ier - supporting applicants to register - welsh · web viewmae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y...

13
Cefnogi preswylwyr cartref gofal yng Nghymru a Lloegr i gofrestru i bleidleisio Mae’r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth allweddol am y system gofrestru pleidleiswyr yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhoi canllawiau i chi ar sut y gallwch gefnogi’r rhai sydd dan eich gofal i gofrestru i bleidleisio. Gwneud cais i gofrestru i bleidleisio Rhaid gwneud unrhyw gais newydd i gofrestru ar sail unigol. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy gwblhau Ffurflen Cofrestru i Bleidleisio. Bydd rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol hefyd yn cynnig y posibilrwydd o wneud ceisiadau cofrestru dros y ffôn. Dylech gysylltu â'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol am fwy o wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i'w manylion yn www.dybleidlaisdi.co.uk . Er mwyn gwneud y system gofrestru’n fwy diogel, mae'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth adnabod (dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol) fel rhan o'u cais. Bydd y manylion hyn yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion swyddogol er mwyn gwirio hunaniaeth yr ymgeisydd. Lle nad oes modd darparu’r wybodaeth adnabod hon, rhaid i ymgeiswyr roi rheswm pam na allant ddarparu'r wybodaeth. Yna 1

Upload: others

Post on 09-Jan-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

Cefnogi preswylwyr cartref gofal yng Nghymru a Lloegr i gofrestru i bleidleisio

Mae’r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth allweddol am y system gofrestru pleidleiswyr yng Nghymru a Lloegr.

Mae’n rhoi canllawiau i chi ar sut y gallwch gefnogi’r rhai sydd dan eich gofal i gofrestru i bleidleisio.

Gwneud cais i gofrestru i bleidleisioRhaid gwneud unrhyw gais newydd i gofrestru ar sail unigol. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy gwblhau Ffurflen Cofrestru i Bleidleisio. Bydd rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol hefyd yn cynnig y posibilrwydd o wneud ceisiadau cofrestru dros y ffôn. Dylech gysylltu â'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol am fwy o wybodaeth.  Gallwch ddod o hyd i'w manylion yn www.dybleidlaisdi.co.uk

.

Er mwyn gwneud y system gofrestru’n fwy diogel, mae'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth adnabod (dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol) fel rhan o'u cais. Bydd y manylion hyn yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion swyddogol er mwyn

gwirio hunaniaeth yr ymgeisydd.

Lle nad oes modd darparu’r wybodaeth adnabod hon, rhaid i ymgeiswyr roi rheswm pam na allant ddarparu'r wybodaeth. Yna cysylltir â nhw a bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth ddogfennol o'u hunaniaeth.

Mae'r system gofrestru ar-lein a'r ffurflen bapur yn cynnwys nodiadau canllawiau i helpu i gwblhau’r cais.

Mae'r cais yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy'n gwneud cais ddatgan bod y wybodaeth a ddarparwyd yn wir (y 'datganiad o wirionedd').

Ar y ffurflen bapur, rhaid i'r ymgeisydd wneud y datganiad trwy lofnodi neu wneud eu marc arferol. Ar y cais ar-lein, rhaid i'r ymgeisydd gadarnhau bod y wybodaeth yn gywir. Fel arall, gall person sydd â phŵer atwrnai priodol wneud y datganiad ar ran yr ymgeisydd.

1

Page 2: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

Hefyd gellir gofyn am ffurflen gais am bleidlais bost drwy dicio blwch ar y Ffurflen Cofrestru i Bleidleisio. Dim ond ar ffurflen bapur y gellir cwblhau cais am bleidlais bost oherwydd bod angen llofnod. Os na all person lofnodi, neu roi llofnod cyson, gallant gysylltu â'u swyddfa gofrestru etholiadol leol i ofyn am ffurflen gais am hepgoriad llofnod. Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar dudalen 7 am ragor o wybodaeth.

Ffurflen Ymholiad Aelwyd (HEF)Gwag Wedi’i chyn-boblogi

Mae’r Ffurflen Ymholiad Aelwyd (HEF) wedi disodli'r ffurflen ganfas draddodiadol a oedd yn cael ei hanfon i bob aelwyd neu gyfeiriad preswyl bob blwyddyn.

Pwrpas y Ffurflen Ymholiad Aelwyd yn syml yw casglu gwybodaeth am bwy sy'n byw yn yr eiddo er mwyn dangos pwy ddylai a phwy na ddylai fod wedi cofrestru i bleidleisio – ni all person gofrestru i bleidleisio trwy Ffurflen Ymholiad Aelwyd.

Rhaid i berson sy'n gyfrifol am yr eiddo gwblhau'r ffurflen gan sicrhau bod pawb cymwys yn cael eu rhestru. Mae'r ffurflen yn egluro pwy sy'n gymwys i bleidleisio.

Gall y Ffurflen Ymholiad Aelwyd gael ei hanfon yn wag, neu gellir eu rhagargraffu gydag enwau'r bobl sydd wedi’u rhestru ar y gofrestr etholiadol yn y cyfeiriad hwnnw ar hyn o bryd.

2

Page 3: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

Os yw'r ffurflen yn wag, rhaid ychwanegu manylion pawb sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio. Defnyddiwch eu henwau llawn, e.e. 'Elizabeth’ nid ‘Bessie’. Dylech gynnwys yr holl breswylwyr, hyd yn oed os ydynt yn fregus yn gorfforol neu'n feddyliol. Unwaith y bydd y ffurflen yn cael ei phrosesu, bydd y swyddfa gofrestru etholiadol leol yn anfon Ffurflen Cofrestru i Bleidleisio i’r bobl hynny a gynhwysir ar y ffurflen.

Os yw’r ffurflen wedi ei rhagargraffu, bydd yn rhestru enwau'r bobl sydd ar hyn o bryd ar y gofrestr etholiadol yn y cyfeiriad hwnnw. Bydd hefyd yn nodi p’un a oes gan yr unigolion hynny bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy ar hyn o bryd, eu dewis cofrestr agored (Gweler y Cwestiynau Cyffredin ar dudalen 6 am ragor o wybodaeth), a p’un a eu bod yn 76 oed neu’n hŷn (sy’n ofynnol ar gyfer gwasanaeth rheithgor). Dylid croesi allan enw unrhyw berson nad yw bellach yn breswylydd, a dylid ychwanegu unrhyw un cymwys sydd heb eu rhestru. Unwaith y bydd y ffurflen yn cael ei phrosesu, bydd y swyddfa gofrestru etholiadol leol yn anfon Ffurflen Cofrestru i Bleidleisioi unrhyw bobl newydd.

Egwyddorion Dylai pawb sy'n gymwys gael eu cofrestru heb ystyried unrhyw salwch

neu anabledd a allai fod ganddynt

Dylai fod rhagdybiaeth bod person yn meddu ar y gallu i gofrestru i bleidleisio1

Dim ond yr ymgeisydd, neu'r person y maent wedi rhoi pŵer atwrnai iddo, a all wneud y datganiad sy'n ofynnol fel rhan o gais i gofrestru

Sut alla i helpu pobl yn fy ngofal?Mae'n bwysig nad ydych yn gwneud rhagdybiaeth ynghylch galluedd unigolyn i gofrestru neu i bleidleisio, na defnyddio dull "un maint i bawb" gyda phob preswylydd. Dylai pawb, waeth beth yw eu gallu, fod wedi cofrestru i bleidleisio. Mae’n bwysig nad yw pobl sy'n agored i niwed yn colli eu hawl i bleidleisio.

Gallwch ddarparu cymorth, ond rhaid i'r ymgeisydd wneud y datganiad o wirionedd drwy lofnodi neu wneud eu marc arferol (yn achos ffurflen bapur) neu gadarnhau bod y wybodaeth yn gywir (ar gyfer cofrestru ar-lein). Fel arall, gall person sydd â phŵer atwrnai priodol wneud y datganiad ar ran yr etholwr.

Os oes gan etholwr anabledd corfforol sy'n golygu na allant ysgrifennu neu deipio, gall person eu cynorthwyo i gofrestru ar-lein drwy wneud y teipio ar eu rhan, cyn belled â bod yr etholwr yn bresennol ac yn gallu cyfleu bod y wybodaeth a ddarperir ar y cais yn wir.

Gan fod y cais yn gofyn am ddyddiad geni’r unigolyn a’i rif Yswiriant Gwladol, efallai y bydd angen i chi wneud ymdrech ychwanegol i gael y wybodaeth hon. Er

1 Adran 1 Deddf Galluedd Meddwl 2005.

3

Page 4: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

enghraifft, os nad yw'r wybodaeth hon ar gael ar unwaith, efallai y bydd angen i chi siarad â pherthynas i'w chael.

Bydd gan y rhan fwyaf o bobl rif Yswiriant Gwladol, ond os nad oes gan ymgeisydd un, bydd angen datgan y ffaith hon (mae lle ar y cais ar gyfer hyn) ac efallai bydd y swyddfa gofrestru etholiadol yn cysylltu â'r ymgeisydd i ofyn am dystiolaeth neu wybodaeth arall i helpu cadarnhau eu hunaniaeth.

Efallai eich bod yn cefnogi rhai o breswylwyr sy'n defnyddio eich gwasanaeth ar gyfer arhosiad seibiant. Yn yr achos hwnnw, dylech wirio os hoffent gael cefnogaeth i gofrestru i bleidleisio, neu ganfod os ydynt wedi gwneud trefniadau eraill i gofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad cartref.

Camau a awgrymir:

Sicrhewch fod unrhyw ffurflenni a dderbynnir yn cael eu cwblhau a'u dychwelyd yn brydlon er mwyn osgoi nodiadau atgoffa.

Cysylltwch â'r swyddfa gofrestru etholiadol leol mewn achos o farwolaeth preswylydd neu os oes preswylwyr newydd yn symud i mewn neu breswylwyr yn symud allan.

Darparwch wybodaeth a chymorth am y gwahanol ffyrdd y gall preswylwyr gofrestru a phleidleisio. Bydd unrhyw un sydd wedi cofrestru yn derbyn cerdyn pleidleisio cyn i’r etholiad gael ei gynnal, yn dweud wrthynt pryd mae’r etholiad, pa un yw eu gorsaf bleidleisio, neu pryd i ddisgwyl derbyn eu pleidlais drwy'r post (yn dibynnu ar sut y maent wedi dewis pleidleisio).

Darparwch gludiant wedi’i drefnu i orsafoedd pleidleisio ac ohonynt, os yn bosibl ac yn briodol.

Dynodwch aelod o staff fel pwynt cyswllt sengl neu 'bencampwr cofrestru'.

Sut alla i helpu’r rhai sy'n pleidleisio drwy'r post?Rhaid i chi sicrhau bod preswylwyr sydd â phleidleisiau post yn cael preifatrwydd tra’u bod yn marcio eu papur pleidleisio. Mae'n bwysig iawn bod y preswylydd yn marcio eu papur pleidleisio eu hunain.

Gyda’r papur pleidleisio drwy'r post bydd datganiad pleidlais bost y mae'n rhaid i'r preswylydd roi eu llofnod a'u dyddiad geni arno. Gallwch helpu gyda hyn, ond mae'n rhaid i'r preswylydd lofnodi'r datganiad pleidlais bost eu hunain (oni bai eu bod wedi cael hepgoriad ). Gallwch helpu i roi’r papur pleidleisio yn yr amlen gywir (heb edrych ar sut y mae wedi cael ei farcio) gan sicrhau bod eu pleidlais yn aros yn gyfrinachol.

4

Page 5: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

Pŵer atwrnaiEr y gallwch roi cymorth i breswylwyr i'w helpu i gofrestru eu hunain, ni allwch wneud y datganiad o wirionedd ar eu rhan. Fodd bynnag, gall person sydd â phŵer atwrnai priodol gwblhau cais i gofrestru a gwneud y datganiad o wirionedd ar ran person analluog.

Cwestiynau Cyffredin

Beth os nad yw'r dyddiad geni neu rif Yswiriant Gwladol yn hysbys? Dylid gwneud pob ymdrech i ddarparu’r ddau ddynodwr personol.

Gellir canfod y rhif Yswiriant Gwladol ar waith papur swyddogol megis llythyrau oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau EM. Efallai hefyd y bydd perthnasau yn gwybod y manylion hyn.

Lle nad oes modd darparu’r wybodaeth adnabod hon, mae'n rhaid i ymgeiswyr roi rheswm pam na allant ddarparu'r wybodaeth. Yna, cysylltir â nhw ac efallai bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth ddogfennol o'u hunaniaeth.

Beth os na ellir darparu llofnod?Cofrestru i bleidleisio - mae cais i gofrestru angen datganiad o wirionedd gan yr ymgeisydd bod y wybodaeth a ddarparwyd yn wir. Ar y ffurflen bapur, rhaid i'r ymgeisydd wneud y datganiad trwy lofnodi neu wneud eu marc arferol; fodd bynnag, lle na allant wneud, gall y Swyddog Cofrestru Etholiadol dderbyn datganiad a wnaed mewn modd arall (er enghraifft deos y ffôn neu’n bersonol), cyn belled â’u bod yn fodlon bod y datganiad yn cael ei wneud gan yr ymgeisydd a’i fod yn ddiffuant a gwir. Ar y cais ar-lein, rhaid i'r ymgeisydd gadarnhau bod y wybodaeth yn gywir. Fel arall, gall person sydd â phŵer atwrnai priodol wneud y datganiad ar ran yr ymgeisydd.

Pleidlais bost - gall person sy'n gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu sydd eisoes yn pleidleisio drwy'r post ac nad yw'n gallu llofnodi neu ddarparu llofnod mewn ffordd gyson wneud cais am 'hepgoriad llofnod' drwy gysylltu â'u swyddfa gofrestru etholiadol leol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion yn www.dybleidlaisdi.co.uk

Gellir gwneud ymholiadau i sicrhau bod y cais am hepgoriad yn ddilys, ac nad yw'n cael ei ddefnyddio i osgoi mesurau diogelwch pleidlais bost.

A allwch chi ddarparu gwybodaeth mewn fformat arall (Braille, print bras, ayb.)? Mae peth gwybodaeth ar gael mewn fformatau eraill. Mae'r ffurflen gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio yn gweithio gyda thechnoleg gynorthwyol fel

5

Page 6: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

darllenwyr sgrin. Ceir fersiynau 'hawdd eu darllen' a phrint bras o'r ffurflen gofrestru unigol ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Beth os nad yw person yn cofrestru?Ni fyddant yn gallu pleidleisio mewn etholiadau neu refferenda. Gan fod y gofrestr etholiadol yn cael ei defnyddio gan asiantaethau cyfeirio credyd, gallent hefyd yn cael anhawster i gael credyd neu gontract ffôn symudol, er enghraifft.

Os nad yw'r ffurflenni yn cael eu cwblhau, mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol anfon nodiadau atgoffa, a byddai'r rhain yn cael eu dilyn gydag ymweliad personol gan staff y cyngor. Yna os yw person yn dal heb gofrestru, gellid anfon gofyniad i gofrestru ato. Bydd parhau i fethu i ymateb yn gallu arwain at ddirwy o £80.

Hefyd mae’n ofynnol yn gyfreithiol darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani ar y Ffurflen Ymholi Aelwyd (HEF), a gall methu ag ymateb i’r ffurflen hon arwain at ddirwy o hyd at £1,000.

Yn ymarferol, nid yw'r ddeddfwriaeth yn cymryd i ystyriaeth y materion sensitif a all godi o amgylch materion megis galluedd meddyliol. Yn gyfreithiol, mae'n rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol fynd drwy'r camau gofynnol (nodiadau atgoffa/ymweliad personol) os na cheir ymateb (oni bai eu bod yn fodlon nad yw'r person â hawl i gael ei gofrestru, neu, eu bod wedi cofrestru mewn cyfeiriad gwahanol). Fodd bynnag, cydnabyddir, mewn achosion lle mae unigolyn yn meddu ar alluedd meddyliol, gallai'r llythyrau atgoffa gyda'r bygythiad o ddirwy ac ymweliad personol i annog cofrestru beri gofid i'r unigolyn a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.

Er enghraifft, lle mae gwahoddiad i gofrestru/ffurflen cofrestru i bleidleisio yn cael ei dychwelyd ac wedi’i marcio i ddangos nad oes gan y person a wahoddwyd y gallu meddyliol i gofrestru, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol wneud ymholiadau pellach ac egluro pwrpas cofrestru a'r cymorth y gellir ei roi i gynorthwyo'r person wneud cais i gofrestru (er enghraifft, cymryd gwybodaeth yn bersonol neu dros y ffôn - gan ddibynnu ar yr opsiynau a gynigir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol - neu'r person sydd â phŵer atwrnai priodol yn gwneud y cais).

Os yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn fodlon nad yw'r person yn gallu cofrestru - h.y. bod y person heb allu meddyliol ac na fydd eu cyflwr yn gwella, neu ei fod yn gyflwr dirywiol - bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ystyried a yw'n briodol, gan ystyried yr holl amgylchiadau penodol, barhau â'r prosesau dilynol ar yr adeg honno.

Dylech gysylltu â'r swyddfa gofrestru etholiadol leol os oes gennych bryderon. Gallwch ddod o hyd i'w manylion yn www.dybleidlaisdi.co.uk

6

Page 7: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

Beth yw'r gofrestr agored?Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbyniwyd gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd yn y gofrestr a gafodd ei golygu).

Mae'r gofrestr etholwyr yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, fel gwneud yn siŵr mai dim ond pobl gymwys sy’n gallu pleidleisio. Mae hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, megis: canfod trosedd (e.e. twyll), galw pobl i wasanaethu ar reithgor, a gwirio ceisiadau credyd.

Mae'r gofrestr agored yn ddarn o'r gofrestr etholiadol, ond nid yw'n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, mae'n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad. Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn am iddynt gael eu dileu. Nid yw dileu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y ddwy gofrestr a sut y gellir eu defnyddio ar www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio .

Gall etholwr ofyn am beidio â chynnwys eu manylion ar y gofrestr agored (h.y. gallant ddewis 'eithrio'). Gellir gwneud hyn ar y Ffurflen Cofrestru i Bleidleisiowrth gofrestru i bleidleisio, neu ar unrhyw adeg arall drwy ffonio, e-bostio neu ysgrifennu at eu swyddfa gofrestru etholiadol leol.

Beth yw'r gwahanol ffyrdd o bleidleisio?Mae tair ffordd o bleidleisio:

Yn bersonol - mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod pleidleisio. Bydd etholwyr cofrestredig yn derbyn cerdyn pleidleisio yn dweud wrthynt ble mae eu gorsaf bleidleisio.

Bydd fersiynau print bras o'r papur pleidleisio yn cael eu harddangos ym mhob gorsaf bleidleisio, a bydd dyfais bleidleisio 'gyffyrddol' i helpu pleidleiswyr dall a rhannol ddall gwblhau eu papur pleidleisio.

Os yw preswylwyr angen help gyda'r broses o bleidleisio, gallant fynd â chydymaith gyda nhw i'w cynorthwyo, neu gallant ofyn i staff yr orsaf bleidleisio am help.

7

Page 8: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

Drwy'r post - gall etholwr wneud cais i gael anfon eu papur pleidleisio atynt drwy’r post ar gyfer:

Etholiad penodol (h.y. etholiad ar ddyddiad penodol) Cyfnod penodol (h.y. rhwng dyddiadau penodol) Cyfnod amhenodol (h.y. hyd nes y clywir yn wahanol)

Ym mhob achos, y dyddiad cau yw 5pm, un diwrnod gwaith ar ddeg cyn yr etholiad.

Mae ffurflenni cais ar gael yn www.dybleidlaisdi.co.uk neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau am bleidlais bost gael eu gwneud ar-lein. Rhaid i geisiadau gael eu hanfon at swyddfa gofrestru etholiadol leol y person (nid at y Comisiwn Etholiadol).

Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu eu llofnod a'u dyddiad geni. Pan fydd papurau pleidleisio yn cael eu hanfon allan ar gyfer etholiad, rhaid cwblhau datganiad pleidlais bost pan ddychwelir y papur pleidleisio. Ceir cyfarwyddiadau llawn ar sut i wneud hyn yn y pecyn pleidleisio drwy'r post. Bydd llofnod a’r dyddiad geni ar y datganiad pleidleisio drwy'r post a ddychwelir yn cael eu cymharu yn erbyn y llofnod a'r dyddiad geni a ddarparwyd eisoes gan yr etholwr, fel gwiriad diogelwch.

Rhaid i berson sy'n gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu sydd eisoes yn pleidleisio drwy'r post ac nad yw'n gallu llofnodi neu ddarparu llofnod mewn ffordd gyson wneud cais am 'hepgoriad llofnod' drwy gysylltu â'u swyddfa gofrestru etholiadol leol.

Drwy ddirprwy: Gall etholwr benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan ar gyfer:

Etholiad penodol (h.y. etholiad ar ddyddiad penodol) Cyfnod penodol (h.y. rhwng dyddiadau penodol) Cyfnod amhenodol (h.y. hyd nes y clywir yn wahanol) Dim ond o dan amgylchiadau penodol y gellir gwneud cais am gyfnod penodol

neu amhenodol, ac efallai y bydd angen datganiad ategol (neu 'ardystiad').2 Nid oes angen ardystiad gan y rhai sydd wedi'u cofrestru'n ddall gan yr awdurdod lleol neu sy'n derbyn y gyfradd uwch o elfen symudedd y Taliad Annibyniaeth Bersonol.

Y dyddiad cau yw 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Fodd bynnag, os yw person yn mynd yn sâl neu'n analluog yn annisgwyl ar ôl yr amser hwn, neu'n dod yn ymwybodol ar ôl y dyddiad cau, am resymau sy'n ymwneud â'u galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth, na allant bleidleisio’n bersonol, gallant wneud cais am ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.

Mae ffurflenni cais ar gael yn www.dybleidlaisdi.co.uk neu drwy gysylltu â'r swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy gael eu gwneud ar-lein.

2 Ni ddylid codi tâl am ddarparu ardystiad.

8

Page 9: IER - Supporting Applicants to Register - Welsh · Web viewMae ffurflenni cais ar gael yn neu gan y swyddfa gofrestru etholiadol leol. Yn wahanol i geisiadau i gofrestru, ni all ceisiadau

Ynglŷn â'r dirprwy

Ni all person fod yn ddirprwy i fwy na dau o bobl mewn unrhyw un etholiad oni bai eu bod yn berthynas agos. Dylai staff y cartref gofal osgoi gweithredu fel dirprwy i breswylydd oni bai nad oes unrhyw berson arall a allai gyflawni'r swyddogaeth hon.

9