rhaglen datblygu proffesiynol rhaglen datblygu professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio...

20
Rhaglen Datblygu Proffesiynol Professional Development Programme

Upload: others

Post on 13-Mar-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

Rhaglen Datblygu Proffesiynol Professional Development Programme

Page 2: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 2 -

Page 3: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 3 -

Mynegai

Tudalen Rhan 1: Hyfforddiant i reolwyr 4 Rhan 2: Hyfforddiant i staff technegol 5 Rhan 3: Hyfforddiant i ddefnyddwyr cyffredinol 7 Rhan 4: Hyfforddiant i staff addysgu 12 Rhan 5: Hyfforddiant i ddysgwyr 15

Page 4: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 4 -

Rhan 1: HYFFORDDIANT I REOLWYR

Ymgorffori fideogynadledda yn eich sefydliad Cyf: WVN001 Y Gynulleidfa Staff sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu’r defnydd o fideogynadledda ac sydd â’r awdurdod i weithredu’r Darged: cynllun a luniwyd yn ystod y sesiwn.

Amser/ Hyd: Cyfres o dair sesiwn: un wyneb yn wyneb (3 awr) a dwy drwy fideogynhadledd (1 awr)

Disgrifiad: Er mwyn defnyddio fideogynadledda mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, mae angen i sefydliadau ddeall potensial llawn fideogynadledda a llunio cynllun ar gyfer hybu’r defnydd ohono. Mae’n angenrheidiol i gael staff sydd yn gwybod sut i drefnu fideogynhadledd. Pa fath o system sydd gennym a gyda phwy arall medrwn ni gysylltu? Sut allwn ni fwcio fideogynhadledd? Beth allwn ni wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le? Pa fath o hyfforddiant sydd ar gael? Sut allwn ni ysgogi ein cydweithwyr i’w ddefnyddio?

Amcanion: Erbyn diwedd y gyfres o sesiynau bydd y cyfranogwyr yn gallu:

creu cynllun rhagarweiniol ar gyfer gweithrediad effeithlon o fideogynadledda yn eu sefydliad

trafod materion cynllunio sy’n ymwneud â darparu a derbyn addysg drwy fideogynadledda

defnyddio’r offer yn y stiwdio

defnyddio system fwcio ‘JVCS’ Cost Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC.

Page 5: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 5 -

Rhan 2: HYFFORDDIANT I STAFF TECHNEGOL

Eich Stiwdio Fideogynadledda: Cyflwyniad Technegol * Cyf: WVN002

Y Gynulleidfa Rheolwyr TGCh, Technegwyr Darged:

Amser / hyd: Diwrnod llawn, yn eich sefydliad, i dechnegwyr sydd yn newydd i fideogynadledda, neu ddiweddariad o 2 awr drwy fideogynhadledd i’r mwy profiadol

Disgrifiad: Canllaw technegol i dechnolegau fideogynadledda ac offer y stiwdio Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

enwi’r prif gydrannau o stiwdio fideogynadledda ac esbonio eu pwrpas

rhestri’r prif dechnolegau rhwydwaith a rhwydwaith fideogynadledda

cofrestru ar gyfer, a bwcio drwy’r system JVCS Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC *Ymddiheuriadau – nid yw’r sesiwn hon ar gael yn y Gymraeg

Page 6: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 6 -

Cyflwyniad i system fwcio JVCS Cyf: WVN003

Y Gynulleidfa Darged: Rheolwyr TGCh, technegwyr, staff gweinyddol

Amser/hyd: 1 awr drwy fideogynadledda a rhannu data Disgrifiad: Canllaw dechnegol ar sut i gofrestru ar gyfer, a defnyddio’r system fwcio JVCS Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

cofrestru i ddefnyddio’r system JVCS i fwcio fideogynhadledd

bwcio fideogynhadledd ar JVCS

Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 7: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 7 -

Rhan 3: HYFFORDDIANT I DDEFNYDDWYR CYFFREDINOL

Eich Stiwdio Fideogynadledda: Cyflwyniad i ddefnyddwyr Cyf: WVN004 Y Gynulleidfa Darged: I bawb Amser/Hyd: 3 awr, drwy fideogynhadledd, neu yn eich sefydliad os dymunir sesiwn hyfforddi arall ar yr un diwrnod Disgrifiad: Canllaw ar gyfer dechnolegau fideogynadledda ac offer y stiwdio Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

labelu prif gydrannau o’r stiwdio fideogynadledda ac esbonio sut i’w defnyddio

rhestru prif dechnolegau fideogynadledda

danfon lluniau o’r camerâu, y camera dogfennau a’r DVD/RCF

Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 8: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 8 -

Trefnu Cyfarfodydd Llwyddiannus drwy fideogynadledda Cyf: WVN005

Y Gynulleidfa Darged: Pawb Hyd: 2 awr, drwy fideogynhadledd, neu yn eich sefydliad os dymunir sesiwn hyfforddi arall ar yr un diwrnod Disgrifiad: Ydych chi’n mynychu cyfarfodydd fideogynhadledd, ond yn gadael yn siomedig ac yn difaru eich bod

heb deithio yn lle? Bydd y sesiwn hon yn dangos sut all fideogynadledda gael effaith bositif ar gyfarfodydd - sut all fideogynadledda arbed amser, egni, ac arian drwy wneud eich cyfarfodydd yn fwy cynhyrchiol.

Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn bydd cyfranogwyr yn gallu:

trefnu cyfarfod fideogynhadledd, wrth ystyried agweddau gweithredol a thechnolegol.

addasu agenda ar gyfer fideogynadledda

cadeirio cyfarfod drwy fideogynadledda yn effeithiol Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 9: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 9 -

Cyflwyniad i rannu gwybodaeth Cyf: WVN006

Y Gynulleidfa Darged: Unrhyw staff sydd ac angen i rannu gwybodaeth mewn fideogynhadledd Disgrifiad: Sesiwn ymarferol ydy hon sydd yn cyflwyno’r cyfranogwyr i rannu gwybodaeth mewn fideogynhadledd Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

lawr lwytho meddalwedd rhannu gwybodaeth

creu cynhadledd rhannu gwybodaeth

ymuno a chynhadledd rhannu gwybodaeth

Hyd: 1 awr drwy fideogynhadledd Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 10: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 10 -

Cadeirio Cynhadledd rhwng sawl safle Cyf: WVN007 Y Gynulleidfa Darged: Unrhyw un fydd ag angen trefnu fideogynhadledd Disgrifiad: Mae rôl y Cadeirydd yn hanfodol er mwyn cynnal fideogynhadledd rhwng sawl safle yn llwyddiannus.

Os oes rhaid i chi gadeirio fideogynhadledd, ond yn ansicr sur mae’r rôl yn wahanol i’r arferol, dyma’r sesiwn i chi.

Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

deall rôl y cadeirydd mewn fideogynhadledd

cadeirio fideogynhadledd gyda hyder

Hyd: 1 awr, drwy fideogynhadledd Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 11: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 11 -

Cyflwyniad i Fwrdd Gwyn Rhyngweithiol eich stiwdio Cyf: WVN008 Y Gynulleidfa Darged: Unrhyw un fydd efallai yn defnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol y stiwdio fideogynadledda Disgrifiad: Gall y Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol fod yn ddefnyddiol iawn mewn fideogynhadledd. Bydd y sesiwn yn

cynnig canllaw sylfaenol ar sut i ddefnyddio’r bwrdd gwyn. Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

defnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol gyda hyder Hyd: 1 awr drwy fideogynhadledd Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 12: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 12 -

Rhan 4: HYFFORDDIANT I STAFF ADDYSGU

Defnyddio fideogynadledda ar gyfer addysgu o bell Cyf: WVN009 Y Gynulleidfa Darged: Athrawon sydd yn golygu dysgu drwy fideogynhadledd. Gofynnir i athrawon i ddod a chynlluniau gwersi

ac adnoddau i’w ddefnyddio yn y sesiwn. Hyd: 3 awr drwy fideogynhadledd, neu yn eich sefyliad os dymunir sesiwn ychwanegol yr un diwrnod. Disgrifiad: Mae fwyfwy o ysgolion yn rhannu darpariaeth drwy fideogynadledda. Mae’r sesiwn yn edrych ar sut

mae fideogynadledda yn effeithio ar gynllunio, arddulliau addysgu a dulliau asesu. Sesiwn ymarferol yw hon bydd yn rhoi hyder i athrawon i ddysgu mewn amgylchedd fideogynadledda

Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

addasu cynllun gwers i gynnwys y gofynion ychwanegol o addysgu drwy fideogynadledda

trafod yr arddulliau dysgu sydd yn gweddu fideogynadledda orau

addasu adnoddau addysgu i siwtio fideogynadledda

dangos cyfathrebiad geiriol a chorfforol cywir mewn fideogynhadledd

defnyddio teclyn rheol fideogynhadledd o fewn system fwcio JVCS Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 13: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 13 -

Defnyddio fideogynadledda i gyfoethogi’r cwricwlwm Cyf: WVN010

Y Gynulleidfa Darged: Athrawon, darlithwyr, rheolwyr cwricwlaidd, ymgynghorwyr pwnc Hyd: 3 awr drwy fideogynadledda, neu yn eich sefydliad os dymunir sesiwn hyfforddi arall ar yr un diwrnod Disgrifiad: Cyflwyniad cyffredinol i’r ffyrdd gwahanol y gellir defnyddio fideogynadledda i gyfoethogi’r cwricwlwm Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

trafod y manteision o, a’r rhwystrau i’r defnydd o fideogynadledda yn y dosbarth

trafod defnydd amrywiol o fideogynadledda ym myd addysg

cynllunio ar gyfer defnyddio fideogynadledda yn y cwricwlwm

Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 14: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 14 -

Defnyddio fideogynadledda ar gyfer Dysgu ac Addysgu: Rhaglen Mentora Cyf: WVN011 Y Gynulleidfa Darged: Athrawon sydd wedi mynychu’r sesiynau rhagarweiniol ac sydd ac angen cymorth parhaol yn ystod eu

defnydd cychwynnol o fideogynadledda Hyd: 3 mis tybiannol o fentora, ond heb amser penodol Disgrifiad: Yn ystod y rhaglen hon, bydd athrawon sydd â diddordeb mewn fideogynadledda yn derbyn mentora

mewn proses o gynllunio, draddodi a gwerthuso eu fideogynhadledd cyntaf a seilir ar y cwricwlwm. Mae’r rhaglen fentora wedi’i ddilysu gan Rwydwaith y Coleg Agored (OCN)

Amcanion: Erbyn diwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn gallu:

cynllunio ar gyfer fideogynhadledd a seilir ar y cwricwlwm

trefnu a chymryd rhan yn y fath fideogynhadledd

gwerthuso’r fideogynhadledd mewn cwestiwn

Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 15: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 15 -

Rhan 5: HYFFORDDIANT I DDYSGWYR

Cyflwyniad i ddysgu drwy fideogynhadledd Cyf: WVN012 Y Gynulleidfa Darged: Dysgwyr

Hyd: 40 munud drwy fideogynhadledd

Disgrifiad: Mae stiwdio fideogynadledda yn gallu creu dychryn ymysg disgyblion i gychwyn. Bydd y sesiwn yma, drwy fideogynhadledd, yn galluogi’r disgyblion i brofi fideogynadledda mewn sesiwn anffurfiol. Ystyrir arfer ac ymddygiad derbyniol, ac anogir disgyblion i gyfranogi’n llawn i wersi drwy fideogynhadledd.

Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

deall arfer ac ymddygiad derbyniol i ddangos mewn fideogynhadledd

cyflwyno’u hunain i’r cyfranogwyr eraill

ymddwyn yn addas mewn fideogynhadledd

Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 16: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 16 -

Cyflwyniad i Dechnolegau Fideogynadledda Cyf:WVN013 Y Gynulleidfa Darged: Dysgwyr sydd yn astudio Cyfrifiaduro, TGCh, ac Astudiaethau Busnes

Hyd: 40-60 munud drwy fideogynhadledd Disgrifiad: Mae’r sesiwn yn cyflwyno gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr am dechnolegau fideogynadledda a sut y

defnyddir ym myd gwaith. Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol.

enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau sgrin

deall ymddygiad derbyniol ar gyfer fideogynadledda Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 17: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 17 -

Cyflwyniad i Fideogynadledda i athrawon dan hyfforddiant Cyf: WVN014 Y Gynulleidfa Darged: Athrawon dan hyfforddiant mewn addysg bellach, uwchradd a gynradd

Hyd 60 munud, drwy fideogynhadledd

Disgrifiad Mae stiwdio fideogynadledda yn gallu creu dychryn ymysg disgyblion ar y dechrau. Bydd y sesiwn hon, drwy fideogynhadledd yn rhoi cyfle i athrawon dan hyfforddiant i brofi fideogynhadledd mewn sesiwn anffurfiol. Bydd yn edrych ar y manteision o/rhwystrau i fideogynadledda a sut y gellir integreiddio fideogynadledda i mewn i’w dysgu.

Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

enwi’r rhwystrau i’r defnydd o fideogynadledda ar gyfer dysgu

enwi’r manteision o ddefnyddio fideogynadledda ar gyfer dysgu

trafod opsiynau am ddefnyddio fideogynadledda yn eu dysgu eu hunain

Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC

Page 18: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 18 -

Gwneud cais am hyfforddiant Rhaid gwneud cais am sesiwn drwy fynd i: http://www.wvn.ac.uk/en/learning/requesttraining Bydd pob sesiwn yn amodol ar y telerau ac amodau canlynol:

Telerau ac Amodau

1 Mae Rhwydwaith Fideo Cymru yn cynnig hyfforddiant yn rhad ac am ddim i bob stiwdio a chefnogir gan RhFC. Ceidw’r RhFC yr hawl i godi tal am amser staff ac unrhyw gostau ychwanegol os ydych am ganslo’r hyfforddiant ar y funud olaf.

2 Fydd yna leiafswm o 4 a mwyafswm o 10 o bobl i sesiynau ar safle. Does yna ddim lleiafswm i sesiynau drwy fideogynhadledd, ond mwyafswm o 8.

3 Ceidw’r RhFC yr hawl i godi tal am amser staff ac unrhyw gostau ychwanegol os na fynychir gan y lleiafswm uchod.

4 Ceidw’r RhFC yr hawl i godi tal am amser staff os na gynigir ddigon o amser ar gyfer y sesiwn.

5 Rhaid i’r sefydliad sydd yn derbyn hyfforddiant sicrhau bod yr holl offer yn gweithio a bod Microsoft Office wedi’i lwytho ar gyfrifiadur Data’r stiwdio.

6. Rhaid i’r sefydliad sydd yn derbyn hyfforddiant sicrhau bod y stiwdio ar gael o leiaf hanner awr cyn dechrau’r hyfforddiant.

7. Lle gofynnir am ddiwrnod llawn o hyfforddiant, bydd disgwyl i’r sefydliad sydd yn derbyn hyfforddiant gynnig cinio a lluniaeth.

8. Ceidw’r Rhwydwaith Fideo Cymru’r hawl i recordio sesiynau hyfforddiant, gyda chaniatâd y cyfranogwyr.

Page 19: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 19 -

Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach am Raglen Datblygiad Proffesiynol RhFC, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy fynd i [email protected] neu drwy gysylltu ag un o’r canlynol yn uniongyrchol:

Alison Walker Maldwyn Jones Cydlynydd Dysgu a Datblygu Ymgynghorydd Dysgu ac Addysgu Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Deiniol Building, Prifysgol Abertawe Prifysgol Bangor, Abertawe, Cymru SA2 8PP Bangor, Cymru LL57 2UX Ffon: +44 (0) 1792 513519 Ffon: +44 (0) 1792 513520 e-bost: [email protected] e-bost: [email protected] Stuart Henderson Nia Besley Ymgynghorydd Dysgu ac Addysgu Ymgynghorydd Dysgu ac Addysgu Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Prifysgol Abertawe Prifysgol Abertawe Abertawe, Cymru SA2 8PP Abertawe, Cymru SA2 8PP Ffon: +44 (0) 1792 513317 Ffon: +44 (0) 1792 513317 e-bost:[email protected] e-bost:[email protected]

Page 20: Rhaglen Datblygu Proffesiynol Rhaglen Datblygu Professiynol... · 2012. 10. 4. · diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol. enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau

- 20 -