rhwydwaith busnes gwynedd · 2019. 2. 18. · - yw’r coleg addysg mwyaf bellach yng nghymru ac un...

6
01 Cydnabyddiaeth Genedlaethol i Westy Ecogyfeillgar Ar ôl dod i’r brig mewn cystadleuaeth anodd, cyflwynwyd gwobr genedlaethol Tîm Gwyrdd ‘meddylgar’ y Flwyddyn 2014 i westy ecogyfeillgar Bryn Elltyd. Ymhlith yr enwebiadau eraill roedd gwesty sy’n perthyn i grŵp Best Western, a’r llynedd cafodd yr un wobr ei dyfarnu i’r Savoy yn Llundain, felly mae’n gamp aruthrol i’r gwesty 6 ystafell wely yn Nhanygrisiau. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Bryn Elltyd gael buddugoliaeth yn y gwobrau hyn, ar ôl cipio gwobr Darparwr Llety Bychan y Flwyddyn yn 2013. Mae Bryn Elltyd yn cael ei gadw gan ŵr a gwraig, John a Ceilia Whitehead, sydd wedi bod yn masnachu am chwe blynedd. Maent wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y gwesty ecogyfeillgar bellach yn ‘ddi-garbon’ a’r holl egni sy’n ei gyrraedd yn deillio o ffynonellau egni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys gwres, golau, sawna, tri man i wefru ceir, a’r gegin, felly mae’r holl drydan un ai’n cael ei gynhyrchu ar y safle neu’n dod o ffynonellau adnewyddadwy yn y DU. Mae dŵr glaw yn cael ei hidlo a’i ddefnyddio i fflysio’r toiledau ac mae’r gwastraff yn cael ei drin yn fiolegol. Mae’n cyrraedd pen ei siwrnai mewn gwely cyrs bychan, a phwll hwyaid gyda brithyll, a theulu o hwyaid yn byw yn hapus gerllaw! Mae John a Ceilia wedi cynaeafu eu pren eu hunain i wneud byrddau bwyta a byrddau coffi, siliau ffenestri, gwelyau blodau a rhywfaint o’r pren yn yr adeilad ei hun. Gan ei fod yn ymwybodol fod ei ymwelwyr yn mwynhau tanllwyth o dân logiau, mae John yn storio tua 11 tunnell o goed tân tymhorol, gan ddefnyddio system sy’n defnyddio tua thraean y pren a ddefnyddir fel arfer mewn llosgydd logiau arferol. Mae’n credu fod ynysiad da ynghyd â thechnegau adeiladu medrus hefyd yn allweddol ar gyfer arbed ynni. Er hynny, mae’n cyfaddef bod cael waliau cerrig 39 modfedd o drwch, a charreg sy’n dod o’r chwarel gyferbyn, wedi helpu i sicrhau bod y tŷ yn glyd a chynnes. Mae cymwysterau gwyrdd John fodd bynnag yn ymestyn y tu hwnt i gynnal a chadw’r adeiladau, fel yr eglura: “Rydym yn credu mewn prynu yn lleol, hyd yn oed os yw’n costio mwy. Rydym yn prynu 80% o’n nwyddau o fewn deng milltir i’r tŷ, gan fod ein hymwelwyr yn gwerthfawrogi gwybod yn union o ble y daw eu bwyd. Mae eitemau mawr a phethau parhaol, hefyd yn cael eu cynhyrchu’n lleol, er enghraifft y ddau estyniad gwydr, ac, yn ogystal, daw’r pelenni tanwydd pren o’r ardal. “Fel gŵr busnes, y balchder o ennill y wobr oedd y profiad gorau a gefais erioed. Mae’n anhygoel, o feddwl mai dim ond fy ngwaith i a Ceilia sy’n gyfrifol am hyn, a’n brwdfrydedd at yr amgylchedd a’n hardal. Rydym yn ceisio byw mewn harmoni â natur - dim ond rentu’r lle yma ydym yn ei wneud ar gyfer ein hwyrion!” Ar ôl derbyn canmoliaeth gan Considerate Hotels sy’n cyfeirio atynt fel “esiampl ddisglair o gynaladwyedd” ac am eu holl ymdrechion a’u menter, cafodd y cwpl eu hanrhydeddu yn briodol â’r wobr yn ystod Cinio Gala yng Ngwesty Langham yn Llundain yn gynharach eleni. Dywed Considerate Hotels fod hwn yn gyfle perffaith iddynt gydnabod gwestywyr sy’n dangos eu bod yn gofalu, nid yn unig am eu busnesau, ond hefyd am eu hymwelwyr, eu staff, y gymuned a’r blaned. www.ecoguesthouse.co.uk John a Ceilia Whitehead yng Ngwesty Langham Hawlfraint © Nick Cunard Bryn Elltyd RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD Rhifyn 12, Hydref 2014 www.gwyneddbusnes.net

Upload: others

Post on 29-Jan-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 01

    Cydnabyddiaeth Genedlaethol i Westy Ecogyfeillgar

    Ar ôl dod i’r brig mewn cystadleuaeth anodd, cyflwynwyd gwobr genedlaethol Tîm Gwyrdd ‘meddylgar’ y Flwyddyn 2014 i westy ecogyfeillgar Bryn Elltyd. Ymhlith yr enwebiadau eraill roedd gwesty sy’n perthyn i grŵp Best Western, a’r llynedd cafodd yr un wobr ei dyfarnu i’r Savoy yn Llundain, felly mae’n gamp aruthrol i’r gwesty 6 ystafell wely yn Nhanygrisiau. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Bryn Elltyd gael buddugoliaeth yn y gwobrau hyn, ar ôl cipio gwobr Darparwr Llety Bychan y Flwyddyn yn 2013.

    Mae Bryn Elltyd yn cael ei gadw gan ŵr a gwraig, John a Ceilia Whitehead, sydd wedi bod yn masnachu am chwe blynedd. Maent wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y gwesty ecogyfeillgar bellach yn ‘ddi-garbon’ a’r holl egni sy’n ei gyrraedd yn deillio o ffynonellau egni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys gwres, golau, sawna, tri man i wefru ceir, a’r gegin, felly mae’r holl drydan un ai’n cael ei gynhyrchu ar y safle neu’n dod o ffynonellau adnewyddadwy yn y DU. Mae dŵr glaw yn cael ei hidlo a’i ddefnyddio i fflysio’r toiledau ac mae’r gwastraff yn cael ei drin yn fiolegol. Mae’n cyrraedd pen ei siwrnai mewn gwely cyrs bychan, a phwll hwyaid gyda brithyll, a theulu o hwyaid yn byw yn hapus gerllaw!

    Mae John a Ceilia wedi cynaeafu eu pren eu hunain i wneud byrddau bwyta a byrddau coffi, siliau ffenestri, gwelyau blodau a rhywfaint o’r pren yn yr adeilad ei hun. Gan ei fod yn ymwybodol fod ei ymwelwyr yn mwynhau tanllwyth o dân logiau, mae John yn storio tua 11 tunnell o goed tân

    tymhorol, gan ddefnyddio system sy’n defnyddio tua thraean y pren a ddefnyddir fel arfer mewn llosgydd logiau arferol. Mae’n credu fod ynysiad da ynghyd â thechnegau adeiladu medrus hefyd yn allweddol ar gyfer arbed ynni. Er hynny, mae’n cyfaddef bod cael waliau cerrig 39 modfedd o drwch, a charreg sy’n dod o’r chwarel gyferbyn, wedi helpu i sicrhau bod y tŷ yn glyd a chynnes. Mae cymwysterau gwyrdd John fodd bynnag yn ymestyn y tu hwnt i gynnal a chadw’r adeiladau, fel yr eglura:

    “Rydym yn credu mewn prynu yn lleol, hyd yn oed os yw’n costio mwy. Rydym yn prynu 80% o’n nwyddau o fewn deng milltir i’r tŷ, gan fod ein hymwelwyr yn gwerthfawrogi gwybod yn union o ble y daw eu bwyd. Mae eitemau mawr a phethau parhaol, hefyd yn cael eu cynhyrchu’n lleol, er enghraifft y ddau estyniad gwydr, ac, yn ogystal, daw’r pelenni tanwydd pren o’r ardal.

    “Fel gŵr busnes, y balchder o ennill y wobr oedd y profiad gorau a gefais erioed. Mae’n anhygoel, o feddwl mai dim ond fy ngwaith i a Ceilia sy’n gyfrifol am hyn, a’n brwdfrydedd at yr amgylchedd a’n hardal. Rydym yn ceisio byw mewn harmoni â natur - dim ond rentu’r lle yma ydym yn ei wneud ar gyfer ein hwyrion!”

    Ar ôl derbyn canmoliaeth gan Considerate Hotels sy’n cyfeirio atynt fel “esiampl ddisglair o gynaladwyedd” ac am eu holl ymdrechion a’u menter, cafodd y cwpl eu hanrhydeddu yn briodol â’r wobr yn ystod Cinio Gala yng Ngwesty Langham yn Llundain yn gynharach eleni. Dywed Considerate Hotels fod hwn yn gyfle perffaith iddynt gydnabod gwestywyr sy’n dangos eu bod yn gofalu, nid yn unig am eu busnesau, ond hefyd am eu hymwelwyr, eu staff, y gymuned a’r blaned.

    www.ecoguesthouse.co.uk

    John a Ceilia Whitehead yng Ngwesty Langham

    Hawlfraint © Nick Cunard

    Bryn Elltyd

    RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDDRhifyn 12, Hydref 2014

    www.gwyneddbusnes.net

  • 02

    Mae amrywiaeth o gyrsiau arwain a rheoli, sydd wedi eu hanelu at y gymuned fusnes yng Ngogledd Cymru, bellach yn cael ei ddarparu gan Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) yng Nghanolfan Rheolaeth fawreddog Prifysgol Bangor. Mae’n ddatblygiad sy’n cryfhau’r berthynas sy’n bodoli eisoes rhwng y ddau sefydliad.

    Mae’r cymwysterau hyfforddi proffesiynol sydd ar gael yn y Ganolfan Rheolaeth yn amrywio, o arweinydd tîm (Lefel 2) i swyddog gweithredol (Lefel 7), gan anelu at ddatblygu sgiliau a gwella cyflogadwyedd. Maent wedi eu hachredu gan gymdeithasau arbenigol cenedlaethol fel Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) a’r Sefydliad Marchnata (CIM). Mae Rhaglen tymor yr Hydref y cyrsiau sy’n cael eu cynnal gan Grŵp Llandrillo Menai bellach wedi cychwyn.

    Yr uwch goleg gwerth £75 miliwn, Grŵp Llandrillo Menai – sy’n cynnwys Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor - yw’r coleg addysg mwyaf bellach yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf yn y DU. Mae’n cyflogi mwy na 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i oddeutu 27,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys 1,200 ar lefel gradd. Mae Canolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor yn gwneud ei marc fel prif ganolfan busnes, ac y mae ganddi’r enw am ddatblygu a dysgu cyrsiau busnes sy’n hynod berthnasol i anghenion gyrfaol.

    Er mwyn cael gwybodaeth a dyddiadau’r cyrsiau ewch i: www.themanagementcentre.co.uk/education.php.en neu ffoniwch: 01248 365 992 E-bost: [email protected]

    GLlM yn Y Ganolfan Rheolaeth

    www.gwyneddbusnes.net

    Mae busnes yn Nolgellau wedi profi fod ‘y pethau bychain’ yn gallu bod yn wirioneddol hardd, drwy gipio gwobr ‘Prif Westy Ffasiynol Cymru’ yn y World Travel Awards yn ddiweddar yn Athen, Gwlad Groeg. Llwyddodd Ffynnon - gwesty bychan 5 seren lle ceir 6 ystafell wely foethus - i ddod i’r brig mewn cystadleuaeth anodd a hawlio’r wobr chwenychedig.

    Mae’r World Travel Awards, sy’n adnabyddus yn fyd-eang, yn 21 oed eleni, ac yn amcanu i ddathlu’r sefydliadau hynny sy’n herio ffiniau rhagoriaeth y diwydiant. Wrth ddethol yr ymgeiswyr ar gyfer gwobr ‘Leading Boutique Hotel’ gofynnwyd i ysgrifenwyr teithio ac arbenigwyr y diwydiant enwebu lletyau arloesol o safon, sy’n cynnig profiad cofiadwy i ymwelwyr ac sy’n flaengar o ran gwasanaeth cwsmeriaid, cyfforddusrwydd a lletygarwch. Yna, pleidleiswyd i’r rhai oedd wedi cyrraedd y rhestr fer gan aelodau’r cyhoedd.

    “Does dim dwywaith - rydym ni’n wrth ein boddau o fod wedi ennill” meddai’r cydberchennog Debra Harris, “yn arbennig gan fod y wobr hefyd yn seiliedig ar bleidlais y cyhoedd ac adborth ein hymwelwyr.”

    Drwy drawsnewid adeilad a fu unwaith yn ysbyty bach cyntaf y dref, yn westy bychan cartrefol, ceisiodd Debra a’i gŵr Steve Holt greu cyrchfan o safon a fyddai’n gallu cystadlu â chyrchfannau ‘trendi’ rhyngwladol eraill. Ers agor ei ddrysau yn 2007 mae Ffynnon wedi cael sylw mewn sawl cylchgrawn teithio amlwg, ar y teledu, y radio ac yn y wasg genedlaethol.

    “Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o ymwelwyr tramor. Maent yn darganfod pa mor rhyfeddol yw’r rhan hon o’r byd ac yn aml iawn maent yn dod yn ôl i aros am gyfnodau hwy. Mae cael cydnabyddiaeth fel hyn yn anrhydedd enfawr ac yn brawf i ymroddiad a ffyddlondeb ein staff.”

    Yn wreiddiol, ‘Brynffynnon’ oedd enw’r plasty trefol Gothig a Fictoraidd hwn sydd wedi ei leoli ar dir preifat ei hun. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol fel rheithordy ym 1885, a defnyddiwyd yr adeilad fel cartref i gleifion oedd yn dioddef effeithiau nwy mwstard yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a hwn oedd ysbyty bach cynta’r dref rhwng 1920 a 1932. Mae tystiolaeth o’i hanes amrywiol wedi ei adlewyrchu yn ei bensaernïaeth, gan gynnwys ffenestri gwydr lliw, gwaith plaster cywrain a chorffdy.

    Meddai Graham Cooke, Llywydd World Travel Awards: “Ar hyn o bryd mae Ewrop yng nghanol adferiad cyflym yn dilyn dwy flynedd anodd iawn, ac mae’r brandiau sydd wedi cipio ein gwobrau heno yn flaenllaw yn yr ymgyrch hon. Mae ein pleidleiswyr wedi cydnabod mai’r rhain yw prif chwaraewyr y diwydiant a fydd yn arwain yn y maes dros y blynyddoedd nesaf. Mae hwn yn ysgogiad i’w llwyddiant parhaus.”

    E-bost: [email protected] / www.ffynnontownhouse.com

    Gwesty Ffasiynol yn Ennill Cydnabyddiaeth Ryngwladol

    Debra Harris a Steve Holt

  • 03

    Lleddfu’r Pwysau Yr Hydref hwn bydd gan weithwyr dan straen yng Ngwynedd wasanaeth corfforaethol i edrych ymlaen ato. Mae’r clinig therapi tylino’r corff a gynigir gan Ganolfan Iechyd Da, wedi ei leoli yng Nghricieth, a bellach mae rhaglen o driniaethau ar gyfer y ‘gweithle’ ar gael, a allai arwain at leddfu’r straen. Rhan hanfodol o’r therapi yw’r Gadair Fendith, cadair a gynlluniwyd yn arbennig lle gall y dioddefwyr fwynhau tylino adnewyddol a fydd wedi ei addasu yn arbennig ar gyfer eu hanghenion unigol.

    Mae sesiynau therapi unigol yn para 15 munud ac yn amcanu at fynd i’r afael â phryderon cyhyrol-esgyrnol, ynghyd â phroblemau iechyd meddwl megis straen, iselder a gorbryder, sy’n gallu llesteirio’r gallu i ganolbwyntio ac arwain at golli cynhyrchiant. Ar ôl sesiwn o therapi, mae Canolfan Iechyd Da yn honni y gall cleientiaid deimlo gwelliannau adnewyddol y diwrnod hwnnw, ynghyd â manteision sy’n para am wythnosau. Yn awyrgylch gwaith llawn pwysau heddiw, mae’r perchennog, Dr. Christopher Jones, yn

    gwbl argyhoeddedig o fanteision therapiwtig ‘cadair dylino’ ar y safle. Mae’n pwysleisio gymaint o amser sy’n cael ei golli o’r gwaith o ganlyniad i anhwylderau sy’n gysylltiedig â straen, a hyn yn gallu effeithio’n sylweddol ar elw’r cwmnïau. Meddai:

    “Yr amcan yw lleihau absenoldeb tymor byr a hir dymor ymysg gweithwyr, nid dim ond ei reoli. Rydym yn credu fod atal yn well na gwella, ac mae’n costio llawer llai hefyd. Hyd yn oed os nad yw absenoldeb staff yn broblem fawr i’ch cwmni, mae cadair dylino ar y safle yn hwb mawr, ac yn gwella perfformiad a chynhyrchiant.”

    Yn ôl Adroddiad Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad yn Hydref 2013, ar gyfartaledd, mae 24 diwrnod y flwyddyn yn cael eu colli o ganlyniad i straen, gorbryder neu iselder, gyda straen cysylltiedig â’r gwaith yn cyfrif am 40% o’r holl absenoldebau a’r dyddiau gwaith a gollir.

    Os hoffech samplu manteision rhaglen cadair dylino ar gyfer eich gweithle, yna cysylltwch â’r Gadair Fendith i gael sesiwn 3 awr yn rhad ac am ddim: 01766 522215 neu e-bostiwch: [email protected]

    www.cadairfendith.co.uk

    Bywyd Newydd i Erddi Hanesyddol

    Ar ôl chwe mis o waith trylwyr, mae gerddi hanesyddol Plas Tan Y Bwlch, bellach ar agor unwaith eto i’r cyhoedd. Yn dilyn stormydd geirwon mis Chwefror, bu’n rhaid cau’r gerddi am resymau yn ymwneud â diogelwch, ond bellach maent wedi cael eu hadfer, ynghyd ag ychwanegiad o tua 2,000 o blanhigion a choed newydd, fel bo ymwelwyr unwaith eto yn gallu eu mwynhau.

    Achosodd y stormydd a’r curlaw trwm ddifrod sylweddol i’r gerddi, sy’n rhai rhestredig Gradd II, ac a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig (SoDdGA). Cafodd ugeiniau o goed ganrifoedd oed eu difetha, ac wrth syrthio malwyd llawer o blanhigion prin ac anarferol.

    “Roedd yn union fel golygfa mewn ffilm drychineb”, meddai Chris Marshall, Prif Arddwr Plas Tan y Bwlch. “Roedd llwybrau wedi cael eu codi a’u dinistrio gan wreiddiau’r hen goed mawreddog hyn, wrth iddynt syrthio i’r llawr a chafodd nifer helaeth iawn o gynefinoedd arbennig eu dinistrio.”

    Mae’r gwaith a wnaed yn gam cyntaf cynllun adfer cyffredinol sy’n bwriadu adfer y gerddi i’w hysblander blaenorol. Mae’r ystafell de newydd sy’n gwerthu teisennau a brechdanau cartref a baratowyd yng nghegin y Plas hefyd wedi agor, ac mae sawl datblygiad cyffrous ar y gweill. Rhai o nodweddion y safle yw planhigion fel coed rhododendron yr Himalaia sydd oddeutu 200 oed a chredir mai dyma rai o’r rhai hynaf yng Nghymru.

    Meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

    “Rydym yn gobeithio dechrau ar y gwaith adfer maes o law, i sicrhau y bydd y gerddi yn cynnig cynefinoedd i amrediad amrywiol o famaliaid a phryfed ac y bydd yn barod i wynebu effeithiau newid hinsawdd. Ein nod pennaf yw sicrhau fod y gerddi yn cael eu hadfer i’w hen ogoniant, a’u hailsefydlu mewn ffordd a fydd yn caniatáu i genedlaethau o ymwelwyr eu mwynhau.”

    Mae Plas Tan y Bwlch yn ystâd a dirluniwyd yng nghanol Oes Fictoria, ac sydd wedi ei hamgylchynu gan 13 acer o goetir, parcdir a gerddi. Ar un adeg roedd y maenordy yng nghanol yr ystâd, yn gartref i deulu cyfoethog Oakeley. Gwnaethant eu ffortiwn drwy gyflenwi llechi Cymru yn rhyngwladol o’u chwarel gerllaw ym Mlaenau Ffestiniog. Cynlluniwyd yr ardd ffurfiol a’r coetir yn wreiddiol ar gyfer teulu Oakeley gan John Roberts yn y 1880au.

    www.eryri-npa.gov.uk/study-centre

    www.gwyneddbusnes.net

  • 04

    Symudiadau

    Ar ôl treulio 27 mlynedd yng nghanol y dref, mae asiantaeth gyfieithu Cymen newydd ymgartrefu yn Hen Orsaf Heddlu Caernarfon, sy’n adeilad rhestredig Gradd I, gyferbyn â’r Castell. Roedd y symudiad hwn i adeilad mwy yn gam anorfod o ganlyniad i dwf cyson y cwmni dros y blynyddoedd diwethaf, a olygodd ei fod wedi gorfod cyflogi staff newydd ac ehangu amrediad ei wasanaethau.

    Roedd yr adeilad, sy’n dyddio’n ôl i 1853, wedi bod yn galw ers tro am waith atgyweirio sylweddol, a diolch i’r adleoliad, mae wedi cael ei drawsffurfio dros y chwe mis diwethaf, i greu swyddfeydd llawn offer, ac eto mae nodweddion ei gyfnod yn parhau i fod yn amlwg. Mae Aled Jones, rheolwr gyfarwyddwr Cymen, yn optimistaidd ynglŷn â rhagolygon hir dymor y busnes, ac mae’n credu bod cydnabod yr angen i ddiogelu a chynnal yr iaith Gymraeg yn cyflymu.

    “Mae’r iaith Gymraeg yn rhan wirioneddol bwysig o dreftadaeth a diwylliant Cymru ac mae cwmnïau a sefydliadau yn ei gweld, fwyfwy, fel elfen sy’n hanfodol ar gyfer llwyddo. Gan mai cynyddu, yn amlwg, y bydd mewnfuddsoddiad yng Nghymru, ac wrth i gadwraeth yr iaith Gymraeg ennill mwy o gefnogaeth gan y Llywodraeth, mae angen cynyddol ar i gwmnïau, yn arbennig y rhai yn y diwydiannau isadeiledd a gwasanaethau, weithio yn ddwyieithog.”

    Mae Cymen yn cynnig amrediad o wasanaethau sy’n cefnogi’r iaith Gymraeg, gan gynnwys cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd, a lleoliadau gwefannol. Cafodd yr adleoli gymorth gan Busnes Cymru, a roddodd grant o £25,000 i wella ategaeth dechnegol yn yr adeilad newydd.

    I gael rhagor o fanylion e-bostiwch: [email protected]

    www.cymen.co.uk

    Systemau Smart i Fusnesau’r DyfodolMae 3-e Electrical newydd ddechrau cynnig systemau awtomatiaeth fodiwlar i fusnesau yng Ngwynedd sy’n defnyddio technoleg soffistigedig y dyfodol. Yn y bwriad o symleiddio ac integreiddio prosesau sy’n bodoli eisoes, mae’r cwmni ym Mhwllheli, yn dweud y bydd gosod ei systemau yn arbed amser ac arian i fusnesau. .

    Mae dyfeisgarwch y system newydd gael ei ddarganfod gan gynhyrchwyr Channel 4 sydd â diddordeb mewn gwneud ffilm am y cartref awtomataidd, ac mae Graeme Harrold, perchennog 3e-Electrical, ar hyn o bryd yn trafod gyda gweithredwyr busnes sy’n awyddus i glywed y manylion. Gan ganmol y manteision, meddai:

    “Rydym wedi bod yn chwilota drwy’r amrediad eang o gynhyrchion ar y farchnad, i ddod o hyd i un oedd yn ticio mwy o flychau nag unrhyw un arall. Roeddem ni’n chwilio am system ddringadwy a allai ymgorffori technolegau eraill a chanddi lefel uchel o “hir oesiad” - a daethom o hyd iddi. Mae’r system hon yn ddelfrydol

    ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i leihau costau cynnal, ychwanegu monitro cadarn, ac awtomeiddio rheolaeth eu hoffer.”

    Bydd defnyddwyr y busnes yn gallu diffodd popeth, newid gosodiadau amser a defnyddio llai ar offer yn ystod y nos drwy ddefnyddio un system reoli ganolog. Gallant hefyd gadw cofnod o’r egni a ddefnyddir a defnyddio pellreolaeth o aps tabledau a ffonau smart. Gellir

    rheoli nifer o ddyfeisiau, er mwyn gallu diffodd goleuadau mewn ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio a diffodd y system wresogi pan agorir ffenestri a drysau. Gellir cofnodi pob mynediad i’r adeiladau gan ddefnyddio allweddau ‘smart’, a thrwy hynny gadw golwg ar unrhyw un sy’n mynd yn ôl ac ymlaen o’r adeilad. Gellir monitro tymheredd a lleithder a rhybuddio cleientiaid os oes amrywiadau annisgwyl yn nhymereddau oergelloedd neu rewgelloedd, a thrwy hyn osgoi colledion costus.

    Rheolir y system gan ei MiniServer ei hun, yr elfen sylfaenol sy’n cysylltu’r holl systemau eraill, fel nad oes angen ei gysylltu â’r rhyngrwyd. Mae meddalwedd gweithredu yn rhad ac am ddim a gellir ei ddiweddaru drwy lawrlwytho ffeiliau.

    www.3-e.co.uk

    Gweithwyr Cymen

    www.gwyneddbusnes.net

    www.gwyneddbusnes.net

  • 05

    Argraff artist o Spaceport America - sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd

    Cymwysterau Mewn Byr Amser

    Mae Ffion Taylor a Philip Davies, rhan o dîm y staff yng nghwmni cyfrifwyr Williams Denton, yn dathlu’r ffaith eu bod newydd ennill statws siartredig ardystiedig yn gynt na’r arfer. Fel arfer mae’n rhaid astudio am bedair blynedd, a sefyll 12 arholiad, ond mae’r ddau ifanc llwyddiannus wedi ennill cymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) mewn llai na thair blynedd. Dechreuodd Ffion a Philip weithio i Williams Denton yn syth ar ôl gadael yr ysgol yn 2007 gan fynd ymlaen i gwblhau prentisiaeth 3 blynedd cyn cychwyn ar y broses o ymgymhwyso. Mae Philip yn argyhoeddedig mai dyma oedd y llwybr gorau iddo o ran gyrfa: “Mae gen i gymhwyster ACCA, mae gen i brofiad go iawn, gyrfa, ac, yn bennaf oll, dim dyled myfyriwr!”

    Mae Williams Denton, sy’n ymroddedig i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc, yn cyflogi tri phrentis yn ei swyddfeydd ym Mangor ac yn Llandudno.

    www.williamsdenton.co.uk

    Ffion Taylor (blaen – ar y chwith) a Philip Davies (cefn – ar y chwith) gyda phrentisiaid cyfredol Williams Denton

    Lansio Ras i’r Gofod Mae maes awyr Llanbedr wedi cyrraedd y rhestr fer o wyth safle sy’n cystadlu am yr hawl i adeiladu porth gofod masnachol cyntaf y DU. Dadorchuddiwyd y cynlluniau yn Sioe Awyr Farnborough ym mis Gorffennaf gan y Gweinidog Awyr, Robert Goodwill.

    Maes awyr Llanbedr, ger Harlech, sy’n gyn-safle’r Awyrlu Brenhinol, yw’r unig safle yng Nghymru i gyrraedd y rhestr fer, gyda chwech o’r lleoliadau eraill yn yr Alban a’r llall yng Nghernyw. Mae Fly Llanbedr Ltd, cwmni a sefydlwyd gyda’r bwriad o ddarparu gweithgareddau hedfan yn y safle, yn credu bod gan y maes awyr leoliad delfrydol. Maent yn pwysleisio ei fod yn arfordirol a bod yno lwybrau hedfan clir, y gellid ehangu ‘gofodborth’ ar gyfer awyrennau o’r meintiau a ragwelir, a’i fod yn gymharol hawdd i’w gyrraedd, a bod patrymau tywydd yn dderbyniol.

    Yn ôl Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, a fu’n trafod y posibilrwydd o Lanbedr yn cael ei ddewis, byddai hyn yn “gyfle gweddnewidiol” i Gymru:

    “Mae gan Gymru eisoes gryfderau ym maes technoleg ofodol a gallai’r porthladd gofodol gael ei ddefnyddio i sefydlogi ac ehangu’r safle technolegol hwn fel rhan o weledigaeth y DU ar gyfer y sector.”

    Mae cynrychiolwyr o Asiantaeth Ofod y DU bellach wedi ymuno â gweinidogion y Llywodraeth mewn proses ymgynghori dri mis cyn dod i benderfyniad ynglŷn â lleoliad y porthladd gofod arfaethedig, a fydd yn agor yn 2018. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cipio 10% o farchnad ofod y byd erbyn 2030, gan ddyfynnu ystadegau i ddangos fod sector y DU bellach yn werth £11.3 biliwn, yn cyflogi 34,000 o bobl ac wedi tyfu mwy na 7% yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Dywedodd y Llywodraeth y byddai porthladd gofod yn agor diwydiant twristiaeth y DU i weithredwyr arbenigol megis Virgin Galactic a XCor. Ar hyn o bryd mae canolfan weithredol Virgin Galactic wedi ei lleoli yn yr Unol Daleithiau ar gyfer ei rhaglen is-orbit, ac mae eu hawyren uchel-hedfan WhiteKnightTwo yn Spaceport America yn Mecsico Newydd.

    www.fly-llanbedr.co.uk

    www.gwyneddbusnes.net

    www.williamsdenton.co.ukgwyneddbusnes.net

  • 06

    © 2014 Rhwydwaith Busnes GwyneddYsgrifennwyd a golygwyd gan : Jacquie Knowles

    Dylunwyd gan:Sylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol

    am unrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.

    Yn GrynoDan yr Ordd

    Mae Dafydd Hardy Estate Agents wedi ymuno ag Auction House UK, un o brif arwerthwyr eiddo masnachol a phreswyl y DU. Bydd hyn yn rhoi’r opsiwn i gleientiaid Dafydd Hardy arwerthu eu safleoedd busnes, gan fanteisio

    ar rwydwaith hyrwyddo cenedlaethol Auction House UK. Bydd hefyd yn bosibl defnyddio’r ystafell arwerthu, a ddefnyddir gan Auction House, yn yr Anglesey Arms ym Mhorthaethwy. Mae Dafydd Hardy yn bwriadu ychwanegu mwy o eiddo arwerthol at ei lyfrau drwy weithio ag asiantaethau gwerthu tai annibynnol ledled Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy a chynnig yr ‘opsiwn arwerthu’ i fwy o werthwyr.

    www.dafyddhardy.co.uk

    Galwad am Danysgrifwyr

    Mae Busnes Cymru, gwasanaeth cefnogi busnes Llywodraeth Cymru, bellach yn cynhyrchu cylchlythyr lle ceir newyddion am ddigwyddiadau, cyrsiau hyfforddi, cynlluniau’r llywodraeth a chyfleoedd

    busnes. Er mwyn tanysgrifio ewch ihttps://public.govdelivery.com/accounts/UKWALES/subscriber/new or visit the home page: www.business.wales.gov.uk

    Cynnig am Westy Newydd ym Mhwllheli

    Dyma gynnig newydd am westy 55 ystafell wely ar safle ger datblygiad yr Academi Hwylio Genedlaethol ym Mhwllheli. Rhagwelir y bydd y gwesty arfaethedig yn costio tua £3m, ac yn cynnwys bar, bwyty a maes parcio i 56 o geir. Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno gan Osborne House Ltd, y cwmni datblygu o Sir Gaer, sydd wedi bod yn cynnal trafodaethau am gryn amser bellach gyda Travelodge, i weithredu fel gweithredwr. Amcangyfrifir y gallai’r fantais economaidd hon i’r ardal fod yn werth oddeutu £800,000 gan greu mwy na 40 o swyddi newydd.

    Llwyddiant yn y Siopau Drutaf

    Bellach mae cynnyrch The Mushroom Garden, busnes teuluol yn Nantmor y tu allan i Feddgelert, yn cael eu stocio yn Fortnum and Masons, Selfridges a’r Japanese Centre. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod hyn yn rhannol oherwydd y Rhaglen Ddatblygu Masnach,

    sydd wedi darparu mwy na £2 miliwn o gymorth dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gynhyrchwyr bwyd a diod sy’n awyddus i dyfu a hybu eu masnach. Mae The Mushroom Garden a sefydlwyd fwy na degawd yn ôl gan Cynan Jones, ac sy’n cynhyrchu madarch shiitake ac wystrys y coed, bellach yn cynhyrchu Cafiâr Madarch, Cyfuniad o Sesnin Mecsicanaidd, Antipasto Shiitake a Sesnin Umami.

    www.snowdoniamushrooms.co.uk

    Peiriant Prosesu Clogau

    Mae peiriant sy’n prosesu aur ar gyfradd o ddwy dunnell yr awr, a gafodd ei gludo yn ddiweddar i Waith Aur Clogau yn y Bontddu, ger Bermo yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Bydd y peiriant newydd yn dechrau prosesu mwyn aur ar raddfa fechan o waith tanddaearol a agorodd yn ddiweddar. Cafodd

    y peiriant, a gynhyrchwyd yn Ne Affrica ac a gludwyd i’r safle drwy Amsterdam, ei brynu gan Stellar Resources, sydd bellach â chyfran gwerth 49% yn Clogau.

    www.clogau.co.uk

    Unrhyw SylwadauGobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef Cylchlythyr diweddaraf Rhwydwaith Busnes Gwynedd. Byddem yn gwir werthfawrogi cael unrhyw ymateb gennych.

    Os oes gennych unrhyw newyddion, sylwadau, neu syniadau ar ffyrdd y gallwn ei wella, e-bostiwch y Golygydd, Jacquie Knowles ar: [email protected] cysylltwch ag [email protected]

    I ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith ewch i:www.gwyneddbusnes.net

    Cynan Jones

    www.gwyneddbusnes.net

    https://public.govdelivery.com/accounts/UKWALES/subscriber/new