’n gwneud rhywbethnewydd.

    Gofynnwch i’r disgyblion pam, yn eu barn nhw, mae pobl yn teimlo fel hyn.

    Pwysleisiwch nad oes neb yn hoffi teimlo eu bod yn cael eu gwrthod – nid ydyn ni’ngwybod a fydd y bobl yn ein hoffi/mae pob un ohonon ni eisiau perthyn.

    Gofynnwch: ‘Yn y gorffennol, ydy’r ofnau rydyn ni wedi’u teimlo wedi bod yn real neu’nddychmygol?’

    Pan fydd arnon ni ofn, pwysleisiwch fod y ‘disgwyl’ weithiau yn waeth na gwneud rhywbethgo iawn. Pan fyddwn ni wedi’i wneud, fel arfer rydyn ni’n teimlo boddhad a rhyddhad.

    Gofynnwch i’r disgyblion rannu eu syniadau ynghylch yr hyn a oedd wedi’u helpu pan oeddennhw yn y sefyllfa hon. Canolbwyntiwch yn benodol ar yr hyn a wnaethon nhw (er mwynatgyfnerthu’r syniad y gallan nhw helpu’u hunain i newid eu teimladau/yr hyn sydd ar eu meddwl).

    Gellid cyflwyno’r strategaethau canlynol os na fydd y disgyblion yn eu cynnig.

    Ffyrdd o feddwl sy’n rhoi gobaith a chymorth. Esboniwch fod yr hyn rydyn ni’n meddwlamdano ac yn dweud wrthyn ni’n hunain yn effeithio ar sut rydyn ni’n teimlo. Er enghraifft,pan fyddwn yn adrodd storïau ysbryd wrth ein gilydd, mae’n hawdd teimlo’n ofnus iawn.

    Un gweithgaredd a fyddai’n dangos hyn fyddai rhannu’r dosbarth yn hanner – cylch allanolo arsylwyr a chylch mewnol o actorion. Rhowch ddarn o bapur i bob actor, gydag unhanner yn dweud: ‘Fyddan nhw ddim yn fy hoffi i – mae hyn yn mynd i fod yn ofnadwy’, a’r hanner arall yn dweud: ‘Mae hyn yn gyffrous – Dwi’n gwybod mod i’n mynd i gael hwylcwrdd â chymaint o bobl newydd.’

    Gofynnwch i actorion gerdded o gwmpas y cylch mewnol gyda’r meddyliau hyn yn cael euhailadrodd yn eu pen, ac yna fferru’r ffrâm. Gofynnwch i’r grwpiau o arsylwyr edrych ogwmpas a nodi iddyn nhw’u hunain pa blant yr hoffen nhw ymuno â nhw. Trafodwch yrhesymau dros eu dewisiadau, gan ennyn sylwadau am iaith corff a mynegiant wyneb.Datgelwch beth oedd wedi’i ysgrifennu ar y darnau papur.

    Gofynnwch i’r disgyblion drafod sut mae edrych yn gyfeillgar ac yn hyderus – er enghraifft,gwenu, cerdded yn hyderus.

    Deilliannau dysgu bwriedig

    Dwi’n gwybod sut mae ymuno â grŵp.

    Dwi’n gallu rhagweld sut rwyf am deimlo mewn sefyllfa newydd neu wrth gwrdd âphobl newydd.

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

  • 30

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Paratowch ar gyfer cwrdd â phobl. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi rywbethy gallwch chi ofyn iddyn nhw yn ei gylch. Beth allech chi ei ofyn? Pa fath ogwestiynau sydd wedi bod yn fuddiol yn ôl pobl yn y dosbarth?

    Siaradwch am y gwahaniaeth rhwng cwestiynau caeedig a chwestiynau penagored athrafodwch beth yw’r math gorau o gwestiwn i gychwyn sgwrs. Rhowch enghreifftiau:

    • Ydych chi’n byw yn yr ardal? • Sut beth yw byw yn yr ardal? • I ba ysgol ydych chi’n mynd? • Sut le yw eich ysgol? • Ydych chi’n hoffi’ch athro/athrawes? • Sut berson yw Mr X? • Ydych chi’n hoffi pêl-droed? • Beth ydych chi’n hoffi ei wneud?

    Byddwch yn neis wrth bobl. Rhowch ganmoliaeth i’r person a gwrando ar yrhyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Dangoswch ddiddordeb go iawn mewn caelgwybod pethau. Trafodwch ymddygiad gwrando da, ac ymarfer hynny.

    Rhowch gyfle i’r disgyblion ddyfeisio sefyllfa chwarae rôl, gan ddangos rhai o’r‘sgiliau bod yn gyfeillgar’ hyn. Gallai eraill roi adborth ynghylch yr hyn a weithioddyn dda, a’r hyn a fyddai wedi’i wneud yn well fyth.

    Trefnwch amser rhannu gyda dosbarth arall, pan fydd grwpiau’n cael eu gwahoddi ymuno â grŵp newydd neu ddosbarth am gyfnod (gallai hyn fod am awr, am foreneu am ddiwrnod cyfan). Gall disgyblion ymarfer yr holl sgiliau maen nhw wedi’udysgu ac wedi’u hactio.

    Cyfleoedd dysgu: ymdawelu

    Sylwer: Caiff syniadau ar gyfer datblygu strategaethau ymdawelu gyda disgyblioneu hesbonio yn y daflen Sut i ymdawelu sydd yn Ffeil adnoddau ysgol gyfan –gellir llungopïo’r daflen.

    Atgoffwch y disgyblion, pan fyddwn yn teimlo’n nerfus neu’n ofnus fel y byddwnyn aml iawn wrth ymuno â grŵp newydd, bydd angen i ni ddod o hyd i ffyrdd odawelu’r corff a’r meddwl. Gofynnwch i’r disgyblion rannu eu syniadau ynghylchsut rydyn ni’n teimlo y tu mewn a’r hyn a wnawn ni pan fyddwn yn teimlo’nbryderus neu’n ofnus.

    Os yw’n bosib, dewiswch gerddoriaeth dawel ac, o bosib, ychydig o luniau sy’ntawelu, a dywedwch sut gallai’r rhain helpu rhai pobl.

    Mewn grŵp, trafodwch yr holl ffyrdd mae’r disgyblion yn gwybod amdanyn nhwi’w helpu i ymdawelu pan fyddan nhw’n teimlo’n ofidus neu’n nerfus. Cofnodwcheu syniadau i gyd.

    Deilliant dysgu bwriedig

    Dwi’n gallu rheoli fy nheimladau, a dwi’n gallu dod o hyd fel arfer i ffyrdd oymdawelu pan fydd angen.

    Fe wnaethon niddatblygu’rgweithgaredd hwnar gyfer disgybl ynfy nosbarth sy’n eichael yn anoddtrafod y syniadauhyn. Fe wnaethon nigwis ar dâp oddisgyblion ynsmalio siarad gydagwahanol bobl –disgybl iau, athronewydd, brawd neuchwaer, ffrind, yroffeiriad lleol, ayb.Roedd yn rhaid iPeter benderfynugyda phwy roeddpob disgybl ynsiarad ar sail ygeiriau roeddennhw’n eu defnyddioa thôn eu llais.

    Fe wnaethon niychwaneguarogleuon sy’ntawelu, megislafant, a gweadaumegis ffwr a felfed,a’u rhoi yn y ‘gornelymdawelu’ yn yrystafell ddosbarth.

  • 31

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Dylid casglu’r syniadau at ei gilydd a gwneud poster dosbarth i atgoffa’r disgybliono’r gwahanol ffyrdd o ymdawelu. Gallen nhw gofnodi sut maen nhw’n teimlo drwygydol y dydd a chael eu hannog i sylwi os ydyn nhw’n dechrau teimlo bod angeniddyn nhw ymdawelu. Gallech chi gyflwyno neu ailedrych ar y Baromedremosiynau o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan, gan roi un i bob disgybl ei gadw ar eubwrdd i ddangos beth maen nhw’n ei deimlo ac i ba raddau (ychydig bach, cryndipyn, llawer, gormod!).

    Cyfleoedd dysgu: Dechrau newydd

    Gan ddefnyddio eu profiadau o weithio ar y syniad o groesawu pobl i grwpiau acymuno â nhw, siarter y dosbarth a’r gwaith ar deimladau, dylai pob plentynbenderfynu ar y canlynol:

    • un peth bydden nhw’n mynd gyda nhw o’r ysgol hon i ysgol ‘ddelfrydol’ pebydden nhw’n cael y cyfle

    • un peth bydden nhw’n ei adael ar ôl • un peth neu syniad newydd y bydden nhw’n ei greu’n arbennig i fynd gyda nhw. Gallai’r pethau hyn fod yn ddiriaethol megis offer ar yr iard chwarae, ond gallennhw hefyd fod yn bethau anniriaethol – er enghraifft, gallen nhw ddewis mynd âtheimladau hapus, neu synnwyr digrifwch, a gadael y galw enwau ar ôl.

    Rhowch dair deilen o wahanol liw i bob disgybl. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennuneu dynnu llun eu cyfraniad ar y ddeilen lliw priodol i fynd â hi i’r gwasanaeth igyfrannu at arddangosfa’r ysgol gyfan. Dylid cytuno ar y lliwiau rhwngdosbarthiadau fel bod cysondeb.

    Bydd yn edrych yn fwy deniadol os defnyddir dail gwyrdd golau a thywyll ar gyfery pethau i fynd gyda nhw, a dail oren neu frown ar gyfer y rheini a adewir ar ôl.

    Dylid mynd â’r dail hyn i’r gwasanaeth olaf. Dylai dail sy’n cynnwys y pethau i fyndgyda nhw neu’r pethau i’w datblygu yn yr ysgol gael eu glynu ar yr arddangosfa.Dylai’r pethau sydd i’w gadael ar ôl gael eu rhoi mewn bin arbennig ar y fforddallan o’r gwasanaeth (a’u cadw i’w hadolygu gan y tîm arwain fel adborth defnyddiol).

    Gweithgareddau parhaus

    Un ffordd o ddangos bod pob plentyn yn cael ei werthfawrogi yw defnyddioieithoedd gwahanol i ddweud croeso wrth alw’r gofrestr.

    Wrth alw’r gofrestr, gofynnwch i’r disgyblion ddweud sut maen nhw’n teimlo arraddfa o 1 i 10, gan ganolbwyntio ar y teimladau allweddol (hapus, trist, ofnus,

    Deilliannau dysgu bwriedig

    (Adolygu deilliannau dysgu’r set Las)

    Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i gymuned.

    Dwi’n gwybod beth mae’n rhaid i mi ei wneud er mwyn gwneud yr ystafellddosbarth a’r ysgol yn lle diogel a theg i bawb, ac nad yw’n iawn i bobleraill ei wneud yn anniogel neu’n annheg.

    Cafodd grŵp bacho ddisgyblion, sy’nei chael yn anoddysgrifennu, lawer ohwyl wrth gynllunioa chreu amrywiaetho ‘greadigaethau’ i fynd i’r ysgolnewydd, gangynnwys peiriant aoedd yn gwneudpawb yn garedig apheiriant gwneudfferins a oedd ynpara am byth. Fewnaethon nhwddangos eumodelau yn ygwasanaeth.

  • 32

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    llawn cyffro), neu ddewis ‘deilen’ â chlip ffabrig bachyn-a-dolen ar y cefn ac arni air sy’ndisgrifio sut maen nhw’n teimlo bob bore, a rhoi’r ddeilen hon ar ‘goeden’ dosbarth.

    Gadewch i ddisgyblion gael eu baromedr emosiynau ar eu desgiau i ddangos sut mae euteimladau yn newid drwy gydol y dydd ac i roi cyfle iddyn nhw weld sut mae pawb yn ydosbarth yn teimlo. Cysylltwch hyn ag unrhyw ddigwyddiadau a all wneud i bobl deimlo’nhapus, yn drist, yn ofnus neu’n llawn cyffro, a chysylltu hyn hefyd â siarter y dosbarth.

    Wrth dynnu sylw at reol yn yr ysgol, cysylltwch hyn bob amser â siarter y dosbarth a’rcyfrifoldebau mae’r disgyblion wedi cytuno iddyn nhw.

    Pan fydd y disgyblion yn anghofio’r rheol, defnyddiwch yr ymadrodd, ‘Beth yw ein rheolynghylch ...?’, neu ‘Cofiwch y rheol ar gyfer ... ’ a gofynnwch iddyn nhw atgoffa ei gilyddpam fod gennym y rheol benodol honno (er enghraifft, aros eich tro i ateb fel ei bod yn dega bod pawb yn cael cyfle).

    Pan fyddwch yn defnyddio cosbau neu ganlyniadau oherwydd na chadwodddisgyblion at reol, manteisiwch ar y cyfle eto i atgoffa’r disgyblion ynghylch y siarter.Gofynnwch i’r disgyblion sut mae eu gweithred yn cymharu â’r siarter, a sut gallan nhw‘gywiro pethau’.

    Sicrhewch yn rheolaidd fod ‘parau ar hap’ yn cydweithio, fel bod pawb yn cael cyfle iddod i adnabod pawb arall yn y dosbarth dros amser. O bryd i’w gilydd, defnyddiwch ffyrddmegis tynnu enwau o het, lluniau wedi’u torri’n hanner, hanner brawddegau sy’n paru neugemau megis ‘Dewch o hyd i rywun sydd hefyd ...’ er mwyn cael hwyl yn y broses paru.

    Ceisiwch annog y dosbarth i weithio mewn grwpiau ‘cartref’ cadarn o allu cymysg,yn ogystal â gyda gwahanol bartneriaid, ac i deimlo eu bod yn rhan o grŵp sy’n perthyn i’wgilydd, sydd yn ei dro yn rhan o ddosbarth sy’n perthyn i’w gilydd.

    Dysgwch bob disgybl i ddefnyddio iaith arwyddion i ddweud ‘Helo, fy enw i yw ....’,‘Beth yw dy enw di?’ a ‘Hwyl fawr’ os nad ydyn nhw eisoes yn gwybod sut mae gwneudhyn. Trafodwch y materion sy’n ymwneud ag ymuno â grŵp os ydych chi’n fyddar neu osydych chi’n ei chael yn anodd mynegi eich hun. Ceisiwch eu hannog i dreulio amser yngwrando ac yn deall.

    Pan fydd ymwelydd, athro llanw neu ddisgybl newydd yn dod i’r dosbarth, atgoffwch ydisgyblion i roi’r pecyn croeso iddyn nhw. Trafodwch pa wybodaeth newydd ddylid cytunoarni a’i chynnwys. Gallen nhw hefyd wneud pecyn ‘Croeso i Gymru’ ar gyfer plant sy’ncyrraedd o wlad arall.

    Defnyddiwch bob cyfle i atgoffa’r disgyblion i weithredu’r technegau ymdawelu maen nhwwedi’u nodi ac i ddefnyddio’r broses datrys problemau. Gallech greu cornel ‘ymdawelu’ ynyr ystafell ddosbarth. Gallai’r disgyblion awgrymu beth ddylai fynd i’r gornel ymdawelu (erenghraifft, dodrefn meddal, tâp cerddoriaeth dawel, baromedr emosiynau, a chiwb rhew tridimensiwn wedi’i wneud o gerdyn yn hongian uwch ben llun wal o ddiferion dŵr, pob un âstrategaeth ymdawelu wedi’i hysgrifennu arnyn nhw neu ar ffurf llun).

  • 33

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Cwestiynau ar gyfer myfyrio ac ymholi

    • Ar yr amod nad ydw i’n eich brifo chi neu’n achosi gofid i chi, oes gen i’r hawl i fod yrhyn rydw i eisiau bod?

    • Oes rhaid i mi fod fel chi er mwyn i chi fy hoffi? • Tybed a ddylen ni rannu ein pethau bob amser? Beth yw eich barn chi? • Tybed a ddylen ni adael i unrhyw un ymuno â’n grwpiau? Beth yw eich barn chi?• Beth fyddai’n digwydd pe bai pawb eisiau ymuno â’r un grŵp? • Pam nad yw pobl weithiau am i bobl eraill ymuno â’u grwpiau? • Ydy pawb eisiau bod yn yr un grwpiau? • Ydy rhai grwpiau’n fwy poblogaidd na’i gilydd?

    Adolygu

    • Beth ydych chi wedi’i ddysgu wrth feddwl am ddechreuadau newydd? • Ydy hyn wedi newid y ffordd rydych chi’n meddwl am bethau neu’n eu deall? • Dyma’r pethau dywedon ni bydden ni’n dysgu eu gwneud yn ein gwaith ar y thema

    hon . . . Ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu gwneud y pethau hynny’n awr?

  • 34

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Taflen adnoddau set Felen: Blwyddyn 4

    Olwyn ffefrynnau

    Bwriad y gêm hon yw eich helpu i ddysgu am y bobl yn eich dosbarth.

    Beth i’w wneud

    Ysgrifennwch neu tynnwch lun o’ch hoff bethau yn yr ail gylch o’r canol.

    Dewch o hyd i rywun sydd â’r un hoff bethau ac ysgrifennwch eu henw yn y cylch canol.

    Ceisiwch ddod o hyd i enw gwahanol ar gyfer pob hoff beth.

  • 35

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Taflen adnoddau set Felen: Blwyddyn 4

    Cyflwyno hawliau a chyfrifoldebau

    Cyflwyno’r syniad o hawliau

    Rhowch binnau ffelt/creonau/papur i bob disgybl sy’n gwisgo eitem benodol o ddillad (e.e. esgidiau brown) neu’r rhai sydd â gwallt hir, er enghraifft.

    Gofynnwch iddyn nhw dynnu llun ohonyn nhw’u hunain.

    Pan fyddan nhw’n gofyn am bapur, ac ati, esboniwch eich bod ond yn gweithio gyda’rdisgyblion sydd â ... heddiw.

    Pan fyddan nhw’n dweud ‘Dydy hynny ddim yn deg’, gofynnwch pam ddim ac ynagofynnwch iddyn nhw a oedden nhw wedi’u synnu nad oeddech chi’n deg. Siaradwch am y ffaith eich bod yn yr ysgol yn disgwyl i athrawon eich trin yn deg – dywedwch wrthynnhw bod hyn yn ‘hawl’ sydd ganddyn nhw yn yr ysgol.

    Esboniwch fod ‘hawl’ yn rhywbeth dylai pawb ddisgwyl ei gael pan fyddan nhw yn yr ysgol ... Mae’n disgrifio sut bydden ni’n hoffi pethau i fod.

    Esboniwch eich bod am i’r dosbarth gydweithio er mwyn gwneud ein hystafell ddosbarth yn lle gwych i ddysgu a chwarae ynddo. Er mwyn gwneud hyn, atgoffwch y disgyblion fodgan bawb yn yr ystafell ddosbarth hawliau penodol – mae’n rhaid cael tegwch i bawb yn yrystafell ddosbarth.

    Gofynnwch i’r disgyblion gynnig eu syniadau ynghylch pa hawliau maen nhw’n credu dylennhw eu cael yn eu hystafell ddosbarth. Er enghraifft:

    • dylai pobl barchu eich pethau a pheidio â’u cymryd • dylai pobl ofyn cyn cael benthyg pethau • dylai pobl wrando arnyn nhw • dylen nhw gael cyfle i ddweud eu barn • dylen nhw gael digon o lyfrau i’w darllen • dylen nhw gael digon o sisyrnau a phaent • dylai pobl roi pethau’n ôl ar ôl iddyn nhw eu defnyddio • dylai pobl fod yn garedig wrthoch chi a pheidio â bod yn greulon na galw enwau

    arnoch chi

    • dylen nhw gael yr un cyfle â phobl eraill i ddefnyddio’r pethau yn yr ystafell ddosbarth • dylai pobl eich helpu chi gyda’ch gwaith os ydych chi’n cael trafferth • dylid dweud y drefn wrth ddisgyblion os ydyn nhw’n ddigywilydd neu’n gas. Ceisiwch drefnu cyfraniadau’r disgyblion yn ôl y categorïau syml canlynol, gan roicyfraniadau’r disgyblion fel ‘enghreifftiau’ o bob un.

    Yr hawl i gael eich trin yn deg (er enghraifft, i bawb gael yr un nifer o gyfleoedd iddefnyddio’r cyfrifiadur).

    Yr hawl i gael parch atoch chi a’ch pethau (er enghraifft, i bobl wrando ar y person sy’nsiarad, i ddefnyddio’r enw y mae’r person yn gofyn i chi ei ddefnyddio, neu enw maennhw’n hapus i chi ei ddefnyddio, i bobl fod yn gwrtais).

    Yr hawl i ddysgu (er enghraifft, i weithio heb i neb na dim darfu arnoch chi, i gael y pethauangenrheidiol i weithio, i allu gofyn i’r athro/athrawes am gymorth).

  • 36

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 © Hawlfraint y Goron 2010

    1577-2010-CYMRU

    Yr hawl i fwynhau dod i’r ysgol a mwynhau dysgu – i deimlo’n ddiogel ac i fod yn ddiogel(os bydd disgyblion wedi cwblhau ‘siarter bwlio’ yn y tymor blaenorol, bydd yn berthnasoleu hatgoffa o hyn yma).

    Yr hawl i bawb gael eu cynnwys.

    Dyma gyfle delfrydol i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn felfframwaith creiddiol ar gyfer hawliau plant. Gellir cael gwybodaeth ynwww.plantyngnghymru.org.uk/unconvention/index.html

    Cyflwyno’r syniad o gyfrifoldebau

    Defnyddiwch glorian a rhowch bwysau wedi’i labelu â’r gair Hawliau mewn un badell, ganddangos sut mae’n symud. Esboniwch fod yn rhaid i bawb ymddwyn yn gyfrifol er mwyn ibawb allu mwynhau eu hawliau. Cyfrifoldeb yw’r hyn mae’n rhaid i ni ei wneud er mwynsicrhau bod hawliau pobl eraill yn cael eu parchu. Er enghraifft, os oes gennym ni hawl i allucadw ein pethau yn ddiogel yn yr ystafell ddosbarth, beth yw ein cyfrifoldeb? Gwneud ynsiŵr bod pethau pobl eraill yn ddiogel a pheidio â’u cyffwrdd.

    Rhowch bwysau o’r un faint, wedi’i labelu â’r gair Cyfrifoldebau, yn yr ail badell ar y glorian,gan ddangos sut mae hyn yn cydbwyso’r glorian. Defnyddiwch yr hawliau mae’r disgyblionwedi’u cyfrannu i greu mwy o enghreifftiau o gyfrifoldebau sy’n ‘cydbwyso’ yr hawliau.

  • 37

    © Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4

    1577-2010-CYMRU

    Taflen adnoddau set Felen: Blwyddyn 4

    Her y pecyn croeso

    COFIWCH EICH SGILIAU GRŴP

    Cofiwch feddwl am SUT byddwch yn cydweithio yn ogystal â BETH fydd gennych ar y diwedd!

    Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pwy sy’n gwneud beth yn y grŵp –dewiswch rywun i fod yn arweinydd, rhywun i adrodd yn ôl, rhywun sy’n ysgrifennupethau, a rhywun i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cynnwys.

    Talking and planningtogether

    Activities

    Presenting to the class

    Weithiau mae’r dosbarth yn lwcus ac maen nhw’n cael rhywun newydd i’r ysgol. Gallai’rrhywun yma fod yn ddisgybl newydd neu’n oedolyn. Eich her chi yw gwneud pecyn croesogellir ei roi i helpu unrhyw berson newydd sy’n ymuno â’r ysgol am y tro cyntaf.

    Dylai’ch pecyn gynnwys:

    • gwybodaeth am yr ysgol, ar ffurf ysgrifenedig ac ar ffurf lluniau. Dylai hyn gynnwys ypethau da am yr ysgol yn ogystal ag ambell drefn a’r pethau mae angen iddyn nhwwybod amdanyn nhw

    • addewid ynghylch sut mae’r grŵp yn mynd i wneud i’r person newydd deimlo bodcroeso iddyn nhw, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn perthyn

    • rhywbeth arbennig a fydd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n dda. Pan fydd eich pecyn wedi’i orffen, dylech ei arddangos, a dylai un aelod o’ch grŵp arosgyda’r pecyn i’w esbonio i aelodau eraill y dosbarth. Gallen nhw ddefnyddio nodiadau bachgludiog i roi adborth i chi am eich pecyn.

    Beth am ddangos eich pecyn croeso i bobl gartref neu bobl sy’n ymweld â’r ysgol?Gofynnwch iddyn nhw a yw’r pecyn yn dweud popeth maen nhw am ei wybod.

    Siarad a chynllunio gyda’ch gilydd

    Gweithgareddau Cyflwyno i’r dosbarth

  • 38

    Dechrau newydd Blynyddoedd 3 a 4 �