yn cyflwyno ap covid-19 y gig · lefel risg ardal sw12 - isel rhagor o wybodaeth. 4 sut mae'r...

13
Roedd yr holl wybodaeth a delweddau yn y ddogfen hon yn gywir ar 24 Medi 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i covid19.nhs.uk Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG

Upload: others

Post on 10-Oct-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

Roedd yr holl wybodaeth a delweddau yn y ddogfen hon yn gywir ar 24 Medi 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i covid19.nhs.uk

Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG

Page 2: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

2

Sut fydd yr ap yn helpu'r frwydr yn erbyn y pandemig yn y DU

Cefnogi ymateb y DU

Mae ap COVID-19 y GIG yn rhan o'n rhaglen raddfa fawr profi ac olrhain cysylltiadau'r coronafeirws (COVID-19) o'r enw Profi ac Olrhain y GIG. Caiff yr ap ei ddefnyddio,ochr yn ochr ag olrhain cysylltiadautraddodiadol, i hysbysu defnyddwyros byddant yn dod i gysylltiad ârhywun sy’n profi’n bositif am ycoronafeirws yn ddiweddarach.

Mae'r ap yn galluogi pobl i adrodd am symptomau, archebu prawf coronafeirws, cofrestru mewn lleoliadau drwy sganio côd QR ac mae'n helpu'r GIG i olrhain unigolion a allai fod wedi cael y coronafeirws.

Ap COVID-19 y GIG

Olrhain cysylltiadau Profi am y feirws

Bydd yr ap yn helpu'r GIG i ddeall a yw'r feirws yn lledaenu mewn ardal benodol, ac felly bydd modd i awdurdodau lleol ymateb yn gyflym i'w atal rhag lledaenu ymhellach ac achub bywydau.

Mae'r ap yn gwneud hyn wrth ddiogelu anhysbysrwydd y defnyddiwr. Fydd neb, gan gynnwys y llywodraeth, yn gwybod pwy yw defnyddiwr penodol neu ble mae e.

Ymdrech Genedlaethol

Page 3: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

3

Ap COVID-19 y GIG

Buddion ap olrhain cysylltiadau

Pwysigrwydd yr ap

Data'r ap

Mae'r ap yn helpu i olrhain defnyddwyr yr ap sydd wedi treulio amser yn agos at ddefnyddwyr eraill yr ap, nad ydynt efallai yn eu hadnabod yn bersonol, ac sy'n profi'n bositif am y coronafeirws yn ddiweddarach.

Mae'r nodwedd “Check-in” yn cefnogi'r swyddogaeth hon drwy hysbysu defnyddwyr sydd wedi bod yn yr un lleoliad ar yr un amser heb ddefnyddio enwau.

Mae ap olrhain cysylltiadau yn lleihau'r amser mae'n cymryd i hysbysu'r rhai hynny rydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw.

Bydd pob unigolyn sy'n lawrlwytho'r ap yn helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws (COVID-19).

Bydd yr ap yn helpu'r GIG i ddeall ble a pha mor gyflym mae'r feirws yn lledaenu, er mwyn iddo ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Mae'r ap yn helpu'r GIG i olrhain y feirws, nid unigolion.

Ni fydd yr ap yn eich olrhain chi na'ch lleoliad. Yn hytrach, mae ardal eich côd post yn helpu'r ap i ganfod ble mae'r feirws yn lledaenu.

Ardal eich côd post yw rhan gyntaf eich côd post, sy'n gyffredin i tua 8,000 o aelwydydd. Pan fyddwch yn lawrlwytho'r ap am y tro cyntaf, gofynnir i chi am ardal eich côd post.

Gadewch i ni fynd yn ôl at y pethau rydym yn eu caru

Cofrestru mewn lleoliad

Adrodd am symptomau

Darllen y cyngor diweddaraf

Sut mae’r ap yn gweithio

Olrhain cysylltiadau

Ynglyn

Olrhain cysylltiadau’n weithredol

Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth

Page 4: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

4

Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi

Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid mwyaf i chi ynghyd â'r risg leiaf

RhybuddOlrhain Cofrestru

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer yr ap am y tro cyntaf, gofynnir i chi am hanner cyntaf eich côd post. Gallwch wirio'r ap bob dydd i weld a yw'r ardal lle rydych chi'n byw wedi dod yn ardal risg uchel ar gyfer y coronafeirws.

Os yw hi, byddwch yn derbyn hysbysiad i roi gwybod i chi. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau bob dydd i'ch diogelu chi a'r bobl rydych chi'n eu caru.

Er mwyn olrhain cysylltiadau, mae'r ap yn canfod ac yn cofnodi defnyddwyr eraill yr ap sydd gerllaw drwy ddefnyddio rhifau adnabod unigryw ac ar hap.

Os bydd unrhyw un o'r defnyddwyr hynny yn profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) yn ddiweddarach, byddwch yn derbyn hysbysiad o amlygiad ynghyd â chyngor ar beth i'w wneud.

Mae'r ap yn eich galluogi i gofnodi pan fyddwch chi'n ymweld â lleoliad drwy “gofrestru” wrth gyrraedd, gan ddefnyddio côd QR y lleoliad.

Mae'r ap yn cofnodi'r amser rydych chi'n ei dreulio yn y lleoliad heb gofnodi unrhyw wybodaeth bersonol. Byddwch yn derbyn rhybudd os ydych chi wedi ymweld â lleoliad yn ddiweddar lle gallech chi fod wedi dod i gysylltiad â'r coronafeirws

Os ydych chi'n dewis lawrlwytho'r ap, mae chwech nodwedd allweddol a fydd yn eich helpu chi a'ch cymuned.

Byddant yn helpu i leihau'r risg bersonol i chi a'r risg i'r cyhoedd hefyd.

Gweld Lefel Risg Ardal

Page 5: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

5

Profi Ynysu

Os oes gennych chi symptomau'r coronafeirws, bydd yr ap yn mynd â chi i wefan lle gallwch archebu prawf i weld a oes gennych chi'r coronafeirws ai peidio.

Os ydych chi wedi derbyn cyngor gan yr ap i hunanynysu, mae'r ap yn cynnig amserydd ôl-gyfrif er mwyn bod cofnod gennych chi am ba mor hir y bydd angen i chi hunanynysu.

Pan fyddwch chi'n dod i ddiwedd eich cyfnod o hunanynysu, bydd yr ap yn anfon hysbysiad atgoffa gyda dolen i'r cyngor diweddaraf ar eich cyfer.

Sut mae'r ap yn eich cefnogi chi

Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid mwyaf i chi ynghyd â'r risg leiaf

Symptomau

Os ydych chi'n teimlo'n anhwylus, gallwch ddefnyddio'r ap i wirio a allai eich symptomau fod yn gysylltiedig â'r coronafeirws (COVID-19).

Bydd yr ap yn rhoi rhestr i chi o symptomau posib a gallwch ddewis y rhai sy'n berthnasol i chi. Bydd yn dweud wrthych chi os yw eich symptomau'n awgrymu y gallai'r coronafeirws fod arnoch chi.

Os ydych chi'n dewis lawrlwytho'r ap, mae chwech nodwedd allweddol a fydd yn eich helpu chi a'ch cymuned.

Byddant yn helpu i leihau'r risg bersonol i chi a'r risg i'r cyhoedd hefyd.

Page 6: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

6

Sut mae'r ap yn gweithio

Technoleg ap Diogelu ein gilydd

Hysbysu eraill

Mae ap COVID-19 y GIG yn defnyddio nodwedd bresennol “Cofnodi Cysylltiad” eich ffôn clyfar i ganfod a ydych chi wedi treulio amser yn agos at ddefnyddwyr ap eraill sydd wedi profi'n bositif ar gyfer y coronafeirws (COVID-19).

Er mwyn i hyn weithio, mae angen i'ch Bluetooth fod wedi'i droi ymlaen: ni fydd hyn yn disbyddu eich batri gan fod yr ap yn defnyddio “Bluetooth Egni Isel”.

Bydd pob cysylltiad ychwanegol y bydd yr ap yn ei olrhain yn gwella ein gwasanaeth olrhain cysylltiadau presennol, gan helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu.

Gall defnyddiwr yr ap sy'n profi'n bositif am y coronafeirws ddewis a yw am hysbysu defnyddwyr eraill. Bydd rhif adnabod unigryw ar hap yn cael ei ddefnyddio i hysbysu defnyddwyr eraill a fu mewn cysylltiad agos â'r unigolyn hwnnw. Mae hyn yn sicrhau y caiff hunaniaeth a phreifatrwydd y defnyddiwr sy'n bositif eu diogelu.

6

Gweithio mewn partneriaeth â Google ac Apple i greu ap sy'n helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws

Page 7: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

7

Beth dylwn i ei wneud os oes gen i symptomau?

Sut ydw i'n nodi fy symptomau yn yr ap?

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi nodi fy symptomau?

Gallwch nodi eich symptomau yn yr ap drwy dapio'r botwm “Adrodd am Symptomau”.

Bydd yr ap yn rhoi rhestr i chi o symptomau posib a gallwch ddewis y rhai sy'n berthnasol i chi.

Pan fyddwch chi wedi ateb y cwestiynau, gallwch eu gwirio cyn cyflwyno'r wybodaeth hon i'r ap.

Bydd yr ap yn rhoi gwybod i chi a yw'n bosib mai'r coronafeirws sy'n achosi eich symptomau a bydd yn cynnig dolen i wefan Profi ac Olrhain y GIG i chi lle mae modd i chi archebu prawf am ddim.

7

Os ydych chi'n teimlo'n anhwylus, dylech chi ddefnyddio'r ap i wirio a allai eich symptomau fod yn gysylltiedig â'r coronafeirws (COVID-19).

Gallwch defnyddio'r ap hwn i wirio a yw eich symptomau'n golygu y dylech chi gael prawf

Page 8: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

8

Canlyniad prawf positif

Beth sy'n digwydd os byddaf yn derbyn canlyniad prawf sy'n bositif?

Beth mae fy nghanlyniad prawf positif yn ei olygu i aelodau eraill o'r cyhoedd?

Os ydych chi'n profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19), bydd yr ap yn dweud wrthych chi i hunanynysu. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n aros gartref yn ystod y cyfnod hwn. Bydd yr ap yn eich helpu i wybod ble yn eich cyfnod ynysu yr ydych chi gydag amserydd ôl-gyfrifo sy'n dangos am faint o amser mae angen i chi barhau i hunanynysu. Bydd yr ap hefyd yn darparu dolenni i gyngor gan y GIG ar y coronafeirws a'r hyn i'w wneud os byddwch chi'n teimlo'n anhwylus.

Os ydych chi'n profi'n bositif am y coronafeirws, gallwch ddewis a ydych chi am hysbysu defnyddwyr eraill.

Os ydych chi'n penderfynu anfon rhybuddion, bydd meddygon a gwyddonwyr y GIG yn defnyddio algorithm i amcangyfrif pa mor agos mae angen i chi fod at rywun â'r feirws i fod mewn perygl o'i ddal.

Bydd rhif adnabod unigryw ar hap yn cael ei ddefnyddio i hysbysu defnyddwyr eraill yr ap yn ddienw y buoch chi mewn cysylltiad agos â nhw yn ystod y diwrnodau cyn i chi ddatblygu symptomau. Ni chaiff manylion personol amdanoch chi eu datgelu gyda'r rhybudd hwn a chaiff eich preifatrwydd a'ch hunaniaeth eu diogelu bob amser.

Rhoddir cyngor swyddogol y GIG i ddefnyddwyr yr ap sy'n derbyn y rhybudd hwn ar beth i'w wneud nesaf. Efallai y bydd Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cysylltu â chi gan ofyn i chi gwblhau ffurflen am bwy rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw'n ddiweddar.

8

Mynediad hwylus at ganlyniadau eich prawf a chyngor ar beth i'w wneud nesaf

Parhewch i hunanynysu am

10 niwrnodMae canlyniad eich prawf am y coronafeirws yn bositif

Mae canlyniad eich prawf yn dangos bod gennych y coronafeirws. Anfonwyd e-bost neu neges destun atoch gyda rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o gyngor, ewch i:

Y GIG 111 ar-lein

Parhad

Ynglyn

Lefel risg ardal SW12 - UCHEL

Mae angen i chi hunanynysuO 5 Gorff 2020 a, 23:59

diwrnod i fynd

Archebwch brawf am ddim

Cofrestru mewn lleoliad

Darllenwch gyngor hunanynysu

Sut mae’r ap yn gweithio

Olrhain cysylltiadau

Rhagor o wybodaeth

Page 9: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

9

Mae eich data yn gwbl ddiogel

• i'ch adnabod chi

• i'ch olrhain chi

• i wirio a ydych chi'n hunanynysu

• gan wasanaethau gorfodi'r gyfraith a mewnfudo

Ni fydd yr ap yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi nac yn olrhain eich lleoliad. Nid oes modd defnyddio'r app:

Mae arbenigwyr o Lywodraeth y DU, Apple, Google a byd diwydiant wedi helpu i ddylunio, profi a gwella'r ap.

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol hefyd yn gwirio bod yr ap yn ddiogel i'w ddefnyddio.

Bydd y GIG yn anfon data at eich ffôn yn ddiogel. Er enghraifft, efallai y bydd y data hyn yn wybodaeth am newid yn y lefel o risg yn eich ardal côd post. Defnyddir y data hyn i'ch hysbysu os byddwch chi mewn perygl o ddal y coronafeirws (COVID-19) gan ddefnyddwyr eraill yr ap sydd wedi bod yn agos atoch chi.

Mae'r ap yn defnyddio rhifau adnabod unigryw ar hap i ganfod defnyddwyr eraill ap Profi ac Olrhain y GIG er mwyn anfon rhybuddion. Bydd defnyddio'r rhifau adnabod ar hap hyn yn golygu bod eich rhyngweithio â defnyddwyr eraill yr ap yn aros yn breifat.

Caiff yr holl gofnodion, megis dyddiad, amser a pha mor agos ydych chi at ddefnyddwyr eraill, eu cadw ar eich ffôn chi'n unig.

Diogelu eich preifatrwydd a'ch hunaniaeth

Eich preifatrwydd a'ch data personol

Sut caiff preifatrwydd a data eu diogelu

Gallwch chi hefyd ddileu'r ap a'r holl ddata mae'n ei gadw pryd bynnag y mynnoch.

Page 10: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

10

Pa ddata sy'n cael ei gofnodi gyda'r nodwedd "Cofrestru"?

Pan fyddwch yn cofrestru mewn lleoliad, caiff data eu cadw ar eich ffôn. Mae hyn yn cynnwys yr amser a'r dyddiad phan gofrestroch chi yn y lleoliad, ynghyd â dynodwr y lleoliad.

Bydd yr ap yn dileu'r rhestr o leoliadau lle cofrestroch chi yn awtomatig bob 21 niwrnod, ond gallwch chi ddileu'r rhestr hon pryd bynnag y mynnoch.

Os yw pobl eraill a oedd yn yr un lleoliad ar yr un pryd â chi yn profi'n bositif am y coronafeirws yn hwyrach, efallai y byddwch chi'n derbyn hysbysiad i roi gwybod i chi.

Eich preifatrwydd a'ch data personol

Ydy'r ap yn gallu gweld fy nghysylltiadau ffôn?

Nac ydy. Nid oes gan yr ap fynediad at eich cysylltiadau ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch sydd ar eich ffôn. Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich cysylltiadau, cyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn, neu fanylion penodol eich ffôn.

Mar eich preifatrwydd a'ch hunaniaeth yn ddiogel.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddata a phreifatrwydd yn www.covid19.nhs.uk.

Datblygwyd yr ap gan ystyried eich preifatrwydd a'ch diogelwch chi

Page 11: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

11

Cwestiynau Cyffredin

Sut olwg sydd gan y rhif adnabod unigryw ar hap a ddefnyddir i olrhain cysylltiadau?

Ydw i'n gallu dileu'r ap?

Mae'r rhifau adnabod unigryw ar hap yn cynnwys llythrennau a rhifau. Mae'r rhain yn cael eu rhannu rhwng ffonau ac maen nhw'n newid bob 15 i 20 munud. Does dim modd eu defnyddio i adnabod defnyddwyr na'u ffonau.

A fydd yr ap yn gweithio os yw fy ffôn wedi'i gloi?

Bydd yr ap yn gweithio tra bydd eich ffôn wedi'i gloi, cyhyd â bod y ffôn ymlaen a bod Bluetooth wedi'i alluogi. Eithriad i hyn yw wrth i chi droi eich ffôn ymlaen, mae'n rhaid i chi datgloi'r ffôn yn gyntaf er mwyn sbarduno'r ap i ddechrau gweithio. Mae angen gwneud hyn wrth droi'r ffôn ymlaen eto a does dim angen i chi agor yr ap.

Byddwch bob amser yn gallu dileu'r ap, pryd bynnag y mynnoch. Mae rhywfaint o data yn aros, gan ddibynnu ar system weithredu eich ffôn, ond mae'r ap a'r data mae'n ei gynnwys, yn cael ei ddileu.

Pan fyddwch chi wedi dileu'r ap, ni fyddwch yn derbyn hysbysiadau na rhybuddion mwyach.

Pam mae angen ardal fy nghôd post ar yr ap?

Pan fyddwch yn lawrlwytho'r ap, gofynnir i chi nodi ardal côd post. Golyga hyn fod rhan gyntaf eich côd post yn cael ei rhannu gyda'r GIG.

Yn gyffredinol, mae ardal côd post yn cynnwys tua 8,000 o gyfeiriadau, gan olygu nad oes modd nodi eich lleoliad penodol.

Bydd yr ap yn defnyddio'r ardal côd post i ddweud wrthych chi os yw'r ardal yn un lle mae'r risg yn uchel.

Bydd y GIG yn defnyddio'r ardal côd post i:

• rhagweld a rheoli gwasanaethau ysbytai lleol

• gwella'r ap a sicrhau ei fod yn gweithio

Ydw i'n gallu adnabod defnyddiwr ap sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19)?

Nac ydych. Nid yw'r ap yn eich galluogi chi i adnabod unrhyw ddefnyddwyr ap sy'n profi'n bositif am y coronafeirws. Defnyddir rhifau adnabod unigryw ar hap i sicrhau y caiff hunaniaeth a phreifatrwydd unrhyw un sy'n defnyddio'r ap eu diogelu.

Fodd bynnag, cynghorir defnyddwyr i gadw eu ffonau'n ddiogel gan y bydd hysbysiadau ar yr ap yn weladwy i bobl â mynediad at eich ffôn.

A fydd yr ap yn disbyddu fy matri?

Mae'r ap yn defnyddio "Bluetooth Egni Isel" a fydd yn cael effaith fach iawn ar fatri eich ffôn, yn enwedig os yw Bluetooth wedi'i alluogi ar eich ffôn fel arfer.

Pam bod angen i mi droi'r hysbysiadau ymlaen?

Caiff hysbysiadau eu defnyddio er mwyn i nodweddion penodol ar yr ap weithio, er enghraifft olrhain cysylltiadau. Os ydych chi wedi treulio amser yn agos at ddefnyddiwr arall yr ap sy'n profi'n bositif am y coronafeirws yn hwyrach, bydd eich ffôn yn defnyddio hysbysiadau i anfon rhybudd atoch Trowch yr hysbysiadau ymlaen pan ofynnir i chi wneud hynny.

Atebion i'ch Cwestiynau

Page 12: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

12

Cwestiynau Cyffredin

A oes angen Bluetooth arnoch chi i'r ap weithio?

Oes. Mae'r ap yn defnyddio "Bluetooth Egni Isel" i weithio. Pan fyddwch yn lawrlwytho'r ap, bydd angen i chi alluogi'r gwasanaeth "Hysbysiadau Amlygiad" gan Apple a Google.

Y rheswm am hyn yw bod Bluetooth yn galluogi eich ap i gofnodi rhifau adnabod unigryw ar hap defnyddwyr eraill yr ap sydd wedi treulio amser yn agos atoch chi. Gelwir hyn yn "Cofnodi Amlygiad" ac mae'r dechnoleg hon yn galluogi i olrhain cysylltiadau weithio cyhyd â bod Bluetooth eich ffôn yn aros ymlaen.

Pam bod angen i mi ddiweddaru system weithredu fy ffôn?

Pryd a pham mae angen i mi gofrestru mewn lleoliad?

Er mwyn i ap COVID-19 y GIG weithio, bydd angen gosod system weithredu ddiweddaraf eich ffôn.

Ar gyfer ffonau Apple, bydd angen fersiynau 13.5 neu uwch. Bydd angen Marshmallow neu fersiwn 6.0 neu uwch ar ffonau Android.

Am ganllawiau ar ffonau eraill a chyfarwyddiadau ar sut i uwchraddio eich system weithredu, ewch i'r adran "Cwestiynau Cyffredin" ar y wefan yn: www.covid19.nhs.uk.

Os ydych chi'n mynd i leoliad (er enghraifft, siop, bwyty neu salon) sydd â phoster côd QR ap COVID-19 y GIG wrth y fynedfa, gallwch sganio'r côd QR drwy ddefnyddio'r camera drwy'r ap.

Cewch neges yn gofyn am eich caniatâd cyn iddo gael ei ddefnyddio.

Yna, byddwch yn derbyn rhybudd os ydych chi wedi ymweld â lleoliad yn ddiweddar lle gallech chi fod wedi dod i gysylltiad â rhywun â'r coronafeirws (COVID-19).

Atebion i'ch Cwestiynau

Page 13: Yn cyflwyno ap COVID-19 y GIG · Lefel risg ardal SW12 - ISEL Rhagor o wybodaeth. 4 Sut mae'r ap yn eich cynorthwyo chi Mae gan yr ap nodweddion allweddol a fydd yn cynnig y rhyddid

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:www.covid19.nhs.uk