focus issue2 welsh

20
Dyluniad chwyldroadol yn tynnu gefeiliau i’r 21ain Ganrif TUD 13 UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD RHIFYN 2

Upload: cardiff-metropolitan-university

Post on 07-Mar-2016

240 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

UWIC Focus Magazine Issue 2

TRANSCRIPT

Page 1: Focus Issue2 Welsh

Dyluniadchwyldroadolyn tynnu gefeiliau i’r21ain Ganrif TUD 13

UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD

RHIFYN 2

Page 2: Focus Issue2 Welsh

2 |focus

cynnwysUWIC GYDA’R GORAU 03YN Y DU RHEOLI HOLLOL FODERN 04 CANOLFAN ARLOESOL 05SY’N BAROD I GEFNOGI’RDIWYDIANT BWYDYNG NGHYMRU ASTUDIO YN YR INDIA 06 ARBENIGWR YN 07 BEIRNIADU’R DIWYDIANTTEITHIO AM ‘RYWIOLI’MENYWOD ARBENIGWR YN 08 DARGANFOD BOD YGALLU GAN Y BEN-GLINI DYFU ETO MEDALAU I’R MYFYRWYR 09 YN FRWD DROS DDYLUNIO 10 UWIC YN CAEL EI 10GYDNABOD AM WAITH

YMCHWIL O SAFON BYDY PRIF WEINIDOG YN 12CEFNOGI ‘ARLOESI DRWYGYDWEITHREDU’ DYLUNIO GEFEILIAU 13CHWYLDROADOL YNSICRHAU BOD MAMAU A’UBABANOD YN FWY DIOGEL

PENDERFYNIADAU SY’N 14NEWID BYWYDAU ACADEMYDDION YN 15CYDWEITHIO AR FENTERSY’N TORRI TIR NEWYDDHERIO AGWEDDAU TUAG 16AT BOBL IFANC

MYFYRWYR YN DOD Â 17THESTUNAU ARHOLIADAUYN FYW CYN-FYFYRWYR 18LLWYDDIANNUS

Cynhyrchir Focus gan Uned Gyfathrebu,Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr,UWIC Campws Llandaf, Rhodfa’r Gorllewin,Caerdydd CF5 2SG Ffôn: 029 2041 6044 Golygwyd gan: Y Tîm Cyfathrebu Ffôn: 029 2041 7115 Dyluniwyd gan: GwasanaethauCreadigol UWIC Ffôn: 029 2041 6056

Os bydd angen mwy o gopïau oFocus arnoch, cysylltwch â Ruth Walton,Swyddog Cyhoeddiadau UWIC,ar 029 2041 6294 neu [email protected]

Tud 8: Arbenigwr yn darganfod eibod yn bosib ail-dyfu pengliniau

Tud 10: Yn frwd dros ddylunio

Tud 18: Cyn-fyfyrwyr llwyddiannus

Tud 5: Y ganolfan arloesol sy’n barod igefnogi’r diwydiant bwyd yng Nghymru

Page 3: Focus Issue2 Welsh

3focus |

UWIC gyda’rgorau yn y DU

Mae arolwg o fyfyrwyrmewn mwy nag 80 obrifysgolion wedi gosodUWIC yn bedwerydd yn yDU ac yn gyntaf yngNghymru o ran ansawdd yprofiad y mae’n ei gynnig ifyfyrwyr rhyngwladol. Holodd ISB (International StudentBarometer) farn myfyrwyr rhyngwladolar fyw ac astudio yn UWIC mewn arolwga wnaed mewn prifysgolion ar draws yDU, gan gynnwys prifysgoliontraddodiadol, uchel eu safon, megisPrifysgol Manceinion a Phrifysgol Bryste,a chwe phrifysgol arall yng Nghymru.

Cwblhaodd bron 200 o fyfyrwyr o bobun o 5 Ysgol academaidd UWIC yrarolwg ar foddhad ac yn eu plith roeddmyfyrwyr o’r India, Oman, Tsieina aBrwnei - y grwpiau cenedlaethol mwyaf.

Adroddodd yr arolwg hefyd y byddaimyfyrwyr rhyngwladol UWIC yn fwyparod na myfyrwyr o’r un brifysgol arall

yng Nghymru i gymeradwyo’r brifysgoli’w ffrindiau a’u teulu gartref.

“Mae llwyddo i gael canlyniadau boddhadda fel hyn, o ystyried y gystadleuaeth grefoddi wrth brifysgolion eraill ar draws y DU,yn wir amlygu ein hymrwymiad i gynnigprofiad o’r safon uchaf i’n myfyrwyrrhyngwladol ac mae’n wir dyst i waithcaled ein holl staff,” meddai John Phillips,Deon Myfyrwyr Rhyngwladol, UWIC.

“A ninnau â myfyrwyr o fwy na 125 owledydd yn astudio yn UWIC, byddcanlyniadau arolwg ISB yn ein helpu iychwanegu at ein llwyddiant ac i sicrhauein bod yn aros yn sefydliad blaengar oran recriwtio myfyrwyr rhyngwladol,”ychwanegodd.

Bellach, yr arolwg yma, a wnaed gan I-Graduate, gwasanaeth ymchwilioannibynnol sy’n arbenigo yn y farchnadaddysg ryngwladol, yw’r astudiaethfwyaf ar fyfyrwyr rhyngwladol yn y byda chafodd ei fabwysiadu gan brifysgolionyn y DU, Iwerddon, Awstralia, SelandNewydd, De Affrica, Singapôr, Ewropac UDA, ac mae’n cael adborth gan fwyna 400,000 o fyfyrwyr.

Rhoddwyd UWIC yn y 5uchaf mewn 21 categori,gan gynnwys: •1af yn y DU (1af yng Nghymru) –

llety’r brifysgol •1af yn y DU – Cymdeithasau a

chlybiau rhyngwladol •1af yn y DU – cyfleusterau addoli •2il yn y DU (1af yng Nghymru) – cyngor

ar fewnfudo a fisas a gynigir gan UWIC •2il yn y DU – gwasanaethau

cyffredinol a ddarperir gan SwyddfaRyngwladol UWIC

•2il yn y DU (1af yng Nghymru) –darparu cludiant a chynllun UWIC Rider

•2il yn y DU (1af yng Nghymru) –costau byw yng Nghaerdydd

•3ydd yn y DU (1af yng Nghymru) –y gwasanaethau cymorth a gynigiri fyfyrwyr

•3ydd yn y DU (1af yng Nghymru) –y broses ymgeisio ac ymrestru

•3ydd yn y DU(1af yng Nghymru) –trefniadau byw

•3ydd yn y DU (1af yng Nghymru) –y gwasanaeth gyrfaoedd

“Mae UWIC ynlle cyfeillgar iawn,gallwch astudioâ’ch meddwl ynrhydd ac maedigon o bobl argael drwy’r amseri’ch helpu.”

Anita Setarhnejad, myfyriwr PhD mewnTechnoleg a Gwyddor Bwyd, sy’n dod o Iran

“Rwy’nwirioneddolhoff o UWIC, mae’rberthynas rhwng ymyfyrwyr a’r staffyn un dda iawn.Fy ngoruchwyliwryw’r prif reswm pamrwyf wedi parhau iastudio yma.”

Suleiman Ahmed Isa, myfyriwr PhD mewnGwyddorau Biofeddygol, sy’n dod o Nigeria

“Mae’r ffordd oaddysgu yn UWIC ynwahanol iawn i’rffordd yn yr India. Maemwy o ryddid i astudioyn eich ffordd chi eichhun. Rwyf wrth fymodd â’r ysgol acmae’r goruchwylwyryn gefnogol iawn.”

Rohit Naspal, myfyriwrMBA sy’n dod o’r India

Beth mae’r myfyrwyr yn ei ddweud:

Page 4: Focus Issue2 Welsh

Mae’r gwaith ar Ysgol ReoliCaerdydd, sy’n costio £20mi’w adeiladu, yn mynd yn eiflaen ar Gampws Llandaf.

Bydd yr adeilad, sydd gyda’r mwyaf moderno’i fath, yn galluogi UWIC i ddod yn un obrif ganolfannau’r DU ar gyfer addysgu acymchwilio i bynciau gan gynnwys Busnes,Lletygarwch a Thwristiaeth. Bydd yn cynnigcyfleusterau newydd i fwy na 100 o staff amwy na 2,000 o fyfyrwyr ar bedwar llawr athros 7,800 m2.

Bydd yn cynnwys darlithfa ar gyfer 200 ynghydâ systemau clyweled, mannau tawel, nifer oardaloedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol, caffi âgardd deras, bar, ty bwyta a chegin hyfforddi,a chyfleusterau menter ac ymchwil cyfoes.

Cynlluniwyd yr adeilad i gael bod ynadnodd ar gyfer y gymuned fusnesbresennol yn ogystal ag yn fan i addysgu

rheolwyr y dyfodol. Gellir llogi eiystafelloedd cyfarfod a chynadledda argyfer cynadleddau a chynigir cyrsiau ararwain a rheoli i fusnesau a sefydliadau.

Meddai Ceri Preece, Is-Gadeirydd BwrddLlywodraethwyr UWIC: “Bydd yr adeiladnewydd gwych yma yn rhoi’r cyfle i niarloesi a datblygu enghraifft ragorol o’r hynyw ysgol reoli fodern – yn gryf o ran dysguac addysgu, ymchwil a menter, ac ynhygyrch i’r gymuned leol hefyd.

“Bydd rhan o’n cynllun ar gyfer y brifysgolyn sicrhau bod mwy na £50m yn cael eifuddsoddi i wella ein hystadau, a byddYsgol Reoli newydd Caerdydd yn eingalluogi i barhau i ddenu myfyrwyr astaff o’r safon uchaf.”

Bydd yr adeilad hwn yn cael ei ddefnyddioyn lle cartref presennol Ysgol ReoliCaerdydd sydd ar gampws RhodfaColchester, a disgwylir iddo fod ynweithredol yn yr Hydref yn 2010.

Rheoli hollol fodern

4 |focus

Prif Weinidog Cymru,y Gwir Anrh. Rhodri Morganyn Lansiad Canolfan newyddy Diwydiant Bwyd yn UWIC.

O’r chwith i’r dde: Ceri Preece (Is-Gadeirydd Bwrdd LlywodraethwyrUWIC), Adrian Brewer a Gareth Turner (Willmott Dixon), DavidPritchard (Deon, Ysgol Reoli, Caerdydd, UWIC) a Pam Ackroyd(Cyfarwyddwr Gweithrediadau, UWIC).

O’r chwith i’r dde: Yr AthroAntony Chapman, (Is-Ganghellor,UWIC), Dr Maureen Bowen,(Deon, Ysgol Gwyddorau IechydCaerdydd, UWIC) gyda PhrifWeinidog Cymru, y Gwir Anrh.Rhodri Morgan a agorodd yganolfan yn swyddogol.

Y Swît Synhwyraidd cyntaf yng Nghymru.

Page 5: Focus Issue2 Welsh

5focus |

Ym mis Ebrill, lansiwydCanolfan arloesol newydd yDiwydiant Bwyd yn UWIC ynswyddogol gan Brif WeinidogCymru, y Gwir Anrh. RhodriMorgan. Nod y Ganolfan yw bodyn flaengar yn y gwaith o welladiogelwch bwyd a chefnogi’rdiwydiant bwyd yng Nghymru.Bydd y ganolfan newydd yn effeithioar yr economi wybodaeth drwy ymchwilgymhwysol, trosglwyddo gwybodaeth athrwy roi’r sgiliau i raddedigion ac iôl-raddedigion y bydd cyflogwyr yngofyn amdanynt.

Bydd hefyd yn helpu busnesau bwyd i roi’rprosesau cadarn sydd eu hangen arnynt yneu lle i gael cwrdd â safonau diogelwch

bwyd byd-eang. Meddai Rhodri Morgan, yPrif Weinidog: Mae’r canlyniadau trist ynachos E.coli a chasgliadau ymchwiliadPennington yn dangos yn glir mor bwysigyw’r datblygiadau hyn mewn rheolidiogelwch bwyd.

“Ar ôl bod o gwmpas y cyfleusterau sydd argael, mae’n wych gweld ystod y gwaith sy’ndigwydd yma a’r cysylltiadau â’r economidrwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth,sy’n un o gryfderau mawr UWIC”.

“Pleser o’r mwyaf i fi yw cael agor yganolfan yma, fydd hefyd yn cynnigcymorth i’r diwydiant bwyd yngNghymru drwy dechnoleg ac ymchwilarloesol,” ychwanegodd.

Bydd y Ganolfan yn cynnig cyrsiauymarferol ar asesu a rheoli risgiaudiogelwch bwyd i ddiwydiant, asiantaethaubwyd Awdurdodau Lleol a myfyrwyrgwyddor bwyd a iechyd yr amgylchedd.

“Rhaid i ni gael gwared ar yr arferiongwael a amlygwyd gan yr Athro Penningtonyn ei adroddiad diweddar ar achos E.coliyng Nghymru,” meddai David Lloyd,Cyfarwyddwr Canolfan y Diwydiant Bwyd.

“Yn ogystal â gweithio gydag ystod osefydliadau i’w helpu i wella’u prosesau,byddwn yn parhau hefyd i ymgymryd âgwaith ymchwil blaengar i reoli halogi adiogelwch bwyd ac yn gweithio gydadiwydiant ar fabwysiadu’r arfer gorauwrth gynhyrchu bwydydd diogel arheoli lefelau microbau mewn bwydydd”ychwanegodd.

Yn ogystal, bydd yn cefnogi’r diwydiantbwyd drwy gynnig y cyfleusteraudiweddaraf i gael datblygu a phroficynhyrchion newydd, gan gynnwys ySwît Synhwyraidd cyntaf yng Nghymrulle y gellir profi bwydydd o dan amodaufydd wedi’u rheoli’n llym. Ar ben hynbydd cyswllt fideo a sain rhwng ystafelly bwrdd a’r gegin yn galluogi cynrychiolwyry cwmnïau bwyd i ryngweithio â’r cogyddioni asesu sut mae eu cynhyrchion newyddyn cael eu paratoi a’u coginio mewnamgylchedd rheoledig.

Bydd yr ymchwil yn y ganolfan, sy’n rhano Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, yncynyddu’r ddealltwriaeth ynglŷn ag effaithdeiet a dull byw ar y broses o heneiddio allawer o’r clefydau sy’n gyffredin yngNghymru, gan gynnwys Diabetes Math 2,Clefyd Cardiofasgwlar, Gordewdraac Asthma.

Canolfan arloesol igefnogi y diwydiantbwyd yng Nghymru

Page 6: Focus Issue2 Welsh

Yn ddiweddar, cafoddRobert Jones, myfyriwrMBA yn UWIC, gyfle iastudio yn IIMB (AthrofaRheoli India) yn Bangaloresy’n cael ei hystyried ynun o’r 100 Ysgol Fusnesorau yn y byd. Robert oedd yr unig fyfyriwr yn yDU gafodd ei dderbyn ar y rhaglenacymunodd â 90 o gyd-fyfyrwyr o bobrhan o’r byd ar gyfnod cyfnewid tri mis.

Cawsom gyfweliad â Robert a gofyn ycwestiynau canlynol iddo yngl^yn â’ibrofiadau astudio yn yr India.

Pa gymorth gawsoch chi o rancyllido’r cyfnod cyfnewid? Cefais wobr Entrepreneuraidd gan UrddLifrai Cymru gwerth £1,000. Rwy’n ffodushefyd fod fy rhieni yn fy helpu i fyndymhellach â’m haddysg a’m gyrfa.

Oedd gwahaniaethau o ran y fforddroeddech yn cael eich addysgu ynyr India? Yn yr IIMB mae pwyslais mawr arddadansoddi astudiaethau achos ac fewnes i fwynhau lefel ymgyfraniad ydosbarth yn fawr iawn; does neb yn swilpan fydd angen rhannu barn a syniadau.Mae’n ddiddorol bod 10% o radd derfynol ymyfyrwyr yn cael ei seilio ar lefel euhymgyfraniad yn y dosbarth a lefel eupresenoldeb.

Beth oedd uchafbwynt y cyfnewid? Yr uchafbwynt oedd y cyfnod cyfan ytreuliais yn astudio yn IIMB, roedd ynanhygoel. Roeddwn yn teimlo’n gyffyrddusiawn â bywyd ar y campws. Ar wahân i’rprofiad dysgu, yr uchafbwyntiau oeddymweld â busnes roedd teulu yn ei redegym Mumbai a gweld yr effaith bositif maehyn yn ei gael ar y ddinas.

Sut rydych chi wedi elwa o’r profiad? Roedd yn gyfle anhygoel i astudio yn un oysgolion busnes gorau’r byd. Roedd ynamgylchedd rhyngweithio ffantastig hefyd;nawr mae gen i ffrindiau mewn llawer ofeysydd busnes ac mewn llawer owledydd gwahanol.

Fyddech hi’n cymeradwyo hyn ifyfyrwyr eraill? Byddwn, yn bendant! Mae astudio mewngwlad arall yn agor eich llygaid i syniadaunewydd, rydych yn cwrdd â phobl newyddac mae’n rhoi amser i chi feddwl am eichdyfodol. Daliwch ar y cyfle os daw e i’chrhan, fyddwch chi byth yn gwybod paddrysau y gallai eu hagor.

Beth yw’r peth mwyaf gwerthfawr syddwedi aros gyda chi yn sgil y profiad yma? Mae treulio amser yn yr India wedi helpu’rffordd rwy’n deall diwylliannau gwahanola’u hagwedd tuag at waith. Rwyf wedigwella fy sgiliau cyfathrebu hefyd ac wedigwerthfawrogi mor bwysig yw gosodtargedau ar gyfer datblygu’n barhaol acadeiladu perthnasoedd busnes tymor hir.

Beth rydych chi’n ei wneud nawr a bethyw’ch nodau ar gyfer y dyfodol? Roedd y croeso a ges i yn y pentrefi gwledig ybues i’n ymweld â nhw yn rhyfeddol. Bues i’nymchwilio i ffyrdd y gallem adael i dwristiaidweld y rhan honno o’r India oedd “heb eichyffwrdd” heb amharu ar ei diniweidrwyddna’i distrywio mewn unrhyw ffordd. Bues i’ngwneud cryn dipyn o waith ymchwil ac yndechrau datblygu perthnasoedd a allai hybutwristiaeth yn yr India tra’n gwella’r seilwaith,diogelwch teithwyr a’r safonau byw mewnpentrefi gwledig. O safbwynt y dyfodol, rwy’ngobeithio bod yn ddadansoddwr busnes panfyddaf wedi cwblhau fy astudiaethau. Ymhlithfy nodau tymor hir mae dod yn entrepreneurllwyddiannus erbyn y byddaf yn 35 oed;bod yn gyfarwyddwr ar fwrdd sy’n gwneudpenderfyniadau yn ystod cyfnod uno neugaffael mewn cwmni rhyngwladol, cyn bodyn ymgynghorydd rheoli.

“Rwyf wedi gwneudffrindiau oes, wedicael profiadaubythgofiadwy ac wedimagu blas ac egninewydd at sefydlufy musnes fy hun.”

Astudioynyr India

Robert Jones, myfyriwr MBA yn UWIC, yn ystod ei gyfnod yn astudio yn yr India.

6 |focus

Page 7: Focus Issue2 Welsh

7focus |

Arbenigwr yn beirniadu’rdiwydiant teithio am‘rywioli’ menywod

Mae arbenigwr blaenllaw ardwristiaeth wedi beirniadu’rdiwydiant teithio am eiagweddau rhywiaethol tuagat fenywod yn eiymgyrchoedd hysbysebu. Cyhuddodd yr Athro Annette Pritchard,o’rGanolfan Ymchwil i Dwristiaeth Cymru ynUWIC, y diwydiant o rywioli a throi menywodyn wrthrychau yn ystod darlith a roddwydganddi mewn cynhadledd i fenywod sy’narweinwyr byd a gynhaliwyd yng Ngwlad yrIâ ac a drefnwyd gan JohannaSigurdardottir, prif weinidog y wlad.

Mae’r academydd yn credu bodhysbysebion mewn cylchgronau ac yn ywasg, pamffledi gwyliau a rhaglenni teledu igyd yn defnyddio “corff perffaith amhosibei ddynwared menyw” i werthu popeth, ogeir ar log hyd at gyrchfannau gwyliau achwmnïau awyrennau.

“Ble bynnag yr edrychwch yn y wasgdwristiaeth – mewn pamffledi gwyliau,hysbysebion ar y teledu neu raglenni teithio– mae menywod yn cael eu rhywioli,”meddai’r Athro Pritchard. Mae hi’n cyfeirioat enghreifftiau megis hysbyseb Ryan Air argyfer y wasg a gafodd ei gwahardd, oeddyn defnyddio menyw oedd yn edrych ynrhywiol ac yn gwisgo gwisg ysgol fer â’rgeiriau, “Hottest back to school fares.”

“Yn y pamffledi teithio, mae dynion yn llawnbywyd, yn nofio neu’n seiclo, ond maemenywod bob amser lawer yn fwy llonydd.Maen nhw’n eistedd wrth ochr pwll nofioyn darllen llyfr,” ychwanegodd yr Athro.“Maen nhw’n cyflwyno darlun unffurf o’rhyn yw twristiaid. Beth os ydych yn ddu, yndew neu’n hŷn? Ble rydych chi’n ffitio?

“Rwyf eisiau i bobl feddwl am y math oddelweddau sy’n cael eu gwerthu iddynnhw, mewn cylchgronau, pamffledi ac ar yteledu, ac i bwyso a mesur i ba raddau ymaen nhw’n portreadu’r un “olwg”stereoteipyddol a’r cyrff sy’n allanol berffaith.

“Mae rhywioli a phortreadu fel gwrthrychauo’r math yma’n tanseilio’r hyder a’rbodlonrwydd sydd gan unigolyn wrthfeddwl am ei gorff ei hun. Gall hyn arwain atliaws o ganlyniadau emosiynol negyddol ynachos menywod a merched,” ychwanegodd.

Mae’r Athro Pritchard yn credu hefyd fod yrhywiaeth a welir mewn cylchgronau teithioyn adlewyrchu’r amgylchedd gwrywaidd amacho sy’n rhan o gwmnïau hysbysebu llemae dynion yn y swyddi pwysig.

Yr Athro Annette Pritchard.

Page 8: Focus Issue2 Welsh

Arbenigwr yndarganfod bod ygallu gan y ben-glini dyfu eto

8 |focus

Gallai darganfyddiad ganarbenigwr blaenllaw, syddwedi’i leoli yn YsgolChwaraeon Caerdydd,chwyldroi’r ffordd y byddpoen yn y ben-glin a chyflyrauarthritig yn cael eu trin.Gallai darganfyddiad gan arbenigwrblaenllaw, sydd wedi’i leoli yn YsgolChwaraeon Caerdydd, chwyldroi’r fforddy bydd poen yn y ben-glin a chyflyrauarthritig yn cael eu trin. Dangosodd yrAthro John Fairclough am y tro cyntaf fodgan y ben-glin y gallu i wella ei hun a’i bod

yn bosib y gall rhannau o’i arwyneb dyfueto. Yn sgil y darganfyddiad hwn, efallai nafydd rhaid i gleifion wynebu llawdriniaethlem neu gael pen-glin newydd ac mae’nbosib y gellir annog celloedd y ben-glin idyfu eto a gwella’r cymal yn fewnol. “G ^wyrpob un ohonom nad peth hawdd yw myndyn h^yn; bydd corf athletaidd ein hieuenctidyn trawsnewid ac ni fydd yn gallu goddefymarfer corff dyfal a grymus einblynyddoedd cynnar. Byddwn yn mynd ynllai hyblyg, yn arafu ac yn dechraugwynegu. I lawer ohonom, bydd eincymalau’n dechrau mynd yn boenus, yn eigwneud yn fwy anodd i ni wneud ymarfercorff yn hwylus ac yna byddant yn achosipoen a chyfyngu ar ein symud.”

“Bob blwyddyn yn y DU, ceir mwy na 5miliwn o ymgynghoriadau yn ymwneud âphoen yn y ben-glin a’r peth pwysicaf i bobcyfranogwr meddygol a chwaraeon fyddaiei fod yn gallu mesur y draul ar gymalau a’iatal rhag gwaethygu ac i fod â’r nod o weldunrhyw ran o arwyneb y cymal sydd wedi’iniweidio yn tyfu eto,” ychwanegodd.Y gred cyn hyn oedd nad oedd hi’n bosibdileu unrhyw niwed a wnaed i arwynebcymal y ben-glin drwy draul naturiol, ondmae darganfyddiad yr Athro Faircloughwedi dangos bod gan gelloedd byw yn yrasgwrn y gallu i beri i’r arwyneb a gollwyddyfu eto ac y gellir gwella niwed i’r cymalau.

O ganlyniad i’r darganfyddiad ac yn sgil yrenw da sydd gan yr Athro yn un o’rarbenigwyr mwyaf blaengar o ran trinanafiadau chwaraeon, cafodd JonnyWilkinson, y seren o fyd rygbi, ei drin gan yrAthro Fairclough i’w helpu i wella problemâ’i ben-glin sydd wedi bod yn dramgwyddiddo ar hyd ei yrfa.

Page 9: Focus Issue2 Welsh

9focus |

Medalau i’r myfyrwyr

Mae UWIC yn dathlu mwyo lwyddiant cenedlaetholym maes chwaraeon ar ôlennill pum medal aur ymMhencampwriaethauBUCS yn Sheffield eleni. Y pencampwyr o UWIC oedd tîm Pêl-droedy Menywod, tîm Pêl-fasged y Menywod,Sean Kilroy (Bocsio), Bryony Raine (NaidBolyn) a Francis Baker (Naid Hir).

Yn brawf o’r ffaith eu bod yn parhau ar ybrig yn eu campau, roedd tîm Pêl-fasged yMenywod a Sean Kilroy yn fuddugol am yrail flwyddyn yn olynol. “Roedd anfon mwyna 180 o fyfyrwyr i’r pencampwriaethau’ndipyn o dasg i Undeb y Myfyrwyr ac roeddy canlyniadau’n hollol wych, nid yn unig amfod tîm Pêl-fasged y Menywod a Sean wedi

ennill am yr eildro ond hefyd am fod timauPêl-droed, Athletau, Judo a Polo D ^wr yMenywod wedi ennill – mae hyn yn dangostrwch y ddawn a’r gallu sydd yn ein clybiau,”meddai Adam Painter, Llywydd UM, UWIC.“Roeddwn i yno drwy’r pencampwriaethau igyd, ac yn ogystal â’r medalau a’r perfformiaduchel, mae’n rhaid i mi ganmol ein myfyrwyram eu hagwedd tuag at y digwyddiad ar hydyr amser. Gall UWIC ymfalchïo ynddynt i gyd,”ychwanegodd. Roedd mwy na 180 o fyfyrwyryn cynrychioli UWIC, sef un o’r timau mwyafoedd ym Mhencampwriaethau BUCS eleni.

Mae Pencampwriaeth BUCS ar ei hailflwyddyn ac fe’i cynhelir dros 5 diwrnod.Dyma uchafbwynt blwyddyn chwaraeon yprifysgolion. Yn 2009, roedd mwy na 5,500yn cystadlu mewn 24 camp mewn 14lleoliad oedd yn golygu mai hwn oedddigwyddiad aml-gamp mwyaf y DU.

Llwyddodd tîm Rygbi Menywod UWIC iaros ar y brig am flwyddyn eto drwy ennillPencampwriaeth BUCS yn Twickenham.Cawson nhw dymor rhyfeddol, ag ond daugais ac un cig gosb yn cael eu sgorio yn euherbyn yn y gynghrair. Tîm UWIC oedd yffefrynnau yn mynd i’r rownd derfynol acroedden nhw’n gallu ymdopi â’r pwysaupan ddaeth y diwrnod mawr, gan guroLeeds Met Carnegie 32 – 12. Cawsant eucoroni’n Bencampwyr BUCS am ypedwerydd tymor yn olynol.

Yr Athro John Fairclough,Ysgol ChwaraeonCaerdydd, UWIC.

Yn ennill medal aur - tîm Pêl-fasged Menywod UWIC.

Tîm Rygbi Menywod UWIC - pencampwyr BUCS.

Francis Baker, enillydd y fedalaur yn y Naid Hir.

Page 10: Focus Issue2 Welsh

Mae CV clodwiw gan OlwenMoseley: CyfarwyddwrMenter Ysgol Gelf a DylunioCaerdydd, sefydlydd G ^wylDdylunio Caerdydd, ac ynddiweddar cafodd ei henwi’nun o’r 50 person mwyafdylanwadol yn y diwydiantcelf a dylunio yn y DU.

Mae brwdfrydedd Olwen at ddylunio ynamlwg. Sefydlodd ^Wyl Ddylunio Caerdyddyn 2004 yn sgil y teimlad bod bwlch yn ycymorth a gâi’r bobl oedd yn gysylltiedig â’rdiwydiant dylunio yng Nghymru, bodymdeimlad o golli cyfleoedd ac nad oedd ydoniau oedd ar gael yn cael eu hamlygu abod awydd yn bodoli i gael bod yn rhan ogymuned broffesiynol. Roedd gwaith oansawdd uchel yn cael ei gynhyrchu yngNghymru, yn enwedig yng Nghaerdydd lleroedd cryn nifer o gwmnïau dylunio wedi’ulleoli ac wedi datblygu, ond nid oedd y

gwaith yn cael y sylw haeddiannol. Roeddhi’n teimlo hefyd fod rhai pobl heb ddeallbeth yn union yw dylunio. “Pan gaiff y termdylunydd cynhyrchion neu ddylunydd graffigeu defnyddio, mae’n amlwg wrth ymateb yrhan fwyaf o bobl nad ydynt yn deall beth yweu hystyr. Esboniad syml fyddai’r bobl sy’ngysylltiedig â brandio, ond bydd hyd yn oedhyn yn arwain i bobl dybied bod a wnelo hyni gyd â marchnata; fodd bynnag, busnesauyw cwmnïau dylunio mewn gwirionedd, acmaen nhw’n perthyn yn agosach i fydbusnes nag i’r celfyddydau,” meddai Olwen.

“Maen nhw’r un mor hanfodol i fusnes agyw cyfreithiwr neu gyfrifydd. Mewn gair,datrys problem ar gyfer trydydd parti ywdylunio ac er mwyn gwneud y pwynt yna ysefydlais yr ^wyl ddylunio yn y lle cyntaf,”ychwanegodd.

Cylch gwaith yr ^wyl ar y dechrau oeddymgysylltu â’r diwydiant dylunio; roeddOlwen ac Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd,UWIC, mewn sefyllfa ddelfrydol i gydlynumenter o’r fath o’r cychwyn cyntaf gan fod ganbob un o’r staff perthnasol wybodaeth am ysin dylunio lleol, ac roedd y gymuned ddylunioyn eu hystyried yn bartneriaid diduedd.

Dwedodd yr ^wyl ddiweddaraf, a gafodd eichynnwys ym 50 uchaf cylchgrawn DesignWeek, mai ei nod yn y tymor hir oedd dod âdylunio yng Nghymru i sylw cynulleidfaryngwladol ehangach. Llwyddwyd i wneudhyn drwy gynnwys Gwobrau mawreddogDesign Management Europe, a gynhaliwydyng Nghanolfan y Mileniwm dan nawddUWIC, yn rhan o raglen G ^wyl DdylunioCaerdydd. Drwy wneud hyn, roedd yr ^wyl yngallu adeiladu ar y berthynas oedd yn bodeisoes gyda’r gymuned ddylunio ryngwladol.

Ag Olwen wrth y llyw, ynghyd ag enw da sy’ndal i gynyddu’n rhyngwladol, ac ymrwymiadi gydnabod talent a rhoi cyfleoedd gwych iddylunwyr Cymru i arddangos eu gwaith,mae G ^wyl Ddylunio Caerdydd yn prysurfynd o nerth i nerth.

UWIC yn caelei gydnabod amwaith ymchwilo safon byd

10 |focus

Yn frwddrosddylunio

Olwen Moseley, CyfarwyddwrMenter, Ysgol Gelf a Dylunio

Caerdydd, UWIC.

Page 11: Focus Issue2 Welsh

11focus |

Dyma rai o’r dig-wyddiadau sydd ar ygweill ar gyfer yr ŵylym mis Hydref 2009. (Dyddiadau i’w cadarnhau)

Cynhelir y lansiad yn y Senedd ym MaeCaerdydd a bydd yn arddangos y Dyluniogorau yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad hwn, sydd dan nawddWeb Scene Caerdydd a Nocci yng Nghanolfany Mileniwm, ar gyfer bobl greadigol,cefnogwyr y we ac entrepreneuriaid, ynbarod i drafod popeth: o ffurfdeipiau hyd atoroesi ymosodiad gan sombis.

Bydd y teipograffydd enwog, Bruno Maag,yn rhoi anerchiad difyr ac ysbrydoledigar Deipograffeg.

Bydd Andrew Shoben o Greyworld yn rhoianerchiad craff am brosiectau presennol eigwmni a rhai o’i brosiectau yn y gorffennol.

Menter ar y cyd rhwng G ^wyl DdylunioCaerdydd a G ^wyl Technoleg Greadigol2009, bydd hwn yn canolbwyntio argyflwyno gwaith arloesol yng Nghaerdydda’r ardal o gwmpas. Bydd y rhaglendeuddydd yn cynnwys cynhadledd,comisiynau newydd, artistiaid preswyl,sesiynau sgrinio a phrosiectau artistiaidmewn mannau cyhoeddus ar draws y ddinas.

Arddangosfa o waith arloesol yn yramgylchedd adeiledig yng Nghymru.Gwahoddir penseiri, dylunwyr,artistiaid, damcaniaethwyr a myfyrwyri gyflwyno gwaith sy’n herio’n feirniadolneu’n ymgysylltu â’r amgylcheddadeiledig yng Nghymru. I gael rhagoro wybodaeth, cysylltwch â[email protected].

Mae BioArchitecture Foundation yncyflwyno Life Form, eu cynhadledd gyntafyn archwilio pensaernïaeth fiolegol,systemau adeiladu holistig, acamgylcheddau adeiledig geomantig.Yn dilyn y rhain, cynhelir gweithdai mewnllunio tirweddau sy’n cydgordio’n egnïola phensaernïaeth cynnal bywyd.

Hoffi, Elevator, Design Tribe,Sequence, Freshwater.

David Worthington, Cadeirydd adranddylunio Media Square, sydd wedi cytunoi feirniadu gwobrau’r ^wyl;

Creative & Cultural Skills a Design Circle,Cangen De Cymru Cymdeithas FrenhinolPenseiri Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am ^WylDdylunio Caerdydd neu sut i gymrydrhan, cysylltwch â[email protected]

Ignite Cardiff #3

Type Talks - Dalton Maag

Greyworld

May you live in interesting times

Design Circle, Reflecting Wales 09

Life form

Cefnogwyr cynnar:

Diolch i gyfranwyr cynnar:

Y Lansiad

Mae canlyniadau YmarferAsesu Ymchwil 2008 (RAE2008) yn cydnabod llwyddiantUWIC yn cefnogi datblygiadymchwil o safon byd, ynenwedig mewn celf a dylunio. Dwedodd yr Ymarfer, sy’n asesu ansawddymchwil mewn sefydliadau drwy’r DU, fod95% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar y cyd ganYsgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC,canolfan PDR UWIC, ac Ysgol Gelf, y

Cyfryngau a Dylunio Prifysgol Casnewydd,o “Safon Ryngwladol”.

Yn ôl cylchgrawn y Times Higher Education,UWIC yw prif ganolfan Cymru o ranymchwil i gelf a dylunio ac mae yn y 12gorau yn y DU. Cafodd 70% o’r ymchwil agyflwynwyd ym maes celf a dylunio eiystyried yn “Rhagorol yn Rhyngwladol” neu“ar y blaen ar lefel byd”. GwnaethChwaraeon a Thwristiaeth yn UWIC yn ddayn yr asesiad hefyd, ac ystyriwyd bod 25%o’r ymchwil a gyflwynwyd gan y ddau ynRhagorol yn Rhyngwladol neu ar y Blaen ar

Lefel Byd. Llongyfarchodd yr AthroAntony Chapman, Is-Ganghellor UWIC,bob un o’r staff perthnasol a dwedodd:“Dyma ganlyniad sy’n dangos yn glir fainto waith a wneir gan ein staff a chymaintyw eu hymrwymiad, ac mae’n amlyguymrwymiad UWIC i fuddsoddi i ymchwilsydd ar y blaen yn fyd-eang.”

Ystyriwyd bod ychydig dros 28% o’rymchwil a gyflwynwyd gan UWIC ynRhagorol yn Rhyngwladol neu ar y Blaenar Lefel Byd a bod 64% o’r ymchwil oSafon Ryngwladol.

Page 12: Focus Issue2 Welsh

Croesawodd y Gwir Anrh.Rhodri Morgan AC, PrifWeinidog Cymru, ymarferwyrtrosglwyddo gwybodaethmwyaf llwyddiannus Ewrop a’rchwaraewyr allweddol sy’ngweithio ar y rhyngwynebrhwng ymchwil cyhoeddus adiwydiant, i GynhadleddProTon Europe eleni. Cynhaliwyd y digwyddiad deuddyddpwysig hwn o’r enw “Arloesi drwyGydweithredu” yn UWIC. Bu’ncanolbwyntio ar y ffordd i wella gweithiodrwy gydweithredu a phartneriaeth rhwngsefydliadau ymchwil neu brifysgolion adiwydiant a busnes.

“Ni allech fod wedi amseru’r gynhadleddhon yn well,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae’r economi mewn cyflwr gwael acmae’n hanfodol bod y prifysgolion a bydbusnes yn cydweithredu â’i gilydd osydym i gael hyd i ateb i’r argyfwngeconomaidd byd-eang hwn.

“Dros y blynyddoedd, gwelwydgwelliannau enfawr yn y prifysgolion yngNghymru o ran maint yr ymchwil o safon byda wneir y gellir ei drosglwyddo’n hawdd i’rbyd gwaith. “Drwy ganolbwyntio ar arloesi,ymchwilio a datblygu a chael addysg abusnes i ymbriodi yn y ffordd iawn, gallwngreu swyddi a thynnu ein hunain allan o’rdirwasgiad hwn,” ychwanegodd.

Mae’r gynhadledd flaenllaw hon, sy’n caelei chefnogi gan Lywodraeth y Cynulliad a’rSefydliad Trosglwyddo Gwybodaeth, ynarchwilio ffyrdd y gellir datblygu’r broses odrosglwyddo mwy o wybodaeth ynllwyddiannus hefyd, ac yn hyrwyddo arloesia thrwy hynny fod o fudd i dimau ymchwil,prifysgolion, diwydiant a chymdeithas yngyffredinol.

Ymhlith y panel rhyngwladol o siaradwyrroedd cynrychiolwyr o fyd diwydiant,gweinyddiaethau cyhoeddus sy’n deddfuyn y sector, ac ymarferwyr trosglwyddogwybodaeth o brifysgolion a chanolfannauymchwil o wahanol rannau o Ewrop.

ProTon Europe yw’r prif sefydliad yn Ewropsy’n cynrychioli ymarferwyr trosglwyddogwybodaeth mewn prifysgolion achanolfannau ymchwil ar draws Ewrop.

Dale Harper â’igefeiliauchwyldroadol

12 |focus

Y Prif Weinidog yncefnogi “Arloesidrwy Gydweithredu”

O’r chwith i’r dde: Yr Athro Antony Chapman (Is-Ganghellor, UWIC), Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan a Dr Pat Frain (Cadeirydd, ProTon Europe).

Page 13: Focus Issue2 Welsh

13focus |

Mae cynnyrch newydd bellach argael i achub bywydau mamau ababanod. Mae’n dod â’r gefeiliautraddodiadol, a gâi eu defnyddioi helpu ar enedigaeth anodd,i mewn i’r 21ain Ganrif.

Mae’r Safeceps™ yn fersiwn chwyldroadolo’r gefeiliau obstetrig presennol sy’n mesurfaint o bwysedd sydd ar ben babi. Drwywneud hyn, mae’n lleihau’r risg o niweddifrifol a thrawma i’r fam ac i’r plentyn.

Y ffaith bod y gefeiliau traddodiadol yn caeleu cysylltu â babanod yn marw neu’ndioddef niwed tymor hir sy’n cael y bai amfod mwy a mwy o famau a menywodbeichiog yn aml yn dewis ffurfiaucynorthwyedig, dianghenraid yn aml, megistoriad cesaraidd, o eni eu plant. Y gobaith ywy bydd y Safeceps™ newydd, sy’n diogelu’rfam a’r plentyn, yn adfer hyder ac yntrawsnewid y ffordd y bydd pobl yn syniedam esgoriad cyfryngol. Mae’r cwmni sy’ngyfrifol am y gefeiliau, PMI (PRO MedicalInnovations Ltd), yn fenter a ddeilliodd oUWIC ac mae Dale Harper, a raddiodd ynddiweddar (MSc), wrth y llyw. DechreuoddDale weithio ar y prosiect yn rhan o’i raddBSc Dylunio Cynhyrchion.

Meddai Dale, sydd erbyn hyn wedi’i benodiyn aelod o staff PDR: “Mae’n amlwg bodangen y cynnyrch yma a’n gyrrwr marchnadmwyaf yw diogelwch. Lles y plentyn yw’rystyriaeth bennaf bob tro a bydd Safeceps™yn eu diogelu drwy osgoi trawma mawr,niwed i’r ymennydd neu farwolaeth. Yna,mae’r angen i ofalu am y fam ac mae’r fforddy caiff offeryn ei ddefnyddio yn gallueffeithio ar ei chorff hithau. Yn olaf maeSafeceps™ yn diogelu’r obstetregwyr y byddeu swydd yn y fantol bob tro y byddant yndefnyddio offeryn i helpu’r fam i esgor.

“Mae dyluniad y gefeiliau presennol hebesblygu fawr ers canrifoedd ac os bydd yrobstetregydd yn tynnu’n rhy galed gyda’rofferyn presennol yn ystod y geni, mae hyd ynoed yn bosib y gallai’r plentyn gael ei ladd.Bydd y defnydd arferol arno yn gallu achosiniwed i wyneb y plentyn a thrawma hefyd.Mae’r achosion hyn wedi gadael mamau ynofnus iawn ac mae clinigwyr yn effro nawr i’rffaith bod methu ag esgor yn llwyddiannusdrwy ddefnyddio offer yn un o’r ffactoraumwyaf sy’n gyfrifol am fwy o doriadau cesaraidd.

“Mae obstetregwyr am i’r offeryn y byddantyn ei ddefnyddio fod yn ddiogel, ynddibynadwy ac yn gwneud iddynt deimlo ygallant fod â ffydd yn yr hyn y maent yn eiwneud. Maent am wybod na fydd neb yndod nôl a’u siwio ymhen pum mlynedd. Aeth

rhai pobl ag obstetregwyr i’r llys yn ygorffennol o achos y niwed a wnaed ganesgor cyfryngol. Am fod ein hofferyn yncofnodi faint o rym a ddefnyddir, mae’nlliniaru’r risg yn erbyn yr obstetregydd, ernad yw’n mynd â’r cyfrifoldeb oddiarno/arni,” ychwanegodd. Mae’r Safeceps™yn fersiwn blastig o’r gefeiliau obstetrig syddwedi’u cysylltu â chyfrifiadur monitro drwygebl hyblyg. Pan fydd y Safeceps™ yn cael eudefnyddio, caiff y pwysedd allweddol sydd arben y babi ei fesur a chaiff y wybodaeth ymaei chyflwyno ar sgrin cyfrifiadur ag opsiwnsain clywadwy yn rhybudd. Gellir gwneud ysystem yn rhan o’r systemau cyfrifiadurolmamol presennol a gellir ei theilwra i gwrddag anghenion defnyddwyr unigol.

Mae Dr Khaled Ismail sy’n uwch obstetregyddymgynghorol (Ymddiriedolaeth GIG GogleddSwydd Stafford) a dau beiriannydd electromecanyddol, yn ogystal â’r dylunyddcynhyrchion Dale, yn rhan o PMI. Dr Ismailyw awdurdod meddygol y tîm. Ffurfiwyd ycwmni ym mis Mawrth 2008 a dewisodd ynstrategol ddod yn bartner gyda UWIC am fodgan UWIC yr arbenigedd a’r wybodaethddiwydiannol angenrheidiol.

Yn y 10 mis oddi ar ei sefydlu, daeth PMIyn ail mewn cystadleuaeth cynllun busnesgenedlaethol ac enillon nhw £10,000.Erbyn hyn mae’r Safeceps™ yn barod i’wrhoi ar y farchnad.

Gan mai diben Safeceps™ yw arbedbywydau o gwmpas y byd, mae syniadaugan Dale eisoes i lansio fersiynaumecanyddol di-gyfrifiadur mewn gwledyddyn Affrica a Dwyrain Ewrop.

Dylunio gefeiliauchwyldroadol ynsicrhau bod mamau a’ubabanod yn fwy diogel

Page 14: Focus Issue2 Welsh

Mae UWIC ar fin lansio rhifyn diweddaraf‘Journeys’. Mae’r llyfr yn cynnwys hanesionysbrydoledig gan oedolion o ddysgwyr alwyddodd mewn addysg uwch er iddyntwynebu llawer o rwystrau mawr. Mae’rdysgwyr hyn yn rhoi esiampl ragorol iddysgwyr o oedolion y dyfodol ac maentyn dyst y gallwch fod â rheolaeth dros yllwybr dysgu sy’n iawn i chi a’i ddatblygu.Isod ceir dyfyniad o un o’r hanesionpersonol sydd wedi’u cynnwys yn y llyfr.

Fy siwrnai:Sue Abram yw fy enw i. Rwy’n 48 oed acrwy’n briod â dau blentyn sy’n oedolion erbynhyn. Alla i ddim credu fy mod i’n eistedd yma ynysgrifennu proffil o’m siwrnai ddysgu i UWICa minnau wedi gadael ysgol â llond dwrn oTAU ac un lefel O mewn Saesneg. Fi oedd ymyfyriwr â’i hadroddiadau ysgol yn dweud“Mae’r gallu gan Susan ond dyw hi ddim yn eiddefnyddio”. Fy uchelgais pan adewais i’rysgol oedd bod yn nyrs feithrin. Gwireddais fyuchelgais a bues i’n gweithio yn fy newis swyddam 23 mlynedd heb feddwl o gwbl am unrhywaddysg bellach. Cymerais y cam cyntaf nôl iaddysg pan wnes i ymrestru ar gwrs TystysgrifAddysg Cam Cychwynnol a dechreuais awchuam gael dysgu. Wedi cwblhau’r cwrs, cefaisfy swydd addysgu gyntaf. Gydag amser,daeth mwy o gyfleoedd addysgu aphenderfynais roi’r gorau i’m gwaith gyda’rcrèche a gwneud mwy o oriau addysgu.

Er mwyn dod yn Swyddog AddysgGymunedol, roedd angen i fi gwblhau’rTAR/Tyst Add mewn Addysg Gymunedol.Ac yn 2005 dechreuodd fy siwrnai gydaUWIC. Adewais i ddim i’m diffyg llwyddiantyn yr ysgol fy nal yn ôl a gwnes gais i gael

astudio yn UWIC. Mae fy mhenderfyniad ifynd i UWIC wedi newid fy mywyd ac rwyfbellach yn Swyddog Addysg Gymunedol.Er bod y cwrs yn un rhan-amser, mae myndi’r brifysgol yn oedolyn yn hollol wahanol iastudio yn eich arddegau gan fod cymaint obethau’n mynd ymlaen yn eich bywyd ar yrun pryd. Roedd teulu gen i i ofalu amdanynnhw a swydd i’w wneud yn ogystal â bod yngorfod rhoi tipyn o’m hamser i ysgrifennuaseiniadau. Roeddwn ynghlwm wrth fynghadair wrth y bwrdd yn y tŷ ynysgrifennu aseiniadau neu’n gweithio ynllyfrgell UWIC. Er bod hyn i gyd yn anodd,roedd yn werth pob munud ac fe wnes ifwynhau’r amser yn UWIC yn fawr iawn.Chewch chi byth well cefnogaeth gandiwtoriaid yn unman ac ni wnes i deimlo’nwahanol o gwbl i rai o’m cyd-fyfyrwyr oeddâ graddau. Roedd y drysau ar agor bob amser.

A minnau bellach yn Swyddog AddysgGymunedol yng Nghanolfan AddysgGymunedol Gabalfa, rwy’n gweithio mewnpartneriaeth â UWIC i gynnig cyrsiau haf yny gymuned. Rwyf mewn ffordd i ddangos iddysgwyr sut i symud ymlaen i gyrsiau agynigir yn UWIC gan fod gen i brofiaduniongyrchol o ddychwelyd i addysg yn

oedolyn o ddysgwr. Rwy’n teimlo’nffyddiog felly y gallaf gynnig cyngor da i’rdysgwyr a dileu unrhyw ofnau a allai fodganddynt ynglŷn â chymryd y cam cyntafhwnnw yn ôl i ddysgu. Bydd y diwrnod pansefais ar y llwyfan yn Neuadd Dewi Sant ynfy ngwisg academaidd yn aros ar fy nghofam byth. Roedd fy rhieni, fy ngŵr a’m daufab yno yn fy nghefnogi ac er mai fi a’mgwaith caled innau oedd biau’r diwrnod, bueu cefnogaeth hwythau ar hyd fy siwrnaiastudio yn amhrisiadwy.

Fy nghyngor i bawb sy’n ystyried ymgymrydag addysg bellach yw: ewch amdani. Daliwchar bob cyfle fydd yn cael ei gynnig i chi.Fyddwch chi byth yn gwybod beth allwch eigyflawni os na fentrwch. Fe wnes i’rpenderfyniad ac mae wedi newid fy mywydam byth. Byddwch yn barod i weithio’n galed.Peidiwch bod ag ofn gofyn am gymorth adefnyddio strategaethau fydd yn eich helpui drefnu’ch amser yn effeithiol. Byddwchyn ffrind arbennig i un o’ch cyfoedion achefnogwch eich gilydd. Byddan nhw’nteimlo’n debyg i chi a byddant yn wynebu’run heriau ac ofnau â chi. Yn anad dim,mwynhewch y profiad. Mae bod yn fyfyriwryn 45 oed yn dipyn o brofiad!

Penderfyniadausy’n newid bywydau -dysgwyr gydoloes UWIC

14 |focus

Sue Abram.

Page 15: Focus Issue2 Welsh

Academyddion yncydweithio ar fenterymchwil sy’n torritir newydd

15focus |

Mae argoelion y bydd ybartneriaeth arloesol newyddmewn ymchwil academaiddrhwng UWIC a’r LSC yn dodâ mwy o glod eto i broffilrhyngwladol UWIC sy’nparhau i gynyddu. O dan y cytundeb a gynlluniwyd i ddenumyfyrwyr ymchwil o safon uchel o bob rhano’r byd, bydd yr LSC yn ymrestru ac yncynnig graddau ymchwil ar ran UWIC o hynallan yn ei Athrofa Ymchwil i Fusnes ar eigampws yn Llundain. Bydd yr Athrofanewydd yn cael ei hystyried yn athrofaymchwil UWIC at ddibenion gweinyddol asicrwydd ansawdd.

Bydd UWIC yn rhyddfreinio’r LSC i gynniggraddau PhD, MPhil Prifysgol Cymruynghyd â doethuriaethau proffesiynol ynunol â pherthynas sicrwydd ansawdd UWICâ Phrifysgol Cymru.

Meddai’r Athro Antony Chapman, Is-Ganghellor UWIC: “Bydd y bartneriaethhon yn torri tir newydd ac yn ychwanegudimensiwn safonol arall i’n perthynas â’r

LSC. Bydd yn ychwanegu at gwmpasdylanwad ymchwil byd-eang UWIC a byddyn denu myfyrwyr rhyngwladol uchel eusafon i ymchwilio i bynciau sy’n bwysig arlefel byd. Bydd hyn o’r budd mwyaf iUWIC, i Gymru ac i’r DU.”

Meddai Prif Weithredwr LSC,Tim Andradi:“Rydym yn sefydliad cryf ei ffocwssy’n arbenigo mewn disgyblaethau sy’ngysylltiedig â busnes. Mae perthynasbroffesiynol ragorol rhyngom ni a UWIC,sy’n seiliedig ar barch at ein gilydd acsydd ar sail cydymffurfiad cadarn agansawdd. Mae sefydlu’r Athrofa Ymchwili Fusnes yn rhoi cyfle i bawb sy’ngysylltiedig â’r fenter i gystadlu’nllwyddiannus mewn amgylchedd lle maegweithredu ar lefel ryngwladol yn myndyn fwy ac yn fwy anodd.”

LSC yw unig goleg cysylltiol UWIC ac mae’rberthynas yn mynd nôl hyd 2004. Erbynheddiw maent yn cydweithio ar ystod eango raglenni gradd israddedig ac ôl-radd.

Mae’r bartneriaeth unigryw yma yn dal idyfu ac eleni roedd dwywaith cymaint ofyfyrwyr o bob rhan o’r byd yn y seremoniraddio yng Nghaerdydd nag oedd ychydigo flynyddoedd yn ôl.

Holi Tim Andradi,Prif WeithredwrLSC

1. Mae’r LSC yn rhoi cyfle i astudiograddau Prydeinig yn y DU, ynDhaka ac yn Kuala Lumpur, ondbeth wnaeth i chi sefydlu’r ysgolyn y lle cyntaf?

Roedd bwlch yn y farchnad addysgolo ran cynnig addysg Brydeinig oansawdd mewn ffordd gost effeithiol.Roedd LSC yn gallu ffitio’n naturioli’r bwlch.

2. Daeth yr LSC a UWIC at ei gilyddyn 2004. Sut digwyddodd hyn?

Roedd LSC yn chwilio am bartnerPrifysgol oedd â’r un weledigaethâ’r LSC, â diddordeb arbennig mewnmyfyrwyr o wledydd oedd yn datblygua gwledydd llai datblygedig. Bu’r ffaithbod gan yr LSC gysylltiadau agos â rhaio’r bobl yn UWIC eisoes yn gymorth iselio’r berthynas.

3. Mae’r berthynas rhwng UWIC a’rLSC yn un agos. Beth yw’rdatblygiad nesaf i’r bartneriaeth?

Bu cydweithredu a chynnig rhaglenniastudio arloesol y mae myfyrwyr obob rhan o’r byd yn gofyn amdanynt,yn elfen allweddol yn natblygiad yberthynas. Ond y peth mwyaf fyddmynd ag addysg Brydeinig i fyfyrwyrtramor a’u galluogi i astudio heb fodangen iddyn nhw adael eu gwlad euhun. Bydd gwneud hyn yn arwain atweld globaleiddio addysg mewnffordd wirioneddol.

Myfyrwyr LSC a raddiodd yn ddiweddar.

Page 16: Focus Issue2 Welsh

Bu Keith Towler, ComisiynyddPlant Cymru, yn siarad yngnghynhadledd Lles Plant: YBlynyddoedd Cynnar hyd at yrArddegau a gynhaliwyd yn UWICyn ddiweddar. Nod y gynhadleddoedd ceisio herio agweddaucymdeithas tuag at bobl ifanc.

Bu Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru,yn siarad yng nghynhadledd Lles Plant: YBlynyddoedd Cynnar hyd at yr Arddegau agynhaliwyd yn UWIC yn ddiweddar. Nod ygynhadledd oedd ceisio herio agweddaucymdeithas tuag at bobl ifanc.

Roedd y gynhadledd yn gyfle i ddod agymchwilwyr, llunwyr polisïau, ymarferwyr aphobl ifanc at ei gilydd i drafod a dadlauynghylch materion sy’n gysylltiedig â lles plant

a phobl ifanc yn eu harddegau, a hynny o ystodo safbwyntiau – rhai cymdeithasol, addysgol aiechyd. Roedd y ffocws yn arbennig ar “Sutgallwn ni weithio mewn ffordd holistaidd gydaphlant a phobl ifanc er mwyn helpu euhiechyd a’u lles? Roedd yn dda gen i gael rhoimewnwelediad i’r cynadleddwyr i fywydComisiynydd Plant a rhannu gwybodaeth gydanhw ar hawliau plant,” meddai Mr Towler. “Yn ogystal, roeddwn am alw eu sylw at raimeysydd gwaith penodol, gan gynnwysprosiect y byddaf yn ymgymryd ag ef idanseilio’r agwedd sy’n caledu tuag at blanta phobl ifanc.”

Bu arbenigwyr eraill ar hyd y dydd yn siaradyn fanwl am ystod o bynciau sy’n gysylltiedigâ lles plant a phobl ifanc, gan gynnwys “maethac ymddygiad” a “llythrennedd emosiynol”.

Arweiniodd yr Athro David Egan, Cyfarwyddwry Ganolfan Ymchwil i Addysg Gymhwysol ynUWIC, sesiwn o’r enw Tlodi, Lles aChyrhaeddiad Addysgol Plant yng Nghymru.

“Mae llwyddo yn addysgol yn hanfodol i lesunigolyn,” esboniodd yr Athro Egan. “Byddtraean o’n plant sy’n byw mewn tlodi hefyd yn‘methu’ ym myd addysg fel arfer hefyd. Dymadrasiedi personol a chymdeithasol y mae rhaidi ni, genedl y Cymry, fynd i’r afael â hi.”

Meddai Shirley Hinde, darlithydd mewnMaetheg yn UWIC a deietegydd cofrestredig:“Roedd fy nghyflwyniad i yn ymwneud â’rcysylltiadau rhwng ymddygiad a maeth ac ynenwedig ar rôl olewau pysgod mewnymddygiad aflonyddgar/problemauymddwyn megis ADHD.

“Rhoddais ddadansoddiad o’r astudiaethau awnaed ar ychwanegu olewau pysgod acymddygiad; ystyried rhai o’r maetholioncysylltiedig eraill, megis sinc, yn y gwaith obrosesu’r olewau hyn o fewn y corff; pammae’r maetholion hyn yn brin yn neiet poblifanc heddiw a gofyn a ddylen ni fod yn ceisiodatrys problem mor amlweddog drwyddefnyddio pilsen.”

16 |focus

Herio agweddautuag at bobl ifanc

Keith Towler: ComisiynyddPlant Cymru.

Page 17: Focus Issue2 Welsh

17focus |

Aeth darpar athrawon o UWICar lwyfan eu hunain i helpudisgyblion o bob rhan o DdeCymru i ddeall testun arholiadcymhleth. Perfformioddmyfyrwyr Drama Uwchradd oYsgol Addysg Caerdydd, UWIC,“Ofn a Thrallod yn y DrydeddReich” gan Bertolt Brecht ynrhan o brosiect blynyddolTheatr Mewn Addysg. Aeth darpar athrawon o UWIC ar lwyfan euhunain i helpu disgyblion o bob rhan o DdeCymru i ddeall testun arholiad cymhleth.Perfformiodd myfyrwyr Drama Uwchradd oYsgol Addysg Caerdydd, UWIC, “Ofn aThrallod yn y Drydedd Reich” gan BertoltBrecht yn rhan o brosiect blynyddol TheatrMewn Addysg.

Yn dilyn y perfformiadau, cymerodddisgyblion o ysgolion, gan gynnwys YsgolUwchradd Cas-gwent, Ysgol Gyfun Glyncoeda Choleg Dewi Sant, ran mewn gweithdaidrama rhyngweithiol gyda myfyrwyr UWIC iarchwilio’r testun ymhellach.

Y grŵp o 20 o fyfyrwyr oedd yn gyfrifol amy cynhyrchiad cyfan a buon nhw wrthi’nddyfal am dros ddeufis yn gweithio arwisgoedd, golau, setiau a chelfi ac ati, ynogystal ag yn rihyrsio a chynllunio’r

gweithdai wedi’r perfformiad. MeddaiBryan Shuman, sydd gyda Camille Black ynffurfio’r tîm marchnata llwyddiannus: “Bu’nwaith caled iawn ond mae’n llawer o hwyl acyn werth ei wneud. Mae’r broses gyfan ynbaratoad perffaith ar gyfer ein lleoliadauysgol gan fod disgyblion yn cael ein gweldni’n perfformio’r ddrama cyn i ni eidefnyddio mewn gweithdy gyda nhw, agallwn ddefnyddio enghreifftiau o’r ddramamaen nhw newydd ei gweld.”

Nod y myfyrwyr oedd gwneud drama fwyafenwog Brecht am fywyd yn yr Almaen o dany Natsïaid yn fwy hygyrch i ddisgyblion acarchwilio’r technegau theatr epig mae Brechtyn eu defnyddio i greu drama y mae’rgynulleidfa’n teimlo wedi’i datgysylltu wrthi.Meddai’r darlithydd Meryl Hopwood: “Bu’rTheatr Mewn Addysg eleni’n boblogaiddiawn a gwerthwyd pob tocyn yn gyflym i’rysgolion gan eu bod yn frwd iawn ynglŷn âBrecht a’i waith – roedd rhaid i ni droiysgolion i ffwrdd.

“Mae’r prosiect yma mor fuddiol i’rmyfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawongan ei fod yn gyfle iddyn nhw weithio’nagos ar destun gosod. Yn yr achos yma,buon nhw’n astudio un o’r ymarferwyr ybyddan nhw’n bendant yn dod ar ei drawsyn yr ysgol gyda’u disgyblion. Roedd yngyfle hefyd i ddatblygu eu sgiliau feltechnegwyr ac mewn rolau cynhyrchu fel ybyddan nhw â mwy o adnoddau i lwyfannucynhyrchiad ysgol.”

Myfyrwyr yndod â thestunauarholiadau yn fyw

Myfyrwyr Addysg Uwchradd Drama, UWIC.

Page 18: Focus Issue2 Welsh

18 |focus

Cyn-fyfyrwyr llwyddiannusA ninnau ag enw da am feithrin talent a chynhyrchugraddedigion eithriadol ar draws ystod eang oddisgyblaethau, mae’n dda gennym gynnwysllwyddiannau rhai o’n cyn-fyfyrwyr diweddar.

Mae Richard Jenkins, sydd âgradd BA Cyfryngau Darlleduo UWIC, yn dathlu llwyddianty sgrin fach wedi iddo gipio uno wobrau mawr BAFTA Cymruyn ddiweddar. Enillodd Richard y wobr am waithrhyngweithiol ar ‘Merlin’, y sioe boblogaiddar y BBC, ac ar hyn o bryd fe yw’rCynhyrchydd Rhyngweithiol y tu ôl i sawlrhaglen deledu lwyddiannus dros ben,gan gynnwys Ashes to Ashes, Mistresses aThe Sarah Jane Adventures (a ddeilliodd oDoctor Who). Cyn hyn bu’n gweithio arDoctor Who a Torchwood.

Yn ei waith yn Gynhyrchydd Rhyngweithiol,mae Richard yn gyfrifol am gynhyrchu’rholl waith fideo, sain a’r delweddau ar gyferllwyfannau rhyngweithiol y rhaglen, gangynnwys y We, ffonau symudol, y botwmcoch rhyngweithiol, itunes, iPlayer, BBCYoutube a BBC Bebo. “Gall hyn gynnwys

popeth o gynhyrchu gemau ar gyfer y we,creu’r cynnwys y tu ôl i’r golygfeydd, hydat ffilmio golygfeydd yn benodol ar gyfercynnwys rhyngweithiol. Gall fy niwrnodamrywio o fod ar y set, ysgrifennu syniadauar gyfer comisiynau yn y dyfodol, hyd atgydbwyso fy nghyllidebau,” esboniodd Richard.

Meddai Richard, wrth sôn am ei gynlluniauar gyfer ei yrfa yn y dyfodol: “Ar hyn o brydrwyf am aros gyda’r BBC. Rwy’n ddigonffodus i gael gweithio gyda thîm gwych acmae Cymru’n dod yn ganolbwynt i’r BBC oran cynnwys rhyngweithiol cyffrous. Rydynni’n ddigon ffodus hefyd fod gennym lif osioeau eithriadol sy’n cael eu creu yma yngNghymru ar gyfer Prydain i gyd.”

Roedd Richard hefyd yn rhan o dîm agafodd ei enwi ar gyfer prif wobr BAFTAyn y DU am ei waith ar Merlin. Mae hyn ynamlygu ei bwysigrwydd cynyddol ym myddarlledu, ac yntau ond wedi graddio yn2005. Cyn hyn cafodd ei enwebu ar gyferEmmy Rhyngwladol a BAFTA yn y DU amei waith ar Doctor Who.

Llwyddiant yng ngwobrau BAFTA

Page 19: Focus Issue2 Welsh

Rhagor o newyddionam gyn-fyfyrwyr...

Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr UWIC arfin cyrraedd uchafbwynt arall yn ei haneswedi’i hail-lansio’n ddiweddar yn rhan oUWIC Foundation, sef ymddiriedolaethelusennol y coleg. Os oes diddordebgennych i gael gwybod mwy amGymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, cysylltwchâ Claire Grainger, Swyddog yCyn-fyfyrwyr ar 029 2020 1592neu [email protected]

Cyn-fyfyriwryn ennill Artisty Flwyddynyng Nghymru Mae Tim Freeman, a raddioddo Ysgol Gelf a DylunioCaerdydd, UWIC, wedi ennillgwobr bwysig Artist yFlwyddyn yng Nghymru 2009. Mae Tim yn artist digidol ac astudioddGelfyddyd Gain ar gyfer gradd gychwynnol

a gradd Meistr yn yr Ysgol. Derbyniodd ywobr a £2,000 mewn seremoni yn NeuaddDewi Sant yng Nghaerdydd. Curodd gwaithTim, ‘Hidden System’ 500 o ymgeiswyreraill i ennill y teitl. Mae’n dangos llun pibaudiwydiannol anferth yn rhedeg drwy ranlonydd, hyfryd o Ardal y Llynnoedd.Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i UWIC fod âchysylltiad uniongyrchol ag enillydd y wobr.Cafodd Phillipa Lawrence, darlithyddTecstilau Cyfoes yn Ysgol Gelf a DylunioCaerdydd, ei choroni’n Artist y Flwyddynyng Nghymru yn 2008. Gwaith celf Timoedd canolbwynt arddangosfa yn NeuaddDewi Sant o waith yr holl enillwyr a mwy nag80 o weithiau a gyrhaeddodd y rhestr fer.

Laura’n cael eichoroni’n WeinyddGwin y flwyddynyn y DU Mae myfyriwr a raddiodd oUWIC wedi’i choroni ynWeinydd Gwin y Flwyddyn yn yDU 2009 yn dilyn rowndderfynol gyffrous a gynhaliwydyn y Tate Modern yn Llundain. Mae Laura Rhys, a raddiodd yn 2004 â graddBA Rheoli Lletygarwch Rhyngwladol, bellachyn Brif Weinydd Gwin yng ngwesty enwogTerravVina yn y New Forest. Llwyddodd iennill y gystadleuaeth bwysig yma, a drefnirgan yr Academi Bwyd a Diod, yn erbyngweinyddion gwin gorau’r DU. Dechreuodd ydiwrnod wrth i’r 15 a gyrhaeddodd y rownd

gynderfynol (a phob un yn enillydd eucystadlaethau rhanbarthol) yn cael eu barnuar nifer o sgiliau technegol, gan gynnwysblasu ‘dall’ ac arholiad ysgrifenedig. Yn dilyny cyhoeddiad yn y prynhawn fod Laura wediennill ei lle yn un o’r tri olaf, bu rhaid iddigystadlu mewn cyfres o dasgau gan gynnwyssefyllfa chwarae rôl realistig mewn tŷ bwytaa oedd yn profi gallu’r gweinyddion gwin iddelio â chwsmeriaid, eu sgiliau rheoli a’ugallu i ymdopi â phwysau; blasu ‘dall’; ymarferparu bwyd a gwin; ac ymarfer yn erbyn ycloc i ddarganfod y camgymeriadau mewnrhestr winoedd.

Yn y weithred olaf un, roedd rhaid i Laura a’rddau arall (ill dau yn Ffrancwyr) arllwys magnwmo Champagne i 16 o wydrau, gan roi’r un faintym mhob un heb fynd yn ôl at un o’r gwydrau.

“Mae ennill y wobr wedi sicrhau fy mod yncael fy nghydnabod gan fy nghyfoedion ac ofewn y diwydiant, ac am fod cyn lleied o boblwedi ennill y wobr hon, rwyf mewn grŵpdethol iawn,” meddai Laura.

19focus |

Claire Grainger,Swyddog y Cyn-fyfyrwyr.

Page 20: Focus Issue2 Welsh

Rhodfa’r GorllewinCaerdyddCF5 2SG

Ffôn: +44 (0)29 2041 6070Ffacs: +44 (0)29 2041 6286

e-bost: [email protected]

Daeth pob pren ac unrhyw fwydion a ddefnyddiwyd yn y cylchgrawn yma oddi wrth gynhyrchwyr cynaliadwya fforestydd a reolir mewn modd cyfrifol er cael yr effaith leiaf posib ar yr amgylchedd.

A wnewch chi ailgylchu’r cylchgrawn hwn os gwelwch yn dda.