bod yn ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • os...

20
Bod yn Ddwyieithog… Being Bilingual… yn Sir Gâr in Carmarthenshire

Upload: others

Post on 31-Mar-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Bod yn Ddwyieithog…Being Bilingual…

yn Sir Gâr

in Carmarthenshire

Page 2: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Beth yw ystyr bodyn ddwyieithog?

Y gallu i fyw eich bywyd bob dydd yndefnyddio dwy iaith.

Y gallu i newid o un iaith i’r llall yn rhugl ahyderus pan fyddwch yn dymuno.

So, what does being bilingual mean?

The ability to live your everyday life using twolanguages.

Being able to switch from one language toanother fluently and confidently wheneveryou like.

Did you know?Carmarthenshire has the highest numberof Welsh speakers in any of the Countiesin Wales, and therefore in the world!

About three quarters of the worldpopulation speaks two or morelanguages.

Oeddech chi’n gwybod?Yn Sir Gaerfyrddin y mae’r nifer mwyaf

o siaradwyr Cymraeg o holl siroeddCymru, ac felly’r byd!

Mae tua thri chwarter o bobl y byd ynsiarad dwy iaith neu ragor.

Page 3: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

The advantages of beingbilingual

Education• Bilingual children tend to be more

successful in education. They tend toperform better in tasks

• Bilingual people find it easier tolearn additional languages

• Children in Welsh medium educationdo just as well, if not better, inEnglish as children in Englishmedium education

Manteision bod ynddwyieithog

Addysg• Mae plant dwyieithog yn tueddu i

fod yn fwy llwyddiannus mewnaddysg. Maent yn tueddu igyflawni’n well mewn tasgau

• Mae pobl ddwyieithog yn ei gweldyn haws i ddysgu ieithoeddychwanegol

• Mae plant sy’n derbyn addysgGymraeg yn gwneud gystal, os nadgwell, yn Saesneg â phlant sy’n caeladdysg Saesneg

Page 4: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Career• Speaking two languages is an extra skill to

put on your application form• Bilingual people earn an average of 11%

more • Employers need bilingual workforces in

Wales, because services need to be offeredbilingually

Gyrfa• Mae siarad dwy iaith yn rhoi sgil arall i’w roi

ar eich ffurflen gais• Ar gyfartaledd, mae pobl ddwyieithog yn

ennill 11% o gyflog ychwanegol• Mae angen gweithluoedd dwyieithog ar

gyflogwyr yng Nghymru, gan fod angendarparu gwasanaethau’n ddwyieithog

Health• Research shows that that being

bilingual delays the onset of Dementiaand other symptoms of Alzheimer

Iechyd• Mae ymchwil yn dangos bod

dwyieithrwydd yn gohirio dechreuadDementia a symptomau eraill clefydAlzheimer

Page 5: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Bywyd• Mae siarad dwy iaith yn ehangu eich

gorwelion • Mae medru’r iaith Gymraeg yn rhoi mynediad

i agweddau helaeth ar ddiwylliant, hanes ahunaniaeth Cymru

• Mae medru’r Gymraeg yn allwedd i fywydcymunedol cyfoethog

• Mae medru’r Gymraeg yn rhoi hunaniaethgadarn ac ymdeimlad o berthyn

• Mae medru newid o un iaith i’r llall yn hyderusyn magu hyder a balchder yn yr unigolyn

• Gall pobl aml-ieithog fod yn fwy goddefgartuag at ddiwylliannau eraill

Life• Speaking two languages widens your

horizons• Being able to speak Welsh gives you access to

many aspects of Welsh culture, history andidentity

• Speaking Welsh can provide a key to a richcommunity life

• Being able to speak Welsh gives you a strongsense of identity and belonging

• Being able to switch from one language tothe other with confidence gives the individualself-confidence and pride

• Speaking many languages can make peoplemore tolerant towards other cultures

Who’d have thought?!Bilingualism strengthens cognitive abilities -bilingual people tend to be more creative andflexible. They can be more open-minded, andthey also find it easier to focus on a variety oftasks simultaneously.

Pwy fyddai’n meddwl?!Mae dwyieithrwydd yn cryfhau’r galluoedd gwybyddol –mae pobl ddwyieithog yn tueddu bod yn fwy creadigola hyblyg. Maent yn tueddu i fod â meddwl mwy agored,ac maent hefyd yn ei chael yn haws canolbwyntio aramrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.

Page 6: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Os nad ydych chi’nsiarad Cymraeg,

peidiwch â phoeni.Mae’r sefydliadau igyd yn croesawu

rhieni di-Gymraegsydd am gyflwyno’rGymraeg i’w plant

Ceisiwch siaradcymaint ag y gallwchyn Gymraeg gyda’ch

plant. Fe fydd hyn yneu cynorthwyo i

siarad yn naturiol ahyderus. Am restr o

eiriau acymadroddiondefnyddiol i’w

defnyddio gydaphlant bach, ewch i

www.sirgar.llyw.cymru

Cyn oed YsgolFe allwch chi ddechrau taith eich plentyn at ddwyieithrwydd o’r crud…

• Grwpiau Cymraeg i Blant - Grwpiau i rieni plant ifanc iawn (babis ynbennaf ) sy'n cefnogi ac annog rhieni a darpar rieni i drosglwyddo'rGymraeg i'w plant

• Cylchoedd Ti a Fi – Grŵpiau i rieni a phlant bach lle gall eichplentyn fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau mewn awyrgylchGymraeg

• Meithrinfeydd – Mae yna feithrinfeydd dydd Cymraeg a dwyieithogsy’n cyflwyno’r Gymraeg i blant o’r cychwyn, drwy weithgareddauyn Gymraeg a thrwy gyfathrebu’n Gymraeg gyda’r babis a’r plantbach

• Cylchoedd Meithrin – Sesiynau addysg a datblygiad i blant o ddwyflwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgutrwy chwarae yn Gymraeg

• Dosbarthiadau Meithrin yn yr ysgol – Mae gan rai ysgolionddosbarthiadau Meithrin a bydd y dosbarthiadau hyn fel arfer ynGymraeg os yw’r ysgol yn un Gymraeg

Llwybr i’r GymraegGall pob plentyn yn Sir Gâr ddod yn ddwyieithog drwygael addysg Gymraeg. Dyma sut:

Page 7: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Path to WelshEvery child in Carmarthenshire can become bilingual by takingadvantage of Welsh medium education in the county. Here’s how…

Pre-school AgeYou can start your child's journey to bilingualism from the outset...

• Cymraeg for Kids groups - groups to support and encourage parentsand prospective parents to transfer the Welsh language to children.

• Ti a Fi Groups - for parents and young children where your child canenjoy playing and making new friends in a Welsh atmosphere

• Nurseries - There are Welsh and bilingual day nurseries for childrenwhich introduce Welsh to children from the start, through Welshactivities and by communicating in Welsh with babies and toddlers

• Cylchoedd Meithrin Nursery Groups – Welsh medium playgroups,promoting education and development for children from two years oldto school age; an opportunity for children to socialise and learnthrough play in Welsh

• Meithrin Classes in the school - Some schools have nurseryclasses and these classes are usually in Welsh if the school is aWelsh medium school, and will often be in Welsh in dual streamschools also.

If you do not speakWelsh, don’t worry;the organisations

welcome non-Welshspeaking parents

who want tointroduce their

children to Welsh

Try to talk as much asyou can in Welsh with

your children. Thiswill help them to

speak naturally andconfidently. For a listof useful words and

phrases for smallchildren go to

www.carmarthenshire.gov.wales

Page 8: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Ysgolion CynraddYn Sir Gâr, ceir addysg cyfrwng Cymraeg i holl blant a phobl ifanc o fewncyrraedd rhesymol i’w cartrefi.

• Mae addysg Gymraeg yn defnyddio Cymraeg fel cyfrwng addysgu, ac fefydd y plant yn dysgu Cymraeg a Saesneg fel pwnc yn ogystal.

• Bydd plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn gallu trosglwyddo i addysguwchradd cyfrwng Cymraeg, beth bynnag yw iaith y cartref.

• Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn trochi plant yn y Gymraeg o’r dechrau.Mae’r plant yn siarad Cymraeg yn y dosbarth ac yn cael eu hannog iddefnyddio Cymraeg wrth gymdeithasu ac wrth gymryd rhan mewngweithgareddau. Mae cael profiad o’r Gymraeg ym mhob agwedd arfywyd yn gwella safon euCymraeg ac yn sicrhau eubod yn dod, ac yn aros, yngwbl ddwyieithog.

Mae Siarter Iaith yncael ei weithredu ynysgolion cynradd SirGâr sy’n gymorth igynnig mwy ogyfleoedd i blantddefnyddioCymraeg yngymdeithasol.

Mae arbenigwyr yncydnabod bodangen i iaithleiafrifol fel yGymraeg gael eidefnyddio ym mhobagwedd ar fywyd ermwyn i berson fodyn wirioneddolddwyieithog.

Pwy fyddai’n meddwl?!Nid oes yn rhaid i blant ifanc ddysgu

ieithoedd fel y mae oedolion yngwneud. Gallant amsugno ieithoeddnewydd os ydynt yn dod i gysylltiad

digonol â nhw.

Page 9: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

A Language Charteris being implementedin primary schools inCarmarthenshirewhich helps toprovide moreopportunities forchildren to use Welshsocially.

Experts recognisethat a minoritylanguage like Welshneeds to be used inall aspects of life inorder for anindividual to be trulybilingual.

Who’d have thought?! Young children don’t need to learn alanguage as adults do. They absorb

languages if they are exposed tothem enough.

Primary schoolsIn Carmarthenshire, Welsh medium education is available to all childrenand young people, within reasonable travelling distance from their homes.

• In Welsh medium education, Welsh is used as the medium for teaching,but both Welsh and English are taught as a subject also.

• All children who receive Welsh medium education will be able totransfer to Welsh medium secondary education regardless of thelanguage used at home.

• Welsh medium education immerses children in the Welsh languagefrom the start. The children speak Welsh in class and are encouraged touse Welsh when socialising and taking part in activities. Havingexperience of Welsh in all aspects of life improves the standard of theirWelsh and ensures that they are fully bilingual.

Page 10: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Mae addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gael o fewn pellter rhesymol i bobcartref yn Sir Gaerfyrddin.

• Gall unrhyw blentyn sydd yn rhugl ddwyieithog yn yr ysgol gynradd ddilynllwybr llyfn i addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

• Yn union fel yn y cynradd, fe addysgir Cymraeg a Saesneg fel pynciau unigolmewn addysg cyfrwng Cymraeg. Defnyddir y Gymraeg hefyd fel cyfrwngaddysgu ar gyfer pynciau eraill ac fel cyfrwng gweithgareddau allgyrsiol. Felhyn, mae dwyieithrwydd person ifanc yn cael ei gynnal a’i ddatblygu drwygydol ei addysg.

• Fe fydd disgwyl i berson ifanc sydd wedi dilyn addysg Gymraeg yn y cynradd ibarhau gyda’r rhaglen hon yn yr uwchradd er mwyn iddynt allu parhau iddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd.

• Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd i’ruwchradd o safbwynt cyfrwng dysgu, fe fydd yr ysgol gynradd ac ysgolionuwchradd cyfagos yn gallu rhoi arweiniad i chi.

* Gan fod Saesneg yn iaith sy’n dominyddu’r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol ayb, byddsgiliau Cymraeg bobl ifanc yn cael eu hatgyfnerthu os ydynt yn defnyddio’r Gymraeg y tu allani’r ystafell ddosbarth gymaint â phosibl. Mae bob amser yn syniad da i roi’r cyfle iddynt iddefnyddio Cymraeg gartref, yn eu gweithgareddau hamdden neu wrth wylio’r teledu.

Ysgolion UwchraddYr allwedd i boblifanc fod yr un morhyderus ynGymraeg ac ynSaesneg yw iddyntbarhau i gymrydmantais ogyfleoedd cyfrwngCymraeg ar ôlgadael yr ysgolgynradd

Os ydy person ifancyn ddwyieithog yn16 neu 18 oed, galle/hi addasu’narbennig o dda atastudiaethaupellach drwy’r nailliaith neu’r llallmewn unrhywbwnc.

Page 11: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

There is Welsh medium secondary education available within a reasonable distancefrom all homes in Carmarthenshire.

• Any young person who has attained bilingual proficiency in primary school will beable to make a seamless transition into Welsh medium education at secondaryschool.

• Just as in the primary phase, Welsh and English are taught as individual subjects inWelsh medium education. Welsh is also used as the medium of instruction for othersubjects as well as the medium for extra-curricular activities. This way, the youngperson’s bilingualism is sustained and developed further throughout his/hereducation.

• Young people who have followed Welsh medium education at primary will beexpected to continue with this programme at secondary school so that they cancontinue to develop their linguistic skills until they leave secondary education.

• If you are unsure about the route that your child should take from primary intosecondary education in terms of the teaching medium, your child’s primary schooland the local secondary schools will be able to provide guidance.

* As English is a dominant language in terms of the media, social media etc. young people’s Welshlanguage skills benefit from as much exposure outside of the classroom as possible. It is always agood idea to give them the opportunity to use some Welsh at home, in their extra-curricularactivities or watching TV.

Secondary Schools

The key for youngpeople to be asconfident in Welsh asin English is tocontinue to take upWelsh mediumopportunities afterprimary school

If a young person isbilingual at the ageof 16 or 18, he/shecan adjust extremelywell to furtherstudies througheither language inany subject.

Page 12: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Pryderon cyffredin rhieni

‘Sut alla i helpu gyda gwaith cartref fymhlentyn os nad ydw i’n siarad llawer oGymraeg?’Mae ysgolion Cymraeg yn nodi cyfarwyddiadaugwaith cartref yn Gymraeg ac yn Saesneg, felly fydddim trafferth gennych chi o ran deall pa waith sy’nrhaid i’r plentyn ei wneud. Bydd pob ysgol unigol ynfodlon cynnig cyngor ar addysg a bydd y nosweithiaurhieni yn eich dewis iaith chi.

Mae gwefan hwb.wales.gov.uk yn darparuamrywiaeth o gyfleusterau ac adnoddau dysgucenedlaethol.

Bydd gwaith yn cael ei osod yn addas i lefel a gallu’rdisgybl. Fe fydd, felly, o fewn cyrraedd i’ch plentyn.

Wrth i blant dyfu’n hŷn a datblygu’n ddysgwyrannibynnol, mae’n debygol y byddant yn hapus ifwrw ati heb arweiniad ychwanegol gan rieni.

‘Bydd y plant yn drysu a bydd eu Saesneg yndioddef’Ar gyfartaledd, mae plant dwyieithog yn cyflawni’nwell yn Saesneg. Hefyd, drwy esbonio’r gwaith cartrefi’w rhieni yn Saesneg, mae’r plentyn yn atgyfnerthu eiwybodaeth, a dyfnhau ei ddealltwriaeth ei hun.Gofynnwch i’ch plentyn ddisgrifio yr hyn y mae’n eigwneud yn ei eiriau ei hun.

Ar gyfartaledd, mae tua 80% o ddisgyblion SirGaerfyrddin sy’n derbyn addysg Gymraeg yn cael A* iC yn eu TGAU Saesneg a Chymraeg.

Page 13: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Common parental concerns

‘How can I help my child with homework if Idon’t understand much Welsh myself?’Welsh schools set homework instruction in Welsh andin English so there will be no problem inunderstanding what your child is being asked to do athome. The schools themselves will be happy toprovide educational advice and the parents eveningwill be in your chosen language.

hwb.wales.gov.uk provides access to a range ofnationally provided digital Learning tools andresources.

Work set will be appropriate to the pupil’s age andability level and therefore should be within yourchild’s reach.

Developing increasingly as independent learners, youmay find that your child is happy to progress withoutextra parental guidance as they get older.

‘The children will be confused and theirEnglish will suffer.’On average, bilingual children achieve higher gradesin the English language. Also, as a child explainshomework in English to the parent, their ownunderstanding is reinforced. Ask your child todescribe what he/she is doing in his own words.

On average, about 80% of Carmarthenshire pupilswho attend Welsh medium education get A* to C inWelsh and in English.

Page 14: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Parhau â’r Gymraeg mewnAddysg Bellach

Coleg Sir Gâr• There are opportunities to study bilingually

or through the medium of Welsh and on theCollege’s further education and highereducation courses, as well as inapprenticeships.

• There is a Welsh medium and bilingualprovision in the following fields: Sport,Public Services, Art and Design, Catering,Education, Construction, Health and SocialCare and Agriculture.

• Students can have bilingual workplacements and they can improve theirWelsh skills by following a customer servicesunit in the vocational courses which will beuseful as they go into the world of work.

Coleg Sir Gâr• Mae cyfleoedd i astudio’n ddwyieithog neu drwy

gyfrwng y Gymraeg ar y cyrsiau addysg bellach,addysg uwch a’r prentisiaethau ar bum campws yColeg.

• Mae darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn ymeysydd canlynol: Chwaraeon, GwasanaethauCyhoeddus, Busnes, Celf a Dylunio, Arlwyo,Addysg, Adeiladwaith, Gofal Plant, Iechyd a GofalCymdeithasol ac Amaethyddiaeth.

Continuing with Welsh inFurther Education

• Gall myfyrwyr gael lleoliadau gwaithdwyieithog a gwella eu sgiliauCymraeg wrth ddilyn unedgwasanaeth cwsmer yn y meysyddgalwedigaethol a fydd o gymorth wrthiddynt fynd i fyd gwaith.

Page 15: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Parhau gyda’r Gymraeg mewn Addysg UwchContinuing with Welsh in Higher Education

University of Wales Trinity St David• Trinity Saint David is a leading provider of Welsh

medium higher education. It is possible to study anincreasing number of undergraduate andpostgraduate programs in whole or in partthrough the medium of Welsh at the UniversityCampus in Carmarthen including Teacher Training(primary education), Physical Education, OutdoorEducation, Youth and Community Work, Early YearsCare and education, Primary education Studies,Business and Religious Studies.

• The University provides support for those studentswho are unsure about studying through themedium of Welsh by providing LanguageImprovement programs on the campus andthrough apps and distance learning programmes.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant• Y Drindod Dewi Sant yw un o brif ddarparwyr

addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae moddastudio nifer cynyddol o raglenni israddedig ac ôl-raddedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwygyfrwng y Gymraeg ar Gampws y Brifysgol yngNghaerfyrddin gan gynnwys Hyfforddi Athrawon(addysg gynradd), Addysg Gorfforol, Addysg AwyrAgored, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Addysg aGofal Blynyddoedd Cynnar, Astudiaethau AddysgGynradd, Busnes ac Astudiaethau Crefyddol.

• Mae’r Brifysgol yn darparu cefnogaeth i’r myfyrwyrhynny sy’n ansicr ynghylch astudio eu cwrs trwygyfrwng y Gymraeg gan ddarparu rhaglenniGloywi Iaith ar y Campws a thrwy apiau a rhaglennidysgu o bell.

Mae prifysgolion yng Nghymru, y Deyrnas Unediga’r byd yn croesawu myfyrwyr sydd wedi astudioeu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Universities in Wales, the UK and worldwidewelcome students who have studied their subjectsthrough the medium of Welsh.

Page 16: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Grantiau a joio mewn addysg uwch a phellachGrants and fun in further and higher education

• Young people can get a bursary to study modulesin Welsh at higher education level

• A partnership between Carmarthenshire Collegeand University is offering continuity bursaries toencourage Carmarthenshire College students tocontinue their studies through the medium ofWelsh at the University,

• Students can apply for Coleg CymraegScholarships to study through the medium ofWelsh.

• There are many opportunities to socialise throughthe medium of Welsh in the College and in theUniversity

• The branch of the Coleg Cymraeg at the University,that organises various events for its membersthroughout the year, is an active and lively one.

• Gall pobl ifanc gael bwrsariaeth ar lefel addysguwch i astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg

• Mae partneriaeth rhwng Coleg Sir Gar a’r Brifysgolyn cynnig bwrsariaethau dilyniant i annogmyfyrwyr o Goleg Sir Gâr i barhau â’uhastudiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol

• Gall myfyrwyr gynnig am Ysgoloriaethau’r ColegCymraeg Cenedlaethol i astudio trwy gyfrwng yGymraeg

• Mae nifer helaeth o gyfleoedd i fyfyrwyrgymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Colega’r Brifysgol

• Mae cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol yBrifysgol yn un gweithgar a bywiog a threfnir nifero ddigwyddiadau amrywiol ar gyfer ei haelodautrwy gydol y flwyddyn.

Page 17: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Cyfeiriadur - DirectoryCymraeg i Blant

Mudiad Meithrin

Cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan MudiadMeithrin, yw Cymraeg i Blant. Prif nod y cynllun yw cynnigcyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i rieni, darpar rieni a’uteuluoedd ar fuddion addysg/gofal Cymraeg a chyflwyno’rGymraeg yn gynnar i’w plant. Yn Sir Gâr mae gwaith ‘Cymraeg i Blant’, o ddydd i ddydd, yncanolbwyntio ar gynnig; Grwpiau cyn-geni (cynllun peilot yncydweithio gyda bydwragedd/ysbytai'r Sir, Grwpiau Tylino (10wythnos +), Grwpiau Ioga Babi (10 wythnos +) a Grwpiau Storia Chân (0-3 oed).Mae’r grwpiau hyn yn addas i ddysgwyr, rhieni di-Gymraeg asiaradwyr Cymraeg. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â grwpiaulleol cysylltwch â Cymraeg i Blant ar 01970 639639www.facebook.com/cibsirgarwww.facebook.com/Cymraegiblant

Cymraeg for Kids is a new Welsh Government project, managedby Mudiad Meithrin. Its main aim is to offer information,support and advice to parents, parents to be and their familieson the benefits of speaking Welsh and Welsh mediumeducation and childcare. In Carmarthenshire, Cymraeg for Kids offers a variety of freegroups including; ‘ante-natal groups’ (a pilot scheme workingin partnership with local midwives), Baby Massage groups (10weeks+), Baby Yoga Groups (10 weeks +) and Rhymetime (0-3years).Welsh learners, non-Welsh speaking parents and Welshspeakers are all welcome to attend the groups. For moreinformation contact Cymraeg for Kids on 01970 639639www.facebook.com/cibsirgarwww.facebook.com/Cymraegiblant

Mudiad Meithrin yw prif ddarparwr gofal ac addysgblynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol. Ynod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio arwasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwngy Gymraeg. Mae'r cylchoedd Ti a Fi yn cynnig gweithgareddausy'n helpu datblygiad plant o enedigaeth ac mae’r CylchoeddMeithrin yn darparu addysg a hyrwyddo datblygiad plant 2flwydd oed hyd at oed ysgol.

I ddarganfod eich Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin lleol, ewchat www.meithrin.cymru / Ffôn: 01970 639639

Mudiad Meithrin is the main provider of Welsh-medium earlyyears care and education in the voluntary sector. The aim is togive every young child in Wales the opportunity to benefit fromearly years care and educational experiences through themedium of Welsh. Cylchoedd Ti a Fi (Parent and toddler) offeractivities for children from birth, while Cylchoedd Meithrin(playgroups) welcome children from 2 years to school age.

To find your local Cylch Ti a Fi or Cylch Meithrin go towww.meithrin.cymru/ Phone: 01970 639639

Page 18: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gorffnewydd sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y maes Cymraeg iOedolion. Gallwch gael gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg yneich ardal leol o’r Ganolfan drwy gysylltu ar 0300 323 4324neu [email protected]

The National Centre for Learning Welsh is a new bodyresponsible for all aspects of Welsh for adults. You can findout about Welsh courses at all levels in your local area bycontacting 0300 323 4324 [email protected]

Cymraeg i oedolion

Mae’r Ffermwyr ifanc yn fudiad ieuenctid sy’n darparucyfleoedd i 800 o aelodau rhwng 10 a 26 oed sy’n byw yn SirGâr. Mae 23 o Glybiau yn Sir Gâr sy’n cael eu rhedeg gan boblifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’r mudiad yn cynnig cyfleoedd aphrofiadau arbennig i’r aelodau wrth iddynt ddatblygu sgiliaunewydd, ennill hyfforddiant, teithio’r byd, bod yn rhanannatod o’r gymuned a chael cyfle i wneud ffrindiau am oes.

Rhif ffôn: 01267 237693, E-bost: [email protected]

The Young Farmers is a youth movement that providesopportunities for 800 members between the ages of 10 and26 in Carmarthenshire. There are 23 Clubs in Carmarthenshirethat are run by young people for young people. Themovement offers opportunities and special experiences forthe members as they develop new skills, receive training,travel the world, become an integral part of the communityand have the opportunity to make friends for life.

Phone: 01267 237693, E-mail: [email protected]

Ffermwyr Ifanc

Mae’r Urdd yn un o fudiadau ieuenctid mwya Ewrop ac mae’ncynnig cyfleoedd a gweithgareddau amrywiol i blant a phoblifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.Mae gan yr Urdd, sy’n fudiad cyffrous a deinamig, dros 6,000o aelodau yn Sir Gaerfyrddin rhwng 8 a 25 mlwydd oed.Maent yn cynnig cyfleoedd diwylliannol a hamdden drwy’rysgol, mewn clybiau cymunedol ac yn ystod y gwyliau, acmae’r Urdd yn darparu ystod eang o gystadlaethauchwaraeon hefyd.I gysylltu gyda’r Urdd yn Sir Gaerfyrddin: 01267 676 751 / www.urdd.cymru

The Urdd is one of the largest youth organisations in Europeand it offers opportunities and activities for children andyoung people to learn and socialise through the medium ofWelsh. The Urdd is an exciting, dynamic movement over6,000 members in Carmarthenshire between 8 and 25 years.They offer cultural and sporting opportunities through theschool, in community clubs and during school holidays, andthe Urdd provides a wide range of Sports competitions too.To contact the Urdd in Carmarthenshire: 01267 676 751 / www.urdd.cymru

URDD

Page 19: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg CymraegCenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu rhagor o gyfleoeddastudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n noddidarlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’ngalluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiauaddysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir nifer helaeth ogyrsiau yn cynnig rhywfaint o ddarpariaeth drwy gyfrwng yGymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Mae hyn yn darparucyfleoedd pellach i fyfyrwyr gael hyfforddiant i baratoi ar gyfercyflogaeth ac ymateb i’r galw cynyddol am y gallu i weithiotrwy gyfrwng dwy iaith yng Nghymru.

The Coleg Cymraeg Cenedlaethol works with universities acrossWales to develop Welsh language medium opportunities forstudents. It funds Welsh medium lecturers and offersundergraduate and postgraduate scholarships for students tostudy higher education courses through the medium of Welsh.There are a number of courses offering some provision thoughthe medium of Welsh in the Welsh universities. This providesopportunities for students to access training to prepare foremployment and the increasing demand for the ability to workthrough the medium of both languages in Wales.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol, gwirfoddol adeinamig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae tair Menteriaith yn Sir Gâr sef Menter Gorllewin Sir Gâr, Menter Bro Dinefwra Menter Cwm Gwendraeth Elli. Mae’r Mentrau yn cynnal,hyrwyddo a chydlynu gweithgareddau, digwyddiadau agwasanaethau ar draws y sir ar gyfer teuluoedd, plant a phoblifanc, y gymuned a’r economi. Nod y tair menter ydy hyrwyddoac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol yn Sir Gâr,gan sicrhau bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd holldrigolion y sir.

The Mentrau Iaith are voluntary and dynamic communityorganisations that promote the Welsh language. There arethree Menter Iaith in Carmarthenshire; Menter Gorllewin SirGâr, Menter Bro Dinefwr a Menter Cwm Gwendraeth Elli. TheMentrau provide, promote and coordinate activities, events andservices across the county for families, children and youngpeople, the community and the economy. The aim of theMentrau is to promote and expand the use of the Welshlanguage at community level in Carmarthenshire, ensuring thatthe language becomes an integral part of the life of allresidents in the county.

Mentrau Sir Gar

Menter Gorllewin Sir Gâr - [email protected] / 01239 712934 Menter Bro Dinefwr - [email protected] / 01558 825336

Menter Cwm Gwendraeth Elli - [email protected] / 01269 871600

Page 20: Bod yn Ddwyieithog…...ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. • Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd

GDXXXX

Will my child’s thinking be affected by being bilingual?The answer is “yes”, and probably for the better. The presence of two languages in theoperating system of the brain is likely to produce a more richly-fed thinking engine.

(Baker, 2000: 66-67)

For references and further information on any of thestatements in this document, go towww.carmarthenshire.gov.wales/being-bilingual

Ar gyfer llyfryddiaeth a gwybodaeth bellach am ygosodiadau yn y llyfryn hwn, ewch atwww.sirgar.llyw.cymru/bod-yn-ddwyieithog