rhwydwaith busnesgwynedd

7
www.gwyneddbusnes.net 01 RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD Rhifyn 16, Gwanwyn 2016 Caws sydd 500 troedfedd dan y ddaear yn cyrraedd y brig Mae caws Cheddar tra arbennig o Wynedd, sy’n cael ei wneud ym Mhwllheli a’i aeddfedu bum can troedfedd dan y ddaear yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd, wedi cael ei enwi fel y Cynnyrch Llaeth Gorau yng ngwobrau Food Management Today 2016. Ni allai’r wobr fod wedi dod ar adeg fwy ffafriol i’r gwneuthurwyr, Hufenfa De Arfon, sydd ar fin agor ffatri gynhyrchu newydd gwerth £8.5m ar eu safle yn Rhydygwystl, Chwilog, ger Pwllheli, mewn cam a fydd fwy neu lai’n dyblu eu gallu i gynhyrchu caws. Mae’r Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechi Cymru yn cael ei gynhyrchu’n benodol ar gyfer Sainsbury dan frand Taste the Difference yr archfarchnad. Fel rhan o’r broses aeddfedu, mae’n cael ei storio yn ddwfn yng nghrombil ddaear yng ngheudyllau cloddio segur Llechwedd, yn ogofâu aeddfedu dyfna’r byd mae’n debyg. Cloddiwyd y ceudwll am y tro cyntaf yn 1856, ac mae’n cynnwys 1,336 bocs o gaws, a phob un ohonynt yn pwyso 20kg. Mae galw am y Cheddar wedi bod mor dda fel bod dwy ogof arall bellach wedi eu haddasu ar gyfer storio, a phob un yn cynnwys oddeutu 13,000kg o gaws. Mae’r tymheredd cyson o 6-7 gradd centigrade yn yr ogofâu, sef yr amodau delfrydol ar gyfer y Cheddar, ac mae Llechwedd wedi cynnwys y siambrau aeddfedu yn eu harweinlyfr. Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr Michael Bewick: “Mae’r ymateb wedi bod yn anghredadwy - mae’r ffaith fod caws wedi bod yn aeddfedu yn ein ceudyllau llechi wedi bod yn destun sgyrsiau di-ben-draw. Ychydig iawn oeddwn i’n dychmygu y byddem yn agor ein trydedd ogof i aeddfedu caws o fewn 12 mis yn unig i ateb y galw!” Mae Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechi Cymru wedi cael canmoliaeth fawr gan Win Merrells, datblygwr cawsiau Sainsbury. “Mae gan (y caws) flas rhagorol sy’n datblygu’n naturiol yn ystod y broses aeddfedu faith dan y ddaear,” meddai. “Mae hyn, yn ogystal â tharddiad y caws, wedi apelio mewn difrif at ein cwsmeriaid.” Mae gwobr FMT, sy’n dibynnu ar bleidleisiau darllenwyr cylchgrawn Food Management Today, ac sy’n cael ei beirniadu gan arbenigwyr y diwydiant, yn brawf o’i safon. Roedd oddeutu 300 o wahoddedigion yn bresennol yn y seremoni wobrwyo yn y cinio yng Ngwesty’r Royal Garden, Kensington, ac yn eu plith, i gynrychioli Hufenfa De Arfon roedd Linda Lewis-Williams, a oedd yn gyfrifol am gynllunio’r Cheddar, a Michael Bewick o Llechwedd, ac roedd y ddau ohonynt yn falch iawn o dderbyn y wobr ochr yn ochr â Win Merrells o Sainsbury. Croesewir gwobr hyglod FMT ac mae’n amserol tu hwnt hefyd i Hufenfa De Arfon, gan fod eu ffatri gynhyrchu fawr newydd yn agor yn fuan. Y gwaith cwbl fodern hwn fydd y ffatri gaws fawr gyntaf i gael ei hadeiladu yn y D.U. ers y 1970au, meddai Alan Wyn-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr yr Hufenfa, a bydd yn sicrhau fod gan y cwmni’r cyfleusterau cynhyrchu gorau posibl i ategu eu cynlluniau cyffredinol ar gyfer twf. Wrth gyfeirio at y cynnyrch gwobrwyedig, meddai Alan: “Roeddem ni eisiau datblygu Cheddar cwbl unigryw oedd yn arddangos ein treftadaeth Gymreig. Mae safon y caws yn rhagorol ac mae wedi gwerthu’n eithriadol o dda.” www.sccwales.co.uk Adran Dwristiaeth a Busnes wedi ei Hachub – gweler tudalen 2 O’r Chwith i’r Dde: y cogydd adnabyddus Mark Hix; Win Merrells, Sainsbury; Linda Lewis-Williams, Hufenfa De Arfon; Michael Bewick, Ceudyllau Llechi Llechwedd a’r noddwr Mark Haworth, Bizerba UK Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechi Cymru

Upload: others

Post on 18-Oct-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD

www.gwyneddbusnes.net 01

RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD Rhifyn 16, Gwanwyn 2016

Caws sydd 500 troedfedd dan y ddaear yn cyrraedd y brigMae caws Cheddar tra arbennig o Wynedd, sy’n cael ei wneud ym Mhwllheli a’i aeddfedu bum can troedfedd dan y ddaear yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd, wedi cael ei

enwi fel y Cynnyrch Llaeth Gorau yng ngwobrau Food Management Today 2016. Ni allai’r wobr fod wedi dod ar adeg fwy ffafriol i’r gwneuthurwyr, Hufenfa De Arfon, sydd ar fin agor ffatri gynhyrchu newydd gwerth £8.5m ar eu safle yn Rhydygwystl, Chwilog, ger Pwllheli, mewn cam a fydd fwy neu lai’n dyblu eu gallu i gynhyrchu caws.

Mae’r Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechi Cymru yn cael ei gynhyrchu’n benodol ar gyfer Sainsbury dan frand Taste the Difference yr archfarchnad. Fel rhan o’r broses aeddfedu, mae’n cael ei storio yn ddwfn yng nghrombil ddaear yng ngheudyllau cloddio segur Llechwedd, yn ogofâu aeddfedu dyfna’r byd mae’n debyg. Cloddiwyd y ceudwll am y tro cyntaf yn 1856, ac mae’n cynnwys 1,336 bocs o gaws, a phob un ohonynt yn pwyso 20kg. Mae galw am y Cheddar wedi bod mor dda fel bod dwy ogof arall bellach wedi eu haddasu ar gyfer storio, a phob un yn cynnwys oddeutu 13,000kg o gaws. Mae’r tymheredd cyson o 6-7 gradd centigrade yn yr ogofâu, sef yr amodau delfrydol ar gyfer y Cheddar, ac mae Llechwedd wedi cynnwys y siambrau aeddfedu yn eu harweinlyfr. Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr Michael Bewick: “Mae’r ymateb wedi bod yn anghredadwy - mae’r ffaith fod caws wedi bod yn aeddfedu yn ein ceudyllau llechi wedi bod yn destun sgyrsiau di-ben-draw. Ychydig iawn oeddwn i’n dychmygu y byddem yn agor ein trydedd ogof i aeddfedu caws o fewn 12 mis yn unig i ateb y galw!”

Mae Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechi Cymru wedi cael canmoliaeth fawr gan Win Merrells, datblygwr cawsiau Sainsbury. “Mae gan (y caws) flas rhagorol sy’n datblygu’n naturiol yn ystod y broses aeddfedu faith dan y ddaear,” meddai. “Mae hyn, yn ogystal â tharddiad y caws, wedi apelio mewn difrif at ein cwsmeriaid.” Mae gwobr FMT, sy’n dibynnu ar bleidleisiau darllenwyr cylchgrawn Food Management Today, ac sy’n cael ei beirniadu gan arbenigwyr y diwydiant, yn brawf o’i safon. Roedd oddeutu 300 o wahoddedigion yn bresennol yn y seremoni wobrwyo yn y cinio yng Ngwesty’r Royal Garden, Kensington, ac yn eu plith, i gynrychioli Hufenfa De Arfon roedd Linda Lewis-Williams, a oedd yn gyfrifol am gynllunio’r Cheddar, a Michael Bewick o Llechwedd, ac roedd y ddau ohonynt yn falch iawn o dderbyn y wobr ochr yn ochr â Win Merrells o Sainsbury.

Croesewir gwobr hyglod FMT ac mae’n amserol tu hwnt hefyd i Hufenfa De Arfon, gan fod eu ffatri gynhyrchu fawr newydd yn agor yn fuan. Y gwaith cwbl fodern hwn fydd y ffatri gaws fawr gyntaf i gael ei hadeiladu yn y D.U. ers y 1970au, meddai Alan Wyn-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr yr Hufenfa, a bydd yn sicrhau fod gan y cwmni’r cyfleusterau cynhyrchu gorau posibl i ategu eu cynlluniau cyffredinol ar gyfer twf. Wrth gyfeirio at y cynnyrch gwobrwyedig, meddai Alan: “Roeddem ni eisiau datblygu Cheddar cwbl unigryw oedd yn arddangos ein treftadaeth Gymreig. Mae safon y caws yn rhagorol ac mae wedi gwerthu’n eithriadol o dda.”

www.sccwales.co.uk

Adran Dwristiaeth a Busnes wedi ei Hachub – gweler tudalen 2

O’r Chwith i’r Dde: y cogydd adnabyddus Mark Hix; Win Merrells, Sainsbury; Linda Lewis-Williams, Hufenfa De Arfon; Michael Bewick, Ceudyllau Llechi Llechwedd a’r noddwr Mark Haworth, Bizerba UK

Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechi Cymru

Page 2: RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD

02 www.gwyneddbusnes.net

Adran Dwristiaeth a Busnes wedi ei HachubCafodd argymhellion i achub gwasanaethau twristiaeth a chymorth busnes Cyngor Gwynedd eu cadarnhau gan gyfarfod llawn o’r Cyngor ar 3 Mawrth. Ar gefndir o arbedion o £34 miliwn yn deillio o weithredu mwy effeithlon, clustnodwyd £12 miliwn arall o swyddogaethau anstatudol ychwanegol ar gyfer toriadau gwerth £5.5 miliwn.

Byddai hyn wedi golygu cau canolfannau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn ogystal â llu o wasanaethau eraill a fyddai’n effeithio’n uniongyrchol ar bobl Gwynedd. Roedd y toriadau hefyd yn cynnwys cyllid a oedd wedi ei glustnodi gan y Cyngor ar gyfer ei wasanaethau busnes, economaidd strategol a thwristiaeth. Roedd Rhwydwaith Busnes Gwynedd (RhBG), Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill wedi lobïo’n egnïol yn erbyn y camau hyn, gan ddadlau y byddai lleihau swyddogaeth yr Adran Economi a Chymuned yn wir yn costio mwy na’r £½ miliwn yr honnai y byddai’n ei arbed. Yn wir, teimlid y byddai’r arian a gollid mewn incwm yn sylweddol uwch gan y byddai hyn yn effeithio i raddau helaeth ar y gallu i ymgeisio am grantiau.

Dadleuwyd y byddai prinder grantiau o’r fath yn cael effaith andwyol ar ddiogelu mynediad at gyfalaf a chyllid marchnata. Nid oedd yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi rhoi blaenoriaeth i wasanaethau twristiaeth, gan fod y rhain yn effeithio ar breswylwyr yn anuniongyrchol. Fodd bynnag, roedd lobïo RhBG a chyrff eraill wedi argyhoeddi’r Cabinet i achub y rhan fwyaf o fusnesau a gwasanaethau strategol economaidd a thwristiaeth. Y gred oedd “y gallai’r toriadau hyn effeithio ar economi Gwynedd gyfan a’i phreswylwyr yn y tymor hir ac y gallai fod yn wrthgynhyrchiol”. O’r toriadau posibl gwerth £1miliwn i fusnes a thwristiaeth, cafodd mwy na £700,000 ei ddiogelu o ganlyniad i lobïo, sy’n arwydd o ymrwymiad Cyngor Gwynedd i dwristiaeth.

Er hynny, ni chytunodd y Cyngor ar yr holl arbedion. Bydd yr holl Ganolfannau Croeso yn cau yn y dyfodol, gan arbed £155,000; a bydd taflen wybodaeth Eryri Mynyddoedd a Môr i’w chael fel fersiwn ar-lein yn unig.

Meddai John Lloyd: RhBG “Mae’r holl ymarfer wedi codi proffil a phwysigrwydd twristiaeth, a bydd yr adran gwasanaethau twristiaeth a busnes yn gorfod gweithio mewn modd mwy dyfeisgar ac effeithiol yn y dyfodol, ond o leiaf mae gennym bellach flwyddyn i anadlu er mwyn cydweithio â sefydliadau eraill sydd eisoes wedi mynegi diddordeb mewn rhedeg rhai o’r Canolfannau Croeso.

“Mae Cynghorwyr Gwynedd wedi gwrando ac wedi gwneud eu gorau dan amgylchiadau anodd. Gobeithiaf y gall y sectorau cyhoeddus a phreifat nawr weithio’n fwy clos fel y gall yr economi leol, sydd mor ddibynnol ar dwristiaeth, barhau i ffynnu. ”

www.gwyneddbusnes.net / www.gwynedd.llyw.cymru/cy

Reid Newydd sy’n cael ei gyrru gan yr haul ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd

Mae reid ddŵr newydd sy’n cael ei gyrru gan yr haul wedi cael ei hadeiladu ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd. Hon yw’r unig reid ddŵr solar yn y D.U. ac mae’n addas ar gyfer yr holl deulu, a’r hyn sy’n bwysig, o ystyried sut hinsawdd sydd gennym yng Ngogledd Cymru, yw na fyddwch yn cael eich gwlychu arni! Mae’r gwaith wedi cymryd 18 mis i’w gwblhau, o’r syniad cyntaf i’r cam o gomisiynu’r reid ac mae’n sicr o ddod yn brif atyniad Gelli Gyffwrdd. Ceir golygfeydd gwerth chweil wrth ichi ddisgwyl eich tro ac mae’r reid yn sicr o’ch cadw’n heini gan fod rhaid dringo 64 o risiau i’r top, cyn ichi ddisgyn yn gyflym mewn cwch aerlawn. Mae’r reid yn defnyddio pŵer trydan ond mae hyn yn cael ei ddarparu gan yr arae solar 150kw a osodwyd yr haf diwethaf, felly mae hon yn wir yn reid sy’n cael ei gyrru gan yr haul.

www.greenwoodforestpark.co.uk

John Lloyd, Aelod o’r Bwrdd, Rhwydwaith Busnes Gwynedd

O gofio bod cyfanswm cost y reid, gan gynnwys yr arae solar a’r ceblau tanddaearol oddeutu £1.2m, dyma’r buddsoddiad unigol mwyaf a wnaed gan y Parc ers iddo gychwyn 23 mlynedd yn ôl. Daeth y cyllid o fenthyciad banc, grant gan Croeso Cymru ac adnoddau’r Gelli Gyffwrdd ei hun. Mae’r cwmni’n hyderus y bydd y buddsoddiad hwn yn talu ar ei ganfed wrth i nifer yr ymwelwyr a’r gwariant y pen gynyddu.

Page 3: RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD

www.gwyneddbusnes.net 03

Caru LlŷnYmgyrch hyrwyddo newydd yw ‘Caru Llŷn’ i ledaenu’r gair ynghylch Pen Llŷn. Mae’r ymgyrch yn cynnwys ap a gwefan newydd, a chylchgrawn ‘ffordd o fyw’ sy’n anelu at unrhyw un sy’n hoffi Pen Llŷn neu sy’n ymddiddori yn yr ardal.

Gyda buddsoddiad o fwy na £50,000 mae tîm ymgyrchu Llŷn yn bwriadu

cynnwys negeseuon naid yn ymwneud â hanes, canllawiau ar gyfer y llwybr arfordirol, rhestr o ddigwyddiadau, gweithgareddau, lleoedd i ymweld â hwy a mannau aros, yn ogystal â rhestrau o siopau, caffis a thai bwyta. Hefyd bydd map cynhwysfawr yn dangos y pellteroedd i unrhyw gyrchfan a nodir, orielau o ffotograffau a chlipiau fideo – a’r cwbl er mwyn helpu unrhyw un i gynllunio ei ymweliad neu i fanteisio’n llawn ar ei fwynhad o daith i’r ardal. Y gobaith hefyd yw cael system drefnu llety ynghyd â modd o archebu bwrdd mewn tŷ bwyta, rownd o golff neu wers hwylio.

Yn ddibynnol ar ragor o fuddsoddiad yn ystod 2016 a 17, y gobaith yw datblygu proffiliau defnyddwyr, negeseuon naid lleol ar gyfer cynigion, bargeinion a hyrwyddiadau, system chware gemau a system farchnata ar gyfer siopa ar-lein. Y bwriad yw llunio’r meddalwedd er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd eraill a’u datblygu fel proses barhaus.

Syniad y wraig fusnes Helen Griffiths yw’r ymgyrch newydd ‘Caru Llŷn’. Mae Helen yn byw ger Aber-soch ac mae ganddi siop anrhegion Present Thoughts yng nghanol y dref, sy’n cael ei rhedeg ganddi hi â’i phartner Mike Thornbury sydd hefyd yn rhedeg Abersoch Angling. Mae gan y pâr hefyd nifer o eiddo preswyl yn ogystal â chartref gwyliau. Mae Helenwedi bod yn weithgar tu hwnt yng Nghymdeithas Masnacha a Thwristiaeth Aber-soch a’r Cylch (ADTTA) sydd wedi bod yn trefnu gwyliau amrywiol a gweithgareddau hyrwyddo’r pentref.

Mae Helen yn llawn cyffro wrth feddwl am bosibiliadau’r ymgyrch newydd: “Ar y cyd, mae gan ein tîm dros 25 mlynedd o brofiad ym maes cyhoeddi, cysylltiadau cyhoeddus, dylunio a marchnata ynghyd â mwy na 100 mlynedd o wybodaeth am Ben Llŷn. Rydym i gyd yn llawn brwdfrydedd ac yn teimlo’n angerddol ynglŷn â hyrwyddo’r ardal.”

Yn ogystal â’r ap a’r wefan bydd y tîm yn cynnal tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram a fydd yn rhoi’r manylion diweddaraf am ddigwyddiadau, hyrwyddiadau busnes, newyddion a storïau.

www.facebook.com/welovellyn

Cyrraedd y Brig

Mae enw Cymru i’w weld ar restr Deg Uchaf cyrchfannau Rough Guide eleni, gan drechu cyrchfannau poblogaidd ymysg teithwyr, fel Kenya a Sri Lanka. Mae’r cofnod am Gymru yn tynnu sylw at y ffaith fod “Blwyddyn Antur” Cymru yn 2016 yn gyfle perffaith i ymweld â’r wlad. Meddai hefyd: “Mae llawer o hyd heb sylweddoli gwir werth y wlad fechan hon, sy’n aml yn cael ei bwrw i’r cysgod gan ei chymdogion. Ond mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gymru – mae’r wlad yn ennill gwobrau am ei harddwch eithriadol a’i safleoedd hanesyddol sydd wedi eu cadw’n hynod o dda. Bydd lleibwyr diwylliant, rhai sy’n ymddiddori mewn bwyd, gwyliau, anturiaethwyr, cerddwyr a rhai sy’n mwynhau chwaraeon eithafol yn cael eu swyno yma, ... yng nghanol copaon garw Eryri, Darllenwch fwy: www.roughguides.com/best-places/2016/top- 10-countries/#ixzz416P4egCP

Mae Cymru’n ymddangos hefyd yn Best Places to Visit 2016 Travel and Leisure USA, cylchgrawn a gwefan flaenllaw a chylchgrawn Wanderlust sy’n dweud: “Mae (Blwyddyn Antur 2016) yn gydnabyddiaeth amserol o’r nifer dirifedi o lwybrau beicio mynydd o safon fyd-eang; o’r llwybr arfordirol sy’n mynd o amgylch y wlad; o’r gwifrau gwib hirfaith a hynod gyflym a osodwyd ar draws Chwarel y Penrhyn yn 2013.” Mae nodwedd Lonely Planet ar y we hefyd yn cyfeirio at y thema o antur: www.lonelyplanet.com/travel-tips-and-articles/new-open-ings-in-2016

Mae’n ymddangos mai Cymru yw’r lle i ymweld ag ef eleni!

Cinio Gala RhBGCofiwch adael lle gwag yn eich dyddiadur ar gyfer Wythnos Busnes Gwynedd (16 - 20 Mai). Nos Iau, 19 Mai yw noson Cinio Gala Wythnos Busnes Gwynedd, a gynhelir eleni yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor. Un o uchafbwyntiau’r noson ragorol hon yw’r seremoni wobrwyo lle cyflwynir y wobr chwenychedig Person Busnes y Flwyddyn Gwynedd. Cadwch lygad ar eich holl e-byst o hyn ymlaen i gael rhagor o fanylion, a fydd yn cael eu dosbarthu yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad.

Page 4: RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD

04 www.gwyneddbusnes.net

Newidiadau ar y gweill ar Lan y Dŵr yng NghaernarfonMae gwaith wedi cychwyn ar drawsffurfio canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon, fel rhan o brosiect dwy ran gwerth £150,000 a fydd yn ailgynllunio bar a chaffi’r ganolfan, yn ogystal ag ailddatblygu’r sinema i gynnwys cyfleuster dwy sgrîn bwrpasol, sef uchafbwynt y cynllun £4m.

Bydd y bar a’r caffi yn Galeri yn cael eu “hagor allan” i Ddoc Fictoria ac yn cynnwys ffenestri llawn hyd a llwyfan decin i roi’r ymdeimlad o’r lleoliad i gwsmeriaid a chaniatáu iddynt werthfawrogi awyrgylch y lle unigryw hwn yn llawn. Mae gwaith eisoes wedi cychwyn ar ailgynllunio’r bar, lle bydd cownter newydd yn cael ei osod, yn ogystal â gwell goleuadau, llawr newydd a ffenestri ‘bi-fold’ a fydd yn agor allan i’r doc. Hefyd, bydd y gegin, sydd wedi cau ers y llynedd, yn ailagor yn y gwanwyn, a bydd y ffenestri newydd a’r decin yn rhoi cyfle i’r cwsmeriaid fwyta a mwynhau’r lleoliad yn fwy nag y gellid cyn hynny.

Meddai Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri: “Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein perfformiad fel cwmni. Er mwyn cryfhau ein safle masnachol mae angen gwella cynllun ein caffi presennol ac ardal y bar mewn ffyrdd a fydd yn caniatáu inni fanteisio’n llawn ar ein lleoliad rhagorol. Mae hefyd angen gwella ein gofal cwsmeriaid a’n gwasanaeth i’r cyhoedd, ac rydym yn gweithio ar hynny hefyd.”

Meddai Aled Jones, y Rheolwr Cyffredinol: “Mae’r harbwr ardderchog hwn gennym, ond pan ydych chi’n eistedd yn y bar neu yn y caffi nid ydych yn sylwi arno mewn gwirionedd. Fel rhan o’r gwaith adnewyddu hwn, rydym yn gosod ffenestri ‘bi-fold’ gyda rhan o’r wal yn dod i ffwrdd, felly wrth ichi ddod i mewn i’r dderbynfa bydd y ffaith eich bod ger y dociau yn eich taro’n syth, a byddwn yn ymestyn y caffi i lwyfan y decin. Mae’r holl beth yn fater o wneud i’r adeilad a’r lleoliad hwn weithio’n well i ni, ac i’r cwsmer hefyd.” Yn y caffi byddwn yn cynnig cynnyrch ffres lleol, ac yn helpu i gynyddu’r nifer o bobl sy’n dod yma – a hynny cyn ail gam y prosiect.

Yr adeg honno bydd sinema dwy-sgrîn bwrpasol yn cael ei hadeiladu, yr unig gyfleuster o’i fath yn yr ardal. Bydd hyn yn ei dro yn rhyddhau’r defnydd a wneir o’r theatr gyfredol, sydd wedi ei rhannu rhwng ffilmiau a pherfformiadau byw, gan ganiatáu cynhyrchu incwm ychwanegol drwy drefniant llogi preifat a chynadleddau. Bydd y tîm dylunio’n cael ei arwain gan y pensaer Richard Murphy, cynllunydd gwobrwyedig Galeri, a bydd yn cyflwyno’r cynlluniau terfynol yr haf hwn, a’r bwriad fydd cychwyn ar y gwaith y flwyddyn ganlynol cyn yr agoriad arfaethedig yn 2018. www.galericaernarfon.com

Argraff yr artist o ailddatblygiad Galeri

Page 5: RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD

05www.gwyneddbusnes.net

Parc Carafanau Newydd yn Gwella LlanberisYm mis Mawrth agorodd cyrchfan dwristiaeth ddiweddaraf Llanberis: y parc carafanau teithiol gwerth £1 miliwn ar safle Glyn Rhonwy yn y dref. Mae’r gweithredwyr Morris Leisure yn dweud y bydd y parc, sy’n cynnwys 54 safle ar 8 acer o dir ar gyrion y dref, yn cynhyrchu mwy na £200,000 y flwyddyn ar gyfer yr economi leol, yn seiliedig ar ffigurau Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain.

Ymhlith rhai o’r nodweddion sydd ar gael ym Mharc Carafanau Teithio Llanberis ceir safle gwasanaeth arbenigol i gartrefi modur, yn ogystal â chyfleusterau i’r anabl, golchdy pwrpasol â chyfleusterau llawn a WIFI. Ceir darpariaeth diogelwch llawn ar y safle, a chroesewir cŵn. Roedd y safle

hwn, a oedd, yn wreiddiol, yn rhan o waith llechi, yn cynnwys swyddfeydd safle tra oedd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn cael ei hadeiladu, ond bellach mae wedi cael ei ailddatblygu a’i dirlunio’n llwyr. Defnyddiwyd contractwyr lleol ble bynnag oedd hynny’n bosibl yn y broses, ac yn ogystal â chreu swyddi yn yr ardal, mae Morris Leisure yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r gymuned leol.

www.morris-leisure.co.uk/caravan-parks/llanberis-touring-park.htm

'Bwyta, Ŷf a Bydd Lawen' gyda Chynnyrch GwyneddAm bob £1 sy’n cael ei gwario yng Ngwynedd, mae mwy na 60% yn mynd i’r economi leol. Dyma’r neges sy’n cael ei lledaenu gan brosiect datblygu newydd yn y sir. Mae’r Prosiect Cywain, sy’n cael ei ariannu gan Bwyd a Diod i Gymru, wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth yn arddangos manteision prynu cynnyrch lleol. Mae Prynu'n Lleol Gwynedd / Buy Local Gwynedd yn amlinellu’r amrywiaeth enfawr o gynnyrch sydd ar gael yn yr ardal.

Mae’r rhain yn cynnwys brand newydd o jamiau a phiclau a wnaed â ffrwythau a llysiau sy’n cael eu tyfu yn Llithfaen ym Mhenrhyn Llŷn. Mae gan Sharon a Vince Mears eu tyddyn eu hunain lle maent yn tyfu cynnyrch tymhorol i wneud amrywiaeth o jamiau, siytnis a chordialau yn ogystal â cheuled lemon bendigedig a Siytni Riwbob Tanllyd.

Mae gan Beri Da hefyd lawer i ymffrostio yn ei gylch gyda chynnyrch newydd yn cael ei lansio ar ffurf Finegr Raw Raw Aerona Fruit Berry, a Siytni Gaeaf. Cipiodd y cwmni hefyd ddwy brif wobr: Gwobr Aur y Great Taste Award a Chynnyrch y Flwyddyn yn y Sioe Frenhinol. Mae’r holl gynnyrch wedi eu gwneud o “fwydydd daionus” sef aeron Aronia sy’n cael eu tyfu ar lethrau isaf Eryri.

Cafodd “Bîff Luing Cymreig” ei lansio gan Iwan ac Eleanor Davies ar ddechrau 2015 a hwy yw cyflenwyr Cymreig cyntaf y brid hwn sy’n dod yn wreiddiol o ynysoedd yr Alban ac mae ganddynt uned yn Hafod y Maidd, Cerrigydrudion.

Mae’r fenter Prynu’n Lleol Gwynedd yn canolbwyntio ar fanteision

S

www.facebook.com/prynunlleolgwynedd

Sharon a Vincent Mears, Fferm Treddafydd

Cynnyrch lleol Sharon a Vincent Mears

economaidd ac amgylcheddol siopa’n rhanbarthol - mae llai o deithio a llai o alw am gludo nwyddau o dramor yn golygu llai o garbon, llygredd a thagfeydd traffig. Mae cefnogi busnesau lleol yn helpu i annog twf yn yr economi leol yn hytrach na chanolfannau siopa ar gyrion trefi. Gall prynwyr craff hefyd fyw yn iachach a mwynhau cynnyrch o’r ansawdd gorau.

Page 6: RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD

06 www.gwyneddbusnes.net

Mae’r rhaglen dramor wedi cael ei dyfeisio i adlewyrchu datblygiadau rhyngwladol cyfredol sy’n cyflwyno cyfleoedd gwirioneddol i Fusnesau Cymru.

Hefyd, yn ystod mis Chwefror, trefnwyd gweithdai, sesiynau un-i-un a seminarau ledled Cymru, oedd yn cwmpasu amrywiaeth fawr o bynciau cysylltiedig ag allforio. Roedd y rhain yn cynnwys Sut i Allforio, I ble i Allforio a sut y gall Llywodraeth Cymru helpu yn y broses. Er mwyn darganfod mwy ewch i:

businesswales.gov.wales/cy/zones/export/export-events

Mae’r gweithdai a’r seminarau yn rhan o’r Hỳb Allforio, rhan o’r ymgyrch ‘Exporting is GREAT’ y D.U. gyfan, sy’n amcanu i gynnig cyfleoedd amser-real i gwmnïau o bob maint. Mae cyngor ac arbenigedd wyneb-yn-wyneb ar gael i gynorthwyo busnesau Cymru ar bob cam o’u taith allforio.

Er mai 5% yn unig o boblogaeth y D.U. oedd yng Nghymru yn 2013/14 enillodd 7.9% o’r prosiectau mewnfuddsoddi. Y gwledydd lle cododd gwerthoedd allforio fwyaf oedd yr Emiriaethau Arabaidd Unedig (£80m yn uwch, 7.2%) a Mecsico ( £48m yn uwch, 168%). Partner masnachu mwyaf Cymru o hyd yw’r U.D. - ac mae’n cyfrif am oddeutu chwarter o’r holl allforion, gwerth £2.9bn.

Marchnadoedd Byd-eangMae Llywodraeth Cymru yn y broses o drefnu digwyddiadau byd-eang er mwyn hyrwyddo masnach i Gymru ac o Gymru. Mae 44 o ddigwyddiadau wedi eu cynllunio mewn 16 gwlad ledled y byd er mwyn annog twristiaeth, mewnfuddsoddi ac allforio. Bydd gweithgaredd targedu marchnata yn digwydd mewn prif ddigwyddiadau yn yr Iseldiroedd, U.D.A., Sgandinafia, Tsieina, Ffrainc a’r Almaen. Mae teithiau masnach yn digwydd yn U.D.A., India, yr Almaen, Canada, Japan a Tsieina.

Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: "Rydym yn awyddus i weld cwmnïau yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd y gall masnachu rhyngwladol eu cynnig ac mae’r rhaglen 2016-17 yn adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol a wnaed yn ystod tymor cyfredol y llywodraeth hon.

"Mae teithiau masnach ac arddangosfeydd tramor yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu i gynyddu allforio o Gymru ac yn rhan o raglen gymorth masnach eang Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau.

"Maent hefyd yn helpu i godi proffil Cymru yn yr arena ryngwladol a hyrwyddo’r sgiliau a’r gwobrau sydd ar gael i fewnfuddsoddwyr posibl drwy ein rhaglenni cymorth."

Page 7: RHWYDWAITH BUSNESGWYNEDD

Newyddion yn Gryno ION Leadership

Ers y dechrau, mae rhaglen LEAD Cymru wedi helpu 900 o reolwyr ledled Cymrui hybu eu trosiant 26% ar gyfartaledd. Nawr, mae ION Leadership wedi cyhoeddi amrediad newydd o

raglenni sy’n amcanu i ychwanegu 600 o gynrychiolwyr eto. Mae’r rhain yn cynnwys y Rhaglen Arwain Cyfnod Cynnar a’r Rhaglen Arwain Datblygu o fis Mawrth 2016 ymlaen, a’r Rhaglen Arwain Uwch sy’n cychwyn ym mis Mai. Yn ystod cyfnod y fenter y gobaith yw ychwanegu 1800 o swyddi i’r economi leol, gyda throsiant ychwanegol rhagamcanol o £58,000 y cynrychiolydd. Ceir amserlen digwyddiadau rhagflas di-dâl yn: www.ionleadership.co.uk/cy/preview-events neu i ganfod mwy am y cyrsiau ewch i: www.ionleadership.co.uk/cy

Dyfarnu cytundeb 2-flynedd i Caulmert

Mae Caulmert, yr arbenigwyr cynllunio amgylcheddol ym Mangor, newydd ennill prosiect dwy flynedd i fonitro crynodiadau o halen a gludir yn yr awyr ar safle gorsaf bŵer Wylfa Newydd. Byddant yn cofnodi lefelau’r halen ym mhob rhan o’r safle, ac yn asesu ei effeithiau ar amrediad o ddeunyddiau adeiladu,argaenau, ayb. Bydd eu canfyddiadau yn cael eu croesgyfeirio gyda data metereolegol a gesglir ar y safle i ddarparu darlun manwl

o amodau ar safle’r Adweithydd Dŵr Berw Uwch newydd.Meddai Jim McClymont, y prif wyddonydd amgylcheddol: “Wrth adeiladu’r pwerdy, mae’n hanfodol fod ymchwil yn cael ei wneud i archwilio’r effeithiau amgylcheddol posibl yn yr ardal. Bydd dau o’n gwyddonwyr amgylcheddol o’n swyddfa ym Mangor yn ymweld â’r safle am bythefnos bob dau fis dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y canfyddiadau wedyn yn cael eu cyflwyno i Horizon Nuclear Power, gweithredwyr y gwaith, yn ogystal â chynghorion mewn perthynas â diogelu eu peiriannau a’u hoffer rhag yr amodau lleol.”

caulmert.com

Busnes@LlandrilloMenai

Busnes@LlandrilloMenai yw’r gwasanaeth cyflogwyr-seiliedig ar gyfer Grŵp colegau Gogledd Cymru. Yn ddiweddar maent wedi cyhoeddi llyfryn newydd ar Gyrsiau Byr: www.gllm.ac.uk/courses/short-courses//?LangType=1106 yn amlinellu’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer busnesau sy’n chwilio am hyfforddiant. Mae’r rhain yn cynnwys prentisiaethau a NVQs, cyrsiau byrion, cyrsiau proffesiynol a gwasanaethau

Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd DolgellauMae busnesau yn Nolgellau wedi cael eu diogelu rhag y bygythiad o lifogydd drwyuwchraddio cloddiau llifogydd ar hyd Afon Wnion, fel rhan o gynllun amddiffyn newydd i reoli’r perygl o lifogydd

Roedd Gwaith Llechi Inigo Jones o’r Groeslon yn falch o ddarparu’r plac llechen Gymreig swyddogol i goffau’r gwaith, a chafodd hwn ei ddadorchuddio’n swyddogol gan Carl Sergeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ym mis Chwefror.

www.inigojones.co.uk

Unrhyw Sylwadau

Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef Cylchlythyr diweddaraf Rhwydwaith Busnes Gwynedd. Byddem yn gwir werthfawrogi cael unrhyw ymateb gennych.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu syniadau ar ffyrdd y gallwn ei wella, cofiwch adael inni wybod.

E-bostiwch y Golygydd Jacquie Knowles ar: [email protected]

I ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith ewch i: www.gwyneddbusnes.net

© 2016 Rhwydwaith Busnes Gwynedd Ysgrifennwyd a golygwyd gan : Jacquie Knowles

Dylunwyd gan:

Sylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol am unrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.

07www.gwyneddbusnes.net

arbenigol. Ceir saith o Ymgynghorwyr Datblygu Busnes (BDAs) i ymdrin â meysydd penodol o’r cwricwlwm ac mae’r tîm yn cael ei arwain gan Lesley Thomas, Pennaeth Cynorthwyol - Ymgysylltu â Chyflogwyr y Grŵp.