communicating | resourcing | reaching - seren cymru · 2020. 6. 17. · budd a bywyd y mwyaf bregus...

8
Cyf 5270 Pris 50c Gwener, Mehefin 26ain 2020 Wythnosolyn y Bedyddwyr SEREN CYMRU Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected] Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt. ‘Yn dilyn dyfodiad y feirws mae’r gyfrifoldeb a’r pwysau wedi cynyddu mewn modd na welwyd ers cenedlaethau. Bu’n rhaid wynebu sefyllfa a chymryd penderfyniadau nad oeddwn wedi meddwl byddai’n rhaid i mi erioed eu hystyried. Rwyf wedi bod yn gwasanaethu rhai eglwysi yn rhan amser ers dros 30 mlynedd ac mae’r ffydd syml sydd gennyf wedi bod yn gymorth ac yn gefn i mi ar hyd y daith, ond fyth mwy felly na dros y deufis diwethaf yma. Calondid mewn argyfwng ‘Fel Arweinydd Cyngor Sir Gâr un o’r pethau sydd wedi bod yn llenwi fy nyddiau a fy wythnosau yn ddiweddar yw trafod amryw faterion gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ffyrdd o ystwytho cyfreithiau a rheolau er mwyn ein galluogi ni i ddelio mor effeithiol ag sy’n bosibl gydag argyfwng y Coronavirus. ‘Wrth arwain y Cyngor drwy’r argyfwng presennol mae wedi bod yn galondid ac yn anrhydedd i weld a thystio i barodrwydd pobl Sir Gâr – yn staff y Cyngor, gwirfoddolwyr ac eraill – i dynnu gyda’i gilydd a bod yn barod, fel meddai Iesu, i gerdded yr ail filltir er mwyn estyn cymorth. Cefais fy syfrdanu gan storïau di-ri am ddewrder, dycnwch GOFALU AM BRAIDD O 200,000! Mae’r Parchg Emlyn Dole yn weinidog ar dair eglwys yng Nghwm Gwendraeth, gan gynnwys eglwys Annibynnol fywiog Caersalem, Pontyberem. Mae hefyd yn Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, sef y pumed awdurdod mwyaf yng Nghymru, gyda bron i 200,000 o drigolion a chyllideb flynyddol o £500m. Bu’r pum mlynedd diwethaf fel Arweinydd, mewn cyfnod o lymder ariannol, yn dipyn o her. Ond nid yw hynny i’w gymharu â’r faich anferth o ddelio â chanlyniadau’r haint Covid-19 – popeth o ddarparu ysbytai brys, parhâd gofal i’r henoed, bwyd i deuluoedd anghenus, sicrhau bob y sbwriel yn dal i gael ei gasglu, rhannu grantiau anferth i gynnal busnesau lleol, a llu o wasanaethau eraill. a menter ein pobl, ac rwy’n cymryd cysur yn y modd mae cymdeithas wedi cydweithio ac wedi anrhydeddu’r rheini sydd yn gweini arnom ni ac yn diogelu budd a bywyd y mwyaf bregus yn ein plith. Mae eu dewrder a’u menter wedi bod yn rhyfeddod. Maint y gwaith ‘Fe wnaeth cwmnïau adeiladu ein sir, mewn cyfnod o lai na thair wythnos, droi canolfannau llesiant ac ysgubor hyfforddi’r Scarlets yn ysbytai argyfwng – gyda 600 a mwy o welyau. Bu miloedd o staff y Cyngor Sir yn barod i newid cyfrifoldebau a gweithio gyda’r hwyr, dros nos a thros benwythnosau er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaethau cwbl hanfodol i’w cadw’n ddiogel. Hyd yn hyn, dosbarthwyd tua £40m mewn grantiau i fusnesau lleol. Rydym hefyd wedi dosbarthu 17,700 o brydau ysgol am ddim, 6,000 o barseli bwyd i deuluoedd anghenus, a 1.6m o eitemau PPE. Mae canolfan alwadau’r cyngor wedi delio â 46,000 o ymholiadau ers i’r argyfwng ddechrau a’r wefan wedi cael 1.3m o ymweliadau. Ffydd a gweithredoedd ‘Trwy’r cyfnod hwn, bu’r geiriau o Epistol Iago yn troi yn fy meddwl. Fy mrodyr, pa les yw i ddyn ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all ei ffydd ei achub ef? Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, ac un ohonoch yn dweud wrthynt,’Pob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd,’ ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau’r corff, pa les ydyw? Felly hefyd y mae ffydd, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw ynddi ei hun. Yn nameg y Samariad Trugarog, wedyn, mae Iesu’n galw arnom i garu ein cymydog. Diolch am ofal cymydog dros gymydog yn y cyfnod anodd hwn ac am yr ysbryd gwasanaethgar sydd ar led ar draws ein gwlad. Diolch bod neges Iesu i’w glywed yn glir iawn heddiw, ac yn cael ei weithredu. Ynghanol y newyddion drwg, rydym yn clywed straeon llawn dewrder ac ymroddiad am bobl sydd yn gweini ac yn gofalu am y rhai mwya bregus yn ein plith. Mae hynny yn ein cyflyru ni ymhellach a phob amser yn codi calon. Mae’n rhoi i ni’r fath o obaith sydd yn emyn mawr J. Vernon Lewis: Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes, nerth wedi llesgedd, coron ’r ôl croes; chwerw dry’n felys, nos fydd yn ddydd, Cartref ’r ôl crwydro, wylo ni bydd. ‘Diolch am yr emyn a’r Efengyl i’n cysuro a’n cadw’n gadarn yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn, a’r gobaith sicr y daw gwawr newydd wedi hirnos a loes y pandemig arswydus hyn.’ O’r Tyst

Upload: others

Post on 03-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Cyf 5270 Pris 50cGwener, Mehefin 26ain 2020

    Wythnosolyn y BedyddwyrSEREN CYMRU

    Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.

    Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected]

    Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt.

    ‘Yn dilyn dyfodiad y feirws mae’r gyfrifoldeb a’r pwysau wedi cynyddu mewn modd na welwyd ers cenedlaethau. Bu’n rhaid wynebu sefyllfa a chymryd penderfyniadau nad oeddwn wedi meddwl byddai’n rhaid i mi erioed eu hystyried. Rwyf wedi bod yn gwasanaethu rhai eglwysi yn rhan amser ers dros 30 mlynedd ac mae’r ffydd syml sydd gennyf wedi bod yn gymorth ac yn gefn i mi ar hyd y daith, ond fyth mwy felly na dros y deufis diwethaf yma.

    Calondid mewn argyfwng‘Fel Arweinydd Cyngor Sir Gâr un o’r pethau sydd wedi bod yn llenwi fy nyddiau a fy wythnosau yn ddiweddar yw trafod amryw faterion gyda Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ffyrdd o ystwytho cyfreithiau a rheolau er mwyn ein galluogi ni i ddelio mor effeithiol ag sy’n bosibl gydag argyfwng y Coronavirus. ‘Wrth arwain y Cyngor drwy’r argyfwng presennol mae wedi bod yn galondid ac yn anrhydedd i weld a thystio i barodrwydd pobl Sir Gâr – yn staff y Cyngor, gwirfoddolwyr ac eraill – i dynnu gyda’i gilydd a bod yn barod, fel meddai Iesu, i gerdded yr ail filltir er mwyn estyn cymorth. Cefais fy syfrdanu gan storïau di-ri am ddewrder, dycnwch

    GOFALU AM BRAIDD O 200,000! Mae’r Parchg Emlyn Dole yn weinidog ar dair eglwys yng Nghwm Gwendraeth, gan gynnwys eglwys Annibynnol fywiog Caersalem, Pontyberem. Mae hefyd yn Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, sef y pumed awdurdod mwyaf yng Nghymru, gyda bron i 200,000 o drigolion a chyllideb flynyddol o £500m. Bu’r pum mlynedd diwethaf fel Arweinydd, mewn cyfnod o lymder ariannol, yn dipyn o her. Ond nid yw hynny i’w gymharu â’r faich anferth o ddelio â chanlyniadau’r haint Covid-19 – popeth o ddarparu ysbytai brys, parhâd gofal i’r henoed, bwyd i deuluoedd anghenus, sicrhau bob y sbwriel yn dal i gael ei gasglu, rhannu grantiau anferth i gynnal busnesau lleol, a llu o wasanaethau eraill.

    a menter ein pobl, ac rwy’n cymryd cysur yn y modd mae cymdeithas wedi cydweithio ac wedi anrhydeddu’r rheini sydd yn gweini arnom ni ac yn diogelu budd a bywyd y mwyaf bregus yn ein plith. Mae eu dewrder a’u menter wedi bod yn rhyfeddod.

    Maint y gwaith‘Fe wnaeth cwmnïau adeiladu ein sir, mewn cyfnod o lai na thair wythnos, droi canolfannau llesiant ac ysgubor hyfforddi’r Scarlets yn ysbytai argyfwng – gyda 600 a mwy o welyau. Bu miloedd o staff y Cyngor Sir yn barod i newid cyfrifoldebau a gweithio gyda’r hwyr, dros nos a thros benwythnosau er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaethau cwbl hanfodol i’w cadw’n ddiogel. Hyd yn hyn, dosbarthwyd tua £40m

    mewn grantiau i fusnesau lleol. Rydym hefyd wedi dosbarthu 17,700 o brydau ysgol am ddim, 6,000 o barseli bwyd i deuluoedd anghenus, a 1.6m o eitemau PPE. Mae canolfan alwadau’r cyngor wedi delio â 46,000 o ymholiadau ers i’r argyfwng ddechrau a’r wefan wedi cael 1.3m o ymweliadau.

    Ffydd a gweithredoedd‘Trwy’r cyfnod hwn, bu’r geiriau o Epistol Iago yn troi yn fy meddwl. Fy mrodyr, pa les yw i ddyn ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all ei ffydd ei achub ef? Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, ac un ohonoch yn dweud wrthynt,’Pob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd,’ ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau’r corff, pa les ydyw? Felly hefyd y mae ffydd, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw ynddi ei hun. Yn nameg y Samariad Trugarog, wedyn, mae Iesu’n galw arnom i garu ein cymydog. Diolch am ofal cymydog dros gymydog yn y cyfnod anodd hwn ac am yr ysbryd gwasanaethgar sydd ar led ar draws ein gwlad. Diolch bod neges Iesu i’w glywed yn glir iawn heddiw, ac yn cael ei weithredu. Ynghanol y newyddion drwg, rydym yn clywed straeon llawn dewrder ac ymroddiad am bobl sydd yn gweini ac yn gofalu am y rhai mwya bregus yn ein plith. Mae hynny yn ein cyflyru ni ymhellach a phob amser yn codi calon. Mae’n rhoi i ni’r fath o obaith sydd yn emyn mawr J. Vernon Lewis:Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes,nerth wedi llesgedd, coron ’r ôl croes;chwerw dry’n felys, nos fydd yn ddydd,Cartref ’r ôl crwydro, wylo ni bydd.‘Diolch am yr emyn a’r Efengyl i’n cysuro a’n cadw’n gadarn yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn, a’r gobaith sicr y daw gwawr newydd wedi hirnos a loes y pandemig arswydus hyn.’ O’r Tyst

  • 2Seren Cymru Gwener, Mehefin 26ain 2020

    O Gadairy GolygyddJohn P Treharne

    Cofiwch yrru unrhyw ddeunydd ar gyfer Seren Cymru at:

    [email protected]

    Un gwaed, un Gwaredwr

    Mae eitem arall wedi bod yn llenwi’r newyddion yn yr wythnosau diwethaf, sef marwolaeth George Floyd dan law heddlu Minneapolis a holl ganlyniadau hynny. Mae’r heddwas a’i restiodd wedi ei ddiswyddo a’i gyhuddo o lofruddiaeth, a thri arall o’i gynorthwyo. Mae hyn wedi arwain at lu o brotestiadau yn yr U.D.A. ac ar draws y byd yn erbyn hiliaeth, gan fod Mr. Floyd yn ddyn du a Derek Chauvin yn wyn. Mae rhai o’r protestiadau wedi troi’n dreisgar, rhai wedi arwain at ddymchwel cofebau a cherfluniau pobl fu’n elwa ar gaethwasiaeth a rhai wedi cydfynd ag ysbeilio siopau yn America.

    Un gwaedMae’n drist ac yn ofid i glywed am hyn eto, a gwnaeth i mi feddwl am eiriau’r Apostol Paul wrth bregethu yn Athen yn Actau 17.26: “Gwnaeth ef hefyd o un dyn yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan osod cyfnodau penodedig a therfynau eu preswylfod.”

    Mae’n dweud wrth yr Atheniaid fod y ddynoliaeth gyfan yn dod o un gwaed, un dyn, sef Adda. Roedd syniad gan bobl Athen taw nhw oedd rhai gwreiddiol y ddynoliaeth, a’u bod yn tarddu o’u daear eu hunain,

    ac yn trigo yno ers y dechrau. Mae Paul, fel Genesis, yn dweud ein bod i gyd yn ddisgynyddion Adda. Yn ei sofraniaeth a’i ras, roedd Duw wedi gwasgaru pobloedd trwy gymysgu eu hieithoedd. Eu bwriad nhw oedd uno i gystadlu â Duw, ond gwnaeth yr Arglwydd yn siwr ei fod yn llenwi’r ddaear, fel yr oedd wedi ei fwriadu. Felly, ryn ni gyd yn blant Adda. Does dim un hil yn well na’i gilydd. Does dim sail i hiliaeth cenedlaethol nac o ran lliw croen.

    Peth arall sydd yn clymu pawb o’r ddynoliaeth wrth ein gilydd yw ein pechod: “Nid oes neb cyfiawn, nac oes un, neb sydd yn deall, neb yn ceisio Duw.” Rhuf.3.10-11.

    Does dim gwahaniaeth os ydym yn Iddewon neu o blith y Cenhedloedd, yn ddu neu’n wyn ein croen, yn grefyddol neu’n ddi-grefydd.

    Un GwaredwrMae’r Beibl yn glir hefyd mai Un Duw sydd, sef Yahweh, Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, ac un Ffordd sydd o ddod ato, o ddod yn iawn gyda Duw: “Dywedodd Iesu wrtho, ‘Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.’” Ioan 14.6.

    Fe gawn yr un neges gan yr Apostol Paul: “Oherwydd un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef Crist Iesu, yntau yn ddyn.” 1 Tim.2.5. Felly, rhaid i ni gyflwyno’r Efengyl i bob creadur, beth bynnag ei liw a’i lun.

    Gweddïwn na fyddwn yn euog o hiliaeth, ffafriaeth na derbyn wyneb. Gofynnwn am ras i drin pawb yn

    gyfartal. Gweddïwn am ras i gyflwyno Efengyl Iesu Grist i bawb ddaw ar ein traws, pwy bynnag y bo. Diolch fod yr Efengyl hefyd yn creu dynoliaeth newydd o bob llwyth, gwlad, iaith a chenedl, yng Nghrist.

    Oedfaon dros ZoomDros y misoedd olaf fe ddatblygodd Zoom i fod yn gyfrwng effeithiol i gynnal oedfaon, astudiaethau Beiblaidd, cyfarfodydd gweddi, gwersi astudiaeth ac Yagol Sul, mewn cyfnod pan nad yw yn bosib i ni gyfarfod wyneb yn wyneb. Isod ceir rhai canllawiau i’n diogelu ar lein yn y cyfnod yma.

    Yng nghyswllt eglwysi sy’n defnyddio Zoom neu’n ystyried ffyrdd eraill o gysylltu ar-lein, mae’r mater o ddiogelwch yn parhau i fod yn un pwysig. Dyma grynodeb syml o’r hyn y gallwch ei wneud i gadw’n ddiogel. Ceir esboniad llawnach ar-lein yn: http://www.buw.org.uk/cadwnddiogel-wrth-ddefnyddio-zoom-arlein/

    Pam diogelu ein hunain? Oherwydd gall rhywun â bwriad maleisus fod yn targedu ac yn rhannu cynnwys amhriodol, sarhaus neu hyd yn oed anghyfreithlon. Dyma rai canllawiau:

    1. Peidiwch â gwneud eich cyswllt cyfarfod Zoom neu’ch codau mynediad yn gyhoeddus.2. Ewch ati i greu dolenni cyfarfod newydd a defnyddio cyfrineiriau cyfarfod.3. Defnyddiwch y cyfleuster ‘Ystafell Aros’ i sgrinio mynediad.4. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pwy sydd yn yr Ystafell.5. Clowch y cyfarfod ar ôl dechrau.6. Analluogwch y ‘Rhannu Sgrin’.7. Distewch ‘All’ i atal ymyriadau.8. Cadwch lygad ar y blwch sgwrsio.9. Symudwch unrhyw westeion diwahoddiad.10. Ataliwch “File Transfer & Annotation”.

  • Gwers 40 – Sul, 28 Mehefin

    wrth dy draed, O dysg i mi beth wyf fi, a phwy wyt ti.

    (Caneuon Ffydd, 116)

    HAGGAI

    Fel hyn y dywed ARGLWYDD yLluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr.”(Haggai 1:7; tud. 288 yn y Gwerslyfr)

    Darllen: Haggai 1:1–2:9; Mathew6:24–34

    Gweddi: Tyn fy serchiadau’n gryno iawn

    oddi wrth wrthrychau gau at yr un gwrthrych ag sydd fyth

    yn ffyddlon yn parhau.’Does gyflwr dan yr awyr las

    ’rwyf ynddo’n chwennych byw, ond fy hyfrydwch fyth gaiff fod

    o fewn cynteddau ’Nuw. Amen.(Caneuon Ffydd, 296)

    Wel dyma air amserol: ‘Ystyriwch eichcyflwr.’ Er nad pandemig oedd yr achosar gyfer y geiriau yn adeg y proffwydHaggai, tua 520 CC, yr oedd y byd, aJwdea wedi’r gaethglud, mewn berw onewid a thensiynau. Roedd yr Iddewon

    a ddychwelodd o Fabilon mewngwrthdaro â’r rhai oedd wedi eu gadaelar ôl yn y wlad heb eu caethgludoynglªn â phwy oedd berchen y tir, a’r tirwedi ei adael yn segur ers degawdauangen llafur caled i’w adfer. Ychydig ofeddwl roddent bellach i ailgodi’r deml.

    Ond cododd Duw ddau broffwyd i’wdwyn yn ôl o’u crwydro i addoli Duw,sef Sechareia a Haggai. Y cyntaf sy’ncael y mwyaf o’r sylw, ond mae negesHaggai yr un mor bwysig, ac yngadarnhaol yn y pen draw. Rhoi siars iSorobabel y llywodraethwr a Josua yrarchoffeiriad er mwyn sicrhau bod eublaenoriaethau hwy a’r bobl yn iawn ymae Haggai yn yr adnod dan sylw.Mae’r proffwyd yn cysylltu’ranawsterau y maent yn eu hwynebuwrth amaethu yn uniongyrchol â’r ffaithfod tª Duw yn adfail o hyd. Wedi’rcyfan, onid dyma oedd yr ysgogiadiddynt ddychwelyd yn y lle cyntaf?

    Y syndod yw eu bod wedi ymateb ynddi-oed: ‘Gwrandawodd Sorobabel fabSalathiel a Josua fab Josedec, yrarchoffeiriad, a holl weddill y bobl, arlais yr ARGLWYDD eu Duw a geiriauHaggai, y proffwyd a anfonodd yrARGLWYDD eu Duw; ac ofnodd ybobl o flaen yr ARGLWYDD’ (1:12).

    Mae’r adnodau nesaf yn rhyw agosáuat dywalltiad Pentecostalaidd wrth iDduw gyffroi ‘ysbryd Sorobabel fabSalathiel, llywodraethwr Jwda, acysbryd Josua fab Josedec, yrarchoffeiriad, a gweddill y bobl; adaethant a dechrau gweithio ar dªARGLWYDD y Lluoedd, eu Duwhwy’ (1:13).

    Mae’r cysylltiad rhwng ffyddlondeb iDduw a’r fendith yn un uniongyrchol,bron yn faterol ei natur, yn yr HenDestament. Ystyriwch yr adran amfendith a melltith yn Deuteronomiumpenodau 27–8; ac yn arbennig30:19–20: ‘Yr wyf yn galw’r nef a’rddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw,imi roi’r dewis iti rhwng bywyd acangau, rhwng bendith a melltith. Dewisdithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydiâ’th ddisgynyddion, gan garu’rARGLWYDD dy Dduw, a gwrando arei lais a glynu wrtho; oherwydd ef ywdy fywyd, ac ef fydd yn estyn dyddyddiau iti gael byw yn y tir yraddawodd yr ARGLWYDD i’th dadau,Abraham, Isaac a Jacob, y byddai’n eiroi iddynt.’

    Er bod Iesu’n geirio’r siars ynwahanol yn ei Bregeth ar y Mynydd,daw’r ergyd yr un mor gryf, nad ydym iwasanaethu dau feistr, ond yn hytrach,rydym i ‘geisio yn gyntaf deyrnasDduw a’i gyfiawnder ef, a rhoir ypethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi’(Mathew 6:33).

    Cyn hir, yn wir o fewn y mis dilynol,daw’r addewid cadarnhaol drwy’rproffwyd, ‘Bydd gogoniant y tªdiwethaf hwn yn fwy na’r cyntaf,’ meddARGLWYDD y Lluoedd; ‘ac yn y llehwn rhof heddwch’ (2:9). Ynghyd âphroffwydoliaeth Sechareia, y mae sawlarwyddbost Meseianaidd yn Haggai atfywyd a gweinidogaeth ein HarglwyddIesu.

    Trafod ac ymateb:

    1. ‘Chwilia fi, O Dduw’. Pa mor aml ybyddwch yn ystyried eich cyflwrysbrydol? Beth am fyfyrio arSalmau 51 a 139 a’u defnyddio felpatrwm mewn gweddi.

    2. Ystyriwch eiriau Iesu am chwalu’rdeml, ac am adeiladu ei Eglwys, yngngoleuni’r addewid am ogoniantyr ail dª (Ioan 2:19–22, Mathew24:1–2; 16:18; cymharer hefyd1 Pedr 2:1–10).

    3. Darllenwch emyn 608 yn CaneuonFfydd: ‘Na foed cydweithwyrDuw …’ gan weddïo ar i’r Arglwyddgodi gweithwyr newydd heddiw iailgodi’r tª.

    Mehefin 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Emyn i bawb(Mesur 8.7.8.7.D;

    addas ar y dôn Prysgol)

    Beth yw’r aflwydd anweledigSydd yn herio pawb i gyd

    Gan gyfyngu gweithgareddauAngenrheidiol yr holl fyd?

    Ymddiriedwn yn yr Iesu,Gyda’i allu ym mhob man;

    Ef yw’r Arglwydd atgyfododdSydd ar gael i’r tlawd a’r gwan.

    Ysbryd y Gwirionedd oesol Ddeil i eiriol drosom ’nawr

    Er mwyn uno’r byd dan fendithIesu’n maddau’n beiau mawr.

    Duw o’i ras sydd yma’n rhoddiO’i gymeriad Ef yn llawn

    Gariad perffaith byth na dderfyddI’n hiacháu ni oll yn iawn.

    Cysur gobaith sy’n y canolGyda Christ a’r Tad ei Hun;

    Mae y Drindod lawer cryfachNa’r un haint wyneba dyn.

    Diolch am ryw awydd newyddI ymateb iddo’n well,

    Dilyn Crist i garu eraill, Boed nhw’n agos neu ymhell.

    Awdur heddwch, grym maddeuant,Fe ddaw’r sylwedd pur o’r Nef;

    Gwelir yma hanfod cariadDrwy ei gyffyrddiadau Ef.

    Saif ei Deyrnas eto’n gadarnWrth gyfarfod ’gylch y bwrdd

    Rhaid yn gyson ddal mewn gweddi; Iesu’n Ceidwad ddaw i’n cwrdd.

    Dewi Williams, Llannefydd

    Diolch i Dewi am ei waith yn mynd atii greu emyn yn y cyfnod ac i’r cyfnodhwn, ac am fod mor barod i’w rhannugyda ni. (Gol.)

    AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

    gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

    sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

    Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

  • tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Dros y misoedd diwethaf gwelwyd llawer iawn o bobl yn meddwlyn fwy creadigol am syniadau a dulliau o gyrraedd cynulleidfaynysig gyda neges yr efengyl. Mewn cyfnod pan ddaeth yr oedfaonyn ein capeli a’n heglwysi i ben dros dro, heb sôn am gyfarfodyddy festri – yr ysgol Sul, clwb plant ac ieuenctid, cwrdd gweddi,seiat, bore coffi, ayyb – mae ein harweinwyr ac aelodau wedi bodyn meddwl am ffyrdd newydd o ymestyn allan i gefnogi ein gilyddyn ysbrydol yng nghyfnod y pandemig hwn.

    Gwelwyd llawer iawn yn troi at ddarlledu ar y we: rhai’ngwneud hynny yn fyw ar Facebook neu dros Zoom, ac eraill ynparatoi oedfaon ymlaen llaw er mwyn eu rhannu â chynulleidfaehangach. Bu i Gyngor yr Ysgolion Sul yn y dechrau geisio dwyny gwahanol ymdrechion hyn ynghyd, gan weithredu fel ‘hwb’canolog i ymdrechion y gwahanol eglwysi a mudiadau Cristnogolyng Nghymru.

    Yn fuan iawn ar ein gwefan roedd gwybodaeth am oddeutu 30o oedfaon byw bob Sul ar Facebook, a rhestr hefyd lle roedd moddeu gwylio eto ar YouTube. O dipyn i beth, fe ymddangosoddambell astudiaeth, ambell wers ysgol Sul, ambell stori blant, sgwrsieuenctid, caneuon ac emynau ayyb, a bellach roedd y rhestr ynmynd yn faith ac yn fler.

    Felly, rai wythnosau yn ôl aeth Cyngor yr Ysgolion Sul /beibl.net ati i sefydlu sianel deledu ar un o’i gwefannau, sefwww.cristnogaeth.cymru, gan enwi’r sianel yn Teledu CristnogolCymru. Trwy ymweld â’r wefan fe ddowch ar draws adran sy’nedrych yn ddigon tebyg i ambell sianel deledu boblogaidd fel yriPlayer gan y BBC neu S4C Clic.

    Ar hyn o bryd, mae yna saith adran wahanol o fewn y wefan, sef:

    Oedfaon Cyflawn • Y Beibl • Plant ac Ieuenctid • MawlNewyddion a Ffeithiol • Gweddi • Myfyrdodau

    O fewn yr adrannau hyn fe geir wedyn ‘sianeli’ gwahanol.

    Trwy ymweld â’r adran ‘Oedfaon’, ceir tair prif sianel, sef oedfaonwythnosol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, oedfaon ‘Einpregethwr gwadd ...’ gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a’r sianelgyffredinol, lle rydym yn rhannu dwy neu dair oedfa o’r holleglwysi rydym yn ymwybodol ohonynt sy’n cyhoeddi oedfaon ynrheolaidd. Y gobaith dros yr wythnosau nesaf yw creu sianeliunigol ar gyfer eglwysi, felly gellir dewis ymweld â SianelEbeneser, Caerdydd, yn syth neu’r Tabernacl, Caerdydd, neuEglwys Dewi Sant, Caerdydd, heb sôn am Eglwys CwmpawdCaerdydd, sef yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg yn y ddinas – acmae hyn yng Nghaerdydd yn unig.

    Yn ein hadran ‘Mawl’, ceir tair sianel eto, sef emynautraddodiadol, caneuon cyfoes ysbrydol mwy diweddar, ac adran oganeuon plant. Bydd yr adran yma hefyd cyn hir yn cynnwys adrangarolau yn ogystal â thonau y gellir eu defnyddio fel cyfeiliant.

    Yn ein hadran ‘Plant ac Ieuenctid’, mae yna sianel cartwnauBeiblaidd, sianel o wersi ysgol Sul, sianel stori a chrefft, heb sônam sianel yn llawn sgyrsiau ar gyfer pobl ifanc.

    Rydym yn ceisio bod mor gynhwysol â phosib, gan gynnwys yramrywiaeth o adnoddau sy’n cael eu paratoi gan Gristnogion yn ycyfnod yma. Os gwyddoch am unrhyw gynnwys sy eisoes arYouTube, yna rhowch wybod i ni, er mwyn i ni greu’r dolenni acychwanegu’r cynnwys at ein ‘rhestr chwarae’ ar YouTube.

    Mae hwn yn wasanaeth cwbl rad ac am ddim, wrth gwrs, aceisoes mae dros 25 o sianeli gwahanol sy’n cynnwys dros 600 oeitemau Cristnogol Cymraeg ar gael i’w gwylio. Diolch i bob uncyfrannydd sy wrthi’n ddyfal ar hyn o bryd yn addasu ac yn creudeunydd ffilm creadigol ar ein cyfer. Noder mai cynnwys trydyddparti a geir ar y sianel hon gan fwyaf, drwy greu dolenni i sianeliYouTube partneriaid a chysylltiadau enwadol. Er pob ymgais isicrhau bod y cynnwys yn addas ac yn briodol, ni allwn warantu nachymeradwyo holl gynnwys y sianel.

    Bendith ar y gwaith o baratoi ac ar y gwylio.

    Aled Davies, Cyngor yr Ysgolion Sul ([email protected])

    Lansio sianel deledu Gristnogol newydd yn y Gymraeg:

  • Rwyt ti’n byw yn Boston yn yr UnolDaleithiau ers blynyddoedd bellach.Dywed wrthym beth aeth â thi yno ynwreiddiol?

    Wel, fe ddes i America am y tro cyntaf iddarlithio ar ganmlwyddiant diwygiad1904 a sôn am y diwygiwr EvanRoberts. Yno fe gwrddes i â GwenfairWalters, merch Gwyn a Mair Walters aaeth i America yn y pumdegau ac oeddyn wreiddiol o ardal Llanelli. RoeddGwen yn arbenigwraig ar haneseglwysig ac yn darlithio yn SeminaryGordon Conwell yn Boston. Ar ôltreulio amser yn ei chwmni, yr unigddewis i mi oedd dod i’r Amerig arhannu ein llyfrgelloedd a phriodi!

    Mae’r pandemig wedi effeithio’ndrwm ar Ogledd a De America. Sutmae wedi effeithio arnat ti, dy deulu,yr eglwys a’r gwaith?

    Ydy, mae’r pandemig wedi newid einbywydau drwyddi draw. Yn ara bachdes i sylweddoli ar ddechrau misMawrth fod Covid-19 yn realiti yn yrAmerig, ac eto yr ymadrodd ‘Don’tPanic’ gan y Corporal Jones yn Dad’sArmy oedd yn dod i’n meddwl. Ond arôl pythefnos, roedd geiriau’r Corporalwedi hen ddiflannu wrth i mi ddechraubecso na fyddwn yn gallu dathlu DyddSant Padrig ar 17 Mawrth.

    Nawr rhaid esbonio fan hyn nad ydwi ddim yn dod o Iwerddon, ond rhaidcofio hefyd nad oedd Padrig yn un oIwerddon chwaith. Mae digon odystiolaeth mai Cymro glân ydoedd aaeth i efengylu ymysg y Gwyddelod, acoherwydd bod pawb yn yr UnolDaleithiau yn dathlu dydd Sant Padrig,fe benderfynais yn gynnar y byddwn ynCymreigio’r diwrnod, yn enwedigymhlith fy ffrindiau. Felly, mae cornedbeef and cabbage wedi dod yn hofffwyd i mi ar y diwrnod yma, ac rwy’nedrych ymlaen bob blwyddyn at wleddohono yn y dafarn leol. Fe gaeodd ydafarn ar ddiwrnod Sant Padrig. ByddaiEvan Roberts wrth ei fodd, wrth gwrs,ond roedd Kevin Adams yn gweldeisiau Mr Guinness, ei ffrind oIwerddon, a’r boiled dinner, fel maennhw’n ei alw yn Boston.

    Ers hynny wrth gwrs mae’r byd wedi

    newid (ddim am byth, gobeithio). Febenderfynon ni fel eglwys gau wythnoscyn oedd raid inni, a dechrau mynd ar-lein yn unig. Ry’n ni wedi bod ar y Weers amser ond yn awr dyma’r unigopsiwn. Felly scramble oedd hi, Battleof Britain style, i wneud y gorau allen niar y pryd. Rwy’n ddiolchgar fod fynghyd-weinidog yn ei dridegau ac yndeall y cyfan. Felly, Facebooklive yw hibob Sul a defosiwn deg munud bobdydd, heblaw dydd Sadwrn (fy Sabothyn yr ardd gyda’r adar).

    Mae hyn, wrth gwrs, yn bositif ac ynnegyddol. Ar yr ochr negyddol mae hi’nanodd pregethu ar y Sul i gapel gwagheblaw am ddyn camera, arweinydd ygân a’r dyn sain hollbwysig. Eto, ermwyn nodi’r positif, mae ’na gannoeddmwy yn troi i mewn am ychydig neufwy o’r addoliad. Rwy wedi gweld nifersydd wedi stopio dod i’r cwrdd erbynhyn yn troi i fyny ‘yn yr ysbryd’, felpetai, unwaith eto’n clywed y Gair acyn cael arweiniad. Dyma ateb i’ngweddïau am y flwyddyn ddiwethaf, ynfy marn i o leiaf. Fe benderfynom feleglwys gael cwrdd gweddi bob bore Sulo 8:30 hyd 9:30, jyst cyn i ni gynnalysgol Sul i’r plant a’r oedolion, i weddïodros y rhai sy’n absennol o’n mysg.Wel, mae nifer mawr o’r rhai hynnywedi bod yn gwrando o’r newydd.Falle’i bod hi’n rhy gynnar iddyn nhwddod yn ôl i’r capel, falle fod eisiauiddyn nhw ymgartrefu unwaith etomewn oedfa ar ôl amser o gilio. Diolcheu bod unwaith eto’n gwrando acefallai’n meddwl am eu bywydauysbrydol a lle Duw yn eu bywydau.Rwy’n rhyfeddu bod cannoedd yngwrando ac rwy’n cael fy nhemtio, fel yParch. Dennis Young, i weiddi,‘DIOLCH’!

    Clywsom am anniddigrwydd rhaigyda’r cyfyngiadau oherwydd ypandemig. Sut mae ysbryd y bobl yngyffredinol acw, a beth yw ymateb yreglwys?

    A dweud y gwir, mae Cymru wedi’ichael hi’n llawer mwy strict nag y maeMassachusetts. Er ein bod wedi collimwy o fywydau, eto mae ’na lawermwy o ryddid yma. Er enghraifft, rwy’ngallu trafaelu i’r gwaith, 20 milltir bobdydd. Mae pob gweithiwr Cristnogol yncael ei gyfrif yn weithiwrangenrheidiol. Felly, bob dydd rwyf ynswyddfa’r eglwys yn ceisio paratoi argyfer y We a ffonio aelodau. Mae ganGwen fyfyriwr sy’n aros gyda ni ac maehi’n gweithio o adre a finnau yn yswyddfa. Felly, ry’n ni wedi’i chael hi’nddigon rhwydd o’i gymharu â llawersydd wedi colli swydd, neu’n waeth,wedi colli aelodau o’u teuluoeddoherwydd y firws. Ry’n ni fel eglwyswedi cael chwech o’n haelodau yn dostac un wedi marw hyd yn hyn. Ma ’nagyfyngiadau, ond yn bersonol rhaid i nifel eglwys fod yn pro life fan hyn adiogelu bywydau’r henoed a’r anabl.

    Mae ’na nifer o ymatebion wrthgwrs, gan gynnwys gweddi, a help iwneud yn sifir fod pawb yn iawn yn yreglwysi unigol. Mae ’na aelodau syddwedi bod yn barod i siopa i’r henoed, erenghraifft. Gyda ni hefyd mae ’nabwyslais ar gadw in touch â phawb ar yWe, drwy Facebook, snail mail, achardiau a’r ffôn. Mae’n bwysig i niweld ein bod yn greaduriaid sydd angencymdeithas.

    Oes yna fwy o syched acw am bethauamgenach na’r materol?

    Rwy wedi gweld nifer yn troi at bethauysbrydol yng sgil y pandemig, ond ar yfoment mae hi’n rhy gynnar i weld afydd y troi yma’n aros. Feddigwyddodd rhywbeth tebyg ar ôl9/11, ond aeth pethe ’nôl i fel o’n nhwar ôl rhyw chwe wythnos. Wrth gwrs,rwy’n credu bod Duw yn galludefnyddio hyd yn oed y pandemig erdaioni. Er enghraifft, bu nifer oddiwygiadau crefyddol yng Nghymruyn dilyn y colera yn y bedwaredd ganrifar bymtheg. Yn 1857, yn EfrogNewydd, bu diwygiad a gyffyrddodd âChymru hyd yn oed, a hynny yn dilyncwymp y Farchnad Stoc. Ond ar yfoment mae’n anodd dweud.

    (parhad ar y dudalen nesaf)

    Mehefin 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Gair o’r Unol DaleithiauGyda chymaint o sylw i’r hyn sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau ar hyno bryd, dyma holi’r Parch. Kevin Adams, Boston, Massachusetts. Diolchiddo am fod yn fodlon cael ei gyf-weld gennym ar gyfer darllenwyr yTudalennau Cydenwadol yma yng Nghymru.

  • Clywsom yn ddiweddar amfarwolaeth George Floyd, a laddwydgan heddwas, a’r ymateb ledled ywlad a’r byd i hynny. Oeddet ti’ngweld yr ymateb yma’n dod neuydy’r amgylchiadau presennol wedidwysáu’r ymateb?

    Mae’r ymateb i farwolaeth GeorgeFloyd wedi bod yn massive. Fyddwn iddim wedi credu y gallai unrhyw storioresgyn y stori am y pandemig, ond ambythefnos mae’r pandemig wedi myndyn angof, fel petai wedi dod i ben. Ar ôlgweld y fideo erchyll o ddyn yn cael eiladd yn gyhoeddus, mae’r wlad wedicael wake-up call i realiti’r hiliaeth sy’ndal i fod yn broblem fan hyn yn yr UnolDaleithiau. Y peth calonogol am yprotestio yw fod du a gwyn yncydweithio ac yn cytuno bod angengweithredu i geisio osgoi’r fath beth yny dyfodol. Er fy mod yn erbyn unrhyw

    drais o gwbl mewn protest, mae’r rhanfwyaf o’r protestwyr yn heddychlon acrwy’n gobeithio mai felly y bydd petheyn y dyfodol.

    Does dim gwrthdystio fel hynwedi bod ers chwedegau’r ganrifddiwethaf. Ond ydy’r gwrth -dystiadau hyn yn wahanol yn eunatur?

    Y peth da rwy’n ei weld am ygwrthdystio yma yw ei fod yn cynnwysdu a gwyn, hen ac ifanc, Latino aSomali, ac yn y blaen. Nid race warydyw, ond rhyfel yn erbyn racism o bobmath.

    Pwy sy’n arwain ac yn dylanwadu ary protestwyr – oes yna rywun tebyg iMartin Luther King i’w gael ydyddiau hyn?

    Does dim MLK ’da ni yn America ar yfoment. A dweud y gwir, does dim unarweinydd sy’n sefyll allan. Mae’r NewYork Times wedi galw’r protestio ynorganig: from the bottom up. Mae’nbrotest y bobl, sy’n beth positif iawnond sydd a’i broblemau hefyd. Er bodpawb yn siarad ag un llais wrthgondemnio hiliaeth, mae llawer owahaniaeth barn o fewn y symudiad oran beth yw hanfod hiliaeth. Rwy’nsifir bod y diagnosis yn gywir onddydyn ni ddim wedi dod o hyd i’rvaccine a’r iachâd ar y foment.

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Gair o’r Unol Daleithiau (parhad)

    Protestio yn dilyn marwolaeth GeorgeFloyd – Washington, D.C., 30 Mai(Llun gan Rosa Pineda, Wikimedia)

    Beibl ar gau

    #blacklivesmatter

    Mae’n hen hen stori am Dduw a dyn,Ond ynddi felltith hen hen elyn:Yr hanes cyn co’ am rwygo brodyr,Am elyniaeth ddofn a wreiddiodd ein gwewyr.

    I’r tlawd mae’n sibrwd y daw eu rhyddid,I rai mae’n gysgod o wir addewid.O lef yr Aifft y daeth eu rhyddidI sibrwd tawel: “Fedra i’m anadlu.”

    Mewn print neu luniau lliwYn fy Meibl, Jehofa gwyn oedd Duw;Duw a greais ar fy nelw i,Duw heb awdurdod, Duw fel comoditi.

    Wrth ddarllen y Gair fe’n darllena ni,Yn gweld ein calon ac yn clywed ein cri.Nid prop i orchfygu, ond gair sy’n ein plygu,Yn gostwng y balch a chodi’r di-rymA chyhoeddi fod un gwell yn teyrnasu.

    Rhys Llwyd

    Gellir gweld Rhys Llwyd yn rapio’r gerdd honar ei gyfrif Facebook. Fe’i cyfansoddoddmewn ymateb i digwyddiadau diweddaraf yrymgyrch #blacklivesmatter

    Sul, 21 Mehefin

    OedfaDechrau Canu Dechrau Canmol

    am 11:00ybgyda’r Parch. Judith Morris yn arwain

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul am 7:30yh

    (ailddarlledir y bore Sul canlynol cynyr oedfa)

    Nos Sul, rydym ni ar daith i ddysgumwy am dreftadaeth rhai o’n henaddoldai ni sydd yn llawn hanesion astorïau difyr, ond bellach wedi cau'rdrws am y tro olaf. Bydd Lisa yn treulioamser yn Eglwys Llanfaglan yn dysgumwy am yr eglwys arbennig yma, aNia fydd ym Maesteg, yn clywedhanes diddorol Capel Bethania. Ynogystal â’r canu mawl, cawn fwynhauperfformiad gan Aled Wyn Davies.––––––––––––––––––––––––––––––

    Caniadaeth y CysegrSul, 21ain Mehefin7:30yb a 4:30yp

    Y Parchedig R. Alun Evans sy’ncyflwyno Saith ar y Sul, is-gyfresCaniadaeth y Cysegr. Heddiw,cantorion cymanfa Eglwys Sant Ana,Coedana, Ynys Môn, sy’n dewis euhoff emynau o gymanfa a gynhaliwydyno.

    Oedfa Radio Cymru

    Oedfa Radio Cymru am 12:00yp,21 Mehefin: Sian Rees, y GynghrairEfengylaidd.

    Mae Radio Cymru wedi newid trefn yddarpariaeth grefyddol ar y Sul ersmis Ebrill, gyda’r arlwy yn edrych felhyn bellach:

    7:30yb Caniadaeth y Cysegr12:00yp Yr oedfa12:30yp Bwrw Golwg16:30yp Caniadaeth y Cysegr

    (ailddarllediad)

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALENHuw Powell-Davies, Llifor, 60 Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 1QH neu

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebion a.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yn cael eu cynnwys yn rhan o bapurau wythnosol trienwad, sef Y Goleuad (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Seren Cymru (Undeb

    Bedyddwyr Cymru) a’r Tyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • Seren Cymru Gwener, Mehefin 26ain 20207

    Na ddiffoddwch yr Ysbrydgan Einir Jones

    Flynyddoedd yn ôl roedd y Cyngor yma yn Sir Gaerfyrddin yn arfer rhoi rholiau o fagiau sbwriel du a glas i ni, am ddim cofiwch! Du i sbwriel na ellid ei ailgylchu a glas ar gyfer papur, cardfwrdd, tuniau a phlastig. Wel, fe aeth y caredigrwydd hwnnw i ffordd yr holl ddaear, a dim ond bagiau glas sydd yn cyrraedd bob hyn a hyn bellach, fesul 3 rholyn mawr, diolch i’r dosbarthwyr. Ar yr rhai du roedd ysgrifen felen yn arfer bod. Not suitable for hot ashes. Roedd y neges bwysig wedi ei phrintio yn gyson trwy’r rholyn ac ar bob bag yn unigol – fel y rhif 8 yn India Roc Llannerchymedd slawer dydd. D’yw rhain ddim yn addas ar gyfer marwydos a chols twym! Rhybudd plaen. Wel, yn wahanol i’r dyddiau hynny pan oedd bagiau du i gael am ddim, a ’doedd dim angen talu sylw i’r rhybudd am nad oedd gen i ludw poeth, rwy’n cynnau tân bellach. Jyst un bach tawel a chynnes ar gyfer y boreuau oer yma. Mae gennym ni stôf Multifuel sy’n llosgi popeth – roedden nhw’n ffasiynol iawn pan roddwyd hi i mewn ond fe wyddoch fel mae popeth yn newid. Glo di-fŵg ni’n byddwn yn llosgi arni nawr ond mae lludw a llwch gyda hwnnw, wrth gwrs. Llwch fel lluwch eira o’r lliw fydden ni’n ei alw ‘mushroom’ gynt sydd i’w glirio’n rheolaidd, a fi yw’r stoker. Does dim peryg y câ’i fy lladd gan y gwres byth – nid fel milwyr druan Nebuchodonosor oedd yn twymo’r ffwrn yn seithwaith poethach nag arfer ar gyfer y tri llanc – na, llosgi’n dawel mae hon, er y gallwn godi’r gwres hyd o leiaf chwe neu saith gwaith twymach pe bai angen ganol gaeaf! Ond beth bynnag, wythnos d’wetha fe es ati i roi glanheuad iawn i’r ffwrnais rhyw ben bore. Codi’r llwch oedd ar yr ochrau allan gyda rhaw. Pocer i mewn wedyn a sgrytio’r cols a’r lludw yng nghanol y grat i lawr i’r bocs metel dan y gratin. Gwneud job iawn ohoni. Llond y bocs

    o lwch y gorlifo nawr. Ei godi’n ofalus a’i roi ar garreg yr aelwyd. Ail fwydo’r grat gyda glo, cau y drws ac agor y cylch gadael aer i mewn ar waelod y drws nes bod y tân yn cynnau’n fflamau. Tua saith y bore oedd hyn, cofiwch: felly ffwrdd a fi i wneud rhywbeth arall i aros i’r lludw ar yr aelwyd i oeri. Roedd hi tua deuddeg pan gofiais nad oeddwn wedi glanhau carreg yr aelwyd a chael gwared â’r lludw. Mofyn bag du felly – heb rybudd arno ond yr un neges ag arfer wedi ei phlannu yn fy nghof. Digon oer bellach siwr o fod. A dyma ddechrau trosgwlyddo’r lludw o’r bocs metel oer i’r bag du. Ond och a gwae! Cyn i mi droi roedd carreg yr aelwyd a’r llawr dani yn llawn o ddwst man, a cols coch yn llosgi twll enfawr yn ochr y bag a’r cyfan yn mygu’n ddiog fel llosgfynydd yn cael hoe, a’r plastig du yn ystumio’n araf yn ddim. Arogl y toddi yn llenwi’r gegin hefyd – a bu felly am oriau! Er i amser maith basio, 5 awr gyfan o leiaf, roedd y cols yng nghanol y bocs llwch oer yn dal yn goch! Wel, un arall o’r helyntion y Hanes yr Howscipar meddech chi wrthoch eich hunan. Ond tra roeddwn i’n ceisio glanhau’r llanast wedyn mi gofiais eiriau Paul. Yn ei baragraff olaf yn ei lythyr cyntaf at y Thesaloniaid, mae rhyw fath o P.S. maith o frawddegau byrion, jyst cyn y diwedd – short tips for success/ for your ‘to do’ list – mae Paul yn dweud wrth ei ddarllenwyr am beidio diffodd yr ysbryd. Peth rhyfedd i’w ddweud medde chi. Sut mae modd i fodau dynol, gwan, methiedig, brau, byrhoedlog a di-rym ddiffodd Ysbryd Crist ac Ysbryd Duw, y ddau beth roddodd fod i ac sy’n cynnal y greadigaeth yma i gyd? Pethau gwantan fel ni yn gallu diffodd yr Ysbryd? Never in Europe fel y dywedai Twm Twm gynt. Sgersli bilîf fel y dywedai Ifans y Tryc. Ond wyddoch chi, rydyn ni wedi ac yn llwyddo! Fel y lludw hwnnw o bowdwr rydyn ni wedi gallu tagu’r tân yn raddol. Rydwi wedi bod o gylch digonedd o gapeli yn pregethu ers blynyddoedd ac mae’r Ysbryd wedi hen ddiflannu ohonynt. Fe allwch chi deimlo’r peth! Yn union fel tŷ heb dân ynddo. Pawb yn troi i fyny yn eu dillad gorau. Pawb yn ddigon cymdeithasol a gwengar. Croeso mawr. Ond pawb

    wedi marw’n ysbrydol! Mae llwch ein hanghrediniaeth mewn unrhyw fath o ddeimensiwn lle gallai Dyw efallai ac o bosib gamu i mewn a gwneud unrhyw wahaniaeth i ni a’n capeli a’n bywydau wedi hen dagu a diffodd yr hyn ’roedd y cyndadau crediniol, gododd ein capeli gynt, wedi ei gynnau gyda’r fath ofal. Ond eto, wyddoch chi byth beth mae Duw am ei wneud nesaf, am ei ddeffro, am ei brocio a’i ysgogi. Duw llawn syrpreisus yw. Yng nghanol ein llwch a’n lludw crefyddol mae rhywbeth bach yn dal yno, rhyw lygedyn o gred, rhyw anadliad ysbrydol yn dal yn fyw. Mae cols coch yn dal ynghýn yng nghalon pob capelydda, a dim ond i fegin Dduw gael cyfle i anadlu, fe ddaw’r tân eto. Fe welais i lun ar fy ffôn yn ystod yr helynt yma. Rhywun anfonodd e i mi. Tudalen wen, wag, ac un dotyn bach o faint ‘.’ hwn, yr atalnod llawn yma, yn ei chanol. A than y dotyn, mewn llythrennau bach bach, mor fach nes bu’n rhaid i mi ddefnyddio bys a bawd i wneud y llun yn fwy roedd y geiriau:Os gall feirws bach na allwn ni ei weld wneud cymaint o wahaniaeth, meddyliwch beth allai ffydd maint gonyn o had mwstard ei wneud. Rwy’n grediniol fy hunan bod rhyw gols, rhyw fath o dân yn dal yn fyw ynghanol y lludw a’r llwch yn ein heglwysi. Mae rhyw atgof o obaith a chred yn dal yn bodoli yn y posibilrwydd y gallai Dyw wneud rhywbeth yn y dyddiau yma a thrwy’r digwyddiadau rydyn ni’n byw drwyddyn nhw, nawr. Pan oedd Columba, y sant Gwyddelig ddaeth â Christnogaeth i’r Alban, yn siarad gyda brenin paganaidd y Pictiaid ac yn cynnig bywyd newydd yn Iesu Grist iddo, fe ofynnodd hwnnw gwestiwn. “Os dôi yn Gristion, beth alla’i ddisgwyl ei weld?” Ac ateb Columba iddo oedd, “Fe gei di weld rhyfeddod ar ôl rhyfeddod, a phob rhyfeddod yn wir!” Mae’r tân yn dal yno ffrindiau. Aeth blynyddoedd o anghrediniaeth capelyddol heibio ond mae’n dal yno. Mae gwres yn y cols. Mae posibiliadau d ibendraw yng nghyn l lun iau’ r Hollalluog. Gadewch i ni weddïo ar Dduw i anadlu arnom ac ar ein llwch a’n marwydos a dod a’r tân yn ôl i’r aelwyd.

  • 8Seren Cymru Gwener, Mehefin 26ain 2020

    AmserYstyriwch hyn. Pe bai eich banc yn rhoi £86,400 yn eich cyfrif bob bore gyda’r rhybudd nad oes modd i chi gario’r balans ymlaen i’r diwrnod canlynol ... nac ychwaith i gadw unrhyw arian yn eich cyfrif, ac y byddai’n codi ohono unrhyw arian sydd gennych yn weddill ar ddiwedd y dydd, beth fyddech chi’n ei wneud? Wel tynnu pob ceiniog allan ohono yn ystod y dydd wrth gwrs, fel na fyddai dim ar ôl i’r banc gael ei gymryd! Mae gennym oll fanc tebyg, a’i enw yw Amser. Bob bore, mae’n gosod 86,400 o eiliadau yn ein cyfrif. Bob nos, mae’n cael gwared ar unrhyw ganran o’r amser nad ydym wedi buddsoddi ynddo. Nid yw’n caniatáu cario’r cyfalaf ymlaen i’r diwrnod wedyn, nac ychwaith yn cynnig gorddrafft i ni. Bob bore, mae’n agor cyfrif newydd i ni. Os na lwyddwn i ddefnyddio’r hyn sydd yn y cyfrif, ein colled ni ydyw. Does dim troi’n ôl. Does dim modd tynnu yfory o gyfrif heddiw.

    Llenwi’n hamserAmser yw un o’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr. Gall amser fod yn wag neu’n llawn. Gellir ei lenwi â phethau difudd neu â phethau sy’n rhoi pwrpas a chyfeiriad i’n bywydau. Fel gyda phopeth mewn bywyd, gallwn ei ddefnyddio er gwell neu er gwaeth, yn greadigol neu’n ddinistriol, yn hunanol neu’n hael. Gallwn naill ai fod yn feistri ar ein hamser, neu’n gaethweision iddo; ei ddefnyddio, neu adael iddo’n defnyddio ni. O ganlyniad i’r COVID-19, rydym wedi cael ein gorfodi yn ystod y cyfnod rhyfedd a dryslyd hwn i ailgynllunio’r ffordd rydym yn defnyddio’n hamser. Ar y naill law, mae rhai’n gweld bod ganddynt ormod o amser ar eu dwylo – oriau gwaith wedi’u torri neu wedi’u colli’n llwyr, bywyd cymdeithasol ar stop, yn fregus eu hiechyd ac yn gaeth i’w cartrefi, y dydd yn hir, y meddwl yn crwydro a’r unigrwydd yn llethol. Mae eraill yn gwerthfawrogi amser yng nghwmni’r plant yn hytrach na’u cludo ar frys o’r naill weithgarwch i’r llall, ond bod yr her o weithio o adref a cheisio addysgu’r plant yn fawr. Mae gweithwyr allweddol wedi gorfod cynllunio’u hamser yn wahanol er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau proffesiynol a gofalu am eu teulu. Beth bynnag yw’n hoed a’n hamgylchiadau, rydym oll wedi gorfod ailgynllunio’r ffordd rydym yn defnyddio’n hamser.

    Ewyllys daUn peth sy’n amlwg yw bod yr amser wedi’i lenwi gan weithredoedd o ewyllys da yn ein cymuned a thu hwnt. Aeth y rhai sy’n medru gwneud, ac sy’n rhydd a diogel i wneud, allan o’u ffordd i gwrdd ag anghenion eraill. Dyma beth yw defnyddio’n hamser yn adeiladol. I’r gwrthwyneb, dewis eraill oedd defnyddio’u rhyddid a’u hamser er eu lles eu hunain e.e. drwy fentro ym mhob ffordd i gyrraedd eu cartrefi gwyliau, gan ddiystyru’n llwyr y perygl y gallent ei achosi i eraill. Da o beth fyddai i ambell un dreulio’r amser yn dysgu bod gan Gymru ei llais ei hunan a’i bod yn abl i wneud ei phenderfyniadau ei hunan. Mae gorfod ailgynllunio’n hamser yn ein herio i feddwl o ddifri am werth amser. Gadewch i ni ymrwymo i ddefnyddion amser at bwrpas da. Sut bydd balans eich cyfrif banc Amser chi erbyn heno tybed?

    Beti-Wyn James

    Pendilio(yn amser COVID)

    Tic-toc, tic-toc,fe arafodd bysedd y cloca’r hen bendil yn dod i ... stop.Mae’r drysau’n glep dan glo a’r phawb yn meudwyo,am y tro,daeth amser i olygu dim,fe gollon y gallu i gyfri,a ninnau wedi drysu,pob diwrnod yn rhy debyg i’w gymydog,yr wythnosau wedi toddi.Dyma ni, ar ganol amser seroble gallai rhywun fynd o’’ go’ac yno,fe wnawn bendiliorhwng ofni a gobeithio,rhwng chwerthin a chwato,rhwng byw yn fach a breuddwydio.

    Mae’n llonydd ar y lonydda’r byd i gyd yn ddigon bach bellach i’w ddalarhwng bys a bawd,yn ddigon crebach a phitw i’w gadw yng nghledr y llaw,neu ei anghofio’n rhy rhwyddym mhoced rhyw got anghyfarwydd.Ac yn y dim hirfaith hwn sydd heb derfyn nac ymyl iddo,fe deimlwn ni’r pendil yn dechrau symud eto,gan sylwi ar sþn araf tic-toc curiad calon drom y clocyn nhawelwch marw’r tÿble mae’r llwch yn rhy ddiog i gronni,ble mae heddiw yn ddoe ac yfory,ble does dim bore na phrynhawn na heno wedynble mae’r un frawddeg ar ei hanner ers meitin.Mae symud i’w synhwyro ar y strydac mae amser yn dal yn fyw o hyd. Elinor Wyn Reynolds