cynradd penaethiaid,athrawon acymarferwyrmewn …sealcommunity.org/files/resources/theme 7 -...

7
Cynradd Agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu – Cymru Thema 7 Newidiadau Gweithgareddau ystafell athrawon Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen a ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a Gwasanaethau Plant Dyddiad cyhoeddi: 09-2010 Cyf: 1374-2010-CYMRU

Upload: others

Post on 17-Jul-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cynradd Penaethiaid,athrawon acymarferwyrmewn …sealcommunity.org/files/resources/Theme 7 - Staff... · 2012-06-13 · Cynradd Agweddaucymdeithasolac emosiynolarddysgu–Cymru Thema7Newidiadau

CynraddAgweddau cymdeithasol acemosiynol ar ddysgu – Cymru

Thema 7 NewidiadauGweithgareddau ystafellathrawon

Penaethiaid, athrawon

ac ymarferwyr mewn

lleoliadau Cyfnod Sylfaen

a ariennir, ysgolion

cynradd, ysgolion

arbennig, a staff

awdurdodau lleol a

Gwasanaethau Plant

Dyddiad cyhoeddi: 09-2010

Cyf: 1374-2010-CYMRU

Page 2: Cynradd Penaethiaid,athrawon acymarferwyrmewn …sealcommunity.org/files/resources/Theme 7 - Staff... · 2012-06-13 · Cynradd Agweddaucymdeithasolac emosiynolarddysgu–Cymru Thema7Newidiadau

Ymwadiad

Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ddatgan yn glir nad yw’r Adran a’ihasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am union gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiff euhawgrymu’n ffynonellau gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn, boed y deunyddiau hynny ar ffurfcyhoeddiadau print neu ar wefan.

Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau eu defnyddio amresymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith eu bod nhw’n cael eu defnyddio’n golygubod cwmnïau penodol na’u cynnyrch yn cael eu cymeradwyo.

Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli pan gafodd y deunyddiaueu cyhoeddi. Dylech wirio pob cyfeiriad at wefan yn ofalus er mwyn gweld a ydynt wedinewid, a dylech eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill lle bo hynny’n briodol.

Page 3: Cynradd Penaethiaid,athrawon acymarferwyrmewn …sealcommunity.org/files/resources/Theme 7 - Staff... · 2012-06-13 · Cynradd Agweddaucymdeithasolac emosiynolarddysgu–Cymru Thema7Newidiadau

© Hawlfraint y Goron 2010 Newidiadau Gweithgareddau ystafell athrawon

1374-2010-CYMRU

Set Borffor

Cyflwyniad

Cynlluniwyd y gweithgareddau canlynol i’w cynnal yn yr ystafell athrawon er mwyn helpuoedolion i ymgyfarwyddo â meysydd y thema ar lefel oedolyn, ac i brofi’n uniongyrchol raio’r gweithgareddau bydd y disgyblion yn eu gwneud yn ystod gwahanol gamau.

Cynlluniwyd y gweithgareddau hyn i’ch helpu chi fel staff i ystyried y materion sy’nberthnasol wrth weithio gyda disgyblion ar y teimladau a’r mathau o ymddygiad sy’ngysylltiedig â newid.

Dyma’r syniadau a’r cysyniadau allweddol sy’n sail i’r thema hon.

• Gall newid fod yn anghyfforddus, oherwydd gall fygwth ein hanghenion sylfaenol ideimlo’n ddiogel a pherthyn.

• Gall newid hefyd fod yn ysgogol ac yn rhywbeth i’w groesawu.

• Gall oedolion a phlant brofi amrywiaeth o emosiynau pwerus a chymysg o ganlyniad inewid – er enghraifft, cyffro, gofid, ansicrwydd, colled, dig, llid.

• Gall ansicrwydd, diffyg gwybodaeth, neu wybodaeth anghywir, a diffyg cefnogaeth ganeraill waethygu pryderon am newid.

• Mae ymatebion pobl i newid a’u gallu i ymdopi â newid yn amrywiol iawn, a gallaicymeriad yr unigolyn, profiad blaenorol o newid a natur y newid – boed yn ddewisolneu’n orfodol, yn ddisgwyliedig neu’n annisgwyl, o fewn ein rheolaeth neu’r tu hwnt i’nrheolaeth ddylanwadu ar hyn.

Gweithgaredd 1: Newidiadau yn ein bywydau

Mae hyn yn seiliedig ar y gweithgaredd yn y set Felen: Blwyddyn 3 (gweler tudalennau9–11) ac hefyd y daflen adnoddau o’r set Aur ‘Newidiadau 3 – Taith fy mywyd’.

Adnoddau

• Un ddalen fawr o bapur i bob person, peniau lliw

Beth i’w wneud

Tynnwch lun o daith eich bywyd ar ddarn o bapur, gan gynnwys dim ond y pethau yn eichbywyd rydych chi’n hapus i’w rhannu. Er enghraifft, gallech chi dynnu llun o ffordd droellogac ysgrifennu ar y top ‘Cefais fy ngeni … ’ gyda’r dyddiad. Mae’r ffordd yn cynrychioli eichbywyd ac ar adegau penodol ar hyd y ffordd, bydd yna newidiadau, rhai yn fawr, rhai ynfach. Mae’n bwysig bod pob person yn penderfynu beth sy’n bwysig iddyn nhw ac ond yncynnwys beth maen nhw’n hapus i’w rannu gyda’u cydweithwyr.

Yn unigol, defnyddiwch wahanol beniau lliw i ysgrifennu rhai o’r teimladau gwnaethoch chieu profi ar y pryd, wrth ymyl rhai o’r newidiadau ar daith eich bywyd. Fel grwp, trafodwch yteimladau mwyaf cyffredin gwnaethoch chi i gyd eu nodi.

1

Page 4: Cynradd Penaethiaid,athrawon acymarferwyrmewn …sealcommunity.org/files/resources/Theme 7 - Staff... · 2012-06-13 · Cynradd Agweddaucymdeithasolac emosiynolarddysgu–Cymru Thema7Newidiadau

Ystyriwch a oedd y newidiadau gwnaethoch chi eu nodi ar daith eich bywyd yn:

• naturiol – hynny yw, y math o newidiadau sy’n digwydd i bob un ohonon ni wrthheneiddio

• newidiadau gwnaethoch chi eu dewis neu gwnaethoch anelu atyn nhw’n fwriadol

• newidiadau gorfodol, a oedd y tu hwnt i’ch rheolaeth

• newidiadau roeddech chi’n eu croesawu

• newidiadau digroeso.

Trafodwch fel grwp: ‘Ydy newid yn hawdd? Pa fathau o newid sy’n haws nag eraill?’.

Meddyliwch am newid rydych chi neu rywun agos atoch chi wedi ei wynebu a fyddai’naddas ar gyfer y categori hwn (ni fydd angen i chi rannu natur y newid hwn os na fyddwchchi am wneud hynny).

Trafodwch gyda phartner sut gwnaethoch chi ymdopi â’r newid hwn a beth a’ch helpodd ireoli’r teimladau gwnaeth y newid eu hysgogi. Rhowch adborth i’r grwp, gan nodi ffactorautebyg a gwahanol, a nodi’r amrywiaeth o strategaethau a oedd yn ddefnyddiol i bobl.

Gweithgaredd 2: Meddwl am newid

Beth i’w wneud

Gofynnwch i bobl nodi dau newid o’r gweithgaredd cyntaf neu newid a oedd yn negyddolac un a oedd yn gadarnhaol, yn eu barn nhw. Trafodwch y cwestiynau canlynol.

• Beth oedd nodweddion y ddau newid?

• Beth wnaeth y newid yn gadarnhaol neu’n negyddol?

• Sut gallwn ni helpu pobl sy’n wynebu newid?

Gweithgaredd 3: Disgyblion a newid

Beth i’w wneud

Mewn grwpiau bach, ystyriwch a rhestrwch unrhyw newidiadau mawr mae’r disgyblion yneich dosbarth wedi eu hwynebu (neu gallan nhw fod wedi’u hwynebu). Gallech chi ofyn i’rgrwpiau roi gradd i’r newidiadau hyn ar raddfa o 1 i 10 er mwyn nodi pa mor anodd gallannhw fod i’r disgyblion, a thrafod:

• sut rydych chi wedi helpu disgyblion sydd wedi wynebu amrywiaeth o newidiadau

• sut mae’r ysgol yn helpu disgyblion sy’n ymdopi â newid sylweddol neu sydd wediwynebu newid sylweddol, a pha mor effeithiol yw’r strategaethau hyn

• beth allai’r ysgol ei wneud i helpu disgyblion i ymdrin â newid (er enghraifft, creu agalluogi ethos cadarnhaol; sefydlu systemau ‘cyfeillio’ i ddarparu clust i wrando arddisgyblion; defnyddio sgiliau gwrando gweithredol a sicrhau bod y disgyblion ynteimlo’n ddiogel wrth siarad am eu teimladau; sicrhau bod cymaint â phosibl ynparhau’n sefydlog ac yn gyfarwydd i’r disgybl; paratoi’r disgyblion lle bynnag y bo’nbosib ar gyfer newidiadau arfaethedig).

(Byddai’n ddefnyddiol ailgyfeirio at rai o’r gweithgareddau o’r set Borffor sy’n canolbwyntioar golled yn Thema 6 Cydberthnasau yn ystod y cam hwn.)

2

Newidiadau Gweithgareddau ystafell athrawon © Hawlfraint y Goron 2010

1374-2010-CYMRU

Page 5: Cynradd Penaethiaid,athrawon acymarferwyrmewn …sealcommunity.org/files/resources/Theme 7 - Staff... · 2012-06-13 · Cynradd Agweddaucymdeithasolac emosiynolarddysgu–Cymru Thema7Newidiadau

Gweithgaredd 4: Ymatebion unigol i newid

Beth i’w wneud

Ysgrifennwch y rhifau 1 i 10 ar ddalenni unigol o bapur a rhowch y dalenni mewn llinell ar yllawr. Dychmygwch fod rhif 1 yn cynrychioli’r agwedd fwyaf cadarnhaol at newid gallaiunigolyn ei harddel (mwynhau a chroesawu’r newid ym mhob ffordd, ddim yn hoffi trefn).Mae rhif 10 yn cynrychioli agwedd negyddol at newid (ei chael hi’n anodd ymdopi â phobmath o newid, awydd cryf i lynu at arferion cyffredin).

Gosodwch eich hun ar y llinell yn ôl sut byddech chi’n graddio eich teimladau chi eich hunam newid. Mae’n debyg bydd unigolion wedi’u dosbarthu ar hyd y llinell, gan gynrychioliamrywiaeth o agweddau.

Trafodwch sut gallai’r gweithgaredd hwn eich helpu i feddwl am sut bydd newid yn effeithioar ddisgyblion mewn gwahanol ffyrdd. Gallai enghreifftiau gynnwys y disgybl gydaganhwylder sbectrwm awtistig gall unrhyw newid fod yn anodd iddo, a’r disgybl aganhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd mae angen ysgogiadau sy’n newid ynrheolaidd arno. Rhwng yr eithafoedd hyn, bydd amrywiaeth o ymatebion i newid ganddibynnu ar bersonoliaeth, diwylliant a hanes unigol.

Defnyddiwch yr enghraifft ganlynol, sy’n seiliedig ar weithgaredd yn y set Werdd:Blwyddyn 5 (gweler tudalennau 9–11).

Er ei bod hi’n bosib i ni gael cymysgedd tebyg i’n gilydd o ran y teimladau a ddangoswnmewn ymateb i newidiadau a heriau, mae gan bob un ohonon ni hefyd ein hanes einhunain, sy’n golygu bod y ffordd rydyn ni’n teimlo, yn meddwl ac yn ymddwyn yn wahanol iunrhyw un arall. Mae angen i ni ddeall ein teimladau a’n hymddygiad ni ein hunain atheimladau ac ymddygiad pobl eraill. Darllenwch y stori ganlynol yn uchel.

Eglurwch fod angen i’r disgyblion feddwl pam y gallai Jac a Rehana fod wedi’u cynhyrfugan y newid i’r cynllun. Y rhesymau gwirioneddol a roddir yw bod Jac wedi cael profiadgwael iawn yn y môr pan oedd yn fach, gan fynd allan o’i ddyfnder wrth orwedd ar fatrasaer, a’i fod wedi bod ofn y môr byth ers hynny; roedd Rehana wedi dod yn ofnus iawn ganfod pobl ar lan y môr yn gwisgo dillad nofio ac roedd hi’n gwybod nad oedd ei theulu hi’ngadael i blant ifanc ddangos eu coesau ac roedd yn poeni byddai’n cael eu gorfodi iwneud rhywbeth doedd hi ddim eisiau ei wneud.

Roedd athrawes plant Cyfnod Sylfaen yn gyffrous iawn. Roedden nhw wedicynllunio ymweliad â’r amgueddfa ond doedd neb i weld yn awyddus iawn. Ar yfunud olaf, roedd y cwmni bysys wedi ffonio i ymddiheuro na fydden nhw’n gallumynd â’r plant i’r amgueddfa ar y diwrnod a drefnwyd. Yn lle hynny, fe gynigionnhw fynd â’r dosbarth cyfan i lan y môr ar ddiwrnod gwahanol. Ni allai’rathrawes aros i ddweud wrth y plant. Pan ddywedodd hi wrthyn nhw, dechreuoddbron pob un ohonyn nhw weiddi a siarad yn gyffrous â’i gilydd. Am lwcus! Ondwedyn sylwodd ar Jac, yn crio’n dawel â’i ben ar ei ddesg yn y gornel, a Rehanayn cuddio y tu ôl i’r cotiau, gyda’i bawd yn ei cheg a golwg ofnus ar ei wyneb.

3

© Hawlfraint y Goron 2010 Newidiadau Gweithgareddau ystafell athrawon

1374-2010-CYMRU

Page 6: Cynradd Penaethiaid,athrawon acymarferwyrmewn …sealcommunity.org/files/resources/Theme 7 - Staff... · 2012-06-13 · Cynradd Agweddaucymdeithasolac emosiynolarddysgu–Cymru Thema7Newidiadau

Gall ein hanes unigol wneud i ni ymddwyn mewn ffyrdd penodol. Yn aml dydyn ni ddim yngwybod beth sydd wedi digwydd mewn bywydau pobl eraill, ac felly weithiau mae euhymddygiad a’u hymatebion i weld yn rhyfedd neu’n anghymesur. Dywediad defnyddiol i’wrhannu yw, ‘Peidiwch byth â barnu person tan y byddwch chi wedi cerdded pythefnos yneu hesgidiau.’

(Gallech drafod y syniad o fannau gwan i egluro pam bod rhai disgyblion yn ymateb yn waeliawn i newidiadau penodol os bydd amser yn caniatáu – caiff y cysyniad ei gyflwyno yn y setWerdd: Blwyddyn 5 (gweler tudalennau 9–11), felly byddai angen copi o’r gweithgareddau hyn.Gallai gwirfoddolwr ddarllen y gweithgaredd yn uchel fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth.)

4

Newidiadau Gweithgareddau ystafell athrawon © Hawlfraint y Goron 2010

1374-2010-CYMRU

Page 7: Cynradd Penaethiaid,athrawon acymarferwyrmewn …sealcommunity.org/files/resources/Theme 7 - Staff... · 2012-06-13 · Cynradd Agweddaucymdeithasolac emosiynolarddysgu–Cymru Thema7Newidiadau

Gallwch lawrlwytho’r cyhoeddiad hwn a chael mwy owybodaeth yn:www.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Dylech ddyfynnu’r cyfeirnod hwn: 1374-2010-CYMRU

© Hawlfraint y Goron 2010

Gellir atgynhyrchu darnau o’r ddogfen hon at ddibenion sy’nymwneud ag addysg, hyfforddiant neu ymchwil anfasnachol,cyhyd â bod y ffynhonnell yn cael ei chydnabod yn hawlfraint yGoron, bod teitl y cyhoeddiad yn cael ei nodi, bod y deunyddyn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddiomewn cyd-destun camarweiniol.

Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodirgan hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunyddyn y cyhoeddiad hwn y nodir ei fod yn hawlfraint trydyddparti.

Ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, cysylltwch â[email protected]/click-use/index.htm

Seiliwyd y deunyddiau hyn ar y deunyddiau Primary: Socialand emotional aspects of learning a ddatblygwyd yn wreiddiolgan Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Lloegr. Addaswyd a chyfiei-thwyd y deunyddiau hyn i’w defnyddio yng Nghymru gan YrAdran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gyda chani-atâd yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn Lloegr.

Tîm Ennyn Diddordeb DisgyblionAPADGOSLlywodraeth Cynulliad CymruParc CathaysCaerdyddCF10 3NQFfôn: 029 2082 1556Ffacs: 029 2080 1044e-bost: [email protected]