gweithgaredd 8 môr o weithgareddauresources.hwb.wales.gov.uk/vtc/2017/wenfro/pdfs/05a.a08... ·...

3
Gweddi diolch Nod Maes Dysgu – Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llinyn – Ysgrifennu Elfen – Ysgrifennu’n gywir Agwedd – Iaith Tasg Ffocws ‘Dewch, mae’n amser ysgrifennu gweddi o ddiolch’: Ar ddiwedd stori Parti Barti, roedd Mam-gu Iet-wen yn ddiolchgar dros ben fod ei theulu bach a chreaduriaid bychain traeth Aberawen yn ddiogel unwaith eto. • gofyn i’r disgyblion drafod digwyddiadau a chanlyniadau’r argyfwng ddigwyddodd ar draeth Aberawen yn ôl y stori mewn grŵp • cymell y disgyblion i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth mai Duw a greodd y gwynt a’r glaw a gafodd wared o’r olew y diwrnod hwnnw ar draeth Aberawen • mewn grŵp, ysgrifennu gweddi o ddiolch i Dduw am ddanfon y gwynt a’r glaw gan osgoi i’r olew ddifetha traeth Aberawen a’r bywyd gwyllt yno’n llwyr • defnyddio geirfa a brawddegau syml a pherthnasol i’r pwnc mewn modd briodol yn eu gweddïau Adnoddau Posib • taflen Gweddi Diolch Gweithgaredd 8 Môr o weithgareddau Colofn Iaith Sut le yw traeth Aberawen fel arfer? Fedrwch chi ddisgrifio Aberawen ar ddechrau’r stori? Beth oedd wedi ei drefnu ar y traeth y diwrnod hwnnw? Fedrwch chi ddweud rhywbeth am y neges oedd yn y botel? Pam oedd angen help yn Aberawen? Beth oedd y peth ofnadwy ddaeth Branwen a Bwgi-bo o hyd iddo? Beth oedd yn ceisio dianc o’r pyllau dŵr wrth y creigiau? Fedrwch chi ddweud rhywbeth am deimladau’r creaduriaid bach ar y traeth? Fedrwch chi ddisgrifio golwg y cregyn a’r gwymon? Beth oedd wedi difetha traeth hyfryd Aberawen? Sut effaith gafodd yr olew drewllyd, du, ar Branwen, y frân wen? Beth ddigwyddodd i’r olew pan ddaeth y gwynt a’r glaw? Pwy sy’n gyfrifol am anfon y gwynt a’r glaw? Beth am fynd ati i ddiolch i Dduw am y gwynt a’r glaw? Cofiwch wneud y pethau bychain er lles eraill ac er lles yr amgylchedd! Nodyn Gwyrdd Mam-gu Iet-wen Beth am fynd allan â charthen i’r awyr agored, annog y plant i orwedd arni ar eu cefnau a’u traed yn y canol i ffurfio siap blodyn a gorwedd yn dawel i fyfyrio a diolch? Antur Natur Mam-gu Iet-wen Geirfa adar Amen Aberawen adenydd argyfwng broc môr brwnt budr bywyd creaduriaid creigiau dianc diffetha diogel diolch i Ti drewllyd du glaw gludiog gollwng gweddi gwynt hyfryd hylif du llong môr O, Dduw ... ofnadwy olew pyllau dŵr traeth trist trychineb

Upload: others

Post on 05-Feb-2021

4 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Gweddi diolch

    NodMaes Dysgu – Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

    Fframwaith Llythrennedd a RhifeddLlinyn – YsgrifennuElfen – Ysgrifennu’n gywirAgwedd – Iaith

    Tasg Ffocws‘Dewch, mae’n amser ysgrifennu gweddi o ddiolch’:

    Ar ddiwedd stori Parti Barti, roedd Mam-gu Iet-wen yn ddiolchgar dros ben fod ei theulu bach a chreaduriaid bychain traeth Aberawen yn ddiogel unwaith eto.

    • gofyn i’r disgyblion drafod digwyddiadau a chanlyniadau’r argyfwng ddigwyddodd ar draeth Aberawen yn ôl y stori mewn grŵp

    • cymell y disgyblion i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth mai Duw a greodd y gwynt a’r glaw a gafodd wared o’r olew y diwrnod hwnnw ar draeth Aberawen

    • mewn grŵp, ysgrifennu gweddi o ddiolch i Dduw am ddanfon y gwynt a’r glaw gan osgoi i’r olew ddifetha traeth Aberawen a’r bywyd gwyllt yno’n llwyr

    • defnyddio geirfa a brawddegau syml a pherthnasol i’r pwnc mewn modd briodol yn eu gweddïau

    Adnoddau Posib• taflen Gweddi Diolch

    Gweithgaredd 8

    Môr o weithgareddau

    Colofn Iaith Sut le yw traeth Aberawen fel arfer?Fedrwch chi ddisgrifio Aberawen ar ddechrau’r stori?Beth oedd wedi ei drefnu ar y traeth y diwrnod hwnnw?Fedrwch chi ddweud rhywbeth am y neges oedd yn y botel?Pam oedd angen help yn Aberawen?Beth oedd y peth ofnadwy ddaeth Branwen a Bwgi-bo o hyd iddo?Beth oedd yn ceisio dianc o’r pyllau dŵr wrth y creigiau?Fedrwch chi ddweud rhywbeth am deimladau’r creaduriaid bach ar y traeth?Fedrwch chi ddisgrifio golwg y cregyn a’r gwymon?Beth oedd wedi difetha traeth hyfryd Aberawen?Sut effaith gafodd yr olew drewllyd, du, ar Branwen, y frân wen?Beth ddigwyddodd i’r olew pan ddaeth y gwynt a’r glaw?Pwy sy’n gyfrifol am anfon y gwynt a’r glaw?Beth am fynd ati i ddiolch i Dduw am y gwynt a’r glaw?

    Cofiwch wneud y pethau

    bychain er lles eraill ac er

    lles yr amgylchedd!

    Nodyn Gwyrdd

    Mam-gu Iet-wen

    Beth am fynd allan â charthen i’r awyr agored, annog y plant i orwedd arni ar eu cefnau a’u traed yn y canol i ffurfio siap blodyn a gorwedd yn dawel i fyfyrio a diolch?

    Antur NaturMam-gu Iet-wen

    Geirfa adarAmenAberawenadenyddargyfwngbroc môrbrwntbudrbywydcreaduriaidcreigiaudiancdiffethadiogeldiolch i Tidrewllyddu

    glawgludioggollwnggweddigwynthyfrydhylif dullongmôrO, Dduw ...ofnadwyolewpyllau dŵrtraethtristtrychineb

  • Parti Barti: Gweithgaredd 08 – Gweddi diolch

  • Part

    i Bar

    ti: G

    wei

    thga

    redd

    8 –

    Gw

    eddi

    dio

    lch

    Gwed

    di D

    iolch