gweithgaredd 15 llwybr llythrennedd - welsh...

10
Nod Maes Dysgu – Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llinyn – Ysgrifennu Elfen – Trefnu syniadau a gwybodaeth Agwedd – Strwythur a threfn Tasg Ffocws ‘Dewch, mae’n amser ysgrifennu dyddiadur’: Yn dilyn diwrnod y parti ar y traeth, penderfynodd Owen ac Olwen ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio taflenni arweiniad Dyddiadur Owen a Dyddiadur Olwen i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o ysgrifennu a chadw dyddiadur • atgoffa’r disgyblion i ysgrifennu’r dyddiad ar frig y dudalen, sôn am ddigwyddiadau a phrofiadau’r cymeriadau, defnyddio amser gorffennol y ferf yn y person cyntaf a chadw brawddegau’n gryno • ysgrifennu dyddiadur o safbwynt Owen neu Olwen wrth bortreadu digwyddiadau diwrnod argyfwng Aberawen • gosod digwyddiadau’r dydd mewn trefn • annog y defnydd o gysyllteiriau, ansoddeiriau, teimladau a barn y cymeriadau • tynnu sylw’r disgyblion at dreigliadau Adnoddau Posib • model o ddyddiadur gan Owen ac Olwen • templedi ysgrifennu ar gyfer galluoedd gwahanol Colofn Iaith Beth yw dyddiadur? Llyfr â lle i ysgrifennu digwyddiadau pob dydd ynddo yw dyddiadur. Ydych chi’n cadw dyddiadur? Pa fath o bethau ydych chi’n ysgrifennu yn eich dyddiadur chi? Mae dyddiad ar bob tudalen mewn dyddiadur. Beth yw’r dyddiad heddiw? Ysgrifennwch y dyddiad ar frig y dudalen. Defnyddiwch iaith bob dydd wrth ysgrifennu digwyddiadau’r dydd yn y drefn gywir. Ydych chi’n gwybod beth yw berf? Mae berf yn dangos rhywun yn gwneud rhywbeth. Ydych chi’n gwybod beth yw ansoddair? Gair sy’n disgrifio yw ansoddair. Ansoddeiriau yw’r enw ar fwy nac un ansoddair. Beth yw cymhariaeth? Cymharu rhywbeth gyda rhywbeth arall yw cymhariaeth e.e. roedd y cregyn yn ddu fel y frân. Ydych chi’n gallu meddwl am gymhariaeth? Cofiwch ddefnyddio geiriau a dywediadau tebyg. Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd Digwyddiadur Owen neu Olwen Byddai creu clawr cain ar gyfer y dyddiadur a’i addurno â thrysorau o’r bin ailgylchu yn y dosbarth neu rai a gasglwyd ar y traeth yn syniad penigamp! Nodyn Gwyrdd Mam-gu Iet-wen Gellwch greu sgwariau o dywod fel tudalennau dyddiadur ar iard yr ysgol. Gall y plant gofnodi’r digwyddiadau gan ddefnyddio brigyn fel broc môr. Antur Natur Mam-gu Iet-wen Berfau Aethon ni ... Roedd ... Daeth ... Gwelon ni ... Clywon ni ... Geirfa trefnu Yn gyntaf ... Wedyn ... Yna ... Ar ôl ... Cyn hir ... Yn fuan ... Wedi hynny ... Yn olaf ... Ansoddeiriau braf brwnt drewllyd du gludiog miniog peryglus smotiog

Upload: others

Post on 21-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

NodMaes Dysgu – Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Fframwaith Llythrennedd a RhifeddLlinyn – YsgrifennuElfen – Trefnu syniadau a gwybodaethAgwedd – Strwythur a threfn

Tasg Ffocws‘Dewch, mae’n amser ysgrifennu dyddiadur’: Yn dilyn diwrnod y parti ar y traeth, penderfynodd Owen ac Olwen

ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur.• defnyddio taflenni arweiniad Dyddiadur Owen a Dyddiadur Olwen i

ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o ysgrifennu a chadw dyddiadur

• atgoffa’r disgyblion i ysgrifennu’r dyddiad ar frig y dudalen, sôn am ddigwyddiadau a phrofiadau’r cymeriadau, defnyddio amser gorffennol y ferf yn y person cyntaf a chadw brawddegau’n gryno

• ysgrifennu dyddiadur o safbwynt Owen neu Olwen wrth bortreadu digwyddiadau diwrnod argyfwng Aberawen

• gosod digwyddiadau’r dydd mewn trefn• annog y defnydd o gysyllteiriau, ansoddeiriau,

teimladau a barn y cymeriadau• tynnu sylw’r disgyblion at dreigliadau

Adnoddau Posib• model o ddyddiadur gan Owen ac Olwen• templedi ysgrifennu ar gyfer galluoedd gwahanol

Colofn IaithBeth yw dyddiadur?Llyfr â lle i ysgrifennu digwyddiadau pob dydd ynddo yw dyddiadur.Ydych chi’n cadw dyddiadur?Pa fath o bethau ydych chi’n ysgrifennu yn eich dyddiadur chi?Mae dyddiad ar bob tudalen mewn dyddiadur.Beth yw’r dyddiad heddiw?Ysgrifennwch y dyddiad ar frig y dudalen.Defnyddiwch iaith bob dydd wrth ysgrifennu digwyddiadau’r dydd yn y drefn gywir.

Ydych chi’n gwybod beth yw berf?Mae berf yn dangos rhywun yn gwneud rhywbeth.

Ydych chi’n gwybod beth yw ansoddair?Gair sy’n disgrifio yw ansoddair.Ansoddeiriau yw’r enw ar fwy nac un ansoddair.

Beth yw cymhariaeth?Cymharu rhywbeth gyda rhywbeth arall yw cymhariaeth e.e. roedd y cregyn yn ddu fel y frân.Ydych chi’n gallu meddwl am gymhariaeth?Cofiwch ddefnyddio geiriau a dywediadau tebyg.

Gweithgaredd 15

Llwybr LlythrenneddDigwyddiadur Owen neu Olwen

Byddai creu clawr cain

ar gyfer y dyddiadur a’i

addurno â thrysorau o’r bin

ailgylchu yn y dosbarth neu

rai a gasglwyd ar y traeth

yn syniad penigamp!

Nodyn GwyrddMam-gu Iet-wen Gellwch greu sgwariau o dywod fel tudalennau dyddiadur ar iard yr ysgol. Gall y plant gofnodi’r digwyddiadau gan ddefnyddio brigyn fel broc môr.

Antur NaturMam-gu Iet-wen

Berfau Aethon ni ...Roedd ...Daeth ...

Gwelon ni ...Clywon ni ...

Geirfa trefnuYn gyntaf ...Wedyn ...Yna ...Ar ôl ...

Cyn hir ...Yn fuan ...Wedi hynny ...Yn olaf ...

Ansoddeiriaubrafbrwntdrewllyddu

gludiogminiogperyglussmotiog

Page 2: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Page 3: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Dyddiadur Owen

Taflen arweiniad i athrawon (Haen uwch)

Dydd

Sul

Dydd

Llun

Dydd

Maw

rth

Dydd

Mer

cher

Dydd

Iau

Dydd

Gwen

erDy

ddSad

wrn

Daeth neges mewn potel heddiw. Gwahoddiad oedd

yn y botel – gwahoddiad i barti gwisg ffansi ar draeth

Aberawen. Roedd pawb yn hapus. Gwisgon ni fel môr-

ladron. Roedd Ceinwen mor lliwgar â’r enfys. Cerddon ni

am y traeth a gweld Bwgi-bo ar ben y graig yn chwifio

ei ddwylo. Roedd e’n edrych fel môr-leidr â barf hir ddu.

Rhedodd Olwen a fi ar hyd y traeth brwnt. Gwelon ni

greaduriaid bach yn ceisio dianc o’r hylif oedd yn y

pyllau dŵr. Roedd Bwgi-bo a Branwen yn olew i gyd.

Suddodd calon Mam-gu Iet-wen wrth weld plu Branwen

yn ddu fel y glo. Dywedodd Ceinwen bod yr olew wedi

dod o long fawr allan ar y môr. Aethon ni adref ar

unwaith. Defnyddiodd Mam-gu Iet-wen sebon arbennig a

dŵr o’r ffynnon i olchi plu Branwen. Gwnaethon ni gyd

fwynhau’r te parti hyfryd yng ngardd Iet-wen.

Gorffennaf 25

Page 4: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Dyddiadur Owen

Gorffennaf 25Es i i lan y môr heddiw gyda Olwen a

Mam-gu Iet-wen. Roedd Bwgi-bo wedi

trefnu parti gwisg ffansi. Roeddwn yn

siomedig i weld y traeth yn rhy frwnt i

gael parti. Aeth olew dros gorff

Bwgi-bo i gyd. Es i adref o’r traeth.

Roeddwn i’n drist iawn.

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Taflen arweiniad i athrawon (Haen is)

Dydd

Sul

Dydd

Llun

Dydd

Maw

rth

Dydd

Mer

cher

Dydd

Iau

Dydd

Gwen

erDy

ddSad

wrn

Page 5: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Dydd

Sul

Dydd

Llun

Dydd

Maw

rth

Dydd

Mer

cher

Dydd

Iau

Dydd

Gwen

erDy

ddSad

wrn

Dyddiad

Page 6: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Dyddiad

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Dydd

Sul

Dydd

Llun

Dydd

Maw

rth

Dydd

Mer

cher

Dydd

Iau

Dydd

Gwen

erDy

ddSad

wrn

Page 7: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Taflen arweiniad i athrawon (Haen uwch)

Dyddiadur Olwen

Dydd

Sul

Dydd

Llun

Dydd

Maw

rth

Dydd

Mer

cher

Dydd

Iau

Dydd

Gwen

erDy

ddSad

wrn

Roedd hi’n ddiwrnod gwyntog heddiw. Gwelodd

Mam-gu Iet-wen aderyn yn hedfan yn yr awyr

uwchben Iet-wen. Daeth yr aderyn â neges mewn potel.

Gwahoddiad oedd yn y botel – gwahoddiad i barti

gwisg ffansi ar draeth Aberawen. Roedd Mam-gu Iet-wen

a ninnau’n hapus dros ben. Gwisgon ni fel môr-ladron.

Roedden ni’n lliwgar iawn. Cerddon ni am y traeth a

gweld aderyn du a gwyn yn hedfan uwchben. Roedd

Bwgi-bo a Branwen wedi cyrraedd y traeth. Adeiladodd

Bwgi-bo long o’r broc môr. Gwelodd Bwgi-bo hylif

drewllyd, du yn y pyllau dŵr. Roedd creaduriaid bach yn

ceisio dianc o’r hylif. Gwelodd Bwgi-bo wymon gwyrdd

oedd yn ddu fel y frân. Roedd argyfwng ar draeth

Aberawen. Roedd hyd yn oed Bwgi-bo a Branwen yn

ddu fel y glo. Roeddwn yn poeni am yr olew ac yn falch i

glywed y gwynt ac i weld y tonnau yn golchi’r olew allan

i’r môr. Cawsom de parti hyfryd yng ngardd Iet-wen wedi

cyrraedd adref.

Gorffennaf 25

Page 8: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Dyddiadur Olwen

Roeddwn i wedi mynd i lan y môr

heddiw. Roedd y tywod a’r cregyn

yn ddu. Aeth olew dros Bwgi-bo

a Branwen. Es i adref i olchi plu

Branwen. Roeddwn i’n drist pan

welais yr hylif du ar y traeth.

Gorffennaf 25

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Taflen arweiniad i athrawon (Haen is)

Dydd

Sul

Dydd

Llun

Dydd

Maw

rth

Dydd

Mer

cher

Dydd

Iau

Dydd

Gwen

erDy

ddSad

wrn

Page 9: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Dydd

Sul

Dydd

Llun

Dydd

Maw

rth

Dydd

Mer

cher

Dydd

Iau

Dydd

Gwen

erDy

ddSad

wrn

Dyddiad

Page 10: Gweithgaredd 15 Llwybr Llythrennedd - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2017/wenfro/pdfs/05a.A15...ysgrifennu am yr holl ddigwyddiadau cyffrous mewn dyddiadur. • defnyddio

Dyddiad

Parti Barti: Gweithgaredd 15 – Dyddiadur Owen ac Olwen

Dydd

Sul

Dydd

Llun

Dydd

Maw

rth

Dydd

Mer

cher

Dydd

Iau

Dydd

Gwen

erDy

ddSad

wrn