sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio

38
Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mawrth 3 2011

Upload: torgny

Post on 21-Mar-2016

69 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio. Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mawrth 3 2011. Cyflwyniad. Swyddog Cyfrif Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol. Amcanion y sesiwn hyfforddi. Mae eich rôl yn allweddol – chi yw wyneb gwasanaeth cwsmeriaid y refferendwm . - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Sesiwn briffio i staff yr orsaf bleidleisio

Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mawrth 3 2011

Cyflwyniad

Swyddog Cyfrif

Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol

Amcanion y sesiwnhyfforddi

• Mae eich rôl yn allweddol – chi yw wyneb gwasanaeth cwsmeriaid y refferendwm.

• Yn y sesiwn hwn byddwn ni'n:– amlinellu'r hyn rydyn ni'n disgwyl ichi ei

wneud ar y diwrnod pleidleisio– trafod y dull pleidleisio– amlygu nifer o drefniadau gweinyddol

Trosolwg o RefferendwmCymru

• Mae refferendwm yn bleidlais uniongyrchol y gofynnir i'r etholwyr naill ai i dderbyn neu i wrthod cynnig neilltuol ynddi.

• Ar Fawrth 3 2011 bydd refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

• Oriau pleidleisio: 7 y bore i 10 yr hwyr

Mae'n hanfodol eich bod chi'n

– ymddwyn yn ddidduedd drwy'r amser– cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddir gan y Swyddog Cyfrif– sicrhau cyfrinachedd a diogelwch y bleidlais

Y Swyddog Llywyddu

• Mae gan Swyddogion Llywyddu y cyfrifoldeb cyfan am reoli'r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio

• Mae tasgau allweddol yn cynnwys:– gwiro cynllun yr orsaf bleidleisio– cyfarwyddo a goruchwylio gwaith y

clercod pleidleisio– cyfrif am yr holl bapurau pleidleisio,

flychau pleidleisio a gwaith papur

Y Clerc Pleidleisio

• Yn cynorthwyo'r Swyddog Llywyddu gyda dyletswyddi'r orsaf bleidleisio

• Dydy Clercod Pleidleisio ddim â chyfrifoldebau'r Swyddog Llywyddu, ond mae rhaid iddyn nhw wybod am yr holl ddulliau ar gyfer pleidleisio a sut i ddelio ag unrhyw broblemau

Dynesu aty diwrnod pleidleisio

• Tasgau hanfodol– Ymweld â'r man pleidleisio a gwiro

trefniadau mynediad– Cysylltu ag aelodau eraill y tîm– Gwiro cynnwys y blychau pleidleisio

cyn gynted â phosibl ar ôl eu casglu– Côd gwisg - sicrhau bod dillad yn

adlewyrchu proffesiynoldeb a didueddrwydd ond eu bod hefyd yn gysurus

Archwilwyr yr orsaf bleidleisio

• Cyflenwadau sbar o ddeunyddiau ysgrifennu ac offer

• Gyfrifol am– Gwiro cynllun gorsafoedd– Gwiro bod pethau'n rhedeg yn llyfn– Bod yn ymwybodol o unrhyw giwiau a

delio gyda nhw– Casglu unrhyw bleidleisiau post a

ddychwelwyd• Rhifau cysylltu

Risgau • Methu cysylltu â daliwr yr allwedd• Methu cael mynediad i'r orsaf bleidleisio• Staff yn methu troi i fyny neu'n troi i fyny'n

hwyr• Problemau sy'n effeithio ar arddangos

hysbysiadau• Cofrestrau anghywir yn cael eu dyrannu i'r

orsaf• Dydy rhifau'r papurau pleidleisio ddim yn

cyfateb â'r rhai a ragargraffwyd ar y CNL. • Papurau pleidleisio a gyflwynwyd wedi'u

rhoi'n anghywir• Ciwiau'n cynyddu'n agos at derfyn y bleidlais

Yr orsaf bleidleisio

Trefnu'rorsaf bleidleisio

• Cynllun/hysbysiadau (gweler y rhestr wiro yn Atodiad 11 i lawrlyfr yr Orsaf bleidleisio)

– gorfod gweithio i'r pleidleisiwr– llwybr cerdded y disgwylir i'r pleidleisiwr ei ddilyn– hygyrch i'r holl bleidleiswyr

• Lleoliad y blwch pleidleisio – hygyrch a diogel

• Trefnwch y papurau pleidleisio mewn trefn rifiadol

• Rhifwyr ac ymgyrchwyr – pwy all gael mynediad i'r orsaf bleidleisio?

• Selio'r blwch (blychau)

Cynllun yr orsaf bleidleisio

Cynllun yr orsaf bleidleisio

pwy all gael mynediad i'r orsaf bleidleisio?

– Pleidleiswyr– Swyddog cyfrif a staff– Asiantiaid refferendwm– Asiantiaid pleidleisio – Police officers on dutySwyddogion yr heddlu ar

ddyletswydd– Cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol– Arsylwyr achrededig– Pobl ifainc o dan 18 yn dod gyda phleidleiswyr– Cymdeithion pleidleiswyr gydag anableddau

Dau fath o ID a gyflwynir gan y Comisiwn Etholiadol

Gofal cwsmeriaid

• Dangoswch ddiddordeb personol• Byddwch yn gymwynasgar ac yn agos-atoch• Gwrandewch ac empatheiddiwch.• Gadewch i bobl wneud eu pwynt cyn ymateb• Peidiwch â dweud 'Na' - dywedwch wrthyn

nhw beth gallwch chi ei wneud drostyn nhw a beth gallan nhw ei wneud

• OND mae rhaid dilyn rheolau'r refferendwm drwy'r amser, dim ots pa mor daer, ofidus neu ddig y bydd rhywun

• Os oes amheuon, cysylltwch â'r swyddfa etholiadau

Gofal cwsmeriaid

• Mae'n bwysig, wrth ddelio â chwestiynau etholwyr ar y refferendwm, na chwestiynir eich didueddrwydd.

• Felly beth sy'n digwydd os gofynnir ichi beth yw pwrpas y refferendwm?– Glynwch at eiriau'r Cwestiynau Cyffredin

yn y canllaw cyflym pleidleisio.– Cyfeiriwch yr holwr i'r poster sy'n rhestru'r

20 maes pwnc mae'r Cynulliad yn gyfrifol amdanyn nhw.

Gofal cwsmeriaid

• Sicrhewch fod y broses bleidleisio'n hygyrch i bawb:– cynllun gorfod gweithio i'r holl

bleidleiswyr, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn

– dylai deunyddiau papur a ddarperir mewn ieithoedd a fformatau eraill fod yn hawdd eu gweld

– dylai'r templed cyffyrddadwy fod yn hawdd ei weld a dylech chi fod yn hyderus wrth ei ddefnyddio

– mae rhaid ichi fod yn gallu darparu gwybodaethi etholwyr anabl ar opsiynau ar gyfer pleidleisio â chymorth neu heb gymorth

Pwy sy'n gallu a ddim yn gallu pleidleisio?Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestri rhif cyfatebol

Pwy sy'n gymwys?

• Etholwyr heb lythrennau na ddyddiadau o flaen eu henw

• Etholwyr sy'n 18 neu fwy ar ddiwrnod yr etholiad

• Etholwyr gydag 'G' neu 'K' - mae'r rhain yn ddinasyddion aelod-wladwriaethau yr UE

• Etholwyr gydag 'L' • Etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw

sydd ag 'N' yn lle enw

Pwy nad yw'n gallu pleidleisio?

• Etholwyr â dyddiad geni ar y gofrestr sy'n dangos nad ydyn nhw'n 18 oed ar y diwrnod pleidleisio

• Etholwyr ag 'A' - pleidleiswyr post• Etholwyr ag 'E' o flaen eu henw • Etholwyr ag 'F' o flaen eu henw

Anfon y papurau pleidleisio

• Nodi'r gofrestr a'r CNL– Gwneud i'r etholwr gadarnhau eu henw– Nodi rhif etholwr yr etholwr yn y gofrestr– Nodi rhif etholwr yr etholwr yn y rhestr rhif

cyfatebol(CNL)– PEIDIWCH ag ysgrifennu'r rhif etholwr ar

y papur pleidleisio!

• Papurau pleidleisio– Agorwch yn llawn fel bod yr holl bapur yn

weladwy.– Marc swyddogol– Rhif papur pleidleisio a Marc Adnabod

unigryw (UIM)

Marcio'r gofrestr

Cerddediad y Ddraig Goch

BC

JP12 7AS

411 G Vella, Gosia 1412 F Taber,

Louise1

413 K Vella, Kostas 1414---------

----------- Brown, Robert

3

415 Evans, Gareth

5

416---------

------------

Barker, Peter 7

417 Jolly, Simon 7418 A Bishop,

Stephanie13

418/1 02 Feb Smith, Ben 13

• Cliciwch i ddychwelyd at y sleid

Y Rhestr Rhif Cyfatebol (CNL)

BC 27/1

• Cliciwch i ddychwelyd at y sleid

Cefn y papur pleidleisio

Marcio'r papur pleidleisio

• Efallai bydd angen egluro'r broses bleidleisio i rai etholwyr:– mae gan bleidleiswr un bleidlais, a dylen nhw

roi croes (X) yn naill ai'r blwch 'ydw' neu'r blwch 'nac ydw'

– Os ydyn nhw'n pleidleisio dros fwy nag un dewis, ni chyfrifir eu papur pleidleisio

• Gall rhai etholwyr gael gymorth:– Gall y Swyddog Llywyddu farcio'r papur

pleidleisio– Gall y Swyddog Llywyddu osod y templed ar

y papur a darllen yr opsiynau– Gall cydymaith gynorthwyo'r etholwr

Beth sy'n digwydd os…?

• roddir tystysgrif gyflogaeth ichi?• yw pleidleisiwr yn difetha'r papur pleidleisio• yw pleidleisiwr wedi enwebu dirprwy ond mae'r

pleidleisiwr yn cyrraedd cyn y dirprwy• yw person yn cyrraedd i bleidleisio ond mae'r

gofrestr yn dangos bod y person wedi pleidleisio eisoes

• yw person yn cyrraedd i bleidleisio ond mae'r gofrestr yn dangos bod y person yn bleidleisiwr post

• yw person yn cyrraedd gan ddymuno pleidleisio fel dirprwy brys

• yw person yn credu y dylen nhw fod ar y gofrestr ond ni restrir nhw

• oes helynt yn yr orsaf bleidleisio

Y cwestiynau rhagnodedig

• Mae rhaid gofyn y cwestiynau rhagnodedig:

– pan fydd y Swyddog Llywyddu'n gofyn – pan fyddwch chi'n amau cambersonadu – pan fydd etholwr cofrestredig yn amlwg o

dan oedran– pan fydd asiant refferendwm neu asiant

pleidleisio'n gofyn iddyn nhw gael eu gofyn– cyn anfon papur pleidleisio a gyflwynwyd

Pleidleisiau post

• gall pleidleiswyr gyflwyno eu pleidleisiau post mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn ardal yr awdurdod leol

• mae rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r bost a dderbyniwyd gael eu selio a'u labelu fel a gyfarwyddwyd

• [nodwch y gweithdrefn ar gyfer casglu pecynnau pleidleisio drwy'r post gan y Swyddog Cyfrif yn ystod y diwrnod]

Pleidleisiau post

• Ni ellir rhoipapur pleidleisio cyffredin i farcwyr 'A' yn yr orsaf bleidleisio:

– yn uniongyrchol i'r Swyddog Cyfrif i'w newid (cyn 5 yr hwyr)

– gweithdrefn papurau pleidleisio a gyflwynwyd wedi 5 yr hwyr

• eithriad: ble mae etholwr yn honni nad yw e byth wedi gwneud cais am bleidlais bost. Os felly, bydden nhw'n gymwys am bapur pleidleisio a gyflwynwyd ar unrhyw adeg os nad ydyn nhw'n dymuno neu os nad ydyn nhw'n gallu gwneud cais i'r Swyddog Cyfrif am un arall.

Diwedd yr Etholiad

Diwedd yr Etholiad

• Rhaid cau am 10 yr hwyr• Mae rhaid i unrhyw berson yr anfonwyd

papur pleidleisio iddo erbyn 10 yr hwyr gael pleidleisio

• Peidiwch ag anfon wedi 10 yr hwyr, hyd yn oed os oedd yr etholwr mewn ciw am 10 yr hwyr

• Seliwch y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid, arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol.

• Mae hawl gan yr asiantiaid i osod seliau gan fod yr etholiadau wedi cau.

Wedi i'r etholiad gau

• Mae'n gwbl hanfodol y cyflawnir y cyfrif papurau pleidleisio'n gywir.

• Mae rhaid gosod y cyfrif papurau pleidleisio yn yr amlen a ddarperir - cadwch hon gyda'r blwch pleidleisio

• Sicrhewch y gosodir yr holl ddogfenni yn y pecynnau cywir wedi'u llofnodi fel mae'n briodol

• Dylai clercod pleidleisio gynorthwyo wrth dacluso'r orsaf er mwyn i'r Swyddog Cyfrif wneud y tasgau pwysig hyn

Beth sy'n digwydd os…?

• anfonir papurau a gyflwynwyd yn anghywir yn ystod y diwrnod?

• yw damwain yn digwydd yn yr orsaf bleidleisio?

• yw digwyddiad y tu allan i'r orsaf bleidleisio'n rhwystro'r Swyddog Llywyddu rhag gadael y cyfrif?

Iechyd adiogelwch

• Peidiwch byth beryglu diogelwch unrhyw berson y tu mewn i'r orsaf bleidleisio

• Gwyliwch am unrhyw risgau posibl ynghylch diogelwch

• Archwiliwch yr adeilad yn rheolaidd• Os ddarganfyddir peryglon - dewch o hyd

i ddatrysiad• Os yw damwain yn digwydd - dilynwch

weithdrefnau• Byddwch yn ofalus wrth godi pethau trwm

Cwestiynau

Gwybodaeth ychwanegol

• Cysylltiadau tîm etholiad– Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol– Swyddog sy'n gyfrifol am faterion staff– Swyddog sy'n gyfrifol am orsafoedd

pleidleisio

• Gwefan y Comisiwn Etholiadol– www.electoralcommission.org.uk– www.aboutmyvote.co.uk

• Taflenni adborth