· web viewgwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd...

25
Adolygiad Blynyddol CNC 2016

Upload: hathien

Post on 26-Apr-2018

224 views

Category:

Documents


5 download

TRANSCRIPT

Page 1:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Adolygiad Blynyddol CNC 2016

Page 2:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Cynnwys

Rhagair gan Gadeirydd CNC 3

Dylanwadu 4

Y Gwasanaeth Ystum a Symudedd

Cynllun Cyflwyno Cyflyrau Niwrolegol

Codi Ymwybyddiaeth a PREM

Bwrdd Prosiect Cyfathrebu Amgen a Chynyddol

Cefnogi’r Agenda Ymchwil

Llywodraethiant

8

9

11

11

12

14

Adroddiad y Trysorydd 15

Aelodau Pwyllgor Gweithredol 2016 17

Aelodaeth y CNC 18

2

Page 3:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Rhagair gan Gadeirydd CNCCroeso i Adolygiad Blynyddol Cynghrair Niwrolegol Cymru ar gyfer 2016. Afraid dweud bod 2016 wedi bod yn flwyddyn brysur a chynhyrchiol arall. Yn arbennig, gwelwyd rhagor o weithgarwch yn berthnasol i’n hagenda ddylanwadu. Yn bennaf, mae hyn wedi bod trwy gymryd rhan barhaus yn y Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol fel “cyfeillion beirniadol”.

Trwy ein rôl barhaus fel ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol, rydym wedi gweld rhaglen waith gynyddol a heriol lle mae modd i ni fynd i’r afael â nifer o’r materion allweddol sy’n poeni pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol.

Yn yr un modd, mae ein rôl fel rhanddeiliaid gyda phartneriaid allanol wedi golygu bod CNC wedi darparu heriau a gwybodaeth i gyrff sy’n llunio polisïau a phenderfyniadau fel y Gwasanaeth Ystum a Symudedd a Bwrdd Prosiect Cyfathrebu Amgen a Chynyddol.

Mae CNC wedi parhau i gymryd rhan yn y gwaith dylanwadu cyffrous o ddatblygu PREMs i’w defnyddio gan GIG Cymru yn ymwneud â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys strôc. Mae CNC yn enwedig o falch o barhau ei thrafodaethau â Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r cyllid a fydd yn galluogi CNC i gyflwyno ei raglen codi ymwybyddiaeth yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Rwyf yn falch iawn o adrodd bod ein haelodaeth wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn, sy’n rhoi i ni ragor o gryfder a mandad gwell gan edrych tuag at y dyfodol.

Mae Pwyllgor Gweithredol CNC wedi gweithio’n ddi-flino yn ystod y flwyddyn. Rwyf yn ddiolchgar i’r Weithrediaeth, ac, ar ei rhan, hoffwn ddiolch i aelodaeth ehangach CNC a’r cefnogwyr cynghreiriol – heb y rhain, ni fyddai’r camau cadarnhaol a gymerwyd eleni yn bosibl.

Gobeithiaf y bydd y darllenwyr yn gweld cynnwys yr adroddiad hwn yn ddefnyddiol, a’i fod yn ysbrydoli ymgysylltiad parhaus ac o’r newydd â’r CNC.

Ana Palazón Cadeirydd, Cynghrair Niwrolegol Cymru.

3

Page 4:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Gorffennaf 2017

4

Page 5:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

DylanwaduGrŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau NiwrolegolYn ystod 2016, mae CNC wedi parhau i ddarparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol, a ddaeth ynghyd dair gwaith: Chwefror 2016, Mehefin 2016 a Hydref 2016. Themâu’r tri chyfarfod oedd:

Chwefror 2016

Yng nghyfarfod olaf y Grŵp Trawsbleidiol ym mhedwerydd tymor y Cynulliad, rhoddodd Caroline Lewis o Dîm Polisi Cyflyrau Difrifol Llywodraeth Cymru gyflwyniad ar Adroddiad Blynyddol cyntaf y Cynllun Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol.

Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai buddsoddiad o £1.2 miliwn yn y gwasanaethau niwro-adsefydlu, gyda thri chwarter yr arian yn cael ei ddarparu gan y Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol, a’r gweddill gan y Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc.

Cytunodd y ddau grŵp i ganolbwyntio ar brofiad cleifion ar y cyd, er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o anghenion y bobl, gan fuddsoddi £40,000 yr un. Gwariwyd yr elfen olaf o gyllid y Cynllun Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol, sef £60,000, ar gynyddu mynediad at gynghorwyr gofal niwrogyhyrol arbenigol.

O ran niwro-adsefydlu, cymeradwywyd naw cynnig ar gyfer cyllid rheolaidd, sef:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer gwasanaeth niwro-adsefydlu cymunedol - £206,000.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar gyfer Tîm Rhyddhau Cleifion Niwroleg yn Gynnar â Chymorth/ Tîm Niwro-adsefydlu Cymunedol haenedig (gyda mewngymorth) - £152,000

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer cymorth i sefydlu uned niwro-adsefydlu lefel 2 yng ngogledd Cymru - £100,000.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyfer gwasanaeth niwro-adsefydlu cymunedol - £174,000.

5

Page 6:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar gyfer tîm niwro-adsefydlu cymunedol amlddisgyblaeth - £117,000.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer gwasanaeth adsefydlu niwrostrôc integredig a haenedig - £145,000.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer adsefydlu cymunedol - £96,000. Rhwydwaith Niwro Gyhyrol er mwyn datblygu gwasanaeth ffisiotherapi i

gleifion sy’n oedolion â chyflyrau niwrogyhyrol - £60,000. Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar gyfer gwasanaeth

niwro-adsefydlu pediatrig - £150,000.

Dywedodd y byrddau iechyd na fyddant yn gallu defnyddio’r cyllid yn llawn ar gyfer y gwasanaethau hyn yn ystod blwyddyn ariannol 2015/16. Gan y dosbarthwyd cyllid ar gyfer rhan o’r flwyddyn eleni, sef £337,000, dosbarthwyd gweddill y cyllid ar sail untro ar gyfer 2015/16.

Dosbarthwyd y cyllid afreolaidd fel a ganlyn:

BIP ABM – cyfarpar i gefnogi niwro-adsefydlu - £129,000. BIP AB – TG i gefnogi cyflwyno gwasanaethau niwro-adsefydlu

cymunedol presennol - £146,000. BIP BC – gwella cyfleusterau i gleifion niwro-adsefydlu a strôc yn

Ysbyty Cyffredinol Llandudno - £173,000. BIP C a’r F – cyfarpar ysgogi trydanol swyddogaethol er mwyn

cynorthwyo rheoli cleifion sy’n dioddef o sglerosis ymledol a goroeswyr strôc - £100,000.

BIP CT – cymorth i’r Tîm Niwro-adsefydlu Amlddisgyblaeth Cymunedol - £79,000.

BIP HD – sefydlu tîm niwrolegol arbenigol amlddisgyblaeth peripatetig sydd â chwmpas datblygedig - £92,000.

BIA Powys – hyfforddiant a chymorth i wasanaethau adsefydlu ac ail-alluogi cymunedol presennol - £31,000.

Cytunodd y Grŵp Gweithredu ar y blaenoriaethau canlynol ar gyfer 2016/17:

Datblygu dull cyd-gynhyrchiol o godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol.

Darparu gwybodaeth glir a chyson am gleifion. Rhoi mynediad i gleifion o bob oedran at wasanaethau niwroleg, mewn

ffordd gyson dros Gymru gyfan. Datblygu gwasanaethau niwro-adsefydlu cyson a chydlynus i gleifion o

bob oedran. Datblygu ac ymateb i brofiadau cleifion a mesurau canlyniadau.

6

Page 7:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol wedi llunio adroddiadau blynyddol, a ddylai fod ar gael ar eu gwefannau unigol.

Dangosodd Adroddiad Blynyddol y Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol rywfaint o gynnydd, gan gynnwys cyfradd marwolaethau lai, amseroedd aros byrrach ac arosiadau byrrach mewn ysbytai. Hefyd, dangosodd ymchwil i ddangosyddion ansawdd bywyd pobl â chyflyrau niwrolegol, a chynnydd sylweddol mewn cyllid i gyflyrau niwrolegol yng Nghymru.

Bydd Cynllun Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol Llywodraeth Cymru yn cael ei ymestyn o 2017 i 2020.

Mehefin 2016

Dyma oedd cyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol ym mhumed tymor y Cynulliad. Rhoddwyd cefndir i rôl a swyddogaeth y Grŵp Trawsbleidiol i aelodau newydd, a rhoddwyd crynodeb o’i gyflawniadau ar gyfer cyfnod y Pedwerydd Cynulliad; gan gynnwys yr ymchwiliadau i Gyflyrau Niwrolegol (2011) a Mynediad at Niwroffisiotherapi (2013). Cyfrannodd hyn at ymrwymiad y Llywodraeth ddiwethaf yng Nghymru i greu Cynllun Cyflenwi i Gyflyrau Niwrolegol. Ymatebodd a chyfrannodd CNC at ddrafft o’r Cynllun Cyflenwi i Gyflyrau Niwrolegol, ac, yn ogystal, enillodd leoedd i dri o’i aelodau ar y Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol.

Hefyd, roedd y Llywodraeth wedi addo y byddai’r Cynllun Cyflenwi i Gyflyrau Niwrolegol yn cael ei adnewyddu yn 2017, fel bod modd rhoi rôl allweddol i’r Grŵp Trawsbleidiol er mwyn sicrhau bod llais y bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol yn cael eu cynnwys yn y broses hon.

Yn dilyn hyn, etholwyd Cadeirydd ac Ysgrifennydd Grŵp Trawsbleidiol Cyflyrau Niwrolegol y Pumed Cynulliad. Etholwyd Mark Isherwood AC yn Gadeirydd ar y Grŵp Trawsbleidiol, ar ôl cael ei enwebu gan Ana Palazon a’i eilio gan David Murray o’r CNC.

7

Page 8:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Pleidleisiwyd Megan Evans, Cydlynydd CNC, i fod yn Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol, ar ôl cael ei henwebu gan Lynne Hughes, sydd hefyd o’r CNC.

Yna, rhoddwyd cyfle i Aelodau Cynulliad gyfarfod i drafod materion ag aelodau’r CNC.

Hydref 2016

Yn y cyfarfod, clywsom gan Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chadeirydd dros dro Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol, a gyflwynodd rôl y Grŵp, ei gynnydd hyd yma, llwyddiannau a heriau ac adnewyddu Cynllun Cyflenwi i Gyflyrau Niwrolegol Llywodraeth Cymru.

Hefyd, trafododd y Grŵp Trawsbleidiol ei Flaenraglen Waith, a chytunodd y dylai ailymweld ag adolygiadau ac ymchwiliadau blaenorol er mwyn gwirio’r cynnydd yn erbyn yr argymhellion a wnaed yn ynddynt. Roedd hyn yn cynnwys ehangu’r adolygiad gofal o fewn unedau damweiniau ac achosion brys i ofal mewn lleoliadau aciwt.

Cytunwyd y dylai’r Grŵp Trawsbleidiol gynnal arolwg (neu rywbeth tebyg) o bobl sy’n byw â chyflyrau niwrolegol ynghylch eu profiadau o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

O ganlyniad i’w rôl ganolog wrth gefnogi pobl sydd â chyflyrau niwrolegol, cytunwyd y byddai’r Grŵp yn adolygu’r gweithlu niwrolegol, yn enwedig darpariaeth nyrsio arbenigol yng Nghymru.

Clywodd y grŵp gyflwyniad cynhwysfawr gan Nina Bergonzi o Grŵp Cymorth Cymdeithas yn ne Cymru ar sut mae byw gyda Dystonia wedi effeithio ar ei bywyd hithau a bywyd ei theulu, yn enwedig yn gysylltiedig â’r diffyg gwasanaethau arbenigol i drin ei chyflwr yng Nghymru.

8

Page 9:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Y Gwasanaeth Ystum a Symudedd Mae’r Gynghrair yn parhau i fod yn gynrychiolwyr trydydd sector yn y Gwasanaeth Ystum a Symudedd, sydd â nifer o is-grwpiau sy’n ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Mae’r Bwrdd Partneriaeth yn grŵp cynghori, a sefydlwyd i roi cyngor i’r Byrddau Iechyd lleol ar strategaethau ar gyfer comisiynu gwasanaethau ystum a symudedd ledled Cymru. Mae’r Bwrdd yn atebol i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Mae’r Bwrdd Partneriaeth yn monitro perfformiad ac ansawdd y gwasanaethau a gyflwynir gan y Gwasanaeth Ystum a Symudedd. Un o’i gylchoedd gorchwyl allweddol yw darparu fforwm i randdeiliaid er mwyn gwella cyfathrebu, trafodaeth a dealltwriaeth ddwyffordd o faterion sy’n effeithio ar y gwasanaeth. Fel aelod o’r Bwrdd, mae CNC wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a’r aelodaeth.

Mae’r Gweithgor Cyfeirio Rhanddeiliaid yn is-bwyllgor o’r Bwrdd Partneriaeth, gyda chylch gorchwyl ac aelodaeth a gytunwyd. Sefydlwyd y gweithgor fel ffordd o fynd i’r afael â buddion rhanddeiliaid, a rhoi cyngor i’r Bwrdd Partneriaeth ynghylch ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Mae’r Grŵp Rhanddeiliaid yn cyfarfod yn chwarterol, o leiaf un mis cyn y Bwrdd Partneriaeth, ac mae Cadeirydd y grŵp yn paratoi adroddiad ar gyfer pob cyfarfod Bwrdd Partneriaeth. Roedd effeithiolrwydd y grŵp rhanddeiliaid wedi peri problemau yn 2015/2016, o ganlyniad i ddiffyg aelodaeth a strwythur. Lluniwyd cynllun gwaith newydd er mwyn mynd i’r afael â’r prif feysydd:

Penodi Cadeirydd. Ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth er mwyn gwella ffyrdd o

gyfathrebu. Gwelededd.

Prif lwyddiannau’r Grŵp Rhanddeiliaid

Gwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru. Mae’r aelodaeth wedi dyblu, gan ychwanegu syniadau, gwybodaeth a sgiliau newydd at ei aelodau presennol.

9

Page 10:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Penodwyd Cadeirydd, sydd wedi cynorthwyo wrth lunio’r protocol ar gyfer cymeradwyo gwaith, sydd wedi achosi gwelliant mawr wrth symud eitemau’r agenda ymlaen at eu terfyn. Unwaith eto, mae’r grŵp wedi datgan eu pryderon am Fanyleb y Gwasanaeth, gyda rhai o’i bryderon yn cael eu hystyried. Wedi misoedd lawer o drafod, bellach, mae gan y grŵp rhanddeiliaid gyfeiriad e-bost er mwyn helpu gyda chyfathrebu ehangach. Cyflwynwyd taflen newydd ar gyfer y gwasanaeth. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, y ffocws ar gyfer y grŵp fydd datblygu gwefan y gwasanaethau ystum a symudedd.

Mae’r Gweithgor Technegol yn cynnwys rheolwyr gwasanaeth, peirianwyr adsefydlu a chlinigwyr arweiniol. Gofynnodd y Bwrdd Partneriaeth am gynnwys rhanddeiliaid ynddo, ac mae dau aelod o’r Grŵp Rhanddeiliaid yn rhan o’r grŵp gweithredol hwn. Y bwriad yw cwrdd bob dau fis, ond nid yw wedi cwrdd yn rheolaidd gydag ystod lawn o aelodau. Mae CNC o’r farn bod angen i’r grŵp hwn gael ei ddatblygu ymhellach er mwyn cael ymgysylltiad dilys â rhanddeiliaid.

Cynllun Cyflenwi i Gyflyrau NiwrolegolMae’r Grŵp Cyflenwi i Gyflyrau Niwrolegol yn goruchwylio sut mae’r Cynllun Cyflenwi Niwrolegol yn cael ei weithredu. Mae gan CNC dri chynrychiolydd ar y Grŵp Cyflenwi, Barbara Locke (Parkinson’s UK), David Murray (The Cure Parkinson’s Trust) a Kevin Thomas (Cymdeithas MND). Mae hyn wedi sicrhau bod CNC yn cael ei chynrychioli ym mhob cyfarfod, a nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen a chyfarfodydd is-grwpiau.

Rhyddhawyd y datganiad cynnydd blynyddol ar 31 Mawrth 2017, ac mae ar gael ar http://gov.wales/docs/dhss/publications/170329neurologicalstatement2017en.pdf

Yn Adroddiad Blynyddol CNC yn 2015/16, nodwyd bod CNC wedi cyflwyno achos cryf i’r Grŵp Cyflenwi fuddsoddi ar y cyd â’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc i ddatblygu PREMs (Mesurau Profiadau Adroddedig Cleifion) a PROMs (Mesurau Canlyniadau Adroddedig Cleifion) er mwyn gyrru gwelliannau yn y system ofal i bobl a effeithiwyd gan gyflyrau niwrolegol o safbwynt y bobl sy’n derbyn y gwasanaethau.

10

Page 11:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Gwnaed llawer o waith dros y 12 mis diwethaf er mwyn datblygu a gyrru’r mesurau hyn yn eu blaenau. Dros y 12 mis nesaf, disgwylir i Gymru fod â PREM a PROM a ellir ei weinyddu, ei grynhoi a’i ddadansoddi ar lefel genedlaethol, a fydd yn gallu amlygu anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, cynorthwyo sut dadansoddir datblygiad y gwasanaeth ac arddangos newid cadarnhaol dros amser. Y bwriad yw cynnal dilysiad trylwyr o’r PROM a argymhellwyd gan Gonsortiwm Rhyngwladol Mesur Canlyniadau Iechyd i’w defnyddio ar gyfer cyflyrau strôc a niwrolegol ledled Cymru.

Yn Adroddiad Blynyddol CNC 2015/16, amlygwyd sut rydym wedi cefnogi cronni cyllid rhwng Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol a Grŵp Gweithredu Strôc er mwyn rhyddhau £1.2 miliwn er mwyn gwella gwasanaethau adsefydlu cymunedol ledled Cymru. Fel y nodir yn gynharach yn yr adroddiad, cyflwynodd pob bwrdd iechyd lleol geisiadau i ddatblygu gwasanaethau adsefydlu dros Gymru gyfan. Cyfrannodd CNC at y broses o wneud y penderfyniad, a chefnogodd y broses dosbarthu cyllid ar gyfer prosiectau ar draws yr holl fyrddau iechyd. Hyd yma, mae gweithredu’r datblygiadau wedi bod yn afreolaidd, gan fod rhai byrddau iechyd lleol wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth roi’r cyllid ar waith, ond, ar y llaw arall, nid yw rhai ohonynt wedi gwario ceiniog o’r cyllid a roddwyd.

Er mai codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol yw un o flaenoriaethau Grŵp Gweithredu Cyflyrau Niwrolegol, a gofynnwyd i CNC arwain y maes gwaith hwn, teg fyddai dweud bod y cynnydd yn y maes wedi bod yn araf. Mae CNC wedi bod yn gadarn iawn mewn trafodaethau, er mwyn sicrhau bod y maes gwaith hynod bwysig yn cael y sylw mae’n ei haeddu, yn ogystal â chyllid er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno’r amcanion. Rydym yn falch o sicrhau £40,000 y flwyddyn, dros dair blynedd, er mwyn symud ymlaen. Bydd rhagor o fanylion yn yr adran nesaf.

Mae Datganiad Cynnydd Blynyddol y Cynllun Cyflenwi Cyflyrau Niwrolegol yn amlygu’r cynnydd parhaus wrth ddatblygu gwasanaethau niwrolegol. Fodd bynnag, mae’n cydnabod bod angen gwneud mwy. Mae hyn yn glir iawn i CNC, wrth inni barhau i glywed nad yw pobl a effeithir gan gyflyrau niwrolegol yn profi gwelliannau yn y gwasanaethau i fodloni eu hanghenion. Felly, rydym yn falch o fod yn rhan o broses adnewyddu’r Cynllun Cyflenwi i Gyflyrau Niwrolegol yn bresennol. Bydd CNC yn cynnal grwpiau ffocws ac yn cyflwyno sylwadau ar gyfer yr adnewyddu, a bydd yn amlygu bod angen rhagor o bwyslais ar farn y bobl a effeithir gan gyflyrau niwrolegol, a bod angen mesurau canlyniadau mwy trylwyr, yn seiliedig ar canllawiau clinigol a phrofiadau pobl.

Mae’r adnewyddu yng nghamau olaf y broses ymgynghori ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn. Roedd y Cynllun Cyflenwi gwreiddiol yn

11

Page 12:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

weithredol rhwng 2013 a 2017, a bydd y cynllun adnewyddedig yn cael ei ymestyn hyd 2020.

Codi Ymwybyddiaeth a PREM Fel y nodwyd uchod, sicrhaodd CNC gyllid ar gyfer cyfnod o dair blynedd gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Niwrolegol, er mwyn cynnal rhaglen i godi ymwybyddiaeth. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o fyw gyda chyflwr niwrolegol, yr effeithiau y gall hyn eu hachosi a’r rhwystrau y mae’r bobl sy’n dioddef o gyflyrau niwrolegol yn eu hwynebu bob dydd, fel cleifion ac fel dinasyddion yn eu bywydau bob dydd.

Cam cyntaf y gwaith fydd datblygu a therfynu’r offeryn Mesurau Profiadau Adroddedig Cleifion (PREM) i’w ddefnyddio gan y GIG yng Nghymru i gleifion sydd â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys strôc.

PREMs: Diffinnir Profiad Cleifion fel: sut mae’n teimlo i fod yn ddefnyddiwr o’r GIG yng Nghymru, ac mae’n cynnwys pobl sy’n defnyddio Gwasanaethau Iechyd mewn unrhyw leoliad, yn ogystal â’u teuluoedd a gofalwyr nad ydynt yn cael eu talu. Mae mesurau profiad adroddedig cleifion yn golygu unrhyw ddull o ddeall profiad unigolyn neu grŵp o gleifion. Caiff ymatebion eu casglu’n uniongyrchol gan y cleifion trwy ofyn iddynt lenwi holiaduron eu hunain, neu trwy gyfweliadau.

Efallai y bydd aelodau CNC yn cofio ein bod wedi bod ynghlwm â datblygu’r gwaith hwn ers dwy flynedd bellach, ac ar ôl i ni sicrhau’r cyllid, mae gennym gyfle i’w ddatblygu i’w lawn botensial. Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod.

Bwrdd Prosiect Cyfathrebu Amgen a ChynyddolGwahoddwyd CNC i fod yn aelod o Fwrdd Prosiect Cyfathrebu Amgen a Chynyddol, a sefydlwyd er mwyn goruchwylio datblygu elfen hyb y model gwasanaeth newydd ar gyfer Cyfathrebu Amgen a Chynyddol yng Nghymru. Rhoddwyd cyllid yn benodol i Gyfathrebu Amgen a Chynyddol gan Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf – roedd hyn yn cynnwys cyllid i staff a chyllid cyfarpar am ddwy flynedd. Hefyd, mae’r Bwrdd yn goruchwylio

12

Page 13:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

trefniadau’r cytundeb a chyfathrebu, monitro a gwerthuso, ac mae’n gwneud argymhellion ar gyfer cyllid tymor hir.

Cynrychiolwyd y CNC gan Carol Smith o’r Gymdeithas MND yn 2016. Cynhaliwyd pum cyfarfod yn 2016, gyda chynrychiolydd CNC yn bresennol ym mhedwar ohonynt. Darparwyd adroddiadau diweddaru ar ôl pob cyfarfod i bwyllgor gweithredol CNC.

O ganlyniad i oedi wrth ryddhau’r cyllid, ar y cyd â phroblemau recriwtio, roedd yr amser i sefydlu’r gwasanaeth yn llawn yn hirach na’r disgwyl. Yn ogystal, roedd y cynnydd sylweddol yn yr atgyfeiriadau i’r hyb ar ôl cyhoeddi’r cyllido wedi arwain at restr aros hir, fodd bynnag, mae hyn yn cael ei leihau yn raddol. Mae rhagor o gyllid wedi galluogi’r gwasanaeth i benodi staff ychwanegol, gan gynnwys rhagor o therapyddion a thechnolegwyr a gwyddonwyr clinigol. Dosbarthwyd y cyllid ar gyfer y cyfarpar yn ogystal.

Sefydlwyd Rhwydwaith Rhagoriaeth Glinigol er mwyn cyfnewid syniadau a gwybodaeth, hyrwyddo ymchwil, trafod polisi, hwyluso rhannu gwybodaeth a dysgu a datblygu rhwng hybiau a lloerennau, a chynyddu gwybodaeth o rôl therapyddion lleferydd ac iaith o fewn Cyfathrebu Amgen a Chynyddol.

O ganlyniad i’r oedi wrth ddechrau’r prosiect, mae’r cyfnod gwerthuso wedi cael ei ymestyn hyd nes Medi 2017.

Mae’r mater ynghylch cyllid parhaus ar gyfer cyfarpar yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cadarnhau nad oes rhagor o gyllid ar gael gan y Byrddau Iechyd lleol y tu hwnt i gyfnod dwy flynedd y prosiect, a’r unig ffynhonnell bosibl o gyllid pellach fydd trwy Lywodraeth Cymru’n uniongyrchol.

Felly, disgwylir y bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru am gyllid pellach, ar ôl gwerthuso’r prosiect. Mae CNC yn disgwyl y bydd problemau wrth brynu cyfarpar newydd yn dechrau yn haf 2017, o ganlyniad i ddiffyg cyllid. Byddwn yn cadw llygad ar y mater ac yn gweithredu yn ôl yr angen.

Cefnogi’r Agenda Ymchwil

13

Page 14:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN)

Rydym wedi parhau i gefnogi gwaith yr Uned BRAIN ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n dod â chlinigwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, genetegwyr a gwyddonwyr ynghyd. Ar hyn o bryd, mae’r Uned yn canolbwyntio ar epilepsi, clefyd Parkinson, sglerosis ymledol a chlefyd Huntingdon.

Er enghraifft, rhan o’r gwaith yw datblygu system cronfa ddata ymchwil glinigol er mwyn cofnodi arferion a data clinigol estynedig mewn carfannau o gleifion sydd ag epilepsi, yn y man cyswllt. Bydd hyn yn cynnwys cofnodi data delweddu MR a PET datblygedig ychwanegol, yn enwedig y rheiny sy’n cymryd rhan mewn profion llawdriniaethol. Dyma gamau cyffrous ymlaen ar gyfer datblygiad gwasanaethau epilepsi yng Nghymru, ac rydym yn hynod gyffrous i gael bod yn rhan ohono.

Prif fwriad CNC yw sicrhau bod gan lais y cleifion ran ganolog wrth bennu blaenoriaethau ymchwil a throsi ymchwil yn driniaethau. Am ragor o wybodaeth, defnyddiwch y ddolen hon http://brain.wales/

Ymchwil a chyd-gynhyrchu

Ym mis Ebrill 2016, cynhaliodd CNC gynhadledd genedlaethol o’r enw “O’r labordy i’r ystafell fyw: manteision cyd-gynhyrchu wrth ymchwilio i gyflyrau niwrolegol”. Roedd y gynhadledd yn llwyddiant mawr, ac roedd ganddi raglen addysgiadol iawn.

Roedd gennym restr o siaradwyr nodedig, gan gynnwys;

Yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Yr Athro Monica Busse, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Chris Burton, Prifysgol Bangor

Ysgogodd y gynhadledd ddadleuon pwysig, a chlywsom gan gleifion a phobl a effeithiwyd gan gyflyrau niwrolegol amrywiol, yn ogystal ag unigolion proffesiynol. Roedd modd i ni droi ein sylw at bwysigrwydd cyd-gynhyrchu fel ffordd i alluogi pobl sy’n byw â chyflyrau niwrolegol i lywio blaenoriaethau ymchwil, a throsi eu gwybodaeth i driniaethau a gwasanaethau effeithiol.

Hefyd, rhoddodd y gynhadledd gyfle i gynrychiolwyr lywio’r PREM, sy’n cael eu datblygu gan CNC a GIG Cymru ar y cyd.

Yn yr un modd, galluogodd y ddadl yn y gynhadledd ni i gryfhau ein hymwybyddiaeth o lais y claf ymysg cynrychiolwyr uwch yn y gymuned ymchwil.

14

Page 15:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Llywodraethiant Cyfansoddiad CNC

Fel y nodwyd yn Adroddiad Blynyddol 2015, cyflwynir nifer o newidiadau arfaethedig i’r cyfansoddiad i’w cymeradwyo gan yr aelodau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2016 lle cyflwynir yr adroddiad hwn. Mae Pwyllgor Gweithredol CNC yn gwneud y newidiadau hyn i’r cyfansoddiad er mwyn gwella ein trefniadau llywodraethiant fel eu bod yn ateb y gofyn, yn bresennol ac ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr aelodau’n cymeradwyo’r awgrymiadau yng Nghyfarfod Cyffredinol 2016.

Strwythur Pwyllgor Gweithredol CNC

Eleni, penderfynodd y Pwyllgor Gweithredol agor ei gyfarfodydd i’r holl aelodau, yn ogystal â lleihau nifer y cyfarfodydd o chwe chyfarfod y flwyddyn i bedwar.

Eleni, croesawyd y canlynol i’r Pwyllgor Gweithredol: Carol McCudden – Ataxia UK Michelle Herbert – The Brain Tumour Charity Ahmad Butt – British Polio Dilwyn Jones – Ymddiriedolaeth Adsefydlu wedi Anaf i’r Ymennydd

Yn anffodus, gwelsom rai ymadawiadau hefyd: Michelle Herbert – The Brain Tumour Charity Dafydd Williams – Muscular dystrophy UK

Rydym yn ddiolchgar i holl aelodau’r Pwyllgor Gweithredol am eu hymroddiad a’u gwaith caled dros y flwyddyn.

Cydlynydd CNC

Eleni, gwelsom newid yn rôl y cydlynydd. Gadawodd Megan Evans y CNC, ac rydym yn ddiolchgar am ei holl waith adeiladol, ac yn dymuno’n dda iddi. Rhoddodd Megan gymorth cadarn i’n helpu i gyrraedd ein sefyllfa ni heddiw.

Ym mis Gorffennaf, croesawom Diane Gleeson fel cydlynydd newydd. Daw Diane â chyfoeth o brofiad mewn cydlynu a rheoli prosiectau ac, wrth weithio’n

15

Page 16:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

llawrydd, mae Diane wedi’i lleoli yn y Gymdeithas Strôc yn ogystal. Bydd Diane yn parhau i ddarparu cymorth amhrisiadwy i ni ar gyfer ein blaenraglen.

16

Page 17:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Adroddiad y Trysorydd Cyfrifon CNC rhwng Ionawr 2016 a 31 Rhagfyr 2016         Balansau banc agoriadol         01 Ionawr 2016      Cyfrif BMM £0.25

  Cyfrif cymunedol£30,991.

54

  Cyfanswm£30,991

.79     Incwm ar gyfer y flwyddyn    

  Ffioedd aelodaeth£1,600.0

0

 Iechyd Cyhoeddus (gwaith ar PREM) £394.00

  Cyfanswm£1,994.

00     Gwariant ar gyfer y flwyddyn    

 Ffioedd cydlynydd Megan Evans

£4,025.40

 Ffioedd Cydlynydd Diane Gleeson

£1,044.50

  Gweithdy Lin Whitfield £492.50  Ffôn symudol £93.48  Grwpiau ffocws £170.00  Costau postio £13.20  Arlwyo Llywodraeth Cymru £244.32  Treuliau aelodau £344.85       Gwariant y gynhadledd  

 Cyfieithu llawlyfr y gynhadledd £378.17

17

Page 18:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

 

Llogi ystafell yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd

£2,736.24

  Treuliau’r cynrychiolwyr £297.00  Llawlyfr y gynhadledd £905.00  Recriwtio St David’s £895.55       Cynnal y wefan £55.00  Prifysgol Glyndŵr £288.00

  Cyfanswm£11,983

.21       Balans banc    Cyfrif BMM £0.25

  Cyfrif cymunedol£21,002

.33

18

Page 19:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Aelodau Pwyllgor Gweithredol CNC 2016

Enw Sefydliad SwyddAna Palazon Y Gymdeithas Strôc CadeiryddBarbara Lock Parkinson’s UK Is-gadeiryddAnn Sivapatham Epilepsy Action TrysoryddAhmad Butt British Polio YsgrifennyddCarol McCudden Ataxia UK Aelod (cyfetholedig yn

flaenorol) Dilwyn Jones Adsefydlu wedi Anaf i’r

YmennyddAelod

Dave Maggs Headway AelodDavid Murray The Cure Parkinson's

TrustAelod

Kevin Thomas MDNA AelodLynne Hughes Cymdeithas MS AelodDafydd Williams Muscular Dystrophy UK AelodMichelle Herbert The Brain Tumour

CharityAelod

Cydlynydd CNCDiane Gleeson Cydlynydd CNC [email protected]

19

Page 20:  · Web viewGwelwyd cynnydd yn 2016 o ran effeithiolrwydd y grŵp, yn enwedig o ran ei welededd a’i rôl wrth lywio datblygiadau yng ngwasanaethau ystum a symudedd yng Nghymru

Aelodaeth CNC 2016Enw’r aelod MathAtaxia UK Llawn Brain and Spine Foundation LlawnYmddiriedolaeth Adsefydlu wedi Anaf i’r Ymennydd LlawnBritish Polio LlawnCharcot Marie Tooth UK LlawnCymdeithas Siartredig Ffisiotherapi CyswlltYmddiriedolaeth Anafiadau i’r Ymennydd mewn Plant LlawnColeg y Therapyddion Galwedigaethol CyswlltDifferent Strokes LlawnY Gymdeithas Dystonia LlawnEpilepsy Action Cymru LlawnEpilepsi Cymru LlawnHeadway Cymru LlawnY Gymdeithas Clefyd Huntington LlawnMeningitis Now LlawnMigraine Action LlawnCymdeithas Clefyd Niwronau Motor LlawnCymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru LlawnMuscular Dystrophy Uk LlawnGrŵp Cymorth Myotonic Dystrophy LlawnCanolfan Therapi Niwro LlawnParkinson's UK LlawnCymdeithas Parlys Niwclear Supra sy’n Gwaethygu LlawnShine Cymru LlawnY Gymdeithas Strôc LlawnThe Brain Tumour Charity LlawnThe Cure Parkinson’s Trust LlawnY Gynghrair Niwrolegol LlawnCymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru (WAMES) Llawn

Mae rhagor o wybodaeth am aelodaeth y CNC ar gael gan Gydlynydd CNC ar [email protected]

20