cynllun gweithdy cyfnod allweddol...

2
Noder os gwelwch yn dda: mae deunydd ategol ar gyfer y cynllun gweithdy yma i’w gael yn newislen Cyfnod Allweddol 4. Cynllun Gweithdy Cyfnod Allweddol 4 Dyddiad: Gwers: Blwyddyn: Nifer yn y dosbarth: Cyfnod Allweddol: 4 Gallu: Cymysg Ffocws: Nodweddion Arddull Adnoddau: PowerPoint Bwrdd gwyn rhyngweithiol Papur Teitl y wers: ‘Dan y Wenallt’ (cyfieithiad gan T. James Jones) Ymarfer cynnwys arddull mewn gwaith creadigol. Gweithgaredd Cynhesu: Dangos y PowerPoint, gan roi cefndir Dylan Thomas yn Nhalacharn a Chei Newydd. Egluro ei fod yn dod o Abertawe’n wreiddiol ond ei fod wedi symud i Dalacharn gyda’i wraig a’i blant. Roedd hefyd yn ymwelydd cyson â Chei Newydd. Nodau ac Amcanion y gweithdy: Erbyn diwedd y gweithdy bydd y grwpiau i gyd wedi atgyfnerthu eu dealltwriaeth o nodweddion arddull, ac wedi defnyddio rhai i hybu gwaith creadigol personol. Prif Ddigwyddiadau: Grwpiau i ddarllen drwy’r darn er mwyn ceisio, yn y pen draw, ddod o hyd i nodweddion arddull penodol. Gofyn iddyn nhw am esboniad o’r nodweddion a restrir yn y blwch ar ochr chwith y sgrin. Clicio ar y blwch i gael eglurhad/cadarnhad. Clicio ar ‘YMA’ i ddangos arweiniad pellach. Disgyblion i gofnodi ar bapur (neu gofio) beth yw’r gwahanol nodweddion. Penodi un disgybl i ddod i weithio’r bwrdd gwyn. Holi am y gwahanol enghreifftiau gan glicio’r bwrdd gwyn i gadarnhau’r lliw. Clicio’r botwm ‘MARCIO’ i gadarnhau’r atebion. Clicio’r saeth i ddangos Rhan 2. Holi am nodwedd y frawddeg gyntaf. Gwahodd grwp/unigolion i gwblhau’r brawddegau sydd ar y bwrdd gwyn. Ceisio cael y myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu synhwyrau wrth lunio’r brawddegau. Diweddglo: Gwrando ar y brawddegau. Gwaith Estynedig; Gwaith creadigol yn defnyddio enghreifftiau o’r nodweddion a drafodwyd yn y wers.

Upload: others

Post on 07-Feb-2021

4 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Noder os gwelwch yn dda: mae deunydd ategol ar gyfer y cynllun gweithdy yma i’w gael yn newislen Cyfnod Allweddol 4.

    Cynllun Gweithdy Cyfnod Allweddol 4

    Dyddiad: Gwers: Blwyddyn: Nifer yn y dosbarth:

    Cyfnod Allweddol: 4 Gallu: Cymysg

    Ffocws: Nodweddion Arddull

    Adnoddau:

    • PowerPoint • Bwrdd gwyn rhyngweithiol • Papur

    Teitl y wers: ‘Dan y Wenallt’ (cyfieithiad gan T. James Jones) Ymarfer cynnwys arddull mewn gwaith creadigol.

    Gweithgaredd Cynhesu: Dangos y PowerPoint, gan roi cefndir Dylan Thomas yn Nhalacharn a Chei Newydd. Egluro ei fod yn dod o Abertawe’n wreiddiol ond ei fod wedi symud i Dalacharn gyda’i wraig a’i blant. Roedd hefyd yn ymwelydd cyson â Chei Newydd.

    Nodau ac Amcanion y gweithdy: Erbyn diwedd y gweithdy bydd y grwpiau i gyd wedi atgyfnerthu eu dealltwriaeth o nodweddion arddull, ac wedi defnyddio rhai i hybu gwaith creadigol personol.

    Prif Ddigwyddiadau:

    • Grwpiau i ddarllen drwy’r darn er mwyn ceisio, yn y pen draw, ddod o hyd i nodweddion arddull penodol.

    • Gofyn iddyn nhw am esboniad o’r nodweddion a restrir yn y blwch ar ochr chwith y sgrin. Clicio ar y blwch i gael eglurhad/cadarnhad.

    • Clicio ar ‘YMA’ i ddangos arweiniad pellach. • Disgyblion i gofnodi ar bapur (neu gofio) beth yw’r gwahanol nodweddion. • Penodi un disgybl i ddod i weithio’r bwrdd gwyn. • Holi am y gwahanol enghreifftiau gan glicio’r bwrdd gwyn i gadarnhau’r lliw. • Clicio’r botwm ‘MARCIO’ i gadarnhau’r atebion. • Clicio’r saeth i ddangos Rhan 2. • Holi am nodwedd y frawddeg gyntaf. • Gwahodd grwp/unigolion i gwblhau’r brawddegau sydd ar y bwrdd gwyn. Ceisio cael y myfyrwyr i

    ganolbwyntio ar eu synhwyrau wrth lunio’r brawddegau.

    Diweddglo: Gwrando ar y brawddegau.

    Gwaith Estynedig; Gwaith creadigol yn defnyddio enghreifftiau o’r nodweddion a drafodwyd yn y wers.

  • CA4 Gweithdy Cyfrwng Gymraeg

    Mae’r gweithdy yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu’r elfennau o’r FframwaithStrategaeth Llythrennedd, e.e. o fewn y llinyn llefaredd bydd cyfleoedd i ddisgyblion gyfleu syniadau a gwybodaeth, gwrando ac ymateb i safbwyntiau a chydweithio gydag eraill er mwyn datblygu ei dealltwriaeth o ddetholiad o waith Dylan Thomas sef ‘Dan y Wenallt’. Yn ogystal bydd y sesiwn yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu elfennau o’r llinyn ysgrifennu drwy roi cyfleoedd i drefnu syniadau a gwybodaeth ac ysgrifennu’n gywir ar gyfer creu dramateiddiad byrfyfyr yn seiliedig ar y cymeriadau. Bydd y gallu i ddadansoddi a gwerthuso’r cynnwys yn greiddiol i'r gweithgaredd. Yn ogystal bydd ei dealltwriaeth o dermau technegol e.e. personoliad, trosiad, cyffelybiaeth, rhestru a’r negydd yn hanfodol er mwyn cyflwyno brawddegau ystyrlon ar ddiwedd y gweithdy. Mae’r gweithdy yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu’r elfennau o’r FframwaithStrategaeth Rhifedd megis lLlinyn dau sef defnyddio sgiliau rhif wrth nodi oedran, dyddiad geni a marw Dylan Thomas. Yn ogystal gwelir gyfle i gyfri sillau a gweld patrwm ar sail ffurf lenyddol y testun dan sylw.