s3.amazonaws.com€¦  · web viewgosodir gwasanaeth dydd sul yn ei gyfanrwydd ac ar ôl hynny...

53
DATHLU ADFENT 2014 gydag EGLWYS DEWI SANT CYFLWYNIAD

Upload: phungthien

Post on 27-Aug-2018

216 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

DATHLU ADFENT 2014

gydag

EGLWYS DEWI SANT

CYFLWYNIAD

Tymor paratoi, tymor disgwyl yw Adfent wrth inni baratoi at ddyfodiad Crist yn ei ymgnawdoliad. Er nad yw barn ddwyfol yn gysyniad poblogaidd y dyddiau hyn, yr ydym yn disgwyl ymlaen hefyd at ei ailddyfodiad ar ddiwedd yr amser. Efallai fod gwell gennym feddwl am y baban yn y crud na gorfod wynebu barn Duw yn ei ogoniant mawr.

Yr amser hwn o’r flwyddyn, mae’r dyddiau’n hir ac yn dywyll. Mae pawb yn hiraethu am y golau ac oherwydd hynny, efallai, mae traddodiad cynnau canhwyllau Adfent wedi datblygu. Mae’r cannwyll yn cynrychioli Iesu Grist, sydd yn aberthu ei hunan er mwyn dod â golau i’n bywydau ni.

Eleni mae Eglwys Dewi Sant yn estyn gwahoddiad i chi. Beth am ymuno â ni i ddathlu gwasanaeth Adfent bob dydd yn eich cartrefi am 6.30 y.h. (neu amser sydd yn gyfleus i chi)? Mae’r llyfryn hwn yn cynnig strwythur gwasanaeth Adfent ar gyfer pob diwrnod yr wythnos. Gosodir gwasanaeth dydd Sul yn ei gyfanrwydd ac ar ôl hynny gosodir darlleniadau a themâu gweddi ar gyfer pob dydd. Mae’r pynciau gweddi yn cymryd lle’r gwersiglau* yng ngwasanaeth dydd Sul.

Byddai’n braf i feddwl bod cynulleidfa wasgaredig Eglwys Dewi Sant yn gallu dod ynghyd bob dydd i weddïo gyda’n gilydd er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad Crist.

INTRODUCTION

Advent is a time of preparation, a time of expectation as we prepare for the coming of Christ incarnate. Even though divine judgement is not a popular subject these days, we are also looking forward to his second coming at the end of time. Perhaps we would rather think about the baby in the crib than face the judgement of God in his might and glory.

At this time of year the days are long and dark. Everyone longs for the light and because of that, perhaps, the tradition of lighting Advent candles has developed. A candle symbolises Jesus Christ as it sacrifices itself in order to bring light to our lives

This year Eglwys Dewi Sant extends an invitation to you. What about joining us to celebrate Advent each night in your home at 6.30 p.m.? This booklet offers you a structure for a daily Advent celebration. A service for Sundays is set out in full and, after that, readings and prayer themes are set out for each day of the week. The subjects for prayer take the place of the versicles* in the Sunday service.

It would be wonderful to think that the scattered congregation of Eglwys Dewi Sant could unite in prayer each day to prepare for the coming of Christ.

HWYROL WEDDIYR ADFENTMYFYRDOD

Geidwad tragwyddol,oleuni anffaeledig y byd,oleuni bythol,ein gwir iachawdwriaeth,

Trwy gymryd ein naturyn dy ryddid cariadus,achubaist ein daear gollediga llenwi’r byd â llawenydd.

Trwy dy adfent cyntaf, cyfiawnha ni,trwy dy ail adfent, rhyddha ni:fel, pan wawria’r goleuni mawr,ac y deui di i farnu pawb,y gwisger ni ag anfarwoldebac y byddom barod, Arglwydd,i ddilyn olion gwynfydedig dy draedi ba le bynnag yr arweiniont.

EVENING PRAYERADVENT

MEDITATION

Saviour eternal,life of the world unfailing,light everlastingand our true redemption,

Taking our humanityin your loving freedom,you rescued our lost earthand filled the world with joy.

By your first advent, justify us,by your second, set us free:that when the great light dawnsand you come as judge of all,we may be robed in immortalityand ready, Lord, to followin your footsteps blest,wherever they may lead.

GWASANAETH DYDD SUL

Arglwydd, agor ein gwefusau;A’n genau a fynega dy foliant.

Duw, brysia i’n cynorthwyo;Arglwydd, prysura i’n cymorth.

Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad:yn oes oesoedd. Amen.

Molwch yr Arglwydd;Moliannus fyddo Enw’r Arglwydd.

Y SALM (82)1. Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog:

ymhlith y duwiau y barn efe.2. Pa hyd y bernwch ar gam?:

ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol?3. Bernwch y tlawd a’r amddifad:

cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus.4. Gwaredwch y tlawd a’r anghenus:

achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.5. Ni wyddant ac ni ddeallant mewn tywyllwch y

rhodiant:holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle.

6. Myfi a ddywedais Duwiau ydych chwi:a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.

SUNDAY SERVICE

O Lord, open thou our lips;And our mouth shall show forth thy praise.

O God, make speed to save us;O Lord, make haste to help us.

Glory be to the Father, and to the Son: and to the Holy Spirit;As it was in the beginning, is now and ever shall be: world without end. Amen

Praise ye the Lord;The Lord’s Name be praised.

THE PSALM (82)1. God standeth in the council of heaven:

in the midst of the gods he giveth judgement.2. ‘How long will ye judge unrighteously:

and respect the persons of the ungodly?3. ‘Defend the poor and fatherless:

see that such as are in need and necessity have right.

4. ‘Deliver the afflicted and poor:save them from the hand of the ungodly.’

5. They know not neither do they understand, but go about in darkness:all the foundations of the earth are shaken.

6. ‘I say unto you “Though ye be gods:and all of you sons of the Most Highest,

7. Eithr byddwch feirw fel dynion:ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch.

8. Cyfod O Dduw barna y ddaear:canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad:yn oes oesoedd. Amen.

Y DARLLENIAD (Datguddiad 22:17, 20-21)Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A’r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd â syched arno, deued. A’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad. Yr hwn sydd yn tystiolaethu’r pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wir, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen. Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu. Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.

NUNC DIMITTISYr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was: mewn tangnefedd yn ôl dy air.Canys fy llygaid a welodd: dy iachawdwriaeth;Yr hon a baratoaist: gerbron wyneb yr holl bobl;I fod yn oleuni i oleuo’r Cenhedloedd: ac yn ogoniant i’th bobl Israel.Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

7. ‘”Nevertheless ye shall die like men:and fall like one of the princes.”’

8. Arise O God and judge thou the earth:for thou shalt take all nations for thy possession.Glory be to the Father, and to the Son: and to the

Holy Spirit;As it was in the beginning, is now, and ever shall be:world without end. Amen.

THE READING (Revelation 22:17, 21-22)And the Spirit and the bride say, Come. And let him

that heareth say, Come. And let him that is athirst come. And whosoever

will, let him take the water of life freely. He which testifieth these

things saith, Surely I come quickly. Amen. Even so, come, Lord

Jesus. The grace of our Lord Jesus Christ be with you all. Amen.

NUNC DIMITTISLord, now lettest thou thy servant depart in peace: according to thy word.For mine eyes have seen thy salvation:which thou hast prepared before the face of all peoples.To be a light to lighten the Gentiles: and to be the glory of thy people Israel.

Glory be to the Father, and to the Son: and to the Holy Spirit;As it was in the beginning, is now and ever shall be: world without end. Amen.

Y GWEDDÏAUArglwydd, trugarha wrthym.Crist, trugarha wrthym.Arglwydd trugarha wrthym.

Gweddi’r ArglwyddEin Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,sancteiddier dy enw;deled dy deyrnas;gwneler dy ewyllys;megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol.A maddau i ni ein dyledion,fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.Ac nac arwain ni i brofedigaeth;eithr gwared ni rhag drwg. Amen.

Y Gwersiglau*Arglwydd, dangos dy drugaredd arnom;A chaniatâ i ni dy iachawdwriaeth.

Gwisg dy weinidogion ag iawnder;A gwna dy ddewis bobl yn llawen.

Arglwydd, cadw dy bobl;A bendithia dy etifeddiaeth.

Arglwydd, cadw’r Frenhines;A rho i’w chynghorwyr ddoethineb.

THE PRAYERS

Lord, have mercy upon us.Christ, have mercy upon us.Lord have mercy upon us.

The Lord’s PrayerOur Father, who art in heaven,hallowed be thy name;thy kingdom come;thy will be done;on earth as it is in heaven.Give us this day our daily bread.And forgive us our trespasses,as we forgive those who trespass against us.And lead us not into temptation;but deliver us from evil. Amen.

The Versicles*O Lord, show thy mercy upon us;And grant us thy salvation.

Endue thy ministers with righteousness;And make thy chosen people joyful.

O Lord, save thy people;And bless thine inheritance.

O Lord, save the Queen;And give her counsellors wisdom.

Arglwydd, dyro dangnefedd yn ein dyddiau;Ac amddiffyn ni byth yn nerthol.

Duw, glanha ein calonnau;Ac adnewydda ysbryd uniawn o’n mewn.

Y ColectauHollalluog Dduw, ffynhonnell pob dymuniad sanctaidd, pob cyngor da, a phob gweithred gyfiawn: dyro i’th weision y tangnefedd na all y byd ei roddi, fel y bo i ni, gan ufuddhau i’th orchmynion, a’n gwared gennyt rhag ofn ein gelynion, dreulio ein hamser mewn heddwch a thangnefedd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Goleua ein tywyllwch, atolygwn i ti, O Arglwydd; ac o’th fawr drugaredd amddiffyn ni rhag pob perygl ac enbydrwydd y nos hon; trwy gariad dy unig Fab, ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Gweddi DerfynolO Arglwydd, cadw ni bob amser yn effro ac yn wyliadwruswrth inni ddisgwyl dyfodiad dy Fab.Glanha ni o bechod, fel yr elom i gwrdd â’n Gwaredwr, pan ddaw, â chalonnau llawen;trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Give peace in our time, O Lord;And evermore mightily defend us.

Make clean our hearts, O God;And renew a right spirit within us.

The CollectsAlmighty God, from whom all holy desires, all good counsels, and all just works do proceed: give unto thy servants that peace which the world cannot give; that our hearts may be set to obey thy commandments, and that, being defended by thee from the fear of our enemies, we may pass our time in rest and quietness; through Jesus Christ our Lord. Amen.

Lighten our darkness, we beseech thee, O Lord: and by thy great mercy defend us from all perils and dangers of this night; for the love of thy only Son, our Saviour Jesus Christ. Amen.

Closing PrayerO Lord, keep us ever alert and watchfulas we await the coming of your Son.Cleanse us from sin, so that, when he comes,we may go forth to meet our Saviour with joyful hearts;through Jesus Christ our Lord. Amen.

GWASANAETH DYDD LLUN

Y SALM (13)1. Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd?:

pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?2. Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid gan fod

blinder beunydd yn fy nghalon:pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf?

3. Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw:goleua fy llygaid rhag i mi huno yn yr angau.

4. Rhag dywedyd o’m gelyn, ‘Gorchfygais ef’:ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu os gogwyddaf.

5. Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di fy nghalon ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth:canaf i’r Arglwydd am iddo synio arnaf.Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

Y DARLLENIAD (Eseia 11: 1-4)Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef. Ac ysbryd yr Arglwydd a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd; Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.

MONDAY SERVICE

THE PSALM (13)1. How long wilt thou utterly forget me O Lord:

how long wilt thou hide thy face from me? 2. How long shall I suffer anguish in my soul, and

daily be so grieved in my heart:how long shall mine enemies triumph over me?

3. Consider and hear me O Lord my God:lighten mine eyes that I sleep not in death;

4. Lest mine enemy should say ‘I have prevailed against him’:lest, if I be cast down, they that trouble me should rejoice at it.

5. But my trust is in thy mercy: may my heart be joyful in thy salvation.

6. I will sing to the Lord, because he hath dealt so lovingly with me:yea I will praise the name of the Lord Most Highest.Glory be to the Father, and to the Son: and to the

Holy Spirit;As it was in the beginning, is now, and ever shall

be:world without end. Amen.

THE READING (Isaiah 11: 1-4)And there shall come forth a rod out of the stem of Jesse, and a Branch shall grow out of his roots: And the spirit of the LORD shall rest upon him, the spirit of wisdom and understanding, the spirit of counsel and might, the spirit of knowledge and of the fear of the LORD; And shall make him

of quick understanding in the fear of the LORD: and he shall not judge after the sight of his eyes, neither reprove after the hearing of his ears: But with righteousness shall he judge the poor, and reprove with equity for the meek of the earth: and he shall smite the earth with the rod of his mouth, and with the breath of his lips shall he slay the wicked.

Themâu ar gyfer gweddi bersonol Yr Eglwys Anghenion y byd Y rhai sy’n glaf o gorff, meddwl neu ysbryd Y rhai sy’n dioddef oherwydd newyn neu drychineb Aelodau o’r proffesiynau meddygol ac iachaol

Themes for personal prayer The Church The needs of the world Those who are sick in body, mind or spirit Victims of famine or disaster Members of the medical and healing professions

GWASANAETH DYDD MAWRTH

Y SALM (14)1. Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, ‘Nid oes un Duw’:

Ymlygrasant, ffieiddwaith a wnaethant nid oes a wnêl ddaioni.

2. Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion:i weled a oedd neb deallgar yn ymgeisio â Duw.

3. Ciliodd pawb cydymddifwynasant:nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.

4. Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd.

5. Yno y dychrynasant gan ofn:canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn.

6. Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi:am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.

7. Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl: yr ymhyfryda Jacob ac y llawenha Israel.Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

Y DARLLENIAD (Marc 1: 1-5)Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw; Fel yr

ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o

flaen dy wyneb,

yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. Llef un yn llefain yn y

diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn union ei

lwybrau ef. Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu

bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. Ac aeth allan ato ef holl

TUESDAY SERVICE

THE PSALM (14)1. The fool hath spoken in his heart:

he hath said ‘There is no God.’ 2. Men are corrupt and are become abominable in their

doings:there is none that doeth good, no not one.

3. The Lord looked down from heaven upon the children of men: to see if there were any that would understand and seek after God.

4. But they are all gone out of the way, they are all alike become corrupt: there is none that doeth good, no not one.

5. As for all the workers of mischief, are they not punished: who eat up my people as it were bread, and call not upon the Lord?

6. There are they brought into great fear:for God is with the generation of the righteous.

7. Though ye mock at the counsel of the poor:yet he putteth his trust in the Lord.

8. O that deliverance were given unto Israel out of Zion:when the Lord restoreth the prosperity of his people,

then shall Jacob rejoice and Israel shall be glad.Glory be to the Father, and to the Son: and to the Holy Spirit;As it was in the beginning, is now, and ever shall be:world without end. Amen.

THE READING (Mark 1: 1-5)The beginning of the gospel of Jesus Christ, the Son of

God; As it is written in the prophets, Behold, I send my messenger

before thy face, which shall prepare thy way before thee. The voice of

one crying in the wilderness, Prepare ye the way of the Lord, make

his paths straight. John did baptize in the wilderness, and preach

the baptism of wlad Jwdea, a’r Hierosolymitiaid, ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

Themâu ar gyfer gweddi bersonol Yr Eglwys Anghenion y byd Y gwasanaethau cymdeithasol Dioddefwyr a chyflawnwyr troseddau Y rhai sy’n gweithio yn y drefn cyfiawnder troseddol

repentance for the remission of sins. And there went out unto him

all the land of Judaea, and they of Jerusalem, and were all baptized of

him in the river of Jordan, confessing their sins.

Themes for personal prayer The Church The needs of the world Social services Victims and perpetrators of crime Those who work in the criminal justice system

GWASANAETH DYDD MERCHER

Y SALM (54)1. Achub fi, O Dduw yn dy enw: a barn fi yn dy

gadernid.2. Duw clyw fy ngweddi: gwrando ymadrodd fy

ngenau.3. Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn a’r

trawsion a geisant fy enaid: ni osodasant Dduw o’u blaen.

4. Wele Duw sydd yn fy nghynorthwyo:yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid.

5. Efe a dâl ddrwg i’m gelynion:tor hwynt ymaith yn wirionedd.

6. Aberthaf i ti yn ewyllysgar:clodforaf dy enw O Arglwydd canys da yw.

7. Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod:a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

Y DARLLENIAD (Luc 12: 35-37)Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a’ch

canhwyllau wedi eu golau: A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu

harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr

agoront iddo yn ebrwydd. Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff

eu harglwydd,

pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna

iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.

WEDNESDAY SERVICE

THE PSALM (54)1. Save me O God by the power of thy name:

and avenge me in thy strength.2. Hear my prayer O God:

and hearken unto the words of my mouth.3. For arrogant men are risen against me:

and tyrants who have not God before their eyes seek after my life. 4. Behold God is my helper:

the Lord is he that upholdeth my life. 5. He shall render evil unto mine enemies:

destroy thou them in thy faithfulness.6. An offering of a willing heart will I give thee:

I will praise thy name O Lord, for it is good. 7. For he hath delivered me out all my trouble:

and mine eye hath seen its desire upon mine enemies.

Glory be to the Father, and to the Son: and to the Holy Spirit;

As it was in the beginning, is now, and ever shall be:world without end. Amen.

THE READING (Luke 12: 35-37)

Let your loins be girded about, and your lights burning; And ye

yourselves like unto men that wait for their lord, when he will return

from the wedding; that when he cometh and knocketh, they may

open unto him immediately. Blessed are those servants, whom the

lord when he cometh shall find watching: verily I say unto you, that he

shall gird himself, and make them to sit down to meat, and will come

forth and serve them.

Themâu ar gyfer gweddi bersonol Yr Eglwys Anghenion y byd Pawb sy’n darparu gwasanaethau lleol Y rhai sy’n gweithio gyda phobl ifainc neu hen bobl Ysgolion, colegau a phrifysgolion

Themes for personal prayer The Church The needs of the world All who provide local services Those who work with young or elderly people Schools, colleges and universities

GWASANAETH DYDD IAU

Y SALM (70)1. O Dduw prysura i’m gwaredu:

brysia Arglwydd i’m cymorth.2. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid:

troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.

3. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd:y rhai a ddywedant ‘Ha ha.’

4. Llawenyched a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn

wastad ‘Mawryger Duw’.

5. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus O Dduw brysia ataf:fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti O Arglwydd na

hir drig.Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

Y DARLLENIAD (Marc 13: 34-37)Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i’r drysor wylio. Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;) Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.

THURSDAY SERVICE

THE PSALM (70)1. O God let it be thy pleasure to deliver me:

make haste O Lord to help me.2. Let them be put to shame and confusion that seek

after my life; let them be driven backward and put to rebuke that wish me evil.

3. Let them be brought to their wits’ end because of their shame:that say unto me ‘Fie upon thee, fie upon thee.’

4. Let all those that seek thee be joyful and glad in thee: and let such as love thy salvation say always ‘God be praised.’

5. As for me I am poor and needy:haste thee unto me O God.

6. Thou art my helper and my deliverer:O Lord make no long tarrying.Glory be to the Father, and to the Son: and to the

Holy Spirit;As it was in the beginning, is now, and ever shall be:world without end. Amen.

THE READING (Mark 13: 34-37)For the Son of man is as a man taking a far journey, who left his house, and gave authority to his servants,

and to every man his work, and commanded the porter to watch. Watch ye therefore: for ye know not when the master of the house cometh, at even, or at midnight, or at the cockcrowing, or in the morning: Lest coming suddenly he find you sleeping. And what I say unto you I say unto all, Watch.

Themâu ar gyfer gweddi bersonol Yr Eglwys Anghenion y byd Byd natur ac adnoddau’r ddaear Amaethwyr a physgotwyr Byd busnes a diwydiant

Themes for personal prayer The Church The needs of the world The natural world and the resources of the earth Farming and fishing Commerce and industry

GWASANAETH DYDD GWENER

Y SALM (75)1. Clodforwn dydi O Dduw clodforwn:

canys agos yw dy enw dy ryfeddodau a fynegant hynny.

2. Pan dderbyniwyf y gynulleidfa: mi a farnaf yn uniawn.

3. Ymddatododd y ddaear a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau.

4. Dywedais wrth y rhai ynfyd Nac ynfydwch:ac wrth y rhai annuwiol Na ddyrchefwch eich corn.

5. Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.

6. Canys nid o’r dwyrain nac o’r gorllewin: nac o’r deau y daw goruchafiaeth.

7. Ond Duw sydd yn barnu: efe a ostwng y naill ac a gyfyd y llall.

8. Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd a’r gwin sydd goch yn llawn cymysg ac efe a dywalltodd ohono:eto holl annuwiolion y tir a wasgant ac a yfant ei

waelodion.9. Minnau a fynegaf yn dragywydd:

ac a ganaf i Dduw Jacob.10. Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol:

a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

FRIDAY SERVICE

THE PSALM (75)1. Unto thee O God do we give thanks:

yea unto thee do we give thanks. 2. They that call upon thy name:

tell of all thy wondrous works. 3. ‘Surely at the time which I appoint:

I, the Lord, will judge according unto right.4. ‘The earth shaketh with fear, and all that dwell

therein:but I, even I, have made firm the pillars of it.

5. I say unto the proud “Be not boastful”: and unto the ungodly “Lift not up your horn;

6. Lift not up your horn on high: and speak no proud word against the Rock of your salvation.”’

7. For help cometh neither from the east nor from the west:neither from the wilderness nor yet from the mountains.

8. But it is God who is the judge:he putteth down one and setteth up another.

9. For in the hand of the Lord there is a cup of foaming wine: it is full mixed, and he poureth out of the same.

10. As for the dregs thereof: all the ungodly of the earth shall drink them and suck them out.

11. But I will magnify the God of Jacob:and praise his name for ever and ever.

12. All the horns of the ungodly will I break:but the horns of the righteous shall be lifted up.Glory be to the Father, and to the Son: and to the Holy Spirit;As it was in the beginning, is now, and ever shall be:world without end. Amen.

Y DARLLENIAD (Rhufeiniaid 13: 11-14)A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni. Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.

Themâu ar gyfer gweddi bersonol Yr Eglwys Anghenion y byd Y rhai sy’n gweithio dros heddwch a chyfiawnder Y rhai sy’n dioddef oherwydd rhyfel neu anghydfod

sifil Carcharorion, ffoaduriaid a phobl ddigartref

THE READING (Romans 13: 11-14)And that, knowing the time, that now it is high time to

awake out of sleep: for now is our salvation nearer than when we

believed. The night is far spent, the day is at hand: let us therefore

cast off the works of darkness, and let us put on the armour of

light. Let us walk honestly, as in the day; not in rioting and drunkenness,

not in chambering and wantonness, not in strife and envying.

But put ye onthe Lord Jesus Christ, and make not provision for the

flesh, to fulfil the lusts thereof.

Themes for personal prayer The Church The needs of the world Those who work for peace and justice Victims of war and civil strife Prisoners, refugees and homeless people

GWASANAETH DYDD SADWRN

Y SALM (85)1. Graslon fuost O Arglwydd i’th dir:

dychwelaist gaethiwed Jacob.2. Maddeuaist anwiredd dy bobl:

cuddiaist eu holl bechod.3. Tynnaist ymaith dy holl lid:

troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.4. Tro ni O Dduw ein hiachawdwriaeth:

a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.5. Ai byth y digi wrthym?:

a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?

6. Oni throi di a’n bywhau ni:fel y llawenycho dy bobl ynot ti?

7. Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd:a dod i ni dy iachawdwriaeth.

8. Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw:canys efe a draetha heddwch i’w bobl ac i’w saint ond na throant at ynfydrwydd.

9. Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant:fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.

10. Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant:cyfiawnder a heddwch a ymgusnasant.

11. Gwirionedd a dardda o’r ddaear: a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd.

12. Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni:a’n daear a rydd ei chnwd.

SATURDAY SERVICE

THE PSALM (85)1. Lord thou art become gracious unto thy land:

thou hast restored the prosperity of Jacob;2. Thou hast forgiven the offence of thy people:

and covered all their sins.3. Thou hast taken away all thy displeasure:

and turned thyself from thy wrathful indignation.4. Restore us again O God our saviour:

and let thine anger cease from us.5. Wilt thou be displeased at us for ever:

and wilt thou stretch out thy wrathfrom one generation to another?

6. Wilt thou not give us life again:that thy people may rejoice in thee?

7. Shew us thy mercy O Lord:and grant us thy salvation.

8. I will hearken what the Lord God will say:for he shall speak peace unto his people and to his servants,even unto the upright in heart.

9. Surely his salvation is nigh them that fear him:that his glory may dwell in our land.

10. Mercy and truth are met together: righteousness and peace have embraced each other.

11. Truth shall flourish out of the earth: and righteousness shall look down from heaven.

12. Yea the Lord shall give prosperity: and our land shall yield her increase.

13. Cyfiawnder a â o’i flaen ef:ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab, ac i’r Ysbryd Glân;Megis yr oedd yn y dechrau, y mae’r awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

Y DARLLENIAD (Luc 1:35; 38)A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw.A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.

Themâu ar gyfer gweddi bersonol Yr Eglwys Anghenion y byd Ein cartrefi, ein teuluoedd, ein cyfeillion a phawb a

garwn Y rhai sy’n agos at farw Y rhai a gollodd obaith

13. Righteousness shall go before him: and where he walketh there shall be peace.Glory be to the Father, and to the Son: and to the

Holy Spirit;As it was in the beginning, is now, and ever shall

be:world without end. Amen.

THE READING (Luke 1:35; 38)And the angel answered and said unto her, The Holy

Ghost shall come upon thee, and the power of the Highest shall

overshadow thee: therefore also that holy thing which shall be born of

thee shall be called the Son of God. And Mary said, Behold the

handmaid of the Lord; be it unto me according to thy word. And the

angel departed from her.

Themes for personal prayer The Church The needs of the world Our homes, families, friends and all whom we love Those who are close to death Those who have lost hope

Y mae’r gwasanaethau yn y llyfryn hwn yn cynnwys rhannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru, hawlfraint (h) Gwasg yr Eglwys yng Nghymru 1984. Mae The Revised Psalter o dan hawlfraint: cynhwysir dyfyniadau trwy ganiatâd.

Hawlfraint (h) Gwasg yr Eglwys yng Nghymru yw Gweddi Dyddiol 2009 (yn cynnwys Trefn Gwasanaethau Ychwanegol y rhoddwyd iddynt y teitl Boreol a Hwyrol Weddi 2009) y cynhwyswyd deunydd ohono yn y gwasanaethau yn y llyfryn hwn.

The Book of Common Prayer for use in the Church in Wales, material from which is included in these services is copyright © Church in Wales Publications 1984. The Revised Psalter is copyright: extracts are reproduced with permission.

Daily Prayer 2009 (comprising Additional Orders of Service entitled Morning and Evening Prayer 2009), material from which is included in these services is copyright © Church in Wales Publications 2009.