welsh final impact assessment
DESCRIPTION
ÂTRANSCRIPT
Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)
Ffurflen Asesiad Terfynol o’r Effaith
Eich Sefydliad
Enw’r Undeb:
Enw’r Prosiect:
Dyddiad Dechrau’r Prosiect: Dyddiad y Daw’r Prosiect i Ben:
Enw’r Cyswllt yn yr Undeb:
E-bost:
Rhif ffôn:Cyfeiriad Cyswllt:
Cod post:
Crynodeb Ariannol
Cyfanswm y Gyllideb a Gymeradwywyd : £ Cyfanswm y Gwariant Gwirioneddol: £
Nodwch, yn fras, werth y cymorth arall nad yw’n gymorth ariannol a gafwyd gan yr Undeb, partneriaid a / neu randdeiliaid yn ystod eich prosiect
Gwerth Ariannol
£
Bydd y Ffurflen Asesiad Terfynol o’r Effaith yn rhoi trosolwg a gwerthusiad i ni o’ch prosiect a gwblhawyd. Llenwch bob adran fel y nodir.
1. Crynodeb o’r Canlyniad a Gwerthusiad
Nodwch y cyfansymiau y mae eich prosiect wedi eu cofnodi ar gyfer y prosiect cyfan.
Nifer y cyfranogion a gyflawnodd weithgaredd dysgu unigol:
*dylai pob dysgwr ‘unigryw’ fod wedi llenwi ffurflen dysgwr
Nifer y dynion:
Nifer y menywod:
Rhowch restr o’r mathau o gyrsiau a/neu gymwysterau y mae’r prosiect wedi eu cefnogi.
Faint o unigolion gafodd cymorth un i un?
Rhestrwch y mathau o gymorth un i un yr ydych wedi eu rhoi i unigolion trwy’r prosiect.
2. Cwmpas Daearyddol, a Sylw i’r Sectorau a’r Gweithlu
Beth oedd canolbwynt daearyddol y prosiect a pha sectorau cyflogaeth gafodd eu cefnogi?
3. Trosolwg a Chrynodeb o’r Prosiect
Rhowch drosolwg byr o’ch prosiect a chrynodeb o’r perfformiad cyffredinol.
4. Gwerth am Arian
Disgrifiwch y budd y mae WULF wedi ei roi o ran darparu gwerth am arian a nodwch unrhyw ddylanwadau yr ydych chi o’r farn a gafodd WULF o bosibl o ran costau cwrs ac ati.
Pa dystiolaeth y gallwch ei rhoi i ddangos bod y prosiect wedi sicrhau gwerth am arian?
5. Cryfderau'r Prosiect
Beth oedd cryfderau eich prosiect? A oedd unrhyw wendidau?
6. Problemau, Anawsterau a Datrysiadau o ran y Prosiect
Disgrifiwch unrhyw broblemau/anawsterau a gafwyd yng nghyfnod y prosiect ac unrhyw ddatrysiadau a weithredwyd.
7. Astudiaeth Achos o’r Prosiect
Rhowch astudiaeth achos fanwl o’ch prosiect.
8. Cyllideb y Prosiect
Cyfeiriwch at ffurflen proffil eich prosiect.
Sut wnaeth gwariant y prosiect terfynol gymharu â’r gyllideb wreiddiol a ddyrannwyd i’r prosiect?
Esboniwch unrhyw amrywiad (gorwariant neu danwariant)
9. Amcanion a Thargedau’r Prosiect
Disgrifiad o’r amcan/ targed
Sut wnaethoch gyflenwi hyn?
Pwy wnaethoch chi ymgysylltu â nhw?
Sut wnaethoch chi fesur ei lwyddiant?
Pa risgiau oedd yn gysylltiedig â’r targed hwn?
Faint o bobl y rhagfynegwyd y byddent yn elwa wrth wneud y cais?
Faint o bobl sydd wedi elwa?
Rhesymau dros beidio â chyflawni’r proffil neu’r nodau (os yw’n berthnasol).
Ychwanegwch ragor o resi os oes angen
10. Ehangu Cyfranogiad a Chwalu’r Rhwystrau i Ddysgu yn y Gweithle
Esboniwch sut mae gweithgareddau eich prosiect wedi galluogi cyfle cyfartal ac ehangu mynediad at ddysg.
11. Strategaeth Ddysgu
Sut wnaethoch chi gyfrannu at Raglen Amcanion y Llywodraeth, yn benodol o ran ymdrin â Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle?
Rhowch fanylion sut yr ydych yn credu bod y prosiect wedi cyfrannu at flaenoriaethau sgiliau ehangach Llywodraeth Cymru a’r agenda Trechu Tlodi.
12. Hyrwyddo Partneriaeth
A wnaethoch chi feithrin partneriaethau effeithiol ag eraill mewn ymgais i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd ar gael?
Pa mor dda wnaeth y partneriaethau prosiect allweddol weithio?
Sut y gwnaeth pob un o’r partneriaid allweddol gael budd o’r prosiect ac ychwanegu at ei werth?
A fydd y partneriaethau a sefydlwyd yn ystod y prosiect yn cael eu cynnal, ac os felly, sut?
A wnaethoch chi weithio gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol? Os felly, beth oedd manteision a heriau hyn?
A wnaeth unrhyw faterion effeithio ar gyfeiriad eich prosiect?
13. Cynaliadwyedd
A sefydlwyd diwylliant o ddysgu?
Sut y bydd yn parhau i dyfu a gwneud gwahaniaeth pan ddaw’r prosiect i ben?
A fyddwch chi’n parhau ag unrhyw weithgareddau a ariannwyd trwy WULF yn rhan o strategaeth ddysgu ehangach eich Undeb a sut caiff hyn cael ei sefydlu?
14. Datganiad
Llofnodwch a rhowch y dyddiad isod ac anfonwch y ffurflen hon yn ôl ynghyd â’ch hawliad am daliad:
Rwyf yn cadarnhau bod y gweithgaredd yr adroddir arno yn yr Asesiad Terfynol hwn o’r Effaith yn adlewyrchu’r hawliadau ariannol ar gyfer y cyfnod hwn ac unrhyw ddull o rannu a gynhwysir ynddo.
Rwyf yn datgan bod y gweithgaredd a’r cynnwys yn yr Asesiad Terfynol hwn o’r Effaith wedi ei gyflawni wrth gyflenwi prosiect WULF.
Llofnod: Dyddiad:
Printiwch eich enw:
Safle yn y Sefydliad: