strategaeth pum mlynedd celfyddydau rhyngwladol cymru

21
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Creu 2013 Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013 Strategaeth 5 mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn hwyluso gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau drwy gydweithrediadau, prosiectau, rhwydweithiau a chyfathrebu. Gyda’r cloc: Mark Rees, Mabon, Rounded Vessel gan Duncan Ayscough, Catrin Howell

Upload: wales-arts-international

Post on 29-Mar-2016

229 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Strategaeth pum mlynedd Celfyddydau Rhyngwlaol Cymru

TRANSCRIPT

Page 1: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Creu 2013

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013Strategaeth 5 mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn hwyluso gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau drwy gydweithrediadau, prosiectau,rhwydweithiau a chyfathrebu.

Gyda’r cloc: Mark Rees, Mabon, Rounded Vessel gan Duncan Ayscough, Catrin Howell

Page 2: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Cynnwys

Cyflwyniad i’r bartneriaeth 01

Tirlun Newidiol 03

Diben 06

Ein gweledigaeth 06

Canlyniadau ac amcanion Strategol 07

Amcanion CRhC 08

Gweithredu 15

Mae'r ddogfen hon wedi'i hypergysylltu. Bydd clicio ar y penawdauar y dudalen gynnwys yn mynd â chi'n syth i'r dudalen berthnasol.

Arts Council of WalesCyngor Celfyddydau Cymru

llun: Eddie Ladd

Page 3: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

1Cyflwyniad i’r bartneriaeth

Sefydlwyd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru(CRhC) ym 1997 fel partneriaeth strategolrhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a'rCyngor Prydeinig (y CP o hyn ymlaen), yn seiliedig ar gred gyffredin y byddaicydweithio ac integreiddio gweithgareddausy'n cyd-fynd â'i gilydd yn gwella cyfleoeddac effaith.

Fel Corff Cyhoeddus a Noddir gan yCynulliad, mae Cyngor Celfyddydau Cymru(y cyfeirir ato fel CCC o hyn ymlaen) ynatebol i Lywodraeth Cynulliad Cymru amariannu a datblygu'r Celfyddydau yngNghymru. Y Cyngor Prydeinig yw prifsefydliad Cysylltiadau Diwylliannolrhyngwladol y DU, a'i ddiben yw i feithrin

cysylltiadau diwylliannol ac addysgol rhwngpobl yn y DU a gwledydd eraill fydd o fuddi'r naill a'r llall.

Fel llywodraeth Cymru ddatganoledig o fewny DU ac Ewrop ehangach, LlywodraethCynulliad Cymru yn datblygu amryw ogydberthnasau rhyngwladol. Mae CRhC yngweithio'n agos gyda sawl adran oLywodraeth y Cynulliad i alluogi Cymru iymgysylltu'n rhyngwladol ar faterion sy'nymwneud â'r celfyddydau, gan gynnwys yr Is-adran Diwylliant a Threftadaeth, BusnesCreadigol Cymru, Bwrdd Strategaeth yCelfyddydau, Materion Ewropeaidd acAllanol a Busnes Rhyngwladol Cymru.

Cytundeb Partneriaeth CRhC, llun gan Betina Skovbro

Page 4: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

2

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ynrhan o Dîm Rheoli’r Celfyddydau CyngorCelfyddydau Cymru a thrwy hynny yngweithio i sicrhau fod gweithio’n rhyngwladolyn rhan anatod o Gynllun Corfforaethol,Strategaethau Celf a strategaethau apholisiau eraill y Cyngor. Maecydweithrediadau artistig rhyngwladol aphartneriaethau creadigol yn rhan bwysig o'rgwaith o ddatblygu'r celfyddydau yngNghymru.

Mae'r celfyddydau yn torri ar draws ffiniau acmae nifer o gyfleoedd rhyngwladol y gallartistiaid a'r celfyddydau yng Nghymrufanteisio arnynt.

Mae cydweithrediadau artistig yn datblygucydberthnasau rhyngddiwylliannol ac yn codiproffil celfyddydau a diwylliant Cymru ynrhyngwladol. Maent hefyd yn cyfrannu atddatblygu economi greadigol yng Nghymru.

Mae cydnabyddiaeth ryngwladol gynyddol i’rcyfraniad a wneir gan y celfyddydau mewnsawl maes, gan gynnwys datblygueconomaidd, sgiliau, iechyd, twristiaeth,deialog rhyngddiwylliannol ac adfywio.

Bydd datblygu seilwaith sy'n galluogiartistiaid a sefydliadau celfyddydol i fanteisioar amrywiaeth o gyfleoedd rhyngwladol ynflaenoriaeth i bartneriaeth CRhC dros y pummlynedd nesaf.

Bydd hyn yn golygu canolbwyntio argyfathrebu, rhwydweithiau, buddsoddi,cydnabyddiaeth a chyrhaeddiad.

Mae cyfuno arbenigedd Cyngor yCelfyddydau mewn datblygiadau arhwydweithiau yng Nghymru, ârhwydweithiau celfyddydol byd-eang yCyngor Prydeinig, yn cynnig potensialcreadigol sylweddol.

Mae'r bartneriaeth hon yn ganolog i waithCRhC, ond dros gyfnod y strategaeth hon,bydd CRhC yn sefydlu cysylltiadau strategolategol pellach i feithrin cefnogaeth i artistiaida sefydliadau sy'n ymwneud â gwaithrhyngwladol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'r strategaeth hon yn dangos ymrwymiadi gryfhau'r gwaith o ymgysylltu rhyngwladolym maes y celfyddydau yng Nghymru.

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Blaen y Tanzhaus yn Dusseldorf (llun: Roy Campbell Moore)

Page 5: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

3Tirlun Newidiol

Mae amgylchedd gwaith CCC a'r CyngorPrydeinig, ac yn wir y celfyddydau, wedinewid yn ystod y blynyddoedd diwethaf abydd yn parhau i newid.

Safbwynt Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae Cymru bellach yn wlad ddatganoledigyn y DU ac o fewn Ewrop ehangach. Maeagweddau diwylliannol cynyddol ar waithcydberthnasau rhyngwladol LlywodraethCynulliad Cymru.

Bellach mae Cyngor Celfyddydau Cymru ynedrych ymlaen at gydberthynas newydd âLlywodraeth Cynulliad Cymru ar ôl yrAdolygiad o'r Celfyddydau a gynhaliwyd ganElan Closs Stephens. Tra mae’r egwyddorlled braich yn hanfodol i’r celfyddydau,bydd cydweithio gwell mewn meysyddpenodol o waith, fel y nodir yn Strategaethau

Ffurf Celfyddydol, Cynllun Corfforaethol2008-11, a Pholisi Rhyngwladol CyngorCelfyddydau Cymru, yn cynnig cyfleoeddnewydd.

Mae'r cynnydd ym mhresenoldeb Cymrumewn gwledydd eraill yn cynnig cyfleoeddnewydd i GRhC ddatblygu llwybraurhyngwladol newydd i'r celfyddydau. Maeswyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymruym Mrwsel, er enghraifft, eisioes yn gweithioi ddatblygu cysylltiadau amhrisiadwy i'rcelfyddydau yng Nghymru gyda 27 o aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd.

Gall y celfyddydau, pan yn gweithredu ynanibynnol ac i’w hamcanion creadigol,gynnig gwerth berthnasoedd diwylliannol ahelpu i godi proffil ein cenedl fach fyddyneutro yn creu diddordeb yn y celfyddydauyng Nghymru.

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Yin Shangyi

Page 6: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Safbwynt y Cyngor Prydeinig

Pwrpas y Cyngor Prydeinig yw creucysylltiadau ac ymddiriedaeth ar ran y DUdrwy gyfnewid gwybodaeth a syniadaurhwng pobol led led y byd. Yn dilyn arwyddo cytundeb newydd gydaCyngor Celfyddydau Cymru, mae’r CyngorPrydeinig wedi creu swydd gelfyddydolnewydd yng Nghymru i ddatblygu yberthynas gyda Celfyddydau RhynwladolCymru ac fel rhan o’u Cynllun Gweithredu’rCelfyddydau.

Mae Cynllun Gweithredu y CP yn ymrwymo ifuddsoddi yn y rhwydwaith rhyngwladol oarbenigedd proffesiynnol gan gynnswysswyddi arbenigol ac ymgynghorwyr allannol.Mae Grŵp Celfyddydau'r Cyngor Prydeinigyn gweithredu mewn 110 o wledydd ymmhedwar ban byd. Bydd CRhC yn parhau iweithio gyda'r Cyngor Prydeinig er mwynsicrhau bod Cymru yn rhyngweithio gydarhwydweithiau, prosiectau a rhaglennirhyngwladol.

Mae’r DU yn cael ei chydnabod ynrhyngwladol fel arweinydd mewncreadigrwydd. Mae economi greadigol y DUbellach yn cyfrif am 7% o CMC ac mae'n tyfuddwywaith yn gyflymach na'r economi yngyffredinol. Mae'n debyg y bydd y sector yntyfu ymhellach gyda'r galw byd-eangcynyddol am gynnwys creadigol arhwydweithiau rhyngwladol y DU. Mae cyflei'r celfyddydau a chreadigrwydd yngNghymru elwa o'r economi greadigol fyd-eang fywiog. O ran hyn, byddarweinyddiaeth ddiwylliannol ar bob lefel ynallweddol.

Nod Creative Britain, strategaeth economigreadigol llywodraeth y DU, yw sefydlu'r DU fel canolbwynt creadigol y byd. Mae gan ystrategaeth sawl menter ryngwladol a allaigynnig cyfleoedd i'r celfyddydau yngNghymru ac sy'n gorgyffwrdd â chylchgwaith CRhC o ran y farchnad ryngwladol argyfer y celfyddydau, crefftau, cerddoriaeth a'rcelfyddydau perfformio.

Er bod Creative Britain yn canolbwyntio ar yreconomi greadigol, mae'n nodi cenhadaethddiwylliannol ryngwladol yn ogystal â chreumarchnad agored mewn syniadau a sgiliaufel ffyrdd o ddatblygu creadigrwydd y DU. .

4

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Richard Deacon - Biennale Fenis 2007(llun: Poly Braden)

Page 7: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

5Safbwynt CRhC

Mae cydnabyddiaeth ryngwladol a'rdiddordeb yn y celfyddydau o Gymru ar dwf,sy'n glod nid yn unig i waith blaenorol CRhC,ond hefyd i amrywiaeth o nifer o sefydliadausydd wedi cefnog datblygiad y celfyddydaua chodi proffil diwylliant Cymru ynrhyngwladol. O ran hyn, edrycha CRhCymlaen at ddatblygu ei waith gydag ystod obartneriaid drwy broseictau, yng Nghymru acyn rhyngwladol. Bydd y rhain yn cynnwyspartneriaid eraill y DU (e.e. Visiting Arts).

Mae chwyldro cyfathrebu'r deng mlynedddiwethaf wedi arwain at ehangurhwydweithiau artistiaid sy’n defnyddiotechnolegau newydd. Mae cydweithredu achyfnewid artistig rhithwir yn ychwanegu at yrhai ffisegol sy'n dibynnu ar deithio. Maedatblygiadau newydd yn y cyfryngau yncynnig porth i'r celfyddydau yng Nghymru i'rbyd ac y byd i’r celfyddydau yng Nghymruac yn cynnnig llwyfannau rhyngwladolnewydd i'n hartistiaid.

Mae gan Gymru hanes o gaelrhyngwynebau diwylliannau cryf â'r byd, oddyheadau ar gyfer rhannu a chytgord ybyd, er enghraifft, sydd wrth wraidd sefydluEisteddfod Gydwladol Llangollen ar ôl yr AilRyfel Byd, hyd at yr her i Gelf adlewyrchudynoliaeth yn arddangosfa Artes Mundi asefydlwyd yn ddiweddar neu bresenoldebCymru yn y Venice Biennale.

Mae Cymru yn arwain y blaen yn y DU o randwyieithrwydd. Mae hyn yn cynnig y cyfle irannu profiadau penodol o ran hunaniaethieithyddol a diwylliannol a hyder gydachymdeithasau dwyieithog neu amlieithogeraill drwy weithgareddau theatr, llenyddol,cerddorol ac aml-gyfrwng. Maeamlieithrwydd yn un o flaenoriaethau'rUndeb Ewropeaidd, sydd â 27 o aelod-wladwriaethau gyda 21 o ieithoeddswyddogol a thros chwe deg o ieithoedd llaieu defnydd.

Mae diwylliant a chyfathrebu hefyd ynflaenoriaeth ar draws Ewrop a chefnogirystod o rwydweithiau a chyfleoeddcelfyddydol rhyngwladol drwy bartneriaethautraws-genedlaethol yn yr UE sydd hefyd ynhelpu cyflwyno ymarfer da o wledydd eraillyng Nghymru.

Mae gan yr Agenda Diwylliant yn Ewropnewydd dair blaenoriaeth sy'n berthnasol iCRhC:

hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol adeialog ryngddiwylliannol (sy'n cynnwyshyrwyddo symudedd artistiaid a gweithwyrproffesiynol yn y maes diwylliannol achyfleu'r holl fynegiannau artistig y tu hwni ffiniau cenedlaethol)

hyrwyddo diwylliant fel catalydd ar gyfercreadigrwydd yn fframwaith StrategaethLisboa ar gyfer twf a swyddi;

hyrwyddo diwylliant fel elfen hanfodol yngnghydberthnasau rhyngwladol yr Undeb.

Mae gan CRhC rôl eiriolaeth, hefyd. Maecyfarwyddwr CRhC yn aelod o FwrddStrategaeth y Celfyddydau'r Gweinidog drosDreftadaeth. Bydd llywodraeth glymblaid"Cymru'n Un" Llafur a Phlaid Cymru yndatblygu strategaeth ddiwylliannol newydd iGymru a fydd yn ystyried sut i “make ourmark on the world stage and supportopportunities for Wales’ artistic producers toparticipate on the international stage.” (YGweinidog dros Dreftadaeth, Rhodri GlynThomas, yn Arts Professional, Tachwedd2007)

Yr her i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymrudros y pum mlynedd nesaf yw datblygu'rseilwaith yng nghyd-destun y tirlun newyddhwn fel bod y celfyddydau yng Nghymru ynymgysylltu â chyfleoedd rhyngwladol ac ynmanteisio arnynt.

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Page 8: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

6 Diben

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw fod celfyddydau o Gymru yn ymgysylltu ac yn datblygu’n rhyngwladol, ac erbyn diwedd 2013 bydd rhaglenprosiectau a gweithgareddau Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn:

trawsffurfio cyfleoedd i ymarferwyr artistig rhyngwladol yngNghymru

buddsoddi mewn arfer artistig ac arweinyddiaeth ddiwylliannol yngNghymru drwy ymgysylltu â rhwydweithiau byd-eang a lleol

dod a buddsoddiadau ariannol i'r celfyddydau a'r economigreadigol yng Nghymru

meithrin cydberthnasau gyda diwylliannau gwahanol drwy'rcelfyddydau

meithrin rhagoriaeth artistig ryngwladol yng Nghymru

gwella'r effaith ryngwladol i gelfyddydau a diwylliant Cymru acennill rhagor o gydnabyddiaeth iddynt.

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Diben CRhC yw gosod y celfyddydau adiwylliant cyfoes Cymru ar lwyfan byd a rhoicyd-destun rhyngwladol i'r celfyddydau yngNghymru.

Mae CRhC yn bodoli i ddarparu seilwaithsy'n creu, hyrwyddo a chyflwyno rhaglen oweithgareddau a phrosiectau sy'n datblyguac yn buddsoddi mewn celfyddydau oansawdd o Gymru yn rhyngwladol.

Nid yn unig y mae CRhC yn sicrhau bodallbwn artistig a diwylliannol Cymru yn caelei werthfawrogi gan gynulleidfa mor eang âphosibl, ond mae hefyd yn chwarae'i ranwrth ddatblygu dealltwriaeth well rhwng poblyn y DU a'r rhai mewn gwledydd eraill drwyddeialog ryng-ddiwylliannol, cyfnewidcelfyddydol a chydweithrediadau.

Page 9: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Nodau y strategaeth hon yw cyflawni'r gyfresganlynol o ganlyniadau:

rhagor o artistiaid a sefydliadaudiwylliannol yn gallu gweithio'nrhyngwladol yn fwy amlwg a chyda mwy ogydnabyddiaeth.

Cymru'n cyfrannu at hyrwyddo economigreadigol a gwybodaeth y DU ac yn caelbudd ohoni.

denu mwy o waith i Gymru er mwynysgogi'r celfyddydau yma a darparumeincnod ar gyfer y sector celfyddydaucynhenid.

cynyddu capasiti sector celfyddydol Cymrui weithredu'n rhyngwladol.

rhagor o fuddsoddiad gan yr UE acymgysylltu â hi.

mwy o ddealltwriaeth ryngddiwylliannol ynarwain at newid cymdeithasol cadarnhaol.

proffil uwch i Gymru a'i diwylliant yn ybyd.

7Canlyniadau ac amcanion Strategol

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Canolfan Grefft Rhuthin, (llun: Dewi Tannatt-Lloyd)

Page 10: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

8

I gyflawni'r canlyniadau uchod a gweithreduein gweledigaeth, nodir amcanion strategolCRhC mewn tair blaenoriaeth:

i) cynyddu cyfleoedd rhyngwladol i'r celfyddydau yng Nghymru i'r eithaf

ii) cynyddu'r buddsoddiad i raglen weithgareddau CRhC

iii) sicrhau effaith ryngwladol a chydnabyddiaeth i gelfyddydau o Gymru

Amcan 1: Cynyddu cyfleoedd rhyngwladol i'r eithaf

Nod CRhC yw hwyluso a chynyddu'rcyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael iartistiaid a sefydliadau celfyddydol yngNghymru i'r eithaf a fydd, yn ei dro, o fuddi'r celfyddydau yng Nghymru ac yn eudatblygu.

Bydd CRhC yn datblygu strwythurau i sicrhaubod y gymuned gelfyddydol (unigolion asefydliadau) yn ymwybodol o gyfleoedd oddiddordeb iddynt a bydd yn eu cynghori ary posibilrwydd o gymryd rhan.

Bydd CRhC yn canolbwyntio ar ddatblygugwaith rhyngwladol i artistiaid proffesiynolyng Nghymru.

Caiff y flaenoriaeth hon ei chyflawni drwyragor o wybodaeth ac o gyfathrebu,rhwydweithio a chymorth teithio.

1.1 Cyfathrebu, gwybodaeth ac eiriolaeth

Bydd strwythur CRhC (systemau, prosiectauac offer) yn cynyddu ein gallu i hysbysucyfleoedd i alluogi artistiaid a sefydliadaucelfyddydol i ddatblygu eu gwaithrhyngwladol eu hunain yn ogystal â bod yneiriolwr i gelfyddydau Cymru i'r prif rymoeddrhyngwladol perthnasol.

Bydd gan gynllun cyfathrebu CRhC ddau brifnod:

1) codi proffil celfyddydau Cymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol i'r byd (allan)

2 codi ymwybyddiaeth yng Nghymru o gyfleoedd rhyngwladol perthnasol (mewn).

Bydd CRhC yn archwilio technolegau newyddi gyflawni'r nodau hyn.

Yn ogystal â hwyluso artistiaid a sefydliadaucelfyddydol o Gymru i weithio'n rhyngwladol,bydd CRhC yn bwynt mynediad igelfyddydau rhyngwladol i mewn i Gymru.Yn hyn o beth, bydd CRhC yn rhoigwybodaeth a chysylltiadau ledled Cymru i’rCyngor Prydeinig a phartneriaid strategoleraill.

Bydd pob un o brosiectau a gweithgareddauCRhC yn nodi'r offer cyfathrebu a'r cynllungweithredu perthnasol.

O ran rhai prosiectau, gallai cymorthcyfathrebu ychwanegol fod ar gael mewnpriodwledydd a nodir (e.e. y CyngorPrydeinig, swyddfeydd LlCC a’uhasiantaethau cysylltiadau cyhoeddus).

Amcanion CRhC

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Page 11: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

9Mae'r celfyddydau, yn eu hanfod, yn cynnigmodd cyfathrebu effeithiol iawn os ydynt o'rsafon uchaf ac os cânt gefnogaeth ddigonol.Bydd CRhC yn cefnogi ac yn hyrwyddocelfyddydau o'r radd flaenaf a phrosiectau ygellir eu hyrwyddo a'u cydnabod ar y lefelryngwladol. Bydd rhai gweithgareddau sy’ngyffredin i’r holl ffurfiau celf yn cael eublaenoriaethu, megis datblygu ysgrifennu asylwebaeth beirniadol.

Darperir cymorth cysylltiadau cyhoeddus achymorth marchnata gan GyngorCelfyddydau Cymru a'r Cyngor Prydeinig.

Bydd CRhC yn nodi ac yn cadw cofnod oddigwyddiadau yng Nghymru a thu hwnt sy'ncynyddu'r cyfleoedd rhyngwladol perthnasoli'r sector i'r eithaf (e.e. Smithsonian 2009, YrEisteddfod Ryngwladol, y Gelli Gandryll, JazzAberhonddu, Artes Mundi, Venice Biennale,Blwyddyn Trafodaeth Ryngddiwylliannol

Ewrop 2008, Blwyddyn Arloesedd aChreadigrwydd Ewrop 2009, OlympiadDdiwylliannol 2008-12).

Bydd CRhC yn dal i gyd-weithio gyda’npartneriaid i ddatblygu cyfleoedd igyfathrebu yn rhyngwladol ar ran ycelfyddydau yng Nghymru.

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

llun: Catrin Finch

Page 12: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

10 1.2 Rhwydweithiau

“For individuals and organisations alike,international networking is the civil societyanswer to globalisation. The opportunitieshave grown alongside the expansion ofactivity and the speed of travel. Just as thecoming of the railways ensured that successcould no longer be related only to a smalllocality, so regional and global economicsand the political institutions that accompanythem have demanded at least a regional –and increasingly a global – expansion ofprofessional contact.” Simon Mundy(Ymgynghorydd Anibynnol ar BolisiDiwylliannol)

Cynhelir digwyddiadau rhwydweithiorhyngwladol i weithwyr proffesiynol ym maesy celfyddydau yng Nghymru ar dair lefelwahanol: yn fyd-eang, Ewrop a'r DU. Bellachmae'n bosibl dod o hyd i grŵp ar lefel fyd-eang neu Ewropeaidd sy'n cyfateb ag unrhywgrŵp cenedlaethol. Drwy gymryd rhan mewn rhwydweithiaurhyngwladol, bydd CRhC yn cefnogi'r gwaitho ddatblygu'r celfyddydau yng Nghymru ynrhyngwladol.

I fanteisio'n llawn ar rwydweithiaurhyngwladol, bydd CRhC hefyd yn cefnogidatblygu sgiliau arweinyddiaeth ddiwylliannolryngwladol o fewn y sector, fydd yn cynnwysgweithgareddau sy’n buddsoddi mewndatblyiad proffesiynol parhaol ac mewnmentora rhyngwladol.

Mae rhwydweithiau yn galluogi artistiaid asefydliadau celfyddydol yng Nghymru ifanteisio ar gyfleoedd byd-eang tra'ngweithredu'n lleol. Geilw Simon Whitehead,arlunydd sy'n byw yng Ngorllewin Cymru,hyn yn "glocaleiddio" y celfyddydau. Yn iedyb ef, mae gweithio'n rhyngwladol yncyfoethogi ei ddealltwriaeth o'i filltir sgwâr eihun, a bob tro yn cynnig safbwynt gwahanoliddo.

Mae cymryd rhan mewn rhwydweithiaurhyngwladol yn dod â manteision amrywiolyn ei sgil gan gynnwys cyfleoedd i ddatblygugwaith, cysylltiadau rhyngwladol,ymweliadau, buddsodiadau, eiriolaeth achyfathrebu.

Dros y deng mlynedd diwethaf, a chydacefnogaeth ein dau sefydliad rhiant, maeCRhC wedi datblygu rhwydwaith rhyngwladolunigryw o gysylltiadau i Gymru a byddwn ynceisio manteisio arnynt dros gyfnod ystrategaeth hon. Nid yn unig y bydd hyn yncefnogi gwaith yn y dyfodol ond bydd hefydyn cynyddu gwerth etifeddol ein prosiectau.Er enghraifft, drwy amrywiaeth o raglennipreswylio, mae gan CRhC eisoes rwydwaitho ymarferwyr y celfyddydau sydd wedidatblygu cysylltiadau rhyngwladol.

Bydd CRhC hefyd yn cymryd rhan mewnrhwydweithiau sy'n sicrhau buddsoddiadpriodol i gefnogi'r weledigaeth.

Bydd CRhC yn ymgymeryd a thri mathgwahanol o rwydweithio:

i) yn gyntaf, annog a chynorthwyo gweithwyrproffesiynol ym maes y celfyddydau yng Nghymru i gymryd rhan weithredol mewn rhwydweithiau sy'n berthnasol iddynt

ii) yn ail, i CRhC ymuno â'r rhwydwaithiau Ewropeaidd perthnasol i ddatblygu gallu'r sefydliad i dargedu rhagor o fuddsoddiad i'r sector

iii) yn drydydd, i ddatblygu, dros gyfnod y strategaeth hon, ein rhwydwaith ein hunain o weithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau sy'n gweithio'n rhyngwladol yng Nghymru ac i gynnal fforwm rhyngwladol i’r celfyddydu yng Nghymru i drafod a gorchfygu problemau.

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Page 13: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

1.3 Y Gronfa Cyfleoedd Ryngwladol

Mae gan CRhC gronfa deithio fechan igynorthwyo ein hartistiaid i weithio'nrhyngwladol. Dyma'r unig grant uniongyrchola gynigiwn. Nod y cynllun yw datblygu:

gwaith ymchwil ar gyfer prosiectaurhyngwladol a gynhelir yng Nghymru neuy tu allan i'r DU

cymryd rhan mewn prosiectaurhyngwladol a gynhelir y tu allan i'r DUsydd naill ai'n cynnwys artistiaid unigolsy'n byw yng Nghymru neu sefydliadaucelfyddydol proffesiynol a leolir yngNghymru.

Mae CRhC yn gweithio gyda'n partneriaid a'rsectorau celfyddydau amrywiol i ddatblygugwybodaeth am feysydd blaenoriaeth ermwyn i ni ganolbwyntio ein hadnoddauarnynt. Ni all CRhC ariannu'r gwaith oddatblygu pob menter ond bydd yn rhoigwybod am gyfleoedd i artistiaid asefydliadau celfyddydol yng Nghymru a byddyn parhau i gynnig cymorth teithio o dan yGronfa Cyfleoedd Rhyngwladol.

Ar yr un pryd bydd CRhC yn gweithio gyda'rartistiaid a'r sefydliadau celfyddydol iddatblygu eu priod flaenoriaethau ac igefnogi ffyrdd o flaenoriaethu eu gwaithrhyngwladol. Bydd hyn yn parhau i lywioblaenoriaethau CRhC. Bydd CRhC hefyd yngweithio gyda cyrff cynrychiolgar eraillCymreig all helpu datblygu cynlluniau busnesar gyfer cwmniau celfyddydol yng Nghymrue.e. Busnes Rhygwladol Cymru.

Mae gan Gyngor y Celfyddydau sawl ffrwdariannu sy'n berthnasol i waith rhyngwladol.(Gweler Polisi Rhyngwladol a ChanllawiauAriannu ar wefan CCC).

Amcan 2: buddsoddi

Dros y pum mlynedd nesaf, mae gan CRhC darged i gynyddu'r arian a roddir i'wraglenni bedair gwaith. Bydd yn gwneudhynny drwy weithio gyda'r Cyngor Prydeinig i sicrhau y bydd artistiaid a sefydliadaucelfyddydol yng Nghymru yn cymryd rhan yneu prosiectau byd-eang. Byddwn hefyd ynsefydlu desg ddiwylliannol Ewropeaidd ac yncyd-weithio gyda Thîm Datblygu BusnesCyngor y Celfyddydau i chwilio amgyfleoedd ariannu newydd. Byddwn hefyd ynceisio codi arian preifat o sefydliadau abusnesau sydd â pherthynas â'r celfyddydau iddatblygu gwaith rhyngwladol yng Nghymru.

2.1 Grŵp Celfyddydau y Cyngor Prydeinig

Mae newidiadau i'r ffordd y mae'r CyngorPrydeinig yn rheoli prosiectau rhyngwladol yncyflwyno chyfleoedd yn ei sgil. Mae CRhC yngweithio gyda Grŵp Celfyddydau y CyngorPrydeinig, fel y pwynt cyswllt ar gyfersefydliadau ac artistiaid yng Nghymru igymryd rhan ym mhrosiectau mawr y CyngorPrydeinig.

Nid yw'r Cyngor Prydeinig yn gorff ariannuuniongyrchol fel Cynghorau Celfyddydau yDU. Yn hytrach, y mae’n defnyddio’rcelfyddydau i ymateb i flaenoriaethaurhyngwladol a daearyddol y DU drwyhyrwyddo pwyntiau trafod a syniadau, heriobarn a datbygu dealltwriaeth rhwngdiwylliannau.

Mae’r Cyngor Prydeinig yn gweithio yn agosgyda CRhC a phartneriaid i adnabodcyfleoedd i gydweithrediadau fydd yn cyfatebi amcanion partneriaethol, a fydd yn sicrhaudatblygu cryfderau, a bod y Cyngor ynymateb i uchelgeisiau sector gelfyddydol achreadigol y DU. Mae CRhC yn gweithioihyrwyddo artistiaid o Gymru i rhaglenprosiectau y Cyngor Prydeinig led led y byd.

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

11

Page 14: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

12

Mae uwch swydd newydd y GrŵpCelfyddydol wedi ei chreu yng Nghymru iweithio gyda thîm Celfyddydau RhyngwaldolCymru ac eraill ac i helpu gweithredu'rstrategaeth hon. Bydd y swydd yn nodicyfleoedd ac yn hwyluso gallu artistiaid asefydliadau celfyddydol o Gymru i gymrydrhan mewn prosiectau'r Cyngor Prydeinig.

2.2 Desg Ddiwylliannol Ewrop

Bydd CRhC yn cymryd rhan mewnrhwydwaith Ewropeaidd a fydd yn ategugwaith y ddesg ddiwylliannol Ewropeaidd a

bydd yn helpu i ddod â rhagor ofuddsoddiad i'r celfyddydau yng Nghymru.

Mae CRhC yn cydnabod bod prosiectau'r UEyn rhy fawr i sefydliadau llai neu unigolioneu rheoli'n ddigonol. Felly bydd CRhC ynarwain y blaen o ran datblygu prosiectau'rUE sy'n buddsoddi er mwyn datblygu'r sectorcelfyddydau yng Nghymru mewn cyd-destunrhyngwladol.

Nodau'r Ddesg Ddiwylliannol Ewropeaiddyw:

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

llun: Cai Tomos

Page 15: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

13a. datblygu gallu CrhC i adnabod, datblygu a chyflwyno ceisiadau trawsffiniol llwyddiannus i’r Undeb Ewropeaidd i ariannu prosiectau strategol CRhC.

b. datblygu a chyflawni y strategaeth hon

c. datblygu gwybodaeth a deallusrwydd yn CRhC/CCC ac i’w rannu ac er mwyn datblygu ymgysylltiad Ewropeaidd dyfnachi’r sector yng Nghymru.

d. datblygu partneriaeth gyda partneriaid a rhwydweithiau allweddol – yn arbennig rhwydweithiau’r Undeb Ewropeaidd a’r Cyngor Prydeinig

e. i fod yn gynaladwy yn y tymor hir

f. i ymgysylltu gyda partneriaid yn LlCCdatblygu cysylltiadau a darpar bartneriaid i sefydliadau yng Nghymru

2.3 Cyrff y Llywodraeth, Sefydliadau a busnesau

Bydd CRhC yn cymryd rhan neu'n hwylusogallu eraill i fod yn rhan o rwydweithiau byd-eang a lleol perthnasol sy'n dod âbuddsoddiad i arfer artistig yng Nghymru.

Er mwyn i brosiectau fod yn gynaliadwy yn ytymor hir, mae angen iddynt ddatblyguffynonellau refeniw amgen.

Ledled Cymru a'r byd, mae cydnabyddiaethgynyddol o werth y celfyddydau i sectoraueraill cymdeithas. Bydd CRhC a'i bartneriaidariannu yn archwilio cyfleoedd i ddysgu ganeraill yn ogystal â rhannu arfer da o Gymrugyda'r byd.

Bydd CRhC yn ceisio datblygu perthnasoeddrhyngwladol newydd a fydd yn arwain atffynonellau newydd o arian rhyngwladol o'rtu allan i Gymru ar gyfer y celfyddydau yngNghymru. Gallai fod ar ffurf nawdd,

ymchwil a datblygu neu fel arian cyfatebol igeisiadau llwyddiannus gan ffynonellau eraill(e.e. Ewropeaidd, y Cyngor Prydeinig,buddsoddiadau preifat, sefydliadau).

Amcan 3: effaith a chydnabyddiaethryngwladol

Bydd CRhC yn creu, rheoli a hyrwyddorhaglen o weithgareddau a phrosiectau agynllunnir i feithrin rhagoriaeth artistig achreadigol fydd yn sicrhau cydnabyddiaethac effaith ryngwladol. Yn gyffredinol bydd trimath o brosiect:

3.1 Arddangosfeydd Rhyngwladol ac ymweliadau (e.e. Venice Biennale neu’r British Dance Edition ac ati)

3.2 Prosiectau celfyddydol sy'n datblygu cydberthnasau diwylliannol (gyda gwledydd blaenoriaeth)

3.3 Preswylfeydd a chylchoedd cwrdd

Mae'r tri chategori a nodir yn y pyramid arddechrau'r strategaeth hon yn rhanallweddol i'r flaenoriaeth hon, gan fod ycyfleoedd i sicrhau effaith chydnabyddiaethyn gysylltiedig â'r tair lefel o gefnogaeth:

1) rhai a arweinir gan yr artist

2) rhai a arweinir gan y sector

3) ffurfio cydberthnasau gyda diwylliannau eraill drwy'r celfyddydau

Bydd CRhC yn gweithio gydag artistiaid asefydliadau sy'n arwain y maes. Gallaiansawdd eu gwaith gael ei fesur ar lefelryngwladol i ddatblygu'r gydnabyddiaeth a'reffaith a geir. Mae mentrau a arweinir ganartistiaid yn ategu Polisi Rhyngwladol CyngorCelfyddydau Cymru sy'n ymrwymedig i"Ddatblygu uchelgais a rhagoriaethryngwladol - gwella gallu artistiaid a

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Page 16: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

14

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

sefydliadau'r celfyddydau i ddatblygu proffilrhyngwladol".

Bydd CRhC yn cefnogi fforymau a arweinirgan y sector sy'n dod ag ymarferwyrrhyngwladol ac ymarferwyr o Gymru ynghydi gyfnewid syniadau a phrofiadau.

Bydd CRhC yn parhau i weithio gydaphartneriaid yng Nghymru a thu hwnt iarddangos y gorau o gelfyddydau Cymru yny gwyliau a'r arddangosfeydd mwyafperthnasol. Bydd CRhC yn ceisio cymorthychwanegol i bartneriaid ar gyfer cyfleoeddarddangos newydd.

Bydd CRhC yn gweithio i ffurfiocydberthnasau gyda diwylliannau erailldrwy'r celfyddydau. Gall hyn ddatblygucydberthnasau diwylliannol ystyrlon i Gymrusy'n cefnogi cydweithio artistig achydfuddiannau i'r ddwy wlad. Bydd CRhC

a'n partneriaid yn cefnogi cydberthnasaudiwylliannol rhyngwladol i Gymru sydd ofudd i'r celfyddydau a sydd hefyd yn cyrraeddpobl. O ran hyn, bydd CRhC yn ffafrioprosiectau sydd â buddiannau diwylliannol achymdeithasol clir. Mae'r sector ddiwylliannolwirfoddol yng Nghymru eisoes yn chwaraerhan yn y gwaith o ddatblygu cydberthnasau,yn enwedig mewn trafodaethaurhyngddiwylliannol.

Bydd CRhC yn ymgysylltu â rhanddeiliaid(e.e. Llywodraeth Cynulliad Cymru) i greuproffil i Gymru fydd yn dod â buddiannau i'rsector. Bydd CRhC hefyd yn gweithio gydarhanddeiliaid perthnasol yng Nghymru i nodia chanolbwyntio ar wledydd blaenoriaeth lley ceir blaenoriaethau allweddol ehangachsy'n canolbwyntio ar y celfyddydau adiwylliant.

llun: Sue Corr

Page 17: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

15

Arbenigedd Sectorol

buddsoddiad dros y pum mlynedd nesaf. I gefnogi staff CRhC i wneud hynny, caiffgrŵp cynghori gwirfoddol ei sefydlu. Byddarbenigwyr o'r sector celfyddydau yngNghymru (drwy Restr o ymgynghorwyrCyngor y Celfyddydau) ac ymgynghorwyrrhyngwladol allweddol ar y celfyddydau ynrhoi cyngor ac yn llywio ein gwaith. Bydd yr

ymgynghorwyr yn ddiduedd ac ynannibynnol. Bydd CRhC hefyd yn parhau iweithio gyda grŵp llywio strategol sy'ncynrychioli partneriaid a'r sector i werthuso'rstrategaeth hon yn barhaus. Pan fo’r galw,bydd CRhC yn creu panel o arbenigwyr iddethol artistiaid unigol ar gyfer prosiectau. .

Gweithredu

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

(llun: Cody Williams)

Page 18: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

16 Strwythuro ein gwaith

Strwythur prosiectau newydd CRhC felly fyddy canlynol:

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Blaenoriaeth 1: Cynyddu cyfleoedd rhyngwladol i'r eithaf

Cyfathrebu

Rhwydweithiau

· Cronfa Cyfleoedd Ryngwladol

Blaenoriaeth 2: Buddsoddi

Yr Undeb Ewropeaidd

Y Cyngor Prydeinig Cyrff llywodraethol eraill,sefydliadau a busnesau

Blaenoriaeth 3: effaith a chydnabyddiaeth ym mhob ffurf celf

Profiadau/arddangos celfyddydau ac ymweliadau

Prosiectau celfyddydol sy'n datblygu cydberthnasau diwylliannol (gyda gwledydd blaenoriaeth)

Preswylfeydd a chylchoedd cwrdd

Bydd bob prosiect yn ffurfio rhan orwydwaith CRhC. Bydd rhai prosiectau ynparhau i gael eu rheoli'n allanol gansefydliad neu reolwr prosiect perthnasol.

Meini prawf ar gyfer ein gwaith:

The criteria for all WAI projects are:

Daw'r prosiect â gwaith newydd i artistiaid

Bydd y prosiect yn meithrin rhagoriaeth

Bydd y prosiect o fudd i'r sector yngNghymru

Bydd y prosiect yn cynyddu'r arian afuddsoddir yn y celfyddydau

Mae gan y prosiect werth datblygucynaliadwy / hirdymor gyda phartneriaid /cydweithwyr dramor

Mae'r prosiectau yn datblygucydberthnasau rhyngddiwylliannol drwy'rcelfyddydau

Page 19: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

17Monitro ac asesu

Bydd CRhC yn creu cynlluniau gweithgareddblynyddol fydd yn rhoi fframwaith i’n gwaitha’n prosiectau. Bydd CRhC yn asesu einprosiectau yn ol amcanion a allbynnau yprosiectau.

Blaenoriaethau daearyddol

Bydd CRhC yn gweithio yn srategol gyda’nrhyngddeiliaid mewn rhai (ond nid oll) o’ugwledydd blaenoriaeth pan fod cyfle clir iddatblygu y celfyddydyu yng Nghymru aphan fod buddsoddiad i gefnogi ygweithgareddau. Bydd yr un meini prawfuchod yn berthnasol.

Caiff blaenoriaethau gwlad/daearyddolCRhC eu halinio â rhai, ond nid pob un, o'rcanlynol:

(a) y rhai a nodir gan CCC e.e. Québec

(b) blaenoriaethau Grŵp y Celfyddydau'r Cyngor Prydeinig (e.e. India)

(c) gwledydd blaenoriaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru: (e.e Tsieina)

Bydd CRhC yn cydweithredu â'r adrannauperthnasol o fewn Llywodraeth CynulliadCymru i nodi lle y gall y celfyddydau adiwylliant chwarae rhan allweddol a gweithiogydag adrannau perthnasol LlCC (e.e.Treftadaeth, Busnes Rhyngwladol Cymru,Materion Ewropeaidd ac Allanol ac ati).

Bydd model gwrthdroedig CRhC yn sicrhauy bydd prosiectau yn cyflawni nodau'rstrategaeth hon. Rhoddir blaenoriaeth ibrosiectau sydd o fudd i artistiaid a'r sectoryng Nghymru drwy gydweithrediad âphartneriaid mewn gwledydd blaenoriaeth.

a) artist

b) ffurf gelfyddydol / sector

c) gwledydd blaenoriaeth:cyfleoedd a

buddsoddiadau'r gyda buddiannau

artistig amlwg

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Page 20: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Swyddog Cynorthwyol – gwybodaeth a chyfathrebuamcanion: datblygu a rheoli presenoldeb CRHC ar y Wê datblygu a chydlynnu gweithgareddau gwybodaeth CRhC

Rheolwyr prosiectau (swyddogion mewnol ac allanol)amcanion:I reoli a chyflwyno prosiectau penodol gyda chyfrifoldeb dros gydlynnucyfredinol, pwynt cyswllt ar gyfer partneriaid, gwybodaeth, cefnogi a chynnwys tîm

CRhC (mewnol e.e Fenis ac allanol e.e Cyngor Prydeinig /UE)

Penaeth Prosieactau Rhyngwladolamcanion:cyfrifol am gynllun gweithredu:

i) projsiectau, ii) systemau iii) staff

Cyfarwyddwr Celfyddydau CCC

Cyfarwyddwr CRhC amcanion: strategaeth a chyfeiriad,

amcanion buddsoddi / targedau eiriolaeth a chyfathrebuCynorthwydd i’r Cyfarwyddwr:

amcanion: cefnogaeth ysgrifenyddol lawn i’r cyfarwyddwr a chefnogaeth cyfathrebu i

brosieactau CRhC

Uwch ymgynghorydd, Celf, Diwydiannau Creadigol a Chyfryngau Newydd, Cyngor Prydeinigamcanion:i) I reoli’r berthynas ac i ddatblygu prosiectau rhwng

CRhC/ y celfyddydau yng Nghymru â rhwydwaith rhyngwladol y Cyngor Prydeinig

ii) cynllunio strategol a datblygu

18Atodiad A: Organigram CRhC

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Cefnogaeth Strategaeth: Cyf. Celfyddydau CCC, Aeold o Gyngor CCC, Grwp Celf y CP, Grwp ymgynghorol CP Cymru, LlCC Diwylliant / rhyngwladolAmcanion: i gefnogi gweithredu / adolygu y strategaeth

Panel ymgynghorol artistig rhyngwladol: Aelodau o Restr Ymgynghorwyr Cenedlaethol CCCAmcanion: i ymgynghori pan fo’r galw ac i gwrdd yn flynyddol

Comisiynnydd a ChuriadurLlawrydd Fenis

Swyddog cynorthwyol – ymholiadau a chyllid amcanion: Cydlynnu gweinyddiaeth y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, cydlynnnugwybodaeth cyllidol, cefnogaeth weinyddol gyffredinol i’r penaeth prosiectau a’r cyfarwyddwr i weithredu’r strategaeth, y cynllun gweithredu a’r rhaglen o brosiecta

Swyddog Desg Ddiwylliannol yr UEamcanion:1) I gwrdd ac amcanion codi arian

CRhC drwy geisiadau i raglenni trawsffiniol yr UE

2) Gwybodeath ynglyn a chyfleoedd Ewropeaidd i’r sector

3) Edrych am bartneriaid a chyfleoedd

Page 21: Strategaeth Pum Mlynedd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Gweledigaeth CRhC ar gyfer2013:

trawsnewid cyfleoedd i ymarferwyrartistig rhyngwladol yng Nghymru

buddsoddi mewn arfer artistig acarweinyddiaeth ddiwylliannol yngNghymru drwy ymgysylltu â rhwydweithiau byd-eang a lleol

sicrhau buddsoddiadau ariannol i'rcelfyddydau a'r economi greadigolyng Nghymru

meithrin cydberthnasau gyda diwylliannau gwahanol drwy'rcelfyddydau

meithrin rhagoriaeth artistig ryngwladol yng Nghymru

effaith a chydnabyddiaeth ryngwladol bellach i'r celfyddydaua diwylliant Cymru

19Atodiad B: Strategaeth CRhC yn gryno

Cynyddu cyfleoedd rhyngwladol i'r eithaf drwy:1. Cyfathrebu2. Rhwydweithiau rhyngwladol3. Cronfa Cyfleoedd Ryngwladol

Effaith a chydnabyddiaeth ryngwladol:1. arddangosfeydd2. cydberthnasau diwylliannol3. profiadau ac ymweliadau

Celfyddydau Rhyngwladol yng Nhymru yn 2013

Buddsoddiad newydd i CRhC gan:UE

Y Cyngor Prydeinig

LlCC

Sefydliadau eraill

Preifat