newyddlen cynaliadwyedd@bangor haf 2016

15
newyddlen Cynaliadwyedd @ Bangor Haf 2016 Pythefnos masnach deg Hei pync, sortia dy jync! llwyddiant yng ngwobrau green impact Hyrwyddo Cynaliadwyedd a Llesiant ar draws cyfandiroedd Bangor ymysg prifysgolion gwyrddaf y byd

Upload: sustainabilitybangor

Post on 05-Aug-2016

230 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

Rhifyn yr Haf o Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor wedi ei greu gan Y Lab Cynaliadwyedd

TRANSCRIPT

Page 1: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

newyddlenCynaliadwyedd@Bangor

Haf 2016

Pythefnos masnach deg

Hei pync, sortia dy jync!

llwyddiant yng ngwobrau green impact

Hyrwyddo Cynaliadwyedd a Llesiant ar draws cyfandiroedd

Bangor ymysg prifysgolion gwyrddaf y byd

Page 2: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Bangor ymysg prifysgolion gwyrddaf y bydMae’r Brifysgol wedi ei cael ei rhoi yn y 5% uchaf o’r prifysgolion gwyrddaf eu hagwedd mewn tabl cynghrair rhyngwladol.

Mae UI Green Metric, tabl cynghrair a gynhyrchir gan Universitas Indonesia, yn tynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd. Mae’n mesur y prifysgolion sy’n cymryd rhan yn ôl eu hymrwymiad i ddatblygu rhwydwaith mewnol sydd yn ‘gyfeillgar i’r amgylchedd’.

Mae Prifysgol Bangor wedi codi wyth safle i 22ain yn y tabl diweddaraf, sydd yn cynnwys am y tro gyntaf dros 400 o brifysgolion o amgylch y byd.

Meddai Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes:

Rwy’n falch iawn bod Bangor yn parhau

i godi drwy’r tabl. Rydym yn ymuno â phum Prifysgol arall ym Mhrydain sydd yn arwain y ffordd wrth ‘wyrddu’r’ sector addysg uwch ryngwladol. Mae ein cynnydd pellach yn dangos ein hymrwymiad parhaus i weithredu’n gadarnhaol i hyrwyddo cynaliadwyedd a gwella’r amgylchedd yn barhaus.”

Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol yn yr adran Ystadau a Chyfleusterau:

Mae’r newyddion diweddaraf yn dangos ein bod yn parhau i wneud cynnydd sylweddol nid yn unig ym Mhrydain ond yn fyd-eang. Rydym yn cwtogi ar ein defnydd o ynni a lleihau ein hôl troed carbon yn flynyddol. Bellach rydym yn ailgylchu mwy o wastraff nag erioed wrth i ni barhau i gynnal ein safonau amgylcheddol ISO14001 a thystysgrif amgylcheddol Draig Werdd Cymru.”

Page 3: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Ymatebodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor i’r cyhoeddiad trwy ddweud:

‘Mae’n galonogol iawn gweld fod ein hymdrechion yn cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Rydym yn gwneud ein gorau i wella’r amgylchedd a defnyddio’n hadnoddau’n fwy effeithiol ond dim ond megis dechrau’r daith yw hyn mewn gwirionedd. Rwy’n siŵr fod llawer

ohonoch yn sylwi ar fylchau a gweld bod lle i wella ac rwy’n eich annog i adael i ni wybod eich barn. Nid ymdrech unigolyn neu un grŵp tasg yw hon ond cywaith ac rydym yn gobeithio y bydd mwy o fyfyrwyr a staff yn ymuno yn y fenter i sicrhau bod Prifysgol Bangor yn parhau i ddod i’r brig ac yn dangos cynnydd pellach dros y blynyddoedd nesaf’.

Cy n l l u n cy f r a n n u at fa n c b w y d y r U n d e b

Project diweddaraf Caru Bangor a GMB yw’r cynllun cyfrannu at fanc bwyd. Gyda chefnogaeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr mae’r Undeb wedi gallu gosod basgedi cyfrannu mewn 10 lleoliad yn y Brifysgol.

Caiff y bwyd a gesglir yn y Brifysgol ei gyfrannu at bobl sy’n dioddef o dlodi bwyd ym Mangor a’r cyffiniau. Bydd Banc Bwyd Eglwys Gadeiriol Bangor yn derbyn yr holl fwyd ac yn cyfrannu pecynnau bwyd at bobl sydd wedi

cael eu hasesu ac wedi derbyn talebau bwyd.

Hefyd drwy gydol mis Mai mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) wedi ymroi i gasglu bwyd o neuaddau preswyl myfyrwyr sydd wedi bod yn llwyddiant eithriadol gan arwain at gasglu dros dunnell o fwyd i’r banc bwyd lleol.

Page 4: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Prifysgol Bangor yn Cefnogi Pythefnos Masnach Deg 2016

Fe wnaeth Prifysgol Bangor gefnogi Pythefnos Masnach Deg 2016 drwy alw ar holl fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol i ymuno yn y dathliadau.

Thema’r dathliad eleni oedd “Steddwch i frecwast – Sefwch dros Ffermwyr” ac i nodi’r achlysur, fe gafodd aelodau grŵp Masnach Deg y Brifysgol fwynhau brecwast ym mwyty Gorad. Roedd y brecwast yn cynnwys nwyddau Masnach Deg fel te, coffi a bananas. Brecwast yw pryd pwysicaf y dydd, ond dydi miliynau o ffermwyr sy’n gweithio mewn gwledydd sy’n datblygu ddim yn ennill digon i wybod o ble mae eu pryd nesaf yn dod.

Mae llefydd gwerthu bwyd a diod y Brifysgol wedi ymrwymo’n llwyr i’r ymgyrch hon a bob blwyddyn mae mwy o nwyddau Masnach Deg ar gael” meddai Angela Church, Pennaeth Arlwyo a Chynadledda’rBrifysgol.

Fe wnaeth y Brifysgol, sydd wedi caelstatws Masnach Deg ers 2009, ymunounwaith eto â Grŵp Masnach Deg DinasBangor a Champws Byw i ddathlu’rbythefnos. Cafwyd Ffair Masnach Deg,

cwis Dydd Gŵyl Dewi, cystadleuaeth pobi, Carioci a Choctels Masnach Deg. Roedd digwyddiad Caru Eich Dillad yng Nghanolfan Deiniol, Bangor yn rhan o’r wythnos hefyd.

Trwy gydol y bythefnos roedd brecwastMasnach Deg yn cael ei weini ym mwytyGorad a gwerthwyd myffins siocled a banana Masnach Deg ar draws llefydd bwyta’r Brifysgol.

Mae grŵp Masnach Deg y Brifysgolyn cynnwys cynrychiolwyr o’r AdranGwasanaethau Masnachol, y LabCynaliadwyedd, Campws Byw ac Undeb yMyfyrwyr. Yn siarad ar ran y grŵp meddaiMair Rowlands, o’r Lab Cynaliadwyedd:

“Roedd yn wych gweld myfyrwyr, staffac aelodau o’r cyhoedd yn cefnogi eingweithgareddau. Mae cam syml fel prynunwyddau Masnach Deg, sydd ar gael ymmhob siop ar y campws ac yn llefydd bwyta’r Brifysgol, yn galluogi ffermwyr cymunedau tlotaf y byd i ennill incwmcynaliadwy a buddsoddi mewn prosiectausydd o fudd i’w hardal.”

Page 5: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Awr Ddaear

Ymunodd Prifysgol Bangor â’r dathliadau byd-eang oedd yn digwydd ar draws y blaned trwy gefnogi’r Awr Ddaear flynyddol sy’n cael ei threfnu gan WWF.Digwyddiad trawiadol a symbolaidd yw’r Awr Ddaear pan fydd goleuadau’n cael eu diffodd ar draws y byd i dynnu sylw’r byd at ein planed a’r angen i’wgwarchod.

Ar 19 Mawrth, am 8.30pm, fe ymunodd y Brifysgol â miloedd o adeiladau astrwythurau eiconig ledled y byd, o Bont Harbwr Sydney i Times Square ynEfrog Newydd, wrth iddynt ddangos eu cefnogaeth.

Mae’r tywyllwch unigryw yn ystod yr

Awr Ddaear wedi troi’n ddigwyddiad byd-eang, gyda channoedd o filiynau o unigolion yn dod ynghyd bob blwyddyn.

Y llynedd yng Nghymru, amcangyfrifir bod mwy na 500,000 o bobl wedi cymryd rhan, gan gyhoeddi neges o undod a chefnogaeth. Roedd adeiladau’r y Senedd ym Mae Caerdydd, Castell Caernarfon a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ymysg yr adeiladau pwysig gymrodd ran. Cofrestrodd 235 o ysgolion yng Nghymru â’r ymgyrch a dangosodd Aelodau Cynulliad Cymru o bob plaid eu cefnogaeth.

Page 6: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Hei pync, sortia dy jync!Eleni daeth nifer o sefydliadau lleol at ei gilydd i gynnal ymgyrch i geisio lleihau’r problemau gwastraff ar strydoedd Bangor ar ddiwedd y tymor.

Fe wnaeth y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a Chyngor Gwynedd gydweithio gydag asiantaethau tai lleol Dafydd Hardy a Williams a Goodwin yn ogystal ag elusen leol Tŷ Gobaith i ddod a’r ymgyrch “Hei pync, sortia dy jync!” i’rstrydoedd.

Nod y prosiect yw cadw Bangor yn daclus a lleihau effaith y myfyrwyr sy’ngadael ar ddiwedd tymor. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Brifysgol a’r Undeb

weithio mor agos gyda’r asiantaethau tai er mwyn cael ymateb gwell gan denantiaid.

Roedd i’r ymgyrch ddwy agwedd, y cyntaf oedd bod y Cyngor wedi trefnu casgliadau ychwanegol yn ystod y cyfnod pan oedd y myfyrwyr yn symud allan o’u tai ar ddiwedd y flwyddyn. Ail ran yr ymgyrch oedd rhannu a chasglubagiau elusen i’r myfyrwyr. Pwrpas gwneud hyn oedd rhoi opsiwn i’r myfyrwyr ar gyfer yr eitemau mawr fydden nhw’n methu mynd adre gyda nhw ac a fyddai fel arfer yn gorfod cael eu rhoi allan gyda’r gwastraff.

blwyddyn lwyddiannus i fyfyrwyr yn difforddMae’r canlyniadau i mewn, mae’r arbedion ynni wedi cael eu dilysu a gallwn nawr gyhoeddi mai enillwyr cystadleuaeth Myfyrwyr yn Diffodd 2015/16 yw Ffraw.

Fe wnaeth Neuadd Ffraw ddathlu mewn steil gyda parti Ben & Jerry’s yn Bar Uno.

Gwiriwch lle daeth eich neuadd yn y gystadleuaeth...

Page 7: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Mae grŵp newydd o fyfyrwyr ‘Pobol a Phlaned Bangor’, gafodd ei sefydlu ddechrau’r flwyddyn, wedi bod yn brysur gydag un o’i brosiectau cyntaf – sef plannu hadau blodau gwyllt yn ninas Bangor.

Gyda chaniatâd Cyngor Gwynedd a chymorth gan Amgueddfa a ChanolfanGelf newydd Storiel, mi wnaeth criw o fyfyrwyr brwdfrydig fynd ati i baratoi tira phlannu hadau gwyllt Ddydd Llun, 18fed o Ebrill.

Archebwyd yr hadau fel rhan o brosiect Tyfu Gwyllt Cymru, prosiect sy’n derbyn arian Loteri Genedlaethol. Mae Tyfu Gwyllt Cymru yn dosbarthu hadau blodau gwyllt sydd wedi cael eu dewis yn benodol ar gyfer Cymru gan erddi Kew yn Llundain.

Mae prosiectau tebyg ar y gweill yng Ngogledd yr Iwerddon, yr Alban a Lloegr.Gobeithio bydd y blodau yn tyfu erbyn diwedd mis Mehefin, ac yn blodeuo

dros yr Haf. Mae yna bosteri yn esbonio pa rywogaethau gafodd eu plannu ar y safle, felly cadwch lygad i weld os ydych yn eu hadnabod!

Bydd Pobol a Phlaned yn cynnal cyfres o weithgareddau tebyg yn ystod yflwyddyn, gan gynnwys plannu hadau gwyllt ar stâd Maesgeirchen, paratoillyfryn gwybodaeth i gefnogi busnesau lleol yr ardal ynghyd chanolbwyntio’n benodol ar ymgyrch gyfredol ‘People and Planet’ – sef ar ddad-fuddsoddimewn tanwydd ffosil.

POBL A PHLANED YN PLANNU DROS FANGOR

Page 8: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Eleni mae pedwar partner sef Campws Byw, Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, Y Lab Cynaliadwyedd a British Heart Foundation wedi bod yn gweithio fel rhan o fenter elusennol i atal gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a hefyd i godi arian ar gyfer Sefydliad y Galon, Prydain (British Heart Foundation).

Pwrpas yr ymgyrch Gormod i’w Bacio

oedd i berswadio myfyrwyr i roi euheitemau diangen i BHF ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd yr ymgyrch yn fyw tan ddiwedd mis Mehefin pan roedd y myfyrwyr yn symud o’i neuaddau. Gosodwyd blychau casglu mewn mannau amrywiol o amgylch pentref neuaddau y Santes Fair a Ffriddoedd. Meddai Amanda Purkiss, Cynhyrchydd Stoc Ranbarthol BHF:

Page 9: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor ar yrymgyrch ‘Gormod i’w Bacio’. Bydd 100% o’r elw o’r rhoddion gan fyfyrwyr ynmynd i mewn i’r frwydr yn erbyn clefyd y galon ac yn ariannu ymchwil achubbywyd y BHF”.

Clefyd y galon yw’r clefyd sy’n lladd y mwyaf o bobl yn y DU, mae’n chwalubywydau gormod o blant, rhieni a neiniau a theidiau – gallwch ymuno â’rfrwydr ar gyfer pob curiad calon drwy glirio a rhoi y pethau hynny nad ydycheu heisiau i’r elusen.

Meddai Deirdre McIntyre, Rheolwr Bywyd Preswyl Bangor:

“Rydym yn falch ein bod yn cydweithio gyda BHF gan helpu i godi arianhanfodol i barhau â’r gwaith achub bywyd mae BHF yn ei wneud a hefydi leihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn ganfyfyrwyr prifysgol”.

Fel arwydd o’n hymrwymiad i’r agenda cynaliadwyedd a chyfrannu at y nod oddod yn y Brifysgol Gynaliadwy bydd neuaddau yn recriwtio Cydlynydd Cynaliadwyedd Campws Byw.

Bydd y rôl hon yn helpu i ddatblygu gweithgareddau ac ymgyrchoedd ynymwneud â chynaliadwyedd a bydd yn cyfrannu at weledigaeth strategol yBrifysgol o ‘sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn gadael y Brifysgol yn raddedigion galluog, creadigol a chyflawn - dinasyddion byd-eang gyda dealltwriaeth o’r heriau a’r atebion sydd eu hangen ar gyfer byd cynaliadwy, gwydn.

Gall y Cydlynydd Cynaliadwyedd Campws Byw fod yn fyfyriwr israddedigneu ôl-raddedig, a bydd disgwyl iddynt weithio ar gyfartaledd o 40 awr ymis rhwng mis Medi a mis Mehefin; am hyn byddant yn derbyn llety di-rent.Bydd disgwyl i’r Cydlynyd Cynaliadwyedd Campws Byw i weithio 3-4 awr yr wythnos ar yr ymgyrch Myfyriwr yn Diffodd a gweddill yr oriau ar weithgareddau ac

ymgyrchoedd eraill.

Bydd yr unigolyn a benodir yn gweithio gydag aelodau o’r Lab Cynaliadwyeddi ddatblygu profiad ymarferol o ddatblygu cynaliadwy trwy brosiectau ac ymgyrchoedd a gynlluniwyd i wneud ein campws ein hunain yn fwy cynaliadwy.

Byddant yn cynorthwyo mewn digwyddiadau, cynllunio, trefnu a chydlynu ymgyrchoedd o fewn neuaddau ac ar draws y sianeli cyfathrebu a ddefnyddir gan fyfyrwyr (e.e Caru Bwyd, Casáu Gwastraff, CaruEich Dillad, Ymgyrch BHF – Gormod i’w Bacio).

Cliciwch ar y ddolen isod i ymgeisio am swydd Cydlynydd Cynaliadwyedd Campws Byw.

http://planet.cymru/cy/campus-life-sust-coord/

Cydlynydd Cynaliadwyedd Campws Byw

Page 10: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Wrth sefydlu’r bartneriaeth rhwng Prifysgol Makerere a Phrifysgol Bangor i hyrwyddo datblygu cynaliadwy rydym wedi gweld menter ymgysylltu gyda myfyrwyr yn datblygu, sy’n anelu at wneud yn siŵr bod myfyrwyr o’r ddwy Brifysgol yn cymryd yr awenau ac yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yn eu Prifysgolion a chymunedau.

Gyda chefnogaeth Hub Cymru Affrica, a’r Lab Cynaliadwyedd mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr Bangor a’r rhaglen cynaliadwyedd yn Makerere, rydym yn gweithredu prosiect dan y teitl “Hyrwyddo Cynaliadwyedd a Lles ar draws cyfandiroedd: Datblygu’r cyswllt rhwng Myfyrwyr Bangor-Makerere”

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar bedwar prif faes sy’n cynnwys;

Cynlluniau gwyrddio trefolgwella effeithlonrwydd ynni.

Rheoli gwastraff a gwella’r defnydd o adnoddau.

Cynyddu ymwybyddiaeth, cyfathrebua chyhoeddusrwydd ar gynaliadwyedd.

Mae’r myfyrwyr o’r prifysgolion

yn cydweithio i rannu syniadau a gweithredu’r prosiectau hyn ar y cyd. Mae cynnydd wedi’i wneud drwy’r prosiect hwn yn cynnwys cyflogi myfyriwr fel Intern, drwy gynllun cyflogadwyedd y brifysgol i weithio fel y cyswllt uniongyrchol rhwng y ddau gorff myfyrwyr ac fel rhan o’r broses gynllunio a gweithredu’r prosiect. Gweithiodd Luke Barrett yr intern ar y prosiect yn uniongyrchol o dan oruchwyliaeth y cydlynydd prosiect gan ddatblygu ei sgiliau proffesiynol a rheoli prosiectau.

Fe wnaeth lunio canllaw effeithlonrwydd ynni gan ddefnyddio awgrymiadau strategaeth bresennol Prifysgol Bangor a’i rannu gyda’r timau o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Makerere a fydd yn eu tro yn dylunio strategaeth effeithlonrwyddynni ar gyfer eu Prifysgol nhw. Mae’r Lab Cynaliadwyedd a’r Undeb Myfyrwyr hefyd wedi gweithio’n agos gyda’r myfyriwr Gabriel Paul Hibberd, myfyriwr yn ‘Cadwraeth gyda Coedwigaeth’ i ddatblygu ei syniad o blannu coed ffrwythau ar y campws. Bydd hyn yn digwydd yn yr hydref. Mae’r syniad wedi cael ei rannu gyda myfyrwyr Prifysgol Makerere a bydd yn cael ei weithredu ar y cyd drwy’r clybiau a chymdeithasau o’r ddau Undeb Myfyrwyr.

Hyrwyddo Cynaliadwyedd a Llesiant ar draws cyfandiroedd

Page 11: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Green Gown 2016 gyda phob pedwar o’i gofnodion. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Brifysgol ymgeisio am y gwobrau hyn, sy’n cael eu trefnu gan y Gymdeithas Amgylcheddol dros Brifysgolion a Cholegau (EAUC). Mae’r Brifysgol yn ymuno gyda dros 100 o ymgeiswyr eraill yn y rownd derfynol, sydd rhyngddynt yn cynrychioli poblogaeth o 1.5 miliwn o fyfyrwyr a bron chwarter miliwn o staff; oll yn elwa o fentrau arloesol mewn cynaliadwyedd ym meysydd addysgu, arweinyddiaeth, gwaith ymchwil, a bywyd myfyrwyr.

Mae Dr Einir Young Cyfarwyddwr Gynaliadwyedd y Brifysgol wrth ei bodd eu bod wedi cyrraedd y rownd derfynol:

“Dim ond blwyddyn sydd ers i’r Lab Cynaliadwyedd gael ei sefydlu fel canolbwynt corfforaethol ar gyfer cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithredu fel canolbwynt a chatalydd i ddod â chynaliadwyedd i fyw ym mhob agwedd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud drwy ein gwaith ymchwil, dysgu ac addysgu, ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n ddyddiau cymharol

gynnar ar ein taith tuag at ddod yn Brifysgol Gynaliadwy felly roeddwn wrth fy modd i ddarganfod ein bod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y pedwar categori a ddewiswyd:

Gwasanaethau a Chyfleusterau Gorau am ein prosiect #CaruEichNeuaddau

Cymunedau Gorau am yr ymgyrch #CaruEichDilladBangor

Y Newydd-ddyfodiad Gorau ar gyfer tîm y Labordy Cynaliadwyedd anrheg pen-blwydd braf gan i’r cyhoeddiad gyrraedd wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd cyntaf

Gwobr Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd - Fi yw’r person a enwebwyd ond mewn gwirionedd cydnabyddiaeth i’r sefydliad yw hwn ac i ymrwymiad yr Is-ganghellor, yr Is-ganghellor dirprwyol a’r Pwyllgor Gweithredu am wneud hyn yn flaenoriaeth ar gyfer Prifysgol Bangor “.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn ym Mhrifysgol Caerlŷr ar Dachwedd 10fed. Felly gwyliwch y gofod hwn!

YN Y ROWND DERFYNOL!

Pedwar allan o bedwar i Brifysgol Bangor yn cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau 'Green Gown'

Page 12: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016
Page 13: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Mae Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) wedi ennill nid unna dwy, ond tair gwobr am eu gwaith ar gynaliadwyedd. Cipiodd yr Undeb wobr Aur yng Ngwobrwyon ‘Green Impact’ yr UCM (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr).Maent eisioes wedi cipio’r Wwobr Aur ddwywaithyn 2011 a 2013 a’r wobr Rhagoriaeth Effaith Gwyrdd ddwywaith yn 2012-13 am eu cynllun peilot ‘Beics Bangor’ a 2014-14 am Bartneriaeth Gymunedol Caru Bangor. Nhw ddaeth i’r brig fel Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yn y Gwobrau Effeithiau Gwyrdd yn y noson wobrwyo yn Lerpwl.

Enillodd Undeb Bangor drydedd wobr genedlaethol hefyd sef Gwobr ArbennigEffaith Werdd. Mae’r wobr hon yn Wobr Arloesi Amgylcheddol sy’n rhoi’ cyflei Undebau Myfyrwyr fynd y tu hwnt i’r meini prawf sylfaenol sydd yn y canllawiau Effaith Werdd. Mae’r wobr am ddefnyddio creadigrwydd i gael effaith go iawn yn eu hundeb, sefydliad neu

gymuned.

Enillodd Undeb Bangor gyda’r cais am y bartneriaeth rhwng Undeb Bangor ac Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Makerere-Uganda sy’n hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy ddysgu a rhannu ar draws cyfandiroedd.

Dywedodd Mair Rowlands o’r Labordy Cynaliadwyedd sy’n cydlynu’r gwaith Effaith Werdd gyda’r Undeb:

“Rydym wedi cyflawni gwaith anhygoel drwy ‘r rhaglen Effaith Werdd dros y6 mlynedd diwethaf, ac mae Undeb Bangor wedi profi eu bod yn rhagori argynaliadwyedd gan ddangos y ffordd i Roeddem wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr Arbennig am ein partneriaeth ryngwladol gydag Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Makerere. Rydym wedi cydweithio’n agos i ddatblygu strategaeth cynaliadwyedd fydd yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o

Undeb Myfyrwyr Bangor yn llwyddo yng ngwobrau Green Impact 2016

Page 14: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

gynaliadwyedd ym Mangor ac ym Makerere (Uganda).”

Dywedodd Dylan Williams Cyfarwyddwr yr Undeb:

“Mae hyn yn ganlyniad rhyfeddol arall i Undeb Bangor; rydym wedi profi ein bod yn gwneud gwaith rhagorol yn ymwneud â chynaliadwyedd, yn ogystal â gwneud cynaliadwyedd yn un o’n gwerthoedd

craidd. Mae cynaliadwyedd yn cael ei ymgorffori yn gyfan gwbl o fewn diwylliant staff, swyddogion a myfyrwyr yr Undeb. Rydym yn falch iawn o’n cynnydd ac rydym wedi datblygu enw da yn genedlaethol ar gynaliadwyedd ac mae’r gwobrau hyn yn brawf o hynny”.

Dathlu Pen Blwydd y Lab Cynaliadwyedd yn flwydd oed gyda gwobrau lu.

Aeth blwyddyn gyntaf y Lab Cynaliadwyedd heibio fel y gwynt ac mae’n anodd credu fod cymaint gennym i’w ddathlu. Dyma’r Newyddlen gyntaf ers Nadolig ac mae’n llawn dop o weithgareddau a chyrhaeaddiadau myfyrwyr, staff a chymuned Bangor.

Fe wnes grybwyll Deddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol yn rhifyn Nadolig. Daeth y Ddeddf i rym ar 1af Ebrill 2016. Dyma benderfyniad Pwyllgor Gweithredu mewn cyfarfod ym Mis Mai ar sut y bydd y Ddeddf yn ffitio mewn i weithgareddau’r Brifysgol:

“Trafododd Pwyllgor Gweithredol y Brifysgol Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r nodau llesiant gan gadarnhau y dylai’r Brifysgol weithio tuag at fabwysiadu egwyddorion y Ddeddf. Bydd Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a’r Labordy Cynaliadwyedd yn arwain ar hyn a bydd gan y Grŵp Tasg Cynaliadwyedd drosolwg a chyfrifoldeb i sicrhau fod y pum egwyddor gynaliadwy a nodau llesiant y ddeddf yn cael eu hymgorffori yn strwythurau’r Brifysgol. Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eitem sefydlog ar agenda’r Grŵp Tasg Cynaliadwyedd yn y dyfodol”.

Gair gan y Cyfarwyddwr

Page 15: Newyddlen Cynaliadwyedd@Bangor Haf 2016

Egwyddor datblygu Gynaliadwy a’r pum ffordd o weithio:

Rhaid i ni gyd weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Er mwyn gwneud hyn mae ‘na bump peth i’w ystyried:

Yr hirdymor – rhaid cael cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen tymor hir

Atal (prevention is better than cure) - rhagweld problemau a gweithredu i rwystro’r rheini rhag digwydd a chymryd camau i wneud pethau’n well

Integreiddio - holi sut mae’n hamcanion fel sefydliad yn effeithio ar y nodau llesiant a sicrhau fod pob un yn cael eu cyfarch nid un neu ddau yn unig ar draul y lleill

Cydweithio – a hynny yn gydweithio ‘go iawn’ ar draws adrannau ac ysgolion yn fewnol ac allanol i gyflawni’r nodau llesiant

Cynnwys – rhoi cyfle i bawb i ddod yn rhan o’r project mawr, ac adlewyrchu amrywiaeth eang y sefydliad ac unigrywedd yr ardal rydym yn byw ynddo.

Wrth longyfarchiadau gwresog i Undeb y Myfyrwyr ar ennill tair gwobr rydym hefyd am gyhoeddi fod y Lab Cynaliadwyedd ar restr fer ar gyfer pedair gwobr Green Gown 2016. Bydd y buddugwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghaer Lŷr ym mis Tachwedd.

Mae’r gwobrwyon yma i bawb ond maent yn bendant yn cydnabod ymrwymiad yr Is-ganghellor a’r Pwyllgor Gwaith am roi blaenoriaeth i gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor.

Mae tîm y Lab Cynaliadwyedd a minnau yn edrych ymlaen yn fawr iawn am gydweithio gyda chymaint ohonoch â phosib ar draws y Brifysgol yn y flwyddyn sy’n dod.

BYDDEM YN CROESAWU EICH CWMNI AR Y DAITH - YMUNWCH Â NI!

www.planet.cymruwww.facebook.com/planet.cymruwww.twitter.com/planetdotcymru