rhifyn 17 / tachwedd 2020 y cliciadur€¦ · rhifyn 17 / tachwedd 2020 newyddion o gymru a thu...

8
Y Cliciadur Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Y Cliciadur Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, Mali Williams Golygydd: Karen MacIntyre Huws TUDALEN 3 DAN Y CHWYDD WYDR Y Robin Goch TUDALEN 6 TUDALEN 8 STORI Dim ond baw TRYSORAU CYMRU Llynnoedd Cymru ESTYN DY LAW Mae'n amser anodd i nifer o bobl ar hyn o bryd, ac un grŵp o bobl sydd yn gallu teimlo'n unig ac ar ben eu hunain ar hyn o bryd yw'r henoed. Oherwydd bod pobl hŷn yn fwy bregus (yn fwy tebyg o fynd yn sâl) mae'n rhaid bod yn ofalus iawn nad ydynt yn dod i gyswllt gyda Covid 19 nac unrhyw salwch arall. Mae hynny'n golygu y gallan nhw fod yn treulio llawer o amser ar ben eu hunain. Dyma ambell beth y medrwn ni i gyd eu gwneud i helpu: • Cofia gadw mewn cysylltiad gyda ffrind oedrannus, gelli ffonio (cofia gael caniatâd rhiant yn gyntaf). Mae mor braf cael clust i wrando! • Efallai y medri rannu rhif ffôn sefydliadau fel Age Cymru gyda ffrind oedrannus, mae'r wefan yn llawn syniadau ac argymhellion. • Beth am ysgrifennu llythyr, tynnu llun, coginio neu wneud crefft i'w rannu gyda ffrind oedrannus? • Gelli gynnig mynd i'r siop dros ffrind oedrannus ond cofia ofyn am help rhiant neu oedolyn gyntaf. Pan fyddi yn mynd a'r nwyddau i dy ffrind oedrannus cofia adael y nwyddau wrth y drws a chamu'n ôl. • Cofia - mae gwên a galw Helô yn ddigon i godi calon ambell waith! Digon o brofiad Joe Biden fydd yr arlywydd hynaf erioed, pan fydd yn symud i'r Tŷ Gwyn yn Washington ym mis Ionawr, gan y bydd yn 78 mlwydd oed, ac mae ganddo brofiad hir iawn fel gwleidydd gan ei fod yn seneddwr dros blaid y Democratiaid ers pan oedd yn 29 mlwydd oed. Newyddion da i'r amgylchfyd Yn ôl amgylcheddwyr bydd ethol Joe Biden yn rhoi mwy o obaith i leihau'r niwed i'r amgylchfyd. Yn 2017 penderfynodd Donald Trump droi ei gefn ar Gytundeb Paris (cynhadledd rhwng gwledydd y byd i gymryd camau i leihau cynhesu byd eang). Yn y gorffennol mae Trump wedi dweud fod cynhesu byd eang yn 'gelwydd' ac yn 'syniad gwirion'. Mae Biden wedi dweud y bydd yn ymuno gyda gwledydd y byd a Chytundeb Paris i gymryd camau i atal cynhesu byd eang. Her fawr Mae Biden yn cydnabod fod her fawr o'i flaen i uno'r wlad unwaith eto, gan fod rhaniadau chwerw wedi digwydd yno ers i Trump ddod yn arlywydd. Mae nifer yn gobeithio y bydd yn gychwyn ar bedair blynedd fwy caredig yng ngwleidyddiaeth America. ETHOLIAD TRUMP BIDEN UNOL DALEITHIAU AMERICA Wedi aros am bron i wythnos, daeth y cadarnhad y penwythnos diwethaf mai Joe Biden fydd arlywydd nesaf Unol Daleithiau'r America. Mewn ras agos, cipiodd Joe Biden y swydd oddi ar Donald Trump. Ond i barhau’r ddrama, mae'r cyn-arlywydd yn gwrthod derbyn y canlyniad, gan ddweud fod twyllo wedi digwydd - ond, yn ôl swyddogion yr etholiad, nid oes unrhyw sail i gwynion Donald Trump. ARLYWYDD NEWYDD CANLYNIADAU JOE BIDEN 306 DONALD TRUMP 232 270 i ennill Gage Skidmore Joe Biden

Upload: others

Post on 24-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Y Cliciadur€¦ · Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, ... chwarae rhan y Doctor. Tachwedd 16-20 Wythnos Gwrth-Fwlio

Y CliciadurNewyddion o Gymru a Thu HwntY Cliciadur

Rhifyn 17 / Tachwedd 2020

Newyddion o Gymru a Thu Hwnt

Awduron: Haf Llewelyn, Mali Williams Golygydd: Karen MacIntyre Huws

TUDALEN 3

DAN Y CHWYDD

WYDRY Robin Goch

TUDALEN 6

TUDALEN 8

STORIDim ond baw

TRYSORAU CYMRU

Llynnoedd Cymru

ESTYN DY LAW

Mae'n amser anodd i nifer o bobl ar hyn o bryd, ac un grŵp o bobl sydd yn gallu teimlo'n unig ac ar ben eu hunain ar hyn o bryd yw'r henoed. Oherwydd bod pobl hŷn yn fwy bregus (yn fwy tebyg o fynd yn sâl) mae'n rhaid bod yn ofalus iawn nad ydynt yn dod i gyswllt gyda Covid 19 nac unrhyw salwch arall. Mae hynny'n golygu y gallan nhw fod yn treulio llawer o amser ar ben eu hunain. Dyma ambell beth y medrwn ni i gyd eu gwneud i helpu: • Cofia gadw mewn cysylltiad gyda ffrind

oedrannus, gelli ffonio (cofia gael caniatâd rhiant yn gyntaf). Mae mor braf cael clust i wrando!

• Efallai y medri rannu rhif ffôn sefydliadau fel Age Cymru gyda ffrind oedrannus, mae'r wefan yn llawn syniadau ac argymhellion.

• Beth am ysgrifennu llythyr, tynnu llun, coginio neu wneud crefft i'w rannu gyda ffrind oedrannus?

• Gelli gynnig mynd i'r siop dros ffrind oedrannus ond cofia ofyn am help rhiant neu oedolyn gyntaf. Pan fyddi yn mynd a'r nwyddau i dy ffrind oedrannus cofia adael y nwyddau wrth y drws a chamu'n ôl.

• Cofia - mae gwên a galw Helô yn ddigon i godi calon ambell waith!

Digon o brofiadJoe Biden fydd yr arlywydd hynaf erioed, pan fydd yn symud i'r Tŷ Gwyn yn Washington ym mis Ionawr, gan y bydd yn 78 mlwydd oed, ac mae ganddo brofiad hir iawn fel gwleidydd gan ei fod yn seneddwr dros blaid y Democratiaid ers pan oedd yn 29 mlwydd oed.

Newyddion da i'r amgylchfydYn ôl amgylcheddwyr bydd ethol Joe Biden yn rhoi mwy o obaith i leihau'r niwed i'r amgylchfyd. Yn 2017 penderfynodd Donald Trump droi ei gefn ar Gytundeb Paris (cynhadledd rhwng gwledydd y byd i gymryd camau i leihau cynhesu byd eang). Yn y gorffennol mae Trump wedi dweud fod cynhesu byd eang yn 'gelwydd' ac yn 'syniad gwirion'. Mae Biden wedi dweud y bydd yn ymuno gyda gwledydd y byd a Chytundeb Paris i gymryd camau i atal cynhesu byd eang.

Her fawrMae Biden yn cydnabod fod her fawr o'i flaen i uno'r wlad unwaith eto, gan fod rhaniadau chwerw wedi digwydd yno ers i Trump ddod yn arlywydd. Mae nifer yn gobeithio y bydd yn gychwyn ar bedair blynedd fwy caredig yng ngwleidyddiaeth America.

ETHOLIADTRUMPBIDEN

UNOL DALEITHIAU AMERICA

Wedi aros am bron i wythnos, daeth y cadarnhad y penwythnos diwethaf mai Joe Biden fydd arlywydd nesaf Unol Daleithiau'r America. Mewn ras agos, cipiodd Joe Biden y swydd oddi ar Donald Trump. Ond i barhau’r ddrama, mae'r cyn-arlywydd yn gwrthod derbyn y canlyniad, gan ddweud fod twyllo wedi digwydd - ond, yn ôl swyddogion yr etholiad, nid oes unrhyw sail i gwynion Donald Trump.

ARLYWYDD NEWYDD

CANLYNIADAUJOE BIDEN 306DONALD TRUMP 232

270 i ennill

Gage Skidmore

Joe Biden

Page 2: Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Y Cliciadur€¦ · Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, ... chwarae rhan y Doctor. Tachwedd 16-20 Wythnos Gwrth-Fwlio

2

DYDDIAU I’R DYDDIADUR

Mwy am hyn ar dudalen 5.

Tachwedd

23Diwrnod Dr Who (hefyd yn cael ei alw’n Ddiwrnod y Tardis)

Tachwedd

26Diolchgarwch neu Thanksgiving yn cael ei ddathlu yn UDA

Rhagfyr

24Noswyl Nadolig

Rhagfyr

25DiwrnodNadolig

Rhagfyr

26Gŵyl San Steffan

Rhagfyr

31Nos Calan

Ionawr

1Dydd Calan

Ionawr

5NosYstwyll

Tachwedd

27Diwrnod Prynu Dim

Diwrnod i godi arian ac

ymwybyddiaeth o glefyd Alzheimer

drwy wisgo fel corrach.

Rhagfyr

4Diwrnod y Corrach

Diwrnod i godi ymwybyddiaeth ac

arian i elusen Achub y Plant drwy

wisgo Siwmper Nadolig.

Rhagfyr

11Diwrnod Siwmper Nadolig

Rhagfyr

21Byrddydd y Gaeaf

Gŵyl Iddewig y Goleuni. Mwy o

wybodaeth am hyn yn Rhifyn 11.

Am fwy o wybodaeth cliciwch

yma i weld Rhifyn 5 Y Cliciadur.

Rhagfyr

21Diwrnod Cenedlaethol y Robin GochDiwrnod i godi ymwybyddiaeth am y

robin ac adar bach eraill a sut y

gallwch eu helpu dros amser caled y

gaeaf. Am fwy o wybodaeth am y

Robin Goch ewch i dudalen 6.

Rhagfyr

10-18Hanukkah

Ar y diwrnod yma ym 1963, cafodd

rhaglen gyntaf Dr Who ei dangos ar

y BBC gyda William Hartnell yn

chwarae rhan y Doctor.

Tachwedd

16-20Wythnos Gwrth-Fwlio

Tachwedd

16-22

Santes Lucia ac mae honno’n gwisgo ffrog hir

wen ac yn rhoi coron o oleuadau ar ei phen.

Yn ei dilyn mae merched eraill yn gwisgo

gwyn ac yn cario

cannwyll. Hefyd mae

'Bechgyn y Sêr’ sydd

hefyd yn gwisgo gwyn

ac yn cario seren ar

ben ffon. Wrth gerdded

maen nhw’n canu

caneuon arbennig ac

mae’r dathliadau hefyd

yn cynnwys bwyta

bisgedi sinsir ac yfed

gwin poeth, sbeislyd.

Rhagfyr

13Diwrnod St Lucia yn Sweden Bob blwyddyn, ar y 13eg o Ragfyr,

mae plant Sweden a rhai o wledydd eraill

Sgandinafia yn cymryd rhan mewn

gorymdaith dan olau cannwyll. Maen nhw’n

dewis merch ifanc i gymryd rhan y

Wythnos Diogelwch y Ffordd

TACHWEDD

RHAGFYR

IONAWR 2021

Ar ddydd Nadolig 1642 cafodd Syr Isaac

Newton ei eni. Mae Isaac Newton yn un o

wyddonwyr pwysicaf y byd, ac mae llawer

o’n syniadau ni heddiw am fathemateg a

ffiseg wedi eu selio ar bethau oedd o wedi eu

darganfod. Mae’n debyg mai darganfyddiad

mwyaf enwog Newton oedd disgyrchiant

(gravity), ac yn ôl y chwedl roedd gweld afal

yn syrthio oddi ar goeden wedi rhoi’r syniad

yn ei ben. Yn 1668 dyfeisiodd Newton

delesgôp adlewyrchol

(reflecting telescope)

oedd yn defnyddio

drychau i adlewyrchu

golau i greu delwedd.

Mae’r math yma o

delesgôp yn dal i gael

ei ddefnyddio heddiw.

Traddodiadau Calan a’r Flwyddyn Newydd yng Nghymru:Coelcerth y Calan: Ers talwm roedd

pobl yn adeiladu coelcerth anferth i

groesawu’r flwyddyn newydd. Roedd y tân

yn cael ei adeiladu yng nghanol tref neu

bentref a byddai pawb yn casglu o’i

gwmpas. Roeddynt yn gadael i’r tân yn eu tai

ddiffodd er mwyn rhoi diwedd ar yr hen

flwyddyn ac i'r goelcerth fawr roi croeso

cynnes i’r flwyddyn newydd.

Dyledion: Roedd pobl yn credu ers talwm

ei bod hi’n bwysig i beidio benthyg arian i

neb ar ddydd Calan ac i wneud yn siŵr fod

unrhyw ddyled yn cael ei thalu cyn hanner

nos ar nos Calan.

Calennig: Roedd dydd Calan yn gyfle i

blant lenwi eu pocedi ag arian, ac roedd yr

arian hwn yn cael ei alw’n ‘calennig’. Byddai

plant yn mynd o gwmpas tai ar fore dydd

Calan yn canu pennill i ofyn am galennig;

ond roedd angen gofalu fod hyn yn

digwydd cyn hanner dydd.

Pennill Calennig:Calennig i mi, Calennig i'r ffon,Calennig i fwyta'r noswaith hon:Calennig i'm tad am glytio'm 'sgidia,Calennig i mam am drwsio fy sana

Calennig yn gyfan ar fore dydd Calan; un, dau, tri, blwyddyn newydd dda i chi.

Y Fari Lwyd: Un traddodiad rhyfedd

iawn o gwmpas y Nadolig a’r Calan yw’r

Fari Lwyd. Penglog ceffyl wedi ei addurno

efo lliain gwyn a rhubanau oedd y Fari, a

byddai’n cael ei roi ar bolyn a’i gario o

amgylch tref neu bentref. Roedd yn

anlwcus i beidio â gadael i’r Fari ddod i

mewn i’ch tŷ, a byddai pawb yn ei

gwahodd i mewn i gael canu a bwyta

gyda’r teulu. Gwyliwch ffilm am y Fari Lwyd

yma: https://bit.ly/2HqlUfm

Prolineserver

Page 3: Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Y Cliciadur€¦ · Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, ... chwarae rhan y Doctor. Tachwedd 16-20 Wythnos Gwrth-Fwlio

3

CerAmdaniCerAmdani

DIM OND BAW

ROBIN GOCH

Roedd Alun, cefnder Macsen yn dod i aros i’r fferm dros y gwyliau ac er bod Mam yn dweud fod hynny’n mynd i fod yn hwyl, doedd Macsen ddim yn siŵr. Mewn dinas fawr roedd Alun yn byw, a’r tro diwethaf iddo ddod i aros, roedd wedi swatio yn y tŷ trwy’r amser, gan sôn drosodd a throsodd am y pethau gwych oedd i’w gwneud yn y ddinas. Gwrthododd fynd allan i weld dim ar y fferm, gan gwyno bod arogl drwg a baw ymhob man. Doedd Alun ddim am faeddu ei dreinyrs gwyn, a gwrthododd yn lân a defnyddio welis Macsen, gan droi ei drwyn arnynt.

Doedd Macsen ddim am dreulio’r gwyliau i gyd yn eistedd yn y tŷ. Roedd Macsen yn hoffi’r PlayStation ond roedd yn well ganddo ei feic mynydd. Roedd wedi creu trac arbennig ar gyfer y beic, ac wedi gosod ramp dros y nant, a phrennau yma ac acw i wneud y trac yn fwy o antur. Roedd gan Magi, ei chwaer fawr, feic mynydd da, roedd hi'n cymryd rhan mewn cystadlaethau beicio traws-gwlad. Dywedodd y byddai Alun yn cael defnyddio'r beic.Ond suddodd calon Macsen pan welodd Alun yn cyrraedd y buarth yn y car glân, sgleiniog. Daeth tad Alun allan gan gamu’n ofalus a throi ei drwyn wrth weld y buarth mwdlyd, a phan agorodd drws cefn y car, suddodd calon Macsen yn is fyth. Camodd Alun allan yn ei dreinyrs gwyn, a’i siaced newydd, lân. ‘Croeso!’ galwodd Mam o’r drws, ‘Macsen, dos i gario bag Alun.’Aeth Macsen i nôl y bag, roeddyn drwm, a dyfalodd Macsen fod

y bag yn llawn o offer PS - dyna fyddai Alun yn ei wneud trwy’r wythnos felly.‘Wyt ti am fynd i ddangos y trac a dy feic mynydd i Alun?’ gwenodd Mam. Edrychodd Alun ar ei draed, a chwarddodd Mam. ‘Dyma bâr o welis newydd i ti,’ meddai gan eu hestyn iddo.‘Wyt ti eisiau tro ar feic Magi?’ gofynnodd Macsen. ‘Ond cofia, mae’n feic cyflym, ella y byddai’n well i ti ymarfer ar fy meic i gyntaf?’ Wedi’r cwbl doedd o ddim am i Alun gael damwain.‘Dw i wedi hen arfer reidio beic, mae gennym ni draciau gwych

yn ymyl adre.’ meddai Alun yn bendant, gan wthio ei draed i mewn i’r welis. Rhoddodd y ddau eu helmed ar eu pennau ac i ffwrdd â nhw.Sgrialodd y ddau ar hyd y trac, gan rampio dros y nant, llamu dros y rhwystrau cyn llithro ar hyd y darn o dir mwdlyd, ac yna gadael i’r olwynion ail afael yn y gwair a chychwyn yn ôl trwy’r coed a dros y nant eto. ‘Waw!’ gwaeddodd Alun wrth lithro i stop ar y buarth. ‘Mae hyn yn ffantastig!’ Gwenodd Macsen, yna cofiodd am y bag trwm – ‘Wyt ti eisiau chwarae ar y PS rŵan?’ Wedi’r cyfan roedd Macsen eisiau bod yn deg, ac roedd Alun wedi rhoi cynnig ar y trac beic.‘Mynd i’r tŷ?’ chwarddodd Alun. ‘Na, dim diolch!’ A phan drodd Alun yn ôl i ail-gydio yn handlenni’r beic, sylwodd Macsen ar y stribed o fwd a baw oedd yn llinell ddu i lawr cefn ei siaced newydd – ond dywedodd Macsen yr un gair, dim ond ychydig o faw oedd o wedi’r cyfan!

Byddi di angen:• Papur neu gerdyn tenau A4 lliw brown

ar gyfer y corff • Papur brown A4 ar gyfer yr adenydd• Papur coch ar gyfer y bol• Darn bach o gerdyn melyn ar gyfer y pig• Darn o bapur sgrap A4 i wneud y

templed• Siswrn/pensil/pin ffelt/glud• Darn o linyn neu wlân i’w hongian

Tip:Gelli di liwio papur gwyn yn frown neu’n goch neu’n felyn os nad oes gen ti bapur lliw.

Creu templed.

Mae’n well defnyddio papur sgrap i

wneud templed fel nad wyt ti’n

gwastraffu papur brown wrth wneud

camgymeriad. Gelli di hefyd

ddefnyddio’r templed i wneud mwy o

adar.

Plyga ddarn o bapur A4 yn ei hanner

ar hyd y darn hir a gwna siâp yr

aderyn, gyda’i gefn yn mynd ar hyd y

plyg. Ar ôl i ti ei dorri allan bydd y

templed yn barod.

1

Yr adenydd. Plyga'r papur brown A4

yn ôl ac ymlaen fel ffan. Byddi di angen

torri hollt (slit) ar gefn y robin er mwyn

gwthio’r adenydd trwyddo. Gelli di ludo

gwaelod yr adenydd i ochr y corff.

4

Y pig. Mae’n bosib gwneud pig allan

o ddau driongl melyn a’u gludo bob

ochr i’r pen, neu gelli di wneud siâp

diemwnt a’i blygu yn ei hanner a’i

ludo rhwng dau ddarn y pen (dyma

mae’r Cliciadur wedi’i wneud).

5

Bydd angen llygaid ar dy robin. Gelli di

dynnu llun arno gyda phin ffelt du neu

ddefnyddio llygaid gwgli. Gelli di roi

ychydig o blu ar ei gynffon hefyd os

wyt ti eisiau. Rho ddarn o linyn trwy slit

yr adenydd ar gyfer ei hongian i fyny a

bydd dy robin goch yn barod i hedfan!

6Y bol. Defnyddia'r templed eto i

wneud siâp y bol allan o’r papur coch.

Cofia y byddi di angen 2 - un ar gyfer

bob ochr. Gluda'r ddau fol i’r corff ac

yna rho ychydig o’r glud tu mewn i’r

corff i gadw’r ddau hanner at ei gilydd.

3

Creu corff y robin. Defnyddia'r

templed i wneud y siâp ar y papur

brown A4 sydd wedi’i blygu yn ei

hanner. Cofia fod cefn yr aderyn ar hyd

y plyg. Torra hwn allan yn ofalus.

2

Beth am ddefnyddio papur gwyn i

wneud colomen hefyd?

Mae’r Cliciadur wedi ychwanegu ffan

bach i’w chynffon er mwyn iddi beidio

edrych fel gwylan!

Page 4: Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Y Cliciadur€¦ · Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, ... chwarae rhan y Doctor. Tachwedd 16-20 Wythnos Gwrth-Fwlio

4

LLWYFANLLWYFANLlenyddiaeth Crefft

Cerddoriaeth

Barddoniaeth

Teledu

Celf

Enw: Carnau N. Chwim

Teitl y gwaith: Dirprwy Brif Garw Siôn Corn

Beth yw’r gwaith?: Ynghyd â Rwdolff (y Prif-Garw) arwain sled Siôn Corn i gludo anrhegion i blant y byd ar noswyl y Nadolig. Ni sydd hefyd yn gyfrifol am gael hyd i’r ffordd os yw’r Santa-Nav yn torri i lawr (sy’n digwydd yn reit aml a dweud y gwir). Mae gwaith Siôn Corn ar y noson yn ‘stressful’ iawn ac mae’n bwysig ein bod ni’r ceirw yn sicrhau fod popeth ar yr ochr deithio yn mynd yn hwylus er mwyn tynnu’r pwysau

a’r straen oddi ar Siôn Corn. Mae hefyd angen i ni sicrhau fod digon o lwch-hud yn y tanc i ni allu hedfan yn gyflym a chyrraedd pob man cyn toriad gwawr.

Lle rwyt ti’n gweithio?Mae Pencadlys Siôn Corn mewn safle dirgel rhywle ym Mhegwn y Gogledd. Yno mae ein stablau ni, gweithdy’r corachod, yr adran pacio a lapio, garej a gweithdy technegol y sled a chartref preifat Mr a Mrs Corn. Ar noswyl Nadolig mae gofyn i ni weithio ym mhob cwr o’r byd, gan ddechrau yn y de o’r Môr Tawel a theithio o gyfeiriad y dwyrain tuag at y gorllewin. Yn fras felly rydym yn mynd i Seland Newydd, Awstralia, i fyny am Japan ar draws Asia ac yna draw am Affrica, Gorllewin Ewrop, Canada, UDA yna lawr i Fecsico ac yna gorffen yng nghyfandir De America.

Rho ddisgrifiad o ddiwrnod arferol...Mae pethau‘n eitha’ tawel am 11

mis o’r flwyddyn. Yn yr haf rydym yn teithio i dŷ haf Siôn Corn (eto yn safle dirgel yn rhywle yn y Gogledd) a thra rydym yno mae cyfle i ymlacio a thorheulo ychydig, yno hefyd rydym yn cael cyfle i fwyta digon o laswellt ffres, gan nad oes posib ei gael yn eira a rhew'r gaeaf. Yn ystod misoedd y gaeaf mae’n bwysig ein bod yn ymarfer er mwyn cadw’n ffit a heini i dynnu’r sled, felly rydym yn hedfan gyda’r sled bob dydd.

Pethau da am y swydd...Bwyd da, cwmni diddorol, cyfle i deithio’r byd, dim llawer o waith am y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Pethau nad ydynt mor dda am y swyddMae noswyl Nadolig yn ‘stressful’ iawn! Mae Rwdolff hefyd yn gallu bod yn anodd i weithio efo fo ac yn hoffi meddwl ei fod yn fwy pwysig na gweddill y ceirw. Ar y cyfan mae Siôn Corn yn fòs da iawn ac yn trin ei holl weithwyr yn deg, ond ar adeg y Nadolig gall fynd braidd yn fyr ei dymer.

Oes angen hyfforddiant neu gymwysterau arbennig i wneud y swydd?Roedd fy mam, fy nain, fy hen nain a fy hen, hen nain yn geirw i Siôn Corn felly mae o yn fy ngwaed i. Mae rhaid pasio prawf gyrru sled a gwneud arholiad ar reolau’r awyr ac ar ddaearyddiaeth gwledydd y byd. Mae hefyd angen bod yn ffit, yn gryf ac yn iach. Mae hefyd yn fanteisiol i gael llawer o amynedd i ddelio gyda Rwdolff a Siôn Corn pan mae o mewn hwyliau drwg.

GWAITH A GYRFAOEDDCARNAU N. CHWIM

Gage Skidmore

aussiegall

Jodie Whittaker

DR WHO A’I CHARTREF YNG NGHYMRUI ddathlu Diwrnod Dr Who ar y 23ain o Dachwedd, mae’r Cliciadur wedi bod yn edrych ar y cysylltiad sydd rhwng y rhaglen boblogaidd â Chymru.

Er bod Dr Who yn teithio i bob cwr o’r bydysawd, yng Nghymru mae ei chartref ers 2005, lle dechreuodd y Cymro Russell T Davies ysgrifennu’r gyfres. Mae stiwdio Dr Who ym Mae Caerdydd wedi denu miloedd o ffans o’r gyfres i ymweld â’r lle, tra mae’r criw cynhyrchu a’r criw technegol hefyd yn byw a gweithio yn y ddinas. Wrth edrych ar y rhaglen mae’n bosib gweld llawer o leoliadau yng Nghymru, gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm, y Senedd, Castell Caerffili a Sain Ffagan.

Jodie Whittaker yw Doctor rhif 13, a’r ferch gyntaf i chwarae’r rhan. Bydd ffans o’r gyfres yn gallu gweld Jodie yn dychwelyd fel y Doctor mewn rhaglen Nadolig arbennig eleni ac mewn cyfres newydd yn 2021.

Page 5: Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Y Cliciadur€¦ · Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, ... chwarae rhan y Doctor. Tachwedd 16-20 Wythnos Gwrth-Fwlio

PWYSO A MESUR

5

ANTI DOT YN DWEUD

Mae'r Nadolig ar ei ffordd ac mae Anti Dot wrth ei bodd! Ond mae Anti Dot am bwysleisio nad oes yn rhaid gwario gormod wrth baratoi at y Nadolig.

PARATOI AT Y NADOLIG

Defnyddia gardiau llynedd i wneud tagiau anrheg. Dim ond torri'r cerdyn yn daclus sydd angen, yn arbennig os oes llun del ar yr hen gerdyn.

Chwilia mewn siopau ail-law am addurniadau. Galli gael bargen go iawn, ac os wyt ti’n siopa mewn siop elusen byddi di’n helpu achos da hefyd!

Beth am wneud addurniadau dy hun i'w rhoi ar y goeden? Galli gasglu moch coed, mes, cnau a brigau i greu addurniadau naturiol. Neu beth am greu rhai wrth wnïo neu goginio?

Defnyddia bapur parsel i lapio dy anrhegion. Mae'n llawer rhatach ac yn well i'r amgylchfyd. Galli di ei addurno dy hun. Ceisia ddefnyddio llai o gliter ac addurniadau plastig, gan nad ydynt yn gallu cael eu hailgylchu.

CROESAIR NADOLIG3.6.7.

9.10.

Ar drawsAur, ............ a myr oedd anrhegion y tri gŵr doeth. (3)Enw’r pentref lle cafodd y baban Iesu ei eni. (8)Addurn Nadolig hir, sgleiniog sy’n cael ei roi o amgylch y tŷ neu ar y goeden. (6)Helpwr Siôn Corn. (6)Dail gwyrdd pigog sy’n addurno tai ar adeg y Nadolig. (5)

1.2.4.5.8.

I lawrY gair Cymraeg am y llysiau gwyrdd enwog yn ein cinio Nadolig. (7)Pegwn y ............ yw cartref Siôn Corn. (6)Enw’r wlad ble maen nhw’n dathlu Gŵyl y Santes Lucia (gweler tud 2) (6)Cân sy’n cael ei chanu adeg y Nadolig. (5)Yr addurn disglair ar ben y goeden Nadolig. (5)

Atebion ar dudalen 8

1 2

3 4

5

6

7 8

9

10

1 2

3 4

5

6

7 8

9

10

Be' ydi dy farn di?

Tyrd i drafod..Tyrd i

drafod..

Mae 27ain o Dachwedd yn ddiwrnod sy’n cael ei gysylltu gyda siopa Nadolig. Weithiau bydd yn cael ei alw’n Gwener Gwario (Black Friday). Ond mae rhai pobl wedi penderfynu nad ydi hynny’n syniad da am sawl rheswm. Mae mudiad newydd am geisio perswadio pobl i wario a phrynu llai o nwyddau – felly mae Gwener Gwario hefyd yn rhannu’r dyddiad gyda Diwrnod Gwario Dim (Buy Nothing Day).Beth ydi dy farn di?

Dw i’n cytuno gyda Gwener Gwario! Dw i’n edrych ymlaen at y Nadolig ac un o fy hoff bethau am y Nadolig ydi cael esgus i siopa a pharatoi. Mae’n amser gwych ac wrth siopa dw i'n anghofio am broblemau bob dydd. Dw i am addurno’r tŷ efo bob mathau o oleuadau ac os oes rhaid prynu mwy, wel dyna fydda i’n ei wneud. Mae hefyd yn bwysig cefnogi siopau, yn arbennig y flwyddyn hon, mae perchnogion siopa angen i ni wario, dim ond felly y byddan nhw’n gallu cyflogi pobl. Dw i’n credu fod gwario adeg y Nadolig yn iawn, wedi’r cyfan dim ond unwaith y flwyddyn mae’r Nadolig yn digwydd.

Dw i’n cytuno gyda Diwrnod Gwario Dim!Cyn prynu dim gofyn i ti dy hun - 'Ydw i wir angen hwnna?' Dw i'n credu ein bod ni'n gwario gormod ar bethau diangen, heb feddwl beth ydi canlyniad hynny. Mae'n rhaid cynhyrchu (gwneud) y nwyddau rydan ni'n eu prynu, ac yn aml mae cynhyrchu pethau yn defnyddio ynni sydd yn ychwanegu at gynhesu byd eang. Hefyd mae llawer o nwyddau plastig defnydd unwaith yn cael eu gwerthu adeg y Nadolig - pethau fel rubanau plastig. Mae'r rhain yn cael eu gadael mewn dymp tir lenwi ar ôl y Nadolig, a does dim modd eu hailgylchu. Dw i'n credu mewn mwynhau Nadolig mwy naturiol.

Page 6: Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Y Cliciadur€¦ · Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, ... chwarae rhan y Doctor. Tachwedd 16-20 Wythnos Gwrth-Fwlio

6

DAN Y CHWYDD WYDR

Y ROBIN GOCHUn o adar mwyaf cyffredin sydd i'w weld yn ein gerddi yw’r Robin Goch ac mae’r aderyn bach â’r frest goch yn dod a lliw i ddyddiau oer y gaeaf ac yn serennu ar gardiau ac addurniadau Nadolig. Dyma ychydig mwy o wybodaeth amdano:• Mae’r gwryw a’r fenyw yn

edrych yn union yr un fath.• Mae’r gwryw yn amddiffyn ei

diriogaeth rhag unrhyw wryw arall a gall ymladd hyd at farw.

• Mae’r cywion yn lliw brown gyda smotiau ac mae hyn yn helpu i’w cuddio rhag ysglyfaethwyr.

• Mae’r robin yn canu cân wahanol yn y gwanwyn a’r hydref.

Geiriau:Gwryw (male) y dyn neu’r bachgen.Benyw (female) y ferch.Amddiffyn (defend) cadw rhywbeth yn ddiogel a stopio gelyn rhag dod yno.Tiriogaeth (territory) y tir o’i gwmpas.Ysglyfaethwyr (predators) pethau sy’n gallu ei fwyta, fel cathod neu adar mwy.

Enw Lladin: Erithacus Rubecula.Maint: 13 – 14cm o'i big i'w gynffon.Pwysau: 16-22gWyau: rhwng 3 a 9 ar y tro.Bwyd: Cymysgedd o drychfilod, pryfaid, ffrwythau a hadau.Nyth: glaswellt, mwsog, dail, blew a gwlân.

Rydym yn cysylltu Robin Goch gyda’r Nadolig oherwydd eu bod i’w gweld o gwmpas y lle yn ystod misoedd oer y gaeaf ac oherwydd eu lliw coch llachar.Yn ystod Oes Fictoria roedd postmyn yn gwisgo siacedi coch ac yn cael eu galw yn ‘Robins’. Daeth lluniau o’r ddau fath o robin yn boblogaidd ar gardiau Nadolig yn y cyfnod.Mae chwedl am y Robin Goch a’r baban Iesu yn egluro sut y cafodd y robin ei frest goch. Yn ôl y chwedl roedd aderyn bach brown yn chwifio ei adenydd er mwyn annog y tân oedd yn ymyl y baban Iesu i’w gadw’n gynnes. Aeth yr aderyn bach yn rhy agos at y fflamau a chafodd ei losgi, gan roi brest goch iddo. Mae’r aderyn wedi cael cadw ei frest goch i gofio ei fod wedi helpu’r baban Iesu.

• Mae’r robin yn adeiladu ei nyth yn sydyn iawn. Bydd pobl yn dweud storiâu amdanynt yn hongian eu côt ar ddrws y sied er mwyn gwneud ychydig o arddio, ac erbyn iddynt ddod yn ôl bydd robin wedi nythu yn eu poced!

• Bydd y cywion yn datblygu eu brest goch erbyn yr hydref, pan maen nhw’n dechrau dysgu eu cân hydrefol.

• Mae dau fath o robin i’w weld yng Nghymru yn y gaeaf, mae un math yn byw yma drwy’r amser ond mae’r math arall yn mudo o wledydd oer y gogledd, fel Sweden a Norwy. Mae brest robin sydd

wedi mudo yn llai llachar ac maen nhw’n ymddwyn yn fwy swil na’r adar o Gymru.

• Maen nhw’n adar bach prysur iawn! Gall un gwryw a benyw fagu 3 llond nyth o gywion bob blwyddyn, ac weithiau cymaint â 5 nythaid mewn blwyddyn!

Y Robin a’r Nadolig:

OEDDET TI'N GWYBOD?

Mae 30% yn fwy o sbwriel yn cael ei gynhyrchu adeg y Nadolig.

Byddai'r papur lapio rydan ni'n ei daflu dros y Nadolig yn gallu ymestyn o amgylch y byd 9 gwaith.

Mae 74 miliwn mins pei yn cael eu taflu bob Nadolig.

Mae 30% yn fwy o sbwriel yn cael ei gynhyrchu adeg y Nadolig.

Byddai'r papur lapio rydan ni'n ei daflu dros y Nadolig yn gallu ymestyn o amgylch y byd 9 gwaith.

Mae 74 miliwn mins pei yn cael eu taflu bob Nadolig.

LLYFRAU AR GYFER YR HOSAN NADOLIG Ble Mae Boc? ar Goll yn y ChwedlauAwdur: Huw Aaron

Y Crwt yn y CefnAwdur: Onjali Rauf

Brenin y TrenyrsAwdur: Pryderi Gwyn Jones

Taith Ryfeddol a Gwyrthiol Ffredi YatesAwdur: Jenny Pearson

10 o luniau tudalen ddwbl. Bydd pob taenlen yn dangos golygfa lawn dop, gyda'r nod o ddod o hyd i Boc, y ddraig

fach goch, sy'n cuddio ym mhob llun. Mae cyfle i chwilio am bethau eraill yn y lluniau hefyd, yn ogystal â thrafod a holi cwestiynau rhwng plant â'i gilydd, neu rhwng rhiant a phlentyn. Bydd yn debyg i'r llyfrau Where's Wally? ond gydag ogwydd Gymreig i bob llun.

Stori am gyfeillgarwch, gobaith a phwysigrwydd caredigrwydd, dyma lyfr llawn

cariad a hiwmor, wedi'i adrodd o berspectif unigryw. Pan ddaw bachgen newydd i ymuno â'r dosbarth, mae grŵp o blant eisiau bod yn ffrindiau ag ef. Addasiad Cymraeg gan Bethan Mair o The Boy at the Back of the Class.

Ffeithiau yw popeth i Ffredi Yates, bachgen 11 oed. Ar ôl i’w fam-gu farw ac

iddo ddarganfod bod ei dad biolegol yn dal yn fyw yn ne Cymru, mae’n penderfynu dilyn y ffeithiau. Ynghyd â’i ffrindiau gorau Ben a Ianto, mae’n sleifio i ffwrdd ar antur oes (neu o leiaf, gwyliau’r haf) i chwilio am ei dad.

ADIDAS, NIKE, PUMA, VANS, CONVERSE, REEBOK... Dyma stori am fachgen sydd wrth ei fodd efo trenyrs! Wir yr! Mae o'n ysu am gael pâr

o'r trenyrs Adidas gorau sydd yn siop 'sgidiau fwyaf cŵl y dre, Foot Locker.

Page 7: Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Y Cliciadur€¦ · Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, ... chwarae rhan y Doctor. Tachwedd 16-20 Wythnos Gwrth-Fwlio

7

GWIBIO TRWYAMSERGWIBIO TRWYAMSER

500: Dewi Sant (Rhifyn 1)1136: Cestyll Cymru (Rhifyn 3)1858-1920: Syr O.M.Edwards (Rhifyn 15)1859: Trychineb Y Royal Charter (Rhifyn 8)1867-1934: Marie Curie (Rhifyn 7)1912: Cyrraedd Pegwn y De (Rhifyn 6)

1914: Cadoediad Dydd Nadolig yn ffosydd y Rhyfel Byd 1af (Rhifyn 5)1942-1945: Anne Frank (Rhifyn 9)1948: Sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd (Rhifyn 4)1960au: Chwyldro’r Chwedegau (Rhifyn 2)1af Tachwedd: Calan GaeafNadolig: Traddodiadau’r Nadolig (Rhifyn 11)

Dŵr yn dy wneud yn well (Rhifyn 12)Anifeiliaid Arwrol (Rhifyn 13)Byrddau Iechyd Cymru (Rhifyn 14)Hanes Pobl Dduon Cymru (Rhifyn 16)

ERTHYGLAU A DYDDIADAU MEWN RHIFYNAU BLAENOROL O'R CLICIADUR

DUWIAU’R HEN FYD

PRYD?BETH? UD W I A U ‘ R

EH N F Y D

JANUS

Pan fyddai Ceres yn drist byddai’r ŷd yn marw a byddai’r

dail yn disgyn o’r coed, ac ni fyddai dim yn tyfu. Yn ôl y

chwedl, roedd gan Ceres ferch o’r enw Proserpina.

Roedd Ceres yn caru Proserpina yn fawr iawn, ond

cafodd ei merch ei gorfodi i fyw o dan y ddaear am 6 mis

ym mhob blwyddyn, sef yr hydref a’r gaeaf. Roedd

hynny’n gwneud Ceres mor drist, fel na fyddai coed na

phlanhigion tyfu. Pan fyddai Proserpina yn cael dod yn

ôl i’r ddaear, yna byddai Ceres mor hapus byddai byd

natur yn deffro eto, a byddai blagur newydd yn ymddan-

gos. A dyna roi’r gwanwyn a’r haf i ni.

CERES A’I MERCH

DUWIAU ERAILL

Yn ogystal â duwiau Rhufeinig, roedd gan y Groegiaid

hefyd dduwiau oedd yn cynrychioli gwahanol elfennau

mewn bywyd. Roedd y duwiau Groegaidd a’r duwiau

Rhufeinig yn aml yn debyg iawn e.e. duw’r môr – Neifion

neu Poseidon.

Roedd y duwiau hyn yn bwysig iawn yn y cyfnodau

hanes cynnar, a datblygodd nifer fawr o chwedlau o

amgylch y duwiau. Byddai’r chwedlau hyn yn esbonio

beth oedd yn digwydd i achosi’r tymhorau ddigwydd.

Mae’r dyddiau’n carlamu ymlaen tuag at y Nadolig ac yna fe ddaw’r flwyddyn i

ben, a bydd yn amser croesawu blwyddyn newydd sbon unwaith eto. Mis

cyntaf y flwyddyn yw mis Ionawr wrth gwrs. Daw’r gair Cymraeg - Ionawr a’r

Saesneg – January, o’r gair Lladin Ianuarius. Mae’r Lladin yn cyfeirio at y duw

Rhufeinig, Janus.Ond pam Janus?Roedd gan y Rhufeiniaid lawer o dduwiau, ac roedd y duwiau hyn yn rheoli pethau gwahanol e.e.Ceres – duwies y cynhaeafNeifion – duw’r môrJwno – duwies y gwragedd Apolo – duw’r haulJanus oedd y duw oedd yn cael ei gysylltu gyda drws, giât, neu unrhyw beth oedd yn ymwneud â symud o un lle, neu amser i’r llall. A dyna sydd i gyfrif fod Janus yn cael ei gysylltu gyda’r cyfnod o symud o un flwyddyn i flwyddyn newydd.

Roedd y Rhufeiniaid yn cyfrif Janus fel duw pwysig oedd yn cadw llygad ar newidiadau mewn bywyd e.e. pan fyddai rhywun yn cael ei eni, yn tyfu o fod yn blentyn i fod yn oedolyn, yn priodi, ac yn marw.

Dau wynebMae llawer o wrthrychau o gyfnod y Rhufeiniaid wedi goroesi, ac yn dal gennym heddiw i’w hastudio. Mewn darnau arian a cherfluniau o gyfnod y Rhufeiniaid, mae Janus yn cael ei ddarlunio gyda dau wyneb. Mae un wyneb yn edrych yn ôl dros yr hen flwyddyn, ac yna mae’r wyneb arall yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd o’n blaenau. Yn aml bydd Janus yn cael ei ddarlunio gydag allwedd yn ei law.Mae llawer yn gweld mis Ionawr a chyfnod y Calan fel amser da i edrych yn ôl a myfyrio am ddigwyddiadau a phrofiadau'r hen flwyddyn ac i edrych ymlaen a chynllunio gan roi targedau yn eu lle ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Loudon dodd

Page 8: Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Y Cliciadur€¦ · Rhifyn 17 / Tachwedd 2020 Newyddion o Gymru a Thu Hwnt Awduron: Haf Llewelyn, ... chwarae rhan y Doctor. Tachwedd 16-20 Wythnos Gwrth-Fwlio

8

Phil Dolby

Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ar ddydd Llun 18fed Ionawr. Cofia gysylltu drwy e-bostio [email protected] - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.

TRYSORAU CYMRU

LLYNNOEDD CYMRU

Atebion Croesair: Ar Draws: 3. Thus 6. Bethlehem 7. Tinsel 9. Corrach 10. CelynI lawr: 1. Ysgewyll 2. Gogledd 4. Sweden 5. Carol 8. Seren

Mae Cymru yn wlad o lynnoedd a chwedlau, ac wrth deithio trwy Gymru byddi’n siŵr o ddod ar draws llyn yn cuddio ar waelod cwm neu rhwng y mynyddoedd. Mae nifer o’r llynnoedd a weli di wedi eu ffurfio gan bobl i gronni dŵr. Bydd argae wedi ei adeiladur ar un pen y llyn i reoli llif y dŵr. Yn aml adeildwyd y llynnoedd hyn i gyflenwi dŵr i ddinasoedd a threfi mawr. Weithiau mae ffermydd neu bentrefi wedi eu boddi o dan y llynnoedd hyn. O dan ddŵr Llyn Llanwddyn ym Mhowys, mae pentref bach Llanwddyn. Adeiladwyd y llyn yn yr 1880egau i gyfenwi dŵr i Lerpwl.

Yr ail lyn naturiol fwyaf yng Nghymru yw Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu. Mae’n llyn arbennig am amryw o resymau, yno gelli weld amrywiaeth wych o fywyd gwyllt ar lannau’r llyn ac yn y dŵr. Ond mae Llyn Syfaddan yn arbennig oherwydd mai yno mae’r unig enghraifft o grannog y gwyddom amdano yng Nghymru.

Beth ydi crannog?Ynys wedi ei gwneud neu bentref sy’n arnofio ydi crannog, ac maen nhw fel arfer i’w canfod ar lynnoedd neu aberoedd. Does dim llawer o enghreifftiau yng Nghymru, ond mae dros 1,200 ohonynt yn Iwerddon. Credir fod y crannog ar Lyn Syfaddan yn dyddio nôl i’r 9fed ganrif, ac o bosib yn safle un o gartrefi brenin Brycheiniog yn y cyfnod.

LLYN SYFADDAN

Llun o grannog, neu bentref sy’n arnofio.

David Evans

FfaithY llyn gwnued/artiffisial mwyaf yng Nghymru yw llyn Trawsfynydd sy’n mesur 4.8 km . Adeiladwyd yn y 1920egau i gyflenwi dŵr ar gyfer pwerdy trydan hydro.

FfaithY llyn naturiol mwyaf yng Nghymru yw Llyn Tegid, ac mae’n mesur 6 km ar ei hyd ac yn tua 0.8 km o led.

Ian Medcalf

Parc Cenedlaethol Eryri

LLYN TRAWSFYNYDD

LLYN TEGID

Y llyn bach a’i gyfrinach fawr.Mae Llyn Cerrig Bach yng ngorllewin Ynys Môn ac yn enwog am fod yn safle archeolegol anhygoel. Yn 1942 daeth ffermwr lleol o hyd i arteffactau yn y dŵr oedd yn dyddio nôl i’r Oes Haearn. Cafodd dros 150 o wrthrychau eu darganfod yno.

LLYN CERRIG BACH

Eric Jones

National M

useum of W

ales

Beth am dy hoff lyn di?Oes gen ti hoff lyn? Beth am ddarganfod:• Ai llyn gwneud neu lyn naturiol yw dy

hoff lyn?• Pa fywyd gwyllt sydd i’w weld yno?• Oes chwedl yn gysylltiedig â dy hoff lyn?

TYMOR SIOMEDIG I RYGBI CYMRUTorrwyd record yn y gêm ryngwladol rhwng Cymru a'r Alban wythnos diwethaf, gan fod Alun Wyn Jones wedi ennill 149 cap dros ei wlad. Ond yn anffodus nid hon oedd y gêm i ddathlu, gan i Gymru golli 14-10. Gêm i ddod â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad i ben oedd hwn, gan fod y Coronafeirws wedi golygu na fu'n bosib gorffen y bencampwriaeth yn y gwanwyn. Bu'n bencampwriaeth siomedig i Wayne Pivac wrth ddechrau ar ei swydd fel hyfforddwr newydd Cymru. Y llynedd, llwyddodd y tîm cenedlaethol i gipio'r Gamp Lawn a gorffen ar frig y tabl, ond eleni gorffennodd Cymru yn bumed yn y bencampwriaeth. Ac i ychwanegu at rediad gwael Cymru, colli bu eu hanes yn erbyn Iwerddon ar ddydd Gwener 13 yn y gêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd.

LLOEGR

FFRAINC

IWERDDON

YR ALBAN

CYMRU

YR EIDAL

5

5

5

5

5

5

1

2

3

4

5

6

4

4

3

3

1

0

0

0

0

0

0

0

1

1

2

2

4

5

18

18

14

14

8

0

Y TABL TERFYNOLPtCh E Cy Co

2

2

2

2

4

0

B

2