abertawe ar gyfer gwaith ymchwil i dreftadaeth ddiwydiannol

6
‘Milltir Euraid’ Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol Mae gan Gymru le i hawlio taw hi oedd cenedl ddiwydiannol gynta’r byd. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd de Cymru’n benodol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel canolfan ar gyfer diwydiannau trwm, cynhyrchu glo a’r fasnach forwrol. Gadawodd y crynhoad hwn o ddiwydiant ac arloesedd etifeddiaeth gref o adnoddau mewn print, ac archifau y gellir eu defnyddio ar gyfer pob math o waith ymchwil hanesyddol, economaidd a diwylliannol. Mae chwe llyfrgell ac archif ymchwil pwysig yn Abertawe. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn creu un o’r cyfleusterau ymchwil gorau un o ran treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Lleolir y rhan fwyaf o’r rhain o fewn milltir i’w gilydd yn ardal forwrol hanesyddol Abertawe. Mae’r llyfryn hwn yn rhoi amlinelliad cryno o gryfderau allweddol pob un o’r sefydliadau. 1

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 10-Mar-2016

226 views

Category:

Documents


9 download

DESCRIPTION

Mae chwe llyfrgell ac archif ymchwil pwysig yn Abertawe. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn creu un o’r cyfleusterau ymchwil gorau un o ran treftadaeth ddiwydiannol Cymru.

TRANSCRIPT

Page 1: Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

‘Milltir Euraid’ Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I

Dreftadaeth Ddiwydiannol

Mae gan Gymru le i hawlio taw hi oedd cenedl ddiwydiannol gynta’r byd. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd de Cymru’n benodol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel canolfan ar gyfer diwydiannau trwm, cynhyrchu glo a’r fasnach forwrol. Gadawodd y crynhoad hwn o ddiwydiant ac arloesedd etifeddiaeth gref o adnoddau mewn print, ac archifau y gellir eu defnyddio ar gyfer pob math o waith ymchwil hanesyddol, economaidd a diwylliannol. Mae chwe llyfrgell ac archif ymchwil pwysig yn Abertawe. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn creu un o’r cyfleusterau ymchwil gorau un o ran treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Lleolir y rhan fwyaf o’r rhain o fewn milltir i’w gilydd yn ardal forwrol hanesyddol Abertawe. Mae’r llyfryn hwn yn rhoi amlinelliad cryno o gryfderau allweddol pob un o’r sefydliadau.

1

Page 2: Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

Amgueddfa Abertawe

Agorodd Amgueddfa Abertawe ym 1841, a hi yw amgueddfa hynaf Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Sefydliad Brenhinol De Cymru, a sefydlwyd ym 1835. Ers 1990, mae’r Amgueddfa wedi bod yng ngofal Dinas a Sir Abertawe. Mae’r Amgueddfa’n gweithredu ar bedwar safle: y Ganolfan Gasgliadau yng Nglandŵr, y Pontŵn yn y Marina, Canolfan y Dramffordd yn Sgwâr Dylan Thomas a’r Amgueddfa ei hun. Mae casgliadau’r Amgueddfa’n eang, o longau morwrol hanesyddol i borslen cain Abertawe. Mae hyn yn golygu ei bod yn adnodd gwerthfawr wrth ymchwilio i gefndiroedd, bywydau ac amserau pobl Dinas a Sir Abertawe. Mae gan yr Amgueddfa lyfrgell hanesyddol sy’n cyfeirio at y casgliadau hefyd. Yn y llyfrgell mae casgliad o lyfrau ac effemera sy’n dyddio nôl i’r 19eg ganrif ac mae staff arbenigol wrth law i roi cymorth a chyngor. Rhaid trefnu apwyntiad i ddefnyddio’r llyfrgell gyfeirio ac ni ellir benthyg y llyfrau. Oriau agor Amgueddfa Abertawe: Maw i Sul 10am-5pm a dydd Llun Gŵyl y Banc.

Llyfrgell yr Amgueddfa: Trwy apwyntiad yn unig. Canolfan Gasgliadau’r Amgueddfa, Glandŵr: dydd Mercher 10am-4pm Y llongau hanesyddol yn y Marina: yn dibynnu ar y tymor neu trwy apwyntiad. Canolfan y Dramffordd: yn dibynnu ar y tymor neu trwy apwyntiad.

I gysylltu Ffôn: (01792) 653763 E-bost: [email protected]

Gwefannau www.abertawe.gov.uk/swanseamuseum www.swanseaheritage.netCyfeiriad Victoria Road, Abertawe, SA1 1SN Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Yn ogystal â chyflwyno arddangosfeydd sy’n adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru gyfan dros y tair canrif diwethaf, mae’r Amgueddfa’n gartref i lyfrgell ymchwil helaeth. Mae dros 25,000 o gyfrolau yn y llyfrgell, ynghyd ag archif sy’n cynnwys dros 40,000 o ffotograffau’n ymwneud â hanes diwydiant, morwriaeth a thrafnidiaeth yng Nghymru. Gall ymchwilwyr elwa ar arbenigedd tîm o guraduron arbenigol a holl gasgliadau Amgueddfa Cymru.

2

Page 3: Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

Yn ogystal â chasgliad cynrychiadol o hanesion diwydiannol, mae gan y llyfrgell gasgliad o weithiau technegol a chyfarwyddiadau ar gyfer y diwydiannau hyn. Mae gan y llyfrgell set gyflawn o Lloyds Registers o 1836 hyd heddiw (ynghyd â chyfrolau dethol o 1764 i 1832), a chyfres o gyfrolau sy’n rhestru’r llongddrylliadau oddi ar arfordir Ynysoedd Prydain. Mae gan y llyfrgell nifer dda o restri cyhoeddedig o fwyngloddiau a chwareli gweithredol o’r 1850au hyd heddiw. Mae’n cadw cyfresi o gyfnodolion pwysig hefyd gan gynnwys Adroddiadau Blynyddol Arolygwyr Mwyngloddiau E.M., sy’n rhestru’r holl ddamweiniau marwol a ddigwyddodd rhwng 1850 a 1914. Yn ogystal, rydyn ni wedi tanysgrifio i dros ddeugain o gyfnodolion cyfoes ar hyn o bryd.

Mae’r llyfrgell gyfeirio ar agor i’r cyhoedd trwy apwyntiad yn unig. Fel llyfrgell gyfeirio, nid yw’n benthyg llyfrau i unigolion, ond gellir trefnu benthyg llyfrau i lyfrgelloedd eraill trwy’r gwasanaeth benthyg rhwng llyfrgelloedd.

Bydd angen trefnu apwyntiad i ddefnyddio’r llyfrgell. I wneud hyn, dylech gysylltu â’r curadur sy’n gyfrifol am yr adran o’r llyfrgell rydych chi am ei gweld.

Amserau agor Llyfrgell: Dydd Llun i ddydd Gwener: 10.30am-1pm a 2pm-4.30pm Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc

Amgueddfa: Pob dydd: 10am-5pm

I gysylltu Ffôn: (01792) 638950 Gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/abertawe Cyfeiriad Ffordd Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3RD Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn casglu dogfennau, mapiau, ffotograffau, a recordiadau ffilm a sain sy’n gysylltiedig â phob agwedd ar hanes Gorllewin Morgannwg. Gwasanaeth ar y cyd yw hwn ar gyfer Cynghorau Dinas a Sir Abertawe a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Gall y cyhoedd ddefnyddio holl eitemau’r Archif sydd yn y catalog cyhoeddus ac sydd wedi eu marcio fel eitemau sydd ar gael yn ystafell archwilio’r archif yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Mae’r archif yn defnyddio system docynnau i ddarllenwyr, sy’n golygu bod modd i chi gyrchu archifau eraill yng Nghymru, gan gynnwys archifau Prifysgol Abertawe. Amserau agor Dydd Mawrth: 9am-7pm

Dydd Mercher i ddydd Gwener: 9am-5pm Dydd Sadwrn: 10am-4pm (Y Ganolfan Hanes Teuluol yn unig) Ar gau pob dydd Sul

I gysylltu Ffôn: (01792) 636589

E-bost: [email protected] Gwefan www.swansea.gov.uk/westglamorganarchivesCyfeiriad Y Ganolfan Ddinesig, Ffordd Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN

3

Page 4: Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

Casgliad Astudiaethau Lleol Gwasanaeth Llyfrgelloedd Dinas a Sir Abertawe

Mae gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Dinas a Sir Abertawe gasgliad pwysig o ddeunyddiau hanes lleol yn y Llyfrgell Ganolog yn y Ganolfan Ddinesig. Mae’n cynnwys deunydd ar hanes lleol Abertawe a deunydd a allai helpu gydag ymchwil i achyddiaeth ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n cynnwys: Gweithiau mewn Print Mae Casgliadau Cymru ac Abertawe yn cynnwys dros 120,000 o lyfrau, pamffledi a chyfrolau o gyfnodolion hen a modern, gan gynnwys dyddiaduron neu drafodion nifer o gymdeithasau hanes ac archaeoleg. Mae’n cynnwys cyfresi helaeth o gyfeirlyfrau masnach, cofrestrau etholiadol, llyfrau ffôn, tywyslyfrau ac ati. Papurau newydd a chyfnodolion Mae’r Llyfrgell yn cadw cyfresi helaeth o bapurau newydd Cymreig ar ficroffilm. Mae hyn yn cynnwys The Cambrian, y papur newydd cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru, sy’n dyddio nôl i 1804.

The Cambrian Index Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe sydd wedi datblygu’r mynegai cyfrifiadurol hwn i The Cambrian (www.swansea.gov.uk/cambrian). Mae’n adnodd pwysig i bobl sy’n ymchwilio i hanes de Cymru. Mae’r project yn parhau, ac mae’n tyfu o hyd. Mapiau a phlaniau Mae’r rhain yn cwmpasu’r cyfnod o tua 1835 (mapiau degwm a dosraniad) hyd heddiw. Mynediad i’r rhyngrwyd Mae llawer o wybodaeth sydd o ddiddordeb bobl sy’n ymchwilio i hanes Cymru, hanes lleol a hanes teuluol ar y rhyngrwyd. Mae cyfleusterau e-bost a’r rhyngrwyd ar gael i bawb yn y Llyfrgell Ganolog ac yn yr holl lyfrgelloedd eraill ar draws Dinas a Sir Abertawe, am gyfnodau o 2 awr y dydd. Mae hyn yn cynnwys mynediad rhad ac am ddim i Ancestry.com, un o’r prif wefannau ar gyfer ymchwilio i hanes teuluol. Ffurflenni Cyfrifiad Mae gan y Llyfrgell gopïau microffilm o ffurflenni Cyfrifiad ardal Dinas a Sir Abertawe i gyd ar gyfer y blynyddoedd 1841, 1851, 1861, 1871, 1881, 1891 a 1901. Cynigir mynediad rhad ac am ddim i wybodaeth y cyfrifiad ar-lein trwy’r wefan Ancestry.com (hyd at, a chan gynnwys 1901). Gwasanaeth Ask Library Line Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn lle gall llyfrgellwyr gwybodaeth profiadol ateb cwestiynau ffeithiol, helpu i ffeindio gwybodaeth ac adnoddau perthnasol ar eich cyfer neu eich cyfeirio at asiantaethau eraill lle bo hynny’n briodol.

4

Page 5: Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

Amserau agor Dydd Mawrth i ddydd Gwener: 8.30am-8pm Dydd Sadwrn a dydd Sul: 10am-4pm Ar gau pob dydd Llun

I gysylltu Ffôn: (01792) 636464 E-bost: [email protected]

Gwefan www.swansea.gov.uk/librariesCyfeiriad Y Ganolfan Ddinesig, Ffordd Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe

Archifau Richard Burton yw cartref casgliadau archif Prifysgol Abertawe. Lleolir yr archifau yn y llyfrgell a’r ganolfan wybodaeth ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe. Dyma brif gryfderau’r archifau: Archifau lleol: sy’n cynnwys archifau busnes diwydiannau metel a pheirianneg Abertawe a’r cylch a Rheilffordd y Mwmbwls, cofnodion Methodistaidd cylch Abertawe a phenrhyn Gŵyr a chofnodion plwyf Priordy Dewi Sant. Casgliad Maes Glo De Cymru: cofnodion yr NUM (Ardal De Cymru) a’i ganghennau neu gyfrinfeydd, Sefydliadau’r Glowyr a ffotograffau a chasgliadau personol unigolion o bob rhan o Faes Glo’r De. Casgliadau llenyddol: yn enwedig cofnodion am lenyddiaeth Gymreig yn Saesneg. Cofnodion y Brifysgol: cofnodion y Brifysgol o adeg ei sefydliad ym 1920 ymlaen. Mae’r archifau’n agored i bawb ac mae’r staff bob amser yn barod i ateb ymholiadau a chynnig cyngor. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw trefnu apwyntiad. Amserau agor Dydd Llun i ddydd Gwener: 9.15am-1pm a 2-4.45pm

Nos Fawrth yn ystod y tymor drwy drefniant ymlaen llaw I gysylltu Ffôn: (01792) 295021

E-bost: [email protected] http://www.swan.ac.uk/lis/historicalcollections/Archives/ Cyfeiriad Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP Llyfrgell Glowyr De Cymru

Sefydlwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1973 ac mae’n adnodd amrywiol a chynhwysfawr ar gyfer pobl sy’n ymchwilio i hanes a threftadaeth Maes Glo De Cymru. Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau, pamffledi, cyfnodolion, cyfeirlyfrau masnach a dyddiaduron, posteri, hanesion llafar, fideos a baneri sy’n gysylltiedig â hanes cymdeithasol, diwylliannol, addysgol a gwleidyddol Maes Glo De Cymru.

5

Page 6: Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

Mae’r llyfrgell yn ategu amrywiaeth eang o gyrsiau Adran Addysg Barhaus i Oedolion Prifysgol Abertawe, ac mae’n cynnwys casgliad helaeth o ddeunyddiau sy’n ymwneud â hanes lleol. Mae’r llyfrgell yn agored i bawb ac mae’r staff bob amser yn fodlon helpu gydag ymholiadau a chynnig cyngor. Nid oes angen apwyntiad. Amserau agor Yn ystod y tymor: Gwyliau:

Dydd Llun i ddydd Iau: 9am-8pm Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am-5pm

Dydd Gwener a Sadwrn: 9am-5pm Dydd Sadwrn a Sul: Ar gau Dydd Sul: Ar gau

I gysylltu Ffôn: (01792) 518603/518693 E-bost: [email protected]

Gwefan www.swansea.ac.uk/lis/library/libraries/swmlCyfeiriad Gower Road, Abertawe, SA2 7NB

6