penparcau.cymru · web viewrheoli stoc y caffi a'r gegin yn unol â gofynion dydd i ddydd yr...

4
DISGRIFIAD SWYDD Goruchwylydd y Caffi a'r Hwb Fforwm Cymunedol Penparcau 35 awr yr wythnos gan gynnwys gwaith yn ystod y dydd, gyda'r hwyr ac ar benwythnosau Cyflog: £11.50 yr awr (gyda chynllun pensiwn cyfrannol) TEITL Y SWYDD: Goruchwylydd y Caffi a'r Hwb YN ATEBOL I: Reolwr y Fforwm ac i Ymddiriedolwyr Fforwm Cymunedol Penparcau AMCAN: Rheoli gwaith rhedeg caffi, ceginau a gofynion adeiladu Hwb Penparcau o ddydd i ddydd. CONTRACT: Cyfnod penodol tan fis Tachwedd 2023. Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau Sicrhau bod caffi a cheginau Hwb Penparcau, ynghyd â'r holl ardaloedd lletygarwch, yn cael eu rhedeg yn effeithiol bob dydd. Sicrhau bod safonau hylendid bwyd yn cael eu bodloni a'u cynnal ar bob adeg. Sicrhau'r safonau uchaf wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid Hwb Penparcau. Rheoli'r holl archebion bwffe ac arlwyo mewn partneriaeth â'r Swyddog Cyllid. Datblygu a hyrwyddo elfen menter gymunedol gwasanaethau lletygarwch yr Hwb. Sicrhau bod y caffi a'r ceginau yn cael eu cadw'n daclus a'u bod yn darparu gwybodaeth dda ar bob adeg. Goruchwylio rota a gwaith gwirfoddolwyr y caffi a darparu hyfforddiant tîm i'r gwirfoddolwyr ac i'r staff fel y bo'n ofynnol. Cydweithio â'r Swyddog Cyllid i sicrhau y glynir yn dynn wrth y gweithdrefnau cyfri arian. Goruchwylio contract glanhau Hwb Penparcau.

Upload: others

Post on 08-Jan-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: penparcau.cymru · Web viewRheoli stoc y caffi a'r gegin yn unol â gofynion dydd i ddydd yr Hwb a phan gynhelir digwyddiadau arbennig. Bod ar ddyletswydd y tu allan i oriau gwaith

DISGRIFIAD SWYDD

Goruchwylydd y Caffi a'r HwbFforwm Cymunedol Penparcau

35 awr yr wythnos gan gynnwys gwaith yn ystod y dydd, gyda'r hwyr ac ar benwythnosauCyflog: £11.50 yr awr (gyda chynllun pensiwn cyfrannol)

TEITL Y SWYDD: Goruchwylydd y Caffi a'r Hwb

YN ATEBOL I: Reolwr y Fforwm ac i Ymddiriedolwyr Fforwm Cymunedol Penparcau

AMCAN: Rheoli gwaith rhedeg caffi, ceginau a gofynion adeiladu Hwb Penparcau o ddydd i ddydd.

CONTRACT: Cyfnod penodol tan fis Tachwedd 2023.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Sicrhau bod caffi a cheginau Hwb Penparcau, ynghyd â'r holl ardaloedd lletygarwch, yn cael eu rhedeg yn effeithiol bob dydd.

Sicrhau bod safonau hylendid bwyd yn cael eu bodloni a'u cynnal ar bob adeg. Sicrhau'r safonau uchaf wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid Hwb Penparcau. Rheoli'r holl archebion bwffe ac arlwyo mewn partneriaeth â'r Swyddog Cyllid. Datblygu a hyrwyddo elfen menter gymunedol gwasanaethau lletygarwch yr Hwb. Sicrhau bod y caffi a'r ceginau yn cael eu cadw'n daclus a'u bod yn darparu gwybodaeth dda ar

bob adeg. Goruchwylio rota a gwaith gwirfoddolwyr y caffi a darparu hyfforddiant tîm i'r gwirfoddolwyr ac

i'r staff fel y bo'n ofynnol. Cydweithio â'r Swyddog Cyllid i sicrhau y glynir yn dynn wrth y gweithdrefnau cyfri arian. Goruchwylio contract glanhau Hwb Penparcau. Rheoli stoc y caffi a'r gegin yn unol â gofynion dydd i ddydd yr Hwb a phan gynhelir

digwyddiadau arbennig. Bod ar ddyletswydd y tu allan i oriau gwaith arferol lle bo hynny'n ofynnol, gan gynnwys ar

benwythnosau. Cydymffurfio â gweithdrefnau iechyd a diogelwch y Fforwm. Cymryd rhan ymhob cwrs hyfforddi angenrheidiol a chwblhau'r holl waith papur iechyd a

diogelwch sy'n briodol ar gyfer y rôl. Cynorthwyo i ddenu gwirfoddolwyr lle bo hynny'n bosib. I baratoi prydau a gweini yn y ceginau a chaffi. Defnyddio holl gyfarpar y caffi a'r ceginau at safon uchel. Ymgymryd â dyletswyddau tebyg eraill ar gais Ymddiriedolwyr neu Reolwr y Fforwm.

Page 2: penparcau.cymru · Web viewRheoli stoc y caffi a'r gegin yn unol â gofynion dydd i ddydd yr Hwb a phan gynhelir digwyddiadau arbennig. Bod ar ddyletswydd y tu allan i oriau gwaith

Trosolwg

Mae Fforwm Cymunedol Penparcau Cyf. yn elusen gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig sy'n ceisio galluogi preswylwyr a sefydliadau i fanteisio ar y cyllid a'r adnoddau sydd ar gael i'r ardal. Mae hefyd yn trefnu digwyddiadau cymunedol ac mae'n lladmerydd dros anghenion tymor hir Penparcau. Mae'r Fforwm yn cydweithio'n agos ag asiantaethau statudol a gwirfoddol i wireddu'r nod hwn. I'r perwyl hwn, mae'r Fforwm eisoes wedi codi canolfan gymunedol newydd (yr Hwb) sy'n rhoi cyfle i breswylwyr Penparcau a thu hwnt gwrdd a chymdeithasu mewn amgylchfyd braf a chysurus.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd fod yn berson deinamig sy'n ymroddedig i egwyddorion gwaith tîm da. Bydd gofyn iddo/iddi fod yn gyfrifol am redeg caffi a chegin yr Hwb, gan sicrhau bod safon y gwasanaeth cwsmeriaid, glendid y lle a'i edrychiad yn gyson uchel. Bydd hyn oll yn helpu i hyrwyddo'r Hwb fel lle croesawgar a phrysur i'r gymuned leol a thu hwnt.

MANYLEB Y PERSONDisgrifiad Hanfodol Dymunol Dull Gwerthuso

Addysg a Chymwysterau Cymwysterau proffesiynol perthnasol neu

brofiad priodol a pherthnasolFfurflen gais a thystiolaeth o'ch cymhwystero Arlwyo *

o Rheoli Lletygarwch *o Hylendid Bwyd Lefel 3o Trwydded yrru lawn

**

Gwybodaeth a Phrofiad Profiad o baratoi a gweini a prydau mewn

amgylchedd caffi Profiad o drin a thrafod arian parod

* Ffurflen gais, cyfweliad a geirdaon

Profiad o oruchwylio staff a gwirfoddolwyr * Profiad o reoli stoc * Profiad o waith cymunedol *Gallu a Sgiliau Sgiliau rhyngbersonol rhagorol * Ffurflen gais a

chyfweliad Sgiliau arwain a gwaith tîm rhagorol * Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r sgiliau i gymell

eraill*

Sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol * Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg - ar lafar ac

yn ysgrifenedig*

Y gallu i weithio o fewn terfynau amser tynn pan fo angen

*

Sgiliau llythrennedd a rhifedd da * Sgiliau Technoleg Gwybodaeth sylfaenol da *Rhinweddau Personol Rhywun sy'n naturiol yn llawn cymhelliant * Ffurflen gais a

chyfweliad Dangos parch tuag at ystod eang o bobl * Y gallu i weithio'n effeithiol fel unigolyn, fel

aelod o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill*

Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth ac i gyfarwyddo'ch gwaith eich hun

*

Yn frwd dros ddarparu gwasanaeth, cyflwyno pethau'n dda a gofal cwsmeriaid

*

Amgylchiadau Y gallu a'r parodrwydd i weithio'n hyblyg * Ffurflen gais a

chyfweliad Bod yn barod i deithio i fodloni gofynion y swydd

*

Bod ag empathi tuag at ethos a gwerthoedd craidd y Fforwm

*

Page 3: penparcau.cymru · Web viewRheoli stoc y caffi a'r gegin yn unol â gofynion dydd i ddydd yr Hwb a phan gynhelir digwyddiadau arbennig. Bod ar ddyletswydd y tu allan i oriau gwaith

Dealltwriaeth dda o faterion cymunedol Anogir preswylwyr Penparcau a'r rhai sydd â

chysylltiadau agos â'r ardal i gyflwyno cais.

*

*