#wphc15 1 uno i wella iechyd: cymru iachach, hapusach a

14
Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 1 #wphc15 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a Thecach Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 2-3 Tachwedd 2015, Stadiwm Swalec, Caerdydd Ymunwch yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol ac ychwanegwch sylwadau drwy gydol y ddau ddiwrnod gan ddefnyddio’r hashnod #wphc15 #wphc15

Upload: others

Post on 18-Oct-2021

5 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 1#wphc15

Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a ThecachCynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 2-3 Tachwedd 2015, Stadiwm Swalec, Caerdydd

Ymunwch yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol ac ychwanegwch sylwadau drwy gydol y ddau ddiwrnod gan ddefnyddio’r hashnod #wphc15

#wphc15

Page 2: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

Annwyl Gynadleddwr,

Rydym yn falch iawn y byddwch yn ymuno â ni ar gyfer y gynhadledd Iechyd Cyhoeddus genedlaethol eleni ar y thema ‘Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a Thecach’.

Mae’n argoeli i fod yn gynhadledd gyffrous, diddorol a difyr a fydd yn dwyn ynghyd bobl o lu o wahanol sectorau a rhannau o gymdeithas yng Nghymru gan gynnwys cymunedau, y GIG, awdurdodau lleol, chwaraeon, addysg, tai, y gwasanaethau brys, llysgenhadon ifanc, gofalwyr a’r trydydd sector. Bydd arweinwyr cenedlaethol a rhyngwladol o’r Alban a’r Unol Daleithiau hefyd yn ymuno â ni.

Bydd y gynhadledd yn adlewyrchu safbwyntiau byd-eang ar ddiogelu a gwella iechyd a lles, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru heddiw a sut y gallwn ddefnyddio dull gweithio drwy systemau, technoleg ac arloesedd i ysgogi gwelliannau mewn canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar sut y gallwn symbylu momentwm drwy gyfuno ein cryfderau a’n hasedau yng Nghymru i ysgogi gwelliannau sylweddol i iechyd y cyhoedd.

Cewch eich ysbrydoli gan waith sydd ar y gweill yng Nghymru a chewch gyfle i gyfrannu at ddatblygiad gwaith yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r digwyddiad ac rydym yn eich annog i ymuno â ni i nodi’r camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen er mwyn creu Cymru iachach, hapusach a thecach.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno,

Yr Athro Syr Mansel Aylward CB

Cadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chomisiwn Bevan

Dr Tracey Cooper

Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Ruth Hussey OBE

Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru

#wphc15

Ymunwch yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol ac ychwanegwch sylwadau drwy gydol y ddau ddiwrnod gan ddefnyddio’r hashnod #wphc15

#wphc15

Page 3: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

4 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 5#wphc15 #wphc15

Dydd Llun 2 Tachwedd: Y Diwrnod Cyntaf

Amser Sesiwn Ystafell

9.30 am Cofrestru, arddangosfeydd a phosteri Lolfa BMW Sytner / Lolfa Pyramid

10.30 am Beth rydym yn ceisio’i gyflawni?

Croeso a chroestoriad o leisiau o bob cwr o Gymru i rannu’r hyn y mae Cymru iachach, hapusach a thecach yn ei olygu i’n poblogaeth.

Caiff y sesiwn hon ei harwain ar y cyd gan Aled Davies a Luke Rees, Llysgenhadon Ifanc ar gyfer Chwaraeon Cymru ac Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.

Ysgol Dan Do

11.00am Y Cyd-destun Gweinidogol

Bydd yr Athro Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar yr ymrwymiad gweinidogol i wella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau.

Ysgol Dan Do

11.30 am Iechyd y cyhoedd ar groesffordd

Bydd Dr Ruth Hussey OBE, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru, yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd ym maes iechyd cyhoeddus sy’n ein hwynebu yng Nghymru heddiw.

Ysgol Dan Do

11.50 am Safbwynt byd-eang ar wella iechydSafbwynt rhyngwladol ar ysgogi gwelliannau mewn canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau iechyd gan Yr Athro Don Berwick, Llywydd Emeritws ac Uwch Gymrawd yn y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd a chyn-weinyddwr y Centres for Medicare and Medicaid Services, yr Unol Daleithiau.

Ysgol Dan Do

Sesiwn Holi ac Ateb

1.00 pm Cinio, arddangosfeydd a phosteri Lolfa BMW Sytner / Lolfa Pyramid

Amser Sesiwn Ystafell

2.15 pm Sesiynau grwp 1

Gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar

Gwella iechyd a lles meddyliol

Diogelu iechyd a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg

Lleihau anghydraddoldebau iechyd er mwyn gwella canlyniadau

Gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac integredig

Gwybodaeth, mesur a gwerthuso i lywio anghenion y boblogaeth a’r canlyniadau

Bydd y sesiynau yn cynnwys crynodebau llwyddiannus a gytunwyd gan y panel beirniadu a chyfraniadau a wahoddwyd. (Bydd lluniaeth ar gael yn yr ystafelloedd)

Amgueddfa

Lolfa’r Aelodau

Blychau 17/18

Ystafell Premier

Ysgol Dan Do

Blwch 22

3.30 pm Bygythiadau byd-eang sy’n dod i’r amlwg: beth rydym wedi’i ddysgu yng Nghymru?

Dan gadeiryddiaeth Dr Ruth Hussey OBE, bydd y panel yn trafod gwahanol safbwyntiau ar ddiogelu a gwella iechyd a lles.

Mae’r panel yn cynnwys Dr Nick Gent, Dirprwy Bennaeth Adran Ymateb Brys PHE; Dr Chris Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol Iechyd Cyhoeddus Cymru; Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, BIP Aneurin Bevan; a Gwyn Morris, Pennaeth Dros Dro Microbioleg Llawdriniaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ysgol Dan Do

4.00 pm Trawsnewid genomeg iechyd

Bydd Dr Thomas R Connor, Ysgol Biowyddorau Caerdydd, Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i rôl genomeg mewn perthynas â chlefydau heintus, cyflyrau cronig a epigeneteg.

Ysgol Dan Do

4.30 pm Crynodeb o’r Diwrnod Cyntaf a Chyflwyniad i’r Ail Ddiwrnod

Ysgol Dan Do

4.45 pm Diweddglo

Page 4: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

6 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 7#wphc15 #wphc15

Dydd Mawrth 3 Tachwedd: Yr Ail DdiwrnodAmser Sesiwn Ystafell

8.00 am – 8.45 am

Sesiynau Dewisol dros Frecwast:

• Tai Chi - sesiwn flasu ymarferol i glirio’r meddwl a rhoi ffocws iddo Christie Butterick, Prif Hyfforddwr, Rising Phoenix

• Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth Ofalgar - sesiwn dysgu drwy brofiad Dr Sue Elliston, Cynghorydd Meddygol Proffesiynol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

• Dysgu o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn Zambia Dr Charles Msiska, Cyfarwyddwr Swyddfa Feddygol Ranbarthol Cymuned Chongwe, Zambia

Amgueddfa

Lolfa’r Aelodau

Ystafell Premier

8.15 am – 9.00 am

Cofrestru, arddangosfeydd a phosteri Lolfa BMW Sytner / Lolfa Pyramid

9.00 am Croeso a gosod y cefndir ar gyfer y diwrnod Ysgol Dan Do

9.15 am Gwella cenedl – Gwersi o Raglen Gydweithredol y Blynyddoedd Cynnar i ddylanwadu ar newid mewn cenedlaethau yn yr Alban

Bydd Ros Gray, o Raglen Gydweithredol Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth yr Alban, yn disgrifio’r dulliau sy’n cael eu rhoi ar waith i gynnwys timau amlbroffesiwn ac amlasiantaeth mewn gwaith gwella ansawdd mewn ymgais i sicrhau mai’r Alban yw’r ‘Lle gorau yn y byd i dyfu i fyny’.

Ysgol Dan Do

Sesiwn Holi ac Ateb

10.15 am Partneriaethau Pwrpasol i Drawsnewid Iechyd a Lles yng Nghymru

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyfraniadau gan Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru; Tracey Cooper, Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru; a’r Prif Uwch-arolygydd Alun Thomas, Swyddog Cyswllt yr Heddlu, Llywodraeth Cymru.

Ysgol Dan Do

10.45 am Sesiynau grwp 2

Gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar

Gwella iechyd a lles meddyliol

Diogelu iechyd a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg

Lleihau anghydraddoldebau iechyd er mwyn gwella canlyniadau

Technoleg ac arloesedd ym maes iechyd cyhoeddus Bydd y sesiynau yn cynnwys crynodebau llwyddiannus a gytunwyd gan y panel beirniadu a chyfraniadau a wahoddwyd. (Bydd lluniaeth ar gael yn yr ystafelloedd)

Blychau 17/18

Lolfa’r Aelodau

Amgueddfa

Ysgol Dan Do

Ystafell Premier

Amser Sesiwn Ystafell

12.00 pm Cinio, arddangosfeydd a phosteri Lolfa BMW Sytner / Lolfa Pyramid

1.00 pm Sesiynau grwp 3

Gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar

Gwella iechyd a lles meddyliol

Lleihau anghydraddoldebau iechyd er mwyn gwella canlyniadau

Technoleg ac arloesedd ym maes iechyd cyhoeddus

Gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac integredig

Gwybodaeth, mesur a gwerthuso i lywio canlyniadau’r boblogaeth

Bydd y sesiynau yn cynnwys crynodebau llwyddiannus a gytunwyd gan y panel beirniadu a chyfraniadau a wahoddwyd.

Blwch 22

Blychau 17/18

Ystafell Premier

Amgueddfa

Lolfa’r Aelodau

Ysgol Dan Do

2.00 pm Rôl gwasanaethau cyhoeddus wrth wella iechyd a lleihau anghydraddoldebauBydd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr, GIG Cymru, yn myfyrio ar y themâu, yr heriau a’r cyfleoedd a drafodwyd yn ystod y ddau ddiwrnod a’n rôl o ran gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl Cymru.

Ysgol Dan Do

2:15 pm Manteisio ar dechnoleg i wella canlyniadau mewn byd sy’n symud yn gyflym Bydd Mandy Wearne, Cyfarwyddwr, InspirationNW, yn ymchwilio i rôl technoleg i sicrhau atebion amlasiantaeth i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau.

Ysgol Dan Do

3.00 pm Mae’r Dyfodol yn Ddisglair yng Nghymru: Myfyrdodau’r Panel Dan gadeiryddiaeth Tracey Cooper, bydd y panel yn rhannu eu myfyrdodau ar y ddau ddiwrnod a’u negeseuon allweddol ar gyfer gwella iechyd a lles yn y dyfodol.Bydd y panel yn cynnwys Mandy Wearne, Dr Ruth Hussey, Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, a’r Athro Syr Mansel Aylward CB, Cadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ysgol Dan Do

3.30 pm Sylwadau i GloiBydd Dr Ruth Hussey yn gwneud sylwadau i gloi’r gynhadledd.

Ysgol Dan Do

3.45 pm Diweddglo

Gallwch gael achrediad DPP mewn egwyddor am fynychu’r gynhadledd. Rhowch eich ffurflen werthuso wedi’i chwblhau a’ch bathodyn enw yn y blwch yng nghefn yr Ysgol Dan Do. Bydd hwn ar gael ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.

Page 5: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

8 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 9#wphc15 #wphc15

Donald M Berwick

Donald M. Berwick yw Llywydd Emeritws ac Uwch Gymrawd y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI), sef sefydliad a gafodd ei gyd-sefydlu gan Dr. Berwick

ac a gafodd ei arwain ganddo fel Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol am 18 mlynedd. Ef yw un o brif awdurdodau’r wlad ar ansawdd a gwella gofal iechyd.

Ym mis Gorffennaf 2010, cafodd Dr Berwick ei benodi gan yr Arlywydd Obama i swydd Gweinyddwr y Centers for Medicare and Medicaid Services (CMS), a bu’n dal y swydd honno tan fis Rhagfyr 2011.

Yng Nghymru, cafodd ei benodi’n un o sylfaenwyr Comisiwn Bevan yn 2008, sef blwyddyn dathlu 60 mlynedd ers sefydlu’r GIG. Ar hyn o bryd, mae’n Gynghorwr Arbennig i’r Comisiwn. Pediatrydd yw cefndir Dr Berwick, ac mae wedi gweithredu fel Athro Clinigol ym maes Pediatreg a Pholisi Gofal Iechyd yn Ysgol Feddygol Harvard, Athro Polisi a Rheoli Iechyd yn Ysgol Iechyd Cyhoeddus Harvard, ac fel aelod o staff Canolfan Feddygol Ysbyty Plant Boston, Ysbyty

Cyffredinol Massachusetts ac Ysbyty Menywod a Brigham. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel is-gadeirydd Tasglu Gwasanaethau Ataliol yr Unol Daleithiau, fel “Aelod Annibynnol” cyntaf Bwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Ysbytai America, ac fel cadeirydd y Cyngor Cynghori Cenedlaethol ar gyfer yr Asiantaeth Ymchwil ac Ansawdd Gofal Iechyd.

Fel aelod etholedig o’r Sefydliad Meddygaeth (IOM), gwasanaethodd Dr. Berwick am ddau dymor ar Gyngor Llywodraethu IOM ac roedd yn aelod o Fwrdd Iechyd Byd-eang IOM. Bu’n gwasanaethu ar Gomisiwn Cynghori Arlywydd Clinton ar Ddiogelu Defnyddwyr ac Ansawdd yn y Diwydiant Gofal Iechyd. Mae wedi ennill sawl gwobr, ac yn 2005, cafodd ei benodi’n “Farchoglywydd Anrhydeddus yr Ymerodraeth Brydeinig” gan y Frenhines, sef yr anrhydedd uchaf a roddir yn y DU i rywun o’r tu allan i Brydain, i gydnabod ei waith gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae Dr. Berwick yn awdur neu’n gydawdur dros 160 o erthyglau gwyddonol a phum llyfr. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Darlithydd yn yr Adran Polisi Gofal Iechyd yn Ysgol Feddygol Harvard.

Bywgraffiadau’r Prif Siaradwyr

Dr Thomas ConnorMae Dr Connor yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n Fiolegydd Setiau Data Mawr a chanddo bortffolio ymchwil helaeth sy’n

archwilio genomeg poblogaeth ac epidemioleg foleciwlaidd bacteria pathogenaidd. Cafodd Ddoethuriaeth o Goleg Imperial Llundain, ac roedd yn Gymrawd Ôl-ddoethurol yn Sefydliad Sanger sy’n rhan o Ymddiriedolaeth Wellcome cyn iddo gael ei recriwtio gan Brifysgol Caerdydd yn 2012. Mae’r gwaith presennol yn ei labordy yn canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso dulliau cyfrifiadurol o ateb cwestiynau biolegol am bathogenau bacterol, gan ddefnyddio data dilyniannu y genhedlaeth nesaf. Gan weithio gydag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd cyhoeddus ar draws y byd mae wedi defnyddio ei ddulliau gweithredu i ddadansoddi ffordd o fyw, lledaeniad ac esblygiad pathogenau bacterol allweddol fel Enterotoxigenic E. coli, Shigella flexneri (yr achos mwyaf cyffredin o ddysentri bacterol byd-eang) Salmonela enterica a genws bacterol cyfan Yersinia.

Yn ogystal â’i waith patogenomeg parhaus, mae gwaith Connor hefyd yn ymwneud â datblygu seilwaith ymchwil setiau data mawr. Dros y 18 mis diwethaf mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gynllunio a datblygu’r cyfrifiadur £3.6M sydd wrth wraidd y consortiwm CLIMB MRC – rhaglen gydweithredol uchelgeisiol rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Warwick a Birmingham i ddarparu e-seilwaith cenedlaethol ar gyfer biowybodeg ficrobaidd, gan gysylltu gwaith ymchwil, diwydiant ac iechyd cyhoeddus drwy un system gyfrifiadurol a rhaglen hyfforddi. Mae CLIMB yn cynrychioli’r system gyfrifiadurol bwrpasol fwyaf ar gyfer y dadansoddiad o bathogenau microbaidd, unrhyw le yn y byd. Mae wedi cyhoeddi 33 darn o waith hyd yma, gan gynnwys 10 o bapurau yn rhai o’r cylchgronau uchaf eu parch ledled y byd (Nature, Science, Nature Genetics, Cell, PNAS, eLife).

Mandy WearneMae Mandy yn arbenigwr iechyd llawn cymhelliant a mentrus gyda thros 10 mlynedd o brofiad gweithredol mewn rolau allweddol yn y Gwasanaeth

Iechyd Cyhoeddus yn Lloegr, yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth a gwleidyddol yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Yn arloeswr gyda phrofiad eang mewn arweinyddiaeth, rheoli, practis clinigol ac iechyd cyhoeddus, mae gan Mandy hanes da o ddylunio, cynllunio a gweithredu newidiadau mewn lleoliadau iechyd a gofal iechyd a chymdeithasol.

Fel Cyfarwyddwr Gweithredol cyntaf Profiad o Wasanaeth yn Lloegr, mae wedi cael clod fel grym brwdfrydig ac ymarferol i sicrhau newid gan ennyn hyder ac ymrwymiad ar bob lefel, i wella’r profiad o ofal.

Rosamund Gray

Cafodd Ros ei hyfforddi fel Nyrs Gofrestredig yng Nghaerdydd, mwy o flynyddoedd yn ôl nag y carai hi gofio, gan arbenigo mewn Nyrsio yn y maes

Gofal Critigol. Mae hi wedi bod yn gweithio yn y maes gwella ansawdd ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod blynyddoedd olaf ei bywyd proffesiynol.

Ar ôl arwain Rhaglen Diogelwch Cleifion yr Alban, yn fwy diweddar mae Ros wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban ar Raglen

Gydweithredol y Blynyddoedd Cynnar - rhaglen gydweithredol ar draws asiantaethau proffesiynol sy’n cwmpasu’r wlad gyfan gyda’r nod o sicrhau mai’r Alban yw’r lle gorau yn y byd i dyfu i fyny ynddo.

Yn briod â Scot, mae Ros bellach yn byw yn yr Alban (ail wlad Duw ar ôl Cymru) ac mae ganddi ddau o blant sydd bellach wedi gadael cartref.

Mae Ros bellach yn gweithio fel Ymgynghorydd Gwella Ansawdd annibynnol

@rosgray#bestplacetogrowup@eycollaborative

Page 6: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

10 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 11#wphc15 #wphc15

Cyflwyniadau’r Sesiynau Grwp

Y Diwrnod Cyntaf Sesiynau Grwp 1 am 2.15 pm

Gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar (Penderfynyddion)

1. Ein plant yw gwarcheidwaid ein genom. Mae iechyd a chyfoeth cenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar y blaenoriaethau a roddwn iddynt heddiw – Dr Layla Jader, Iechyd Cyhoeddus Cymru

2. Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a’u cysylltiad ag ymddygiadau sy’n niweidiol i iechyd ymysg oedolion yng Nghymru – Kathryn Ashton, Iechyd Cyhoeddus Cymru

3. Dadansoddiad Eilaidd o’r Data Trawstoriadol sydd ar gael yn ‘Arolwg Iechyd Cymru i Blant’ i Nodi’r Ffactorau Risg sy’n Gysylltiedig â Gordewdra ymysg Plant yng Nghymru – Claire Beynon, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwella iechyd a lles meddyliol

1. Newidiadau mewn Llwybrau Gofal: Cyflwyno rhaglen o ymyriadau seicoleg sy’n hygrych i bawb ar yr Haen Ddysgu Sylfaen yng Ngwent – Kellie Turner, Bevan BIP Aneurin

2. Gwerthusiad o grwp cymorth cymheiriaid yn y gymuned ar gyfer goroeswyr strôc a’u gofalwyr – Dr Samantha Fisher, BIP Caerdydd a’r Fro

3. Therapi yn Seiliedig ar Feddyleiddio (MBT): Prosiect ar y cyd rhwng BIP Hywel Dda a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol fel rhan o Lwybr Anhwylder Personoliaeth ymysg Troseddwyr Cymru – Dr Nicola Thomas a Dr Hugh Dafforn, BIP Hywel Dda

Diogelu iechyd a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg

1. Effeithiau system rybuddio bersonol am lygredd aer ar y defnydd o wasanaethau iechyd ymysg poblogaeth gyffredinol risg uchel: astudiaeth lled-arbrofol gan ddefnyddio data cysylltiedig – Sarah E Rodgers, Prifysgol Abertawe

2. Defnyddio genomeg mewn epidemioleg haint Clostridium difficile yn y Gogledd; troi gwybodaeth yn gamau gweithredu – Dr Noel Craine, Iechyd Cyhoeddus Cymru

3. Cyfraniad ymyriadau yn y cyfryngau cymdeithasol at fynd i’r afael ag achosion o syffilis – Sarah Andrews, Iechyd Cyhoeddus Cymru

4. Bygythiadau sy’n dod i’r amlwg: yr ymateb i Ebola – Chris Williams, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Lleihau anghydraddoldebau iechyd er mwyn gwella canlyniadau

1. Cynrychioli iechyd a lles yng nghyd-destun stigma a thlodi: myfyrdodau ar ddulliau ymchwil sy’n seiliedig ar y celfyddydau – Ellie Byrne, Prifysgol Caerdydd

2. Y Ddadl dros Fuddsoddi mewn Camau Ataliol: Tai – Dr Sara Long, Iechyd Cyhoeddus Cymru

3. Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth – Yr Athro Ronan Lyons, Prifysgol Abertawe

Gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac integredig

1. Astudiaeth EAGLE: Gwella Lles Dynion drwy Werthuso a Mynd i’r afael ag Effeithiau Gastroberfeddol Hwyr Triniaeth Radical ar gyfer Canser y Prostad – Dr Annemarie Nelson, Canolfan Ymchwil Marie Curie

2. A allwn leihau’r trothwy atgyfeirio ar gyfer pelydr-x o’r frest ar gyfer canser yr ysgyfaint ymysg cleifion risg uchel sydd â symptomau resbiradol: treial dichonoldeb (ELCID) – Emily Bongard, Uned Treialon Canser Cymru, Prifysgol Caerdydd

3. Cydgynhyrchu a chynnwys y gymuned mewn Rhaglen Asesu Risg Cardiofasgwlaidd y Boblogaeth – Dee Puckett, BIP Aneurin Bevan

Gwybodaeth, mesur a gwerthuso i lywio anghenion y boblogaeth a’r canlyniadau

1. Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion: creu seilwaith data a phartneriaeth ar gyfer cynllunio a gwerthuso gwelliannau i iechyd yn genedlaethol – Simon Murphy, DECIPHer, Prifysgol Caerdydd

2. Beth sy’n ‘cyfrif’ fel bod yn egnïol? Mesur gweithgaredd corfforol ar lefel y boblogaeth a gweithgareddau hamdden awyr agored yng Nghymru – Sue Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru

3. Doeth am Iechyd Cymru – Dr Shantini Paranjothy, Prifysgol Caerdydd

Page 7: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

12 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 13#wphc15 #wphc15

Gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar (Magu plant)

1. Gwerthuso’r Rhaglen Partneriaeth Nyrsys Teulu: Prif Ganlyniadau’r Treial o Flociau Adeiladu – Dr Michael Robling, Prifysgol Caerdydd

2. Dull iechyd cyhoeddus o fagu plant. Ydy hyn yn gweithio? Ydy hyn yn para? A yw’n gynaliadwy? Ac a yw’n hyblyg? – Conor Owens, Health Service Ireland

3. Lleihau effaith oedi wrth ddatblygu iaith ymysg plant 2-3 oed – Rebecca Jones, Dechrau’n Deg Pen-y-bont ar Ogwr

Gwella iechyd a lles meddyliol

1. Ailddylunio systemau i gael effaith gadarnhaol ar les meddyliol: canlyniadau defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) – Nerys Edmonds, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Tony Coggins, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG De Llundain a Maudsley

2. Cymorth ar gyfer Lles Emosiynol mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru – Lynne Walsh, Powys

3. Cynnwys pobl ifanc a defnyddwyr gwasanaethau mewn dylunio a gweithredu prosiectau – Rebecca Thompson, Mind Casnewydd

Diogelu iechyd a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg

1. Llygredd aer, iechyd ac amddifadedd yng Nghymru: deall cysylltiadau a helpu i asesu a rheoli problemau ansawdd aer lleol – Huw Brunt, Prifysgol Gorllewin Lloegr

2. Strategaeth i leihau ymwrthedd i co-amoxiclav a chyfraddau heintiau Clostridium difficile – Jaimie Leighfield, Canolfan Ganser Felindre

3. Partneriaeth Chwaraeon Anabledd Iechyd: Newid arferion craidd i hyrwyddo gweithgaredd corfforol – Catherine Chin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Lleihau anghydraddoldebau iechyd er mwyn gwella canlyniadau

1. Dull Partneriaeth o Fynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau drwy Raglen Cyfoethogi Gwyliau Haf – Katie Palmer ac Emma Holmes, Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro

2. Cynllun Gwên - rhaglen wella genedlaethol ar iechyd y geg – Dinah Channing, BIP Caerdydd a’r Fro

3. Dull amlasiantaeth wedi’i arwain gan ddinasyddion o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a wynebir gan bobl ifanc Drawsrywiol a’r rhai ag amrywiad rhywedd – Catherine Reynolds, Viva LGBT

4. Iechyd a thai - Stuart Ropke, Cartrefi Cymunedol Cymru

Technoleg ac arloesedd ym maes iechyd cyhoeddus

1. Technoleg ac arloesedd - Ifan Evans, Llywodraeth Cymru

2. Datblygu llwyfan casglu data digidol i fesur nifer yr achosion o sepsis yng Nghymru – Dr Ben Sharif a Michael Lundin, BIP Cwm Taf

3. Effaith Ansawdd Smotiau Gwaed ar y Crynodiad o Analytau a Fesurir drwy Raglen Sgrinio Newydd-anedig Cymru a Gweithredu Strategaeth Gwella Ansawdd i Wella Ansawdd Sgrinio Smotyn Gwaed yng Nghymru – Roanna George, BIP Caerdydd a’r Fro

Gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar (Ymddygiad sy’n Gysylltiedig ag Iechyd)

1. Cyflwyno Rhwydwaith Mamolaeth Cymru – Claire Roche, Iechyd Cyhoeddus Cymru

2. Darparu gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu hyblyg sy’n canolbwyntio ar y claf i fenywod beichiog: canlyniadau’r astudiaeth Modelau Mynediad i Famau i Gymorth i Roi’r Gorau i Ysmygu (MAMSS) – Lorna Bennet, Iechyd Cyhoeddus Cymru

3. Cael y Dechrau Gorau: Cynorthwyo Rhieni gyda Negeseuon am Faeth a Phwysau Iach – Andrea Basu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwella iechyd a lles meddyliol

1. Ailddylunio systemau i gael effaith gadarnhaol ar les meddyliol: canlyniadau defnyddio Asesiad o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA) – Nerys Edmonds, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Tony Coggins, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG De Llundain a Maudsley

2. Cymorth ar gyfer Lles Emosiynol mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru – Lynne Walsh, Powys

3. Cynnwys pobl ifanc a defnyddwyr gwasanaethau mewn dylunio a gweithredu prosiectau – Rebecca Thompson, Mind Casnewydd

Lleihau anghydraddoldebau iechyd er mwyn gwella canlyniadau

1. Cydweithio a chydgynhyrchu yn ASSIST+Frank: Fframwaith ar gyfer datblygu, treialu a mireinio ymyriadau iechyd cyhoeddus – Dr James White, Prifysgol Caerdydd

2. Presgripsiwn ‘MyBetterHealth’ – Ashley Gould, Iechyd Cyhoeddus Cymru

3. Anghydraddoldebau yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr – Dr Yuan Shen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

4. Dull integredig o leihau troseddau a gwella lles – Janine Roderick, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Technoleg ac arloesedd ym maes iechyd cyhoeddus

1. Beat the Street: Annog Cymuned Gyfan i fod yn Egnïol – Veronica Reynolds, Prifysgol Reading

2. Health Innovation Cymru Wales – Dr Corinne Squire, Prifysgol Caerdydd

3. O System Diogelu Iechyd Gydweithredol i System Ganolog? – Matthew Thomas, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac integredig

1. Ymgysylltu ag Iechyd y Llygaid yn yr Ysgol Gynradd – Dr Bablin Molik, Sight Cymru

2. Tuag at Wasanaethau Rhoi’r Gorau i Ysmygu Darbodus ac Integredig: ein taith yng Ngogledd Cymru – Dafydd Gwynne, Iechyd Cyhoeddus Cymru

3. Datblygu Pobl Well: Undeb Rygbi Cymru a BIPBC – Andrew Jones, Iechyd Cyhoeddus Cymru

4. Y Cynllun Gofal Sylfaenol a’r Rhai sy’n Pennu’r Cyflymder – John Palmer, BIP Cwm Taf

Gwybodaeth, mesur a gwerthuso i lywio anghenion y boblogaeth a’r canlyniadau

1. Datblygu Dull yn Seiliedig ar Ganlyniadau Ansawdd i Ddiogelu Plant yn GIG Cymru – Dr Aideen Naughton, Iechyd Cyhoeddus Cymru

2. Mesur y Gymru a Garwn – Helen Nelson a Chris Lines, Cynnal Cymru

3. Mynd i’r Afael â Thrais: Dull Gweithredu Amlasiantaeth – Dr Sara Long, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr Ail Ddiwrnod Sesiynau Grwp 2 am 10.45 am Yr Ail Ddiwrnod Sesiynau Grwp 3 am 1.00pm

Page 8: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

14 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 15#wphc15 #wphc15

Posteri

Awdur Teitl Thema / Themâu

Rhif y poster

Jon Antoniazzi Siarad am Ganser: Rhoi profiad y claf wrth wraidd polisi 7 114

Kathryn Ashton Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u cysylltiad ag ymddygiadau sy'n niweidio iechyd ymysg oedolion yng Nghymru

7 61

Kathryn Ashton Coladu canllawiau ac argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal sy'n gysylltiedig ag atal clefyd yr afu/iau, ac asesiad o weithgaredd perthnasol yng Nghymru

7 187

Rob Atenstaedt Cludiant Brys mewn Ambiwlans i ysbytai yng Ngogledd Cymru

7 63

Gavin Bhakta Y defnydd o offer cudd-wybodaeth busnes i gynllunio gwasanaeth yn seiliedig ar y boblogaeth i bobl â diabetes

7 39

Sophia Bird Archwiliad o waith gwytnwch mewn Plentyndod sy'n digwydd ym Mhowys

2 160

Rebecca Boore Adolygiad systematig yn gwerthuso effeithiolrwydd paratoi gweithwyr iechyd proffesiynol gofal sylfaenol ar gyfer adnabod plant sy'n dioddef yn sgil camarfer yn y DU ac adrodd ar hynny

1 36

Stuart Bourne Modelu ar sail Galw a Chapasiti er mwyn Gwneud Penderfyniadau Comisiynu Gwell

7,5 149

Menna Brown Datblygu a gwerthuso modiwl lles emosiynol ar-lein yn y rhaglen Pencampwyr Iechyd i ategu a gwella gwelliannau i ffordd o fyw

2,5 115

Jessica Cartwright Gweithredu "ACTivate Your Life" o dan Raglen Living Life Well BIP ABM

2 85

Awdur Teitl Thema / Themâu

Rhif y poster

Dr Lauren Copeland Astudiaeth Mam-Kind: Datblygu ymyriad newydd gan gymheiriaid gan ddefnyddio Cyfweld Ysgogiadol ar gyfer parhau i fwydo ar y fron

1 56

Hazel Cryer Dull ‘ACE’ o Fwyta’n Iach 4 189

Lynda Dunn Profiadau a chanfyddiadau mamau o gymorth gan gymheiriaid wrth fwydo ar y fron: a yw’n cael ei werthfawrogi? Adolygiad systematig

1 35

Gemma Eccles Siarad â Frank: Pa mor dderbyniol yw lledaenu negeseuon am gyffuriau mewn ymyriad atal cyffuriau a arweinir gan gyfoedion mewn ysgolion uwchradd

4 134

Chris Emmerson Mynediad i bobman? Y gwahaniaeth rhwng y rhai sydd ond yn defnyddio gwasanaeth cyfnewid nodwyddau fferyllfa a’r rhai sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau arbenigol

5,6,7 57

Chris Emmerson Chwistrelliad o realiti: Problemau sy’n gysylltiedig ag amcangyfrif y boblogaeth gudd o ddefnyddwyr cyffuriau yng Nghymru

7 58

Andrew Evans Gwerthusiad meintiol o’r defnydd o adnoddau e-ddysgu iechyd cyhoeddus ymhlith fferyllwyr yng Nghymru

3,5 14

Dr Jason Evans Heintiau mycobacteraidd sy’n gysylltiedig â llawfeddygaeth gardiopwlmonaidd - Profiad Caerdydd

3 195

Sian Evans Menter i gynyddu rhagnodi cymdeithasol drwy feddygfeydd teulu yng Nghwm Taf

4 111

Lisa Farquhar Modelu mewnbwn ataliol mewn lleferydd taflod hollt: effaith hyfforddiant i rieni ar ddatblygiad lleferydd yn 18 mis oed

1 128

Cerys Furlong Dyna syniad peryglus 2 137

Rachel Gingell Gwasanaeth Healthy @ Home Gofal a Thrwsio 6 126

Benjamin Gray Lefelau ffitrwydd cardioanadlol yn rhagweld risg tymor byr (10 mlynedd) ond nid risg oes o glefyd cardiofasgwlaidd

7 21

Maggie Grayson Adroddiad Rhaglen Mesur Plant Cymru - Adroddiad peilot 4 blynedd

7 04

Dr Fran Hodge Beichiogrwydd yn yr Arddegau - Mwy o Risgiau o Anomaleddau Cynhenid?

1 172

Amy Howells M4W Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Lles: datblygu cwrs 6 wythnos ar draws gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd

2 40

Jackie James Grwp Gofal Cyn Geni ac Addysg i Rieni - Peilot Datblygu Gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

1 203

Cyflwynwyd posteri o dan y themâu canlynol:

1 Gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar

2 Gwella iechyd a lles meddyliol

3 Diogelu iechyd a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg

4 Lleihau anghydraddoldebau iechyd er mwyn gwella canlyniadau

5 Technoleg ac arloesedd ym maes iechyd cyhoeddus

6 Gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac integredig

7 Gwybodaeth, mesur a gwerthuso i lywio anghenion y boblogaeth a’r canlyniadau

I bleidleisio dros y poster buddugol yn y gynhadledd eleni anfonwch neges destun gyda rhif y poster o’ch dewis i 80800. Mae’r llinellau pleidleisio yn agor am 9.30am ar 2 Tachwedd.

Page 9: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

16 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 17#wphc15 #wphc15

Awdur Teitl Thema / Themâu

Rhif y poster

Lesley Jones Cyflwyno Rhwydwaith Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw i Wasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer BIP Caerdydd a’r Fro

2 28

Sarah J Jones Cyfraddau gwrthdrawiadau ymysg gyrwyr ifanc yng Nghymru: tueddiadau a chymariaethau rhwng gwledydd

7 211

Sarah J Jones Carbon monocsid - dadansoddi data derbyniadau i ysbytai i lywio ymyriadau a datblygu polisi

7,4,3,1 25

Sarah J Jones Mae merched yn cael damweiniau car hefyd (Is-deitl: myth y rebels rasio gwrywaidd)

7 210

Anup Karki Integreiddio hybu iechyd y geg ac atal clefydau’r geg yn y Rhaglen Dechrau’n Deg yng Ngwent

1,6 98

Anup Karki Aildrefnu Gwasanaethau Deintyddol Gofal Sylfaenol i Leihau Annhegwch

6 64

Andrew Kibble Datblygu protocol ar gyfer rheoli plwm mewn dwr yfed

3 212

Andrew Kibble Tanau gwyllt yng Nghymru: pryder iechyd cyhoeddus? 3 213

Helen Lambert Hyfforddiant Gofal Dementia: Addysg ar Waith 2 53

Rachel Lewis “Beth am Siarad am Fwydo ar y Fron?” 1,5 33

Alison Lindley Cyflwyno Hyrwyddwyr rhoi’r gorau i smygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

4 162

Hannah Lloyd Datblygu a threialu pecyn hyfforddi ar sgrinio ar gyfer Gweithwyr Cymorth yn y Rhaglen Cefnogi Pobl.

4 46

Fiona Maclean Annog Hunanofal Ar Lein 5 83

Grace McCutchan Ymwybyddiaeth o symptomau canser, credoau am ganser a rhwystrau/hwyluswyr i gysylltu â meddygon ynghylch symptomau yng nghyd-destun amddifadedd economaidd-gymdeithasol: Astudiaeth cyf-weld ansoddol

4 136

Rachel McNamara Adnabod triniaeth Sgil-effeithiau ymysg oedolion sydd ag Anabledd Deallusol ac Epilepsi: Datblygu Dull Mesur Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion ar gyfer adnabod sgil-effeithiau cyffuriau gwrth-epileptig (SIDE-PRO)

7 87

Nigel Monaghan Ymateb darbodus i anghenion gofal deintyddol ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal

7,4,5,6 06

Lorraine Morgan Gwella iechyd meddwl a lles ar gyfer pobl hyn drwy Raglen Action for Elders gan Balanced Lives yn y Barri

2 108

Awdur Teitl Thema / Themâu

Rhif y poster

Dr Michelle Olver Darparu gwasanaeth atal cenhedlu ôl-enedigol - astudiaeth beilot yn integreiddio gwasanaethau iechyd rhywiol cymunedol a gwasanaethau mamolaeth

6,4 99

Hannah Parry Prosiect Iach, Uchelgeisiol, Ffyniannus a Chynhwysol (hapi)

4 153

Lee Parry-Williams Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru - Hyrwyddo a chyfrannu at Gymru Iachach a Thecach

4 165

Catherine Perry Gwerthuso Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg

1 124

Dr Tom Porter Cynyddu nifer y plant sy’n cael eu brechu a lleihau anghydraddoldebau yn y maes yng Nghaerdydd

4,1,3 186

Hayley Prout PELICAN: Profiad y Claf o Fyw gyda Chanser sy’n Gysylltiedig â Thrombosis

3 102

Amanda Roberts Sgrinio clyw babanod: Gwneud gwahaniaeth i blant Byddar

1 90

Zoe Silsbury Adolygiad Systematig o Briodweddau Mesur Holiaduron Hunan-adrodd ar Weithgaredd Corfforol ymysg Poblogaethau Oedolion Iach

7 106

Dr Jane Simmons Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad Llygaid 2 109

Anne Thomas Canolfannau Hybu Iechyd: model ar gyfer Adrannau Cleifion Allanol mewn cymuned wledig

4 34

Sara Thomas Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd drwy Raglen Lleihau Risg Cardiofasgwlaidd wedi’i thargedu

4 81

Suzanne Thomas Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu mewn Ysbyty yn BIPAB 4 140

Julia Townson Darganfod diabetes math 1 yn gynnar ymysg Ieuenctid: astudiaeth ddichonoldeb EDDY

1,6,7 110

Nilarnti Vignarajah Gwerthuso effaith nodweddion practisau meddygon teulu penodol o ran y rhaglen dymhorol brechu rhag y ffliw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ar nifer y plant iau a fanteisiodd ar y brechiad rhag y ffliw rhwng tymor y gaeaf 2013/14 a thymor y gaeaf 2014/15

6 205

Amber Vincent Ewch Amdani! 4 182

Carolyn Wallace Consensws ar gyfer y blaenoriaethau ar gyfer iechyd yng Nghymru-ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol yn 2015

2 97

Lisa Williams SGILIAU MAETH AM OES TM Meithrin gallu cymunedau i gefnogi bwyta’n iach ac atal diffyg maeth.

4 169

Dr Olwen Williams Clinig Cyflym Iechyd Rhywiol ‘Profi dim Siarad’ - All Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd gyflawni?

5 191

Mary Wilson Gwerthuso Cynllun Cymhelliant Practisau Deintyddol GIG Dim Smygu Cymru

6,7 41

Posteri

Page 10: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

18 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 19#wphc15 #wphc15

Arddangoswyr

Alcohol Concern Wales

Alcohol Concern yw’r elusen genedlaethol ar gamddefnyddio alcohol yng Nghymru a Lloegr, gan ymgyrchu dros bolisi alcohol effeithiol a gwell

gwasanaethau i bobl y mae eu bywydau bywydau wedi’u heffeithio gan broblemau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Sefydlwyd yr elusen ym 1985 “i leddfu problemau pobl sy’n dioddef yn sgil camddefnyddio alcohol” ac “atal problemau alcohol drwy hyrwyddo addysg a hyfforddiant”. Ers hynny, mae cwmpas ein gwaith wedi ymestyn yn eang gan gynnwys pob agwedd ar rôl alcohol yn ein cymdeithas.

Nid sefydliad gwrth-alcohol yw Alcohol Concern, a gwyddom fod llawer o bobl yn mwynhau alcohol fel rhan o ffordd iach o fyw. Ein nod yw helpu pob un ohonom i ddatblygu perthynas iach gydag alcohol, cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o beryglon posibl alcohol, a lleihau’r niwed a achosir drwy ei orddefnyddio.

BIP Aneurin Bevan – Byw yn Dda, Byw yn Hirach

Rhaglen asesu risg cardiofasgwlaidd yw’r Gwiriad Iechyd Byw yn Dda, Byw yn Hirach sy’n cael ei chyflenwi ar hyn o bryd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Rydym yn gwahodd cleifion rhwng 40 a 64 oed, nad ydynt ar hyn o bryd ar gofrestr clefyd

cronig na meddyginiaeth gysylltiedig, i fynychu asesiad 45 munud gyda Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd mewn lleoliad cymunedol.

Ers ei lansio ym mis Chwefror 2015 rydym eisoes wedi gweld dros 2000 o gleifion, gan weithio gyda chwe Practis Meddyg Teulu, ar draws ardal Gorllewin Blaenau Gwent. Mae ein cyfradd atgyfeirio i Dim Smygu Cymru dros 30%, ac rydym yn parhau i gefnogi cleifion drwy eu hatgyfeirio a’u cyfeirio at grwpiau cerdded, colli pwysau a gweithgareddau lleol yn eu hardal.

Gofal Arthritis Cymru

Gall arthritis effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg – amcangyfrifir bod gan tua 600 o blant yng Nghymru arthritis ac amcangyfrifir bod y gyfradd hunangofnodedig o arthritis ymysg oedolion yng Nghymru mor uchel â 25 y cant. Gall arthritis effeithio ar bob agwedd ar fywyd person – mae Gofal Arthritis Cymru yma i wneud gwahaniaeth

Rydym yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant grymuso i bobl ag arthritis drwy ein cyhoeddiadau a’n cyrsiau hunanreoli. Rydym hefyd yn ymgyrchu i gael gwell gwasanaethau a chael canghennau sy’n darparu cymorth cymdeithasol ledled Cymru.

Comisiwn Bevan

Grwp arbenigol annibynnol a rhyngwladol sy’n cynnwys 23 o Gomisiynwyr yw Comisiwn Bevan a sefydlwyd i gynghori’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddatblygu’r broses o wella iechyd a gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae wedi rhoi cyngor ar ofal integredig, data a gwybodaeth, gofal sylfaenol a chymunedol ac roedd yn gyfrifol am ddatblygu Gofal Iechyd Darbodus a’i egwyddorion ategol. Mae’n helpu i sicrhau y gall Cymru ddefnyddio’r arfer gorau o fannau ledled y byd gan barhau i aros yn dryw i egwyddorion y GIG fel a sefydlwyd gan Aneurin Bevan.

Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru

Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) sy’n arwain y frwydr yn erbyn clefyd y galon a chylchrediad y gwaed yn y DU, a’i weledigaeth yw cael byd ble nad yw pobl yn marw cyn pryd nac yn dioddef o glefyd cardiofasgwlaidd (CVD). Fel sefydliad wedi’i arwain gan

ymchwil, buddsoddodd BHF dros £116 miliwn mewn ymchwil feddygol yn 2013/2014, gan ariannu ymchwil hanfodol a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil ledled y DU.

Fel sefydliad sy’n canolbwyntio ar arloesi, datblygodd BHF fodelau gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gynlluniwyd i wella canlyniadau clinigol, diwallu anghenion cleifion, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwneud defnydd cost-effeithlon o adnoddau’r GIG. Fel dim ond un o dair elusen yn genedlaethol i gael lle ar y Cynllun Mentora Cymorth Comisiynu clodwiw, mae’r BHF mewn sefyllfa dda iawn i

ddefnyddio ei wybodaeth arbenigol a’i brofiad i helpu comisiynwyr, cynllunwyr a darparwyr lleol i sicrhau bod gwasanaethau yn addas at y diben ac yn canolbwyntio’n llwyr ar y cleifion.

Nod ein strategaeth atal yw galluogi pobl i wneud dewisiadau iach ynghylch anweithgarwch corfforol, ysmygu, pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel a gordewdra er mwyn lleihau eu risg o gael clefyd cardiofasgwlaidd.

Rydym am leihau’r nifer o bobl sy’n ysmygu neu’n byw gyda phwysedd gwaed uchel neu golesterol uchel heb ei ddiagnosio. Bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau sydd fwyaf mewn perygl o glefyd cardiofasgwlaidd a chefnogi’r rhai sy’n mynd i’r afael â’r ffactorau amgylcheddol ehangach sy’n effeithio ar iechyd cardiofasgwlaidd.

Mae gan BHF stondin wybodaeth yn y gynhadledd i arddangos ei adnoddau a rhoi cyfle i gynrychiolwyr gyfarfod ag aelodau o dîm BHF.

Gofal a Thrwsio Cymru

Gofal a Thrwsio Cymru yw’r “Eiriolwr Tai i Bobl Hyn”. Rydym yn gorff elusennol cenedlaethol ac yn gweithio er mwyn sicrhau bod pob person hyn yn cael cartref sy’n ddiogel ac yn briodol ar gyfer ei anghenion. Rydym yn darparu gwasanaethau i’r rhwydwaith o 22 o Asiantaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru. Rydym yn gwrando ar anghenion a dymuniadau pobl hyn, ac yn mynegi’r wybodaeth hon ar y llwyfan cenedlaethol i’r rhai sy’n llunio polisïau yn Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith eirioli hwn yn helpu i lunio’r ffordd o feddwl am Bolisi Tai i bobl hyn, a’r polisi Iechyd a Gofal Cymdeithasol ehangach i bobl hyn sydd yn y bôn yn gysylltiedig â thai priodol o ansawdd da.

Mae’r arddangoswyr ar y Llawr Gwaelod a’r Llawr 1af, Pafiliwn Really Welsh

Care & Repair Cymru

Page 11: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

20 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 21#wphc15 #wphc15

Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Mae’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn cynrychioli 53,000 o ffisiotherapyddion siartredig,

gweithwyr cymorth a myfyrwyr.

Mae ffisiotherapyddion yn rhan hanfodol o helpu timau amlddisgyblaethol i helpu cleifion i ymdrin â chyflyrau megis Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) ac atal cwympiadau wrth iddynt fynd yn hyn.

Mae cwympiadau yn llawer mwy cyffredin wrth i chi fynd yn hyn ac mae gennym daflen ‘Get Up and Go’ – sef canllaw cam wrth gam syml sy’n dangos dulliau i bobl leihau’r risg o gwympo.

Dewch i’n stondin ac ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: www.csp.org.uk

Dewis Doeth Cymru

Menter a arweinir gan glinigwyr yw Dewis Doeth Cymru sydd wedi’i hanelu at ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar gleifion, lleihau niwed a gwastraff a gwella canlyniadau gofal iechyd i gleifion yng Nghymru. Caiff

ei harwain gan Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau cleifion. Mae’r ymgyrch, sy’n rhan hanfodol o ofal iechyd darbodus, yn canolbwyntio ar y sgyrsiau rhwng cleifion a chlinigwyr gan eu galluogi ill dau i ddefnyddio tystiolaeth ar fanteision a risgiau ymchwiliadau ac ymyriadau a’u defnyddio mewn amgylchiadau penodol. Y nod yw lleihau profion neu driniaethau diangen neu a allai fod yn beryglus drwy broses o wneud penderfyniadau gwybodus ar y cyd.

Y Cyngor Meddygol Cyffredinol

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn helpu i ddiogelu cleifion a gwella addysg ac arfer meddygol yn y DU trwy osod safonau ar gyfer myfyrwyr

a meddygon. Rydym yn eu cefnogi i gyflawni (a rhagori arno) safonau hynny, a chymryd camau i gweithredu pan nad ydynt yn cael eu bodloni.

GP Un

Menter Ansawdd Gofal Sylfaenol a Noddir gan Cymru Iach ar WaithMae GPUn yn rhan o Dîm Ansawdd Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae gwefan GPUn yn wefan broffesiynol ar gyfer gweithwyr Ymarfer Cyffredinol proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru. Ei bwriad yw gweithredu fel porth cyfathrebu dwy ffordd effeithiol a chanolfan adnoddau gan ddarparu gwybodaeth amserol, dibynadwy a pherthnasol a rhannu sylwadau adeiladol ar faterion a mentrau cyfredol ym maes Ymarfer Cyffredinol.

Gwahoddir gweithwyr proffesiynol sy’n defnyddio’r wefan i gyfrannu at ei chynnwys a’i swyddogaeth er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn wefan “Ar gyfer Meddygon Teulu gan Feddygon Teulu”.

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Sefydliad amlochrog, cenedlaethol sy’n cynnwys nifer o elfennau gwahanol ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae’n darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu capasiti yn y maes Ymchwil a Datblygu, mae’n cynnal amrywiaeth o gynlluniau cyllido ymatebol ac yn rheoli adnoddau i hyrwyddo, cefnogi a chyflawni gwaith ymchwil yn y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.

Doeth am Iechyd Cymru

Prosiect newydd a chyffrous yw Doeth am Iechyd Cymru, wedi’i arwain gan dîm o

ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Abertawe, sy’n gobeithio cynnwys pawb yng Nghymru yn y broses o wella iechyd a lles y boblogaeth. Partneriaeth ydyw rhwng y cyhoedd a’r gymuned wyddonol yng Nghymru ac fe’i ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru. Nod Doeth am Iechyd Cymru yw recriwtio a dilyn 260,000 o gyfranogwyr 16 oed a throsodd, i lunio cofrestr o gyfranogwyr posibl ar gyfer astudiaethau ymchwil. Drwy gasglu gwybodaeth am ffordd o fyw, iechyd a lles gan y bobl sy’n byw yng

Nghymru, nod y prosiect yw astudio achosion amgylcheddol a biolegol clefydau, a phrofi pa mor effeithiol yw ymyriadau a pholisïau sydd wedi’u hanelu at wella iechyd a lles.

Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie

Agorwyd Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie yn 2010 a chaiff ei chyfarwyddo gan Dr Anthony Byrne, Cyfarwyddwr Clinigol a Dr Annmarie Nelson, Cyfarwyddwr Gwyddonol. Mae’r ganolfan yn cynnal ymchwil i dair prif thema: profiad cleifion a gofalwyr, rheoli symptomau ac adsefydlu a thrombosis mewn canser. Mae gan y Ganolfan bum aelod cyllid craidd o staff gyda chyfanswm o 20 o bobl yn rhan o’r tîm ar hyn o bryd, sy’n cael eu hariannu fel arall gan brosiectau allanol. Mae gwaith y ganolfan yn cwmpasu treialon mawr ar raddfa glinigol mewn canser yr oesoffagws a chanser yr ysgyfaint, yn ogystal ag astudiaethau gwerthuso gwasanaethau hosbis newydd, astudiaethau gweithredu ymyriadau newydd ac astudiaethau methodolegol amlganolfan. Un o uchafbwyntiau’r ganolfan yw ei ffocws ar ymgorffori profiad y claf fel canlyniadau eilaidd mewn treialon clinigol o gynhyrchion meddyginiaethol. Mae’r gwaith hwn wedi dechrau datgelu ystod o faterion mewn perthynas â chymhellion claf i ymuno â threialon, y cysyniad o wrthbwysedd o fewn treialon, dealltwriaeth a chamddealltwriaeth o driniaethau treialon, a phwysigrwydd cydsyniad ar sail gwybodaeth mewn hapdreial wedi’i reoli.

Arddangoswyr

Font: Square 72 BT Bold

Page 12: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

22 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 23#wphc15 #wphc15

Mae rhai o’r clefydau a’r pynciau a gwmpesir gan y portffolio yn cynnwys:

• canser datblygedig y fron;

• canser yr ysgyfaint;

• canser y colon a’r rhefr;

• ffibrosis pwlmonaidd idiopathig;

• canser y bledren;

• effeithiau hwyr radiotherapi.

Mae’r pynciau portffolio yn cynnwys canser a chlefydau nad ydynt yn ganser ynghyd ag ymchwil pellach i gyfranogiad y cleifion a’r cyhoedd.

Mae’r ganolfan yn gweithio gydag ymchwilwyr a chlinigwyr o bob cwr o’r DU a thramor, gan sicrhau bod unrhyw astudiaethau gan y ganolfan, yn debygol o gael effaith uniongyrchol ar ofal neu ymarfer clinigol. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau, dilynwch ni ar twitter @MCPCRCCardiff.

Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR)

Sefydlwyd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) i wella iechyd pobl yng Nghymru, ac ychwanegu at gapasiti Cymru ym maes ymchwil iechyd y cyhoedd.

Wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r NCPHWR yn uno arbenigedd a ddaw gan dair o Brifysgolion Cymru (Abertawe, Caerdydd a Bangor), y GIG a’r trydydd sector

(Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Plant yng Nghymru) yn ogystal â phum Canolfan Ragoriaeth Cyngor Ymchwil y DU (Sefydliad Farr CIPHER, CLIMB, DECIPHer, UK Dementias Platform, ADRC Cymru) a sawl rhwydwaith ymchwil bresennol (Rhwydwaith Ymchwil Arthritis Cymru, Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd, Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion).

Prif nod NCPHWR yw gwella cyflymder, graddfa, cost-effeithiolrwydd a’r nifer sy’n cynnal ymchwil arloesol yng Nghymru i iechyd a lles y boblogaeth.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Diben Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal mewn ffordd gynaliadwy a’u bod yn cael eu cyfoethogi a’u defnyddio nawr ac yn y dyfodol. Fel rhan o’r diben hwn, mae gennym ddyletswyddau a chawn gyfleoedd i amddiffyn a gwella iechyd a lles trigolion Cymru. Rydym yn falch o fod yng nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac edrychwn ymlaen at gyflwyno ein Prosbectws Iechyd newydd i’r cynadleddwyr.

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nod Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yw creu rhwydwaith sydd o ddiddordeb i bawb sy’n gweithio ar faterion iechyd cyhoeddus

Arddangoswyryng Nghymru gan roi cyngor, gwybodaeth a chymorth amserol o ansawdd.

Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn addas i bawb yng Nghymru sydd â diddordeb mewn hybu iechyd cyhoeddus.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Diben Iechyd Cyhoeddus Cymru yw diogelu a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru. Ein gweledigaeth yw Cymru iachach, hapusach a thecach. Rydym yn gweithio’n lleol, yn genedlaethol a chyda phartneriaid ar draws cymunedau.

Bydd stondin Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyfle i gynadleddwyr gael gwybod mwy am ein hystod amrywiol o weithgareddau i wella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau. Dysgwch fwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud i ddatblygu a dadansoddi data, amddiffyn y cyhoedd rhag clefydau trosglwyddadwy a pheryglon amgylcheddol, a darparu gwasanaethau sgrinio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith newydd i ddatblygu partneriaethau agosach gydag eraill yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector er mwyn gwella iechyd ar gyfer ein poblogaeth, atal afiechyd, a chreu dyfodol cadarnhaol ar gyfer ein pobl ifanc.

Scarlet Design

Cwmni o Gaerdydd sy’n cynnig gwasanaeth dylunio strategol, hyfforddi a hwyluso gweledol yw Scarlet Design. Mae ei sylfaenydd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Fran O’Hara yn arbenigo mewn gweithio gyda sefydliadau i nodi eu straeon ac i gyd-greu’r offer cyfathrebu mwyaf effeithiol a hygyrch i ymgysylltu â’u cynulleidfa - ar lein ac oddi ar lein. Mae Fran yn cefnogi’r gynhadledd drwy ddarparu cofnodion gweledol ac offer ymgysylltu.

Mae rhagor o wybodaeth a samplau o waith ar gael ar y stondin ac yn:

www.franohara.com; @fran_ohara

Partneriaeth Gwyddorau Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru (SEWAHSP) a Health Innovation Cymru

http://medicine.cf.ac.uk/sewahsp/Ffurfiwyd SEWAHSP gan Sefydliadau Addysg Uwch a sefydliadau’r GIG yn Ne-ddwyrain Cymru i leihau ymagwedd darniog tuag at ymchwil a datblygu a chyflymu’r broses o wella iechyd yn unol â pholisïau’r Llywodraeth.

Page 13: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

24 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 25#wphc15 #wphc15

Arddangoswyr

Rydym yn gweithio’n agos â’r diwydiant, y 3ydd sector a chyllidwyr er mwyn uno ymchwilwyr, rheolwyr, ymarferwyr, grwpiau cleifion, cynllunwyr a’r rhai sy’n llunio polisïau i gyflawni ein cenhadaeth sef hyrwyddo cydweithredu er mwyn cyfuno ymchwil glinigol, ymchwil sylfaenol yn ogystal ag ymchwil drosiadol, gofal clinigol ac addysg er mwyn creu gwelliannau o safon fyd eang mewn gofal iechyd.

www.healthinnovationcymru.walesRhaglen genedlaethol yw Health Innovations Cymru sy’n cael ei chyflawni gan dair partneriaeth Cydweithredu Gwyddorau Iechyd Academaidd ranbarthol, gyda chymorth partneriaid allweddol. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Ei nod yw trawsnewid maint ac ansawdd arloesi ym maes iechyd yng Nghymru drwy gyfres o weithgareddau a lansio llwyfan ‘rheoli syniadau’ canolog ar-lein ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fel rhan o’r cynllun, caiff gweithdai a digwyddiadau meithrin cysylltiadau eu cyflwyno mewn Byrddau Iechyd Prifysgol ac Ymddiriedolaethau’r GIG ledled y wlad i hyrwyddo’r broses o rannu arfer gorau a chydweithredu er mwyn gwella gofal cleifion. Sefydlwyd E-blatfform arbenigol ar gyfer gweithwyr proffesiynol y GIG ac Academia ar bob lefel i gael syniadau, mentrau ac enghreifftiau o brosiectau arloesol. Bydd gan y platfform gronfa ddata y gellir ei chwilio gan sicrhau bod enghreifftiau o weithgareddau i ysbrydoli’r broses o ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau er budd cleifion ar gael i ddefnyddwyr.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cynrychioli, yn cefnogi, yn datblygu ac yn ymgyrchu dros sefydliadau gwirfoddol, gweithredu cymunedol a gwirfoddoli yng Nghymru. Mae’r WCVA yn cynrychioli’r sector ar lefel y DU ac yn genedlaethol, ac ynghyd ag ystod o asiantaethau arbenigol rydym yn darparu strwythur cymorth ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru, ac i wneud ein gwlad yn lle gwell i fyw ac i weithio ynddo, drwy gymhwyso egwyddorion iechyd a gofal darbodus ym mhopeth a wnawn. Mae Cymru yn wynebu heriau anodd, gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio a mwy o achosion o gyflyrau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw. Drwy’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Sylfaenol i Gymru, mae Llywodraeth Cymru yn trawsnewid y ffordd y darperir gofal iechyd yng Nghymru. Drwy greu clystyrau gofal sylfaenol, rhwydweithiau o broffesiynau a darparwyr, rydym yn ymateb i anghenion y boblogaeth leol. Gan ddefnyddio’r egwyddorion darbodus, rydym gosod y sylfeini ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor ein gwasanaeth iechyd, ac yn integreiddio gofal gyda’r gwasanaethau cymdeithasol fwyfwy. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a

diwylliannol Cymru drwy sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn cydweithio â phobl a chymunedau, ac â’i gilydd, i gyflawni gwelliant hirdymor i iechyd a lles pobl Cymru. Mae hyn wedi’i ymgorffori mewn deddfwriaeth drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Mae’n cynrychioli

22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae’r 3 awdurdod tân ac achub a’r 3 awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

Prif ddibenion CLlLC yw hyrwyddo llywodraeth leol well a’i enw da a chefnogi awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.

Fe’i sefydlwyd ym 1996 yn bennaf fel corff datblygu polisïau a chynrychioliadol ac ers hynny, mae CLlLC wedi datblygu’n sefydliad sydd hefyd yn arwain ym meysydd datblygu a gwella, cydraddoldeb, caffael a materion cyflogaeth.

Mae CLlLC yn parhau i fod yn rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr (LGA) ac ers mis Ebrill 2005, mae gan awdurdodau lleol Cymru aelodaeth gorfforaethol ddiwygiedig o’r LGA, gan sicrhau bod y sefydliad yn parhau i gynrychioli buddiannau llywodraeth leol Cymru gerbron Llywodraeth y DU.

Ymunwch yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol ac ychwanegwch sylwadau drwy gydol y ddau ddiwrnod gan ddefnyddio’r hashnod #wphc15

#wphc15

Page 14: #wphc15 1 Uno i Wella Iechyd: Cymru Iachach, Hapusach a

26 Rhaglen Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus 2015 #wphc15

Cynllun LlawrAFON TAF

FFORDD YR EGLWYS GADEIRIOL

GIÂT 5

Y GANOLFAN GRICED GENEDLAETHOL

PAFI

LIW

N R

EALL

Y W

ELSH

1718

19

12 13 14 15 16

20

21

22

23

1

2

3

4

5

6

89

1011

7

24

25

26

27

2829

30313233343536373839

GIÂT 2

YMOCHYN

DU

Y Ganolfan Griced Genedlaethol

Y Sesiynau Llawn:Ysgol Dan Do Llawr Gwaelod

Ystafelloedd Sesiynau Grwp

Ysgol Dan Do Llawr GwaelodLolfa’r Aelodau Llawr GwaelodBlychau 17/18 Llawr Cyntaf Amgueddfa Llawr Cyntaf Ystafell Premier Ail LawrBlwch 22 Ail LawrYstafell weddïo Ystafell 21

Pafiliwn Really Welsh

Cyntedd y Dderbynfa:Cofrestru Llawr Gwaelod

Lluniaeth a chinio, Arddangosfa bosteria’r Stondinau arddangos

Lolfa Pyramid Llawr GwaelodLolfa BMW Sytner Llawr Cyntaf