bys yn y dŵr

7

Upload: stonewall-cymru

Post on 07-Mar-2016

238 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

Ymchwil i unigolion du ac o leiafrifoedd ethnic sydd yn lesbiaidd, hoyw neu deurywiol (LHD) ac sy'n bwy yng Nghymru

TRANSCRIPT

Page 1: Bys yn y Dŵr
Page 2: Bys yn y Dŵr

32

CYNNWYSRhagair ............................................................2

Trosolwg .........................................................3

Cyflwyniad .....................................................3

Argymhellion ................................................5

Prif Faterion ...................................................6

RHAGAIRYchydig o astudiaethau hyd yma sy’nsôn am amgylchiadau a phrofiadauunigolion o gefndir du a lleiafrifoeddethnig sy’n lesbiaidd, hoyw neuddeurywiol, ac mae llai fyth yn cynnwysyr elfen o ynysiad cefn gwlad.

Mae’r darn hwn o ymchwil archwiliadolyn torri tir newydd gan ei fod yn rhoigwybodaeth berthnasol i’r rhai sy’ndymuno gwella darpariaethgwasanaethau i grwpiau ymylol, i’r rhaisy’n dymuno deall natur amlochroghunaniaeth pobl a’r ffordd o’u mynegi,ac i’r rhai sydd yn y sefyllfa hon euhunain, heb hyder i godi llais. Maeastudiaethau cychwynnol megis Bys yny Dŵr yn bwysig, nid yn unig am yr hynsy’n cael ei ddarlunio a’i egluro ambrofiadau bywyd yr unigolion hyn, ondhefyd i gael mwy o wybodaeth amorgyffwrdd a chydadwaith cymhlethrhwng ffurfiau o gamwahaniaethu, a’uheffaith ar les unigolyn.

Felly mae astudiaethau fel hyn yndarparu cyfeiriad ar gyfer darparwyrgwasanaethau ac ymchwil yn y dyfodol.

Charlotte Williams OBEAthro Cyfiawnder Cymdeithasol,Prifysgol Keele.

TROSOLWGCynlluniwyd yr ymchwil yng NghanolfanCydraddoldeb Gogledd Cymru, ac fe’icyflawnwyd gan RwydwaithCydraddoldeb Hil Gogledd Cymrumewn cydweithrediad gyda StonewallCymru, ac ariannwyd gan NawddMenter ar y Cyd Gwasanaeth Ymchwil aChefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaethmewn Iechyd a Gofal CymdeithasolCymru.

Llwyddodd y prosiect bychan arloesol iestyn allan at is-boblogaeth yngNghymru a oedd hyd yma heb eigydnabod ac wedi’i anwybyddu. Mae’rastudiaeth wedi dogfennu data sensitifnad oedd wedi’i gofnodi o’r blaen.Roedd cost sylweddol i’r ddau fudiadpartner wrth gyflawni’r prosiect hwn ynllwyddiannus. Drwy ymroddiad adyfalbarhad staff a rheolwyr yllwyddwyd i gyflawni canlyniadau mordeilwng.

O ran comisiynu mentrau ymchwilblaengar yn y dyfodol, byddai’n werthystyried ail edrych ar lefelau ariannu.Byddai dangos mwy o gydnabyddiaetha blaenoriaeth i waith cydraddoldebdrwy lefel fwy hyderus o fuddsoddiadyn cynorthwyo i hyrwyddo ymgysylltiadgyda grwpiau sy’n draddodiadol wedi’uheithrio. Mae ymgysylltiad effeithiol ynhanfodol er mwyn gwella a dilysupenderfyniadau polisi, drwy ymgorfforidirnadaeth a phrofiadau gwerthfawrgrwpiau ymylol. Mae hefyd yn meithrinbuddsoddiad ac integreiddiad da argyfer pobl o rannau o’r gymuned syddwedi’u heithrio’n draddodiadol(Williams & Baker 2009).

CYFLWYNIADDyma ddarn unigol o ymchwil o Gymru,gyda’i ganfyddiadau ei hun o siaradgyda phobl sy’n lesbiaidd, hoyw neuddeurywiol (LHD) ac o gefndir du neuleiafrif ethnig (BME), drwy ddefnyddioamrywiol ddulliau. Fodd bynnag, yn sgilprinder ymchwil Prydeinig sy’n edrychar y gorgyffwrdd rhwng materion hil ahunaniaeth rywiol, credwn ei bod ynbwysig edrych ar yr ymchwil hwn wrthochr gwaith prosiect Everyone IN, theMinority Ethnic LGBT Project (2009) aoedd yn canolbwyntio’n bennaf ar lefelasiantaeth / sefydliadol.

Yn adroddiad Everyone IN, mae’r ‘BlackEthnic Minority Infrastructure inScotland’, y Rhwydwaith Cydraddoldeb a‘Lesbian, Gay, Bisexual and TransgenderRights Scotland’, yn cydnabod yranawsterau sylweddol sy’n codi wrthgyrraedd at nifer o ymatebwyr o’r grŵphwn mewn cymdeithas. Roeddtrafodaeth y Prosiect yn uno mudiadaucynghori a hawliau cydraddoldeb; cyrffstatudol a gwirfoddol yn ogystal âmudiadau lesbiaidd, hoyw, deurywiol athrawsrywiol (LHDT) a mudiadaulleiafrifoedd ethnig, a hanner dwsin ounigolion o gefndir Lleiafrif Ethnig acLHDT.

Ymysg y themâu allweddol aglustnodwyd gan brosiect Everyone IN,a ganolbwyntiodd ei ymchwil ar yrasiantaethau sy’n darparugwasanaethau ar gyfer pobl oLeiafrifoedd Ethnig / LHDT:pwysigrwydd cael lleisiau LleiafrifoeddEthnig / LHDT wrth ddatblygugwasanaethau neu fentrau polisi; yrangen am wybodaeth / data cadarnacho ymchwil cymunedol pellach;datblygiad gwasanaethau a pholisïauwrth ochr ymchwil o’r fath; yr angen amfwy o waith ledled a rhwng sectorau, ynarbennig ar gyfer partneriaethaucadarnach rhwng mudiadau

Page 3: Bys yn y Dŵr

54

Lleiafrifoedd Ethnig ac LHDT. Hefydclustnodwyd ymrwymiad ac arweiniadar lefel polisi cenedlaethol ac ar lefelsefydliadol fel rhywbeth hanfodol argyfer hwyluso a chydlynu cynnydd..

Ymysg y themâu allweddol aglustnodwyd gan brosiect Bys yn y Dŵr,a oedd yn canolbwyntio ei ymchwil arbrofiadau pobl lesbiaidd, hoyw neuddeurywiol (LHD) o gefndir du neuleiafrif ethnig (BME) mewn ardaloeddgwledig, roedd penbleth ‘dod allan’ /datgelu; ynysiad gwledig a’r cyferbyniadrhwng gwelededd uchel fel person BMEa bod yn anweledig fel person LHD;chwilio am gefnogaeth cymheiriaid ofewn cymunedau BME ac LHD; yr angenam fynediad at wybodaeth briodol; achamwahaniaethu lluosog a’r angen amfodel ymddygiad.

O fewn gogledd Cymru, nid oes hanes ogydweithio rhwng ffrydiau cyfeiriadeddrhywiol a hil. Defnyddiodd prosiect Bysyn y Dŵr wybodaeth benodol unigrywStonewall Cymru a RhwydwaithCydraddoldeb Hil Gogledd Cymru iddatblygu cydweithrediad rhwngffrydiau ac i sefydlu cysylltiadcychwynnol gyda’r adran benodol hono’r gymdeithas. Defnyddiwyd amrywiolddulliau yn yr ymchwil hwn, adefnyddiwyd arddull ffenomenolegol ialluogi cyfranogwyr i godi llais ganddatgelu materion dyfnach. Roeddffiniau moesegol a medru bod ynddienw yn elfennau hanfodol wrthsefydlu perthynas ac empathi, sydd morhanfodol wrth gael gwybodaeth ddofn,yn arbennig wrth ymchwilio i faterion agelfen bersonol gref i’r cyfranogwyr.

Roedd deg o ymatebion i’r e-arolwg.Roedd pump o’r ymatebion yn cyfatebi’r meini prawf ymchwil. Hefydcyfranogodd tri unigolyn eu barn drwysianelau anffurfiol. O’r deg a ymateboddi’r e-arolwg roedd pump o leiafrif ethnig,yn cynnwys Gwyn Ewropeaidd, Hil

Gymysg, Asiaidd a Charibïaidd. Roedd trio’r rhai a ymatebodd yn iau na 25.Roedd hunaniaeth rhyw yn cynnwys tridyn hoyw a dwy fenyw hoyw / lesbiaidd.Roedd tri o’r rhai a ymatebodd yn bywmewn lleoliad gwledig a’r ddau arall yndrefol. Cytunodd pedwar allan o’r pumpa ymatebodd y gellid cysylltu gyda hwyar gyfer ymchwil neu gyfranogaethbellach.

Mae Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru aStonewall Cymru yn ddiolchgar i bob uno’r cyfranogwyr, ac i WasanaethCefnogaeth ac Ymchwil Cydraddoldebac Amrywiaeth mewn Iechyd a GofalCymdeithasol Cymru, am alluogi’rymchwil archwiliadol ‘traws ffrwdcydraddoldeb’ hwn. Gobeithiwn y byddy canlyniadau yn arwain at ymchwilpellach yn y maes hwn.

Mary HolmesCyfarwyddydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil GogleddCymru

Jenny PorterSwyddog Cyswllt CymunedolStonewall Cymru

Y Ganolfan CydraddoldebFfordd BangorPenmaenmawrConwy LL34 6LFGogledd Cymru Hydref 2010

Crynodeb o’r materion agodwyd

Penbleth ‘dod allan’ / datgelu – ydewis rhwng datgelu cyfeiriadeddrhywiol a mentro dioddefcamwahaniaethu a gwrthodiad, neubeidio bod allan a mentro dioddefynysiad.

Ynysiad gwledig – Mae aelod o’rgymuned BME mewn ardal wledig ynweladwy iawn, ond i’r gwrthwyneb, maeperson LHD yn anweledig i ddarparwyrgwasanaethau, sy’n aml heb fod ynymwybodol, nac wedi paratoi ar gyferanghenion a materion sy’n codi i bersonLHD BME.

Chwilio am gefnogaeth - Chwilio amgefnogaeth cymheiriaid gan bobldebyg. A oes cymdeithas hoyw, ac ayw’n barod i dderbyn person BME LHD?

Mynediad at wybodaeth briodol –Mae mynediad at wybodaeth briodol ynanodd ar gyfer person BME LHD ac maehyn yn cyfyngu ar ddewisiadau.

Camwahaniaethu lluosog – Gormod ofrwydrau i gael eu derbyn gan ygymuned BME, y gymuned LHD achymdeithas yn gyffredinol, heb fodelauymddygiad i arwain y ffordd.

ARGYMHELLIONAdnabod a chydnabod y gorgyffwrddrhwng ffrydiau cydraddoldeb Hil aChrefydd a Chyfeiriadedd Rhywiol.Cynorthwyo datblygiad cysylltiadau amwy o ddealltwriaeth rhwng y ddwywahanol gymuned (BME ac LHD). Byddhyn yn lleddfu’r straen a’rcamwahaniaethu y mae pobl LHD BMEyn ei ddioddef.

Cefnogi datblygiad cefnogaethcymheiriaid rhwng pobl sy’n LHD ac ynBME. Annog mwy o ddarpariaethcefnogaeth a chyngor rhwng grwpiauffrwd unigol BME ac LHD. Bydd hyn yncynyddu’r ystod o wybodaeth briodolsydd ar gael, yn codi ymwybyddiaeth acyn cynyddu’r gofod ar gyfer cefnogaethcymheiriaid.

Datblygu darpariaeth gwasanaethasiantaethau i adnabod ac ymateb ianghenion penodol pobl sy’n LHD aBME. Mae angen i gyrff cyhoeddus acasiantaethau ddangos eu bod yngroesawgar a chyfrinachol, rhaid ifeddygon annog cleifion i deimlo’nddigon hyderus i ddatgelu eucyfeiriadedd rhywiol, gan y bydd ywybodaeth hon o bosib yn hanfodol argyfer diagnosis iechyd.

Cynyddu gwelededd drwy annog achefnogi modelau ymddygiad. Mae caelarweinwyr gweledol, agored LHD BMEmewn cymdeithas yn tawelu meddyliaupobl eraill, a’u cysuro na fyddant yndioddef camwahaniaethu, ac yn euhannog i fod yn agored yn y gwaith a’rcartref.

1

2

3

4

Page 4: Bys yn y Dŵr

76

PRIF FATERION

PENBLETH DOD ALLAN /DATGELU

Mae dod allan, sef y broses o gydnabodeich bod yn cael eich denu at rywun o’r unrhyw, yn aml yn gofyn am ddewis rhwngdau opsiwn mor annymunol â’i gilydd.P’run ai i ddatgelu eich cyfeiriadeddrhywiol ac o bosib cael eich gwrthod, neubeidio bod yn agored ac o bosib ddioddefynysiad. Nid digwyddiad unigol yw dodallan o reidrwydd, gall pobl LHD orfod dodallan nifer o weithiau yn ystod eubywydau, gydag amrywiol bobl er mwyncael cefnogaeth a gwasanaethau. Sut maebod yn LHD o gymuned BME yn effeithioar y penbleth hwnnw?

Mae hunaniaeth yn rhan o ymdeimladrhywun o fod yn unigolyn, gall fod ynarbennig o gymhleth. Nid yw hil acethnigrwydd yn gategorïau ‘naturiol’, erbod y ddau gysyniad yn cael eu cynrychiolifelly. Nid yw eu ffiniau yn gaeth, maegrwpiau hil ac ethnig, fel cenhedloedd, yngymunedau dychmygol. - Martin Bulmer

Gofynnwyd i gyfranogwyr wrth bwy yroeddent wedi datgelu eu cyfeiriadeddrhywiol:

Er gwaethaf maint bychan y sampl,ymddengys bod diffyg hyder yn ymateba/neu dderbyniad gan y ‘teuluestynedig’, ‘meddygon’ a ‘chymuned’.Mae’r diffyg hyder mewn meddygonhefyd yn cael ei adlewyrchu ynymatebion y rhai nad oeddent yn BME,ac yn ymchwil Stonewall. Fodd bynnag,mae’n bosib fod y canfyddiad penodolhwn yn sgil y ffaith fod y cyfranogwyr ynperthyn i grŵp oedran iau, ac maeangen ymchwil pellach gan fod y dataansoddol yn fynegol ond amhendant.

Medru bod yn agored – yn hytrach nafersiwn wedi’i ddoctora ohonof fy hun.

Meddwl agored at rywioldeb.

‘Cwrdd â phobl newydd sy’n amau neu’ndod allan.

Fy nheulu a’m cydweithwyr yn derbyn fyrhywioldeb, yn gwneud fy mywyd yn'normal'.

Roeddwn yn ffodus fy mod allan acroedd fy rhieni yn ei dderbyn i raddau.

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr sôn amagweddau negyddol bod yn agored:

Casineb/ beirniadaeth/ agweddau /camdriniaeth gorfforol ac ar lafar ganaelodau’r gymuned / teulu.

Ynysig yn y gymuned ddu yn sgilpwysau diwylliannol/ gwrthod derbyncyfun rywioldeb.

Mae pobl yn meddwl fod gennymddigon o frwydrau i’w hymladd yn sgilein hil, heb ddewis bywyd hoyw, sy’nachosi mwy o broblemau yn eu barnhwy.

Teimlo’n ynysig yn aml yn y gymunedhoyw gan ei fod yn dabŵ o hyd -gallwch fod yn hoyw, ond rhaid i chi droicefn ar eich hunaniaeth ddiwylliannol /ethnig.

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr ddweudwrthym sut y gwnaethant ddygymod:

Dydw i ddim, (yn dygymod) Rwy’n crio!

Arwain bywyd dwbl – un i’w ddangosi’r gymuned ac un arall yn breifat.

Bod yn arbennig o ofalus pan wyf gyda’rteulu estynedig/ aelodau o’r gymunedsy’n gul iawn eu meddyliau.

Gwneud cysylltiadau cryf gyda phobl dueraill sy’n hoyw.

Roedd gennyf gyfaill a ddaeth allan i’wdeulu, ac fe ddaeth pwysau emosiynoloddi wrth y fam - ‘os na fyddi’n priodibyddaf yn lladd fy hun’. Mae’r holl deuluyn meddwl eich bod yn tynnu gwarth arenw’r teulu. Priododd yn y pen draw,gan ildio i’r pwysau. Ar ôl rhaiblynyddoedd, cawsant blentyn. Yn y pendraw, sylweddolodd nad oedd yn medrudygymod gydag arwain dau fywyd, ac

Datgelu cyfeiriadedd rhywiol

fe ddywedodd wrth ei wraig. Cafoddysgariad a symudodd i Lundain.

Cyfeirir yn arbennig at y perygl dwbl ofod dwywaith mor fregus yn sgilgorgyffyrddiad rhwng hil achyfeiriadedd rhywiol. Y mater o gaeleich adnabod yn sgil nodweddion yrydych yn eu rhannu gyda bobl eraill, a’rffordd y mae’r gwahanol agweddau neuhunaniaeth hynny yn cyfeirio yn ôlatoch. Gall datgelu’r hunaniaethau hynfod â chanlyniadau ar gyfer y rhai syddyn cael eu cynnwys neu eu heithrio oddiwrthynt.

Page 5: Bys yn y Dŵr

98

byw lle nad oes unrhyw beth. Dydychchi ddim yn gwybod os oes bobl LHDTeraill.

Yr hyn sydd ei angen yw mwy o lefydd -does dim unman (i fynd neu ddod o hydi ble i fynd), efallai bod angen grŵp neurywbeth i roi cyngor neu gefnogaeth ibobl LHDT. Rwy’n gwybod bod dau yngngogledd Cymru ond nid ydynt yn caeleu hysbysebu’n helaeth. Efallai ybyddwch yn eu gweld yn y Gay Times,ond os nad oes modd i bobl ei brynu,maent yn gwbl ynysig.

Roeddwn yn byw yn ninas xxxx; ynamlwg roedd lleoliadau hoyw, grwpiaucefnogi hoyw a gweithgareddauamrywiol. Hefyd bum yn byw mewntref lai, yyyy. Nid oedd unrhyw beth yno,ond roedd digon o gymuned oherwyddroedd y dinasoedd yn agos, pan oeddpobl yn gwybod am ei gilydd, roeddentyn cwrdd.

CHWILIO AM GEFNOGAETHCYMHEIRIAID

Mae cyfeillgarwch a chymorth rhywunyn yr un sefyllfa ac yn profi’r un materionyn amhrisiadwy. Mae pwysigrwyddrhannu materion sy’n codi wrth ddodallan, a delio gydag agweddaucymdeithasol o gamwahaniaethu atheimladau o unigrwydd yn hanfodol.Mae gwefan Stonewall Cymru yndarparu gwybodaeth am grwpiaucefnogaeth cymheiriaid LHD ledledCymru, ond maent yn brin, ac yn amlheb gyllid, ac nid oes grŵp BME LHDyng Nghymru.

Gall y broses o chwilio am gefnogaethcymheiriaid gan bobl debyg arwainperson LHD BME at y gymdeithas hoyw,ond a yw honno’n fwy parod i’w derbynna’r gymuned BME?

Byddai’n braf medru rhannu a siaradam ein problemau. Efallai am hannerdiwrnod neu hanner awr, rwyf gydaphobl sy’n fy neall neu’n fy adnabod, acfe allaf fod yn agored. Mae hynny’nhelpu i ryddhau’r tensiwn a’r pryderon.Ac yna rydych yn dychwelyd i’ch bywyd‘arall’.

Weithiau nid yw’r gymuned LHD ynymwybodol o’r pwysau ychwanegolsydd ar bobl BME, er eu bod yn euderbyn. Nid oes camwahaniaethu, ondmae pwysau ychwanegol ac nid ydyntyn ymwybodol, ac nid ydynt ynsylweddoli. O ganlyniad maen nhw, ygrwpiau (BME) eu hunain, yn darparu’rgefnogaeth honno. Rwy’n gwybod amun o’m ffrindiau (BME) … doedd eigariad ddim yn deall pam nad oedd yn

medru symud i mewn gydag ef. Rwy’ncofio trafod gydag e, gan egluro i’wgariad nad oedd yn rhwydd. Rwy’nmedru deall. Ond mae’r pwysau hynnyo’r cartref hefyd.

Gall rhywun ... deimlo’n ynysig yn ygymuned hoyw gan ei fod yn parhau ifod yn dabŵ - gallwch fod yn hoyw, ondrhaid anghofio eich hunaniaeth ethnigddiwylliannol. Rwy’n credu fod y grŵpLHD yn fwy parod i dderbyn ac yn fwyagored. Pan oeddwn yn xxxx, panoeddem yn arfer mynd allan i glybiau acyn y blaen, roeddem yn gweld fodcymuned BME fawr, ond roeddent i gydyn ymgasglu gyda’i gilydd. Maent yndarparu cefnogaeth i’w gilydd.

Rwy’n teimlon ynysig yn y gymuned dduyn sgil pwysau diwylliannol/ dydy cyfunrywioldeb ddim yn cael ei dderbyn. Maepobl yn meddwl fod gennym ddigon ofrwydrau i’w hymladd yn sgil ein hil,heb ddewis bywyd hoyw, sy’n achosimwy o broblemau yn eu barn hwy.

Rwy’n teimlo nad oes modd bod yn rhano’r ddau grŵp, BME a Hoyw. Os nadydwyf yn cael fy nerbyn yn y gymunedHoyw nac yn cael fy nerbyn yn ygymuned Ddu, ble ydwyf yn perthyn?Pan nad oes … unrhyw un ar gael idroi ato, gall straen/ pryder/ iselderysbryd/ ofn/ diffyg ysgogiad/ unigeddarwain at ystyried hunan laddiad.

YNYSIAD GWLEDIG

Gall bywyd gwledig ychwanegu atdeimladau o fod yn ynysig a’r penblethynglŷn â dod allan. Mae aelod o’rgymuned BME mewn ardal wledig ynweladwy iawn, ond i’r gwrthwyneb, maeperson LHD yn aml yn anweledig iddarparwyr gwasanaethau, sydd hebfod yn ymwybodol, nac wedi paratoi argyfer, anghenion a materion sy’n codi iberson LHD BME.

Mae pobl LHD, a’r rhai sy’n archwilio eucyfeiriadedd rhywiol, weithiau yn medrucanfod eu hunain mewn amgylchedd ogasineb, yn dioddef bwlio achamdriniaeth homoffobaidd.Ychwanegwch ethnigrwydd i’rgymysgedd hon, ac fe welwchboblogaeth lleiafrif ethnig gwlediggogledd Cymru sy’n amrywiol ac yn amlyn ynysig. Mae unigolion a grwpiau BMEmewn ardaloedd gwledig yn wynebusialensiau tebyg i’r rhai sy’n cael eu profigan bob dinesydd gwledig. Foddbynnag, maent yn aml mewn sefyllfagymysglyd sy’n gwneud eu profiadau ynunigryw. Ar un llaw, mae eu niferoeddisel, amrywiaeth a dosbarthiadgwasgaredig yn medru golygu eu bodyn weladwy iawn o fewn cymunedaugwledig. Ar y llaw arall, gall ynodweddion demograffig hefyd arwainat eu gwneud yn anweledig iddarparwyr gwasanaethau. Hefyd, mae’rniferoedd isel o bobl o unrhyw un grŵpethnig, a natur wasgaredig yboblogaeth, yn lleihau’r posibilrwydd ogefnogaeth i’w gilydd.

Ynysiad mewn lleiafrif bychan; bod ynlleiafrif bychan o fewn lleiafrif bychan.

Mae dau brif beth o ran unigrwydd, ynfy marn i, yn arbennig yng ngogleddCymru; yn amlwg, bod yn ynysig, [a]

Page 6: Bys yn y Dŵr

1110

MYNEDIAD ATWYBODAETH BRIODOL

Mae mynediad at wybodaeth briodol ynanodd ar gyfer person BME LHD ac maehyn yn cyfyngu ar ddewisiadau.

Gall unigolion LHD BME ddioddef yn sgilbod yn weladwy o fewn eu cymunedaulleol ond yn anweledig i’r rhai sy’ndarparu gwasanaethau cyhoeddus.Hefyd, mae’n bosib nad yw agweddaunegyddol at bobl LHD / BME yn cael eutaclo’n effeithiol oherwydd bod ygrwpiau sy’n cael eu heffeithio’n ei chaelyn anodd adeiladu rhwydweithiaucefnogaeth cryf yn lleol. Gallcamwahaniaethu, ynysiad cymdeithasolac eithriad cymdeithasol, agwasanaethau amhriodol arwain atniweidio iechyd meddwl a lles, a pheryglo hunan laddiad.

Awgryma ymchwil (Cook et al 2007,Cowen et al 2009, Stonewall 2007 &2009) fod gan bobl LHD bryderonpenodol iawn nad ydynt o reidrwydd yncael eu hateb gan ddarparwyrgwasanaethau, ac y gall bobl LHD brofianghydraddoldebau cymdeithasol eang.Gall camwahaniaethu a homoffobia gaeleffaith sylweddol ar ymgysylltiad poblLHD gyda chymdeithas a strwythuraumewn cymdeithas.

Yn draddodiadol mae pobl LHD wedidisgyn drwy’r rhwyd, ond nawrymddengys fod asiantaethau statudol achymunedol yn ystyried LHD er mwyndarparu gwasanaethau. Cyflwynwydnifer o awgrymiadau ar gyfer dosbarthugwasanaethau.

... drwy wefan y cyngor a llyfrgelloedd.Os yw’r adnoddau yn caniatáu, mewnpapurau neu hysbysebion mewncyfryngau lleol. Lle da arall fyddai llemae llawer o gymunedau BME …

efallai mewn digwyddiad BME.

Nid yw asiantaethau statudol yn siŵr suti estyn at y rhai ar lefel cymunedolynglŷn â materion sensitif, maeamharodrwydd ar eu rhan rhagtramgwyddo. Nid ydynt yn gwybodbeth yw’r protocol nag at bwy i fynd.

…mae rhai arweinwyr cymunedol ynmeddwl nad yw’r math hyn o beth yndigwydd, iawn yn rhywle arall (ond) nidyma. Rwy’n meddwl fod angen sefydluperthynas, gan o bosib dorri’r wal i lawrychydig ar y tro. Efallai dod o hyd irywun o’r tu mewn, rhywun o’r tu mewni’r gymuned honno.

Mae’n wahanol yn y dinasoedd ... Maemwy o bobl yno felly mae asiantaethaustatudol yn teimlo’n fwy hyderus. Mae’rasiantaethau yno i edrych ar ôl poblLHD a darparu gwasanaethau. Mewnardaloedd gwledig, mae arian ynffactor, mae’r adnoddau yn brin,byddai’n well gan asiantaethau pe baimaterion o’r fath yn cael eu gadael naillochr.

Mae diffyg gwybodaeth, neuwybodaeth nad oes modd cyrraedd ato,o ran stwff LHDT. Nid oes unman i fynd,hyd yn oed o ran yr ochr rhywiol ar gyfercyngor neu archwiliad iechyd. Maeangen mwy o ymwybyddiaeth amwasanaethau iechyd rhywiol.

Rwy’n ddigon cysurus, ond rwy’nadnabod pobl nad ydynt, gan eu bod ynteimlo eu bod yn cael eu gwrthod neu

nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif,felly maent yn bryderus am ddweudwrth eu meddygon hyd yn oed eu bodyn hoyw.

…oherwydd nid ydynt yn ddigonhyderus ac er gwaetha’r cyfrinachedd,maent yn ofni y byddai’n treiddio yn ôli’r teulu neu gymuned. Dylaiasiantaethau …bwysleisio fod yr hynsy’n cael ei drafod yn gyfrinachol a bodparch ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol.Rwy’n credu y byddai pobl yn fwyhyderus mewn amgylchedd lle maentyn teimlo’n gysurus yn trafod.

Roedd cefnogaeth yn (dinas yn Lloegr),lle mae grŵp ar gyfer pobl BME yn unig.Mae dawns neu ddisgo unwaith y mis.Roedd llawer o bobl BME yno, a ddaethyn ffrindiau ac i adnabod ei gilydd. I rai,roedd yn anodd bod allan, roeddent yn‘dod allan, ond nid i’r teulu ... Byddai’nwych cael rhywbeth tebyg (yma), ganfod pobl yn byw yn ynysig. Gellidmynychu grwpiau cefnogi, ond byddaiangen teithio i Lerpwl neu Fanceinion.Wrth gael cefnogaeth BME, gallwchddeall yn well, oherwydd mae pwysauteuluol a diwylliannol sy’n wahanol igrwpiau eraill.

Gyda’r ymchwil ar gyfer cefnogaethcymheiriaid yn parhau i fod yn bethnewydd, mae’r angen am y math hwn owasanaeth yn cael cefnogaeth gref ynymatebion y cyfranogwyr.

Page 7: Bys yn y Dŵr

1312

ddiwylliannol, mae grym yn eurhwystro rhag cael eu derbyn neu fodallan.

Roedd un o fy ffrindiau yn Fwslim ac ynhoyw. Pan ddaeth allan cafodd ei anfonat seiciatrydd a’i orfodi i fynd drwy’rdriniaeth nad oedd am ei ddilyn.Rydych yn teimlo’n flin dros y personoherwydd … y cyfan mae’n gwneudyw dod allan. Eto mae’r holl bwysau obob cyfeiriad. Yn y pen draw aeth yn iselei ysbryd, ac fe dorrodd i lawr gan nadoedd ganddo rywun i siarad ag ef.

Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda’mffrindiau ac maent yn dweud ‘mae felbyw bywyd dwbl.’ Rhaid dweudcelwydd wrth y teulu. Dydych chi ddimeisiau gwneud hynny. Ond rhaid i chibrofi eich hunaniaeth. Yn y bôn rydychyn cuddio’ch hun drwy’r amser. Mae’ngosod llawer o bwysau arnynt, i uno’rddau.

Rwy’n ystyried fy hun yn unigryw! O’msafbwynt personol i, rwy’n gysurus felperson Asiaidd a hoyw. Ers bod yn fyarddegau, roeddwn yn gwybod fy modyn wahanol, doeddwn i byth yn teimlo’neuog, roeddwn yn derbyn hynny. Ynffodus nid oedd pwysau gan y teulu.Roeddent yn barod i’m derbyn. Fellyroeddwn yn lwcus o ran hynny. Ond,rwyf wedi gweld ffrindiau eraill sy’nBME ac yn hoyw. Mae’n anodd cysoni’rddau fywyd.

Llyfryddiaeth

Bulmer, M., a Solomos, J. (Gol) (1999).Ethnic and Racial Studies Today.Llundain: Routledge.

Cook, K., Davies, G., Edwards, S., Semple,C., Williams, L., Williams, S. (2007)Adroddiad Prosiect Tu Mewn Tu Allan.Bangor: Stonewall Cymru a PhrifysgolCanolbarth Lancashire. Cymunedau aLlywodraeth Leol

Cowen, T., Rankin, A., Stoakes, P., Parnez,T. (2009) Everyone IN, The MinorityEthnic LGBT Project. Yr Alban: BEMIS(Black Ethnic Minority Infrastructure inScotland) a’r Rhwydwaith Cydraddoldeb(Lesbian, Gay, Bisexual and TransgenderRights Scotland)

De Lima, P. (2001) Needs Not Numbers –an exploration of minority ethniccommunities inScotland. Llundain: ComisiwnCydraddoldeb Hil a’r Sefydliad DatblyguCymunedol.

De Lima, P. (2002) Rural Racism:mapping the problem and definingpractical policy. Llundain: ComisiwnCydraddoldeb Hil.

De Lima, P. (2003) Beyond Place:ethnicity / race in the debate on socialexclusion / inclusion in Scotland. Erthyglyn Policy Futures in Education, Cyfrol 1,Rhif 4. Coleg Inverness, SefydliadMileniwm Prifysgol Highlands andIslands.

Solomon, P. (2004) Peer Support/PeerProvided Services Underlying Processes,Benefits and Critical Ingredients,Psychiatric Rehabilitation Journal.

Stonewall (Hunt, R. a Dick, S.) (2007)Serves You Right, Lesbian and gaypeople’s expectations of discrimination.Llundain: Stonewall.

Stonewall (Hunt, R., a Fish, J.) (2008).Prescription for Change: Lesbian andbisexual women’s health check 2008.Llundain: Stonewall, De MontfordUniversity.

Williams, C. & Baker, T H (2009)Developing Effective Engagement forConsultation with Black & EthnicMinorities in Rural Areas. RhwydwaithCydraddoldeb Hil Gogledd Cymru aPhrifysgol Keele.

Mwy o wybodaeth:www.stonewallcymru.org.ukwww.stonewall.org.ukwww.nwren.org

CAMWAHANIAETHULLUOSOG

Ysgwyddo gormod o frwydrau i gael euderbyn gan y gymuned BME, ygymuned LHD a chymdeithas yngyffredinol heb unrhyw esiamplauymddygiad i arwain y ffordd.

Mae cynnwys mewn neu eithrio ogategorïau gwahanol yn arwain atoblygiadau. Gall hunaniaeth luosog gaelei chwalu a’i dosbarthu yn sgilcategoreiddio neu bwysau ‘cymuned’.Mae pobl yn gymhleth, gyda nifer owahanol nodweddion yn llunio’upersonoliaeth. Efallai fod syniadaumewnol ac allanol am unigolion yngwrthdaro, a phan fo nodweddion ynherio gwerthoedd prif ffrwd neuystrydebol mae unigolion yn wynebudewis o fod yn driw i’r hunan neu greudelwedd sydd yn ymddangos yn fwyderbyniol i arferion diwylliannolcyfredol.

Mae’n fater cymhleth iawn. Mae’rcefndir diwylliannol yn rhan o’r effaith,ond mae hefyd yn fater sy’n codi o rancyfeiriadedd rhywiol. Wrth ddod allan i’rteulu, rydych i bob pwrpas yn rhoi tatenboeth iddynt, gan fod yn rhaid iddynthwy ddod allan i rywun arall, mae’npasio’r daten boeth i lawr y llinell.

Rwy’n meddwl fod y 3ydd cenhedlaethyn fwy parod i dderbyn. Mae rhaimaterion yn codi o hyd. Mae rhaicrefyddau fel Islam lle nad yw’n cael eidderbyn o hyd, neu yn Jamaica, ynniwylliant India’r Gorllewin, nid yw’ndderbyniol. Er eu bod o bosib yn hoyw,maent yn teimlo nad yw’n dderbyniol yn