seren cymru · ac yna mae ‘zoom’! “nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd...

8
Cyf 5271 Pris 50c Gwener, Gorffennaf 3ydd 2020 Wythnosolyn y Bedyddwyr SEREN CYMRU Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected] Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt. Eglwys Gobaith Llanelli yn Rhannu Profiad ‘Gwasgaredig’ ac ‘ymgasgledig’. Dau air syml sy’n disgrifio curiad calon ein hunaniaeth Fedyddiedig. Ac eto pwy fyddai wedi meddwl pan wasgarwyd ni o’n haddoldai ar 15 Mawrth eleni y byddem ar fin cael mynediad i fyd newydd o ymbellhau cymdeithasol, cysgodi a hunanynysu? Yr her: sut ydym yn ymgynnull pan yn wasgaredig? Dyma stori Eglwys y Bedyddwyr Hope/Gobaith yn Llanelli. Erbyn y Sul canlynol roedd sianel YouTube Hope/ Gobaith wedi ei chreu ac am 11 o’r gloch y bore hwnnw, gwasanaeth ‘Livecast’. Doedd yna ddim slicrwydd, doedd dim cerddoriaeth ac roedd y profiad o ddarlledu’n fyw i’r byd ‒ neu’r ychydig oedd yn gwylio ‒ yn un brawychus. Gan ddefnyddio cyfuniad o alwadau ffôn, ein gwefan a Facebook, roeddem wedi gwneud ein gorau i hysbysu cynifer â phosib o deulu’r Eglwys am yr hyn oedd yn digwydd. Fesul un, dechreuodd pobl ymateb. Roeddent wedi’i wylio. ‘Ymlonyddwch, a dysgwch mai myfi sydd Dduw’ oedd y thema. Roedd calonnau pobl wedi ymlonyddu ym mhresenoldeb Duw ... yn eu cartrefi ... cartrefi mor bell i ffwrdd ag Ontario, Canada! Ond beth am y nifer sylweddol o deulu Hope/Gobaith a oedd heb unrhyw gysylltiad rhyngrwyd? A fyddem yn cael ein rhannu yn ôl ein sgiliau neu’n breintiau technolegol? Daeth ‘Whypay?’ a ‘Twilio’ i’r adwy. Gan ddefnyddio llinell ffôn cost galwadau lleol, galluogodd y ddau wasanaeth yma i ni fedru cynnwys y rhai hynny a fyddai efallai wedi teimlo’n fwyaf ynysig yn ystod y dyddiau hyn. Mae ‘Whypay?’ yn wasanaeth cynadledda ffôn sy’n caniatáu i nifer fawr o bobl fod yn rhan o’r un alwad ffôn ar yr un pryd. Gall pobl wrando ar y gwasanaeth ddydd Sul wrth iddo gael ei ddarlledu ar YouTube. Hefyd, mae’n arf sydd wedi ein galluogi i barhau i weddïo gyda’n gilydd ... ac i’r diaconiaid gyfarfod! I’r rhai sy’n dymuno hynny, mae ‘Pregeth Ffôn’ ar gael i ni bellach trwy garedigrwydd ‘Twilio’. Mae hyn yn golygu y gall pobl ffonio rhif llinell dir lleol a gwrando ar bregeth yr wythnos honno ... a gallant ei wneud unrhyw amser, dydd neu nos! Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd oed o deulu Hope/Gobaith sy’n hunan-ynysu, yn ymddangos ar y sgrin am y tro cyntaf yn un o’n ‘Cyfarfodydd Gweddi Zoom’! Ac i’r rhai hynny na allant ‒ neu sy’n well ganddynt beidio ‒ gallant ymuno â chyfarfod Zoom gan ddefnyddio eu llinell dir. Nid yw’n berffaith, ond mae’n gyfrwng gwych sy’n ein galluogi i weld ein gilydd a rhannu profiad. Mae ‘Men’s Brunch’, ‘Bore Coffi’r Merched’ a rhannu Cymundeb, i gyd wedi dod yn bosibl drwy Zoom. Yr wythnos nesaf byddwn yn addoli ac yn gweddïo yng nghwmni ffrindiau o Eglwys Grace, Efrog Newydd gyda chymorth Zoom. Nid yw Hope/Gobaith yn Eglwys sy’n ‘llawn’ o arbenigwyr. Un person fu’n gyfrifol am sefydlu a llywio’r dechnoleg. Mae ar gael i gynorthwyo eglwysi Bedyddiedig lleol eraill i sefydlu ‘Whypay?’ a ‘Twilio’. Mae’r broses o gynhyrchu gwasanaethau YouTube yn syrthio ar ysgwyddau ychydig o ‘ddysgwyr’ ymroddedig iawn sy’n sylweddoli bod gwneud camgymeriadau yn ffordd dda i ddysgu a bod yr angen am rywbeth, o hyd yn arwain at greu dyfais. Er bod y buddsoddiad amser yn sylweddol, mae’r costau ariannol yn ddibwys. Mewn dyddiau a fu, byddem yn aml yn dechrau ein haddoliad drwy dystio, ‘Mae’r Arglwydd yma; mae Ei Ysbryd gyda ni’. Ble bynnag yr ydym, rydym yn dysgu o hyd i dystio bod ‘Yr Arglwydd yma’. A pha un ai trwy gyfarfod Zoom, Whypay? neu beth bynnag, ein profiad ni yw ‘Mae ei Ysbryd gyda NI’. A yw’n bosibl fod Duw yn ein haddysgu y gallwn fod yn ‘wasgaredig’, ond eto’n ‘ymgasgledig’? Parchedig Paul Smethurst

Upload: others

Post on 25-Sep-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: SEREN CYMRU · Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd

Cyf 5271 Pris 50cGwener, Gorffennaf 3ydd 2020

Wythnosolyn y BedyddwyrSEREN CYMRU

Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.

Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected]

Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt.

Eglwys Gobaith Llanelli yn Rhannu Profiad

‘Gwasgaredig’ ac ‘ymgasgledig’. Dau air syml sy’n disgrifio curiad calon ein hunaniaeth Fedyddiedig. Ac eto pwy fyddai wedi meddwl pan wasgarwyd ni o’n haddoldai ar 15 Mawrth eleni y byddem ar fin cael mynediad i fyd newydd o ymbellhau cymdeithasol, cysgodi a hunanynysu? Yr her: sut ydym yn ymgynnull pan yn wasgaredig?

Dyma stori Eglwys y Bedyddwyr Hope/Gobaith yn Llanelli. Erbyn y Sul canlynol roedd sianel YouTube Hope/Gobaith wedi ei chreu ac am 11 o’r gloch y bore hwnnw, gwasanaeth ‘Livecast’. Doedd yna ddim slicrwydd, doedd dim cerddoriaeth ac roedd y profiad o ddarlledu’n fyw i’r byd ‒ neu’r ychydig oedd yn gwylio ‒ yn un brawychus. Gan ddefnyddio cyfuniad o alwadau ffôn, ein gwefan a Facebook, roeddem wedi gwneud ein gorau i hysbysu cynifer â phosib o deulu’r Eglwys am yr hyn oedd yn digwydd. Fesul un, dechreuodd pobl ymateb. Roeddent wedi’i wylio. ‘Ymlonyddwch, a dysgwch mai myfi sydd Dduw’ oedd y thema. Roedd calonnau pobl wedi ymlonyddu ym mhresenoldeb Duw ... yn eu cartrefi ... cartrefi mor bell i ffwrdd ag Ontario, Canada! Ond beth am y nifer sylweddol o deulu Hope/Gobaith a oedd heb unrhyw gysylltiad rhyngrwyd? A fyddem yn cael ein rhannu yn ôl ein sgiliau neu’n breintiau technolegol? Daeth ‘Whypay?’ a ‘Twilio’ i’r adwy. Gan ddefnyddio llinell ffôn cost galwadau lleol, galluogodd y ddau wasanaeth

yma i ni fedru cynnwys y rhai hynny a fyddai efallai wedi teimlo’n fwyaf ynysig yn ystod y dyddiau hyn. Mae ‘Whypay?’ yn wasanaeth cynadledda ffôn sy’n caniatáu i nifer fawr o bobl fod yn rhan o’r un alwad ffôn ar yr un pryd. Gall pobl wrando ar y gwasanaeth ddydd Sul wrth iddo gael ei ddarlledu ar YouTube. Hefyd, mae’n arf sydd wedi ein galluogi i barhau i weddïo gyda’n gilydd ... ac i’r diaconiaid gyfarfod! I’r rhai sy’n dymuno hynny, mae ‘Pregeth Ffôn’ ar gael i ni bellach trwy garedigrwydd ‘Twilio’. Mae hyn yn golygu y gall pobl ffonio rhif llinell dir lleol a gwrando ar bregeth yr wythnos honno ... a gallant ei wneud unrhyw amser, dydd neu nos! Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd oed o deulu Hope/Gobaith sy’n hunan-ynysu, yn ymddangos ar y sgrin am y tro cyntaf yn un o’n ‘Cyfarfodydd Gweddi Zoom’! Ac i’r rhai hynny na allant ‒ neu sy’n well ganddynt beidio ‒ gallant ymuno â chyfarfod Zoom gan ddefnyddio eu llinell dir. Nid yw’n berffaith, ond mae’n gyfrwng gwych sy’n ein galluogi i weld ein gilydd a rhannu profiad. Mae ‘Men’s Brunch’, ‘Bore Coffi’r Merched’ a rhannu

Cymundeb, i gyd wedi dod yn bosibl drwy Zoom. Yr wythnos nesaf byddwn yn addoli ac yn gweddïo yng nghwmni ffrindiau o Eglwys Grace, Efrog Newydd gyda chymorth Zoom. Nid yw Hope/Gobaith yn Eglwys sy’n ‘llawn’ o arbenigwyr. Un person fu’n gyfrifol am sefydlu a llywio’r dechnoleg. Mae ar gael i gynorthwyo eglwysi Bedyddiedig lleol eraill i sefydlu ‘Whypay?’ a ‘Twilio’. Mae’r broses o gynhyrchu gwasanaethau YouTube yn syrthio ar ysgwyddau ychydig o ‘ddysgwyr’ ymroddedig iawn sy’n sylweddoli bod gwneud camgymeriadau yn ffordd dda i ddysgu a bod yr angen am rywbeth, o hyd yn arwain at greu dyfais. Er bod y buddsoddiad amser yn sylweddol, mae’r costau ariannol yn ddibwys. Mewn dyddiau a fu, byddem yn aml yn dechrau ein haddoliad drwy dystio, ‘Mae’r Arglwydd yma; mae Ei Ysbryd gyda ni’. Ble bynnag yr ydym, rydym yn dysgu o hyd i dystio bod ‘Yr Arglwydd yma’. A pha un ai trwy gyfarfod Zoom, Whypay? neu beth bynnag, ein profiad ni yw ‘Mae ei Ysbryd gyda NI’. A yw’n bosibl fod Duw yn ein haddysgu y gallwn fod yn ‘wasgaredig’, ond eto’n ‘ymgasgledig’?

Parchedig Paul Smethurst

Page 2: SEREN CYMRU · Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd

2Seren Cymru Gwener, Gorffennaf 3ydd 2020

Cofiwch yrru unrhyw ddeunydd ar gyfer Seren Cymru at:

[email protected]

O Gadairy GolygyddDenzil I John

“Ni allaf anadlu”Ar Fehefin 18fed, cyhoeddodd y Prif Weinidog Boris Johnson ei fod am ad-drefnu adrannau oddi fewn i’w lywodraeth a gosod DFID (Adran Polisi Cymorth Rhyngwladol) o dan ofal y Swyddfa Dramor, fel nad oedd yn sefyll yn annibynnol gyda llais gweinidog yn y cabinet.

Ymrwymodd y byddai’n cadw at y cytundeb rhyngwladol o wario 0.7% o gyllideb Prydain ar gynorthwyo gwledydd tlawd y Trydydd Byd. Gofid yr holl asiantaethau cymorth fel Tearfund, Cymorth Cristnogol, Save the Children, y Groes Goch, a myrdd o gyrff tebyg yw y bydd hi’n haws i gymysgu’r arian hwn gyda gwariant arall yn y Swyddfa Dramor. Byddai atebolrwydd y gwariant yn ymbellhau o sylw’r Tŷ Cyffredin ar y naill law a’r wasg yn gyffredinol ar y llaw arall. Prin bod y penderfyniad hwn yn ymwneud â gweinyddiad mwy effeithiol, pan fo nifer o brif leisiau asgell dde y Toriaid am ddileu’r adran yn gyfangwbl.

Ceir dyfyniad ar wefan Tearfund yn ein hatgoffa o ymrwymiad y prif weinidog “na allwn droi ein cefnau ar dlodion byd”. Beth bynnag fydd cost canlyniadau Covid 19 i economi gwledydd Prydain dros

y blynyddoedd nesaf, [a bydd hi’n gost sylweddol] - mae gwell siawns gan Wledydd Prydain i adfer eu heconomiau na fydd gan y gwledydd tlawd. Os yw cwmnïau ym Mhrydain yn cau, pa obaith sydd mewn gwledydd tlotach yn India’r Gorllewin, cyfandir yr Affrig ac yn Nwyrain Ewrop. Pa ryfedd fod llawer o wledydd byd wedi gweld cynnydd yn y protestio o blaid y croenddu, a bod y slogan ‘Black Lives Matter’ yn fwyfwy amlwg.

Un o nodweddion trist y protestio ynglŷn â’r ymgyrch honno yw bod elfen hwliganaidd wedi ymuno gyda hi, a hwythau yn eu tro yn fandaleiddio eiddo a chofgolofnau. Protestiadau di-drais oedd yn amlwg ar y cychwyn, a hynny yn adleisio’r protestiadau o dan arweiniad Martin Luther King Jr rhwng 1946 a 1968. Mae’r fandaleiddio yn tynnu ffocws oddi ar yr achos creiddiol - bod hiliaeth ym mhob gwlad.

Fel gydag arswyd feirws Covid 19, mae angen gwaredu’r feirws sy’n meithrin atgasedd a thrais, ac sy’n gadael y croenddu ymysg haenau tlotaf yr UDA a llawer o wledydd Ewrop. Prin bod cuddio rhaglen waith DFID i gyllideb gyffredinol y Swyddfa Dramor yn dangos ymroddiad Prydain i herio tlodi yn y Trydydd Byd. Brawddeg arswydus a erys yn y cof o olygfa erchyll marwolaeth George Floyd oedd “Ni allaf anadlu”, ac mae llawer o weinidogion megis Wale Hudson-Roberts (Justice Enabler BUGB) wedi addasu geiriau olaf George

Floyd i sefyllfa’r gwledydd tlawd yn gyffredinol – ‘I cannot breathe’. Mae’r meddylfryd asgell dde ar gynnydd mewn cynifer o wledydd ar hyn o bryd, a’u lleisiau yn hyrwyddo achos hunan-les y gwledydd, a hynny ar draul y gwledydd eraill. Bydd byrdwn ‘America First’ yn dod yn amlycach wrth i etholiad Arlywyddol yr UDA agosau. Beth fydd pen draw y meddylfryd asgell dde sy’n cynyddu ar hyn o bryd? Pwy a þyr? Pan arweiniodd Martin Luther King 250,000 o bobl i Washington dros hanner canrif yn ôl, dywedodd: “And so, we have come to cash this cheque, a cheque that will give us on demand the riches of freedom and the security of justice. We have also come to this hallowed spot to remind America of the fierce urgency of NOW. It would be fatal for the nations to overlook the urgency of the moment.”

Mae’r geiriau yr un mor wir heddiw. Beth bynnag fydd cost methu rhagweld arswyd Covid 19 ar y gorwel, bydd cost cuddio rhannu cost cyfiawnder ac osgoi canlyniadau hiliaeth yn golygu y bydd mwy na chofgolofn Edward Colston yn cael ei dynnu i lawr. Dywedodd y Parchg Lynn Green, Ysgrifennydd Cyffredinol BUGB:“Fy mhle yw ein bod yn achub ar y cyfle hwn i gymryd camau breision i fod yn fath o Deyrnas Dduw sydd yn hardd, yn gyfiawn a chariadus - sy’n dathlu cyfoeth yr eglwys fyd-eang a’r ddynoliaeth oll”.

Page 3: SEREN CYMRU · Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd

Gwers 41 – Sul, 5 Gorffennaf

‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ (Caneuon Ffydd, 319)

SECHAREIA

Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefaisweledigaeth, dyn yn marchogaeth argeffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng ymyrtwydd yn y pant, ac o’i ôl yr oeddmeirch cochion, brithion a gwynion.(Sechareia 1:8; tud. 291 yn yGwerslyfr)

Darllen: Sechareia 1:1–3, 7–17;Mathew 1:1, 12–16; Ioan 2:13–22

Gweddi: Dyma’r man dymunwn aros,

o fewn pabell bur fy Nuw,uwch terfysgoedd ysbryd euog

a themtasiwn o bob rhyw,dan awelon

peraidd, hyfryd tir fy ngwlad. AMEN.(Caneuon Ffydd, 708)

Dwi’n amau’n fawr nad yng NghwmRhondda y cafodd Sechareia y

weledigaeth hon, ond mae’n sifir maidyna’r cysylltiad ddaw i’n meddwl. Ermor gyfarwydd yw geiriau’r emyn‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd ...’,tybed beth yw eu hystyr?

Mae proffwydoliaeth Sechareia yndechrau ddeufis ar ôl un Haggai, yn ailflwyddyn Dareius. Fel ei gyd-broffwyd,ymwneud â’r Iddewon a ddychweloddo’r Gaethglud ym Mabilon y mae, ondyn llawer mwy apocalyptaidd yn nwyystyr y gair: i) yn datguddio’r hyn syddi ddyfod; ii) yn ymwneud â diweddamser.

Yn y traddodiad apocalyptaiddBeiblaidd, mae yna gyflawniadpresennol (neu dyfodol agos), ondhefyd gyflawniad llawnach i ddyfod,megis y sôn am ‘ddydd yrARGLWYDD’ a’r cenhedloedd ynymgasglu i gadw Gfiyl y Pebyll (sydd âchysylltiad â’r cynhaeaf ar y dydd olaf,14:16).

Ond beth am y myrtwydd? Coedenfytholwyrdd yw’r hadas, a’i dail yncynhyrchu olew persawrus; mae eiblodau pinc yn ymdebygu i sêr. (Cafoddmerch o’r enw Hadassah, ‘myrtwydd’,

ei chodi’n frenhines a’i hailenwi ynEsther, sef ‘seren’ yn iaith Persia.)

I Iddewon y cyfnod yma, roedd ystyrbenodol i’r myrtwydd oherwyddgorchymyn a roddwyd yn adegNehemeia eu bod, adeg Gfiyl y Pebyll(neu’r tabernaclau), i wneud ‘succoth’,sef cytiau i drigo ynddynt dros yr fiyl:“Ewch allan i’r mynydd, a dygwchgangau olewydd ac olewydd gwyllt amyrtwydd a phalmwydd a choed deiliogi wneud pebyll.” (Nehemeia 8:15) Fe’uhatgoffwyd yn ogystal o’r addewidionam waredigaeth yn Eseia 41:19 a55:12–13.

Ond pwy yw’r un sy’n sefyll rhwng ymyrtwydd? Mae’r gweledigaethau sy’ndilyn (3:1–10; 6:9–15), lle y bendithirJosua yr archoffeiriad, yn gynrych -ioliadol o’r un oedd i ddod yn frenin acyn offeiriad. Sylwch ar y teitl Blagurynyn 3:8 a 6:12, sy’n adleisio Eseia 11 aJeremeia 23:1–8, yn arbennig adn. 5–6:‘ “Wele’r dyddiau yn dod,” medd yrARGLWYDD, “y cyfodaf i DdafyddFlaguryn cyfiawn, brenin a fydd ynllywodraethu’n ddoeth, yn gwneud barna chyfiawnder yn y tir. Yn ei ddyddiauef fe achubir Jwda ac fe drig Israelmewn diogelwch; dyma’r enw a roddiriddo: ‘Yr ARGLWYDD einCyfiawnder.’ ”

Gorffennaf 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Caniadaeth y CysegrSul, 28ain Mehefin7:30yb a 4:30yp

Y Parchedig R.Alun Evans sy’n cyflwynoSaith ar y Sul, is-gyfres Caniadaeth yCysegr. Heddiw, cantorion capeliAnnibynwyr Castell Newydd Emlyn a’r cylchsy’n dewis eu hoff emynau o gymanfa agynhaliwyd yng nghapel Ebenezer yn y dref.

Oedfa Radio Cymru

Oedfa Radio Cymru am 12:00yp,28 Mehefin: Sara Roberts, Boduan.

Mae Radio Cymru wedi newid trefn yddarpariaeth grefyddol ar y Sul ers misEbrill, gyda’r arlwy yn edrych fel hyn bellach:

7:30yb Caniadaeth y Cysegr12:00yp Yr oedfa12:30yp Bwrw Golwg16:30yp Caniadaeth y Cysegr

(ailddarllediad)

Sul, 28 Mehefin

OedfaDechrau CanuDechrau Canmolam 11:00yb

gyda’r Dr Catrin Elis Williamsyn arwain

Dechrau Canu DechrauCanmol

nos Sul am 7:30yh

(ailddarlledir y bore Sul canlynolcyn yr oedfa)

Yr wythnos yma Ryland fyddyn ein tywys drwy hai ouchafbwyntiau’r gyfres bresennolo Dechrau Canu, DechrauCanmol. Fe gawn ni gyfle iailfwynhau rhai o straeon ygyfres a chael cydganu rhai o’nhoff emynau.

AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

(parhad ar y dudalen nesaf)

Coeden fyrtwydd

Page 4: SEREN CYMRU · Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd

Dwi’n sgwennu’r geiriau yma ddydd Sul,14 Mehefin 2020. Hyd yma, does dimnewyddion wedi dod oddi wrthLywodraeth Cymru drwy’r sianelauenwadol pa bryd y cawn fynd ‘yn ôl’ i’ncapeli neu ein mannau addoli.

Ydach chi’n edrych ymlaen at fynd ynôl? Cwestiwn od braidd, rhaid cyfaddef,oherwydd dydi ymlaen ac yn ôl ddim ynmynd law yn llaw rywsut, ond ta waetham hynny. Rydw i wedi meddwl llaweriawn ynglªn â mynd yn ôl. Fallai ybyddai hi’n haws gofyn pa wersi neu pabethau cadarnhaol, ymarferol yr ydw iwedi’u dysgu a chael f’atgoffa ohonynnhw yn y Cyfnod Clo ynglªn â’rweinidogaeth, a defnyddio’r gair yna ynei ystyr eang?

Y peth cyntaf yr ydw i wedi’i weld a’iddysgu o’r newydd ydi bod eglwys ynfwy nag adeilad, a bod addoliad yn fwyna jest cyfarfod am awr ar y Sul. Ardraws y byd, mi rydyn ni wedi gweldCristnogion ac aelodau eglwysig ynymateb yn ymarferol i her y cyfnodgwahanol yma ac wedi gweithredu fel ydylai Cristnogion ei wneud yn euconsýrn tuag at ei gilydd. Parhaed athyfed.

Yr ail beth sydd wedi dod i’r golwgydi’r ehangder o ddulliau cyfathrebusydd yn ein meddiant bellach. Maetechnoleg wedi datblygu’n aruthrol ynystod y blynyddoedd diwethaf, a bullawer yn manteisio ar y dechnoleg yma igyfathrebu’r Efengyl drwy’r wythnosaudiwethaf. Wna i ddim dechrau rhestru’rgwahanol ddulliau. O’m rhan fy hun,gweinidogaeth Facebook ydi hi wedi bodgan fod nifer o’m haelodau’n rhannuFacebook â mi, a gweinidogaeth papur aphost ambell dro. Pawb a’i ddull ydi hi

wedi bod, ac mae angen parchu pob dull.Ond mae gweinidogaeth y ffôn, e-bost,tecst a.y.y.b. wedi bod yn hynod owerthfawr hefyd. A dweud y gwir, middylai’r enwadau ar y cyd roi addysglawnach i weinidogion i ddysgu’r dulliaucyfathrebu yma. Er enghraifft, mae ganUndeb yr Annibynwyr CymraegSwyddog Cyfathrebu sydd yn feistr ar eiwaith yn Rhodri Darcy, a fu amflynyddoedd yn gweithio i’r rhaglenDechrau Canu, Dechrau Canmol. Jest yboi i bawb, oherwydd, o brofiad yrwythnosau diwethaf, bydd yn rhaiddatblygu’r weinidogaeth hon.

O ganlyniad i hynna i gyd, dangosoddi mi’n glir iawn ein bod wedi bod ynllawer rhy ffurfiol yn ein haddoli ar ySul, yn wir bod ein bywyd eglwysig ni arei hyd yn un stribyn o ffurfioldeb.Gadewch i mi ymhelaethu: ddaru chi,weinidogion a phwy bynnag oedd ynarwain gwasanaethau ar y cyfryngaucymdeithasol, newid eich dillad panoeddech chi’n paratoi i recordio oedfaweledol ar y cyfryngau yma? Dwi ddimyn meddwl. Wnes i ddim! Ac eto, mae’na rywbeth yn dweud wrtha i, cyngynted ag y rhown ni ein traed i mewn ynôl yn ein capeli, y byddwn ni’nffurfioldeb i gyd yn glynu wrth yr undillad sabothol ac yn glynu wrth yr unhen drefn bob Sul, o ia, ac yn cadw atbregeth dri phen, hanner awr. Gobeithioy bydd ffurfioldeb yn cael ei chwalu’nrhannol.

Pellter cymdeithasol. Wel ia, dipyn oniwsans, hwnna ydi o. Ond wyddoch chibe, os bydd rheolau’r pelltercymdeithasol yn parhau pan gawn nifynd yn ôl – ac mi rydw i’r cyntaf igydnabod pa mor anodd ydi hi wedi bod

i geisio cynnal teuluoedd galarus yn ycyfnod yma a chadw pellter cymdei -thasol o ddau fetr – mi fydd yn handiiawn yn hanes Sêt Fawr llawer iawn o’ncapeli ni! Wyddoch chi, gyda llaw, nadoedd ’na ddim sôn am Sêt Fawr yn ycapeli cynnar. Fallai byddai’n well i miadael y drafodaeth yna yn fanna. Onddwi wedi’i gweithio hi’n daclus, o dan yrheolau presennol, petai blaenoriaid/diaconiaid ddim yn eistedd yn y SêtFawr, yna mi fasa’r pregethwr yn caelsbario mynd i’r pulpud. A dwi wedi triodod allan o fynd i fanno ers blynydd -oedd, yn arbennig mewn ambell gapelpan mae’r pulpud tua hanner milltir oddiwrth ac uwchben y gynulleidfa! Onidefo’r bobol yr oedd Iesu Grist, nid uwcheu pennau nhw, ac onid dilyniant iweinidogaeth Iesu ydi braint eingweinidogaeth ni? Cwestiwn inni feddwlamdano.

Yr hyn rydw i newydd ei wneud ydipwysleisio’r cadarnhaol a’r positif yngnghanol un o’r cyfnodau gwaethaf, osnad y cyfnod gwaethaf, a gafodd EglwysIesu Grist erioed drwy’r byd. Oherwyddni chlywyd fawr ddim erioed ameglwysi’n methu cyfarfod i addoli, hydyn oed yn yr amgylchiadau gwaethaf fu.

Ond mi ddigwyddodd yn 2020 pansgubodd un o’r pandemics gwaethafdrwy’r byd ar raddfa echrydus gan fynd âllawer gormod o bobl efo fo. Bu’ngyfnod gorthrymus i unigolion atheuluoedd; i weithwyr iechyd a gofal; iblant ac athrawon; i weithwyr swyddfa affatri, ac i eglwysi unigol a golloddaelodau cywir a ffyddlon. Bu’n rhaid ininnau, weinidogion ac offeiriaid, ddelioâ sefyllfaoedd na wnaethon ni freudd -wydio y byddem yn gorfod ei wneud yny dulliau yr oeddem yn eu gwneud.Fedrai’r un coleg diwinyddol ein paratoiar gyfer y profiad, oherwydd pwyslaistrwm y colegau oedd, ac yw, pregethu adysgu mewn awyrgylch gymdeithasol, abugeilio pobl yn eu sefyllfaoedd anodd.Rydyn ni wedi gorfod gwneud hynny hebfedru ysgwyd llaw na chofleidio, a hebhyd yn oed fedru mynd i weld yteuluoedd dan sylw. Ac o sôn am hynny,mae ein trefnwyr angladdau wedi bod ynallweddol o dan yr amgylchiadau yma.

Mae ’na wersi hefyd i’r enwadau i fodyn barod i weithredu ar ddiwrnodglawog. A gadewch inni fod yn onest: niddiwrnod glawog a gafwyd, ac a geir, ondun o’r stormydd gwaethaf fu erioed.

Wrth fynd yn ôl, ymlaen i’r yfory dwiei eisiau mewn ffyrdd gwahanol.

‘Yfory gwell sydd eto i ddod, / I’r Triyn Un atseinier clod,’ meddai’r PrifarddGwyndaf am yr eglwys. Boed felly, ondy mae’r ‘gwell’ yn gosod her i ninnau ibeidio â llochesu gormod yn y‘cyfarwydd’ wrth fynd yn ôl.

Iwan Llewelyn

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Gorffennaf 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Dywed Jeremeia mai disgynnydd iDafydd fydd y ‘Blaguryn’, ondoffeiriad o dª Lefi a goronir yma. Ondmae Sechareia yn rhoi’r darn arall yn ypos drwy gyhoeddi mai Sorobabel,disgynnydd Dafydd, fydd yn ‘sylfaenu’rtª’ (4:9). O’i ddatrys, gwelwn y bydd yrun sydd i ddyfod yn frenin ac ynoffeiriad, addewid a gyflawnwyd ynnyfodiad Iesu’r Meseia (cymharer Salm110; Mathew 22:41–6 a Hebreaid 7).

Daw hyn yn fwy trawiadol ymmhennod 13 wrth gyhoeddi agorffynnon: “i linach Dafydd ac i drigolionJerwsalem, ar gyfer pechod acaflendid”, a’r cyhoeddiad rhyfeddol fodyr un sydd wrth ei ymyl i’w daro gan yrArglwydd (13:1, 7).

Rhaid gweld, felly, fod yna rywbeth‘ofnadwy’ yn y dyn sydd rhwng ymyrtwydd. Dyma ddwysáu ymadroddAnn Griffiths, mai hwn yn wir yw’rgwrthrych teilwng o’i holl fryd.

Trafod ac ymateb:1. Mae’r myrtwydd yn symbol o drigo

neu ‘dabernaclu’. Myfyriwch ar rif319 yng Nghaneuon Ffydd yngngoleuni Ioan 1:14–18.

2. Ystyriwch sut mae geiriau olaf yllyfr (14:21b) yn cyfeirio at Iesu’nglanhau’r marchnatwyr o’r deml acyn cyhoeddi mai ef fydd yn codi’rwir deml (Ioan 2:13–22).

3. A gawsoch chi eich golchi yn yffynnon a agorwyd (13:1)?

Ar daith drwy’r Hen Destament (parhad)

MYND YN ÔL …?

Page 5: SEREN CYMRU · Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd

Ar ôl 18 mlynedd o wasanaeth i GymorthCristnogol, daeth yn amser ffarwelio agAnna Jane Evans, Cydlynydd RhanbarthGogledd Cymru. Cychwynnodd AnnaJane yn ei swydd yn 2002 a bu’n aelodpwysig o dîm Cymru byth ers hynny.Bydd yn dechrau ar ei gwaith felgweinidog yn Eglwys BresbyteraiddCymru, wedi ei lleoli yn Seilo,Caernarfon, ac Eglwys y Waun,Waunfawr.

Ym mlynyddoedd ei gwasanaeth gydaChymorth Cristnogol, bu iddi ymweld âphum gwlad i weld drosti ei hun ygwahaniaeth yr oedd haelioni eglwysiCymru yn gallu ei gyflawni ymysgcymunedau tlotaf y byd.

Meddai Anna Jane, ‘Yr uchafbwyntymhlith y teithiau oedd ymweld â’rPilipinas fel rhan o apêl y Presbyteriaidyn 2018. Roedd mor ysbrydoledigcyfarfod â phobl gyffredin sy wedi eugalluogi a’u grymuso gan bartneriaidCymorth Cristnogol i herio awdurdod yllywodraeth yno. Trwy’r ymdrechion hynmaent yn gallu mynnu eu hawliau ac maehynny’n allweddol wrth iddyn nhwfrwydro yn erbyn tlodi.

‘Mae wedi bod yn fraint gweithio iGymorth Cristnogol ar hyd y

blynyddoedd hyn. Wrth gwrs, ar un ystyr,dwi ddim yn gorffen – byddaf yn dal iwirfoddoli yn union fel ag yr oeddwn cynimi ddod yn aelod o’r staff. Bydd yberthynas yn parhau.’

Wrth ffarwelio â hi, dywedodd CynanLlwyd, Pennaeth Gweithredol CymorthCristnogol yng Nghymru, ‘Rydym ni’ndrist wrth ffarwelio ag Anna Jane gan fodei chyfraniad hi wedi bod mor fawr. Maehi’n berson sy’n llawn angerdd tuag atwaith Cymorth Cristnogol ac yn un sy’nteimlo’n gryf iawn wrth weldanghyfiawnder a thlodi yn ein byd.

‘Ymhlith cyfraniad enfawr Anna Janefe allwn restru paratoi sawl oedfa radio ary BBC, paratoi oedfaon yr EisteddfodGenedlaethol, a cherdded dwy daithnoddedig arbennig – y gyntaf o Nasareth,Caernarfon, i Fethlehem, Sir Gaerfyrddin,a’r llall yn cychwyn ym Methlehem ondyn diweddu yn yr Aifft, Sir Ddinbych.Efallai’n bwysicach na dim, fodd bynnag,y mae’r cefnogwyr cyffredin ar hyd a lledy gogledd sydd wedi eu hysbrydoliganddi i gefnogi gwaith CymorthCristnogol. Dyma hanfod y swydd – agwnaeth hynny gyda graen bob amser.’

Ychwanegodd Cynan Llwyd, ‘Er ybyddwn yn teimlo’r golled, rydym yndymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.Bydd ei sgiliau fel cydlynydd rhanbarthollawn mor ddefnyddiol wrth arwaineglwys. Dymunwn fendith Duw ar eigweinidogaeth newydd.’

* * *Dymunwn ninnau, ddarllenwyr yTudalennau Cydenwadol, bob bendithiddi hefyd gan ddiolch iddi am bobcyfraniad a ddaeth i law ganddi ar hyd yblynyddoedd am sawl pwnc. Yr ydym ynhyderus y bydd yn parhau i’n hysgogi iwaith y Deyrnas yn ei chyfraniadau innio’i maes newydd. (Gol.)

Gorffennaf 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Anna Jane yn ffarwelio â Chymorth Cristnogol

Mae’r awdures boblogaidd Mared Lewisyn cyhoeddi nofel fer, Gemau, sy’n myndi’r afael â phwnc dwys, agos at ei chalon– dementia.

“Hwn ydy’r ‘llyfr hawsaf ac anoddafdwi wedi ei sgwennu rioed. Tan iddementia guro ar ddrws ein teulu ni,do’n i ddim wedi meddwl llawer amdanoo ddifri. Roedd yn rhywbeth oedd yndigwydd ‘tu allan’ neu i rywun arall.Erbyn hyn dwi’n sylweddoli pa morgyffredin ydy o, ei fod yn un o’rafiechydon creulonaf, sy’n ceisio rhwygodioddefwyr oddi wrth eu teuluoedd a’uffrindiau, oddi wrth eu profiadau, oddiwrthyn nhw eu hunain, a deud y gwir,”meddai Mared Lewis.

Meddai Beti George am y nofel: “MaeMared wedi ei deall hi! Mor gelfydd ywei darlun o fywyd Rose a Cleif wrth iddementia alw heibio, gan setlo ar euhaelwyd a chreu hafog. Stori gariad, wediei hadrodd yn gywrain ac annwyl.”

Mae Gemau yn dilyn Rose, ei gfirCleif, a’i merch Nina. Mae’r nofel ynamlygu’r anwyldeb sydd rhwng gfir agwraig, wrth i Cleif edrych ar ôl Rose, ergwaethaf yr heriau. Dengys y berthynasnewydd sy’n datblygu rhwng Rose aNina, ar ôl blynyddoedd o fod ar wahân,perthynas annwyl ac ingol yr un prydwrth i’r ddwy ddod i nabod ei gilydd o’r

dechrau. Mae’r sgwennu yn onest ac ynsensitif ac mae’r nofel fer hon yn sicr ynmynd i ennyn trafodaeth.

“Ar un wedd, does ’na ddim llawer ogysur mewn dementia – does ’na ddimgwellhad. Ond y gwir amdani ydy bodcariad yn goresgyn hyn i gyd yn ydiwedd. Mae un wên, un fflach oadnabyddiaeth yn profi bod y person, a’rcariad, yn dal yno. Ac i’r teulu, i’r partner,i’r ffrind, mae honno’n fflach sy’n werth

y byd, sy’n eu cynnal, sy’n eu hatgoffabod y person go iawn yno o hyd, a’i fodangen eich gofal a’ch cariad yn fwy nadim arall,” meddai Mared.

Mae pob adran yn dechrau gydadisgrifiad o wahanol emau, sy’n cael eucyflwyno mewn gweithdai ar ddementia.Mae nodweddion y gemau amrywiol – felsaffir, emrallt a pherl – yn adlewyrchusgiliau sydd yn dal i fod gan y personsy’n dioddef o ddementia, yn hytrach na’rsgiliau sydd wedi cael eu colli.

“Mae’r nofelig yn dangospwysigrwydd rhwydwaith i gefnogi’r clafa’r gofalwr. Y peth anoddaf efo’r cyflwrydy’r teimlad eich bod ar eich pen eichhun, a ddim yn gwybod lle i droi nesa.Mae unrhyw fforwm o drafodaeth, boedwyneb yn wyneb, neu drwy ddefnyddiollenyddiaeth neu gelf fel ysgogiad, ynbeth gwerthfawr. Ac mae trafodaeth ynlleihau’r stigma hefyd, stigma sy’n dalyno, yn llechu rhwng brawddegau,”meddai Mared.

Mae Gemau gan Mared Lewis ar gaelnawr (£5.99, Y Lolfa).

Bydd Beti George yn trafod Gemaugyda Mared Lewis ar blatfform yrEisteddfod AmGen nos Lun, 13 Gorff -ennaf, am 8 o’r gloch (manylion:https://eisteddfod.cymru/amgen).

Beti George yn canmol nofel ingol am gariad a dementia

Page 6: SEREN CYMRU · Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Gorffennaf 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Fe’i ganed oddeutu diwedd Chwefrorym 1756 ym Mhenucha, Caerwys, Sir yFflint, lle treuliodd ddeugain mlyneddcyntaf ei oes. Derbyniodd addysgglasurol dda yng Nghaerwys aThreffynnon. Roedd pwysau arno, ynenwedig o du ei dad, i ymroi iysgolheictod ac ymgymryd ag urddaueglwysig ond nid felly y bu. Ar ôl gadaelysgol yn ifanc bu’n gweithio ar fferm yteulu.

Ymunodd â’r Methodistiaid ac mewnamser dechreuodd bregethu. Bu wedynyn gofalu am achosion yn yr Wyddgrug,Rhuthun a Dinbych. Yn fir amryddawn,roedd yn fardd, emynydd, hanesydd,diwinydd a chofiannydd. Er iddo briodideirgwaith, roedd yn ddi-blant. Bu farwar 16 Mehefin 1820, ddau gan mlyneddyn ôl i’r mis hwn. Fe’i claddwyd ymmynwent yr Eglwys Wen yn Ninbych.

Yn ei ddarlith ‘Y Cawr o Benucha’(2019) mae’r Athro E. Wyn James yndisgrifio Thomas Jones fel dyn hynodanghyffredin a nodedig ar sawl cyfrif agafodd ei esgeuluso gan y genedl iraddau helaeth, o leiaf hyd at ganol yrugeinfed ganrif pan gyhoeddodd yrhanesydd Frank Price Jones fywgraffiadohono (Thomas Jones o Ddinbych1756–1820, Gwasg Gee, 1956). Unsydd wedi astudio cyfraniad ThomasJones yn fwy diweddar, yn enwedig feldiwinydd, yw’r Parch edig Ddr AndrasIago, gweinidog ifanc EglwysiPresbyteraidd Bro Dinbych.

Roedd Thomas Jones yn un o’r nawcyntaf i’w hordeinio’n weinidogion gany Methodistiaid Calfinaidd yn Sasiwn yBala ym 1811, blwyddyn dyngedfenolymwahanu ei enwad yn derfynol oddiwrth Eglwys Loegr. Fe’i disgrifir fel uno arweinwyr mwyaf medrus a dysgedigei enwad – ‘diwinydd dysgedicaf yCyfundeb’, yn ôl yr hanesydd Dr JohnDavies. Cymerodd ran helaeth ynnadleuon diwinyddol ei gyfnod, ganddadlau yn erbyn Arminiaeth acUchel-Galfiniaeth.

Roedd yn gyfaill mawr i ThomasCharles o’r Bala a bu’r ddau’ncydweithio llawer. Drwy’r cyfeill -garwch hwn y daeth Thomas Jones iwybod mwy am y byd crefyddol y tuallan i Gymru ac am fudiadau fel y FeiblGymdeithas. Cydolygodd ddaugylchgrawn crefyddol o’r enw YDrysorfa Ysprydol am gyfnod (chwerhifyn). Mae’n debyg i Thomas Jonesddylanwadu ar agwedd Thomas Charles

at dorri’n rhydd o’r Eglwys Sefydledigac ordeinio gweinidogion. Dywed HuwOwen yn Capeli Cymru mai ef oedd prifarweinydd yr ymgyrch yn y gogledd isefydlu’r Methodistiaid Calfinaidd ynenwad ar wahân. Dylanwadodd yn fawrhefyd ar Gymraeg llenyddol ThomasCharles ac ysgrifennodd gofiant i’wgyfaill pennaf.

Mae cyswllt arbennig rhwng ThomasJones a’r wasg yng Nghymru. Yn fircysurus ei amgylchiadau bydolsefydlodd wasg yn Rhuthun a daethThomas Gee (yr Hynaf) ato i weithio oLundain. Symudodd y wasg wedyn iDdinbych ac fe’i gwerthwyd i ThomasGee. Cymerodd ei fab yntau, ThomasGee, drosodd yn ddiweddarach. Bu’rwasg hon yn fawr ei dylanwad, ganddod yn adnabyddus am gyhoeddiY Faner a llu o drysorau eraill.

Bu Thomas Jones yn gyfrifol am sawlcyfrol ddiwinyddol o bwys a chaiff eiadnabod fel un o ysgrifenwyr Cymraeggorau ei gyfnod. Ymysg ei gyhoedd -iadau mae Geiriadur Saesoneg aChymraeg. Roedd hefyd yn farddgraenus a chynhyrchiol. Mae tri emyn owaith Thomas Jones yn Caneuon Ffydd(ac nid pump fel y nodir ym mynegai’rgyfrol).

Un o’r emynau hyn yw: ‘O arwain fyenaid i’r dyfroedd’, a bydd y rhaiohonoch sy’n gyfarwydd â CD HoffEmynau Dafydd Iwan (2015) wedi’iglywed yn canu geiriau Thomas Jonesar ‘Yr Hen Ddarbi’. Ar y geiriau hynhefyd y cyfansoddodd D. Emlyn Evans

(brawd y Parchedig E. Keri Evans, un ogyn-weinidogion Capel y Priordy,Caerfyrddin) un o’i donau enwocaf,Eirinwg. Mae’n debyg mai harddwchbro ei febyd yn Nyffryn Teifi arbrynhawn o haf fu’n ysbrydoliaeth iddogyfansoddi’r dôn hon.

Emyn arall o waith Thomas Jones yw‘Mi wn fod fy mhrynwr yn fyw’. MaeCydymaith i Caneuon Ffydd yn nodi eifod yn seiliedig ar Lyfr Job 19: 25–26:‘Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwryn fyw, ac a saif o’m plaid yn y diwedd;ac wedi i’m croen ddifa fel hyn, eto o’mcnawd caf weld Duw.’ (BCND).

Gwantan fu iechyd Thomas Jones arhyd ei oes, ond dywed Huw Powell-Davies yn Emynau’r Ffydd iddo ddal eiafael yng ngobaith yr Efengyl ac yngngobaith Job ‘y câi ei “weled ef eto ynfy nghnawd” yn ôl ei fersiwn ef ei huno’r emyn cyn ei newid i “allan o’mcnawd” gan olygyddion diweddarach’.

A chyda’r emyn hwn y cysylltir y dônTrewen amlaf, gwaith D. Emlyn Evansunwaith eto. Mae enw’r dôn yn dod ofro enedigol y cyfansoddwr. A thra oeddyno’n eistedd ar gamfa ‘yng nghwmnicôr y wig a golygfeydd natur’, yn ôlE. Keri Evans, ei gofiannydd, y daeth ydôn i fod. Ac wrth sôn am y briodasrhwng y geiriau a’r dôn, meddaiCydymaith Caneuon Ffydd: ‘Cymaintyw’r cyswllt rhyngddynt fel bod strydwedi ei henwi’n Stryd Trewen ynNinbych, tref Thomas Jones.’ A dymaddyfynnu pennill cyntaf yr emynadnabyddus hwn fel ag yr oedd ynwreiddiol i gofio am fir go arbennig:

Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw,a’m prynodd â thaliad mor ddrud;fe saif ar y ddaear, gwir yw,yn niwedd holl oesoedd y byd;er ised, er gwaeled fy ngwedd,teyrnasu mae Mhrynwr a’m Brawd;ac er fy malurio’n y beddca’i weled ef eto’n fy nghnawd’.

Alun Charles(O ‘Bapur y Priordy’,rhifyn Mehefin 2020)

Cofio Daucanmlwyddiant MarwThomas Jones (1756–1820)

Argraffdy cyntaf Thomas Jones ynRhuthun (o gofiant Jonathan Jones iddo)

Page 7: SEREN CYMRU · Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd

Seren Cymru Gwener, Gorffennaf 3ydd 20207

FFRINDIAUmyfyrdod gan Peter Harris Davies

Dywedir na allwn ddewis ein teulu ond y gallwn ddewis ein ffrindiau. Os felly yna rhaid bod yn gall ac yn ofalus. Tueddwn beth bynnag wyro at y rhai sy’n debyg i ni o ran oedran, iaith a chefndir. Roedd hyd yn oed yr Arglwydd Iesu Grist â ffrindiau tra ar y ddaear. Yn eu plith oedd Ei ddisgyblion yn fwyaf arbennig. Yn wir dywedoodd wrthynt: Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision...Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion (Ioan 15:15). Canodd Ryan Davies gynt Os wyt yn ffrind i’r Iesu, ‘rwyt yn ffrind i mi. Mae gan yr Iesu ffrindiau o hyd yng Nghymru sy’n ei adnabod Ef ac yn aros yn Ei gwmni. Fffrindiau y mae’n rhannu Ei gyfeillgarwch â nhw. O feddwl am eglwys Iesu Grist yn ein gwlad y dyddiau rhain tybed faint o gyfeillgarwch sy’n bodoli yn ein plith? Gwyddom am ffrindiau tywydd ffein sy’n gadael unwaith daw’r storm. Ond profwn hefyd ffyddlondeb ffrindiau sy’n aros gyda ni beth bynnag y tywydd! Mae hanes Dafydd a Jonathan yn ddarlun neilltuol o deyrngarwch dau ffrind i’w gilydd. ‘Stim arlliw gwrywgydiol yn yr hanes fel yr honnir gan rai ond yn hytrach dealltwriaeth ddofn a chariad brawdol y naill tuag at y llall. ‘Roeddent ar yr un donfedd a’i gilydd a chwlwm cyfeillgarwch cyfamodol yn eu clymu’n un yn yr Arglwydd. Mae nifer o bobl unig y tu fewn i’r eglwys ac mae’n bwysig ein bod yn ffurfio cyfeillgarwch ystyrlon â’r cyfryw rai. Mae bod yng nghwmni eraill yn brofiad cyfoethog er gwaetha’n swildod. Ac mae cymysgu â phobl y tu fewn i’r eglwys yn lle cadw draw hefyd yn fuddiol i ni. Mae yna gyfrifoldeb ar holl aelodau’r eglwys am eu cyd-aelodau (1 Corinthiaid 12:26). Mae hyn yn cynnwys y ffaeledig yn ein mysg. Golyga hyn gweddio dros y cyfryw rai, eu cynghori a’u cynorthwyo boed mewn gair neu weithred. Mae pob aelod eglwysig â dawn i’w chyfrannu yng ngwaith yr eglwys (1 Corinthiaid 12:7). Mae rhai wedi’u donio â’r gallu i gysuro’r ffaeledig a chaent gyfle i ddatblygu’r ddawn hon wrth iddynt gyfranogi yn y wedd hon ar weinidogaeth yr eglwys. Mae gweddill yr eglwys i gofio am y ffaeledig mewn gweddi. Mae’r gwaith o fugeilio yn golygu amddiffyn a bwydo defaid praidd y Bugail Da (Ioan 21:15-7). Mae hyn yn meddwl gweini i anghenion ysbrydol ac emosiynol aelodau’r eglwys. Mae’r Arglwydd Iesu Grist, Pen yr eglwys, wedi galw rhai pobl yn neilltuol a’u galluogi i wneud y gwaith hwn (Effesiaid 4:11). Trwy fugeilio mae’r Arglwydd Ei Hun yn gallu ymestyn at Ei ddefaid. Mae angen bugeilio am fod pobl ag anghenion ysbrydol ac emosiynol. Mae’r Beibl yn rhoi pwyslais ar ofalu am ein gilydd (Galatiaid 6:2). Y nod yw ein bod yn tyfu’n gyflawn yng Nghrist (Effesiaid 4:13). Ac mae angen bugeilio mewn ffordd gadarn a chynnes gan fod yn wrandawgar, cydymdeimladol ac anfeirniadol.

DU NEU GWYN

Nid gofyn wyf a ydych chi moyn llaeth yn eich coffi?! Yn hytrach a oes rhai pethau du yn wyn a rhai pethau gwyn yn ddu? Mewn geiriau eraill a oes yna bethau sy’n llwyd? Daw dyn ar draws sefyllfaoedd mewn bywyd sy’n fwy llwyd na du neu gwyn. Nid yw hynny’n gwadu bodolaeth du a gwyn ond mae angen dirnadaeth wrth ddelio â sefyllfaoedd amwys. Ceir sefyllfaoedd llwyd hyd yn oed yn y Beibl. Er enghraifft, a oedd y brenin Saul yn wir grediniwr? Pam y goddefwyd amlwreiciaeth yn y Beibl? A sut mae Cristnogion i ymddwyn ar y Saboth? Wedi dweud hynny nid yw’r Beibl yn malu awyr wrth alw rhai pethau wrth eu henwau priodol, e.e. llofruddiaeth yw llofruddiaeth, godineb yw godineb a lladrata yw lladrata. Wrth galedu mewn pechod mae dyn yn gwrydroi y da am y drwg er mwyn cyfiawnhau ei hun (Eseia 5:20 c.f. Rhufeiniaid 1:25). Mae angen beth bynnag i’r Beibl ein plygu ni ac nid ni’n plygu’r Beibl. Yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol cyfeirir at aggravating a mitigating factors. Cymerir y rhain i ystyriaeth wrth bwyso a mesur cymhelliad y toseddwr a’r ddedfryd briodol i roi iddo. Felly ystyrir ffactorau fel maint y niwed, edifeirwch y troseddwr a’i hanes troseddol. Wrth ystyried y feirws Corona fe gwyd y cwestiwn ai barn Duw yw neu beidio? Wfftia’r anghredadun y fath gwestiwn neu efallai cyhudda Dduw o fod yn greulon! Ond mae’n gwestiwn perthnasol i’r eglwys ofyn er yn galetach ddod o hyd i ateb unfryd iddo. Yn y Beibl ystyriwyd plâu fel barn Duw ar bechod dyn. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod yr un peth yn wir heddiw. Gwelodd y Ficer (Rhys) Prichard beth bynnag gysylltiad uniongyrchol rhwng y pla mawr yn Llundain ym 1625 a phechod dyn ac felly galwodd ar ei gydwladwyr i edifarhau:

Cymru, Cymru, mwrnia, mwrnia,Gad dy bechod, gwella, gwella,Rhag i’th bechod dynnu dial,A digofaint Duw i’th ardal.

Tybed a fuasai’n dweud yr un peth am yr haint presennol? Os na chytunwch â barn yr hen ficer oni fuasech yn barod cydnabod bod Duw yn estyn mas at ddyn hyd yn oed trwy glefydau heintus? Dywedodd C.S. Lewis: God whispers to us in our pleasures, speaks in our conscience, but shouts in our pains: it is His megaphone to rouse a deaf world. Ni ellir dweud bod pob afiechyd, anabledd neu anffawd yn gosb uniongyrchol oddi wrth Dduw, e.e. Luc 13:1-9 & Ioan 9:1-3. Ond mae Duw yn gallu defnyddio sefyllfaoedd penodol i fawrhau Ei ogoniant gan gynorthwyo pobl i gredu yn Ei Fab (Ioan 11:4, 15 & 42). Er cymaint tristwch y sefyllfa mae gobaith i’r Cristion yng nghariad yr Arglwydd. Mae’r eglwys wedi gwneud cyfraniad mawr ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol mewn sawl gwlad dros flynyddoedd lawer. Er bod dioddefaint yn treiddio i bob ran o fywyd dyn yn y byd eto enillodd Iesu Grist fuddugoliaeth ar bechod. Felly gall y Cristion ddweud nad yw dioddefiadau’r presennol i’w cymharu â’r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni (Rhufeiniaid 8:18). Peter Harris Davies

mae digon o ddŵr twym ar gael bellach.

Os dysgodd y Clwmglo yma rywbeth i ni mae wedi ein dysgu nad adeilad yw eglwys o gwbwl. Mae gwahaniaeth rhwng yr Ecclesia – yr adeilad o frics a morter sy’n ddau gant plus oed, a’r Koinonia – y casgliad cyfoes o ddilynwyr Iesu Grist sy’n digwydd bod yn cyfarfod yn yr (hen) adeilad. Y gymdeithas honno a’r bobl rheini sy’n gwneud yr eglwys.

Peth arall rydyn ni wedi ei ddysgu yma y ‘capel’ ni yw ei bod hi’n bosib cael cyfarfod ar adeg wahanol, ar gyfrifiadur, ac o ffurf wahanol i’r ‘Sandwijis Club Emynau’ arferol (Emyn Darllen Emyn Gweddi Emyn Pregeth Emyn y Fendith). Oherwydd amgylchiadau fe agorwyd y caets, fe symudwyd y muriau ac fe ehedodd y dychymyg i chwilio am bosibiliadau gwahanol a thrydanol. A thybed sut gyrddau oedd ganddyn nhw yn yr Eglwys Fore beth bynnag? Tybed oedden nhw ar sandwijis emynau? Y peth yw, roedden ni wedi ein gosod mewn sment parhaol o sut ddylai ‘Oedfa’ gael ei chynnal. Ond o ble daeth y patrwm hwn? Ac yn wir mae’r amgylchiadau wedi ein gorfodi i newid a meddwl y tu allan i’r muriau a godon ni ein hunain trwy arferion a thraddodiadau dynol.

Ond wyddoch chi beth yw’r newid mwyaf, y peth pwysicaf rydyn ni wedi ei ddysgu? Rydyn ni wedi dysgu bod Duw yn real a bod Iesu yn agos. (Nid yw’n well yn unman nag yng ngwaetha’r storom gref etc.) Mewn rhyw ffordd ryfedd mae’r cyfyngder yma wedi gwneud ein cred yn Nuw yn gryfach er gwaethaf yr amgylchiadau. Mae gobaith am bethau’r ddaear hon wedi diflannu, bwyd arbennig neu gyfarfod sbeshal neu wyliau hyfryd – d’yw nhw ddim ar gael mwy. Ond mae rhyw gnewyllyn o dân bychan oedd wedi ei gynnau gan Dduw ym mhob un ohonom drigolion daear pan anadlodd anadl einioes ynom wedi ail-gydio ac mae’r wyntyll hon wedi ei alluogi i losgi’n eirias. Mae mwy na jyst pobl oedfa sy’n methu mynd i unman bellach yn gwylio Oedfa’r Bore meddai’r ffigyrau! Pam felly? Am mai bodau ysbrydol ydyn ni i gyd yn y bôn, yn gapelwyr ac yn bobl y byd mawr sydd mewn angen o’n cwmpas.

Wel nawr te bois, beth wnawn ni wrth fynd yn ôl? Dal i ferwi tecell pan mae digon o ddŵr poeth ar gael am fod y boiler wedi ei ail-gynnau? (Ac nid gennym ni sylwch ond gan y Tragwyddol ei hunan a’i Fab a ddaeth i’n gwared a’i Ysbryd ddaeth i’n cynhesu.) Gadewch i ni beidio gwastraffu ein hegni a’n hamser gwerthfawr a phrin fan yma yn mynd yn ôl at yr UN HEN FFORDD pan fod cyfle newydd wedi agor i ni. Ie, mynd yn ôl. Ond mynd yn ôl fel y Doethion gynt ar hyd ffordd arall.

Page 8: SEREN CYMRU · Ac yna mae ‘Zoom’! “Nid yw mor gymhleth ag y mae’n ymddangos!”, dywedwyd wrthym. Ac mae hyn yn hollol wir! Dychmygwch y llawenydd o weld wyneb aelod 91 mlwydd

8Seren Cymru Gwener, Gorffennaf 3ydd 2020

ADRODDIAD PWYLLGOR EGIN GWYRDD CYMANFA BEDYDDWYR SIR BENFRO

‘Byddi’n teimlo’n saff, am fod gen ti obaith; yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel’. Job 11:18

Mae Cartref Henoed y Bedyddwyr wrth reswm wedi cael ei gau i ymwelwyr yn ystod yr argyfwng Covid 19. Mae’r drysau ar gau i bobl galw draw i ymweld a dweud helo wrth deulu a ffrindiau, ond ar hyn o bryd does neb ond y staff gofalus yn medru bod yna i’r preswylwyr. Felly penderfynodd Pwyllgor yr Egin Gwyrdd Cymanfa Bedyddwyr Penfro tynnu gyda’i gilydd i greu celf ac ysgrifennu llythyron i godi calonnau’r trigolion. Ceisiodd y pwyllgor atgoffa bod pobl dal yn meddwl amdanyn nhw, ac i greu llecyn bach lliwgar yn y cartref. Cawsom ni lawer o bethau gwahanol, e.e. enfys, blodau, pili-palod ag ambell i gwningen. Gyda’r gwaith celf hyfryd dyma nhw yn bwrw ati i greu fideo bach o ffotos o’r plantos gyda’r gwaith celf ac ati. Diolch i Einir Dafydd Thomas, aelod yng Nghapel Blaenffos a Tudur Dylan Jones am ddefnydd o’u gân hyfryd ‘Enfys yn y Ffenest’ ar y fideo. Roedd y trigolion wedi dotio ar y fideo, ac wedi ei gwylio 5 gwaith yn syth ar ôl ei gilydd!! Ydyn, da ni yn byw mewn cyfnod gofidus, ond roedd y plant yn benderfynol i wneud rhywbeth arbennig i’r bobl arbennig yng Nglyn Nest. I ni yn gweddïo fel pwyllgor bydd yr argyfwng yma yn dod i ben fel gallwn ni fod gyda’n gilydd unwaith eto.