cynllun cyngor celfyddydau cymru 2009- 2012

32
Adeiladu dyfodol cryfach i'r celfyddydau Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012 Dawns Tan

Upload: cyngor-celfyddydau-cymru-arts-council-of-wales

Post on 19-Feb-2016

241 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012 Dawns Tan Dic Jones Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012 Llun gan waith Yin Shuangyi Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

TRANSCRIPT

Page 1: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

Adeiladu dyfodol cryfach i'r celfyddydau

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Dawns Tan

Page 2: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

Erioed y mae rhyw drydan - yn nwyloDynoliaeth ym mhobmanYn dirwyn edau arianLlun a chelf a llên a chân

Dic Jones

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Llun gan waith Yin ShuangyiCelfyddydau Rhyngwladol Cymru

Page 3: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Cynnwys

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i drefnu bod gwybodaeth ar gael mewn print bras,braille ac ar gasét sain a bydd yn ceisio darparugwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg aSaesneg ar gais.

Mae'r ddogfen hon wedi'i hypergysylltu. Bydd clicio ar y penawdau ar y dudalen gynnwysyn mynd â chi'n syth i'r dudalen berthnasol.

Cyflwyniad 02

Ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a'n gwerthoedd 04

Amdanom ni 06

Yr hyn a wnawn 08

Adeiladu dyfodol cryfach 10

Ein targedau uchel 13

Ein blaenoriaethau 14

Gwneud iddo ddigwydd 23

Yr arian 24

Ein strategaeth ariannol 26

Adlewyrchu ein gwerthoedd 28

Am wybod mwy? 30

Page 4: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

Cyflwyniad …

Mae Cynllun yn ffordd o droi dyheadau yn gamau gweithredu. Mae CyngorCelfyddydau Cymru yn gorff llawn dyhead ac yn ein barn ni mae'r gallu i weithredu'neffeithiol fel asiantaeth i Gymru yn greiddioli'r gwaith o ddatblygu cymdeithas ddinesig.Erbyn hyn mae'n rhaid i'r gwaith o luniopolisïau, o fewn agenda drawsbynciolgyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru,fynd law yn llaw â'r broses o'i chyflawni. Yn y ddogfen hon rhannwn ein gweledigaethar gyfer y celfyddydau ac eglurwn y broses oreoli drwy bartneriaeth a fydd yn ein harwaindros y tair blynedd hollbwysig nesaf.

Wrth wraidd ystyriaethau CyngorCelfyddydau Cymru mae ein cysyniad oGreadigrwydd i unigolion a sefydliadau.Mae'n rhaid iddo fod yn rhan sylfaenol o'nhunaniaeth genedlaethol - o'r Economi, i Iechyd ac Addysg, yn elfen allweddol o waith Adfywio ac yn ffactor sy'n sbardunodemocratiaeth fwy cyfranogol - oherwyddmae mewn sefyllfa i lunio'r gymdeithas sy'ndatblygu ar ei ben ei hun a rhoi hwb i'nhuchelgeisiau cymdeithasol fel cymunedgenedlaethol.

Dadleuwn fod yn rhaid i gydsynio rhethregol,er budd pobl Cymru, ildio i'r broseswirioneddol o weithredu'r rhesymeg anatebolhon yn awr. I Gymru mae tanariannu eichelfyddydau yn gyfystyr â chelu ei hun rhagy byd. Mae angen i ni chwarae rhan amlwga chael ein cydnabod fel ni'n hunain ermwyn llwyddo yn yr holl ffyrdd y mae bydsy'n canolbwyntio fwyfwy ar greadigrwyddyn galw amdanynt.

Yn y ddogfen hon gwelwch eiriau synhwyrol,ond cyfarwydd, am Fynediad, Rhagoriaeth,Pragmatiaeth, Partneriaeth a phriodoleddaucynhenid y celfyddydau sy'n gwasanaethupob rhan o Gymru, sy'n gofyn amymdeimlad o les o du cymunedau iunigolion. Fodd bynnag, byddwn hefyd ynarddel barn rydym am ei chyfleu fwyfwydegawd ar ôl Datganoli: bod yn rhaid iarweinyddiaeth ddinesig a gwleidyddol fodyn llawn dychymyg er mwyn sicrhauansawdd bywyd ein pobl y gallai mwy oarian arwain ato ar sawl ffurf. Nid yw'rcelfyddydau yn fân bethau dymunol. Dyma'rhyn sy'n gwneud i galon Cymru guro, acmaent yn wahanol o genhedlaeth igenhedlaeth.

Dai SmithCadeirydd

02

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Page 5: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

03

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012Arts Care Gofal Celf

Page 6: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

04

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a'n gwerthoedd ...

mae'r celfyddydau a diwylliant yn greiddioli'n hunaniaeth genedlaethol, gan gymellpobl i ymweld â ni a dysgu amdanom

mae artistiaid o ansawdd sy'n llawndychymyg yn byw ac yn gweithio

mae'r celfyddydau wrth wraidd eihadfywiad cymunedol ac economaidd,gan olygu eu bod yn cael eu hystyried

mewn gwaith cynllunio lleol achenedlaethol

mae'r celfyddydau ar gael yn fwy, gyda'rystod ehangaf o bobl yn cymryd rhanynddynt ac yn eu mwynhau

mae artistiaid uchelgeisiol a chlodfawr ynategu enw da'r wlad o ran diwylliant

gweledigaeth Cymru greadigol lle mae'r celfyddydau yn greiddiol i fywyd y genedl

cenhadaeth Ni yw'r corff arweiniol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru

gwerthoedd

Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r asiantaeth sy'nariannu ac yn datblygu'r celfyddydau yn y wlad hon

arbenigol

effeithiol

creadigol

cydweithredol

agored

atebol

Rydym am i Gymru fod yn genedl lle ...

Cefnogi'rbroses o greucelfyddyd oansawdd uchel

Annog mwy obobl i gymrydrhan yn ycelfyddydau a'umwynhau

Sicrhau twfeconomi'rcelfyddydau

Datblygueffeithiolrwyddaceffeithlonrwyddein busnes

Page 7: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

05

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

arbenigol

Ymhlith ein staff a'n cynghorwyr maegennym ffynhonnell fwyaf y genedl oarbenigwyr celfyddydol. Ein nod yw gwellaa datblygu'r arbenigedd hwnnw drwyddefnyddio gwybodaeth ac arbenigeddartistiaid, sefydliadau celfyddydol aphartneriaid.

effeithiol

Mae'r cyhoedd yn iawn i fynnu bod ysefydliadau a ariennir ganddo yneffeithlon ac yn gost effeithiol. Mae'r rhairydym yn gweithio gyda hwy yn disgwyl ini gael yr hanfodion yn gywir a sicrhauein bod yn cyflawni ein swyddogaethaumewn ffordd syml a phroffesiynol. Anelwnat ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o'rsafon uchaf.

creadigol

Mae'r celfyddydau yn ffynnu arysbrydoliaeth, arloesedd a chreadigrwydd.Mae'n rhaid i ni rannu'r nodweddion hyn,gan flaengynllunio a bod yn greadigolwrth ddatblygu a gwneud ein gwaith.

cydweithredol

Cydnabyddwn werth cydweithio yn ysector cyhoeddus a'r sector preifat.Gwerthfawrogwn bartneriaethau acrydym yn ymrwymedig i ddatblygucydberthnasau cefnogol sy'n dangosparch at ei gilydd.

agored

Rydym yn ymddwyn mewn ffordd agored,onest a thryloyw. Rydym yn trin ein hollgydweithwyr yn yr un modd heb unrhywragfarn. Rydym yn cyhoeddi gwybodaetham yr hyn a wnawn, ac yn croesawuawgrymiadau ar sut y gallwn wella.

atebol

Rydym yn gweithredu hyd braich i'rllywodraeth. Fodd bynnag, cydnabyddwnfod yn rhaid i ni roi cyfrif am ein defnyddo arian cyhoeddus fel corff cyhoeddus.Rydym yn gwneud penderfyniadauariannol ar sail ffeithiau pob achos unigolac yn gweithredu er budd y celfyddydau.

Page 8: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

Amdanom ni ...

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn elusenannibynnol, a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinolyn 1994. Caiff ei aelodau eu penodi ganWeinidog dros Dreftadaeth LlywodraethCynulliad Cymru.

Ein prif noddwr yw Llywodraeth CynulliadCymru. Rydym hefyd yn dyrannu arian y Loteri Genedlaethol ac yn codi arianychwanegol lle y gallwn o amrywiaeth offynonellau yn y sector cyhoeddus a'r sectorpreifat.

Gan gydweithio â Llywodraeth CynulliadCymru, gallwn ddangos sut mae'r celfyddydauyn helpu i gyflawni uchelgeisiau polisi Cymru'nUn y llywodraeth.

Mae ein staff yn gweithio mewn swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Page 9: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

07

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

07

Therapi Cerdd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru(llun: Kiran Ridley)

Page 10: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

cefnogi a datblygu gweithgarwchcelfyddydol o ansawdd uchel -buddsoddwn arian cyhoeddus, a roddirgan y trethdalwr, ac a ddyrennir i ni ganLywodraeth Cynulliad Cymru. Ar hyn obryd rydym yn gwario tua £31 miliwn bobblwyddyn, gan helpu'r celfyddydau i ffynnuyng Nghymru

dyrannu arian y Loteri - drwy geisiadau i'nrhaglenni ariannu gallwn fuddsoddi mewnprosiectau sy'n datblygu gweithgarwchcelfyddydol newydd, gan gefnogiunigolion a sefydliadau

rhoi cyngor ar y celfyddydau - drwy einstaff a'n cynghorwyr mae gennym y swmmwyaf o arbenigedd a gwybodaethgelfyddydol yng Nghymru

rhannu gwybodaeth - ni yw canolfangenedlaethol rhwydwaith o wybodaeth amy celfyddydau yng Nghymru. Hefyd maegennym gysylltiadau rhyngwladol cryf yn yDU a thu hwnt

codi proffil y celfyddydau yng Nghymru -ni yw llais cenedlaethol y celfyddydau yngNghymru sy'n sicrhau bod pobl ynymwybodol o ansawdd, gwerth aphwysigrwydd celfyddydau'r genedl

cynhyrchu mwy o arian i economi'rcelfyddydau - mae mentrau fel CynllunCasglu (ein cynllun i annog mwy o bobl ibrynu gwaith celf) a'n llwyddiant o ran caelarian Ewropeaidd yn sicrhau bod mwy oarian ar gael i economi'r celfyddydau

dylanwadu ar gynllunwyr a'r rhai sy'ngwneud penderfyniadau - cynhelir ycelfyddydau mewn sawl lleoliad gwahanol.Gallant gael effaith drawiadol ar ansawddbywyd pobl, a'r mannau lle maent yn bywac yn gweithio. Mae'r celfyddydau hefydwrth wraidd mentrau adfywio economaidda chymdeithasol yn aml. Ein rôl ni ywsicrhau bod y cyfraniad y gall ycelfyddydau ei wneud yn cael eigydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu

08

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Yr hyn a wnawn ...

Canolfan Grefftau Rhuthun (llun: Dewi Tannatt-Lloyd)

Page 11: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

09

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

10 ffaith am y celfyddydau yng Nghymru...

1Mae dros dri chwarter o'r boblyng Nghymru (76%) yn cytunobod "y celfyddydau a diwylliant yngwneud Cymru yn lle gwell i fyw"

2 Aeth wyth allan o ddeg (79%) o oedolion yng Nghymru iddigwyddiadau celfyddydol y llynedd (66% 10 mlynedd yn ôl) -mae naw allan o ddeg (92%) o bobl ifanc 16-24 oed yn mynd iddigwyddiadau celfyddydol

3Mae traean o'r holl oedolion yng Nghymru yn cymryd rhanmewn gweithgareddaucelfyddydol, gyda'r cynnyddmwyaf yn 2008 ymhlith y boblleiaf cefnog (+ 28%)

4 Mae pobl o bob cefndir yng Nghymru yn cymrydrhan yn y celfyddydau. Lleihaodd y bwlch o rancymryd rhan mewn gweithgarwch celfyddydolrhwng y mwyaf cefnog (37%) a'r lleiaf cefnog(27%) wyth pwynt canran yn 2008 o gymharu â2007

5Mae ein partneriaeth â ChymdeithasAdeiladu'r Principality yn cefnogi eincynllun i brynu gwaith celf drwyfenthyciad sef Cynllun Casglu - caiffgwaith celf ei werthu mewn 80 oorielau ledled Cymru o ganlyniad iddo

6 Yn 2007/08 cynhaliodd ein cynllun teithio cymunedol NosonAllan 535 o ddigwyddiadau mewn330 o leoliadau, a drefnwyd gan2,169 o wirfoddolwyr ac a gafoddeu mwynhau gan 33,000 o bobl

7Mae Cyngor y Celfyddydau yn cefnogi mwy na 100 o sefydliadau a gaiff arian refeniw bob blwyddynledled Cymru, gan gyflogi mwy na6,500 o bobl

8 Am bob £1 a fuddsoddir ganGyngor y Celfyddydau yn eisefydliadau a gaiff arian refeniwcynhyrchir £3 o incwm arall

9Yn 2007/08gwnaethom fuddsoddiychydig dros £11m ynardaloedd Cymunedauyn Gyntaf, sy'n gynnyddo 12% dros y tairblynedd diwethaf

10 Mae sefydliadau a gaiff arianrefeniw wrth wraidd diwydiannaucreadigol y genedl (sydd werthtua £1.1bn i'r economi yngNghymru)

Page 12: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

10 Adeiladu dyfodol cryfach ...

Rydym yn llawn uchelgais wrth feddwl am y celfyddydau yng Nghymru. Mae eingweledigaeth yn un ar gyfer Cymru greadigollle mae'r celfyddydau yn greiddiol i fywyd ygenedl, gan ei gwneud yn lle cyffrous abywiog i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Maeein gwaith yn adlewyrchu nod Cymru'n UnLlywodraeth Cynulliad Cymru sef hyrwyddodiwylliant cyfoethog ac amrywiol.

Mae llwyddiant y celfyddydau yng Nghymru yn dibynnu ar ddychymyg a chreadigrwydd ein hartistiaid, ansawdd eu gwaith aphwysigrwydd y gwaith hwn i ni felcymdeithas. Mae angen i ni greu amgylcheddlle y gall artistiaid uchelgeisiol a mentrusddatblygu a ffynnu.

Caiff ein gwaith ei lywio gan yr egwyddorioncyffredinol canlynol:

pennu gwerth celfyddyd - roedd AdolygiadCelfyddydau Cymru (Stephens) yn cynnwysamddiffyn y celfyddydau yn chwyrn:

“. . . Nid ‘gwerth a ychwanegir’ at fywyd ‘go iawn’, ‘difrifol’, ‘ymarferol’ mo’rcelfyddydau; nid ydynt yn ymylol, nac yn addurniadol neu’n ‘adloniant’. Nidgweithgaredd hamdden mohonynt.Gweithgaredd dynol craidd yw’rcelfyddydau, na ellir eu gwahanu oddi wrthfodolaeth bersonol a chymdeithasol . . .”

Pwy allai anghytuno? Gwyddom fod rhaiyn anghytuno. Mae angen i'r celfyddydaugael stori gliriach i'w hadrodd am y fforddmaent yn gwella ansawdd ein bywydau, ac felly pam y dylid eu cefnogi.

Adroddwn y stori hon yn gliriach ac yn fwy hyderus, a gwahoddwn artistiaid a

sefydliadau celfyddydol y genedl i'n helpui'w llunio. Gwyddom, er mwyn i ni wella einhawdurdod fel corff credadwy sy'n cefnogi'rcelfyddydau, fod yn rhaid i ni gyfathrebu agartistiaid mewn modd agored, rheolaidd acystyrlon

dathlu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru -mae hanes a natur gyfoethog yr iaithGymraeg yn rhan nodedig ac unigryw ofywyd diwylliannol ein cenedl. Mae'rcelfyddydau mewn sefyllfa ddelfrydol ifynegi gwerthoedd, bywiogrwydd adwyieithrwydd Cymru gyfoes. Rydym ynymrwymedig i weledigaeth LlywodraethCynulliad Cymru o Gymru ddwyieithog

ymrwymiad cadarn i ansawdd - mae'n rhaidi ni anelu at annog y gorau y gallwn, drwy'ramser. Mae'n rhaid i ni herio cyffredinedd amynnu'r gorau gennym ni a chan ysefydliadau a ariannwn. Fel stiwardiaidarian cyhoeddus ni ddylem wario arian aryr hyn nad yw'n rhagorol nac o ansawdd,neu nad oes ganddo'r potensial i fod felly

Nodau amgen ansawdd yw gweledigaeth,arweinyddiaeth a'r hyder i fod yn arloesol achymryd risgiau. Mae'r nodweddion hyn i'wgweld mewn sefydliadau bach a mawr o'rrhai sy'n gweithredu ar lwyfan cenedlaetholi'r rhai sy'n fwy lleol

hyrwyddo'r celfyddydau byw, cyfoes - heb y celfyddydau byw, mae diwylliant mewnperygl o ddod yn amgueddfa i waith wedi'iailgylchu, ac yn llwyfan i ddehongliadaunewydd o draddodiadau diwylliannol yr oesa fu. Mae'n rhaid i ni barchu ein treftadaethddiwylliannol, ond ymddiddori yn yr hynsy'n newydd ac yn gyfoes ar yr un pryd -gwaith sy'n dwyn sylw cynulleidfaoeddnewydd ac ehangach ac yn cysylltu â hwy,

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Page 13: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

. . . Nid ‘gwerth a ychwanegir’ at fywyd ‘go iawn’,

‘difrifol’, ‘ymarferol’ mo’r celfyddydau; nid ydynt yn

ymylol, nac yn addurniadol neu’n ‘adloniant’. Nid

gweithgaredd hamdden mohonynt.Gweithgaredd

dynol craidd yw’r celfyddydau, na ellir eu gwahanu

oddi wrth fodolaeth bersonol a chymdeithasol . . .

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Sean Tuan John - Enillydd un o Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2008/09(llun: Roy Campbell Moore)

11

Page 14: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

12

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

tra'n dwysáu profiad cynulleidfaoedd sy'nbodoli eisoes

cynnwys y cyhoedd yn fwy - mae angencynulleidfa ar y celfyddydau er mwyn iddyntffynnu a datblygu. Y sefydliadau celfyddydolmwyaf creadigol yw'r rhai a gaiff eu llywiogan weledigaeth artistig, ac sy'n deall sut iarwain a datblygu eu cynulleidfa. Maenthefyd yn ymrwymedig i gyrraeddcynulleidfaoedd newydd, gwahanol a mwyamrywiol, gan oresgyn y rhwystrau sy'n atalpobl rhag mwynhau'r celfyddydau achymryd rhan ynddynt. Maent yn denu pobli waith o ansawdd uchel, gwaith a all fod ynheriol ac yn anodd ar adegau

Mae angen i ni greu mwy o gyfleoedd ibobl gymryd rhan yn y celfyddydau a'umwynhau. P'un a ydynt yn cymryd rhanneu'n gwirfoddoli, mae sawl ffordd y gallpobl ddysgu am y celfyddydau a chyfrannuatynt

creu diwylliant mwy cynhwysol - ni ddylaianghydraddoldebau ym meysydd cyfoeth,iechyd ac addysg gyfyngu ar brofiadaudiwylliannol pobl. Mae'n rhaid i nigydnabod y perygl a mynd i'r afael ag ef.Mae iechyd dinasyddion y dyfodol, ynenwedig pobl ifanc, ynghlwm wrth ein nod isicrhau bod gan y celfyddydau gynulleidfamor eang â phosibl

manteisio i'r eithaf ar ein partneriaethaucyhoeddus - mae'r arian cyhoeddus a gawndrwy Lywodraeth Cynulliad Cymru yngreiddiol i'n buddsoddiad yn y gwaith oddatblygu celfyddydau'r wlad. Fodd bynnag,mae angen i ni wneud mwy i gynllunio ar ycyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a'rsefydliadau eraill hynny rydym yn cydweithioâ hwy drwy'r sector cyhoeddus.

O'r rhain, mae ein partneriaid llywodraethleol yn hynod bwysig. Awdurdodau lleol ywein partneriaid hanfodol, naill ai drwy

sefydliadau cydariannu, neu fel cydweithwyrmewn prosiectau strategol bwysig sy'ndatblygu'r celfyddydau. Mae angen meithrincydberthynas â hwy sy'n agored, yn ennynparch ac yn gydweithredol

Ar y cyd â llywodraeth leol ystyriwn ffyrddnewydd o weithio mewn partneriaeth sy'ngwneud y defnydd gorau o adnoddau,gwybodaeth ac arbenigedd. Byddwn hefydyn gweithio gyda Llywodraeth CynulliadCymru a llywodraeth leol i ddod o hyd i'rffordd orau o weithredu ymrwymiadCymru'n Un i gyflwyno 'dyletswyddddiwylliannol'

gweithio drwy'r llywodraeth - caiff gwerthcynhenid y celfyddydau ei gydnabodbellach. Fodd bynnag, gall y celfyddydauhefyd daflu goleuni ar ystod eang ostrategaethau sy'n ategu bywyd cyhoeddusa'u rhoi ar waith. O'r celfyddydau ac iechydi dwristiaeth ddiwylliannol, celfyddydgyhoeddus i adfywio canol trefi, mae'rcelfyddydau yn gwneud ein bywydaubeunyddiol yn ystyrlon, yn ddilys ac ynhapus

hyrwyddo'r celfyddydau yng Nghymru arlwyfan byd-eang - gall rhagoriaeth achreadigrwydd celfyddydau Cymru wneudcyfraniad mawr iawn i ddatblygu eincysylltiadau diwylliannol â gweddill y byd.Mae llawer o sefydliadau celfyddydolCymru yn rhyngwladol bwysig, ac mae mwyo waith i'w wneud i ddatblygu eu rôl felllysgenhadon diwylliannol Cymru

sicrhau gwerth am arian - cyhoeddir einCynllun yn ystod un o'r cyfnodau mwyafheriol o ddirywiad economaidd a welwyd ynddiweddar. Bydd y gystadleuaeth am ariancyhoeddus a'r pwysau arno yn aruthrol.Mae angen i ni sicrhau bod pob ceiniog aroddir i ni yn cyflawni'r canlyniadau artistiggorau posibl

Page 15: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

13

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Ein targedau uchel ...

Cefnogi'r broses ogreu celfyddyd oansawdd uchel

Erbyn 2012 byddwn yn buddsoddi mewnportffolio o sefydliadau a ariennir sydd mewngwell sefyllfa i lwyddo yn artistig ac ynariannol

Annog mwy o bobli gymryd rhan yn ycelfyddydau a'umwynhau

Erbyn 2012 byddwn wedi cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau yngNghymru 3%

Sicrhau twfeconomi'rcelfyddydau

Erbyn 2012 byddwn wedi cynyddu ein trosiantgydag o leiaf 10% o'n hincwm yn deillio offynonellau newydd

Datblygueffeithiolrwydd aceffeithlonrwydd einbusnes

Erbyn 2012 byddwn ymhlith y 50 o gyflogwyrgorau yng Nghymru

Page 16: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

14

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Mae llwyddiant y celfyddydau yn dibynnu arweledigaeth a chreadigrwydd ein hartistiaida'n sefydliadau celfyddydol. Nhw fydd einpartneriaid hanfodol yn y gwaith o gyflawni'ruchelgeisiau a nodir yn ein Strategaethau arFfurfiau o Gelfyddyd.

Rydym am i Gymru fod yn llawn artistiaidcryf, parhaol, llwyddiannus ac arloesolynghyd â sefydliadau celfyddydol sy'n creu,yn cyflwyno ac yn hyrwyddo gweithgareddaucelfyddydol o ansawdd uchel. Byddwn yngweithio'n galed i geisio creu amgylcheddsy'n galluogi'r celfyddydau i ffynnu a datblygu- yn lleol, yn genedlaethol ac ynrhyngwladol.

Rydym yn ymrwymedig i gefnogi'r gorau, abyddwn yn parhau i wneud penderfyniadaubeiddgar a phendant. Canolbwyntiwn arddatblygu. Mae'r celfyddydau yn newid ac yndatblygu - mae'n rhaid i'n harian adlewyrchuhynny. Fel corff cyhoeddus bydd yn rhaid i nibob amser wynebu'r feirniadaeth ein bod yndueddol o edrych yn ôl mewn fforddgeidwadol ar un olwg, tra'n croesawu'r'newydd' mewn ffordd fyrbwyll ar yr olwgarall. Pan fydd yn briodol, ni fyddwn yn ofnimentro.

Credwn ei bod yn bwysig ceisio sbardunomwy o drafodaeth feirniadol o fewn ycelfyddydau yng Nghymru a thrafodaethamdanynt. Mae gan bawb farn am yr hynsy'n gelfyddyd 'dda'. Gwyddom hefyd fodcanfyddiadau pobl o ansawdd yn oddrycholac yn seiliedig ar brofiad, gwybodaeth achwaeth. Fodd bynnag, mae'r gelfyddyd sy'n cael ei chreu mewn ffordd onest a llawndychymyg, o ansawdd da ac yn cyrraeddcynulleidfaoedd ac yn effeithio arnynt, ynnodedig iawn ac yn hawdd i'w hadnabod yn aml.

Byddwn yn canolbwyntio'n arbennig ar einbuddsoddiad yn ein sefydliadau a gaiff arian refeniw, ein rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau a ariennir gennym bobblwyddyn. Fodd bynnag, ni fyddwn ynanwybyddu pwysigrwydd sylfaenol yr artistunigol. Wedi'r cyfan, yr artist, ymhobdisgyblaeth, gan cyfarch y byd o'i gwmpassy'n ail-greu mynegiant diwylliannol sy'nuniaethu â'n profiad o fywyd heddiw. Mae'nrhaid i ni ddarganfod, meithrin, a dathlu'rartistiaid a all gyflawni'r rôl bwysig hon.

Ein blaenoriaethau ...

Cefnogi'r broses o greu celfyddyd o ansawdd uchel …

Page 17: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

15

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

datblygu ffurfiau ar gelfyddyd

Byddwn yn gweithio gydag artistiaid, sefydliadau celfyddydol aphartneriaid i weithredu ein Strategaethau ar Ffurfiau arGelfyddyd.

cefnogi artistiaid

Byddwn yn parhau i hyrwyddo ein Dyfarniadau CymruGreadigol ac yn cyflwyno cynllun newydd i gefnogiLlysgenhadon Creadigol. Hefyd byddwn yn dod o hyd i ffyrddo wella ansawdd y cyngor a'r cymorth i ddatblygu busnesausydd ar gael i artistiaid.

gwaith rhyngwladol

Gan weithio drwy Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, byddwnyn anelu at sicrhau bod celfyddydau Cymru yn chwarae rhanfwyfwy amlwg ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol, ynogystal â cheisio denu'r dalent orau o dramor i Gymru.

rhagoriaeth,ansawdd acarloesedd

Byddwn yn parhau i annog gweithgarwch sy'n gosod esiampl,yn pennu safonau newydd ac yn annog uchelgais acentrepreneuriaeth.

gwaith monitro a gwerthuso

Byddwn yn datblygu ffyrdd mwy agored a gwell o roi gwybodam y gweithgarwch celfyddydol a gefnogir gennym a rhannugwybodaeth amdano.

Byddwn yn canolbwyntio ar bum gweithgarwch:

Page 18: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

16

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl brofi amwynhau'r celfyddydau: cael eu hysbrydoligan ddychymyg a chreadigrwydd, cael eucyffroi gan uchelgais a'r hyn sy'n wledd i'rllygad, cael eu hudo gan yr hyn sy'n newyddac yn anghyfarwydd. Rydym am i fwy o boblgymryd rhan yn y celfyddydau yn gyffredinol,a hefyd yn y sefydliadau a ariennir gennym.Byddwn yn buddsoddi mewn ymgyrchoedd iannog yr ystod ehangaf o bobl ledled y wladi fwynhau'r celfyddydau a chymryd rhanynddynt.

Ledled Cymru mae ymdeimlad cryf ohunaniaeth leol a ddylanwadir gan ycelfyddydau a diwylliant ac sydd yn ei thro yndylanwadu arnynt hwythau hefyd.Mabwysiadwn y diffiniad ehangaf posibl oamrywiaeth diwylliannol, gan adlewyrchudiwylliant gwirioneddol byw yng Nghymruheddiw. Byddwn yn canolbwyntio ar hil,cefndir ethnig ac anabledd. Rydym o blaidrhoi cyfle cyfartal i bawb fynd i leoliadau adigwyddiadau celfyddydol, i artistiaid fynegieu hunain ac i bobl gymryd rhan yn ycelfyddydau.

Mae ymhle a sut mae pobl yn cymryd rhanyn y celfyddydau, yn enwedig pan fydd hynyn digwydd yn lleol iawn, yn bwysig i ni. Maeein cynllun Noson Allan, er enghraifft, yncyrraedd cymunedau ledled Cymru drwygynnal perfformiadau o ansawdd uchel nafyddai rhai pobl yng Nghymru fel arall yngallu eu mwynhau.

Mae a wnelo cymunedau bywiog achynaliadwy â chymdogaeth a lle. Maent ynymwneud â materion bob dydd megis ysbrydcymunedol, diogelwch, iechyd ac addysg - yrhyn sy'n cysylltu pobl a chymunedau. Maeein partneriaethau ag awdurdodau lleol ynadlewyrchu'r pryderon hyn, a rhown bwyslais

arbennig ar yr ardaloedd hynny o Gymru addynodir o fewn y rhaglen Cymunedau ynGyntaf. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi eincysylltiadau drwy adrannau'r llywodraeth sy'nhelpu i ategu prosiectau fel ein strategaeth argyfer y Celfyddydau ac Iechyd.

Un o'n tasgau pwysicaf yw annog mwy obobl ifanc i gymryd rhan yn y celfyddydau.

Mae cymryd rhan yn y celfyddydau ac achubar gyfleoedd creadigol yn trawsnewid yffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu acyn gweld y byd o'u hamgylch. Gall newid yffordd maent yn gweld eu hunain - hyd ynoed eu breuddwydion ar gyfer y dyfodol - ynogystal â'u helpu i ddatblygu sgiliau penodol.Rydym am ddangos sut y gall y celfyddydaufynd i'r afael â thlodi pobl ifanc, ysbrydolipobl ifanc drwy feithrin ymdeimlad newydd ouchelgais a hyder, a herio diffyg dyhead.

O'r blynyddoedd cynnar hyd at dyfu ynoedolyn a thu hwnt, credwn y dylai pawb allumwynhau'r celfyddydau a chael profiadcreadigol o'r ansawdd gorau posibl. Drwywrando ar blant a phobl ifanc agwerthfawrogi eu creadigrwydd eu hunain,anelwn at gynnig cyfleoedd perthnasol sy'ncreu brwdfrydedd oes dros y celfyddydau acawydd i gymryd rhan ynddynt naill ai fel rhano'r gynulleidfa neu fel artist a fydd yn paraoes.

Gall bod yn rhan o brosiect sy'n cael effaithbellgyrhaeddol y tu hwnt i'r digwyddiad eihun roi hwb aruthrol i falchder a hyder.Rydym yn buddsoddi mewn rhaglen gyffrouso ddigwyddiadau i ddathlu'r OlympiadDiwylliannol. Erbyn 2012, bydd miloedd oblant ysgol a'u teuluoedd wedi cymryd rhanmewn prosiectau sy'n cysylltu Cymru â'i hun agweddill y byd.

Annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a'u mwynhau …

Page 19: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

17

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

cymryd rhan Byddwn yn cefnogi prosiectau mewn ardaloedd amddifad iawn.Rydym yn awyddus iawn i gefnogi gweithgarwch y celfyddydaucymunedol a allai drawsnewid profiadau unigolion achymunedau.

datblygucynulleidfaoedd

Byddwn yn cefnogi sefydliadau celfyddydol sydd â strategaethauclir wedi'u datblygu'n dda i annog mwy o bobl i fynd i'wdigwyddiadau.

cynnwys pobl ifanc Byddwn yn cefnogi amrywiaeth o strategaethau ymarferol a fyddyn cynyddu'r cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan yn ycelfyddydau fel cynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac artistiaid.

Byddwn yn canolbwyntio ar dri gweithgarwch:

Page 20: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

18

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Sicrhau twf economi'r celfyddydau …

Rydym am i fwy o arian fod ar gael i'rcelfyddydau yng Nghymru. Yn ogystal â'rarian cyhoeddus a gawn drwy LywodraethCynulliad Cymru a'r Loteri Genedlaethol,rydym hefyd wedi cael arian oddi wrthamrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel yrUndeb Ewropeaidd, YmddiriedolaethEtifeddiaeth y DU a'r Cyngor Prydeinig.

Rydym eisoes yn gweithio'n galed i ddod ohyd i ffynonellau newydd o arian ar gyfer ycelfyddydau. Mewn partneriaeth âLlywodraeth Cynulliad Cymru rydym wedicael £12miliwn o gyllid Ewropeaidd ar gyfery prosiect Cyrraedd y Nod. Bydd ybuddsoddiad hwn mewn gweithgarwch arlawr gwlad yn helpu pobl ifanc i oresgyn yrhwystrau sy'n eu hatal rhag cael addysg,gwaith a hyfforddiant.

Enghraifft arall yw Cynllun Casglu. Mae'rcynllun benthyciadau di-log hwn yngweithredu mewn 80 o orielau ledled y wlad,ac ers iddo gael ei lansio chwarter canrif ynôl, mae 25,500 o fenthyciadau wedi'u trefnu.Mae wedi annog pobl i brynu gwaith celf achrefft gwerth dros £11.15m.

Mae'r celfyddydau yn bwysig ynddynt euhunain. Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod ydiwydiannau creadigol a diwylliannol ynhollbwysig i economi Cymru. Maent yngwneud cyfraniad uniongyrchol o ran swyddiac yn creu cyfoeth drwy gynhyrchu,dosbarthu a manwerthu nwyddau agwasanaethau.

Yn y gorffennol diwydiant a gweithgynhyrchuoedd yn mynd â bryd prif gwmnïau'r byd.Bydd corfforaethau allweddol y dyfodol ynymwneud fwyfwy â meysydd cyfathrebu,gwybodaeth, adloniant, gwyddoniaeth athechnoleg. Mae'r rhain yn gofyn am lefel

uchel o ddychymyg creadigol a gweledigaethsy'n llawn mentergarwch - rhinweddau ymae'r celfyddydau a diwylliant mewn sefyllfaddelfrydol i'w meithrin a'u hyrwyddo.

Mae'r defnydd o dechnolegau digidol, ynenwedig mewn perthynas â'r diwydiannaucreadigol, yn faes fwyfwy pwysig oweithgarwch. Mae'r cynnydd aruthrol yn ydefnydd o dechnoleg ddigidol yn cynnigcyfleoedd creadigol newydd i artistiaid ac ynei gwneud yn haws i gynulleidfaoedd adefnyddwyr eu mwynhau. Fodd bynnag, gallyr holl ddelweddau, testun a gwybodaeth fodmor ddryslyd ag y mae'n rhyddhau. Mae ganartistiaid ran allweddol i'w chwarae i'n helpui lywio, deall a defnyddio'r cyfleoedd niferusa gynigir gan dechnolegau digidol.

Mae rhai rhannau o'r sector diwylliannol ynffurfio atyniadau pwysig i dwristiaid, gangreu galw am drafnidiaeth, llety,gwasanaethau arlwyo a mathau eraill ofusnes sy'n ymwneud â thwristiaeth. Foddbynnag maent hefyd yn rhoi Cymru ar yllwyfan rhyngwladol. Nid dim ond diffinio'rddelwedd o Gymru a wna ein tirnodaudiwylliannol. Maent yn fusnesau pwysigynddynt eu hunain.

Wrth ddatblygu economi greadigol y genedlrydym yn gweithio'n agos gyda LlywodraethCynulliad Cymru (y mae ei Chynllun Gofodolyn darparu cyd-destun ein gwaithpartneriaeth rhanbarthol). Rydym ynbuddsoddi mewn hyfforddi gweithluoedd iddatblygu sgiliau, a gweithfannau newydd iartistiaid ac entrepreneuriaid creadigol. Maegosod y celfyddydau wrth wraidd y broses oadfywio Cymru yn rhan greiddiol o'ncynlluniau, a byddwn yn datblygu ac yncyhoeddi cam nesaf ein strategaeth ar gyferCyfalaf y Loteri yn ystod oes y Cynllun hwn.

Page 21: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

19

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Byddwn yn canolbwyntio ar bum gweithgarwch:

nodi ffynonellaunewydd o gyllid

Byddwn yn cynyddu ein hincwm drwy gynllun clir astrwythuredig i godi arian. Byddwn yn targedu amrywiaeth offynonellau cyllid cyhoeddus a phreifat ar gyfer prosiectau amentrau penodol.

menter a thwfbusnes

Byddwn yn cefnogi'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol igyfrannu at dwf ein heconomi.

datblygu'r gweithlu

Byddwn yn gweithio gyda Sgiliau Creadigol a Diwylliannol iddatblygu'r gweithlu creadigol, gan greu mwy o gyfleoeddhyfforddi a datblygu proffesiynol.

twristiaethddiwylliannol

Byddwn yn sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant wrth wraiddy ffordd mae Cymru yn hyrwyddo ei hun i weddill y byd.

ymgyrchu Byddwn yn hyrwyddo cyflawniadau'r celfyddydau yng Nghymrudrwy ddathlu llwyddiannau a dangos y cyfraniad hanfodol awna'r celfyddydau i fywyd y genedl.

Page 22: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

20

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Datblygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein busnes …

Mae'n bwysig iawn bod sefydliadaucelfyddydol sy'n cael arian cyhoeddus ynperfformio'n dda. Mae hyn yn wir i ni hefyd.Fel unrhyw fusnes llwyddiannus, mae angen ini ddatblygu ein strategaeth fusnes yngnghyd-destun yr hyn sy'n digwydd yn y bydo'n hamgylch, a gallu ymateb i newid.

Mae gennym strategaeth glir ac effeithiol igyflawni ein gwaith sy'n gysylltiedig â'nhamcanion. Byddwn yn parhau i fod ynatebol am ein gwaith a monitro a chyflwynoadroddiadau ar ein perfformiad, a gwneudnewidiadau strategol pan fo angen. Byddwnyn agored ac yn dryloyw o ran egluro'r fforddy rheolwn ein busnes, a sut y rhown wybodam ein cyflawniadau.

Rydym yn ymrwymedig i weithio mewnpartneriaeth â sefydliadau eraill er mwyndarparu adnoddau ar gyfer ein rhaglennigwaith lle y bo'n briodol. Byddwn yn gweithioi ddatblygu arbedion cost gweithredol drwysymleiddio prosesau, defnyddio'r dechnolegorau sydd ar gael, a chreu amgylchedd lle yradolygwn effeithiolrwydd ein perfformiad ynbarhaus.

Rydym am feithrin cydberthynas newydd acaeddfed â sefydliadau celfyddydol - un sy'nseiliedig ar ymddiriedaeth a chyd-barch.Credwn fod yn rhaid i'r sefydliadau hyngymryd yr awenau o ran sicrhau arloeseddartistig a datblygu cynulleidfaoedd.

Disgwyliwn iddynt fod wedi'u rheoli'n dda.Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn deg yn yrhyn sy'n ofynnol ganddynt, ac ni wnawn ofyniddynt wneud mwy na'r hyn y mae eucyllidebau yn ei ganiatáu.

Byddwn yn tyfu ac yn datblygu ein diwyllianto fod yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar ycwsmer, yn gweithio er budd y cyhoedd ac ynadeiladu ar hyder ein rhanddeiliaid o ran eingallu i gyflawni. Fel corff sy'n dyrannu ariancyhoeddus ac elusennol anelwn at gyrraeddy safonau uchaf posibl yn ein gwaith. A thrwyein cyngor a'n cymorth - p'un a gynigiwnarian ai peidio - byddwn yn cymhwyso'r unsafonau o broffesiynoldeb a gofal.

Ein cyflogeion yw ein hadnodd pwysicaf, abyddwn yn parhau i ddatblygu eu sgiliau ameithrin eu hyder i'w galluogi i gyflawni einhamcanion corfforaethol. Byddwn yn aneluat fod yn gyflogwr sy'n gosod esiampl yn ysector cyhoeddus yng Nghymru, drwyddatblygu a chyflawni ein polisïau a'nharferion cyflogaeth.

Page 23: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

21

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

symleiddio busnes

Byddwn yn adolygu ein systemau a'n prosesau gweinyddol er mwyn sicrhau eu bod mor syml â phosibl. Os gwelwnfiwrocratiaeth ddiangen, gwnawn ei dileu.

y cwsmer yn gyntaf

Byddwn yn anelu at gyrraedd y safonau uchaf o wasanaethcyhoeddus a gwasanaeth cwsmeriaid. Byddwn yn asesu einperfformiad ac yn cyhoeddi'r canlyniadau.

datblygu staff Byddwn yn gweithredu strategaethau blaengar sy'n datblygusgiliau a gwybodaeth ein staff.

effeithlonrwydd Byddwn yn monitro ein perfformiad i sicrhau ein bod yndarparu gwasanaeth o ansawdd uchel am y gost resymol leiafposibl. Byddwn yn manteisio i'r eithaf ar botensial technoleggwybodaeth.

llywodraethu Rydym yn ymrwymedig i wneud ein strwythurau cynghori agwneud penderfyniadau yn glir ac yn dryloyw. Rydym amddefnyddio'r arbenigedd gorau sydd ar gael i ni, a sicrhaubod ein gwaith yn cael ei lywio gan waith asesu a gwaithymchwil seiliedig ar dystiolaeth gofalus.

Byddwn yn canolbwyntio ar bum gweithgarwch:

Page 24: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

22

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012Cwnmi Theatr Fluellen, Neuadd Gymunedol Pentrepoeth

Noson Allan (llun: Betina Skovbro)

Page 25: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

23

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Gwneud iddo ddigwydd ...

Er mwyn cyflawni ein Cynllun byddwn yncanolbwyntio ar dri pheth: arweinyddiaeth,strategaeth a chyflawni:

arweinyddiaeth - o dan arweiniad einCyngor byddwn yn:

pennu cyfeiriad clir

gweithio i sbarduno ein staff, ein rhanddeiliaid, artistiaid a sefydliadau celfyddydol

bod yn gyfrifol am arwain newid

meithrin gallu ac adnoddau ein staff - a'r celfyddydau - i gyflawni'r newidiadau y mae'r celfyddydau yn eu mynnu

strategaeth – wedi ein llywio ganweledigaeth y Cyngor - a fframwaith polisiLlywodraeth Cynulliad Cymru - byddwnyn:

disgrifio mewn ffordd glir a chymhellol ycanlyniadau rydym am eu cyflawni

dangos bod y newidiadau rydym wedi gorfod eu gwneud yn seiliedig ar farn hyddysg a gwaith ymchwil dilys

meithrin ymdeimlad o ddiben cyffredin gyda chymuned y celfyddydau sy'n uno camau gweithredu ar sail amcanion ein strategaethau

cyflawni - ar sail blaenoriaethau strategol y Cyngor byddwn yn:

cynllunio ac yn blaenoriaethu'r rhaglennio weithgarwch a fydd yn cyflawni ein hamcanion ynghyd â darparu adnoddau ar eu cyfer

datblygu rolau, cyfrifoldebau a modelaucyflawni clir (yn fewnol ac yn allanol)

rheoli a monitro ein perfformiad ynghydâ chyflwyno adroddiadau arno

Page 26: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

24

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

CYFANSWM

Yr arian ...

Cymorth grant Loteri

£m £m £m

Arian refeniw i sefydliadau 20.693 20.693

Arian strategol 2.248 2.248

Loteri (Cyfalaf) * 9.898 9.898

Loteri (Ffilm - wedi'i ddirprwyo i Asiantaeth Ffilm Cymru) 0.785 0.785

Loteri - cynlluniau a rhaglenni 3.399 3.399

Artistiaid ar y Blaen ** 0.083 0.083

Arian disglair 1.500 1.500

Cymru Greadigol 0.300 0.300

Y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd 2.000 2.000

Datblygu Theatr Saesneg 1.750 1.750

Costau gweithredu 2.442 1.569 4.011

Cyfalaf (ar gyfer Cyngor y Celfyddydau) 0.055 0.055

Incwm a enillwyd 0.015 0.015

CYFANSYMIAU 30.703 16.034 46.737

* Yn cynnwys y defnydd arfaethedig o falansau'r Loteri, a gorymrwymiad yn erbyn incwm y dyfodol

** Caiff cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i Artistiaid ar y Blaen (£250,000) ei ddyrannu'n gyfartal dros dair blynedd

Page 27: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

25

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012Arddangosfa - Cyfeillion Glynn Vivian - Arddangosfa dathlu hanner canmlwyddiant (1958 - 2008), crewyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian

Page 28: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

26

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Adeiladu ar lwyddiant

Cynlluniwn gyda'r arian sydd gennym, ondbyddwn yn galw am yr arian sydd ei angenar y celfyddydau yng Nghymru. Mae'rcelfyddydau yn un o wir lwyddiannau Cymru,ond mae'r llwyddiant hwn wedi'i adeiladu ardir ansefydlog. Mae'n rhaid sicrhau nad yw'runigolion dawnus hynny sy'n cael llawer osylw y mae Cymru yn ymfalchïo ynddynt yntynnu sylw oddi ar brofiadau beunyddiol ilawer o bobl sy'n byw yng Nghymru. Iddynthwy, mae'r hawl resymol i fwynhaugweithgareddau celfyddydol hygyrch oansawdd uchel yn parhau i fod ynhollbwysig.

Er gwaethaf y pwysau cynyddol ar ariancyhoeddus - a dim ond cynyddu a wna'rpwysau hyn dros yr ychydig flynyddoeddnesaf - mae gennym gyfrifoldeb nad oesdianc mohono i ddangos gwerthbuddsoddiad cyhoeddus yn y celfyddydau.

Her tanfuddsoddi

Credwn fod y celfyddydau yng Nghymru yndioddef o ganlyniad i danfuddsoddisylweddol. Yn 2008, dim ond 0.2% ogyfanswm cyllideb Llywodraeth y Cynulliad awariwyd ganddi'n uniongyrchol drwy Gyngory Celfyddydau ar gyfrifon y celfyddydau -neu fel arall llai nag un diwrnod calendr owariant Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwneud dewisiadau

Ni chredwn y gall ein strategaeth ariannol

fod yn seiliedig ar ymagwedd sy'n dyrannuadnoddau prin hyd yn oed yn fwy. Mae'nrhaid i ni wneud dewisiadau.

Mae'r cyllid sydd gennym yn golygu - ynhunanamlwg - na allwn sicrhau bod ycelfyddydau ar gael ymhob cymuned drwyGymru. Felly mae'n rhaid i sail ymagweddsy'n gorfod bod yn ddewisol fod yn glir, ynddarbwyllol a rhaid iddi gael ei deall. Mae'nrhaid i'r rhai sy'n cael arian gan Gyngor yCelfyddydau yn y dyfodol gynrychioli'r gorauyn eu maes.

Hefyd mae angen i ni egluro, mewn fforddfwy darbwyllol a chlir, nad yw arian Cyngor yCelfyddydau ond ar gael i wneud rhaglennisicr yn fwy fforddiadwy i gynulleidfa benodola sefydledig. Ni ddylem ychwaith fod yndyrannu cymhorthdal prin lle nad oes eiangen, lle y gall y 'farchnad' gynnal artist neusefydliad yn ddilys.

Ffynnu, nid dim ond bodoli

Mae creu rhwydwaith bywiog o sefydliadaucelfyddydol sy'n gyffrous yn artistig ac ynddichonadwy yn ariannol yn hanfodol igenhadaeth Cyngor y Celfyddydau. Pan fyddmwy o arian ar gael, mae buddsoddi mewntwf yn syml. Pan fydd arian yn aros yr unpeth - neu'n waeth yn lleihau - yna mae'rpwysau yn cynyddu. Gall hyn arwain atansawdd is, llai o allbwn, ac mewn achosioneithriadol gall arwain at gau sefydliadaucelfyddydol.

Nid yw'r opsiwn o 'wneud dim' - sy'nllywodraethu dros ddirywiad parhaus - yn

Ein strategaeth ariannol ...

Page 29: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

opsiwn o gwbl. Os bydd yr arian a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn aros yrun peth tan 2012, gallai effaith gronnol hyn(o ystyried chwyddiant) dros gyfnod o dairblynedd, mewn termau real, ostwng gwerthein portffolio refeniw tua £1.75m. Nid ywhon yn sefyllfa gynaliadwy.

Ledled Cymru, mae ein sefydliadaucelfyddydol gorau yn dangos uchelgais amentergarwch gwirioneddol, ond mae perygly daw hyn i ben. Nid oes gan adeiladau aailwampiwyd y refeniw i wireddu potensial eucyfleusterau newydd; mae rhaglenni'rcelfyddydau yn lleihau neu'n cael eu cwtogi;ac mae partneriaethau rhyngwladol o danfygythiad am na all ein sefydliadaugydweithio â sefydliadau tebyg a ariennir ynwell y tu allan i Gymru.

Mae'n rhaid i ni edrych o ddifrif ar y fforddrydym yn cefnogi ein 'portffolio' o sefydliadaua gaiff arian refeniw. Gwnawn hyn gydachefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymrusydd wedi gofyn i ni gwblhau'r adolygiadhwn erbyn mis Mawrth 2010.

Ymagwedd a gaiff ei llywio ganstrategaeth

Wrth i ni symud ymlaen, bydd ein strategaethyn llywio ein penderfyniadau ariannol ac ynpennu cyfeiriad y twf rydym am ei gyflawniyn y tymor hwy.

Byddwn yn:

cyflwyno'r achos o blaid cael mwy o ariangan y llywodraeth, gan edrych y tu hwnt i'rgyllideb Treftadaeth ac ymhob rhan o

Lywodraeth Cynulliad Cymru

achub ar gyfleoedd i gael arianEwropeaidd ac arian o ffynonellau eraill

dwyn ynghyd gymorth grant ac arian yLoteri (cyfalaf a phrosiect) yn unymagwedd strategol tymor hwy sy'n einhelpu i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir ynein Cynllun yn well

adolygu ein portffolio presennol osefydliadau a gaiff arian refeniw er mwyncyflawni strategaeth ariannu sy'n galluogiein sefydliadau i gyflawni eu potensial

creu'r hyblygrwydd o fewn ein cyllidebausy'n ein galluogi i feithrin talent newydd

datblygu ein partneriaethau ariannu gydallywodraeth leol, gan sicrhau ymagwedd'gyd-gysylltiedig' tuag at benderfyniadaubuddsoddi

nodi modelau priodol ar gyferbuddsoddiadau sector preifat

rheoli ein costau gweinyddol a'n gorbenioner mwyn cael y swm mwyaf posibl i mewni'n gwariant uniongyrchol ar y celfyddydau

rhoi'r dystiolaeth sy'n dangos effaith amantais buddsoddi ychwanegol

27

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Page 30: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

Anelwn at gyrraedd y safonau uchaf posibl oran y ffordd rydym yn ymddwyn ac yn rhedegein busnes. Gwyddom y byddwn yn cael einbarnu yn ôl ansawdd y gwasanaeth addarparwn i'r rhai rydym yn gweithio gydahwy.

Byddwn yn:

cyhoeddi safonau gwasanaeth ac ynmesur perfformiad yn erbyn y safonauhynny

cyhoeddi ein cynlluniau a chyflwynoadroddiadau blynyddol ar eincyflawniadau

sicrhau ein bod yn darparu gwybodaethreolaidd a hygyrch am ein harian a'ngwaith

symleiddio'r ffordd rydym yn rhedeg einbusnes, gan ddileu unrhyw fiwrocratiaethddiangen lle bynnag y gallwn

rhoi adborth clir ac ymarferol i'r rhai sy'ngwneud cais am gymorth ariannol

gwella ansawdd ein gwybodaeth ar y we

cadw ein hachrediad Buddsoddwyr mewnPobl

symud ein staff Cenedlaethol a'n staff ynNe Cymru i safle newydd a hygyrch yngNghaerdydd

28

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Adlewyrchu ein gwerthoedd ...

Page 31: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

29

Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2012

Chromoscope 2008 Laura Thomas (Ffotograffiaeth Pinegate)Dyfarniad Llysgenhadon Cymru Greadigol 2009

Page 32: Cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru 2009- 2012

30

Am ragor o wybodaeth am GyngorCelfyddydau Cymru a'n gwaith ewch i'ngwefan gwbl hygyrch - www.celfcymru.org.uk

Yno ceir gwybodaeth am y canlynol:

pwy ydym ni, ein strwythur a sut y cawn ein hariannu

ein cynlluniau, ein polisïau a'nstrategaethau

sut i wneud cais am arian

ein Hadroddiad Blynyddol a'n Rhestrau o Grantiau

y gwasanaethau a gynigir gennym

swyddi a newyddion am y celfyddydau yng Nghymru

Hefyd mae cysylltiadau ag amrywiaeth o sefydliadau partner, gan gynnwys:

Noson Allan

Cymru yn Biennale Celf Fenis

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Am wybod mwy ...?

Cyngor Celfyddydau CymruPlas Bute, Caerdydd CF10 5ALFfôn: 0845 8734 900 Ffacs: 029 2044 1400 Minicom: 029 2045 1023Ebost: [email protected]

mru.org.uk www.celfcymru.org.uk www.celfcymru.org.uk w