ysmygu - nhs wales smoking ban repo… · nghymru. mae’r gost i’r gig yn y du o drin clefydau...

22
ysmygu Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau Dyddiad cyhoeddi Tachwedd 2007

Upload: others

Post on 12-Oct-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

ysmyguYsmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Dyddiad cyhoeddi Tachwedd 2007

Page 2: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Awduron: Rachel Dolman, Rhys Gibbon, Cath Roberts

Cafodd yr awduron eu cefnogi gan fwrdd golygyddol oedd yn cynnwys Sue Leake, Chris Roberts a Neil Riley

Diolchiadau: Diolch i’r canlynol am eu cymorth a’u cefnogaeth; Ginny Blakey (LlCC), Hugo Cosh (NPHS), Andrea Gartner, Rhian Huws (y ddwy o WCfH), Alan Jackson (LlCC), Andrew Jones (NPHS), Anne Kingdon (LlCC), Su Mably, Jo Menzies (y ddwy o WCfH) ac Ian Scale (NPHS).

Manylion cyhoeddi:Teitl: Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiauCyhoeddwr: Canolfan Iechyd CymruDyddiad: Tachwedd 2007ISBN: 0-9545544-4-2

Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd ar gael ar ffurf electronig (fformat dogfen gludadwy) ar ein gwefan: www.wch.wales.nhs.uk

Cysylltiadau:Canolfan Iechyd Cymru14 Ffordd yr Eglwys GadeiriolCaerdydd CF11 9LJ

Ffôn: 029 2022 7744Ffacs: 029 2022 6749E-bost: [email protected]

© WCfH 2007

Page 3: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Cynnwys

Ffigurau a thablau 2

Rhagair 3

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau 4

1. Cyflwyniad 5

2. Cefndir 6Tueddiadau ysmygu ymysg oedolion 6

Ysmygu fesul gwlad 7

3. Mamolaeth, plant a phobl ifanc 8Ysmygu yn ystod beichiogrwydd 8

Plant sy’n byw mewn cartrefi lle mae oedolion yn ysmygu 9

Ysmygu ymysg pobl ifanc 9

4. Ysmygu ymysg oedolion 12Statws ysmygu oedolion 12

Amrywiadau mewn arferion ysmygu oedolion 13

Ffactorau sy’n gysylltiedig ag ysmygu 15

5. Canlyniadau a’r defnydd o wasanaethau 16Amlygiad y rhai nad ydynt yn ysmygu i fwg pobl eraill 16

Gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu 16

Ysmygu ac iechyd cyffredinol 17

Marwolaethau yn sgil clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu 17

6. Casgliad 18

Ffynonellau data a nodiadau 19

Tablau dethol 20

1

Page 4: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Ffigurau a thablau

Ffigur 1 Nifer y bobl oedd yn ysmygu sigaréts yng Nghymru (1978-2005) 6

Ffigur 2 Y nifer oedd yn ysmygu sigaréts yn ôl gwlad (2005) 7

Ffigur 3 Y mamau oedd yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd, fesul gwlad (2005) 8

Ffigur 4 Pobl ifanc 15 oed oedd yn ysmygu’n wythnosol yng Nghymru (1986-2004) 10

Ffigur 5 Pobl ifanc 15 oed oedd yn ysmygu’n wythnosol mewn gwledydd penodol (2002) 11

Ffigur 6 Arferion ysmygu yn ôl rhyw (2005/06) 12

Ffigur 7 Ysmygu yn ôl grwp oedran (2005/06) 13

Ffigur 8 Ysmygu yn ôl awdurdod lleol (2004/06) 14

Ffigur 9 Ysmygu yn ôl dosbarth cymdeithasol-economaidd (2005/06) 14

Ffigur 10 Ysmygu yn ôl sgôr amddifadedd ardaloedd (2005/06) 15

Ffigur 11 Amlygiad y rhai nad oeddent yn ysmygu i fwg goddefol (2005/06) 16

Ffigur 12 Marwolaethau yn sgil achosion penodol ymysg pobl dan 75 oed (2003-05) 17

Tabl 1 Canran yr oedolion oedd yn ysmygu sigaréts, yn ôl rhyw, rhwng 1978 a 2005 20

Tabl 2 Canran y bobl ifanc 15 oed oedd yn ysmygu’n wythnosol, yn ôl rhyw, rhwng 1986 a 2004 20

Tabl 3 Arferion ysmygu oedolion, yn ôl rhyw (2005/06) 20

Tabl 4 Amlygiad oedolion nad oeddent yn ysmygu i fwg pobl eraill, yn ôl rhyw (2005/06) 20

2

Page 5: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Rhagair gan y Prif Swyddog Meddygol

Ysmygu yw’r ffactor unigol mwyaf sy’n achosi marwolaethau cynamserol y gellir eu hatal ac mae’n un o’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am anghydraddoldebau iechyd. Mae’n cyfrif am fwy na hanner y gwahaniaeth mewn risg o farwolaeth gynamserol rhwng dosbarthiadau cymdeithasol, a cheir gwahaniaethau sylweddol yn nifer yr achosion yn ôl safle cymdeithasol pobl ac yn ôl daearyddiaeth ledled Cymru. Mae llawer o dystiolaeth i ddangos bod y lefel bresennol o ysmygu yn ffactor sy’n peri i bobl fynd yn gaeth i nicotin drwy gydol eu bywydau, yn ffactor sy’n achosi salwch y gellir ei osgoi a marwolaethau cynamserol.

Yn erbyn cefndir o’r fath, roedd cyhoeddiad y Prif Weinidog ym mis Medi 2006 bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i wahardd ysmygu a fyddai’n dod i rym ar 2 Ebrill 2007 yn gam mawr ymlaen. Caiff hyn effaith sylweddol a llesol ar iechyd ein poblogaeth. Bydd elwa i’r eithaf ar fanteision y ddeddfwriaeth hanesyddol hon yn flaenoriaeth yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Rhagwelwn ostyngiad yn nifer y bobl a fydd yn cael eu derbyn i ysbytai oherwydd trawiad ar y galon, ac mae peth tystiolaeth addawol o’r Alban i gefnogi hyn. Rhagwelir hefyd y bydd nifer y bobl sy’n ysmygu yn gostwng ond bydd angen inni barhau i roi camau eraill ar waith. Mae data presennol yn dangos bod rhai plant yn dechrau ysmygu pan fyddant oddeutu 12 oed. Rhaid inni geisio atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu. Mae angen inni hefyd lansio’r ymgyrch dros gartrefi di-fwg, yn arbennig lle caiff plant eu hamlygu i fwg ail-law.

Y nod yn y pen draw yw sicrhau Cymru ddi-fwg, ond nod realistig yn y cyfamser yw ceisio lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu i 17% fel y gwnaethpwyd yn Sweden a Chaliffornia.

Croesawaf yr adroddiad hwn gan ei fod yn amlygu’r dystiolaeth sy’n gysylltiedig ag ysmygu yng Nghymru. Hoffwn longyfarch tîm y prosiect, sef Cath Roberts, Rachel Dolman a Rhys Gibbon, ar y gwaith hwn.

Dr Tony Jewell

3

Page 6: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Tueddiadau ysmygu ymysg oedolion

• Mae canran yr oedolion yng Nghymru sy’n ysmygu wedi gostwng dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf.

Mamolaeth, plant a phobl ifanc

Yn 2005, dywedodd 37% o famau iddynt ysmygu ar ryw adeg yn ystod eu beichiogrwydd • neu yn y flwyddyn cyn beichiogi, a dywedodd 22% o famau iddynt ysmygu drwy gydol eu beichiogrwydd.

Yn 2005/06, roedd 37% o gartrefi â phlant yn cynnwys o leiaf un oedolyn a oedd yn • ysmygu bob dydd.

Yn 2004 dywedodd 19% o fechgyn 15 oed a 28% o ferched 15 oed eu bod yn ysmygu’n • rheolaidd (yn wythnosol).

Ysmygu ymysg oedolion

Yn 2005/06, dywedodd 25% o oedolion eu bod yn ysmygu.•

Roedd dynion ychydig yn fwy tebygol o ysmygu na menywod; yr oedd canran y • boblogaeth a oedd yn ysmygu yn gostwng gydag oedran.

Roedd oedolion mewn cartrefi sy’n cael eu rhedeg gan rywun yn y grwp galwedigaeth • lled-gyffredinol / cyffredinol neu rywun nad yw erioed wedi gweithio / sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir yn fwy tebygol o ysmygu na’r rhai mewn grwpiau cymdeithasol-economaidd eraill.

Roedd oedolion mewn ardaloedd â mwy o amddifadedd (fel y diffinnir gan Fynegai • Amddifadedd Lluosog Cymru) yn fwy tebygol o ysmygu na’r rhai mewn ardaloedd â llai o amddifadedd.

Roedd y ffactorau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn cynnwys oedran, grwp cymdeithasol-• economaidd, ardaloedd o amddifadedd, deiliadaeth tai ac addysg.

Canlyniadau a’r defnydd o wasanaethau

Yn 2005/06, dywedodd 66% o oedolion nad oeddent yn ysmygu eu bod yn cael eu • hamlygu’n rheolaidd i fwg tybaco, mewn tafarnau a mannau cyhoeddus eraill yn bennaf. (Roedd hyn cyn i’r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig ddod i rym).

Yn 2006-07, cysylltodd mwy na 12,000 o bobl â gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.•

Roedd ysmygwyr yn fwy tebygol o nodi bod eu hiechyd yn weddol neu’n wael na’r rhai • nad oeddent yn ysmygu

Amcangyfrifir bod 6,000 o farwolaethau y flwyddyn yn digwydd yn sgil ysmygu.•

Amcangyfrifir y bydd hanner yr ysmygwyr cyson yn marw o ganlyniad uniongyrchol i’r • arfer. Amcangyfrifir hefyd bod ysmygwyr yn marw 10 mlynedd ynghynt na phobl nad ydynt yn ysmygu

4

Page 7: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

1. CyflwyniadYsmygu yw prif achos afiechydon a marwolaethau cynnar y gellir eu hosgoi yng Nghymru.

Mae ysmygwyr yn wynebu mwy o risg o ddatblygu nifer o glefydau, yn cynnwys canser yr ysgyfaint, clefyd y galon, a chlefydau rhwystrol cronig yr ysgyfaint (fel broncitis). Ystyrir bod ysmygu yn gyfrifol am 8 o bob 10 o farwolaethau yn sgil canser yr ysgyfaint, 3 o bob 4 o farwolaethau yn sgil clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac 1 o bob 5 o farwolaethau yn sgil clefyd y galon1. Mae mathau eraill o ganser sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn cynnwys canser y geg, y gwddf, y bledren, y pancreas, y stumog a cheg y groth2. Bydd tua hanner yr holl ysmygwyr yn marw o glefydau a achosir gan ysmygu ac mae eu risg o farw cyn iddynt gyrraedd 65 oed ddwbl y risg o’i chymharu â'r risg i bobl nad ydynt yn ysmygu. Ceir tystiolaeth hefyd bod ysmygu’n niweidio iechyd pobl nad ydynt yn ysmygu. Ym 1998 daeth Pwyllgor y DU ar Dybaco ac Iechyd i’r casgliad fod amlygiad i fwg ail-law yn achosi canser yr ysgyfaint a chlefyd y galon ymysg oedolion nad ydynt yn ysmygu a chlefydau anadlol, marwolaeth yn y crud ac asthma ymysg plant3.

Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod ysmygu’n achosi tua 6,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau gwaith yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn4 5. Mae ysmygu hefyd wedi cael ei gydnabod fel y prif reswm dros y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Felly, mae lleihau ysmygu’n un o’r prif ffyrdd o leihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae’r camau y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi eu cymryd wedi canolbwyntio ar dri maes yn ystod y blynyddoedd diwethaf: annog pobl ifanc i beidio â dechrau ysmygu; helpu ysmygwyr i roi’r gorau iddi; ac ehangu amgylcheddau di-fwg. Mae negeseuon atal ysmygu wedi cael eu targedu at bobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, yn cynnwys y prosiect addysgu cymheiriaid ASSIST mewn ysgolion gyda phlant ifanc 12 a 13 oed sy’n cael ei roi ar waith gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHS) yn dilyn gwaith datblygu helaeth. Gan weithio â’r NPHS, sefydlwyd gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn y gymuned ledled Cymru, ac mae nifer yr ysmygwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth ar gynnydd. Yn fwyaf diweddar, ar 2 Ebrill 2007, cyflwynwyd deddfwriaeth yn gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig yng Nghymru. Amcangyfrifir y gallai deddfwriaeth ddi-fwg atal mwy na 400 o farwolaethau bob blwyddyn ymysg pobl nad ydynt yn ysmygu yng Nghymru oherwydd canser yr ysgyfaint, clefyd y galon, strôc a chlefyd anadlol6. Rhagwelir hefyd y bydd manteision iechyd i ysmygwyr, gan fod profiad mewn gwledydd eraill yn awgrymu y gall deddfwriaeth ddi-fwg helpu pobl i gwtogi ar faint y maent yn ei ysmygu a rhoi’r gorau iddi.

Nod yr adroddiad hwn yw cyflwyno darlun cyfredol o ysmygu yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd amrywiol ffynonellau ystadegol ar ysmygu. Mae’r ffocws ar dueddiadau o ran cyfraddau ysmygu ymysg oedolion a phobl ifanc, amrywiadau cymdeithasol-ddemograffaidd ac amrywiadau daearyddol, ffactorau sy’n gysylltiedig ag ysmygu, amlygiad i fwg ail-law, y defnydd o wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu a’r canlyniadau o ran iechyd a marwolaethau. Mae’r data’n cyflwyno’r darlun cyn i’r ddeddfwriaeth ddi-fwg ddod i rym a bydd yn sail ar gyfer monitro cynnydd. Caiff y gwaith hwn ei ailadrodd ar gyfnodau priodol er mwyn darparu tystiolaeth o effaith ystod o fentrau polisi sydd ar waith yng Nghymru.

1 Grwp Cynghori ar Dybaco Coleg Brenhinol y Ffisigwyr (2000). Nicotine Addiction in Britain. Llundain: Coleg Brenhinol y Ffisigwyr.2 Asiantaeth Ryngwladol Ymchwil Canser (2002) Tobacco smoke and involuntary smoking. IARC monographs on the evaluation of

carcinogenic risks to humans. Cyfrol 83. Lyon: IARC3 Adroddiad y Pwyllgor Gwyddonol ar Dybaco ac Iechyd (1998). Llundain: Yr Adran Iechyd.4 Parrot S, Godfrey C, Raw M et al (1998). Guidance for commissioners on the cost effectiveness of smoking cessation

interventions. Thorax v 53 (atodiad 5, rhan 2): A15 Parrott S, Godfrey C (2004). Economics of Smoking Cessation. BMJ v 328, 947-9496 David Cohen a Cathy Lisles, Prifysgol Morgannwg (2005): Modelling the Impact of a Ban on Smoking in Public Places in Wales.

5

Page 8: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Fel arfer caiff gwybodaeth am ysmygu ymysg y boblogaeth ei chasglu o arolygon sampl fel yr Arolwg Cartrefi Cyffredinol neu Arolwg Iechyd Cymru. Mae’r bennod hon yn rhoi darlun cryno o dueddiadau ysmygu yng Nghymru ac yn eu cymharu â thueddiadau yn yr Alban a Lloegr.

Tueddiadau ysmygu ymysg oedolion

Mae gwybodaeth am dueddiadau ysmygu ymysg oedolion wedi cael ei chofnodi ers y 1970au drwy’r Arolwg Cartrefi Cyffredinol (sy’n cwmpasu Cymru, Lloegr a’r Alban).

Mae Ffigur 1 yn dangos y duedd o ran canran y rhai sy’n ysmygu sigaréts yng Nghymru. Dengys i’r ganran gyffredinol o’r boblogaeth sy’n ystyried eu hunain yn ysmygwyr ostwng o 35% yn 1978 i 25% yn 2005. Yn gyffredinol mae canrannau uwch o ddynion yn ysmygu nag o fenywod.

Ffigur 1: Nifer y bobl oedd yn ysmygu sigaréts yng Nghymru (1978-2005*)

2. Cefndir

Ffynhonnell: Arolwg Cartrefi Cyffredinol

Prevalence of cigarette smoking, Wales (1978-2005*) Source: GHS

0

5

10

15

20

25

30

35

40

45

50

1978

1982

1986

1990

1994

1998

**

2000

**

2001

**

2002

**

2003

**

2004

**

2005

**

Can

ran

Dynion Menywod

* Mae gwybodaeth am ysmygu wedi cael ei chasglu bob blwyddyn o 2000 ymlaen** Data wedi'i bwysoli

6

Page 9: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Ysmygu fesul gwlad

Dengys Ffigur 2 ganran yr oedolion sy’n ysmygu sigaréts yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar gyfer 2005. Mae’r siart yn dangos bod cyfraddau ysmygu’n uwch yn yr Alban nag yng Nghymru a Lloegr. O’r tair gwlad, Cymru sydd â’r ganran isaf. Fodd bynnag, mae’r gwahaniaeth hwn yn annhebygol o fod yn arwyddocaol oherwydd y sampl cymharol fach ym mhob gwlad.

Ffigur 2: Y nifer oedd yn ysmygu sigaréts yn ôl gwlad (2005)

Cigarette smoking by country, (2005)Source: GHS

0

5

10

15

20

25

30

Cymru Lloegr Yr Alban

Canr

an

Ffynhonnell: Arolwg Cartrefi Cyffredinol

7

Page 10: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

3. Mamolaeth, plant a phobl ifancMae’r bennod hon yn dangos i ba raddau y mae plant a babanod yn y groth yn cael eu hamlygu i fwg tybaco. Gall amlygiad yn ystod beichiogrwydd a phan yn ifanc iawn arwain at bwysau geni isel; marwolaeth yn y crud a chanser yr ysgyfaint yn ddiweddarach mewn bywyd7. Caiff arferion ysmygu ymysg pobl ifanc eu dadansoddi yma hefyd.

Ysmygu yn ystod beichiogrwydd

Mae gwybodaeth am ysmygu yn ystod beichiogrwydd ar gael o Arolwg Bwydo Babanod y DU 2005. Ysmygodd mwy na thraean y mamau yng Nghymru (37%) ar ryw adeg yn ystod eu beichiogrwydd neu yn ystod y flwyddyn cyn beichiogi, gyda dim ond llai na hanner y gyfran hon (41%) yn rhoi’r gorau iddi ar ryw adeg cyn yr enedigaeth. Ysmygodd bron chwarter (22%) y mamau drwy gydol eu beichiogrwydd (yn cynnwys rhai a geisiodd roi’r gorau iddi ond a ailddechreuodd, a’r rhai a gwtogodd ar faint yr oeddent yn ei ysmygu). Dengys Ffigur 3 fod mamau yng Nghymru yn fwy tebygol o ysmygu ac yn llai tebygol o roi’r gorau iddi na mamau mewn gwledydd eraill yn y DU.

Ffigur 3: Y mamau oedd yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd, fesul gwlad (2005)

Mothers smoking during pregnancy, by country (2005)Source: IFS

0

5

10

15

20

25

30

35

40

Cymru Lloegr Yr Alban G. Iwerddon Y DU

Canr

an y

mam

au

ysmygu cyn neu yn ystod beichiogrwydd ysmygu drwy gydol y beichiogrwydd

Ffynhonnell: Arolwg Bwydo Babanod

Roedd lefelau uwch o ysmygu cyn neu yn ystod beichiogrwydd ymysg mamau mewn galwedigaethau cyffredinol a galwedigaethau gwaith llaw, ac ymysg y rhai dan 20 oed. Roedd y mamau hyn hefyd yn llai tebygol o roi’r gorau iddi cyn beichiogi neu yn ystod beichiogrwydd. Yr un oedd y patrwm ar gyfer Cymru â gweddill gwledydd y DU.

7 Mae Ysmygu’n Lladd – Papur Gwyn ar Dybaco (1998)

8

Page 11: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Ar ôl yr enedigaeth, yn ogystal â gofyn i’r mamau a oeddent hwy neu unrhyw un yn eu cartref yn ysmygu, gofynnwyd iddynt hefyd a oedd unrhyw un arall yn ysmygu yn y ty ar unrhyw adeg. Mae hyn yn rhoi rhyw syniad o’r gyfran o fabanod sy’n debygol o gael eu hamlygu i fwg tybaco yn y cartref. Ar ôl 4-6 mis, dywedodd 6% o’r holl famau yng Nghymru eu bod yn ysmygu yn y cartref ambell waith (sef 29% o’r mamau sy’n ysmygu). At ei gilydd, roedd 10% o fabanod yn byw mewn cartref lle roedd o leiaf un person yn ysmygu yn y cartref ambell waith. Ar ôl 8-10 mis, yr oedd y ffigur ar gyfer mamau sy’n ysmygu yn y cartref yn 6% a’r ffigur ar gyfer o leiaf un person yn ysmygu yn y cartref yn 9%.

Plant sy’n byw mewn cartrefi lle mae oedolion yn ysmygu

Yn ogystal â chwestiynau am ysmygu, mae Arolwg Iechyd Cymru yn cynnwys cwestiynau ar gyfansoddiad y cartref. Felly mae’n bosibl nodi cartrefi sy’n cynnwys plant ac edrych ar arferion ysmygu oedolion yn y cartrefi hyn. Yn 2005/06, roedd 37% o gartrefi â phlant yn cynnwys o leiaf un oedolyn a oedd yn ysmygu’n ddyddiol (a 43% o gartrefi yn cynnwys o leiaf un oedolyn oedd yn ysmygu’n ddyddiol neu’n achlysurol). O 2007 ymlaen bydd hefyd yn bosibl edrych ar y cartrefi â phlant lle mae oedolyn yn ysmygu yn y cartref.

Ysmygu ymysg pobl ifanc

Mae arferion ysmygu yn aml yn dechrau yng nghyfnod y glasoed ac yn effeithio ar iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae tystiolaeth yn awgrymu yr hwyraf y bydd rhywun yn dechrau ysmygu y lleiaf tebygol y bydd rhywun o fynd yn gaeth i’r arfer8. Caiff arferion ysmygu pobl ifanc eu monitro drwy’r Astudiaeth Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol, sef astudiaeth ryngwladol y mae Cymru yn cymryd rhan ynddi.

Mae Astudiaeth Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol yn defnyddio’r cwestiynau canlynol i fesur arferion ysmygu: a yw rhywun erioed wedi ysmygu tybaco, pa mor aml y maent yn ysmygu ar hyn o bryd, a faint oedd eu hoedran pan wnaethant ysmygu sigarét am y tro cyntaf.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yng nghyfran y bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed yng Nghymru a oedd yn dweud iddynt ysmygu tybaco ar ryw adeg (o leiaf un sigarét, sigâr neu bibell), gyda mwy o fechgyn na merched yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar ysmygu. Yn 2002, dywedodd 51% o fechgyn a 65% o ferched 15 oed iddynt roi cynnig ar ysmygu.

8 Adran Iechyd a Gwasanaethau Dynol yr Unol Daleithiau (1994). Preventing tobacco use among young people: a report of the Surgeon General.

9

Page 12: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Gellir defnyddio cyfran y bobl ifanc 15 oed sy’n dweud eu bod yn ysmygu’n wythnosol fel dangosydd ar gyfer ysmygu rheolaidd, a dangosir y duedd ar gyfer Cymru yn Ffigur 4. Dywedodd cyfran uwch o ferched na bechgyn eu bod yn ysmygu’n wythnosol (28% o ferched o’i gymharu ag 19% o fechgyn yn 2004). Cododd y ffigurau ar gyfer y bobl ifanc 15 oed a oedd yn ysmygu’n rheolaidd (yn wythnosol) yn sylweddol rhwng 1988 a 1996, ac yna sefydlogodd y cyfraddau ymysg merched a gostyngodd y cyfraddau ymysg bechgyn. Gwelwyd gostyngiad bach ymysg merched rhwng 2000 a 2002, y gostyngiad cyntaf ers 1988. Er bod y ffigurau diweddaraf ar gyfer 2004 yn dangos cynnydd bach ymysg bechgyn a merched byddai’n amhriodol dod i’r casgliad bod ysmygu ymysg pobl ifanc ar gynnydd yn seiliedig ar y data hwn sy’n ddata ar gyfer un flwyddyn yn unig. Bydd rhagor o ddata yn galluogi’r sefyllfa i barhau i gael ei monitro.

Ffigur 4: Pobl ifanc 15 oed oedd yn ysmygu’n wythnosol yng Nghymru (1986-2004)

Weekly smoking amongst 15-year-olds, Wales (1986-2004)Source: HBSC

0

5

10

15

20

25

30

35

1986 1988 1990 1992 1994 1996 1998 2000 2002 2004

Canr

an

bechgyn merched

Ffynhonnell: Arolwg Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol

10

Page 13: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Cymerodd 35 o wledydd ledled Ewrop a Gogledd America ran yn Astudiaeth Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol 2002. Dangosir y canlyniadau ar gyfer ysmygu rheolaidd (wythnosol) ymysg pobl ifanc 15 oed ar gyfer gwledydd penodol yn Ffigur 5.

Mae’r data’n dangos bod lefelau ysmygu yng Nghymru yn debyg i’r Alban ond ychydig yn is nag yn Lloegr. O’i gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer pob gwlad Astudiaeth Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol, roedd cyfran y bechgyn 15 oed a ddywedodd eu bod yn ysmygu’n rheolaidd yng Nghymru yn is na’r cyfartaledd ym mhob gwlad, ond roedd y gyfran ar gyfer merched ychydig yn uwch na’r cyfartaledd. Yn yr Ynys Las y cafwyd y gyfran uchaf o ysmygwyr rheolaidd 15 oed, ac ym Macedonia y cafwyd y gyfradd isaf.

Ffigur 5: Pobl ifanc 15 oed oedd yn ysmygu’n wythnosol mewn gwledydd penodol (2002)

Weekly smoking amongst 15-year-olds for selected countries (2002)Source: HBSC

0

10

20

30

40

50

60

70

80

Lloeg

r

Cymru

Yr A

lban

Yr Y

nys W

erdd

(uch

afsw

m)

Yr Is

eldiro

edd

(can

olrif)

Maced

onia

(isaf

swm)

Cyfa

rtaled

d

HBSC

Canr

an

bechgyn merched

Ffynhonnell: Arolwg Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yn 2002, dywedodd bechgyn a merched a oedd yn ysmygu’n rheolaidd yn 15 oed iddynt gael eu sigarét gyntaf pan oeddent yn 12 oed. Y cyfartaledd oedran ar draws y gwledydd Astudiaeth Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol oedd 12 i fechgyn a 13 i ferched.

11

Page 14: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

4. Ysmygu ymysg oedolionMae’r bennod hon yn defnyddio data o Arolwg Iechyd Cymru i edrych ar arferion ysmygu oedolion yng Nghymru a pha mor gyffredin ydyw ymysg is-grwpiau gwahanol o’r boblogaeth. Gall nodi patrymau mewn arferion ysmygu helpu i dargedu ymyriadau.

Statws ysmygu oedolion

Yn Arolwg Iechyd Cymru 2005/06, dywedodd 25% o oedolion eu bod yn ysmygu, dywedodd 28% eu bod yn arfer ysmygu a dywedodd 47% nad oeddent erioed wedi ysmygu. Mae hyn yn awgrymu bod tua 600,000 o oedolion yn ysmygu yng Nghymru (naill ai bob dydd neu’n achlysurol). Roedd y gyfran a ddywedodd eu bod yn ysmygu yn Arolwg Iechyd Cymru ychydig yn uwch na’r gyfran yn yr Arolwg Cartrefi Cyffredinol. Efallai bod hyn oherwydd gwahaniaethau yn yr union gwestiynau a ofynnwyd, cyd-destun yr arolygon a’r ffaith bod y ffigurau a ddyfynnwyd o’r Arolwg Cartrefi Cyffredinol yn cynnwys y rhai sy’n ysmygu sigaréts yn unig ac o bosibl yn eithrio nifer fechan o bobl sydd ond yn ysmygu pibell neu sigâr.

Dengys Ffigur 6 arferion ysmygu oedolion yn ôl rhyw. Dengys fod canran y rhai sydd ‘erioed wedi ysmygu’ ar ei uchaf ymysg menywod. Dywedodd cyfran uwch o ddynion na menywod eu bod yn ‘ysmygu’n ddyddiol’. Nid oes cymaint o ‘gyn ysmygwyr’ sy’n fenywod i gefnogi’r patrwm hwn sy’n awgrymu y bu llai o fenywod yn ysmygu na dynion yn hanesyddol.

Ffigur 6: Arferion ysmygu yn ôl rhyw (2005/06)

0

10

20

30

40

50

60

Ysmygu’nddyddiol

Ysmygu’nachlysurol

Ysmygwyr(a)

Cynysmygwyrdyddiol

Cynysmygwyrachlysurol

Cynysmygwyr

(b)

Erioed wediysmygu

Can

ran

Dynion 16+ oed Menywod 16+ oed

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru

Mae ysmygwr (a) yn cynnwys y rhai sy’n ysmygu’n ddyddiol neu’n achlysurol, ac mae cyn-ysmygwr (b) yn nodi’r rhai oedd yn arfer ysmygu’n ddyddiol neu’n achlysurol.

12

Page 15: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Amrywiadau mewn arferion ysmygu oedolion

Gellir dadansoddi arferion ysmygu oedolion yn ôl oedran, rhyw a ble mae pobl yn byw. Gellir cymhwyso data ar ddosbarthiad cymdeithasol-economaidd ac amddifadedd ardal hefyd.

Mae Ffigur 7 yn dangos canran fesul grwp oedran sy’n nodi eu bod yn ysmygwyr ac mae’n dangos bod ysmygu ar ei uchaf ymysg dynion, ac eithrio yn y grwpiau oedran 16-24 a 75+ lle mae’r cyfrannau yr un fath ar gyfer dynion a menywod. O ran dynion mae canran yr ysmygwyr ar ei uchaf ymysg y rhai rhwng 25 a 34 oed. Wrth i oedran gynyddu mae’r gyfran sy’n ysmygu yn gostwng. Mae’r patrwm yn debyg ar gyfer menywod, ond mae’r uchafbwynt yn y grwp oedran 25-34 yn is nag ymysg dynion.

Dengys y canlyniadau ym mhennod 3 bod mwy o ferched na bechgyn yn ysmygu ymysg pobl ifanc 15 oed. Dengys canlyniadau Arolwg Iechyd Cymru nad yw’r patrwm hwn yn cael ei adlewyrchu ymysg oedolion.

Ffigur 7: Ysmygu yn ôl grwp oedran (2005/06)

Smoking by age group (2005/06)Source: WHS

0

5

10

15

20

25

30

35

40

16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65-74 75+

Canr

an

Dynion MenywodFfynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru

Dengys Ffigur 8 ganran yr oedolion (yn ôl oed safonedig9) sy’n byw ym mhob awdurdod lleol a ddywedodd eu bod yn ysmygwyr yn Arolwg Iechyd Cymru (2004/06). Mae’r canrannau’n amrywio o 32% i 23%. Fodd bynnag, er gwaethaf yr amrywiad hwn, prin yw’r gwahaniaethau ag iddynt arwyddocâd ystadegol oherwydd maint cymharol fach y sampl ym mhob awdurdod lleol.

9 Mae safoni oedran yn galluogi cymariaethau i gael eu gwneud rhwng ardaloedd a allai fod â chyfrannau gwahanol o’r boblogaeth mewn grwpiau oedran gwahanol.

13

Page 16: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Ffigur 8: Ysmygu yn ôl awdurdod lleol (2004/06)

0

5

10

15

20

25

30

35

Blae

nau G

went

Caer

ffili

Gwyned

d

Pen-

y-bo

nt ar

Ogw

r

Conw

y

Caste

ll-ne

dd P

ort T

albot

Rhon

dda C

ynon

Taf

Tor-f

aen

Wre

csam

Caer

dydd

Sir D

dinby

ch

Merth

yr T

udfu

l

Casn

ewyd

d

Sir B

enfro

Aber

tawe

Bro M

orga

nnwg

Sir y

Fflin

t

Powys

Sir G

aerfy

rddin

Cere

digion

Ynys

Môn

Sir Fy

nwy

Canr

an y

n ôl

oed

saf

oned

ig Cymru

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru

Dengys Ffigur 9 ganran (yn ôl oed safonedig) yr oedolion a ddywedodd eu bod yn ysmygu, fesul grwp cymdeithasol-economaidd y cartref (drwy ddefnyddio NS-SEC10). Dengys y siart mai’r oedolion sydd leiaf tebygol o ysmygu yw’r rhai mewn cartrefi lle mae rhywun yn y grwp rheoli a phroffesiynol yn ben arnynt (12%); roedd cartrefi lle roedd rhywun mewn galwedigaeth lled-gyffredinol, cyffredinol neu rywun sydd heb weithio erioed neu a oedd yn ddi-waith yn yr hirdymor yn ben arnynt yn fwy tebygol o fod yn gartrefi lle yr oedd pobl yn ysmygu (rhwng 34% a 48%).

Ffigur 9: Ysmygu yn ôl dosbarth cymdeithasol-economaidd* (2005/06)

Smoking by socio-economic class* (2005/06)Source: WHS

0

10

20

30

40

50

Rheo

li a ph

roffe

siyno

l

uwch

Rheo

li a

phro

ffesiy

nol i

s

Cano

lradd

ol

Cyflo

gwyr

bac

h ne

u

huna

n-gy

floge

dig

Goruc

hwyli

ol a

thec

hneg

ol is

Lled-

gyffr

edinol

Cyffr

edinol

Erioe

d wed

i gwei

thio

a di-w

aith

yn yr

hird

ymor

Canr

an y

n ôl

oed

saf

oned

ig

*Dosbarthiad Cymdeithasol-Economaidd Ystadegau Gwladol (NS-SEC)

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru

10 Mae NS-SEC yn ddosbarthiad o sefyllfa cymdeithasol-economaidd ar sail galwedigaeth, a gyflwynwyd yn 2001 i’w ddefnyddio mewn ystadegau ac arolygon swyddogol. Yma mae’r categorïau gweithredol wedi cael eu cyfuno i wyth, yn seiliedig ar alwedigaeth. Defnyddir NS-SEC y penteulu.

14

Page 17: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Dengys Ffigur 10 ddadansoddiad o ysmygwyr sy’n oedolion yn ôl amddifadedd yr ardal, yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD)11. Hynny yw, mae’n dangos y ganran sy’n ysmygu yn y pumed lleiaf difreintiedig o’r boblogaeth, hyd at y ganran yn y pumed mwyaf difreintiedig. Awgryma’r siart bod perthynas rhwng amddifadedd a statws ysmygu, gyda chyfraddau ysmygu uwch ymysg y pumedau mwyaf difreintiedig o gymharu â’r pumed lleiaf difreintiedig.

Ffigur 10: Ysmygu yn ôl sgôr amddifadedd ardaloedd (2005/06)

Smoking by area deprivation scoreSource WHS (2005/06), WIMD 2005

0

5

10

15

20

25

30

35

40

1 (lleiafo amddifadedd)

2 3 4 5 (mwyafo amddifadedd)

Canr

an

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru (2005/06), Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2005

Ffactorau sy’n gysylltiedig ag ysmyguEr mwyn ymchwilio i’r ffactorau sy’n gysylltiedig ag ysmygu ymysg oedolion, gellir defnyddio amrywiol dechnegau ystadegol, fel atchweliad logisteg. Dadansoddwyd data Arolwg Iechyd Cymru yn y ffordd hon12.

Edrychwyd ar y canlyniadau ar gyfer dynion a menywod ar wahân, a chanfuwyd bod oedran, grwp cymdeithasol-economaidd (y cartref), sgôr Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, deiliadaeth tai, a chymhwyster addysg uwch yn ffactorau a chanddynt gysylltiad arwyddocaol ag ysmygu. Yn ogystal, canfuwyd bod statws economaidd yn arwyddocaol ar gyfer dynion, a tharddiad ethnig yn arwyddocaol ar gyfer menywod. Nid oedd yr awdurdod lleol lle yr oedd pobl yn byw yn arwyddocaol ar ôl ystyried yr amrywiolion eraill.

Roedd y tebygolrwydd o ysmygu, ar ôl ystyried ffactorau eraill, ar ei uchaf ymysg dynion 25-34 oed a menywod 25-44 oed, yna roedd y cyfrannau’n gostwng yn unol â chynnydd mewn oedran. Yn gyffredinol, roedd y tebygolrwydd mwyaf o ysmygu yn gysylltiedig â chartrefi gweithwyr cyffredinol neu weithwyr llaw, ardal o amddifadedd uchel, byw mewn llety wedi’i rentu, a lefelau is o gymwysterau (neu ddiffyg cymwysterau). Roedd dynion di-waith yn fwy tebygol o ysmygu na’r rhai a oedd yn gweithio, a menywod gwyn yn fwy tebygol o ysmygu na menywod nad ydynt yn wyn.

11 Mae’r WIMD yn cwmpasu nifer o feysydd yn cynnwys incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, tai, yr amgylcehdd ffisegol, a mynediad i wasanaethau, ynghyd â mynegai cyffredinol sy’n cyfuno’r holl feysydd. Mae WIMD 2005 yn rhoi sgorau amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is, neu LSOA). Rhannwyd yr LSOA’s yn “bumedau” o amddifadedd yn unol â sgorau amddifadedd cyffredinol WIMD, a dyrannwyd pob un o ymatebwyr Arolwg Iechyd Cymru i’r pumed perthnasol. (E.e. O blith y 1,896 o LSOAs yng Nghymru, mae’r bar cyntaf yn dangos y canlyniad ar gyfer y 379 o LSOAs â’r lleiaf o amddifadedd a’r pumed bar yn dangos y canlyniad ar gyfer y 379 o LSOAs â’r mwyaf o amddifadedd.) Mae gwybodaeth am yr WIMD ar gael yn http://www.wales.gov.uk/statistics.

12 Rhoddir manylion llawn atchweliad logisteg mewn adroddiad ar wahân, sydd ar gael drwy wefan Arolwg Iechyd Cymru. Defnyddiwyd data Arolwg Iechyd Cymru o 2003/04 a 2004/05. Mae’r dechneg yn amcangyfrif effaith annibynnol pob ffactor ar ysmygu ar ôl addasu ar gyfer pob ffactor arall yn y model. Er enghraifft, gellir ei ddefnyddio i edrych ar effaith dosbarth cymdeithasol-economaidd ar y tebygolrwydd o ysmygu ar ôl ystyried ffactorau eraill fel oedran, deiliadaeth tai a chymwysterau addysgol.

15

Page 18: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

5. Canlyniadau a’r defnydd o wasanaethau Mae’r bennod hon yn trafod canlyniadau amlygiad i fwg tybaco. Mae’n canolbwyntio ar amlygiad y rhai nad ydynt yn ysmygu i fwg tybaco, cyn i’r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig ddod i rym ym mis Ebrill 2007; y defnydd o wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru; ysmygu ac iechyd cyffredinol a marwolaethau yn sgil clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu.

Amlygiad y rhai nad ydynt yn ysmygu i fwg pobl eraill

Mae Arolwg Iechyd Cymru yn gofyn i oedolion a ydynt yn cael eu hamlygu i fwg tybaco pobl eraill yn rheolaidd mewn amrywiol leoedd. Yn 2005/06, dywedodd 66% o’r rhai nad ydynt yn ysmygu bod hynny’n wir. Dengys Ffigur 11 i’r rhan fwyaf o’r rhai nad oeddent yn ysmygu gael eu hamlygu i fwg ail-law mewn tafarnau a ‘mannau cyhoeddus eraill’. Roedd mannau eraill yn cynnwys cartrefi pobl eraill, trafnidiaeth gyhoeddus, yn y gwaith ac yn y cartref. Bydd y gwaharddiad ar ysmygu mewn lleoedd cyhoeddus caeëdig (a gyflwynwyd yng Nghymru ym mis Ebrill 2007) yn cael effaith uniongyrchol ar y mwg y caiff pobl ei amlygu iddo. Yn y dyfodol disgwylir i’r patrwm amlygiad a adlewyrchir yn y siart hwn newid, ac y bydd gostyngiad yn y niferoedd cyffredinol gyda’r ganran a amlygir i fwg yn eu cartrefi eu hunain a chartrefi pobl eraill yn cyfrif am y rhan fwyaf o amlygiad.

Ffigur 11: Amlygiad* y rhai nad oeddent yn ysmygu i fwg goddefol (2005/06)

Non smokers exposure* to passive smoke (2005/06)Source: WHS

0

10

20

30

40

50

60

Ar drafnidiaethgyhoeddus

Yn y cartref Yn y gwaith Yng nghartrefipobl eraill

Mewn mannaucyhoeddus eraill

Mewntafarnau

Canr

an

* Caiff y rhai a nododd amlygiad i fwg mewn mwy nag un math o le eu cyfrif ym mhob categori perthnasol

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru

Gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu

Ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2006-Mawrth 2007, gwnaeth pobl oedd yn byw yng Nghymru tua 12,700 o alwadau i wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol. Roedd nifer yr ysmygwyr a gymerodd ran mewn rhaglen driniaeth oddeutu 9,400 a’r nifer a oedd yn parhau i fod yn ddi-fwg erbyn wythnos 4 oddeutu 4,800. Roedd pob ffigur yn dangos cynnydd ar y flwyddyn flaenorol.

16

Page 19: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Ysmygu ac iechyd cyffredinol

Ni fyddai cymhariaeth syml rhwng arferion ysmygu ac iechyd cyffredinol yn ystyried dylanwad ffactorau eraill na gwahanol nodweddion ysmygwyr a’r rhai nad ydynt yn ysmygu. Edrychodd gwaith yn yr Alban ar ffactorau sy’n gysylltiedig ag iechyd gwael a hunanasesir13. Canfu fod cyn-ysmygwyr a arferai ysmygu’n rheolaidd ac ysmygwyr sigaréts, yn ddynion a menywod yn yr Alban, yn fwy tebygol o ddioddef iechyd gwael o gymharu â’r rhai nad oeddent erioed wedi ysmygu. Mae peth gwaith cychwynnol ar Arolwg Iechyd Cymru gan ddefnyddio technegau tebyg yn awgrymu bod cysylltiad arwyddocaol rhwng ysmygu ac iechyd cyffredinol a bod dynion a menywod sy’n ysmygu yn fwy tebygol o nodi bod eu hiechyd yn weddol neu’n wael o’u cymharu â’r rhai nad oeddent yn ysmygu14.

Marwolaethau yn sgîl clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu

Amcangyfrifir bod 6,000 o farwolaethau ar gyfartaledd wedi cael eu hachosi o ganlyniad i ysmygu yng Nghymru rhwng 1998 a 2002, ac o’r nifer a fu farw, i 24% o ddynion a 12% o fenywod farw oherwydd cyflwr yn gysylltiedig ag ysmygu15. Amcangyfrifir hefyd y bydd oddeutu hanner yr ysmygwyr cyson yn marw o gyflwr yn gysylltiedig â’r arfer, bod rhoi’r gorau i ysmygu’n lleihau’r perygl, a bod ysmygwyr sigaréts sy’n parhau i ysmygu yn marw tua 10 mlynedd ynghynt na’r rhai sydd heb ysmygu drwy gydol eu hoes16.

Dengys Ffigur 12 y gyfradd safonedig uniongyrchol (DSR) (wedi’i safoni ar sail poblogaeth Ewrop) ar gyfer marwolaethau yn sgil achosion penodol: canser yr ysgyfaint, clefyd coronaidd y galon (CHD), clefydau anadlol a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yn ôl rhyw ar gyfer y rhai 75 oed ac iau. Mae hyn yn rhoi syniad o farwolaethau cynnar. Mae’r siart yn nodi bod cyfradd uwch o farwolaethau yn sgîl canser yr ysgyfaint, clefyd coronaidd y galon, clefyd anadlol a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ymysg dynion o gymharu â menywod. Mae nifer o resymau pam mae pobl yn datblygu’r clefydau hyn ond un o’r prif resymau yw ysmygu.

13 Gweithrediaeth yr Alban (2005). The Scottish Health Survey 2003. Defnyddiwyd atchweliad logisteg – drwy reoli nifer o ffactorau ar yr un pryd, gellir canfod effaith annibynnol pob ffactor.

14 Adroddiad heb ei gyhoeddi gan Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Cymdeithasol (2007). Applying logistic regression techniques to Welsh Health Survey Data.

15 Asiantaeth Datblygu Iechyd (2004). The smoking epidemic in England.16 Doll et al (2005). Mortality in relation to smoking: 50 years’ observations on male British doctors. British Medical Journal.

328:1519

Ffigur 12: Marwolaethau yn sgil achosion penodol ymysg pobl dan 75 oed (2003-05)

Deaths from specific causes for people under 75 (2003-05) Source: Healthshow

0

10

20

30

40

50

60

70

80

90

100

Clefyd Coronaiddy Galon

Clefyd Anadlol Canser yr Ysgyfaint Clefyd RhwystrolCronig yr Ysgyfaint

Cyfr

add

oed

safo

nedi

g fe

sul 1

00,0

00

Dynion MenywodFfynhonnell: Healthshow

17

Page 20: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

6. Casgliad

Mae’r adroddiad hwn wedi cyflwyno ystod o ystadegau sy’n ymwneud ag ysmygu cyn y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig. Dengys tystiolaeth o’r gwledydd hynny lle y cyflwynwyd gwaharddiad, tystiolaeth o’r Alban yn fwyaf diweddar, y bydd effaith fuddiol i iechyd pobl Cymru yn yr hirdymor a gwelliant uniongyrchol o ran amlygiad pobl i fwg tybaco yn yr amgylchedd.

Er y bydd y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig yn lleihau mwg tybaco yn yr amgylchedd, awgryma’r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn bod yn rhaid i ddiwylliant ac agweddau tuag at ysmygu newid hefyd, yn arbennig ymysg plant ysgol a phobl ifanc. Dylai polisïau eraill fel y prosiect addysgu cymheiriaid ASSIST mewn ysgolion a gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn y gymuned ategu’r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig.

Caiff adroddiad arall ar ysmygu ei gyhoeddi ar ôl cyfnod priodol er mwyn helpu i fonitro cynnydd yn y maes hwn.

18

Page 21: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Arolwg Cartrefi CyffredinolCynhelir yr Arolwg Cartrefi Cyffredinol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae’n rhoi amcangyfrifon ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Defnyddir yr arolwg i gyflwyno darlun o gartrefi, teuluoedd ac unigolion. Cynhaliwyd yr Arolwg cyntaf yn 1971 ac fe’i cynhaliwyd bob blwyddyn ers hynny, ac eithrio pan gafodd ei adolygu yn 1997/1998 a phan wnaed gwaith ailddatblygu arno yn 1999/2000. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch arferion ysmygu i ymatebwyr yr Arolwg hwn sydd dros 16 oed am yn ail flwyddyn ers 1974. Ers y flwyddyn 2000 mae’r cwestiynau ynghylch ysmygu wedi cael eu cynnwys bob blwyddyn. Dylid bod yn ofalus wrth gymharu gwahanol flynyddoedd gan i bwysoliad gael ei gyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wneud iawn am ddiffyg ymateb. Prin yw effaith pwysoli ar ddata ysmygu, ac mae’n cynyddu lefelau cyffredinol ysmygu gan fod pwysoli’n lleihau'r cyfraniad at y ffigur cyffredinol ar gyfer pobl 60 oed a throsodd, lle mae’r gyfradd ysmygu yn gymharol isel.www.statistics.gov.uk/statbase/Product.asp?vlnk=5756

Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol Astudiaeth ymchwil ryngwladol yw Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol a gynhelir ar y cyd â Swyddfa Ranbarthol Ewrop ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n cynnwys gwledydd o Ewrop a Gogledd America. Cynhelir arolygon bob pedair blynedd, ac mae Cymru hefyd wedi cynnal arolygon interim bob dwy flynedd. Cynhelir yr astudiaeth mewn ysgolion, ac yng Nghymru mae’n cynnwys sampl o ddisgyblion 11, 13, a 15 oed.www.hbsc.org/ www.hbsc.org/countries/wales.html

Arolwg Bwydo BabanodArolwg cenedlaethol yw Arolwg Bwydo Babanod sy’n rhoi amcangyfrifon ar gyfer pedair gwlad y DU. Mae’n cwmpasu nifer y mamau sy’n bwydo ar y fron ac am ba hyd, ac arferion bwydo eraill a ddefnyddir gan famau yn ystod yr wyth i ddeng mis ar ôl i’w baban gael ei eni, ynghyd â gwybodaeth am eu harferion ysmygu a’u defnydd o alcohol.www.ic.nhs.uk/statistics-and-data-collections/health-and-lifestyles/infant-feeding/infant-feeding-survey-2005

Arolwg Iechyd CymruMae Arolwg Iechyd Cymru yn ffynhonnell wybodaeth am iechyd pobl Cymru a ffordd o fyw sy’n gysylltiedig ag iechyd. Dechreuodd yn 2003/04 ac mae 15,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn. Mae’n cynrychioli pobl o wahanol oedran, rhyw ac ardaloedd daearyddol ledled y wlad. Mae’r ffigurau yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2005/06 oni nodir yn wahanol.www.cymru.gov.uk/ystadegau

Safoni oedranMae cyfraddau ysmygu yn amrywio yn ôl oedran, ac felly gall proffiliau oedran gwahanol ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl effeithio ar y cymariaethau rhyngddynt. Defnyddiwyd safoni oedran ar ddata dethol yn Arolwg Iechyd Cymru er mwyn dileu’r ffactor oedran wrth gymharu dangosyddion a effeithir gan oedran neu ardaloedd preswyl a chanddynt broffiliau oedran gwahanol. Gweler adroddiad Arolwg Iechyd Cymru i gael rhagor o fanylion. Mae safoni oedran hefyd wedi cael ei gymhwyso i ddata marwolaethau.

Ffynonellau data a nodiadau

19

Page 22: ysmygu - NHS Wales smoking ban repo… · Nghymru. Mae’r gost i’r GIG yn y DU o drin clefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn £1.5 biliwn y flwyddyn a chollir 34 miliwn o ddiwrnodau

Ysmygu yng Nghymru: y ffeithiau

Mae’r adran hon yn cynnwys tablau dethol o ffigurau allweddol ar gyfer Cymru. Mae tablau manylach ar gael yn adroddiadau’r ffynonellau data a nodir uchod.

Tabl 1 - Canran yr oedolion oedd yn ysmygu sigaréts, yn ôl rhyw, rhwng 1978 a 2005Canran

1978 1982 1986 1990 1994 1998* 2000* 2001* 2002* 2003* 2004* 2005*Dynion 44 36 33 30 28 29 25 27 27 29 24 24Menywod 37 34 30 31 27 27 24 26 27 26 22 21Pawb 40 35 31 31 27 28 25 27 27 27 23 22* yn nodi data wedi’i bwysoliFfynhonnell: Arolwg Cartrefi Cyffredinol

Tabl 2 – Canran y bobl ifanc 15 oed oedd yn ysmygu’n wythnosol, yn ôl rhyw, rhwng 1986 a 2004 Canran

1986 1988 1990 1992 1994 1996 1998 2000 2002 2004Bechgyn 16 12 14 18 18 23 21 20 16 19Merched 20 19 22 25 26 29 29 29 27 28

Ffynhonnell: Ymddygiad Iechyd Mewn Plant Oedran Ysgol

Tabl 3 – Arferion ysmygu oedolion, yn ôl rhyw (2005/06)Canran

Ysmygwyr

dyddiolYsmygwyr achlysurol

Ysmygwyr (a)

Cyn ysmygwyr dyddiol

Cyn ysmygwyr achlysurol

Cyn ysmygwyr

(b)

Erioed wedi

ysmygu

Rhai nad ydynt yn ysmygu

(c)Dynion 21 5 27 18 12 30 43 73Menywod 20 5 24 13 12 25 51 76Pawb 20 5 25 15 12 28 47 75

Yn cynnwys y rhai sy’n ysmygu’n ddyddiol neu’n achlysurol(a) Yn cynnwys y rhai a arferai ysmygu’n ddyddiol neu’n achlysurol(b) Yn cynnwys y rhai a arferai ysmygu’n ddyddiol neu’n achlysurol, a’r rhai nad ydynt erioed (c) wedi ysmygu

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru 2005/06

Tabl 4 – Amlygiad oedolion nad oeddent yn ysmygu i fwg pobl eraill, yn ôl rhyw (2005/06)Canran

Amlygiad rheolaidd i fwg goddefol pan fyddant:

Amlygiad rheolaidd

i fwg goddefol

Yn y cartref

Yn y gwaith

Yng nghartrefi pobl eraill

Ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mewn tafarnau

Mewn mannau

cyhoeddus eraill

Dynion nad oeddent yn ysmygu 70 11 14 21 11 57 48Menywod nad oeddent yn ysmygu 63 11 8 22 10 46 46Pawb nad oeddent yn ysmygu 66 11 11 21 10 52 47

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru 2005/06

Tablau dethol

20