the hpv vaccine, beating cervical cancer · web viewthe human papillomavirus vaccine | 2 | beating...

17
Y brechiad HPV Trechu canser ceg y groth Taflen wybodaeth i ferched a’u rhieni am y brechiad HPV

Upload: others

Post on 17-Aug-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

Y brechiad HPV Trechu canser ceg y groth

Taflen wybodaeth i ferched a’u rhieni am y brechiad HPV

Page 2: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer

Mae’r daflen wybodaeth yma am y brechiad HPV yn ategu’r daflen sydd wedi’i darparu drwy ysgolion.

Ei bwriad yw darparu mwy o fanylion am y brechiad HPV sy’n gwarchod merched rhag canser ceg y groth.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn

www.nhsdirect.wales.nhs.uk/doityourself/vaccinations/HPVvaccine/

Page 3: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine | 3 | Beating cervical cancer

Bydd cael brechiad HPV yn helpu i warchod merched rhag cael canser ceg y grothCanser ceg y grothMae canser ceg y groth yn effeithio ar geg y groth – mynedfa’r groth (gweler Ffigur 1). Achosir y canser hwn gan bapilomafirws dynol neu HPV, sy’n lledaenu o un person i un arall yn ystod gweithgarwch rhywiol. M a e m w y n a 1 0 0 o f a t h a u o bapilomafirws dynol ond dim ond 13 o’r rhain sy’n achosi canser ceg y groth hyd y gwyddom n i a dim ond dau – mathau 16 a 18 – sy’n achosi mwy na 70% o’r achosion (gweler Ffigur 2).

Tiwb ffalopaidd

Wygell

Wterws (croth) Ceg y groth

Gwain

Ffigur 1 Ceg y groth yw’r fynedfa i’r groth

Cynigir y brechiad HPV i warchod rhag canser ceg y groth. Canser ceg y groth yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith merched iau na 35 oed. Yn y DU, mae tua 3000 o ferched yn cael diagnosis o ganser ceg y groth bob blwyddyn ac mae tua 900 o ferched yn marw ohono, pawb bron o blith y merched hŷn heb elwa o’r rhaglen frechu.

Mae mwy na 100 o fathau Mae mwy na dwsin o’r rhain yn …ac mae dau o’r mathau hyn – 16 ac 18 – yn achosio bapilomafirws dynol achosi canser ceg y

groth…mwy na 70% o’r achosion o ganser ceg y groth

Ffigur 2 Diagram yn dangos y mathau o bapilomafirws dynol sy’n achosi canser ceg y groth

Page 4: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine | 4 | Beating cervical cancer

Sut mae’r firws yn achosi canser Mae’r firws yn heintio ceg y groth ac yn y rhan fwyaf o ferched mae’r corff yn clirio’r haint yn naturiol. Gall y firws aros am rai blynyddoedd heb achosi unrhyw niwed. Wedyn, heb unrhyw reswm amlwg, gall ddechrau achosi difrod. Gall sgrinio ceg y groth ganfod y newidiadau hyn ac, o’u canfod yn ddigon cynnar, mae posib eu trin i atal canser rhag datblygu. O’u gadael heb eu trin, gall canser ddatblygu.

Y brechiad HPVMae’r brechiad yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel rhan o raglen frechu’r GIG. Mae’r brechiad (Gardasil) yn atal y corff rhag cael ei heintio gan y ddau fath o bapilomafirws dynol sy’n achosi mwy na 70% o ganser ceg y groth. Hefyd gall y firysau hyn achosi canserau gwenerol eraill a rhai canserau pen a gwddw. Mae’r brechiad HPV yn gwarchod hefyd rhag dau fath o HPV sy’n achosi tua 90% o heintiau defaid gwenerol.

Mae’r brechiad HPV wedi cael ei ddefnyddio am flynyddoedd lawer ac mae degau ar filiynau o ferched wedi cael eu brechu a’r holl arwyddion yw bod lefelau uchel o warchodaeth yn para am flynyddoedd lawer. Bydd hyd y warchodaeth yn parhau i gael ei fonitro’n ofalus.

Y gwahaniaeth mae’r brechiad HPV wedi’i wneud hyd ymaDechreuodd rhaglen imiwneiddio HPV y DU yn 2008. Ceir tystiolaeth eisoes o Awstralia, Denmarc, yr Alban a Lloegr bod y brechiad yn gwneud gwahaniaeth. Bu gostyngiad mawr yn y cyfraddau o haint gyda’r ddau brif fath o HPV sy’n achosi canser ymhlith merched a dynion. Mae disgwyl i raglen y DU atal cannoedd o farwolaethau yn y diwedd o ganser ceg y groth bob blwyddyn. Mae’n gallu cymryd blynyddoedd lawer i’r canser ddatblygu ar ôl heintio ac felly bydd yn cymryd peth amser i werthuso budd cyffredinol y rhaglen.

Bydd brechu merched rhag HPV yn gwarchod bechgyn hefydPwrpas y rhaglen frechu HPV genedlaethol yw gwarchod genethod a merched rhag canser ceg y groth. D rwy warchod pob merch rhag y ddau achos mwyaf cyffredin o ganser ceg y groth, yn y diwedd bydd llai o firysau’n bodoli, ac felly bydd y risg i fechgyn ddod i gysylltiad â’r firysau hyn, a’u pasio ymlaen, yn lleihau. Mae nifer yr heintiau defaid gwenerol yn y DU wedi gostwng eisoes ymhlith merched a bechgyn oherwydd y rhaglen frechu. Bydd bechgyn hefyd yn elwa o warchodaeth rhag canserau gwenerol a phen a gwddw cysylltiedig â HPV.

Page 5: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine | 5 | Beating cervical cancer

Mae cael y brechiad yn lleihau’r risg o gael canser ceg y groth fwy na 70%

Y brechiad HPV a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol Mae’r brechiad a ddefnyddir ar hyn o bryd fel rhan o raglen frechu’r GIG (Gardasil) hefyd yn gwarchod rhag dau fath o HPV sy’n achosi tua 90% o’r achosion o ddefaid gwenerol. Nid yw’r brechiad HPV yn gwarchod rhag heintiau eraill a ledaenir wrth gael rhyw, fel clamydia, nac yn atal merched rhag beichiogi, felly mae’n bwysig iawn o hyd bod negeseuon rhyw diogel yn cael eu rhoi ar adegau priodol.

Rydym wedi gweld dirywiad mawr eisoes yn nifer y bobl ifanc sy’n mynychu clinigau GUMgyda defaid gwenerol.

Bydd merched yn cael cynnig y brechiad ym mlwyddyn 8 gan fod y brechiad yn fwy effeithiol o’i roi i ferched iau Dylai pob merch 12 i 13 oed gael cynnig y brechiad HPV cyntaf ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol.

Mae HPV yn gyffredin iawn ac yn cael ei ddal drwy weithredoedd rhywiol agos neu drwy gael rhyw gyda pherson arall sydd â’r haint eisoes. Gall dynion a merched gael eu heintio gyda’r firws hwn. Argymhellir bod merched yn cael y brechiad yn 12 i 13 oed i sicrhau eu bod wedi’u gwarchod yn dda cyn dechrau cael rhyw. Os yw merch yn cael rhyw, efallai ei bod wedi dal HPV eisoes. Fodd bynnag, heb wybod a yw wedi’i heintio, na gyda pha fath o firws mae wedi’i heintio, dylai gael y brechiad yr un fath ac efallai y bydd yn gallu elwa ohono hefyd.

Page 6: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine | 6 | Beating cervical cancer

Bydd pob merch yn gorfod cael prawf ceg y groth pan maent yn hŷn Yn y DU, mae merched dros 25 oed yn cael prawf rheolaidd (sgrinio) i weld a oes ganddynt unrhyw arwyddion o haint HPV. Bydd y prawf yn dangos newidiadau i leinin ceg y groth a allai arwain mewn rhai achosion at ganser. Yr enw ar y profion rheolaidd hyn yw ‘profion ceg y groth’ (sgrinio serfigol).

Mae’r brechiad yn gwarchod rhag y ddau fath o firws sy’n achosi’r rhan fwyaf o ganser ceg y groth ond nid yw’n gwarchod rhag pob firws HPV, fe l l y :

Mae dal yn bwysig cael prawf ceg y groth pan rydych chi’n

gymwys

Mae angen dau ddos o’r brechiad HPV Mae’n bwysig bod merched yn cael dau ddos o’r brechiad HPV i gael y warchodaeth orau. Cynigir yr ail frechiad 6 i 12 mis ar ôl y cyntaf. Bydd y merched yn cael gwybod pryd mae’r ail ddos yn cael ei roi gan eu hysgol.

Ers dechrau’r rhaglen frechu HPV yn y DU yn 2008, mae’r brechiad wedi profi’n effeithiol iawn. Mae astudiaethau wedi dangos bod dau ddos o’r brechiad HPV yn darparu gwarchodaeth ragorol am amser hir i ferched ifanc ac felly, ers mis Medi 2014, mae’r rhaglen frechu HPV yn y DU wedi cynnwys dau ddos o’r brechiad.

Mae angen dos ychwanegol i ferched hŷn Os nad yw’r dos cyntaf o’r brechiad HPV wedi’i roi cyn i ferch fod yn 15 oed, bydd rhaid iddi gael tri dos i gael gwarchodaeth lawn. Y rheswm am hyn yw am nad yw’r ymateb i ddau ddos mewn merched hŷn mor dda. Dylid rhoi’r ail ddos tua mis ar ôl y dos cyntaf, a’r trydydd tua chwe mis ar ôl y dos cyntaf. Os yw merch wedi colli dos, dylai siarad gyda thîm imiwneiddio’r ysgol neu ei meddyg teulu/nyrs y feddygfa am wneud apwyntiad cyn gynted â phosib.

Page 7: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine | 7 | Beating cervical cancer

Byddwch yn cael gwybod pryd bydd y brechiad yn cael ei roi yn yr ysgolDylai’r ysgol roi gwybod i chi pryd fydd y brechiad yn cael ei roi a rhoi taflen wybodaeth a thaflen caniatâd i chi. Mae’n bwysig bod y ffurflen yn cael ei llofnodi a’i dychwelyd i’r ysgol cyn rhoi’r brechiad.

Bydd meddygfeydd yn cael gwybod am y brechiad Bydd gwybodaeth am y brechiad HPV yn cael ei hanfon i feddygfeydd fel bod modd diweddaru cofnodion iechyd merched.

Sgil effeithiauFel y rhan fwyaf o frechiadau, eithaf mân yw sgil effeithiau’r brechiad HPV. Mae chwydd a chochni yn y fraich, a mymryn o boen, yn gyffredin ond mae’n diflannu ar ôl diwrnod neu ddau. Cofnodwyd sgil effeithiau eraill, fel tymheredd uwch, salwch, cosi, brech a phoen yn y fraich gafodd y pigiad mewn llai nag un o bob deg ond mwy nag un o bob 100 o bobl.

Mae sgil effeithiau mwy difrifol yn eithriadol brin. Mae’r brechiad yn cadw at y safonau diogelwch llym ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU ac mae i’w weld yn ddiogel iawn. Mae miliynau o ddosys o’r brechiad wedi cael eu rhoi eisoes i ferched yn y DU ac ym mhob cwr o’r byd. Fel gyda phob brechiad, mae unrhyw adroddiadau am sgil effeithiau’n cael eu monitro a’u hadolygu’n ofalus.

Mae rhestr lawn o’r adweithiau annymunol a gofnodwyd i’w gweld yn y daflen wybodaeth i gleifion sydd ar gael yn www.medicines.org.uk/emc. Bydd rhaid i chi roi enw’r brechiad (Gardasil) yn y bocs chwilio.

Gall merched sydd ag alergeddau neu salwch arall gael y brechiadHPV yr un fath Nid yw anoddefgarwch i fwyd, asthma, ecsema, clefyd y gwair ac alergeddau yn gyffredinol yn atal rhywun rhag cael y brechiad hwn. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am hyn, siaradwch â’ch nyrs neu eich meddyg.

Page 8: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine | 8 | Beating cervical cancer

Beth i’w wneud os nad yw merch yn yr ysgol ar ddiwrnod y brechu Dylai merched sy’n colli unrhyw ddos o’r brechiad HPV siarad â thîm imiwneiddio’r ysgol neu eu meddyg teulu/nyrs y feddygfa am wneud apwyntiad arall cyn gynted â phosib. Mae’n bwysig cael y ddau ddos.

Beth i’w wneud os nad yw merch eisiau cael y brechiad Does dim un brechiad yn orfodol. Argymhellir y brechiad HPV am y rhesymau a nodir uchod. Bydd cael y brechiad nawr yn gwarchod rhag canser ceg y groth yn y dyfodol. Dylai merched sy’n ansicr siarad â thîm imiwneiddio’r ysgol neu eu meddyg teulu/nyrs y feddygfa am fwy o wybodaeth.

Beth i’w wneud os yw merch eisiau cael y brechiad ond nad yw ei rhieni eisiau iddi ei gael Dylai drafod hyn gyda’i rhieni a thîm imiwneiddio’r ysgol neu ei meddyg teulu/nyrs y feddygfa i gael mwy o wybodaeth. Yn gyfreithiol, hi sydd i wneud y penderfyniad, ar yr amod ei bod yn deall y materion cysylltiedig â chytuno i gael y brechiad.

Mae cael y brechiad yn gwarchod merched rhag yr achos mwyaf cyffredin o ganser ceg y groth.

Gall merched ar feddyginiaeth gael y brechiad HPVDoes dim tystiolaeth bod y brechiad HPV yn lleihau effeithiolrwydd unrhyw feddyginiaeth, gan gynnwys y bilsen atal cenhedlu.

Dylai merched â systemau imiwnedd gwan gael tri dos o’r brechiad HPVGall merched y mae eu system imiwnedd wedi’i heffeithio gan feddyginiaeth neu gyflwr tymor hir gael y brechiad ond efallai na fydd yn gweithio cystal iddynt. Nid yw’r drefn dau ddos wedi cael ei defnyddio gyda merched sydd â chyflyrau sy’n lleihau effeithiolrwydd y system imiwnedd. Am y rheswm hwn, dylai’r merched hyn gael tri dos o’r brechiad HPV o fewn cyfnod o 6 mis.

Page 9: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine | 9 | Beating cervical cancer

Ni argymhellir y brechiad HPV ar gyfer merched beichiog Nid oes unrhyw risg hysbys yn gysylltiedig a rhoi brechiad HPV yn ystod beichiogrwydd. Mae’r brechiad HPV yn frechiad anweithredol, sy’n golygu nad yw’n cynnwys unrhyw organebau byw, ac felly ni all achosi haint yn y fam na’i babi. Fodd bynnag, i fod yn ofalus, ni argymhellir rhoi’r brechiad HPV yn ystod beichiogrwydd. Nid oherwydd unrhyw bryderon penodol am ddiogelwch wrth roi brechiad HPV yn ystod beichiogrwydd mae hyn, ond oherwydd bod gwybodaeth gyfyngedig am ddefnyddio’r brechiad gyda merched beichiog.

Os bydd menyw yn dod i ddeall ei bod yn feichiog ar ôl cael y brechiad HPV, dylai drafod hyn gyda’i meddyg teulu. Mae profiad hyd yma’n dangos nad oes unrhyw risg hysbys iddi hi na’i babi ac nad oes unrhyw reswm dros gredu na all y beichiogrwydd barhau’n ddiogel. Ar ôl i’r beichiogrwydd ddod i ben, gall y fenyw orffen cwrs llawn y brechiad HPV.

Page 10: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

The human papillomavirus vaccine I 10 I Beating cervical ca ncer

Mwy o wybodaeth Ceir rhestr lawn o gynhwysion y brechiad yn y Daflen Wybodaeth i Gleifion: www.medicines.org. uk/emdmedicine/19033/piVgardasil a’r Crynodeb o Nodweddion y Cynnyrch: www..medicine/19016/SPC/gardasil/

Gallwch ddarllen adolygiad diogelwch o frechiadau HPV yn www.who.int/vaccine_safety/committee/topics/hpv/June_2017/en/

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch nyrs ysgol neu eich meddygfa. Hefyd cewch ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 (neu ffonio 111 os yw’r gwasanaeth hwn ar gael yn eich ardal chi).

Trechu canser ceg y groth

Page 11: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00
Page 12: The HPV vaccine, beating cervical cancer · Web viewThe human papillomavirus vaccine | 2 | Beating cervical cancer Author NHS - Public Health England Created Date 06/14/2019 00:19:00

© Hawlfraint y goron 2017

Cyhoeddwyd y daflen hon i ddechrau fel pdf yn unig gan Public Health Eng land , Awst 2014. Adolygwyd ar gyfer ei defnyddio fel pdf yng Nghymru yn 2018.