medi - tachwedd - bbc · bbc cymru – ymai chi mae bbc cymru yng nghaerfyrddin o fis medi i fis...

8
Medi - Tachwedd 08703 500 700 bbc.co.uk/caerfyrddin

Upload: others

Post on 21-Feb-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Medi - Tachwedd

08703 500 700 bbc.co.uk/caerfyrddin

BBC Cymru – yma i chi Mae BBC Cymru yng Nghaerfyrddin o fis Medi i fisTachwedd fel rhan o’n prosiect i weithio gyda chymunedauar draws Cymru. Byddwn yn darlledu rhaglenni radio atheledu, yn creu deunydd ar-lein, yn cynnal gweithdai apherfformiadau, yn chwilio am dalent newydd a llawer llawer mwy…

Yn ychwanegol at bresenoldeb BBC Cymru yngNghaerfyrddin sydd eisoes yn darparu gwasanaeth newyddion ac ar-lein, byddwn yn agor stiwdio dros-dro yn Sgwâr y Farchnad. Galwch draw i weld sut mae rhaglenni radio yn cael eu gwneud ac i gael tocynnau ar gyfer y digwyddiadau amrywiol sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled y dref.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda thrigolion Caerfyrddin er mwyn creu’r rhaglen yma o ddigwyddiadau cyffrous agobeithiwn fod rhywbeth yma i chi fwynhau.

Gyda Diolch

Cyngor Sir Caerfyrddin Cyngor Tref Caerfyrddin Urdd Gobaith CymruColeg Sir Gâr Cyngor Cefn Gwlad Cymru Mentrau Iaith MyrddinMenter Taf Myrddin Coleg y Drindod Caerfyrddin Canolfan Halliwell yng Ngholeg y Drindod Striking Attitudes Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru Rhaglen Cefnogi Busnes Ethnig Carmarthen Arts Carmarthen Journal

Diolch arbennig i wirfoddolwyr Bwrdd Ymgynghorol Caerfyrddin

Peter Hughes GriffithsNeil ThomasKathy HolfordLynne BerryClaire GriffithsMatthew HughesPhil GriceSelwyn ThomasEric JonesBryan StephensEleri BeynonCledwyn DaviesIwan EvansDavid Hardy

Am wybodaeth bellach ynglyn â’r digwyddiadau a restriryn y llyfryn hwn ewch i

bbc.co.uk/caerfyrddin

Am docynnau ac i gofrestru ffoniwchLlinell Wybodaeth BBC Cymru08703 500 700

neu [email protected]

Os oes gennych anabledd neu anghenion mynediad rhowch wybod i ni.

bbc.co.uk/caerfyrddin

Diane WilliamsChris DelaneyAnn DorsettEirios ThomasEirlys JonesIeuan WilliamsRon DaweJohn JamesEleri RetallickSiân MorrisBeti-Wyn JamesRhodri ThomasCatrin BradleyChristina King

SADWRN 1 HYDREF

Clyweliadau Pobol y Cwm 16+ Canolfan HamddenCaerfyrddin, Treioan 10am–4pmMae Pobol y Cwm yn chwilio am actorion cynorthwyol newydd oGaerfyrddin. Gweler yr erthygl gyferbyn am fanylion pellach.

Extra Time Quiz Clwb Rygbi’r Quins 7pm Noson o hwyl gyda Frances Donovan,Owen Money a Jason Mohammad wrthiddynt brofi gwybodaeth rhai o glybiauchwaraeon yr ardal.

SUL 2 HYDREF

Diwrnod Agored BBC CymruCanolfan HamddenCaerfyrddin, Treioan 10am–4pmDewch i gwrdd â Dalek, tynnu’ch llungyda’r TARDIS, darllen y newyddion a’rtywydd neu sylwebu ar ddigwyddiadchwaraeon hanesyddol. Gweler yrerthygl gyferbyn am fanylion pellach.

LLUN 3 HYDREF

Diwrnod Agored BBC CymruYsgolion a Cholegau yn unigCanolfan HamddenCaerfyrddin, Treioan 9.30am-6pm Fel yr uchod i ysgolion uwchradd a cholegau.

GravCanolfan HamddenCaerfyrddin,Treioan 8.30-10.30am Daw Ray Gravell wyneb yn wyneb â Dalek wrth iddo ymuno â chyflwynwyr BBC Cymru yn y Ganolfan Hamdden.

Noson Wybodaeth StraeonDigidol Canolfan Halliwell 7-9pm A hoffech chi adrodd stori mewnffordd newydd a chyffrous? Bydd tîm Cipolwg ar Gymru yn cynnalgweithdy pum diwrnod i ddangos ichi sut mae creu eich stori ddigidoleich hun. Am fanylion pellach ac iweld straeon digidol sydd eisoeswedi’u creu o bob cwr o Gymru,dewch i’r noson wybodaeth. I wybod mwy ffoniwch llinell wybodaeth y BBC.

MAWRTH 4 HYDREF

Clyweliadau Pobol y Cwm i YsgolionUwchradd Cymraeg 10am-3pm

Grav Clyweliadau Pobol y Cwm8.30-10.30am Grav yn busnesa gyda chriw Pobol y Cwm wrth iddynt edrych am actorion cynorthwyol ifanc argyfer y gyfres.

Y Talwrn a MwyGwesty’r Boars Head 7-9.30pm Gornest rhwng beirdd Beca aLlambed gyda Gerallt Lloyd Owen,ac yna sesiwn o hwyl barddonol yngngofal Tudur Dylan. Y noson wedi’ithrefnu ar y cyd gydag Urdd GobaithCymru. Pris tocyn yn £3.

MERCHER 5 HYDREF

Grav Stiwdio’r Farchnad 8.30-10.30amDewch draw i ddweud “Shw’ maeGrav!” wrth iddo ddarlledu am y trocyntaf o Stiwdio newydd BBC Cymruar Sgwâr y Farchnad. Peidiwch âcholli’r cyfle i ennill pâr o docynnaui weld Cymru yn erbyn SelandNewydd yn y cwis!

Taro’r Post Stiwdio’r Farchnad 1-2pmRhaglen drafod boblogaidd Radio Cymru yn fyw o Gaerfyrddinsy’n rhoi sylw i rai o brif faterion y dydd ac yn cynnig cyfle i chiddweud eich dweud.

Clyweliadau Pobol y Cwm i Ysgolion Cynradd 10am-3pm

Y Celfyddydau BBC Radio Cymru 12.15-12.50pmDros y dair wythnos nesaf byddBeti George yn rhoi sylw arbennig i fywyd celfyddydol tref Caerfyrddin.

Cant y Cant Clwb Rygbi’r Quins 7.30pmUrdd Gobaith Cymru a RadioCymru yn cyflwyno hwyl y meysydd chwarae wrth i HuwLlywelyn Davies geisio cadw trefnar dimau Gareth Charles ac IanGwyn Hughes. Pris tocyn yn £3.

IAU 6 HYDREF

Grav Tafarn Pant Y Dderwen,Llangain 8.30-10.30amTu ôl i’r bar fydd Grav bore ’mawrth iddo sgwrsio gyda’r trigolion lleol.

GWENER 7 HYDREF

Dyddiad CauCystadleuaeth TalentBandiau Y cyfle olaf i roi cynnig ar y gystadleuaeth. Am fanylion pellach gweler yr erthygl gyferbyn.

Siân Thomas Stiwdio’r Farchnad 2-4pmYmunwch â Siân Thomas a’igwesteion wrth iddynt fwynhau’rgorau o’r bwydydd a’r cynnyrchlleol.

Beti a’i PhobolGwesty’r Boars Head 7-9.30pmBeti George yn holi Sulwyn aGlenys Thomas – y naill ynnewyddiadurwr a darlledwr profiadol ers blynyddoedd a’r llall yn Llywydd CenedlaetholMerched y Wawr – ond pwy yw’rbos ar yr aelwyd? Dewch draw iweld. Ffoniwch llinell wybodaethy BBC am docyn.

SADWRN 1 HYDREF Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Treioan10am-4pm 16+

Hoffech chi brynu peint yn y Deri neu ddewis llysiau o siopCwmderi? Allech chi ddymuno “Bore da” i Anti Marian neu yfed dishgled o de yn y caffi heb edrych ar y camera? Os felly,dyma’ch cyfle mawr…

Mae Pobol y Cwm, opera sebon ddyddiol BBC Cymru, yn chwilio am actorion cynorthwyol newydd ac yn awyddus i recriwtio perfformwyr o Gaerfyrddin, yr ardal lle lleolir y rhaglen.

Os gallwch siarad Cymraeg a’ch bod dros 16 oed ffoniwch llinell wybodaeth y BBC i sicrhau’ch lle yn y clyweliad. Efallai mai dyma’ch cyfle i gael eich enw ar fâs-data o actorion cynorthwyol Pobol y Cwm. Mae llefydd yn brin!

SUL 2 HYDREFCanolfan Hamdden Caerfyrddin, Treioan10am-4pm Croeso i bawb

Cadwch lygad ar yr awyr uwchben Caerfyrddin ym mis Hydref oherwydd bydd TARDIS Doctor Who yn glanio yng NghanolfanHamdden Caerfyrddin ar Ddiwrnod Agored BBC Cymru. Galwchheibio i’w weld a bydd yna gyfle hefyd i chi gwrdd ag archelyn yDoctor – y Dalek.

Os yw’n well gyda chi gadw draw wrth y Dalek beth am roi tro arddarllen bwletin newyddion, neu gamu i sgidau Derek i ddarogandyddiau braf o haf neu law dychrynllyd? Beth am brofi’r cyffrowrth sylwebu ar rai o uchafbwyntiau chwaraeon Cymruneu fod yn DJ gydag un o droellwyr disgiau Radio Cymru neu Radio Wales? Bydd cyflwynwyr a sêr BBC Cymru wrth law i’ch helpu cyn rhoi’r cyfle i chi fwynhau eich pum munud o enwogrwydd.

Bydd tîm X-Ray yna i roi cyngor i chi ynglyn ag unrhyw broblemau defnyddwyr a bydd cymeriadau hoffus y Bobinogi yn galw draw i ddiddanu’r plant lleiaf. Ar Fws BBC Cymru bydd yna gyfle i bori trwy wefannau lleol a chenedlaethol y BBC, a chyfle i ysgrifennu eich stori eich hunan a chyfrannu at bbc.co.uk/caerfyrddin

DYDDIAD CAU: DYDD GWENER 7 HYDREF

Os yw’ch band chi yn haeddu cael ei glywed yna mae BBC Cymru am glywed gennych. Mae BBC Radio Cymru, Radio Wales a Radio 1 yn chwilio am y bandiau gorau yngNghymru. Bydd yr enillwyr yn cael sesiwn recordio, eu clywed ar y radio a’r cyfle i gefnogi un o brif fandiau Prydain mewn gig byw.

Mae’r band Ethergy yn brawf fod yr helfa am fandiau newydd wedi dod o hyd i dalent gwych. Ar ôl ennill y gystadleuaeth Talent Bandiau yn Ninbych, cafodd Ethergy gyfle unigryw i berfformio ochr yn ochr â rhai o’r enwau mawr, gan gynnwys Tony Christie yn y Big Buzz ar BBC Radio Wales a gynhaliwyd yn y Rhyl yn gynharach eleni.

Os ydych dros 16 oed ac mewn band sydd wedi ei leoli yng Nghymru, yna gallwch chi gael yr un cyfle.

I gofrestru, anfonwch CD demo heb fod dros tair munud ynghyd â ffurflen ymgeisio pdf (ar gael o bbc.co.uk/newtalent) erbyn dydd Gwener 7 Hydref at:

Bandiau NewyddBBC Cymru Ystafell 2018 Llandaf Caerdydd CF5 2YQ

Bydd y bandiau gorau yn cael eu gwahodd i berfformio gerbron panel o feirniaid adnabyddus yn Theatr Halliwell yng Ngholeg y Drindod ar ddydd Sadwrn 29 Hydref.

08703 500 700 bbc.co.uk/caerfyrddin

GWENER 30 MEDI

Newyddion a Wales TodayNewyddion a Wales Today yn cyflwynostraeon ac eitemau yn fyw o Gaerfyrddin.

SADWRN 8 HYDREF

Diwrnod Agored Look UpYour Genes Neuadd Ddinesig San Pedr 10am-4pmDewch i’r diwrnod agored hel achau er mwyn cychwyn ar eich coeden deuluol. Am wybodaeth bellach gweler yr erthygl gyferbyn.

Chwilio am Dalent (Saesneg)Stiwdio’r Farchnad 11am a 2pm Am weld eich llun ar y sgrîn? Mae BBC Cymru yn chwilio am dalentcyflwyno a gohebu ar gyfer Takeover TV, rhaglen deledu o’r ardal. I gofrestru ffoniwch llinell wybodaeth y BBC.

SUL 9 HYDREF

‘Siathre’ BBC Radio Cymru 12pmY canwr Geraint Griffiths sy’n olrhain ei wreiddiau yn Sir Gâr gan ddatgelu’r dylanwadau lleol ar ei ganeuon.

LLUN 10 HYDREF

Good Morning Wales Stiwdio’r Farchnad6-9amDechrau cynnar i dîm newyddion Radio Wales, wrth i Good MorningWales ddod yn fyw o Gaerfyrddin.

MAWRTH 11 HYDREF

Nicola Heywood Thomas Stiwdio’r Farchnad 12-2pmYmunwch â Nicola i drafod y pynciau llosg cenedlaethol a lleol yn fyw o Gaerfyrddin.

Midweek Sport Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin 7-9pm Ar drothwy gêm Cymru yn erbynAzerbaijan, bydd Rob Phillips a phanel o westeion yn trafod yr her sy’n wynebu tîm John Toshack.

Bws BBC CymruYsgol Peniel – prynhawn Clwb Ieuenctid Peniel – nos Bydd y prosiect ar-lein ‘Our Patch’ yn cael ei lansio gyda disgyblion ysgol ac aelodau clwb ieuenctid Peniel wrth iddynt dynnu sylw at y llefydd sy’n bwysig iddyn nhw. Caiff y llefydd hynny eu dangos mewn orielarbennig ar bbc.co.uk/carmarthen

MERCHER 12 HYDREF

Roy Noble Stiwdio’r Farchnad 9-11am Ymunwch â Roy gyda Kath a Jon Deeam fore o gerddoriaeth a sgwrs.

Bws BBC Cymru aGeraint Lloyd Maes Parcio’r Fox & HoundsBancyfelin 5-8pm Mae Bws BBC Cymru yn ymweld â Bancyfelin a bydd Geraint Lloyd yn galw draw am 6.30pm i ddarlledu eiraglen yn fyw ar Radio Cymru.

IAU 13 HYDREF

Cyfarfod Cyhoeddus CyngorDarlledu Cymru Neuadd Ddinesig San Pedr 7.30pmNoson o drafodaeth ynglyn âgwasanaethau BBC Cymru wedi ei chadeirio gan Yr Athro Merfyn Jones,Llywodraethwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru a’i chynnal gan Gyngor Darlledu Cymru.Ffoniwch y llinell wybodaeth am docynnau.

GWENER 14 HYDREF

Chris Needs Theatr y Lyric 8-11pmDaw Chris a’i Ardd o gyfeillion yn fyw o Gaerfyrddin. Tocynnau’n £3 gyda’r elw yn mynd tuag at Plant mewn Angen 2005. Ffoniwch llinell wybodaeth y BBC am docynnau.

8 Hydref Neuadd Ddinesig San Pedr10am-4pm Ysgwydwch ganghennau’r goeden deuluol a dechreuwch ar eich gwaith ymchwil gyda thîm Look Up Your Genes. Bydd yr arbenigwyr achau o’r rhaglen boblogaidd ar Radio Wales wrth law er mwyn dangos i chi sut i olrhain hanes eich teulu.

Bydd Cat Whiteaway yn cynnal cyfres o sgyrsiau gydol y dydd ar y ffyrdd gorau o ddefnyddio’r rhyngrwyd a bydd modd defnyddio caffi seiber er mwyn pori drwy hoff wefannau Cat. Cewch hefyd ddigonedd o gyngor a gwybodaeth gan gymdeithasau a sefydliadau hanes lleol.

A hithau’n flwyddyn o ddigwyddiadau i gofnodi diwedd yr Ail Ryfel Byd, bydd tîm Look Up Your Genes yn canolbwyntio ar atgofion a straeon yrhyfel. Camwch nôl mewn amser drwy ymweld â’r hen gegin a blasu rhai o ryseitiau’r cyfnod, diolch i’r gangen leol o Sefydliad y Merched.

Os ydych yn chwilio am gyd-filwyr neu ffrindiau o’r Ail Ryfel Byd neu os oes gan eich teulu stori ddiddorol o gyfnod y rhyfel, mae’r cyflwynydd Charlotte Evans am glywed eich stori. Gall rhai o’r straeon gael eu cynnwys yn y rhaglenni radio a theledu.

08703 500 700 bbc.co.uk/caerfyrddin

SUL 16 HYDREF

Oedfa’r Bore Capel Heol Awst 10amYmunwch â’r gynulleidfa yng NghapelHeol Awst.

LLUN 17 HYDREF

Post Cyntaf Stiwdio’r Farchnad 7-8.30am Daw rhaglen newyddion foreol Radio Cymru yn fyw o Gaerfyrddin, gan gynnwys eitemau arbennig o’r dref a’r ardal.

Grav Stiwdio’r Farchnad8.30-10.30am Clonc, cân a chystadleuaeth gyda Grav ar y Sgwâr.

Wythnos Gwilym OwenStiwdio’r Farchnad 12.10-12.50pm Dewch draw i’r stiwdio i glywed Gwilym Owen yn tynnu blewyn o drwyn wrth holi, stilio a phryfocio pobl Caerfyrddin a’r fro.

MAWRTH 18 HYDREF

Grav Ysbyty Glangwili 8.30-10.30am Cyfle i gleifion a staff Ysbyty Glangwili glywed eu ceisiadau’n fyw ar y rhaglen.

Bws BBC Cymru Canolfan HamddenCaerfyrddin, Treioan 10am-4pm Galwch draw i’r Bws wrth i’r criw gynnal diwrnod Bwyd, Iechyd acYmarfer Corff.

Gweithdy C2 Ysgol Bro Myrddin 10am Cyfle i ddisgyblion yr ysgol gynhyrchu a chyflwyno eu rhaglen radio eu hunain yng nghwmni Dafydd Du a’r criw.

Celfyddydau Caerfyrddin_________________________Carmarthen Arts

8.30-10.30am

BBC Radio Cymru 93.3FM

Fel y mae Ray Gravell yn amal yn ei ddweud “West is Best!” ac fe ddylai e a Siân Thomas wybod.Dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf mae’r ddauwedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn arbennig i wrandawyr y De Orllewin ar Radio Cymru. Am ymis nesaf mi fydd y ddau yn troi eu sylw atGaerfyrddin a'r cyffiniau.

“O’r holl bethau rwy wedi eu gwneud - ffilmiaugydag actorion byd-enwog, gwaith radio a theledu,hwn yw’r gwaith rwy wedi ei fwynhau fwyaf. Mae’n bersonol iawn ac mae’r gefnogaeth gan ygwrandawyr wedi bod yn wych,” medd Grav, “mae e bron cystal â chware dros Gymru!”

“Fi’n lwcus iawn i gael y profiad ’ma ac yn edrych'mlaen at dreulio mwy o amser yn yr ardal.”

I Siân Thomas a fagwyd yn Ystalyfera, roedd trip i Gaerfyrddin yn ddiwrnod mas go iawn. Mae’nedrych ’mlaen i fod yn rhan o weithgareddau’r dref.

“Mae Caerfyrddin yn ganolfan mor wych i’r ardal – o ran diwylliant, bwyd a masnach. Rwywrth fy modd yn ymweld â’r farchnad ac rwy’nedrych ’mlaen i goginio gan ddefnyddio’r cynnyrchgorau – yn syth o’r stondinau.”

Galwch i weld Siân Thomas yn darlledu o Stiwdio’rFarchnad a chadwch olwg am Ray mewn lleoliadaugwahanol o amgylch Caerfyrddin.

2-4pm

08703 500 700 bbc.co.uk/caerfyrddin

Manylu Ysgol y Model, Heol y Coleg 7pm Datblygu Tref Caerfyrddin – Bendith neu Felltith? Ymunwch â Gwilym Owen wrth iddo gadeirio trafodaeth gyda phobl leol am y cynllun dadleuol i ddatblygu canol y dref a chaniatau i archfarchnad fawr newydd agor. I’w darlledu nos Iau 20 Hydref am 6pm.

Gweithdy Straeon DigidolColeg y Drindod 7-9pmY cyntaf o bum gweithdy straeon digidol. I gymryd rhan gweler 3 Hydref.

MERCHER 19 HYDREF

Grav Stiwdio’r Farchnad 8.30-10.30am Mwy o hwyl gyda Grav a rowndderfynol cwis Caerfyrddin – pwy fydd yn ennill y tocynnau i weldCymru’n chwarae yn erbyn Seland Newydd?

Hywel a Nia Stiwdio’r Farchnad 10.30am-12.10pm Cerddoriaeth, straeon a sgyrsiau difyr. Nia fydd yn cadw trefn yn y stiwdio tra bydd Hywel yn dilyn ei drwyn o amgylch y farchnad tu allan.

IAU 20 HYDREF

Grav Y Llew Coch, Llandyfaelog 8.30-10.30am Aelodau Côr Dyffryn Tywi fydd yn ymuno â Grav bore ’ma yn fyw o’r dafarn.

Gweithdy Cerddoriaeth gydaCherddorfa GenedlaetholGymreig y BBC Ysgol Rhyd-y-gors Gweithdy cerddorol i ddisgyblion yr ysgol gydag aelodau’r Gerddorfa.

Tu Ôl i’r Llenni gyda’r Gerddorfa Gwesty’r Llwyn Iorwg 12.30-1.30pm Bydd Philip Watts, Rheolwr Datblygu’r Gerddorfa yn sgwrsio am waith y Gerddorfa. Am wybodaeth bellachffoniwch y llinell wybodaeth.

Geraint Lloyd Hen Safle’r Mart 6.30-8pm Yn dilyn y confoi cynta ddaethynghyd yn Ninbych yn y gwanwyn, dewch draw i hen safle’r mart i barcio’ch lori ac ymuno â Geraint ac aelodau Clwb Bois y Loris ar Fws BBC Cymru.

GWENER 21 HYDREF

Bws BBC Cymru LlansteffanLlun i Gwener 10.30am-3.30pmBydd timoedd y we a’r bws yn gweithio gyda’r cyhoedd ar Brosiect Hanes Llansteffan.

Siân Thomas Stiwdio’r Farchnad 2-4pmYmunwch â Siân a’i gwesteion yn y stiwdio.

Gig C2/Bandit Undeb y Myfyrwyr Coleg y Drindod 9pm Mae criw C2 BBC Radio Cymrua Bandit S4C ar daith drwy Gymru ac heno mae nhw’ncyflwyno Mattoidz a bandiau eraill o gig y Cwrwgl yn Undeb y Myfyrwyr.

SADWRN 22 HYDREF

Miri Myrddin Neuadd Ddinesig San Pedr 9am-5pm Pigion o weithgareddau gwylMiri Myrddin. Ymysg y perfformiadau fydd ysgolion cynradd yr ardal, gweithdy roc, jamborî gyda Gwenda Owen, ymryson y beirdd,dawnswyr Talog, Alun Tan Lan, Fflur Dafydd, Côr Seingar,Baldande a Tecwyn Ifan.

Marc Griffiths Clwb y Dairies 7.15-9.15pmMarc Griffiths sy’n cyflwyno cerddoriaeth fyw gyda Fflur Dafydd a’r Barf ac Alun Tan Lan.Trefnir y noson mewn cydweithrediad â Mentrau IaithMyrddin. Tocynnau’n £5.

MAWRTH 25 HYDREF

Cerddorion ar AlwCerddorfa GenedlaetholGymreig y BBCRhowch wen ar wyneb ffrind neu aelod o’r teulu sydd yn ei chael hi’n anodd symud o’r ty. Ffoniwchllinell wybodaeth y BBC ac efallai bydd aelodau o’r gerddorfa yn ymweld â’u cartrefi nhw i berfformio cerddoriaeth fyw.

MERCHER 26 HYDREF

Jamie Owen Gardd Fotaneg Genedlaethol CymruLlanarthne 11am-12pm Jamie a’i westeion yn darlledu’n fyw o’r Ardd.

Gweithdy Cabaret CymunedolStiwdio’r Farchnad 1-4pmA hoffech gymryd rhan yn Sioe Cabaret Cymunedol Radio Wales yn Theatr Halliwell nos Wener 4 Tachwedd? Gweler yr erthygl gyferbyn.

All Things Considered Theatr Halliwell Coleg y Drindod 7.30pm Ymunwch â Roy Jenkins a phanel arbennig o westeion yn cynnwys y cyn-wystl Terry Waite. Am wybodaeth bellach gweler yr erthygl gyferbyn.

IAU 27 HYDREF

Gareth Edwards yn cyflwyno Match of the Century - Wales v New Zealand 1905Theatr HalliwellColeg y Drindod 7.30pm Cyfle i weld dangosiad arbennig o’r rhaglen ddogfen newydd wedi’i chyflwyno gan Gareth Edwards gyda thrafodaeth ar rygbi Cymru i ddilyn. Am fwy o wybodaeth gweler yr erthygl gyferbyn.

SADWRN 29 HYDREF

Money for Nothing Stiwdio’r Farchnad 9-11am Galwch i weld Owen Money yn darlledu’n fyw o’r Stiwdio gyda cherddoriaeth o’r 60au a’r 70au, cystadlaethau a’ch ceisiadau.

Bandiau Newydd Theatr Halliwell Coleg y Drindod 11am-5pmDyma gyfle’r bandiau lleol sydd wedicyrraedd y rownd derfynol i berfformio o flaen panel o feirniaid adnabyddus. Dim ond un fydd yn cael y cyfle i gefnogi band enwog mewn gig byw, recordio sesiwn gerddorol a chlywed eu caneuon ar y radio.

MAWRTH 1 TACHWEDD

Wales@work Stiwdio’r Farchnad Recordio am 1pm Darlledu am 6pmY byd busnes gyda Sarah Dickins a thîm Wales@work.

MERCHER 2 TACHWEDD

Roy Noble Stiwdio’r Farchnad 9-11am Ymunwch â Roy gyda Kath a Jon Dee am fore o sgwrs a chaneuon.

Gweithdy Cabaret Cymunedol Stiwdio’r Farchnad 1-4pm Gweler yr erthygl gyferbyn am wybodaeth bellach.

IAU 3 TACHWEDD

I’ll Show You Mine Clwb Rygbi’r Quins 7.30pm Frank Hennessy, Ray Gravell a’u gwesteion fydd yn diddanu’r gynulleidfa gyda cherddoriaeth ac adloniant byw. Gweler yr erthyglgyferbyn am wybodaeth bellach.

GWENER 4 TACHWEDD

Jamie Owen Stiwdio’r Farchnad 11am-12pm Jamie a’i westeion yn darlledu’n fyw o ganol y farchnad yngNghaerfyrddin. Dewch draw!

Showtime Stiwdio’r Farchnad 1pm Ymunwch â Beverley Humphries am rifyn arbennig o Showtime. Os hoffech gais wedi ei gynnwys ar y rhaglen ffoniwch llinell wybodaeth y BBC. Darlledir y rhaglen nos Fercher 9 Tachwedd am 7pm.

Sioe Cabaret Cymunedol Theatr Halliwell Coleg y Drindod 7.30-9.30pm Dewch i fwynhau perfformiadau gorau eich ardal wrth iddynt gydweithio â chabaret teithiol Radio Wales a chyflwyno noson fythgofiadwy o gomedi a cherddoriaeth. Ffoniwch llinell wybodaeth y BBC am docynnau.

SUL 6 TACHWEDD

Scrum V Clwb Rygbi’r Quins6.10-7pmWedi gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd, ymunwch â Rick O’Shea yng nghlwb Rygbi’r Quins i ddweud eich dweud am y gêm.

yn cyflwyno Match of the Century -Wales v New Zealand1905 Iau 27 Hydref Theatr HalliwellColeg y Drindod 7.30pm Bydd Jason Mohammad yn cyflwyno noson hiraethus am rygbi yng nghwmniGareth Edwards gan hel atgofion am lwyddiant y tîm ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf gyda dangosiad arbennig o’rrhaglen ddogfen. Mae’r rhaglen yn bwrwgolwg ar y gêm enwog rhwng Cymru a’rCrysau Duon trwy lygaid Dickie Owen, y mewnwr a phrif wrthwynebydd Gareth am deitl Mewnwr Gorau Cymru Erioed.

Wrth i Gymru baratoi unwaith eto i herio’r Crysau Duon bydd Gareth Edwards yn ymuno â Jasonam sesiwn anffurfiol o holi ac ateb er mwyn canfod gwir gyflwr y gêm heddiw.

Am docynnau ffoniwch llinell wybodaeth y BBC.

Darlledir y rhaglen yma ar BBC ONE Wales am 10.35pm nos Lun 31 Hydref.

95.9FM a 882 MW Bydd Radio Wales yn darlledu amrywiaeth o raglenni o Gaerfyrddin dros y misoedd nesa. Bydd Roy Noble a Nicola HeywoodThomas yn cyflwyno eu rhaglenni yn fyw o Stiwdio'r BBC yn Sgwâr y Farchnad, bydd Jamie Owen yn ymweld â'r Ardd Fotaneg Genedlaethol a bydd Chris Needs yn Theatr y Lyric am noson o adloniant pur. Bydd ffocws yr orsaf genedlaethol yn sicr ar ardal Caerfyrddin!

Bydd yr awdur, ymgyrchydd a’r cyn-wystl Terry Waite CBE a phanel o westeion yn ymuno â Roy Jenkins am rifyn arbennig o’r gyfres grefyddol lwyddiannus All Things Consideredyn Theatr Halliwell ar 26 Hydref. I fod yn y gynulleidfa neu os hoffech ofyn cwestiwn i’r panel, yna cysylltwch â llinell wybodaeth BBC Cymru. Darlledir y rhaglen mewn dwy ran ar Radio Wales – Sul 30 Hydref a Sul 6 Tachwedd.

Dewch draw i Glwb Rygbi’r Quins nos Iau 3 Tachwedd lle bydd Frank Hennessy, Ray Gravell a’u gwesteion yn cynnal noson o gerddoriaeth ac adloniant byw gyda digonedd o hwyl. Recordir I’ll Show you Mine i’w darlledu ar Radio Wales ddydd Sul 6 Tachwedd.

Os hoffech y cyfle i gymryd rhan yn y Sioe Cabaret Cymunedol, yna dewch i’r gweithdai yn Stiwdio’r Farchnad ar 26 Hydref a 2 Tachwedd. Gallwchddatblygu syniadau, ysgrifennu sgetsys, cael cyngor ar berfformio a dysgu sut i olygu a chynhyrchu cynyrchiadau radio. Mae llefydd yn brin, felly cofrestrwch nawr!

I gofrestru ac am docynnau i'r digwyddiadau yma, ffoniwch llinell wybodaeth y BBC.

Ceir mwy o fanylion am raglenni a digwyddiadau eraill Radio Wales yn y llyfryn hwn.

08703 500 700 bbc.co.uk/caerfyrddin

8 -12 TACHWEDD

Three Parts Iced Over Y Gyfnewidfa Lo Caerdydd 7.30pm Arddangosfa gelfyddydol a chynhyrchiad aml-gyfrwng ar y cydgyda thrigolion Caerfyrddin, Dinbych aButetown sy’n sôn am daith cythryblusdyn trwy fywyd. Am fwy o wybodaethffoniwch llinell wybodaeth y BBC. Tocynnau’n £8 a gostyngiadau’n £6.

MERCHER 9 TACHWEDD

Dathlu Amrywiaeth Ethnigmewn BusnesCanolfan HalliwellColeg y Drindod 6-9pm Gareth Jones, Golygydd Busnes BBC Cymru sy’n siarad â phobl busnes llwyddiannus o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Ffoniwch llinell wybodaeth y BBC am docynnau.

10 a 11 TACHWEDD

Bws BBC Cymru Iau - Abergwili Gwener - Canol TrefCaerfyrddin 10am-4pm Cyfle i gofnodi’ch straeon ac atgofion ar wefan yr Ail Ryfel Byd a mwynhauarddangosfa o luniau a straeon sydd wedi eu casglu ar-lein yngNghaerfyrddin dros y misoedd diwethaf.

GWENER 11 TACHWEDD

News Quiz Ystafell TeifiColeg y Drindod1-2pmYmunwch â Richard Evans a’i westeion wrth iddynt fwrw golwg dros newyddion yr wythnos. Darlledir ar BBC Radio Wales Sadwrn 12 Tachwedd am 1pm a 6.30pm yn ogystal â Sul 13 Tachwedd am 5.30pm.

Gwefan arbennig i Gaerfyrddin yw bbc.co.uk/caerfyrddin.Cliciwch arni i gael hanes yr ardal, lluniau a straeon difyr amdrigolion a digwyddiadau’r fro.

Bydd tîm y we yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Bro Myrddin i greu cylchgrawn ar-lein, y cyntaf o’i fath ar wefan Lleol i Miy De Orllewin, a bydd cyfle i bori trwyddo yma ar y safle. Yn ogystal bydd y tîm yn gweithio gyda rhai o ysgolion cynradd y cylch.

I wybod mwy am weithgareddau’r BBC yng Nghaerfyrddin dros y misoedd nesaf edrychwch ar bbc.co.uk/caerfyrddinam restr lawn o ddigwyddiadau a gwybodaeth gynhwysfawr.

08703 500 700 bbc.co.uk/caerfyrddin

LLUN 14 TACHWEDD

Takeover TV BBC 2W 8.30pm Blas o fywyd Caerfyrddin, trwy lygaid y trigolion.

MERCHER 16 TACHWEDD

Look Up Your Genes BBC 2W 8.30pmHanesion achau teuluol trigolionCaerfyrddin.

GWENER 18 TACHWEDD

Cyngerdd Plant mewn AngenRadio CymruNeuadd Ddinesig San Pedr 8-9.30pmDewch draw yn llu i Neuadd DdinesigSan Pedr i ddathlu Ffair AeafCaerfyrddin a chefnogi ymgyrch Plantmewn Angen gyda chyngerdd byw yngnghwmni Elin Fflur a'r Band, aelodau oGerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Côr Seingar a llawer o dalentaulleol eraill. Digon o fwrlwm a rhywbethat ddant pawb gyda Siân Thomas yncyflwyno. Ffoniwch y llinell wybodaeth isicrhau eich tocynnau.

YN CYCHWYN 21 TACHWEDD

Raise your GameBeth allech chi fod? Beth allech chigyflawni? Beth sy'n eich rhwystro chi? Bydd tîm gwefan Raise your Game yngweithio gyda myfyrwyr chwaraeonColeg Sir Gâr i ddatblygu sgiliau allweddol yn ogystal â chynniggwybodaeth a chyngor ar sgiliau ysgogi.

MAWRTH 22 TACHWEDD

Noson Archif Caerfyrddin Theatr Halliwell Coleg y Drindod 7.30pm Cyfle i fwynhau ffilmiau archif am Gaerfyrddin a’r ardal wedi eu cyflwyno gan

Wales Today yw prif raglen newyddion BBC One Wales gan ddod â’r newyddion diweddaraf gydol y dydd. Mae’r sianel hefyd yn gartref i’r ddrama boblogaiddBelonging, y rhaglen ddefnyddwyr X-Ray a’r dadansoddi gwleidyddol gorau ar Dragon’s Eye.

BBC 2W yw’r sianel ddigidol ar gyfer Cymru. Mwynhewch raglenni o Gymru am Gymru – ganadlewyrchu’r tirlun, y diwylliant, y bobl a’r materion sy’n bwysig i’r genedl. Ar 2W hefyd cewch gyfle i weld rhai o brif raglenni BBC Cymru cyn iddynt gael eu dangos ar BBC One Wales.

BBC Radio CymruWastad yn Gymraeg 93.3FM Freeview 90, Lloeren 904 abbc.co.uk/radiocymru Mwynhewch glonc a chân gyda Grav, cymerwch ran mewn trafodaethau amserol gyda thîm Taro’r Post,chwiliwch am giosg Geraint Lloyd a mwynhewch gwmni criw bywiog C2 gyda’r hwyr. Y newyddion diweddaraf o Gymru a’r byd yn Post Cyntaf aPost Prynhawn a’r gorau o fyd chwaraeon Cymru gyda Dylan Ebenezer ac Eleri Siôn.

BBC Radio Wales Always in English 95.9 FM a 882MW Freeview 89, Lloeren 867 abbc.co.uk/radiowales Am gerddoriaeth, newyddion, chwaraeon a digonedd o adloniant Cymreig trwy gyfrwng y Saesneg, gwrandewch ar BBC Radio Wales.

bbc.co.uk/caerfyrddin Ar gyfer eich newyddion lleol, chwaraeon, tywydd adigwyddiadau cymunedol trowch at y wefan Lleol i Miar gyfer eich ardal. Bydd y tîm Lleol i Mi hefyd yngweithio gyda phobl Caerfyrddin i ddatblygu safle fydd yn llawn hanes a straeon diddorol am yr ardal.

bbc.co.uk/cymru a bbc.co.uk/wales Am yr holl newyddion o Gymru a’r byd ewch i un o’rgwefannau mwyaf yn y wlad. Dysgwch Gymraeg gydaColin a Cumberland, cewch gyngor ar olrhain eichachau, anfonwch e-gardiau a llawer llawer mwy. 08703 500 700 bbc.co.uk/caerfyrddin