llywodraeth cymru cyllideb cymru 2018: adroddiad y prif ... · yr alban y de orllewin gogledd...
TRANSCRIPT
Cyllideb Cymru 2018: Adroddiad y Prif Economegydd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru
Hydref 2018
Llywodraeth Cymru
© Hawlfraint y Goron 2018 WG36009 ISBN digidol 978-1-78964-234-6
llyw.cymru
Adroddiad y Prif Economegydd 2018
Perfformiad economaidd diweddar a’r rhagolygon mwy byrdymor
Mae Brexit yn parhau i roi pwysau ar ragolygon twf Cymru a’r DU gyfan; bydd
difrifoldeb yr effaith yn dibynnu ar ffurf Brexit a’r afleoli a fydd ynghlwm wrth y
broses o adael. Mae’n debygol y bydd Brexit “caled” yn taro Cymru’n
anghymesur o galed.
Sbardunau perfformiad economaidd Cymru yn y tymor byr i ganolig
Dros y tymor byr i ganolig, mae perfformiad economi Cymru’n gyffredinol yn dilyn
trywydd perfformiad y DU yn ehangach yn eithaf agos, er bod rhai amrywiadau (sydd
efallai’n adlewyrchu amrywioldeb ystadegol yn ogystal ag effeithiau gwirioneddol
sy’n gysylltiedig â pha mor gyflym y teimlir y siociau economaidd ledled y DU).
Mae ffigur un yn dangos Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) y pen ar gyfer Cymru a
gwledydd a rhanbarthau dethol eraill yn y DU, o’u cymharu â’r DU gyfan. GYG yw
cyfanswm gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yn yr ardal; mae hefyd yn
cynrychioli cyfanswm gwerth yr incwm sy’n cael ei greu mewn ardal (ond nid o
reidrwydd yn cael ei dderbyn gan breswylwyr).
Ffigur un: GYG y pen (DU = 100)
Ffynhonnell: ONS
Yng Nghymru, fel yn y rhan fwyaf o ranbarthau, ychydig o newid a fu mewn
tueddiadau o gymharu â’r DU gyfan dros y blynyddoedd diwethaf. (Mae nifer o
gyfyngiadau i GYG y pen fel dangosydd, fel y trafodir isod, ac fe’i defnyddir yma at
ddibenion enghreifftio.) Trafodir y rhesymau dros berfformiad cymharol wan Cymru o
ran lefelau GYG y pen isod hefyd.
Nid yw’r berthynas agos hon rhwng perfformiad yr economi yng Nghymru a’r DU yn
ehangach dros y tymor byr i ganolig yn syndod.
Yn gyntaf, am resymau daearyddol a hanesyddol, mae economi Cymru wedi’i
gwreiddio’n ddwfn yn economi’r DU yn ehangach, ac mae ganddi gysylltiadau
arbennig o agos ag ardaloedd cyfagos yn Lloegr. Ac er bod strwythur yr economi
yng Nghymru’n wahanol i’r hyn a geir yn Lloegr gyfan (lle mae gwasanaethau
ariannol a busnes, er enghraifft, yn chwarae rhan lai pwysig, a gweithgynhyrchu’n
chwarae rhan fwy pwysig), mân wahaniaethau yw’r rhain o gymharu Cymru â
rhanbarthau yn Lloegr y tu hwnt i’r de ddwyrain.
Yn ail, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am yr ysgogiadau polisi macro-economaidd
allweddol – dros bolisi ariannol a chyllidol. Mae’r ysgogiadau polisi y mae
Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt – yn enwedig o ran addysg, sgiliau a
seilwaith – yn hanfodol bwysig o ran canlyniadau economaidd, ond yn gweithredu’n
bennaf dros y tymor hwy.
60
70
80
90
100
110
120
South East
Scotland
South West
Northern Ireland
North East
Wales
Y De Ddwyrain
Yr Alban
Y De Orllewin
Gogledd Iwerddon
Y Gogledd Ddwyrain
Cymru
Perfformiad economaidd diweddar y DU
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae twf economaidd ledled y DU wedi parhau ar y
trywydd gwan a welwyd ers pleidlais Brexit. Yn chwarter cyntaf 2018, gwelwyd twf o
0.2%, a 0.4% yn yr ail chwarter, a’r ddau chwarter yn is na’r cyfartaledd hirdymor o
fwy na 0.5%. Ac ystyried y cyfnod cyfan ers y refferendwm, mae’r DU wedi tyfu’n
arafach na’r economïau datblygedig eraill.
Mae ffigur dau yn cymharu twf chwarterol y DU a’r UE cyfan. Mae’r DU wedi tyfu’n
arafach na’r UE ym mhob chwarter bron ers y refferendwm, ac mae’r gwahaniaeth
cronnol bron yn 2%. Pe bai dim ond hanner y diffyg hwn i’w briodoli i’r bleidlais
Brexit, byddai’n gyfwerth â thua £200 y pen yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn
gyfan y byddai’n parhau.
Mae’r sianeli achosol y mae Banc Lloegr wedi nodi eu bod yn ffynonellau allweddol o
ran twf arafach yn ei gwneud yn gredadwy priodoli (llawer o’r) diffyg i’r bleidlais
Brexit: erydu incymau real pobl yn sgil dibrisiant y bunt ar ôl y bleidlais (oherwydd
bod disgwyl effeithiau economaidd negyddol tymor hwy) ac effaith yr ansicrwydd
sydd ynghlwm wrth Brexit ar benderfyniadau buddsoddi busnesau. Mae effaith tymor
byr i ganolig o 1% i 2% o CMC yn cyd-fynd â llawer o asesiadau prif ffrwd a wnaed
cyn y refferendwm – o ran maint os nad amseru (roedd sawl un yn disgwyl i’r effaith
gael ei theimlo ar unwaith).
Ffigur dau: Twf CMC chwarterol – y DU o’i chymharu â 28 yr UE
Ffynhonnell: Eurostat
Nododd dadansoddiadau o effeithiau byrdymor disgwyliedig Brexit, a wnaed cyn y
refferendwm, y gallai’r effaith fod hyd yn oed yn fwy negyddol (un enghraifft yw’r un a
gynhaliwyd gan Drysorlys EM). Er hynny, dylid nodi y bu oedi cyn tanio Erthygl 50 yn
y pen draw; ychydig o ansefydlogrwydd gwleidyddol tymor byr a brofwyd; rhoddodd
Banc Lloegr ymyriadau polisi ariannol gwrthbwysol ar waith a chafwyd perfformiad
economaidd byd-eang cryf ar ôl y bleidlais.
Rhagolygon economaidd mwy byrdymor
Mae’r rhagolygon ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf yn dibynnu yn eu hanfod ar
ffurf unrhyw fargen Brexit derfynol, gan gynnwys y trefniadau trosiannol. Mae
consensws cryf ymhlith economegwyr prif ffrwd annibynnol y bydd yr effaith yn y pen
draw ar economi’r DU yn uniongyrchol gymesur â graddfa’r mynediad a gedwir i
farchnad sengl yr UE, gydag amcangyfrifon yn amrywio hyd at 10% o’r incwm
blynyddol o dan fersiynau “caletach” o Brexit. Yn ogystal, byddai disgwyl i drefniant
trosiannol “ymyl y dibyn”, os na fydd bargen wedi’i tharo, achosi lefel uchel iawn o
aflonyddwch ar unwaith.
Yn hyn o beth, mae’r disgwyliadau economaidd bron yn gyfan gwbl ddibynnol ar
ddatblygiadau yn yr arena wleidyddol.
Mae nifer o astudiaethau wedi ystyried sut y gallai gwahanol rannau o’r DU ymdopi o
dan Brexit. Unwaith eto, mae llawer yn dibynnu ar ffurf Brexit, ond gan fod cyfran
-2.0%
-1.5%
-1.0%
-0.5%
0.0%
0.5%
Quarterly growth difference Cumulative growth difference since 2015 Q1
Refferendwm yr UE
Gwahaniaeth twf chwarterol Gwahaniaeth twf cronnol ers 2015 Q1
uwch o allforion Cymru’n cael eu hanfon i’r UE na’r DU gyfan, mae’n rhesymol
disgwyl y byddai’r effaith ar Gymru’n fwy negyddol na’r cyfartaledd.
Rhagolygon economaidd tymor hwy: cyd-destun y DU
Ychydig iawn o dwf a welwyd yn incymau real pobl yn sgil twf cynhyrchiant
araf dros y degawd diwethaf ac mae hyn wedi cyfrannu at yr heriau a wynebir
o ran ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Nid ydym eto’n deall yn llwyr y
rhesymau dros y duedd hon, na welwyd ei thebyg o’r blaen mewn hanes
economaidd modern, ac sydd wedi effeithio’n arbennig o wael ar y DU. Os
bydd y duedd yn parhau, gallai arwain at heriau cymdeithasol a gwleidyddol
dybryd.
Sbardunau economaidd safonau byw
Dros y tymor hir, mae safonau byw materol uwch yn cael eu sbarduno gan dwf
economaidd. Mae twf economaidd yn cynyddu cyflogau real ac yn ffynhonnell bosib
o refeniw trethi i ddiogelu’r rhai sy’n agored i niwed, i ddarparu gwasanaethau
cyhoeddus o safon uchel.
Yn ei dro, mae twf economaidd hirdymor yn dibynnu ar wella cynhyrchiant – pa mor
effeithlon y mae allbynnau’n cael eu creu o fewnbynnau. Mae gwella cynhyrchiant yn
deillio o arloesi yn yr ystyr eang – o ffyrdd newydd neu well o gynhyrchu nwyddau a
gwasanaethau sydd eisoes ar gael ac o gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau
newydd neu well. Er hynny, nid yw pob gwlad a rhanbarth, ac ni allant, arwain yn y
cyfnodau arloesi cynharaf. Yn wir, mae ymchwil yn dangos, i’r rhan fwyaf o wledydd
a rhanbarthau, mai’r allwedd i hybu twf economaidd yw gallu “amsugno” a
chymhwyso syniadau arloesol a ddatblygwyd yn rhywle arall yn effeithiol.
Arafu yn nhwf y DU
O leiaf ers tua adeg y dirwasgiad mawr a ddechreuodd yn 2008, mae cyfradd twf
economaidd gwledydd datblygedig wedi arafu’n fawr.
Mae’r arafu hwn wedi bod yn arbennig o amlwg yn y DU, ac o ganlyniad mae lefel yr
allbwn yn awr tua 15% yn is nag y byddai wedi bod pe bai tueddiadau blaenorol wedi
parhau (gweler ffigur tri). Yng nghyd-destun y DU, mae’r arafu a welwyd o ran twf
cynhyrchiant wedi’i wrthbwyso i ryw raddau gan gynnydd mewn cyfraddau cyflogaeth
– i lefelau uwch nag erioed o’r blaen. Pe na bai hyn wedi digwydd, byddai’r diffyg
mewn twf wedi bod tuag 20%, yn hytrach na’r 15% a welir yn ffigur tri. Wrth gwrs, ni
all cyfraddau cyflogaeth barhau i godi’n ddiddiwedd, a gan fod cyfraddau cyflogaeth
wedi cyrraedd neu bron â chyrraedd lefelau uwch nag erioed o’r blaen, mae’n debyg
bod y twf hwn bron wedi’i ddisbyddu.
Ffigur tri: CMC real y DU, tuedd wirioneddol a chyn y dirwasgiad
Ffynhonnell: ONS, Llywodraeth Cymru
Ni welwyd arafu estynedig o’r fath mewn twf erioed o’r blaen mewn hanes
economaidd modern – tua 2% y flwyddyn ar gyfartaledd fu’r twf cynhyrchiant
blynyddol dros y ganrif ddiwethaf o leiaf, a fwy na thebyg ers y chwyldro diwydiannol.
Mae’r arafu a welwyd mewn twf yn golygu nad yw incymau real pobl wedi tyfu rhyw
lawer ar gyfartaledd ers tua degawd. Mae hyn eto’n rhywbeth na welwyd ei debyg o’r
blaen mewn hanes economaidd modern. Mae’r arafu hwn hefyd wedi bod yn ffactor
mawr ym methiant refeniw trethi i dyfu’n unol â thueddiadau’r gorffennol, ac mae
hynny wedi cyfrannu at yr heriau a wynebir o ran ariannu gwasanaethau cyhoeddus
– er, wrth gwrs, fod dewisiadau gwleidyddol Llywodraeth y DU ynglŷn â lefelau
trethiant a dosbarthu gwariant cyhoeddus hefyd wedi bod yn allweddol.
Dylid nodi mai ychydig o newid sydd wedi bod o ran anghydraddoldeb incwm ledled
y DU dros y degawd diwethaf (gwelwyd cynnydd mawr mewn anghydraddoldeb
incwm ledled y DU dros y 1980au) – nodwedd ddiffiniol y degawd diwethaf oedd y
twf llesg mewn incymau real, nid cynnydd mewn anghydraddoldeb (er bod
dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Resolution Foundation yn
awgrymu bod hyn yn debygol o newid os bydd y toriadau lles pellach sydd ar y gweill
gan Lywodraeth y DU yn mynd rhagddynt).
Nid yw’n glir beth yw’r rhesymau dros yr arafu o ran twf cynhyrchiant, ac yn arbennig
felly pam y mae perfformiad y DU wedi bod yn arbennig o wael ers y dirwasgiad, ac
0
500
1,000
1,500
2,000
2,500
194
8
195
1
195
4
195
7
196
0
196
3
196
6
196
9
1972
197
5
197
8
198
1
198
4
198
7
199
0
199
3
199
6
199
9
200
2
200
5
200
8
2011
201
4
201
7
£ b
n
mae anghytuno ynghylch hyn. Yn rhannol, gallai perfformiad anarferol o wael y DU
fynd law yn llaw â’i pherfformiad cryf yn y farchnad lafur, gyda chyflogaeth uchel yn
adlewyrchu marchnad lafur hyblyg a llai o bwysau o’r herwydd ar gwmnïau i
fuddsoddi ac arloesi.
Wrth gwrs, yn ogystal â’r arafu gwaeth na’r cyfartaledd ym mherfformiad
cynhyrchiant y DU, mae problem hirsefydlog yn y DU o ran lefelau is o gynhyrchiant
llafur o gymharu â llawer o wledydd datblygedig eraill. Mae ymchwil yn awgrymu bod
y broblem hon yn gysylltiedig â nifer uwch o fusnesau yn y DU sydd “ar ei hôl hi” a
chanddynt lefelau cynhyrchiant isel iawn ond hefyd â gwendidau o ran sbardunau
sylfaenol cynhyrchiant, addysg a hyfforddiant sgiliau yn enwedig ar y “pen isaf”, a
lefelau isel o fuddsoddi mewn seilwaith a busnesau fel ei gilydd.
Fel mae’r OECD wedi dadlau, mantais canolbwyntio ar addysg a sgiliau ar y pen isaf
yw fod hynny hefyd yn helpu i hybu twf cynhwysol.
Y rhagolygon ar gyfer adfer twf cynhyrchiant
Er nad oes consensws llwyr o bell ffordd ynglŷn â’r hyn sydd wedi achosi’r arafu
rhyngwladol mewn twf cynhyrchiant, mae ystod o ymchwil wedi dangos y gallai’r
ffactorau sydd wedi cyfrannu at hynny gynnwys:
Yr hwb a roddodd TGCh i gynhyrchiant yn y 1990au yn pylu
Gwaddol barhaus y dirwasgiad mawr, sydd wedi gadael creithiau o ran yr
effeithiau ar barodrwydd cwmnïau i fuddsoddi a gallu sefydliadau ariannol i i
fenthyca i gefnogi buddsoddi.
Wrth i wledydd datblygedig brofi cyfnod estynedig o arafu yn eu cynhyrchiant, bu
llawer o drafod ar oblygiadau awtomeiddio’n gyffredinol (a thechnolegau digidol yn
benodol) i gyflogaeth. Mae yma baradocs – mae cyfraddau cyflogaeth wedi
cyrraedd, neu ar fin cyrraedd, lefelau uwch nag erioed, ac mae twf cynhyrchiant araf,
mewn egwyddor, yn fwy tebygol o adlewyrchu arloesi araf, yn hytrach na chyflym.
Yn ogystal, wrth gwrs, nid yw awtomeiddio yn y gorffennol wedi arwain at ostwng
niferoedd swyddi, gan fod mwy o alw (yn rhannol yn sgil incymau uwch) wedi arwain
at greu swyddi newydd sydd wedi mwy na gwneud iawn am y swyddi a gollwyd. Er
hynny, mae’n bosib na fydd hyn yn wir yn y dyfodol ac mae goblygiadau mwy
cyffredinol y technolegau newydd yn teilyngu llawer o astudio gofalus, fel sy’n
digwydd yn rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru o arloesi digidol.
Un posibiliad yw fod technolegau newydd a gyflwynwyd dros y blynyddoedd diwethaf
yn creu newidiadau sylfaenol iawn ledled yr economi, a fydd yn cymryd blynyddoedd
i'w gwireddu, ac mai rhywbeth dros dro yw’r “seibiant mewn twf” a welwyd dros y
blynyddoedd diwethaf wrth i effeithiau aflonyddgar y newid sy’n digwydd gelu’r
enillion posib a ddaw yn sgil y technolegau newydd.
Mae nifer o sylwebwyr wedi dadlau, os na ellir adfer twf cynhyrchiant i gyfradd sy’n
debyg i’w dueddiadau hirdymor, gan gyfrannu at godi safonau byw dros amser, y
gallai fod goblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol dybryd iawn wrth i ddisgwyliadau
pobl beidio â chael eu bodloni, yn enwedig ymhlith y rhai sydd ar incymau isel.
Perfformiad economaidd Cymru dros y tymor hwy
Mae perfformiad yr economi yng Nghymru ers datganoli wedi bod yn gymysg;
mae gwelliant cymharol arwyddocaol mewn cyfraddau cyflogaeth – wedi’i
sbarduno gan lai o anweithgarwch, ac wedi’i grynhoi yn Ngorllewin Cymru a
Chymoedd y De – wedi ei orbwyso gan ddirywiad cymharol mewn
cynhyrchiant ac mewn cyflogau, y mae perthynas agos rhyngddynt.
At ei gilydd, mae’r newid cyfyngedig mewn GYG cymharol y pen yng Nghymru
wedi adlewyrchu’r effeithiau hyn sydd ar y cyfan yn wrthbwysol. Er hynny, yn
y data ar gyfer y ddwy flynedd ddiweddaraf (2015 a 2016), mae GYG y pen wedi
tyfu’n gynt yng Nghymru na ledled y DU gyfan.
Bydd gwelliannau ym mherfformiad economaidd cymharol Cymru yn y dyfodol
yn dibynnu’n allweddol, ond nid yn gyfan gwbl, ar lwyddiant polisïau i wella
lefelau addysg a sgiliau ac ar gysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu gwell.
Perfformiad economaidd Cymru ers datganoli
Dros y tymor byr i ganolig, perfformiad economi’r DU yw’r dylanwad pwysicaf o bell
ffordd ar ganlyniadau economaidd Cymru.
Dros y tymor hwy, mae polisïau Llywodraeth Cymru – yn enwedig ar addysg, sgiliau
a seilwaith – yn hanfodol, ond hyd yn oed yma mae cyd-destun y DU yn bwysig, yn
arbennig o ran adfer cynhyrchiant mewn unrhyw ffordd ystyrlon.
O’i chymharu â llawer o wledydd eraill, mae diffyg cydbwysedd gofodol mwy yn y
DU, gyda Llundain a’r De Ddwyrain ehangach yn dominyddu i raddau mwy na
rhanbarthau arweiniol mewn sawl gwlad arall. Mae hyn yn adlewyrchu cymysgedd
gymhleth o ffactorau hanesyddol a daearyddol, ond mae polisïau Llywodraeth y DU,
er enghraifft ar fuddsoddi mewn seilwaith ac ar strwythur trethiant a dosbarthu
gwariant, hefyd yn debygol o gael effeithiau pwysig.
Ac ystyried bod yr economi yng Nghymru wedi’i hintegreiddio’n agos â gweddill y
DU, mae’r naturiol asesu perfformiad economaidd Cymru yng nghyd-destun y DU.
Yn hyn o beth, ac ystyried y cyfnod ers datganoli yn 1999, mae perfformiad cymharol
yr economi yng Nghymru wedi bod yn gymysg.
Fel y dangosir yn ffigur un, o ran y dangosydd GYG y pen, mae Cymru wedi aros ar
waelod tabl cynghrair gwledydd a rhanbarthau’r DU. Er hynny, mae nifer o
gyfyngiadau i’r dangosydd hwn sy’n golygu nad yw, o’i ystyried ar ei ben ei hun, yn
adlewyrchu perfformiad economaidd yn llawn.
Yn gyntaf, oherwydd ei strwythur demograffig, mae gan Gymru boblogaeth ddibynnol
gymharol fawr, sydd ond yn cyfrannu cymharol ychydig i GYG. Yn ail, mae Cymru’n
profi all-gymudo net. Mae all-gymudwyr yn cyfrannu at incymau Cymru ond nid (yn
uniongyrchol) at GYG Cymru. Yn drydydd, mae corff eang o dystiolaeth sy’n dangos,
a bwrw bod popeth arall yn gyfartal, fod cynhyrchiant (GYG fesul awr a weithiwyd) a
chyflogau’n tueddu i fod yn uwch mewn canolfannau mawr ac yn is mewn ardaloedd
mwy prin eu poblogaeth.
Am y rhesymau hyn, mae’n bwysig ystyried cyfres o ddangosyddion economaidd, yn
hytrach nag un mesur megis GYG y pen. Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi, ac yn
diweddaru’n rheolaidd, gyfres o ddangosyddion economaidd, sydd ar gael yma:
https://gov.wales/statistics-and-research/economic-indicators/?lang=cy
Dros y cyfnod ers datganoli, mae Cymru wedi perfformio’n gymharol gryf ar
gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch, ond yn llai cryf ar gynhyrchiant a chyflogau
(y mae perthynas agos rhyngddynt). Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle y mae
Cymru, yn ôl y data diweddaraf, ar waelod y rhestr o 12 gwlad a rhanbarth y DU ar
gynhyrchiant a chyflogau ond mae’n gwneud ychydig yn well ar gyfraddau cyflogaeth
ac ar incwm aelwydydd (y mesur gorau o les economaidd), yn uwch na Gogledd
Ddwyrain Lloegr a Gogledd Iwerddon ar y naill a’r llall.
Dangosir y gwelliannau amlwg mewn cyfraddau cyflogaeth ledled Cymru ers
datganoli yn ffigur pedwar.
Ffigur pedwar: Cyfradd gyflogaeth, Cymru a’r DU 1999 a 2017
Ffynhonnell: ONS
Mae ffigur pedwar yn dangos bod y bwlch rhwng cyfraddau cyflogaeth Cymru a’r DU
gyfan wedi lleihau’n sylweddol ers datganoli, gyda’r gwelliant mwyaf yng Ngorllewin
Cymru a Chymoedd y De. Mae’r gwelliant wedi’i sbarduno’n bennaf gan lai o
anweithgarwch. Mae’r gwelliant yn y gyfradd gyflogaeth wedi bod yn arbennig o
amlwg ymhlith menywod.
Mae Cymru wedi symud o sefyllfa yn y 1990au pan oedd perfformiad y farchnad
lafur yn anghydnaws yng nghyd-destun y DU, ac yn sylweddol waeth na’r
perfformiad ar draws Gogledd Lloegr, i sefyllfa lle nad yw hynny’n wir mwyach, er
bod mwy i’w wneud eto er mwyn cau’r bwlch â gweddill y DU yn llwyr.
Fel y nodwyd eisoes, ac fel y mae ffigur pump yn ei ddangos, ni wnaed cynnydd
tebyg ar gynhyrchiant (a bu diffyg cynnydd tebyg hefyd ar gyflogau, sy’n perthyn yn
agos i gynhyrchiant).
Ffigur pump: GYG fesul awr a weithiwyd (DU=100)
Ffynhonnell: ONS
Mae ffigur pump yn dangos cynhyrchiant (GYG fesul awr a weithiwyd) ar gyfer
Cymru a detholiad o wledydd a rhanbarthau’r DU, i gyd wedi’u mynegi o gymharu â
chyfartaledd y DU gyfan.
Ar ôl cyfnod o ddirywiad, mae cynhyrchiant cymharol Cymru wedi sefydlogi ers tua
2010 ac mae’n bosib ei fod wedi gwella ryw ychydig. Nid ydym yn deall yn llawn y
rhesymau dros y duedd hon ond mae’n bosib bod gwelliannau yn y farchnad lafur,
wedi’u crynhoi yn rhan gyntaf y cyfnod, yn gysylltiedig â’r ffaith bod pobl (yn enwedig
menywod) a chanddynt lefelau sgiliau is na’r cyfartaledd a fyddai wedi bod yn
anweithgar cyn hynny wedi cael gwaith.
Ac ystyried y cyfnod cyfan ers datganoli, mae’r newid yn y GYG cymharol y pen yng
Nghymru wedi adlewyrchu effeithiau gorbwysol i raddau helaeth y gwelliant yn y
gyfradd gyflogaeth a dirywiad mewn cynhyrchiant cymharol. Er hynny, dros y ddwy
flynedd ddiweddaraf, mae GYG y pen wedi tyfu’n gynt yng Nghymru na ledled y DU
gyfan.
60
70
80
90
100
110
120
130
140
London
Scotland
North East
N Ireland
Wales
Llundain
Yr Alban
Y Gogledd Ddwyrain
G Iwerddon
Cymru
Rhagolygon perfformiad economaidd cymharol Cymru dros y tymor hir
Yn y dyfodol, bydd perfformiad economaidd cymharol Cymru’n dibynnu ar i ba
raddau:
Y mae cynhyrchiant a chyflogau’n cynyddu;
Y mae modd gwella perfformiad y farchnad lafur ymhellach, gan ddileu’r
bwlch rhwng cyfraddau cyflogaeth Cymru a’r DU gyfan.
Fel y trafodir ymhellach isod, ar ôl datganoli pwerau trethu, byddai cynnydd yn y
meysydd hyn yn creu goblygiadau pwysig hefyd i sylfaen drethu Cymru ac o’r
herwydd i’r refeniw a fyddai ar gael i Lywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau
cyhoeddus.
Mae dadansoddiadau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru’n
dangos nad yw amrywiadau o ran cymysgedd y diwydiannau’n dylanwadu’n gryf ar
wahaniaethau cynhyrchiant cymharol ledled y DU – a bod gwahaniaethau o fewn
diwydiannau’n bwysicach o lawer.
Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod cysylltiad cryf rhwng cynhyrchiant ledled y DU a
lefelau cymwysterau, ac ar ôl caniatáu ar gyfer hyn, a’r “crynswth economaidd” –
hynny yw, a bodolaeth canolfannau gweithgarwch economaidd mwy o faint a mwy
dwys eu poblogaeth.
Mae’r berthynas rhwng cynhyrchiant (a chyflogau) a chrynswth economaidd yn
gryfach o lawer mewn diwydiannau gwasanaeth nag mewn gweithgynhyrchu, ac yn
cael ei sbarduno gan ystod o ffactorau, gan gynnwys, er enghraifft, ei bod yn haws
paru pobl a swyddi mewn canolfannau mawr.
Ar y lefel uchaf, felly, bydd llwyddiant polisïau i wella lefelau addysg a sgiliau, ac i
helpu i gynyddu’r crynswth economaidd effeithiol drwy wella cysylltiadau trafnidiaeth
a chyfathrebu, yn allweddol er mwyn gwella perfformiad cynhyrchiant cymharol
Cymru.
Er bod cysylltiad cadarnhaol rhwng lefelau cynhyrchiant a chrynswth economaidd
(ac felly gysylltiad negyddol rhyngddynt a phrinder poblogaeth), nid oes perthynas
syml rhwng crynswth economaidd a thwf. Mae ffigur chwech yn dangos twf yng
nghyfanswm y GYG a’r GYG y pen ar gyfer is-ranbarthau ystadegol Cymru dros y
cyfnod ers yn union cyn datganoli (defnyddir cyfartaleddau i leihau anwadalwch yn y
data, sy’n cael ei ddarparu p’un bynnag i amlygu patrymau cyffredinol yn hytrach nag
i ddiffinio’r sefyllfa mewn is-ranbarthau unigol). Nid yw’r ffigurau hyn wedi’i haddasu
yn ôl chwyddiant, ac maent felly’n dangos perfformiad cymharol is-ranbarthau, yn
hytrach na chynnydd real mewn GYG1.
1 Dylid nodi bod Siart 6 yn dangos newidiadau i GYG. Mae patrymau cymudo’n effeithio’n fawr ar
lefelau GYG, yn enwedig ar gyfer is-ranbarthau, a dylid dehongli hyn yn ofalus iawn
Dangosir yr is-ranbarthau sy’n drefol yn bennaf mewn coch, a’r is-ranbarthau
gwledig yn wyrdd. Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg y gwelwyd y cynnydd mwyaf
yng nghyfanswm y GYG. Ond gwelwyd cynnydd mawr yn y boblogaeth yno hefyd,
felly mae GYG y pen wedi codi i raddau llai nag mewn llawer o is-ranbarthau eraill.
Ffigur chwech: GYG a GYG y pen, 2014-16 a 1996-98
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Nid yw ffigur chwech yn dangos patrwm daearyddol clir. Yn groes i rywfaint o’r
sylwebaeth, nid yw twf GYG mewn ardaloedd gwledig wedi bod yn is yn systematig
nag mewn ardaloedd trefol.
Mae’n dilyn felly, er bod perfformiad cymharol Cymru o ran lefelau cynhyrchiant a
chyflogau dan anfantais oherwydd diffyg crynswth economaidd, nad yw’r ffactorau
hyn yn awgrymu bod yn rhaid i’r twf a ragwelir mewn cynhyrchiant a chyflogau fod yn
is yng Nghymru nag mewn mannau eraill am y rheswm hwn.
Roedd adroddiad y llynedd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am wahaniaethau
daearyddol o ran perfformiad economaidd yng Nghymru. Mae ffactorau daearyddol
yn bwysig ond dros y tymor hir y gwelir eu heffeithiau fel arfer ac maent yn aml yn
anuniongyrchol. Fel y dangosodd adroddiad y llynedd, mae gan bobl â nodweddion
tebyg – yn enwedig cymwysterau, ond hefyd statws iechyd a ffactorau eraill – siawns
weddol debyg o fod mewn cyflogaeth ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru, neu
yn wir ledled y DU.
Cyd-destun cyllidol y DU
Mae dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn dangos bod
polisïau Llywodraeth y DU, wedi degawd o gwtogi gwirioneddol ar wariant ar
wasanaethau cyhoeddus na welwyd ei debyg o’r blaen, yn awgrymu y bydd
pum mlynedd arall o wariant cyfyngedig. Bydd graddfa’r cyfyngiadau’n
dibynnu i ba raddau y bydd y gwariant ychwanegol a gyhoeddwyd yn
ddiweddar ar gyfer y GIG yn Lloegr yn cael ei wrthbwyso gan gwtogi mewn
mannau eraill.
Mae amcanestyniadau cyllidol tymor hwy’r OBR yn awgrymu bod arian
cyhoeddus y DU yn gyllidol anghynaliadwy oherwydd y byddai bodloni’r
amcanestyniadau canolog o ran y galw am wasanaethau cyhoeddus heb godi
trethi’n creu dyled gyhoeddus a fyddai’n parhau i gynyddu.
Rhagolygon cyllidol tymor byr y DU
Mae cyd-destun cyllidol y DU yn hollbwysig i bwrs cyhoeddus Cymru, a bydd yn
parhau i fod yn hollbwysig, gan fod Cymru’n cael cyfran helaeth o’i chyllid cyhoeddus
ar ffurf grant bloc gan lywodraeth y DU. Hyd yn oed ar ôl datganoli pwerau trethu,
bydd mwy na 70% o wariant datganoledig yn dod o’r grant bloc.
Mae’r DU yng nghanol proses o gwtogi cyllidol na welwyd ei thebyg o’r blaen. Yn
rhannol, mae hyn yn adlewyrchu gwaddol y dirwasgiad, ac yn benodol fethiant yr
economi i adfer cyfraddau twf hanesyddol fel y disgrifir uchod2. Mae hefyd yn
adlewyrchu’r dewisiadau o ran gwariant a threthu a wnaed gan lywodraethau
diweddar y DU.
Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi dangos, er gwaethaf y cyni, fod
cyfradd araf y twf economaidd wedi peri bod cyfradd y gwariant cyhoeddus yn GYG
y DU yn agos at gyfartaleddau hanesyddol. Yn y cyd-destun hwn, mae llywodraeth y
DU wedi gwneud dewisiadau penodol, yn enwedig ynglŷn â threthiant, sydd wedi
arwain at gwtogi’n ddifrifol ar wariant dydd-i-ddydd ar wasanaethau cyhoeddus (yr
hyn a elwir yn RDEL) mewn termau real.
Mae ffigur saith yn dangos y gostyngiad canrannol cronnol mewn gwariant real ar
wasanaethau cyhoeddus dydd-i-ddydd ledled y DU gyfan. Mae’n dangos ffigurau
alldro a dwy senario ar gyfer rhagolygon gwariant yn sgil y gwariant ychwanegol ar
iechyd a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018. Mae’r rhagolwg gwariant cyntaf yn tybio
y bydd y gwariant ychwanegol ar iechyd a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018 yn
2 Efallai hefyd fod y broses o dorri gwariant cyhoeddus ei hun wedi cyfrannu at arafu’r twf.
cael ei wrthbwyso’n llawn gan doriadau i feysydd eraill yng ngwariant y llywodraeth.
Mae’r ail ragolwg yn tybio bod y gwariant ychwanegol yn gyfan gwbl atodol. Nid yw
Llywodraeth y DU eto wedi egluro i ba raddau, os o gwbl, y bydd y gwariant
ychwanegol yn atodol.
Ffigur saith: Newid cronnol mewn RDEL real y pen (%)
Ffynhonnell: OBR
Gellir gweld, hyd yn oed os yw’r gwariant ychwanegol ar iechyd yn gyfan gwbl
atodol, na fydd ond yn gwrthbwyso’r toriadau real a wnaed eisoes, gan adael
gwariant dydd-i-ddydd real ar wasanaethau cyhoeddus tua 8% yn is nag yr oedd yn
2007-08.
Yn ogystal, wrth gwrs, gwnaed toriadau real mawr i wariant lles, ac mae Llywodraeth
y DU yn bwriadu gwneud mwy o doriadau. Bydd y toriadau hyn yn cael effaith
ddifrifol yng Nghymru oherwydd bod lefelau ei hincymau’n is na’r cyfartaledd a’r
lefelau salwch ac anfantais yn uwch.
Rhagolygon cyllidol tymor hwy y DU
Mae’r OBR yn ddiweddar wedi adolygu rhagolygon cyllidol hirdymor y DU yn ei
Fiscal Sustainability Report, lle mae’n llunio amcanestyniadau ynghylch gwariant
cyhoeddus a refeniw trethi’r DU dros y cyfnod hyd at y 2060au. Llunnir
amcanestyniadau gwariant ar sail y galw disgwyliedig ac yn hyn o beth nid yw wedi’i
-15
-10
-5
0
5
10
Alldro
Gwariant ychwanegol ar iechyd yn cael ei wrthbwyso'n llwyr gan doriadau i
feysydd gwariant eraill
Gwariant ychwanegol ar iechyd yn gyfan gwbl atodol
gyfyngu gan refeniw trethi, y llunnir amcanestyniadau ar ei gyfer yn gyffredinol ar sail
cynnal ei gyfran gyfartalog hanesyddol o incwm cenedlaethol.
Mae newid demograffig (sy’n effeithio’n benodol ar bensiynau, iechyd a gofal
cymdeithasol) a’r duedd i gostau darparu iechyd a gofal cymdeithasol godi’n gynt na
nwyddau a gwasanaethau eraill yn sbardunau allweddol o ran galw. (Mewn
gwirionedd, o dan yr amcanestyniadau gwaelodlin, mae pwysau costau’n cael mwy o
effaith ar wariant iechyd na phwysau newid demograffig.)
Dangosir amcanestyniad gwaelodlin yr OBR yn ffigur wyth. Y prif falans yw’r graddau
y mae gwariant cyhoeddus yn fwy na refeniw trethi cyn talu llog ar ddyled y sector
cyhoeddus. Mae prif falans negyddol yn ychwanegu at y ddyled (neu’n fwy manwl,
dyled net y sector cyhoeddus (PSND)). Mae’r ffigur yn dangos, ar sail yr
amcanestyniad gwaelodlin, fod y prif falans yn gynyddol negyddol dros y cyfnod, a
dyled y sector cyhoeddus yn cynyddu tuag at 300% o CMC.
Mae’r OBR o’r farn bod hyn yn gyllidol anghynaliadwy, gan awgrymu ei bod yn
debygol y bydd llywodraeth yn y dyfodol yn ymateb drwy weithredu rhyw gyfuniad o
gwtogi ar wariant cyhoeddus a/neu gynnydd mewn refeniw.
O ran y cyntaf o’r rhain, mae hyn yn awgrymu y byddai gwariant cyhoeddus wedi’i
gyfyngu islaw’r lefel angenrheidiol i fodloni’r galw. O ran yr ail, dylid nodi bod refeniw
trethi, fel cyfran o incwm cenedlaethol, ar hyn o bryd yn gyffredinol yn cyd-fynd â’r
cyfartaledd hanesyddol. Mae rhagolygon diweddaraf yr OBR (Mawrth 2018) yn
dangos bod disgwyl i dderbyniadau cyfredol (refeniw trethi yn bennaf) gyrraedd
uchafswm o 36.8% o CMC yn 2020-21 – dyma fyddai’r lefel uchaf ers 1986-873.
Mae’r OBR yn nodi bod amcanestyniadau ynghylch anghenion gwariant yn y dyfodol
yn ansicr iawn a bod sawl senario yn bosib. Er hynny, byddai angen cyfuniad o
ragdybiaethau ffafriol iawn i sicrhau cynaliadwyedd cyllidol hirdymor gan ragdybio
bod cyfran y trethi’n parhau i fod yn agos at ei chyfartaledd hanesyddol.
Mae ystadegau demograffig diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn
awgrymu y gallai’r cynnydd hanesyddol yn nisgwyliad oes pobl ledled y DU fod wedi
aros yn ei unfan mewn blynyddoedd diweddar. Gwelwyd arafu tebyg hefyd mewn
llawer o wledydd datblygedig eraill, ond i raddau llai. Mae’n rhy fuan i bennu ai
rhywbeth dros dro yw’r arafu hwn ynteu newid yn y duedd. Ond dylid nodi hefyd fod
heneiddio ymhlith y boblogaeth yn cael ei sbarduno gan newid dros amser yng
“nghymysgedd” y boblogaeth, yn adlewyrchu cyfradd genedigaethau ymysg y
boblogaeth frodorol sydd islaw’r “gyfradd amnewid”, ac nid dim ond gan gynnydd
mewn hirhoedledd.
3 Er hynny, mae gan lawer o wledydd datblygedig gyfrannau trethiant uwch mewn CMC.
Ffigur wyth: Amcanestyniadau gwaelodlin ar gyfer y prif falans a PSND
Ffynhonnell: OBR
Rhagolygon cyllidol Cymru
Mae rhagolygon cyllidol Cymru’n dibynnu i raddau helaeth ar sefyllfa a
pholisïau cyllidol Llywodraeth y DU gan mai’r rhain sy’n pennu maint y grant
bloc, ac i raddau llai ond arwyddocaol serch hynny, ar y refeniw a godir o
drethi datganoledig.
Bydd y sefyllfa dros y tymor canolig – hyd at 2022-23 – yn dibynnu’n rhannol
ar ddull Llywodraeth y DU o ariannu’r cynnydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar i
wariant ar gyfer y GIG yn Lloegr.
Mae sefyllfa a pholisïau cyllidol hirdymor Llywodraeth y DU yn ansicr, a
chyflwynir sawl senario. Er hynny, mae dadansoddiad yr OBR yn awgrymu y
dylai rhagdybiaeth y ceir cyfnod estynedig o ddarbodaeth cyllidol barhau i fod
yn greiddiol i’r senario ganolog.
Bydd trethi Cymreig datganoledig yn cyfrif am tua 30% o wariant ar
wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’r sylfaen drethu
ddatganoledig yn wynebu rhai risgiau ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i
Lywodraeth Cymru i lunio polisïau i ddatblygu’r sylfaen drethu a thrwy hynny
gynyddu refeniw trethi.
Cyd-destun cyllidol Cymru
0
50
100
150
200
250
300
-10
0
10
20
30
40
PS
ND
fel can
ran
o C
MC
Pri
f fa
lan
s f
el can
ran
o C
MC
Prif falans
PSND
Yn debyg i bob rhan o’r DU y tu allan i Lundain, mae gwariant cyhoeddus yng
Nghymru’n uwch na’r refeniw trethi. Nid yw hyn yn syndod mewn undeb cyllidol lle
mae rhai trethi’n raddoledig ac mae rhywfaint o ailddosbarthu o blaid pobl â lefelau
incwm is.
Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei chyfer – 2016-17 – mae
ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai tua £26bn oedd cyfanswm y
derbyniadau (trethi’n bennaf) yn deillio o Gymru. Roedd cyfanswm y gwariant
cyhoeddus yng Nghymru neu ar ran dinasyddion Cymru tua £13bn yn uwch na hyn.
Gwelir diffyg cydbwysedd tebyg yng ngwledydd a rhanbarthau eraill y DU a
chanddynt lefelau uwch o angen a lefelau incwm is. Roedd cyfanswm y derbyniadau
fel canran o CMC, mesur o’r ymdrech drethu, yn uwch yng Nghymru na ledled y DU
gyfan (ffigur naw).
Ffigur naw: Refeniw trethi fel canran o CMC yn 2016-17
Ffynhonnell: ONS a Llywodraeth Cymru
O gyfanswm y gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn 2016-17, roedd tua 90% yn
“adnabyddadwy” – hynny yw, o fudd uniongyrchol i breswylwyr neu fentrau yng
Nghymru. Roedd tua 10% yn anadnabyddadwy – hynny yw, yn cael ei wario ar ran
y DU gyfan, megis taliadau llog ar ddyled gyhoeddus, cymorth rhyngwladol a
gwariant milwrol.
Gwariant mewn meysydd datganoledig oedd i’w gyfrif am bron i hanner y gwariant
cyhoeddus yng Nghymru.
Rhagolygon cyllidol tymor canolig Cymru – 2019-20 hyd at 2022-23
Wrth asesu’r rhagolygon cyllidol ar gyfer Cymru dros y tymor canolig, mae
pwysigrwydd parhaus y grant bloc, hyd yn oed ar ôl datganoli pwerau trethu, yn
golygu y dylai’r dadansoddiad a wnaed gan yr OBR yn ei gyhoeddiad ym mis
Mawrth, Economic and Fiscal Outlook, ac ym mis Gorffennaf yn ei adroddiad, Fiscal
Sustainability Report, fod yn fan cychwyn.
Mae’r amcanestyniad tymor canolig yn tybio bod yr holl gynnydd a gyhoeddwyd i’r
GIG yn 2019-20 yn bwydo i mewn i gynyddu DEL adnoddau cyfan Cymru. Y tu hwnt
i hynny, rhagdybir bod cyhoeddiad y GIG yn cael ei ariannu fwyfwy drwy gwtogi
gwariant mewn adrannau “nad ydynt wedi’u gwarchod” – hyd at 50% erbyn 2022-23.
Yn y senario hon, byddai cyllideb adnoddau gyfan Cymru’n tyfu tua 2% mewn
termau real rhwng 2019-20 a 2022-23 (gweler ffigur 10). Mae’r gyfradd twf flynyddol
o 0.5% y flwyddyn o 2020-21 ymlaen yn debyg i’r cyfartaledd yn ystod y
blynyddoedd diwethaf. O fewn y gyllideb gyfan, pe byddai twf yng nghyllideb GIG
Cymru’n parhau ar yr un raddfa ag a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i Loegr,
byddai gweddill y gyllideb yn lleihau 2% y flwyddyn mewn termau real ar ôl 2019-20.
Ffigur 10: Amcanestyniad tymor canolig ar gyfer cyllideb adnoddau
Llywodraeth Cymru mewn termau real (£m, prisiau 2017-18)
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Rhagolygon cyllidol tymor hwy Cymru – 2023-24 hyd at 2029-30
Mae’r amcanestyniadau tymor hwy’n defnyddio’r senario tymor canolig a nodir uchod
yn fan cychwyn. Yna, defnyddir un o’r tair senario hyd at 2029-30 (gweler ffigur 11).
Senario un: Amcanestyniadau gwariant “ar sail galw” yr OBR
Yn seiliedig ar brif amcanestyniadau’r OBR ar gyfer gwariant perthnasol heb
gynnwys llog na budd-daliadau yn ei adroddiad yn 2018, Fiscal Sustainability
Report. Mae gwariant Llywodraeth y DU sy’n berthnasol i gyllid y grant bloc yn
tyfu tua 1% y flwyddyn yn gynt nag CMC, sy’n adlewyrchu galw cynyddol
oherwydd ffactorau megis poblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd yng
nghostau real darparu gwasanaethau iechyd a gofal.
Mae’r OBR yn nodi y byddai gwariant o dan y senario hon yn anghynaliadwy
o dan bolisïau trethu cyfredol.
Senario dau: Twf yn unol ag CMC
Mae gwariant Llywodraeth y DU sy’n berthnasol i gyllid grant bloc Llywodraeth
Cymru ar gyfer gwariant dydd-i-ddydd yn tyfu ar tua’r un gyfradd ag economi’r
DU. Gellid ystyried bod y lefel hon o wariant yn fwy fforddiadwy na’r hyn a
awgrymir yn y senario gyntaf gan Lywodraeth y DU sy’n amharod i gynyddu
cyfran yr incwm cenedlaethol sy’n deillio o drethiant.
Senario tri: Twf un pwynt canrannol yn llai nag CMC
Mae gwariant perthnasol Llywodraeth y DU yn tyfu un pwynt canrannol yn
arafach nag economi’r DU, sy’n adlewyrchu senario lle mae Llywodraeth y DU
yn mabwysiadu polisi i leihau dyled net y sector cyhoeddus, sydd ar hyn o
bryd ar lefel y gellid ei hystyried yn rhy uchel.
Ffigur 11: Amcanestyniadau tymor hir ar gyfer gwariant dydd-i-ddydd (cyllideb
adnoddau) Llywodraeth Cymru mewn termau real, o dan dair senario, £m
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Yn gyffredinol, y casgliad allweddol yma yw nad yw hyd yn oed senario ar sail galw
ond yn rhoi cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfraddau twf cyn y dirwasgiad ac nad yw’n
gwneud dim i adfer y twf a gollwyd dros y degawd diwethaf.
Yn allweddol, gellid ystyried bod y senario hon yn rhy optimistaidd i fod yn debygol,
os na ragwelir naill ai bod Llywodraeth y DU yn barod i godi trethi’r DU i lefel lle y
maent yn cyfrif am gyfran o’r incwm cenedlaethol sy’n sylweddol uwch na’r
cyfartaledd hanesyddol neu weld dyled y sector cyhoeddus yn codi i lefelau uwch
nag erioed o’r blaen.
Byddai’r senario is, lle y mae Llywodraeth y DU yn lleihau dyled y sector cyhoeddus,
yn golygu bod cyllideb Llywodraeth Cymru’n tyfu ar yr un gyfradd lefel isel ag mewn
blynyddoedd diweddar ac na fyddai ond yn mynd yn ôl i lefel 2010-11 erbyn diwedd
y ganrif nesaf.
Byddai’r senario hon, ynghyd â chyllideb y GIG sy’n parhau i dyfu ar yr un gyfradd ag
a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn golygu y byddai
cyllid i weddill y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn gostwng fwy nag 20%
mewn termau real dros y degawd nesaf. Hyd yn oed pe bai gwariant perthnasol
Llywodraeth y DU yn tyfu’n unol ag CMC (yr ail senario), byddai’r cynnydd hwnnw
yng nghyllideb y GIG yn golygu bod gweddill cyllideb Llywodraeth Cymru’n gostwng
10% mewn termau real dros y degawd nesaf.
“Galw” am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r Fiscal Sustainability Report a gyhoeddwyd gan yr OBR yn trafod yn
systematig bwysau’r galw yn y tymor hwy ar wariant cyhoeddus ledled y DU yn sgil
newidiadau yn y ffactorau sy’n sbarduno’r galw a’r ffactorau sy’n cynyddu costau.
Mewn sawl ffordd, mae’r newidiadau amcanestynedig yng Nghymru’n debyg iawn i’r
rhai ledled y DU gyfan.
Mae hyn oherwydd bod y ffactorau allweddol sy’n sbarduno’r newidiadau hyn yn
debyg. Ymhlith y ffactorau hyn mae newidiadau demograffig tebyg, a phoblogaeth
sy’n heneiddio a fydd yn gosod gofynion cynyddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, yn
rhannol wrth i gyflyrau cymhleth a chydafiachedd ddod yn fwyfwy cyffredin (gweler
ffigur 12).
Ffigur 12: Twf amcanestynedig y boblogaeth yng Nghymru (o gymharu â 2016)
Ffynhonnell: Prif amcanestyniadau’r ONS ar sail 2016
Ymhlith y ffactorau cyffredin eraill mae newidiadau yng nghost gymharol darparu
iechyd a gofal cymdeithasol (sy’n adlewyrchu natur lafurddwys y gwasanaethau hyn
a’r posibiliadau cyfyngedig i wella cynhyrchiant) a darparu triniaethau meddygol
newydd, sy’n aml yn gostus.
Dros 85
Dros 75
Mae Cymru’n wynebu rhywfaint o ansicrwydd critigol, sy’n debyg i’r hyn a welir
ledled y DU gyfan. Gallai triniaethau meddygol newydd (er enghraifft i atal neu drin
dementia) leihau dibyniaeth yr henoed yn fawr. Gallai newidiadau i batrymau mudo
rhyngwladol gael effaith fawr ar faint ac adeiladwaith y boblogaeth yn y dyfodol. I
Gymru, mae amcanestyniadau’r boblogaeth yn dibynnu’n allweddol ar ragdybiaethau
am ymfudo “mewnol” yn y DU, sy’n hynod ansicr, ac o bosib yn agored i weithredu o
ran polisi.
Un canlyniad i’r ffaith fod newid demograffig yn gyffredin i Gymru a’r DU gyfan yw
fod y twf amcanestynedig yng nghyfran y bobl hŷn yng Nghymru, er bod cyfran uwch
o bobl hŷn ym mhoblogaeth Cymru ar hyn o bryd, yn eithaf tebyg i Loegr (gweler
ffigur 13). Felly, a bwrw bod popeth arall yn gyfartal, dylai’r newid o ran galw hefyd
fod yn debyg. Mae’n dilyn i’r graddau y bydd pwysau cynyddol yn cael eu hariannu
yn Lloegr, y bydd Cymru’n derbyn ei chyfran ar sail y boblogaeth drwy’r grant bloc.
Wrth gwrs, mae’n ddigon posib y bydd gan lywodraethau’r DU a Chymru farn
wahanol ynglŷn ag i ba raddau y dylid ariannu’r pwysau.
Ffigur 13: Twf y boblogaeth dros 75 (o gymharu â 2016)
Ffynhonnell: Prif amcanestyniadau’r ONS ar sail 2016
Wedi i dreth incwm gael ei datganoli yng Nghymru, fel y nodwyd uchod, bydd trethi
datganoledig a lleol yn cyfrif am bron i 30% o wariant mewn meysydd datganoledig.
Bydd lefel gwariant Llywodraeth Cymru felly’n cael ei phennu’n rhannol gan lefel y
trethi datganoledig a lleol a thwf y sylfaen drethu yng Nghymru.
Lloegr Cymru
Sylfaen drethu Cymru
O ran twf y sylfaen drethu, mae’r cytundeb ariannu rhwng llywodraethau Cymru a’r
DU – y fframwaith cyllidol – yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad i gyllid Llywodraeth
Cymru pe byddai cyfraddau twf is yn sylfaen drethu Cymru (yn bwysicaf oll drwy
warchod Llywodraeth Cymru rhag newidiadau yng nghyfansoddiad y rhai sy’n talu
treth incwm ar draws y bandiau treth). Mae’r cytundeb hefyd yn darparu cyllid
ychwanegol yn y tymor byr i ganolig a gwarant hirdymor i atal cydgyfeirio mewn cyllid
cymharol a achosir gan fformiwla Barnett.
Nid yw’r amcanestyniadau hyn yn newid y ffaith y bydd perfformiad y sylfaen drethu
yng Nghymru o’i chymharu â gweddill y DU yn effeithio ar rym gwario Llywodraeth
Cymru. Dangosir hyn yn ffigur 14, sy’n dangos yr hyn a fyddai’n digwydd i gyllideb
adnoddau Llywodraeth Cymru pe byddai trethi datganoledig yng Nghymru’n tyfu 1%
yn gynt neu’n arafach bob blwyddyn na’r rhai cyfatebol yn Lloegr a Gogledd
Iwerddon. Erbyn 2029-30, gallai hynny olygu cynnydd neu ostyngiad o £400m yng
ngrym gwario Llywodraeth Cymru.
Ffigur 14: Cyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru gyda pherfformiad amrywiol
trethi datganoledig (£m) prisiau 2017-18
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Risgiau a Chyfleoedd Trethu yng
Nghymru, yn tynnu sylw at rai o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r sylfaen drethu yng
Nghymru ar hyn o bryd4:
Cyfran is o bobl sy’n ennill cyflogau uchel (am amryw o resymau, gan
gynnwys lefel ac ansawdd swyddi, mewn perthynas â lefelau cymwysterau yn
y gweithlu);
Prisiau eiddo a gwerthoedd rhent is;
Cyfran is o eiddo uchel ei werth (a llai o ddibyniaeth ar eiddo mwy gwerthfawr
ar gyfer refeniw trethi);
Cyfran uwch o’r boblogaeth y tu allan i’r gweithlu (mwy o bobl hŷn yn
gymharol, ac er gwaetha’r gwelliannau a welwyd dros y cyfnod ers datganoli,
lefelau uwch o anweithgarwch yn y boblogaeth oedran gweithio).
Dylid pwysleisio unwaith eto mai’r hyn sy’n bwysig ym mhob un o’r meysydd hyn yw
twf gwahanredol yn y dyfodol rhwng Cymru a Lloegr, nid lefelau. Er hynny, mae rhai
tueddiadau cyfredol yn peri risgiau real i’r refeniw trethi yng Nghymru ac mewn
meysydd lle y mae Cymru’n tanberfformio ar hyn o bryd, megis cyfraddau cyflogaeth
a chyflogau cyfartalog (sy’n adlewyrchu cynhyrchiant); byddai polisïau i gau’r
bylchau hyn yn creu refeniw trethi ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
Mae amcanestyniadau poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol5 yn awgrymu bod
risg benodol i sylfaen drethu Cymru yn y dyfodol, a rhagwelir y bydd y boblogaeth
oedran gweithio’n tyfu’n arafach nag yn Lloegr – gweler ffigur 15. Wrth gwrs, ac
efallai hyd yn oed yn bwysicach, mae goblygiadau ehangach i hyn o ran perfformiad
economaidd cymharol Cymru yn y dyfodol ac o ran canlyniadau cymdeithasol.
4 Yn ogystal â graddfa’r sylfaen drethu, mae effeithlonrwydd trethi a’r cyfraddau y gosodir hwy arnynt
yn amlwg yn faterion allweddol a chymhleth ond ni thrafodir hwy ymhellach yn yr adroddiad hwn.
5 Sydd er hynny’n hynod ansicr, i ryw raddau oherwydd eu sensitifrwydd i ymfudo – ac yn enwedig
ymfudo y tu mewn i’r DU.
Ffigur 15: Twf y boblogaeth 16-64 o 2016
Ffynhonnell: Prif amcanestyniadau’r ONS ar sail 2016
Os bydd twf arafach yn y boblogaeth oedran gweithio yng Nghymru’n bwydo’n
uniongyrchol i mewn i dwf arafach mewn refeniw datganoledig, gallai’r effaith ar
gyllideb Llywodraeth Cymru fod bron yn £150m y flwyddyn erbyn diwedd y degawd
nesaf (gweler ffigur 16).
Ffigur 16: Effaith bosib twf arafach yn y boblogaeth oedran gweithio ar
gyllideb Llywodraeth Cymru (£m, prisiau 2017-18)
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Pe byddai tueddiadau’r boblogaeth yn y degawd wedi hynny hefyd yn adlewyrchu’r
amcanestyniadau poblogaeth diweddaraf, byddai’r bwlch hwn yn parhau i dyfu.
Wrth gwrs, byddai i dwf gwahanredol ym mhoblogaethau oedran gweithio Cymru a
Lloegr oblygiadau economaidd a chymdeithasol ehangach o lawer, ond mae
pwyslais mwy penodol yma ar y goblygiadau cyllidol.
Nid yw’r adroddiad hwn yn ystyried yr ymatebion polisi posib a fyddai’n codi llu o
faterion. Er hynny, mewn egwyddor, gallai fod ystod o opsiynau i ymdrin â thwf
gwahanredol yn y boblogaeth oedran gweithio, yn enwedig oherwydd y gallai sawl
ardal o Gymru fod yn lleoedd deniadol iawn i bobl fyw a gweithio ynddynt.
Yn berthnasol hefyd yn y cyd-destun hwn mae canfyddiad Canolfan Polisi
Cyhoeddus Cymru fod cymudwyr allan o Gymru’n ennill incymau uwch ac yn
cyfrannu mwy o dreth incwm na gweithwyr cyfartalog.
Mae cyflenwad tai priodol yn y dyfodol yn un ffactor, a fydd yn dylanwadu ar
botensial Cymru i gadw, a denu, pobl o oedran gweithio. Ar wahân i’r cysylltiad â
lefelau’r boblogaeth yn y dyfodol, mae i’r cyflenwad tai oblygiadau uniongyrchol i
refeniw trethi eiddo yng Nghymru.
Mae’n werth nodi bod data’n dangos bod nifer yr unedau tai arfaethedig sy’n cael
caniatâd cynllunio yng Nghymru’n is na’r disgwyl o gymharu â rhannau eraill o’r DU
(gweler ffigur 17)6.
Ffigur 17: Unedau tai a gymeradwywyd fesul 1,000 o’r boblogaeth
Ffynhonnell: Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai
Gallai bodolaeth safleoedd wedi’u tan-ddatblygu sydd wedi cael caniatâd cynllunio
olygu nad yw’r data ar ganiatâd cynllunio’n ganllaw da o ran lefelau datblygu yn y
dyfodol. Er hynny, mae’r data sydd ar gael ar anheddau newydd a gwblhawyd hefyd
yn awgrymu y gallai’r cyflenwad tai yng Nghymru fod wedi cwympo y tu ôl i rannau
eraill o’r DU mewn blynyddoedd diweddar – gweler ffigur 18.
Er bod y data yn ffigurau 17 ac 18 yn cynnwys anheddau o bob math, nid ydynt yn
cynnwys anheddau sydd wedi’u cynllunio a/neu eu cyllido ond sydd heb eu
hadeiladu neu heb gael caniatâd cynllunio eto. Bydd rhai tai cymdeithasol a’r tai
fforddiadwy a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol yn perthyn i’r
categori hwn, a byddant yn ychwanegu at y cyflenwad yn y blynyddoedd sydd i
ddod.
6 Mae’r data yn y ffigur hwn ac yn ffigur 18 yn cyfeirio at bob annedd newydd, gan gynnwys y rhai sy’n eiddo i
berchen-feddianwyr, sy’n cael eu rhentu’n breifat neu eu darparu’n gymdeithasol.
1
2
3
4
5
6
7
2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017
England Scotland
North East Yorkshire & the Humber
Wales
Lloegr
Y Gogledd Ddwyrain
Cymru
Yr Alban
Swydd Efrog a’r Humber
Ffigur 18: Anheddau newydd a gwblhawyd fesul 1,000 o’r boblogaeth
Ffynhonnell: Y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru
0
1
2
3
4
5
6
1991-92 1995-96 1999-00 2003-04 2007-08 2011-12 2015-16
England
Wales
Scotland Yr Alban
Cymru
Lloegr