technegol, ymarferol, arloesi bwyd yn gyson arloesol...

24
Technegol, ymarferol, yn gyson arloesol Technical, practical and always innovative Arloesi Bwyd Cymru Food Innovation Wales

Upload: others

Post on 23-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Technegol, ymarferol, yn gyson arloesol Technical, practical and always innovative

Arloesi Bwyd CymruFood Innovation Wales

Page 2: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

CynnwysContents

02 www.arloesibwyd.cymru

Page 3: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

0102030405

Arloesi Bwyd Cymru 04/05 Food Innovation Wales

Sut mae’n gweithio? 06/07 How does it work?

Canolfan Technoleg Bwyd 08/09Food Technology Centre

Canolfan Bwyd Cymru 10/11Food Centre Wales

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE 12/13ZERO2FIVE Food Industry Centre

Prosiect HELIX 14/19 Project HELIX

Adborth Cleientiaid 20/21 Client Testimonials

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

03www.foodinnovation.wales

0607

Page 4: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

01

Arloesi Bwyd CymruFood Innovation Wales

04 www.arloesibwyd.cymru

Page 5: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Ynglŷn ag Arloesi Bwyd Cymru

Efallai eich bod yn rhedeg cwmni bwyd yng Nghymru, yn gweithio i gynhyrchydd bwyd rhyngwladol, neu’n cymryd

eich camau petrus cyntaf at gychwyn microfusnes bwyd: os felly, Arloesi Bwyd Cymru yw’r lle cyntaf i droi am gefnogaeth, cyngor a syniadau creadigol i’ch helpu i gychwyn, ehangu a dod o hyd i atebion i gwestiynau technegol gweithredol dyrys.

Mae’r diwydiant bwyd bellach yn faes gwaith cynyddol gymhleth: gyda chystadleuaeth byd-eang, mwy o ffocws ar brisiau, dulliau caffael cymhleth a chraffu cynyddol ar faterion moesegol ac amgylcheddol, mae datblygu busnes bwyd yn her go iawn. Does dim syndod felly bod cymaint o gwmnïau’n methu oherwydd diffyg arbenigedd neu adnoddau mewn meysydd penodol.

Bryd hynny bydd Arloesi Bwyd Cymru yno i’ch helpu: mae ein tîm o ymgynghorwyr profiadol mewn Canolfannau Bwyd ar draws Cymru wrth law i gefnogi’r diwydiant bwyd trwy ddarparu cyngor a chefnogaeth, cymorth technegol, syniadau arloesol ac arweiniad ar gymhlethdodau rheoleiddiol a deddfwriaethol.

Mae tîm Arloesi Bwyd Cymru yn cynnwys arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Maent ar gael i helpu cleientiaid i weld eu ffordd trwy amrywiaeth gymhleth o ddisgyblaethau bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr amgylchedd, datblygu cynhyrchion newydd, cynllunio ffatrïoedd a gweithfannau, sicrhau ansawdd, hylendid, diogelwch bwyd, marchnata neu effeithlonrwydd.

Mae degawdau o brofiad gan Arloesi Bwyd Cymru. Rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau bwyd i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd. Ymunwch â’r llu o fusnesau bwyd sydd eisoes wedi elwa o gymorth a chyngor ein tîm: cysylltwch â ni nawr i drafod ffyrdd i lwyddo’n well eto yn y diwydiant bwyd.

About Food Innovation Wales

Whether you run a food company in Wales, work for a multinational food manufacturer, or are taking your first

tentative steps to set up a food micro business – Food Innovation Wales is the go-to resource for support, advice and creative ideas to help get you started, expand, and find solutions to technical operational conundrums.

The food industry has become an increasingly complex arena in which to operate: with global competition, a greater focus on price, complicated procurement, and increasing ethical and environmental scrutiny, developing a food business is a real challenge. Little wonder, then, that many companies fail due to lack of expertise or resource in specific areas.

That’s where Food Innovation Wales comes in: our experienced team of consultants, based at Food Centres across Wales, are on hand to support the food industry by providing advice and encouragement, technical support, innovative ideas, and guidance on regulatory and legislative complexities.

Food Innovation Wales’s team of internationally recognised food industry experts are available to assist clients navigate their way through a complex range of food disciplines, from nutrition and dietetics, environmental health, new product development, factory and workplace design, quality assurance, hygiene, food safety, marketing and efficiency.

With decades’ worth of experience, Food Innovation Wales is dedicated to helping food businesses grow, innovate, compete and reach new markets. Join the countless food businesses who have already benefitted from the help and advice of our team, and contact us now to explore ways that you can find greater success in the food industry.

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

05

Arloesi Bwyd CymruFood Innovation Wales

www.foodinnovation.wales

Page 6: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Sut mae’n gweithio?How does it work?

06

02www.arloesibwyd.cymru

Page 7: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Sut mae’n gweithio?

Mae Arloesi Bwyd Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn dod â thair canolfan bwyd rhagorol, sydd

wedi ymrwymo i feithrin datblygiad y sector bwyd a darparu cefnogaeth dechnegol a gweithredol ar bob agwedd o gynhyrchu bwyd, at ei gilydd.

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Canolfan Bwyd Cymru Yn Horeb, Ceredigion

Canolfan Dechnoleg Bwyd Yng Ngholeg Menai: Grŵp Llandrillo Menai

Nod y canolfannau bwyd yw:

• annog arloesi a chefnogi datblygu cynnyrch newydd sydd o fudd i gwmnïau bwyd a diod

• cydweithio i gwrdd ag anghenion cwmnïau bwyd a diod

• rhannu gwybodaeth wyddonol, technegol a gwybodaeth berthnasol arall gan gynnwys ystadegau ac ymchwil

• cyfrannu’n weithredol at gyflawni nodau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru er datblygu’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru

• ymateb i ymholiadau technegol gan gwmnïau bwyd

Gallwn helpu trwy gydol y broses, trwy gymryd eich syniad am gynnyrch bwyd a’i wireddu.

How does it work?

Food Innovation Wales, backed by Welsh Government, brings together three food centres of excellence dedicated to

encouraging the development of the food sector and providing technical and operational support on all aspects of food manufacturing.

The ZERO2FIVE Food Industry Centre Based at Cardiff Metropolitan University

The Food Centre Wales Based at Horeb, Ceredigion

The Food Technology Centre Based at Coleg Menai: Grŵp Llandrillo Menai

The food centres’ mission is to:

• stimulate innovation and support new product development which benefits food and drink companies

• work together to meet the needs of food and drink companies

• share scientific, technical and other relevant information including statistics and research

• contribute actively towards achieving Welsh Government’s ambitious goals for the development of the food and drink industry in Wales

• respond to technical enquiries from food companies

We can help throughout the process, taking your food product idea and turning it into reality.

Canolfan Bwyd CymruFood Centre Wales

Canolfan Bwyd CymruFood Centre Wales

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

07www.foodinnovation.wales

Page 8: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Canolfan Technoleg BwydFood Technology Centre

08

03www.arloesibwyd.cymru

Page 9: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Ynglŷn â Chanolfan Technoleg Bwyd Llangefni, Gogledd Cymru

Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngholeg Menai, Gogledd Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth drosglwyddo

gwybodaeth i’r diwydiant bwyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Yn ei gwaith gyda phobl sy’n dechrau busnes newydd, BBACh (Busnesau Bach a Chanolig) a chwmnïau cenedlaethol mae gan y Ganolfan adnoddau penodedig sy’n galluogi busnesau bwyd i gael mynediad i gymorth technegol, atebion ymarferol, cyngor ac arweiniad ar feysydd sy’n allweddol i dwf busnesau.

Gall y staff gynorthwyo gydag anghenion eich cwmni, gan gynnwys achredu gan drydydd parti, NPD (datblygu cynnyrch newydd), ail-lunio cynnyrch, hyfforddiant, sefydlu peilot cynhyrchu, systemau diogelwch bwyd a phrofion dadansoddol.

Mae gan y Ganolfan neuaddau prosesu arbennig ar gyfer cig coch, pysgod, cynnyrch llaeth a bwydydd wedi eu paratoi, ac amrywiaeth helaeth o offer peilot a graddfa ddiwydiannol fodern i ymgymryd â phob agwedd ar ddatblygu cynnyrch newydd hyd at lansio’r cynnyrch yn llwyddiannus. Mae’r cyfleusterau hyn yn caniatáu i gleientiaid gynhyrchu cynnyrch ar raddfa fechan er mwyn sicrhau gwerthiant gan fanwerthwyr a’r defnyddiwr terfynol cyn buddsoddi’n drwm mewn offer.

Gall y tîm gefnogi cwmnïau er cael cymeradwyaeth EHO (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd) tra’n cynyddu graddfeydd cynhyrchu sy’n gyson ac yn saff. Mae cwmnïau sefydlog mwy hefyd yn manteisio ar y cyfleusterau hyn trwy gynhyrchu graddfeydd bychain o gynnyrch newydd, gan leihau unrhyw darfu ar eu cynnyrch masnachol yn eu prif safle gynhyrchu.

Gyda’r amcan tymor hir o ddatblygu capasiti prosesu a gweithgynhyrchu busnesau bwyd, rydym yn anelu at ddatblygu enw da Cymru a’r DU am gynhyrchu bwyd a diod arloesol o’r safon orau.

[email protected] 383345 @FoodTechCentre1www.foodtech-llangefni.co.uk

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

09

Cyflo

gi 1

70,0

00 o

bob

l

Cadwyn Gyflenwi

Cymru Gyfan

Cynn

wys

tros

iant

o £

17.3

bn

Empl

oys 1

70,0

00 p

eopl

e

All Wales’s Supply Chain

Cons

ists o

f £17

.3bn

turn

over

About Food Technology Centre, Llangefni, North Wales

Based at Coleg Menai in North Wales, the Food Technology Centre plays a key role in transferring knowledge to the

food industry in Wales and internationally. Working with new startups, SME’s and national companies the Food Technology Centre has dedicated resources which enable food businesses to access technical support, practical solutions, advice and guidance on areas which are key to business growth.

The staff can support your company’s needs, including 3rd party accreditation, NPD, product reformulation, training, pilot production, food safety systems and analytical testing.

With dedicated processing halls for red meat, fish, dairy and prepared foods, the Centre is equipped with an extensive range of modern pilot and industrial scale equipment to undertake all aspects of new product development through to a successful product launch. These facilities allow the client to manufacture products on a pilot scale in order to secure sales from retailers and final consumers before investing heavily in equipment.

The team can support companies to gain EHO approval whilst scaling up product runs that are consistent and safe. Larger, established companies also benefit from these facilities by producing small production runs of new products, minimizing any commercial disruption at their main production site.

With the long term objective of developing food businesses’ processing and manufacturing capacity, we aim to further develop Wales’s and the UK’s reputation for producing and manufacturing innovative food and drink that is of the highest quality.

[email protected] 383345 @FoodTechCentre1www.foodtech-llangefni.co.uk

Page 10: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Canolfan Bwyd CymruFood Centre Wales

10

04www.arloesibwyd.cymru

Page 11: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Ynglŷn â Chanolfan Fwyd Cymru, Horeb, Gorllewin Cymru

Sefydlwyd y Ganolfan gan Gyngor Sir Ceredigion yn 1996 fel canolfan technoleg bwyd penodedig yn rhan o’i strategaeth

datblygu economaidd. Y nod oedd darparu gwasanaethau technegol i rai oedd yn cychwyn busnes, BBCh a rhai oedd eisoes yn cynhyrchu bwyd, yn ogystal â chwarae rhan strategol wrth gefnogi diwydiant bwyd Cymru.

Dros ddwy ddegawd wedi hynny, mae Canolfan Fwyd Cymru wedi datblygu enw da dros ben, ystafelloedd â chyfleusterau modern a bwydlen gynhwysfawr o wasanaethau ymgynghori a chyngor. Er enghraifft mae gan y Neuadd Ymchwil a Datblygu, sy’n 880 o fetrau sgwâr, pedwar man prosesu gwahanol yn ogystal â cheginau prawf llai sy’n caniatáu i gleientiaid brofi’r offer diweddaraf er datblygu cynhyrchion bwyd newydd.

Cynigir gwasanaethau ymchwil a datblygu yn sail ar gyfer syniadau newydd, unedau deor pwrpasol i fusnesau newydd, ac awyrgylch gefnogol lle gall busnesau ennill eu plwyf yn y diwydiant.

Mae Canolfan Bwyd Cymru hefyd â lle i ymfalchïo yn ei wasanaethau gweithgynhyrchu masnachol, sy’n cynnwys rhoi cyngor ar archwiliadau trydydd parti, dylunio ffatrïoedd, diogelwch bwyd, deddfwriaeth, datblygu cynnyrch newydd, asesu cynnyrch ac yn y blaen.

Os yn datblygu cynnyrch newydd, yn cychwyn gweithgynhyrchu am y tro cyntaf, neu’n chwilio am hyfforddiant a chyngor arbenigol, mae’r ganolfan dechnoleg bwyd hon, a adeiladwyd yn unswydd, â’i thîm o staff gwybodus a blaengar yn gallu darparu atebion i bob dim.

[email protected] [email protected]

About Food Centre Wales, Horeb, West Wales

Established in 1996 as a dedicated food technology centre by Ceredigion County Council as part of its economic

development strategy, the aim was to provide technical services to business start-ups, SMEs and existing food manufacturers as well as play a strategic role in supporting the Welsh food industry.

Over two decades on, Food Centre Wales has developed an enviable reputation, a suite of modern facilities and a comprehensive menu of consultancy and advice services. The 880 square metre Research and Development building, for example, has four separate process areas, as well as smaller trial kitchens allowing clients to test the latest equipment to develop new food products.

The research and development service underpins new ideas, providing specially designed incubator units to give start-ups industry-standard premises, and a supportive environment in which to establish a firm foothold in the industry.

Food Centre Wales is also rightly proud of its commercial manufacturing capabilities which includes consultancy services in relation to third party audits, factory design, food safety, legislation, NPD, product assessment etc.

Whether you are developing new products, going into manufacture for the first time or looking for specialist training and advice, this purpose-built food technology centre and its team of knowledgeable and innovative staff provide all the answers.

[email protected] [email protected]

12%

49% 15%

14%

dairy

& eggs meat

seafood

cereals

llaet

h ac wyaucig

bwyd môr

grawnfwydydd

Holl allforion bwyd a diod Cymru Y gweddill yw’r 10% arall

All Wales’s food and drink exports Remaining 10% are others

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

11www.foodinnovation.wales

Canolfan Bwyd CymruFood Centre Wales

Page 12: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVEZERO2FIVE Food Industry Centre

12

05www.arloesibwyd.cymru

Page 13: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Ynglŷn â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Caerdydd, De Cymru

Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd yw cartref y Ganolfan Diwydiant Bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd,

gan arwain at gydweithredu unigryw rhwng rheolwyr technegol, rheolwyr gweithredol, a gwyddonwyr o fri byd-eang. Er enghraifft, mae’r cydweithredu rhwng y Ganolfan a Chanolfan Iechyd am Oes yr Adran Gwyddor Biofeddygol yn darparu dealltwriaeth o effaith deiet a ffordd o fyw ar iechyd y defnyddiwr ac yn helpu i gynorthwyo gwaith y Ganolfan ym maes diwydiant.

Mae’r Ganolfan yn ymwneud â chwmnïau bwyd a sefydliadau o bob maint a chyfnod o dwf ac yn darparu cymorth yn y disgyblaethau hyn: dylunio ffatri, cyngor ar ddechrau busnes newydd, datblygu cynnyrch newydd, achrediad gan drydydd parti a chydymffurfio â safonau bwyd byd-eang (gan gynnwys y BRC diweddaraf a SALSA), diogelwch bwyd a diogelu’r cyflenwad bwyd, bwyd a deddfwriaeth labelu, maetheg, dadansoddi marchnadoedd a marchnata. Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu cyfarwyddyd technegol strategol ar gyfer mentrau mewnfuddsoddi ac allforio.

Mae cyfleusterau gradd flaenaf y Ganolfan ar gael i’w defnyddio gan gwmnïau bwyd ac yn cynnwys:• unedau prosesu a datblygu bwyd ar gyfer bwydydd risg isel a risg uchel, popty a melysion• ceginau datblygu• ystafelloedd gwerthuso synhwyraidd mwyaf Cymru

Mae’r Ganolfan wedi datblygu partneriaethau rhyngwladol gyda gweithgynhyrchwyr, cyrff deddfu a chyrff ymchwil, gan ddarparu arbenigedd, gwyddoniaeth a gwybodaeth o’r radd flaenaf i’r sector gweithgynhyrchu bwyd.

[email protected] 416306@ZERO2FIVE_www.ZERO2FIVE.org.uk

About ZERO2FIVE Food Industry Centre, Cardiff, South Wales

The Food Industry Centre at Cardiff Metropolitan University is located within the School of Health Sciences which has

created a unique collaboration of industry-experienced technical and operations managers and world renowned scientists. For example, the Centre’s collaboration with the Biomedical Science Department’s Centre for Lifelong Health provides an understanding of the impact of diet and lifestyle on consumer health and helps inform the Centre’s work with industry.

The Centre engages with food companies and organisations of all sizes and stages of growth and support is provided in the following disciplines: factory design, start–up advice, new product development, third party accreditation and global food standards compliance support (including the latest BRC issue and SALSA), food safety and security, food and labelling legislation, nutrition, market analysis and marketing. In addition, the Centre provides strategic technical direction for inward investment and export initiatives.

The Centre’s state-of-the-art facilities are available for use by food companies and include:• food processing and development units for low and high risk foods, bakery and confectionery• development kitchens• Wales’s largest sensory evaluation suite

The Centre has developed international partnerships with manufacturers, legislative bodies and research organisations, providing the food manufacturing sector with a ‘best in class’ application of expertise, science and knowledge.

[email protected] 416306@ZERO2FIVE_www.ZERO2FIVE.org.uk

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

13

Holl gynhyrchu ar y fferm a gweithgynhyrchu bwydydd Cymru

All Wales’s on-farm production and food manufacturing

gwerth ychwanegol gros

£1.13bngross value

added

gweithwyr prosesu bwyd

22,400food processing

employees

www.foodinnovation.wales

Page 14: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Prosiect HELIXProject HELIX

14

06www.arloesibwyd.cymru

Page 15: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Prosiect HELIX

Menter strategol Cymru-gyfan yw Prosiect HELIX a gyflenwir gan y tri phartner sy’n rhan o

Arloesi Bwyd Cymru.

Gyda thimau a chyfleusterau penodol yn y mannau canlynol:

• Canolfan Technoleg Bwyd, Grŵp Llandrillo Menai (Gogledd Cymru)

• Canolfan Bwyd Cymru, Cyngor Sir Ceredigion (Canolbarth Cymru)

• Canolfan Diwydiant Bwyd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (De Cymru)

Bydd y fenter hon yn datblygu ac yn cyflenwi gweithgaredd trosglwyddo gwybodaeth academaidd ac ymarferol sy’n canolbwyntio ar arloesi, effeithlonrwydd a strategaeth i gynyddu lefel cynhyrchu a lleihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi fwyd a diod.

Bydd Prosiect HELIX yn casglu gwybodaeth am gynhyrchu, tueddiadau a gwastraff bwyd o bedwar ban byd ac yn trosglwyddo’r wybodaeth i gynhyrchwyr a gwneuthurwyr bwyd ar draws Cymru.

Bydd Prosiect HELIX yn galluogi cyflogwyr mewn sector blaenoriaeth i gyrchu gwasanaethau allweddol drwy amrywiaeth o drefniadau trosglwyddo gwybodaeth, a gaiff eu cyflenwi mewn ymyriadau tymor byr, canolig a hirach.

Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, academia a’r diwydiant bwyd yng Nghymru, mae tîm Arloesi Bwyd Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer arloesi, creu swyddi a thwf economaidd yn y sector bwyd a diod.

Caiff Prosiect HELIX gefnogaeth Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Project HELIX

Project HELIX is a pan Wales strategic initiative being delivered by the three partners that make up

Food Innovation Wales.

With dedicated teams and facilities at:

• The Food Technology Centre, Grŵp Llandrillo Menai (North Wales)

• Food Centre Wales, Ceredigion County Council (Mid Wales)

• ZERO2FIVE Food Industry Centre, Cardiff Metropolitan University (South Wales)

This initiative will develop and deliver academic and practical knowledge transfer activity focused on innovation, efficiency and strategy to increase production and see waste reduction in the food and drink supply chain.

Project HELIX will gather information on food production, trends and waste from across the globe and transfer the knowledge to food producers and manufacturers across Wales.

The HELIX project enables employers within a priority sector to access key services via a range of knowledge transfer mechanisms, that will be delivered as short, medium and longer term interventions.

Working closely with the Welsh Government, academia and the Welsh food industry the Food Innovation Wales team has set ambitious targets for innovation, job creation and economic growth within the food and drink sector.

Project HELIX is supported by the European Agricultural Fund for Rural Development.

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

15

HELIX

www.foodinnovation.wales

Page 16: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

www.arloesibwyd.cymru

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

16

Arloesi

Innovation

Strategaeth

Strategy

Effeithlonrwydd

Efficiency

HELIX

Page 17: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

17www.foodinnovation.wales

Arloesi

Egwyddor allweddol gyntaf HELIX yw arloesi, ac ystyrir bod datblygu cynhyrchion newydd yn gonglfaen

llwyddiant y diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol, gan sicrhau twf economaidd a chreu swyddi newydd.

Gan adeiladu ar lwyddiant y tair canolfan fwyd yng Nghymru o ran datblygu cynhyrchion newydd ac ailffurfio cynhyrchion, bydd Prosiect HELIX yn cynnig sbardun ar gyfer arloesi pellach drwy ganolbwyntio mwy ar agweddau technegol cynhyrchu bwyd i greu gwerth ychwanegol. Bydd Prosiect HELIX yn defnyddio ei rwydwaith sylweddol i helpu cwmnïau i ddod o hyd i farchnadoedd newydd.

Bydd y fenter yn datblygu ac yn cyflenwi gweithgaredd trosglwyddo gwybodaeth academaidd ac ymarferol, gan ychwanegu gwerth, cynorthwyo busnesau a gosod cynhyrchion arloesol newydd ar lwybr cyflym o’r cysyniad, dylunio, datblygu a chynhyrchu hyd at fasged siopa’r defnyddiwr.

Rhagwelir mai un o brif ganlyniadau Prosiect HELIX fydd creu swyddi, yn enwedig yng Nghymru wledig ac yn y Cymoedd, a bydd gwthio ffiniau arloesi bwyd yn allweddol i gyrchu marchnadoedd newydd a chyflawni twf economaidd cynaliadwy a fydd yn gyrru’r galw am weithlu medrus sydd â sgiliau technegol.

Innovation

The first key principle of Project HELIX is innovation, with new product development considered the

cornerstone of future success in the food and drink industry, ensuring economic growth and creating new jobs.

Building on the success of the three food centres in Wales in new product development and product reformulation, Project HELIX will provide the impetus for further innovation by focussing more on the technical aspects of food manufacturing to create added value. Project HELIX will use its considerable network to help companies to find new markets.

The initiative will develop and deliver academic and practical knowledge transfer activity, adding value, supporting businesses and fast-tracking innovative new products from concept, design, development and manufacture right through to the consumer’s shopping basket.

It is anticipated that one of the main outputs of Project HELIX will be job creation, especially in rural Wales and the Valleys, and pushing the boundaries of food innovation will be key to accessing new markets and achieving sustained economic growth that will drive the demand for a technically skilled and capable workforce.

HELIX ArloesiInnovation

Datblygu Cynnyrch Newydd

New Product Development

Gwerth Ychwanegol

Added Value

Gwybodaeth Dechnegol

Technical Information

Busnes Newydd

New Business Start-up

Ailffurfio Cynnyrch

Product Reformulation

Deddfwriaeth Bwyd

Food Legislation

Arloesi

Innovation

Page 18: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Effeithlonrwydd

Drwy fod yn fwy effeithlon, gall y sector bwyd a diod yng Nghymru leihau costau a chyflawni gwell gwerth

am arian, a thrwy hynny gynyddu proffidioldeb a rhyddhau adnoddau gan hwyluso’r potensial ar gyfer ail-fuddsoddi.

O ganlyniad i’r partneriaethau diwydiannol hynod lwyddiannus a grëwyd gan Arloesi Bwyd Cymru dros y blynyddoedd diweddar, bellach mae cronfa gyfoethog o wybodaeth ar gael i’r diwydiant i’w helpu i broffesiynoli ei brosesau, cynyddu cynhyrchedd a lleihau costau.

Mae gwella effeithlonrwydd hefyd yn fuddiol er mwyn cwrdd â nodau polisi cyhoeddus; er enghraifft rhan o’r agenda effeithlonrwydd yw lleihau gwastraff a thrwy wneud hynny leihau effaith amgylcheddol cynhyrchu bwyd. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar becynnu bwyd, lleihau’r gwastraff a grëir wrth gynhyrchu, yn ogystal â chanfod ffyrdd i leihau’r defnydd o danwydd wrth drawsgludo a chynyddu effeithlonrwydd ynni yn ystod y broses gynhyrchu.

Mae gwell effeithlonrwydd hefyd yn hanfodol wrth ymateb i ddefnyddiwr sy’n ymwybodol o iechyd, drwy ddadansoddi cynhwysion y cynhyrchion i ddod o hyd i ffyrdd i leihau’r calorïau a gaiff eu bwyta ym mhob uned o fwyd.

Bydd Prosiect HELIX yn annog dadansoddiad fforensig o bob cam ar y daith fwyd a diod, o lawr y ffatri hyd at silff yr archfarchnad, ac yn canfod ffyrdd o gyflwyno arbedion ar draws rheolyddion proses, dylunio safle, pecynnu a datblygu systemau.

Bydd Prosiect HELIX yn casglu gwybodaeth am effeithlonrwydd bwyd o bedwar ban byd ac yn trosglwyddo’r wybodaeth i gynhyrchwyr a gwneuthurwyr bwyd ar draws Cymru. Drwy ddefnyddio’r ymarfer gorau hwn, bydd gwell effeithlonrwydd yn galluogi’r diwydiant bwyd i fod yn fwy cost effeithiol, yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy ymatebol i dueddiadau marchnad newydd a gofynion cwsmeriaid.

Efficiency

By being more efficient, the food and drink sector in Wales can reduce costs and achieve better value for money,

thus increasing profitability and freeing up resources while facilitating the potential for reinvestment.

As a result of the hugely successful industrial partnerships forged by Food Innovation Wales over recent years, there is now a rich knowledge pool available to the industry to help it to professionalise its processes, increase productivity and drive down costs.

The consequences of improving efficiency is also beneficial in meeting public policy goals; for example, a key part of the efficiency agenda is to cut down on waste and in so doing reduce the environmental impact of food production. This will include looking at food packaging, reducing the waste generated in production, as well as finding ways to reduce fuel consumption during transportation and increasing energy efficiency during manufacture.

Greater efficiency also has a critical role in responding to a health-conscious consumer, through the analysis of product ingredients to finding ways to reduce the calorific intake per food unit.

Project HELIX will encourage a forensic analysis of each and every step of the food and drink journey from the factory floor to the supermarket shelf and identify ways of introducing efficiencies across process controls, site design, packaging and systems development.

Project HELIX will gather information on food efficiency from around the world and transfer that knowledge to food producers and manufacturers across Wales. Through employing this best practice, greater efficiency will enable the food industry to become more cost-effective, more productive and more responsive to new market trends and consumer demand.

www.arloesibwyd.cymru

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

www.arloesibwyd.cymru

Effeithlonrwydd

Efficiency

Datblygu Systemau

Systems Development

Dyluniad Safle

Site design

Rheolyddion Proses

Process Controls

Effeithlonrwydd Cynnyrch

Product Efficiency

Dilysu Systemau

Validation of systems

Pecynnu

Packaging

HELIX EffeithlonrwyddEfficiency

18

Page 19: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Strategaeth

Ers sefydlu tair canolfan fwyd Cymru a’u dull o gydweithio dan Arloesi Bwyd Cymru, mae manteision

agwedd strategol at dwf a llwyddiant y diwydiant yng Nghymru yn gliriach nag erioed.

Mae strategaeth yn rhan mor bwysig o Brosiect HELIX, ac yn ffurfio’r elfen olaf yng nghysyniad yr Helix triphlyg.

Bydd agwedd strategol yn galluogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru i elwa o ymarfer gorau a phrofiadau gweddill y byd. Drwy drosglwyddo gwybodaeth academaidd a diwydiannol bydd Prosiect HELIX yn trosi hynny i gyd-destun Cymreig.

Rhaid i wybodaeth y diwydiant lywio a ffurfio’r agwedd strategol i ddatblygu sgiliau cynaliadwy mewn meysydd allweddol fel technoleg bwyd er mwyn sbarduno llwyddiant y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Drwy ystyried prosesau cynhyrchwyr bwyd byd-eang a chyflawni achrediad trydydd parti, er enghraifft, gallai cwmni bwyd o Gymru agor marchnadoedd newydd iddo’i hun, yn ogystal â dod yn bartner trosglwyddo gwybodaeth i gwmnïau bwyd eraill, ar y rheolyddion technegol sydd eu hangen i gyflawni’r achrediad hwnnw.

Drwy fod yn fwy strategol ceir potensial enfawr y gall y sector bwyd a diod yng Nghymru wella a gwireddu ei dargedau twf uchelgeisiol.

Strategy

Since the establishment of the three Welsh food centres and their collaboration, as Food Innovation Wales, the

benefits of a strategic approach to the growth and success of the industry in Wales is clearer than ever before.

Strategy is such an important part of Project HELIX, and forms the final element of the triple Helix concept.

The strategic approach will enable food producers in Wales to benefit from best practice and experiences from the rest of the world. Project HELIX will translate that through academic and industrial knowledge transfer into a Welsh context.

Industry intelligence must inform and shape the strategic approach and sustainable skills development in key areas such as food technology to drive the success of the food and drink sector in Wales.

By considering the processes of global food manufacturers and achieving third party accreditation, for example, a Welsh food company could open up new markets for itself, as well as becoming a knowledge transfer partner to other food companies, on the technical controls required to gain that accreditation.

By being more strategic there is huge potential for the Welsh food and drink sector to improve and realise its ambitious growth targets.

www.foodinnovation.wales

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

19www.foodinnovation.wales

Strategaeth

Strategy

Fframwaith Arloesi

Innovation Framework

Gwybodaeth y Diwydiant

Industry Intelligence

Achrediad Trydydd Parti

3rd Party Accreditation

Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Public Engagement

Mentora a Sgiliau

Mentoring & Skills

Datblygu Busnes Bwyd

Food Business Development

HELIX StrategaethStrategy

Page 20: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

The delivery of the accredited and bespoke training was exceptional which is reflected in the results achieved by our staff. The skills learnt by our employees has promoted a high level of professional practice and a safer working environment for all employees back in the workplace. We recommended the Food Technology Centre to our Sandycroft site who are now working closely with the centre.

Nicola Curtis, HR Manager 2 Sisters Food Group

We have worked closely with the Food Technology Centre who have helped us with key projects including NPD, product reformulation and technical knowledge transfer. Their flexible approach to business needs has also seen them assist with accreditation and training, all of which has helped our business growth in creating jobs and increasing our turnover.

Richard Jones, Technical Manager South Caernarfon Creameries

We have used the Food Industry Centre for advice on BRC, factory design and a range of complex technical challenges. The depth of expertise at the centre is a crucial resource to the food processing sector in Wales and the private sector experience of its staff means that solutions are always tailored to the needs of the industrial partner.

Huw Thomas, M.D. Puffin Produce

The Food Industry Centre offers flexible programmes which allow access to high quality knowledge and expertise from the university and has given us many opportunities to network with other companies, individuals and government agencies that would not be easily achieved in normal day to day work.

Huw Barnes, Director Authentic Curries and World Foods

20 www.arloesibwyd.cymru

07

Adborth CleientiaidClient Testimonials

Page 21: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

We approached the Centre with a concept idea and were delighted with the support afforded us. A complex product development programme and access to a manufacturing site were managed by the Centre, allowing us to reach market well ahead of schedule.

Dan Ronson, Director Starjump Food Products Ltd.

As the product development work involves a lot of experimenting, the use of the extra equipment means that we do not need to purchase equipment that we might not need if the trial product is not adopted.

Marcus Sherreard Dawn Meats

If it wasn’t for the support provided by the Food Centre Wales, we would not have been able to have started our businesses; the impact has had a substantial impact on us. The support has been fantastic, much better than we ever could have imagined.

Ivan Wilson, Fire & Ice Artisan Sorbet & Ice-Cream

The technical expertise was brilliant, and the flexibility in using the equipment was great. The facilities were excellent. We were able to create a small batch that we could then take to manufacturers to find out whether it was something they would consider selling. We were able to use the FCW to create a pilot product.

Jill Casebury Enhance Drinks Ltd.

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

21www.foodinnovation.wales

Page 22: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

ARLOESI BWYD CYMRU FOOD INNOVATION WALES

22 www.arloesibwyd.cymru

Canolfan Bwyd CymruFood Centre Wales

[email protected] 383345 @FoodTechCentre1www.foodtech-llangefni.co.uk

[email protected] [email protected]

[email protected] 416306@ZERO2FIVE_www.ZERO2FIVE.org.uk

Page 23: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

23www.foodinnovation.wales

Page 24: Technegol, ymarferol, Arloesi Bwyd yn gyson arloesol Cymrufoodinnovation.wales/wp-content/uploads/FIW-A4-Brochure... · 2020. 11. 25. · bwyd – boed faeth a deieteg, iechyd yr

Cymru, cartref arloesi bwydWales, the home of food innovation

www.arloesibwyd.cymru www.foodinnovation.wales

Dylunio/Design: four.cymru FIW006 03/2017