gofalwyr - velindrecc.wales.nhs.uk...ers ymuno â'r tîm, mae ymdrechion pawb i ddarparu gofal...
TRANSCRIPT
Cylchlythyr Urddas Cleifion – Ionawr 2015
Grŵp Urddas Cleifion a Gofalwyr
Ionawr 2015 2015
Y diweddaraf am y grŵp urddas
Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth urddas i ofalwyr a chleifion yn cael ei redeg bob yn ail fis, ac
yn cynnwys digwyddiadau / pryderon sydd wedi cael eu dwyn i sylw’r grŵp. Yn 2014, gofynn-
wyd i aelodau’r grŵp ystyried sut allai’r ymateb "nid fy nghlaf i yw e" deimlo i aelod o'r teulu
sy’n holi am un o’u hanwyliaid ac ystyried ateb arall, mwy tosturiol.
Parhau i gyfarfod yn chwarterol a derbyn copïau o’r holl ddigwyddiadau a phryderon yn
ymwneud ag urddas yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae’r grŵp yn edrych ar gael system
swnyn yn yr adran cleifion allanol yn lle’r system uwchsain sy’n cael ei defnyddio ar hyn o
bryd , mewn ymateb i bryderon am gyfrinachedd a godwyd gan gleifion.
Mae aelodau'r grŵp yn casglu’r data misol ar brofiad cleifion trwy gynnal cyfweliadau wyneb
yn wyneb gyda chleifion.
Gwahoddwyd aelodau'r grŵp i wneud sylwadau ac ystyried materion posibl yn ymwneud ag
urddas ar gyfer y cynllun ar gyfer uwchraddio amgylcheddau wardiau ar y llawr cyntaf.
Cyflwynodd y grŵp gorff eang o dystiolaeth ar gyfer "Adroddiad gofal gydag Urddas"
Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar gyfer adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Cyfrannodd aelodau o’r grŵp urddas at safon gofal iechyd 10, a'i ddiweddaru
Defnyddiodd y grŵp eu henillion o £1000 o wobr y Nursing Times i brynu cloriannau bariatrig
ar gyfer yr adran cleifion allanol yn dilyn digwyddiad urddas Datix, a phrynodd droli wybodaeth
symudol i helpu cleifion ar wardiau a'u gofalwyr i gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth.
Croeso! Croeso i'n pumed Grŵp Urddas Cleifion a Gofalwyr a chylchlythyr cyntaf 2015! Rydym yn grŵp rhagweithiol,
amlddisgyblaethol o staff a chleifion sy'n gweithio ar draws Canolfan Ganser Felindre, ac sy'n cyfarfod
deirgwaith y flwyddyn i drafod a mynd i’r afael â materion urddas cleifion a theuluoedd. Ar ddechrau’r
Flwyddyn Newydd, mae’n ymddangos yn amser da i edrych nôl ar waith y grŵp dros y 12 mis diwethaf.
Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich holl gefnogaeth yng ngwaith urddas Canolfan Ganser
Felindre, a hoffem estyn ein dymuniadau gorau i chi ar gyfer 2015
Submitting a business idea
Cylchlythyr Urddas Cleifion – Ionawr 2015
Carolyn Gent Nyrs Glinigol Arbenigol Sarcoma
Rwy'n gweithio fel Nyrs Glinigol Arbenigol Sarcoma yma yn Felindre. Fel rhan o’r rôl, rwy’n gweld cleifion
allanol a chleifion mewnol. Ymunais â'r tîm sarcoma ym mis Mawrth eleni, felly rwyf ond wedi bod yn
gweithio i Felindre am gyfnod byr. Ers ymuno â'r tîm, mae ymdrechion pawb i ddarparu gofal urddasol i
gleifion a theuluoedd wedi creu argraff fawr arnaf.
Un enghraifft arbennig oedd claf ifanc nad oedd o Gaerdydd ac roedd yn anodd i'w ffrindiau a’i deulu ddod
i’w weld. O ganlyniad, roedd yn aml heb ddillad glân. Fel dyn ifanc, nid oedd yn hoff iawn o wisgo gynau
ysbyty! Roedd y staff ar y ward yn gweld bod hyn yn bwysig i’r dyn ifanc a chysylltont â Michele. Roedd
Michele yn gallu trefnu bod ei ddillad yn cael eu golchi. Rhywbeth syml, a gafodd effaith fawr ar urddas y dyn
ifanc hwn.
Pan glywais am y grŵp urddas, meddyliais y byddai'n gyfle gwych i fod yn rhan ohono i gael effaith ar gleifion
eraill.
Dr Ray Singh CBE
"Fel Aelodau Annibynnol o’r Ymddiriedolaeth, gyda'n gilydd, cyflwynom y ‘polisïau strategol ar gyfer Canolfan
Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae gweithredu’r polisïau hynny yn cael ei neilltuo i’r Prif
Swyddog Gweithredol a’i Uwch Dîm Rheoli. Fodd bynnag, fel Aelodau Annibynnol, ni allwn ac nid ydym yn
eistedd a gwneud dim a gobeithio am y gorau!! Mae Adroddiadau Francis ac Andrews wedi bod yn agoriad
llygad i bawb "yr ymddiriedwyd ynddynt i ofalu". Mae polisïau yn aml yn edrych yn dda ar bapur ac yn
addurniadol ar y silffoedd llyfrau! Cefais y fraint o gadeirio'r "Ymchwiliad Ffurfiol ar Hiliaeth o fewn
Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi. Un o’r tasgau cyntaf i mi oedd deall Polisïau Gwasanaeth Carchardai Ei
Mawrhydi bryd hynny ar Hiliaeth, a drodd allan i fod yn 'rhagorol'. Fodd bynnag, wrth ymweld â nifer o
garchardai, daeth yn amlwg yn fuan bod y polisïau rhagorol hynny wedi bod yn eistedd yn falch ar y silffoedd
yn swyddfeydd y Llywodraethwyr, yn casglu llwch !! Daeth yn amlwg yn fuan i mi a fy nhîm o ymchwilwyr bod
y realiti ar yr adeiniau go iawn ac yng nghelloedd y carchardai yn wahanol iawn i'r polisïau rhagorol sy’n
eistedd ar silffoedd y Llywodraethwyr.
Mae’n bleser gennyf gael fy ngwahodd gan Michele Pengelly a’r Grŵp Urddas i arsylwi a rhannu sut mae
polisïau strategol yr Ymddiriedolaeth ar Urddas yn cael eu gweithredu. Mae'r polisïau yn cael eu cofleidio gan
bawb sy'n gyfrifol am eu gweithredu o ddydd i ddydd ac am y 'ffyrdd tosturiol a gofalgar' o weithredu.
Nid yn unig y mae’n rhoi sicrhad i mi’n bersonol, ond trwy fy rôl gyfunol, mae’n rhoi sicrhad i’r Bwrdd nad oes
unrhyw debygrwydd y bydd "llwch yn casglu o gwmpas y polisïau strategol ar Urddas". Yn wir, mae’n
galonogol ac yn ysbrydoledig gwrando ar wahanol arweinwyr tîm yn sôn am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i
sicrhau bod urddas y cleifion a'u hanwyliaid yn dod yn gyntaf oll. Nid ydynt yn caniatáu i hunanfoddhad gael
lle i "fridio" o fewn eu gweithgareddau.
Mae urddas cleifion yn agos iawn at fy nghalon? "dim chwarae ar eiriau wedi’i fwriadu" !! Ar ôl treulio bron i
20 diwrnod yn y GIG, rwy’n gobeithio rhannu holl destun "Urddas a’r Llen" gyda chi yn y dyfodol!! Yn y
cyfamser, da iawn i bob un ohonoch am sicrhau y gallwch gael eich "ymddiried i ofalu".
Hoffai’r grŵp ddweud diolch yn fawr iawn i’r Swyddog Cefnogi Busnes Sean Melody, a adawodd Canolfan
Ganser Felindre yn 2014 am gyfle gyrfa newydd yn Llundain. Rhoddodd Sean gefnogaeth wych i'r grŵp yn
enwedig wrth gynhyrchu’r cylchlythyr urddas, ac roedd yn coladu adroddiadau profiad y claf bob mis a
chynlluniau gweithredu. Ymfudodd y therapydd galwedigaethol Lesley Evans i Seland Newydd yn 2014, ac
roedd yn aelod rhagweithiol o'r grŵp urddas, yn aml, yn codi pryderon ynghylch urddas yn ymwneud â
phreifatrwydd a phryderon am anfon cleifion adref o’r ysbyty. Hoffem ddymuno pob llwyddiant i’r ddau yn eu
gyrfaoedd newydd.
Y Grŵp Urddas yn croesawu aelodau newydd
...ac yn dweud hwyl fawr wrth rywfaint o hen ffrindiau!
Cylchlythyr Urddas Cleifion – Ionawr 2015
Oes gennych chi stori i'w rhannu? Os oes gennych chi unrhyw beth yn eich barn chi a fyddai'n berthnasol ar gyfer y cylchlythyr neu’r
grŵp urddas, cysylltwch â naill ai Michele Pengelly (Nyrs Arweiniol Gofal Cefnogol) neu Ceri Harris
(Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth). Rydym i gyd yn ymdrechu i barchu a gwella urddas i
gleifion a gofalwyr yng Nghanolfan Ganser Felindre, ond dim ond gyda'ch cymorth a’ch adborth
parhaus chi y gallwn ni wneud hyn. Cysylltwch â ni!
Patient Dignity Code
STOP! ARHOSWCH! Remember our Dignity Code! / Cofiwch ein Côd Urddas
LOOK! EDRYCHWCH! Privacy is needed, please knock the door, wait and...
Mae angen preifatrwydd, cnociwch y drws ac arhoswch...
LISTEN! GWRANDEWCH! For the invitation to enter / Am y gwahoddiad i ddod i mewn
Stop! Arhoswch!Remember our Dignity Code!/Cofiwch ein Côd urddas
Look! Edrychwch!Privacy is needed, please knock the door, wait and….
Mae angen preifatrwydd, cnociwch y drws a….
Listen! Gwrandewch!For the invitation to enter/Am y gwahoddiad i ddod i mewn
The key message is to raise awareness of dignity, respect and privacy.
The red traffic light logo will become synonymous with privacy. Os ydych angen arwyddion urddas i’w rhoi ar ddrysau neu sgriniau yn eich adran, cysylltwch ag
aelod o'r grŵp urddas
Mae Ceri Harris, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Michele Pengelly, Nyrs Arweiniol Gofal Cefnogol yn parhau i gyflwyno diwrnodiau hyfforddiant/ymwybyddiaeth urddas. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r sesiwn 45 munud hwn, cysylltwch â'r adran addysg a datblygu. Nod yr hyfforddiant yw: Os hoffech sesiwn bwrpasol, cysylltwch â ni.
Hyfforddiant urddas i gleifion a gofalwyr
Cofiwch gôd urddas cleifion Canolfan Ganser Felindre sef ...
Rhoi diweddariad ar Grŵp urddas Canolfan Ganser Felindre
Diffinio Urddas Cleifion
Trafod urddas a hawliau dynol
Ymdrin â phryderon urddas Canolfan Ganser Felindre
Cylchlythyr Urddas Cleifion – Ionawr 2015
Urddas yn eich adran Mae Cherie Watkins yn nyrs staff ac yn aelod o’r grŵp urddas yn yr Uned Achosion Dydd Cemotherapi (CDU) ac yn adrodd ar ymrwymiad staff yr uned i ofal urddasol.
"Agorodd yr uned gemotherapi wedi’i hailwampio ym mis Ebrill 2013, ac efallai y bydd llawer o staff Canolfan Ganser Felindre yn cofio'r man hwn fel ward i gleifion mewnol yn yr hen arddull. Mae’r Uned Achosion Dydd Cemotherapi bellach yn cynnig gofod cynllun agored, golau sydd i gyd ar un lefel, sy’n caniatáu mynediad hawdd i gleifion a'u gofalwyr. Mae’r uned ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 830am tan 5pm. Mae 12 o gadeiriau triniaeth (cadeiriau gorwedd a chodi) yn yr uned ac un gwely. Mae'r dyluniad cynllun agored yn caniatáu i staff arsylwi a chyfathrebu â chleifion tra maent yn derbyn eu cemotherapi. Os bydd angen preifatrwydd, mae’n gallu bod yn heriol, ond mae gennym lenni ym mhob ardal y gellir eu defnyddio os oes angen ac ardal swyddfa os oes angen sgwrs breifat. Mae’r ystafell aros bellach yn rhan o'r uned ac yn darparu ardal lle mae cleifion / gofalwyr yn gallu siarad a chefnogi ei gilydd, darllen yr wybodaeth sydd yn cael ei harddangos a pheidio â theimlo y byddant yn cael eu hanghofio mewn ystafell arall i ffwrdd oddi wrth y staff.
Mae'r sylwadau a'r adborth rydym yn ei gael gan gleifion a gofalwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac maent yn dweud wrthym fod yr uned yn lân ac yn olau, eu bod yn hoffi clywed y radio a pha mor llawen yw’r staff. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn nifer y cardiau diolch sydd yn bwysig iawn i'r staff ac sydd yn cael lle blaenllaw ar yr uned ar hysbysfwrdd pwrpasol i ni a chleifion eraill eu darllen. Mae cleifion yr Uned Achosion Dydd Cemotherapi hefyd yn cael eu cyfweld fel rhan o arolygon o brofiad cleifion Canolfan Ganser Felindre, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn,
ond rydym hefyd yn awyddus i wella ein gwasanaethau a dysgu o brofiad y cleifion. Rydym yn dysgu bod y pethau bach yn aml yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae gwelliannau wedi cynnwys ychwanegu bachyn ar ddrws y tŷ bach (i hongian cotiau / bagiau llaw ac ati) a nawr, gellir prynu diodydd oddi ar droli symudol ar gyfer aelodau o'r teulu. Rydym yn falch iawn o'n huned ac wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu a gwella gofal urddasol "
Leigh-Anne Bodilly—Rheolwr gwybodaeth i gleifion a gofalwyr Angela Green—Arweinydd therapi cyflenwol Carole Jacobi—Cydlyndd gwirfoddoli Ceri Harris—Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cherie Watkins—Nyrs staff (cemotherapi i gleifion allanol) Claire Illari—Nyrs staff yr Uned Gefnogaeth Weithredol/Llawr Cyntaf Claire Proven—Prif nyrs clinigol Llawr Cyntaf Daniel Payne—Derbynnydd ward llawr cyntaf David Harding—Tîm Gwasanaethau Gweithredol Derek Ford—Aelod o’r grŵp cyswllt cleifion Hayley Price—Cynghorydd Hawliau Lles Helen Tyler—Rheolwr therapïau Cathy Richards - Fferyllfa Louise Morgan—treialon clinigol
Barbara Burbridge—Aelod o’r grŵp cyswllt cleifion Jo Gronow— Nyrs gyswllt Marie Curie gyda chy-
frifoldeb am anfon cleifion adref
Carolyn Gent — Nyrs Glinigol Arbenigol Sar-
coma
Jill Cooze —Rheolwr ward Julia Taylor— Prif nyrs Llawr Cyntaf Lisa Heydon-Mann—Rheolwr Ansawdd a Diogelwch Michele Pengelly—Nyrs Arweiniol Gofal Cefnogol Rev Eric Burke—Caplan yr ysbyty Sherryl Jenkins—Radiograffydd (Triniaeth) Shirley Treharne— Nyrs cefnogi dementia a Nam Gwybyddol Sian Lewis—Cydlyndd Ansawdd a Diogelwch Sue Hopkins—Rheolwr cleifion allanol Dr. Theresa Howe—Oncolegydd Dr Ray Singh— Aelod Anweithredol o’r Bwrdd
Aelodau grŵp urddas cleifion a gofalwyr Canolfan Ganser Felindre
"Diolch yn fawr am y pryder, parch a thriniaeth ryfeddol a gefais gan yr holl staff; ni theimlais yn isel unwaith oherwydd bod gan bawb ohonoch wên hapus ar eich wynebau a’ch bod yn gynnes a chroesawgar"
Cylchlythyr Urddas Cleifion – Ionawr 2015