y blwch tymor 10 | the box season 10

12
season ten the box tymor deg y blwch Matthew Cowan Ellie Rees Elise Simard Clare Thornton Lucy Watts

Upload: aberystwyth-arts-centre

Post on 04-Mar-2016

222 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

Y Blwch tymor 10 | The Box season 10

TRANSCRIPT

Page 1: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10

season ten the box tymor deg y blwch

M a t t h e w C o w a n E l l i e R e e s E l i s e S i m a r d C l a r e T h o r n t o n L u c y W a t t s

Page 2: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10
Page 3: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10

Matthew CowanMatthew Cowan’s practice is in the realm of traditional European customs and culture. His work combines elements of photography, video,installation and performance to reflect the inherent strangeness of the enduring popularity of long established folk customs in modern society.Humour and the subversion of the usual social order are constant themes in his work, developed through his investigation of the celebrations and performances of folk traditions. Matthew Cowan completed his MA in Fine Art at The University of Northumbria in 2005. Prior to this he lived and worked as a photographer andartist in Newcastle upon Tyne, London and New Zealand. He has recently exhibited in Poland, New York and London; he was also Artist inResidence at Aberystwyth Arts Centre’s Creative Studios in 2011.

Seilir ymarfer Matthew Cowan ym maes defodau a diwylliant Ewropeaidd traddodiadol. Mae ei waith yn cyfuno elfennau o ffotograffiaeth, fideo,

gosodwaith a pherfformiad i adlewyrchu dieithrwch cynhenid poblogrwydd parhaol defodau gwerin hir-sefydledig yn y gymdeithas fodern. Mae

hiwmor a thanseiliad y drefn gymdeithasol arferol yn themâu cyson yn ei waith, a datblygir y rhain trwy ei archwiliad o’r dathliadau a’r perfformiadau

o draddodiadau gwerin.

Cwblhaodd Matthew Cowan ei MA yn y Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol Northumbria yn 2005. Cyn hyn bu’n byw ac yn gweithio fel ffotograffydd

ac artist yn Newcastle upon Tyne, Llundain a Seland Newydd. Bu’n arddangos ei waith yn ddiweddar yng ngwlad Pwyl, Efrog Newydd a Llundain;

hefyd ‘roedd yn Artist Preswyl yn Stiwdios Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn 2011.

Cheering the Straws 2011

Page 4: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10
Page 5: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10

Ellie Rees“I produce performance-based videos which use humour and irony to investigate what it means to be a woman in contemporary society. I concentrate on exaggerated portrayals of women in cinema and literature; particularly the inconsistency between liberated female roles and romantic views depicted in high and popular culture.”Ellie Rees lives and works in London where she is currently an Associate Lecturer at Byam Shaw School of Art and Central St. Martins College of Art and Design. She has exhibited and performed internationally at galleries and museums including: Tate Modern, London, The Institute for Contemporary Art (ICA) London; El Museo de Arte Contemporaneo, Caracas,Venezuela, the international video festival LOOP, Madrid and ArtSway in the New Forest. In 2009 she wasincluded in a major retrospective of British artists’ portraiture at The Neuberger Museum of Art, New York. Ellie has held residencies in the UK, Europe and theUnited States. In 2008 she was the first artist in residence at Aberystwyth Arts Centre, supported by the Esmée Fairbarn Foundation, where she went on tohave a solo exhibition,.

“’Rwy’n cynhyrchu fideos yn seiliedig ar berfformiad sy’n defnyddio hiwmor ac eironi i archwilio beth y mae’n golygu i fod yn fenyw yn y gymdeithas gyfoes.‘Rwy’n canolbwyntio ar bortreadau wedi eu gor-ddweud o fenywod yn y sinema a llenyddiaeth; yn arbennig yr anghysondeb rhwng rolau menywod meddwl-agored a’r syniadau rhamantus a ddisgrifir mewn diwylliant poblogaidd.”Mae Ellie Rees yn byw ac yn gweithio yn Llundain lle mae hi ar hyn o bryd yn Ddarlithydd Cyswllt yn Ysgol Gelf Byam Shaw a Choleg Celf a Dylunio Canolog San Martin. Mae hi wedi arddangos a pherfformio’n rhyngwladol mewn orielau ac amgueddfeydd sy’n cynnwys: y Tate Modern, Llundain; yr Institiwt ar gyfer Celf Gyfoes(ICA) Llundain; El Museo de Arte Contemporaneo, Caracas,Venesuela; yr ŵyl fideo ryngwladol LOOP ym Madrid ac ArtSway yn y New Forest. Yn 2009 ‘roeddyn rhan o arddangosfa flaenllaw o bortreadau gan artistiaid Prydeinig yn Amgueddfa Gelf Neuberger, Efrog Newydd. Mae Ellie wedi treulioi cyfnodau preswyl yny DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Yn 2008 hi oedd yr artist preswyl cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, gyda chefnogaeth Sefydliad EsméeFairbarn, ac aeth ymlaen i gynnal ei harddangosfa ei hun yno.

Still from Self-portrait at 27 Weeks 2012

Page 6: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10
Page 7: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10

Elise Simard Afloat at Dawn; La TraverséeIn La Traversée, Elise’s second independent film animation, a boy and his rabbit wander through the night forest - a mysterious and overwhelming world whichvanishes at dawn. Inspired by the secrets and sorrow of Robert Louis Stevenson’s verses for children, Afloat at Dawn is a baroque ode to fleeting darknessand childhood make-believe, accompanied by a haunting soundtrack. Elise Simard discovered film animation while completing a bachelor’s degree in Fine Arts at Concordia University in Montreal. She was Artist in Residence atAberystwyth Arts Centre in autumn 2012.'Afloat at Dawn': Directed and animated by Elise Simard with the support of the Conseil des arts et des lettres, the New Brunswick Film Co-op ,, the National Film Board of Canada’s Filmmaker

Assistance Program and TAIS, the Toronto Animated Image Society. Music arranged and recorded by Marc-André Simard.

'La Traversée': Directed and animated by Elise Simard. Copyright Dark Holiday Inc. Soundtrack music: Debussy’s Petite suite #1, En Bateau

Yn La Traversée, ail animeiddiad ffilm annibynnol Elise, mae bachgen a’i gwningen yn crwydro trwy’r fforest yn y nos - byd dirgel a llethol sy’n diflannu gydathoriad y wawr. Wedi’i hysbrydoli gan gyfrinachau a thristwch cerddi Robert Louis Stevenson i blant, mae Afloat at Dawn yn gerdd baróc am dywyllwch dros droa breuddwydion plentyndod, gyda thrac sain hiraethus fel cyfeiliant. Datblygodd Elise Simard ddiddordeb mewn animeiddiad ffilm tra’n cwblhau ei gradd yn y Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol Concordia ym Montreal. ‘Roedd hi’nArtist Preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ystod yr hydref 2012.'Afloat at Dawn': Cyfarwyddwyd ac animeiddwyd gan Elise Simard gyda chefnogaeth y Conseil des arts et des lettres; Menter gydweithredol Ffilm New Brunswick; Rhaglen Gynnal Bwrdd Ffilm

Cenedlaethol Canada a TAIS, Cymdeithas Ddelwedd Animeiddiedig Toronto. Trefnwyd a recordiwyd y gerddoriaeth gan Marc-André Simard.

'La Traversée': Cyfarwyddwyd ac animeiddwyd gan Elise Simard. Hawlfraint: Dark Holiday Inc. Trac sain: Petite suite #1 En Bateau gan Debussy

Page 8: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10
Page 9: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10

Clare Thornton A heightened sense of makingClare Thornton draws on fine art and craft methods to create objects, site responsive installations, printed matter and live events which bring people together for social and critical exchange. She is curious about the convergences of costume, performance and relational practices and is interested n cross-disciplinary collaborations. Using universal movement vocabulary as a stimulus, ‘A heightened sense of making’ is a piece which incorporatesperformance, sculpture and writing.“I am excited by re-working and layering materials and ideas and exploring this process with others. Each new piece evolves out of conversations and localresearch – gathering personal accounts and critical responses to particular locations, objects and texts. I then transform this collection of materials to producesculptural forms, performance and video works and social events as a materialisation of this process.” Clare Thornton is a lecturer at the University of Worcester and has presented work in the UK, Norway, Sweden, Denmark, Latvia, Turkey, Australia and the USA.

Mae Clare Thornton yn tynnu ar gelfyddyd gain a dulliau crefft i greu eitemau, gosodweithiau sy’n gysylltiedig â safle, deunydd mewn print a gweithgareddaubyw sy’n dod â phobl at ei gilydd mewn sefyllfa gymdeithasol i gyfnewid barn. Mae’n ymddiddori mewn cydgyfeiriant o ran gwisgoedd, perfformiad ac ymarferion perthynol ac mewn cydweithrediad traws-ddisgyblaethol. Gan ddefnyddio geirfa symudiad gyffredinol fel symbyliad, mae A heightened sense of making yn ddarn sy’n cynnwys perfformiad, cerflunwaith ac ysgrifennu. “’Rwy’n mynhau ail-weithio ac haenu deunyddiau a syniadau ac archwilio’r proses hwn gydag eraill. Mae pob darn newydd yn datblygu allan o sgyrsiau acymchwil leol - yn hel straeon personol ac ymatebion beirniadol i leoliadau, gwrthrychau a thestunau penodol. ‘Rwyf wedyn yn trawsffurfio’r casgliad hwn oddeunyddiau i gynhyrchu ffurfiau cerfluniol, perfformiad, darnau fideo a gweithgareddau cymdeithasol fel gwireddiad o’r proses hwn.” Mae Clare Thornton yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerwrangon ac mae wedi cyflwyno ei gwaith yn y DU, Norwy, Sweden, Denmarc, Latfia, Twrci, Awstralia ac Unol Daleithiau America.

Page 10: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10
Page 11: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10

Lucy Watts The Fish & Chip ReviewDuring her residency at Aberystwyth Arts Centre, Lucy Watts engaged with everyday life and drew and wrote about her observations. Her centralfocus was on the great British institution of fish and chips – or pysgod a sglodion in Wales; a cultural and culinary delight which is securely rooted inthe UK. Charles Dickens was allegedly the first to use the word ‘chip’ which is surely the definitive cultural endorsement. Lucy opened her studio inAberystwyth as a Fish and Chip Museum, complete with exhibits of wooden forks and fish-printed packaging, conflating the idea of a museum withthe humble and déclassé notion of greasy fish ‘n chips. Her film, ‘Fish & Chip Review’, beautifully conveys the quirky human goings on in a rural area of Wales, ending with a scene in the ‘best fish and chip shop in town’. Lucy trained at the École Nationale Supérieure des Beaux-Arts in Paris and has exhibited internationally. She has recently exhibited at the prestigious Biennale de Mulhouse in Eastern France.

Yn ystod ei chyfnod preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, bu Lucy Watts yn gwylio bywyd bob dydd ac yn arlunio ac yn ysgrifennuam ei sylwadau. Canolbwyntiodd yn bennaf ar y traddodiad Prydeinig poblogaidd sef pysgod a sglodion; gwledd ddiwylliannol a gorchestol sydd â’igwreiddiau’n ddwfn yn y DU. Mae’n debyg mai Charles Dickens oedd y cyntaf i ddefnyddio’r gair ‘chip’ ac felly dyma’r gymeradwyaeth ddiwylliannolorau posibl. Agorodd Lucy ei stiwdio yn Aberystwyth fel Amgueddfa Bysgod a Sglodion, gyda ffyrc pren a phecynnu pysgodlyd, yn cyfuno’r syniad oamgueddfa gyda’r syniad diymhongar a déclassé o bysgod a sglodion seimllyd. Mae ei ffilm, ‘Fish & Chip Review’, yn cyfleu’n hyfryd y pethau odsy’n mynd ymlaen mewn ardal wledig yng Nghymru, yn gorffen gyda golygfa yn y ‘siop bysgod a sglodion orau yn y dref’. Hyfforddwyd Lucy yn yr École Nationale Supérieure des Beaux-Arts ym Mharis ac mae wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol. Bu’n arddangos yn ddiweddar yn y Biennale de Mulhouse uchel ei bri yn Nwyrain Ffrainc.

Page 12: Y Blwch tymor 10 | The Box season 10

cano l fan y ce l fyddydau aberystwyth a r ts cent re www.aberystwythar tscent re .co .uk

ISBN 978-1-908992-06-2 Design Stephen Paul Dale Design [email protected]