papur cefndir 17 cludiant a rhwydweithiau mai rhagfyr 2017 · mae llc yn cymryd rheolaeth strategol...

22
Cynllun Datblygu Lleol Eryri Papur Cefndir 17 Cludiant a Rhwydweithiau Mai Rhagfyr 2017

Upload: hamien

Post on 16-Feb-2019

215 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Cynllun Datblygu Lleol Eryri

Papur Cefndir 17

Cludiant a Rhwydweithiau

Mai Rhagfyr 2017

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

2

1.0 Cyd-destun

1.1 Dros y 30 mlynedd a aeth heibio rydym wedi gweld cynnydd aruthrol mewn teithio personol, perchnogaeth ceir a’r pellter a deithir ynghyd â lleihau mawr yn argaeledd ac amlder cludiant cyhoeddus, cynyddiadau mawr mewn cludiant ffordd (niferoedd cerbydau a chynnydd ym maint lorïau) a newidiadau newidiol sylweddol yng nghostau cludiant cyhoeddus a phreifat. 1.2 Heddiw mae yna bryder cynyddol ynghylch colli rhai gwasanaethau gwledig fel mannau addoli, ysgolion, swyddfeydd post, tafarndai, garejys a siopau bach a’r potensial i gau gwasanaethau rheilffordd a bysus gwledig. Mae cyfleoedd yn cael eu hadnabod i gyflawni mwy o rai gwasanaethau lleol mewn ardaloedd gwledig, fel cymorthfeydd ymgynghorwyr allbostedig a monitro amodau iechyd penodol o bell ac yn gynyddol mae sefydliadau yn adnabod cyfleoedd ar gyfer cynadledda dros y we neu trwy gyfrwng fideo a gweithio gartref. 1.3 Mae’r pwysau yn cynyddu o ganlyniad i effaith ein patrymau teithio cyfredol ar newid hinsawdd ac mae’r rhagolygon yn dangos y bydd lleihad yn y cronfeydd olew a chostau cynyddol arno. 1.4 Bydd y gallu i addasu i’r amgylchiadau newidiol hyn yn llywodraethu dros ansawdd bywyd yn y dyfodol yn Eryri, cyfoeth unigol a chymunedol, lles cymdeithasol ac ansawdd amgylcheddol.

2.0 Rhwydweithiau Cludiant Cynaladwy

2.1 Mae cludiant yng Ngogledd Orllewin Cymru yn fater cymhleth sy’n newid yn gyflym fel mae sail polisi’n newid o ganlyniad i ddylanwad a gofynion Llywodraeth Cymru (LlC). Mae LlC yn cymryd rheolaeth strategol dros gludiant ac mae’n rheoli gwasanaethau rheilffordd yn awr ac i raddau llai gwasanaethau bws trwy gyfrwng ei fecanweithiau grant a chymhorthdal amrywiol, yn benodol y Grant Cludiant a’i daliadau i Drenau Arriva Cymru fel deilydd Masnachfraint National Rail. 2.2 I raddau helaeth ymarferir rheolaeth, a’r gwaith o reoli’r rhwydweithiau bws trwy’r Awdurdodau Lleol sy’n gallu darparu cymhorthdal ac o ganlyniad i hynny maent yn gallu darparu gwasanaethau i gymunedau pellennig i raddau fwy neu lai. Mae’r rheolaeth hon yn cael ei chymhlethu gan allu cwmnïau bws i ddatgan eu bod yn gallu rhedeg gwasanaeth economaidd ar lwybrffordd sy’n eu galluogi hwy i sefydlu gwasanaeth cystadleuol a chadw llwyr reolaeth dros eu hamserlen eu hunain a all fod yn groes i amserlenni strategol ehangach a’r rheolaeth o’r rhwydweithiau yn eu cyfanrwydd. Yn yr un modd, gall gwasanaethau bws gael eu sefydlu i gystadlu yn erbyn gwasanaethau rheilffordd ar lwybrffyrdd

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

3

economaidd lle gall hyn gael effaith andwyol ar wasanaethau rheilffordd ar y cyfan a pheryglu dyfodol y llwybrffordd o bosib. Gall y diffyg cysondeb yn y dulliau cymhorthdal a chymhelliannau teithwyr wneud pethau’n waeth hyd yn oed. 2.3 Mae’r Awdurdod yn ystyried cludiant fel rhywbeth sy’n cynnwys y rhwydwaith o lwybrffyrdd beicio, llwybrau cerdded a chyfleoedd mynediad. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd twristiaeth i’r economi a deunydd cymdeithasol y Parc Cenedlaethol. Mae bodolaeth llwybrau beicio cenedlaethol 8 a 5 trwy a chyfagos i’r PC yn darparu asgwrn cefn o ran mynediad y gellir adeiladu arno trwy ddarparu llwybrau beicio a llwybrau mynediad strategol i mewn i, ar a thrwy fynyddoedd a dyffrynnoedd y PC. Mae’r ddarpariaeth hon yn cysylltu gyda Menter Dwristiaeth Gynaladwy’r Parc o ddarparu isadeiledd gynaladwy ar gyfer busnesau lleol i farchnata a manteisio arnynt a’r buddion economaidd a chymdeithasol a’r ddealltwriaeth gymunedol well a ddaw yn sgil hyn. 2.4 Rhoddwyd cymorth grant hael i Fenter Goriad Gwyrdd a’i Wasanaeth Bws Sherpa’r Wyddfa trwy gyfrwng y Grant Cludiant a chymhorthdal Awdurdod Lleol i wella amlder ac ansawdd y gwasanaeth yn sylweddol yn ogystal â helpu i gyflawni’r nod cynaladwy strategol o annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn hytrach na’u ceir. Mae’r gallu i ddal bws i fan cychwyn eich taith gerdded a dal bws yn ôl i’ch llety ar ddiwedd eich taith yn atyniad mawr ac mae Goriad Gwyrdd wedi ceisio gwella hyn trwy gyfrwng dulliau llawn dychymyg, er enghraifft, cynllun tacsi Crib Nantlle. Mae gallu’r bysiau hyn i gario beiciau a chefnsachau yn bwysig hefyd yn ogystal â chydgysylltu llwybrffyrdd o orsafoedd ac at ddechrau rhwydweithiau llwybrau lleol. Mae hyn yn adeiladu ar y fenter Rhwydweithiau Hamdden y Parc Cenedlaethol sy’n datblygu llwybrffyrdd cylchol mewn partneriaeth â chymunedau. Yna gosodir cynlluniau llwybrffyrdd ar wefan yr Awdurdod ond eto maent yn darparu isadeiledd i fusnesau lleol ymelwa arnynt. Ni ddylid anghofio ychwaith, wrth gwrs, bod y gwasanaeth bws sydd wedi cael ei wella’n sylweddol o fudd i bobl leol sy’n cael mynediad at safon drefol o ran amlder a dibynadwyedd. 2.5 Nid oes gan APC gyfrifoldeb statudol penodol dros gludiant cyhoeddus heblaw am y ffordd y mae’n dehongli ei ail bwrpas. Ar hyn o bryd mae’n dewis ei ddehongli fel ei bod yn briodol i gynorthwyo gyda gwaith mewn partneriaeth i ddatblygu cludiant cyhoeddus, rhwydweithiau beicio a cherdded, i hwyluso mwynhad a dealltwriaeth a lles cymdeithasol ac economaidd ond hefyd er mwyn cyflawni’r defnydd cynaladwy o’r PC ac i warchod ei asedau amgylcheddol trwy greu symudiad oddi wrth geir tuag at gludiant cyhoeddus ymysg twristiaid a phobl leol. Mae’n hanfodol nad yw’r symudiad hwnnw yn cael ei weld fel rhywbeth sydd ddim ond yn bwysig yn nhermau teithio i’r gwaith, ond wrth newid ymddygiad twristiaid ynghylch sut y ceir mynediad i gefn gwlad hefyd. 2.6 Rheolir rheolaeth strategol a datblygiad materion sydd a wnelo cludiant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol.

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

4

3.0 Y Cynllun Gweithredu Teithio Llesol 3.1 Mae'r Cynllun Gweithredu Teithio Llesol (Chwefror 2016) a baratowyd gan Lywodraeth Cymru yn ategu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac yn nodi'r weledigaeth ar gyfer teithio llesol a sut mae'n ymwneud â nodau ehangach. 3.2 Y prif bwyntiau a nodir yn y Cynllun yw:

• Cydweithio gydag eraill i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen • Sefydlu teithio llesol ar draws y gwahanol bortffolios • Monitro cynnydd yn erbyn y camau gweithredu hyn • Monitro graddau o deithio llesol sy’n digwydd ledled Cymru.

3.3 Cymhelliant y Llywodraeth ar gyfer y Cynllun Gweithredu Teithio Llesol yw'r heriau mawr wrth geisio sicrhau lles corfforol a meddyliol y genedl, yn awr ac i genedlaethau i ddod. Drwy gynyddu lefelau cerdded a beicio, mae’n cynnig ffordd uniongyrchol o sicrhau llu o fanteision i gynorthwyo â’r materion hyn. Gall gynnig ffordd syml o adeiladu gweithgarwch corfforol i mewn i fywydau pob dydd a dod â gwelliannau iechyd cysylltiedig; gall leihau trafnidiaeth fodurol a gyda hynny y llygredd yn yr aer, allyriadau carbon a thagfeydd; gall fod yn gymorth i wneud i bobl a chymunedau deimlo’n fwy cysylltiedig a hybu busnesau lleol; gall gynnig symudedd rhad, galluogi mynediad at addysg, swyddi a gwasanaethau. 3.4 Yn ôl y Cynllun Gweithredu Teithio Llesol, mae gan y System Gynllunio swyddogaeth allweddol i'w chyflawni mewn hyrwyddo teithio llesol. Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 18: Trafnidiaeth yn hyrwyddo cerdded a beicio, yn unol ag amcanion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae'r diweddariad diweddar i Bolisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9, Tachwedd 2016) yn cynnwys diweddariad ffeithiol i dynnu sylw at y cysylltiad rhwng y system gynllunio a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013;

‘8.1.2 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i alluogi rhagor o bobl i deithio mewn modd llesol ac i fwynhau’r manteision sy’n gysylltiedig â hynny. Rydym am annog pobl i adael eu ceir ac i deithio mewn modd llesol os yw hynny’n addas. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru baratoi mapiau teithio llesol a sicrhau gwelliannau o’r naill flwyddyn i’r llall mewn llwybrau a chyfleusterau teithio llesol. Mae gan y system gynllunio rôl bwysig i’w chwarae o ran hyrwyddo teithio llesol ac o ran sicrhau llwybrau teithio a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell’.1

1 Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 9) Pennod 8 – Trafnidiaeth. (Tachwedd 2016) tud.117

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

5

3.5 Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, bu cynnydd sylweddol mewn teithiau personol, ochr yn ochr â gostyngiad mewn argaeledd ac amlder trafnidiaeth gyhoeddus a newidiadau sylweddol yng nghostau trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat. Wrth gwrs, mae dwysedd poblogaeth isel ac aneddiadau gwasgaredig yn ei gwneud hi’n anodd darparu system drafnidiaeth gynaliadwy. Cydnabyddir mewn ardaloedd gwledig, er ei bod hi’n ddymunol lleihau'r defnydd o geir preifat, bod mynediad at wasanaethau hefyd yn bwysig ac mewn rhai achosion yr unig opsiwn realistig yw defnyddio ceir. Fodd bynnag, o safbwynt yr Awdurdod, mae'n bwysig hyrwyddo cerdded a beicio fel ffyrdd o deithio, datblygu'r rhwydwaith teithio hamdden, annog lleoliadau datblygu newydd sy'n lleihau'r angen am gludiant personol, gwella integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo cynlluniau trafnidiaeth gymunedol. Mae amcanion a pholisïau CDLl Eryri yn ategu'r Cynllun Gweithredu Teithio Llesol.

3.04.0 Cynllun Trafnidiaeth Lleol Ar Y Cyd Gogledd Cymru

3.1 Cafodd y Cynllun Trafnidiaeth Lleol yma ei baratoi ar y cyd gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru fel ymateb i ofynion Llywodraeth Cymru i Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol gael eu cyflwyno erbyn Ionawr 2015. Bwriad y CTLl yw: “cael gwared ar rwystrau drwy gyflwyno rhwydweithiau trafnidiaeth diogel, cynaliadwy, fforddiadwy ac effeithiol” 3.2 Mae’r Cynllun yn ceisio mynd i’r afael â’r materion allweddol ar gyfer Gogledd Cymru:

• Gallu’r coridorau ffyrdd a rheilffyrdd strategol i ddarparu’r

cysylltiadau angenrheidiol o fewn Gogledd Cymru, ar gyfer pobl a nwyddau, i’r porthladdoedd a gweddill y D.U. er mwyn cefnogi’r economi a swyddi gan gynnwys twristiaeth;

• Diffyg gwydnwch y rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd i ddigwyddiadau wedi’u cynllunio a heb eu cynllunio, gan gynnwys tywydd eithafol;

• Yr angen ar gyfer mynediad da at, a rhwng, y tair Ardal Fenter yng Ngogledd Cymru;

• Diffyg dewisiadau hyfyw a fforddiadwy i’r car ar gyfer cael mynediad i safleoedd cyflogaeth allweddol a gwasanaethau eraill; ac

• Yr angen am gysylltiadau ffyrdd da i/oddi wrth rhwydwaith cefnffyrdd i’r ardaloedd gwledig, er mwyn eu helpu i gadw hyfywedd busnesau lleol a chefnogi’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

Mae’r Cynllun yn cynnwys rhaglen fanwl ar gyfer y cyfnod rhwng 2015 – 2020 a fframwaith ar gyfer cynlluniau hyd at 2030. Mae’n gosod allan amrywiaeth o gynllunio ar gyfer pob dull o drafaelio, gyda rhai yn

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

6

gweithredu ar hyd pob awdurdod a rhai eraill yn fwy lleol. Mae’r cynlluniau yn ymateb i’r materion trafnidiaeth yn y rhanbarth ac yn ategu’r rheiny sydd yn cael eu datblygu ar lefel genedlaethol ac ar draws ffiniau. Mae’r cynlluniau byr a hir dymor, sydd yn berthnasol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn cynnwys y canlynol.

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

7

Cynlluniau byr dymor

Enw Cynllun Awdurdod

Lleol Disgrifiad Blaenoriaeth Arwyddocâd

Lleol, Rhanbarthol neu Genedlaethol

Ffynhonnell Cyllid

Cryfhau Pontydd (mannau cyfyng)

Gwynedd Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys ail-wynebu, ailwampio neu gryfhau pontydd sydd â chapasiti llwyth is-safonol ac sydd yn amodol ar gyfundrefn monitro er mwyn cadw unrhyw effaith negyddol ar gymunedau lleol i’r isafswm. Caiff y cynllun yma ei weithredu mewn 14 safle mewn rhaglen gyfnodol yn ôl blaenoriaeth.

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol LlC – LTF, Cyngor Sir, Cyllid Treftadaeth

Gwelliannau isadeiledd trafnidiaeth cyhoeddus

Pob Awdurdod

Fe fydd y cynllun yma’n cynnwys elfennau megis mesuriadau blaenoriaeth bws, gwelliannau byrddio bws, gwelliannau arwyddion, isadeiledd hygyrch a saff i orsafoedd, arosfannau bws a llwybrau bws strategol, darpariaeth lloches a gwelliannau

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol LlC – LTF, EZ, Cynghorau Tref / Cymunedol

Arwyddion Rhyngweithiol

Pob Awdurdod

Gosod arwyddion rhyngweithiol i leihau goryrru

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol LlC – LTF

Gwelliannau Diogelwch – Safleoedd Clwstwr Gwrthdrawiad

Pob Awdurdod

Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys dadansoddiad blynyddol o ddata damweiniau er mwyn adnabod safleoedd a choridorau clwstwr a datblygu

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Lleol LlC – LTF

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

8

cynlluniau unigol i leihau y nifer o ddamweiniau yn y safleoedd ac yn gyffredinol ar draws y rhanbarth. Fe fydd ffocws penodol ar leoliadau gyda nifer anghymesur o ddamweiniau, yn benodol cynlluniau sydd yn targedu grwpiau sy’n agored i niwed fel yr adnabuwyd yn fframwaith diogelwch ffyrdd Llywodraeth Cymru.

Cynlluniau tymor canolig a hirdymor Enw Cynllun

Awdurdod Lleol

Disgrifiad Blaenoriaeth Arwyddocâd Lleol, Rhanbarthol neu Genedlaethol

Ffynhonnell Cyllid

Llwybrau Teithio Llesol - Dyffryn Conwy

Conwy Darpariaeth Llwybrau Teithio Llesol, sydd yn cysylltu aneddiadau Llanrwst a Betws y Coed gyda llwybr beicio arfordirol NCR5 a gyda phentrefi eraill o fewn Dyffryn Conwy

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol LlC – LTF, ERDF

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

9

4.05.0 Cynllun Trafnidiaeth Lleol Ar Y Cyd Canolbarth Cymru 2015

4.1 Cafodd y Cynllun Trafnidiaeth Lleol yma ei baratoi ar y cyd gan Awdurdodau Lleol Canolbarth Cymru fel ymateb i ofynion Llywodraeth Cymru i Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol gael eu cyflwyno erbyn Ionawr 2015. Bwriad y CTLl yw: “cael gwared ar rwystrau drwy gyflwyno rhwydweithiau trafnidiaeth diogel, cynaliadwy, fforddiadwy ac effeithiol” 4.2 Mae’r Cynllun yn ceisio mynd i’r afael â’r materion allweddol ar gyfer Canolbarth Cymru:

• Anawsterau wrth gael mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau, yn

arbennig ar gyfer y sawl heb gar ac oherwydd bod angen trafaelio pellter maith;

• Cyfleoedd gwael i basio, mannau cyfyng a chyfyngiadau ar y rhwydwaith ffordd strategol yn arwain at gynnydd mewn amseroedd teithio a diffyg dibynadwyedd mewn amseroedd teithio ar gyfer symud pobl a nwyddau o fewn y rhanbarth, ac i leoliadau allweddol y tu allan i’r canolbarth;

• Cynnydd yn y risg i gadernid y rhwydwaith drwy effeithiau newid hinsawdd, gan gynnwys risg llifogydd;

• Cyfleoedd i gynyddu cyfran modd trwy ddulliau teithio byw ac i wella iechyd a lles y gymuned leol ac i barhau i wella record diogelwch ar y ffyrdd

Mae’r Cynllun yn cynnwys rhaglen fanwl ar gyfer y cyfnod rhwng 2015 – 2020 a fframwaith ar gyfer cynlluniau hyd at 2030. Mae’n gosod allan amrywiaeth o gynllunio ar gyfer pob dull o drafaelio, gyda rhai yn gweithredu ar hyd pob awdurdod a rhai eraill yn fwy lleol. Mae’r cynlluniau yn ymateb i’r materion trafnidiaeth yn y rhanbarth ac yn ategu’r rheiny sydd yn cael eu datblygu ar lefel genedlaethol ac ar draws ffiniau.

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

10

Cynlluniau Tymor Byr

Enw Cynllun Awdurdod

Lleol Disgrifiad Blaenoriaeth Arwyddocâd

Lleol, Rhanbarthol neu Genedlaethol

Cylchfan A496 Llandecwyn

Gwynedd Bydd y cynllun yn gwella mynediad at Ardal Menter Eryri (ardal Llanbedr) ar hyd y A496 yn Llandecwyn ac ar y A487 (T) dros Pont Briwet o gyfeiriad Penrhyndeudraeth drwy weithredu gwelliannau i’r gyffordd cylchfan yn Llandecwyn. Bydd y cynllun yn ymateb i achosion damweiniau ac yn gwella llif traffig a chapasiti. Yr A496 yw’r cyswllt strategol rhwng Ardal Menter Eryri a’r rhwydwaith cefnffyrdd.

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Cenedlaethol

A496 Maentwrog i Blaenau Ffestiniog

Gwynedd Pwrpas y cynllun yw gwella safon a diogelwch trafnidiaeth ar hyd rhan 7.7km (4.8 milltir) o’r ffordd wledig A496 rhwng cyffordd gyda’r A487 ger Maentwrog, i’r gogledd o gyffordd gyda’r A470 yn Commercial Square, Blaenau Ffestiniog. Yr A496 yw’r cyswllt strategol rhwng Ardal Menter Eryri a’r rhwydwaith cefnffyrdd.

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Cenedlaethol

Cynllun ail-adeiladu Pont Briwet

Gwynedd Mae prosiect Pont Briwet bron wedi ei orffen yn dilyn cyllid sylweddol o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, trwy Lywodraeth Cymru, yn ogystal â Network Rail, TraCC a Chyngor Gwynedd. Mae’r cynllun yn cynnwys ail-adeiladu pont ffordd a rheilffordd ar hyd yr afon Ddwyryd ger Penrhyndeudraeth, llwybr beicio/cerdded newydd, ehangu ffyrdd mynediad a gwelliannau i orsaf Llandecwyn. Bydd y bont newydd yn darparu cyswllt economaidd pwysig i gymunedau gwledig Ardudwy, yn ogystal â diogelu rheilffordd Arfordir y Cambrian. Mae angen cyllid er mwyn galluogi’r cynllun gael ei gwblhau, yn dilyn materion a arweiniodd at oedi a chau y rhaglen gyllid ERDF. Yn dilyn cwblhau y cynllun fe fydd angen ystyried yr effaith ar Benrhyndeudraeth oherwydd y

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Cenedlaethol

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

11

newidiadau isadeiledd, ac ystyried os oes angen gwelliannau neu beidio.

Llwybrau Lliniaru Strategol a Ardaloedd Perygl Llifogydd

Pob Awdurdod

Mae cyfran fawr o’r rhanbarth yn wledig iawn, gydag aneddiadau gwasgaredig a phrinder canolfannau sydd yn cynnig dewis eang o gyfleoedd cyflogaeth. Er gwaethaf incwm cyfartalog isel mae yna reidrwydd ar gyfer lefelau uchel o berchnogaeth car. Mae llifogydd yn gallu effeithio ar gyswllt rhai o’r ardaloedd yma, sydd yn ei dro yn cael effaith at fynediad at gyflogaeth a gwasanaethau. Bydd y prosiect yn mynd i’r afael ag ardaloedd ble mae llifogydd yn arwain at effaith ar gysylltiadau.

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Rhanbarthol

Cryfhau Pontydd (mannau cyfyng)

Gwynedd Mae nifer sylweddol o bontydd wedi eu hasesu fel rhai sydd â chapasiti llwyth cerbydau sydd yn is-safonol, ac sydd yn amodol ar gyfundrefn monitro er mwyn cadw unrhyw effaith negyddol ar gymunedau lleol i’r isafswm. Mae 14 safle wedi cael eu dewis ble mae’r cyfyngiad pwysau presennol neu gapasiti llwyth is-safonol yn atal twf economaidd. Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys ail-wynebu, ailwampio neu gryfhau y pontydd mewn rhaglen gyfnodol yn ôl blaenoriaeth. Ystyriaeth allweddol yw os yw’r bont yn cynnwys llwybr argyfwng i’w ddefnyddio mewn achosion o gau cefnffordd neu briffordd.

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol

Maes Awyr Llanbedr (AFLl)

Gwynedd Darparu ffordd mynediad aml-ddefnyddiwr newydd i gysylltu Maes Awyr Llanbedr gyda’r A496. Fe fydd hyn yn gwella mynediad i Ardal Fenter Eryri ac y cysylltiadau rhwng y triongl o Ardaloedd Menter. (Môn a Glannau Dyfrdwy)

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Cenedlaethol

Teithio Llesol ar gyfer ardaloedd lleol ‘dynodedig’

Pob Awdurdod

Bydd y cynllun arfaethedig yn anelu i fodloni gofynion y Ddeddf Teithio Llesol newydd ym mhob ardal Awdurdod Lleol, drwy ariannu gwelliannau i gysylltiadau cerdded a beicio. Yn ne Gwynedd bydd hyn yn cynnwys pedair ardal ddynodedig Blaenau Ffestiniog, Tywyn, Dolgellau a Bermo.

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Lleol

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

12

Llwybr aml-ddefnyddwyr Lôn Tryweryn

Gwynedd Bydd y cynllun yn creu llwybr aml-ddefnyddwyr rhwng Y Bala drwy Fron Goch i’r Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn, Tryweryn. Mae’r llwybr arfaethedig yn dilyn llwybr Rheilffordd y Great Western rhwng y Bala a Blaenau Ffestiniog ac yn 6.8km o hyd.

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol

Llwybr aml-ddefnyddwyr Tywyn i Aberdyfi

Gwynedd Adeiladu llwybr beicio gyferbyn â’r A493, sydd yn parhau â llwybr rhwng cymunedau arfordirol Tywyn ac Aberdyfi. Mae gan y llwybr ddwy swyddogaeth sef swyddogaeth twristiaeth a chymunedol, a gall y llwybr ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol

Gwelliannau Isadeiledd mewn Coridorau Strategol Bysiau

Pob Awdurdod

Mae’r awdurdodau lleol yn ceisio gwella’r isadeiledd gwasanaeth bws lleol ar hyd llwybrau strategol allweddol drwy ddarparu cyfleusterau aros gyda chysondeb mewn safon uchel yn unol â Safonau Ansawdd Partneriaeth Bysiau Statudol. Fel safon ofynnol, fe fydd darpariaeth yn cynnwys cyrbau uwch, gwybodaeth gyson mewn gorsafoedd bysiau (wedi ei gydlynu trwy Traveline Cymru), ac os yn bosib, goleuo yr arwyddion a’r lloches fysiau

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Lleol

Gwelliannau cyfalaf ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, fflyd a chymunedol

Pob Awdurdod

Bydd y pecyn cynllun yn ceisio darparu ffrwd ariannu cyfalaf ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, fflyd Cyngor Sir a phartneriaid a thrafnidiaeth gymunedol / sector wirfoddol i brynu cerbydau newydd neu amnewid ac i gefnogi systemau rheoli taith ganolog a systemau amserlen i wella effeithlonrwydd gweithrediadau ac i gynyddu capasiti

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Lleol

Gwelliannau Rheilffyrdd

Pob Awdurdod

Bydd y cynllun yn cynnwys gwelliannau mynediad i orsafoedd rheilffyrdd. Ym Mhowys mae hyn yn cynnwys Cynllun A – Cyfnewidfa Gorsaf Reilffordd Machynlleth: cyfnewidfa bysiau/rheilffordd a gwelliannau i faes parcio. Cynllun B – Ehangu maes parcio gorsaf reilffordd Y Trallwng

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Lleol

Gwybodaeth Trafnidiaeth Cyhoeddus

Pob Awdurdod

Bydd y cynllun yn darparu y canlynol ar hyd y rhanbarth: Gwybodaeth Bysiau Gwir Amser – arddangosfeydd gwybodaeth parhaol mewn lleoliadau cyfnewid

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

13

allweddol – e.e. ‘Porth’ Trafnidiaeth Teithwyr Aberystwyth Wi-Fi mewn cyfnewidfeydd trafnidiaeth cyhoeddus strategol lle nad oes ond ychydig, neu ddim, signal ffônau symudol i alluogi defnyddwyr gael mynediad at wefannau/apps newydd neu presennol ar gyfer gwybodaeth trafnidiaeth. Gwelliannau cysylltiedig i gyflwyniad, hygyrchedd ac argaeledd gwybodaeth am deithiau yn gyffredinol.

Gwybodaeth Gwir Amser i Drafnidiaeth Teithwyr drwy’r ‘Smart Mobile App’

Pob Awdurdod

Pwrpas y prosiect yw cyflwyno app symudol ar lwybrau bysiau a all ddarparu ‘gwybodaeth gwir amser’ i deithwyr drwy gyfathrebu â dyfais ar y bws drwy eu ffonau. Gall y system newydd ddarparu gwybodaeth ‘gwir amser’ gwell i deithwyr gan ei fod yn ‘dysgu’ y llwybr a’r amser y mae’n ei gymryd i deithio rhwng gorsafoedd, a gall y wybodaeth yma yna gael ei drosglwyddo i deithwyr sydd yn aros am y gwasanaeth. Ffynhonnell y wybodaeth fydd Traveline Cymru. Mae’r app wedi cael ei dreialu yn llwyddiannus ar hyd un llwybr yng nghanolbarth Cymru. Mae ganddo hefyd y potensial (gyda datblygiadau pellach) i fod yn rhan integredig o wybodaeth trafnidiaeth cyhoeddus a ‘phorth’ tocynnau rhagdaledig mewn un lle.

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol

Diogelwch Beiciau Modur

Pob Awdurdod

Mae Swyddogion Diogelwch Ffyrdd yr Awdurdodau Lleol yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaethau Brys a mentrau’r Heddlu er mwyn gwella diogelwch defnyddwyr beiciau modur, sydd yn fater arwyddocaol yn y rhanbarth. Mae’r cynllun yn bwriadu dadansoddi adroddiadau damweiniau a gweithredu gwelliannau i wella diogelwch drwy ddatblygiadau megis rhwystrau diogelwch beiciau modur, arwyddion, marciau ar y ffordd a gwaith corfforol mân

Prosiect Blaenoriaeth Rhanbarthol

Cenedlaethol

Arwyddion Rhyngweithiol Cyflymder Traffig

Pob Awdurdod

Bydd y cynllun yn darparu ar gyfer gosod neu ailosod arwyddion rhyngweithiol cyflymder newydd er mwyn lleihau achosion goryrru drwy

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

14

drefi a phentrefi’r rhanbarth Ynni – Effeithlonrwydd / Diogelwch – Adnewyddu Goleuadau Stryd

Pob Awdurdod

Mae llawer o golofnau goleuadau stryd ar hyd y rhanbarth yn fwy na 40 oed ac wedi eu gosod gyda llusernau/lampiau aneffeithiol. Yng Ngheredigion er enghraifft, mae’r cyngor wedi trosi miloedd o oleuadau stryd yn ddiweddar, i’r dechnoleg ynni effeithlon LED diweddaraf. Er hyn nid yw’r hen golofnau yn addas i’r trosiad LED newydd. Byddai eu hadnewyddu yn galluogi i’r cyngor gwblhau eu rhaglen trosi LED. Os na chaiff y colofnau eu hamnewid yn fuan, fe fydd rhaid i’r cyngor gael gwared arnynt.

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol

Gwelliannau Ddiogelwch Cyffordd

Pob Awdurdod

Mae’r cynllun yn cynnwys gwelliannau i leoliadau, yn benodol cyffordd, ble mae problemau mawr wedi bod yn nhermau damweiniau. Bydd y cynlluniau yn cynnwys y mathau canlynol o welliannau: cael gwared o ffyrdd cyflymu / dad-gyflymu, gwelliannau arwyddion a llinellau ffordd, adliniant, ailwynebu ffyrdd, dylunio wyneb adeiladu a gwelliannau llinell olwg (llinellau gweledol cynnal a chadw isel). Fel enghraifft, mae’r datblygiad Campws Arloesedd yn IBERS, Plas Gogerddan yn fuddsoddiad gwerth £40m ac yn ceisio gwella cyffordd priffordd ar yr A4159 er mwyn gwella darpariaeth swyddi a chreu twf ar y campws. Yn ogystal bydd angen gwella diogelwch ar y ffyrdd i gerddwyr a mynediad ar y briffordd agos i’r campws. Bydd y gwaith yma’n ategu’r gwaith ymhellach arfaethedig o brosiectau llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy a fydd yn cysylltu y safle gyda chymunedau cyfagos, yn ogystal â gwelliannau arfaethedig i isadeiledd trafnidiaeth cyhoeddus a gwasanaethau.

Prosiect Blaenoriaeth Sirol

Lleol

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

15

5.06.0 Mentrau gwella ffordd ers mabwysiadu CDLl Eryri

Pont Briwet

5.1 Dechreuodd y broses gynllunio ar gyfer ail-adeiladu Pont Briwet yn 2010, mewn menter ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, Network Rail a Chyngor Gwynedd. Roedd rhai o’r problemau gyda’r hen bont yn cynnwys y ffaith mai un cyfeiriad o draffig allai fynd drosti ar y tro a gafwyd ei reoli gan oleuadau traffig ar ddau ben y bont. Yn ogystal roedd yna gyfyngiad pwysau ar y bont a olygai mai dim ond ceir a allai ei chroesi. Mae’r bont newydd yn cario trac rheilffordd sengl a ffordd gerbydau dwy lôn yn ogystal â llwybr cerdded/beicio gyda lled o tua 2.5 metr. Agorwyd y bont ar gyfer defnydd rheilffordd ym mis Medi 2014, ac yna ar gyfer ceir yn ystod Gorffennaf 2015.

Gwelliannau A470 – ger Cross Foxes a Gelligemlyn Maes yr Helmau nes Cross Foxes

5.2 Roedd y rhan yma o’r cynllun yn golygu adlinio ac ailadeiladu rhan gul droellog o’r A470 rhwng Maes yr Helmau a chyffordd Cross Foxes, i’r dwyrain o Ddolgellau. Roedd y cynllun yn ceisio gwella diogelwch a lleihau amseroedd teithio, a’r canlyniad oedd ffordd newydd tua 1.3 milltir o hyd, a hynny am gost o oddeutu £11 miliwn. Cafodd y cynllun ei gwblhau erbyn diwedd 2013.

Gelligemlyn

5.3 Roedd y rhan yma o welliannau ffordd yr A470 wedi ei gynllunio i wella diogelwch ar y ffyrdd ac i leihau amser teithio. Roedd y cynllun yn cynnwys adlinio ac ailadeiladu 2km o ffordd yr A470 rhwng Ganllwyd a Llanelltyd, a hynny am gost o oddeutu £8.6 miliwn. Dechreuodd gwaith ar y rhan yma o’r A470 yn ystod Ebrill 2012 a chafodd ei orffen yn 2014.

Cynlluniau ar gyfer adeiladu pont newydd dros y Ddyfi, Machynlleth

5.4 Mae cynlluniau ar gyfer pont Ddyfi newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, sydd yn gyfrifol am welliannau cefnffyrdd yng Nghymru. Gall y gwaith adeiladu ar y datblygiad newydd yma, ei ddechrau, yn ôl Edwina Hart, erbyn diwedd 2016. Byddai’r bont newydd yn cael ei defnyddio yn lle pont bresennol y Ddyfi sydd dros 200 mlynedd o oed. Mae’r bont bresennol yn gul, ac yn gyfyng ar gyfer llif traffig rhwng Gogledd a Chanolbarth Cymru. Yn ogystal â hyn mae yna broblemau llifogydd gyda’r bont bresennol, a chaiff cerbydau eu dargyfeirio am bellter o oddeutu 20km i fynd o gwmpas yr afon yn ystod cyfnodau o lifogydd trwm. Caiff cost y prosiect cyflawn ei amcanu i fod oddeutu £25 miliwn. Cafodd cynlluniau ar gyfer y bont newydd eu harddangos yn gyhoeddus ym Machynlleth yn ystod Hydref 2015.

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

16

6.07.0 Goblygiadau ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Eryri

6.1 Mae’r llwybr arfaethedig Lôn Tryweryn, a fyddai’n creu llwybr aml-ddefnyddiwr rhwng Y Bala drwy Fron Goch i’r Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn Cenedlaethol, Tryweryn, wedi cael ei warchod yn barod fel llwybr hamdden ar fapiau cynigion Cynllun Datblygu Lleol Eryri. 6.2 Bydd angen rhoi ystyriaeth i gynllun arfaethedig Ffordd Osgoi Llanbedr, sy’n creu ffordd mynediad i gysylltu’r safle Maes Awyr Llanbedr (sydd hefyd yn Ardal Fenter) gyda’r A496 a darparu gwell isadeiledd i unrhyw ddatblygiadau posib ar y safle. Mae’r cynllun hefyd yn anelu i wella a lleddfu tagfeydd traffig o fewn Llanbedr a gwella diogelwch ar y ffyrdd o fewn yr anheddiad. Mae’r Awdurdod wedi derbyn cais Cynllunio ar gyfer y cynllun yma ac yn ei benderfynu.

7.08.0 Rhwydweithiau Cludiant yn y Parc Cenedlaethol

7.1 Mae Atodiad 1-5 yn cynnwys gwaith sydd wedi ei gyflawni gan yr adran bolisi a chynlluniau strategol ar y gwasanaethau cludiant cyhoeddus o fewn y Parc Cenedlaethol fel rhan o’r sail dystiolaeth ar gyfer y CDLl Eryri. Bydd angen diweddaru’r wybodaeth yma fel rhan o adolygiad CDLl Eryri. Defnyddiwyd GIS i greu mapiau sy’n amlinellu:

• Cludiant Cyhoeddus yn Eryri - mae’r map hwn yn amlinellu llwybrffordd y bws a’r trên ill dau, mae’r map yn dangos llwybrffyrdd bysiau sydd gan wasanaethau bws aml a rheolaidd, llwybrffyrdd lle mae gwasanaeth ar ddyddiau penodol neu wasanaethau anaml a gwasanaeth tymhorol y Sherpa. (atodiad 1)

• Amlder bysiau o fewn y Parc Cenedlaethol, mae’r map yn dangos amlder bysiau sy’n teithio trwy aneddiad o fewn y Parc Cenedlaethol. (atodiad 2) Mae’r map hwn yn darparu tystiolaeth sydd wedi helpu i fwydo i mewn i’r broses o ddatblygu y strategaeth anheddiad ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.

• Amlder Trenau o fewn y Parc Cenedlaethol, mae’r map hwn yn dangos yr aneddiadau o fewn y Parc Cenedlaethol sy’n cael eu gwasanaethu gan drenau; hefyd mae’n dangos amlder y gwasanaeth trên o fewn pob anheddiad (Atodiad 3)

• Y gwasanaeth bws at y ganolfan wasanaeth hygyrch agosaf o ran amser teithio, sy’n cyrraedd cyn 9:00yb ac sy’n gadael ar ôl 5:00yh. Mae hyn hefyd yn amlinellu aneddiadau lle nad yw hyn yn bosibl (Atodiad 4).

• Y gwasanaeth trên at y ganolfan wasanaeth hygyrch agosaf o ran amser teithio, sy’n cyrraedd cyn 9:00yb ac sy’n gadael ar ôl 5:00yh.

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

17

Mae hyn hefyd yn amlinellu aneddiadau lle nad yw hyn yn bosibl (Atodiad 5)

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

18

Atodiad 1

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

19

Atodiad 2

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

20

Atodiad 3

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

21

Atodiad 4

Papur Cefndir 17: Cludiant a Rhwydweithiau – Mai 2017

22

Atodiad 5