home - penparcau community forum · web viewgan gynnwys rhedeg yr hwb, a'i holl wasanaethau...

4
DISGRIFIAD SWYDD Rheolwr y Fforwm Fforwm Cymunedol Penparcau 37 awr yr wythnos gan gynnwys gwaith yn ystod y dydd, gyda'r hwyr ac ar benwythnosau Cyflog: £30,500 y flwyddyn (gyda chynllun pensiwn cyfrannol) TEITL Y SWYDD: Rheolwr y Fforwm YN ATEBOL I: Ymddiriedolwyr Fforwm Cymunedol Penparcau AMCAN: Rheoli gwaith rhedeg Fforwm Cymunedol Penparcau o ddydd i ddydd, gan gynnwys rhedeg yr Hwb, a'i holl wasanaethau cysylltiedig, mewn modd llyfn, effeithiol ac effeithlon. Hyrwyddo a chefnogi nodau elusengar Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf. CONTRACT: Cyfnod penodol tan fis Tachwedd 2023. Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau Sicrhau bod Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf. a Hwb Penparcau yn cael eu rhedeg yn effeithiol. Goruchwylio a bod yn rheolwr llinell ar holl staff a gwirfoddolwyr y Fforwm, a hynny mewn ffordd ragweithiol. Cefnogi gwaith datblygu holl brosiectau'r Fforwm. Mynd ati mewn ffordd ragweithiol i adnabod a chreu cysylltiadau gwaith cynaliadwy â sefydliadau eraill. Sicrhau y glynir wrth egwyddorion Sgyrsiau Lleol ym mhob un o weithgareddau'r Fforwm. Adnabod cyfleoedd cyllido, a llunio ceisiadau ar gyfer cyllid i'r Fforwm, i'w hadolygu gan yr Ymddiriedolwyr. Cefnogi Swyddog Cyllid y Fforwm i reoli'r cyllid yn briodol. Goruchwylio a diweddaru gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y Fforwm yn rheolaidd (gwefan, Facebook a Twitter).

Upload: others

Post on 29-Jan-2021

4 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

DISGRIFIAD SWYDD

Rheolwr y Fforwm

Fforwm Cymunedol Penparcau

37 awr yr wythnos gan gynnwys gwaith yn ystod y dydd, gyda'r hwyr ac ar benwythnosau

Cyflog: £30,500 y flwyddyn (gyda chynllun pensiwn cyfrannol)

TEITL Y SWYDD:Rheolwr y Fforwm

YN ATEBOL I:Ymddiriedolwyr Fforwm Cymunedol Penparcau

AMCAN:Rheoli gwaith rhedeg Fforwm Cymunedol Penparcau o ddydd i ddydd,

gan gynnwys rhedeg yr Hwb, a'i holl wasanaethau cysylltiedig, mewn modd llyfn, effeithiol ac effeithlon. Hyrwyddo a chefnogi nodau elusengar Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf.

CONTRACT:Cyfnod penodol tan fis Tachwedd 2023.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

· Sicrhau bod Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf. a Hwb Penparcau yn cael eu rhedeg yn effeithiol.

· Goruchwylio a bod yn rheolwr llinell ar holl staff a gwirfoddolwyr y Fforwm, a hynny mewn ffordd ragweithiol.

· Cefnogi gwaith datblygu holl brosiectau'r Fforwm.

· Mynd ati mewn ffordd ragweithiol i adnabod a chreu cysylltiadau gwaith cynaliadwy â sefydliadau eraill.

· Sicrhau y glynir wrth egwyddorion Sgyrsiau Lleol ym mhob un o weithgareddau'r Fforwm.

· Adnabod cyfleoedd cyllido, a llunio ceisiadau ar gyfer cyllid i'r Fforwm, i'w hadolygu gan yr Ymddiriedolwyr.

· Cefnogi Swyddog Cyllid y Fforwm i reoli'r cyllid yn briodol.

· Goruchwylio a diweddaru gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y Fforwm yn rheolaidd (gwefan, Facebook a Twitter).

· Rheoli datganiadau i'r wasg, a'u hysgrifennu'n achlysurol, mewn cydweithrediad â Swyddog y Wasg, ac yn ddwyieithog lle bo hynny'n ofynnol.

· Goruchwylio gwaith paratoi deunydd hyrwyddo a deunydd arall sy'n gwella gwaith y Fforwm.

· Adrodd i'r Ymddiriedolwyr yn eu cyfarfodydd misol. Y Cadeirydd fydd rheolwr llinell cyntaf deiliad y swydd wrth ymdrin â materion o ddydd i ddydd.

· Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau datblygu er mwyn i ddeiliad y swydd barhau i wneud cynnydd a magu cymhwysedd o fewn y rôl.

· Darparu cefnogaeth mewn digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith arferol, gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau.

· Cydymffurfio â'r holl weithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol.

· Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fabwysiadu agwedd hyblyg tuag at y dyletswyddau hyn a dangos y gall weithio cryn dipyn o'i ben a'i bastwn ei hun.

· Ymgymryd â dyletswyddau tebyg eraill ar gais yr Ymddiriedolwyr er mwyn eu cefnogi yn eu gwaith.

Trosolwg

Mae Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf. yn elusen gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig sy'n ceisio galluogi preswylwyr a sefydliadau i fanteisio ar y cyllid a'r adnoddau sydd ar gael i'r ardal. Mae hefyd yn trefnu digwyddiadau cymunedol ac mae'n lladmerydd dros anghenion tymor hir Penparcau. Mae'r Fforwm yn cydweithio'n agos ag asiantaethau statudol a gwirfoddol i wireddu'r nod hwn. I'r perwyl hwn, mae'r Fforwm eisoes wedi codi canolfan gymunedol newydd (yr Hwb) sy'n rhoi cyfle i breswylwyr Penparcau a thu hwnt gwrdd a chymdeithasu mewn amgylchfyd braf a chysurus.

Mae swydd Rheolwr y Fforwm yn gofyn am rywun deinamig sy'n ymroddedig i egwyddorion gwaith tîm da, cyfranogiad cymunedol ac adfywio. Bydd y tasgau'n newid yn barhaus ac rydym yn chwilio am rywun all reoli pobl mewn modd cynhwysol, sydd â'r gallu i feddwl yn arloesol a rhywun all ymateb i heriau â datrysiadau. Mae'r swydd yn gofyn am berson llawn cymhelliant, trefnus ac sy'n gallu gweithio â chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio ar rai penwythnosau ac am rai oriau gyda'r hwyr.

Mae'r canlynol yn amlinellu'r cymwysterau, y wybodaeth, y profiad, y sgiliau neu'r cymwyseddau a'r rhinweddau personol y dylai deiliad y swydd feddu arnynt:

MANYLEB Y PERSON

Disgrifiad

Hanfodol

Dymunol

Dull Gwerthuso

Cymwysterau Proffesiynol a Phrofiad

· Cymwysterau proffesiynol perthnasol neu brofiad priodol a pherthnasol

Ffurflen gais a thystiolaeth o'ch cymhwyster

· Datblygu Cymunedol

*

· Rheoli

*

Gwybodaeth a Phrofiad

· Profiad o waith cymunedol

*

Ffurflen gais, cyfweliad a geirdaon

· Profiad o oruchwylio staff a gwirfoddolwyr

*

· Profiad o sicrhau cyllid grant

*

· Gwybod am ddiwylliant yr ardal

· Profiad o reoli prosiectau

· Profiad o ysgrifennu adroddiadau

· Cadw cyfrifon sylfaenol

*

*

*

*

Gallu a Sgiliau

· Sgiliau rhyngbersonol rhagorol

*

Ffurflen gais a chyfweliad

· Sgiliau arwain a gwaith tîm rhagorol

*

· Yn gyfathrebwr ac yn anogwr rhagorol

*

· Sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol

*

· Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig)

*

· Y gallu i weithio o fewn terfynau amser tynn pan fo angen

*

· Sgiliau llythrennedd a rhifedd da

*

· Sgiliau Technoleg Gwybodaeth rhagorol, gan gynnwys diweddaru tudalennau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau

*

Rhinweddau Personol

· Rhywun sy'n naturiol yn llawn cymhelliant

*

Ffurflen gais a chyfweliad

· Dangos parch tuag at ystod eang o bobl

*

· Y gallu i weithio'n effeithiol fel unigolyn, fel aelod o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill

*

· Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth ac i gyfarwyddo'ch gwaith eich hun

*

· Yn frwd dros ddatblygu cymunedol

*

Amgylchiadau

· Y gallu a'r parodrwydd i weithio'n hyblyg

*

Ffurflen gais a chyfweliad

· Bod yn barod i deithio i fodloni gofynion y swydd

*

· Bod ag empathi tuag at ethos a gwerthoedd craidd y Fforwm

*

· Dealltwriaeth glir o faterion cymunedol

· Trwydded yrru lawn

*

*