· web viewrhaglen dysgu proffesiynol cwricwlwm i g ymru 2022 pam mae angen r haglen d ysgu p...

6
Rhaglen Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i Gymru 2022 Pam mae angen rhaglen dysgu proffesiynol yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae cyfres o ddiwygiadau helaeth ond integredig yn digwydd yn y byd addysg yng Nghymru, ac mae gan y diwygiadau y grym i weddnewid tirwedd addysg. Ar adeg o newid mor sylweddol, mae’n hanfodol sicrhau bod pob ymarferydd yn cael cyfle i gydweithredu, i wneud synnwyr o sut bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eu gwaith a sut gall ysgolion sicrhau’r budd pennaf o’r diwygiadau hyn er lles eu dysgwyr. Mae'r rhaglen draws-ranbarthol wedi cael ei llunio i ddarparu’r cyfle hwn. Rhaglen dysgu proffesiynol integredig Ffocws allweddol y rhaglen dysgu proffesiynol fydd cyflawni Cwricwlwm Cymru 2022, ond mae’n hanfodol bod cysylltiadau’n cael eu gwneud ar draws pob agwedd o’r rhaglen diwygio addysg. Mae angen i hyn gynnwys ystyriaeth o ddull gweithredu Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu (YSD), y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, ac ymrwymiad pawb ohonom i’r agenda Rhagoriaeth, Tegwch a Llesiant. Pedwar galluogydd Cenhadaeth ein Cenedl

Upload: others

Post on 19-Nov-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1:  · Web viewRhaglen Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i G ymru 2022 Pam mae angen r haglen d ysgu p roffesiynol yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae cyfres o ddiwygiadau helaeth ond integredig

Rhaglen Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i Gymru 2022

Pam mae angen rhaglen dysgu proffesiynol yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae cyfres o ddiwygiadau helaeth ond integredig yn digwydd yn y byd addysg yng Nghymru, ac mae gan y diwygiadau y grym i weddnewid tirwedd addysg. Ar adeg o newid mor sylweddol, mae’n hanfodol sicrhau bod pob ymarferydd yn cael cyfle i gydweithredu, i wneud synnwyr o sut bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eu gwaith a sut gall ysgolion sicrhau’r budd pennaf o’r diwygiadau hyn er lles eu dysgwyr. Mae'r rhaglen draws-ranbarthol wedi cael ei llunio i ddarparu’r cyfle hwn.

Rhaglen dysgu proffesiynol integredig Ffocws allweddol y rhaglen dysgu proffesiynol fydd cyflawni Cwricwlwm Cymru 2022, ond mae’n hanfodol bod cysylltiadau’n cael eu gwneud ar draws pob agwedd o’r rhaglen diwygio addysg. Mae angen i hyn gynnwys ystyriaeth o ddull gweithredu Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu (YSD), y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, ac ymrwymiad pawb ohonom i’r agenda Rhagoriaeth, Tegwch a Llesiant.

Pedwar galluogydd Cenhadaeth ein Cenedl

Sut caiff dysgu proffesiynol ei drefnu? Caiff dysgu proffesiynol ei drefnu yn gyffredinol yn unol â cherrig milltir arweinyddiaeth, i sicrhau bod y cynnwys yn amrywio’n briodol i rymuso ymarferwyr sy’n gwneud swyddi penodol. Bydd set gyffredin o ddeunyddiau dysgu proffesiynol yn cael eu datblygu ar y lefel genedlaethol, trwy broses o gyd-gynhyrchu rhwng ysgolion, consortia rhanbarthol a’u Hathrofeydd Addysg Uwch cyswllt. Efallai bydd y dulliau o ddarparu dysgu proffesiynol yn amrywio o ranbarth i ranbarth.

Bydd yr holl raglenni am ddim yn y man ble cânt eu darparu, a byddant yn hygyrch trwy gyfrwng e-ddysgu ar blatfform Hwb.

Page 2:  · Web viewRhaglen Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i G ymru 2022 Pam mae angen r haglen d ysgu p roffesiynol yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae cyfres o ddiwygiadau helaeth ond integredig

Beth fydd cynnwys y rhaglen?Penaethiaid ac Uwch Arweinwyr

Thema allweddol Crynodeb o’r Dysgu Proffesiynol

Arwain newid  

Fel yn achos unrhyw raglenni newid, mae’n hanfodol sicrhau bod newid yn cael ei reoli’n briodol, a gan roi ystyriaeth briodol i ddulliau o reoli newid sydd wedi ennill eu plwyf. Bydd y rhan hon o’r rhaglen yn cysylltu damcaniaeth Rheoli Newid ag arferion addysgol mewn ysgolion i gynorthwyo i weithredu diwygiadau. 

Datblygu gweledigaeth a rennir ynghylch y cwricwlwm newydd

Mae ymddangosiad cwricwlwm sy’n cael ei ddylanwadu gan ddibenion yn gyfle delfrydol i ysgolion ailystyried y weledigaeth ynghylch y cwricwlwm a dysgu mewn ysgolion ar y cyd â’r holl randdeiliaid.

Cynllunio at newid yn y cwricwlwm

(cynllunio’r cwricwlwm ac amserlennu)  

Ar ôl sefydlu gweledigaeth wedi’i hadnewyddu, efallai bydd cyfle i ailystyried y dull a ddefnyddir gan ysgolion i drefnu dysgu. Bydd y rhan hon o’r rhaglen yn ystyried nifer o fodelau gwahanol ac yn archwilio arferion sy’n dod i’r amlwg mewn ysgolion yng Nghymru a thu hwnt.  

Creu amser a lle ar gyfer dysgu proffesiynol

Mae’n hanfodol bod pob aelod o staff yn cael amser i wneud synnwyr o’r cwricwlwm newydd a bod amser ar gael i adfyfyrio a chynllunio’n gydweithredol. Bydd enghreifftiau o sut mae ysgolion wedi cyflawni hyn yn cael eu cyflwyno a’u trafod i sicrhau bod gan Benaethiaid amrywiaeth o fodelau a dulliau gweithredu i’w hystyried.

Dulliau cydweithredol o ddylunio’r cwricwlwm

Bydd angen i ni gydweithredu â nifer o weithwyr proffesiynol eraill er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn llwyddiant, yn cynnwys ysgolion sy’n rhan o’r clwstwr (e.e. datblygu dulliau addysgeg cyffredin trwy gydol y continwwm 3-16) neu ysgolion eraill yn yr un cyfnodau, o fewn ac ar draws meysydd dysgu a phrofiad.

Bydd yr adran hon o'r rhaglen yn ystyried ystod o ddulliau o ddylunio cwricwlwm ysgol effeithiol.

Arwain Addysgeg

(cysylltiedig ag ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu (YSD) a safonau arweinyddiaeth)

“Rydym ni’n gwybod mai penaethiaid sy’n cyfranogi fel dysgwyr, ag athrawon yn canolbwyntio ar arwain athrawon er mwyn gwella addysgeg, fydd yn fwyaf dylanwadol (Fullen, 2019)”.

Bydd y rhan hon o’r rhaglen yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion yn defnyddio deilliannau’r arolwg ynghylch ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu (YSD) a’r Safonau Addysgu ac Arweinyddiaeth i nodi meysydd i’w datblygu fel rhan o ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon a’r rôl allweddol sydd gan arweinwyr ysgolion o ran arwain y gwaith hwn.

Page 3:  · Web viewRhaglen Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i G ymru 2022 Pam mae angen r haglen d ysgu p roffesiynol yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae cyfres o ddiwygiadau helaeth ond integredig

Arweinwyr Canol ac Athrawon Thema allweddol Crynodeb o’r Dysgu Proffesiynol

Cwricwlwm Cymru 2022 – Beth sy’n wahanol? 

Mae’n hanfodol bod pob athro yn deall yr elfennau sy’n debyg a’r gwahaniaethau o ran yr athroniaeth sy’n sail i’r cwricwlwm hwn a’i nodweddion allweddol, o’i gymharu â fersiynau blaenorol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Defnyddio’r deunyddiau’r canllawiau ynghylch cynllunio  

Bydd Cwricwlwm Cymru 2022 yn cael ei gyflwyno â deunyddiau ategol yn cynnig arweiniad ynghylch cynllunio. Bydd yr adran hon yn egluro diben y deunyddiau hyn a sut dylid gwneud y defnydd mwyaf effeithiol ohonynt.

Cynlluniau tymor canol a thymor hir

Sut caiff y cwricwlwm ei drefnu yn y tymor canol a’r tymor hir? Mae’n bwysig bod ‘syniadau mawr’ a chysyniadau cyffredinol y cwricwlwm yn cael eu mapio a’u trefnu yn ofalus i hybu’r dysgu gorau gan ddisgyblion, osgoi dyblygu a datblygu dilyniannau ystyrlon o wybodaeth a sgiliau.

Y cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd

Bydd yr adran hon yn ystyried sut dylai’r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd diwygiedig a’r sgiliau ehangach gael eu hymgorffori’n fwyaf ystyriol yn y cwricwlwm mewn ysgolion.

Dulliau disgyblu, rhyngddisgyblaethol ac integredig

Mae’n bwysig bod arweinwyr canol ac athrawon yn gallu mynd ati i ystyried yn feirniadol amrywiaeth o ddulliau gweithredu o ran cynllunio yn y cwricwlwm newydd. Bydd y rhan hon o’r rhaglen yn ystyried pryd mae dulliau disgyblaethol, rhyngddisgyblaethol neu integredig o gyflawni’r cwricwlwm yn fwyaf priodol o fewn ac ar draws meysydd dysgu.   Un ystyriaeth bwysig yn y cyd-destun hwn fydd y gwahaniaethau ar draws y cyfnodau addysgol presennol, yn enwedig o ran arbenigedd disgyblaethol.

Dilyniant

(egwyddorion sy’n sail i’r gwaith o ddylunio’r cwricwlwm) 

Mae Meysydd Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru 2022 wedi cael eu datblygu ar sail egwyddorion dilyniant sydd wedi ennill eu plwyf. Ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, mae’n bwysig i athrawon ddeall sut caiff dilyniant ei fframio i’w cynorthwyo i gynllunio a sicrhau bod y ffrawmaith yn cefnogi asesu ffurfiannol effeithiol ac yn cynorthwyo athrawon a dysgwyr i nodi’r camau nesaf yn y dysgu.

Cysylltiadau o fewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad 

Mae cyfleoedd i ystyried y cysylltiadau o fewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad (a’r disgyblaethau sy’n rhan ohonynt) yn ystyriaeth bwysig. Ble mae cysylltiadau yn cael eu gwneud, mae’n bwysig sicrhau bod y rhain yn ddilys a galluogi dysgwyr i gryfhau eu dealltwriaeth.

Gwybodaeth ma gynnwys addysgegol (penodol i Feysydd Dysgu a Phrofiad/ disgyblaethau) 

Gellir diffinio gwybodaeth am gynnwys pedagogaidd fel “y cyfatebiaethau, darluniau, enghreifftiau, esboniadau ac arddangosiadau mwyaf pwerus, mewn gair, y ffyrdd mwyaf pwerus o gynrychioli a llunio'r pwnc sy'n ei wneud yn ddealladwy i eraill.” (Cymdeithas Frenhinol Cemeg)  Felly, o safbwynt yr athro, mae'n bwysig deall y camdybiaethau allweddol sydd gan ddysgwyr ar draws gwahanol feysydd pwnc a beth yw'r dulliau addysgu mwyaf effeithiol y gellir eu defnyddio i oresgyn y rhain. Bydd hyn yn gofyn am wybodaeth dda o gynnwys pynciau a dulliau o addysgu a dysgu (seiliedig ar dystiolaeth) wedi’u dethol yn ofalus (bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth o'r profiadau mwyaf priodol i fframio'r dysgu oddi mewn iddynt).

AsesuYn dilyn cyhoeddi’r Canllawiau Asesu ym mis Ionawr, bydd y rhan hon o’r rhaglen yn ystyried sut dylai dulliau o asesu gael eu datblygu gan ddefnyddio’r disgrifiadau o ddysgu o fewn ac ar draws meysydd dysgu a phrofiad.

Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch a Chynorthwywyr Addysgu

Page 4:  · Web viewRhaglen Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i G ymru 2022 Pam mae angen r haglen d ysgu p roffesiynol yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae cyfres o ddiwygiadau helaeth ond integredig

Bydd rhaglen wedi’i llunio i ddiwallu anghenion Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch a Chynorthwywyr Addysgu yn cael ei hwyluso hefyd. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl staff cymorth yn datblygu dealltwriaeth briodol o’r rhaglen diwygio addysg a Chwricwlwm Cymru 2022, a sut mae hyn yn cysylltu â Safonau Ymarfer Cynorthwyo Addysgu.

LlywodraethwyrGweithdai cynorthwyo ar gyfer Cadeiryddion Cyrff Llywodraethu a chyrff llywodraethu a fydd hefyd yn cynnwys mynediad at weithdai a fydd yn cwmpasu’r holl themâu allweddol o’r rhaglen i benaethiaid sy’n cyd-fynd â’u rôl.

Pryd bydd y rhaglenni’n cychwyn? Bydd rhaglenni ar gyfer uwch arweinwyr yn cychwyn ym mis Ionawr 2020, a bydd y rhaglen ar gyfer yr holl randdeiliaid eraill ar gael o ail hanner tymor y gwanwyn 2020 ymlaen. Cyfeiriwch at Arlwy Dysgu Proffesiynol eich rhanbarth i gael rhagor o fanylion.

Saith dimensiwn y model Ysgolion fel Sefydliadau sy’nDysgu â’r rhanddeiliaid sy’n cynorthwyo yn yr haen ganol

Manylion cysylltu i gael rhagor o wybodaethOs hoffech chi gael unrhyw wybodaeth ychwanegol am y rhaglen hon, e-bostiwch

[email protected]