annibynwyr.org · web viewmae llyfr nehemeia yn yr hen destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan...

39
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Gwasanaeth Dathlu

Upload: others

Post on 23-Feb-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Gwasanaeth DathluBlwyddyn y Beibl Byw

2016

Page 2: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

2

Hawlfraint y testun:Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 2016

Page 3: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Gwasanaeth Dathlu Blwyddyn y Beibl Byw

1) Rhagarweiniad 7

2) Emyn 1

3) Rhan 1 Ail-ddarganfod Gair Duw 8

4) Emyn 2

5) Rhan 2 :Goleuni Gair Duw 10

6) Emyn 3

7) Rhan 3: Her Gair Duw 14

8) Rhan 4: Iesu- y Gair sy’n rhoi Bywyd 17

9) Emyn 4

10) Rhan 5: Gweithredu’r Gair 20

11) Emyn 5

12) Rhan 6: Hau'r Gair 22

13) Emyn 6

14) Y Fendith 25

15) Ffynonellau 26

16) Gweddi o ymrwymiad 27

3

Page 4: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Nodiadau ar gyfer y rhai sy’n trefnu Gwasanaeth Blwyddyn y Beibl Byw

1. Gan fod 2016 wedi ei ddynodi yn Flwyddyn y Beibl Byw mae'r gwasanaeth yma yn addas ar gyfer ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. 

2. Bydd angen i chi lungopio tudalen 27 ar gyfer y gynulleidfa er mwyn iddynt fedru ymuno yn y weddi.

3. Rhennir y gwasanaeth yn adrannau. Gellir gofyn i unigolion neu grwpiau o fewn yr eglwys e.e. dynion/gwragedd/rhieni’r Ysgol Sul/plant a phobl ifanc/diaconiaid/teuluoedd i ofalu am adran yr un.

4. Er ein bod yma yn defnyddio fersiwn beibl.net, cofiwch ddewis pa gyfieithiad bynnag rydych yn gartrefol ag ef.

5. Addaswch dafodiaith y ddwy ddeialog yn Adran 2 yn unol â’ch daearyddiaeth

6. Mae detholiad o emynau wedi eu hawgrymu ar ddalen arall i chi ddewis beth sy’n addas i’ch cynulleidfa chi.

7. Gellid chwarae CD o rai o’r emynau yn lle eu canu fel cynulleidfa neu ofyn i aelodau wneud unawd/barti canu. Beth am ddefnyddio’r cyfle i greu band bychan o offerynwyr i gyfeilio?

8. Awgrymwn eich bod yn gwneud y casgliad yn ystod emyn 5 ac o bosib yn dewis Cymorth Cristnogol neu elusen megis eich Banc Bwyd lleol i dderbyn eich rhoddion o arian neu fwyd.

9. Gweler isod awgrymiadau ar gyfer cyflwyno hanes ‘Y Ddau Dŷ’ yn Adran 5.

10. Mae cyflwyniad PowerPoint syml ar gael i chi ei ddefnyddio gyda’r gwasanaeth - cysylltwch â’ch Swyddog Adnoddau i dderbyn copi drwy e-bost.

Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno stori‘Y Ddau Dŷ’ yn Adran 5

i) Gellir gofyn i ddau blentyn i feimio rhannau’r ddau ddyn yn y stori

4

Page 5: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

ii) Beth am ddefnyddio grŵp o blant i feimio’r tŷ sy’n syrthio a’r tŷ sy’n sefyll yn gadarn?

iii) Gwahoddwch y plant neu’r gynulleidfa gyfan i greu sŵn y glaw (‘Yna daeth y glaw’) drwy ddrymio’u traed ar lawr, meimio’r dŵr yn codi drwy godi eu dwylo fesul tipyn (‘Ac fe gododd lefel y môr’) a gwneud sŵn ‘www’ i ddynwared y gwynt (‘Yna fe chwythodd y gwynt’). Cofiwch esbonio fod angen iddyn nhw ddistewi ar unwaith pan fyddwch chi’n codi’ch llaw!

iv) Byddai’n werth cael ymarfer bach cyn dweud y stori!

Awgrymiadau ar gyfer Emynau(Os ydych yn dymuno canu llai o benillion,

awgrymir mewn cromfachau pa benillion i’w dewis)

Emyn 1 (mawl): I Dduw bo’r Gogoniant CFF 563I’r Arglwydd Cenwch Lafar Glod CFF 75 (1 a 2)

Emyn 2 (y Beibl: Gair Duw)Am blannu’r awydd gynt CFF 178 (1 a 4)Diolch i Ti yr Hollalluog Dduw CFF 49Duw lefarodd wrth ei bobol CFF 426

Emyn 3 (Goleuni’r Gair)Tyrd atom ni CFF 222 (1 a 4)Am air ein Duw CFF 172 O Dduw ein Tad CFF 788 (1, 2 a 5)

Emyn 4 (Iesu: Y Gair sy’n rhoi Bywyd)Iesu, pwy all fod yn fwy na thi? CFF 423 (1, 4 a 5)O Nefol Addfwyn Oen CFF 312 ( 1 a 3)Emanŵel CFF 417O Grist, Tydi yw’r ffordd at Dduw Ein Tad CFF 386

5

Page 6: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Emyn 5 (Gweithredu’r Gair) (Byddai modd trefnu cyflwyno’r emyn yma gan unawdydd, grŵp bychan o blant neu oedolion, neu griw pob oed) Iôr gwna fi’n offeryn dy hedd CFF 868Hedd sy’n llifo fel yr afon CFF 281A ddoi di i’m dilyn i? CFF 801 (1, 2 a 5)Dyro dy gariad i’n clymu CFF 871

Emyn 6 (Rhannu’r Gair)Dad, dy gariad yn glir, ddisgleiria, CFF 228Cofiwn am Gomisiwn Iesu CFF 259 (1 a 3)Saif ein gobaith yn yr Iesu CFF 324

6

Page 7: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Rhagarweiniad: Croeso a Chyflwyno

Llefarydd: Croeso i wasanaeth Blwyddyn y Beibl Byw. Eleni rydym am ddathlu Gair Duw yn yr iaith Gymraeg ac annog pobl i’w agor a’i ddarllen a sylweddoli o’r newydd mor berthnasol yw e heddiw. I’n helpu i wneud hynny mae gennym fersiwn newydd o’r Beibl yn Gymraeg, sef beibl.net yn ogystal a’r fersiynau cyfarwydd- Beibl William Morgan a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Gweddïwn: Dad nefol, diolch i ti am siarad â ni, pobl Cymru, ar draws y canrifoedd, gan ein hatgoffa o sut un wyt Ti a chymaint yw dy gariad tuag atom. Bydd gyda ni yn ystod yr oedfa yma a thrwy dy Ysbryd siarad â ni mewn ffordd newydd i’n deffro a’n bywhau. Rydym yn gofyn hyn yn enw dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd a’n Gwaredwr. Amen.

Llefarydd: Dewch, gadewch i ni ganu’n llawen i’r ARGLWYDD, a gweiddi’n mawl i’r Graig sy’n ein hachub!Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch; gweiddi’n uchel a chanu mawl iddo! (Salm 95 ad 1 a 2 beibl.net)

Emyn 1:

7

Page 8: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Adran 1: Ail-ddarganfod Gair Duw

Llefarydd: Mae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml wedi peidio. Er bod hyn wedi digwydd filltiroedd, a chanrifoedd, i ffwrdd o Gymru heddiw, gallwn gydymdeimlo gyda thristwch Nehemeia sy’n alltud o’i wlad, wrth weld y dirywiad ym mywyd cenedlaethol ac ysbrydol ei bobl. Fel cenedl sydd wedi dioddef gormes ar adegau yn ei hanes, a chenedl sydd wedi gweld cyfnodau o drai yn ei bywyd ysbrydol, mor hawdd y gallwn ni weld ein hunain yn y stori hon.

Yn lle aros gyda’r dagrau, mae Nehemeia yn gweddïo ar Dduw am gymorth ac yna’n mynd yn ôl i’w famwlad a dechrau bwrw ati i ail-godi Jerwsalem a’r deml, ac adnewyddu bywyd ei bobl. Wedi cwblhau'r muriau, mae Nehemeia yn trefnu fod Esra'r offeiriad yn darllen Gair Duw yn yr awyr agored i’r bobl, gan esbonio iddyn nhw berthnasedd y geiriau. Mae hyn yn bwysig er mwyn i’r genedl ddechrau gwrando o’r newydd ar yr hyn sydd gan Dduw i’w ddweud wrthynt.

Darlleniad: Nehemeia 8: 1-7

Llefarydd: Gall cyfieithiad newydd o’r Beibl ein helpu ni i ail-ddarganfod beth sydd gan Dduw i’w ddweud wrthym fel unigolion, fel eglwysi ac fel cenedl. Yn ei ragair i beibl.net, esbonia Arfon Jones mai ‘ymgais ydyw i gyflwyno neges y Beibl mewn Cymraeg llafar syml. Y bwriad oedd helpu pobl i ddeall ei gynnwys yn well - pobl sydd yn gyfarwydd â’r Beibl ac eraill sydd efallai erioed wedi ei ddarllen o’r blaen’. Mewn ffordd o siarad, mae cyfieithiad newydd yn help i Air Duw ddod yn gnawd yn ein diwylliant cyfoes a byw yn ein plith ni heddiw. Y peth pwysig yw bod pobl yn dewis y cyfieithiad sy’n eu helpu hwy i ddeall y neges yn well. Fe all cymharu a gwerthfawrogi'r gwahanol gyfieithiadau sydd gennym gyfoethogi ein profiad o ddarllen a deall Gair Duw.

Fe wnaeth Esra’n siŵr fod Gair Duw yn cael ei ddarllen yn gyhoeddus er mwyn i bawb ei glywed. Yr her i ni heddiw ym

8

Page 9: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Mlwyddyn y Beibl Byw yw gwneud yn siŵr fod y Beibl yn cael ei ddarllen a’i glywed nid yn unig ymhlith aelodau ein heglwysi ond gan bobl ym mhob maes o’n diwylliant. A gadewch i ni, fel y gwnaeth pobl Dduw y pryd hwnnw, helpu’n gilydd i ddeall ystyr a pherthnasedd yr hyn a glywn ynddo, nid yn unig i ni fel unigolion ac eglwysi, ond hefyd i ni fel Cymry.

Gweddïwn: Dad Nefol, diolch i Ti am gael y Beibl yn ein hiaith ein hunain ac am bawb fu’n gweithio’n ddiwyd i’w gyfieithu. Diolch am gael clywed gwirioneddau oesol mewn iaith gyfoes ac am y cyfle i gyflwyno dy Air i genhedlaethau iau. Diolchwn fod dy Air wedi dod yn gnawd o’r newydd yn ein cyfnod ni. Helpa ni i agor ein clustiau, ein meddyliau a’n calonnau i glywed beth rwyt Ti am ddweud wrthym heddiw. Gofynnwn hyn yn enw Iesu, Amen.

Emyn 2:

9

Page 10: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Adran 2: Goleuni Gair Duw

Llefarydd: Beth mae’r Beibl yn ei ddweud amdano’i hun? O fewn ei gloriau cawn sawl darlun sy’n disgrifio gallu a gwerth Gair Duw. Daw’r cyntaf o Salm 119.

Darlleniad: Salm 119 105 - 112

Llefarydd: Dychmygwch ddwy sefyllfa

Deialog 1: (Dad a Dafydd yn dod i mewn, un o bob pen i’r sêt fawr, gan ymbalfalu – yn amlwg yn methu gweld ac yn lled faglu)

Dafydd: Dad.. ti sy’ ‘na?Dad: Ia siŵr .. pwy wyt ti’n meddwl? lleidr?Dafydd: Ti’n gwneud job sâl iawn o fod yn lleidr, y sŵn ti’n gneud!Dad: Roedd yn rhaid i’r blwmin trydan fynd jyst ar ganol y penalty shoot-out - fydda i ddim yn gwybod ydy (enw gôli eich hoff dîm pêl-droed) wedi medru safio’r gic yna gan (sgoriwr gorau eich cas dîm)Dafydd: Ac mi oeddwn innau ar ganol gwaith cartref Cymraeg i Miss Huws - dwi’n gwybod nad ydw i wedi medru safio hwnnw beth bynnag! Dad: Sgen ti dorch? Beth am hwnnw gest ti gen i ’Dolig ?Dafydd: Mae’r batris yn fflat!Dad: (gan ymbalfalu dan y sêt fawr) Yn rhywle fama...dyma nhw! - bocs o ganhwyllau newydd sbon ..a bocs o fatsis hefyd! (yn meimio cynnau cannwyll a’i chario ar blât i ganol y sêt fawr i gyfarfod Dafydd)Dafydd: (gan gerdded i ffwrdd hefo’i gilydd gan gario’r gannwyll) Tyrd i’r lolfa, dwi’n siŵr fod 'na fatris newydd ar gyfer y torch mewn drâr yn y cwpwrdd.Dad: Chawn ni ddim gweld mwy o’r gêm na gwneud mwy o waith cartref ond o leiaf fyddwn ni’n medru symud o gwmpas heb fagluDafydd: Ac mi gawn ni hel atgofionDad: Hel atgofion am be?Dafydd (yn chwareus) Am dy blentyndod di - doedd gynnoch chi ddim trydan pryd hynny nad oedd!(yn esgus rhedeg i ffwrdd) ..a lle yn union oedd eich ogof chi?

10

Page 11: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Dad (yn esgus rhedeg ar ei ôl) Aros i mi gael gafael ynot ti..!

Llefarydd: Sefyllfa ddoniol y gallwn uniaethu â hi. Ychydig anghyfleustra pan mae’r trydan yn mynd ond dim niwed parhaol i neb. Ond beth am sefyllfa fel hon?

Deialog 2: (Dwy yn sefyll yn y sêt fawr neu’r pulpud)

Mari: Dwi di cael llond bol!Mam Be sy’n bod?Mari: Jên drws nesaMam: Be sy' tro 'ma?Mari: Mae hi wedi bod yn dweud celwydd amdana i eto, a dyw hi ddim yn gadael i mi chwarae gyda’i gang hi ar yr iard amser cinio.Mam: Dydy hynny ddim yn neis iawn. Mari: Mae Siân yn dweud wrtha’i am stopio siarad â hi.Mam: Ai dyna beth ti ishe gwneud? Chi’n ffrindie da ers blynyddoedd.Mari: Rwy’n gwybod. (Tawelwch am funud) Wnest ti ddweud o’r blaen mod i fod i faddau iddi hi Mam: Dyna mae Iesu’n ei ddysgu i niMari Ond be os ydy rhywun yn gas eto ac eto ac eto?Mam: Wyddost ti - gofynnodd rhywun yr union gwestiwn yna i’r Arglwydd Iesu - faint o weithiau dwi fod i fadde i mrawd?Mari: A be ddwedodd e?Mam: Dweud stori oedd yn dangos ein bod ni i fod i faddau dro ar ôl tro i bobl eraill, am fod Duw yn fodlon maddau i ni dro ar ôl tro am yr holl bethau drwg da ni’n gwneudMari: Ond dydy ddim yn rhwydd i fadde trwy’r amserMam: Nacydi siŵr, ond dydy dilyn Iesu a gwneud y peth iawn ddim yn rhwydd.Mari: Ydw i fod i’w gwahodd hi i mharti pen-blwydd?Mam: Ti sy’n gorfod penderfynu hynny.. be wyt ti’n feddwl?Mari: Dwi ddim yn siŵr. Pam fod pethe mor anodd?

Llefarydd: Fuoch chi erioed mewn sefyllfa pan oeddech yn teimlo angen dybryd am ychydig oleuni i ddangos y ffordd ymlaen i chi. Yn Salm 119, mae gair Duw yn cael ei ddeall yn nhermau ffynhonnell o

11

Page 12: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

oleuni tebyg, ‘Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr.’ Pan fydd yn dywyll arnom, mae unrhyw olau ychwanegol ar ein llwybrau yn help mawr. Dyna brofiad y Salmydd, ‘Dw i’n dioddef yn ofnadwy ........ fy mywyd mewn perygl drwy’r adeg ....... pobl ddrwg wedi gosod trap i mi.’ Eto, ‘dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di ...... dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion.’

Mae bywyd cyfoes yn gallu bod yn llawn o ddewisiadau cymhleth, ac fe gawn ein gorfodi weithiau i fynd i dir anhysbys wrth wynebu materion moesol. Prin yw’r help sydd ar gael i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Mewn gwyddoniaeth, meddygaeth, y gyfraith, byd arian neu jyst wrth fagu plant, cawn ein drysu gan ddewisiadau sy’n gyson newid, hyd yn oed yn troelli allan o bob rheolaeth, a braidd dim arweiniad ar gyfer gwneud dewis cywir.

Nid yw’r Salmydd yn dweud y cawn atebion pendant a diamwys yn y Beibl ynglŷn â’r llwybrau i’w dewis. Ond ar ein taith, cawn, yng Ngair Duw, ffynhonnell o oleuni dibynadwy i oleuo’r llwybr sydd o’n blaenau. Cawn hefyd rywfaint o ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ein hwynebu, ac o aros yn ffyddlon i’r hyn a welwn yng ngoleuni’r Gair, mae’n rhoi gobaith i ni wrth lywio ein taith ymlaen.

Gweddi dros eraillGadewch i ni gyflwyno pawb sydd mewn angen i ofal a chariad Duw. Pan fyddwch chi’n clywed y geiriau ‘yn dy drugaredd’ wnewch chi ymateb gyda’r geiriau ‘Goleua’u llwybrau’

Gweddïwn:Dad nefol, cyflwynwn i Ti bawb sydd angen dy oleuni yn eu bywydau heddiw:Cofiwn am bobl sy’n dioddef am fod amgylchiadau bywyd yn gwasgu arnyn nhw …Yn dy drugareddYMATEB: Goleua’u llwybrau

Cofiwn am bobl sy’n sâl yn yr ysbyty neu’n gaeth i’r cartref …Yn dy drugareddYMATEB: Goleua’u llwybrau

12

Page 13: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Cofiwn am y rhai sy’n mynd trwy brofiadau tywyll galar a cholled …Yn dy drugareddYMATEB: Goleua’u llwybrau

Cofiwn y rhai hynny yn ein cymuned leol sydd dan gwmwl digalondid oherwydd eu bod yn ddigartref neu’n ddi-waith … Yn dy drugareddYMATEB: Goleua’u llwybrau

Cofiwn am bawb trwy’r byd sy’n byw dan gysgod trais a rhyfel … yn enwedig (gellir enwi gwledydd neu amgylchiadau arbennig) … Yn dy drugareddYMATEB: Goleua’u llwybrau

Cyflwynwn y rhai hyn i Ti O Dduw ein Tad cariadlawn, i Ti O Grist, ein goleuni a’n gobaith ac i Ti'r Ysbryd Glân ein Diddanydd. Amen.

Emyn 3

13

Page 14: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Adran 3: Her Gair Duw

Llefarydd: Mae’r ail ddarlun rym ni am ystyried heddiw yn dod o’r llythyr at yr Hebreaid. Yma mae’r awdur yn ein hatgoffa nad ydy Gair Duw ddim bob amser yn beth cysurus i’w glywed.

Darlleniad: Hebreaid 4: 12-13 – ‘Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud. Mae’n fwy miniog na’r un cleddyf, ac yn treiddio’n ddwfn o’n mewn, i wahanu’r enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr.’

Llefarydd: Mae chwarae cuddio yn un o hoff gemau plant, ond ydyn ni mewn gwirionedd yn tyfu allan ohono wrth fynd yn hŷn? Rydym yn trio cuddio rhag y gwir, rhag ein hunain, rhag eraill ac yn sicr rhag Duw, er bod Salm 139 yn ein hatgoffa fod Duw yn gweld y cyfan. Mae 'na demtasiwn bob amser i fyw rhagrith yn lle mynd drwy’r profiad poenus o wynebu sut rai ydym ni mewn gwirionedd. Rydym wedi hen ddysgu sut i lunio delweddau o’n hunain sy’n fwy derbyniol na realiti, a’u cyflwyno i’r byd i blesio eraill.

Mor bwysig felly yw cael rhywbeth sy’n gallu torri trwy’r hyn sy’n ffals a’r esgusodion a wnawn i gyfiawnhau ein hunain, gan ddinoethi’r gwir. Dyna yw un o rinweddau Gair Duw, medd awdur yr Hebreaid. Mae fel cleddyf miniog, neu falle cymhariaeth well heddiw fyddai cyllell finiog y llawfeddyg, sy’n torri’n rhwydd a dwfn, gan ddinoethi’r drwg. Dyna wna neges Duw - treiddio’n ddwfn o’n mewn, gan ddinoethi meddyliau a bwriadau’r unigolyn, a hefyd datgelu'r twyll a’r anghyfiawnder sy’n ddwfn yng ngwead ein cymdeithas a’n byd.

GweddïwnGadewch i ni fod yn dawel nawr gan ofyn am gymorth Duw i chwilio’n calonnau

(Awgrymir cyfnod tawel o tua 90 eiliad).

Gweddi o gyffes (Gellir defnyddio Gweddi 205 ‘Methiant i fod yn onest â ni ein hunain’, tudalen 444, Gweddïau’r Pedwar Tymor 2 neu eiriau o’ch dewis)

14

Page 15: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Methiant i fod yn onest â ni ein hunain

Ein Duw aruchel.Does dim byd yn guddiedig oddi wrthyt, ac rwyt ti’n gwybod popeth; maddau i ni am ein bod yn twyllo ein hunain mor hawdd ac mor barod.Bydd drugarog, O Arglwydd,a gwna ni’n newydd.

Rydym yn poeni am ein hymddangosiadau allanol, yn hytrach na realiti mewnol; yn twyllo ein hunain i gredu bod popeth yn dda pan wyddom yn ein calonnau bod llawer yn ddrwg.Bydd drugarog, O Arglwydd,a gwna ni’n newydd.

Rydym yn troi ffydd i rywbeth a wnawn, yn hytrach na’r hyn ydym, yn ddamcaniaeth y dysgwn amdani, yn hytrach na ffordd o fyw ac o weithredu.Bydd drugarog, O Arglwydd,a gwna ni’n newydd.

Siaradwn am ddilyn Iesu, am ymrwymo ein bywydau iddo ef mewn gwasanaeth llawen, ond gwasanaethwn ein hunain yn gyntaf a dilynwn ein mympwyon ein hunain.Bydd drugarog, O Arglwydd,a gwna ni’n newydd

Gwyddom ein bod wedi gwneud drwg, yn ymwybodol o’n gwendid, eto rhedwn oddi wrth y gwirionedd, yn ofni wynebu ffeithiau, yn cynnig esgusion neu’n gwadu ein camgymeriadau.Bydd drugarog, O Arglwydd,a gwna ni’n newydd.

15

Page 16: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Ein Duw aruchel, maddau i ni’r beiau a wêl pawb a’r beiau sy’n wybyddus i ni ein hunain yn unig, y gwendidau nad oes mod di ni eu celu a’r gwendidau a guddiwn oddi wrth bawb ac eithrio ti. Maddau i ni’r modd rydym yn dy siomi mor aml ac yn bradychu ein galwad.Bydd drugarog, O Arglwydd,a gwna ni’n newydd.

Llanw ein calonnau â chariad, ein meddyliau â ffydd ein heneidiau â nerth a’n bywydau â gras, inni allu dy garu’n well a’th wasanaethu yn fwy ffyddlon.

Cynorthwya ni i’th weld yn dy holl fawredd a’n hunain yn union fel yr ydym; a thrwy ddeall y naill a’r llall yn glir, cynorthwya ni i ddod y bobl yr hoffet i ni fod.Bydd drugarog, O Arglwydd,a gwna ni’n newydd.

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd.Amen.

16

Page 17: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Adran 4: Iesu – Y Gair sy’n rhoi Bywyd

Llefarydd: Mae gair neu eiriau yn ffordd o gyfleu syniadau, ond mae’r Beibl yn cyflwyno mwy na syniadaeth neu ideoleg – mae’n cyflwyno unigolyn unigryw ac arbennig. Gwrandewch ar eiriau awdur llythyr Ioan.

Darlleniad: 1 Ioan 1: 1 - 4

Llefarydd: Mae Ioan yn frwdfrydig i rannu’r profiad o nabod Iesu, Gair Duw. Mae Iesu’n cyflwyno neges Duw, ond ef hefyd yw’r neges honno, gan fod ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad yn dangos i ni sut un yw Duw.

Mae Ioan yn son am Iesu fel ‘gair y bywyd’, a hwnnw’n fywyd yn ei holl gyflawnder yn ôl Efengyl Ioan, pennod 10. Mor wahanol i’r camargraff a gaiff llawer am Gristnogaeth fel rhywbeth cul, sy’n cyfyngu ac yn amharu ar fwynhad y profiad o fyw. Mae Ioan am gyfleu'r wefr a ddaw o’r profiad o adnabod Iesu, profiad sy’n gallu ein gwneud yn wirioneddol hapus a bodlon. Mae’r bywyd cyflawn hwn yn para am byth, ond hefyd mae’n rhywbeth i’w fyw, ei fwynhau a’i rannu ag eraill yn ystod ein hamser ar y ddaear.

Gweddi ‘Derbyn y Gair’, tudalen 25, Gweddïau’r Pedwar Tymor 2, neu weddi o fawl a diolch am yr Arglwydd Iesu yn eich geiriau eich hun

Derbyn y GairEin Duw graslon, rydym yn dy foli heddiw am nerth dy air, y ffordd rwyt ti wedi siarad â chynifer o bobl trwy gydol hanes.

Gelwaist y bydysawd i fodolaeth – nefoedd a daear nos a dydd, y môr a’r tir sych, bywyd yn ei liaws amlygiadau

17

Page 18: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Siaradaist a gwnaethpwyd ef, ein byd a’n bodolaeth yn ddyledus i ti,Am dy air bywiol,molwn di.

Gelwaist Abraham, Isaac a Jacob, Moses a Josua, barnwyr, brenhinoedd a phroffwydi, apostolion, disgyblion, pregethwyr ac athrawon – cwmni mawr o saint, pob un yn tystiolaethu i’th bwrpas goruchaf, dy nerth aruthrol a’th gariad trugarog; pob un yn clywed dy lais ac yn ymateb mewn ffydd.Am dy air bywiol, molwn di.

Daethost yn Iesu Grist, y Gair a wnaethpwyd yn gnawd, yn uniaethu dy hun â’n dynoliaeth, yn rhannu’n llawenydd a’n galar, yn profi ein bywyd a’n marwolaeth.Daethost i gyflawni dy hen addewidion, yn datguddio maint dy gariad trwy bopeth ddywedodd ac y gwnaeth Ef, yn arddangos dy bwrpas grasol i bawb.Am dy air bywiol, molwn di.

Rwyt ti’n siarad o hyd trwy dudalennau’r Ysgrythurau; trwy eu cofnod o’th ymwneud â hanes a’u tystiolaeth i’th ewyllys ar gyfer y byd.Rwyt ti’n siarad trwy ddeialog rhwng Cristnogion, trwy dystiolaeth dy Eglwys a thystiolaeth bersonol unigolion, trwy astudiaeth a myfyrdod, a thrwy rannu cymdeithas.Rwyt ti’n siarad trwy fawredd y bydysawd a rhyfeddod bywyd,

18

Page 19: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

a’th lais tawel, distaw yn treiddio i’n profiadau i’n herio a’n hysbrydoli.Am dy air bywiol, molwn di.

Ein Duw graslon, llawenhawn yn y ffyrdd rwyt ti wedi siarad â ni yn y gorffennol a’r ffordd rwyt ti’n parhau i siarad heddiw.Derbyniwn dy air â llawenydd diolchgar, a gweddïwn am nerth i’w wneud yn gymaint rhan ohonom fel bydd dy lais i’w glywed trwy bopeth rydym ni ac y gwnawn, er gogoniant i’th enw.Am dy air bywiol, molwn di.

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd.Amen

Emyn 4

19

Page 20: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Adran 5: Gweithredu’r Gair

Llefarydd: Nid rhywbeth i’w glywed a’i gredu yn unig yw Gair Duw – mae angen i ni ymateb a gwneud rhywbeth yn ei gylch. Dywedodd Iesu stori i ddangos pwysigrwydd gwneud ffydd yn real drwy ei weithredu. Gwrandawn ar hanes y Ddau Dŷ allan o Beibl Newydd y Storïwr.

Darllenydd: ‘Gadewch i fi ddweud stori wrthoch chi meddai Iesu wrth y dorf un diwrnod. Stori am adeiladu’‘Un tro roedd 'na ddyn. Dyn doeth oedd eisiau codi tŷ. Felly daeth o hyd i graig fawr. Craig enfawr. A dwedodd, “Dyma lle rydw i’n mynd i ddechrau.”Ac fe gloddiodd dwll mawr yn y graig enfawr, a dyna lle y cododd ei dŷ’Yna daeth y glaw.Ac fe gododd lefel y môr.Yna fe chwythodd y gwynt - chwythodd y gwynt yn ddigon cryf i chwythu’r tŷ yna i lawr.Ond wnaeth y tŷ ddim symud. Naddo, dim modfedd!Nawr roedd ‘na ddyn arall. Dyn ffôl oedd eisiau codi tŷ hefyd. Felly daeth o hyd i draeth braf. Traeth o dywod meddal esmwyth.Ac fe ddywedodd, “Dyma lle rydw i’n mynd i ddechrau.”Ac fe lyfnhaodd y tywod a chael gwared ar y cregyn. A dyna lle y cododd ei dŷ.Yna daeth y glaw. Ac fe gododd lefel y môr. Yna fe chwythodd y gwynt - chwythodd y gwynt yn ddigon cryf i chwythu’r tŷ yna i lawr.Ac i lawr y syrthiodd – gan grynu a chwalu a chlecian!”

‘Gwrandewch ar fy ngeiriau i,’ meddai Iesu. ‘Gwnewch yr hyn rydw i’n ei ddweud wrthoch chi. Ac fe fyddwch chi fel y dyn cynta hwnnw. Oherwydd mae’r pethau rydw i’n eu dweud wrthoch chi yn wir - mor solet ag unrhyw graig. Ac fe allwch chi adeiladu eich bywyd arnyn nhw.’ (Y Ddau Dŷ o Beibl Newydd y Storïwr, tudalen 112 )

Llefarydd: Mae’n rhaid i’n bywydau newid drwy ddylanwad y Gair; dim ond felly byddwn yn dod yn gyfryngau i newid y byd. Mae eglwys Iesu Grist yn gartref i bobl sy’n cael eu newid ond hefyd yn

20

Page 21: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

bwerdy i bobl sydd am fynd allan i weithredu fel y bydd Teyrnas Dduw yn dod yn real yn eu cymunedau a’u byd.

Emyn 5: (Yn ystod yr emyn yma, gellir gwneud casgliad)

21

Page 22: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Adran 6: Hau y Gair

Darlleniad: ‘Plannu hadau’ tud. 286 allan o 365 o Storïau o’r Beibl.

Dechreuodd Iesu ddysgu’r bobl ar lan Llyn Galilea unwaith eto. Roedd tyrfa enfawr wedi casglu o’i gwmpas nes bod rhaid iddo eistedd mewn cwch ar y llyn,tra roedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i ddarlunio beth roedd yn ei ddysgu iddyn nhw.

“Gwrandewch!” meddai: “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru’r had dyma beth ohono’n yn syrthio ar y llwybr, a dyma’r adar yn dod a’i fwyta. Dyma beth o’r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn ond yn yr haul poeth dyma’r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. Yna dyma beth o’r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu’r planhigion, felly doedd dim grawn yn y dywysen. Ond syrthiodd peth o’r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”

Llefarydd: Ar un olwg stori am wastraff yw stori’r heuwr. Cymaint o’r had sy’n ymddangos fel petai’n cyflawni dim, a hawdd iawn yw cydymdeimlo â’r heuwr druan a’i ymdrechion ofer. Ond o edrych yn ddyfnach fe welwn mai stori yw hon am bosibiliadau ac adnoddau cudd. Gyda’r amgylchiadau cywir, mae’r hedyn bach, sych ac anneniadol, yn ffrydio’n fywyd o ffrwythlondeb a thyfu’n blanhigyn ymhell y tu hwnt i’w ddechreuadau. Felly mae hefyd gyda Gair Duw, medd Iesu.

Rydym yn byw mewn dyddiau anodd, gyda chymaint o sinigiaeth ac amheuaeth, sy’n golygu bod Gair Duw yn aml yn syrthio ar galonnau caled. Yn ôl y bardd enwog o Seland Newydd, James K Baxter, mae’r dasg o wneud yr Efengyl yn hysbys heddiw fel ‘plannu bresych mewn concrid.’ Nid yw’r hyn a gyflwynir yn apelio ac mae’r tir yn galed a sych o orfod cario holl drafnidiaeth y bywyd cyfoes. Mae cymaint o

22

Page 23: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

bobl llugoer a difater i’r syniad fod Duw yn eu caru – ‘Pa ots? Nid yw o bwys!’.

Ond peidiwn â digalonni, mae’r hedyn neu’r Gair yn dal i gario’r gallu cudd o’i fewn. Dim ond cyfle a maeth sydd eu hangen i’w ryddhau. Ein cyfrifoldeb ni yw hau, gwasgaru’r neges mor eang â phosibl, gan ddefnyddio pob dull posibl a manteisio ar bob cyfle, a gwneud hynny’n hyderus ac yn llawen, gan ymddiried y canlyniadau i Dduw sydd wedi addo eu gwireddu. Mae Blwyddyn y Beibl Byw yn cynnig ei her a’i gyfle unigryw i ni wneud hynny.

GweddïwnDad Nefol, wrth gofio hanes ein gwlad,sylweddolwn ein braint o gael dy Air yn Gymraega diolchwn am y rhai, ym mhob cyfnod,a ysbrydolwyd gennyt i gwblhau’r gwaith.

Diolchwn am William Salesbury a roddodd Destament Newydd 1567 i ni, a'r Esgob William Morgan a roddodd i ni y Beibl cyflawn ym 1588.

Yn fwy diweddar, cofiwn am y rhai fu’n gweithio am dros chwarter canrif i gyfieithu Testament Newydd 1975, Beibl Cymraeg Newydd 1988 a'r fersiwn ddiwygiedig yn 2004.

Heddiw, dathlwn y cyfieithiad diweddaraf, sef beibl.net a diolchwn i Ti am weledigaeth a gwaith Arfon Jones, yn dod â’r Beibl i ni ar y we, y cyfrifiadur a’r ffôn symudol, ac yna fel llyfr.

Fel arwydd o’n gwerthfawrogiad o waith y rhain oll,ac o fawredd dy ofal di drosom,gad i ni ymrwymo:

• i ddarllen y Beibl yn gyson, • i geisio ei ddeall yn llawnach • ac i’w weithredu’n gywirach drwy dy gymorth Di.

Amen.

23

Page 24: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Gadewch i ni sefyll ar gyfer y weddi o ymrwymiad sydd ar eich taflen, ac fe’ch gwahoddwn i ymuno drwy ddweud y geiriau sydd mewn print bras.

Gweddi o Ymrwymiad i’r Gair

GWEDDÏWN: Arglwydd, wrth i ni ddathlu Blwyddyn y Beibl Byw eleni, cyflwynwn ein hunain o’r newydd i Ti a’th Air.

Diolchwn am Feibl sy’n fyw:Rydym yn addo ei ddarllen, ei ddeall a’i weithredu.

Diolchwn am y modd mae’r Gair wedi’n cyffwrdd ni ac wedi gadael ei ôl a’i ddylanwad arnom. Gad i ni weld eleni fel cyfle i ni gael ein cyffwrdd o’r newydd, a sicrhau bod dylanwad y Gair arnom yn fyw, yn ystyrlon ac yn berthnasol i heddiw.

Diolchwn am Feibl sy’n fyw:Rydym yn addo ei ddarllen, ei ddeall a’i weithredu.

Diolchwn am y modd mae’r Gair wedi cyffwrdd â’n cymdeithas, ac wedi bod yn fodd i ffurfio ei gwerthoedd a’i hadeiladu mewn cyfiawnder. Gad i ni weld eleni fel cyfle i’r Gair fod yn rym i adnewyddu bywyd Cymru, ac yn fodd i’n harwain i ddealltwriaeth newydd o bwy ydym a beth yw dy fwriad ar ein cyfer.

Diolchwn am Feibl sy’n fyw:Rydym yn addo ei ddarllen, ei ddeall a’i weithredu.

Diolchwn am gyfle i gyflwyno’r Gair o’r newydd – yn ffres ac yn gyfoes; mewn iaith ac arddull dealladwy; trwy gyfrwng stori, drama, barddoniaeth a chân; mewn cartref a chapel, ysgol a gweithle; i ffrindiau a chydnabod, arweinwyr a gwleidyddion; ar fideo, ap a’r we; ar lafar ac mewn gweithred – fel bod grym y Gair yn cael ei ryddhau i weithio a dylanwadu ar galon, meddwl ac ewyllys, a dwyn ffrwyth yn helaeth ym mhob rhan o fywyd heddiw.Diolchwn am Feibl sy’n fyw:

24

Page 25: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Ymrwymwn i’w ddarllen, ymrown i’w ddeall, ymdrechwn i’w weithredu

Uwchlaw pob peth diolchwn am Iesu, y Gair a ddaeth yn gnawd a’r Gair sy’n fywyd i’r byd. Helpa ni i’w ddangos ef ym Mlwyddyn y Beibl Byw, fel bod y geiriau yn arwain at y Gair sy’n dwyn yr holl greadigaeth i’w chyflawnder.

Rydym yn addo dangos Iesu, a’i ddyrchafu a’i ddilyn Ef. Â’r Ysbryd yn gymorth i ni, Amen.

Emyn 6:

Y FendithI’n Duw yn Iesu Grist fo’r mawl, y gogoniant a’r doethineb a’r diolch,a’r anrhydedd a’r gallu a’r nerth, byth bythoedd. Amen

25

Page 26: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Ffynonellau y deunydd a ddefnyddwyd i baratoi

Gwasanaeth Blwyddyn y Beibl BywCFF: Caneuon FfyddCyhoeddwyd gan Bwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol 2001ISBN 1 903754 01 1

Gweddïau’r Pedwar Tymor 2: Awdur y gwreiddiol: Nick Fawcett, Addaswyd gan Eirian a Gwilym Dafydd.Cyhoeddiadau’r Gair 2007IBSN 1 85994 566 X

Beibl Newydd y Storïwr: Bob Hartman a Krisztina Kállai NagyAddasiad Cymraeg gan Cynthia DaviesCyhoeddiadau’r Gair 2008IBSN 1 85994615 1

beibl.netHawlfraint y testun Gobaith i Gymru 2005Cyhoeddwyd gan Cymdeithas y Beibl 2015ISBN 978-0-564-03327-0

beibl.net 365 o storïau o’r BeiblAddasiad Cymraeg Arfon Jones(beibl.net)Cyhoeddiadau’r Gair 2015ISBN 978 1859947 999

I archebu’r rhain a gweld dewis helaeth o adnoddau Cristnogol, ewch i wefan Cyhoeddiadau’r Gair www.ysgolsul.com

26

Page 27: annibynwyr.org · Web viewMae llyfr Nehemeia yn yr Hen Destament, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod pan oedd pobl Israel wedi eu gwasgaru, Jerwsalem wedi ei chwalu ac addoliad y deml

Gweddi o Ymrwymiad(Gwahoddir y gynulleidfa i sefyll ar eu traed)

GWEDDÏWN: Arglwydd, wrth i ni ddathlu Blwyddyn y Beibl Byw eleni, cyflwynwn ein hunain o’r newydd i Ti a’th Air.

Diolchwn am Feibl sy’n fyw:Ymrwymwn i’w ddarllen, ymrown i’w ddeall, ymdrechwn i’w weithredu

Diolchwn am y modd mae’r Gair wedi’n cyffwrdd ni ac wedi gadael ei ôl a’i ddylanwad arnom. Gad i ni weld eleni fel cyfle i ni gael ein cyffwrdd o’r newydd, a sicrhau bod dylanwad y Gair arnom yn fyw, yn ystyrlon ac yn berthnasol i heddiw.

Diolchwn am Feibl sy’n fyw:Ymrwymwn i’w ddarllen, ymrown i’w ddeall, ymdrechwn i’w weithredu

Diolchwn am y modd mae’r Gair wedi cyffwrdd â’n cymdeithas, ac wedi bod yn fodd i ffurfio ei gwerthoedd a’i hadeiladu mewn cyfiawnder. Gad i ni weld eleni fel cyfle i’r Gair fod yn rym i adnewyddu bywyd Cymru, ac yn fodd i’n harwain i ddealltwriaeth newydd o bwy ydym a beth yw dy fwriad ar ein cyfer.

Diolchwn am Feibl sy’n fyw:Ymrwymwn i’w ddarllen, ymrown i’w ddeall, ymdrechwn i’w weithredu

Diolchwn am gyfle i gyflwyno’r Gair o’r newydd – yn ffres ac yn gyfoes; mewn iaith ac arddull dealladwy; trwy gyfrwng stori, drama, barddoniaeth a chân; Mewn cartref a chapel, ysgol a gweithle; i ffrindiau a chydnabod, arweinwyr a gwleidyddion; ar fideo, ap a’r we; ar lafar ac mewn gweithred – fel bod grym y Gair yn cael ei ryddhau i weithio a dylanwadu ar galon, meddwl ac ewyllys, a dwyn ffrwyth yn helaeth ym mhob rhan o fywyd heddiw.

Diolchwn am Feibl sy’n fyw:Ymrwymwn i’w ddarllen, ymrown i’w ddeall, ymdrechwn i’w weithredu

Uwchlaw pob peth diolchwn am Iesu, y Gair a ddaeth yn gnawd a’r Gair sy’n fywyd i’r byd. Helpa ni i’w ddangos ef ym Mlwyddyn y Beibl Byw, fel bod y geiriau yn arwain at y Gair sy’n dwyn yr holl greadigaeth i’w chyflawnder.

Rydym yn addo dangos Iesu, a’i ddyrchafu a’i ddilyn Ef. Â’r Ysbryd yn gymorth i ni, Amen.

27