hedfan yn uchel: eryr cynffonwyn · eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km...

9
Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn Lleoliad ac amrywiaeth Eryrod Cynffonwyn Paula Owens Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cynradd

Upload: others

Post on 16-Jan-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn Lleoliad ac amrywiaeth Eryrod Cynffonwyn

Paula Owens

Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cynradd

Page 2: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

http://digimapforschools.edina.ac.uk

D10877_primary v1.1 Jul 2016

Adnoddau Daearyddiaeth Digimap for Schools

Teitl: Hedfan yn uchel: Eryrod Cynffonwyn Lefel Cyd-destun Lleoliad Cynradd

Lleoliad ac amrywiaeth Eryrod Cynffonwyn Ynys Mull, Yr Alban

Gwybodaeth Lleoli lleoliad, ychwanegu marcwyr, defnyddio oferyn buffer

(byffiwr), darllen a dehongli topograffeg a phatrymau defnydd o dir.

Cysylltiadau Cwricwlwm (Lloegr) Enwi a lleoli rhanbarthau daearyddol a nodweddion unigryw dynol a ffisegol, nodweddion topograffig allweddol (gan gynnwys bryniau, mynyddoedd, arfordiroedd ac afonydd), a phatrymau defnydd o dir. Defnyddio mapiau, atlasau, golau a mapio digidol/cyfrifiadur i leoli gwledydd a disgrifio’r nodweddion a astudiwyd.

Cysylltiadau Cwricwlwm (Cymru) Defnyddiomapiau,delweddauaTGChiddodohydiwybodaethamleoedda’ichyflwyno.Adnabodadisgrifiopatrymau(dosbarthiadau)gofodollleoeddacamgylcheddauasutymaentwedicysylltu.

Cwricwlwm Rhagoriaeth yr Alban Canlyniadau Astudiaethau Cymdeithasol: Pobl, Lleoedd a’r Amgylchedd: 2-07a, 2-08a.

Gweithgaredd

Ychwanegu anodiad i fapiau o Ynys Mull i ddangos maint tiriogaeth nodweddiadol Eryr Cynffonwyn, gan archwilio cynefinoedd dewisol, trafod manteision ac anfanteision ailgyflwyno’r aderyn hwn. Cyflwyniad

Cyfeirir at yr Eryr Cynffonwyn yn aml fel Eryr y Môr a hwn yw’r aderyn ysglyfaethus mwyaf yn y DU a chanddo led adenydd o 2.5 metr. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif roeddent yn ddiflanedig yn y DU yn sgil lladd anghyfreithlon ond bellach, diolch i raglen ailgyflwyno, mae’r aderyn hwn yn dod yn ôl.

Prif weithgaredd

Y cyw Eryr Cynffonwyn cyntaf i fagu plu o nyth o eryrod yn yr Alban (DU) mewn 70 mlynedd oedd un ar Ynys Mull ym 1985. Yn 2013, gan fod bridio wedi digwydd bob blwyddyn ers hynny, mae 16 pâr wedi eu sefydlu ar yr ynys gan gynrychioli rhywbeth sy’n agos at lefel tirlawnder ar gyfer poblogaeth yr Eryr Cynffonwyn ar Mull.

Page 3: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

http://digimapforschools.edina.ac.uk

D10877_primary v1.1 Jul 2016

Cyflwynwch y disgyblion i’r Eryr Cynffonwyn gan ddefnyddio’r adnoddau taflen wybodaeth a dolenni gwe gyda chlipiau fideo. Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu bod nifer o Eryrod Cynffonwyn ar Mull yn cael eu dilyn gan loeren a’u symudiadau yn cael eu mapio.

Mae bridio’r adar hyn yn llwyddiannus ar Mull wedi bod yn atyniad twristiaid mawr ac wedi dod â llawer o arian i’r economi leol. Fodd bynnag, mae rhai ffermwyr yn credu bod yr aderyn hwn yn fygythiad i’w bywoliaeth a hefyd i gynefin aderyn eiconig arall: Yr Eryr Aur. Oes digon o le i bawb?

Dosbarthwch y daflen waith a’r daflen wybodaeth a ddarperir.

Bydd y disgyblion yn mapio lleoliad Loch Frisa ac yna’n mapio ardal yn dangos amrywiaeth nodweddiadol tiriogaeth Eryr Cynffonwyn. Yn y pen draw, dylai fod ganddyn nhw fap sy’n edrych rhywbeth fel hyn, yn dangos mai mwyafswm y parau bridio y gallai Ynys Mull eu cefnogi fyddai 14-15.

Mynd gam ymhellach • Ymchwiliwch i rai o arferion bwyta Eryrod Cynffonwyn a dod o hyd i ba fath o diriogaeth y maent

yn ei hoffi. Ble maen nhw fwyaf tebygol o fynd ar wahân i Ynys Mull? Ail-luniwch ardaloedd i ddangos y diriogaeth ond y tro hwn defnyddiwch y ‘Draw an area’ (Darlunio ardal) ac yna ‘Draw a freeform shape’ (Darlunio siâp penrhydd) i ddangos yr ardaloedd tirlun yr ydych yn credu y byddai’r Eryrod Cynffonwyn hyn efallai yn eu dewis, gan ystyried y nodweddion tirwedd a ddangosir ar y map fel, er enghraifft, dŵr, fforest ac ati.

• Mae ailgyflwyno Eryrod Cynffonwyn yn ddadleuol. Ar un llaw gall amharu ar ffermio a chostio arian i ffermwyr. Ar y llaw arall, mae’n ymddwyn fel atyniad poblogaidd i dwristiaid gan elwa o’r economi leol. Gwnewch restr o’r manteision a’r anfanteision o ailgyflwyno’r aderyn hwn gan arwain trafodaeth yn y dosbarth.

• Defnyddiwch ychydig o’r wybodaeth o raglen tracio lloeren yr Eryrod Cynffonwyn i wneud eich map eich hun gan ddangos rhai o’u lleoliadau haf a gaeaf.

Page 4: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

http://digimapforschools.edina.ac.uk

D10877_primary v1.1 Jul 2016

Dolenni ar y we

Gwybodaeth gyffredinol a chlipiau fideo o Eryrod Cynffonwyn http://www.rspb.org.uk/wildlife/birdguide/name/w/whitetailedeagle/index.aspx Ystod dda o wybodaeth am eryrod cynffonwyn a chlipiau sain o’u cri http://www.bbc.co.uk/nature/life/White-tailed_Eagle Gwybodaeth ynglŷn â pham bod cynlluniau i ailgyflwyno’r Eryr Cynffonwyn yn Nwyrain Anglia wedi cael eu rhwystro http://www.bbc.co.uk/news/10303266 Sut y cafodd Eryrod Cynffonwyn eu hailgyflwyno i’r Alban www.snh.org.uk/publications/on-line/NaturallyScottish/seaeagles/page3.asp

© EDINA ym Mhrifysgol Caeredin 2016

Mae’r gwaith hwn o dan Drwydded Anfasnachol Creative Commons Attribution

Page 5: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

http://digimapforschools.edina.ac.uk

D10877_primary v1.1 Jul 2016

Page 6: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

http://digimapforschools.edina.ac.uk

D10877_primary v1.1 Jul 2016

Taflen wybodaeth: Eryrod Cynffonwyn Cynefin Mae’n well gan Eryrod Cynffonwyn Albanaidd lynnoedd cysgodol neu gulforoedd yn hytrach na safleoedd arfordirol agored. Mae’n well ganddyn nhw hefyd nythu mewn coed yn hytrach nag ar glogwyni. Ar gyfartaledd, mae eu tiriogaethau’n amrywio o 30-70 km², ond mae ardaloedd llawer mwy yn bosibl gan ddibynnu ar argaeledd yr ysglyfaeth. Mae oedolion sy’n bridio yn aros yn agos at eu tiriogaeth bridio drwy’r flwyddyn. Gall adar nad ydynt yn bridio hedfan yn bell i ddod o hyd i ddigon o fwyd. Ym Mhrydain, nid yw Eryrod Cynffonwyn yn mudo; gellir dadlau mai’r amser gorau i weld y rhywogaeth hon yw yn ystod misoedd y gaeaf pan fod bwyd yn fwy prin.

Eryrod Cynffonwyn ar Mull Loch Frisa yw un o’r lleoedd gorau i weld golygfeydd ysblennydd o Eryrod Cynffonwyn ac mae cuddfan wedi ei adeiladu’n bwrpasol yno. Un pwynt mynediad yw ar ben deheuol Trac Loch Frisa, yn union oddi ar brif ffordd A848 Salen i Tobermory, tua thair milltir i’r gogledd o Salen. (Cyfeirnod Grid Arolwg Ordnans NM 553 459). www.forestry.gov.uk/mullseaeagles

Ers 1998, mae pâr o Eryrod Cynffonwyn o’r enw ‘Skye a Frisa’ wedi bod yn nythu ar Loch Frisa, Ynys Mull ac wedi magu un cyw.

Tagio a monitro Mae dal i fod llawer i’w ddysgu am yr hyn mae Eryrod ifanc Cynffonwyn yn ei wneud yn nhair neu bedair blynedd cyntaf eu bywydau yn y DU. Nid ydynt yn mudo fel y gweilch ond maen nhw’n crwydro’n bell ac yn eang o gwmpas yr Alban, efallai i leoedd eraill yn y DU ac Iwerddon, efallai i Ewrop! Pwy a ŵyr? Caiff tagiau lloeren bychain y mae’r haul yn eu pweru eu rhoi ar y cywion, a fydd yn trosglwyddo gwybodaeth am eu siwrnai. I ddechrau, bob awr - ar yr amod bod pŵer yn y batri - mae’r tag yn anfon yr union safle (o fewn 20 metr) ar y ddaear, yn ogystal â manylion cyfeiriad, cyflymdra hediad ac uchder trwy gyfrwng y System Leoli Fyd Eang (GPS) i system gyfrifiadurol. Mae hyn yn golygu y gellir adeiladu darlun manwl iawn o lwybr pob aderyn.

Mae’r misoedd a blynyddoedd cyntaf yn beryglus; ble ac am ba hyd maen nhw’n stopio i glwydo a bwydo, pryd maen nhw’n gwneud eu hediadau hir cyntaf o Mull, pryd maen nhw’n annibynnol o’r oedolion, ble a phryd y byddan nhw’n dechrau meddwl am fagu gwreiddiau a bridio? Mae gallu tracio teithiau’r adar yn ychwanegu at ein gwybodaeth a dealltwriaeth o fywydau Eryrod y Môr a gall helpu i lywio gwaith cadwraeth yn y dyfodol. Dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth:

www.rspb.org.uk/wildlife/tracking/mulleagles/faq.aspx

Page 7: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

http://digimapforschools.edina.ac.uk

D10877_primary v1.1 Jul 2016

Page 8: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

http://digimapforschools.edina.ac.uk

D10877_primary v1.1 Jul 2016

Mapio’r Eryrod Cynffonwyn: cyfarwyddiadau disgyblion

Agorwch Digimap for Schools. Defnyddiwch y blwch Search (Chwilio) i ddod o hyd i ‘Loch Frisa’.

Agorwch y bar offer anodiad a dewis ‘Add marker’ (Ychwanegu Marciwr). Cliciwch ar y llyn. Yna dewiswch ‘Place label’ (Gosod label) gan ddewis y maint testun Arial 18. Cliciwch nesaf at y marciwr ac ysgrifennu ‘Loch Frisa’. Caewch y bar offer Annotation (Anodiad).

2 Rydych yn mynd i ddangos ar y map, yr ardal allai fod yn diriogaeth i Eryr Cynffonwyn. Mae Skye a Frisa’n nythu yn y fforestydd ger Loch Frisa felly hwn fydd eich man cychwyn. Pellhewch at Lefel 5 fel y gallwch weld llinell arfordir rhan ogleddol Ynys Mull yn eithaf clir yn ogystal â’ch marciwr yn dangos Loch Frisa.

3 Agorwch y bar offer Annotation (Anodiad) ac edrych ar y ‘Fill options’ (Llenwi opsiynau). Sicrhewch fod lefel y tryloywder yn cael ei osod ar 50% a dewiswch liw; un golau fydd orau siŵr o

fod. Yna dewiswch . Dyma’r ‘point buffer tool’ (teclyn byffio pwynt), rydych yn mynd i’w ddefnyddio i ddarlunio ardal.

Agorwch y teclyn a bydd yn gofyn i chi pa faint yr ydych ei eisiau ar gyfer radiws eich cylch. Anwybyddwch yr opsiynau a theipiwch ‘3’ a fydd yn rhoi mwy na 28 km sgwâr i chi.

Page 9: Hedfan yn uchel: Eryr Cynffonwyn · Eglurwch fod tiriogaeth yr aderyn hwn yn amrywio o tua 30km sgwâr i 70km sgwâr ond fe allan nhw fynd yn bellach. Mae rhaglen tagio yn golygu

http://digimapforschools.edina.ac.uk

D10877_primary v1.1 Jul 2016

4 Rhowch glic dwbl ar eich marciwr ar Loch Frisa a bydd gan eich map erbyn hyn gylch i ddangos lleiafswm yr ardal sydd ei hangen ar gyfer pâr o Eryrod Cynffonwyn sy’n nythu.

5 Nawr ychwanegwch byffer arall gan ddefnyddio’r un dull, ond dewiswch liw arall ar gyfer yr amlinelliad a’i wneud yn radiws 4.75. Mae hyn yn dangos tiriogaeth fwy cyffyrddus i’r adar.

6 Pellhewch un lefel i weld Mull i gyd ar y sgrin a pharhau i ychwanegu cylchoedd y maint hwn fel nad ydynt yn gorgyffwrdd ei gilydd.

Cychwynnwch y teclyn i’w symud nhw o gwmpas fel nad ydynt yn cyffwrdd. Gwiriwch eich cylchoedd i wneud yn siŵr eu bod i gyd yn cynnwys cynefin addas ar gyfer yr adar. Faint o adar bridio all yr ynys eu cefnogi?

Os oes amser gennych ychwanegwch ragor o anodiadau i’r map, fel lleoliad y guddfan a man cyfarfod sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol ar gyfer ymwelwyr. Pan fyddwch yn hapus â’ch map dewiswch olygfa yr ydych yn ei hoffi, rhowch deitl i’r map, ei arbed ac yna’i argraffu.