word doc.welsh - governor training - autumn 2016 · web viewauthor: hoare, janine created date:...
TRANSCRIPT
SESIYNAU HYFFORDDI I LYWODRAETHWYRTYMOR YR HYDREF 2016Dyddiad, A m s e r a L l e o l i a d Sesiwn Hyforddi Manylion y cwrs
Dydd Iau 13 Hydref 6.00-8.00pmSwît Corfforaethol, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Dydd Llun 7 Tachwedd 5.00-7.00pmYstafell Bwyllgor 2, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Dydd Iau 24 Tachwedd 6.00-8.00pmYsgol Gyfun y Barri, Port Road West,Y Barri CF62 8ZJ
Deall Data Perfformiad Ysgolion
Mae hyfforddiant data yn orfodol ar gyfer pob llywodraethwr newydd a’r rhai a ailbenodir. Bydd y cwrs hwn yn esbonio sut y bydd eich Ymgynghorydd Her yn rhoi gwybod i chi fel llywodraethwyr am broffil data ysgol, gosod targedau, perfformiad â gwerth ychwanegol, asesu athrawon, cynnydd disgyblion ar Gyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 a hunan-arfarnu. Bydd yn esbonio sut y gellir gwella hunanfyfyrio a her broffesiynol mewn ysgolion drwy ddefnyddio’r data hwn a buddion gosod targedau cadarn, sy’n arwain at ddeilliannau a lles gwell.Sylwer, bydd ond rhaid i chi fynychu un o’r sesiynau hyn oherwydd caiff yr un cwrs ei gyflwyno bob tro.Hyfforddwr: Simon Phillips – Ymgynghorydd Her, Cyd-wasanaeth Consortium Addysg
Dydd Iau 6 Hydref 6.00-8.00pmSwît Corffororaethol, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Dydd Mercher 19 Hydref 5.00-7.00pmSwît Corfforaethol, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Dydd Iau 17 Tachwedd 6.00-8.00pmSwît Corfforaethol, Y Barri
Dydd Mercher 7 Rhagfyr 5.00-7.00pmYstafell Bwyllgor 2, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Ymsefydlu Llywodraethwyr Newydd
Mae hyfforddiant ymsefydlu yn orfodol ar gyfer pob llywodraethwr newydd. Mae’r cwrs yn darparu cyflwyniad helaeth i lywodraethu ysgol a rôl y llywodraethwyr, gan ymwneud â’r holl feysydd a nodir gan Lywodraeth Cymru dan y Rheoliadau rhagnodedig.Sylwer, bydd ond rhaid i chi fynychu un o’r sesiynau hyn oherwydd caiff yr un cwrs ei gyflwyno bob tro.Hyfforddwyr: Staff Consortiwm Canolbarth y De
Dydd Mawrth 15 Tachwedd 6.00-8.00pmSwît Corfforaethol, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Diogelu Plant ac Amddiffyn Plant
Mae Deddf Addysg 2002 yn creu gofyniad statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant.Rhestrodd Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 gyfrifoldebau pawb sydd â phryderon ynglŷn â lles plentyn, gan gynnwys y cyfrifoldeb o sicrhau y caiff y pryderon eu cyfeirio at wasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu. Bydd yr hyfforddiant hwn yn archwilio’r fframwaith deddfwriaeth ac arweiniad ar gyfer diogelu plant, er mwyn hyrwyddo eglurder a chysondeb ymarfer a safonau cyffredinol yn yr holl ysgolion.Bydd y sesiwn yn rhestru rôl a chyfrifoldebau’r corff llywodraethu, y Llywodraethwr Diogelu Dynodedig a holl staff yr ysgol wrth ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac amddiffyn plant unigol rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Bydd hefyd yn ymwneud â ffactorau risg i blant, diffiniadau a dangosyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod, themâu presennol yn y maes diogelu plant, adnabod niwed difrifol, gweithredu ar amheuon, gwneud atgyfeiriadau a’r broses amddiffyn plant, gyda ffocws penodol ar sut y gall y corff llywodraethu gefnogi a gwela arferion diogelu mewn ysgolion.Dorian Davies, Swyddog Diogelu, Dysgu a Sgiliau
Dydd Mercher 23 Tachwedd 6.00-8.00pmSwît Corfforaethol, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Cefnogi ymagwedd ysgol gyfan at Addysg Rhyw a Pherthnasoedd (SRE) mewn ysgolion
Bydd hon yn sesiwn ryngweithiol wedi’i hanelu at gynyddu gwybodaeth a her ymysg y rhai sy’n mynychu i gefnogi rhaglen SRE eu hysgolion, fel rhan o ymagwedd lleoliad-cyfan Rhwydwaith Ysgolion Iach Bro Morgannwg. Bydd yn adolygu gofynion cyfreithiol ac arweiniad Llywodraeth Cymru gan gynnwys gweithredu polisi SRE a chyflwyno rhaglen gynhwysfawr o SRE, gan gynnwys cynnwys disgyblion a rhieni/gofalwyr. Yn ogystal, ystyrir gofynion hunan-arfarnu Estyn a sensitifrwydd diwylliannol a chrefyddol perthnasol. Nod y cwrs yw lliniaru unrhyw ofnau mae’n bosibl y bydd gan ysgol o ran gweithredu rhaglen SRE effeithiol trwy ddarparu gwybodaeth, adnoddau ac astudiaethau achos sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan leoliadau addysgu eraill ym Mro Morgannwg.Bydd Dorian Davies, y Swyddog Diogelu, hefyd yn mynychu’r sesiwn hon er mwyn ymateb i unrhyw gwestiynau sy’n perthyn yn benodol i ddiogelu ac i dynnu sylw at y cynnydd mewn negeseuon testun rhywiol ac ymddygiad rhywiol ar-lein a sut gall SRE priodol leihau risgiau i bobl ifanc.Hyfforddwyr: Christine Farr, Uwch Arbenigwr Hyrwyddo Iechyd – Ysgolion Iach, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro a Dorian Davies, Swyddog Diogelu, Gwella Ysgolion a Chynwysiant
Dydd Mawrth 29 Tachwedd 6.00-8.00pmSwît Corfforaethol, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Iechyd a Diogelwch
Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio’n benodol ar gydymffurfio’n gyfreithiol â’r polisïau a’r gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch priodol a chynnal a chadw safle ac adeiladau’r ysgol. Bydd yn cynnwys elfennau y soniwyd amdanynt eisoes mewn cyrsiau gyda Phenaethiaid a Gofalwyr Ysgol. Yn ogystal, bydd yn ymwneud â sefydlu a chynnal a chadw ffeil Rheoli Iechyd a Diogelwch fel arfer da ac mae’n fwyaf perthnasol ar gyfer y llywodraethwyr hynny sy’n aelodau o Bwyllgorau Iechyd a Diogelwch/Adeiladau ond mae croeso i bob llywodraethwr sydd â diddordeb yn y maes allweddol hwn fod yn bresennol.Hyfforddwr: Tiffany Barker, Swyddog Iechyd a Diogelwch
SESIYNAU HYFFORDDI LLYWODRAETHWYRTYMOR YR HYDREF 2 0 1 6
Nodyn Pwysig am Gofrestru ar Gyrsiau Hyfforddi LlywodraethwyrSicrhewch eich bod yn cofrestru am yr holl gyrsiau rydych chi eisiau eu mynychu. Mae cofrestru yn ein galluogi i wneud yr holl drefniadau arlwyo, seddau a chopïo ar gyfer pob sesiwn hyfforddi. Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn gallu cysylltu â’r holl rai a fydd yn mynychu os caiff y cwrs ei ohirio, oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Cofrestrwch drwy ein e-bostio ni ar [email protected] neu drwy ffonio 01446 709107 (llinell uniongyrchol). Caiff pob e-bost ei gydnabod a hefyd byddwch yn derbyn e-bost atgoffa 7-10 diwrnod cyn pob cwrs.
Diolch am eich cefnogaeth
Sut i archebu@ E-bostiwch eich holl archebion hyfforddiant yn uniongyrchol at [email protected]
✆ Neu FFONIWCH yr Uned Cefnogi Llywodraethwyr ar 01446 709107 (llinell uniongyrchol).
Cyrsiau hyfforddi’r dyfodolOs oes gennych unrhyw syniadau neu geisiadau ar gyfer sesiynau hyfforddi, e-bostiwch nhw i:
Dyddiad, Amser, Lleoliad Sesiwn Hyfforddi Manylion y Cwrs
Dydd Llun 5 Rhagfyr 2.00-4.00pmTŷ Dysgu, Nantgarw, Trefforest, CF15 7QQ
Rheoli Perfformiad Penaethiaid
Bydd y sesiwn briffio hon yn ymwneud â holl agweddau’r broses a dylai llywodraethwyr sy’n aelodau o’r panel arfarnu ar gyfer perfformiad y Pennaeth fod yn bresennol fel bod ganddynt ddealltwriaeth glir o’u rôl o reoli perfformiad a’u cyfrifoldebau er mwyn eu gwireddu’n effeithiol.Amcanion yr hyfforddiant yw i’r llywodraethwyr:• Ddeall gofynion y rheoliadau a sut i’w gwireddu’n effeithiol;• Adolygu rôl y broses rheoli perfformiad o ran cod safonau yn eich ysgol;• Adolygu sut mae rheoli perfformiad yn cael ei ymgorffori yng nghyd-destun eang
proses wella’r ysgol; ac • Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad gan gynnwys rolau a
chyfrifoldebau’r rhai dan sylw.Hyfforddwyr: Staff Consortiwm Canolbarth y De
Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 6.00-7.30pmSwît Corfforaethol, Swyddfeydd Dinesig, Y Barri
Sesiwn Diweddaru a Briffio ar Addysgu
Hon fydd yr unfed sesiwn ar bymtheg yn dilyn llwyddiant y digwyddiadau blaenorol sydd wedi denu niferoedd uchel o lywodraethwyr yr oedd eu harfarniadau’n gadarnhaol iawn. Anelir y digwyddiad hwn at Gadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion ond mae croeso i bob llywodraethwr fod yn bresennol. Bydd Cyfarwyddwr a Phenaethiaid Gwasanaeth (HoS) yr Adran Dysgu a Sgiliau yno i amlinellu’r datblygiadau sydd i ddod ac i ateb cwestiynau gan y llywodraethwyr. Caiff rhagor o fanylion penodol am y sesiwn hon eu cylchredeg maes o law. Mae hwn yn gyfle ardderchog i’r llywodraethwyr gwrdd â’r Cyfarwyddwr a Phenaethiaid Gwasanaethau ac i rwydweithio gyda’r llywodraethwyr eraill. Caiff y digwyddiad hwn ei gadeirio gan Dr Martin Price, Cadeirydd y VSGA (Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgol y Fro)Hyfforddwyr: Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau a Phenaethiaid Gwasanaethau