ymddiriedolaethnatur deagorllewincymru · 2015. 11. 2. · adolygiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn...

16
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Adolygiad Blynyddol ar gyfer y Flwyddyn Ariannol a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2011 Gwarchod Natur ar gyfer y dyfodol

Upload: others

Post on 18-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Ymddiriedolaeth NaturDe a Gorllewin Cymru

    Adolygiad Blynyddolar gyfer y Flwyddyn Ariannol a ddaeth i ben ar

    31ain Mawrth 2011

    Gwarchod Natur ar gyfer y dyfodol

  • 2

    Ceir arwyddion calonogol bod proffil yramgylchedd naturiol a’r rhan mae’n eichwarae yn ein bywydau’n codi o hydar bob agenda wleidyddol a busnes.Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o’ramgylchedd naturiol yn parhau igynyddu hefyd, fel y gwelwyd ymmhoblogrwydd cynyddol rhaglenniteledu fel Springwatch a Countryfile. Ergwaetha’r cynnydd hwn, mae gwaithyr Ymddiriedolaethau Natur yn fwyallweddol nag erioed, o ran gwarchod arheoli’r bywyd gwyllt yn ein hardal niein hunain ac o ran y gwaith ymgyrchu,lobïo ac eirioli ar lefel ehangach. Hefyd,mae cyflawni’r gwaith hwn yn wynebcyni economaidd byd-eang, toriadaucyllido cynyddol a’r pwysau ar incwmpawb yn fwy heriol nag erioed. Ynewyddion da, er gwaetha’rproblemau hyn, yw bod ein tîmanhygoel ni o staff a gwirfoddolwyr yncydweithio’n agosach nag erioed, gandywallt egni a brwdfrydedd i’w gwaithac ysbrydoli pawb o’u cwmpas. Aradeg fel hyn, rydym yn dibynnu llawer

    Cynnwys:

    Uchafbwyntiau Cadwraeth 4

    Pobl 6

    Gweithio mewn Partneriaeth

    â Gwirfoddolwyr 7

    Ysbrydoli Pobl 8

    Ymchwil 9

    Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth 11

    Datganiad Ariannol 12

    Mantolen 13

    Datganiad yr Archwilwyr 14

    Cyflwyniad gan y PrifWeithredwr

    Llun ar y clawr blaen:M J Clark

    mwy ar ein gwirfoddolwyr ac mae’rstaff i gyd wedi bod yn hynod falch o’rymateb cadarnhaol a gafwyd gan ygwirfoddolwyr presennol a’r rhainewydd, yn ogystal â’r cyfraniadauariannol hael tuag at ein gwaith ynystod y flwyddyn ddiwethaf. Gydagadnoddau fel y rhain, rydym ynhyderus y bydd gwaith eichYmddiriedolaeth Natur leol chi’n galludal ati i ehangu.

    O ran busnes, rydym wedi dangosymrwymiad i sicrhau sefydliadeffeithlon drwy lwyddo i haneru eincostau gweithredu bron yn ystod yddwy flynedd ddiwethaf. Mae einstaff, yr Ymddiriedolwyr a’r GrwpiauLleol i gyd wedi cymryd rhan yn ygwaith cynllunio strategol, fel bodgennym ni gynllun clir a chytûn ar gyfery dyfodol a gallwn ganolbwyntio ynawr ar ein hymdrechion ar y cyd igyrraedd y nodau hynny.

    Sarah Kessell, PSG

    Creu tirlun byw

  • 3

    Uchafbwyntiau CadwraethMae ein holl waith cadwraeth yn cael ei gofnodi drwy gyfrwngsystem ar-lein genedlaethol o’r enw BARS a gallwch weld ycofnodion hynny yn y cyfeiriad hwn: http://ukbars.defra.gov.uk/. Ynfuan, bydd y safle yma’n cynnwys swyddogaeth fapio, fellybyddwch yn gallu gweld ble’n union mae ein gwaith ni wedi cael eiwneud. Eleni, arweiniodd Swyddogion yrYmddiriedolaeth Natur326 o weithgorau gwirfoddol ar y tir mawr yn unig, yn cyfateb i1550 o ddyddiau gwirfoddoli. Anfonwyd chwe chant o gofnodionbiolegol i’n canolfan gofnodi leol, wedi’u casglu o’n gwarchodfeyddnatur ni yn bennaf. Hefyd, yn ychwanegol at y gwaith yn eingwarchodfeydd ni ein hunain, rydym wedi cynghori perchnogion tireraill, gan roi sylw i arwynebedd o ryw 5,000 hectar yn fras eleni.Hefyd, rydymwedi ymateb yn fanwl i 128 o geisiadau cynllunio.

    Sir Benfro:Crëwyd tri phwll newydd ym MignLlangloffan, gan greu cynefinoeddnewydd gwych ar gyfer bywydgwyllt. Hefyd, sicrhawyd gwellmynediad yno gyda phont, llwybrpren, giatiau, cuddfan adar achyfeirbyst newydd.

    Clirio pwll ym Mign Llangloffan

    PontBrian

    Cuddfan adar newydd Coed y Castell Mawrth 2011

    Ceredigion:Cwblhawyd gwaith hanfodol isicrhau diogelwch rhai coed yngngwarchodfeydd Nanteos, fel bodmodd agor OldWarren Hill i’rcyhoedd unwaith eto. Codwydpont goffa newydd hardd yngNghoed Maidie B Goddard, er cofam y diweddar warden gwirfoddolyn y warchodfa, Brian Healey.

    Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Adolygiad Blynyddol

  • 4

    Sicrhau Môr Byw

    Sir Gaerfyrddin:Gwnaed gwaith sylweddol yngngwarchodfa natur Coed y Castell,gyda’r grŵp gwirfoddol yn newid ffensderfyn hir, teneuo’r coed yng Nghoed yrEglwys a Choed South Lodge a hefydgosod cownteri ymwelwyr, meinciau,bwrdd picnic derw, blychau adar a daubanel gwybodaeth newydd yn eu lle.Hefyd, cynhyrchwyd taflen newydd ar

    gyfer y warchodfa gyda grant GwellCoetiroedd i Gymru gan y ComisiwnCoedwigaeth.

    Morgannwg:Mae nifer o goetiroedd Penrhyn Gŵyrwedi elwa o gyllid Gwell Coetiroedd iGymru yn ystod y flwyddyn ddiwethafac mae wedi bod yn werth treuliooriau meithion yn llafurio yno. Mae’rgwaith wedi cynnwys cael gwared arnifer fawr o goed Rhododendron aLlawrgeirios o Goed y Prior a Gelli Hir,gosod nifer o flychau adar yn eu lle,rheoli Canclwm Japan yn Kilvrough aMynydd Llanrhidian a thociocoetiroedd traddodiadol yng Ngelli Hir.

    Coed Brynna a Chors Llanharan yw uno’n gwarchodfeydd natur mwyafdiweddar ni, yn gorchuddio mwy na38 hectar o goetir llydanddail lled-naturiol a glaswelltir corsiog. Rydymni wedi gwella’r mynediad i fwy na1,000 metr o lwybr troed, wediehangu’r cynefin o ddôl a glaswelltircorsiog ac wedi gwneud gwaith arbrosiect penodol ar gyfer y pathew,sy’n cynnwys monitro a rheolicoetiroedd.

    Uchafbwyntiau Cadwraeth

    Coed Brynna

    Tîm Ffensio Coed y Castell

  • 5

    Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Adolygiad Blynyddol

    PoblMae pobl yn rhan gwbl greiddiolo’n gwaith ni, boed yn staff,myfyrwyr, gwirfoddolwyr neuaelodau’r cyhoedd. Mae ein staff ynangerddol am fywyd gwyllt acrydym eisiau cyfleu’r angerddhwnnw i bobl eraill. Hebwirfoddolwyr, ni fyddem yn gallucyflawni hanner y gwaith rhagorolrydym ni wedi’i wneud ac rydymwedi gweithio gyda mwy na 1,000o wirfoddolwyr eleni. Rydym ni’ngwybod bod dyfodol bywyd gwylltyn dibynnu ar gynnwys myfyrwyr aphlant, a throsglwyddo eingwybodaeth iddynt hwy.

    Michael:Daw Michael o Gilgerran agadawodd yr ysgol ar ôl eiarholiadauTGAU heb unrhywgynlluniau pendant.Wedi cyfnod yngweithio yn y diwydiant teiars,cafodd ei ddiswyddo a bu’n ddi-waith am tua 6 mis. Daeth at yrYmddiriedolaeth Natur o dan ycynllun Cronfa Swyddi’r Dyfodol,gan weithio yn y caffi yng

    Nghanolfan Natur Cymru amanteisio ar y cyfle i wneud argraffdda ar bawb! Datblygodd hyder,sgiliau gwaith tîm a sgiliaucyfathrebu yno, a chafodd brofiadgwaith da, a bellach mae’n aelod o’rstaff cyflogedig. Mae’rYmddiriedolaeth Natur yn ei arwaindrwy gymhwyster NVQ mewnarlwyo, fel bod Michael yn galludilyn gyrfa yn y maes yma.

    Rose:Mae Rose yn astudio am raddmewn Ecoleg ym MhrifysgolCaerdydd a bu ar leoliad gwaith amflwyddyn gyda’rYmddiriedolaeth.Meddai Rose: ‘Rydw i wir wedimwynhau fy nghyfnod gyda’rYmddiriedolaeth Natur. Rydw iwedi mwynhau cyfarfod pobl sy’nmeddwl yn yr un ffordd â fi, a bodyn rhan o dîm yrYmddiriedolaethNatur. Rydw i wir yn teimlo bod yflwyddyn yma wedi fy helpu i iddatblygu fy ngyrfa, er enghraifft,rydw i bellach wedi ennill digon obrofiad ac wedi cael digon o

    hyfforddiant fel bod modd i miwneud cais am drwydded medfyllcribog mawr. Mae fy ngallu i siaradyn gyhoeddus wedi gwella wrth imi wneud cyflwyniad ar fymhrosiect yn y CCB, a chyflwynosgyrsiau a theithiau tywys igrwpiau lleol a myfyrwyr prifysgol.Drwy gyfrwng yrYmddiriedolaethNatur, rydw i wedi cael cyhoeddierthyglau yn Natur Cymru ac mewncyhoeddiadau eraill gan yrYmddiriedolaeth Natur. Rydw iwedi mynychu nifer o gyrsiauhyfforddi a fydd yn dda iawn argyfer fy CV, a byddaf yn mynychurhagor eto. Fe hoffwn i ddweuddiolch wrth bawb ynYNDGC am roicroeso mor gynnes i mi a gwneud imi deimlo’n rhan o’r tîm, a hefydam gynnig yr holl gyfleoedd rydw iwedi’u cael drwy gydol y flwyddyn.Byddaf yn colli gweithio i’rYmddiriedolaeth yn fawr iawn panfyddaf yn mynd yn ôl i’r Brifysgol yflwyddyn nesaf, yn sdyc dan do ynastudio!’

    Rose Revera

    Michael yn CNC

  • 6

    Amgylchedd gyda chyfoeth o fyd Natur i bawb

    Gweithio MewnPartneriaeth âGwirfoddolwyr

    Caewyd Ynys Skokholm i ymwelwyryn 2007 oherwydd dadfeiliad yradeiladau. Byddai’r syniad gwreiddiol oadnewyddu’r lle yn llwyr, fel a wnaedar Sgomer, wedi costio mwy na £1miliwn. Er hynny, ni ellid cytuno’n llwyrar y cynlluniau ac nid oedd yn debygoly gellid codi arian o’r math yma morfuan wedi i grantiau loteri helaeth gaeleu dyfarnu ar gyfer prosiect Sgomer,ac yn wyneb yr hinsawdd ariannolanodd ledled y wlad. Cynigiwyd yrateb gan Gyfeillion YnysoeddSkokholm a Sgomer ac, yn ystod yflwyddyn, buont yn gweithio’n agosgyda’r staff i adfer y fferm ganddefnyddio llafur gwirfoddol yn bennafa chyllideb llawer llai. Mae’r gwaithadnewyddu’n debygol o bara ryw 2 – 3blynedd i gyd ac, o ganlyniaduniongyrchol i’r dull newydd hwn oweithredu, mae’r costau adnewydduwedi gostwng i lai na £100,000. Mae’rcyflawniad anhygoel hwn yn dyst iegni ac ymrwymiad diwyro criw brwdo wirfoddolwyr. Yn ystod y flwyddyn,mae’r gwirfoddolwyr, gyda’i gilydd,wedi cyfrannu tua 2,200 o oriau owaith ar Skokholm yn unig.

    Yn Sir Gaerfyrddin a Chorsydd Teifi,buom yn cydweithio gyda darparwyrgofal iechyd lleol a bellach maegennym wirfoddolwyr sy’n mynychugweithgorau’n rheolaidd o’rcanolfannau gofal lleol.

    Hefyd, cynhaliwyd mwy nag 20 oddyddiau gwirfoddoli corfforedig, yncynnwys HBOS Banking. Rydymhefyd yn ffodus o fod yn elwa o sgiliauhynod arbenigol rhai gweithwyrproffesiynol sy’n fodlon rhoi o’uhamser i weithio i ni, fel coedyddioncymwys.

    Eleni hefyd sefydlwyd y prosiect‘Branching Out’ gyda chyllid CAN,mewn partneriaeth â Tir Coed, lle maegrwpiau o wirfoddolwyr di-waith 16-28oed yn cael eu hyfforddi mewn sgiliaugwaith coed traddodiadol. Y canlyniadyw cyfleusterau creadigol ac atyniadolnewydd mewn gwarchodfeydd naturyn y gorllewin, yn cynnwys meinciau,cuddfannau adar a ffensys derw hollt.

    Gorsedd DinefwrTir Coed

  • 7

    Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Adolygiad Blynyddol

    Eleni cynhaliwyd 270 oddigwyddiadau lleol (gan staff aGrwpiau Lleol) a daeth amcangyfrifo 10,000 o bobl i’r rhain. Hefydbuont mewn 30 o ddigwyddiadaueraill a drefnwyd yn allanol ac ynobuom yn gweithio gyda 4,000 obobl eraill. Arweiniwyd 94 odeithiau cerdded, gydagamcangyfrif o 940 o bobl ynbresennol, a chyflwynwyd 92 osgyrsiau i gyfanswm o tua 4,000 obobl. Rydym yn amcangyfrif bodychydig dros 100,000 o bobl wedidod i’n gwarchodfeydd natur ni.

    Yn ystod y flwyddyn, cawsom 25 ogyfweliadau ar y radio, 5 ogyfweliadau ar y teledu a 110 ostraeon yn y wasg leol. Hefydcafwyd 71 o straeon yn y wasgranbarthol a 6 yn y wasggenedlaethol. Rydym yn gwneuddefnydd o gyfryngau cymdeithasolgyda safleoedd Facebook ar gyferyrYmddiriedolaeth, yrYnysoedd aChanolfan Natur Cymru, ac rydymyn trydar yn rheolaidd!

    Rydym yn defnyddio eincanolfannau i ymwelwyr i weithiogyda phobl ac i’w hysbrydoli, ac idrosglwyddo gwybodaeth am eingwaith ni.Yn ystod y blynyddoeddnesaf, rydym yn bwriadubuddsoddi mwy yng NghanolfanNatur Cymru a ChanolfanYmwelwyr Parc Slip.

    YsbrydoliPobl

    Diwrnod o feicio yng Nghorsydd Teifi

    Gwirfoddolwyr yn helpu gydaPhrosiect Adfer Skokholm

  • 8

    Creu tirlun byw

    Rydym ni’n ymroddedig i ddatblygusgiliau ecolegol ein staff ni ein hunainac i ddarparu cyfleoedd hyfforddi i eraill,fel ein bod yn gallu meithrin ygenhedlaeth nesaf o Gofnodwyr a dalati i helpu gyda datblygu a pherffeithio’rtheori o reoli er budd cadwraeth natur.Mae ymchwilio i gynefinoedd arhywogaethau’n darparu tystiolaethsy’n ein helpu ni i lobïo dros wellgwarchodaeth i fywyd gwyllt. Maehefyd yn sail i’n hymatebion iymgynghoriadau’r llywodraeth, mae’ndarparu gwybodaeth hanfodol sy’n sail ibenderfyniadau rheoli ar ein tir ni einhunain ac mae’n ein galluogi ni i rannuarferion gorau gyda pherchnogion tireraill.

    Ynys SgomerMae Ynys Sgomer yn denu 15,000 oymwelwyr y flwyddyn ond mae hefydyn gartref i ymchwil arloesol i adarmôr. Mae Warden yr Ynys yn sicrhaunad yw’r gwaith ymchwil sy’n cael eiwneud yn cael effaith negyddol ar

    bwysigrwydd cadwriaethol un oWarchodfeydd Natur Cenedlaetholallweddol Cymru. Mae’r llety ar yrynys yn cynnig lle i saith oymchwilwyr ar y tro a cheir llyfrgellhelaeth yno, i’r ymchwilwyr a’rcyhoedd. Gan weithio gyda nifer obartneriaid, yn cynnwys PrifysgolRhydychen, Microsoft Research,Prifysgol Sheffield, y Cyd BwyllgorCadwraeth Natur a Chyngor CefnGwlad Cymru, mae gwaith ymchwil yncael ei wneud drwy gydol tymor yradar môr, sy’n hanfodol er mwynmonitro newidiadau tymor hir yn yramgylchedd morol, a hefyd i asesueffeithiau trychinebau fel y SeaEmpress yn 1996. Mae hefyd yndarparu gwybodaeth ddiweddar yn sailar gyfer gwneud penderfyniadauynghylch cadwraeth rhywogaethauprin. Ymhlith yr ymchwil sy’n cael eiwneud ar hyn o bryd mae:• Monitro tymor hir ar y

    poblogaethau o adar môr, eucynhyrchiant a chyfradd oroesi’roedolion – gyda’r data’n mynd yn ôli’r 1960au.

    Ymchwil

    Pâl Ben yn gwneud gwaithymchwil ar Sgomer

    Aderyn DrycinManaw gydaDaearleolydd

    • Mae dau fyfyriwr PhD ar yr ynys ynastudio Adar Drycin Manaw ahefyd yn astudio ymddygiadunigol Palod, Gwylogiaid, Llurs aGwylanod Coesddu ar y môr.

    • Datblygiad tymor hir daearleolyddiona dyfeisiadau GPS ar adar môramrywiol i astudio euhymddygiad bwydo.

    • Gwneir gwaith ymchwil tymor hirarall ar gynhyrchiant Morlo Llwyd yrAtlantig ac ar Lygoden FachSgomer ymhlith llu o brosiectauymchwil eraill llai.

  • 9

    Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Adolygiad Blynyddol

    Mae’r gwaith parhaus ar ArolwgDraenogod Sir Gaerfyrddin (mewnpartneriaeth â CGBLl Sir Gaerfyrddin)a’r arolwg ar yrYsgyfarnog ynNgheredigion yn golygu bod ycofnodion yn dal i ddod i mewn ac ynhelpu gyda gwaith cadwriaethol ar yrhywogaethau hyn. Mae’r cyhoedd ynchwarae eu rhan yn y gwaith ogofnodi gweld y rhain. Hefyd, maeSwyddog yrYmddiriedolaeth Naturyng Ngheredigion, Em Foot, wedi dodyn gofnodwr mamaliaid Ceredigion.

    Canolbwyntiodd yr arolwg ar y wiberymMro Morgannwg, mewnpartneriaeth â’r Awdurdod Lleol aCCGC, ar dri Safle o Bwysigrwydd iGadwraeth Natur. Hyfforddwydgwirfoddolwyr i helpu ac mae’rarolwg wedi cael ei ehangu yn 2011 igynnwys mwy o safleoedd ac igefnogi mwy o fyfyrwyr prifysgol iwneud y gwaith ymchwil manwl.

    Parhaodd ein gwaith yn asesueffeithiau cynllun amaeth-amgylcheddolTir Gofal ar yr

    Gwirfoddolwyr Canolfan BywylltGwyllt y Môr Bae Ceredigion yncasglu data ar fwrdd MV Sulaire

    Ysgyfarnog

    Y gwaith o arolygu’r Draenog yn parhau

    DolffinTrwyn Potel

    ysgyfarnog a’r llygoden ddŵr, dangytundeb i Lywodraeth CynulliadCymru.

    Mae’r gwaith monitro morol, drwygyfrwngYmddiriedolaeth y Môr aChanolfan Bywyd Gwyllt y Môr BaeAberteifi, sy’n cael ei wneud ganwirfoddolwyr yn bennaf, yn parhau iwneud cyfraniad mawr at eindealltwriaeth ni o ecoleg dyfroeddCymru.

  • 10

    Sicrhau Môr Byw

    Fel sefydliad lleol, gallwn ymateb ifaterion lleol, ond gallwn hefydddefnyddio cefnogaeth y 46 obartneriaid eraill sydd gan yrYmddiriedolaeth Natur pan foangen, wedi’r cyfan, mewn undebmae nerth. Mae ein haelodaeth yndangos i lunwyr polisïau ein bod ni’ngynrychioliadol ac mae cefnogaethein haelodau yn allweddol mewnymgyrchoedd hollbwysig fel eingwrthwynebiad i ddifa moch daear.Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,buom yn gweithio gyda 58 o ACauac ASau, gan gyfarfod 20 ohonynt.

    Rydym yn darparu cyngor a briffiau iACau ac ASau ynghylch materion obwysigrwydd lleol a chenedlaethol.Rydym yn defnyddio eingwarchodfeydd natur gorau i gynnigcyfleoedd i feithrin perthnasoeddgyda gwleidyddion a hefyd rydymyn gweithio gyda gwleidyddionmewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol.

    Eleni buom yn dathlu llwyddiantProsiect Sgomer gyda lansiad

    Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth

    Yr achlysur yn San Steffan iddathlu partneriaeth a chyflawniadCronfa Dreftadaeth y Loteri a’rYmddiriedolaethau Natur

    Y Prif Weinidog, Carwyn Jones,gyda’r Athro Lynda Warren,Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, achyllidwyr prosiect Sgomer.

    Iolo Williams yn llofnodi’r ddeiseb

    swyddogol, yng nghwmni ein prifgyllidwyr, y PrifWeinidog asefydliadau partner. Un elfenallweddol o’r ymweliadau hyn ywrhoi cyfle i weinidogion gael amser ibrofi’r amgylchedd naturiol maennhw’n gyfrifol am ei warchod!

    Parhaodd ein hymgyrch ar ran ymoch daear eleni ac rydym ynddiolchgar iawn i IoloWilliams am eigefnogaeth. Siaradodd mewndigwyddiad i greu mwy oymwybyddiaeth ymMhrifysgolCaerdydd.

  • 11

    Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Adolygiad Blynyddol

    The Wildlife Trust of South and West Wales LtdConsolidated Statement of Financial Activities(Incorporating The Income And Expenditure Account)For The Year Ended 31 March 2011

    Notes Un-Restricted Restricted Total TotalFunds Funds Funds Funds

    2011 2010£ £ £ £

    Incoming ResourcesIncoming resources from generated fundsVoluntary Income:Membership Subscriptions 200,961 - 200,961 200,494Donations and gifts 2 15,152 16,723 31,875 14,663Legacies 2 34,374 10,000 44,374 19,312Grants 3 - 528,636 528,636 462,767Activities for generating funds:Fundraising income 2 3,696 92,590 96,286 67,220Trading Activities 4 270,944 - 270,944 274,487Income derived from Nature Reserves 106,881 - 106,881 100,718Investment income 5 26,555 725 27,280 37,562Other income 5 16,745 27,214 43,959 17,246

    Total Incoming Resources 675,308 675,888 1,351,196 1,194,469

    Resources ExpendedCosts of generating fundsMembership 6 68,270 9,576 77,846 96,559Fundraising costs 6 14,233 86,897 101,130 51,003Trading expenses 6 262,347 13,710 276,057 214,315Charitable activitiesNature Conservation 6 302,735 393,412 696,147 708,196Environmental Education 6 91 9,899 9,990 22,674Support Costs 6 89,495 17,531 107,026 221,555

    Governance costs 6 5,048 - 5,048 4,025

    Total Resources Expended 742,219 531,025 1,273,244 1,318,327

    Net Incoming Resources before transfers (66,911) 144,863 77,952 (123,858)

    Transfers Between Funds 12 (36,775) 36,775 - -Exceptional Item 16 (23,215) - (23,215) -

    Realised gain on sale of investments assets 8 - - - 280,000Unrealised gain/(loss) on revaluation of investment assets 8 627 5,692 6,319 19,638

    Net movement in funds 11 (126,274) 187,330 61,056 175,780

    Funds brought forward at 1 April 2010 11 1,312,348 200,678 1,513,026 1,687,246

    Release of Revaluation Reserves on sale of investment asset - - - (350,000)

    Funds carried forward at 31 March 2011 13 1,186,074 388,008 1,574,082 1,513,026

    All of the net (outgoing)/incoming resources are from continuing activities.

  • 2011 2010£ £

    Surplus/(Deficit) for the financial year 77,952 (123,858)

    Release of Revaluation reserve on sale of investment asset - (350,000)

    Realised Gain on the sale of investment assets - 280,000

    Unrealised gain/(loss) on the revaluation of investment assets 6,319 19,638

    Total gains and losses recognised 84,271 (174,220)

    The Wildlife Trust of South and West Wales LtdStatement of Total Recognised Gains and Losses.For The Year Ended 31 March 2011

    12

    Amgylchedd gyda chyfoeth o fyd Natur i bawb

  • Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Adolygiad Blynyddol

    13

    Notes Group Charity Group Charity2011 2011 2010 2010

    £ £ £ £

    Fixed AssetsTangible fixed assets 7 1,639,386 1,638,149 1,635,923 1,635,923

    Investment Quoted 8 72,202 72,202 65,883 65,883Unquoted 8 - 40 - 40

    1,711,588 1,710,391 1,701,806 1,701,84

    Current AssetsStock 15,543 - 14,376 -Debtors 9 113,751 127,748 129,734 147,580Cash at bank and in hand 341,335 326,553 220,036 197,326

    470,629 454,301 364,146 344,906

    CreditorsAmounts falling due within one year 10 (380,807) (326,531) (309,113) (272,493)

    Net Current Assets 89,822 127,770 55,033 72,413

    Amounts falling due after one year 13 (227,328) (227,328) (243,813) (243,813)

    Net Assets 11 1,574,082 1,610,833 1,513,026 1,530,446

    FundsUnrestricted (453,312) (415,324) (323,575) (306,155)Unrestricted : Fixed Assets 7 1,639,386 1,638,149 1,635,923 1,635,923Restricted 11/12/13 388,008 388,008 200,678 200,678

    1,574,082 1,610,833 1,513,026 1,530,446

    Approved by the Directors and signed on their behalf

    Professor Lynda Warren

    Date 18th July 2011

    The Wildlife Trust of South and West Wales LtdBalance Sheet

    at 31 March 2011

    Lynda Warren

  • 14

    Creu tirlun byw

    Rydym ni wedi archwilio datganiadauariannol Ymddiriedolaeth Natur De aGorllewin Cymru Cyf. ar gyfer yflwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth2011, sy’n cynnwys y Datganiad oWeithgareddau Ariannol, y Fantolen a’rnodiadau cysylltiedig. Mae’rdatganiadau ariannol hyn wedi cael euparatoi yn unol â’r polisïau cyfrifo syddwedi’u datgan ynddynt.

    Gwneir yr adroddiad hwn i aelodau’relusen yn unig, fel corff, yn unol agAdran 495 o Ddeddf Cwmnïau 2006.Gwnaed ein gwaith archwilio fel einbod yn gallu datgan i aelodau’r elusen ymaterion hynny y mae’n ofynnol i ni eudatgan mewn adroddiad archwiliwr, aheb fod at unrhyw ddiben arall. I’rgraddau eithaf a ganiateir gan ygyfraith, nid ydym yn derbyn nac yncymryd cyfrifoldeb yng nghyswlltunrhyw un, ac eithrio’r elusen acaelodau’r elusen fel corff, am eingwaith archwilio ar gyfer yr adroddiadhwn, nac am y safbwyntiau rydym niwedi’u datgan.

    Cyfrifoldebau penodol yrymddiriedolwyr a’rarchwilwyrMae cyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr(sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmniat ddibenion cyfraith cwmnïau) ambaratoi’r Adroddiad Blynyddol a’rdatganiadau ariannol yn unol â’r ddeddfberthnasol a Safonau Cyfrifo’r DeyrnasUnedig (Arferion Cyfrifo DerbyniolCyffredinol y Deyrnas Unedig), ac amfod yn fodlon bod datganiadau ariannolyr elusen yn cyflwyno darlun cywir atheg, wedi’u datgan yn y Datganiad oGyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr.

    Ein cyfrifoldeb ni yw archwilio’rdatganiadau ariannol yn unol âgofynion cyfreithiol a rheoleiddiolperthnasol a’r Safonau Rhyngwladol argyfer Archwilio (y DU ac Iwerddon).

    Rydym yn adrodd yn ôl i chi am einbarn ynghylch pa un ai yw’rdatganiadau ariannol yn cyflwyno

    darlun cywir a theg, a ydynt wedi caeleu paratoi’n briodol yn unol ag ArferionCyfrifo Derbyniol Cyffredinol y DeyrnasUnedig ac a ydynt wedi cael eu paratoiyn unol â Deddf Cwmnïau 2006.

    Rydym hefyd yn adrodd yn ôl i chiynghylch pa un ai yw’r wybodaeth agyflwynir yn Adroddiad Blynyddol yrYmddiriedolwyr yn gyson yn ein barnni â’r datganiadau ariannol.

    Hefyd, rydym yn adrodd yn ôl i chi osnad yw’r elusen, yn ein barn ni, wedicadw cofnodion cyfrifo digonol, os nadyw datganiadau ariannol yr elusen yngyson â’r cofnodion a’r ffurflennicyfrifo, os nad ydym ni wedi derbyn yrholl wybodaeth a phob eglurhad syddeu hangen arnom ni ar gyfer einharchwiliad, neu os nad yw datgeliadauynghylch taliadau’r ymddiriedolwyr ymanylir yn eu cylch gan y gyfraithwedi’u gwneud.

    Rydym yn darllen Adroddiad Blynyddolyr Ymddiriedolwyr ac yn ystyried ygoblygiadau i’n hadroddiad ni os downyn ymwybodol o unrhywgamddatganiadau ymddangosiadolynddo.

    Sail y farn archwilioCynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â’rSafonau Rhyngwladol ar gyferArchwilio (y DU ac Iwerddon) agyhoeddwyd gan y Bwrdd ArferionArchwilio. Mae archwiliad yn cynnwysedrych yn fanwl, ar sail prawf, ar ydystiolaeth sy’n berthnasol i’r symiaua’r datgeliadau yn y datganiadauariannol. Mae hefyd yn cynnwysasesiad o’r amcangyfrifon a’rpenderfyniadau arwyddocaol a wnaedgan yr ymddiriedolwyr wrth baratoi’rdatganiadau ariannol, ac mae’n edrychar briodolrwydd y polisïau cyfrifo’n iamgylchiadau’r elusen, ac a ydynt yncael eu gweithredu’n gyson a’udatgelu’n briodol.

    Cynlluniwyd a chynhaliwyd yrarchwiliad er mwyn sicrhau’r hollwybodaeth a phob eglurhad a oedd yn

    angenrheidiol yn ein barn ni er mwyn ini gael digon o dystiolaeth i fod ynrhesymol sicr bod y datganiadauariannol yn rhydd o unrhywgamddatganiadau sylfaenol, boedwedi’u hachosi gan dwyll neu unrhywafreoleidd-dra neu gamgymeriad arall.Wrth ffurfio ein barn, gwerthuswyddigonolrwydd cyffredinol yr wybodaetha gyflwynwyd yn y datganiadauariannol hefyd.

    BarnYn ein barn ni:

    • mae’r datganiadau ariannol yncyflwyno darlun cywir a theg ogyflwr materion y grŵp fel ar 31Mawrth 2011 ac o’r adnoddaumae’n eu derbyn a’r defnydd o’radnoddau hynny, yn cynnwys eiincwm a’i wariant ar gyfer yflwyddyn a ddaeth i ben ar ydyddiad hwnnw;

    • mae’r datganiadau ariannol wedicael eu paratoi’n briodol yn unol agArferion Cyfrifo DerbyniolCyffredinol y Deyrnas Unedig;

    • mae’r datganiadau ariannol wedicael eu paratoi yn unol â DeddfCwmnïau 2006, ac

    • mae’r wybodaeth a gyflwynir ynAdroddiad Blynyddol yrYmddiriedolwyr yn gyson â’rdatganiadau ariannol.

    Sarah Case FCA DChAUwch Archwiliwr StatudolAr Gyfer ac Ar RanBroomfield & Alexander LimitedCyfrifwyr Siartredig acArchwilwyr StatudolSiambrau Waters LaneWaters LaneCasnewyddGwentNP20 1LA

    Dyddiedig 18fed Gorffennaf 2011

    Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Cyf.Adroddiad yr Archwilwyr Annibynnol i AelodauYmddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Cyf.Ar Gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Mawrth 2011

  • 15

    Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Adolygiad Blynyddol

    Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Cyf.Diolch i’n Cyllidwyr Ni i Gyd

    Rhoddion dros £500.Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i’r cyllidwyr a’r cyfranwyr mawr a

    ganlyn, ac i deuluoedd y rhai sydd wedi gadael rhodd mewn ewyllys ihelpu gyda gwaith yr Ymddiriedolaeth.

    Brian Martin (rhodd mewn ewyllys)

    Crwydrwyr Caerdydd a’r Fro

    Cemex

    Dorothy a Phil Blatcher

    Ethel Gwynne Morgan Elusennol

    Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

    Cyfeillion Ynysoedd Sgomer a Skokholm

    Gudrun Skeels (rhodd mewn ewyllys)

    Mudiad Hedley

    J Talbot

    Jenny Cripps GAYE

    Julia Mount

    Legal & General

    Cronfa Arglwydd Merthyr

    Martin Heywood

    Megan Foster (rhodd mewn ewyllys)

    Grŵp Lleol Canol Sir Benfro

    Molly Jennings (rhodd mewn ewyllys)

    Mudiad Oakdale

    Grŵp Adar Sir Benfro

    Cronfa Effaith Sir Benfro

    Mudiad Ratcliffe

    Cronfa Ffordd Rees Jeffries

    RWE Npower

    Terfynell LNG South Hook

    Diolch hefyd i’r cyfranwyr dienw niferus ac i deuluoedd y rhai sydd wedi gadaelrhodd yn eu hewyllys drwy gyfrwng y Gymdeithas Frenhinol o

    Ymddiriedolaethau Natur.

    Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei argraffu arbapur sydd wedi’i achredu gan FSC

  • Ymddiriedolaeth De a Gorllewin Cymru

    Swyddfa Gofrestredig:Y Ganolfan Natur, Heol y Ffynnon, TonduPen-y-bont ar Ogwr CF32 0EHFfôn: 01656 724100E-bost: [email protected]: www.welshwildlife.org

    Rhif Cofrestru’r Elusen: 1091562Rhif Cofrestru’r Cwmni: 4398959

    Hefyd yng Nghanolfan Natur Cymru,Cilgerran, Aberteifi, SA43 2TBFfôn: 01239 621600/621212

    Aelodau o’r Bwrdd Safonau Codi Arian

    Creu tirlun byw

    Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn ar gael ynSaesneg i’w lawrlwytho ar ffurf PDF o’n gwefanni - www.welshwildlife.org - neu fel copi papurdrwy anfon amlen gyda stamp a chyfeiriad arnii’r cyfeiriad isod.

    Gyda diolch i’r ffotograffwyr a ganlyn am gaeldefnyddio eu lluniau:M J Clark, Vaughn Matthews, Ben Dean, DaveBoyle, Nigel McCall, Gillian Day a staff agwirfoddolwyr eraill yr Ymddiriedolaeth.