rhwydwaith busnes gwynedd02 iechyd da! dewiswyd abergwyngregyn fel safle ar gyfer distyllfa wisgi...

6
www.gwyneddbusnes.net 01 RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD Rhifyn 20, Gwanwyn 2017 Rhoi Rhywbeth yn Ôl Mae Rhodd Eryri yn chwilio am hanner cant o aelodau newydd eleni, yn ychwanegol at y deg ar hugain o fusnesau sydd eisoes wedi cofrestru i gefnogi’r cynllun. Mae'r fenter yn annog ymwelwyr sy’n dod i'r ardal i "roi rhywbeth yn ôl" ar ffurf rhoddion i dri phrosiect o bwys yn lleol. Mae aelodau'r cynllun yn cydweithio â Rhodd Eryri i godi arian tuag at y prosiectau hyn. Mae Llwybrau Mynydd yr Wyddfa, er enghraifft, yn ceisio cyflenwi’r diffyg ariannol o tua £150,000 y flwyddyn sy’n deillio o waith cynnal a chadw'r llwybrau, tra bo Taith Gylchol yr Wyddfa yn canolbwyntio ar wella a chysylltu’r llwybrau tir isel yn y cymoedd o amgylch yr Wyddfa. Mae Pobl Ifanc a Sgiliau Traddodiadol, ar y llaw arall, yn canolbwyntio ar addysgu pobl ifanc am gefn gwlad a dysgu sgiliau traddodiadol, gan ddarparu cyfleoedd a phrofiadau ymarferol gydag arbenigwyr lleol. Gellir gwneud cyfraniadau un ai’n uniongyrchol drwy wefan y prosiect, neu drwy fusnesau sy'n cymryd rhan. Er enghraifft, gallai darparwyr llety gynnwys opsiwn gwirfoddol ychwanegol bychan ar eu ffurflen archebu. Mae 100% o'r cyfraniad ariannol yn mynd yn uniongyrchol i'r prosiectau, ac ni ddefnyddir yr arian hwn i dalu am unrhyw beth y mae’n ddyletswydd statudol ar y Llywodraeth i’w ddarparu. Ar uchder o 1,085 metr uwchlaw lefel y môr, yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn croesawu oddeutu chwe miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ac amcangyfrifir bod un o bob deg o’r rhain – rhyw chwe chan mil ohonynt – yn dringo'r Wyddfa ei hun, a bod y ffigurau hyn yn cynyddu tua 10% o flwyddyn i flwyddyn. https://www.snowdoniagiving.wales Cynnal a Chadw Llwybrau’r Wyddfa Golau Gwyrdd i Brosiect Ynni Newydd Mae datblygwyr wedi cael caniatâd gan y llywodraeth i fwrw ymlaen â chynllun uchelgeisiol i adeiladu gorsaf ynni dŵr gwerth £160 m yn un o chwareli segur Gwynedd. Cyhoeddodd Greg Clark, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fod Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) wedi cael ei roi i Snowdonia Pumped Hydro (SPH). Roedd SPH wedi cyflwyno cynlluniau i Arolygiaeth Gynllunio’r DU ar gyfer eu cynllun pwmpio a storio newydd yng Nglyn Rhonwy yn Llanberis, a fydd yn cynyddu’r cynhyrchiant o 49.9MW i 99.9MW. Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn cael ei gyflawni drwy gynyddu cynhwysedd y tyrbinau tanddaearol ac offer cysylltiedig sydd eisoes wedi eu gosod. Mae SPH yn pwysleisio y bydd y cyfleuster newydd yn edrych yn union yr un fath o’r tu allan gan y bydd yr holl waith yn digwydd o dan y ddaear. Bydd dŵr glaw yn cael ei bwmpio allan o hen chwareli segur Chwarel Fawr a Glyn Rhonwy, ar ôl i brofion annibynnol gadarnhau nad oedd yr olaf yn cynnwys unrhyw halogiad ar ôl cael ei defnyddio yn y 1970au fel safle datgymalu Arfau’r Fyddin oedd heb eu defnyddio. Mae'r cam hwn o’r cynllun eisoes wedi derbyn sêl bendith Cyfoeth Naturiol Cymru. Gofynnwyd am eglurhad o'r mesurau dadhalogi ar y safle gan y grŵp pwysau Pryderu Ynglŷn â Glyn Rhonwy. Mae’r grŵp yn datgan fod arfau cemegol wedi cael eu storio ar y safle yn ystod y rhyfel, a bod nwy mwstard wedi effeithio ar un aelod o’r tîm glanhau yn y 1970au, ond dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Aseswyd fod safle chwarel Llanberis wedi ei glirio o arfau yn dilyn archwiliad trylwyr ym mis Tachwedd 1975." Unwaith y byddant wedi cael eu draenio a’u saernïo i fodloni’r diben, , bydd y chwareli yn cael eu llenwi â dŵr Meddai Dave Holmes, Rheolwr Gyfarwyddwr SPH: “Rydym yn ystyried y caniatâd hwn ar gyfer ein cynllun yng Nglyn Rhonwy fel un hynod arwyddocaol, ac yn ei weld fel arwydd o newid gwirioneddol a fydd yn galluogi’r DU i fodloni targedau lleihau carbon, tra’n diogelu’r cyflenwad trydan, a gofalu fod prisiau a delir gan y defnyddwyr dan reolaeth.” Honnir y bydd y cynllun yn creu 100 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu o dair blynedd a hyd at 200 o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi. Disgwylir y bydd y cyfleuster yn cynnal 30 swydd hir dymor, amser llawn ac y bydd ganddo oes weithredu o 125 o flynyddoedd. http://www.snowdoniapumpedhydro.com o Lyn Padarn ac mae SPH unwaith eto’n awyddus iawn i nodi na fydd hyn yn cael unrhyw effaith niweidiol ar amgylchedd y llyn. Bydd y dŵr hwn wedyn yn cael ei bwmpio rhwng y chwarel uchaf (Chwarel Fawr) a’r chwarel isaf (Glyn Rhonwy) i gynhyrchu trydan dŵr. Glyn Rhonwy

Upload: others

Post on 01-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • www.gwyneddbusnes.net 01

    RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDDRhifyn 20, Gwanwyn 2017

    Rhoi Rhywbeth yn ÔlMae Rhodd Eryri yn chwilio am hanner cant o aelodau newydd eleni, yn ychwanegol at y deg ar hugain o fusnesau sydd eisoes wedi cofrestru i gefnogi’r cynllun. Mae'r fenter yn annog ymwelwyr sy’n dod i'r ardal i "roi rhywbeth yn ôl" ar ffurf rhoddion i dri phrosiect o bwys yn lleol.

    Mae aelodau'r cynllun yn cydweithio â Rhodd Eryri i godi arian tuag at y prosiectau hyn. Mae Llwybrau Mynydd yr Wyddfa, er enghraifft, yn ceisio cyflenwi’r diffyg ariannol o tua £150,000 y flwyddyn sy’n deillio o waith

    cynnal a chadw'r llwybrau, tra bo Taith Gylchol yr Wyddfa yn canolbwyntio ar wella a chysylltu’r llwybrau tir isel yn y cymoedd o amgylch yr Wyddfa. Mae Pobl Ifanc a Sgiliau Traddodiadol, ar y llaw arall, yn canolbwyntio ar addysgu pobl ifanc am gefn gwlad a dysgu sgiliau traddodiadol, gan ddarparu cyfleoedd a phrofiadau ymarferol gydag arbenigwyr lleol.

    Gellir gwneud cyfraniadau un ai’n uniongyrchol drwy wefan y prosiect, neu drwy fusnesau sy'n cymryd rhan. Er enghraifft, gallai darparwyr llety gynnwys opsiwn gwirfoddol ychwanegol bychan ar eu ffurflen archebu. Mae 100% o'r cyfraniad ariannol yn mynd yn uniongyrchol i'r prosiectau, ac ni ddefnyddir yr arian hwn i dalu am unrhyw beth y mae’n ddyletswydd statudol ar y Llywodraeth i’w ddarparu.

    Ar uchder o 1,085 metr uwchlaw lefel y môr, yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn croesawu oddeutu chwe miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ac amcangyfrifir bod un o bob deg o’r rhain – rhyw chwe chan mil ohonynt – yn dringo'r Wyddfa ei hun, a bod y ffigurau hyn yn cynyddu tua 10% o flwyddyn i flwyddyn.

    https://www.snowdoniagiving.wales

    Cynnal a Chadw Llwybrau’r Wyddfa

    Golau Gwyrdd i Brosiect Ynni NewyddMae datblygwyr wedi cael caniatâd gan y llywodraeth i fwrw ymlaen â chynllun uchelgeisiol i adeiladu gorsaf ynni dŵr gwerth £160 m yn un o chwareli segur Gwynedd. Cyhoeddodd Greg Clark, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fod Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) wedi cael ei roi i Snowdonia Pumped Hydro (SPH). Roedd SPH wedi cyflwyno cynlluniau i Arolygiaeth Gynllunio’r DU ar gyfer eu cynllun pwmpio a storio newydd yng Nglyn Rhonwy yn Llanberis, a fydd yn cynyddu’r cynhyrchiant o 49.9MW i 99.9MW.Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn cael ei gyflawni drwy gynyddu cynhwysedd y tyrbinau tanddaearol ac offer cysylltiedig sydd eisoes wedi eu gosod. Mae SPH yn pwysleisio y bydd y cyfleuster newydd yn edrych yn union yr un fath o’r tu allan gan y bydd yr holl waith yn digwydd o dan y ddaear. Bydd dŵr glaw yn cael ei bwmpio allan o hen chwareli segur Chwarel Fawr a Glyn Rhonwy, ar ôl i brofion annibynnol gadarnhau nad oedd yr olaf yn cynnwys unrhyw halogiad ar ôl cael ei defnyddio yn y 1970au fel safle datgymalu Arfau’r Fyddin oedd heb eu defnyddio. Mae'r cam hwn o’r cynllun eisoes wedi derbyn sêl bendith Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Gofynnwyd am eglurhad o'r mesurau dadhalogi ar y safle gan y grŵp pwysau Pryderu Ynglŷn â Glyn Rhonwy. Mae’r grŵp yn datgan fod arfau cemegol wedi cael eu storio ar y safle yn ystod y rhyfel, a bod nwy mwstard wedi effeithio ar un aelod o’r tîm glanhau yn y 1970au, ond dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Aseswyd fod safle chwarel Llanberis wedi ei glirio o arfau yn dilyn archwiliad trylwyr ym mis Tachwedd 1975."

    Unwaith y byddant wedi cael eu draenio a’u saernïo i fodloni’r diben, , bydd y chwareli yn cael eu llenwi â dŵr

    Meddai Dave Holmes, Rheolwr Gyfarwyddwr SPH: “Rydym yn ystyried y caniatâd hwn ar gyfer ein cynllun yng Nglyn Rhonwy fel un hynod arwyddocaol, ac yn ei weld fel arwydd o newid gwirioneddol a fydd yn galluogi’r DU i fodlonitargedau lleihau carbon, tra’n diogelu’r cyflenwad trydan, a gofalu fod prisiau a delir gan y defnyddwyr dan reolaeth.”Honnir y bydd y cynllun yn creu 100 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu o dair blynedd a hyd at 200 o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi. Disgwylir y bydd y cyfleuster yn cynnal 30 swydd hir dymor, amser llawn ac y bydd ganddo oes weithredu o 125 o flynyddoedd.http://www.snowdoniapumpedhydro.com

    o Lyn Padarn ac mae SPH unwaith eto’n awyddus iawn inodi na fydd hyn yn cael unrhyw effaith niweidiol ar amgylchedd y llyn. Bydd y dŵr hwn wedyn yn cael ei bwmpio rhwng y chwarel uchaf (Chwarel Fawr) a’r chwarel isaf (Glyn Rhonwy) i gynhyrchu trydan dŵr.

    Glyn Rhonwy

    http://www.gwyneddbusnes.nethttps://www.snowdoniagiving.wales/http://www.snowdoniapumpedhydro.com

  • 02

    Iechyd Da!Dewiswyd Abergwyngregyn fel safle ar gyfer distyllfa wisgi newydd gyntaf Gogledd Cymru mewn 100 mlynedd. Mae’r gwneuthurwr diodydd Halewood International wedi ymgeisio am ganiatâd cynllunio i droi ei hen storfa gyfanwerthu yn Ddistyllfa Rhaeadr Aber. Bydd amrywiaeth o ddiodydd alcoholig gan gynnwys wisgi, jin a gwirodydd yn cael eu cynhyrchu ar y safle 6,000 metr sgwâr.

    Mewn cynlluniau sydd gerbron y cyngor ar hyn o bryd bydd y cyfleuster yn safle i ganolfan ymwelwyr a hefyd yn storfa ar gyfer casgenni a chynhyrchion gorffenedig. Ceir cynlluniau hefyd i gynnal cyrsiau hyfforddi ar gyfer distyllu gwirodydd. Mae adeiladu dau seilo grawn ac uned gyddwyso yn cwblhau'r cynnig, a rhagwelir mai ychydig iawn o newid a fydd yn cael ei wneud i ymddangosiad allanol yr eiddo. Meddai Stewart Hainsworth, Prif

    Weithredwr Halewood: "Ar hyn o bryd rydym yn cydweithio’n agos â Thwristiaeth Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd i gwblhau ein cynigion, a fydd yn helpu i adfywio'r ardal a darparu nifer o swyddi newydd o fewn y gymuned leol."

    Rhaeadr Aber fydd y ddistyllfa wisgi gyntaf o faint sylweddol yng Ngogledd Cymru ers un Fron-goch ger y Bala, a gaeodd ei drysau yn 1900. Bydd yn ymuno â Distyllfa Penderyn ger Aberdâr a Distyllfa Dà Mhìle yng Ngorllewin Cymru ac yn golygu bod tair distyllfa i gyd yng Nghymru, a fydd yn caniatáu i Gymru ei marchnata ei hun yn swyddogol fel gwlad sy'n cynhyrchu wisgi yn unol â diffiniad yr UE.

    Mae gan gwmni Halewood o Lerpwl, bortffolio o frandiau gwirodydd, sy’n cynnwys Fodca a Jin Lerpwl, Diod Sinsir Alcoholig Crabbie, Wisgi Brag Gwyddelig Gorllewin Cork, Fodca Red Square, Jin Whitley Neill a Wisgi Gwyddelig The Pogues. Y llynedd lansiodd Rỳm newydd sy'n dathlu hanes morwrol cyfoethog dinas Lerpwl, tra'n ehangu ei bortffolio rỳm drwy sicrhau'r hawl i fewnforio a dosbarthu Rỳm Sixty Six o Barbados.

    Gwnaed y penderfyniad i droi’r hen storfa ddosbarthu diodydd yn Abergwyngregyn o ganlyniad i berfformiad a thwf ariannol cryf Halewood yn 2016, yn dilyn sawl lansiad cynnyrch llwyddiannus a chaffaeliadau brandiau.

    http://www.halewood-int.com/

    www.gwyneddbusnes.net

    Gweddnewidiad Moethus i Blasty HanesyddolMae gan berchnogion newydd Plas Glynllifon, y plasty hanesyddol ger Caernarfon, gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwesty pum seren newydd moethus a sba. Ers iddynt brynu’r plasty 102 ystafell, a fu unwaith yn gartref i deulu Arglwyddi Niwbwrch, mae Paul a Rowena Williams wedi amlinellu cynllun adnewyddu gwerth £6 m ar gyfer y farchnad gwyliau moethus. Cyhoeddir manylion llawn eu cynlluniau yn yr haf, a’r bwriad yw cael agoriad mawreddog yn 2020.

    Nid yw creu mannau gwyliau tra phoblogaidd mewn ardaloedd prydferth yng Nghymru yn rhywbeth newydd i Paul a Rowena. Yn ogystal â’u prosiect diweddaraf, sef Seiont Manor ger Llanrug, mae eu cwmni, Rural Retreats & Leisure, yn rhedeg y Radnorshire Arms yn Llanandras a Knighton Hotel ym Mhowys, yn ogystal ag eiddo eraill o amgylch y DU. Mae’r ddau yn pwysleisio pa mor hanfodol yw gwarchod treftadaeth Gymreig eu heiddo, ac yn edrych ymlaen at greu hyd at 70 o swyddi yn ystod gwaith adnewyddu Plas Glynllifon fel eu gwesty blaenllaw.

    Unwaith y bydd y gwesty wedi'i gwblhau, bydd yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd, o’r moethus a’r helaeth yn adain y de a’r dwyrain, i rai dethol mwy anffurfiol yn adain y gogledd. Mae maint a graddfa cynlluniau ar gyfer y plasty rhestredig Gradd I hwn o gyfnod y Rhaglywiaeth yn uchelgeisiol, ond mae’r cwpl eofn yn croesawu’r heriau sy’n eu hwynebu.

    Ers cynnal Dawns Arwisgiad Tywysog Cymru ar 1Gorffennaf 1969, mae Plas Glynllifon wedi profi cyfnod o ddirywiad. Fel rhan o’r gwaith adnewyddu, aed i’r afael â phydredd sych a phydredd gwlyb a chynhaliwyd gwaith trwsio ar y to, yn ogystal ag adleoli nythfeydd ystlumod mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yr addasiadau masnachol a wnaed gan berchnogion blaenorol yn cael eu symud yn gyfan gwbl, cyn adfer cyfnod mwy cydnaws.

    http://rrluk.com/

    http://www.gwyneddbusnes.net

  • www.gwyneddbusnes.net 03

    Cynnydd yn nifer yr Ymwelwyr sy’n galw yng Nghastell HarlechMae’r ffigurau diweddaraf sy’n nodi niferoedd yr ymwelwyr sy’n mynd i Gastell Harlech wedi dangos cynnydd trawiadol o 35%. Mae hyn yn dilyn rhaglen adnewyddu sylweddol Cadw, sy’n cynnwys gosod pont droed sy’n “arnofio” fel mynediad i’r safle, canolfan ymwelwyr newydd a chyfleusterau mewnosod wedi eu diweddaru.

    Cynhaliwyd y prosiect, sy'n costio oddeutu £6 m, gyda chyllid gan y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, a sefydlwyd yn 2009, sydd wedi cynorthwyo tua 40 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru. Mae’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n mynd i Gastell Harlech wedi arwain at gynnydd o 69% mewn incwm, ac mae’r siop ar ei newydd wedd wedi croesawu cynnydd rhyfeddol (439%) mewn gwerthiant. Mae gwesty Castell Harlech wedi elwa’n fawr hefyd o’r buddsoddiad, a thrawsnewidiwyd y llawr gwaelod yn ganolfan ymwelwyr fodern gyda siop, caffi, toiledau a safle gwybodaeth, ac adnewyddwyd y llawr cyntaf a'r ail lawr yn fflatiau pum seren.

    http://cadw.gov.wales

    Canmolwyd y ffigurau hyn gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith pan ymwelodd yn ddiweddar â'r safle er mwyn agor y Ganolfan Adnoddau Addysg newydd. Meddai Mr Skates: "Nod y prosiect hwn oedd cyflwyno hanes y Castell yn well a gwella’i ddarpariaeth i ymwelwyr er mwyn creu atyniad treftadaeth o'r radd flaenaf i adlewyrchu ei statws Safle Treftadaeth y Byd. "Mae’r ailddatblygiad wedi sefydlu Harlech fel cyrchfan bob tywydd drwy gydol y flwyddyn, gyda'r nod o ymestyn y tymor ymwelwyr i’r tymor yn y canol rhwng y tymor brig a’r tymor tawel."

    Mae'r prosiect wedi ennyn clod o bob cyfeiriad ers iddo gael ei gwblhau, gyda chydnabyddiaeth yng Ngwobrau Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol y rhanbarthau a Chymru gyfan. Yn ogystal, enillodd Wobr Dreftadaeth George Gibby gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, a chafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain yn 2016 yn y categori Adeilad y Flwyddyn (hyd at £10 m). Hefyd, cadarnhawyd ei fod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Ymddiriedolaeth Ddinesig 2017.

    Castell Harlech (ffotograff: Keith Richardson)

    Pont Droed Castell Harlech a’r Gwesty

    http://www.gwyneddbusnes.nethttp://cadw.gov.wales

  • 04

    Busnes Lleol yn Blodeuo mewn Lleoliad Newydd

    Daffodil Foods yw un o'r busnesau diweddaraf i gael cartref newydd ym Mhwllheli. Bellach, mae’r cwmni gwneud iogyrtau a phwdinau sy’n gweithio o Gongl Meinciau, y ganolfan fenter wledig ym Motwnnog, yn hyderus y gall barhau i dyfu.

    Syniad Lynne King yw Daffodil a dechreuodd mewn amgylchiadau di-nod; sef yn yr ystafell gadw dillad yn ei chartref ym Morfa Nefyn. Ar ôl cael llwyddiant roedd angen ehangu, ond nid oedd Lynne yn awyddus i symud i safle uwchben siop yn nhref Pwllheli ei hun. Congl Meinciau, sy’n cael ei rhedeg gan Grŵp Cynefin, y gymdeithas dai elusennol, oedd yr ateb delfrydol. Roedd y lleoliad yn addas ar gyfer anghenion Daffodil, ac roedd y band llydan hynod o gyflym a hefyd y cyfleusterau parcio am ddim yn ei wneud yn lle perffaith yn ystod y cam hwn o’i ddatblygiad.

    Mae Daffodil Foods yn cynhyrchu cynnyrch llaeth wedi ei feithrin, iogyrtau a phwdinau, sy’n cael eu gwerthu dan frand y cwmni ei hun a hefyd dan frandiau archfarchnadoedd. Mae’r syniad fod y cynnyrch wedi ei "wneud yng Nghymru" yn cael ei ystyried fel symbyliad gwerthu sylweddol, ac erbyn hyn, mae cynhyrchion Daffodil yn cael eu stocio gan dafarndai cadwyn cenedlaethol a chan holl ysbytai Cymru. Mae cynhyrchion Daffodil hefyd i'w cael ar y stryd fawr mewn siopau cadwyn megis Tesco, Asda, Morrisons ac Ocado.

    Meddai Darren Morley, Pennaeth Congl Meinciau: "Nid tai yn unig sy’n bwysig i Grŵp Cynefin. Mae gennym ddiddordeb gwirioneddol mewn creu cymunedau cynaliadwy, ac rydym mor falch fod Congl Meinciau wedi darparu’r cyfleusterau i Lynne heb fod angen iddi adael yr ardal." Yn ogystal â’r datblygiad yng Nghongl Meinciau, cenhadaeth Grŵp Cynefin yw cefnogi cymunedau cynaliadwy a chreu tai i bobl leol. Yn achos Congl Meinciau, mae hyn yn golygu cefnogi’r syniad o greu mentrau cartref a swyddi yn yr ardal, a hefyd adeiladu 12 o gartrefi i bobl leol ar y safle.

    www.daffodilfoods.co.uk

    www.gwyneddbusnes.net

    Lynne King - Daffodil Foods

    Dyddiad i'ch Dyddiadur!Gofalwch eich bod yn gadael rhywfaint o le gwag yn eich dyddiadur ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau ar 22 Mai 2017 – Wythnos Busnes Gwynedd. Nos Iau 25 Mai yw noson Cinio Gala Wythnos Busnes Gwynedd, a fydd yn cael ei gynnal unwaith eto yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor. Fel bob amser, un o uchafbwyntiau'r noson fawreddog fydd cyflwyno’r wobr Person Busnes y Flwyddyn Gwynedd .

    Cofiwch gadw golwg ar yr holl negeseuon e-bost gan RhBG yn y dyfodol agos i gael rhagor o fanylion. Bydd y rhain yn cael eu hanfon yn y cyfnod cyn y digwyddiad.

    http://www.gwyneddbusnes.net

  • 05www.gwyneddbusnes.net

    Ehangu ym Mhenrhyn Llŷn

    Mae Twankey’s Laundry, sy’n cynnig gwasanaeth golchi i gartrefi gwyliau a lletyau gwely a brecwast ledled Gwynedd, wedi cael benthyciad sylweddol gan Cyllid Cymru er mwyn ehangu eu gweithrediadau. Bydd Twankey’s, sy’n rhan o bortffolio Peninsula Property Management ym Mhwllheli, yn defnyddio’r hwb ariannol o £15,000 i adnewyddu ei brif uned ac i brynu offer newydd. Dim ond saith mlynedd yn ôl y sefydlwyd y cwmni yn Abersoch, ac o dan reolaeth ei sylfaenydd Susan Kelly, gwelodd y cwmni dwf cyson a phroffidioldeb cynyddol. Ar ôl symud yn ddiweddar i swyddfeydd newydd uwchben y salon harddwch yn Abersoch, mae Susan yn edrych ymlaen am gael ehangu’r busnes ac arallgyfeirio i farchnadoedd ategol. Meddai Susan: "Awgrymodd Ffederasiwn y Busnesau Bach fy mod i’n gofyn i Cyllid Cymru am fuddsoddiad. Mi ges i fy syfrdanu gan ba mor gyflym y bu’n bosibl iddyn nhw fy helpu. O’r alwad gyntaf, dim ond 16 diwrnod a gymerodd i’r arian gyrraedd fy nghyfrif. Mae'r buddsoddiad hwn yn golygu ein bod yn gallu bodloni galw ein cleientiaid yn gynt na’r disgwyl, ac mae hynny wedi rhoi hwb enfawr i’n datblygiad."

    Mae’r golchdy ym Mhwllheli, ac ym mis Chwefror gwahoddodd ei gwsmeriaid i fynd draw yno i fwynhau cacen a Prosecco i ddathlu’r flwyddyn gyntaf o fasnachu.

    Mae Cyllid Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru gyda chyllid twf, gan fuddsoddi rhwng £1,000 a £3 miliwn ar y tro a chynnig dyled (micro fenthyciadau a benthyciadau), buddsoddiadau mesanîn ac ecwiti. Gall Cyllid Cymru hefyd syndicetio/cyd-fuddsoddi i sicrhau bod gan fusnesau bach a chanolig y cyfalaf sydd ei angen arnynt. Mae’n buddsoddi bob cam, o'r cyfnod cynnar hyd at ddatblygu cyfalaf, yn ogystal ag olyniaeth a chaffael.

    http://www.peninsulapropertymanagement.co.uk/index.html

    Adweithydd Newydd yn Nhrawsfynydd?

    Mae cadeirydd Parth Menter Eryri wedi galw ar y llywodraeth i ystyried safle cyn adweithydd niwclear Trawsfynydd fel lleoliad ar gyfer un o’r genhedlaeth newydd o atomfeydd niwclear bychain. Wrth siarad mewncynhadledd yn ddiweddar, dywedodd John Idris Jones y gellid creu hyd at 600 o swyddi yn yr ardal petai’r adweithydd newydd yn cael caniatâd.

    Honnir y bydd yr adweithyddion newydd yn ynni-effeithlon, ac yn costio llai na dulliau cynhyrchu blaenorol. Dywedodd Mr Jones fod safle Trawsfynydd yn elwa eisoes o gysylltiadau i'r Grid Cenedlaethol, heb sôn am y ffaith fod nifer o weithlu’r ardal yn gyfarwydd â'r diwydiant niwclear. Ar y llaw arall,

    Hen Adweithydd Magnox yn Nhrawsfynydd

    mae’r llyn ar gael at ddibenion oeri’r adweithydd, yn union fel yr oedd yn ei wneud yn nyddiau’r hen orsaf niwclear oedd yn weithredol rhwng 1965 a 1991.

    Dywedodd Mr Jones: "Byddwn yn gobeithio y bydd Trawsfynydd yn un o’r prif safleoedd ar gyfer y math hwn o adweithydd. Petai’r adweithydd 300 megawat yn cael ei adeiladu yno, byddai hynny'n arwain at 300 o swyddi yn ogystal â 300 o swyddi cysylltiedig yn yr ardal."

    Fodd bynnag, mae’r cynnig wedi arwain at gryn ddadlau, a thynnodd gwrthwynebwyr y cynllun sylw at y ffaith nad yw’r math newydd hwn o adweithyddion bychain wedi cael ei brofi. Ar hyn o bryd, bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn i’r dechnoleg hon gael ei pherffeithio, o ystyried fod cwmnïau Americanaidd yn gobeithio dechrau cynhyrchu pŵer rywbryd yn y 2020au. Mae protestwyr wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus, gan bwysleisio’r peryglon posibl i'r gymuned a'r amgylchedd gan weddillion y tanwydd. Maent hefyd wedi dweud nad yw’r dechnoleg newydd wedi ei phrofi eto ac yn ofni y bydd gorsaf Trawsfynydd yn cael ei defnyddio fel safle profi ar gyfer yr adweithyddion newydd.

    Gwahoddwyd cwmnïau’r DU, gan gynnwys Rolls Royce i gyflwyno cynlluniau ar gyfer adweithyddion ar raddfa fach, a disgwylir datganiad polisi gan y llywodraeth ynghylch y dechnoleg yn ystod y misoedd nesaf. Mae'n debygol y bydd yn cymryd degawd arall cyn y bydd y pwerdai newydd yn weithredol yma yn y DU.

    http://www.gwyneddbusnes.nethttp://www.peninsulapropertymanagement.co.uk/index.html

  • Y Newyddion yn GrynoPerchnogion Newydd i’r Gwesty ger y Llyn

    Mae gwesty pysgota ar lannau llyn Tal-y-llyn yn Eryri newydd gael ei werthu am fwy na thri chwarter miliwn o bunnoedd. Mae Malcolm Higgins a Cristo Small wedi prynu’r gwesty 20 ystafell wely, sef Gwesty Ty'n y Cornel gyda'r bwriad o’i adnewyddu ac ailstocio’r llyn â physgod cyn trefnu digwyddiad ailagor mawreddog yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

    Mae Gwesty Ty'n y Cornel lle cynhaliwyd Pencampwriaeth Pysgota Plu y Gymanwlad ar un adeg eisoes wedi cael ei ailwampio'n helaeth gan ei berchnogion blaenorol. Mae’r safle yn cynnwys tri adeilad: y prif dŷ, tŷ cwch wedi ei drawsnewid a bloc modern, bwyty â lle i 40 o bobl a llety’r perchnogion sy’n cynnwys tair ystafell wely, ynghyd â hawl pysgota ar 222 erw’r llyn.Tîm gwestai arbenigol ac eiddo trwyddedig Colliers International, y cwmni cynghori eiddo oedd yn gyfrifol am froceru’r gwerthiant.

    https://tynycornel.co.uk/

    Deddfwriaeth Amgylcheddol

    www.caulmert.com

    Blwyddyn y Chwedlau

    Mae’r gantores a'r gyflwynwraig Cerys Matthews ynghyd ag Iwan Rheon, un o sêr The Game of Thrones, yn dod at ei gilydd fel llysgenhadon ar gyfer ymgyrch farchnata newydd Croeso Cymru yn 2017: Blwyddyn y Chwedlau. Dechreuodd yr ymgyrch boethi ar Ddydd Gŵyl Dewi pan aeth hyrwyddiad rhyngwladol yn fyw mewn marchnadoedd allweddol. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar hysbyseb teledu a sinema newydd wedi'i ffilmio ger Llyn Llydaw yn Eryri. Yn yr hysbyseb gwelir Luke Evans yr actor o Gymro a ymddangosodd yn The Girl on the Train a The Hobbit. Gyda'r nod o ddod â chwedlau’r genedl yn fyw, defnyddir technoleg ddigidol arloesol i werthu Cymru i weddill y byd.

    Mae'r ymgyrch uchelgeisiol gwerth £5 m hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau eraill, gan gynnwys marchnata digidol a deunyddiau wedi eu hargraffu, postio uniongyrchol, hysbysebu awyr agored, digwyddiadau hysbys ac amlwg a lansiadau ar y cyfryngau. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru, y DU, Iwerddon, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.

    http://www.visitwales.com/Legends/tv-advert-2017

    Unrhyw Sylwadau

    Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef Cylchlythyr diweddaraf Rhwydwaith Busnes Gwynedd. Byddem yn gwir werthfawrogi cael unrhyw ymateb gennych.

    Os oes gennych unrhyw sylwadau neu syniadau ar ffyrdd y gallwn ei wella, cofiwch adael inni wybod. E-bostiwch y Golygydd Jacquie Knowles ar: [email protected]

    I ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith ewch i: www.gwyneddbusnes.net

    06www.gwyneddbusnes.net

    © 2017 Rhwydwaith Busnes Gwynedd Ysgrifennwyd a golygwyd gan : Jacquie Knowles

    Dylunwyd ganSylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol

    amunrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.

    Gan weithio o’u swyddfeydd ym Mangor a Llanelwy, mae Caulmert, yr ymgynghorwyr peirianegol, amgylcheddol a chynlluniol yn cynghori busnesau yng Ngogledd Cymru fod cynigion gerbron Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd a allai arwain at newidiadau i leihau llygredd aer a sŵn o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. O safbwynt ymarferol, gallai hyn olygu y bydd ansawdd aer a sŵn yn cael ei ystyried dros ardal ddaearyddol ehangach o lawer, yn ogystal â thargedu ardaloedd lle ceir problemau. Mae’r Ddeddf, a ddaeth i rym ym mis Ebrill y llynedd, yn nodi saith nod llesiant ac mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio gyda'i gilydd i gyflawni pob un ohonynt.

    http://www.gwyneddbusnes.netwww.caulmert.comwww.visitwales.com/legends/tv-advert-2017