dechreuwch yma mynd...

65
Canllaw i arweinwyr cwrs ar redeg sesiynau ymarferol i ddechreuwyr ar gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. CANLLAW I ARWEINWYR CWRS Mynd ar-lein un clic ar y tro Dechreuwch yma

Upload: others

Post on 11-Oct-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Canllaw i arweinwyr cwrs ar redeg sesiynau ymarferol i ddechreuwyr ar gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.

CANLLAW I ARWEINWYR CWRS

Mynd ar-leinun clic ar y tro

Dechreuwch yma

Page 2: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Cyflwyniad i • Y cwrs 1arweinwyr cwrs • Cynllunio campus 2

Croeso a magu hyder • Dysgu mwy am eich dechreuwyr 7 • Egluro jargon cyfrifiadurol 11

1. Defnyddio 1.1 Troi eich cyfrifiadur ymlaen 15

cyfrifiadur 1.2 Defnyddio llygoden 16 1.3 Bwrdd gwaith ac eiconau 20

1.4 Defnyddio bysellfwrdd 25

2. Defnyddio’r 2.1 Beth yw’r rhyngrwyd 31

rhyngrwyd 2.2 Chwilio drwy’r rhyngrwyd 36

2.3 Bod yn ddiogel ar-lein 39

3. Defnyddio e-bost 3.1 Anfon a derbyn negeseuon e-bost 45

4. Help ychwanegol 4.1 Adnoddau defnyddiol i arweinwyr cwrs gwefan y BBC 53

4.2 Rhagor o leoedd i gael help 54

5. Atodiadau • Cardiau apwyntiad

• Taflen ‘Hoffi, Meddwl, Eisiau’

• Tystysgrif cyflawniad

Cliciwch ar bob adran isod

Cyflwyniad: Cynnwys

Cyflwyniad: Cynnwys

Page 3: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

• Y cwrs

• Cynllunio campus

Cyflwyniad i arweinwyr cwrs

“ Mwynheais fynd ar-lein yn fawr”

Richard

Tudalen gynnwys

Page 4: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Mae Clic Cyntaf yn ymgyrch gan BBC Learning i annog pobl 55 oed neu’n hyn*, nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd ar hyn o bryd, i ddeall y manteision a’u mwynhau.

Cyflwyno manteision technolegau a gwasanaethau cyfathrebu newydd yw un o brif ddibenion cyhoeddus y BBC. Yn syml, mae gan y BBC gylch gwaith i hyrwyddo manteision llythrennedd yn y cyfryngau.

Felly beth yw ystyr llythrennedd yn y cyfryngau? Llythrennedd yn y cyfryngau yw’r gallu i ddeall a defnyddio mathau gwahanol o gyfryngau a thechnolegau mewn ffordd effeithiol - o gyfrifiaduron, ffonau symudol a theledu digidol i ddysgu sut y caiff rhaglenni eu gwneud ar gyfer y teledu a radio; a sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd i rannu lluniau neu siopa ar-lein.

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod llawer o bobl 55 oed neu’n hyn yn teimlo nad oes ganddynt yr hyder na’r sgiliau i ddefnyddio cyfryngau o’r fath. Yn aml mae ganddynt ddealltwriaeth wael o’r hyn y gall technoleg, a’r rhyngrwyd yn arbennig, ei gynnig iddynt.

Nod Clic Cyntaf yw lleihau’r pryder y gall y bobl hyn fod yn ei deimlo am gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd a mynd i’r afael â rhai o’u canfyddiadau mai ar gyfer pobl ifanc y mae a’i fod yn rhy ddryslyd.

Dyma pam bod y BBC wedi creu’r cwrs Clic Cyntaf i ddechreuwyr er mwyn tywys cyfranogwyr drwy’r camau cyntaf hanfodol o ddefnyddio cyfrifiaduron. Cynlluniwyd y cwrs i ddangos iddynt pa mor hawdd y mae cyfrifiaduron i’w defnyddio ac i ddangos iddynt sut y gall y rhyngrwyd eu helpu i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau; archwilio diddordebau; dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol a hyd yn oed arbed arian iddynt.

Yn y canllaw hwn i arweinwyr cwrs, cewch syniadau a chyngor i’ch helpu i gynllunio a hyrwyddo cwrs cyfrifiadurol Clic Cyntaf i ddechreuwyr, ynghyd â chyfres o bynciau i helpu cyfranogwyr i ddeall cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. Mae pob pwnc yn cynnwys canlyniadau dysgu clir a dull cam wrth gam syml, gyda dolenni i weithgareddau ymarfer ar wefan WebWise y BBC.

Chi fydd yn penderfynu sut y byddwch yn darparu’r cwrs. Efallai y byddwch am weithio drwy bynciau un ar y tro neu gyflwyno sawl pwnc un ar ôl y llall i greu sesiwn hwy.

Gyda’ch cefnogaeth chi, a help y canllaw hwn i arweinwyr cwrs, ein gobaith yw y bydd y cwrs Clic Cyntaf i ddechreuwyr yn helpu pobl i gael yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd ar-lein - un clic ar y tro.

*Tua 7.2 miliwn neu 69% o’r holl oedolion 15+ oed nad ydynt ar-lein. Ffynhonnell y BBC: Encouraging Home Broadband Adoption Gorffennaf 2009.

Ymwadiad: Mae’r BBC wedi creu deunyddiau Clic Cyntaf i helpu i gefnogi partneriaid i redeg cyrsiau i ddechreuwyr ar ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. Nid y BBC fydd yn rhedeg nac yn cyflwyno’r cyrsiau lle caiff y deunyddiau hyn eu defnyddio.

Cyflwyniad: Y cwrs

1Cyflwyniad i arweinwyr cwrs

Page 5: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Cyflwyniad: Cynllunio campus

Nid yw’n gwneud gwahaniaeth os yw eich gofod yn fawr neu’n fach, yn ffurfiol neu’n anffurfiol; neu p’un a ydych wedi cynnal digwyddiadau yn y gorffennol neu os mai hwn yw eich tro cyntaf. Cyn belled â bod gennych gyfrifiadur (neu fwy nag un), gyda mynediad i’r rhyngrwyd ac am helpu pobl hyn i deimlo’n fwy hyderus yn defnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd; gallwch redeg cwrs Clic Cyntaf i ddechreuwyr.

Wrth gynllunio eich cwrs, efallai y bydd angen i chi ystyried:

• Pobl – yn enwedig y rolau sydd angen eu llenwi, p’un a yw hynny gan un person neu bobl wahanol

• Gofod – y gofynion ar gyfer y gofod i gynnal y cwrs

• Hyrwyddo – defnyddio amrywiaeth o ddulliau i annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan

• Paratoi – beth i’w wneud yn yr wythnosau cyn dechrau’r cwrs i sicrhau bod popeth yn ei le

Pobl

• Rydym wedi awgrymu’r rolau y mae angen i chi eu hystyried wrth gynllunio eich cwrs. Peidiwch â phoeni os mai dim ond chi sydd! Gall un person gael sawl rôl, ond yn dibynnu ar faint eich lleoliad a’ch grwp, efallai y byddwch am feddwl am gael helpwyr

• Trefnydd y Cwrs – dyma’r person sy’n gwneud i bopeth ddigwydd. Nid oes rhaid iddo fod yn arbenigwr mewn cyfrifiaduron na digwyddiadau, ond mae’n rhaid iddo fod yn drefnus. Ei rôl yw cynllunio a chydlynu’r holl elfennau er mwyn sicrhau bod y cwrs yn rhedeg yn ddidrafferth

• Arweinydd y Cwrs – efallai y bydd Arweinydd y Cwrs a Threfnydd y Cwrs yr un person. Ei rôl yw rhoi croeso i’r bobl sy’n dod i’r sesiynau a gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus. Byddai’n dda pe gallai’r person hwn egluro cysyniadau cyfrifiadurol yn glir heb lawer o jargon a’i fod yn gyfarwydd â’r cyfrifiaduron a’r feddalwedd y bydd yn eu defnyddio

• Magwyr Hyder (gwirfoddolwyr) – unigolion yw’r rhain sy’n gyfarwydd â defnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd ac sy’n gallu gweithredu fel eiriolwyr pwerus a thawelu meddwl pobl a all fod yn nerfus

• Helpwr Technegol – dyma’r person a all wirio’r cysylltiad â’r rhyngrwyd a’r offer cyn y sesiynau a sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn; a delio ag unrhyw broblemau technegol ar y diwrnod

2 Cyflwyniad i arweinwyr cwrs

Page 6: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Cyflwyniad: Cynllunio campus

Gofod

Fel rydym eisoes wedi’i ddweud, gellir cynnal cwrs cyfrifiadurol Clic Cyntaf i ddechreuwyr yn unrhyw le sydd â chyfrifiadur a chysylltiad â’r rhyngrwyd - o lyfrgelloedd a chanolfannau ar-lein yn y DU, i ganolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol a chlybiau cymdeithasol.

Meddyliwch am y gofod sydd gennych a gweithiwch gyda hynny!

Mae bob amser yn bwysig ystyried:

• Mynediad – ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, parcio anabl a defnyddwyr dolenni sain. Fodd bynnag, peidiwch ag anghofio am y syniad o gynnal digwyddiad am fod gennych stepiau neu os nad oes gennych system dolen sain. Yn hytrach, allwch chi agor mynediad sy’n osgoi stepiau? Allwch chi fenthyg ramp? Allwch chi ddod â dehonglydd iaith arwyddion i mewn?

• Cyfleusterau – dylech ystyried cynllun yr ystafell, nifer y cadeiriau, y byrddau a’r offer sydd eu hangen. Ymhlith yr eitemau defnyddiol eraill i’w hystyried mae lluniaeth a chyfleusterau toiled

• Offer – nid oes angen y model diweddaraf o gyfrifiaduron na gliniaduron arnoch, ond mae cysylltiad â’r rhyngrwyd yn hanfodol. Mae cysylltiad band eang yn llawer gwell, ond nid oes rhaid iddo fod yn un cyflym

• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn siwr eich bod yn deall y polisïau iechyd a diogelwch ar gyfer y gofod rydych yn ei ddefnyddio. Er enghraifft, sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae’r allanfeydd tân a’r mannau cyfarfod ar ôl gadael yr adeilad

Hyrwyddo

Mae cyfathrebu llwyddiannus yn allweddol.

• Sicrhewch fod eich neges yn berthnasol i ddechreuwyr ac yn canolbwyntio ar y manteision iddynt. Er enghraifft, nid yw’r cwrs yn ymwneud â deall cyfrifiadur yn unig, bydd hefyd yn helpu pobl i ddysgu defnyddio e-bost er mwyn cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau

• Meddyliwch am amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu a hyrwyddo

Fformat Mantais

Mae posteri yn amlwg iawn. Mae taflenni yn gludadwy a gallant gefnogi posteri. Sicrhewch y caiff posteri a thaflenni eu dangos mewn lleoedd y bydd pobl yn eu pasio’n aml.

Cyfle i ddenu pobl wyneb yn wyneb a gwerthu’r manteision o ddifrif. Drwy siarad â phobl, gallwch dawelu eu meddwl a dechrau magu eu hyder yn gynnar.

Posteri a thaflenni

Llafar gwlad

3Cyflwyniad i arweinwyr cwrs

Page 7: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Cyflwyniad: Cynllunio campus

Fformat Mantais

Mae’r wasg leol yn aml yn chwilio am straeon ar faterion lleol ac efallai y bydd yn fodlon hyrwyddo eich cwrs.

Apeliadau i ffrindiau a theulu pobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd. Dylech deilwra eich neges i dargedu pobl sydd efallai’n adnabod rhywun nad yw’n defnyddio cyfrifiaduron na’r rhyngrwyd.

Y wasg leol

Gwefannau

BLWCH SYNIADAU

Er mwyn lledaenu’r gair, beth am ofyn i’ch meddygfeydd, eich trinwyr gwallt lleol neu’ch cangen leol o Swyddfa’r Post i ddangos posteri a thaflenni ar gyfer eich cwrs? Gallwch argraffu copïau ychwanegol o www.bbc.co.uk/connect/campaigns/partnersform

Paratoi

Mae’r rhestr gynllunio hon wedi’i llunio er mwyn helpu i sicrhau fod gennych bopeth yn ei le i redeg eich cwrs.

Pythefnos cyn y digwyddiad/cwrs:

Dechreuwch hyrwyddo eich cwrs

Trefnwch rolau’r bobl sy’n cefnogi’r digwyddiad a chytunwch arnynt. Os oes gennych nifer o bobl yn helpu, gallai fod yn ddefnyddiol cael rota a disgrifiadau swydd

Sicrhewch fod gennych yr holl offer sydd ei angen arnoch a’i fod yn gweithio’n iawn

Sicrhewch fod y cysylltiad â’r rhyngrwyd yn gweithio ac y gallwch ddefnyddio gwefannau Clic Cyntaf a WebWise y BBC

Sicrhewch fod pawb sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad wedi ymgyfarwyddo â’r cynlluniau gwersi a gwersi ar-lein WebWise

Trefnwch arwyddion o amgylch y gofod. Defnyddiwch brint bras, gyda saethau, i’w gwneud yn glir ble mae’r toiledau, y lluniaeth a’r allanfeydd tân

Sicrhewch fod mynediad i bobl cystal â phosibl

Sicrhewch fod gennych gyflenwadau ac offer i gynnig lluniaeth

Paratowch daflenni cofrestru a thaflenni i’w rhannu

Lluniwch fathodynnau enwau - mae’n werth cael bathodynnau enwau ar gyfer pawb sy’n helpu; maent yn rhoi gwybod i gyfranogwyr gyda phwy y maent yn siarad

Sicrhewch fod yr adnoddau hyrwyddol yn barod

4 Cyflwyniad i arweinwyr cwrs

Page 8: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Cyflwyniad: Cynllunio campus

Ar y diwrnod:

Sicrhewch fod yr offer a’r cysylltiad â’r rhyngrwyd yn gweithio

Sicrhewch fod allanfeydd tân yn glir ac nad oes unrhyw beryglon baglu na rhwystrau

Sicrhewch fod staff a gwirfoddolwyr yn gwisgo bathodynnau enw ac yn gwybod beth yw eu rolau

Sicrhewch fod arwyddion sy’n arwain pobl i’r toiledau, y lluniaeth a’r allanfeydd yn y lleoedd cywir

Sicrhewch fod y lluniaeth yn iawn

Byddwch yn barod ac yn groesawgar a dangoswch i’r bobl y ffordd i’w seddi a chynigiwch luniaeth iddynt

Yn dibynnu ar p’un a ydych yn rhedeg sesiwn galw i mewn neu os yw cyfranogwyr sydd wedi trefnu ymlaen llaw, efallai y bydd gennych giwiau ar y dydd. Gwnewch nodyn o enwau a dosbarthwch gardiau apwyntiad, y gellir dod o hyd iddynt yn Atodiadau’r canllaw hwn.

Sicrhewch fod gennych daflenni wrth law

Sicrhewch fod pob cyfranogwr yn cael copi o’i ganllaw Clic Cyntaf i ddechreuwyr

5Cyflwyniad i arweinwyr cwrs

Page 9: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

• Dysgu mwy am eich dechreuwyr• Egluro jargon cyfrifiadurol

Croeso a magu hyder

“ Dwi’n meddwl y bydda i’n mwynhau siopa ar-lein fwyaf - mae gymaint yn haws”

Sandra

Tudalen gynnwys

Page 10: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Croeso: Dysgu mwy am eich dechreuwyr

Nod

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Mynd i’r afael â’r rhwystrau a’r diffyg hyder a all fod gan bobl hyn am gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd ac egluro pa bynciau y byddant yn eu cwmpasu fel rhan o’r cwrs Clic Cyntaf i ddechreuwyr ar gyfrifiaduron.

• Gofod addas lle gall pobl eistedd a sgwrsio

• Lluniaeth e.e. te neu goffi i gadw’r digwyddiad a’r lleoliad yn anffurfiol

• Cyfrifiaduron wedi’u troi ymlaen, wedi sicrhau eu bod yn gweithio ac ar agor ar wefan Clic Cyntaf y BBC - www.bbc.co.uk/firstclick

• Gwiriadau iechyd a diogelwch i sicrhau y gall pobl symud o gwmpas yn ddiogel

• Staff a gwirfoddolwyr cyfeillgar i gyfarch a chroesawu, sgwrsio â phobl am y digwyddiad

• Llungopïau o’r daflen ‘Hoffi, Meddwl, Eisiau’, y gellir ei chael yn Atodiadau’r canllaw hwn

• Cardiau apwyntiad Clic Cyntaf y gellir eu cael yn Atodiadau’r canllaw hwn ac y gellir eu llungopïo

• Copïau o’r canllaw Clic Cyntaf i ddechreuwyr ar gyfer y cyfranogwyr

• Beiros ac amlygwyr

7Croeso a magu hyder

Page 11: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Mae’r sesiwn ‘Dysgu mwy am eich dechreuwyr’ yn cynnwys strwythur a awgrymir ac awgrymiadau defnyddiol ar gyfer sicrhau bod y sesiwn yn llwyddiant. Efallai y byddwch am gynnal digwyddiad llai strwythuredig neu redeg sesiynau galw i mewn dros gyfnod hwy.

Beth bynnag y byddwch yn ei ddewis, mae’n bwysig bod gan bobl gyfle i sgwrsio â’i gilydd a staff fel rhan o’r digwyddiad. Bydd hyn yn eu helpu i gael gwybod mwy am yr hyn mae’n ei gynnwys, dechrau teimlo’n hyderus a chodi unrhyw bryderon yn anffurfiol.

Pwysig!

Bydd y sesiwn hon yn rhoi’r cyfle i gyfranogwyr:

• Gyfarfod â dechreuwyr eraill fel eu bod yn sylweddoli nad nhw yw’r unig rai

• Clywed gan bobl eraill fel nhw sydd bellach yn defnyddio cyfrifiaduron ac sy’n gallu rhannu eu profiadau eu hunain

• Siarad am yr hyn yr hoffent ei gyflawni e.e. e-bostio teulu a ffrindiau neu lawrlwytho lluniau

• Cael gwybod am fanteision defnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd

• Ymgyfarwyddo â’r lleoliad a’r offer a chyfarfod â staff cynorthwyol

• Cael gwybod beth i’w ddisgwyl ar y cwrs a chofrestru ar gyfer y sesiwn nesaf

Amcanion y sesiwn

Croeso: Dysgu mwy am eich dechreuwyr

8 Croeso a magu hyder

Page 12: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Briffio staff a gwirfoddolwyr ar nodau’r digwyddiad, beth fydd yn digwydd a’u rôl.

Cynnig lluniaeth; cyflwyno pobl i’w gilydd a’u hannog i siarad â staff am yr hyn maent am ei gyflawni a’r pryderon y gallai fod ganddynt.

Egluro mai cyfle yw hwn iddynt gael gwybod mwy am Clic Cyntaf y BBC a’r manteision o ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.

Cyflwyno’r staff a’r gwirfoddolwyr a dweud eu bod yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl.

Dosbarthu’r taflenni ‘Hoffi, Meddwl, Eisiau’ a gofyn i gyfranogwyr feddwl am eu hatebion a’u llenwi. Gellir cael y daflen yn Atodiadau’r canllaw hwn. Gallwch lungopïo’r daflen i’w rhoi i bob dechreuwr ar eich cwrs.

Enghraifft Dywed Tahira ei bod yn:Hoffi

• Gwneud pethau gyda fy nheulu

• Coginio

• Ffotograffiaeth

Meddwl

Y gallai’r rhyngrwyd fy helpu i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am ddosbarthiadau nos i ddysgu mwy am ffotograffiaeth.

Eisiau

Hoffwn wybod sut i sefydlu cyfrif e-bost fel y gallaf gadw mewn cysylltiad â’m mab.

Fformat cam wrth gam posibl

NODER

Cynlluniwyd y taflenni i ysgogi cyfranogwyr i feddwl am yr hyn yr hoffent ei gyflawni. Mae’n gwneud hyn drwy eu gwahodd i feddwl am eu diddordebau a’r hyn maent yn hoffi ei wneud (Hoffi), beth maent yn ei feddwl y gall cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd eu helpu i’w wneud (Meddwl), a’r hyn yr hoffent ddysgu ei wneud ar y cyfrifiadur a’r rhyngrwyd (Eisiau). Efallai y byddwch am roi enghraifft:

Croeso: Dysgu mwy am eich dechreuwyr

9Croeso a magu hyder

Page 13: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Gofynnwch i gyfranogwyr a ydynt yn teimlo’n ddigon hyderus i rannu eu hatebion â’r grwp a graddio eu sgiliau eu hunain allan o 10. Os yw’n bosibl, rhowch enghreifftiau o’r manteision o ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd mewn ymateb i adborth cyfranogwyr. Er enghraifft, os bydd rhywun yn crybwyll yr hoffent allu defnyddio e-bost i gadw mewn cysylltiad â’i deulu, eglurwch y bydd hefyd yn gallu cyfnewid lluniau.

Eglurwch beth a gaiff ei gwmpasu yn eu cwrs Clic Cyntaf i ddechreuwyr ar gyfrifiaduron, a beth y dylai pobl ddisgwyl ei gael ohono. Pwysleisiwch fod y cwrs yn eich tywys un cam ar y tro ac yn mynd i’r afael â rhai o’r ofnau neu’r rhwystrau cyffredin a all fod gan bobl.

Dosbarthwch y cardiau apwyntiad gyda dyddiad ac amser y sesiwn nesaf.

Awgrymwch i gyfranogwyr y gallwch eu cefnogi i roi cynnig ar y rhyngrwyd gan ddefnyddio gwefan Clic Cyntaf os hoffent, fel eu bod yn cael sesiwn flasu fach cyn iddynt adael. !

Anogwch gwestiynau ac adborth gan gyfranogwyr.

Croeso: Dysgu mwy am eich dechreuwyr

10 Croeso a magu hyder

Page 14: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Croeso: Egluro jargon cyfrifiadurol

Nod

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Dileu rhai o’r rhwystrau o ran deall ‘iaith’ cyfrifiaduron.

• Siart troi neu rywbeth tebyg

• Adolygwch restr o dermau defnyddiol WebWise yn www.bbc.co.uk/webwise/a-z

Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Cofio geiriau allweddol jargon cyfrifiadurol

• Defnyddio trosiadau i ddisgrifio swyddogaethau allweddol cyfrifiadur

Canlyniadau dysgu

Efallai y bydd gan gyfranogwyr gwestiynau neu bryderon ynghylch jargon cyfrifiadurol. Mae hon yn sesiwn a awgrymir a all fod yn ddefnyddiol i’w rhedeg er mwyn dileu rhai o’r rhwystrau at ddeall ‘iaith’ cyfrifiaduron. Bydd gan eich dechreuwyr restr o jargon cyfrifiadurol yn eu canllawiau y gallant gyfeirio ati ar unrhyw gam yn ystod y cwrs.

NODER

11Croeso a magu hyder

Page 15: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Croeso: Egluro jargon cyfrifiadurol

Eglurwch beth fydd y sesiwn yn ei chwmpasu ac ewch dros y canlyniadau dysgu.

Gofynnwch i gyfranogwyr droi at yr adran ‘Egluro’r Jargon’ yn eu canllaw i ddechreuwyr, lle bydd rhestr o dermau cyfrifiadurol defnyddiol.

Eglurwch fod miloedd o eiriau newydd yn cael eu cyflwyno i’r Gymraeg a’r Saesneg drwy’r amser. Mae’r rhyngrwyd wedi cael effaith ddwys ar iaith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae rhai geiriau hollol newydd, fel y ferf ‘gwglo’ (neu chwilio am rywbeth ar beiriant chwilio) wedi ymddangos oherwydd y rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae’n llawer mwy tebygol y bydd y geiriau ‘newydd’ y byddwch yn dod ar eu traws wrth ddysgu am gyfrifiaduron wedi cael eu ‘herwgipio’ o iaith gyffredin, bob dydd.

Gofynnwch i gyfranogwyr rannu unrhyw eiriau sy’n gysylltiedig â chyfrifiaduron y gallent fod wedi’u clywed neu eu defnyddio o’r blaen. Gellir ysgrifennu’r rhain ar y siart troi mewn un golofn.

Anogwch gyda rhai enghreifftiau fel: cymhwysiad, llwybr byr, pori, ffeil, bwrdd gwaith. Efallai y byddwch am ysgrifennu’r rhain ar siart troi neu rywbeth tebyg.

Gofynnwch i gyfranogwyr nodi unrhyw bethau tebyg rhwng y geiriau sy’n gysylltiedig â chyfrifiaduron a geiriau maent yn eu defnyddio yn eu bywydau bob dydd. A yw’r grwp wedi synnu at nifer y geiriau sydd eisoes yn bodoli yn y Gymraeg neu’r Saesneg - ond sydd ag ystyr ychydig yn wahanol pan gânt eu defnyddio yng nghyd-destun terminoleg gyfrifiadurol?

Fformat cam wrth gam a awgrymir

Efallai y byddwch am ofyn i bobl weithio mewn parau neu grwpiau bach ac ar gyfer pob un o’r geiriau, gofynnwch iddynt feddwl am eu ffordd eu hunain o egluro i rywun sy’n newydd i gyfrifiaduron beth yw ystyr pob un. Er enghraifft, mae’r botwm dechrau fel ‘safle lansio’.

BLWCH SYNIADAU

Mae fel iaith arall ... neu ydy hi?

12 Croeso a magu hyder

Page 16: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Croeso: Egluro jargon cyfrifiadurol

Eglurwch y gall trosiadau helpu i ddeall cysyniad neu syniad newydd yn well. Y tric yw cysylltu’r derminoleg newydd â gweithred neu gysyniad mewn bywyd bob dydd. Er enghraifft, drwy glicio ar fotwm ‘llwybr byr’ ar gyfrifiadur, mae hwn yn mynd â chi’n uniongyrchol i ffeil, ffolder neu raglen. Gall hyn gyfateb â chymryd llwybr uniongyrchol (neu lwybr byr) wrth gerdded er mwyn arbed amser.

Gofynnwch i gyfranogwyr droi at ‘Egluro’r Jargon’ yn eu canllaw. Gan weithio mewn parau neu grwpiau, dylent ddewis un gair, neu gysyniad, o’r canllaw a pharatoi eglurhad byr o’r gair, gan ddefnyddio cymariaethau, neu drosiadau mewn deg munud. Rhowch wahoddiad i gyfranogwyr rannu eu hesboniadau gyda’r grwp ehangach.

Gofynnwch i gyfranogwyr gyfrannu rhagor o syniadau, neu awgrymiadau ar sut y byddent yn defnyddio trosiadau neu gymariaethau i ddeall cysyniadau a therminoleg newydd sy’n codi o ddysgu am gyfrifiaduron.

Tric y trosiad

13Croeso a magu hyder

Page 17: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.1 Troi eich cyfrifiadur ymlaen

1.2 Defnyddio llygoden

1.3 Bwrdd gwaith ac eiconau

1.4 Defnyddio bysellfwrdd

1. Defnyddio cyfrifiadur

“ Dwi’n awyddus iawn i ddefnyddio’r rhyngrwyd, ond mae angen i mi fynd i’r afael â’r pethau sylfaenol yn gyntaf”

Bill

Tudalen gynnwys

Page 18: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Nod

Noder

Bydd gan eich dechreuwyr adran yn eu canllawiau sy’n egluro sut i droi cyfrifiadur ymlaen ac sy’n amlinellu’r prif wahaniaethau rhwng cyfrifiadur bwrdd gwaith a gliniadur.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd arweinwyr cwrs wedi troi pob cyfrifiadur ymlaen ac wedi profi’r cysylltiadau cyn i’r dechreuwyr gyrraedd.

1.1: Troi eich cyfrifiadur ymlaen

1. Defnyddio cyfrifiadur 15

Page 19: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.2: Defnyddio llygoden

Dylech gadarnhau a yw’r cyfranogwyr yn llawdde neu’n llawchwith. Os ydynt yn llawchwith, eglurwch y gallant symud y llygoden i ochr chwith eu bysellfwrdd lle gall deimlo’n fwy cyfforddus ac efallai y byddant yn ei chael hi’n haws defnyddio eu bys canol ar gyfer clicio’r botwm chwith.

Mae hefyd yn bosibl newid y gosodiadau ar y cyfrifiadur fel bod y botymau ar y llygoden i’r gwrthwyneb. Ceir y gosodiadau ar gyfer y llygoden fel arfer ym mhanel rheoli’r cyfrifiadur.

Nod

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Pwysig!

Helpu cyfranogwyr i ddefnyddio llygoden fel y gallant reoli’r cyfrifiadur.

• Sicrhau bod pob cyfrifiadur wedi’i droi ymlaen a bod pob llygoden wedi’i phrofi i sicrhau ei bod yn gweithio

• Creu ffolder wag a’i galw’n ‘Defnyddio llygoden’

• Sicrhau bod dogfen Word neu ddogfen gyfatebol yn cynnwys hyperddolen i gêm WebWise y BBC Clicky Mouse, www.bbc.co.uk/webwise/courses/computer-basics/lessons/clicky-mouse-game wedi’i llwytho ar y bwrdd gwaith er mwyn ei hagor yn ystod y sesiwn

• Sicrhau bod llygoden sbâr i ddangos sut i afael ynddi (nid yw’n hanfodol)

Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Egluro beth yw llygoden a beth mae’n ei wneud

• Cofio siapiau gwahanol y cyrchwr

• Dangos sut i ddewis, agor a llusgo a gollwng eitemau gan ddefnyddio’r llygoden

Canlyniadau dysgu

16 1. Defnyddio cyfrifiadur

Page 20: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.2: Defnyddio llygoden

Eglurwch beth fydd y sesiwn yn ei chwmpasu a’r canlyniadau dysgu.

Gofynnwch i gyfranogwyr droi at yr adran ‘Defnyddio llygoden’ yn eu canllaw i ddechreuwyr.

Eglurwch eich bod am ddangos i gyfranogwyr sut mae’r llygoden yn gweithio fel y byddant yn teimlo’n gyfforddus wrth ei defnyddio.

.

Eglurwch mai’r llygoden yw un o’r prif ffyrdd o reoli eich cyfrifiadur. Mae’n eich galluogi i bwyntio at bethau rydych am eu defnyddio, eu hagor a’u symud o gwmpas.

Anogwch gyfranogwyr i ateb y cwestiwn:

“Pam y credwch y’i gelwir yn llygoden?”

Eglurwch fod dyluniad y rhan fwyaf o lygod yn cynnwys dau fotwm - botwm chwith a botwm dde.

I weithio, rhaid i lygoden orwedd yn fflat ar arwyneb a chyda ‘thrwyn’ y llygoden, y pen sydd â’r botymau, yn pwyntio tuag at y cyfrifiadur.

Eglurwch a dangoswch er mwyn gafael yn y llygoden, y byddwch yn gosod eich llaw drosti ac yn rhoi eich mynegfys ar y botwm chwith ac yn gosod eich bawd ar ochr y llygoden.

Eglurwch eich bod am ganolbwyntio ar ddefnyddio’r botwm chwith yn y sesiwn hon.

Rhowch sicrwydd i’r cyfranogwyr na ddylent boeni os byddant yn clicio’r botwm dde – y cyfan fydd angen iddynt ei wneud fydd clicio’r botwm chwith eto.

Eglurwch wrth i chi symud y llygoden y bydd yn symud pwyntydd neu ‘gyrchwr’ ar sgrîn y cyfrifiadur. Os byddwch yn symud eich llygoden i’r chwith, bydd y cyrchwr yn symud i’r chwith ar y sgrîn. Os byddwch yn symud y llygoden yn ôl tuag atoch, bydd y cyrchwr yn symud i lawr y sgrîn.

Gofynnwch i gyfranogwyr symud eu llygod o gwmpas ac edrych ar y cyrchwr yn symud.

Fformat cam wrth gam a awgrymir

Os oes gennych gyfranogwr sy’n llawchwith, eglurwch efallai y byddai’n haws iddo ddefnyddio’r bys canol ar gyfer clicio’r botwm chwith neu symud y llygoden i ochr arall y cyfrifiadur.

NODER

Beth yw diben y llygoden

171. Defnyddio cyfrifiadur

Page 21: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Eglurwch fod y cyrchwr hefyd yn newid ei siâp yn dibynnu ar beth rydych yn ei wneud.

Adolygu: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd gweld beth yw diben y llygoden.

Eglurwch y gallwch ddefnyddio eich llygoden i wneud amrywiaeth o dasgau ar y cyfrifiadur.

Eglurwch y gallwch ddewis pethau ar eich cyfrifiadur drwy symud eich cyrchwr dros yr eitem a chlicio ar fotwm chwith y llygoden unwaith. Dim ond clicio a rhyddhau sydd angen i chi ei wneud. Byddwch yn gwybod pan fydd eich cyrchwr yn y man cywir oherwydd bydd yn amlygu’r eitem. Pan fyddwch wedi dewis rhywbeth, bydd yn aros wedi’i amlygu.

Gofynnwch i gyfranogwyr roi cynnig ar ddewis eicon dogfen Word (neu ddogfen gyfatebol) ar y bwrdd gwaith. Eglurwch mai math o ffeil yw hon sy’n cynnwys gwybodaeth ysgrifenedig.

Eglurwch pan fyddwch am agor pethau, fod angen i chi glicio ddwywaith ar y botwm chwith. Gallwch wneud hyn i agor pethau fel ffolder. Mae angen i chi glicio ddwywaith yn eithaf cyflym - meddyliwch am ‘gnoc, cnoc’ y byddwch yn ei wneud ar ddrws er mwyn cael rhywun i’w agor.

Gofynnwch i gyfranogwyr roi cynnig ar agor dogfen Word. Pan maent wedi ei hagor yn llwyddiannus, gofynnwch iddynt ei chau eto drwy ddewis y symbol X cau yn yng nghornel ochr dde’r ddogfen.

1.2: Defnyddio llygoden

Pan fydd yn saeth mae’n eich galluogi i ddewis pethau a’u symud o gwmpas.

Pan fydd yn llaw mae’n eich galluogi i agor dolen ar y Rhyngrwyd.

Pan fydd yn awrwydr (os ydych yn defnyddio Windows Vista, bydd hwn yn ymddangos fel cylch yn troi) mae’n gofyn i chi aros tra bod y cyfrifiadur yn gwneud tasg.

Defnyddio’r llygoden i wneud tasgau

18 1. Defnyddio cyfrifiadur

Page 22: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.2: Defnyddio llygoden

Eglurwch y gallwch ddefnyddio eich llygoden i symud pethau ar eich cyfrifiadur fel y gallwch roi trefn arnynt, fel y byddech yn ei wneud drwy roi eich biliau mewn ffeiliau neu ddrôrs gwahanol fel eich bod yn gwybod ble maen nhw.

Pan fyddwch am symud pethau o un lle i’r llall ar eich cyfrifiadur, byddwch yn defnyddio’r llygoden i wneud yr hyn a elwir yn ‘llusgo a gollwng’. Byddwch yn ‘llusgo’ rhywbeth ac yna’n ei ‘ollwng’ er mwyn ei roi yn ei le newydd. Mae fel symud llyfr a’i roi ar silff. Ar gyfrifiadur gallwch ddefnyddio ‘llusgo a gollwng’ i symud eich ffeiliau rhwng ffolderi. Mae rhai gemau cardiau ar gyfrifiaduron, fel ‘solitaire’ hefyd yn defnyddio ‘llusgo a gollwng’ i roi cardiau yn y pentwr neu’r safle cywir.

Eglurwch er mwyn llusgo a gollwng fod angen i chi ddewis yr eitem gyda’r botwm chwith yn gyntaf a chadw’r botwm wedi’i wasgu. Yna symudwch y llygoden a bydd yr eitem yn symud gyda’r cyrchwr - dyma’r darn ‘llusgo’. Pan fydd gennych y cyrchwr a’r eitem yn y safle rydych am eu cael, rhyddhewch y botwm chwith - dyma’r darn ‘gollwng’.

Gofynnwch i gyfranogwyr ymarfer ‘llusgo a gollwng’ drwy symud y ddogfen Word neu ffeil gyfatebol i’r ffolder ‘Defnyddio’r llygoden’ ar y bwrdd gwaith. Unwaith y byddant wedi gwneud hyn, gofynnwch i gyfranogwyr agor y ffolder.

Unwaith y bydd y cyfranogwyr wedi agor y ffolder, gofynnwch a allant weld dogfen Word neu ffeil gyfatebol. Gofynnwch iddynt geisio agor y ffeil hon hefyd.

Adolygu: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd dangos y tri pheth y gall llygoden ei wneud - dewis, agor a llusgo a gollwng.

Eglurwch y gall cyfranogwyr bellach ymarfer eu sgiliau newydd â’r llygoden drwy chwarae gêm Clicky Mouse WebWise y BBC. Mae angen iddynt glicio ar yr hyperddolen yn y ddogfen Word neu ddogfen gyfatebol a ddylai fod ar agor o hyd.

Gorffenwch y sesiwn drwy gynnig rhagor o amser ymarfer i gyfranogwyr os ydynt am barhau.

Efallai y byddwch am ofyn i gyfranogwyr ddweud sut y byddant yn agor y ffolder h.y. clicio ddwywaith.

NODER

Efallai y byddwch am ofyn i gyfranogwyr egluro i’w gilydd mewn parau sut maent yn gwneud pob un o’r pethau hyn. Yna crynhowch y rhain i gyd eto i’r grwp cyfan.

NODER

191. Defnyddio cyfrifiadur

Page 23: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.3: Bwrdd gwaith ac eiconau

Nod

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Helpu cyfranogwyr i ddeall y bwrdd gwaith, y ffenestri a’r eiconau. Mewn geiriau eraill, yr hyn maent yn ei weld pan mae’r cyfrifiadur ymlaen.

• Sicrhau bod y cyfrifiaduron ymlaen ac wedi’u profi i sicrhau eu bod yn gweithio

• Sicrhau bod ffolder gyda ffeil wedi’i llwytho ar y bwrdd gwaith ar gyfer ei hagor fel rhan o’r sesiwn

Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Cofio nodweddion bwrdd gwaith, ffenestr ac eicon

• Disgrifio nodweddion bwrdd gwaith

• Dangos sut i symud rhwng ffenestri, a chuddio, macsimeiddio a chau ffenestr

• Deall mai gallu defnyddio’r bwrdd gwaith a’r eiconau yw sut rydych yn defnyddio deunyddiau ar y cyfrifiadur

• Eglurwch beth fydd y sesiwn yn ei chwmpasu ac ewch dros y canlyniadau dysgu

• Gofynnwch i gyfranogwyr droi at adran ‘Bwrdd Gwaith ac Eiconau’ y canllaw i ddechreuwyr

Canlyniadau dysgu

Fformat cam wrth gam posibl

20 1. Defnyddio cyfrifiadur

Page 24: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Eglurwch eich bod am fynd â’r cyfranogwyr ar daith dywys o’r hyn maent yn ei weld pan mae eu cyfrifiadur ymlaen. Bydd hyn yn eu helpu i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch a bod yn gyfforddus wrth ddefnyddio’r cyfrifiadur mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr iddynt.

Eglurwch mai’r bwrdd gwaith yw’r hyn rydych yn ei weld pan mae’r cyfrifiadur ymlaen. Mae fel desg go iawn. Pan fyddwch yn agor rhaglenni neu ffeiliau, maent yn ymddangos ar eich bwrdd gwaith.

Beth allwch chi ei wneud o’ch bwrdd gwaith? O’ch bwrdd gwaith gallwch fynd yn uniongyrchol i’r ffeiliau (fel llythyrau y gallwch fod wedi’u hysgrifennu) a rhaglenni (fel y rhyngrwyd) ar eich cyfrifiadur. Gelwir clicio ar y ffeiliau hyn yn ‘llwybr byr’.

Eglurwch fod cyfrifiaduron yn defnyddio llawer o symbolau i gynrychioli’r holl ffeiliau a’r rhaglenni gwahanol y gallwch eu defnyddio. Cynrychiolir ffeil gan eicon. Mae eicon yn air arall am symbol – neu lun bach o ffeil, ffolder neu raglen. Dyma enghraifft o derminoleg gyfrifiadurol.

Mae eiconau’n edrych yn wahanol ar gyfer pob math o ffeil neu raglen.

Efallai y byddwch am nodi enghreifftiau o ffeil, ffolder a rhaglen.

1.3: Bwrdd gwaith ac eiconau

Bwrdd gwaith ac eiconau

211. Defnyddio cyfrifiadur

Page 25: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Eglurwch fod y bar tasgau yn rhedeg ar hyd gwaelod sgrîn y cyfrifiadur. Byddwch yn gallu ei weld bob amser pan fydd eich cyfrifiadur ymlaen. Mae’n dangos pa raglenni a ffolderi neu ddogfennau sydd gennych ar agor.

Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth arall i chi, fel amser.

Y botwm dechrau yw un o’r botymau pwysicaf ar eich cyfrifiadur. Mae fel eich pwynt ‘dechrau yma’, oherwydd o’r fan hon gallwch gael gafael ar bopeth sydd ar eich cyfrifiadur yn hawdd.

Adolygwch yn gryno y pum cysyniad newydd sydd wedi’u cyflwyno - bwrdd gwaith, llwybr byr, eicon, bar tasgau a botwm dechrau - gan gyfeirio at yr eglurhad yn y canllaw i ddechreuwyr.

1.3: Bwrdd gwaith ac eiconau

Cyfeiriwch at eicon ffolder ac eglurwch:

Gallwch storio ffeiliau mewn ffolder, fel dogfennau neu luniau. Mae hyn yn golygu y caiff y cyfan eu cadw mewn un lle, y byddwch yn ei labelu’n glir fel y gallwch ddod o hydd iddo’n hawdd.

Pan fyddwch yn agor ffolder, bydd ei chynnwys yn ymddangos yn yr hyn a elwir yn ffenestr. Caiff ei galw’n ffenestr gan ei bod yn dangos beth sydd y tu ôl i’r eicon.

Gofynnwch i gyfranogwyr agor y ffolder ar y bwrdd gwaith drwy glicio ddwywaith gyda’r llygoden. Dylai cyfranogwyr bellach allu gweld y ffeil yn y ffolder.

Gofynnwch i gyfranogwyr agor y ffeil yn y folder drwy glicio ddwywaith gyda’r llygoden.

Ffolderi a ffenestri

22 1. Defnyddio cyfrifiadur

Page 26: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.3: Bwrdd gwaith ac eiconau

Eglurwch fod ffenestr yn cynnwys:

Dau far sgrolio rydych yn eu defnyddio i symud o amgylch y ffenestri. Ceir un bar sgrolio ar ochr dde’r sgrîn ac un arall ar waelod y sgrîn.

Bar teitl sy’n dangos enw’r ffolder, y ddogfen neu’r rhaglen.

Eglurwch fod bar dewislen hefyd o dan y bar teitl. Mae’r bar dewislen yn rhoi llawer o opsiynau gwahanol i chi o ran yr hyn y gallwch ei wneud i’r ffeil rydych wedi’i hagor. Gelwir yr opsiynau hyn yn orchmynion gan eich bod mewn rheolaeth ac rydych yn “gorchymyn” y cyfrifiadur i wneud rhywbeth i’ch ffeil, fel cadw unrhyw newidiadau rydych wedi’u gwneud.

Mae gan far offer lwybrau byr i’r gorchmynion yn eich bar dewislen. Cofiwch fod llwybr byr yn ffordd gyflymach o wneud rhywbeth. Felly, yn hytrach na gorfod mynd i’r bar dewislen a dod o hyd i’r lle y mae’n rhaid i chi ‘glicio’ i gadw ffeil, gallwch fynd yn uniongyrchol at yr eicon (neu lun) i gadw eich ffeil.

Adolygu: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd dangos i chi sut mae popeth yn ffitio at ei gilydd ar sgrîn eich cyfrifiadur.

Efallai y byddwch am argraffu cynrychioliad darluniadol o sgrîn Windows (gyda’r bar teitl, y bar dewislen, y bar offer, a’r ddau far sgrolio), torri’r adrannau gwahanol allan ac yna gofyn i’r cyfranogwyr ail-greu sut mae sgrîn y cyfrifiadur yn edrych, drwy roi’r adrannau perthnasol yn y mannau cywir.

NODER

231. Defnyddio cyfrifiadur

Page 27: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.3: Bwrdd gwaith ac eiconau

Eglurwch y gallwch gael mwy nag un ffenestr ar agor ar yr un pryd. Ar hyn o bryd mae gennych ffenestr ffolder a ffenestr ffeil ar agor.

Y ffenestr weithredol yw’r ffenestr gyda’r bar teitl wedi’i amlygu. Y ffenestr weithredol yw’r un y gellir gweithio arni. Caiff pob ffenestr sydd ar agor eu dangos fel botymau yn y bar tasgau ar waelod y sgrîn. Gallwch weld ar waelod eich sgrîn fod y ffenestr weithredol yn lliw gwahanol.

I symud rhwng ffenestri gallwch glicio ar ffenestr, neu ddewis y botwm o’r bar tasgau ar waelod eich sgrîn. Cofiwch y byddwch yn gallu gweld y bar tasgau bob amser.

Gofynnwch i gyfranogwyr ymarfer symud rhwng ffenstri.

Eglurwch i guddio ffenestr (oherwydd, er enghraifft, nad ydych am ei gweld, ond nad ydych am ei chau’n gyfan gwbl) rydych yn clicio ar y botwm minimeiddio yn y gornel dde ar dop y ffenestr.

Gofynnwch i gyfranogwyr glicio ar y botwm minimeiddio a gweld beth sy’n digwydd.

Dylai’r ffenestr fod wedi diflannu.

Gofynnwch i gyfranogwyr ddod â’r ffenestr yn ôl drwy glicio ar ei botwm yn y bar tasgau.

Eglurwch i wneud ffenestr yn fwy a llenwi’r sgrîn gyfan, rydych yn clicio ar y botwm macsimeiddio.

I gau ffenestr, rydych yn clicio ar y botwm cau.

Gofynnwch i gyfranogwyr gau’r ffenestri ar y cyfrifiadur.

Adolygu: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar symud rhwng ffenestri, cuddio ffenestr, gwneud ffenestr yn fwy a chau ffenestr.

Gorffennwch y sesiwn drwy gynnig mwy o amser i’r cyfranogwyr ymarfer os ydynt am wneud hynny.

Symud rhwng ffenestri

24 1. Defnyddio cyfrifiadur

Page 28: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.4: Defnyddio bysellfwrdd

Nod

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddefnyddio bysellfwrdd fel eu bod yn gallu rhoi gwybodaeth ar ffurf geiriau a rhifau ar gyfrifiadur.

• Sicrhau bod pob cyfrifiadur wedi’i droi ymlaen a bod pob bysellfwrdd wedi’i brofi i sicrhau ei fod yn gweithio

• Sicrhau bod dogfennau Word neu ddogfennau cyfatebol wedi’u llwytho ar y byrddau gwaith er mwyn ymarfer teipio

• Sicrhau bod gêm Keyboard Shooting Gallery WebWise y BBC, wedi’i llwytho ar y byrddau gwaith yn barod i’w hagor

Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Egluro bod bysellfwrdd yn cael ei ddefnyddio i roi gwybodaeth fel geiriau a rhifau ar y cyfrifiadur

• Cofio ble mae’r prif fathau o fysellau ar y bysellfwrdd gan gynnwys bysellau llythrennau, bysellau rhifau a bysellau symbolau

• Dangos sut i ddefnyddio’r prif fysellau ar y bysellfwrdd gan gynnwys y fysell Shift, y fysell Clo Caps, y fysell Bylchwr, y fysell Enter a’r bysellau Saeth

Canlyniadau dysgu

251. Defnyddio cyfrifiadur

Page 29: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.4: Defnyddio bysellfwrdd

Sut i roi gwybodaeth (geiriau a rhifau) ar eich cyfrifiadur

Eglurwch beth fydd y sesiwn yn ei chwmpasu ac ewch dros y canlyniadau dysgu.

Gofynnwch i gyfranogwyr droi at yr adran ‘Defnyddio bysellfwrdd’ yn eu canllaw i ddechreuwyr.

Eglurwch y byddwch yn mynd â’r cyfranogwyr ar daith dywys o’r bysellfwrdd. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall sut mae’n gweithio fel eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn ei ddefnyddio pan fydd angen iddynt roi gwybodaeth ar gyfrifiadur.

Gofynnwch i gyfranogwyr a ydynt wedi defnyddio teipiadur o’r blaen. A ydynt yn gweld y tebygrwydd rhwng y bysellfwrdd a’r teipiadur?

Eglurwch mai dim ond bwrdd â bysellau yw bysellfwrdd! Bysellau yw’r holl fotymau unigol rydych yn eu gwasgu pan fyddwch yn teipio. Mae bysellfyrddau yn eithaf cryf ac yn anodd i’w torri neu eu difrodi, ond ni ddylech wasgu’n rhy galed neu wasgu bysell i lawr am amser rhy hir.

Eglurwch mai’r bysellfwrdd yw’r brif ffordd o roi gwybodaeth ar eich cyfrifiadur. Rydych yn ei ddefnyddio i deipio llythrennau, geiriau a rhifau pan fyddwch yn gwneud pethau fel ysgrifennu dogfennau, chwilio drwy’r rhyngrwyd ac anfon negeseuon e-bost, felly mae’n ddarn pwysig o offer!

Fformat cam wrth gam posibl

26 1. Defnyddio cyfrifiadur

Page 30: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.4: Defnyddio bysellfwrdd

Sut i roi gwybodaeth (geiriau a rhifau) ar eich cyfrifiadur

Cyfeiriwch at y diagram â’r codau lliw yn y canllaw i ddysgwyr ac eglurwch er ei fod yn edrych yn gymhleth, bod pedwar prif fath o fysell arno.

• Y bysellau llythrennau sydd yng nghanol y bysellfwrdd (mewn lliw gwyrdd )

• Y bysellau rhifau ar frig y bysellfwrdd (mewn lliw glas ). Mae rhifau ar ochr dde’r bysellfwrdd hefyd ond nid oes angen i chi ddefnyddio’r rhain.

• Y bysellau symbolau i’r dde o’r llythrennau (mewn lliw pinc ). Mae’r rhain yn cynnwys symbolau sydd eu hangen i ysgrifennu fel y marc cwestiwn a’r atalnod llawn. Byddwch yn gweld bod symbolau uwchben y rhifau hefyd.

• Y bysellau o amgylch y bysellau llythrennau, rhifau a symbolau ar yr ochr chwith, y dde a’r gwaelod (mewn lliw oren ). Mae’r bysellau hyn yn eich helpu i ddewis ble a sut rydych yn teipio yn ogystal â’r hyn rydych yn ei deipio. Er enghraifft, maent yn eich galluogi i roi bwlch rhwng geiriau, gwneud llythrennau bras a symud i’r lle rydych am ddechrau teipio.

Adolygu: Adolygwch y pedwar prif fath o fysellau ar y bysellfwrdd yn gryno.

Eglurwch eu bod nawr yn mynd i ymarfer defnyddio’r gwanhaol fysellau fel y gallant weld beth mae pob un ohonynt yn ei wneud.

Gofynnwch i gyfranogwyr agor dogfen Word neu ddogfen gyfatebol ar y bwrdd gwaith.

Eglurwch mai’r llinell fertigol sy’n fflachio yw’r cyrchwr a’u bod wedi dod ar draws y cysyniad hwn o’r blaen wrth ddefnyddio llygoden. Mae’n dweud wrthych ble rydych am ddechrau teipio ar y dudalen neu’r sgrîn.

Sut mae bysellfwrdd yn edrych

Defnyddio’r bysellau

Efallai y byddwch am awgrymu eich geiriau neu ymadroddion eich hun i gyfranogwyr eu hymarfer.

NODER

Efallai y byddwch am ofyn i gyfranogwyr gofio lleoliad y gwahanol fathau o fysellau hyn ar y bysellfwrdd.NODER

Cath

271. Defnyddio cyfrifiadur

Page 31: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.4: Defnyddio bysellfwrdd

Sut i roi gwybodaeth (geiriau a rhifau) ar eich cyfrifiadur

Eglurwch eich bod yn mynd i edrych ar y bysellau llythrennau i ddechrau. A yw’r cyfranogwyr yn sylwi ar unrhyw beth anarferol yn y ffordd mae’r bysellau llythrennau wedi’u gosod?

Nid yw’r bysellau llythrennau yn nhrefn yr wyddor ond mewn trefn a elwir yn QWERTY ar linell uchaf y llythrennau. Mae hon yr un drefn â’r teipiadur ac mae wedi’i chynllunio i helpu pobl i deipio’n well.

Gofynnwch i gyfranogwyr roi cynnig ar deipio gair yn y ddogfen drwy ddefnyddio’r bysellau llythrennau.

Eglurwch fod angen iddynt wasgu’r fysell unwaith a’i gollwng.

Gofynnwch i gyfranogwyr geisio teipio ychydig o rifau drwy ddefnyddio’r bysellau rhifau, ac yna deipio rhai o’r bysellau symbolau ar ochr dde’r bysellfwrdd.

A ydynt wedi sylwi ar leoliad y rhifau a’r symbolau y maent wedi’u teipio ar y bysellau?

Eglurwch fod y rhifau a’r symbolau y maent wedi’u teipio yn ymddangos ar waelod y bysellau. Nawr rydych yn mynd i edrych ar sut i deipio llythrennau bras a symbolau sy’n ymddangos ar frig y bysellau fel yr arwydd £.

Eglurwch eich bod yn teipio llythrennau bras a’r symbolau ar frig y bysellau drwy ddefnyddio’r bysellau Shift ar ochr chwith ac ochr dde’r bysellfwrdd. Mae saeth fawr yn pwyntio tuag at i fyny arnynt.

I ddefnyddio’r fysell Shift, rydych yn ei wasgu ac yn ei ddal i lawr ac yna’n gwasgu bysell llythyren, rhif neu symbol.

Gofynnwch i gyfranogwyr wasgu a dal i lawr un o’r bysellau shift a theipio bysell llythyren. Beth maent yn ei weld? Dylent weld llythyren fras.

Gofynnwch i gyfranogwyr wneud yr un peth gyda bysell rhif. Dylent nawr weld y symbol uwchben y rhif.

Gallant hefyd wneud yr un peth gyda bysell symbol ar ochr dde y bysellfwrdd.

Eglurwch y byddwch yn dechrau teipio llythrennau bach a rhifau eto ar ôl i chi ryddhau’r fysell shift.

Eglurwch eich bod yn gallu defnyddio’r fysell Clo Caps i barhau i deipio mewn llythrennau bras.

Anogwch gyfranogwyr i feddwl pam ei bod yn ddefnyddiol cael mwy nag un symbol ar bob bysell h.y. pe byddai angen cael bysell ar gyfer pob symbol, byddai’r bysellfwrdd yn llawer mwy!

BLWCH SYNIADAU

28 1. Defnyddio cyfrifiadur

Page 32: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.4: Defnyddio bysellfwrdd

Sut i roi gwybodaeth (geiriau a rhifau) ar eich cyfrifiadur

Anogwch gyfranogwyr i ymateb i’r cwestiwn:

“Pam y caiff ei galw’n fysell Clo Caps?”

Ateb a awgrymir : “Mae’r ‘caps’ yn cyfeirio at brif lythrennau ac mae’r ‘clo’ yn golygu bod y cyfrifiadur yn gosod bysellau’r llythrennau fel eu bod ond yn teipio llythrennau bras”

Gofynnwch i gyfranogwyr wasgu’r fysell Clo Caps unwaith ac yna roi cynnig ar deipio ychydig o lythrennau. Esboniwch fod angen gwasgu’r fysell eto er mwyn droi’r Clo Caps i ffwrdd.

Adolygu: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd dod i arfer â theipio llythrennau, rhifau a symbolau.

Eglurwch eich bod nawr yn mynd i edrych ar sut i osod bylchau pan fyddwch yn teipio. Mae bylchau yn bwysig achos fel arall dim ond llinell hir o lythrennau a rhifau fyddai gennych na fyddai’n gwneud llawer o synnwyr!

Eglurwch fod y Bylchwr yn gosod un bwlch rhwng geiriau. Unwaith yn unig y mae angen i chi ei wasgu.

Gofynnwch i gyfranogwyr ysgrifennu ychydig o eiriau yn defnyddio’r bylchwr.

Eglurwch fod y fysell Tab ar yr ochr chwith yn eich galluogi i osod mwy o fwlch rhwng geiriau.

Gofynnwch i gyfranogwyr geisio gosod bwlch rhwng geiriau yn defnyddio’r bar tab.

Eglurwch eich bod nawr yn mynd i edrych ar sut i symud eich cyrchwr ar y dudalen, fel eich bod yn gallu dewis ble rydych am deipio.

Un ffordd o symud y cyrchwr yw drwy ddefnyddio eich llygoden. Ond mae nifer o fysellau ar y bysellfwrdd sy’n gwneud hyn i chi hefyd.

Cyfeiriwch at y diagram ac eglurwch fod angen i chi ddefnyddio’r fysell Enter i symud eich cyrchwr i lawr un llinell. Hwn yw’r un ar yr ochr dde gyda saeth yn pwyntio tuag at i lawr ac yna i’r chwith.

Gofynnwch i gyfranogwyr geisio symud eu cyrchwr i lawr un llinell drwy ddefnyddio’r fysell Enter.

Efallai y byddwch am ofyn i’r grwp weithio mewn parau a meddwl am ffordd o egluro sut mae’r fysell shift yn gweithio yn eu geiriau eu hun e.e. mae’n eich symud i ran wahanol o’r fysell.

NODER

Gosod bylchau, symud eich cyrchwr a dileu testun

291. Defnyddio cyfrifiadur

Page 33: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

1.4: Defnyddio bysellfwrdd

Sut i roi gwybodaeth (geiriau a rhifau) ar eich cyfrifiadur

Eglurwch fod y bysellau saeth ar ochr dde bellaf y bysellfwrdd yn gallu symud eich cyrchwr i bob cyfeiriad ar y dudalen neu’r sgrîn - i fyny, i lawr, i’r chwith ac i’r dde.

Gofynnwch i gyfranogwyr roi cynnig ar symud eu cyrchwr gyda’r bysellau saeth.

Eglurwch ei bod yn bwysig gallu symud eich cyrchwr i safle penodol os ydych am ddileu testun. Rydych yn dileu testun drwy ddefnyddio’r bysell Backspace, sydd ar ochr dde’r bysellfwrdd. Mae’n rhaid i chi roi eich cyrchwr wrth ochr dde’r gair ac yna wasgu’r fysell Backspace. Bydd y cyrchwr yn symud i’r chwith ac yn dileu llythrennau wrth fynd.

Gofynnwch i gyfranogwyr roi cynnig ar ddileu rhywfaint o destun.

Adolygu: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd ymarfer defnyddio’r bysellau sy’n rhoi bylchau, symud y cyrchwr a dileu testun.

Eglurwch fod cyfranogwyr yn gallu ymarfer eu sgiliau bysellfwrdd drwy glicio ar y ddolen llwybr byr i gêm WebWise y BBC Keyboard Shooting Gallery, sydd ar gael ar eu byrddau gwaith.

Gorffennwch y sesiwn drwy gynnig rhagor o amser ymarfer i gyfranogwyr os ydynt am barhau.

Efallai y byddwch am ofyn i gyfranogwyr gofio pa fysellau sy’n gwneud y swyddogaethau hyn.

NODER

Ymarfer sgiliau bysellfwrdd

Gêm Keyboard Shooting Gallery

30 1. Defnyddio cyfrifiadur

Page 34: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

2.1 Beth yw’r rhyngrwyd

2.2 Chwilio drwy’r rhyngrwyd

2.3 Bod yn ddiogel ar-lein

2. Defnyddio’r rhyngrwyd

“ Rwy’n hoffi dod o hyd i ryseitiau newydd ar-lein a dwi’n meddwl bod gwefannau’n ffordd wych o gael gwybod mwy am bethau sydd o ddiddordeb i mi”

Pat

Tudalen gynnwys

Page 35: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

2.1: Beth yw’r rhyngrwyd

Nod

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Helpu cyfranogwyr i ddeall sut mae’r rhyngrwyd a phorwyr y rhyngrwyd yn gweithio.

• Sicrhau bod y cyfrifiaduron ymlaen a bod y cysylltiad â’r rhyngrwyd wedi’i brofi i sicrhau ei fod yn gweithio

• Sicrhau bod dolen llwybr byr wedi’i sefydlu i dudalen hafan y BBC - www.bbc.co.uk - fel ei bod yn barod i’w hagor

Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Egluro sut mae’r rhyngrwyd yn gweithio

• Cofio prif nodweddion porwr y rhyngrwyd a sut i’w ddefnyddio

Canlyniadau dysgu

Eglurwch beth fydd y sesiwn yn ei chwmpasu a’r canlyniadau dysgu.

Gofynnwch i gyfranogwyr droi at yr adran ‘Beth yw’r rhyngrwyd’ yn eu canllaw i ddechreuwyr.

Eglurwch:

• Mae’r rhyngrwyd yn rhwydwaith byd-eang o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd drwy linellau ffôn, ceblau a lloerenni

• Gallwch ddod o hyd i bron bopeth ar y rhyngrwyd. Mae’n debyg i lyfrgell fawr. Gallwch ddarllen y newyddion, siopa, talu biliau, anfon negeseuon e-bost a hyd yn oed wylio rhaglenni teledu

• I gysylltu â’r rhyngrwyd, bydd angen Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd neu ISP arnoch

• Gall cwmni eich ffôn symudol, eich ffôn cartref, darparwr eich teledu cebl neu hyd yn oed eich cadwyn archfarchnad leol gynnig cysylltiad â’r rhyngrwyd i chi

• Mae cysylltiad band eang â’r rhyngrwyd yn eich galluogi i gael mynediad i’r rhyngrwyd

• Mae’r wybodaeth ar y rhyngrwyd wedi’i chynnwys ar wefannau ac ar dudalennau gwe

Fformat cam wrth gam posibl

312. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 36: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

2.1: Beth yw’r rhyngrwyd

Eglurwch: Rydych yn defnyddio porwr gwe i weld tudalennau gwe a phori gwefannau. Mae gwahanol fathau o borwyr gwe ond mae ganddynt nodweddion tebyg.

Gofynnwch i gyfranogwyr glicio ar y ddolen llwybr byr ar y bwrdd gwaith i agor gwefan y BBC.

Eglurwch:

Mae cyfeiriad y wefan rydych arni i’w weld yn y bar cyfeiriad. Mae gan bob gwefan gyfeiriad, a elwir yn URL hefyd.

Er enghraifft, URL gwefan y BBC yw: www.bbc.co.uk

Mae’r www yn cynrychioli’r We Fyd Eang, neu’r World Wide Web yn Saesneg. Mae gan y rhan fwyaf o wefannau hwn ar y dechrau.

bbc yw enw’r wefan.

Mae’r .co.uk yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i chi, Er enghraifft, mae’r .uk yn dangos bod gwefan y BBC yn y Deyrnas Unedig.

http://www.bbc.co.ukDefnyddio porwr gwe

32 2. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 37: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Defnyddio porwr gwe

Eglurwch eich bod yn pori drwy’r rhyngrwyd i edrych ar wefannau yn yr un modd â’ch bod yn pori drwy lyfrau i ddewis llyfr mewn llyfrgell. I wneud hyn, mae angen i chi ddefnyddio porwr gwe.

Gallwch fel arfer agor eich porwr gwe drwy llwybr byr ar eich bwrdd gwaith neu drwy eich bar tasgau ar waelod y sgrîn.

Dyma ddau o’r porwyr mwyaf poblogaidd:

• Internet Explorer

• Mozilla Firefox

Waeth pa gyfrifiadur rydych yn gweithio arno, caiff botwm y porwr gwe ei gynrychioli bob amser gan E fawr ar gyfer Internet Explorer neu fotwm gyda llwynog coch arno ar gyfer Mozilla Firefox.

Gofynnwch i gyfranogwyr agor porwr drwy glicio ar y llwybr byr ar y bwrdd gwaith.

Eglurwch fod gwahanol fathau o borwyr gwe ond bod gan bob un ohonynt nodweddion tebyg.

Ar frig y porwr ceir bar cyfeiriad.

I fynd i wefan benodol, mae angen i chi roi cyfeiriad y wefan yn y bar cyfeiriad. Rydych yn gwneud hyn drwy amlygu’r cyfeiriad a all fod yno eisoes drwy ddefnyddio eich llygoden i’w ddethol. Gallwch naill ai ddechrau teipio a bydd yn tynnu’r cyfeiriad sydd yno eisoes yn awtomataidd, neu ddefnyddio’r botwm ‘delete’ ar eich bysellfwrdd i ddileu’r cyfeiriad a amlygir cyn teipio eich cyfeiriad newydd.

Gofynnwch i gyfranogwyr ysgrifennu gwefan y BBC www.bbc.co.uk i mewn i’r bar cyfeiriad.

Eglurwch y dylech bellach allu gweld gwefan y BBC drwy ddefnyddio porwr gwe.

Efallai y byddwch am atgoffa cyfranogwyr o beth yw llwybr byr, fel y nodir yn y sesiwn ‘Bwrdd gwaith ac Eiconau’.NODER

Efallai y byddwch am egluro eu bod yn gallu anwybyddu’r http:// ar ddechrau’r bar cyfeiriad gan ei fod yn rhywbeth y mae’r cyfrifiadur yn ei ychwanegu ei hun.

NODER

2.1: Beth yw’r rhyngrwyd

2. Defnyddio’r rhyngrwyd 33

Page 38: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

2.1: Beth yw’r rhyngrwyd

Yn ogystal â bar cyfeiriad sy’n nodi gwefan y BBC, mae gan borwr gwe hefyd far offer gyda botymau.

Eglurwch:

Mae’r botwm Home yn mynd â chi i’r dudalen gyntaf rydych yn ei gweld pan fyddwch yn agor eich porwr rhyngrwyd.

Mae’r botwm Back yn mynd â chi yn ôl i dudalen rydych eisoes wedi bod arni.

Mae’r botwm Forward yn mynd â chi i’r dudalen roeddech arni cyn i chi wasgu’r botwm ‘back’.

Defnyddir y botwm Refresh i aillwytho tudalen rydych arni. Gallwch ddefnyddio’r botwm hwn os nad yw tudalen wedi llwytho’n gywir, neu os hoffech ddiweddaru tudalen. Er enghraifft os byddwch ar wefan arwerthu a’ch bod am weld y cynnig diweddaraf.

Defnyddir y botwm History i weld pa wefannau a thudalennau gwe rydych eisoes wedi bod arnynt.

Gofynnwch i gyfranogwyr roi cynnig ar glicio ar y gwahanol fotymau. Efallai y byddwch am esbonio bod angen defnyddio’r botwm Back cyn gallu defnyddio’r botwm Forward.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar borwr gwe a sut rydych yn ei ddefnyddio i fynd i wefan.

34 2. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 39: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Eglurwch:

Fel yr eglurwyd yn gynharach, mae gwefannau yn debyg i lyfrau gyda chlawr blaen - sef yr hafan - a llawer o dudalennau eraill - sef tudalennau gwe. I archwilio gwefan, mae’n rhaid i chi glicio ar ddolen ac mae’n mynd â chi i dudalen arall ar y wefan.

Fel y mae’r enw yn ei awgrymu, mae dolen yn eich cysylltu â rhywbeth arall.

Gall dolenni fynd â chi i wefannau eraill hefyd. Gelwir hyn yn pori neu syrffio’r we.

Gall dolen fod yn destun, yn fotwm neu’n llun.

• Yn aml mae wedi’i hamlygu ar y we fel ei bod yn hawdd i’w gweld

• Weithiau mae wedi’i thanlinellu. Hefyd, pan fyddwch yn symud eich cyrchwr dros ddolen, mae’n newid o fod yn saeth i fod yn llaw sy’n pwyntio, sy’n golygu eich bod yn gallu ei hagor drwy glicio arni

Gofynnwch i gyfranogwyr roi cynnig ar glicio ar ddolen neu ddolenni ar wefan y BBC a chlicio ar y botwm ‘back’ i fynd yn ôl i ble roeddent.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar sut rydych yn defnyddio dolenni ar wefan i archwilio ei thudalennau gwe yn ogystal â gwefannau eraill.

Gorffennwch y sesiwn drwy gynnig rhagor o amser ymarfer i gyfranogwyr os ydynt am barhau.

Pori drwy’r rhyngrwyd a defnyddio dolenni

2.1: Beth yw’r rhyngrwyd

Cliciwch yma

352. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 40: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

2.2: Chwilio drwy’r rhyngrwyd

Dylech gadarnhau a yw’r cyfranogwyr yn llawdde neu’n llawchwith. Os ydynt yn llawchwith, eglurwch eu bod yn gallu symud y llygoden i ochr chwith eu bysellfwrdd, lle y gallai deimlo’n fwy cyfforddus ac y gallai fod yn haws iddynt ddefnyddio eu bys canol ar gyfer y botwm chwith.

Nod

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Pwysig!

Helpu cyfranogwyr i ddeall sut i chwilio drwy’r rhyngrwyd.

• Sicrhau bod y cyfrifiaduron ymlaen a bod y cysylltiad â’r rhyngrwyd wedi’i brofi i sicrhau ei fod yn gweithio

• Sicrhau bod llwybr byr i borwr rhyngrwyd ar bob bwrdd gwaith e.e. Internet Explorer neu Mozilla Firefox

Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Egluro bod angen defnyddio peiriant chwilio i chwilio drwy’r rhyngrwyd

• Disgrifio prif nodweddion peiriant chwilio

• Dangos sut i chwilio drwy’r rhyngrwyd drwy ddefnyddio geiriau allweddol a thermau chwilio

Canlyniadau dysgu

36 2. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 41: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

2.2: Chwilio drwy’r rhyngrwyd

Eglurwch beth fydd y sesiwn yn ei chwmpasu a’r canlyniadau dysgu.

Gofynnwch i gyfranogwyr droi at yr adran ‘Chwilio drwy’r rhyngrwyd’ yn eu canllaw i ddechreuwyr.

Eglurwch y byddwch yn mynd â’r cyfranogwyr ar daith dywys ar sut i chwilio drwy’r rhyngrwyd, er mwyn iddynt archwilio a dod o hyd i bethau sydd o ddiddordeb iddynt. Mae’n bwysig pwysleisio na allant dorri’r rhyngrwyd - beth bynnag y byddant yn ei wneud!

Eglurwch fod y rhyngrwyd yn adnodd eang gyda miliynau o wefannau a thudalennau gwe. Gallwch chwilio am bron unrhyw beth ar y rhyngrwyd, o ryseitiau a newyddion lleol i hanes ac awgrymiadau garddio.

I chwilio drwy’r rhyngrwyd yn effeithiol a chael y gorau ohoni, mae angen i chi ddefnyddio offeryn pwerus a elwir yn peiriant chwilio. Bydd peiriant chwilio yn sganio drwy filoedd o wefannau a thudalennau gwe ar y rhyngrwyd ac yn casglu ac yn trefnu’r wybodaeth sydd fwyaf perthnasol i chi.

Mae llawer o wahanol beiriannau chwilio.

Dyma rai o’r rhai mwyaf poblogaidd:

Google www.google.com

Yahoo www.yahoo.com

Bing www.bing.com

Fformat cam wrth gam posibl

Pam defnyddio peiriant chwilio?

372. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 42: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

2.2: Chwilio drwy’r rhyngrwyd

Eglurwch i gyfranogwyr fod angen agor peiriant chwilio yn eich porwr gwe i’w ddefnyddio. Atgoffwch gyfranogwyr eich bod yn defnyddio porwr gwe i weld y rhyngrwyd fel y nodir yn y sesiwn ‘Beth yw’r rhyngrwyd’.

Gofynnwch i gyfranogwyr agor eu porwr gwe drwy glicio ar y llwybr byr ar y bwrdd gwaith e.e. Internet Explorer neu Mozilla Firefox.

Eglurwch fod angen teipio cyfeiriad peiriant chwilio i mewn i’r bar cyfeiriad ac yna glicio ar y saeth wrth ymyl y bar cyfeiriad neu wasgu’r fysell ‘enter’ ar y bysellfwrdd. Efallai y byddwch am ddewis un o’r peiriannau chwilio i’w defnyddio ar gyfer y sesiwn.

Eglurwch fod pob un o’r peiriannau chwilio yn edrych yn wahanol ond bod gan bob un ohonynt flwch chwilio neu faes chwilio.

Dyma lle rydych yn teipio’r hyn rydych yn chwilio amdano. Mae botwm chwilio rydych yn ei wasgu hefyd pan fyddwch yn barod i chwilio.

Eglurwch fod angen teipio geiriau allweddol i chwilio. Mae’r rhain yn eiriau sy’n disgrifio’r hyn rydych yn chwilio amdano yn y ffordd fwyaf syml ac uniongyrchol. Er enghraifft, yn hytrach na theipio “Mae angen awgrymiadau arnaf ar sut i dyfu tomatos”, teipiwch “tyfu tomatos”.

Gofynnwch i gyfranogwyr ymarfer rhoi geiriau allweddol yn y blwch chwilio a gwasgu’r botwm chwilio. Gallech awgrymu rhai geiriau allweddol yn seiliedig ar eich enghraifft neu ofyn i gyfranogwyr feddwl am eu geiriau eu hunain sy’n ymwneud â’u diddordebau eu hunain.

Eglurwch eich bod bellach yn gallu gweld eich canlyniadau chwilio.

Bydd hyn yn ymddangos fel rhestr o wefannau a dolenni, gyda’r gwefannau mwyaf poblogaidd neu fwyaf perthnasol ar frig y rhestr. I fynd i’r wefan honno, y cyfan sydd angen ei wneud yw clicio ar y ddolen.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar brif nodweddion peiriant chwilio a sut rydych yn chwilio drwy ddefnyddio geiriau allweddol.

Gorffennwch y sesiwn drwy ofyn i gyfranogwyr rannu pethau diddorol y gallent fod wedi dod o hyd iddynt tra’n chwilio drwy’r rhyngrwyd.

Cynigiwch ragor o amser ymarfer i gyfranogwyr os ydynt am barhau.

Efallai yr hoffent ddefnyddio peiriant chwilio safonol neu gallant ymarfer drwy ddefnyddio gêm Searching the internet challenge ar WebWise y BBC. www.bbc.co.uk/webwise/courses/internet-basics/lessons/internet-search-challengeBLWCH

SYNIADAU

Agor a defnyddio peiriant chwilio

38 2. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 43: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

2.3: Bod yn ddiogel ar-lein

Helpu cyfranogwyr i ddeall sut i fod yn ddiogel tra’n defnyddio’r rhyngrwyd

Sicrhau bod gêm Password High Striker WebWise y BBC yn barod i’w hagor ar y bwrdd gwaith

Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Cofio sut i gadw gwybodaeth yn ddiogel ar eu cyfrifiadur

• Cofio sut i adnabod ac atal negeseuon e-bost amheus

• Cofio sut i greu cyfrineiriau cryf wrth gofrestru ar wefannau

• Cofio sut i adnabod gwefan ddiogel wrth siopa ar y rhyngrwyd

Eglurwch beth fydd y sesiwn yn ei chwmpasu ac ewch dros y canlyniadau dysgu.

Gofynnwch i gyfranogwyr droi at yr adran ‘Bod yn ddiogel ar-lein’ yn y canllaw i ddechreuwyr.

Eglurwch y byddwch yn mynd â’r cyfranogwyr ar daith dywys ar sut i fod yn ddiogel ar y rhyngrwyd. Bydd hyn yn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau fel siopa, defnyddio’r e-bost a bancio.

Nod

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Canlyniadau dysgu

392. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 44: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Eglurwch fod y rhyngrwyd yn offeryn gwych sydd â llawer o fanteision a gall wneud eich bywyd yn fwy syml mewn sawl ffordd. Yn anffodus, gall y nodweddion sy’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl onest ei ddefnyddio hefyd gael eu camddefnyddio gan droseddwyr a phobl sy’n bwriadu achosi aflonyddwch.

Ond ni ddylech adael i ofn eich atal rhag defnyddio’r rhyngrwyd. Mae ychydig o ragofalon syml a all eich cadw’n ddiogel.

Eglurwch y byddwch am amddiffyn cyfrifiadur os byddwch yn ei ddefnyddio gartref hefyd.

I wneud hyn, mae angen i chi roi rhaglenni neu feddalwedd arbennig ar eich cyfrifiadur. Bydd angen Wal dân a’r feddalwedd gwrthfeirws a gwrth-ysbïwedd ddiweddaraf. Mae’r rhain yn helpu i gadw eich cyfrifiadur yn ddiogel, fel cadw eich drysau a’ch ffenestri dan glo gartref.

Gallwch hefyd gael awgrymiadau eraill ar sut i gadw eich cyfrifiadur yn ddiogel yn www.bbc.co.uk/webwise/topics/safety-and-privacy neu ar www.getsafeonline.org

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd rhoi cyflwyniad i chi ar feddalwedd diogelwch i gadw eich cyfrifiadur yn ddiogel fel na all pobl gael gafael ar eich gwybodaeth.

Eglurwch efallai y bydd pobl yn anfon negeseuon e-bost atoch er mwyn ceisio cael gafael ar eich gwybodaeth breifat, fel manylion cyfrif banc neu gerdyn credyd. Er enghraifft, gallent anfon negeseuon e-bost ffug gyda dolenni i wefannau twyllodrus ond sy’n argyhoeddi gyda’r nod o’ch twyllo i roi gwybodaeth fel eich PIN neu rif eich cyfrif banc.

Efallai y byddwch hefyd yn cael negeseuon e-bost SBAM a anfonir at filoedd o bobl ac sydd fel arfer yn hysbysebu pethau.

Fformat cam wrth gam posibl

Sicrhau bod eich cyfrifiadur yn ddiogel

Cadw llygad ar negeseuon e-bost

Efallai y byddwch am ddweud wrth bobl am beidio â phoeni am ddeall sut mae’r feddalwedd hon yn gweithio, ond i ddeall bod diogelwch yn bwysig a’i bod yn ddefnyddiol adnabod rhai o’r termau.

NODER

Bydd cyfranogwyr hefyd yn dysgu am anfon a derbyn negeseuon e-bost yn Adran 3.

NODER

2.3: Bod yn ddiogel ar-lein

40 2. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 45: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Eglurwch fod angen dilyn yr awgrymiadau canlynol i ddiogelu eich hun yn erbyn y mathau hyn o negeseuon e-bost:

• Peidiwch ag agor neges e-bost gan rywun nad ydych erioed wedi clywed amdanynt. Dilëwch y neges ar unwaith. Os byddwch yn ei hagor ar ddamwain, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni. Peidiwch byth ag ymateb i neges e-bost SBAM

• Gallwch atal negeseuon e-bost SBAM nad ydych am eu cael ar eich cyfrif e-bost - bydd hyn hefyd yn atal y rhan fwyaf o negeseuon e-bost twyllodrus

• Defnyddiwch borwr gwe cyfredol oherwydd gall y rhain eich rhybuddio yn erbyn gwefannau hysbys sy’n ceisio cael eich gwybodaeth mewn ffordd dwyllodrus

• Peidiwch â datgelu eich cyfrinair nag unrhyw wybodaeth bersonol. Ni fydd unrhyw gwmni cyfreithlon byth yn gofyn am eich cyfrinair

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd amlygu sut mae pobl yn defnyddio negeseuon e-bost i gael gafael ar eich gwybodaeth a sut y gallwch atal hyn rhag digwydd.

Mae diogelwch yn bwysig wrth gysylltu â’r rhyngrwyd. I ddiogelu eich cyfrifiadur rhag feirysau, gallwch gael meddalwedd diogelu rhag feirysau. Gall eich ISP roi meddalwedd i chi, neu gallwch ei lawrlwytho am ddim o’r rhyngrwyd, neu brynu meddalwedd ychwanegol. I atal rhywun rhag cael mynediad i’ch cyfrifiadur pan fyddwch wedi cysylltu â’r rhyngrwyd, dylai fod gennych wal dân.

Mae wal dân yn feddalwedd sy’n sicrhau nad oes unrhyw raglenni ar eich cyfrifiadur yn ceisio cysylltu â’r rhyngrwyd heb eich caniatâd.

Gellir cael rhagor o ganllawiau yn www.bbc.co.uk/webwise/broadband

2.3: Bod yn ddiogel ar-lein

412. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 46: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Esboniwch fod angen cofrestru enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer llawer o weithgareddau ar y rhyngrwyd. Fel arfer, mae angen cyfrinair ar gyfer eich cyfrifiadur hefyd.

Mae’r ffordd rydych yn eu dewis hefyd yn gallu eich helpu i gadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol.

Eglurwch y gofynnir i chi ddewis enw defnyddiwr pan fyddwch yn cofrestru ar wefan. Gall enw defnyddiwr fod yn unrhyw beth o’ch dewis. Nid oes raid iddo gynnwys eich enw go iawn. Efallai na fyddwch am ddefnyddio eich enw go iawn oherwydd bydd hyn yn eich helpu i gadw eich hunaniaeth yn anhysbys ac yn ddiogel.

Pan fyddwch yn cofrestru gofynnir i chi roi cyfrinair hefyd. Mae’n bwysig eich bod yn dewis cyfrinair y gallwch ei gofio ac nad yw’n hawdd i rywun arall ei ddyfalu. Nid ydych am i bawb cael gafael ar eich holl fanylion!

Mae’r math gorau o gyfrinair yn cymysgu llythrennau a rhifau. Gelwir hwn yn gyfrinair cryf.

Gofynnwch i gyfranogwyr roi cynnig ar ymarfer creu cyfrinair cryf drwy ddefnyddio gêm Password High Striker WebWise y BBC.

Anogwch gyfranogwyr i ymateb i’r cwestiwn. “Pam bod y rhain yn enghreifftiau o gyfrinair gwael yn eich barn chi?”

Eglurwch y byddai’r canlynol yn enghreifftiau o gyfrinair da:

he770Mum

Mik35th

Eglurwch y byddai’r canlynol yn enghreifftiau o gyfrinair gwael:

cyfrinair

michaelsmith

2.3: Bod yn ddiogel ar-lein

Enwau defnyddwyr a chyfrineiriau

42 2. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 47: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Eglurwch ei bod yn fwy diogel cael cyfrineiriau gwahanol ar gyfer gwefannau gwahanol. Yna, os bydd rhywun yn cael gwybod un o’ch cyfrineiriau o leiaf na fydd yn gallu cael mynediad i bopeth arall rydych wedi cofrestru ar ei gyfer.

Eglurwch y bydd eich cyfrinair fel arfer yn ymddangos fel sêr er mwyn atal pobl o’ch cwmpas rhag gweld yr hyn rydych yn ei deipio.

Eglurwch eich bod yn defnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i fewngofnodi ar wefan. Mae hyn yn golygu y gallwch gael gafael ar y wybodaeth neu’r gwasanaeth o’ch dewis.

Ar ôl i chi orffen ei defnyddio, dylech bob amser gofio allgofnodi o’r wefan. Bydd angen i chi glicio ar y botwm allgofnodi i wneud hyn. Mae hyn yn bwysig iawn pan fyddwch yn defnyddio cyfrifiadur mewn man cyhoeddus.

Pwysleisiwch eto na ddylech byth roi eich cyfrinair i neb ac na fydd unrhyw gwmni cyfreithlon yn gofyn i chi amdano.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar bwysigrwydd creu enw defnyddiwr a chyfrinair cryf i ddiogelu eich gwybodaeth.

Efallai y byddwch am ofyn i gyfranogwyr gofio nodweddion cyfrinair cryf.

NODER

2.3: Bod yn ddiogel ar-lein

432. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 48: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Eglurwch mai un o fanteision y rhyngrwyd yw’r gallu i siopa o amrywiaeth eang o siopau a phrynu eitemau ar wefannau arwerthu.

Un ffordd o sicrhau eich bod yn ddiogel yw defnyddio manwerthwyr sydd ag enw da, naill ai fel siopau ar y stryd fawr, neu frandiau sefydledig. Os byddwch yn prynu o wefannau arwerthu fel eBay, dylech ddilyn eu cyngor ar ddiogelwch yn ofalus iawn. Peidiwch byth â lawrlwytho meddalwedd, cerddoriaeth na fideos anghyfreithlon.

Eglurwch fod angen sicrhau eich bod ar wefan ddiogel os byddwch yn siopa ar y rhyngrwyd a bod angen rhoi manylion am eich cerdyn credyd neu’ch cerdyn debyd.

Gallwch sicrhau bod gwefan yn ddiogel os bydd ei chyfeiriad yn dechrau gyda https://, a byddwch yn gweld hwn ar far cyfeiriad eich porwr gwe. Yn aml bydd symbol clo wrth ymyl y cyfeiriad neu yn y gornel waelod ar ochr dde’r dudalen.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar sut i siopa’n ddiogel ar y rhyngrwyd

2.3: Bod yn ddiogel ar-lein

Mae gwefannau diogel yn dechrau gyda htt ps:// Mae’r llythyren ‘s’ yn nodi ei bod yn wefan ddiogel.

NODER

Gorffennwch y sesiwn drwy gyfeirio cyfranogwyr at dudalen Diogelwch a Phreifatrwydd WebWise y BBC i’w helpu i gael mwy o wybodaeth.

www.bbc.co.uk/webwise/topics/safety-and-privacy

Siopa ar y rhyngrwyd

44 2. Defnyddio’r rhyngrwyd

Page 49: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

3.1 Anfon a derbyn negeseuon e-bost

3. Defnyddio e-bost

“ Mae dysgu sut i ddefnyddio e-bost wedi fy helpu i gadw mewn cysylltiad â’m teulu a’m ffrindiau sy’n byw dramor”

Geoff

Tudalen gynnwys

Page 50: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

3.1: Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Helpu cyfranogwyr i ddeall sut mae e-bost yn gweithio.

Nod

• Sicrhau bod y cyfrifiaduron ymlaen a bod y cysylltiad â’r rhyngrwyd wedi’i brofi i sicrhau ei fod yn gweithio

• Sicrhau bod gêm Email with Dick and Harry WebWise y BBC yn barod i’w hagor

Yr hyn sydd angen i chi ei baratoi

Erbyn diwedd y sesiwn hon bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Egluro beth yw negeseuon e-bost

• Disgrifio nodweddion cyfeiriad e-bost

• Dangos sut i ymateb i neges e-bost, anfon neges e-bost ymlaen ac ychwanegu atodiad

Canlyniadau dysgu

Mae’r sesiwn hon yn seiliedig ar gêm ryngweithiol WebWise y BBC a elwir yn Email with Dick and Harry. Mae’n defnyddio cyfrif e-bost ffug ac yn mynd â’r cyfranogwyr drwy’r prif gamau o ymateb i neges e-bost, anfon neges e-bost ymlaen ac ychwanegu atodiad. Efallai y bydd arweinwyr y cwrs am ymgyfarwyddo â’r gêm cyn y sesiwn.

Pwysig

453. Defnyddio e-bost

Page 51: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

3.1: Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Eglurwch beth fydd y sesiwn yn ei chwmpasu a’r canlyniadau dysgu.

Gofynnwch i gyfranogwyr droi at yr adran ‘Anfon a derbyn negeseuon e-bost’ yn eu canllaw i ddechreuwyr.

Eglurwch y byddwch yn mynd â’r cyfranogwyr ar daith dywys ar sut i ddefnyddio e-bost. Yna, os byddant yn teimlo’n barod, gallwch eu helpu i sefydlu eu cyfrif e-bost eu hun ar ddiwedd y sesiwn.

Eglurwch fod neges electronig neu e-bost yn ffordd gyflym o anfon negeseuon i bobl gan ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Mae anfon neges e-bost yn debyg iawn i anfon llythyr. Mae’n rhaid i chi ei hanfon i gyfeiriad y sawl rydych yn cysylltu ag ef.

Fel cyfeiriad post, mae sawl gwahanol ran i gyfeiriad e-bost. Er enghraifft, mae’r cyfeiriad e-bost

[email protected] yn cynnwys y rhannau canlynol:

tom yw enw neu enw defnyddiwr y person

Mae’r @ yn cynrychioli’r gair ‘at’ ac yn golygu ei fod wedi cysylltu â’r rhan bbc.co.uk o’r cyfeiriad

Ar ôl yr @ ceir enw’r lle mae’r person yn gweithio neu’r lle sy’n darparu’r cyfeiriad e-bost - y BBC yn yr achos hwn

Mae’r .uk yn dangos bod y cyfeiriad e-bost ar gyfer rhywun yn y Deyrnas Unedig

Fel arfer mae cyfeiriad e-bost yn cael ei ysgrifennu gyda llythrennau bach heb ofod rhwng y llythrennau.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar beth yw e-bost a nodweddion cyfeiriad e-bost.

Eglurwch eich bod nawr yn mynd i ddefnyddio gweithgaredd WebWise y BBC a fydd yn eich helpu i ddeall hanfodion sut mae e-bost yn gweithio.

Gofynnwch i gyfranogwyr glicio ar y gêm Email with Dick and Harry.

Fformat cam wrth gam posibl

Beth yw e-bost?

Mae cyfranogwyr yn dechrau’r gêm drwy wasgu’r botwm ‘click to play’.

NODER

46 3. Defnyddio e-bost

Page 52: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

3.1: Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Eglurwch eich bod nawr yn mynd i fynd drwy’r camau o anfon a derbyn neges e-bost.

Eglurwch y bydd neges e-bost yn ymddangos yn eich mewnflwch pan fydd yn cyrraedd, sy’n debyg i’ch blwch llythyrau gartref. Bydd neges e-bost newydd yn ymddangos mewn print trwm i ddangos ei bod yn newydd. Bydd rhif wrth ymyl eich mewnflwch yn dangos sawl neges e-bost heb ei darllen sydd gennych.

Pan fyddwch yn derbyn neges e-bost dylech allu gweld gan bwy mae’r neges e-bost a phwnc y neges.

Anogwch gyfranogwyr i ddisgrifio’r neges e-bost y gallant ei gweld yn eu mewnflwch.

Eglurwch fod yn rhaid i chi glicio rhywle ar y neges e-bost, fel y llinell pwnc i agor a darllen y neges.

Gofynnwch i gyfranogwyr agor a darllen y neges e-bost y maent wedi’i derbyn gan Dick.

Eglurwch brif nodweddion neges e-bost sef y bar cyfeiriad, lle rydych yn rhoi cyfeiriad y neges e-bost, y bar pwnc, lle rydych yn ysgrifennu am beth mae’r neges e-bost, a phrif gorff y neges e-bost, lle rydych yn ysgrifennu eich neges.

Eglurwch y gallwch ymateb i’r neges e-bost unwaith y mae ar agor. I wneud hyn, mae angen i chi glicio ar y botwm Reply.

Gofynnwch i gyfranogwyr glicio ar y botwm Reply.

Eglurwch fod clicio ar ‘reply’ yn eich galluogi i deipio ym mhrif gorff y neges e-bost a’i bod eisoes yn cynnwys cyfeiriad y person rydych yn ymateb iddo.

Yn y llinell pwnc bydd RE:

Gofynnwch i gyfranogwyr ymateb i’r neges e-bost drwy ysgrifennu neges fer uwchben neges Dick. Ac yna ei hanfon drwy glicio ar y botwm ‘send’.

Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Dylai hon fod yn neges e-bost gan Dick gyda’r Pwnc: Pen-blwydd.

NODER

473. Defnyddio e-bost

Page 53: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

3.1: Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Eglurwch y gallwch ychwanegu atodiad at neges e-bost yn ogystal ag anfon negeseuon. Mae atodiad yn fath o ffeil sy’n gallu bod yn llun neu’n ddogfen. Er enghraifft, gallech ddefnyddio atodiadau pan fyddwch am anfon lluniau o’r teulu.

Gofynnwch i gyfranogwyr agor a darllen y neges e-bost newydd gan Dick a’u hannog i ddweud beth mae’n gofyn amdano.

Eglurwch fod angen clicio ar y botwm Attach i ychwanegu atodiad. Symbol clip papur sydd ar y botwm ‘Attach’ yn aml.

Anogwch gyfranogwyr i ateb y cwestiwn:

Pam bod clip papur yn symbol ar gyfer y botwm ‘Attach’ yn eich barn chi?

Gofynnwch i gyfranogwyr glicio ar y botwm Attach ac atodi’r llun cywir.

Eglurwch y bydd y ffeil rydych wedi’i hychwanegu, y llun o’r gath yn yr achos hwn, yn dangos fel atodiad yn eich neges e-bost. Caiff enw’r ffeil ei dangos wrth ymyl symbol y clip papur.

Eglurwch: Bod angen agor neges e-bost yn y ffordd arferol cyn gallu gweld atodiad. Yna mae’n rhaid i chi glicio ar yr atodiad hwnnw i’w agor mewn ffenestr newydd. Yna gallwch ddewis agor yr atodiad neu gadw copi ohono.

Gofynnwch i gyfranogwyr ysgrifennu neges fer at Dick ac anfon y neges e-bost gyda’r atodiad drwy glicio ar y botwm ‘send’.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar sut i anfon atodiad.

Bydd cyfranogwyr wedi cael neges e-bost arall gan Dick yn gofyn iddynt anfon llun doniol ato.

NODER

Pan fyddwch yn cael neges e-bost gydag atodiad, byddwch yn gweld symbol clip papur wrth ymyl y neges e-bost yn eich mewnflwch. Mae’n bwysig cofio peidio byth ag agor atodiad oni bai eich bod yn ymddiried yn y person sydd wedi’i anfon atoch, gan fod atodiadau weithiau yn gallu cynnwys feirysau sy’n niweidio cyfrifiaduron.

NODER

Anfon atodiadau

48 3. Defnyddio e-bost

Page 54: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

3.1: Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Gofynnwch i gyfranogwyr agor y neges e-bost newydd gan Dick a’u hannog i ddisgrifio beth mae’n gofyn amdano.

Eglurwch eich bod nawr yn mynd i edrych ar sut i anfon neges e-bost ymlaen.

• Rydych yn anfon neges e-bost ymlaen pan rydych am i rywun arall ei gweld, fel ffrind arall

• Yn yr enghraifft hon, rydych yn mynd i anfon y neges e-bost gyda’r atodiad ymlaen at Harry

Eglurwch fod angen clicio’n gyntaf ar y botwm Forward i anfon neges e-bost ymlaen.

Gofynnwch i gyfranogwyr glicio ar y botwm Forward.

Eglurwch y bydd hyn yn agor neges e-bost newydd.

Eglurwch fod y FW: yn dangos eich bod yn anfon neges e-bost ymlaen at rywun. Os rydych yn gweld FW mewn neges e-bost yn eich mewnflwch, mae hyn yn golygu bod neges e-bost wedi’i hanfon ymlaen atoch.

Eglurwch y bydd y cyfeiriad e-bost yno’n awtomataidd pan fyddwch yn ymateb i neges e-bost, ond pan fyddwch yn anfon neges e-bost ymlaen neu’n ysgrifennu e-bost newydd, bydd angen i chi ychwanegu’r cyfeiriad.

Gallwch ychwanegu’r cyfeiriad e-bost drwy ei deipio i mewn neu drwy ddod o hyd i gyfeiriad yn eich rhestr o enwau cyswllt. Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn dod o hyd i gyfeiriad yn eich rhestr o enwau gyswllt. Rydych yn gwneud hyn drwy glicio ar y botwm To:.

Gofynnwch i gyfranogwyr glicio ar y botwm To: a’u hannog i ddweud beth sy’n digwydd.

Bydd neges e-bost newydd bellach wedi cyrraedd gan Dick yn gofyn i’r cyfranogwyr anfon y neges e-bost ymlaen at Harry, y mae ei gyfeiriad yn y rhestr o enwau cyswllt.

NODER

Bydd hyn yn dangos rhestr o fanylion cyswllt Harry a Tom.

NODER

Anfon e-bost ymlaen a defnyddio rhestr o enwau cyswllt

493. Defnyddio e-bost

Page 55: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

3.1: Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Bydd neges e-bost yn ymddangos gan Harry yn gofyn i’r cyfranogwr anfon yr atodiad ymlaen at Tom ond i newid y pwnc a dileu’r sgwrs.NODER

Eglurwch fod yn rhaid i chi ddewis pa gyswllt rydych am anfon y neges e-bost ymlaen ato drwy dicio’r blwch a chlicio ar OK.

Bydd hyn yn ychwanegu’r cyfeiriad at y neges e-bost.

Gofynnwch i gyfranogwyr ddewis y person cyswllt, Harry yn yr achos hwn, a chlicio ar OK.

Anogwch gyfranogwyr i egluro beth y dylent ei wneud nawr i anfon y neges e-bost ymlaen.

Gofynnwch i gyfranogwyr anfon y neges e-bost ymlaen, drwy glicio ar y botwm Send.

Gofynnwch i gyfranogwyr agor a darllen y neges e-bost newydd.

Eglurwch ei bod yn bwysig cadarnhau mai dim ond y wybodaeth rydych am i’r person arall ei gweld rydych yn ei hanfon pan fyddwch yn anfon neges e-bost ymlaen. Gallwch newid y pwnc a gallwch ddileu’r neges mewn neges e-bost.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar sut i anfon neges e-bost ymlaen.

NODER

Ar yr adeg hon, efallai y byddwch am ofyn i gyfranogwyr weithio mewn parau a mynd drwy’r camau o anfon neges e-bost at Tom, gan sicrhau eu bod yn newid y pwnc ac yn dileu’r sgwrs flaenorol o’r neges e-bost.

50 3. Defnyddio e-bost

Page 56: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

3.1: Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Eglurwch eich bod nawr yn mynd i edrych ar y gwahanol ffolderi rydych yn eu defnyddio ar gyfer negeseuon e-bost. Mae’r ffolderi hyn yn eich helpu i storio a rheoli eich negeseuon e-bost.

Dyma’r prif ffolderi:

Inbox - ffolder sy’n dal negeseuon e-bost y mae pobl wedi’u hanfon atoch chi. Mae hwn fel arfer yn agor yn awtomataidd pan fyddwch yn mynd i mewn i’ch cyfrif e-bost.

Blwch Sent - ffolder sy’n dal negeseuon e-bost rydych wedi’u hanfon at bobl.

Ffolder Junk - yn dal negeseuon e-bost sy’n bost sothach neu’n SBAM yn ôl eich cyfrifiadur - mae hwn yn debyg i’r post sothach rydych yn ei gael drwy’r drws.

Bin neu ffolder Trash - yn dal negeseuon e-bost nad ydych eu hangen mwyach ac rydych wedi’u dileu. Rydych yn dileu neges e-bost drwy ei dewis ac yna glicio ar y botwm ‘Delete’.

Ffolder Contacts - ffolder sydd yn eich llyfr cyfeiriadau lle gallwch storio eich cyfeiriadau e-bost a manylion cyswllt eich ffrindiau, teulu a chydweithwyr.

Adolygwch: Diben y rhan hon o’r sesiwn oedd edrych ar y gwahanol ffolderi rydych yn eu defnyddio ar gyfer negeseuon e-bost.

Gorffennwch y sesiwn drwy ofyn i’r cyfranogwyr a hoffent sefydlu eu cyfrif e-bost eu hunain drwy ddefnyddio darparwr am ddim.

Ar ôl i’r cyfranogwyr orffen y gweithgaredd olaf, bydd y gêm yn cau yn awtomataidd. Os byddwch am ddefnyddio’r sgrîn eto i fynd drwy ran nesaf y sesiwn, bydd angen i chi ofyn i’r cyfranogwyr ailddechrau’r gêm.

NODER

Efallai y byddwch am gadarnhau eu bod yn deall drwy ofyn i’r cyfranogwyr geisio cofio’r prif ffolderi a ddefnyddir gan e-bost.

NODER

Ffolderi eich negeseuon e-bost

513. Defnyddio e-bost

Page 57: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

Pwyntiau allweddol ar gyfer helpu cyfranogwyr i sefydlu cyfrif e-bost

• Mae’r canllaw i ddechreuwyr yn nodi nifer o ddarparwyr e-bost poblogaidd ar y we a ddefnyddir yn aml wrth sefydlu cyfrif e-bost

• Mae’n bwysig bod cyfranogwyr yn darllen ac yn deall telerau ac amodau’r darparwr cyn cofrestru ar gyfer y cyfrif e-bost

Eglurwch i gyfranogwyr sut i greu enw defnyddiwr addas a chyfrinair cryf drwy ddefnyddio’r adran ‘Bod yn ddiogel ar-lein’ yn eu canllaw i ddechreuwyr. Eglurwch y gallant roi eu cyfeiriad e-bost i bobl maent yn ymddiried ynddynt, ond i beidio byth â rhoi eu cyfrinair i neb.

3.1: Anfon a derbyn negeseuon e-bost

Sefydlu cyfrif e-bost am ddim i gyfranogwyr

Wrth i chi fynd o gwmpas yn sefydlu cyfrifon e-bost, efallai yr hoffai cyfranogwyr chwarae gêm WebWise y BBC Email with Dick and Harry unwaith eto, er mwyn ymarfer eu sgiliau.

NODER

52 3. Defnyddio e-bost

Page 58: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

4.1 Adnoddau defnyddiol gwefan y BBC

4.2 Rhagor o leoedd i gael help

4. Help ychwanegol i arweinwyr cwrs

“ Rwyf wedi bod yn dysgu am beth amser erbyn hyn ond rwy’n dal i gael trafferth gyda’r holl jargon o ran cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd!”

Tahira

Tudalen gynnwys

Page 59: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

4.1: Adnoddau defnyddiol gwefan y BBC

www.bbc.co.uk/firstclick

Mae gwefan Clic Cyntaf yn defnyddio cynnwys ar-lein gorau’r BBC i helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf tuag at ddechrau arni gyda chyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.

www.bbc.co.uk/webwise

Mae WebWise yn cynnig llawer o ganllawiau fideo a gweithgareddau defnyddiol i helpu pobl i ymarfer sgiliau newydd - o ddefnyddio llygoden a bysellfwrdd, i chwilio drwy’r rhyngrwyd ac anfon negeseuon e-bost.

www.bbc.co.uk/connect/campaigns/partner_form.shtml

Gallwch lawrlwytho ac argraffu posteri a thaflenni ychwanegol i helpu i hyrwyddo eich cwrs Clic Cyntaf i Ddechreuwyr ar gyfrifiaduron.

www.bbc.co.uk/webwise/courses/computer-basics/lessons/clicky-mouse-game

Gallwch ymarfer clicio unwaith, clicio ddwywaith a llusgo drwy ddefnyddio Gêm Clicky Mouse WebWise y BBC.

www.bbc.co.uk/webwise/courses/computer-basics/lessons/keyboard-shooting-gallery

Defnyddiwch gêm Keyboard Shooting Gallery WebWise y BBC i helpu i wella eich teipio a’ch cyflymder teipio.

www.bbc.co.uk

Defnyddiwch hafan y BBC i ymarfer eich sgiliau pori drwy’r we.

www.bbc.co.uk/webwise/courses/internet-basics/lessons/internet-search-challenge

Gallwch ymarfer chwilio drwy’r rhyngrwyd yn ddiogel drwy ddefnyddio gêm Internet Search Challenge Webwise y BBC.

www.bbc.co.uk/webwise/courses/internet-basics/lessons/password-high-striker

Gallwch ymarfer creu cyfrinair cryf dros ben gan ddefnyddio gêm Password High Striker WebWise y BBC

www.bbc.co.uk/webwise/topics/safety-and-privacy/

Byddwch yn ddiogel ar-lein gydag awgrymiadau defnyddiol a chyngor gan WebWise y BBC.

www.bbc.co.uk/webwise/courses/internet-basics/lessons/email-with-dick-and-harry

Gallwch ymarfer anfon a derbyn negeseuon e-bost gyda gêm, Email with Dick and Harry Webwise y BBC.

534. Help ychwanegol i arweinwyr cwrs

Page 60: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Tudalen gynnwys

4.2: Rhagor o leoedd i gael help

Canolfannau ar-lein yn y DU www.ukonlinecentres.com

Sefydlwyd rhwydwaith o ganolfannau ar-lein y DU gan y llywodraeth yn 2000 i roi mynediad cyhoeddus i gyfrifiaduron. Ceir rhwydwaith fawr o ganolfannau ledled Lloegr sy’n rhoi help a chefnogaeth i bobl sydd am ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.

Mae llawer yn defnyddio myguide ac Online basics i gyflwyno pobl i fyd cyfrifiaduron.

Dyluniwyd myguide www.myguide.gov.uk i wneud y broses o fynd ar-lein yn hawdd ac yn reddfol.

Mae Online basics o fewn myguide fel cwrs camau cyntaf i gyflwyno pobl i’r bysellfwrdd a’r llygoden, e-bost, chwilio a diogelwch ar y rhyngrwyd.

Age UK www.ageuk.org.uk

Mae Age UK yn gweithio gyda rhwydwaith o brosiectau cymunedol sy’n arbenigo mewn hyfforddiant mewn cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd i bobl hyn.

Mae’r prosiectau’n rhoi hyfforddiant syml, gan ddefnyddio termau heb jargon ac yn ceisio cael cymaint o bobl hyn â phosibl i fwynhau manteision cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd.

www.ageuk.org.uk/work-and-learning/technology-and-internet/computer-trainingcourses

Digital Unite www.digitalunite.com

Mae Digital Unite yn arbenigo mewn cefnogi pobl hyn i ddefnyddio technolegau digidol - o’r rhyngrwyd ac e-bost, i rwydweithiau cymdeithasol a blogiau. Mae ganddynt rwydwaith o diwtoriaid ledled y DU a gaiff eu hyfforddi’n arbennig i ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau digidol.

www.tutors.digitalunite.com/faqs/book-a-lesson

Maent yn gweithio gyda phawb, o ddysgwyr a hyfforddwyr; i fusnesau cyhoeddus a mentrau preifat; i ffrindiau a theulu pobl hyn, i hyrwyddo sgiliau digidol i ddysgwyr o bob oedran.

www.learning.digitalunite.com/category/beginners-help

Next Step www.nextstep.direct.gov.uk

Mae Next Step yn darparu gwybodaeth a chyngor er mwyn helpu oedolion i wneud penderfyniadau am gyfleoedd dysgu a gweithio. Mae’r gwasanaeth hwn sydd am ddim yn cynnig help drwy ei wefan, ei linell cymorth neu gyngor wyneb yn wyneb.

54 4. Help ychwanegol i arweinwyr cwrs

Page 61: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

• Cardiau apwyntiad

• Taflen ‘Hoffi, Meddwl, Eisiau’

• Tystysgr if cyflawniad

5. Atodiadau

“ Mae wedi bod yn llai brawychus na’r disgwyl”

Tina

Tudalen gynnwys

Page 62: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Dyddiad:

Cerdyn apwyntiad

Amser:

Tudalen gynnwys

Page 63: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Hoffi, Meddwl, Eisiau… Taflen

Hoffi• Gwneud pethau gyda fy

nheulu• Coginio• Ffotograffiaeth

Meddwl• Y gallai’r rhyngrwyd fy helpu

i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am gyrsiau nos i ddysgu mwy am ffotograffiaeth

Meddwl

Eisiau• Hoffwn wybod sut i sefydlu

cyfrif e-bost fel y gallaf gadw mewn cysylltiad â’m mab

EisiauHoffi

Enghraifft: Tahira

Eich enw:

Sgiliau cyfrifiadurol a’r rhyngrwyd allan o 10

Sgiliau cyfrifiadurol a’r rhyngrwyd allan o 10“4 allan o 10 – rwy’n gwybod sut i’w droi ymlaen ac yn gallu gwneud rhai pethau”

Tudalen gynnwys

Page 64: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Llongyfarchiadau

Mae hyn i dystio bod

wedi llwyddo i gwblhau cwrs Clic Cyntaf i ddechreuwyr ar gyfrifiaduron

yn

Llofnod

Arweinydd y cwrs

Dyddiad

Tudalen gynnwys

Page 65: Dechreuwch yma Mynd ar-leindownloads.bbc.co.uk/connect/BBC_First_Click_facilitators_guide_Welsh.pdf• Iechyd a diogelwch – sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf a gwnewch yn

Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2010 gan BBC Learning Room MC4 A4, 201 Wood Lane, London, W12 7TQ

BBC 2010Mae’r BBC wedi creu deunyddiau Clic Cyntaf i helpu i gefnogi partneriaid lleol i redeg cyrsiau i ddechreuwyr ar ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. Nid y BBC fydd yn rhedeg nac yn cyflwyno’r cyrsiau lle caiff y deunyddiau hyn eu defnyddio. D

ylun

iwyd

gan

999

desi

gn.c

omHoffai’r BBC ddiolch i’r canlynol am eu harbenigedd a’u cyngor wrth lunio’r canllaw hwn:

The Campaign for Learning www.campaign-for-learning.org.uk

Digital Unite Mae Digital Unite yn recriwtio, hyfforddi ac yn cefnogi rhwydwaith eang o diwtoriaid ledled y DU, sy’n cefnogi defnyddwyr TG hyn a llai hyderus o bob oedran.

Ewch i’w wefan i gael gwybod mwy. www.digitalunite.com 0800 822 3951

h

Tudalen gynnwys