businesswales.gov.wales€¦  · web view · 2016-04-26mae’n dra hysbys bod gan brifysgolion...

23
CRONFA PONTIO GWYDDORAU BYWYD – CAM BRAENARU NODIADAU CYFARWYDDYD I YMGEISWYR Cyfeiriwch at Adran 3 i gael cyngor penodol ar gwblhau’r ffurflen gais. 1. Cyflwyniad 1.1 Y Gronfa Pontio Rhaglen beilot o gymorth dros dair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r Gronfa Pontio, a’i nod yw cyflymu technolegau Gwyddorau Bywyd ar y llwybr at fasnacheiddio. Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae cwmnïau ac arianwyr masnachol yn aml yn gyndyn o fuddsoddi ar gyfnod cynnar yn natblygiad y technolegau hynny. Mae’r diffyg cyllid hwn i gefnogi’r ymchwil drosiadol y mae ei hangen i ddangos potensial masnachol ymchwil academaidd yn aml yn atal manteision economaidd a manteision i gleifion rhag cael eu gwireddu. Nod y Gronfa Pontio yw: hybu economi ac iddi werth ychwanegol uchel cynyddu effaith economaidd prosiectau academaidd i’r eithaf datblygu diwylliant entrepreneuraidd o fewn y byd academaidd rhoi anogaeth i greu busnesau deillio cefnogi trwyddedu technoleg newydd Bydd y nodau hyn yn cael eu cyrraedd trwy gefnogi prosiectau academaidd cryf yr ystyrir bod ganddynt y potensial a’r modd i fasnacheiddio. Mae cam ‘braenaru’ cychwynnol y Gronfa yn agored i’r holl ymchwilwyr gwyddorau bywyd ledled Cymru ac mae’n ceisio adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol yn y Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol llwyddiannus ar gyfer Gwyddorau Bywyd a Pheirianneg. Bydd Cronfa Ddilynol yn cael ei lansio’n fuan a honno’n cynnig hyd at £300,000 y prosiect i nifer fach o brosiectau eithriadol a all ddangos Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 1

Upload: lyduong

Post on 15-Apr-2018

227 views

Category:

Documents


3 download

TRANSCRIPT

Page 1: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

CRONFA PONTIO GWYDDORAU BYWYD – CAM BRAENARUNODIADAU CYFARWYDDYD I YMGEISWYR

Cyfeiriwch at Adran 3 i gael cyngor penodol ar gwblhau’r ffurflen gais.

1. Cyflwyniad

1.1 Y Gronfa Pontio

Rhaglen beilot o gymorth dros dair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r Gronfa Pontio, a’i nod yw cyflymu technolegau Gwyddorau Bywyd ar y llwybr at fasnacheiddio.

Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae cwmnïau ac arianwyr masnachol yn aml yn gyndyn o fuddsoddi ar gyfnod cynnar yn natblygiad y technolegau hynny. Mae’r diffyg cyllid hwn i gefnogi’r ymchwil drosiadol y mae ei hangen i ddangos potensial masnachol ymchwil academaidd yn aml yn atal manteision economaidd a manteision i gleifion rhag cael eu gwireddu.

Nod y Gronfa Pontio yw: hybu economi ac iddi werth ychwanegol uchel cynyddu effaith economaidd prosiectau academaidd i’r eithaf datblygu diwylliant entrepreneuraidd o fewn y byd academaidd rhoi anogaeth i greu busnesau deillio cefnogi trwyddedu technoleg newydd

Bydd y nodau hyn yn cael eu cyrraedd trwy gefnogi prosiectau academaidd cryf yr ystyrir bod ganddynt y potensial a’r modd i fasnacheiddio.

Mae cam ‘braenaru’ cychwynnol y Gronfa yn agored i’r holl ymchwilwyr gwyddorau bywyd ledled Cymru ac mae’n ceisio adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol yn y Rhwydweithiau Ymchwil Cenedlaethol llwyddiannus ar gyfer Gwyddorau Bywyd a Pheirianneg. Bydd Cronfa Ddilynol yn cael ei lansio’n fuan a honno’n cynnig hyd at £300,000 y prosiect i nifer fach o brosiectau eithriadol a all ddangos eu bod eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol ar hyd y llwybr at fasnacheiddio. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan ond yn y cyfamser dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â Rheolwr Prosiectau’r Gronfa Pontio, Dr Corinne Nguyen ar 07584 995669 neu drwy flwch negeseuon e-bost y Gronfa Pontio: [email protected]

1.2 Rheoli Disgwyliadau – Cwmpas y Gronfa hon

Cam Braenaru

Nod y Cam Braenaru yw cefnogi camau cychwynnol y broses fasnacheiddio i gadarnhau potensial technegol a masnachol technoleg arwahanol. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt eisoes ddata rhagarweiniol ac y byddai cyllid yn rhoi hwb sylweddol i botensial masnachol ymchwil ragorol sy’n deillio o brifysgolion yng Nghymru.

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 1

Page 2: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

Mae’r alwad dreigl hon yn agored i’r holl ymchwilwyr Gwyddorau Bywyd yng Nghymru cyn belled â bod y prosiect yn uniongyrchol berthnasol i’r sector Gwyddorau Bywyd.

Mae’r gronfa’n cefnogi dim ond costau a ysgwyddwyd yn uniongyrchol hyd at £75,000 yn ôl cyfradd o hyd at 100% o gyfanswm costau prosiectau.

Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan y Bwrdd Cynghori Gwyddonol sy’n cynnwys arbenigwyr o’r diwydiant Gwyddorau Bywyd.

Dim ond ceisiadau sy’n gallu dangos yn eglur eu bod yn gwbl gyson â’r sector Gwyddorau Bywyd, sy’n un o sectorau blaenoriaethol Llywodraeth Cymru, fydd yn cael eu hystyried.

Yn gysylltiedig â’r bwled uchod, dim ond ceisiadau sy’n dangos cyfle masnachol eglur fydd yn cael eu hystyried.

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y bydd yr holl geisiadau’n cael eu harfarnu’n llawn ar sail rhinweddau technegol a photensial masnachol gan Fwrdd Cynghori Gwyddonol. Bydd yr holl brosiectau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:

o Cydweddiad Strategol, o Cyfle Masnachol, o Gwerth am Arian, o Hyfywedd y Prosiecto Ansawdd cyffredinol y cais.

1.3 Cyllid a Hyd y Prosiect

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun a bydd dyraniadau cyllid yn ddibynnol ar y gwerth am arian a gynigir a’r arian sydd ar gael. Mae’n rhaid i’r holl brosiectau ddod i ben a chyllid eu hawlio erbyn 31 Mawrth 2018. 1.4 Cymhwystra

Mae’n rhaid i bob cais gael ei lofnodi gan Swyddog Trosglwyddo Technoleg (neu swyddog cyfatebol) o’r Sefydliad cyn ei gyflwyno. Mae’n rhaid i Arweinydd y Prosiect fod y prif gyswllt a hefyd bod â chyfrifoldeb am yr holl waith yn y dyfodol i fonitro ac adrodd ar effeithiau’r prosiect.

Ni fydd ceisiadau anghymwys neu anghyflawn yn mynd ymlaen i’r broses asesu a phenderfynu. Er mwyn bod yn gymwys i gael eu hystyried mae’n rhaid i’r holl geisiadau:

Fod yn Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru. Mae’n rhaid i Arweinydd y Prosiect ysgwyddo’r cyfrifoldeb cyffredinol am adrodd ariannol / adrodd ar allbynnau a materion cyfreithiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mynd i’r afael â meysydd sydd o bwysigrwydd strategol sylweddol i’r Sector Gwyddorau Bywyd.

Mynd ar drywydd nodau rhaglen y Gronfa Pontio fel a nodir yn 1.1. Dangos effaith economaidd hirdymor bosibl i Gymru. Dangos pam fod angen cyllid er mwyn i’r prosiect lwyddo.

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 2

Page 3: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

1.5 Gweithgareddau a Chostau Cymwys

Mae’n rhaid i’r holl weithgareddau: fod yn gyfan gwbl at ddiben y prosiect, cael eu gweithredu am y gost leiaf posibl i gyflawni’r canlyniadau a fwriedir, peidio â dyblygu na disodli pecynnau cymorth presennol.

Bydd y Gronfa’n derbyn cynigion sydd â photensial masnachol mewn unrhyw faes o fewn y sector Gwyddorau Bywyd gan gynnwys y canlynol (ond nid y canlynol yn unig):

Darganfod a Datblygu Cyffuriau Dyfeisiau Meddygol Diagnosteg Prognosteg Brechlynnau

Ni fydd y Gronfa’n cefnogi ymchwil sylfaenol a bydd angen i brosiectau ddangos eu bod yn seiliedig ar ymchwil flaenorol ragorol.

Costau Cymwys

Ni fydd y Gronfa Pontio ond yn cefnogi costau prosiect a ysgwyddwyd gan y SAU sy’n gymwys ac y gellir eu priodoli’n uniongyrchol. Bydd yr holl gostau anghymwys yn cael eu didynnu o’r cyllid y gofynnwyd amdano cyn cyflwyno’r cais i’r Bwrdd Cynghori Gwyddonol. Ni all unrhyw bartneriaid diwydiannol sy’n rhan o’r prosiect gael eu hariannu gan y Gronfa Pontio.

Mae holl brosiectau’r Gronfa Pontio yn gweithredu ar sail ‘dim cymorth’ ar y ddealltwriaeth bod y cyllid a ddarperir yn gyllid ar gyfer y costau a ysgwyddir gan y Sefydliad(au) academaidd heb i unrhyw gymorth anuniongyrchol drosglwyddo i unrhyw bartner(iaid) diwydiannol.

Mae’n rhaid i’r holl brosiectau gael eu cwblhau a chyllid eu hawlio erbyn 31 Mawrth 2018.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau penodol o gostau cymwys, ond nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr o gwbl. Os ydych yn ansicr a yw cost yn gymwys, cysylltwch â Rheolwr Prosiectau’r Gronfa Pontio:

Costau staff a gyflogir ar brosiect Teithio a chynhaliaeth sy’n hanfodol ar gyfer gweithrediad y prosiect Defnyddiau traul Costau TGCh lle ceir tystiolaeth ddigonol bod hyn yn hanfodol i gyflawni’r prosiect yn

llwyddiannus a lle nad oes unrhyw offer TGCh ar gael yn rhywle arall Is-gontractio arbenigol* TAW anadenilladwy Profion in vivo cychwynnol Tocsicoleg neu ffarmacocineteg ragarweiniol Enghreifftio Eiddo Deallusol presennol Ymchwil fanwl i’r farchnad Datblygu prototeipiau Cydariannu â phartïon eraill Datblygu modelau ffi-am-wasanaeth*Is-gontractio arbenigol – Mewn rhai achosion gall fod yn angenrheidiol rhoi peth neu’r cyfan o’r gwaith prosiect masnachol arbenigol ar gontract allanol. Disgwylir y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i is-gontractio gweithgareddau i sefydliadau yng Nghymru. Disgwylir bod yr is-gontractwr wedi dangos rhagoriaeth yn eu maes.

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 3

Page 4: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

Mae costau refeniw anghymwys yn cynnwys: Costau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau masnachol / adwerthu Costau a hawliwyd yn barod mewn prosiectau eraill Costau staff nad ydynt yn gysylltiedig â gweithrediad y prosiect TAW adenilladwy Yswiriant Atgyweirio a chynnal a chadw offer Costau “colli cyfle” tybiannol Mae costau hapddigwyddiadau / cynnal a chadw yn anghymwys . Ymchwil ‘heb orwelion’ Dilysu targedau Gwaith ymchwil a datblygu contract ar ran trydydd partïon

1.6 Cyfrinachedd

Er y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gaiff ei dynodi gennych chi’n wybodaeth gyfrinachol ac a ddatgelir fel rhan o Gais, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o gyfyngiadau a osodir gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y “Ddeddf”) ar allu Llywodraeth Cymru i gydymffurfio â’r disgwyliadau o ran cyfrinachedd. Ni all Llywodraeth Cymru ond gwarchod cyfrinachedd eich gwybodaeth yn unol â’i rhwymedigaethau o dan y Ddeddf.

Mae’n bwysig felly bod pob cais i’r Gronfa Pontio sy’n cynnwys gwybodaeth tra chyfrinachol yn cael ei labelu i ddynodi ei fod yn gyfrinachol.

1.7 Cymorth Gwladwriaethol

Caiff y Gronfa Pontio ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar sail ‘dim cymorth’ yn unol â Fframwaith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Cymorth Gwladwriaethol ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. Nid yw cyllid cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau addysgu, ymchwil a lledaenu canlyniadau craidd sefydliadau ymchwil, gan gynnwys darparu seilwaith ar gyfer gweithgareddau craidd, yn cael ei ystyried yn Gymorth Gwladwriaethol fel rheol. Mae hyn hefyd yn gymwys lle mae sefydliadau’n darparu gwasanaethau economaidd megis ymchwil ac ymgynghoriaeth fasnachol, cyn belled â bod y gwasanaethau economaidd: yn angenrheidiol ar gyfer prif weithgareddau aneconomaidd neu fod cyswllt cynhenid rhyngddynt a phrif weithgareddau aneconomaidd; yn defnyddio’r un mewnbynnau (deunydd, offer, llafur a chyfalaf sefydlog) ac nad ydynt yn fwy nag 20% o’r capasiti blynyddol.

Nid yw cyllid cyhoeddus ar gyfer gweithgarwch trwyddedu a chreu cwmnïau deillio (tan yr adeg y cânt eu deillio) gan brifysgolion/sefydliadau ymchwil dielw eraill yn cael ei ystyried yn Gymorth Gwladwriaethol lle mae’r gweithgareddau hyn yn fewnol a bod incwm a gaiff ei greu’n cael ei ail-fuddsoddi yng ngweithgareddau cyhoeddus craidd y sefydliadau.

Lle mae Prifysgol/sefydliad ymchwil dielw i bob pwrpas yn cydweithio mewn prosiectau ymchwil busnes, ni fydd hyn yn gyfystyr â Chymorth Gwladwriaethol ar yr amod bod partneriaid busnes yn talu cyfraddau’r farchnad i’r sefydliad am ei gyfran o waith neu ganlyniadau’r prosiect, neu fod y sefydliad yn cael perchnogaeth barhaus ar y canlyniadau a grëwyd gan ei gyfran o’r gwaith. Mae angen tystiolaeth o bodloni'r amodau hyn. Lle nad yw’r amodau hyn yn cael eu bodloni, bydd cyfraniad y sefydliad i’r prosiect yn gyfystyr â Chymorth Gwladwriaethol. Cysylltwch â’r Gronfa Pontio i gael rhagor o fanylion.

I gael rhagor o wybodaeth gweler Fframwaith y Comisiwn ar gyfer Cymorth Gwladwriaethol ar gyfer Ymchwil a Datblygu ac Arloesi: http://ec.europa.eu/competition/state_aid/modernisation/rdi_framework_en.pdf

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 4

Page 5: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

2. Proses Arfarnu

Er mwyn i geisiadau fod â’r siawns orau posibl o symud ymlaen i’r camau arfarnu technegol ac ariannol, mae’n hanfodol mai dim ond ceisiadau sydd wedi’u datblygu’n dda sy’n cael eu cyflwyno i gael eu hystyried.

Mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr drafod a chwblhau eu cais ar y cyd â’u Swyddfa Trosglwyddo Technoleg (neu swyddfa gyfatebol). Cynghorir yn gryf eu bod yn ymgynghori â Rheolwr Prosiectau’r Gronfa Pontio cyn cyflwyno’r cais.

2.1 Sut y Bydd Eich Cais yn Cael Ei Ystyried

Mae’r broses arfarnu wedi cael ei dylunio fel ag i sicrhau cysondeb o ran dull a dim ond y ceisiadau hynny sy’n cyrraedd safon dderbyniol yn seiliedig ar y meini prawf isod fydd yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Cynghori Gwyddonol i gael eu hystyried.

Byddwn yn rhannu’r holl wybodaeth sydd yn y cais â Rheolwr Prosiect y Gronfa Pontio yng Nghanolfan Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig er mwyn eu helpu i gynnal y prosesau arfarnu ac ymgeisio.

Yn ogystal, bydd yr holl wybodaeth yn y cais yn cael ei rhannu gydag aelodau’r Bwrdd Cynghori Gwyddonol, a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, iddynt gael gwerthuso ceisiadau a gwneud argymhellion cyllido i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir fel rhan o’r cais ei defnyddio i gadw mewn cysylltiad â chi wrth i’r cais gael ei brosesu ac ar ôl ei gymeradwyo, os bydd yn llwyddiannus. Yr unig bobl y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â nhw fydd Rheolwr Prosiect y Gronfa Pontio, y Bwrdd Cynghori Gwyddonol a chyrff cyhoeddi a marchnata sydd o dan gontract gyda Lywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Gronfa Pontio. Caiff eich data eu prosesu a’u diogelu yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Ni fydd prosiectau sy’n anghymwys yn symud ymhellach na’r asesiad o gymhwystra a chamau gwirio cychwynnol a byddant yn cael eu dychwelyd at yr ymgeiswyr ar y cyfle cynharaf posibl. Bydd pob cais cymwys yn cael ei asesu a’i osod mewn trefn restrol gan Fwrdd Cynghori Gwyddonol. Hefyd, bydd perfformiad pob prosiect ym mhob Sefydliad yn cael ei ystyried yn ystod y cam arfarnu.

Gan mai galwad dreigl yw hon, unwaith y mae cais wedi cael ei gyflwyno bydd yn cael ei asesu fel y cafodd ei gyflwyno. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr gael eu gwahodd i roi cyflwyniad i’r Bwrdd Cynghori Gwyddonol er mwyn darparu mwy o wybodaeth am y prosiect fel rhan o’r broses asesu.

Bydd y penderfyniad terfynol o ran pa brosiectau yr argymhellir rhoi cymorth iddynt yn cael ei wneud gan y Bwrdd Cynghori Gwyddonol lle bydd yr holl geisiadau cymwys sy’n cyrraedd safon dderbyniol yn cael eu hystyried ar y cyd ag adroddiadau asesu gan arbenigwyr priodol fel y bo’n ofynnol.

Bydd y broses ganlynol yn cael ei chymhwyso i bob cais:

1. Dylid e-bostio’r cais electronig wedi’i gwblhau’n llawn yn fformat Word ynghyd â llofnodion electronig i: [email protected]

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 5

Page 6: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

2. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal camau asesu cymhwystra, diwydrwydd dyladwy a

gwirio. Nid yw cydymffurfio â’r holl amodau cymhwystra’n gwarantu y bydd cyllid yn cael ei roi.

3. Bydd ceisiadau cymwys a chyflawn yn cael eu rhannu â Rheolwr Prosiect y Gronfa Pontio a’u harfarnu wedyn gan y Bwrdd Cynghori Gwyddonol gan roi ystyriaeth ddyladwy i Gydweddiad Strategol, Cyfle Masnachol, Gwerth am Arian, Hyfywedd y Prosiect ac ansawdd cyffredinol y prosiect.

4. Yn dilyn yr arfarniad hwn, bydd adroddiad arfarnu gan gynnwys argymhelliad ariannu yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru. Gall y Bwrdd Cynghori Gwyddonol argymell cynnig amrywiaeth o gymorth, o gymorth llawn i ddim cymorth, yn ôl disgresiwn aelodau’r Bwrdd.

5. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhelliad y Bwrdd Cynghori Gwyddonol. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu trwy’r e-bost ynghylch canlyniad eu cais gan Lywodraeth Cymru.

6. Bydd y ffurflen gais yn dod yn gynllun ar gyfer y prosiect ac yn cael ei defnyddio fel y ddogfen y mae’r Cytundeb Ariannu rhwng Gweinidogion Cymru a’r ymgeisydd yn seiliedig arni. Ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei ddarparu nes bod y cytundeb ariannu wedi cael ei dderbyn a’i ddychwelyd at Lywodraeth Cymru.

7. Mae’n un o amodau’r cymorth bod yn rhaid i’r holl brosiectau gael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2018.

8. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y prosiect yn mynd trwy weithdrefnau adolygu ffurfiol ar adegau sy’n gweithredu fel cerrig milltir/pwyntiau amseru, a fydd yn cael eu nodi a’u cytuno ar adeg cymeradwyo. Bydd Rheolwr Prosiectau’r Gronfa Pontio yn ystyried cynnydd y prosiect hyd yma mewn perthynas â phethau megis cyflawni’r gweithgaredd arfaethedig, lefelau cyflawniad, newidiadau hysbys mewn technoleg a/neu yn y farchnad, newidiadau i dîm y prosiect, ac unrhyw ffactorau eraill a all effeithio ar fwriadau neu ddiben gwreiddiol y prosiect.

2.2 Meini Prawf Asesu

Bydd yr holl geisiadau cymwys yn cael eu hasesu yn ôl eu rhinweddau yn unol â’r meini prawf asesu a nodir isod:

Cyflawni StrategolMae’n rhaid i’r holl brosiectau fod yn unol â nod Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector Gwyddorau Bywyd, sy’n un o’i sectorau blaenoriaethol, sef tyfu’r sector yng Nghymru ac mae’n rhaid iddynt hefyd gyflawni amcanion cyffredinol rhaglen y Gronfa Pontio.

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu o ran pa mor dda y bydd y cais yn cyflawni deilliannau yn y meysydd strategol canlynol:

a) Cefnogi prosiectau academaidd cryf yr ystyrir bod ganddynt y potensial a’r modd i fasnacheiddio.

b) Creu arbenigedd a swyddi â sgiliau uchel a ffocws masnachol yn y byd academaidd.c) Datblygu a chefnogi diwylliant entrepreneuraidd yn y byd academaidd yng Nghymru.d) Cefnogi prosiectau sydd â’r potensial i greu cwmnïau deillio newydd yn y sector Gwyddorau

Bywyd.

Effaith Economaidd

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 6

Page 7: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

Dim ond ceisiadau sy’n dangos budd economaidd arfaethedig i Gymru, trwy ddefnyddio gwybodaeth neu dechnoleg newydd i greu cyfleoedd busnes fydd yn cael eu hystyried. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu o ran pa mor dda y rhoddwyd sylw i’r pwyntiau canlynol:

Yr angen masnachol am y prosiect arfaethedig. Mae’r cais yn dangos nad yw cynhyrchion, technolegau neu wasanaethau tebyg ar gael

yn rhwydd yn y farchnad Nid yw’r prosiect yn dyblygu nac yn debygol o ddyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei

wneud mewn sefydliadau ymchwil eraill. Potensial masnachol tebygol canlyniadau arfaethedig y prosiect. Y cyfraniad i’r economi a/neu ddatblygiad y sector Gwyddorau Bywyd yn y dyfodol trwy

wybodaeth neu dechnoleg newydd a fydd yn deillio o’r prosiect.

AddasrwyddBydd angen i geisiadau ddangos bod y prosiect a gynigir yn cyrraedd nodau ac yn cyflawni amcanion y Rhaglen gan gynnwys:

Pa mor dda y bydd y prosiect yn cyflawni yn erbyn y cyfle masnachol. Pa un a yw’r Ymchwil a Datblygu’n archwiliol, yn flaengar, ac yn arloesol gan

gynrychioli her dechnegol/academaidd arwyddocaol. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau sydd â’r potensial i gynnig datblygiad technolegol neu fasnachol allweddol sydd o bwys mawr.

Yr angen am y cynnyrch neu’r gwasanaeth masnachol sy’n cael ei ddatblygu. Ni ddylai’r prosiect fod yn dyblygu nac yn debygol o ddyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud.

HyfyweddBydd angen i’r holl geisiadau ddangos pa un a oes gan y prosiect y cymorth a’r adnoddau angenrheidiol i gynnal y prosiect. Mae angen i geisiadau nodi:

Addasrwydd yr arbenigedd academaidd arbenigol unigryw i gyflawni’r prosiect o safbwynt technegol/academaidd h.y. profiad a chymwysterau’r aelodau o dîm y prosiect a’u hanes o lwyddiant.

Addasrwydd unrhyw bartneriaid cydweithredol. Pa un a oes gan y prosiect gymorth mewnol ac allanol priodol i gyflawni’r prosiect yn

llwyddiannus a manteisio ar y canlyniadau. Mae’r modd y dyrennir adnoddau’n briodol. Pa mor dda y bydd y prosiect yn cael ei reoli. Y strwythur a systemau sefydliadol cyffredinol i gyflawni’r prosiect penodol. Mae hyn yn

cynnwys trefniadau llywodraethu, trefniadau rheoli prosiect, systemau ariannol a threfniadau ar gyfer manteisio yn y dyfodol.

CyflawnadwyeddBydd angen i’r cais ddisgrifio’n eglur sut y bydd tîm y prosiect a chynllun y prosiect yn cyflawni’r manteision a’r canlyniadau arfaethedig a nodir.

Pa mor realistig yw cynllun y prosiect o ran cyflawni’r manteision a’r canlyniadau a ddatganwyd – pecynnau gwaith, cerrig milltir a meini prawf priodol i bennu’r dull gweithredu yn ystod pob cam o’r prosiect.

Mae’r risgiau critigol wedi cael eu hadnabod, eu dilysu ac mae cynlluniau priodol wedi cael eu rhoi ar waith i’w lliniaru neu eu rheoli.

Ansawdd y cynllun prosiect o fewn y cais – a yw’n eglur, a yw’n briodol i gyflawni’r allbwn a’r deilliannau?

Gwerth am ArianBydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i geisiadau sy’n dangos bod graddfa’r prosiect yn realistig er mwyn cyflawni’r manteision a ddisgrifir o fewn y cais ac sy’n dangos tystiolaeth y gellir cyflawni

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 7

Page 8: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

hyn am y gost isaf. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu o ran pa mor dda yr ymdriniwyd â’r pwyntiau canlynol:

Pa mor realistig yw cwmpas/graddfa’r prosiect i gyflawni’r manteision arfaethedig. Pa un a yw’r gyllideb yn rhesymol, yn realistig ac yn un y gellir ei chyfiawnhau – tystiolaeth

sy’n helpu i ddangos bod yr ymgeisydd yn gofyn am y lefel isaf o gyllid i gyrraedd y nodau. Pa un a yw’r holl weithgareddau arfaethedig yn angenrheidiol neu’n ychwanegu gwerth at y

deilliant. Pa un a yw’r canlyniadau a’r deilliannau tebygol yn cyfiawnhau’r gost. Pa un a allai/a ddylai’r prosiect gael ei ariannu o ffynonellau eraill.

2.3 Deilliannau, Cerrig milltir a allbynnau’r Prosiect

Fel rhan o’r broses asesu ac o gyflawni’r prosiect, bydd disgwyl i ymgeiswyr gyrraedd y cerrig milltir a nodir yn eu ceisiadau. Os bydd eu cais yn llwyddiannus, bydd angen i ymgeiswyr gytuno ar allbynnau prosiect gyda'r tîm y Gronfa Pontio. Bydd angen i allbynnau ddangos bod ymgeiswyr yn gwneud cynnydd tuag at fasnacheiddio eu technoleg, er enghraifft yn eu paratoi ar gyfer geisio cyllid masnacheiddio pellach, neu drwy drwyddedu, neu drwy greu cwmni deillio.

Yn ogystal â’r cerrig milltir a allbynnau, bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ystyried manteision a/neu effeithiau masnachol posibl y prosiect yn y tymor hwy. Bydd disgwyl i ymgeiswyr i dynnu sylw at y gwerth ychwanegol y bydd y Gronfa Pontio yn dod at ddatblygiad masnachol eu technoleg.

2.5 Rhagor o Wybodaeth

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am gwblhau ffurflenni, y weithdrefn ymgeisio neu’r penderfyniad ariannu yna cysylltwch â Rheolwr Prosiect y Gronfa Pontio, Dr Corinne Nguyen ar 07584 995669 neu drwy flwch negeseuon e-bost y Gronfa Pontio: [email protected]

2.6 Astudiaethau Gwerthuso a Chyhoeddusrwydd

Bydd gwaith monitro, gwaith archwilio, astudiaethau achos ac astudiaethau gwerthuso’n cael eu cwblhau mewn perthynas â phob prosiect yn y dyfodol a bydd yn un o amodau’r cyllid bod yr holl ymgeiswyr a phartneriaid yn cydymffurfio.

Bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael adolygiadau gweithredol parhaus ac adolygiadau chwarterol gan y Gronfa Pontio. Disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru a / neu ei chynrychiolwyr yn cynnal adolygiadau rheolaidd o gynnydd prosiectau ac yn mynychu cyfarfodydd rheoli prosiect a grwpiau llywio fel y bo’n briodol. Bydd hyn yn un o amodau’r cyllid.

Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyfranogi mewn unrhyw ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd yn y dyfodol hefyd.

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 8

Page 9: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

3. Canllawiau ar gyfer Cwblhau’r Ffurflen Gais

Rhowch atebion cryno a phenodol i’r cwestiynau, gan grynhoi unrhyw wybodaeth gefndir, gan gynnwys cyfeiriadau neu ddiagramau perthnasol, y gellir eu cynnwys mewn atodiad wrth y cais.

Ni fydd ffurflenni cais anghyflawn neu ffurflenni heb ddigon o fanylion yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid. Ni allwn warantu y cewch eich cyllido hyd yn oed os ydych wedi bodloni’r holl feini prawf. Caiff y cyllid ei ddyfarnu ar ôl asesiad llwyddiannus o’r ceisiadau yn unol â’r meini prawf a nodir yn Adran 2.2.

Bydd y cais yn cael ei gyflwyno ar gyfer asesiad o ddiwydrwydd dyladwy technegol, lle y bo’n berthnasol, i ddarparu asesiad annibynnol o’r ymchwil arfaethedig. Os ystyrir bod mwy o fanylder technegol yn angenrheidiol dylai ymgeiswyr gynnwys atodiad technegol at ddibenion diwydrwydd dyladwy.

Cwblhau’r Ffurflen Gais

Ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn hwyr neu sy’n mynd y tu hwnt i nifer y geiriau a nodir yn symud ymlaen.

ADRAN A – PROSIECTRhif Cyfeirnod y ProsiectDefnydd mewnol yn unigTeitl y Prosiect(Uchafswm o 20 gair, anghyfrinachol)

Rhowch deitl anghyfrinachol ar gyfer y prosiect y gellir trefnu ei fod ar gael yn gyhoeddus.

Enw’r Sefydliad Rhowch enw’r SAU arweiniol.Enw’r Swyddog Trosglwyddo Technoleg Cyfrifol

Mae disgwyl i Swyddfa Trosglwyddo Technoleg y Sefydliad (neu swyddfa gyfatebol yn y Sefydliad) gefnogi pob cais a darparu mewnbwn sylweddol, yn enwedig gydag Eiddo Deallusol, asesu’r farchnad a’r strategaeth fasnacheiddio. Rhowch enw unigolyn penodol o fewn y Swyddfa Trosglwyddo Technoleg a fydd yn gyfrifol am y prosiect.

Cyfanswm y Cyllid y Gofynnir Amdano £Cyfanswm Costau’r Prosiect(costau uniongyrchol yn unig)

£

Hyd y Prosiect a Ragwelir(mewn misoedd)Dyddiad Dechrau a Ragwelir Mae’n rhaid i’r holl brosiectau llwyddiannus

gael eu cwblhau’n llawn erbyn 31 Mawrth 2018. Nodwch ddyddiad dechrau realistig sy’n ystyried yr amser sy’n ofynnol i benodi staff allweddol neu sicrhau adnoddau priodol. Mae’n ofynnol i’r Gronfa neilltuo’r arian mewn graddfa amser cymharol fyr a bydd angen i unrhyw newidiadau i’r dyddiad dechrau neu hyd y prosiect gael eu cytuno gan Reolwr Prosiectau’r Gronfa.

A yw’r prosiect wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn flaenorol?

Rhowch fanylion unrhyw gyllid a gafwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn.

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 9

Page 10: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

Enw Arweinydd y ProsiectSwyddAdranCyfeiriadCyfeiriad E-bostRhif FfônLlofnodDyddiad

Partner Anacademaidd(Dewisol)

Rhestrwch yr holl gydweithwyr academaidd o'r tu allan i'ch sefydliad addysg uwch. Nodwch eu SAU

Cyfraniad Ariannol y Partner Academaidd (neu cyllid y gofynnwyd amdano (Dewisol)

Nodwch os bydd cyfraniad y partner academaidd yn cael ei ariannu ar wahân; os caiff ei wneud "mewn nwyddau"; neu os bydd cyllid yn cael ei gofynnir amdano o dan y cais hwn.

Partner anacademaidd (Dewisol)

Gall hwn fod yn bartner diwydiannol, GIG, elusen, neu unrhyw fath arall o partner anacademaidd.

Cyfraniad Ariannol y Partner Anacademaidd (Dewisol)

Os yw hyn yn gyfraniad mewn nwyddau, ysgrifennwch "Mewn nwyddau" a nodwch y gwerth amcangyfrifedig. Dylech roi mwy o wybodaeth yn Adrannau H ac L.

ADRAN B – CRYNODEB O’R PROSIECTCrynodeb Gweithredol (anghyfrinachol – uchafswm o 300 o eiriau)Disgrifiwch eich prosiect prawf o gysyniad arfaethedig a sut y mae’n cyd-fynd â chylch gorchwyl y Gronfa Pontio Gwyddorau Bywyd.(Uchafswm o 300 o eiriau).Rhowch grynodeb anghyfrinachol o’r prosiect sy’n egluro sut y mae’r cais yn cyd-fynd â nodau’r Gronfa Pontio Gwyddorau Bywyd. Disgrifiwch eich prosiect prawf o gysyniad arfaethedig a sut y mae’n cyd-fynd â chylch gorchwyl y Gronfa Pontio Gwyddorau Bywyd.

ADRAN C – CEFNDIR (CYFRINACHOL)Rhowch drosolwg o’r ymchwil a arweiniodd at ddatblygu’r dechnoleg hon ac enw unrhyw gyrff cyllido a gefnogodd ei datblygiad cychwynnol. Sylwer mai er mwyn cynnig cyd-destun y mae hyn. Ni fydd y Gronfa Pontio yn ail-adolygu’r ymchwil; ei ffocws yw asesu potensial masnachol y dechnoleg.(Uchafswm o 400 o eiriau).Nod y Gronfa yw rhoi cymorth i fasnacheiddio ymchwil sy’n deillio o brifysgolion yng Nghymru. Rhowch grynodeb byr o’r ymchwil a gyflawnwyd hyd yma ochr yn ochr ag enwau unrhyw gyrff cyllido a gefnogodd ei datblygiad cychwynnol. Mae’r adran hon o’r ffurflen wedi’i bwriadu i gynnig cyd-destun ac nid ail-adolygiad o’r ymchwil. Ei diben yw ei gwneud yn bosibl ystyried a fydd astudiaethau a gyflawnir â chymorth y Gronfa Pontio yn gwella’r rhagolygon ar gyfer masnacheiddio llwyddiannus.

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 10

Page 11: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

ADRAN D – CYFLE/ANGEN (CYFRINACHOL)Pa gyfle/angen y mae’r dechnoleg yn ymateb iddo?Beth yw maint amcangyfrifiedig y cyfle masnachol? Beth yw manteision y dechnoleg hon o’i chymharu â'r dewisiadau eraill sydd ar gael ar hyn o bryd? Beth fyddai’r cynnyrch? Beth ydych chi’n ei wybod am y farchnad sydd ar gael?Os yn briodol, rhowch fanylion cwmnïau neu sefydliadau a allai fod â diddordeb mewn cydweithio i ddatblygu’r dechnoleg ymhellach.(Uchafswm o 800 o eiriau)Pa gyfle/angen y mae’r dechnoleg yn ymateb iddo?

Nod y Gronfa yw cefnogi prosiectau sydd â photensial masnachol. Rhowch fanylion yr angen/y cyfle y mae’r dechnoleg yn ymateb iddo.

Beth yw maint amcangyfrifiedig y cyfle masnachol? Beth yw manteision y dechnoleg hon o’i chymharu â'r dewisiadau eraill sydd ar gael ar hyn o bryd? Beth fyddai’r cynnyrch? Beth ydych chi’n ei wybod am y farchnad sydd ar gael?

Rhowch amcangyfrif o faint y farchnad bosibl, gan gynnwys unrhyw wybodaeth sydd gennych am y farchnad sydd ar gael i’ch cynnyrch arfaethedig. Disgrifiwch eich cynnig arfaethedig a’i fanteision o’i gymharu â datrysiadau gan gystadleuwyr, er enghraifft beth fyddai’r cynnyrch a’i bwyntiau gwerthu unigryw. Dylech gynnwys gwybodaeth am gynhyrchion gan gystadleuwyr yr ydych yn ymwybodol ohonynt.Mae’r Gronfa’n cydnabod nad yw’r wybodaeth hon ar gael yn rhwydd o bosibl, yn enwedig ar gyfer technolegau sy’n creu newid llwyr, ond mae’n disgwyl i ymgeiswyr fod wedi rhoi ystyriaeth ddwys i’r modd y bydd y dechnoleg yn cael ei defnyddio, dewisiadau eraill a chynnyrch gan gystadleuwyr sy’n bodoli, llwybrau i’r farchnad a bras amcan o’r cyfle masnachol. Gall ymgeiswyr ofyn am ymchwil ychwanegol i’r farchnad fel rhan o’r prosiect os yw’n briodol.Bydd angen ichi ddangos angen gwirioneddol am ddadansoddiad pellach o’r farchnad ar y cam hwn, nodi’r cwestiynau allweddol y mae angen eu hateb a sut y bydd yr wybodaeth ychwanegol hon yn gwneud gwahaniaeth i ddatblygiad masnachol eich technoleg.

Os yn briodol, rhowch fanylion cwmnïau neu sefydliadau a allai fod â diddordeb mewn cydweithio i ddatblygu’r dechnoleg ymhellach.

Rhowch fanylion os yw’r cwestiwn hwn yn berthnasol i’ch prosiect.

ADRAN E – CYNLLUN DATBLYGU TECHNEGOLRhowch drosolwg o’r gwaith sy’n ofynnol i ddatblygu’r dechnoleg i gam lle gellir dangos ei photensial masnachol. Dylai’r cynllun datblygu technegol fod yn seiliedig ar ddiwallu anghenion masnacheiddio.Nodwch o leiaf ddwy garreg filltir dechnegol y gellir eu defnyddio i asesu cynnydd y prosiectDarparwch siart Gantt i ddangos cynllun y prosiect.(Uchafswm o 600 o eiriau.)

Rhowch drosolwg o’r gwaith sy’n ofynnol i ddatblygu’r dechnoleg i gam lle gellir dangos ei photensial masnachol. Dylai’r cynllun datblygu technegol fod yn seiliedig ar ddiwallu anghenion masnacheiddio. Sylwer na fydd y Gronfa Pontio yn cefnogi ymchwil sylfaenol.Bydd y Gronfa Pontio yn cefnogi gwaith technegol sy’n ofynnol i ddatblygu technoleg i gam lle gellir dangos ei photensial masnachol neu ei photensial cymdeithasol. Ni fydd y Gronfa’n cefnogi ymchwil sylfaenol. Rhowch drosolwg o’ch gwaith arfaethedig i ddatblygu’r dechnoleg a sut y mae’n cysylltu â’ch strategaeth fasnachol. Amlygwch unrhyw heriau technegol a sut yr ydych yn bwriadu eu goresgyn.

Nodwch o leiaf ddwy garreg filltir dechnegol y gellir eu defnyddio i asesu cynnydd y prosiect

Nodwch o leiaf ddwy garreg filltir dechnegol a fydd yn gyraeddadwy yn ystod cyfnod y prosiect ac sy’n cefnogi datblygiad masnachol eich technoleg. Dylech gynnwys meini prawf llwyddiant y gellir eu defnyddio i ganfod a yw’r cerrig milltir wedi cael eu cyrraedd.

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 11

Page 12: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

Darparwch siart Gantt i ddangos cynllun y prosiectDarparwch siart Gantt i ddarlunio eich prosiect ar y cyfan, gan gynnwys yr holl weithgareddau masnachol sy’n berthnasol i’ch cynnig.

ADRAN F – EIDDO DEALLUSOL (CYFRINACHOL)A yw’r dechnoleg wedi’i diogelu gan hawliau eiddo deallusol ffurfiol ar hyn o bryd?A oes unrhyw 3ydd partïon â hawliau i’r eiddo deallusol?Beth yw’r cyfle i ddatblygu eiddo deallusol yn y dyfodol? A oes “rhyddid i weithredu”, ynteu a oes unrhyw batentau neu gyfyngiadau eraill hysbys a fyddai’n effeithio ar ddatblygiad y prosiect? Sut fyddech chi’n mynd i’r afael â materion o’r fath?(Uchafswm o 400 o eiriau.)A yw’r dechnoleg wedi’i diogelu gan hawliau eiddo deallusol ffurfiol ar hyn o bryd?

Rhowch fanylion unrhyw geisiadau am batentau neu hawliau eiddo deallusol eraill sy’n diogelu’r dechnoleg.

A oes unrhyw 3ydd partïon â hawliau i’r eiddo deallusol?Oes/Nac oes. Os oes, rhowch fwy o fanylion os gwelwch yn dda. Mae hyn yn cynnwys Hawliau Eiddo Deallusol cefndirol ac unrhyw hawliau cytunedig i’r dechnoleg a fydd yn cael ei datblygu.Nid yw’r Gronfa’n mynnu unrhyw hawliau dros yr hawliau eiddo deallusol sy’n deillio o brosiectau a ariennir gan y Gronfa Pontio ond mae’n disgwyl tryloywder o ran unrhyw hawliau a gaiff eu haseinio i drydydd partïon neu a gaiff eu hawlio ganddynt. Bydd angen i’r Swyddfa Trosglwyddo Technoleg gadarnhau bod unrhyw drefniadau o’r fath yn briodol ac yn cydymffurfio â chyfraith berthnasol yr UE o ran Cymorth Gwladwriaethol.

Beth yw’r cyfle i ddatblygu eiddo deallusol yn y dyfodol?Er nad yw patentau sydd wedi’u cyflwyno’n un o’r rhagofynion ar gyfer ymgeisio, bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt strategaeth ar gyfer datblygu safbwynt o ran eiddo deallusol. Mae’n rhaid i geisiadau gynnwys datganiad eglur gan y Swyddfa Trosglwyddo Technoleg berthnasol o ran:

Y statws o ran Hawliau Eiddo Deallusol Y strategaeth ar gyfer rheoli Hawliau Eiddo Deallusol yn y dyfodol (gan gydnabod y

gallai’r astudiaethau oleuo a chymedroli’r strategaeth yn ddiweddarach). Nid yw’r Gronfa’n gallu cefnogi costau sy’n gysylltiedig â diogelu eiddo deallusol.

A oes “rhyddid i weithredu” ynteu a oes unrhyw batentau neu gyfyngiadau eraill hysbys a fyddai’n effeithio ar ddatblygiad y prosiect? Sut y byddai materion o'r fath i'r afael?

Rhowch fanylion os gwelwch yn dda.

ADRAN G – STRATEGAETH FASNACHEIDDIO (CYFRINACHOL)Rhowch drosolwg o’r modd y bydd y dechnoleg yn cael ei masnacheiddio neu’n denu cymorth pellach. Disgrifiwch sut y bydd y Gronfa Pontio yn ychwanegu gwerth at eich strategaeth fasnacheiddio a nodwch eich cynlluniau “ar ôl y Cam Braenaru”. Nodwch nifer o gamau datblygiadol, sut y gallai pob un ohonynt gael ei ariannu a llinell amser fras.(Uchafswm o 600 o eiriau.)Rhowch drosolwg o’r modd y bydd y dechnoleg yn cael ei masnacheiddio neu’n denu cymorth pellach.

Mae’r Gronfa’n cydnabod y ffyrdd amrywiol y gall ymchwil academaidd gael ei masnacheiddio ac mae’n gofyn i ymgeiswyr ddarparu trosolwg o’r modd y gallai eu technoleg gael ei datblygu. Os ydych eisoes wedi adnabod neu’n rhagweld heriau penodol neu gamau sy’n cyfyngu ar gyfradd, nodwch eich ystyriaethau.

Disgrifiwch sut y bydd y Gronfa Pontio yn ychwanegu gwerth at eich strategaeth fasnacheiddio a nodwch eich cynlluniau “ar ôl y Cam Braenaru”. Nodwch nifer o gamau datblygiadol, sut y gallai pob un ohonynt gael ei ariannu a llinell amser fras.

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 12

Page 13: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

Mae’r Gronfa wedi’i bwriadu i roi hwb ymlaen yn y broses fasnacheiddio a bydd angen i ymgeiswyr ddangos y bydd eu prosiect arfaethedig yn cynyddu dengarwch masnachol y dechnoleg. Rhowch hyn yng nghyd-destun eich strategaeth fasnacheiddio gyffredinol, gan nodi eich cynlluniau “ar ôl y Gronfa Pontio” a chan nodi unrhyw gamau datblygu pwysig, ffynonellau cyllid posibl a llinellau amser bras.

ADRAN H – CYFIAWNHAU’R ADNODDAU (CYFRINACHOL)Rhowch gyfiawnhad dros yr holl gostau y gofynnir amdanynt yn y cais ac amcangyfrif o’r dyddiad dechrau.Nodwch unrhyw gyfraniadau ychwanegol gan bartneriaid e.e. diwydiant, elusennau, neu ffynonellau eraill a sut y byddant yn cyfrannu at y prosiect.(Uchafswm o 300 o eiriau.)

Mae’r gronfa’n gweithredu model cydfuddsoddi a dim ond costau a ysgwyddwyd yn uniongyrchol y mae’n eu cefnogi. Gall ymgeiswyr wneud cais am hyd at £75,000. Ym mhob achos, bydd angen i geisiadau gyfiawnhau’r holl gostau a dangos bod eu prosiect yn cynnig gwerth am arian. Mae disgwyl i geisiadau ofyn am isafswm y cyllid sy’n angenrheidiol i’w gwneud yn bosibl bwrw ymlaen â’r prosiect gan mai diben y gronfa yw cefnogi astudiaethau diffiniedig ac nid ymchwil benagored. Mae costau cymwys yn cynnwys:

Amser Staff (staff a gyflogir yn llawn ar y prosiect) Defnyddiau traul Teithio Ymchwil i’r farchnad Gwasanaethau ymchwil wedi’u his-gontractio

Mae costau anghymwys yn cynnwys: Gorbenion prifysgolion Costau patentau

Sylwer bod y Gronfa’n disgwyl i ymgeiswyr ddefnyddio’r dull mwyaf priodol o gyflawni’r prosiect yn brydlon. I rai ceisiadau, bydd y llwybr mwyaf adeiladol yn cynnwys defnyddio is-gontractwyr i gynnal gweithgareddau profi neu ddatblygu rheolaidd, e.e. ar gyfer darganfod a datblygu cyffuriau, a gallai’r camau allweddol gynnwys synthesis ar raddfa fawr, ac astudiaethau pellach o ran ffarmacoleg, tocsicoleg neu fetaboledd cyffuriau y gall fod yn well eu cwblhau’n allanol.

Ar gyfer dyfeisiau meddygol, cydnabyddir y gall fod angen defnyddio is-gontractwyr â rhagoriaeth ddylunio.

ADRAN I – CVAtodwch CV byr ar gyfer Arweinydd y Prosiect gan gynnwys manylion yr holl grantiau ymchwil sy’n weithredol ar hyn o bryd a chyhoeddiadau diweddar. Mae’n rhaid nodi ar gyfer pob grant pa un ai unig ymgeisydd, arweinydd neu gyd-arweinydd, ynteu ymgeisydd ydoedd(Uchafswm o un dudalen A4)

ADRAN J – RHEOLI’R PROSIECT (CYFRINACHOL)

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 13

Page 14: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

Rhowch fanylion i egluro sut y bydd y prosiect yn cael ei reoli gan gynnwys manylion i egluro sut y bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bod y rhaglen yn canlyn arni â’r astudiaethau diffiniedig a bod y dechnoleg yn dal i fod yn gyson ag anghenion y farchnad. Nodwch sut y bydd y Swyddog Trosglwyddo Technoleg yn cefnogi’r prosiect ac yn mynd i’r afael ag unrhyw gamau sy’n cyfyngu ar gyfradd.(Uchafswm o 600 o eiriau)

Rhowch fanylion i egluro sut y bydd y prosiect yn cael ei reoli gan gynnwys manylion i egluro sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod y gwaith arfaethedig yn cael ei gyflawni a’r cerrig milltir yn cael eu cyrraedd o fewn y raddfa amser a bod y dechnoleg yn dal i fod yn gyson ag anghenion y farchnad. Bydd angen i’r prosiect gwblhau hawliadau ariannol chwarterol hefyd ynghyd ag adroddiad ar gynnydd technegol. Nodwch sut y bydd y Swyddog Trosglwyddo Technoleg yn cefnogi’r prosiect. Mae’r Gronfa’n cydnabod bod elfen o amser yn gysylltiedig â mantais gystadleuol technolegau a bydd cyllid yn cael ei dynnu’n ôl os bydd oedi cyn dechrau. Nodwch unrhyw rwystrau a allai achosi oedi cyn dechrau’r prosiect (megis recriwtio, caffael a.y.b.) a nodwch sut y bwriedir ymdrin â materion o’r fath.

ADRAN K – STAFF (CYFRINACHOL)Rhowch fanylion unrhyw ymchwilwyr ôl-ddoethurol neu staff arall a fydd yn cael eu henwi o fewn y cais hwn a pham eu bod yn addas ar gyfer y rôl. Sylwer ei bod yn dal yn bosibl y bydd yn rhaid i ymchwilwyr a enwir ymgeisio am y swydd yn unol â pholisïau sefydliadol perthnasol.(Uchafswm o 300 o eiriau.)Rhowch fanylion staff y prosiect.

ADRAN L – CYLLID

Sylwer fod y Gronfa Pontio Gwyddorau Bywyd yn cefnogi costau uniongyrchol yn unig. Rhowch ddadansoddiad byr o’r costau sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn.a. Costau staff uniongyrchol £ Cofiwch beidio â chynnwys gorbenion y

Brifysgol.b. Offer £c. Defnyddiau traul £d. Costau uniongyrchol eraill £ Yn cynnwys e.e. costau teithio, gwaith sydd

wedi’i roi allan ar gontract ac ati. Nid yw’n cynnwys gorbenion y Brifysgol.

Cyfanswm costau uniongyrchol y Brifysgol (a+b+c+d)

£

Cyfraniad a geisir o’r Gronfa Pontio Gwyddorau Bywyd

£

e. Cyfraniad ariannol partner cydweithredol (f)

£

Cyfanswm holl gostau’r prosiect (a+b+c+d+e)

£

Cyfraniad Partner (Dewisol – nid oes gorfodaeth i sicrhau cyllid ychwanegol)Rhowch fanylion unrhyw gyfraniadau mewn arian neu mewn ffyrdd eraill sy’n cael eu darparu gan bartner allanol neu gorff cydweithredol arall. Os yn berthnasol, eglurwch pam fod cydweithio o’r fath yn briodol ar y cam datblygu hwn a sut y bydd trefniadau

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 14

Page 15: businesswales.gov.wales€¦  · Web view · 2016-04-26Mae’n dra hysbys bod gan Brifysgolion rôl allweddol yn natblygiad technolegau Gwyddorau Bywyd newydd. Fodd bynnag, mae

cydweithio o’r fath o fudd i’r prosiect. Dylech gynnwys manylion unrhyw hawliau a gaiff eu neilltuo i’r partner. (Uchafswm o 400 o eiriau.)

Cymeradwyaeth (gan lofnodwr awdurdodedig )Enw Arweinydd y Prosiect Yr wyf yn cadarnhau fy mod yn dymuno ymgeisio am gyllid ar gyfer prosiect prawf o

gysyniad o’r Gronfa Pontio Gwyddorau Bywyd a bod yr wybodaeth a roddir yn y cais hwn ac unrhyw ddeunydd sy’n cyd-fynd ag ef yn gywir hyd y gwn i. Yr wyf hefyd yn cydnabod y bydd yn ofynnol i bob prosiect y dyfernir cyllid iddo ddarparu adroddiad chwarterol ar gynnydd sy’n manylu ar gynnydd y prosiect yn ogystal ag unrhyw allbynnau. Byddaf yn cydymffurfio â’r holl geisiadau rhesymol gan y Gronfa Pontio Gwyddorau Bywyd am wybodaeth o’r fath. Rwy'n rhoi fy nghaniatâd i Lywodraeth Cymru i rannu'r holl ddata yn y cais hwn ac unrhyw ddata ategol a ddarperir gyda'r Bwrdd Cynghori Gwyddonol a Gwyddorau Bywyd Hub Wales Limited.

Llofnod Arweinydd y ProsiectDyddiad

Enw’r Swyddog Trosglwyddo Technoleg Yr wyf yn cefnogi’r cais hwn yn llawn Yr wyf yn cadarnhau bod y prosiect yn bodloni meini prawf cymhwystra’r Gronfa Pontio ac

y bydd yn cael ei redeg yn unol â’r gofynion o ran Cymorth Gwladwriaethol a nodir yn nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Pontio.

Llofnod y Swyddog Trosglwyddo TechnolegDyddiad

Nodiadau Cyfarwyddyd y Gronfa Pontio – V4 (Ebrill 2016) 15