adolygiad blynyddol 2011-12

8
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Adolygiad Blynyddol

Upload: cardiff-metropolitan-university

Post on 15-Mar-2016

228 views

Category:

Documents


1 download

DESCRIPTION

Mae'r Adolygiad Blynyddol hwn yn crynhoi datblygiad a chyflawniadau'r Brifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd 2011-12.

TRANSCRIPT

Page 1: Adolygiad Blynyddol 2011-12

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Adolygiad Blynyddol

Page 2: Adolygiad Blynyddol 2011-12

Neges y Llywydd

Bu llawer o ddatblygiadau, a llawer o gyflawniadau, ondrydym yn cydnabod ei bod hefyd wedi bod yn flwyddyno ansicrwydd i'n myfyrwyr a'n staff. Ond, yn y pen draw,mae'r flwyddyn wedi dod i ben gyda chadarnhad bod eindyfodol yn ddiogel, ac y bydd Prifysgol FetropolitanCaerdydd yn parhau i ffynnu fel sefydliad annibynnol.Fodd bynnag, tra'n cynnal ei hannibyniaeth, rhaid i nibwysleisio bod y Brifysgol hon yn ymrwymedig ichwarae rhan annatod ym maes Addysg Uwch yngNghymru. Yn fwy na hynny, mae Prifysgol FetropolitanCaerdydd yn ymrwymedig i barhau i gyflawni ei rôlallweddol mewn cymdeithas ddinesig.

Mae'r Adolygiad Blynyddol hwn yn dangos yr hyn agyflawnwyd yn y Brifysgol dros y flwyddyn ddiwethaf -ym maes celf a dylunio, addysg, iechyd, rheoli, ac, wrthgwrs, chwaraeon yn y flwyddyn euraidd hon ym mydchwaraeon ym Mhrydain. Roedd y Gemau Olympaidd a'rGemau Paralympaidd wrth wraidd y llwyddiant hwnnwym maes chwaraeon, ac rydym wrth ein boddau bod einmyfyrwyr a'n staff wedi chwarae rôl mor allweddol -boed hynny drwy ennill medalau aur, bod yn aelod o'rtimau cymorth, neu helpu i letya'r timau a ddefnyddioddein cyfleusterau hyfforddiant o'r radd flaenaf.

Yn ystod y flwyddyn, penderfynodd y Brifysgol adleolirhan o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd i gyfleusternewydd a adeiladwyd at y diben yng NghampwsLlandaf. Mae dyluniad yr adeilad newydd gwerth £14myn hyrwyddo deialog traws-ddisgyblaethol ac archwiliodrwy ymgysylltu'n fwy helaeth â syniadau a thechnegau. Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau, a disgwylir i'rcyfleuster newydd groesawu ei fyfyrwyr cyntaf arddechrau 2014. Yn ogystal, llwyddodd y Brifysgol i gadwei statws Buddsoddwyr mewn Pobl yn ystod y flwyddyn.

parhau fel sefydliad annibynnol, gan addysgu a datblygumyfyrwyr y ddinas hon a'r tu hwnt, a gobeithio gwneudhynny am genedlaethau i ddod.

Mae'r ffaith y bydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ynparhau i fodoli a ffynnu yn ddiolch yn bennaf istiwardiaeth a natur benderfynol ein Cadeirydd, BarbaraWilding, a'i Llywodraethwyr, yn ystod blwyddyn o grynansicrwydd a newid posibl. Maent wedi delio â'r heriauhynny tra'n sicrhau bod ymrwymiad o ddydd i ddydd yBrifysgol i'w myfyrwyr a'i staff wedi parhau. Rwy'n eucanmol hwy a'r hyn y mae'r Brifysgol wedi'i gyflawni drosy 12 mis diwethaf.

Mae'r Adolygiad Blynyddol hwn yn adlewyrchu ac yncydnabod y cyflawniadau hynny, ac yn tystio'r hyn ygellir ei gyflawni drwy ymrwymiad, gweledigaeth aphartneriaeth. Ni fu cyfraniad Prifysgol FetropolitanCaerdydd at y cymunedau y mae'n eu gwasanaethauerioed mor bwysig.

Y Gwir Anrhydeddus, ArglwyddFaer Caerdydd, y CynghoryddDerrick Morgan, LlywyddPrifysgol FetropolitanCaerdydd.

Neges y Cadeirydd a'r Is-Ganghellor

Ar ôl cynnal cyfweliadau helaeth ar draws yr ystod eango weithgareddau'r Brifysgol, pleser oedd nodi bod tîmadolygu Buddsoddwyr mewn Pobl wedi disgrifio'rBrifysgol fel sefydliad ag aeddfedrwydd cynyddol achymhelliant i wella sy'n cyflawni canlyniadau pendant.Yn olaf, mae'r Brifysgol wedi arwain y ffordd ymhlithsefydliadau addysg uwch yng Nghymru o ran ei dull oreoli ynni a lleihau carbon, ac o ganlyniad i'r gwaith hwn,cafodd ei chynnwys yn y rhestr fer ar gyfer y categoriCyfraniad Arbennig at Ddatblygu Cynaliadwy yngNgwobrau Addysg Uwch 2012 y Times. Mae materioncymdeithasol, yn enwedig yr economi di-dwf, yn parhaui effeithio ar lawer ohonom. Ond mae'r Brifysgol hon yngweithio gyda busnesau yn ddyddiol i helpu i newidhynny, gan ddod â sgiliau academaidd i'r gweithle i helpui ddatblygu cwmnïau yng Nghymru a'u galluogi i fod arflaen y gad mewn diwydiant. Rydym yn parhau iymestyn allan i'n cymunedau lleol, gan ymgymryd agystod eang o brosiectau sy'n ehangu cyfranogiad mewnAddysg Uwch, ac yn cau'r bwlch mewn cyfleoedd ermwyn i bawb ddatblygu eu hunain.

Fel y dywedwyd, bu sawl llwyddiant ar draws y Brifysgolac mae'r Adolygiad hwn yn dyst i hynny. Dymuna Bwrddy Llywodraethwyr a'r Weithrediaeth dalu teyrnged i staffa myfyrwyr am eu gwaith caled. Maent yn llongyfarch acyn diolch i'r staff hynny sydd wedi ennill gwobrau agrantiau ymchwil cystadleuol.

Edrychwn ymlaen at ddyfodol cadarnhaol a llwyddiannusar gyfer y Brifysgol hon. Ni fyddwn yn gorffwys ar einrhwyfau. Byddwn yn ymdrechu i ddatblygu profiadmyfyrwyr hyd yn oed ymhellach, gan greu sefydliad agydnabyddir yn rhyngwladol fel un arloesol, creadigol achwbl gynaliadwy.

Mae'r Adolygiad Blynyddol hwn yn crynhoi datblygiad achyflawniadau'r Brifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd2011-12.Barbara Wilding CBE,

QPM, Cadeirydd yLlywodraethwyr

Yr Athro Antony Chapman, Is-Ganghellor

Mae'n fraint enfawr cael bod yn Llywydd PrifysgolFetropolitan Caerdydd yn dilyn cyfres hir a hynodnodedig o wleidyddion sydd wedi cyflawni'r rôl hon tra'ngwasanaethu pobl Caerdydd fel eu Harglwydd Faer.

Mae'r bartneriaeth rhwng y ddinas wych hon a'r Brifysgolwych hon wedi bodoli ers bron 150 mlynedd. Am y rhanfwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf, roedd prydergwirioneddol y byddai Prifysgol Fetropolitan Caerdyddyn cael ei diddymu ac felly'n dod i ben, gan golli eihunaniaeth gyda'r brifddinas ar yr un pryd. Fel eiLlywydd, rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol yn cael

Page 3: Adolygiad Blynyddol 2011-12

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae myfyrwyrrhyngwladol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedirhoi’r brifysgol ar frig Baromedr MyfyrwyrRhyngwladol 2013 y DU am fodlonrwydd myfyrwyr.Daeth y Brifysgol i’r brig ar draws y byd hefyd mewnarolwg ‘i-graduate’ am ansawdd ei chymorth i fyfyrwyr.Mae’r Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol yn wasanaethymchwil annibynnol sy’n arbenigo yn y farchnad addysgryngwladol, a hon bellach yw’r astudiaeth fwyaf ofyfyrwyr rhyngwladol yn y byd.

Daeth cynrychiolwyr ynghyd o 15 o sefydliadausy’n cynnig rhaglenni Prifysgol FetropolitanCaerdydd mewn naw o wledydd gwahanol iddigwyddiad datblygu a hyfforddi staff a gynhaliwyd arein campws yn Llandaf. Yn ogystal â chydweithwyr obartneriaid y Brifysgol ym maes Addysg Bellach yngNghymru, roedd staff o’n sefydliadau partner ymMwlgaria, Yr Aifft, Moroco, Singapore, Sri Lanka a DeKorea yn bresennol hefyd mewn sesiynau ar bynciau aoedd yn cynnwys moeseg ymchwil, cynllunio datblygiadproffesiynol, materion dysgu ac addysgu, a sicrwyddansawdd.

Llofnododd y Brifysgol femorandwm teirochroggyda’r Arab Academy for Science and MaritimeTechnology (AASMT) a Phrifysgol Alexandria,yr Aifft. Un o brif gytundebau’r memorandwm oedd ypenderfyniad i gynnal Y Gynhadledd Symudedd EU-MEDA gyntaf yn yr Aifft, gan alluogi cynrychiolwyr o’rUndeb Ewropeaidd a’r Dwyrain Canol i ddysgu am ycyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer cyfnewid symudedd yn yrhanbarth. Mae’r cytundeb yn archwilio’r cyfle i

ddatblygu staff a chyfnewid gwybodaeth rhwng partïon,a meithrin y cysylltiadau presennol sy’n bodoli rhwng yprifysgolion.

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi sicrhau daubrosiect arall a ariennir gan yr UndebEwropeaidd dan y Cynllun Erasmus MundusCam 2 gwerth ¤8.7 miliwn. Mae CydweithrediadRhyngwladol gwerth ¤4.37 miliwn rhwng yr UndebEwropeaidd-Moroco-Yr Aifft-Tunisia-Algeria-Libya aPhartneriaethau’r Undeb Ewropeaidd a’rCydweithrediad Rhyngwladol gwerth ¤4.36 miliwnrhwng Gwlad Iorddonen, Libanus, Syria a Phalestina ynrhan o gynllun cydweithredu a symudedd ar gyferAddysg Uwch a‘i nod yw gwella’r cysylltiad gwleidyddol,diwylliannol, addysgol ac economaidd rhwng yr UndebEwropeaidd a’r Trydydd Gwledydd. PrifysgolFetropolitan Caerdydd yw’r unig brifysgol yn y DU i gaelpum prosiect Erasmus Mundus Cam 2 yr UndebEwropeaidd yn olynol ers 2009 gan wneud cyfanswm o¤20.2 miliwn.

Cafwyd lansiad swyddogol yn Dehli obartneriaeth rhwng Prifysgol FetropolitanCaerdydd a Planet EDU, y cwmni gwasanaethauAddysg o India, ym mhresenoldeb Prif WeinidogCymru, y Gwir Barchedig Carwyn Jones AC. Bydd ybartneriaeth rhwng y Brifysgol a Planet EDU yn cynnigrhaglenni busnes a rheoli israddedig ac ôl-raddedig ardraws India drwy’r dull Dysgu Hyblyg a Gwasgaredig(FDL)-system uwch o addysg sydd yn cyfuno dulliautraddodiadol a thechnolegau newydd i ddarparuprofiadau dysgu gwell.

Datblygu Partneriaethau Rhyngwladol

Page 4: Adolygiad Blynyddol 2011-12

Gweithio gydag eraill i atgyfnerthu Addysg Uwch

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd aSantander - drwy Is-adran Fyd-eangPrifysgolion Santander - wedi llofnodi cytundeballweddol i greu cronfa Ysgoloriaeth aChymorth Symudedd gyda'r nod o roi cymorthariannol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ymgymrydag astudiaethau a gwaith ymchwil yn y DU a thramor.Drwy'r bartneriaeth newydd hon, bydd Santander ynariannu ysgoloriaethau unigol ar gyfer ymgeiswyr sy'nbyw mewn gwledydd sy'n rhan o gynllun Santander sy'ndymuno astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd,yn ogystal â nifer o ysgoloriaethau a gwobrau symudedda ddyfernir i fyfyrwyr a staff y Brifysgol sy'n ceisio cynnalgwaith ymchwil dramor.

Cynhaliodd y Brifysgol gyfres o gyfarfodydd â'iChonsortiwm FE2HE a rhanddeiliad eraill er mwynystyried, gyda Llywodraeth Cymru, ffyrdd ogyfrannu'n rhagweithiol at y parth menter agynlluniwyd yng Nghaerdydd, a datblygu academisgiliau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol a gynigirfel rhan o'r prosiect. Un o'r prif heriau cychwynnol argyfer y Grŵp, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o SAUau,Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Sgiliau Sector, PrifysgolCaerdydd, Prifysgol Cymru, Casnewydd a'r BrifysgolAgored yng Nghymru, yw marchnata manteisionymgysylltu â'r darparwyr AB ac AU i sectorgwasanaethau ariannol sy'n ffafrio hyfforddiant mewnolneu allanol yn draddodiadol.

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn llofnodi cytundeb Santander, chwithi’r dde:Matthew Taylor, Pennaeth Menter, Met Caerdydd, yr AthroAntony Chapman, Is-Ganghellor, Met Caerdydd, Arglwydd Burns,Cadeirydd Santander DU a Luis Juste. Cyfarwyddwr DU, PrifysgolionSantander.

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedidatblygu cysylltiad arloesol â Sefydliad yCyfarwyddwyr. Y Brifysgol yw'r gyntaf yng Nghymru idreialu aelodaeth lefel myfyrwyr sy'n atgyfnerthucysylltiadau rhwng aelodaeth Sefydliad y Cyfarwyddwyr,mentrau yng Nghymru, a'r genhedlaeth nesaf oentrepreneuriaid a phobl fusnes.

Agorwyd Canolfan Hyfforddiant Rhyngwladol newyddyn swyddogol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdyddmewn menter ar y cyd â'r Asiantaeth Diogelu Iechyd,Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd.Dyma'r cyfleuster hyfforddiant cyntaf o'i fath,a bydd y gwaith yn y Ganolfan yn canolbwyntioar wella gweithgareddau cynllunio a pharatoi argyfer digwyddiadau cemegol mawr, fel nodiperyglon, asesiadau risg a blaenoriaethu, lleihau risg,cynllunio at argyfwng ac ymateb ac adfer.

Parhaodd y Brifysgol i gefnogi a hyrwyddo cynllun'Prifysgolion MCC', gan sicrhau bod y cricedwyr ifancmwyaf talentog yn cael eu hannog i symud ymlaen iaddysg uwch drwy roi'r cyfleoedd gorau iddyntddatblygu eu criced yn y brifysgol. Yn ystod y flwyddyn,datblygodd y Brifysgol y gydberthynas honymhellach, gan lofnodi cytundeb partneriaethunigryw â Chlwb Criced Sir Morgannwg ac yn sgilhynny, gwelwyd logo Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ynymddangos ar flaen crysau'r Dreigiau mewn gemaucartref ac oddi cartref, a oedd yn ffordd wych ohyrwyddo enw newydd y Brifysgol yn ogystal â chodi eiphroffil cenedlaethol.

Page 5: Adolygiad Blynyddol 2011-12

Sicrhau profiad dysgu o ansawdd uchel

Cynhaliodd y Brifysgol y digwyddiad cyntaferioed yn y DU lle roedd Tri Bardd y Frenhinesyn bresennol. Ymunodd Bardd Plant Cymru, EurigSalisbury, a Bardd Plant Ifanc Cymru, Catherine Fisher â'rBardd Plant Presennol ac awdur Gruffalo, JuliaDonaldson, fel rhan o'i hymweliad cyntaf â Chymru. Yn y digwydd a drefnwyd gan Ysgol Addysg Caerdydd,mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Booktrust,siaradodd Ms Donaldson â staff, athrawon danhyfforddiant ac athrawon o ysgolion partner ambwysigrwydd gwneud y defnydd gorau o lyfrau feladnodd addysgol yn yr ystafell ddosbarth gynradd.

Llwyddodd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd igynnal ei safle fel y brifysgol 'newydd' orau yngNghymru mewn nifer o dablau cynghrair achanllawiau a gyhoeddwyd eleni. Yn ogystal âchael ei henwi'n y brifysgol 'newydd' orau yng NghanllawPrifysgolion 2013 y Guardian, roedd PrifysgolFetropolitan Caerdydd hefyd ymhlith y tair prifysgol orauyng Nghymru. Yn 'The Complete University Guide 2013',llwyddodd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd i gynnal eisafle fel y brifysgol 'newydd' orau yng Nghymru.

Dyfarnwyd y wobr fwyaf mawreddog yn y DUam ragoriaeth ym maes addysgu a chymorthdysgu addysg uwch i Ruth Matheson, uwchddarlithydd yn Uned Datblygu Dysgu acAddysgu Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.Cafodd ei henwi'n un o blith 55 o ddarlithwyr ac aelodauo staff cymorth dysgu yn y DU y dyfarnwydCymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol iddynt gan yrAcademi Addysg Uwch (HEA). Mae Ruth yn gyfrifol amhyrwyddo a gweithredu cynllun datblygiad proffesiynol

parhaus Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, sy'n galluogistaff i gael eu cydnabod am eu haddysgu a'u cymorthdysgu.

Ymunodd Canolfan Dysgu Seiliedig ar Waith y Brifysgolâ darparwr datblygu sefydliad a'r gweithlu blaenllaw,Stratum, mewn menter arloesol sy'n ceisiocyflawni dysgu lefel uchel i gwmnïau mawr yngNghymru. Prif ddiben 'Gwnaed yng Nghymru' ywmeithrin lefel well o ddealltwriaeth rhwng y sectoraddysg uwch a chyflogwyr o ran y cyfraniad cadarnhaoly gall pob un ohonynt ei wneud at bartneriaeth ddysgu.

Treuliodd Dan Peterson, myfyriwr Darlunio ynYsgol Gelf a Dylunio Caerdydd, fis gyda milwyrPrydain fel artist rhyfel yn Affganistan. Tra yno, gyda Gwarchodlu Dragŵn 1af y Frenhines (aelwir hefyd yn Farchfilwyr Cymreig), aethpwyd â Danallan ar batrolau a gwelodd sawl gweithrediad byw ynNhalaith Helmand, a gwnaeth sgetsys a lluniau yn ystodei ymweliad. Cyfrannodd profiadau Dan at ei raddderfynol fel rhan o'i draethawd hir a modiwl 'Byd GoIawn' y cwrs, lle y caiff myfyrwyr eu hannog i wneudprofiad gwaith.

Cyflwynodd y Brifysgol ei Chynllun CymrodoriaethAddysgu a Arweinir gan Fyfyrwyr ei hun yn ystody flwyddyn. Roedd y cynllun, a hyrwyddwyd ar y cyd agUndeb y Myfyrwyr, yn nodi, cydnabod a gwobrwyo arferda mewn dysgu ac addysgu ym mhob rhan o'r Brifysgola'i Choleg Cyswllt, Ysgol Fasnach Llundain. Drwy roipwyslais cynyddol ar lais y myfyriwr, mae'r Cynllun ynrhoi'r cyfle i ddysgwyr gydnabod a gwobrwyo arferaddysgu da.

Bardd y Plant, Julia Donaldson.

Page 6: Adolygiad Blynyddol 2011-12

Drwy gydweithio â nifer o gasgliadau sŵoleg y DU, mae academyddion o Ysgol ChwaraeonCaerdydd wedi gallu helpu i asesu clefyd ygalon ymysg ein cefndryd esblygiadol agosaf trahefyd yn casglu data cymharol. Mae’r gwaith hwn wedicyfrannu’n sylweddol at sefydlu’r European Great ApeHeart Project (EGAHP). Nod y Grŵp, sy’n cynnwysllawfeddygon milfeddygol, ymchwilwyr, cardiolegwyr aphatholegwyr o’r DU, yw cynllunio protocol asesupriodol er mwyn ymchwilio i glefyd cardiofasgwlaiddymysg epaod mawr mewn casgliadau yn Ewrop agwarchodfeydd yn Affrica.

Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi mewn sefydlu LabGwneuthuriadau (Fab Lab) yn Ysgol Gelf a DylunioCaerdydd. Rhwydwaith byd-eang o labordai lleol yw’rFab Labs sy’n hwyluso dyfeisio ac arloesi drwy sicrhaubod offer ar gyfer gwneuthuriadau a phrototeipio digidolar gael yn hwylus i’w defnyddio. Bydd y Labordy’ngalluogi’r Ysgol i fwrw iddi gyda phroses achredu’r FabAcademy a fydd yn cychwyn ym mis Ionawr 2013.

Mae’r Brifysgol wedi llwyddo yn ei chais i arwainCanolfan Addysg Uwch De-ddwyrain Cymru argyfer Entrepreneuriaeth ymysg Ieuenctidgwerth £1m a noddir gan Lywodraeth Cymru.Bydd y Ganolfan, sy’n cynnwys Prifysgol FetropolitanCaerdydd, Prifysgol Caerdydd, y Brifysgol Agored yngNghymru, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol CymruCasnewydd, yn cydweithio’n agos â sefydliadau AddysgBellach yn yr ardal. Bydd yn darparu amrywiaeth obrofiadau, a fydd yn datblygu entrepreneuriaid gyda’rsgiliau a’r uchelgais sydd eu hangen er mwyn gwireddueu potensial gyrfaol.

Lansiwyd Gweithdy Platfform yr SEE (SharingExperience Europe) yn swyddogol gan y GwirAnrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif WeinidogCymru. Rhwydwaith o 11 o bartneriaid Ewropeaiddyw’r SEE sy’n rhannu arferion gorau rhyngwladol ermwyn gwella’r ddealltwriaeth o ddylunio ar gyferarloesedd ymysg llunwyr polisïau a rheolwyr rhaglenni.Roedd y gweithdy deuddydd yn cynnwys areithiau asesiynau rhyngweithiol ac roedd 30 o gynrychiolwyr ynbresennol o sefydliadau partner o bob cwr o’r UndebEwropeaidd. Cafodd y Prosiect ei sicrhau gan GanolfanGenedlaethol y Brifysgol ar gyfer Dylunio Cynhyrchion aDatblygu Ymchwil (PDR) a’i hariannu ar y cyd gan yComisiwn Ewropeaidd, DG Enterprise a’r Diwydiant.

Mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn parhau iarwain cyfraniad y Brifysgol at brosiect gwerth £11miliwn ‘Frailomic’ Ewrop Gyfan, a’i nod yw gwellaansawdd bywyd poblogaeth sy’n heneiddio drwy atalanableddau rhag datblygu. Gan weithio ar yr egwyddorbod anabledd yn dilyn cyflwr o eiddilwch, mae’r prosiectyn ceisio datblygu modelau rhagfynegi, diagnostig aphrognostig y gellir eu defnyddio mewn lleoliadauclinigol.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ysgol ChwaraeonCaerdydd wedi cydweithio er mwyn datblygu SefydliadMeddygaeth Pêl-droed Cymru i reoli a darparu ystod owasanaethau meddygaeth chwaraeon i chwaraewyr pêl-droed o bob oedran a gallu ledled Cymru. Mae’r Sefydliad wedi’i achredu fel CanolfanRagoriaeth ym maes meddygaeth gan FIFA ac oganlyniad, hon yw’r ganolfan gyntaf o’i fath yny DU.

Ymchwil a Menter llwyddiannus ac effeithiol

Gwaith ar yr European Great Ape Heart Project yn Sw Gaer.^Delwedd: Phil Noble

Page 7: Adolygiad Blynyddol 2011-12

Darparu Cyfiawnder CymdeithasolBu disgyblion o ysgolion o bob cwr o Gaerdydd aChasnewydd yn cymryd rhan yn Academi CogyddionIfanc Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Nod ycynllun, a gynlluniwyd ar gyfer pobl ifanc sy’n dilyncyrsiau TGAU, Lefel A neu Ddiploma mewn Lletygarwch,yw cryfhau sgiliau ymarferol disgyblion a’u galluogi i gaelprofiad gwaith gwerthfawr mewn amgylcheddproffesiynol. Cefnogwyd y prosiect hwn gan SefydliadArglwydd Forte.

Daeth dros 220 o ddysgwyr i Ysgol Haf EhanguMynediad 2012, lle’r oedd yno dros 20 ogyrsiau rhagflas i bob math o bynciau a oedd yncynnwys pum ysgol academaidd Prifysgol FetropolitanCaerdydd. Mae’r Ysgol Haf yn parhau i fod yn elfenallweddol o ymrwymiad y Brifysgol i wneud cyfraniadsylweddol tuag at gyfiawnder cymdeithasol ac ehangunifer y rhai sy’n cymryd rhan. Roedd bron i 50 y cant o’rdysgwyr hyn yn hanu o gefndiroedd Cymunedau’nGyntaf ac roedd llawer mwy o gefndiroedd AddysgUwch anhraddodiadol eraill. Mae’r cyrsiau’n darparullwybr i Addysg Uwch ar gyfer dysgwyr nad ydynt, yn aml iawn, wedi ystyried prifysgol yn y gorffennol.

Comisiynwyd y Brifysgol gan y RhwydwaithMaethu i ymchwilio i sut mae cynhalwyr maethpresennol yn ystyried y gellir annog y plant yn eu gofal iddilyn addysg ôl-16 a’u cynorthwyo gyda’r addysghwnnw. Nododd y prosiect, sy’n cael ei arwain gan dîm oymchwilwyr o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd, nifer orwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan a chyflawni.Nododd hefyd y cyfleoedd i wella rhagolygon plantsydd wedi’u maethu drwy sicrhau bod gan eu cynhalwyrfwy o ran yn addysg y plant.

Gan fod hon yn flwyddyn Olympaidd, roedd yn briodolbod y prif bwyslais ar ddefnyddio Chwaraeon er mwyndenu dysgwyr. Roedd y prosiectau’n cynnwys y RhaglenActive Soles, a oedd yn ymgysylltu âgwirfoddolwyr o’r gymuned er mwyn datblygueu sgiliau arwain mewn clwb ar ôl ysgol dros gyfnodo chwe wythnos. Rhoddodd y gwirfoddolwyr y sgiliauhyn ar waith wrth iddynt hyfforddi disgyblion ysgolioncynradd mewn disgyblaethau athletaidd yn ystod yclybiau ar ôl ysgol er mwyn eu paratoi ar gyfercystadlaethau yn ystod y gwanwyn. Uchafbwynt yRhaglen oedd Gemau’r Disgyblion Iau, a gynhaliwyd yngNghanolfan Athletau Dan Do Genedlaethol y Brifysgol.Yno, roedd y gwirfoddolwyr yn gyfrifol am arwain ytimau a ddewiswyd o chwech o ysgolion cynradd yrardal.

Lauren Keen a Celyn Dibble gyda’u tystysgrifauGwobr Academi Cogyddion Ifanc.

Page 8: Adolygiad Blynyddol 2011-12

Helen Glover MBE, un o raddedigion PrifysgolFetropolitan Caerdydd, enillodd fedal aur gyntafGwledydd Prydain yn y Gemau Olympaidd, gyda’iphartner rhwyfo Heather Stanning yng nghystadleuaethparau’r menywod. Roedd y paralympwyr yn cynnwysAled Sion Davies MBE, a enillodd aur yngnghategori’r Ddisgen F42, Stephen Thomas(hwylio) a Nathan Stephens (gwaywffon).Llongyfarchiadau i Helen ac Aled am dderbyn MBE felrhan o restr gwobrwyo Blwyddyn Newyddd 2013.

Roedd cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol eraill addewiswyd ar gyfer y Gemau Olympaidd yn cynnwysDai Greene (400m dros y clwydi), Brett Morse (disgen),Georgina Geikie (saethu â gwn), Mark Hawkins (pêl-law),Stef Collins, Rose Anderson a Jena Wade-Fray (pêl-fasged).

Bu hyfforddwyr, dadansoddwyr a staff cymortho Brifysgol Fetropolitan Caerdydd hefyd yncymryd rhan yn Llundain 2012. Roeddent yncynnwys Scott Simpson (Athletau’r DU), DamianJennings, Lucy Power, Sarah Wagstaff a David Bailey(pêl-fasged menywod Gwledydd Prydain), MikePeyrebrune (nofio Gwledydd Prydain , Simon Jones(beicio Gwledydd Prydain ac Awstralia), Mitch Fenner(Chwaraeon y BBC), John Beer (gymnasteg GwledyddPrydain), Yvonne Saker a Jose Castro (pêl-foli traeth) aSandra Stoll (pêl-foli traeth y Gemau Paralympaidd).

Mae gan y Brifysgol gyfleusterau o’r raddflaenaf yng Nghampws Cyncoed a’r safle hwn addefnyddiwyd fel canolfan hyfforddi gan dimauOlympaidd Trinidad a Tobago, a Seland Newydd athimau Paralympaidd Tsieina ac Awstralia.

Llwyddiant Olympaidd a Pharalympaidd

0

£5000

£10000

£15000

£20000

£25000

£30000

£35000

2011 - 20122010 - 20112009 - 2010

Un o raddedigion Met Caerdydd, Helen Glover MBE (uchod) a’r phartnerrhwyfo, Heather Stanning.

Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YB UK Ffôn: +44 (0)29 2041 6070 Ffacs: +44 (0)29 2041 6286cardiffmet.ac.uk

Cyfanswm y myfyrwyr

yn y DU13007*

Cyfanswm ytrosiant£82m

Cyfanswm ystaff

1157Arian diwedd y flwyddyn

£000’s

Gwarged

MyfyrwyrTramor3907

OR a addysgir4602

Myfyrwyr y DU 233 Ymchwil 350

Myfyrwyr Cartref9224

IR 8432

Mae’r cyhoeddiad hwn yn garbod cytbwys.Ailgylchwch y cyhoeddiad hwn.

CBP00021810201130759

Arian a Gwarged

Delwedd: Eric Feferberg/AP/

Press Association Images

*Ffynhonnell, HESA 2011-12