mcc word template 2012 - monmouthshire.gov.uk  · web viewgofynnwyd i bobl am eu barn ar...

82
Strategic Equality Plan 4th Annual Report Period 2014 – 2015 Cynllun Cydraddoldeb Strategol 4ydd Adroddiad Blynyddol Cyfnod 2014 - 2015 Equality and Diversity Cydraddoldeb ac

Upload: buithien

Post on 04-Dec-2018

212 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Strategic Equality Plan

4th Annual Report

Period 2014 – 2015

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 4ydd Adroddiad Blynyddol

Cyfnod 2014 - 2015

Equality and DiversityCydraddoldeb ac

Cynnwys

Adroddiad Cynllun Cydraddoldeb Strategol Blynyddol 2014-15 1Rhagair 2Rhestr Termau a Llythrenwau 3Cyflwyniad 43 Nod Dyletswydd Gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010 5Gosod Amcanion Cydraddoldeb 7Amcanion heb eu cyflawni o'r Cynllun Gweithredu 7Ymgysylltu 8Ymgysylltu arall 15Tabl ymgysylltu 16Asesiad o Effaith 17Gwybodaeth am Gydraddoldeb 18Gwybodaeth am Gyflogaeth 18Gwahaniaethau Tâl 18Hyfforddiant i Staff ac Aelodau Etholedig 19Caffael 19Adrodd a Chyhoeddi 20Yr Iaith Gymraeg 20Enghreifftiau o Arferion Da 21

Cyflawniadau allweddol yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf 23I Gloi 30Atodiad 1- Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb 31Atodiad 2 - Data Cyflogaeth Cyngor Sir Fynwy 1Atodiad 3 – Data Hyfforddiant 15

1

Rheoli fersiwn

Teitl Ail Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Sir Fynwy 2014 - 2015

Pwrpas Dogfen gyfreithiol yn ofynnol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Perchennog Cyngor Sir Fynwy Cymeradwywyd gan Cabinet

Dyddiad xxxxxxxxxx 2016

Rhif y Fersiwn Un

Statws Fersiwn swyddogol

Yn flynyddol Dyddiad yr adolygiad nesaf 01/04/2017

Ymgynghori

GAVO, CASF (Cymdeithas Anabledd Sir Fynwy) Grŵp Cynhwysiant Sir Fynwy (CASF gynt), Timau Rheoli Rhwydwaith Cydraddoldeb Corfforaethol (RhCC), Mewnol (Yr Hyb), allanol (gwefan y Cyngor).

 

2

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Blynyddol 2014 i 2015 Mae'r ddogfen hon ar gael ar wefan y Cyngor ar

www.monmouthshire.gov.uk

Os ydych angen copi caled o'r ddogfen hon neu gopi mewn fformat gwahanol, ee print bras, Braille, fersiwn sain, fformat geiriau ar gyfer darllenwyr sgrin ac ati, cysylltwch â'r:

Swyddog Polisi Cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg

Cyngor Sir Fynwy Neuadd y Sir

Y Rhadyr

Brynbuga

NP15 1XJ

Ffôn: 01633 644010 neu 07793798920

E-bost: [email protected]

3

Rhagair

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn mynnu y dylai pob awdurdod cyhoeddus a gwmpesir o dan y dyletswyddau penodol yng Nghymru gynhyrchu adroddiad cydraddoldeb blynyddol erbyn 31ain Mawrth bob blwyddyn ac, felly, rydym yn falch iawn o gyflwyno pedwerydd adroddiad blynyddol Cyngor Sir Fynwy, a hwnnw’n adroddiad terfynol, ar ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol gwreiddiol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn parhau i gyflwyno heriau gwirioneddol i Gyngor Sir Fynwy. Mae sicrhau bod swyddogaethau, penderfyniadau ac ymddygiadau’r Cyngor yn llwyr ystyried yr effaith maent yn ei gael ar bobl / grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig, tra mae’n gweithredu gyda chymaint llai o gyllid, yn anodd iawn, ond mae’n rhaid ei wneud. Wedi dweud hynny, ni waeth sut yr ymdrechwn i wneud y gorau o'n setliad ariannol, wrth i ni fabwysiadu'r rhwymedigaethau o dan y Ddeddf mae’n ofynnol ein bod yn rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau’r penderfyniadau hyn ar y rhai hynny y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ceisio’u diogelu. Fel y gwelwch o'n henghreifftiau rhagorol o arferion da dros y 4 blynedd ddiwethaf mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio'n eithriadol o galed i gyflawni ar gyfer ei dinasyddion a ddaw o dan ymbarél y nodweddion gwarchodedig.

Y Cynghorydd Phylip Hobson Paul Matthews

Dirprwy Arweinydd y Cyngor Prif Weithredwr y Cyngor

a Hyrwyddwr Cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg

4

Rhestr llythrenwau

AEG – Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

CLlLC – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

CCHD – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

CCRhD-ddC - Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru

STONEWALL CYMRU - sefydliad sy'n ymgysylltu â phobl lesbiaidd, hoyw a deuryw

CASF - Cymdeithas Anabledd Sir Fynwy

CYSAG - Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol

CMGG - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent

GCASF - Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Sir Fynwy

RhCC - Rhwydwaith Cydraddoldeb Corfforaethol

GCDd - Gwerthusiadau Cenedlaethau i Ddod

LDTG – Lesbiaidd, Deurywiol, Trawsrywiol, (Rhywedd) Gwrywgydiol

5

Cyflwyniad

Cysylltiadau â strategaethau

Nid yw Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor 2011-16 yn gynllun annibynnol ac mae ganddo gysylltiadau agos â nifer o strategaethau, cynlluniau a pholisïau allweddol eraill o ran y cyngor, partneriaethau ac yn genedlaethol. Mae rhai o'r rhain wedi eu canolbwyntio'n benodol ar gydraddoldeb ac eraill wedi cynnwys cydraddoldeb fel thema allweddol. Dyma enghreifftiau:

Cynllun yr Iaith Gymraeg (20 12 -2015). Deddf Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Strategaeth mwy na geiriau 2011

Canllaw i Ddigwyddiadau Cynhwysol a Hygyrch Sir Fynwy 2013

Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy 2011-21

Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn Cymru Cam 3

Strategaeth Cam-drin Domestig a Rhywiol Sir Fynwy 2011-14

Cynllun Integredig Sengl Sir Fynwy 2013 -17

Cynllun Gwella Cyngor Sir Fynwy 201 4 - 17

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 1af Ebrill 2016

Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 nid yn unig yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gydymffurfio â'i ddyletswyddau cyffredinol a phenodol (a amlygir isod), ond mae hefyd yn rhoi cyfle iddo ddangos ei ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a fu’n nodwedd o’i swyddogaethau cyn gweithredu’r Ddeddf.

6

3 nod Dyletswydd Gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010

Wrth gyflawni ei swyddogaethau, mae’n rhaid i'r Cyngor roi sylw priodol i:

1. ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf;

2. hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rheiny nad ydynt;

3. feithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rheiny nad ydynt;

Mae'r ddeddf yn esbonio bod rhoi sylw dyledus i hyrwyddo cydraddoldeb yn golygu:

Cael gwared ar neu leihau’r anfanteision a ddioddefir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.

Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle mae'r rhain yn wahanol i bobl eraill.

Annog pobl o grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae eu cyfranogiad yn anghymesur o isel.

Y Dyletswyddau Penodol yng Nghymru

Diben eang y dyletswyddau penodol yw helpu cyrff cyhoeddus, megis y Cyngor hwn, wrth weithredu eu dyletswydd gyffredinol, a hybu tryloywder. Yng Nghymru, mae’r dyletswyddau penodol yn cael eu pennu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) Rheoliadau 2011.

Y canlynol yw'r dyletswyddau penodol:

Pennu amcanion cydraddoldeb a chyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb strategol

7

Ymgysylltu

Asesiad o effaith

Gwybodaeth ar gydraddoldeb

Gwybodaeth ar gyflogaeth, gwahaniaethau tâl a hyfforddiant staff

Caffael

Adrodd a chyhoeddi

Isod mae’r modd rydym wedi gweithredu wrth gydymffurfio â'r dyletswyddau penodol:

8

Pennu amcanion cydraddoldeb a chyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol

Rhestrir Amcanion Cydraddoldeb Sir Fynwy isod:

1. Gwneud cydraddoldeb yn elfen allwddol o’n ffordd o feddwl a’r broses o wneud penderfyniadau.

2. Bod yn gyflogwr cyfle cyfartal, gyda gweithlu ac arweinyddiaeth sy’n ymwybodol o’r agenda cydraddoldeb ac yn ei deall a’i pharchu.

3. Dod i adnabod y bobl rydym yn eu gwasanaethu ac yn eu cyflogi.

4. Amddiffyn a chefnogi pobl sy’n agored i niwed yn ein cymunedau.

5. Annog pobl i fod yn fwy gweithredol ac ymrwymo i helpu gyda llunio penderfyniadau'r Cyngor a darparu gwasanaethau.

Camau Gweithredu heb eu cyflawni o Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2012-2016

Nid oes unrhyw gamau heb eu cyflawni o gynlluniau gweithredu’r CCS 2012 - 2016 ond mae camau y mae angen gwaith pellach arnynt. Manylwyd ar y cynnydd yn Atodiad 1 yn yr adroddiad hwn.

Ymgysylltu

9

Dechreuodd yr ymgysylltiad cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2015/2016 ym mis Medi 2014, gan alluogi pobl nid yn unig i feddu’r wybodaeth berthnasol, ond hefyd i fynegi eu teimladau ynghylch yr hyn y teimlant hwy i fod yn bwysig wrth edrych ymlaen. Cynhaliwyd yr ymgysylltiad cyn i’n setliad gael ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru – byddai’r wybodaeth hon yn ddiweddarach yn effeithio ar gyllidebau’r dyfodol. Roedd dwy elfen benodol i’r ymgysylltiad: sioeau teithiol a chyfarfodydd cyhoeddus.

Paham ymgysylltu mor gynnar? Roeddem yn awyddus i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r trafferthion a wynebai’r awdurdod lleol o gyfnod cynnar.

Sut gwnaethom ni ddarganfod beth oedd pobl yn meddwl?

Cyhoeddusrwydd

Posteri

Taflenni

Cyfryngau cymdeithasol

Gwefan

E-byst: i’r Holl Staff, Cynghorau Cymuned a Thref, Partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Lleol

Rhwydweithiau mewnol ac allanol gan gynnwys grwpiau’r trydydd sector fel y byddai cynifer â phosib o bobl a grwpiau’n cael cyfle i ddweud eu dweud.

Arolygon: Gofynnwyd i bobl am eu barn ar bwysigrwydd gwasanaethau drwy gyfrwng arolygon ar bapur ac ar-lein drwy’n gwefan ac iPad yn y sioeau teithiol.

Sioeau Teithiol: Roedd y rhain yn gyfleoedd i siarad â phobl ym mhob un o'n trefi i gael gwybod beth oedd yn bwysig iddynt ac aethom ati i hyrwyddo’r cyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd bythefnos yn ddiweddarach ym mis Hydref. Rhoesom wahoddiad hefyd i bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Lleol i’n sioeau teithiol a’n cyfarfodydd cyhoeddus gan gynnwys Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a ddefnyddiodd y profiad fel cyfle i ymgysylltu â chymunedau ar gyfer ei

10

Arolwg o Fodlonrwydd ar Feddygon Teulu ar draws Gwent. Dangosodd hyn enghraifft ragorol o weithio mewn partneriaeth.

Cyfarfodydd Cyhoeddus: Cymysgedd o rannu gwybodaeth a chyfle i'r cyhoedd ofyn cwestiynau a thrafod yr hyn a glywsent. Gallent ddweud eu dweud, cymerodd ysgrifenyddion nodiadau ac fe'u hanogwyd i gofrestru ar gyfer Sir Fynwy Dryloyw (bydd ein hadnodd ymgysylltu ar-lein newydd yn darparu’r cyhoedd â ffordd i wella gwasanaethau a'u cymunedau). Cynhaliwyd y cyfarfodydd cyhoeddus mewn canolfannau hamdden ar draws Sir Fynwy a chefnogwyd pobl ifanc gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy i fynychu'r cyfarfodydd, a hefyd bu’n gymorth i ddarparu mwy o sesiynau mewn canolfannau ieuenctid.

Cyfryngau Cymdeithasol: Defnyddiwyd Facebook a Twitter yn helaeth i hyrwyddo'r sioeau teithiol a’r cyfarfodydd cyhoeddus ac anogwyd ein dilynwyr i ail-drydar a rhannu’n neges .

Nid oedd cymaint wedi mynychu’r cyfarfodydd hyn ag a fynychodd ein cyfarfodydd Ymgysylltu blaenorol yn Sir Fynwy ym mis Hydref 2013 a mis Ionawr 2014 ond ffaith bwysig oedd i’r rhai a fynychodd gymryd rhan a rhoi i ni syniadau ystyrlon. Roedd yn bwysig ein bod wedi darparu cyfle i bobl siarad â ni.

Ymgysylltu yn y Gaeaf - Rhagfyr ac Ionawr 2015

Cynhaliwyd y cam nesaf cam nesaf yn ein proses ymgysylltu ar y gyllideb ym mis Rhagfyr a mis Ionawr. Ers y sesiynau ymgysylltu cynharach a gynhaliwyd ym mis Medi a mis Hydref cawsom wybod am y gostyngiad yn y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru. Lluniwyd mandadau a oedd yn amlinellu’n syniadau i barhau i ddarparu gwasanaethau a oedd yn bwysig i'n cymunedau. Roedd y rhain yn cynnwys rhai o'r awgrymiadau a fynegwyd gan ein cymunedau yn rownd ddiwethaf y sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd ym mis Medi a mis Hydref.

Ym mis Tachwedd, cynigiwyd a thrafodwyd 42 o fandadau yn y Cabinet, daeth y broses ymgynghori 12 wythnos i ben ar Ionawr 14eg 2015 a ffrwyth y broses fyddai’r cynigion a'r gyllideb a osodwyd yn y Cabinet ym mis Ionawr 2015.

Ein her oedd ymgysylltu â'n cymunedau o fewn y cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Roedd yn ofynnol i’n dulliau a'n camau gweithredu fod yn effeithiol ac wedi eu targedu.

Ein Neges Allweddol 11

'Mae’r amserau’n anodd ond rydym yn ymladd i gadw'r gwasanaethau sydd o bwys'

Do bu’n rhaid i ni wneud newidiadau ond nid ydym yn cau gwasanaethau, ond mae’n neges allweddol yn wahanol i neges awdurdodau lleol eraill.

Rydym yn trawsnewid y ffordd rydym yn darparu’r gwasanaethau pwysicaf ar gyfer ein cymunedau. Mae rhai o'r mandadau megis yr Hyb Cymunedol yn edrych ar newid y ffordd mae’n Llyfrgell a’n gwasanaethau un stop yn cael eu darparu. Mae cymunedau’n teimlo’n angerddol iawn am y ddau wasanaeth, y staff sy'n eu darparu a'r adeiladau lle’u cynhelir. Roedd angen agwedd wedi ei thargedu ar fandadau fel hyn - gwneud yn siŵr ein bod yn siarad â’r bobl hynny ynghlwm wrth y gwasanaethau, y staff ynghyd â'r cyhoedd sy'n eu defnyddio.

Roedd angen i ni gael y neges hon allan yn ein cymunedau drwy gynifer o fecanweithiau posibl.

Sut oeddem wedi rhannu’n gwybodaeth?

Taflenni  

'Mae’r amserau’n anodd ond rydym yn ymladd i gadw'r gwasanaethau sydd o bwys'

Roedd y neges yn glir bod yn rhaid i ni wneud arbedion ac mae gennym rai syniadau (mandadau) ar y modd rydym yn mynd i wneud hyn. Roedd fersiwn symlach o'r mandadau wedi eu cynhyrchu ac roedd ar gael ar y Sioeau Teithiol a’r Cyfarfodydd Cyhoeddus. Roedd y fersiwn hefyd ar gael ar y wefan a chysylltiadau ar gael ar ein tudalen facebook a twitter. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i roi cyfle i bobl ddweud wrthym beth yw eu barn.

Datganiadau i'r wasg

Anfonwyd datganiadau i'r wasg allan i'n cydweithwyr yn y cyfryngau a chawsom sylw mewn nifer o bapurau lleol. Roedd hyn yn bwysig gan ei fod yn galluogi'r cyfryngau i argraffu’r wybodaeth dros gyfnod y Nadolig.

YouTube

Manteisiwyd ar ein sianel YouTube CSF. Nid oes yn rhaid i wybodaeth gael ei hysgrifennu’n barod i’w darllen; er mwyn estyn allan i gynulleidfa eang. Rydym wedi defnyddio YouTube i rannu’n syniadau a galluogi cymunedau i

12

ystyried ein cynlluniau. Roedd y cyfweliadau, cyfarfodydd wedi eu ffrydio’n fyw a'r Cyflwyniad ar y Gyllideb ar gael ar y sianel.

Cyfryngau cymdeithasol

Roedd yn bwysig bod y neges yn gyson ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg. Roeddem wedi dechrau’n gynnar i roi cyhoeddusrwydd i'r cyfarfodydd ym mis Rhagfyr er mwyn sicrhau bod gan bobl y cyfle i feddwl am y syniad a chynllunio i fynychu sioe deithiol neu gyfarfod cyhoeddus. Roedd hyn yn wahanol i'r dull a gymerwyd mewn sesiynau ymgysylltu blaenorol. Mae’r Cyfryngau Cymdeithasol yn allweddol i'r dull hwn gan fod trydariadau a sylwadau Facebook yn cael eu diweddaru dros y Nadolig ac roedd yn hanfodol er mwyn cadw'r sesiwn ymgysylltu ym meddyliau pobl pan allent fod heb ddisgwyl unrhyw wybodaeth oddi wrthym.

Mandad ynghylch y Wybodaeth ar y Cyfweliad gyda'r Cyng. Phil Murphy

Ffilmiwyd sefyllfa gyfweliad i gael y neges drosodd. Ffilmiwyd y Cyng. Phill Murphy ac Abigail Barton (Rheolwr Cyfathrebu) yn siarad am y pethau roeddem yn eu cynnig. Roedd y neges yn gyson 'Mae’r amserau’n anodd ond rydym yn ymladd i gadw'r gwasanaethau sydd o bwys' Roedd hyn yn bwysig a’n nod oedd cynnal hyn drwy gydol ymgyrch Ymgysylltu Cyllideb 15/16 yn Sir Fynwy.

13

Gwybodaeth drwy ffilm fer

Ffilmiodd y Cynghorydd Phil Murphy y cyflwyniad a gyflwynwyd yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Roedd hyn yn galluogi’r rheiny na allai ddod draw’n bersonol i gyfarfod cyhoeddus neu sioe deithiol i weld yr hyn a drafodwyd.

Cyfarfod Cyllideb Sir Fynwy’n Ymgysylltu yn Neuadd y Sir – Ionawr 14eg

Ddydd Mercher 14eg Ionawr cynhaliwyd Cyfarfod Cyllideb Sir Fynwy’n Ymgysylltu ar gyfer y bobl hynny nad oeddent efallai wedi gallu dod i ddigwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd. Cynhwysai’r cyfarfod y grwpiau canlynol, Fforwm Mynediad i Bawb, Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Sir Fynwy a Rhwydwaith y Bobl Hŷn, yn dod at ei gilydd a’r cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw ar ein sianel YouTube gan alluogi’r cymunedau i weld y cyfarfod.

Bu’r cyfarfod yn gyfrwng darparu ar gyfer y grŵp a’r cymunedau ehangach y cyflwyniad a rannwyd yn y pedwar cyfarfod cyhoeddus a chafodd y grŵp gyfle i ofyn cwestiynau i'r Aelodau Cabinet a oedd yn bresennol.

Cynhyrchodd y cyhoeddusrwydd lawer o ddiddordeb, ymhlith y grwpiau hynny yr effeithir arnynt gan rai o'r mandadau, a’r cymunedau ehangach a deimlai ei bod yn bwysig gallu lleisio barn a derbyn gwybodaeth ynghylch ein cynigion. Roeddem wedi darparu llawer o gyfleoedd i wneud hyn:

Y Cyhoedd yn ehangach: Sioeau teithiol

Cynhaliwyd ein sioeau teithiol ar yr un diwrnod â’r cyfarfodydd cyhoeddus yn Y Fenni, Cil-y-coed, Mynwy, a Chas-gwent, ac roeddem hefyd wedi archwilio’n hardaloedd mwy gwledig, Tyndyrn, Magwyr, Devauden, Rhaglan, Brynbuga a Gilwern.

Roeddem wedi defnyddio bws mini’n Bwrdd Gwasanaethau Lleol i yrru o gwmpas ein sir a siarad â phobl ar y stryd a chymryd eu sylwadau i’w hystyried. Roedd y taflenni mandad, a oedd yn hawdd eu darllen, yn llwyddiannus iawn ac roeddent yn darparu trosolwg cryno o'r mandadau gan i ni hefyd gynnwys ffurflen adborth ynghlwm wrth y mandadau er mwyn inni allu casglu gwybodaeth am gydraddoldeb sydd yn bwysig i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Cyfarfodydd cyhoeddus

14

Cynhaliwyd y cyfarfodydd cyhoeddus mewn lleoliadau canolog i alluogi cymaint â phosib i fod yn bresennol. Roeddem wedi defnyddio’n hysgolion uwchradd lleol a Chanolfan Hamdden Trefynwy. Roedd y lleoliadau’n benthyg eu hunain yn dda i'r cyfarfodydd.

Roedd y dull a fabwysiadwyd gennym yn ein cyfarfod cyhoeddus yn wahanol i'r dull yn y sesiwn flaenorol. Roeddem wedi penderfynu rhoi cyflwyniad a chyfle i'r cyhoedd ofyn cwestiynau i'r Arweinydd, y Cynghorydd Phil Murphy, a’r swyddogion a’r cynghorwyr eraill a oedd yn bresennol.

Cynlluniwyd yr ystafell ar ffurf theatr, yn wahanol i’r arddull cabaret, a oedd yn caniatáu i'r cyhoedd eistedd a derbyn y wybodaeth a ddarparwyd, roedd y sesiwn Cwestiwn ac Ateb yn ddull cadarnhaol ac yn caniatáu i bawb gael cyfle i wybod mwy a holi'r swyddogion sy'n gyfrifol am y mandadau ynghylch y materion sydd o bwys iddynt hwy.

Grwpiau wedi eu targedu:

Cynhwysa’r mandadau y teimla pobl yn gryf iawn yn eu cylch Anghenion Dysgu Ychwanegol, Trafnidiaeth ar gyfer Pobl Ifanc gydag ADY a Hybiau Cymunedol. Aethom allan i siarad â'r grwpiau yr effeithir arnynt a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau i'r swyddogion sy'n arwain ar y mandadau.

Aethom allan i siarad â Chymdeithas Anabledd Sir Fynwy, grŵp sy'n lobïo ac yn poeni am fynediad i bobl anabl yn Sir Fynwy.

Defnyddwyr y Llyfrgell

Bu Cyfeillion grwpiau Llyfrgell yng nghlwm wrth gyfarfodydd mewn llyfrgelloedd ledled Sir Fynwy. Bu swyddogion allan yn siarad â hwy a gwrando ar eu pryderon a'u syniadau ynghylch y newidiadau a oedd i’w gwneud i lyfrgelloedd a siopau un stop. Maent yn teimlo'n angerddol iawn ac felly roedd nifer dda iawn yn bresennol yn y cyfarfodydd.

15

Pobl ifanc

Cafodd disgyblion o Ysgol Cil-y-coed ac Ysgol Y Brenin Harri'r VIII gyfle i ddod yn hyddysg yn yr heriau sy'n ein hwynebu fel awdurdod. Roedd y dull a gymerwyd yn wahanol i ddull y cyfarfodydd cyhoeddus gan fod angen i’r sesiwn fod yn rhyngweithiol ac i’r wybodaeth a ddarperir fod yn berthnasol i bobl ifanc.

Gwelodd y sesiwn bobl ifanc yn cymryd rhan mewn ymarfer postio-nodyn, sesiwn cardiau Ie neu Na a sesiwn cwestiwn ac ateb gyda'r Cynghorydd Fox a'r Prif Weithredwr Paul Matthews.

Sut gwnaethom ni gasglu barn?

Cofnodwyd cwestiynau a godwyd yn y cyfarfodydd cyhoeddus

Gofynnwyd dau gwestiwn yn y Ffurflen Adborth/Cydraddoldeb ynghlwm wrth y Rhestr Mandadau hawdd eu darllen:

Ym mha ffordd bydd y cynigion yn effeithio arnoch chi?

Sut ydych chi'n meddwl y gallwn ni barhau i ddarparu'r gwasanaethau sy'n bwysig i chi?

Sesiwn Cwestiwn ac Ateb yn fyw ar Twitter

Cardiau Sylwadau mewn Sioeau Teithiol

E-byst i gyfrif e-bost Sir Fynwy’r Dyfodol.

Gwybodaeth / grwpiau a phartneriaid ymgysylltu eraill

Grŵp Cynhwysiad Sir Fynwy (Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Sir Fynwy gynt - GCASF) - (yn cynnwys: Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, CMGG, Heddlu Gwent, Charter Housing, CYSAG, CASF, Tai Sir Fynwy, Awdurdod yr Heddlu, Gweithredu 50+ Y Fenni, CCRhDDdC, Cymdeithas Tai Melin). Mae'r grŵp hwn yn gweithredu fel grŵp ymgysylltu annibynnol ac yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gynghori / herio a hefyd graffu ar gynigion y Cyngor i arbed arian yn y dyfodol.

16

CASF - (Cymdeithas Anabledd Sir Fynwy) mae’n parhau i fod yn gyfaill beirniadol i'r Cyngor drwy adolygu materion ar gyfer adran y Priffyrdd, cynnal archwiliadau mynediad i ysgolion, gan gynorthwyo gyda lleoliadau gostwng cyrbiau palmant ac ati. Mae Swyddog Polisi’r Cyngor ar Gydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg yn parhau i fynychu'n rheolaidd ac yn gweithio'n agos gyda'r grŵp.

Mae gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent gronfa ddata helaeth y maent yn cylchredeg gwybodaeth berthnasol y Cyngor arni.

Mae Fforwm Mynediad i Bawb yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd ac mae'n dwyn grwpiau anabl ynghyd yn chwarterol i drafod materion sy'n effeithio arnynt. Hwy. CCRhDDdC sy’n trefnu'r Fforymau ac mae'r Cyngor yn darparu'r cludiant hygyrch sy'n caniatáu i bobl anabl eu mynychu.

Sefydlwyd Fforwm Pobl Hŷn ac mae’n ein galluogi i ymgynghori â’r boblogaeth sy'n heneiddio a chael yr aelodau i gyfranogi mewn materion sy'n effeithio'n uniongyrchol arnynt hwy, tra rydym yn cynnig iddynt y cyfle i fod yn ‘llais’ i bobl hŷn yn Sir Fynwy drwy ymgynghoriadau, holiaduron, arolygon, lledaenu gwybodaeth, rhyngweithio rhwng defnyddwyr gwasanaethau a chyflenwyr gwasanaethau, sy'n ymwneud â datblygu a chyflenwi gwasanaethau a dderbyniwyd. Fforwm Pobl Hŷn yw'r prif grŵp ymgynghorol ar gyfer y grŵp Gweithredol Heneiddio'n Dda, a bydd yn darparu adborth ac yn hysbysu'r cynllun gweithredu Heneiddio'n Dda Grŵp Gweithredol a blaenoriaethau.

17

Ymgysylltu 2015 - 2016 - Nodweddion Gwarchodedig

Mis Ymgysylltu

Nodweddion yr effeithir arnynt / yr ymwneir â hwy Dulliau

Mai 2015 Byrddau A a Hysbysebu Statig

Pobl ag anableddau Pobl hŷn Rhieni a gofalwyr Cyfarfodydd cyhoeddus gyda busnesau

Mehefin 2015

Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol - Adolygiad

Rhieni Plant a Phobl Ifanc sydd ag anableddau

Cyfarfodydd Gweithdy gyda phlant a phobl ifanc Sesiynau galw heibio Gwybodaeth ar y wefan  

Tîm Plant ag Anableddau - darpariaeth Seibiant

Rhieni a Gofalwyr Plant a phobl ifanc

Sesiwn galw heibio - ar gyfer rhieni a gofalwyr Arolwg ar-lein Gwybodaeth ar y wefan

Cyhoeddi – Cil-y-coed

Siaradwyr Cymraeg Rhieni Pobl hŷn

Ymgysylltu wyneb yn wyneb â thrigolion gan godi ymwybyddiaeth o Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016.

Gorffennaf 2015 Ymgysylltu â Sipsiwn a Theithwyr

Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw yn Sir Fynwy

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Lleiniau Sipsiwn a Theithwyr, nifer y lleiniau sydd eu hangen yn yr awdurdod. Wedi gweithio gyda Gweithiwr Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr o Gyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru i gasglu barn a safbwyntiau.

  Sioe Frenhinol Cymru

Siaradwyr Cymraeg Rhieni Plant a Phobl Ifanc

Ymgysylltu wyneb yn wyneb gydag ymwelwyr i'r Sioe Frenhinol gan godi proffil ac ymwybyddiaeth o Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016.

Awst 2015 Yr Eisteddfod Genedlaethol

Siaradwyr Cymraeg Ymgysylltu wyneb yn wyneb gydag ymwelwyr i'r Eisteddfod ym Meifod yn 2015 gan godi proffil ac ymwybyddiaeth o Eisteddfod Genedlaethol Sir

18

Fynwy 2016

Hydref-Tachwedd 2015 Ymgysylltu ar Gyllideb 16/17

Pobl hŷn Pobl ag anableddau Pobl ifanc Rhieni a Gofalwyr

Cyfarfod Cyhoeddus gyda Fforwm Mynediad i Bawb Arolwg ar-lein Sesiynau galw heibio mewn trefi Ymgysylltu ar y Cyfryngau Cymdeithasol: Twitter a Facebook C + A Pleidleisiau Twitter

Tachwedd 2015

Ymgynghoriad Statudol – Cau Canolfan Adnoddau Deri View

Rhieni Gofalwyr Plant a Phobl Ifanc

Cyfarfodydd gyda: Staff Rhieni a Gofalwyr Llywodraethwyr

Rhagfyr 2015 Ionawr 2016

Chwefror 2016 Diwrnod Gwisgo Coch

Staff Plant a phobl ifanc Pobl hŷn Dysgwyr Cymraeg

Ymgyrch ledled y Sir i godi proffil ac ymwybyddiaeth o Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016. Ysgolion, grwpiau, grwpiau dysgwyr oedolion y Sir. Cyfryngau Cymdeithasol, gwaith wyneb yn wyneb mewn ysgolion.

Mawrth 2016 Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Asesiad o Effaith

Dros y 4 blynedd ddiwethaf mae’r pecyn cymorth Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG) wedi cael ei ddiweddaru dro ar ôl tro er mwyn sicrhau ei fod yn fwy cadarn ac yn haws ei ddefnyddio ac yn cael ei ddefnyddio ar draws holl brosesau gwneud penderfyniadau’r Cyngor. I gefnogi hyn cyflwynwyd rhaglen hyfforddi AEG, gan Anna Morgan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i Aelodau Etholedig a swyddogion priodol. Yn anffodus, mae’r tîm hwnnw

19

bellach wedi ei ddiddymu gan Lywodraeth Cymru ac mae Llywodraeth Leol wedi colli ffynhonnell wych o gyngor a chefnogaeth ym maes cydraddoldeb.

Gwybodaeth am Gydraddoldeb

Ar gyfer y Cyngor mae casglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb yn hanfodol er mwyn adnabod ein defnyddwyr gwasanaeth a ffurfio'r gwasanaethau y mae angen inni eu darparu. Cydnabyddir yn eang bod yna heriau sylweddol wrth gasglu gwybodaeth gywir mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth, yn enwedig parthed rhai o'r nodweddion gwarchodedig mwy "sensitif" megis cyfeiriadedd rhywiol a newid rhyw. Yn wir, mae rhai aelodau o’r cyhoedd eisoes wedi lleisio barn ac anghytuno â'r angen i gasglu rhywfaint o'r wybodaeth hon, ond mae'r Cyngor wedi dal yn gadarn yn ei gefnogaeth i egwyddorion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Gwybodaeth am Gyflogaeth

Mae gan yr Is-adran Adnoddau Dynol system casglu data ar-lein sydd yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y cyngor i ddeall cyfansoddiad ei staff o ran y nodweddion gwarchodedig. Er bod y system ei hun yn ddigon cadarn mae cael staff i lenwi’r ffurflenni hyn yn dal i fod yn her a chydnabyddir bod angen gwneud mwy o waith ar draws y cyngor i sicrhau ein bod yn meddu ar yr holl ddata yn ôl gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Gwahaniaethau tâl

I gefnogi'r ymarfer cynhwysfawr ar gyflog cyfartal datblygwyd Cynllun Gweithredu Cyflog Cyfartal fydd o gymorth iddo redeg yn llyfn. Mae pob un o'r camau gweithredu erbyn hyn wedi eu cwblhau ymhell o flaen amser ac mae'r Cyngor yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i egwyddorion Cydraddoldeb ac mae’r holl swyddi newydd yn parhau i gael eu gwerthuso gan ddefnyddio proses gwerthuso swyddi GLPC.

Hyfforddiant Staff ac Aelodau Etholedig 20

Mae Rhaglen Sefydlu’r Cyngor nawr yn cael ei rhedeg yn llai aml gan fod recriwtio wedi arafu oherwydd yr

hinsawdd ariannol. Wedi dweud hynny, mae’r rhaglen yn cynnwys adran benodol sy'n delio â Deddf

Cydraddoldeb 2010, cydraddoldebau’n gyffredinol a'r Iaith Gymraeg.

Mae Tîm Synhwyraidd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i gynnal 4 sesiwn hanner diwrnod y flwyddyn

ar gyfer staff a sefydliadau partner ar golli golwg, colli clyw a cholli dau o'r synhwyrau.

Ers chwalu Tîm Hyfforddiant Cydraddoldeb CLlLC a ddiwallodd ein holl anghenion hyfforddi rydym yn ystyried

datblygu pecyn hyfforddi mewnol ein hunain

Caffael

Mae proses Gaffael y Cyngor yn defnyddio dogfennaeth Consortiwm Prynu Cymru felly mae'n gynhwysfawr yn y modd y caiff Cydraddoldeb ei ystyried.

Adrodd a Chyhoeddi

Mae'r adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi’n unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 a bydd ar gael mewn fformatau eraill ar gais o 1af Ebrill 2015.

Yr Iaith Gymraeg

Roedd yn fwriad disodli trydydd Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor (2012 - 2015) yn y dyfodol agos, ond â Safonau’r Gymraeg ar fin cyrraedd ar1af Ebrill 2016 bydd y cynllun yn parhau i fod yn ddogfen arweiniol i ni mewn perthynas â chydymffurfiaeth y Gymraeg tan y dyddiad hwn.

21

Mae gweithgor yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i drafod gofynion a goblygiadau posibl "Strategaeth Mwy na geiriau 2011". Mae'r strategaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn mynnu bod darparwyr gofal cymdeithasol yn gwneud "cynnig gweithredol" ynglŷn â darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna fydd dymuniad y defnyddiwr gwasanaeth. Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ei gynllun gweithredu ac mae’n parhau i weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chynghorau partner i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Cynhyrchwyd Adroddiad Monitro'r Iaith Gymraeg 2014 -15 a'i anfon i swyddfa’r Comisiynydd erbyn 30ain Mehefin 2014

Mae rhaglen hyfforddiant ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth, yn cael ei chyflwyno’n flynyddol.

Arferion da 2014 - 2015

Mynychodd 8 aelod o dîm y Cofrestryddion seminar ar briodas "un rhyw"

Hyfforddiant Cydraddoldeb i Lywodraethwyr Ysgol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 8 fed Ebrill 2014 (24 yn bresennol)

Achrediad insport yn cael ei redeg drwy Chwaraeon Anabledd Cymru - Gwobr Efydd Mai 2014 Cydweithio agos gyda lleisiau Sir Fynwy ar Anabledd (Mynediad i Bawb), prosiect Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phrosiect y Byddar

22

Amser i newid (ymwybyddiaeth iechyd meddwl) mabwysiadwyd yr addewid a chytunwyd ar gynllun gweithredu yng Ngorffennaf 2014

Dathlwyd Wythnos Iechyd Meddwl yn gysylltiedig â’r uchod.

Aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Mehefin 2014 Cytuno ar gonsesiynau Hamdden i bobl â phensiwn Anabledd rhyfel. Cydraddoldeb gyda phobl eraill gaiff fudd-daliadau anabledd. Diwrnod Rhuban Gwyn 25ain Tachwedd - Llysgenhadon wedi eu dewis. (Cam-drin Domestig Rachel Allen)

Cytuno ar Adleoli Dinasyddion Affganistan yn Sir Fynwy Chwefror 2015

Hyfforddiant Iaith Gymraeg ar gyfer staff sy'n gofalu am wraig oedrannus gyda dementia "Mwy na geiriau" "Urddas yn y Gweithle" - polisi gwrth-fwlio ar gyfer gweithwyr a leolir mewn ysgolion Gorffennaf 2014 Sefydlwyd Panel AEG ym mis Hydref 2104 - Cabinet, y Cyngor, Aelod unigol Hyfforddiant AEG 15 rheolwr adran 13eg Hydref 14 Hyfforddiant i Lywodraethwyr ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Mis Hydref 2014 - mynychodd 10 yn cynrychioli 8 ysgol Taith gerdded yn Nhrefynwy i goffáu’r rheiny a gollodd eu bywyd yn y rhyfeloedd byd ar 2 il Tachwedd 2014 CAIR yn craffu cynlluniau mynediad ar gyfer Ysgolion Cyfun Y Fenni a Chas-gwent ac ymweld ar gyfer ymweliadau safle

23

Derbyn Pensiwn Anabledd Rhyfel ar gyfer consesiynau mewn gwasanaethau Hamdden Twrnamaint Rygbi’r Rhuban Gwyn 25ain Tachwedd noddir gan Gyngor Sir Fynwy Dathlwyd Diwrnod Cofio'r Holocost 27ain Ionawr 2015 - ychwanegu manylion

Fforwm LDTG yn siarad mewn gwasanaethau (Datgelodd 17 disgybl iddynt ddioddef bwlio homoffobig mewn un gwasanaeth i un grŵp blwyddyn mewn un ysgol) 5 sesiwn ymwybyddiaeth LDTG 2 sesiwn ar fwlio, cymerwyd y cyfan gan wasanaethau Ieuenctid Digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Wythnos yn cychwyn ar 10 fed Mawrth 2015. Hyrwyddwyr Amser i Newid iechyd Meddwl 40 o wirfoddolwyr Mynegai Cydraddoldeb Stonewall 246 allan o 400 yn y flwyddyn gyntaf Mawrth12fed Hyfforddiant AEG 15 swyddog a 6 Aelod etholedig

Cyflawniadau allweddol dros y 4 blynedd ddiwethaf Mynegai Cyflogwyr Stonewall  

24

Yn 2014 gwnaeth Cyngor Sir Fynwy benderfyniad i weithio gyda Stonewall Cymru a chymryd rhan ym Mynegai Cyflogwyr Stonewall 2015 (y tro cyntaf i’r Cyngor gymryd rhan). Mae gan Sir Fynwy, fel pob corff cyhoeddus arall, staff LHDT (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol) ond nid oedd y Cyngor yn dangos ei ymrwymiad i fod yn fan lle gallai’r staff hyn fod yn driw iddynt eu hunain a chael eu gwerthfawrogi am y gwaith maent yn ei wneud yn hytrach nag am eu rhywioldeb. Gosodwyd y Cyngor yn gymeradwy iawn yn 256fed allan o 397 o Gynghorau, mae wedi cyflwyno’i enw eto yn ddiweddar ar gyfer 2016 a gosodwyd y Cyngor yn 244fed allan o 415 a bydd yn cyfarfod gyda Stonewall i gynllunio meysydd pellach ar gyfer eu datblygu. Mae'r Cyngor yn ffodus iawn i gael modelau rôl a hyrwyddwyr ar ddwy lefel, ar lefel aelodau etholedig a lefel Prif Swyddogion, sy'n caniatáu i staff LHDT weithio mewn amgylchedd diogel lle gallant ffynnu.

Grŵp LHDTC + (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol (Rhywedd) Gwrywgydiol +)

Dechreuwyd y Grŵp LHDTG + ym mis Mai 2013.

Daeth y grŵp i fodolaeth yn sgil niferoedd y Bobl Ifanc (PI) a gyfeiriwyd i’w cwnsela gan y Tîm Iechyd Meddwl a daeth yn amlwg nad oedd angen i rai o'r Bobl Ifanc ymwneud â Gwasanaethau Iechyd Meddwl, y cyfan oedd ei angen oedd iddynt fod yn driw i’r hyn y’i ganed (LHDT+)

Dechreuodd y grŵp gyda 4 aelod a oedd yn cael mynediad i wasanaethau cwnsela a thrafodwyd hyrwyddo a hysbysebu'r grŵp, dyluniwyd poster a’i ddosbarthu i ysgolion, meddygfeydd, Canolfannau Ieuenctid ac ati. Roedd ambell ymholiad gan Bobl Ifanc a oedd wedi gweld y posteri a dyna fel y tyfodd.

Gwnaed cyflwyniadau mewn gwasanaethau ar gyfer Blynyddoedd 10 ac 11 mewn 3 o'n hysgolion Cyfun. Mae'r Cwnselydd yn cyflwyno'r grŵp ac yn dilyn mae 5 aelod yn adrodd eu hanes. Bu’r adborth mwyaf cadarnhaol oddi wrth staff addysgu yn ogystal â rhai disgyblion yn holi am y grŵp.

Cofnodwyd hanesion digidol rhai aelodau a'u defnyddio mewn hyfforddiant o fewn yr awdurdod ond mae’r Heddlu hefyd yn defnyddio’r hanesion yn eu hyfforddiant ar gyfer swyddogion LHDT / Troseddau Casineb.

25

Mae amgylchedd cefnogol, addysgol o fewn y grŵp, sydd yn lle diogel i’w fynychu. Croesawyd siaradwyr gwadd sy'n fodelau rôl LHDT cadarnhaol ar gyfer yr aelodau. Yn ogystal trefnwyd teithiau cymdeithasol, bu cyfle i fynychu Pride Cymru yng Nghaerdydd, i fowlio a chael pryd o fwyd allan.

Trefnwyd cyrsiau preswyl ar gyfer ein haelodau Trawsrywiol, lle cynhaliwyd gweithdai o amgylch delwedd gorfforol, llais, adeiladu hunan-barch a datblygu’r synnwyr o’r hunan.

Mae'r grŵp wedi tyfu, yn cyfarfod ar y dydd Mercher cyntaf o bob mis, ac mae bellach yn gysylltiedig ag 'Ymbarél Gwent' a bydd rhai aelodau’n ymuno â’r sylfaenydd er mwyn helpu i gychwyn grwpiau mewn rhannau eraill o Went.

Dehonglwyr Affgan a Ffoaduriaid Syria

Mae'r Cyngor wedi hwyluso’n llwyddiannus adleoli 13 o Ddehonglwyr Affgan i gartrefi yn Sir Fynwy ac maent yn y broses o weithio gyda Swyddfa Gartref y DU i adleoli 20 aelwyd o Ffoaduriaid bregus Syria i gartrefi yn y Sir dros y 5 mlynedd nesaf.

Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg

Yn Adroddiad Blynyddol diweddar Swyddfa Archwilio Cymru a luniwyd ar ôl Arolygiad awdurdod cyfan, cafodd y Cyngor ei ganmol ar ei waith yn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Hyrwyddwyr Cydraddoldeb

Fel ymrwymiad i'r agenda cydraddoldeb mae'r Cyngor wedi dynodi’r Dirprwy Arweinydd fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Iaith Gymraeg er mwyn hyrwyddo a chefnogi agenda cydraddoldeb ar lefel wleidyddol ar draws y Cyngor. Ef hefyd yw Cadeirydd Grŵp Cynhwysiad Sir Fynwy. Hefyd mae Arweinydd y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb personol dros faterion Cydraddoldeb ac mae Aelodau Etholedig eraill yn arwain ar gyfer nodweddion penodol.

Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb

26

Er mwyn symleiddio'r gofynion ar wahân i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, Rhestr Wirio Cynaliadwyedd ac adroddiad ar yr effaith ar ddiogelu a rhianta corfforaethol, mae Sir Fynwy wedi datblygu, treialu a gweithredu Gwerthusiad Cenedlaethau'r Dyfodol integredig ar gyfer pob adroddiad fydd yn mynd gerbron Cynghorwyr am benderfyniad. Mae Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymgorffori pob un o'r gofynion hyn ac mae hefyd yn helpu swyddogion ac aelodau i nodi sut y mae eu cynigion yn cyfrannu at y Nodau Llesiant a'r egwyddorion Datblygu Cynaliadwy a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

AEGau, cynigion blynyddol y Cyngor i arbed arian a sefydlu Panel Arbed Arian

Dros y 3 blynedd ddiwethaf mae'r Cyngor wedi asesu effaith canol tymor y cynigion i arbed arian a phob blwyddyn rydym wedi edrych ar y broses a’i hail-ddatblygu i wneud y system yn fwy cadarn er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb yn un o ystyriaethau allweddol pob penderfyniad a wneir. Datblygiad y flwyddyn hon oedd sefydlu Panel Arbed Arian gan ddau uwch swyddog i edrych yn fanwl ar bob agwedd ar y cynigion. Mae Swyddogion o'r Adnodau Dynol, y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Swyddog Polisi Cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg yn gallu craffu ar gynigion gyda symbylwyr y cynigion i drafod unrhyw broblemau posibl ac i edrych ar unrhyw fesurau lliniaru posibl.

Cyfieithydd BSL (Iaith Arwyddion Prydain)

Roedd a ngên cyfieithydd ar swyddog â nam ar ei glyw er mwyn iddo gael mynediad i hyfforddiant personol allweddol.

Gwnaed hyn ar gyfer dau gwrs a chaiff ei wneud ar gyfer unrhyw angen yn y dyfodol.

Prosiect Rhaglan

Enillodd Prosiect Rhaglan Wobr glodfawr y Cyngor Gofal Cymdeithasol ar gyfer Cymru yn 2015 (Canlyniadau Rhagorol ar gyfer Pobl Hŷn â Dementia). Mae'r prosiect hwn yn darparu gofalwyr llawn amser ar gyfer dioddefwyr dementia fel bod ganddynt ddarpariaeth gyson o ofalwyr a gwasanaeth sydd yn holl bwysig ar eu cyfer. Rhagwelir y bydd y math hwn o wasanaeth yn cael ei gyflwyno mewn trefi a chymunedau eraill yn Sir Fynwy yn y dyfodol.

Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd 2015 27

Lansiodd y Tîm ASA (Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig) genhadaeth i gael Sir Fynwy i fod y Cyngor cyntaf yng Nghymru sy'n ASA Ymwybodol. O'r 30ain Tachwedd 2015 mae dros 1636 o aelodau staff wedi cwblhau'r cwis ASA ac wedi derbyn tystysgrif.

Chwaraeon Anabledd / Datblygu Insport

Mae'r rhaglen Datblygu Insport yn rhan o'r prosiect insport ehangach, sy'n anelu at gefnogi gweithgareddau corfforol, chwaraeon a sectorau hamdden â’r nod penodol o gynnwys pobl anabl. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gwybod mai’r awdurdod lleol sydd â’r ddealltwriaeth orau ar gyfer darparu’n lleol, a'r ddealltwriaeth gliriaf o ddemograffeg y gymuned gyfagos, ac ar gyfer chwaraeon - mae hyn yn dechrau gydag adran Datblygu Chwaraeon yr ALl.

Yr egwyddor y tu ôl i Ddatblygu insport yw i ChAC ddatblygu Pecyn Cymorth a fydd yn cefnogi’r datblygiad o feddwl cynhwysol, cynllunio, datblygu a darparu gan bawb o fewn y tîm Datblygu Chwaraeon fel eu bod yn y pen draw yn cyflawni ar draws y sbectrwm, i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, ar ba lefel bynnag y maent yn dymuno cymryd rhan neu gystadlu.

Y bwriad yw cychwyn ac yna cefnogi newid diwylliannol o ran dulliau gweithredu’r awdurdod lleol tuag at bobl anabl, a chefnogi’r adnabyddiaeth a’r ddealltwriaeth o'r hyn a olyga cynhwysiant iddynt hwy. Y canlyniad fydd cyfleoedd yn cael eu lledaenu, cyfranogiad yn cynyddu, pobl anabl yn dod yn fwy egnïol ac yn frwd i gymryd rhan (naill ai fel chwaraewyr, neu swyddogion, hyfforddwyr, neu wirfoddolwyr), ac rydym ar y cyd yn cyflawni gweledigaeth y sector ar gyfer cenedl sy'n gwirioni ar chwaraeon am oes , ac yn un sy'n cynnwys llawer o bencampwyr.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 4 safon gynyddrannol (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur), y mae cyfres o amcanion wedi cael eu nodi yn eu herbyn. Ar safon Rhuban rhoddir i’r awdurdod lleol Swyddog Achos fydd yn cefnogi'r tîm datblygu chwaraeon i gyflawni'r nodau yn erbyn pob safon (a bydd hyn yn golygu mwy o weithio mewn partneriaeth ar draws y Cyngor ar safonau'r lefel uwch); ac ar ddiwedd pob cam, bydd y tîm yn cyflwyno’u taith hyd yn hyn i banel annibynnol. Dangosir arwydd o gefnogaeth ar gyfer pob nod drwy lanlwytho dogfennau a gwybodaeth berthnasol i borth pwrpasol,

28

a bydd cynnwys y cyflwyniad wedyn yn dystiolaeth a ddengys i ba raddau yr ymgorfforwyd athroniaethau cynhwysiant ar draws y sefydliad, a'r gwahaniaeth y mae gweithio tuag at gynhwysiant wedi ei wneud.

Llinell Amser insport Sir Fynwy

Gwobr Datblygu Insport Dyddiad Cwblhau’r Wobr

Dyddiadau Cwblhau Arfaethedig

Rhuban Chwefror 2014 Efydd Chwefror 2015 Arian AR Y GWEILL 2016.17 Aur 2018.19

29

Dangosyddion Perfformiad Allweddol Sir Fynwy

Blwyddyn Nifer y Clybiau / Sesiynau Nifer y Clybiau Achrededig

Cyfranogwyr dan 16 oed

Cyfranogwyr 16-64

Cyfanswm Nifer y Cyfleoedd i Gyfranogwyr

2013 36 13 241 152 15,599 2014 50 17 272 352 23,896 2015 Data a gesglir yn flynyddol ym mis Rhagfyr (Ionawr i Ragfyr) - Bydd yr adroddiad nesaf yn Ionawr 2016

30

I gloi

Dyma bedwerydd adroddiad blynyddol y Cyngor ac mae’n ddatganiad cywir o'r camau rydym wedi cymryd ac yn eu cymryd i fynd i'r afael â’r darn heriol hwn o ddeddfwriaeth.

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi bod yn weithredol ers 2012, ac o ystyried y sefyllfa ariannol ddifrifol a wynebwyd gan y Cyngor a rhai o'i bartneriaid allweddol dros y 4 blynedd ddiwethaf, mae'n falch o'r hyn a gyflawnwyd ac yn hyderus, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn, ei fod wedi dangos ymrwymiad cadarn i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac i bobl Sir Fynwy sy'n dod o dan ymbarél y nodweddion gwarchodedig.

Tra roedd wrthi’n cwblhau’r Adroddiad Monitro hwn mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed i lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer y cyfnod 2016 - 2020. Rhagwelir y bydd hwn yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan yr un cyntaf a bydd yn canolbwyntio mwy ar gamau gweithredu a gwneud gwahaniaeth.

31

Atodiad 1 Cynllun Gweithredu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol     

Amcan Cydraddoldeb Un - Gwneud Cydraddoldeb yn elfen allweddol o'n proses o feddwl a gwneud penderfyniadau.

Cyf Gweithred Amserlen Cyfrifoldeb Effaith ar y Nodweddion Gwarchodedig

1

Adrodd yn flynyddol ar gynnydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drwy strwythurau gwleidyddol a phroffesiynol y Cyngor

CWBLHAWYD

Yn flynyddol

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Cydraddoldeb Corfforaethol

Rh CRh

A NRh

D P & PhS

R B & M

R & B C

2

Mynd ati'n rhagweithiol i gyhoeddi'r wybodaeth ar gydraddoldeb sy'n ofynnol fel rhan o ddyletswyddau penodol y Cyngor e.e. Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, gwybodaeth i Staff ac ati

CWBLHAWYD

Yn flynyddol, dyletswyddau uniongyrchol

penodol

Adnoddau Dynol Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg, Tîm Cyfathrebu

Rh CRh

A NRh

D P & PhS

R B & M

R & B C

32

3

Gweithio gyda sefydliadau partner Sir Fynwy i godi proffil yr agenda gydraddoldeb.

GWAITH PARHAUS YN CAEL EI GYFLAWNI

2012 -16 Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

4

Hyrwyddo’r agenda gydraddoldeb drwy strwythur Partneriaeth Strategol Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir Fynwy

CWBLHAWYD

2012 -16

Partneriaeth Strategol + Arweinydd Ymgysylltu Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M C & Ch C

5

Hyrwyddo Cynllun Cydraddoldeb Strategol Sir Fynwy a’r Amcanion Cydraddoldeb

CWBLHAWYD

2012 -16

Tîm Cyfathrebu Rhwydwaith Cydraddoldeb Corfforaethol Grŵp Cydraddoldeb + Amrywiaeth Sir Fynwy Yr Aelod Etholedig sy’n Hyrwyddwr Cydraddoldeb

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

33

6

Datblygu rôl a rhaglen waith ar gyfer yr Aelod Etholedig sy’n Hyrwyddwr Cydraddoldeb

GWAITH PARHAUS YN CAEL EI GYFLAWNI

Rhagfyr 2012

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg, Gwasanaethau Democrataidd Hyfforddiant CLlLC

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

7

Cynnal Sesiynau Briffio i Aelodau Etholedig ar bynciau perthnasol yn ymwneud â chydraddoldeb

HYFFORDDIANT WEDI EI DREFNU

2012 -16

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg, Ysgrifennydd yr Aelodau

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

8

Rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau etholedig a staff y Cyngor ar faterion cydraddoldeb yn ôl y gofyn

GWAITH PARHAUS YN CAEL EI GYFLAWNI

Yn ôl y gofyn

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

34

9

Yn flynyddol adolygu a gwella'r broses o Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb.

GWAITH PARHAUS YN CAEL EI GYFLAWNI

Adolygiad blynyddol a diweddariad

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg + Swyddog Perfformiad a Gwelliant

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

10

Sicrhau bod ymchwil ac ystadegau’n cael eu defnyddio i roi data o ansawdd gwell wrth gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb

ANGEN GWNEUD MWY O WAITH

2012 -16

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg, Pob Adran o’r Cyngor

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

11

Gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr i wella'r data a’r wybodaeth sy'n gysylltiedig â’r nodweddion gwarchodedig

ANGEN GWNEUD MWY O WAITH

2012 -14

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg, Gwelliant + Democratiaeth CLlLC (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) Cynghorau Eraill

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

35

12

Bydd y strategaethau, y polisïau a’r gweithdrefnau presennol yn destun rhaglen strwythuredig o adolygu i asesu unrhyw effaith bosibl ar y nodweddion gwarchodedig

PARHAUS

2012 - 2014

Cynrychiolwyr o adrannau

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

13

Sicrhau bod prosesau Contract/caffael y Cyngor yn talu sylw i ystyriaethau cydraddoldeb – adolygu’r dogfennau contract presennol.

CWBLHAWYD

Ebrill 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg,

Tîm Caffael

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

14

Sicrhau bod cyrff cyhoeddus Swyddogaethol yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 - Cynghorau Tref + Cymuned ac ati

CWBLHAWYD

Mai 2013 Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

36

15

Monitro gweithdrefn Cwynion a chanmoliaeth y Cyngor ar gyfer unrhyw faterion yn gysylltiedig â chydraddoldeb

GWAITH PARHAUS. CWYNION WEDI GOSTWNG YN SYLWEDDOL

Yn chwarterol

Swyddog Cwynion Corfforaethol

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

37

Amcan Cydraddoldeb Dau - Bod yn gyflogwr cyfle cyfartal, gyda gweithlu ac arweinyddiaeth sydd yn ymwybodol o’r agenda gydraddoldeb ac yn ei pharchu Cyf Gweithred Amserlen Cyfrifoldeb

Effaith ar y Nodweddion Gwarchodedig

16

Llunio atodlen i adolygu holl bolisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol e.e. Polisi Urddas yn y Gwaith, Polisi Cam-drin Domestig. Beichiogrwydd / mamolaeth a Mabwysiadu ac ati CWBLHAWYD

Ionawr 2013

Adnoddau Dynol

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

17

Ail-sefydlu Rhwydwaith Cydraddoldeb Corfforaethol y Cyngor. Yr Aelodau i hyrwyddo’r agenda gydraddoldeb ar draws eu his-adrannau.

CWBLHAWYD

Rhagfyr 2012

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg,

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

38

18

Datblygu rhaglen hyfforddi gorfforaethol ar gyfer codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Deddf Cydraddoldeb 2010, a materion yn gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth

DATBLYGU DARPARIAETH YN FEWNOL Mehefin 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg Rheolwr Datblygu'r Gweithlu Swyddogion Hyfforddi Adrannol

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

19

Ymchwilio i gyfleoedd i ddarparu hyfforddiant gyda sefydliadau partner ac awdurdodau lleol cyfagos

PARHAUS

Tachwedd 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

20

Ymchwilio i ymgyrchoedd sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb a’u hyrwyddo’n briodol e.e. Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Wythnos yr Holocost, Dathliad Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn DATBLYGU RHAGLEN FLYNYDDOL O YMGYRCHOEDD - Ychwanegwyd fel Amcan ar gyfer yr 2il Gynllun Cydraddoldeb Strategol

2012 -15

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Tîm Cyfathrebu

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

21 Cynhyrchu cyfathrebiadau sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb e.e. storïau ac erthyglau ar gyfer cylchgrawn Team Spirit a gwefan y Cyngor

YN CAEL EI WNEUD

Pob dau fis Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Tîm Cyfathrebu

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M 39

C & Ch C

22

Sicrhau bod y tudalennau gwe perthnasol ar Gydraddoldeb ar wefan y Cyngor yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gydraddoldeb

CWBLHAWYD

Mawrth 2013 a

diweddaru’n barhaus

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg,

Rheolwr Cyfathrebu

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

23

Ail-lansio Canllawiau Brandio Corfforaethol y Cyngor i godi ymwybyddiaeth staff ar hygyrchedd ac ystyriaethau’r Gymraeg

CWBLHAWYD

Ionawr 2013

Tîm Cyfathrebu

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

40

24

Cwblhau Cynllun yr Iaith Gymraeg diwygiedig a chael cytundeb y Cyngor

CWBLHAWYD

Rhagfyr 2012

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Swyddog Cymorth yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

25

Gweithredu Cynllun Gweithredu 3 blynedd Cynllun yr Iaith Gymraeg a llunio cynllun monitro blynyddol.

CWBLHAWYD

2012-15

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg Swyddog Cymorth yr Iaith Gymraeg Rhwydwaith Cydraddoldeb Corfforaethol

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

26

Datblygu Strategaeth Sgiliau Ieithyddol yr Iaith Gymraeg

CWBLHAWYD

Ebrill 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Swyddog Cymorth yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

41

27

Gweithredu Cynllun Gweithredu 3 blynedd y Strategaeth Sgiliau Ieithyddol a’i fonitro’n flynyddol

CWBLHAWYD

2012 -15

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Swyddog Cymorth yr Iaith Gymraeg

Rhwydwaith Cydraddoldeb Corfforaethol

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

28 Datblygu Gwefan ddwyieithog a hygyrch i’r Cyngor

CWBLHAWYD

1af Ebrill 2013

Tîm Cyfathrebu

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

42

Amcan Cydraddoldeb Tri - Dod i adnabod y bobl rydym yn eu gwasanaethu ac yn eu cyflogi .

Cyf Gweithred Amserlen Cyfrifoldeb Effaith ar y Nodweddion Gwarchodedig

29

Datblygu a dosbarthu holiadur i gasglu gwybodaeth am yr holl staff presennol ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig

ANGEN GWELL YMATEB GAN STAFF

Chwefror 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Adnoddau Dynol

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

30

Sicrhau bod proses recriwtio’r Cyngor yn casglu'r wybodaeth berthnasol am gydraddoldeb

CWBLHAWYD

Ionawr 2013

Adnoddau Dynol

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

43

31

Adolygu dulliau casglu data’r gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn sicrhau bod gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb yn cael ei chasglu

CWBLHAWYD

Ebrill 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg Swyddog Arweiniol y Gwasanaethau Cwsmeriaid

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

32

Defnyddio ymchwil a ffynonellau ystadegol e.e. Cyfrifiad 2011 (ar gael o fis Gorffennaf 2012) er mwyn helpu i greu darlun gwell o gydraddoldeb

CWBLHAWYD

Medi 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Gwelliant + Democratiaeth

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

33

Datblygu a hyrwyddo cwestiynau safonedig ar gydraddoldeb i’w defnyddio ar holiaduron, ymgynghoriadau a gweithgareddau ymgysylltu

CWBLHAWYD

Gorffennaf 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Partneriaeth + Ymgysylltu

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

44

34

Gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus rhestredig eraill i ymgysylltu â dinasyddion y mae’n anodd ymgysylltu â hwy

GWAITH PARHAUS YN CAEL EI GYFLAWNI

2012-16

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Partneriaeth + Ymgysylltu

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

35

Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n gallu cefnogi a helpu’r Cyngor ynghyd â phobl o nodweddion gwarchodedig (CLlLC, Stonewall, CCRhD-ddC Trawsrywiol Cymru, Comisiynydd y Gymraeg ac ati)

GWAITH PARHAUS YN CAEL EI GYFLAWNI

2012-16

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Partneriaeth + Ymgysylltu Grŵp Cydraddoldeb + Amrywiaeth Mynwy

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

45

Amcan Cydraddoldeb Pedwar - Diogelu a chefnogi pobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau Cyf Gweithred Amserlen Cyfrifoldeb

Effaith ar y Nodweddion Gwarchodedig

36

Cyhoeddi'r wybodaeth ar gydraddoldeb sy'n ofynnol fel rhan o ddyletswyddau penodol y Cyngor e.e. Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb, gwybodaeth i Staff ac ati CAEL EI WNEUD MEWN ADRODDIADAU BLYNYDDOL

Yn flynyddol, dyletswyddau uniongyrchol

penodol

Adnoddau Dynol

Tîm Cyfathrebu

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

37

Datblygu Cynllun Gweithredu Cydlyniant Cymunedol

CWBLHAWYD

Tachwedd 2012 Swyddog Cydlynu Cymunedol

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

46

38

Gweithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i weithredu a hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn Sir Fynwy

GWAITH PARHAUS YN CAEL EI GYFLAWNI

2012/16

Swyddog Cydlynu Cymunedol

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

39

Gweithredu Cynllun Gweithredu Cam-drin Domestig a Rhywiol Sir Fynwy.

CWBLHAWYD

2012-13 Cydlynydd Cam-drin Domestig

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

40

Gwella hygyrchedd i fyfyrwyr anabl a staff yn ein hysgolion uwchradd trwy wneud addasiadau rhesymol

RHAGLEN O WELLIANNAU MEWN LLE AC YN CAEL EI CHYFLAWNI

2012-16

Anghenion Dysgu Ychwanegol + Cynhwysiant

Gwasanaethau Eiddo

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

47

41

Gwella mynediad i wasanaethau ar gyfer pobl ag amhariad ar y synhwyrau

SIARTER BSL (Iaith Arwyddo Prydain) YN CAEL EI THRAFOD GYDA PHARTNERIAID

2012 -16

Gwasanaethau Cymdeithasol

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg Grŵp Cydraddoldeb + Amrywiaeth

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

42

Sicrhau bod yr holl gontractwyr yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol ar gydraddoldeb

DOGFENNAETH YN EI LLE. ANGEN ADOLYGU’R BROSES MONITRO AM GYDYMFFURFIAETH

Tachwedd 2013

Caffael

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M C & Ch C

43

Darparu gwybodaeth hygyrch gywir ar y wefan a’i dosbarthu i allfeydd allweddol e.e. meddygfeydd, ysbytai ac ati

GWEFAN WEDI EI GWNEUD. NID OES FFYNONELLAU ERAILL AR GAEL

2012-16 Cysylltiadau Cwsmeriaid

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

44 Darparu 5 elfen graidd y "Prosiect Eiddilwch" CWBLHAWYD 2012-13

Gofal Cymdeithasol + Iechyd

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

48

H B & M

C & Ch C

45

Datblygu Pecyn Cymorth Cofnodi mewn Ysgolion ar gyfer Bwlio a digwyddiadau Hiliol Peilot ar gyfer 1 flynedd ac adolygu CWBLHAWYD

Hydref 2012 - Medi 2013 Gwella ysgolion

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch CRh

46

Parhau i redeg cyrsiau "Fy Mywyd" ar gyfer myfyrwyr ôl-16 sydd â salwch dysgu, salwch corfforol ac iechyd meddwl CWBLHAWYD 2012 - 13 o

Gwasanaeth Addysg Gymunedol + Oedolion

Rh NRh

O P & PhS

A B & M

H C

C & Ch

49

47

Cynnal ymgyrch recriwtio i wella’n cronfa o ofalwyr maeth

DARN PARHAUS O WAITH

2012 - 13 Iechyd + Gofal Cymdeithasol (Maethu + Mabwysiadu)

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

48

Adolygu + datblygu gwasanaeth Teleofal y Cyngor

DARN PARHAUS O WAITH OHERWYDD PWYSAU CYLLIDEBOL

2012 - 14 Gofal Cymdeithasol + Iechyd

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

50

Amcan Cydraddoldeb Pump - Annog pobl i fod yn fwy gweithredol a chymryd rhan wrth helpu i ffurfio’r penderfyniadau a’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor Cyf Gweithred Amserlen Cyfrifoldeb

Effaith ar y Nodweddion Gwarchodedig

49

Holi pa rwystrau sy’n atal pobl rhag ymwneud â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus

CWBLHAWYD

Hydref 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg Partneriaeth + Ymgysylltu

CASF, Gofalwyr Y Fenni, Grŵp Cydraddoldeb + Amrywiaeth Sir Fynwy

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

50

Annog a galluogi sefydliadau partner rhanbarthol i archwilio ffyrdd arloesol o annog pobl i ymwneud â'r Cyngor ee Stonewall Cymru, Diverse Cymru, Anabledd Cymru ac ati ANGEN MWY O WAITH

Tachwedd 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Partneriaeth + Ymgysylltu

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

51

51

Mynychu CASF a Gofalwyr Y Fenni ac ati i ymgysylltu, cefnogi a chyfnewid gwybodaeth

PRESENOLDEB PARHAUS

2012-16 Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

52 Mynychu a Chefnogi'r Fforwm 50+

PRESENOLDEB PARHAUS 2012 -16

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

53

Cefnogi a gweithio gyda'r Fenter Iaith, Yr Urdd a Fforwm Iaith Gwent Fwyaf i wella'r ddarpariaeth Gymraeg o fewn Sir Fynwy.

GWEITHIO’N AGOS GYDA’R PARTNERIAID HYN

2012-16

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Menter Iaith Blaenau Gwent / Torfaen, Mynwy. yr Urdd

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

52

54

Mynd ati i hyrwyddo polisi cwynion a chanmoliaeth y Cyngor i aelodau'r cyhoedd sydd â nodweddion gwarchodedig

CWBLHAWYD

Rhagfyr 2013

Swyddog Cwynion Corfforaethol

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

55

Gweithredu'r cynllun gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer Grŵp Cydraddoldeb + Amrywiaeth Sir Fynwy ac ailedrych ar gylch gwaith y grŵp

CWBLHAWYD

2012 -13 Aelodau Grŵp Cydraddoldeb + Amrywiaeth Sir Fynwy

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

56

Datblygu rôl a rhaglen waith ar gyfer yr Hyrwyddwr Cydraddoldeb i Bobl Anabl

CWBLHAWYD

Ebrill 2013

Swyddog Polisi Cydraddoldeb + yr Iaith Gymraeg

Arweinydd y Cyngor

Pennaeth Democratiaeth

Rh CRh

O NRh

A P & PhS

H B & M

C & Ch C

53

Atodiad 2 Data Cyflogaeth Cyngor Sir FynwyMae’n rhaid i ddata gael eu casglu’n benodol ar gyfer y canlynol: -

Pobl a gyflogir gan yr awdurdod ar 31 Mawrth bob blwyddyn gan y nodweddion gwarchodedig

Pobl sydd wedi gwneud cais am swyddi gyda'r awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Cyflogeion sydd wedi gwneud cais i newid swydd o fewn yr awdurdod, gan nodi faint fu’n llwyddiannus yn eu cais a faint na fu’n llwyddiannus

Cyflogeion sydd wedi gwneud cais am hyfforddiant a faint lwyddodd yn eu cais

Cyflogeion a gwblhaodd yr hyfforddiant

Cyflogeion sy’n ymwneud â gweithdrefnau cwyno naill ai fel achwynydd neu fel person y gwnaed cwyn yn ei erbyn

Cyflogeion sy'n destun gweithdrefnau disgyblu

Cyflogeion sydd wedi gadael cyflogaeth y Cyngor.

Mae angen monitro rhyw drwy

Y dynion a’r menywod a gyflogir, yn ôl:

swydd

gradd (lle mae system raddio yn ei lle)

tâl

54

math o gontract (gan gynnwys contractau parhaol a chontractau tymor penodol) patrwm gwaith (yn cynnwys amser llawn, rhan amser a phatrymau gweithio hyblyg eraill)

55